Guidance

Newidiadau i daliadau gallu cyfyngedig i weithio mewn Credyd Cynhwysol

Updated 22 February 2019


Mae’r canllaw hwn yn egluro’r newid o’r 3 Ebrill 2017 sy’n effeithio ar y taliad ychwanegol a wneir i rai hawlwyr Credyd Cynhwysol sy’n cael eu canfod i fod gyda gallu cyfyngedig i weithio yn dilyn Asesiad Gallu i Weithio (WCA).

Asesiadau Gallu i Weithio

Efallai y gofynnir i hawlwyr Credyd Cynhwysol i fynychu WCA i weld a yw eu cyflwr iechyd neu anabledd yn effeithio ar eu gallu i weithio. Bydd swyddog gwneud penderfyniadau yn defnyddio canlyniad y WCA i benderfynu os yw’r hawlydd:

  • yn abl i weithio
  • gyda gallu cyfyngedig i weithio - mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i’r hawlydd chwilio am waith, ond bydd angen iddynt gymryd camau i baratoi ar gyfer gwaith
  • gyda gallu cyfyngedig i weithio a gweithgareddau sy’n cysylltiedig â gwaith - mae hyn yn golygu na fydd gofyn i’r hawlydd chwilio am, na pharatoi ar gyfer gwaith

Darganfyddwch fwy am Gredyd Cynhwysol os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd.

Newidiadau i daliadau gallu cyfyngedig i weithio o’r 3 Ebrill 2017

Ni fydd hawlydd sydd â chyflwr iechyd neu anabledd sy’n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, ac sy’n cael eu canfod i fod a gallu cyfyngedig i weithio yn dilyn WCA, yn cael unrhyw daliad ychwanegol o Gredyd Cynhwysol.

Ni fydd rhai hawlwyr yn cael eu heffeithio gan y newid. Mae hyn yn cynnwys:

  • hawlwyr presennol sydd yn cael y taliad gallu cyfyngedig i weithio mewn Credyd Cynhwysol cyn 3 Ebrill 2017
  • hawlwyr Credyd Cynhwysol presennol sy’n gwneud cais cyn 3 Ebrill 2017, ar sail bod â chyflwr iechyd neu anabledd ac yn cael eu canfod yn ddiweddarach i fod gyda gallu cyfyngedig i weithio yn dilyn WCA
  • hawlwyr Credyd Cynhwysol presennol a gafodd eu canfod i fod gyda gallu cyfyngedig i weithio a gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith cyn 3 Ebrill 2017, ac sydd, yn dilyn WCA pellach ar adolygiad ar neu ar ôl 3 Ebrill 2017, yn cael eu hasesu fel bod gyda gallu cyfyngedig i weithio
  • hawlwyr presennol sydd wedi gwneud eu cais am Gredyd Cynhwysol cyn 3 Ebrill 2017, ac sy’n cael eu canfod i fod yn abl i weithio, sy’n gofyn am ailystyriaeth orfodol neu’n apelio, ac yna cael eu canfod i fod gyda gallu cyfyngedig i weithio
  • hawlwyr Credyd Cynhwysol presennol oedd yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn syth cyn iddynt wneud cais am UC a cafodd eu cais am ESA ei wneud cyn 3 Ebrill 2017 ac sydd heb cael eu canfod i fod yn abl i weithio
  • hawlwyr Credyd Cynhwysol presennol oedd yn cael ESA yn syth cyn iddynt wneud cais am UC a cafodd eu cais am ESA ei wneud cyn 3 Ebrill 2017, ac sy’n cael eu canfod i fod yn abl i weithio, ond sy’n gofyn am ailystyriaeth orfodol neu’n apelio, ac yna cael eu canfod i fod gyda gallu cyfyngedig i weithio

Gallu cyfyngedig i weithio a gweithgareddau cysylltiedig â gwaith

Nid yw’r newidiadau o 3 Ebrill 2017, yn effeithio hawlwyr a gafodd eu canfod i fod gyda gallu cyfyngedig i weithio a gweithgareddau cysylltiedig â gwaith. Byddant hwy yn parhau i gael y taliad gallu cyfyngedig i weithio a gweithgareddau cysylltiedig â gwaith o Gredyd Cynhwysol.

Newidiadau mewn cyflyrau iechyd

Mae’n rhaid i hawlwyr ddweud wrth Credyd Cynhwysol os:

  • mae eu cyflwr wedi gwella
  • mae eu cyflwr wedi gwaethygu
  • mae ganddynt gyflwr iechyd newydd

Os nad yw hawlwyr yn dweud wrth Gredyd Cynhwysol am y newidiadau hyn yn syth gallent gael eu talu mwy neu lai o arian nag y dylent. Efallai y bydd rhaid iddynt ad-dalu unrhyw arian sydd wedi cael ei ordalu iddynt.

Gall hawlwyr hysbysu newid yn eu cyflyrau iechyd drwy:

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn: 0800 328 9344
Ffôn testun: 0800 328 1344
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau