Strategaeth Cyn-filwyr
Diweddarwyd 17 Chwefror 2026
Rhagair – y Prif Weinidog

Wrth ymgymryd â’m swydd fel Prif Weinidog, fe wnes i addewid y byddai hon yn llywodraeth o wasanaeth sy’n ymroi i adnewyddu ein cenedl wych. Nid yw’r ysbryd hwnnw o wasanaeth i’w weld yn fwy nag yn y dynion a’r menywod yn ein Lluoedd Arfog.
Mae’r bron i ddwy filiwn o gyn-filwyr ein gwlad yn ased cenedlaethol, ac rydym yn benderfynol o ddathlu nid yn unig eu gwasanaeth, ond hefyd y rôl y gallant ei chwarae o ran adeiladu dyfodol ein gwlad.
Mae’r rhan fwyaf o’n cyn-filwyr yn mynd ymlaen i gyflawni pethau anhygoel mewn bywyd sifil gan ddefnyddio’r sgiliau, y profiad a’r hyder a gawsant yn ystod eu cyfnod mewn lifrai milwrol.
Ac eto, gyda dros ganrif wedi mynd heibio ers yr addewid o greu ‘gwlad addas i arwyr’, gwyddom fod gormod o’n cyn-filwyr yn dal i fethu â chael y cymorth sy’n cyfateb i’w gwasanaeth a’u haberth. Mae’r llywodraeth hon yn unioni hynny.
Fe wnaethom lansio VALOUR i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu cymorth i gyn-filwyr mewn angen, gyda chymorth £50 miliwn o fuddsoddiad gan y llywodraeth. Fe wnaethom newid y gyfraith i ganiatáu i Gardiau Cyn-filwyr gael eu defnyddio mewn etholiadau - a’u gwneud yn ddogfen gyntaf erioed gan y llywodraeth i gael ei digideiddio, gan helpu i wneud mynediad at ystod eang o wasanaethau yn gyflymach ac yn haws. Drwy ein dull gweithredu ‘Rhoi’r Lluoedd Arfog yn Gyntaf’, rydym wedi sicrhau y bydd cyn-filwyr yn cael blaenoriaeth ar gyfer cartrefi newydd wedi’u hadeiladu ar dir y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi’i adfywio. Ac rydym yn cyflawni ein hymrwymiad maniffesto i ymgorffori Cyfamod y Lluoedd Arfog yn llawn yn y gyfraith, gan sicrhau bod y gymdeithas gyfan yn cyflawni ei rhwymedigaethau i’n cyn-filwyr ac i gymuned y Lluoedd Arfog. Mae hwn yn ymrwymiad personol – byddwn yn adnewyddu contract y genedl â’r bobl hynny sydd wrthi’n gwasanaethu a’r rhai sydd wedi gwasanaethu.
Mae cyn-filwyr yn chwarae rhan hollbwysig yn ein cymdeithas ymhell ar ôl iddynt ddiosg eu lifrai milwrol. Felly, rydym yn mynd ymhellach i gefnogi ac annog ein Cyn-filwyr yn eu cyfraniadau i’r dyfodol, boed hynny yn eu cymunedau, mewn diwydiannau hanfodol, drwy sbarduno twf economaidd neu mewn rolau diogelwch gwladol.
Mae’r strategaeth hon yn datgan ein nodau uchelgeisiol ar gyfer cefnogi cyn-filwyr ac yn grymuso’r genedl i gyflawni – ac mae hyn yn cynnwys llywodraethau datganoledig, arweinwyr rhanbarthol a chymdeithas ddinesig – i gyd yn gweithio yn yr ymdrech hon ar y cyd mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu anghenion ac amgylchiadau lleol. Bydd ein gweinidogion Amddiffyn yn gyfrifol am sbarduno newid ar draws y llywodraeth. Yn hollbwysig, byddwn yn gweithio law yn llaw â’r llu o sefydliadau nodedig ledled y wlad sy’n rhannu ein cenhadaeth i sicrhau bod cymorth i’n cyn-filwyr yn cael ei gydlynu’n well nag erioed o’r blaen.
I gyn-filwyr ein Lluoedd Arfog, eich teuluoedd, a phawb sy’n eich cefnogi, rwy’n estyn parch a diolchgarwch diddiwedd ein llywodraeth. Rydych chi’n ein gwneud ni’n falch. Mae’r strategaeth hon ar eich cyfer chi.
Y Gwir Anrhydeddus Syr
Keir Starmer AS
Y strategaeth hon
Mae cyn-filwyr[troednodyn 1] yn dangos dro ar ôl tro yr ysbryd dyletswydd gyhoeddus sy’n ymgorffori traddodiadau gorau ein Lluoedd Arfog. Yn gyfnewid am eu hymrwymiad, manteisiodd cyn-filwyr ar yrfa filwrol a oedd yn darparu sgiliau, profiad, hyder a chyfleoedd unigryw sy’n trosglwyddo’n rhwydd i fywyd sifil. I’r mwyafrif helaeth, mae eu bywydau’n well am eu bod wedi gwasanaethu.
Mae’r strategaeth hon yn nodi gweledigaeth newydd y llywodraeth ar gyfer cyn-filwyr. Wrth wneud hynny, rydym yn glir ynghylch yr heriau diogelwch a thwf rydym yn eu hwynebu – a’n cynlluniau i ymateb iddynt fel y nodir yn yr Adolygiad Amddiffyn Strategol. Mae’r strategaeth hon yn herio cymdeithas gyfan i feddwl yn wahanol am y rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, eu cynnig a’u potensial.
Mae’r strategaeth hon yn seiliedig ar dair thema graidd, pob un yn rhan gyfartal a hanfodol o sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer cyn-filwyr a’r DU. Gyda’i gilydd, maent yn cynrychioli dull newydd pwerus o gydnabod cyn-filwyr fel un o asedau strategol mawr y DU, wedi’u hategu gan ymrwymiad y llywodraeth hon i Gyfamod y Lluoedd Arfog.

Dathlu
Dylai Cymdeithas fod yn hynod falch o’r rhai sy’n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog. O’r digwyddiadau Cofio, Wythnos y Lluoedd Arfog a dathliadau sy’n cynnwys dadorchuddio Cofeb newydd i aelodau LHDT+ Cymuned y Lluoedd Arfog, bydd y llywodraeth hon yn sicrhau bod pob cyn-filwr yn gallu ymfalchïo yn ei wasanaeth. Byddwn yn gwneud mwy i sicrhau bod yr effaith gadarnhaol y gall gyrfa yn y Lluoedd Arfog ei chael ar fywydau unigolion yn cael ei deall yn well a bod eraill yn cael eu hysbrydoli i wasanaethu.
Byddwn yn sicrhau bod y llywodraeth yn dathlu gwasanaeth cyn-filwyr ym mrwydrau’r gorffennol ond yn anrhydeddu gwasanaeth mewn brwydrau diweddar hefyd.
Cyfrannu
Drwy gydnabod sgiliau a chymwysterau cyn-filwyr, bydd y llywodraeth yn gwneud mwy i wireddu eu potensial a sicrhau eu bod wedi’u gwreiddio’n llawn yn y Cynllun ar gyfer Newid a’r Strategaeth Ddiwydiannol Amddiffyn. Drwy Op ASCEND a’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd, byddwn yn paru cyn-filwyr â sectorau sgiliau uchel, twf uchel a diwydiannau hanfodol, gan gynnwys gyrfaoedd newydd ym maes ynni glân. Byddwn hefyd yn sicrhau bod cyn-filwyr yn chwarae eu rhan yn y dull gweithredu cymdeithas gyfan a nodir yn yr Adolygiad Amddiffyn Strategol, gan gynnwys drwy gymorth mwy gweladwy i’r Corfflu Strategol Wrth Gefn.
Rydym eisiau sianelu ymdeimlad o ddyletswydd ac ysbryd tîm cyn-filwyr i galon ein cymdeithas. Bydd gwirfoddoli, gan gynnwys gweithio gyda grwpiau ieuenctid fel y Cadetiaid, yn dod â chyn-filwyr yn nes at eu cymunedau ac yn helpu pobl i werthfawrogi bywyd milwrol yn well.

Cefnogi
Mae’r rhan fwyaf o gyn-filwyr yn pontio’n llwyddiannus i fywyd sifil. Fodd bynnag, bydd y llywodraeth hon yn anrhydeddu ein dyletswydd foesol i’r rhai sydd angen cymorth ychwanegol.
Drwy’r rhaglen newydd VALOUR gwerth £50 miliwn, byddwn yn ei gwneud yn haws i gyn-filwyr ledled y DU gael gafael ar y gofal a’r gefnogaeth hanfodol sydd ar gael iddynt. Lle bo’n briodol, byddwn yn parhau i ddarparu cefnogaeth arbenigol fel Ops COURAGE, RESTORE, NOVA a FORTITUDE ac yn gweithio gyda llywodraethau datganoledig i sicrhau bod cyn-filwyr yn cael gofal rhagorol ledled y DU.
Ni all camau’r Llywodraeth ar ei phen ei hun lwyr wireddu’r weledigaeth newydd hon ar gyfer cyn-filwyr. Mae hwn yn fframwaith hirdymor, sy’n nodi ein hymrwymiad i’r tair thema hyn, a sut byddant yn llywio’r gwaith o flaenoriaethu buddsoddiad ac ymdrech. Drwy’r themâu hyn, byddwn yn cydweithio â’r trydydd sector, academyddion, busnesau a chymunedau i fod yn fwy cyson, i gael mwy o ffocws ac i gael mwy o effaith yn ein gwaith gyda chyn-filwyr.
Bydd llwyddiant y strategaeth hon yn gofyn am rymuso’r rhai sydd yn y sefyllfa orau i ddarparu’r atebion mwyaf effeithiol. Mae camau gweithredu cychwynnol ar gyfer blynyddoedd 1 a 2 wedi’u cynnwys – ynghyd â metrigau interim ar effeithiolrwydd y gweithgareddau hyn. Camau cyntaf y strategaeth hon yw’r rhain ac nid cynllun gweithredu cynhwysfawr (gyda rhai cynlluniau yn berthnasol yn Lloegr yn unig).
