Gweithio i CThEF

Rydym yn un o gyflogwyr mwyaf y wlad, gyda thua 66,000 o bobl yn gweithio ar draws y DU. Ein diben yw casglu’r arian sy’n talu am wasanaethau cyhoeddus y DU a rhoi cymorth ariannol i’r bobl sydd ei angen.


Yr hyn yr ydym yn ei wneud

Rydym yn gyfrifol am gyfrifo a chasglu trethi a thollau a delir gan dros 50 miliwn o bobl a thros 5 miliwn o fusnesau.

Mae’r dreth a gasglwn yn hanfodol. Mae’n ariannu ysgolion ac ysbytai, yn adeiladu ffyrdd a seilwaith ac yn cefnogi cymunedau a’r economi – felly mae angen i bawb dalu’r dreth sy’n ddyledus yn ôl y gyfraith, pwy bynnag ydyn nhw.

Yn ogystal, rydym yn talu ac yn gweinyddu Budd-dal Plant, Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, tâl statudol a chredydau treth. Rydym yn diogelu ein dinasyddion – er enghraifft, drwy orfodi’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol – ac rydym yn helpu i gadw ein ffiniau’n ddiogel a sicrhau bod masnach yn llifo’n ddidrafferth i mewn i’r wlad ac allan ohoni.

Rydym yn cyffwrdd â bywydau pawb yn y DU drwy raddfa ac ystod y gwaith a wnawn. Ble bynnag rydym yn gweithio a beth bynnag a wnawn, rydym yn ymdrechu i fod yn broffesiynol, i weithredu â gonestrwydd, i ddangos parch ac i fod yn arloesol.

Y gwaith a wnawn

Darparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid

Pan fyddwch yn ymuno â ni, byddwch yn gweithio i un o sefydliadau gwasanaethau cwsmeriaid mwyaf y DU – sy’n rhoi ein cwsmeriaid wrth galon popeth a wnawn.

Rydym am i bobl deimlo’n hyderus bod pawb yn cael eu trin yn deg ac â pharch, gan weithredu yn unol â’r gyfraith mewn ffordd ddiduedd, effeithiol ac effeithlon. Rydym hefyd am ei gwneud hi mor hawdd ag y bo modd i bobl dalu eu trethi, ac mor anodd ag y bo modd i’r lleiafrif nad ydynt yn gwneud hynny.

Bod yn sefydliad modern sy’n flaengar yn ddigidol

Rydym yn dylunio systemau, cynhyrchion a phrosesau newydd er mwyn diwallu anghenion ein cwsmeriaid, i’w gwneud hi mor hawdd ag y bo modd iddyn nhw ddelio â ni.

Rydym yn defnyddio gwasanaethau digidol a data doeth i helpu pobl i ddelio â ni’n effeithiol ac yn effeithlon, ond maent hefyd yn ein galluogi i ddod o hyd i’r lleiafrif sy’n ceisio arbed neu osgoi treth. Ein seilwaith TG yw un o’r mwyaf deinamig ac un o’r mwyaf o ran maint yn Ewrop ac, erbyn hyn, rydym yn un o’r awdurdodau treth mwyaf blaengar yn ddigidol yn y byd.

Buddsoddi yn ein pobl

Mae gennym uchelgais glir – rydym am i chi gael profiad gwych o weithio yn CThEF. Rydym eisiau i chi deimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi a bod yn falch o’r gwaith rydych yn ei wneud. Byddwn yn buddsoddi ynoch chi, yn rhoi cyfleoedd i chi ddatblygu’ch gyrfa a datblygu sgiliau newydd, gan ddatgloi’ch talent a’ch potensial llawn.

Yr hyn yr ydym yn ei gynnig

Pan ymunwch â ni, byddwch yn rhan o gymuned gyfeillgar a chymwynasgar. Byddwn yn rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i fagu hyder ynghyd â’r cyfle i gael gyrfa hir a hapus sy’n rhoi boddhad.

