Adroddiad corfforaethol

Adroddiad Blynyddol 2021 ar Gyfraddau Treth Incwm Cymru

Cyhoeddwyd 10 December 2021

Applies to Wales

Diben

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn galluogi Senedd Cymru i bennu cyfradd Treth Incwm Cymru ar gyfradd sylfaenol, uwch ac ychwanegol i’w defnyddio ar gyfer incwm trethdalwyr Cymreig nad yw’n deillio o gynilion na difidendau. Defnyddiwyd y pŵer hwn am y tro cyntaf mewn perthynas â blwyddyn dreth 2019 i 2020, ac mae’r cyfraddau’n dal i fod yr un fath â’r rheiny ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon ar gyfer blwyddyn dreth 2020 i 2021.

Mae Cyfraddau Treth Incwm Cymru (CTIC) yn gweithio drwy ostwng cyfradd y DU 10c fesul £1. Codir CTIC ar ben y cyfraddau gostyngol hyn, a gall fod yn is, yn uwch neu’r un fath â chyfraddau’r DU.

Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn gweinyddu CTIC drwy’r prosesau Talu Wrth Ennill (TWE) a Hunanasesiad presennol, gan gynnwys drwy ddulliau cydymffurfio a chyfathrebu presennol o ran Treth Incwm. Mae hyn yn sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei gasglu, ac yn y rhan fwyaf o achosion ni fydd trethdalwyr Cymreig yn sylwi ar unrhyw wahaniaeth yn y ffordd y mae CThEM yn rhyngweithio â nhw.

Er mwyn sicrhau bod trethdalwyr Cymreig yn cael gwasanaeth o ansawdd cyson a galluogi CThEM a Llywodraeth Cymru i fodloni eu priod gyfrifoldebau mewn perthynas â gweithredu CTIC, cytunwyd ar Gytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG). Mae’r CLG yn nodi gofynion a mesurau perfformiad ar gyfer gweithredu CTIC. Un o’r gofynion allweddol yw bod CThEM yn adrodd yn flynyddol ar sut y mae’n darparu’r gwasanaethau y cytunwyd arnynt.

Mae’r adroddiad hwn yn nodi gwybodaeth am sut y mae CThEM yn gweinyddu CTIC, gan gwmpasu:

  • gweithgarwch cydymffurfio (gan gynnwys nodi trethdalwyr Cymreig)
  • casglu refeniw CTIC a rhoi cyfrif amdano
  • gwasanaeth a chymorth i gwsmeriaid
  • data ar gyfer pennu cyfraddau CTIC a’u rhagolygu
  • data ar gyfer rheoli arian Llywodraeth Cymru
  • costau darparu CTIC, ac ailgodi tâl am gostau CThEM

Adran 1 : nodi a rhoi sicrwydd

Mae’r CLG yn gofyn i CThEM nodi a chynnal cofnod cywir a chadarn o’r boblogaeth trethdalwyr Cymreig.

Nodi trethdalwyr Cymreig

Cyn cyflwyno CTIC yn 2019 i 2020, sicrhaodd CThEM ddull cadarn o nodi trethdalwyr Cymreig a rhoi sicrwydd bod y dull nodi hwn yn gywir. Roedd hyn yn cynnwys cymharu ei ddata o ran cyfeiriadau gyda’r hyn a oedd yn cael ei gadw gan drydydd parti, ac anfon gohebiaeth uniongyrchol at drethdalwyr i ofyn iddynt sicrhau bod y cofnod o’u cyfeiriad a oedd gan CThEM yn gywir ac yn gyfredol.

Mae nodi trethdalwyr Cymreig yn broses barhaus. Ers cyflwyno CTIC, mae CThEM wedi parhau i gyfathrebu â threthdalwyr ac wedi cynnal gwiriadau ar gyfer sicrhau cyfeiriadau. Mae gwiriadau’n cynnwys sicrhau bod cartrefi â chyfeiriadau stryd sy’n croesi’r ffin yn cael eu cofnodi yn y wlad gywir, a llenwi gwybodaeth sydd ar goll er mwyn paru cyfeiriadau â’r weinyddiaeth gywir.

