Eich llawlyfr buddion bach a manteision mawr
Diweddarwyd 8 Mehefin 2026

Lle gwych i weithio
Credwn fod CThEF yn lle gwych i weithio, ac rydym yn gwybod bod cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith yn bwysig i ni i gyd. Rydym am sicrhau y darperir ar gyfer eich lles, ochr yn ochr â’r cyfle am yrfa hir, hapus a gwerth chweil. Mae hyn yn golygu bod llawer o’n gweithwyr yn aros gyda ni am flynyddoedd lawer, ac yn mynd ati i elwa o’r manteision, y buddion a’r aelodaethau y cyfeirir atynt yn y llawlyfr hwn.
Pan ymunwch â ni, byddwch hefyd yn ymuno â chymuned gyfeillgar a chymwynasgar. Byddwn yn rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i fagu hyder a’ch helpu i fwynhau’ch amser y tu mewn a’r tu allan i’r gweithle. Bydd pethau yn y llyfr hwn hefyd yn gallu’ch helpu yn y dyfodol, wrth i’ch bywyd newid.
Felly p’un a ydych am gynllunio llwybr eich gyrfa ac anelu hyd yn oed yn uwch, rheoli eich lles eich hun yn well, neu weithio mewn amgylchedd cadarnhaol a chynhwysol, rydyn ni yma i’ch cefnogi. Isod mae rhestr hwylus o’r holl fuddion a chynlluniau sydd ar agor neu ar gael i chi ar ôl i chi ymuno â ni. Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy – credwn y cewch eich synnu gan yr hyn y gallwn ei gynnig i chi yma yn CThEF.
Amser i ffwrdd a gweithio’n hyblyg
Gwyliau blynyddol a gwyliau braint
Pan fyddwch yn ymuno â ni, cewch 25 diwrnod o wyliau blynyddol yn ystod eich blwyddyn gyntaf. Ar ôl hynny, cewch un diwrnod ychwanegol am bob blwyddyn o wasanaeth, hyd at uchafswm o 30 diwrnod. Er enghraifft, os ydych gyda ni am dair blynedd, cewch 28 diwrnod o wyliau blynyddol yn eich trydedd flwyddyn. Fel bonws ychwanegol, rydym hefyd yn rhoi diwrnod o wyliau braint i chi ar gyfer pen-blwydd y Frenin.
Gweithio gartref
Rydym yn cydnabod bod y gallu i weithio’n hyblyg o wahanol leoliadau yn llesol o ran cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Rydym eisiau cefnogi cymaint o bobl â phosibl i weithio gartref. Felly, os yw’ch amgylchiadau personol, eich rôl a’ch gwaith yn addas, cewch gyfle i weithio gartref am ddau ddiwrnod yr wythnos – neu fwy os yw’r busnes yn cytuno ar hynny.
Patrymau gweithio amgen a hyblyg
Er mwyn helpu i gynnal cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, rydym yn cynnig gweithio hyblyg lle bo hynny’n bosibl. Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar y maes busnes rydych chi’n gweithio ynddo ac anghenion y busnes. Gallai hyn gynnwys amseroedd dechrau/gorffen amrywiol ac egwyliau cinio hyblyg. Byddwn hefyd yn ystyried ceisiadau am batrymau gwaith amgen, fel gweithio rhan-amser (gan gynnwys rhannu swyddi, haneru swyddi, gweithio yn ystod tymor yr ysgol ac ymddeol yn rhannol).
Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Mabwysiadu a Rhiant
Ar gyfer rhieni newydd a darpar rieni, rydym yn cynnig Tâl Mamolaeth a Thâl Mabwysiadu am 26 wythnos ar eich cyfradd cyflog arferol, ac yna 13 wythnos ychwanegol ar y gyfradd statudol, yn dibynnu ar hyd eich gwasanaeth parhaus. Gallwch hefyd gymryd 13 wythnos arall o Absenoldeb Mamolaeth/Absenoldeb Mabwysiadu yn ddi-dâl. Bydd cyflogeion cymwys yn gallu hawlio ‘Absenoldeb ar y cyd i Rieni’ am hyd at 39 wythnos o fewn blwyddyn i ddyddiad yr enedigaeth neu’r lleoliad. Rydym hefyd yn cynnig hyd at 4 wythnos o Absenoldeb Tadolaeth i rieni cefnogol. O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd pob cydweithiwr yn gallu cymryd o leiaf 2 wythnos o Absenoldeb Rhiant Cefnogol (Absenoldeb Tadolaeth) yn ddi-dâl. Bydd yr absenoldeb hwn ar gael o ddiwrnod cyntaf y gyflogaeth, gyda’r opsiwn i gael tâl a 2 wythnos ychwanegol yn dibynnu ar hyd gwasanaeth parhaus y cydweithiwr.
Yn ogystal â hyn, gall cydweithwyr gymryd hyd at 18 wythnos o absenoldeb arferol ar gyfer rhieni, yn ddi-dâl, fesul plentyn hyd at ei ben-blwydd yn 16 oed (neu 18 oed os yw’r plentyn wedi’i gofrestru’n anabl). O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd yr opsiwn hwn ar gael i gydweithwyr ym Mhrydain Fawr o ddiwrnod cyntaf eu cyflogaeth, ond ni all fwy na 4 wythnos gael eu cymryd yn ystod un flwyddyn.
Absenoldeb arbennig â thâl/yn ddi-dâl
Mae’n rhaid i ni i gyd ddelio ag amgylchiadau annisgwyl, apwyntiadau meddygol ac argyfyngau. O dan rai amgylchiadau, mae hawl statudol i gael amser i ffwrdd, er enghraifft, i gyflawni rhai dyletswyddau cyhoeddus neu os bydd argyfwng gyda rhywun sy’n dibynnu arnoch. Yn yr achosion hyn, bydd yn rhaid rhoi amser rhesymol i ffwrdd. Mewn rhai achosion mae rhoi amser i ffwrdd yn ddewisol ac yn amodol ar anghenion y busnes. Fodd bynnag, bydd eich rheolwr yn gallu eich cynghori ar eich opsiynau o ran absenoldeb.
Materion ariannol
Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
I rai o’n staff, gall oedran pensiwn fod yn bell i ffwrdd, ond pryd bynnag y dechreuwch eich gyrfa gyda ni, rydym am eich helpu i gynllunio ar ei gyfer. Pan ymunwch â ni, byddwch yn cael eich cofrestru’n awtomatig yng Nghynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, os nad ydych eisoes yn aelod ohono. Mae hyn yn golygu, er bod yn rhaid i chi gyfrannu, bydd ein cyfraniad cyflogwr ychwanegol yn helpu’ch ymddeoliad i fod yn fwy cyfforddus pan ddaw’ch amser, o’i gymharu â rhai pensiynau yn y sector preifat. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ‘Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil’.
Cyflog cynnar
Rydym yn cydnabod bod yna adegau pan fydd yn rhaid i chi dalu swm sylweddol o arian i allu dod i’r gwaith. Ar gyfer rhai o’r amgylchiadau hyn, mae gennym gynllun ‘Cyflog cynnar’ sy’n cwmpasu pethau fel:
- cost tocynnau tymor teithio
- trwyddedau parcio
- prynu beic
- costau gofal plant
Cyngor ariannol, yn rhad ac am ddim
Rydym yn gwybod y gall amgylchiadau ariannol fod yn ddryslyd ac achosi pryder diangen. Dyna pam mae gan ein pobl fynediad am ddim at ‘Gwasanaeth Arian a Phensiynau’ (MaPS). Wedi’i sefydlu gan y llywodraeth, mae’r gwasanaeth hwn yn darparu cyngor ariannol diduedd yn rhad ac am ddim, gan gynnwys canllawiau i helpu i wella’ch materion ariannol, ac offer a chyfrifianellau i helpu i gadw trefn ar y materion hyn a chynllunio ymlaen llaw. Mae’r cymorth hwn ar gael dros y ffôn ac ar-lein.
