Canllawiau

Ffioedd gwaredu gwastraff enghreifftiol Blwyddyn 2: Cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig ar gyfer pecynwaith

Cyhoeddwyd 16 Rhagfyr 2025

Mae’r ddogfen hon yn nodi ffioedd gwaredu gwastraff enghreifftiol ar gyfer Blwyddyn 2 (2026 i 2027) y cynllun Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig (EPR) ar gyfer pecynwaith Mae’n cynnwys y ffioedd a fyddai’n cael eu codi ar gynhyrchwyr mawr sy’n atebol o dan y rheoliadau. Mae’r ffioedd hyn yn cael eu pennu gan PackUK, Gweinyddwr y Cynllun. Nid yw’r ffioedd yn cynnwys:

  • ffioedd cofrestru a thaliadau a delir i Asiantaeth yr Amgylchedd (EA), Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (SEPA), Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon (NIEA), a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
  • costau sy’n gysylltiedig â chyrraedd targedau ailgylchu pecynwaith, er enghraifft prynu Nodiadau Ailgylchu Gwastraff Pecynwaith 

Pwrpas y ddogfen hon yw rhoi darlun cynnar i’r diwydiant o’r ffioedd tebygol ar gyfer Blwyddyn 2. Bwriad y ffioedd hyn yw helpu gyda chynllunio ond maent yn debygol o newid yn sylweddol wrth i gynhyrchwyr gyflwyno mwy o ddata ac wrth i reoleiddwyr fonitro cydymffurfiad.

Disgwylir i ffioedd wedi’u cadarnhau ar gyfer Blwyddyn 2 gael eu cyhoeddi ym mis Mehefin 2026, ar ôl y dyddiad cau ar gyfer adrodd, sef 1 Ebrill 2026, ar gyfer pecynwaith a gyflenwir gan gynhyrchwyr cofrestredig yn 2025. 

Am y tro cyntaf, mae’r ffioedd enghreifftiol hyn yn cynnwys amcangyfrif o ffioedd wedi’u modiwleiddio (gwyrdd, ambr a choch) sy’n gysylltiedig â gweithredu’r Fethodoleg Asesu Ailgylchu (RAM).

Darllenwch ragor o wybodaeth am ffioedd modiwleiddio yn yr EPR ar gyfer datganiad ffioedd modiwleiddio pecynwaith.

1. 1. Ffioedd dangosol ar gyfer Blwyddyn 2 (2026 i 2027)

Mae Tabl 1 yn nodi’r amcangyfrifon gorau presennol ar gyfer ffioedd enghreifftiol ar gyfer Blwyddyn 2. Pennir ffioedd ambr ar y gyfradd sylfaenol (y cyfeiriwyd atynt fel ‘ffioedd sylfaenol’ mewn cyhoeddiadau blaenorol).

Mae ffioedd coch yn berthnasol i ddeunyddiau sy’n llai ailgylchadwy yn ôl y RAM. Mae’r ffioedd coch wedi’u pennu ar 1.2 gwaith yn fwy na’r ffioedd ambr ym Mlwyddyn 2.

Codir ffioedd gwyrdd am ddeunyddiau sy’n fwy ailgylchadwy. Mae lefel y disgownt ar gyfer ffioedd gwyrdd yn dibynnu ar gyfran gymharol y deunyddiau gwyrdd, ambr a choch sy’n cael eu hadrodd i’r gwasanaeth Adrodd ar Ddata Pecynwaith (RPD).

Tabl 1. Amcangyfrif gorau cyfredol o EPR ar gyfer ffioedd enghreifftiol pecynwaith ar gyfer Blwyddyn 2 ar gyfer yr holl ddeunyddiau pecynwaith. Mae’r ffioedd wedi’u talgrynnu i’r £5 agosaf.