Caiff y broses o nodi trethdalwyr Cymreig ei hategu hefyd gan weithgarwch cydymffurfio. Bydd union natur unrhyw weithgarwch cydymffurfio y bydd CThEM yn ymgymryd ag ef ar gyfer unrhyw flwyddyn benodol yn dibynnu ar benderfyniadau Treth Incwm a wneir gan y Senedd a Llywodraeth y DU. Yn gyffredinol, po fwyaf yw’r gwahaniaeth rhwng y ddwy gyfundrefn, po fwyaf yw’r risg y bydd cwsmeriaid yn ymateb gan ddangos ymddygiad diffyg cydymffurfio, sy’n golygu bod angen i CThEM gynnal gweithgarwch cydymffurfio er mwyn mynd i’r afael ag ef. Caiff asesiad o’r risg o ran ymddygiad sy’n dangos diffyg cydymffurfio, a gweithgarwch cydymffurfio, ei grynhoi yn Adran 2.

Trosolwg o’r cyfathrebu

Mae CThEM yn defnyddio’r sianeli cyfathrebu helaeth presennol sydd ganddo i gyfathrebu â threthdalwyr er mwyn atgyfnerthu negeseuon allweddol o ran CTIC. Mae cyfathrebu â chwsmeriaid wedi bod drwy sianeli gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol ar-lein, a’r Cyfrif Treth Personol, ac maent wedi canolbwyntio ar y ffaith bod angen i gwsmeriaid ddiweddaru manylion eu cyfeiriad gyda CThEM pan fyddant yn symud.

Mae CThEM wedi cyfathrebu â chyflogwyr drwy sianeli sy’n cynnwys Bwletin y Cyflogwr, Diweddariad i Asiantau, ymgysylltiad Rheolwyr Cydymffurfiad Cwsmeriaid gyda busnesau mawr a chyrff cyhoeddus, fforymau ar gyfer cyflogwyr, rheolwyr ac asiantau cyflogresi, gov.uk a chyfryngau cymdeithasol ar-lein. Mae’r dulliau cyfathrebu hyn wedi canolbwyntio ar atgoffa cwsmeriaid o bwysigrwydd defnyddio’r codau ‘C’, a anfonwyd atynt gan CThEM, yn gywir.

Gweithgarwch nodi a rhoi sicrwydd a gynhaliwyd yn 2020 i 2021

Cymharu data sydd gan CThEM ynghylch cyfeiriadau gyda data cyfeiriadau trydydd parti

Fel rhan o’r paratoadau ar gyfer cyflwyno CTIC yn 2019 i 2020, cynhaliodd CThEM ymarfer gwrthdaro data a anelodd at baru cofnodion cyfeiriadau CThEM â data trydydd parti, megis y gofrestr etholiadol, data a gedwir gan asiantaethau gwirio credyd, a chofnodion cyflogwyr. Roedd hyn wedi galluogi CThEM i brofi a oedd cofnodion cyfeiriadau eraill yn cyd-fynd â’r trethdalwyr Cymreig roedd wedi’u nodi. Rhoddodd canlyniadau’r ymarfer hwn dystiolaeth i awgrymu bod CThEM yn nodi trethdalwyr Cymreig yn gywir mewn 98% i 99% o’r achosion.

Bydd CThEM yn parhau i sicrhau cywirdeb wrth nodi’r boblogaeth trethdalwyr Cymreig. Ar hyn o bryd, mae CThEM a Llywodraeth Cymru ar ganol trafodaeth ynghylch pryd fyddai orau i ailadrodd yr ymarfer hwn.

Gwiriadau rheoli ansawdd ar ddata codau post

Mae codau post a’r eiddo sy’n cael eu cwmpasu ganddynt yn newid weithiau i adlewyrchu eiddo newydd sy’n cael eu hadeiladu ac eiddo presennol sy’n cael eu his-rannu. Mae CThEM yn cael diweddariadau chwarterol ynghylch codau post gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac mae’n adolygu’i brosesau ar gyfer tynnu sylw at breswyliaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau cywirdeb parhaus o ran codau post (gweler yr Atodiad am ragor o fanylion). Yn ystod blwyddyn dreth 2020 i 2021, daeth 1,660 o gofnodion i law CThEM, ac fe’u proseswyd ganddo.

Mae CThEM hefyd wedi datblygu sgan er mwyn sicrhau ei fod yn dal gwybodaeth gywir am godau post. Mae hyn yn gweithredu mewn dwy ran:

  • nodi cofnodion trethdalwyr sydd â rhagddodiad cod post yng Nghymru, ond lle nad yw’r cod post wedi’i nodi ar restr CThEM o godau post yng Nghymru sy’n fyw neu wedi’u dileu. Yn ystod blwyddyn dreth 2020 i 2021, nododd a chywirodd CThEM 4,707 o gofnodion
  • nodi cofnodion trethdalwyr sydd â chod post gwag, ond sydd â gair allweddol yng nghorff y cyfeiriad sy’n dangos ei fod yn god post yng Nghymru, e.e. Abertawe. Yn ystod blwyddyn dreth 2020 i 2021, nododd a chywirodd CThEM 1,636 o gofnodion

Caiff cofnodion eu diweddaru wedi hynny i sicrhau bod ganddynt y cod post a’r statws preswylio cywir.