Mae’ch gyrfa yn dechrau yma
Datblygu llwybr eich gyrfa
Rydym yn credu bod pawb yn dalentog. Ein nod yw croesawu a dathlu amrywiaeth a sgiliau ein holl staff. Byddwn yn rhoi cyfleoedd i chi berfformio hyd eithaf eich gallu. Mae porth Dysgu’r Gwasanaeth Sifil yn cynnig ystod eang o offer dysgu a datblygu, gan gynnwys uwchsgilio proffesiynol sy’n arwain at gymwysterau cydnabyddedig mewn ystod o broffesiynau, megis Adnoddau Dynol, Rheoli, Cyfathrebu, Rheoli Prosiectau, a Chyflenwi Gweithredol.
‘Mae’n wych bod cyfleoedd helaeth ar gyfer dilyniant gyrfa ar hyd a lled y wlad, ac mewn llawer o wahanol broffesiynau.’
Richard, Pennaeth Adnoddau a Chyflawniadau ar gyfer Gweithrediadau Adnoddau Dynol
Cyfleoedd datblygu
Rydym eisiau annog potensial pawb, ac mae cefnogaeth, help a rhaglenni wedi’u cynllunio i’ch helpu yn eich datblygiad a’ch gyrfa ar draws y Gwasanaeth Sifil. Mae hyn yn golygu’r canlynol:
- mae pawb yn cael o leiaf 5 diwrnod ffurfiol o ddysgu a datblygu; a hynny ar-lein, wyneb yn wyneb neu drwy hyfforddiant
- cwmpasu ystod o ddysgu: yn benodol ar gyfer proffesiwn, sgiliau meddal, sgiliau technegol
- mae gennym raglenni datblygu sydd wedi’u targedu’n benodol ar gyfer cydweithwyr sy’n chwilio am gyfle i symud ymlaen i’r radd nesaf, a rhaglenni sydd wedi’u targedu i helpu cydweithwyr Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol i gyrraedd swyddi uwch
- gwirfoddoli wedi’i gymeradwyo, gyda hyd at 5 diwrnod o absenoldeb arbennig â thâl
Mynediad at fwy o gyfleoedd am swyddi
Pan fyddwch yn dechrau gyda ni, byddwch yn gallu gwneud ceisiadau am swyddi gwag CThEF nad ydynt ar gael yn allanol. Bydd gennych hefyd fynediad at swyddi gwag sy’n cael eu hysbysebu ar draws adrannau’r llywodraeth yn unig.
Prentisiaethau
Gallwn gynnig cyfle i weithwyr o unrhyw oedran ‘ddysgu wrth ennill cyflog’ gyda phrentisiaeth CThEF. Mewn rhai achosion bydd swyddi gwag yn cael eu hysbysebu fel rolau prentisiaeth, sy’n golygu y byddwch yn brentis o’r diwrnod cyntaf. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd i eraill wneud cais am brentisiaeth yn ddiweddarach yn ystod eu cyflogaeth. Tra ydych mewn rôl swydd, byddwn hefyd yn talu prentisiaid yr un peth ag eraill o’r un radd.
‘Fel prentisiaid rydyn ni’n cael lot o gyfleoedd, fel hyfforddiant a chyrsiau ychwanegol. Rydych chi’n gallu gweld y gwahanol lwybrau sydd ar gael, neu gallwch chi newid adrannau yn llwyr. Mae sawl ffordd o symud ymlaen.’
Annalise, Prentis Cynllun Carlam
Iechyd, lles ac amser i chi’ch hun
Rhaglen Gymorth ar gyfer Cyflogeion, yn rhad ac am ddim
Pan fyddwch yn dechrau, cewch fynediad at wasanaethau cymorth annibynnol a chyfrinachol a ddarperir gan ein Rhaglen Gymorth ar gyfer Cyflogeion, yn rhad ac am ddim. Mae’r rhaglen hon yn darparu cymorth 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn, lle gallwch gael arbenigedd clinigol a phroffesiynol sy’n ymdrin ag ystod eang o bynciau fel gwaith, teulu a materion personol.