Mae sicrhau’ch lles a sicrhau bod gennych gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith yn bwysig i ni. Rydym eisiau i bawb fwynhau eu hamser yn y gwaith a’r tu allan i’r gwaith. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, rydym yn cynnig nifer helaeth o fanteision, buddion ac aelodaethau, gan gynnwys:

  • trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys cyfleoedd i weithio gartref lle bo’r swydd a’r amgylchiadau personol yn addas
  • pecyn gwyliau blynyddol hael
  • cynllun pensiwn cystadleuol
  • rhaglenni talent, gyrfa a datblygiad personol helaeth

Ac nid dyna’r cyfan. Darllenwch y llyfryn Eich buddion bach a manteision mawr ac efallai y cewch eich synnu gan yr hyn sydd gennym i’w gynnig.

Cyfleoedd gyda ni

Rydym eisiau i chi deimlo’n gyfforddus i fynegi chi eich hun wrth weithio i ni ac rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr amrywiol a chynhwysol, sy’n darparu cyfleoedd beth bynnag fo’ch cefndir. Felly, rydym yn chwilio am bobl sydd â phob math o sgiliau, profiad ac uchelgeisiau i ymuno â ni.

Fel un o gyflogwyr mwyaf y wlad, mae gennym bobl yn gweithio ledled y DU mewn amrywiaeth eang o swyddi, gan gynnwys:

  • dadansoddi
  • masnachol
  • cyfathrebu
  • digidol, data, technoleg
  • cyllid
  • rheoli eiddo ac ystadau
  • adnoddau dynol
  • gwasanaethau cyfreithiol
  • cyflawni gweithredol
  • polisi
  • cyflawni prosiectau

Ymuno â ni

I weld y swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd gyda ni, dewiswch ‘HM Revenue and Customs’ ar wefan Swyddi’r Gwasanaeth Sifil.

Hefyd, mae cyfleoedd i ymuno â ni:

Cyfathrebu â’r cyhoedd

Os yw’ch rôl yn cynnwys siarad ag aelodau o’r cyhoedd, mae’n rhaid i chi allu ateb a rhoi cyngor ar lafar drwy ddefnyddio Cymraeg a/neu Saesneg cywir, yn ôl yr angen. Pan fo gofyniad hanfodol mewn perthynas ag iaith, caiff hwn ei brofi fel rhan o’r broses ddethol.

Cymhwystra

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys o unrhyw oedran, yn amodol ar y ddeddfwriaeth ynghylch oedran gadael yr ysgol a gweithwyr ifanc.

Gallwch wneud cais os oes gennych yr hawl i fyw a gweithio yn y DU, a’ch bod yn bodloni rheolau cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil. Ni fyddwch yn gymwys os ydych yn y DU ar fisa myfyriwr.

Sylwer: nid ydym yn darparu nawdd fisa’r DU ar gyfer ymgeiswyr.

Bydd yn rhaid i chi gydymffurfio â gofynion mewnfudo i’r DU yn ogystal â dilyn rheolau cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil. Os ydych yn gwneud cais am swydd sydd angen cliriad diogelwch, a bod gennych genedligrwydd tramor neu ddeuol, efallai y byddwch yn dal i allu gwneud cais.

Gall fod cyfyngiadau ar rai swyddi a allai effeithio arnoch os nad oes gennych genedligrwydd Prydeinig yn unig, neu os oes gennych gysylltiadau personol â gwledydd penodol y tu hwnt i’r DU.

Addasiadau rhesymol

Mae addasiadau rhesymol yn sicrhau bod unrhyw un sydd ag anabledd neu gyflwr yn cael chwarae teg wrth gystadlu am ein swyddi, drwy ddileu neu leihau unrhyw anfantais neu rwystrau.

Rydym wedi ymrwymo i ystyried pob cais am addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw un sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am yr help a’r cymorth y gallwn ei ddarparu yn ystod eich cais, edrychwch ar ‘Rhoi sylw i anabledd - sut y gallwn eich cefnogi yn ystod ein proses ddethol’ (mae fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael).