Sicrhau cywirdeb codau ‘C’ ar gyfer seneddwyr Cymru

Mae pob seneddwr Cymru yn drethdalwr Cymreig yn awtomatig, waeth beth yw eu statws preswylio, o ganlyniad i Adran 116E o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a chânt eu nodi felly ar systemau CThEM.

Ar ôl cyflwyno CTIC yn 2019 i 2020, cyflwynodd CThEM raglen sicrwydd ar gyfer seneddwyr Cymru. Mae cofnodion Seneddwyr yn cael eu diweddaru i ddangos y statws preswylio cywir, sy’n aros yn ei le nes iddynt adael eu sedd.

Adran 2: cydymffurfio

Mae’r CLG yn gofyn i CThEM gynnal gweithgareddau cydymffurfio ar sail risg o ran casglu CTIC yn yr un ffordd ag y mae’n eu cynnal o ran casglu Treth Incwm oddi wrth drethdalwyr yng ngweddill y DU.

Trosolwg o’r strategaeth gydymffurfio

Gwiriadau cydymffurfio o ran materion treth trethdalwyr Cymreig

Mae CThEM yn asesu risgiau cydymffurfio ac yn cynnal gwiriadau i faterion treth trethdalwyr y DU, gan gynnwys trethdalwyr Cymreig.

Mae CThEM yn cynnal gweithgareddau cydymffurfio ar sail risg o ran casglu CTIC yn yr un ffordd ag y mae’n eu cynnal o ran casglu Treth Incwm oddi wrth drethdalwyr yng ngweddill y DU. Mae hyn yn cynnwys cynnal ymchwiliadau i faterion cwsmeriaid Hunanasesiad yng Nghymru. Ni ailgodir tâl ar Lywodraeth Cymru am y gweithgarwch hwn.

O ganlyniad i’r rhyngweithiad rhwng TWE, Hunanasesiad a deddfwriaeth treth, mae CThEM yn edrych ar risgiau dros nifer o flynyddoedd er mwyn cymryd y camau cydymffurfio mwyaf priodol.

Mae CTIC yn aros ar yr un lefel â chyfraddau Lloegr a Gogledd Iwerddon, felly ar hyn o bryd does dim gwahaniaeth cyfradd a alli achosi risg o newid mewn ymddygiad ymysg trethdalwyr Cymreig.

Rhoi sicrwydd o ran cyfeiriadau

Mae CThEM yn monitro tueddiadau mudo, ar draws y ffin, gan bob unigolyn o ran Hunanasesiad neu TWE drwy gymharu gwybodaeth am ein cwsmeriaid, dadansoddi Ffurflenni Treth a newidiadau i gyfrifon treth i nodi tystiolaeth bosibl o ymatebion ymddygiadol gan gwsmeriaid. Mae CThEM hefyd yn dilysu cywirdeb symudiadau y rhoddir gwybod amdanynt a chyflawnder ei ddata o ran cyfeiriadau. Bydd CThEM yn parhau â’i weithgarwch cyfathrebu â chwsmeriaid, gan atgyfnerthu’r ffaith bod angen i gwsmeriaid ddiweddaru manylion eu cyfeiriad gyda CThEM pan fyddant yn symud.

Casglu gwybodaeth

Ar hyn o bryd, does dim gwahaniaeth rhwng cyfraddau CTIC a chyfraddau’r DU, felly nid yw CThEM yn disgwyl gweld newid ymddygiad yn gysylltiedig â CTIC. Mae CThEM yn parhau i gynnal gweithgarwch cydymffurfio ar faterion trethdalwyr Cymreig mewn meysydd ar wahân i CTIC, ac os yw’r gwaith hwnnw’n dangos unrhyw dueddiadau o ran ymddygiad a allai hefyd fod yn berthnasol i gydymffurfio â CTIC a fydd yn cael ei ystyried yn ystod cyfnodau yn y dyfodol.