Fodd bynnag, byddwn yn sbarduno cynnydd yn erbyn y canlyniadau, ac felly byddwn yn sicrhau llywodraethiant newydd, a buddsoddiad parhaus mewn data a gwybodaeth am gyn-filwyr, eu profiadau a llwyddiant y strategaeth hon.
Bydd data a gwerthuso yn allweddol i sicrhau bod polisi’n cael ei lywio gan y dystiolaeth orau bosibl o’r hyn sy’n gweithio, a’r hyn nad yw’n gweithio, a byddwn yn adrodd ar gynnydd ar ôl 5 mlynedd, er mwyn deall yr effaith a pha newidiadau pellach sydd eu hangen.
Mae rhagor o wybodaeth am y camau nesaf, gan gynnwys llywodraethiant diwygiedig, i’w weld ar ddiwedd y strategaeth hon.
Y Strategaeth ar gyfer Cyn-filwyr a Datganoli
| Mae’r strategaeth hon, fel Cyfamod y Lluoedd Arfog, yr un mor berthnasol ledled y DU. Er bod gweledigaeth, themâu a chanlyniadau’r strategaeth yn ymdrech ar y cyd rhwng y DU a llywodraethau datganoledig, bydd y modd y caiff y strategaeth ei rhoi ar waith yn fater i lywodraethau datganoledig o ran ei chynllunio, ei chyflawni a’i mynegi ar ffurf eu cynlluniau gweithredu eu hunain. |
Ein Gweledigaeth
Bod cyn-filwyr yn cael eu dathlu am eu gwasanaeth, bod eu potensial yn cael ei wireddu’n llawn, a bod y gefnogaeth gywir ar gael i gyflawni hyn.
| Dathlu | Cyfrannu | Cefnogi |
|---|---|---|
| Mae cymdeithas yn parchu’r rhai sy’n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu. Cydnabyddir manteision parhaus gwasanaeth milwrol i unigolion, a dethlir eu rôl yn amddiffyn ein rhyddid a’n cymdeithas | Mae sgiliau, profiad a gwerthoedd personol unigryw cyn-filwyr yn cael eu gwerthfawrogi a’u deall. Maent yn cyfrannu at ein diogelwch gwladol, ein heconomi a’n cymunedau | Gall cyn-filwyr gael gafael ar gefnogaeth amserol, briodol ac effeithiol sy’n diwallu eu hanghenion |
Canlyniadau
| Dathlu | Cyfrannu | Cefnogi |
|---|---|---|
| Mae cyn-filwyr a chymdeithas yn teimlo balchder yn eu gwasanaeth. | Mae cyn-filwyr yn cael eu cyflogi mewn ffyrdd sy’n defnyddio eu profiad yn llawn. | Mae cyn-filwyr yn cael mynediad at wasanaethau sy’n amserol ac effeithiol. |
| Mae gwasanaeth a bywydau cyn-filwyr yn cael eu deall a’u gwerthfawrogi’n well. | Mae cyn-filwyr yn gyrru twf economaidd a gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus. | Mae cyn-filwyr yn ymwybodol o wasanaethau ar eu cyfer ac yn gallu cael mynediad atynt. |
| Mae gwasanaeth milwrol cyn-filwyr yn cael ei weld fel dewis gyrfa cadarnhaol. | Mae cyn-filwyr yn cael eu grymuso ac yn cymryd rhan yn eu cymuned. | Mae gan bob cyn-filwr y sylfeini ar gyfer diogelwch ariannol. |
| Mae cymdeithas yn coffáu cyn-filwyr mewn ffordd sy’n hygyrch i bawb. | Mae cyn-filwyr yn parhau i gyfrannu at ddiogelwch cenedlaethol y DU. | Mae teuluoedd cyn-filwyr yn cael eu cydnabod a’u cefnogi. |
Fframwaith gweithredu wedi’i adnewyddu
| Cydweithio gwell | Data a gwerthuso gwell |
|---|---|
| Cyflawni ar draws y llywodraeth. | Mesur perfformiad yn dryloyw. |
| Partneriaethau ar draws y DU. | Data gwell a mynd i’r afael â’r bwlch gwybodaeth. |
Dathlu

Mae cymdeithas yn parchu’r rhai sy’n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu. Cydnabyddir manteision parhaus gwasanaeth milwrol i unigolion, a dethlir eu rôl yn amddiffyn ein rhyddid a’n cymdeithas.
Trosolwg
Mae’r Lluoedd Arfog yn darparu gyrfaoedd a chyfleoedd nad oes eu tebyg. Mae natur unigryw gwasanaeth milwrol wrth galon ymrwymiad y llywodraeth hon i adnewyddu contract y wlad hon gyda’r rhai sy’n gwasanaethu, ac adlewyrchir hyn yn ymrwymiad y Maniffesto i ymgorffori Cyfamod y Lluoedd Arfog yn llawn yn y gyfraith. Dylai ymrwymiad y rhai sy’n gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog, eu rôl fel sbardun ar gyfer symudedd cymdeithasol, ac ehangder y profiadau sydd ar gael ysbrydoli eraill i wasanaethu hefyd.
Rydym am weld dathlu a chydnabod yn cael eu hyrwyddo ym mhob rhan o’r DU ac i adlewyrchu ehangder ac amrywiaeth y Lluoedd Arfog, un o’u cryfderau mwyaf.
Wrth i’r boblogaeth o gyn-filwyr newid ac wrth i fywyd milwrol esblygu, byddwn yn codi ymwybyddiaeth o’r hyn y mae gwasanaeth milwrol yn ei olygu, gan adlewyrchu nid yn unig brofiadau ym mrwydrau a gweithrediadau’r gorffennol, ond o’r sbectrwm llawn o rolau a gyflawnir gan gyn-filwyr yn ystod eu gwasanaeth.
Byddwn yn dathlu’r holl gyn-filwyr, gan gynnwys pobl LHDT+, menywod, rhai o’r tu allan i’r DU ac o leiafrifoedd ethnig, gan sicrhau bod eu lleisiau’n chwarae rhan hollbwysig yn y sgwrs genedlaethol ar amddiffyn a diogelwch a nodir yn yr Adolygiad Amddiffyn Strategol.
Canlyniadau blaenoriaeth
-
Cyn-filwyr a chymdeithas yn teimlo balchder yn eu gwasanaeth
Mae’r mwyafrif helaeth o gyn-filwyr yn ystyried eu gwasanaeth milwrol gyda balchder a rhagoriaeth. Mae hyn yn adlewyrchu ehangder a dyfnder y profiadau, y sgiliau a’r wybodaeth gadarnhaol sy’n deillio o yrfa yn y Lluoedd Arfog. Fodd bynnag, nid yw pob cyn-filwr, gan gynnwys rhai pobl LHDT+, menywod neu grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, yn gweld eu gwasanaeth fel hyn. I’r rhai sydd wedi cael profiadau negyddol, gall fod yn anodd ymfalchïo yn eu gwasanaeth na derbyn cydnabyddiaeth gan y Lluoedd Arfog a’r gymuned ehangach. Rydym eisiau newid hynny.
Byddwn yn parhau i ddarparu cyfleoedd i’r genedl a’r gymdeithas fynegi parch a diolchgarwch i’r holl gyn-filwyr, wedi’u huno gan eu hymrwymiad a’u gwasanaeth unigryw. Byddwn yn parhau i weithio i sicrhau bod pob cyn-filwr yn gallu cydnabod ac ymfalchïo yn ei wasanaeth. -
Gwasanaeth a bywyd cyn-filwyr yn cael eu deall a’u gwerthfawrogi’n well
Nid yw cyn-filwyr yn grŵp homogenaidd – ac nid ydynt wedi bod erioed – ac mae gennym fwy i’w ddysgu am eu profiadau. Mae natur gwasanaeth cyn-filwyr, yr effaith y gall hyn ei chael ar deuluoedd, ac amrywiaeth y rhai sy’n rhan o’r boblogaeth cyn-filwyr weithiau’n golygu eu bod yn cael eu gweld fel stereoteipiau anghywir a negyddol – byddwn yn gwneud mwy i gywiro’r camsyniadau hyn.
Byddwn yn codi ymwybyddiaeth o sgiliau, ymroddiad a gallu cyn-filwyr er mwyn iddynt gael eu deall a’u gwerthfawrogi’n well. Byddwn yn gwneud mwy i gofnodi a dathlu cyn-filwyr drwy brosiectau hanes llafar i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu cofnodi ar gyfer y cenedlaethau i ddod. -
Gwasanaeth milwrol yn cael ei ystyried yn ddewis cadarnhaol o ran gyrfa
Mae’r mwyafrif helaeth o gyn-filwyr yn cael profiadau cadarnhaol yn y Lluoedd Arfog, gan feithrin sgiliau a gwybodaeth gydol oes sy’n werthfawr ac yn benderfynyddion allweddol o ran canlyniadau bywyd cyn-filwyr.
Byddwn yn dangos manteision parhaus gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog, a’r effaith gadarnhaol y mae’n ei chael ar fywydau a gyrfaoedd cyn-filwyr ar ôl gwasanaethu, gan gynnwys drwy symudedd cymdeithasol. Bydd hyn yn helpu i annog mwy o bobl i ystyried gyrfa yn y Lluoedd Arfog ac i hyrwyddo gwerth pwysig gwasanaeth cyhoeddus. -
Cymdeithas yn coffáu cyn-filwyr mewn ffordd sy’n hygyrch i bawb
Ni fyddwn byth yn anghofio’r aberth y mae rhai wedi’i wneud, a byddwn bob amser yn cofio cost bersonol gwasanaethu y tu hwnt i gyfnod cyn-filwyr mewn lifrai milwrol.
Rhaid i eiliadau o fyfyrio barhau i gael lle blaenllaw yn ein hunaniaeth genedlaethol, er mwyn i ni allu rhoi sylw arbennig, parhaus a diffuant i’r rhai sy’n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Byddwn yn cefnogi cynnwys ein cyn-filwyr yn well – gan adlewyrchu ehangder ac amrywiaeth y rhai sy’n gwasanaethu a natur eu gwasanaeth – mewn digwyddiadau cenedlaethol. Bydd hyn yn cynnwys cyn-filwyr o ymgyrchoedd diweddar a’r ymgyrchoedd hynny nad ydynt mor adnabyddus neu sydd wedi’u gwthio i’r cysgodion.
Sut y byddwn yn cael effaith
Mae dathlu effaith gadarnhaol ein cyn-filwyr – a’r Lluoedd Arfog ehangach – yn ymdrech genedlaethol, sy’n cael ei hadlewyrchu mewn adegau o arwyddocâd cenedlaethol a digwyddiadau ar raddfa fawr, yn ogystal ag mewn gweithredoedd unigol o werthfawrogiad. Mae gan y Llywodraeth ei rôl ei hun i’w chwarae, sy’n cynnwys tynnu sylw at amrywiaeth cyn-filwyr, gan gynnwys y rhai sydd wedi cael eu tangynrychioli’n hanesyddol.
Gan weithio gydag eraill, yn cynnwys elusennau cenedlaethol fel y Lleng Brydeinig Frenhinol, byddwn yn hyrwyddo cyn-filwyr ledled y DU, yn newid canfyddiadau ac yn sicrhau bod cyn-filwyr yn gallu ymfalchïo yn eu gwasanaeth a’u cyflawniadau.

Yn y ddwy flynedd gyntaf byddwn yn gwneud y canlynol:
-
Cynnal a hyrwyddo digwyddiadau sy’n dathlu ac yn parchu cyn-filwyr a’u gwasanaeth
- Cefnogi Gemau Invictus Birmingham 2027 gyda gwarant o hyd at £26 miliwn, gan weithio’n agos gyda’r pwyllgor trefnu i ddarparu Gemau cofiadwy. Wrth wneud hyn, rydym yn dangos ymrwymiad y llywodraeth i lesiant, adferiad a chydnabyddiaeth cyn-filwyr a’r rhai sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, gan ddathlu eu cyflawniadau a’u gwasanaeth, a chydnabod rôl bwysig y teuluoedd sy’n eu cefnogi.
- Talu teyrnged i gyn-aelodau o’r lluoedd arfog ac aelodau presennol sy’n LHDT+, drwy’r Gofeb newydd i aelodau LHDT+ Cymuned y Lluoedd Arfog yn y Goedardd Goffa Genedlaethol, a wireddwyd o ganlyniad i £350,000 o gyllid gan y llywodraeth.
- Bydd y Swyddfa Materion Cyn-filwyr (OVA) yn cynnal cystadleuaeth yn 2026 gwerth hyd at £350,000, i roi gwell cydnabyddiaeth i gyfraniad menywod sy’n gyn-filwyr at amddiffyn.
- Sicrhau bod digwyddiadau Cofio a choffa yn parhau i fod yn adegau myfyrio cenedlaethol a lleol, gan weithio gyda’r Lleng Brydeinig Frenhinol a sefydliadau eraill; ac ymrwymo i dderbyniad Cofio blynyddol y llywodraeth, gyda grŵp cynrychioliadol o gyn-filwyr yn cael gwahoddiad.
- Sicrhau bod cyn-filwyr yn cael cyfle i chwarae rhan lawn a chyhoeddus mewn digwyddiadau ledled y wlad, fel y rhai yn Wythnos y Lluoedd Arfog.
- Byddwn yn cefnogi gweddill cyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd sy’n dymuno teithio i ddigwyddiadau coffa dramor.
-
Codi ymwybyddiaeth o gyn-filwyr a’u gwasanaeth
- Darparu’r Cerdyn Digidol i Gyn-filwyr yn 2025 gan ei gwneud yn haws i gyn-filwyr brofi eu statws, cael y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu a chael mynediad at wasanaethau a nifer cynyddol o gynigion a chonsesiynau manwerthu. Byddwn yn ehangu defnydd y cerdyn, gan adeiladu ar ei ddefnydd fel ID pleidleisiwr.
- Cefnogi gwaith newydd gyda’r Adran Addysg a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i ddatblygu dealltwriaeth o’r Lluoedd Arfog ymysg pobl ifanc, gan gynnwys mewn ysgolion.
- Yn 2026, byddwn yn sefydlu fforwm newydd ar gyfer Menywod sy’n Gyn-filwyr. Gan adeiladu ar waith sydd eisoes wedi’i ariannu a’i gefnogi, bydd hyn yn sicrhau bod lleisiau menywod sy’n gyn-filwyr yn sail i sut mae’r llywodraeth yn ymateb i feysydd sy’n bwysig i’w bywydau, gan gynnwys ym meysydd cyflogaeth, iechyd a chanfyddiadau cymdeithasol.
- Arddangos gwerth y cyfraniad y mae menywod wedi’i wneud i Luoedd Arfog y DU drwy weithio gyda’r rhaglen Trawsnewid Menywod sy’n Gyn-filwyr i roi cyhoeddusrwydd i ddeunydd cefnogi newydd ar gyfer amrywiaeth o leoliadau. Bydd y deunydd hwn yn cael ei lansio erbyn diwedd 2025. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn sicrhau bod menywod sy’n gyn-filwyr yn gallu cael gafael ar y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt drwy VALOUR.
- Byddwn yn comisiynu prosiect hanes llafar newydd i gofnodi profiadau menywod sy’n gyn-filwyr, gan ddangos eu rôl ym maes amddiffyn a’u cyfraniad i gymdeithas ar ôl gwasanaethu yn y lluoedd arfog.
- Byddwn yn gweithio ar draws y llywodraeth i ymgysylltu’n uniongyrchol â chyn-filwyr; gan arddangos eu profiadau cadarnhaol a’u cyfraniad i’r DU; a chodi ymwybyddiaeth o ragor o gyfleoedd a chefnogaeth.

Coffáu 80 Mlynedd ers Diwrnodau VE a VJ
I nodi 80 mlynedd ers Diwrnodau Buddugoliaeth yn Ewrop a Buddugoliaeth dros Japan (VE a VJ), daeth cymunedau ledled y DU a’r Gymanwlad ynghyd yn 2025 drwy gyfres o ddigwyddiadau cenedlaethol a lleol i dalu teyrnged i genhedlaeth yr Ail Ryfel Byd.
Ym mis Mai 2025, arweiniodd llywodraeth y DU, mewn partneriaeth â chymuned ehangach y Lluoedd Arfog a’r llywodraethau datganoledig, raglen pedwar diwrnod o ddigwyddiadau coffa, a oedd yn cynnwys gorymdaith filwrol ac awyrennau’n hedfan heibio, dau funud o dawelwch cenedlaethol, gwasanaeth coffa yn Abaty Westminster a chyngerdd cerddorol yn Horse Guards Parade. Cynhaliwyd miloedd o bartïon stryd gan gymunedau ym mhob cwr o’r DU, gan adleisio’r dathliadau gorfoleddus a gynhaliwyd 80 mlynedd yn ôl pan ddaeth y newyddion bod y rhyfel wedi dod i ben yn Ewrop.
Ar 15 Awst 2025, ymunodd y Brenin a’r Frenhines â’r Prif Weinidog, uwch aelodau’r llywodraeth, dros 400 o aelodau’r Lluoedd Arfog a 33 o gyn-filwyr i fynychu gwasanaeth cofio’r Lleng Brydeinig Frenhinol (RBL) yn y Goedardd Goffa Genedlaethol yn Swydd Stafford. Cynhaliwyd digwyddiadau coffáu VJ drwy gydol yr wythnos, gan gynnwys derbyniad i gyn-filwyr a gynhaliwyd gan y Prif Weinidog yn Stryd Downing a seremoni gosod torchau ar fachlud yn y Gatiau Coffa yn Llundain i dalu teyrnged i gyn-filwyr y Gymanwlad.
Er mwyn anrhydeddu’r ebyrth sylweddol a wnaed yn y Dwyrain Pell, mae Rhaglen Ymgysylltu Genedlaethol y llywodraeth yn parhau i redeg drwy gydol y flwyddyn. Mae’r llywodraeth yn parhau i weithio gyda Chomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad ar y For Evermore Tour a Chyngor Celfyddydau Lloegr ar ariannu gweithgareddau coffa lleol yn y gymuned ledled y DU mewn canolfannau celfyddydol, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd.
Bydd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn parhau i hyrwyddo amrywiaeth o weithgareddau addysgol a diwylliannol i helpu ysgolion a chymunedau i ymgysylltu â choffáu 80 mlynedd ers Diwrnodau VE a VJ, gan gynnwys drwy Our Shared Story, a rhaglen ymgysylltu ag ysgolion National Theatre Lloegr sy’n para blwyddyn.
Mae’r digwyddiadau coffau hyn yn arbennig o drawiadol gan eu bod yn un o’r cyfleoedd olaf i anrhydeddu ein cyn-filwyr o’r Ail Ryfel Byd sy’n dal yn fyw, ac a frwydrodd i gadw heddwch a rhyddid sy’n galluogi’r ffordd o fyw a rannwn.