Felly, os ydych yn gwneud cais, neu’n ystyried gwneud cais am swydd gyda ni, a bod angen help neu gymorth arnoch:

Gwiriadau diogelwch

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd yn rhaid i chi gwblhau gwiriad diogelwch sylfaenol o leiaf – mae’n rhan o’n proses sgrinio cyn cyflogi (efallai y bydd angen gwiriadau diogelwch lefel uwch ar gyfer rhai rolau; rhoddir gwybod i chi yn yr hysbyseb os bydd angen gwneud hyn).

Hefyd, bydd angen i chi basio gwiriad diogelwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Sylwer: Mae gan CThEF eithriad o dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974, sy’n ein galluogi i wneud ymholiadau am euogfarnau heb eu darfod yn ogystal â rhai sydd wedi’u darfod.

Datganiad iechyd

Ein nod yw creu amgylchedd gwaith sy’n gynhwysol i bawb. Rydym am i chi deimlo’n hyderus y gallwch ddatgelu gwybodaeth am unrhyw anableddau a gofynion, heb ofni gwahaniaethu nac aflonyddu. Rydym am i chi hefyd deimlo y byddwn yn cymryd agwedd adeiladol tuag at ddiwallu’ch anghenion.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus a’ch bod yn cael cynnig, byddwn yn gofyn i chi lenwi holiadur iechyd. Mae hyn er mwyn i ni allu eich helpu drwy ystyried unrhyw addasiadau i’r gweithle y bydd eu hangen arnoch i helpu gyda’ch gwaith o ddydd i ddydd.

Ar ôl i chi lenwi’r datganiad iechyd, efallai y bydd angen i ni ofyn am gyngor gan ein cyflenwr Iechyd Galwedigaethol. Bydd hyn yn ein helpu i ystyried pa addasiadau y gellir eu gwneud er mwyn i chi allu gwneud eich gwaith hyd eithaf eich gallu.

Ein canolfannau rhanbarthol

Rydym yn newid amgylchedd gwaith ein pobl drwy ddefnyddio technoleg fodern sy’n hwyluso dulliau gweithio mwy hyblyg. Mae ein canolfannau rhanbarthol newydd yn adeiladau o’r radd flaenaf sy’n helpu pobl i gydweithio ac i weithio’n hyblyg.

Bydd ganddynt systemau digidol cyflym a chyfleusterau dysgu a datblygu cyfoes. Os yw’n addas ar gyfer eich swydd, cewch gyfle i weithio gartref am ddau ddiwrnod yr wythnos, neu fwy os bydd y busnes yn cytuno ar hynny.

Mae ein canolfannau rhanbarthol newydd mewn lleoliadau canolog sydd â chyfleusterau lleol a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da yn:

  • Glasgow
  • Caeredin
  • Caerdydd
  • Belfast
  • Newcastle
  • Leeds
  • Lerpwl
  • Manceinion
  • Nottingham
  • Birmingham
  • Bryste
  • Croydon
  • Stratford

Mae gennym hefyd rai safleoedd arbenigol a fydd yn cymryd gwaith na ellir ei wneud yn unman arall. Mae’r rhain yn Gartcosh (ger Glasgow), Telford, Ipswich, Worthing a Dover, a’n pencadlys yng nghanol Llundain. Mae pobl sy’n gweithio i’n gwasanaeth Cymraeg wedi’u lleoli ym Mhorthmadog a Chaerdydd.

Os byddwch yn dechrau gyda ni mewn lleoliad nad yw’n ganolfan ranbarthol nac yn safle arbenigol, yna byddwch yn symud i un o’r lleoliadau hynny yn y dyfodol.

Swyddi gwag

I weld y swyddi gwag sydd gennym ar hyn o bryd, ewch i Swyddi’r Gwasanaeth Sifil.

Ein telerau ac amodau

Rhagor o wybodaeth am CThE

Gweithio i CThEF

Yr hyn y mae CThEF yn ei wneud