Deunydd Ffi werdd (mewn £ y dunnell) Ffi ambr (mewn £ y dunnell) Ffi goch (mewn £ y dunnell)
Alwminiwm 245 270 325
Deunyddiau cyfansawdd ffeibr 475 525 630
Gwydr 185 205 245
Papur a cherdyn 190 210 250
Plastig 415 455 545
Dur 260 290 345
Pren 410 450 540
Arall 205 225 270

Mae ‘Arall’ yn cynnwys unrhyw ddeunyddiau sydd heb eu rhestru. Er enghraifft, bambŵ, seramig, copr, corc, cywarch, rwber, silicôn. Mae plastig wedi’i rannu’n ddau is-gategori (caled a hyblyg) at ddibenion adrodd, ond codir yr un ffioedd arnynt ym Mlwyddyn 2.

Tabl 2. EPR Pecynwaith ar gyfer ffactorau modiwleiddio pecynwaith ar gyfer Blwyddyn 2.

Gostyngiad ffioedd wedi’u modiwleiddio % Newid mewn ffioedd o’r ffi ambr
Ffi goch +20%
Ffi ambr n/a
Ffi werdd (dangosol) -9%

Mae’r ffi ambr yn cyfateb i’r ffi sylfaenol. Er bod y ffactorau coch ac ambr yn sefydlog, mae’r disgownt gwyrdd yn enghreifftiol gan ei fod yn dibynnu ar ddata pecynwaith a adroddir. Mae’r % newid hwn mewn ffioedd yn cael ei gymhwyso’n gyfartal ar draws holl ffioedd deunyddiau pecynwaith. Mae canrannau’n cael eu talgrynnu i’r rhif cyfan agosaf.

Mae’r ffioedd yn seiliedig ar gostau gwaredu awdurdodau lleol (ALl) PackUK sydd wedi’u modelu ac y dylid eu hadennill ar gyfer Blwyddyn 2. Maent hefyd yn seiliedig ar y data tunelli pecynwaith diweddaraf a gyflwynwyd gan gynhyrchwyr ar y gwasanaeth RPD ar gyfer 2024 a hanner cyntaf 2025, o 1 Rhagfyr 2025 ymlaen, gydag addasiadau’n cael eu cymhwyso.

Mae’r rhain yn cynrychioli’r amcangyfrif gorau posibl o’r ffioedd o ystyried yr wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd. Gall y ffioedd newid wrth i ragor o wybodaeth ddod i law. Mae’r ffioedd hyn yn cynnwys cost Gweinyddwr y Cynllun a chost amhariad. Y ‘gost amhariad’ yw’r ffi neu ran o’r ffi a godir ar gynhyrchydd atebol nad yw gweinyddwr y cynllun yn gallu ei hadennill, oherwydd ansolfedd y cynhyrchydd neu unrhyw reswm arall.

O’i gymharu â ffioedd sylfaenol Blwyddyn 1 (2025 i 2026), mae’r rhan fwyaf o ffioedd ambr Blwyddyn 2 wedi cynyddu, yn amrywio o gynnydd o 2% ar gyfer alwminiwm i gynnydd o 61% ar gyfer pren. Yr eithriad yw’r categori ‘arall’, sydd wedi gostwng 13%. Mae’r newidiadau hyn yn adlewyrchu:

  • cynnydd yng nghostau awdurdodau lleol yn unol â chwyddiant Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) o 1.9%[1]
  • a gostyngiad cyffredinol yng nghyfanswm y tunelli yn y data RPD diweddaraf a gofnodwyd ar gyfer Blwyddyn 2, o’i gymharu â data RPD a ddefnyddiwyd i gyfrifo ffioedd sylfaen a gadarnhawyd ym mis Mehefin ar gyfer Blwyddyn 1

Mae’r cynnydd yn y ffi ar gyfer pren yn deillio o ostyngiad sylweddol mewn tunelledd a adroddwyd ar gyfer y deunydd hwn yn y set ddata ddiweddaraf. Mae rhywfaint o ddeunydd a adroddwyd yn flaenorol fel pren ym Mlwyddyn 1 bellach yn cael ei adrodd o dan gategorïau gwahanol ym Mlwyddyn 2. Mae’r newid hwn mewn arferion adrodd wedi cyfrannu at y cynnydd canrannol mawr a gymhwyswyd i bren.