Unigolion cyfoethog

Mae CThEM yn parhau i ddefnyddio’r model Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid presennol, a dulliau rhyngweithio eraill gyda chwsmeriaid cyfoethog, i godi ymwybyddiaeth, addysgu cwsmeriaid ynghylch eu hymrwymiadau o ran CTIC ac asesu risg o ran cydymffurfio sy’n gysylltiedig â chamarwain o ran statws trethdalwr Cymreig neu danddatgan incwm sy’n agored i CTIC.

Cydymffurfiad/Sicrwydd cyflogwyr

Mae CThEM yn gweithredu i sicrhau bod y cod ‘C’ Cymreig yn cael ei ddefnyddio’n gywir ac yn briodol yn y drefn TWE. Mae’n cynnal sganiau i brofi a yw cyflogwyr yn rhoi’r ‘codau C’, a anfonwyd gan CThEM, ar waith yn gywir. Anfonir nodyn atgoffa at unrhyw gyflogwr nad yw’n gweithredu’r cod cywir, ac mae CThEM yn monitro’r ymateb er mwyn nodi cyflogwyr y mae’n bosibl y bydd angen i CThEM gael cysylltiad pellach â nhw. Gostyngodd y gyfradd gwallau ychydig, o 3.3% ym mis Rhagfyr 2019 i 2.96% ym mis Rhagfyr 2020.

Adran 3: casglu refeniw Cyfraddau Treth Incwm Cymru a rhoi cyfrif amdano

Mae’r CLG yn ei gwneud yn ofynnol i CThEM gasglu refeniw Treth Incwm Cymru ar gyfraddau Treth Incwm Cymru a rhoi cyfrif amdano.

Ers cyflwyno cyfraddau CTIC ar 6 Ebrill 2019, mae CThEM wedi parhau i weinyddu a chasglu Treth Incwm gan drethdalwyr Cymreig fel rhan o system dreth y DU. Mae’n talu’r refeniw CTIC i mewn i Gronfa Gyfunol y DU yn yr un modd ag y mae’n gwneud hynny ar gyfer yr holl dderbyniadau treth eraill. Caiff y refeniw ei drosglwyddo wedyn i Lywodraeth Cymru, a chaiff grant bloc adnoddau Llywodraeth Cymru ei ostwng yn unol â hynny, gan adlewyrchu ei phwerau codi refeniw.

Bydd CThEM yn rhoi cyfrif am swm y CTIC a gesglir drwy gyflwyno Darn o Gyfrifon CThEM i’r Senedd bob blwyddyn, gan ddechrau yn 2021.

Ar gyfer 2019 i 2020, bydd amcangyfrif CThEM o dderbyniadau Treth Incwm y gellir ei phriodoli i gyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei amcangyfrif a’i ddatgelu yng nghyfrifon CThEM ar gyfer 2019 i 2020. Bydd ffigur terfynol, wedi’i ddiweddaru, ar gyfer derbyniadau CTIC yn cael ei ddarparu yng nghyfrifon 2020 i 2021 ac fe’i rhyddhawyd mewn cyhoeddiad ystadegol ar wahân ym mis Gorffennaf 2021.

Alldro CTIC 2019 i 2020

Ar gyfer 2019 i 2020, swm y Dreth Incwm y gellir ei phriodoli i gyllideb Llywodraeth Cymru yw £2.041 biliwn. Mae’r tabl isod yn dangos y refeniw Treth Incwm ar incwm nad yw’n deillio o gynilion/difidendau (NSND) ar gyfer trethdalwyr CTIC a’r refeniw cymharol ar gyfer gweddill trethdalwyr y DU (rUK, sy’n cynrychioli trethdalwyr Lloegr a Gogledd Iwerddon) yn 2019 i 2020 (h.y. 10c ar y gyfradd sylfaenol, 10c ar y gyfradd uwch, a 10c ar y gyfradd ychwanegol). Mae’r tabl hefyd yn dangos cydrannau’r ffigurau.

Refeniw Treth Incwm 2019 i 2020 (NSND) o Gyfradd Treth Incwm Cymru a’r refeniw cymharol ar gyfer gweddill trethdalwyr y DU (rUK)

rUK NSND (£bn) CTIC NSND (£bn)
Rhwymedigaeth wedi’i sefydlu ar gyfer Hunanasesiad 28.310 0.620
Rhwymedigaeth wedi’i sefydlu ar gyfer TWE 31.649 1.461
Amcangyfrif o’r rhwymedigaeth bellach 1.751 0.045
Llai: addasiad ar gyfer symiau na ellir eu casglu (0.613) (0.021)
Rhyddhad Rhyddhad wrth y ffynhonnell (RAS) (0.968) (0.038)
Rhodd Cymorth (0.610) (0.027)
Refeniw terfynol ar gyfer blwyddyn dreth 2019-20 59.519 2.041

Nodiadau

Mae rhwymedigaeth wedi’i sefydlu ar gyfer Hunanasesiad yn cynnwys elfen o TWE ar gyfer cwsmeriaid Hunanasesiad. Rhyddhad yw’r rhai na ddyrennir i gyfrifon trethdalwyr unigol.