Profion llygaid, yn rhad ac am ddim
Gofalwch am eich llygaid. Mae profion llygaid am ddim ar gael i bawb yn CThEF, er mwyn iddyn nhw allu defnyddio cyfrifiaduron heb ddioddef lludded sgrin.
Ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
Rydym yn deall y gellir cael anhawster gydag iechyd meddwl ar unrhyw adeg yn eich bywyd. Gall ein cyflogai ymuno â’r Rhwydwaith Iechyd Meddwl (MHN) sy’n grŵp o dan arweiniad cydweithwyr gyda’r nod o leihau stigma o amgylch iechyd meddwl. Felly, os ydych yn cael anhawster gyda’ch iechyd meddwl, os oes gennych brofiad ohono drwy aelod o’r teulu, ffrind neu gydweithiwr, neu os hoffech ddysgu mwy i gefnogi eraill, gall yr MHN helpu.
Hamdden a Chwaraeon
Rydym am i bawb gael mynediad at chwaraeon, gweithgareddau hamdden a diwrnodau allan. Gall hyd yn oed gweithgareddau bach syml wneud gwahaniaeth go iawn i’ch lles. Am ffi fach, gallwch ymuno â Hamdden a Chwaraeon Cyngor Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil (CSSC), sy’n cynnig mynediad at ystod eang o weithgareddau, gostyngiadau a chynigion rhad ac am ddim i aelodau. Gallwch hefyd ymuno â Hamdden a Chwaraeon Cyllid a Thollau, sy’n trefnu digwyddiadau chwaraeon a hamdden ar gyfer ffitrwydd ar bob lefel.
Amrywiol, cynhwysol a chyfartal
Amrywiaeth Staff
Rydym am i bawb deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, a bod modd iddynt fynegi eu hunain yn y gwaith. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae gennym sawl Rhwydwaith Amrywiaeth Staff sy’n ymwneud â Hil, Rhywedd, Anabledd, Materion LHDT+, Gofalwyr, Symudedd Cymdeithasol, a Chrefydd neu Gred. Byddwch yn gallu ymuno ag unrhyw un o’r rhwydweithiau hyn pan fyddwch yn dechrau gyda ni, ac mae’n hawdd cymryd rhan.
Crefydd neu Gred
Mae’r Rhwydwaith Crefydd neu Gred yn dod â chydweithwyr ynghyd o amrywiaeth eang o grefyddau a chredoau – nodweddion sydd wedi’u diogelu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae hyn yn cynnwys cydweithwyr sydd â chredoau crefyddol, a chydweithwyr nad ydynt yn grefyddol. Nod ein rhwydwaith yw rhoi lle parchus a chynhwysol i gydweithwyr o gefndiroedd amrywiol ddod at ei gilydd i drafod materion sy’n ymwneud â chrefydd a chred a all gael effaith ar brofiad y gweithle.
Y Rhwydwaith Hil
Rydym yma i gefnogi ein holl gydweithwyr sydd ag angerdd am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Rydym yn helpu i greu sefydliad sy’n cynrychioli’r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn gwneud hyn drwy hyrwyddo polisïau effeithiol a chodi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â hil. Ac rydym hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr i roi’r adnoddau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu huchelgeisiau a chyrraedd eu potensial.
Rhwydwaith LHDT+
Rydym yn cynnig cymorth ac ymgynghoriad ar gyfer ein pobl sy’n eu hystyried eu hunain yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, neu sy’n eu disgrifio eu hunain yn anneuaidd, neu sy’n ffurfio rhan o’r sbectrwm eang o ran rhywedd. Rydym yn rhoi cyngor, cymorth a chefnogaeth i unrhyw un o fewn y sefydliad, nid yn unig i’r gymuned LHDT+. Mae croeso cynnes i unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwarae rhan weithredol o ran helpu i greu gweithle amrywiol a chynhwysol, lle anogir pawb i fynegi eu hunain yn llwyr.