O ganlyniad, ym Mlwyddyn 2 codir 20% yn fwy ar ddeunyddiau sy’n llai ailgylchadwy (wedi’u graddio’n goch) na’r ffi ambr. Mae’r ffi goch yn gynnydd sefydlog o 20%. Mae’r data presennol yn awgrymu y gallai deunyddiau sydd wedi’u graddio’n wyrdd gael disgownt o tua 9%. Mae’r gostyngiad hwn yn un dros dro a bydd yn cael ei addasu ar sail y cyfrannau o RAM sy’n cael eu hadrodd i RPD. Bydd y ffigur terfynol yn cael ei gadarnhau unwaith y bydd y flwyddyn lawn o ddata pecynwaith wedi cael ei hadrodd ym mis Ebrill 2026. Bydd deunyddiau sy’n fwy ailgylchadwy, megis gwydr, yn elwa o gyflwyno modiwleiddio.

I ddangos hyn, mae tabl 3 yn dangos y cyfrannau RAM presennol a adroddwyd a’r ffi gyfartalog gysylltiedig a dalwyd yn ôl deunydd. Mae’r cyfrannau ffioedd hyn yn dal yn ansicr iawn ac maent yn debygol o newid wrth i gynhyrchwyr barhau i gyflwyno data drwy gydol y flwyddyn (gweler isod am ragor o fanylion am ansicrwydd RAM).

Tabl 3 - Cyfrannau presennol RAM ar gyfer pob deunydd a’r ffi gyfartalog a ysgogwyd, gan ystyried y gyfran gymharol o goch, ambr a gwyrdd ar gyfer y deunydd hwnnw.

Deunydd Cyfran y pecynwaith coch Cyfran y pecynwaith ambr Cyfran y pecynwaith gwyrdd Ffi gyfartalog (£)
Alwminiwm 23% 5% 72% 265
Deunyddiau cyfansawdd ffeibr 32% 50% 18% 550
Gwydr 8% 1% 91% 190
Papur/cerdyn 21% 3% 76% 205
Plastig 45% 24% 31% 485
Dur 20% 1% 79% 280
Pren 59% 24% 17% 495
Arall 84% 6% 10% 260

2. 2. Methodoleg

3. 2.1 Cyfrifo’r ffi ambr

Cyfrifir ffioedd ambr drwy rannu costau rheoli gwastraff pecynwaith (ar gyfer gwastraff pecynwaith cartrefi) a chostau perthnasol eraill (gweler yr is-adran isod) ag amcangyfrif o gyfanswm y pecynwaith cartrefi a roddwyd ar y farchnad ar gyfer 2025. Y canlyniad yw cyfradd ffi a fynegir mewn £ fesul tunnell o becynwaith a roddwyd ar y farchnad. Mae’r cyfrifiad hwn yn dilyn yr un dull â’r cyfrifiad ffi sylfaenol a ddefnyddiwyd ym Mlwyddyn 1, ac mae’n cael ei wneud ar gyfer pob categori pecynwaith ar wahân.  

Cyfrifir y rhifiadur drwy adio:

  • costau effeithlon a ysgwyddir gan awdurdodau lleol sy’n rheoli gwastraff o’r categori pecynwaith hwnnw (gwastraff pecynwaith cartrefi yn unig) llai refeniw o werthu deunyddiau, a
  • chyfran y categori pecynwaith o gostau eraill, sef costau gweinyddu PackUK, costau gwybodaeth i’r cyhoedd, a chostau darparu dyledion

Yna caiff y ffigwr wedyn ei rannu â’r enwadur, sef cyfanswm pwysau amcangyfrifedig y categori pecynwaith hwnnw a roddwyd ar y farchnad fel pecynwaith cartrefi yn unig.