Sut y byddwn yn mesur yr effaith
Cynnydd a Pherfformiad
Mae metrigau cychwynnol ar gyfer monitro cynnydd a pherfformiad fel rhan o’r thema Dathlu wedi’u nodi yn y tabl isod. Man cychwyn yw’r rhain, gyda mesurau newydd i’w datblygu gyda mewnbwn gan randdeiliaid yn ystod y flwyddyn gyntaf.
| Mesurau | Metrig Gwaelodlin |
|---|---|
| % y cyn-filwyr sy’n mynegi profiadau cadarnhaol o’u gwasanaeth | Byddwn yn sefydlu mesur gwaelodlin gan ddefnyddio Arolwg Cyn-filwyr 2026. |
| % y cyn-filwyr sy’n mynegi balchder yn eu gwasanaeth (Mesur newydd) | Byddwn yn sefydlu mesur gwaelodlin gan ddefnyddio Arolwg Cyn-filwyr 2026. |
| % yr Awdurdodau Lleol sy’n hyrwyddo/trefnu/hwyluso ymgysylltiad cyn-filwyr yn eu cymunedau | Byddwn yn sefydlu mesur gwaelodlin gan ddefnyddio Arolwg Cyn-filwyr 2026 a/neu ymgysylltiad VALOUR |
| % o’r cyhoedd sy’n teimlo balchder tuag at gyn-filwyr (Mesur newydd) | Byddwn yn sefydlu mesur gwaelodlin gydag ymchwil newydd yn 2026. |
| % o’r cyhoedd sy’n ystyried gwasanaeth milwrol yn ddewis gyrfa gwerth chweil iddyn nhw eu hunain/teulu/ffrindiau | Byddai 49% o’r rhai sy’n gwasanaethu yn argymell ymuno â’r Lluoedd Arfog i eraill (Arolwg Agwedd Barhaus y Lluoedd Arfog, 2025). Byddwn yn sefydlu mesur gwaelodlin ar gyfer canfyddiadau’r cyhoedd yn y DU. |
| % o’r cyhoedd sy’n credu bod cyn-filwyr yn cael eu cydnabod yn ddigonol am eu gwasanaeth (Mesur newydd) | Byddwn yn sefydlu mesur gwaelodlin gydag ymchwil newydd yn 2026. |
| Nifer y cyn-filwyr sy’n cofrestru i gael cerdyn Cyn-filwr Lluoedd Arfog EF | 150,572 o geisiadau yn 2024 gan bobl a adawodd eu gwasanaeth yn y lluoedd arfog cyn 2018 (gyda 132,769 o’r rhain yn gwneud cais ar-lein, 17,753 yn gwneud cais ar bapur). |
| Nifer y cyn-filwyr sy’n cofrestru ar gyfer Cerdyn Braint y Weinyddiaeth Amddiffyn | Cafodd 46,053 o Gardiau Braint Amddiffyn eu cyhoeddi ar gyfer cyn-filwyr yn 2024. |
| Byddwn yn gweithio gyda Gwasanaeth Disgownt y Weinyddiaeth Amddiffyn i sefydlu metrigau newydd, gan sicrhau bod cyn-filwyr yn manteisio i’r eithaf ar y cynigion manwerthu sydd ar gael iddynt. | |
| Nifer y rhai sy’n gadael y Lluoedd Arfog a fyddai’n nodi neu’n disgrifio’u hunain fel cyn-filwr | Byddwn yn sefydlu mesur gwaelodlin drwy gasglu data gan y Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd |
Cyfrannu

Mae sgiliau, profiad a gwerthoedd personol unigryw cyn-filwyr yn cael eu gwerthfawrogi a’u deall. Maent yn cyfrannu at ein diogelwch gwladol, ein heconomi a’n cymunedau.
Trosolwg
Mae cyn-filwyr ymhlith aelodau mwyaf medrus, talentog a galluog cymdeithas, ac maent mewn sefyllfa dda i gyfrannu ymhellach at lwyddiant y DU. Ar ôl sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth orau bosibl i bontio er mwyn ‘gadael yn dda’, rydyn ni eisiau gwneud mwy i fanteisio i’r eithaf ar eu potensial.
Byddwn yn gwneud hynny yn unol ag uchelgeisiau’r Adolygiad Amddiffyn Strategol ar gyfer Amddiffyn fel peiriant ar gyfer twf a blaenoriaethau eraill ar draws y llywodraeth, fel y Strategaethau Diwydiannol a Busnesau Bach.
Byddwn yn sicrhau bod cyn-filwyr yn gallu cyfrannu at ffyniant a thwf economaidd, gan ddysgu o’r enghreifftiau o arferion gorau sydd eisoes yn bodoli. Byddwn hefyd yn gweithio i roi llais uwch i gyfraniadau cyfoethog y mae llawer o gyn-filwyr – o bob oed – yn eu gwneud i’w cymunedau.
Canlyniadau blaenoriaeth
-
Cyn-filwyr yn cael eu cyflogi mewn ffyrdd sy’n defnyddio eu profiad yn llawn
Yn gyffredinol, mae canlyniadau cyflogaeth i gyn-filwyr yn gadarnhaol.[troednodyn 2] Fodd bynnag, mae lleiafrif o gyn-filwyr yn dal i ganfod eu hunain mewn rolau nad ydynt yn manteisio i’r eithaf ar eu sgiliau a’u profiad. Fel y cydnabyddir yn yr Adolygiad Amddiffyn Strategol, gall hyn fod o ganlyniad i anawsterau wrth gyfieithu sgiliau a chymwysterau a enillwyd drwy wasanaeth neu drwy betruster diangen ar ran rhai cyflogwyr i gyflogi cyn-filwyr.
Byddwn yn helpu cyn-filwyr sy’n chwilio am swyddi newydd i sicrhau gyrfaoedd gwerth chweil, gan adeiladu ar fentrau presennol fel rhwydwaith Hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog yn y Ganolfan Byd Gwaith a chyd-fynd â strategaeth ‘Cael Prydain i Weithio’ yr Adran Gwaith a Phensiynau. Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda chyflogwyr a thrwy’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn i hyrwyddo’r gwerth y gall cyn-filwyr ei gynnig iddynt, gan adeiladu ar dros 8,000 o fusnesau enghreifftiol sydd eisoes wedi cael gwobr drwy’r cynllun hwnnw. -
Cyn-filwyr yn sbarduno twf economaidd yn ogystal â gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus
Mae cyn-filwyr yn dod â chyfoeth o brofiad a sgiliau unigryw i’r economi ac i wasanaethau cyhoeddus. Mae eu hymdeimlad cryf o ddisgyblaeth, gwaith tîm, gwytnwch ac arweinyddiaeth yn rhinweddau hanfodol mewn amgylcheddau lle mae llawer o bwysau.
Drwy annog mwy o gyn-filwyr i ddiwydiannau penodol sydd o bwys cenedlaethol, boed hynny’n feysydd fel gweithgynhyrchu uwch, digidol a data, neu mewn gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, byddwn yn hybu twf, cyflogaeth a chanlyniadau. Drwy barhau i ddarparu llwybrau pwrpasol i mewn i’r sector cyhoeddus, byddwn i gyd yn elwa o gyfraniadau cyn-filwyr at wasanaethau cyhoeddus cryfach. -
Cyn-filwyr yn cael eu grymuso ac yn aelodau ymroddedig yn eu cymuned
Mae cyn-filwyr yn dod o bob cwr o’r DU, y Gymanwlad a thu hwnt, gydag amrywiaeth o gefndiroedd ac uchelgeisiau, ac maent yn aml yn cael eu huno gan ymdeimlad cyffredin o wasanaeth. I lawer, mae’r ymrwymiad hwn i wasanaethu ac i weithio dros eraill yn parhau ymhell ar ôl iddynt adael y Lluoedd Arfog. Boed yn gweithio gyda chadetiaid neu grwpiau ieuenctid, fel hyfforddwyr chwaraeon neu gynghorwyr lleol, mae sefydliadau cymunedol yn elwa o sgiliau cyn-filwyr.
Byddwn yn llunio mentrau newydd i gefnogi cyn-filwyr fel aelodau gweithgar a gwerthfawr sy’n cyfrannu at eu cymunedau. Bydd hyn yn helpu cyn-filwyr i gynnal ymdeimlad o falchder, yn annog integreiddio llyfn â chymdeithas sifil ac yn rhoi hwb i sefydliadau ar lawr gwlad. -
Cyn-filwyr yn parhau i gyfrannu at ddiogelwch gwladol y DU
Er mwyn sicrhau bod ein sector amddiffyn a diogelwch cenedlaethol ehangach yn barod ar gyfer y dyfodol, byddwn yn parhau i annog cyn-filwyr i chwarae rhan weithredol mewn amddiffyn, mewn diwydiannau amddiffyn a rolau cymorth cysylltiedig. Bydd diwygiadau hefyd yn rhoi rôl gliriach i’r rhai sydd â phrofiad milwrol blaenorol. O rolau rhan-amser wrth gefn, parodrwydd wrth gefn yn y corfflu strategol wrth gefn (sydd eisoes yn cynnwys 5% o gyn-filwyr), neu drwy wirfoddoli gyda sefydliadau yn y gymdeithas sifil sy’n ymwneud â pharodrwydd am argyfwng a gwytnwch, bydd rôl cyn-filwyr yn ein diogelwch cenedlaethol parhaus yn hanfodol.
Sut y gall cyn-filwyr barhau i gyfrannu at Ddiogelwch Gwladol:
| Cyfleoedd mewn bywyd sifil i gyfrannu at Ddiogelwch Gwladol | Ffyrdd o barhau fel rhan o gymuned Lluoedd Arfog y DU |
|---|---|
| Rolau yn y sector preifat mewn diwydiannau amddiffyn, gan ddefnyddio sgiliau a ddatblygwyd yn y lluoedd arfog Y sector cyhoeddus, gan lenwi rolau cydnerthedd cenedlaethol hanfodol yn y GIG, gwasanaethau’r Heddlu a Thân, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF ac mewn mannau eraill Addysgu’r cyhoedd am y Lluoedd Arfog drwy ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau lleol |
Opsiynau i barhau i fod yn rhan o’r Lluoedd Arfog fel rhan o’r Gwasanaethau Wrth Gefn Gallu cael gyrfaoedd igam-ogam, gan ddychwelyd i’r Lluoedd Arferol rywbryd yn y dyfodol Cyfleoedd i fynychu hyfforddiant fel rhan o’r Corfflu Strategol Creu cyfleoedd i bobl ifanc drwy ddod yn Oedolyn sy’n Gwirfoddoli gyda’r Cadetiaid |
Cyn-filwyr mewn swyddi medrus iawn o ansawdd uchel

Mae’r strategaeth hon yn adeiladu ar lwyddiant Op ASCEND, system gefnogi gydol oes i gyn-filwyr a’u teuluoedd sy’n darparu llwybrau gyrfa clir a hygyrch i gyflogaeth, gan sicrhau eu bod yn cael eu grymuso i lwyddo.