Cydraddoldeb o ran anabledd
Rydym yn cynnig amgylchedd gwaith cynhwysol i bawb. Ein nod yw sicrhau bod pobl ag anableddau yn cael mynediad at yr un cyfleoedd ag eraill i ddatblygu gyrfaoedd llawn a gwerth chweil. Mae rhai gwasanaethau a ddarparwn yn cynnwys:
- ymgynghori â chydweithwyr ynghylch newidiadau yn y gwaith
- Rhwydwaith Anabledd Staff
- offer a meddalwedd arbenigol i helpu i ddarparu amodau gwaith cynhwysol i bron bob nam a allai fod ar bobl
- ysgrifennu ein dogfennau a deunyddiau eraill mewn fformatau hygyrch.
Cydraddoldeb rhywedd
Rydym yn hyrwyddwr sydd wedi derbyn gwobrau dros gydraddoldeb rhywedd, sy’n ymfalchïo yn ein hystod amrywiol o gydweithwyr ac sy’n anelu at gefnogi lles pawb drwy ddarparu amgylchedd gwaith sy’n gwerthfawrogi ei weithlu ac sy’n cael gwared ar wahaniaethu ac aflonyddu.
Symudedd cymdeithasol
Rydym wedi cael ein cydnabod fel arweinydd ar draws y Gwasanaethau Sifil yn y maes hwn. Rydym yn croesawu pobl o bob cefndir i ymgeisio am ein rolau. Hefyd, rydym yn cynnal rhaglen fentora STRIDE sy’n mynd i’r afael â’r cysylltiad rhwng cefndir economaidd-gymdeithasol a dilyniant gyrfa i sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfleoedd ar gyfer dysgu a dilyniant.
Ychwanegiadau bach, arbedion a disgowntau
Porth buddiannau cyflogeion, yn rhad ac am ddim
Mae gan gyflogeion CThEF fynediad at borth buddiannau cyflogeion, yn rhad ac am ddim. Dyma ble y gallwch ddod o hyd i filoedd o ddisgowntau ar gyfer siopau manwerthu, archfarchnadoedd, bwytai, sinemâu a champfeydd. Gallwch hefyd sefydlu ‘Rhoi Trwy’r Gyflogres’, a fydd yn eich galluogi i gyfrannu arian, yn rhydd o dreth, o’ch cyflog yn uniongyrchol i unrhyw elusen gofrestredig yn y DU. Byddwch yn cael e-bost yn eich annog i gofrestru ar gyfer y porth buddiannau tua mis ar ôl i chi ddechrau gweithio yn CThEF. Y tu allan i’r cyfnod cofrestru blynyddol sy’n berthnasol i’n holl gyflogeion, gallwch gofrestru ar gyfer y cynllun yswiriant deintyddol o fewn 30 diwrnod o ymuno â CThEF. I gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer yswiriant deintyddol, ewch i’r arweiniad ar Service Central.
Cynllun beicio i’r gwaith
Trwy’r porth buddiannau cyflogeion, gall cyflogeion ymuno â’r cynllun beicio i’r gwaith (CtW) fel rhan o Gynllun Trafnidiaeth Gwyrdd y llywodraeth i hyrwyddo teithiau iachach i’r gwaith a lleihau llygredd. Buddion y cynllun yw:
- peidio â thalu treth ac Yswiriant Gwladol ar swm eich cyflog gros sy’n ymwneud â llogi beic ac offer. Gallwch aberthu cyflog hyd at uchafswm o £4,000
- gallwch ddefnyddio’r beic a’r offer yn eich amser hamdden ac i feicio i’r gwaith
- ar ddiwedd y cyfnod llogi, gallwch ddewis cadw’r beic am ffi fach
Disgowntau CSSC
Fel y nodwyd uchod yn ein llawlyfr, gallwch ddod yn aelod o’r CSSC gan dalu ffi fach bob mis. Yn ogystal â gweithgareddau hamdden a chwaraeon, gallwch hefyd gael disgowntau ac arbed arian ar bethau fel siopa, yswiriant, campfeydd a pharciau thema, a chael mynediad gostyngol i safleoedd Cadw ac English Heritage.