Mae tunelledd cartrefi sydd o fewn cwmpas ffioedd ar gyfer pob categori deunydd wedi cael eu cyfrifo drwy adio tunelledd y mae cynhyrchwyr wedi’u cofnodi fel pecynwaith cartrefi ac fel pecynwaith sy’n cael ei waredu’n gyffredin mewn biniau cyhoeddus neu sy’n cael ei daflu fel sbwriel. Mae tunelledd gwydr yn cynnwys cynwysyddion diodydd cartref gan eu bod o fewn cwmpas EPR ar gyfer ffioedd cynhyrchwyr pecynwaith. Nid yw cynwysyddion diodydd Polyethylen Terephthalad (PET), alwminiwm a dur untro rhwng 150ml a 3 litr wedi’u cynnwys yn nhunelledd eu categorïau deunyddiau perthnasol oherwydd eu bod o fewn cwmpas y Cynlluniau Dychwelyd Ernes (DRS) priodol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.  

Ym Mlwyddyn 2, ni fydd costau sy’n gysylltiedig â rheoli pecynwaith sy’n cael ei waredu’n gyffredin mewn biniau cyhoeddus neu sy’n cael ei daflu fel sbwriel yn cael eu cynnwys yn y rhifiadur. Fodd bynnag, mae’r enwadur yn cynnwys pob pecynwaith cartrefi yr adroddir amdano, gan gynnwys pecynwaith yr adroddir ei fod yn cael ei waredu’n gyffredin mewn biniau cyhoeddus neu’n cael ei daflu fel sbwriel. Mae hyn yn unol â’r rheoliadau ac yn adlewyrchu sut y cyfrifwyd ffioedd ym Mlwyddyn 1.

Mae esboniad pellach o pam mae gan ddeunyddiau ffioedd gwahanol, a chefndir ychwanegol, ar gael yn y cyhoeddiad cyntaf o ffioedd sylfaenol enghreifftiol, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2024.

3.1 Costau a ysgwyddwyd gan awdurdodau lleol

Mae model ‘Cost a Pherfformiad Pecynwaith Awdurdodau Lleol’ (LAPCAP) PackUK wedi cael ei ddefnyddio i gyfrifo ffioedd enghreifftiol. Mae LAPCAP yn cyfrifo taliad ar gyfer pob ALl yn y DU gan ddefnyddio cyfuniad o:

  • Data penodol i ALl, fel y tunelledd a gofnodwyd yn y Llif Data Gwastraff
  • data cymharol (grwpiau’n seiliedig ar ddata costau a adroddwyd o sampl o awdurdodau lleol)

 Cyfanswm y taliad i bob awdurdod lleol a gyfrifwyd gan LAPCAP yw’r ‘Costau a ysgwyddir gan awdurdodau lleol sy’n rheoli gwastraff’ a ddefnyddir wrth gyfrifo ffioedd enghreifftiol.

 Bydd nodyn esboniadol yn nodi’r fethodoleg a ddefnyddir i bennu EPR Blwyddyn 2 ar gyfer amcangyfrifon taliadau pecynwaith ar gyfer awdurdodau lleol yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.

3.2 Amcangyfrif cyfanswm tunelli pecynwaith 2025

Y dyddiad cau i gynhyrchwyr gyflwyno eu data pecynwaith ar gyfer 1 Ionawr i 30 Mehefin 2025 (hanner cyntaf 2025) oedd 1 Hydref 2025. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno data pecynwaith ar gyfer gweddill 2025 (Blwyddyn 2) yw 1 Ebrill 2026.

I gyfrifo’r ffioedd enghreifftiol, mae cyfanswm disgwyliedig y pecynwaith ar gyfer 2025 wedi cael ei amcangyfrif gan ddefnyddio’r data pecynwaith diweddaraf a gyflwynwyd i RPD ar gyfer 2024 a hanner cyntaf 2025. I wneud hynny, mae cyfanswm pwysau presennol pecynwaith ar gyfer pob deunydd a adroddwyd yn 2024 yn cael ei raddio i fyny neu i lawr i adlewyrchu newidiadau mewn adroddiadau ar gyfer y deunydd hwnnw rhwng hanner cyntaf 2024 a hanner cyntaf 2025.