Mae’r oedi wrth gadarnhau swm gwirioneddol y CTIC a gasglwyd yn 2019 i 2020 yn deillio o’r prosesau TWE a Hunanasesiad. Er mwyn gweinyddu TWE i drethdalwyr, mae CThEM yn cynnal gwaith cysoni diwedd blwyddyn i asesu a yw unigolion wedi talu’r swm cywir o dreth yn ystod unrhyw flwyddyn dreth. Mewn rhai achosion, ni roddir Ffurflenni Treth Hunanasesiad i CThEM tan ddeg mis ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi.

Adran 4: data ar gyfer pennu Cyfraddau Treth Incwm Cymru a’u rhagolygu

Mae’r CLG yn gofyn i CThEM roi digon o wybodaeth a data perthnasol ac amserol i Lywodraeth Cymru er mwyn iddi bennu cyfraddau a llunio rhagolygon ar gyfer CTIC.

Mae CThEM yn rhoi data perthnasol i Lywodraeth Cymru ar gyfer CTIC. Ar lefel y DU, cyflawnir y tasgau hyn gan ddefnyddio’r Arolwg o Incwm Personol (SPI).

Mae’r SPI yn cael ei lunio i ddarparu sylfaen dystiolaeth fesuradwy er mwyn pennu costau ar gyfer newidiadau arfaethedig i gyfraddau treth, lwfansau personol a rhyddhad treth arall ar gyfer Gweinidogion y Trysorlys. Fe’i defnyddir i helpu i lywio penderfyniadau polisi o fewn CThEM a’r Trysorlys, yn ogystal ag ar gyfer dibenion modelu a rhagolygu treth.

Mae’r SPI yn seiliedig ar wybodaeth sydd gan CThEM am unigolion a allai fod yn agored i dreth y DU. Caiff ei gynnal yn flynyddol gan CThEM ac mae’n cwmpasu incwm sy’n agored i gael ei asesu ar gyfer treth bob blwyddyn dreth. Nid yw pob un o’r unigolion yn drethdalwyr oherwydd gall rhoi rhyddhad a lwfansau personol ar waith olygu eu bod yn cael eu heithrio rhag bod yn agored i dreth. Pan fo incwm yn uwch na’r trothwy ar gyfer gweithredu Talu Wrth Ennill (TWE), mae’r arolwg yn rhoi’r ffynhonnell data swyddogol fwyaf cynhwysfawr a chywir ar incwm personol.

Mae CThEM yn rhoi copi o set ddata SPI sy’n cael ei ddiweddaru bob blwyddyn i Lywodraeth Cymru. Rhoddwyd set y flwyddyn hon, sy’n ymwneud â blwyddyn dreth 2018 i 2019, i Lywodraeth Cymru ym mis Mai 2021 er mwyn iddynt gynnal eu dyletswyddau pennu costau polisïau. Roedd y copi hwn union yr un fath â’r hyn a ddefnyddiwyd, at ddibenion tebyg, ar lefel y DU, ac eithrio cyfuno ychydig o ddata trethdalwyr ar y lefelau incwm uchaf er mwyn osgoi unrhyw achosion posibl o dorri cyfrinachedd y trethdalwr. Mae CThEM yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i sicrhau bod yr wybodaeth yn bodloni eu gofynion ac yn ategu llunio rhagolygon a phennu cyfraddau ar gyfer Cymru.

Bydd y set ddata SPI hon yn cael ei chyhoeddi wedyn er mwyn sicrhau bod ymchwilwyr ac academyddion yn ei defnyddio at ddibenion ystadegol.

Adran 5: data ar gyfer rheoli arian Llywodraeth Cymru

Mae’r CLG yn gofyn i CThEM roi digon o wybodaeth a data perthnasol ac amserol i Lywodraeth Cymru er mwyn iddi gyflawni ei dyletswyddau mewn perthynas â rheoli arian o ganlyniad i unrhyw newid rhwng symiau CTIC a ragolygwyd a’r symiau a gasglwyd.