Disgowntau moduro
Gallwch ddewis ymuno â Boundless, Cymdeithas Moduro’r Gwasanaeth Sifil. Mae hyn yn rhoi mynediad i chi at ddigwyddiadau, bargeinion a manteision a fydd yn eich helpu i arbed arian, yn ogystal â chael disgowntau ar bopeth o yswiriant torri i lawr i yswiriant ar gyfer eich cerbyd a’ch cartref.
Aelodaeth o Undeb Llafur
Erbyn hyn, fe welwch ein bod yn cydnabod bod angen cefnogi gweithwyr yn llawn. Pan fyddech yn dechrau gyda ni, gallwch ddewis ymuno ag undeb llafur.
Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS)
- PCS yw’r Undeb ar gyfer staff sy’n gweithio yn y gwasanaethau sifil, y gwasanaethau cyhoeddus a chontractwyr y sector preifat, ac mae’n croesawu pob math o staff, p’un a ydych yn rheolwr, gweithiwr achos, arbenigwr, yn gweithio amser llawn neu’n rhan-amser
- mae gan PCS hawl unigol i gynrychioli cyflogeion ar radd AA-SO, a hawl ar y cyd ag ARC i gynrychioli cyflogeion ar radd 6 a 7, yn ogystal â chyflogeion ar radd HO ac SO sy’n rhan o raglen datblygu
Cymdeithas Cyllid a Thollau (ARC) (yr FDA yn CThEF)
- ARC yw’r undeb llafur sy’n cynrychioli gweithwyr proffesiynol a rheolwyr CThEF
- mae unrhyw gyflogai ar radd HO neu uwch yn gymwys i ymuno ag ARC, a mwynhau cynrychiolaeth unigol ac ystod o fuddiannau
- mae gan ARC hawl ar y cyd â PCS i gynrychioli cyflogeion ar radd 6 a 7, yn ogystal â chyflogeion ar radd HO ac SO sy’n rhan o raglen datblygu
Prospect Union
- mae Prospect yn cefnogi ac yn cynrychioli miloedd o aelodau ar draws ystod eang o swyddi a sectorau
- mae gan Prospect hawl i gynrychioli cyflogeion yn y grŵp Swyddfa Brisio yn CThEF
Gwybodaeth bellach
I gael rhagor o wybodaeth am fuddion CThEF a manylion am sut beth yw gweithio yn CThEF, gweler ein tudalennau ar gov.uk.
Ymwadiad: Mae’r cyhoeddiad hwn yn ganllaw cyffredinol. Gall buddion, aelodaethau a/neu sefydliadau partner a restrir newid.
Dilynwch ni
Mae tudalen Facebook swyddogol CThEF yn rhannu awgrymiadau a gwybodaeth i’ch helpu gyda’ch materion treth. Ceir gwybodaeth a newyddion swyddogol gan CThEF ar Twitter, lle gallwch hefyd anfon neges os oes gennych gwestiwn am drethi.
Mae CThEF yn defnyddio LinkedIn i rannu diweddariadau rheolaidd ynghylch gwaith CThEF o fewn meysydd a fyddai o ddiddordeb i gymuned LinkedIn, er enghraifft, treth busnes a chyngor ynghylch rhedeg eich cwmni, newyddion o ran polisïau treth a chyfleoedd recriwtio CThEF.
Mae sianel YouTube CThEF yn rhannu fideos sydd wedi’u cynllunio i helpu cwsmeriaid i gael eu trethi’n iawn.
Mae tudalen Instagram CThEF yn rhannu newyddion a straeon rheolaidd ynghylch ein hymgyrchoedd, cyngor ac arweiniad newydd, a newyddion am ein gwaith a’n pobl.