Mae’r fethodoleg hon yn tybio:

  • mae’r newidiadau mewn adroddiadau rhwng hanner cyntaf 2024 a hanner cyntaf 2025 yn gynrychioliadol o newidiadau drwy gydol 2025
  • bydd y tueddiadau tymhorol a welwyd yn 2024 rhwng hanner cyntaf ac ail hanner y flwyddyn yn cael eu hailadrodd yn 2025

Mae’r fethodoleg hon, sy’n addasu data pecynwaith RPD i allosod hanner cyntaf data 2025 ar gyfer y flwyddyn gyfan ac sy’n cyfrif am gynhyrchwyr nad ydynt wedi adrodd eto, wedi cael ei hadolygu gan uwch ddadansoddwyr o’r llywodraethau datganoledig a’r Rheoleiddwyr.

4. 2.2 Cyfrifo’r ffi goch

Mae’r ffi goch yn lluosydd sefydlog o’r ffi ambr. Ym Mlwyddyn 2, sef blwyddyn gyntaf modiwleiddio, bydd y lluosydd hwn yn 1.2 gwaith y ffi ambr. Bydd hyn yn cynyddu i 1.6 gwaith ym Mlwyddyn 3 (2027 i 2028) a 2 waith ym Mlwyddyn 4 (2028 i 2029) gan fod y cynllun yn cefnogi dyluniad pecynwaith sy’n fwy amgylcheddol gynaliadwy.

Mae’r ffi goch (fel y ffi ambr) yn annibynnol ar gyfrannau’r pecynwaith coch, ambr a gwyrdd a adroddwyd gan gynhyrchwyr.

Mae pecynwaith meddygol coch, sy’n goch yn rhinwedd gofyniad rheoleiddiol, yn cael ei ymgorffori yng nghyfanswm y tunelledd ambr at ddibenion cyfrifo ffioedd enghreifftiol, yn unol â’r datganiad polisi modiwleiddio.

5. 2.3 Cyfrifo’r ffi werdd

Defnyddir y cyllid ychwanegol a geir o’r ffi goch uwch i ostwng ffioedd gwyrdd fel bod cyfanswm cost y cynllun yn aros yn sefydlog. Mae’r ffioedd ychwanegol sy’n dod i mewn yn cael eu rhannu’n gyfartal ar draws yr holl ddeunyddiau, sy’n golygu bod yr holl ddeunyddiau’n cael yr un disgownt gwyrdd.

Cyfrifir y disgownt gwyrdd drwy rannu’r refeniw ychwanegol a ddaw i mewn o ddeunyddiau coch (y rhifiadur) â chyfanswm y refeniw ar gyfer deunyddiau gwyrdd pan godir y gyfradd sylfaenol (yr enwadur).

Gwneir y cyfrifiad canlynol ar draws yr holl ddeunyddiau i gyfrifo cyfradd gyffredinol y disgownt gwyrdd:

Y rhifiadur yw’r gronfa ychwanegol sy’n cael ei chasglu o ddeunyddiau coch. Cyfrifir hyn fel a ganlyn:

  • cyfanswm y gronfa o ddeunyddiau gradd goch ar y ffioedd coch
  • tynnu cyfanswm y gronfa o’r un deunyddiau ar y gyfradd goch pe baent yn cael eu codi ar y gyfradd sylfaenol (ambr)

Mae hyn yn golygu bod y disgownt gwyrdd yn uwch wrth i fwy o ddeunydd coch gael ei roi ar y farchnad.

Rhennir hyn â’r enwadur, sef cyfanswm y gronfa o ddeunyddiau gwyrdd os codwyd y ffi sylfaenol (ambr) arnynt.