Byddwn yn parhau i weithio gyda chyn-filwyr a chyflogwyr ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i harneisio potensial cyn-filwyr mewn diwydiannau hanfodol a thwf uchel, gan gynnwys.
- data a digidol (gan gynnwys seiber a thelegyfathrebu)
- amddiffyn a diogelwch
- adeiladu (gan gynnwys seilwaith)
- ynni ac ynni adnewyddadwy
- cyllid a gwasanaethau proffesiynol
- Iechyd a gofal cymdeithasol
- logisteg
- gweithgynhyrchu (gan gynnwys morol ac awyrofod)
Sut y byddwn yn cael effaith
Mae’r thema Cyfrannu yn ymwneud â manteisio i’r eithaf ar effaith gadarnhaol cyn-filwyr ar gymdeithas. Gall hyn fod drwy yrfaoedd newydd, grymuso eu gwaith mewn cymunedau, neu mewn amddiffyn, diogelwch gwladol a diwydiannau cysylltiedig. Byddwn yn gweithio ar draws y llywodraeth i asesu’r cyfleoedd hyn, ac yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i sicrhau bod cyn-filwyr yn cael eu cefnogi i barhau i gyflawni eu potensial yn llawn.
Byddwn yn olrhain cyfraddau cyflogaeth a gwirfoddoli cyn-filwyr, yn parhau i weithio gyda chymdeithas sifil i archwilio’r rôl sydd gan gyn-filwyr yn eu cymunedau, a byddwn yn cryfhau eu cyfranogiad yn y sector gwirfoddol, yn unol â Chyfamod y Gymdeithas Sifil sy’n cael ei arwain gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Yn y ddwy flynedd gyntaf byddwn yn gwneud y canlynol:
-
Drwy’r rhaglen gyflogaeth Op ASCEND, byddwn yn cefnogi cyn-filwyr i fynd i ddiwydiannau strategol bwysig, sy’n manteisio i’r eithaf ar eu sgiliau, ac yn ychwanegu gwerth at economi’r DU
- Gweithio gyda’r Adran Diogelwch Ynni a Sero Net i ddatblygu a hyrwyddo llwybrau cyflogaeth a chyfleoedd gyrfa newydd i gyn-filwyr, a’u teuluoedd, yn y sector ynni glân. Mae hyn yn cynnwys cefnogi cynllun peilot 12 mis dan arweiniad Mission Renewable i gysylltu cyn-filwyr â gyrfaoedd medrus iawn ym maes ynni glân..
- Gan adeiladu ar lwyddiant Op ASCEND, byddwn yn gweithio ar draws y llywodraeth, gan gynnwys gyda’r Adran Busnes a Masnach, a chyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i ddatblygu’r cymorth sydd ar gael i gyn-filwyr sy’n awyddus i wella eu sgiliau menter neu fynd yn hunangyflogedig.
- Byddwn yn ffurfioli’r dull trawslywodraethol o gyflogi cyn-filwyr drwy dasglu newydd, a fydd yn cyfarfod bob chwarter, gan ddod â chynrychiolwyr o’r Weinyddiaeth Amddiffyn, yr Adran Gwaith a Phensiynau, yr Adran Busnes a Masnach, yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net ac eraill at ei gilydd i sicrhau bod sgiliau, cryfderau a doniau unigryw cyn-filwyr yn cael eu hadlewyrchu yn strategaethau cyflogaeth y llywodraeth.
- Adolygu a gwella llwybrau i gael cyn-filwyr i mewn i’r sector cyhoeddus, fel Great Place to Work, Step into Health a Get into Teaching, sy’n cynnwys y fwrsariaeth israddedig ar gyfer cyn-filwyr, gan helpu’r rhai sydd â sgiliau i wasanaethu ar ôl bod yn y lluoedd arfog.
-
Ei gwneud yn haws i gyn-filwyr gyflawni eu potensial
- Yn unol ag ymrwymiad yr Adolygiad Amddiffyn Strategol (SDR) i fabwysiadu cymwysterau sifil lle bo hynny’n bosibl, byddwn yn gwneud cymwysterau milwrol presennol cyn-filwyr yn fwy trosglwyddadwy i gyflogaeth sifil.
- Gan weithio gyda’r Lluoedd Wrth Gefn a’r Cadetiaid, parhau i dyfu’r 8,000 a mwy o fusnesau enghreifftiol sydd â statws Cynllun Cydnabod Cyflogwyr, wrth gefnogi cyn-filwyr drwy’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd ac Op ASCEND.
- Alinio â strategaeth Cael Prydain i Weithio yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r rhaglen Cysylltu â Gwaith i sicrhau bod cyn-filwyr ag anableddau a chyflyrau iechyd yn gallu cael cyflogaeth barhaus a boddhaus.
-
Cryfhau’r cysylltiadau rhwng cyn-filwyr, y gymdeithas ehangach ac amddiffyn
- Byddwn yn annog mwy o gyn-filwyr i wasanaethu fel Oedolion sy’n Gwirfoddoli gyda’r Cadetiaid i gefnogi’r nod Amddiffyn o dyfu’r llu Cadetiaid gan 30% ac ailgysylltu’r gymdeithas ehangach â’r lluoedd arfog.
- Cysylltu cyn-filwyr a’r Corfflu Wrth Gefn dan gynllun diwygiedig i fynegi’r cynnig Amddiffyn i’r rhai sydd wedi gadael y Lluoedd Arfog a’r hyn y gallai Amddiffyn fod ei angen ganddynt yn y dyfodol.
- Ei gwneud yn haws i gyn-filwyr ddefnyddio eu sgiliau drwy yrfaoedd ‘igam-ogam’, a chefnogi’r gwaith o dreialu Pasbort Sgiliau Amddiffyn a fydd yn ei gwneud hi’n haws adnabod a throsglwyddo rhwng y Lluoedd Arfog a’r diwydiant amddiffyn.
Sut y byddwn yn mesur yr effaith
Cynnydd a pherfformiad
Mae metrigau cychwynnol ar gyfer monitro cynnydd a pherfformiad fel rhan o’r thema Cyfrannu wedi’u nodi yn y tabl isod. Man cychwyn yw’r rhain, gyda mesurau newydd i’w datblygu gyda mewnbwn gan randdeiliaid yn ystod y flwyddyn gyntaf.
| Mesurau | Metrigau Gwaelodlin |
|---|---|
| Cyfradd cyflogaeth cyn-filwyr | 79% o gyn-filwyr o oedran gweithio mewn cyflogaeth o’i gymharu â 70% o bobl o oedran gweithio nad oeddynt yn gyn-filwyr (Cyfrifiad Cymru a Lloegr 2021) Mesur gwaelodlin i’w ddilysu gan ddefnyddio Arolwg Cyn-filwyr 2026 a data gan y Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd (CTP) |
| % y cyn-filwyr sydd ar unrhyw adeg wedi derbyn swydd sy’n is na phrofiad a sgiliau eu rôl ddiwethaf yn y Lluoedd Arfog | Roedd 52.5% o gyn-filwyr ar ryw adeg wedi derbyn swydd ar lefel sgiliau neu brofiad is na’u rôl ddiwethaf yn Lluoedd Arfog y DU Mesur gwaelodlin i’w ddilysu gan ddefnyddio Arolwg Cyn-filwyr 2026 |
| % y cyn-filwyr sy’n cael eu cyflogi mewn swyddi sy’n gwneud defnydd da o’u sgiliau a’u profiad | Byddwn yn sefydlu mesur gwaelodlin gan ddefnyddio Arolwg Cyn-filwyr 2026 |
| % y cyn-filwyr a oedd yn teimlo bod ganddynt sgiliau trosglwyddadwy a phrofiad o’u gwasanaeth yn y lluoedd arfog | Roedd 85.4% o gyn-filwyr yn teimlo bod ganddynt sgiliau trosglwyddadwy o Luoedd Arfog y DU (85.4%) neu eu bod wedi defnyddio sgiliau o Luoedd Arfog y DU mewn rôl sifil (81.4%) |
| % y cyn-filwyr sydd â sgiliau trosglwyddadwy y gallent eu defnyddio y tu allan i’r Lluoedd Arfog? | Roedd 85.4% o gyn-filwyr yn teimlo bod ganddynt sgiliau trosglwyddadwy o Luoedd Arfog y DU Mesur gwaelodlin i’w ddilysu gan ddefnyddio Arolwg Cyn-filwyr 2026 |
| % y cyn-filwyr sydd wedi defnyddio sgiliau o’r Lluoedd Arfog mewn unrhyw rolau sifil? | Roedd 81.4% wedi defnyddio sgiliau o Luoedd Arfog y DU mewn rôl sifil Mesur gwaelodlin i’w ddilysu gan ddefnyddio Arolwg Cyn-filwyr 2026 |
| % y cyflogwyr sy’n credu bod cyn-filwyr yn debygol o fod wedi ennill sgiliau trosglwyddadwy a phrofiad o’u gwasanaeth yn y lluoedd arfog | Ymatebodd 42% o gyflogwyr y byddai cyn-filwyr yn fanteisiol i’w sefydliad o ran llenwi bylchau mewn sgiliau a 31% o ran gwella sgiliau proffesiynol eu gweithwyr presennol yn ôl Adroddiad Canfyddiadau YouGov 2022 Mesur gwaelodlin i’w ddilysu gan ddefnyddio cyfleoedd eraill o ran arolygon cyflogwyr |
| % y cyflogwyr sy’n credu y byddai heriau’n debygol o fod yn gysylltiedig â chyflogi cyn-filwr | Byddai 84% o gyflogwyr yn teimlo’n gyfforddus yn gweithio gyda chyn-aelodau’r lluoedd arfog, ac mae 11% yn credu y byddai risgiau wrth weithio gyda chyn-aelodau’r lluoedd arfog yn ôl Adroddiad Canfyddiadau YouGov 2022 Mesur gwaelodlin i’w ddilysu gan ddefnyddio cyfleoedd eraill o ran arolygon cyflogwyr |
| % y rhai a adawodd y Lluoedd Arfog a ddefnyddiodd wasanaeth y Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd (CTP) y gellir codi tâl amdano | Roedd 71% o’r rhai a adawodd y Lluoedd Arfog wedi defnyddio gwasanaeth CTP y gellir codi tâl amdano yn 2023/24 (allan o 15,665 o’r rhai a adawodd y Lluoedd Arfog) |
| % y rhai yn gadael y Lluoedd Arfog sy’n symud yn gyflym i gyflogaeth ar ôl eu gwasanaeth, gan gynnwys data o’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd ac Op ASCEND | Roedd 88% o’r bobl a adawodd y Lluoedd Arfog a oedd yn defnyddio gwasanaeth CTP y gellir codi tâl amdano ac yr oedd eu canlyniad cyflogaeth yn hysbys wedi cael eu cyflogi o fewn chwe mis i adael y Lluoedd Arfog yn 2023/24 |
| Nifer y cyn-filwyr sy’n cael eu recriwtio i rolau newydd yn y Lluoedd Wrth Gefn | Byddwn yn sefydlu mesur gwaelodlin gydag ymchwil newydd yn 2026 |
| Nifer y cyn-filwyr sy’n cael eu recriwtio i rolau eraill mewn diwydiannau sy’n gysylltiedig ag amddiffyn | Mesur gwaelodlin i’w bennu gydag ymchwil newydd yn 2026 |
| Nifer y cyn-filwyr a recriwtiwyd i rolau eraill mewn diwydiannau hanfodol | Mesur gwaelodlin i’w bennu gydag ymchwil newydd yn 2026 |
| % y cyn-filwyr sy’n aelodau gweithredol o’u cymuned leol | Roedd 53% o gyn-filwyr yn cytuno eu bod yn teimlo eu bod yn perthyn i’w cymuned leol yn ôl Arolwg Cyn-filwyr 2022. Mesur gwaelodlin i’w ddilysu gan ddefnyddio Arolwg Cyn-filwyr 2026 |
Cefnogi

Gall cyn-filwyr gael gafael ar gefnogaeth amserol, briodol ac effeithiol sy’n diwallu eu hanghenion.