O 2019 i 2020 ymlaen, ar ôl cyflwyno CTIC, bu gostyngiad yn y grant bloc adnoddau y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gael. Mae hyn yn cyfateb i 10 pwynt canrannol o bob cyfradd dreth o dreth incwm nad yw’n deillio o gynilion na difidendau gan drethdalwyr Cymreig yn 2019 i 2020, a gynyddir gan ddefnyddio’r mecanwaith a nodir yn y fframwaith cyllidol a gytunwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ym mis Rhagfyr 2016.

Bob blwyddyn, bydd y derbyniadau treth a gynhyrchir a’r didyniad o’r grant bloc yn seiliedig i ddechrau ar ragolwg ac yna fe’u cysonir â derbyniadau gwirioneddol a gesglir a ddaw yn hysbys tua 15 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol sydd dan sylw. Cyhoeddwyd yr alldro CTIC cyntaf ym mis Gorffennaf 2021.

Felly, un o ofynion allweddol y CLG yw bod CThEM yn rhoi data digonol i Lywodraeth Cymru i gyflawni ei dyletswyddau mewn perthynas â rheoli arian sy’n gysylltiedig ag unrhyw newid rhwng symiau CTIC a ragolygwyd a’r symiau a gasglwyd. Er mwyn cyflawni’r gofyniad hwn, mae CThEM wedi cytuno gyda Llywodraeth Cymru i roi ffigurau CTIC o’r data Gwybodaeth Amser Real (RTI) a gafwyd gan gyflogwyr. Dyma’r dangosydd gorau o dueddiadau mewn rhwymedigaethau Treth Incwm sydd ar gael mewn amser real, ond nid yw’n ddarlun cyflawn o rwymedigaethau Treth Incwm am ei fod yn eithrio treth a dalwyd drwy Hunanasesiad (a rhai addasiadau a wnaed i rwymedigaethau TWE) ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.

Mae’r data RTI hwn yn cael ei roi gan CThEM i Lywodraeth Cymru yn fisol erbyn hyn.

Adran 6: gwasanaeth a chymorth i gwsmeriaid

Mae’r CLG yn gofyn i CThEM roi’r un lefel o wasanaeth cwsmeriaid, cymorth a thryloywder i drethdalwyr Cymru, ag a roddir i dalwyr treth incwm yng ngweddill y DU.

Gweinyddir CTIC gan CThEM fel rhan o system Treth Incwm y DU. Dan y rhan fwyaf o amgylchiadau, ni fydd trethdalwyr Cymreig felly yn gweld gwahaniaeth yn y ffordd y mae CThEM yn rhyngweithio â nhw. Mae’r dull hwn hefyd yn sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei gasglu.

Cesglir CTIC drwy brosesau TWE a Hunanasesiad sy’n bodoli eisoes ac sydd wedi cael eu haddasu i adlewyrchu cyfraddau CTIC. Mae trethdalwyr Cymreig yn gallu defnyddio arweiniad a sianeli cyswllt cwsmeriaid arferol CThEM i gael cyngor a gwybodaeth.

Yn y rhan fwyaf o feysydd, bydd gwasanaeth i gwsmeriaid a roddir i drethdalwyr Cymreig yn cael ei gynnwys yn yr hyn a adroddir am wasanaethau i gwsmeriaid ar draws y DU.

Mae’r gwasanaeth i gwsmeriaid a’r cymorth ar gyfer trethdalwyr Cymreig, asiantau a chyflogwyr y mae CThEM wedi’u gwneud yn rhan o’i brosesau presennol yn cynnwys y canlynol:

  • rhoi codau treth Cymru i bob trethdalwr Cymreig a’u cyflogwyr cyn dechrau’r flwyddyn dreth
  • diweddaru cyfrifianellau ar-lein cyn dechrau’r flwyddyn dreth gyda chyfraddau CTIC a bennwyd gan y Senedd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gywir ar gyfer trethdalwyr Cymreig
  • arweiniad ar gyfer darparwyr meddalwedd gyflogres ar sut i wneud cyfraddau Cymreig yn rhan o’u cynhyrchion TWE ar gyfer cyflogwyr
  • arweiniad ar sut y penderfynir ar statws trethdalwr Cymreig a’r hyn i’w wneud os ydych o’r farn bod CThEM wedi nodi eich statws yn anghywir
  • annog cwsmeriaid i ddiweddaru eu manylion personol, gan ganolbwyntio ar y defnydd o’r cyfrif Treth Personol
  • anfon tablau treth papur at gyflogwyr sydd wedi’u heithrio’n ddigidol cyn dechrau’r flwyddyn dreth yn adlewyrchu cyfraddau Cymru

Mae rhai agweddau ar wasanaeth cwsmeriaid yn benodol i CTIC, e.e. arweiniad ar statws trethdalwr Cymreig a’r gallu i drafod gyda CThEM os ydych yn anghytuno â’r statws preswylio Cymreig a roddwyd i chi.