Y ffi werdd ar gyfer pob deunydd yw’r ffi ambr wedi’i disgowntio ar y gyfradd disgownt gwyrdd. Mae’r ffi werdd yn dibynnu ar gyfrannau’r deunyddiau coch, ambr a gwyrdd a roddir ar y farchnad. Os rhoddir mwy o ddeunyddiau gwyrdd ar y farchnad, mae’r ffioedd gwyrdd yn cynyddu, ond os rhoddir llai o ddeunyddiau gwyrdd ar y farchnad, mae’r ffioedd gwyrdd yn gostwng.

Dim ond y ffioedd gwaredu sy’n talu costau’r Awdurdod Lleol sy’n cael eu modiwleiddio. Cyfrifir y costau eraill sy’n gysylltiedig â chostau gweinyddu PackUK, costau gwybodaeth i’r cyhoedd, a’r darpariaethau dyled fel yn y ffi Ambr.

Mae rhagor o fanylion ar gael yn y datganiad polisi modiwleiddio.

5.1 Amcangyfrif cyfanswm cyfrannau RAM

Er mwyn cefnogi’r diwydiant drwy ddarparu mwy o amser i gasglu data ar eu pecynwaith o dan y categori RAM, cyhoeddwyd Datganiadau Sefyllfa Rheoleiddiol (RPS) [Penderfyniad Rheoleiddiol yng Nghymru] gan bob un o Reoleiddwyr Amgylcheddol y DU a oedd yn nodi’r amgylchiadau lle na fyddai camau’n cael eu cymryd pe na bai cynhyrchwyr yn adrodd ar eu data categoreiddio RAM ar gyfer y cyfnod 1 Ionawr i 30 Mehefin 2025. Mae hyn yn golygu nad oes set ddata lawn ar gael ar gyfer hanner cyntaf 2025.

Felly, mae’r ffioedd gwyrdd enghreifftiol yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio’r cyfrannau RAP sydd wedi’u hadrodd ar hyn o bryd gan gynhyrchwyr sydd wedi cyflwyno RAM ar gyfer hanner cyntaf 2025 ar 1 Rhagfyr 2025. Mae’r data hwnnw’n dangos bod 71% o’r data pecynwaith a gyflwynwyd yn erbyn y RAM yn wyrdd, 8% yn ambr, a 21% yn goch.

Oherwydd yr RPS, dim ond is-set o gynhyrchwyr mae hyn yn ei gynrychioli ac mae’n debygol o newid wrth i:

  • gynhyrchwyr barhau i gyflwyno eu data pecynwaith a data RAM drwy gydol y flwyddyn
  • rheoleiddwyr gwblhau eu gwiriadau data

Yn y dyfodol, bydd 6 mis o ddata RAM ar gael adeg cyfrifo, a bydd y gyfran yn seiliedig ar y set lawn o gyflwyniadau gan gynhyrchwyr.

6. 2.4 Rheoleiddwyr yn gwirio data RPD

Mae’r cyfansymiau tunelledd pecynwaith sydd wedi’u cynnwys yn y cyfrifiadau ffioedd enghreifftiol yn cynrychioli’r tunelledd pecynwaith o fewn y cwmpas mwyaf cywir sydd ar gael ar hyn o bryd. 

Mae gan reoleiddwyr ddyletswydd i fonitro cywirdeb EPR ar gyfer data pecynwaith a gyflwynir i’r gwasanaeth RPD. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â chynlluniau cydymffurfio a chynhyrchwyr unigol i ganfod a chywiro gwallau data. Mae rheoleiddwyr hefyd wedi bod yn cysylltu â chynhyrchwyr a allai fod â rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau ond sydd wedi methu ag adrodd ar ddata pecynwaith. Mae’r gweithgareddau hyn yn parhau. 

