Sut mae DVLA yn defnyddio Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig
Diweddarwyd 26 Chwefror 2026
1. Pam rydym yn defnyddio ANPR
Defnyddir technoleg Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig (ANPR) o fewn DVLA i helpu i ganfod ac atal osgoi treth cerbyd (VED) ledled y DU.
2. Sut mae’n gweithio
Wrth i gerbyd basio heibio camera ANPR, mae’r rhif cofrestru yn cael ei ddarllen a’i wirio ar unwaith yn erbyn cofnodion cronfa ddata o gerbydau o ddiddordeb. Bydd DVLA yn cymryd camau gorfodi priodol a bydd hyn yn amrywio o lythyrau rhybudd, setliadau y tu allan i’r llys ac erlyniadau llys, i glampio olwynion ac atafaelu cerbydau.
3. Mynediad at ddata sydd wedi’i storio
Mae data ANPR am gerbydau heb eu trethu yn cael ei storio gan DVLA am hyd at 18 mis. Mae gennym reolau clir i reoli mynediad at ddata ANPR i wneud yn siŵr bod mynediad ar gyfer gorfodi cyfreithlon. Dim ond os yw’n berthnasol i’w rôl y mae gan staff DVLA fynediad at ddata ANPR.
4. Lleoliadau camerâu
Mae camerâu wedi’u gosod mewn cerbydau DVLA a cherbydau cyflenwyr trydydd parti i ganfod cerbydau heb eu trethu.
5. Gwybodaeth bellach
Yr Adran Drafnidiaeth yw’r rheolydd data ar gyfer y system ANPR a weithredir o fewn DVLA. Dylid gwneud unrhyw geisiadau am wybodaeth neu gwynion i:
Stephen Hartnoll
DVLA
Abertawe
SA6 7JL