Mae’n bwysig bod CThEM yn gallu dangos bod ei wasanaeth i gwsmeriaid yn y meysydd hyn yn cyfateb i’r hyn y mae’n ei ddarparu ar draws y DU gyfan. Felly, mae’r CLG rhwng CThEM a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo CThEM i gasglu ac adrodd ar fetrigau cyswllt cwsmeriaid allweddol sy’n benodol i CTIC. Mae’r metrigau allweddol ar gyfer 2020 i 2021 wedi’u hamlinellu yn Atodiad A i’r adroddiad hwn, sef yr Adroddiad Gwybodaeth Busnes Blynyddol.

Gwasanaeth Cymraeg

Mae gan CThEM wasanaeth Cymraeg sydd wedi’i hen sefydlu ers dros 30 mlynedd ac sy’n cael ei ddarparu o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Cyflogir tua 32 o staff amser llawn ar gyfer gwaith Cymraeg.

Mae CThEM yn darparuʼr rhan fwyaf oʼi wasanaethau Cymraeg drwy ddau dîm penodedig o siaradwyr Cymraeg – mae un ym Mhorthmadog aʼr llall yng Nghaerdydd. Maent yn darparu gwasanaeth i gwsmeriaid a gwasanaethau cyfieithu, yn ogystal â helpu adrannau eraill yn CThEM gyda materion syʼn ymwneud âʼr Gymraeg. Mae hefyd uwch reolwr dynodedig dros yr iaith Gymraeg, sydd hefyd yn siarad yr iaith, wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Dyma’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob mater Cymraeg yn CThEM.

Rhoddir cymorth CTIC i gwsmeriaid Cymraeg gan y ddau dîm mewn amryw o ffyrdd. Mae CThEM hefyd yn cynnig opsiwn gwasanaeth Cymraeg i gwsmeriaid o’r brif linell gymorth Treth Incwm. Mae CThEM yn cael tua 20,000 o alwadau bob blwyddyn gan gwsmeriaid Cymraeg ar draws pob un o’n gwasanaethau i gwsmeriaid.

Adran 7: ailgodi tâl am gostau CThEM

Mae’r CLG yn gofyn i CThEM roi digon o wybodaeth berthnasol ac amserol i Lywodraeth Cymru at ddibenion sicrwydd ac er mwyn cyllidebu’n effeithiol ar gyfer unrhyw gostau gweinyddol ychwanegol net yr ailgodir tâl ar Lywodraeth Cymru amdanynt.

O dan y Cytundeb Fframwaith Cyllidol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu CThEM am unrhyw gostau net ychwanegol yr eir iddynt yn gyfan gwbl ac o anghenraid o ganlyniad i weinyddu pwerau CTIC.

Mae CThEM wedi gwneud newidiadau i’w systemau a phrosesau er mwyn sicrhau bod CTIC yn cael eu casglu a’u rheoli yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae costau gweinyddol newydd a pharhaus o ran gweithredu prosesau a systemau CTIC yn gysylltiedig â’r newidiadau hyn.

Mae CThEM a Llywodraeth Cymru ar y cyd wedi cytuno ar fframwaith sy’n nodi’r egwyddorion y bydd CThEM yn eu rhoi ar waith wrth nodi’r costau gweinyddol o ran CTIC a fydd yn cael eu hailgodi ar Lywodraeth Cymru.

Mae dogfen y fframwaith yn cael ei diweddaru er mwyn adlewyrchu pob cost weinyddol sy’n hysbys ac a ragwelir. Dylid ei darllen ar y cyd â’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a’r CLG (y mae wedi’i atodi iddo) rhwng CThEM a Llywodraeth Cymru.

Mae CThEM yn anfon adroddiadau cyllid misol i Lywodraeth Cymru ac awdurdodir anfonebau gan fwrdd chwarterol CTIC.