Mae’r rheoleiddwyr amgylcheddol yn cyhoeddi’r data diweddaraf mewn RPD o bryd i’w gilydd. Mae’r ffigyrau hyn yn cynrychioli’r data pecynwaith diweddaraf mewn RPD adeg cyhoeddi. Nid ydynt yn cynnwys addasiadau i gyfrif am gynhyrchwyr nad ydynt eto wedi adrodd ar eu data pecynwaith nac i allosod data rhannol i’r hyn sy’n cyfateb i flwyddyn lawn. O’r herwydd, bydd y data a ddangosir yno yn wahanol i’r data a ddefnyddir i gyfrifo’r ffioedd enghreifftiol yn y ddogfen hon.

7. 2.5 Ansicrwydd gyda data RPD

  1. Mae’r prif ffynonellau ansicrwydd gyda’r ffioedd enghreifftiol yn deillio o’r canlynol: Dim ond am y 6 mis cyntaf y mae data tunelledd RPD ar gyfer Blwyddyn 2 ar gael a gall newid o ganlyniad i gyflwyno data’n hwyr ac ailgyflwyno data ymhellach.
  2. At ddibenion allosod y data hwn i flwyddyn lawn, rydym wedi tybio y bydd patrymau adrodd tymhorol ym Mlwyddyn 1 hefyd yn berthnasol ym Mlwyddyn 2, a phe bai llai o dunelledd yn cael eu hadrodd ar gyfer 6 mis cyntaf 2025, byddai’r un duedd yn berthnasol i’r ail 6 mis o ddata. Fodd bynnag, gall y patrymau hyn fod yn wahanol ar gyfer Blwyddyn 2.
  3. Ni chafodd adroddiadau RAM ar gyfer chwe mis cyntaf 2025 eu cyflwyno gan bob cynhyrchydd. Rydym wedi tybio y bydd y gyfran derfynol o ddeunyddiau gwyrdd, ambr a choch ar gyfer Blwyddyn 2 yr un fath â’r data RAM sydd ar gael adeg cyhoeddi. Mae’r set ddata hon yn cyfrif am 45 y cant o gyfanswm y tunelledd a gyflwynwyd ar gyfer hanner cyntaf 2025. Efallai fod y dybiaeth hon yn anghywir, ond dyma’r un fwyaf priodol ar hyn o bryd, a gallai’r disgownt gwyrdd newid.

8. 3. Sut mae ffioedd enghreifftiol Blwyddyn 2 wedi newid o’r ffioedd a gadarnhawyd ar gyfer Blwyddyn 1

9. 3.1 Cyflwyno ffioedd wedi’u modiwleiddio

O Flwyddyn 2, mae ffioedd yn cael eu modiwleiddio i ysgogi newid tuag at ddylunio pecynwaith sy’n fwy amgylcheddol gynaliadwy, gan ddefnyddio ailgylchadwyedd fel y dangosydd. Mae eitemau pecynwaith yn ddarostyngedig i ffioedd modiwleiddio uwch neu is yn seiliedig ar asesiadau ailgylchadwyedd yn unol â’r RAM. Rhaid i’r holl becynwaith sydd o fewn y cwmpas gael eu cofnodi gan gynhyrchwyr fel rhai Coch, Ambr neu Wyrdd o dan y RAM, a’r rhai Coch yw’r rhai lleiaf ailgylchadwy, a’r rhai Gwyrdd yw’r rhai mwyaf ailgylchadwy.

Mae’r fethodoleg wedi cael ei hamlinellu ar gyfer tair blynedd gyntaf y cynllun, gyda ffioedd am ddeunyddiau pecynwaith gradd Coch RAM yn cael eu modiwleiddio tuag i fyny i sicrhau bod llai o ddeunydd ailgylchadwy yn ysgwyddo cyfran fwy o atebolrwydd o dan y cynllun. Mae hyn yn golygu bod modd lleihau cyfran yr atebolrwydd am y deunyddiau mwyaf ailgylchadwy, gan arwain at ffi is am waredu gwastraff pecynwaith cartrefi ar gyfer deunydd pecynwaith gwyrdd.