Trosolwg
Mae’r rhan fwyaf o gyn-filwyr yn pontio’n llwyddiannus i fywyd sifil. Fodd bynnag, mae angen cefnogaeth ychwanegol ar rai yn syth neu ymhell ar ôl eu gwasanaeth yn y lluoedd arfog.
Gan gydnabod y gofynion unigryw a roddir ar staff y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd, byddwn yn sicrhau bod cefnogaeth ddibynadwy, amserol ac effeithiol o ansawdd uchel ar gael, pan a lle mae ei angen. Y gefnogaeth hon yw ein rhwymedigaeth foesol fel cenedl.
Gan weithio ar y cyd â phartneriaid ledled y DU, gan gynnwys llywodraethau datganoledig, ac yn unol â diwygiadau ehangach i wasanaethau cyhoeddus mewn meysydd fel iechyd, tai a chyfiawnder, byddwn yn cynyddu ein cefnogaeth i gyn-filwyr.

VALOUR
Mae llawer o wasanaethau gwych ar gael i gyn-filwyr yn y DU. Fodd bynnag, efallai nad yw’r gwasanaethau hyn bob amser yn gweithio gyda’i gilydd, ac nid yw cyn-filwyr bob amser yn ymwybodol o’r hyn sydd ar gael.
Ym mis Mai 2025, cyhoeddodd y llywodraeth ‘VALOUR’ – y dull gweithredu cyntaf erioed ar draws y DU dan arweiniad y llywodraeth ar gyfer cefnogi cyn-filwyr. Gan adeiladu ar ddarpariaeth bresennol lwyddiannus, bydd y rhaglen hon, gyda chymorth £50 miliwn o gyllid, yn sicrhau mynediad haws at ofal a chefnogaeth i’n cyn-filwyr sy’n cysylltu gwasanaethau tai, cyflogaeth ac iechyd ledled y DU.
Bydd VALOUR yn cynnwys tair prif gydran:
-
Canolfannau cefnogi a gydnabyddir gan VALOUR. Gan adeiladu ar y ddarpariaeth bresennol a gyda chefnogaeth cyllid datblygu VALOUR, bydd y canolfannau hyn yn hwyluso mynediad at nifer o wasanaethau i gyn-filwyr, ac yn darparu data amserol am anghenion a phrofiadau cyn-filwyr er mwyn llywio gwelliannau i wasanaethau yn y dyfodol.
-
Swyddogion maes VALOUR. Bydd y rhwydweithiau’n cael eu cefnogi gan swyddogion maes ymroddedig a lleol VALOUR. Byddant yn dod â rhanddeiliaid ar draws llywodraeth leol, gwasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector at ei gilydd, ac yn hwyluso cyfnewid data, gwybodaeth a dysgu gyda Phencadlys newydd VALOUR.
-
Pencadlys VALOUR. Bydd y tîm hwn yn eistedd yn y Swyddfa Materion Cyn-filwyr yn y Weinyddiaeth Amddiffyn a bydd yn darparu sicrwydd a hyfforddiant ar draws rhwydwaith VALOUR. Bydd yn casglu data a gwybodaeth, gan weithio gyda thimau polisi ac ymchwil i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cynllunio i ddiwallu anghenion lleol.
Bydd y tair gydran hon yn cael eu hategu gan gapasiti ychwanegol ar gyfer y Gwasanaeth Lles Cyn-filwyr, gan weithio ledled y wlad i gefnogi’r cyn-filwyr hynny sydd angen cymorth ychwanegol. I ddechrau, bydd VALOUR yn canolbwyntio ar gyn-filwyr, ond mae’r gwasanaeth wedi’i gynllunio i gael ei ehangu i gefnogi cymuned ehangach y Lluoedd Arfog, gan gynnwys defnyddio egwyddorion Cyfamod y Lluoedd Arfog.
Bydd y broses o gyflwyno VALOUR o reidrwydd yn wahanol ar draws gwledydd y DU. Byddwn yn gweithio’n agos gyda llywodraethau datganoledig a phartneriaid eraill i roi dull gweithredu ar waith sy’n gweithio yn y cyd-destunau hyn.
Canlyniadau blaenoriaeth
-
Cyn-filwyr yn cael gafael ar wasanaethau sy’n amserol, effeithiol a gwybodus
I rai cyn-filwyr, gan gynnwys rhai o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, mae’r gefnogaeth y maent wedi’i gael wedi bod yn anghyson neu’n ansensitif i’w profiadau yn y lluoedd arfog a thu hwnt. Drwy VALOUR, rydym yn canolbwyntio ar greu system gefnogi sy’n hawdd ei deall a’i defnyddio, lle mae partneriaid lleol yn cael eu grymuso i ddatrys heriau yn eu hardaloedd, gyda’r llywodraeth yn gosod polisïau clir ar sail data a thystiolaeth.
Dylai pob cyn-filwr gael eu cyfarfod gan ddarparwyr sy’n deall eu profiadau, eu hamgylchiadau a’u hanghenion penodol. Gyda 99.6% o Rwydweithiau Gofal Sylfaenol yn Lloegr yn cynnwys o leiaf un practis meddyg teulu achrededig, byddwn yn parhau i adeiladu ar gynnydd sylweddol ac yn sicrhau, mewn gwasanaethau arbenigol a phrif ffrwd, bod darparwyr yn cael gwybod am anghenion ac amgylchiadau unigryw cyn-filwyr. Dylai’r rhai sy’n cysgu allan neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref gael cefnogaeth benodol, gan gynnwys drwy Op FORTITUDE. -
Cyn-filwyr yn ymwybodol o wasanaethau ar eu cyfer ac yn gallu cael gafael arnynt
Mae ymyrraeth gynnar yn allweddol i atal materion mwy cymhleth yn nes ymlaen. Nid yw pob cyn-filwr na’u teuluoedd, yn enwedig mewn grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli, yn ymwybodol o’r gwasanaethau sydd ar gael iddynt. I’r rhai sy’n ymwybodol, mewn rhai achosion mae rhwystrau i fynediad.
Byddwn yn gweithio ar draws y llywodraeth ac yn ehangach i fynd i’r afael â’r rhwystrau i ganfod a chael gafael ar gymorth a datblygu polisïau sy’n helpu cyn-filwyr i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. -
Pob cyn-filwr â sylfeini ar gyfer sicrwydd ariannol
Gall ansicrwydd ariannol waethygu’r heriau y mae cyn-filwyr yn eu hwynebu. Gall hyn fod yn arbennig o ddifrifol yn ystod y cyfnod pontio, gyda mwy o annibyniaeth ariannol, costau annisgwyl a sydyn yn aml, ac weithiau nid oes dealltwriaeth dda o gyfleoedd i gael gafael ar bensiynau, iawndal neu daliadau eraill.
Byddwn yn sicrhau bod mesurau effeithiol ar waith i gefnogi cyn-filwyr i gyflawni a chynnal sicrwydd ariannol. Byddwn yn sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod gwasanaethu a phontio er mwyn annog cynllunio ariannol tymor hir. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y llywodraeth a’r sector elusennol ehangach i sicrhau bod cyngor a chefnogaeth ar gael i’r rhai sydd eu hangen. -
Teuluoedd cyn-filwyr yn cael eu cydnabod a’u cefnogi
Mae rhai teuluoedd a phlant cyn-filwyr yn wynebu heriau penodol ac anghenion cymorth sy’n deillio o wasanaeth cyn-filwyr. Mewn llawer o achosion, mae aelodau o’r teulu’n cynnig cymorth amhrisiadwy yn ystod gwasanaeth ac yn parhau i wneud hynny yn ystod y cyfnod pontio i fywyd sifil a thu hwnt, fel gofalu am y rhai sydd ag anghenion cymhleth. Mae gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn cael effaith negyddol ar rai aelodau o’r teulu, gan gynnwys effeithiau hirdymor ar eu cyflogaeth a’u haddysg oherwydd eu bod yn symud yn aml yn ystod eu gwasanaeth.