Costau gweinyddu CTIC

2017-18 (£m) 2018-19 (£m) 2019-20 (£m) 2020-21 (£m)
Costau cyflawni 0.29 5.44 1.77 0.19
Costau gweithredu Amherthnasol Amherthnasol 0.23 0.53
Cyfanswm cost cyfraddau treth incwm Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol[footnote 1] 0.34 5.80 1.60 0.72

Atodiad: – adroddiad gwybodaeth busnes blynyddol 2020 i 2021

Cyswllt â chwsmer - ffôn

Cyflwynodd CThEM lwybr ffôn ar gyfer Treth Incwm Cymru o fewn llinell gymorth Treth Personol CThEM. Mae hyn yn rhoi negeseuon cyffredinol wedi’u recordio i gwsmeriaid ar Dreth Incwm Cymru cyn iddynt siarad ag Ymgynghorydd Cwsmeriaid CThEM. Mae’r siartiau isod yn olrhain galwadau i’r llinell ffôn ar gyfer Treth Incwm Cymru. Sylwer - nid yw’r ffigurau hyn yn cynrychioli pob galwad sydd wedi’i gwneud gan drethdalwyr Cymreig.

Mis Cyfanswm Galwadau Atebwyd Ciw Cyfartalog y rhai a Atebwyd Wedi gadael yn y Ciw Amser aros Cyfartalog cyn Gadael % Cyffredinol y galwadau CTIC a atebwyd
Ebr-20 6 3 00:19:15 3 00:09:46 50%
Mai-20 6 2 00:30:56 4 00:23:26 33%
Meh-20 6 5 00:15:22 1 00:09:02 83%
Gorff-20 12 11 00:11:35 1 00:12:19 91%
Awst-20 9 6 00:23:51 3 00:15:54 66%
Medi-20 11 11 00:08:55 0 00:00:00 100%
Hyd-20 8 8 00:07:34 0 00:00:00 100%
Tach-20 10 4 00:16:50 6 00:08:23 60%
Rhag-20 16 13 00:21:11 3 00:00:00 81%
Ion-21 15 6 00:35:58 9 00:12:23 40%
Chwef-21 9 6 00:29:18 3 00:18:45 67%
Maw-21 12 8 00:23:21 4 00:15:02 67%

Cwynion

Mae CThEM yn olrhain pob cwyn gan gwsmeriaid Treth Incwm Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu prosesu er mwyn bodloni targedau gwasanaeth i gwsmeriaid CThEM. Nid yw’r ffigurau hyn yn cynrychioli pob cwyn sydd wedi dod i law gan drethdalwyr Cymreig.

Mis Cwynion a Ddaeth i Law > Cwyn Haen 1 Wedi’i chadarnhau Wedi’i chadarnhau’n rhannol Heb ei chadarnhau Llai na 15 diwrnod Mwy na 15 diwrnod Targed 15 diwrnod 20/21 (80%)
Ebr-20 0 0 0 0 0 0 0 -
Mai-20 0 0 0 0 0 0 0 -
Meh-20 0 0 0 0 0 0 0 -
Gorff-20 0 0 0 0 0 0 0 -
Awst-20 0 0 0 0 0 0 0 -
Medi-20 0 0 0 0 0 0 0 -
Hyd-20 0 0 0 0 0 0 0 -
Tach-20 0 0 0 0 0 0 0 -
Rhag-20 0 0 0 0 0 0 0 -
Ion-21 0 0 0 0 0 0 0 -
Chwef-21 0 0 0 0 0 0 0 -
Maw-21 0 0 0 0 0 0 0 -

Mae manylion yr holl gyswllt â chwsmeriaid wedi’u cynnwys yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon CThEM 2020 i 2021.

Chwiliadau ar y we

Mae gan CThEM nifer o dudalennau gwe sy’n ymwneud â Threth Incwm Cymru sy’n cael eu cynnal ar GOV.UK. Caiff chwiliadau ar y tudalennau hyn eu monitro.

Mis welsh-income-tax treth-incwm-cymru (cyfieithiad Cymraeg o’r dudalen) hmrc-internal-manuals/welsh-taxpayer-technical-guidance rhoi-gwybod-i-cthem-newid-manylion
Ebr-20 5,221 31 52 137,097
Mai-20 4,147 18 23 132,396
Meh-20 3,180 16 10 116,678
Gorff-20 3,180 24 46 112,211
Awst-20 2,804 21 12 107,018
Medi-20 2,837 17 37 109,312
Hyd-20 3,544 27 10 117,571
Tach-20 3,204 17 11 130,252
Rhag-20 2,546 20 10 108,887
Ion-21 3,709 19 39 147,275
Chwef-21 4,692 13 20 142,721
Maw-21 4,273 23 13 169,290
  1. Mae’n bosibl nad y ffigurau a ddangosir yw union gyfanswm y costau cyflawni a’r costau gweithredu o ganlyniad i amserlenni anfonebu.