Ni fydd deunydd ambr yn gweld unrhyw newid yn ei ffi gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi o ganlyniad i fodiwleiddio, gan aros ar y gyfradd ffi sylfaenol

Cyhoeddwyd Fersiwn 1.1 o’r RAM ym mis Ebrill 2025 a chyhoeddwyd datganiad polisi modiwleiddio PackUK ym mis Mehefin 2025.

3.2 Gwahaniaethau mewn tunelledd pecynwaith a adroddwyd mewn RPD

Mae’r cynnydd mewn ffioedd ambr enghreifftiol, o’i gymharu â ffioedd sylfaen Blwyddyn 1 a gadarnhawyd, yn cael ei sbarduno’n bennaf gan ostyngiad mewn tunelledd a adroddwyd mewn RPD rhwng cyfrifo ffioedd sylfaen a gadarnhawyd ym mis Mehefin a data RPD a gyflwynwyd gan gynhyrchwyr ar gyfer 2025 ar 1 Rhagfyr 2025. Mae data RPD ar gyfer 2024 a 2025 yn destun newidiadau pellach oherwydd cyflwyniadau ac ailgyflwyniadau hwyr gan gynhyrchwyr. Mae’r newidiadau hyn yn debygol o effeithio ar y gwahaniaeth rhwng ffioedd sylfaenol Blwyddyn 1 a gadarnhawyd a ffioedd enghreifftiol Blwyddyn 2.

Ers mis Mehefin, bu gostyngiadau mewn tunelledd pecynwaith a adroddwyd yn 2024. Bu newidiadau bach hefyd mewn adroddiadau rhwng hanner cyntaf 2024 a hanner cyntaf 2025. Yr unig eithriad yw’r grŵp deunydd ‘arall’, sydd wedi gweld cynnydd o 28%. Mae’r newidiadau hyn wedi cael eu hadlewyrchu yn yr amcangyfrif o gyfanswm tunelledd 2025 o gyfanswm tunelledd 2024.

10. 3.3 Costau Awdurdodau Lleol

Yn dilyn adborth gan Awdurdodau Lleol ar eu Hysbysiadau Asesu Blwyddyn 1, gwnaed sawl newid i fodel LAPCAP ar gyfer Blwyddyn 2. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cymhwyso chwyddiant i allbynnau i gyd-fynd â 2026 i 2027
  • addasu tunelledd HWRC a Safleoedd Dod â Gwastraff ar gyfer ALlau yr Alban
  • addasu tunelledd gweddilliol ar gyfer ALlau yr Alban
  • addasu tunelledd gwaredu Gogledd Iwerddon
  • addasu niferoedd aelwydydd yr Awdurdod Gwaredu Gwastraff (WDA)
  • addasiadau i nifer o gredydau ailgylchu ALlau
  • addasiadau i rai taliadau FlexCollect ALlau lle bo angen
  • addasiadau i symud arian rhwng yr Awdurdod Casglu Gwastraff (WCA) ac WDA er mwyn ystyried trefniadau unigol
  • addasiadau i adlewyrchu costau rheoli plastigau hyblyg i’w hailgylchu

11. 4. Y camau nesaf

Mae gan gynhyrchwyr ddyletswydd i barhau i adrodd am eu data pecynwaith drwy’r gwasanaeth RPD. Os ydych chi’n gynhyrchydd mawr, edrychwch ar y dyddiadau cau ar gyfer adrodd am ddata pecynwaith.

Bydd PackUK yn defnyddio’r data hwn a’r costau a restrir uchod i gyfrifo a chyhoeddi ffioedd wedi’u cadarnhau ar gyfer 2026 i 2027. Disgwylir y bydd hyn yn digwydd ym mis Mehefin 2026.


[1] Gweler Economic and fiscal outlook – March 2025 - Office for Budget Responsibility. Rhoddir y gwerth gan gell E133 yn nhabl 1.7 yn y ‘Tablau Rhagolygon Manwl: Economi’.