Rydym yn cydnabod bod gan y llywodraeth rôl allweddol i’w chwarae, ochr yn ochr â’r amrywiaeth eang o gymorth a ddarperir gan gymuned ehangach y Lluoedd Arfog, o ran cydnabod a chefnogi teuluoedd cyn-filwyr.
Sut y byddwn yn cael effaith
Mae cymorth ar gael i bob cyn-filwr wrth iddynt adael eu bywyd yn y lluoedd arfog. I’r lleiafrif sydd ag anghenion acíwt, mae’n bwysig bod darpariaeth ychwanegol yn cael ei darparu mewn ffordd amserol ac effeithlon.
Ochr yn ochr â’r ddarpariaeth bresennol gan y llywodraeth a chymuned ehangach y Lluoedd Arfog sy’n gwneud gwaith hanfodol i gefnogi cyn-filwyr, bydd VALOUR yn allweddol i sicrhau llwyddiant. Ar gyfer cyn-filwyr eu hunain, byddwn yn olrhain y nifer sy’n defnyddio gwasanaethau, a pha wasanaethau sy’n cael eu darparu. Byddwn hefyd yn mesur ymddiriedaeth mewn darpariaeth gwasanaethau, a yw dull ‘dim drws anghywir’ yn cael ei wireddu ac yn ceisio gwella’r cydlynu ar draws y sector.

Yn y ddwy flynedd gyntaf byddwn yn gwneud y canlynol:
-
Darparu VALOUR: System gefnogi gryfach, sefydliadol gadarn a chydlynol ar gyfer cyn-filwyr
- Sefydlu VALOUR – gyda £50 miliwn o gyllid - system newydd ledled y DU i ddarparu mynediad haws at gefnogaeth wedi’i theilwra i gyn-filwyr.
- Codi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael ac annog ymgysylltu â hi – drwy gyfathrebu effeithiol a gwell drws ffrynt digidol ar GOV.UK.
-
Sicrhau bod cyn-filwyr yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt drwy lwybrau pwrpasol a gwasanaethau arbenigol lle bo hynny’n briodol.
- Darparu gofal, cefnogaeth a thriniaeth arbenigol i gyn-filwyr sydd ag anghenion iechyd meddwl a llesiant drwy Op COURAGE a darparu cefnogaeth i aelodau o’u teulu
- Darparu gofal arbenigol a thriniaeth gyfannol i gyn-filwyr sydd ag anghenion iechyd a llesiant corfforol drwy Op RESTORE.
- Buddsoddi mewn dulliau newydd arloesol o gefnogi cyn-filwyr, gan gynnwys Canolfan Gofal Integredig Catraeth (Catterick), a fydd yn agor yn 2026, sy’n cael ei datblygu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r GIG gyda £110 miliwn o gyllid.
- Gwneud darparu gwasanaeth yn ystyriol o gyn-filwyr, fel drwy achrediad meddygon teulu ac Achrediad ‘Ymwybodol o Gyn-filwyr’ Cynghrair Gofal Iechyd Cyfamod Cyn-filwyr y GIG, a darparu hyfforddiant ac addysg i gartrefi gofal sy’n lletya cyn-filwyr.
- Cyflwyno Rhaglen Hyfforddiant ac Addysg Genedlaethol newydd y GIG, i sicrhau y bydd cyn-filwyr a’u teuluoedd yn elwa o ofal iechyd gwell wedi’i dargedu, gyda £1.8 miliwn o gyllid dros dair blynedd.
- Sicrhau bod cymorth ar gael yn yr amgylchiadau anoddaf, drwy wasanaethau fel Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol ledled Lloegr, sydd ar gael i bawb, gan gynnwys milwyr sy’n gwasanaethu, cyn-filwyr a’u teuluoedd, ni waeth pryd y digwyddodd y digwyddiad. Maen nhw wedi’u lleoli ledled y wlad ac yn cynnig cymorth ymarferol, meddygol ac emosiynol arbenigol 24/7.
- Disodli’r paragraff hwn â - Sicrhau bod cyn-filwyr sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn gallu cael gafael ar y cyngor a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt drwy adeiladu ar waith y rhaglen Lleihau Digartrefedd ymysg Cyn-filwyr a gwneud Op FORTITUDE yn wasanaeth cynaliadwy.
- Cyflwyno’r dull newydd ‘Rhoi’r Lluoedd Arfog yn Gyntaf’ ar gyfer cartrefi newydd sy’n cael eu hadeiladu ar dir dros ben y Weinyddiaeth Amddiffyn, gan helpu mwy o gyn-filwyr a’u teuluoedd i elwa o fynediad blaenoriaethol at dai fforddiadwy o ansawdd uchel a chyfleoedd i fod yn berchen ar gartref maen nhw’n eu haeddu.
- Darparu cefnogaeth arbenigol i’r rhai sydd mewn cysylltiad â’r system gyfiawnder drwy barhau i ddarparu Op NOVA.
-
Sicrhau bod yr holl gyn-filwyr yn cael cefnogaeth briodol ac effeithiol drwy’r cyfnod pontio
- Op ASCEND: Cysoni’n agosach â’r Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd, gan sicrhau bod cyn-filwyr yn dal i allu cael gafael ar gymorth cyflogaeth ni waeth pryd y gwnaethant adael y gwasanaeth.
- Gweithredu’r argymhellion a dderbyniwyd ar sail Adolygiad Pum Mlynedd 2023, a gynhaliwyd i sicrhau bod Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog yn parhau i weithio’n effeithiol.
- Codi ymwybyddiaeth o hawliau ariannol cyn-filwyr, gan gynnwys pensiynau, i sicrhau bod cyn-filwyr yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo.
Sut y byddwn yn mesur yr effaith
Cynnydd a pherfformiad
Mae metrigau cychwynnol ar gyfer monitro cynnydd a pherfformiad fel rhan o’r thema Cefnogi wedi’u nodi yn y tabl isod. Man cychwyn yw’r rhain, gyda mesurau newydd i’w datblygu gyda mewnbwn gan randdeiliaid yn ystod y flwyddyn gyntaf.
| Mesurau | Metrigau Gwaelodlin |
|---|---|
| Canfyddiad y cyhoedd bod llywodraeth y DU yn gofalu am gyn-filwyr | 15% yn credu bod llywodraeth y DU yn effeithiol o ran cefnogi cyn-aelodau o Luoedd Arfog y DU, o’i gymharu â 43% sy’n dweud eu bod yn teimlo nad yw’n effeithiol. |
| (Adroddiad Canfyddiadau YouGov 2022) | |
| % y cyn-filwyr yn defnyddio gwasanaeth a gafodd y gefnogaeth yr oedd ei hangen arnynt | Byddwn yn sefydlu mesur gwaelodlin gydag ymchwil newydd yn 2026 gan gynnwys drwy VALOUR |
| % y cyn-filwyr sy’n ymwybodol o’r gwasanaethau cefnogi sydd ar gael | Byddwn yn sefydlu mesur gwaelodlin gan ddefnyddio Arolwg Cyn-filwyr 2026 |
| % y cyn-filwyr sy’n mynegi parodrwydd i estyn allan at y gwasanaethau hyn mewn cyfnod o angen | Byddwn yn sefydlu mesur gwaelodlin gan ddefnyddio Arolwg Cyn-filwyr 2026 |
| Canlyniadau iechyd cyn-filwyr, gan gynnwys Op COURAGE ac Op RESTORE | Bydd y Swyddfa Materion Cyn-filwyr yn gweithio gyda’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol i adrodd ar atgyfeiriadau i Op COURAGE ac Op RESTORE. Byddwn yn dechrau gwaith newydd i adrodd ar ddata mwy ystyrlon ar ganlyniadau, boddhad cleifion ac i ddangos cynnydd ar welliant parhaus mewn darpariaeth gwasanaeth a chlinigol. Bydd hyn yn cynnwys gwasanaethau perthnasol y GIG y tu allan i Ops COURAGE a RESTORE lle rydyn ni’n gwybod bod cyn-filwyr yn cael cefnogaeth |
| Nifer y cyn-filwyr sy’n ddigartref ac yn cysgu allan | 2,270 o aelwydydd yr oedd dyletswydd digartrefedd statudol atal neu liniaru yn ddyledus iddynt a oedd ag angen cymorth ‘wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog EF’; roedd hyn 0.7% o’r holl aelwydydd yr oedd dyletswydd digartrefedd statudol yn ddyledus iddynt yn 2023/24 yn Lloegr (data digartrefedd MHCLG) Nid yw’r ffigurau sylfaenol hyn yn cofnodi maint llawn digartrefedd a chysgu allan, gan na fydd pob person digartref yn cysylltu â’u hawdurdod lleol i gael cefnogaeth |
| Cyfraddau cyn-filwyr sy’n marw drwy hunanladdiad | Byddwn yn gweithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, NRS a NISRA (lle bo hynny’n bosibl oherwydd sensitifrwydd cofnodi data cyn-filwyr yng Ngogledd Iwerddon) ac academyddion blaenllaw i sicrhau bod gennym y data gorau sydd ar gael o hyd ar gyfraddau hunanladdiad cyn-filwyr a’u bod yn dal ar gael ar GOV.UK. |
| Canran y cyn-filwyr sy’n hawlio ac yn cael pensiynau y mae ganddynt hawl iddynt | Byddwn yn sefydlu mesur gwaelodlin drwy ddadansoddiad newydd a gwaith pellach gyda phartneriaid gan gynnwys Cymdeithas Pensiwn y Lluoedd Arfog. |
| Nifer y Pensiynau Rhyfel a Chynllun Pensiwn y Lluoedd Arfog nad ydynt yn cael eu hawlio | Bydd mesur gwaelodlin yn cael ei sefydlu yn 2026. |
| % y cyn-filwyr sy’n ymddiried yng ngwasanaethau’r llywodraeth i ddiwallu eu hanghenion yn effeithiol | Byddwn yn sefydlu mesur gwaelodlin gan ddefnyddio Arolwg Cyn-filwyr 2026. |
Y camau nesaf
Gweithio gyda’r gymuned cyn-filwyr i sicrhau canlyniadau gwell
Bydd y Llywodraeth yn ailgynllunio’r llywodraethiant a’r ymgysylltu sylfaenol sy’n sbarduno’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau a phenderfyniadau cyn-filwyr, ac yn sicrhau ei bod yn cefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog ar y cyd.
Bydd strwythurau newydd yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod gan weinidogion fwy o oruchwyliaeth dros weithgarwch, cynnydd a data. Bydd gweithgarwch dan arweiniad Gweinidogion yn cael ei gynnal yn rheolaidd a bydd yn cynnwys: grŵp rhyngweinidogol newydd i sicrhau cydlynu ar draws llywodraethau; deialog ffurfiol gyda chymheiriaid o’r llywodraethau datganoledig, ac amser penodol i drafod materion cyn-filwyr a Chyfamod y Lluoedd Arfog yn y Cabinet.
Bydd y Llywodraeth yn lansio grŵp cyflawni newydd ar draws y llywodraeth i gydlynu gweithgareddau, pennu blaenoriaethau ac annog rhannu data ar draws adrannau’r llywodraeth sy’n cefnogi ac yn gweithio gyda chyn-filwyr. Bydd hyn yn sicrhau bod y llywodraeth gyfan yn cydweithio, a bod materion trawsbynciol yn cael eu cydlynu.
Bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda Chydffederasiwn Elusennau’r Lluoedd Arfog (Cobseo) ac eraill i gynnull rhanddeiliaid allweddol a chymdeithas ddinesig i rannu gwaith, cydweithio a blaenoriaethu gweithgareddau i gefnogi canlyniadau’r strategaeth. Bydd y fforwm newydd hwn yn allweddol o ran gyrru’r data a’r ddealltwriaeth orau o wneud penderfyniadau a thrwy annog ffyrdd tryloyw o weithio i fod yn fwy effeithiol nag erioed.
Bydd y fforwm yn gydweithredol drwy fwriad, gyda’r llywodraeth a Cobseo yn arwain cymuned o bwrpas cyffredin yn erbyn themâu’r strategaeth hon. Mae hyn yn adlewyrchu’r berthynas gadarnhaol rhwng y llywodraeth a chymuned ehangach y Lluoedd Arfog sydd eisoes yn bodoli, gan anelu at fynd ymhellach yn unol â’r egwyddorion a nodir yng Nghyfamod y Gymdeithas Sifil.
Bydd yr ymdrech ar y cyd hon yn elwa o gydbwysedd barn sector elusennol y Lluoedd Arfog. Byddwn yn parhau i sicrhau bod mentrau penodol i gyn-filwyr yn cael eu datblygu’n gyfannol, gan ystyried Cymuned y Lluoedd Arfog yn ei chyfanrwydd – milwyr sy’n gwasanaethu, cyn-filwyr, teuluoedd a’r rhai sydd wedi cael profedigaeth – mewn golwg.
Mesur perfformiad – gweithio’n agored ac yn ddidwyll
Ochr yn ochr â strwythurau llywodraethu newydd, byddwn yn parhau i fonitro a chyfleu cynnydd yn erbyn y strategaeth i’r cyhoedd ac i gyn-filwyr.
Gan adeiladu ar y mesurau cynnydd presennol a nodir yn y strategaeth hon, byddwn yn sefydlu fframwaith monitro a gwerthuso clir ar gyfer y strategaeth yn 2026. Er mwyn cyflawni hyn, bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda rhanddeiliaid annibynnol, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Forces in Mind, i edrych ar opsiynau a sicrhau dull gweithredu cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth wrth symud ymlaen.
Bydd casglu’r data angenrheidiol i fonitro perfformiad yn gofyn am newid sylweddol yn y ffordd y mae cymuned y Lluoedd Arfog yn gweithio gyda’i gilydd os ydym am greu dealltwriaeth gyffredin o’r boblogaeth cyn-filwyr ledled y DU. Bydd monitro gan y llywodraeth yn cynnwys:
-
Gwybodaeth newydd a gasglwyd gan VALOUR, gan ddarparu dolen adborth barhaus i siapio polisi a darpariaeth.
-
Cyflwyno diffiniadau a mesuriadau data safonol i alluogi sefydliadau sy’n cefnogi cyn-filwyr i feincnodi eu perfformiad yn erbyn y sector ehangach.
-
Arolwg cenedlaethol rheolaidd o gyn-filwyr i ddeall profiadau, canfyddiadau ac anghenion newidiol cyn-filwyr, eu teuluoedd a chymuned ehangach y Lluoedd Arfog.
-
Dadansoddiad o ganfyddiadau’r cyhoedd i ddeall sut mae cyn-filwyr yn cael eu cynrychioli a’u gweld ledled y DU a beth y gallem ei wneud i effeithio ar hyn.
-
Casglu a dadansoddi data gweinyddol newydd a chyfredol i fonitro perfformiad gwasanaethau i gyn-filwyr. Bydd hyn yn cynnwys mesurau o’r dechrau i’r diwedd i fonitro a yw’r canlyniadau a fwriedir yn cael eu cyflawni a chasglu adborth gan gyn-filwyr ar eu profiadau.
-
Monitro data yn erbyn nodweddion gwarchodedig lle bo hynny’n bosibl i nodi unrhyw dueddiadau yn y canlyniadau sy’n cael eu cyflawni ar gyfer carfannau penodol o gyn-filwyr a phenderfynu lle gallai ymyriadau gwahanol fod yn briodol.
Bydd llwyfan perfformiad ar-lein newydd yn cael ei gyflwyno yn 2026 i gyhoeddi data perfformiad yn agored.
Gwella data a mynd i’r afael â’r bwlch gwybodaeth
Bydd y llywodraeth yn gweithio ar draws sector cyn-filwyr y DU i wella’r gwaith o gasglu data, rhannu, dadansoddi a gwneud penderfyniadau a bydd yn gwneud hynny’n gyflym, gyda’r nod o gyd-greu canllawiau clir er mwyn i sefydliadau gasglu data’n gyson. Gan weithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, National Records Scotland ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (lle bo hynny’n bosibl oherwydd sensitifrwydd cofnodi data cyn-filwyr yng Ngogledd Iwerddon), byddwn yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed yng Nghyfrifiadau 2021 a 2022 i ddeall bywydau cyn-filwyr yn well, drwy gefnogi eu gwaith datblygu ar gyfer y Cyfrifiadau nesaf yn 2031 a chynlluniau data allweddol eraill.
Bydd y Llywodraeth hefyd yn parhau i weithio gyda phartneriaid a’u cefnogi i adeiladu’r corff cynyddol o ymchwil sy’n bodoli i ddeall profiadau ac anghenion amrywiol cyn-filwyr yn well. Byddwn yn parhau i gefnogi cydweithio a rhannu gwybodaeth â phartneriaid rhyngwladol, gan fod yn agored i ddysgu o’r ffordd y mae gwledydd eraill yn gweithio gyda’u cymunedau cyn-filwyr ac yn eu cefnogi i ffynnu.
Gwella’r dirwedd ddigidol ar gyfer cyn-filwyr
Rydyn ni’n deall sut mae llywio drwy’r dirwedd ddigidol wrth chwilio am help yn gallu bod yn her i rai cyn-filwyr, gydag amrywiaeth eang o ddarparwyr yn cynnig cymorth ar draws llawer o lwyfannau a gwefannau gwahanol.
Yn unol â’r glasbrint ar gyfer llywodraeth ddigidol fodern a’r gwaith sy’n cael ei arwain gan yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg, byddwn yn ceisio gwella a symleiddio’r cyd-destun hwn, gan weithio tuag at ddull gweithredu cydgysylltiedig, lle gall cyn-filwyr ddod o hyd i’r gefnogaeth briodol iddynt yn haws ar sail eu hamgylchiadau, eu hanghenion cymorth a lle maent yn byw. Bydd hyn yn cefnogi ac yn ategu VALOUR, a byddwn yn edrych ar sut y gellir mabwysiadu’r adnoddau technolegol diweddaraf i helpu i gyflawni hyn, gan gadw mewn cof hefyd y rhai nad ydynt yn gallu cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau ar-lein mor hawdd.
-
Mae’r Llywodraeth yn diffinio cyn-filwr fel unrhyw un sydd wedi gwasanaethu am o leiaf un diwrnod yn Lluoedd Arfog EF (Parhaol neu Wrth Gefn), neu Forwyr Masnachol sydd wedi gwasanaethu ar weithrediadau milwrol sydd wedi’u diffinio’n gyfreithiol. ↩
-
Roedd 88% o’r bobl a adawodd y Lluoedd Arfog a oedd yn defnyddio gwasanaeth y Bartneriaeth Pontio Gyrfaoedd (CTP) y gellir codi tâl amdano ac yr oedd eu canlyniad cyflogaeth yn hysbys wedi cael eu cyflogi o fewn chwe mis i adael y Lluoedd Arfog yn 2023/24, gyda dim ond 5% yn dweud eu bod yn ddi-waith. Yn fwy cyffredinol, mae data cyfrifiad yn dangos bod 79% o gyn-filwyr o oedran gweithio mewn cyflogaeth o’i gymharu â 70% o bobl o oedran gweithio nad oeddynt yn gyn-filwyr (Cyfrifiad Cymru a Lloegr 2021) ↩