Statutory guidance

Unauthorised encampments: a summary of available powers (Welsh accessible version)

Updated 14 July 2022

Cyflwynwyd i’r Senedd yn unol ag adran 85 Deddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd 2022

Mehefin 2022

© Hawlfraint y Goron 2022

Trwyddedir y cyhoeddiad hwn o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored f3.0 ac eithrio lle nodir yn wahanol. I weld y drwydded hon, ewch i nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3 neu ysgrifennwch at y Tîm Polisi Gwybodaeth, Yr Archifau Cenedlaethol, Kew, Llundain TW9 4DU, neu e- bostiwch: psi@nationalarchives.gov.uk.

Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti, bydd angen i chi gael caniatâd gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw.

Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn www.gov.uk/official-documents

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn atom yn public.enquiries@homeoffice.gov.uk.

ISBN 978-1-5286-3532-5 E02764577 06/22

Argraffwyd ar bapur sy’n cynnwys isafswm o 40% o ffibr wedi’i ailgylchu

Argraffwyd yn y DU ganHH Associates Ltd. ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi

Crynodeb

Y canllawiau hyn

Mae’r canllawiau statudol hyn yn nodi’r gyfres o bwerau sydd ar gael i’r heddlu ymateb i wersylloedd diawdurdod ac i fynd i’r afael ag amrywiaeth o niweidiau’n gymesur. Mae’n cynnwys y pwerau a oedd eisoes gan yr heddlu yn Neddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (CJPOA) a phwerau newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd 2022 (“Deddf 2022”). Mae’r pwerau newydd yn cyflawni ymrwymiad maniffesto’r Llywodraeth i fynd i’r afael â gwersylloedd diawdurdod a’r niweidiau a achosir gan dresmaswyr yn gwrthod gadael tir ac yn achosi niwed i gymunedau a thirfeddianwyr.

Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi’r canllawiau hyn o dan adran 62F y CJPOA sy’n ymwneud ag arfer eu pwerau gan yr heddlu o dan a60C i a62E o’r CJPOA a rheoliadau a wneir o dan adran 67. Mae’r pwerau’n cynnwys trosedd newydd o fyw ar dir heb ganiatâd mewn cerbyd neu gyda cherbyd ag amodau eraill a gyflwynwyd gan Ddeddf 2022. Bwriad y canllawiau hyn yw helpu heddluoedd i arfer y pwerau sydd ar gael iddynt yn y CJPOA, gan gynnwys darpariaethau newydd neu ddiwygiedig a gyflwynwyd gan Ddeddf 2022.

O dan adran 67 o’r CJPOA, gellir cadw unrhyw gerbydau sydd wedi’u hatafaelu a’u symud I ffwrdd gan yr heddlu o dan a62(1), a62C(3), neu a64(4) yn unol â rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gwneir Rheoliadau’r Heddlu (Cadw a Gwaredu Cerbydau Modur) 1995 o dan yr adran hon.

Mae’r holl bwerau y cyfeirir atynt yn y canllawiau wedi’u cynllunio i fod yn gymwys i unrhyw un sy’n byw ar dir heb ganiatâd ac yn gwrthod gadael sy’n achosi niwed, yn bodloni’r amodau ar gyfer camau gorfodi, waeth beth yw eu hil neu ethnigrwydd. Mae’r Llywodraeth yn disgwyl i’r heddlu gymryd camau lle y bo’n briodol yn erbyn unrhyw un sy’n torri’r gyfraith. Dylai’r heddlu hefyd barhau i ystyried eu rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth hawliau dynol, eu Dyletswydd Cydraddoldeb yn y Sector Cyhoeddus a deddfwriaeth cydraddoldebau ehangach.

Mae’n dal yn wir bod yr ymateb i wersylloedd diawdurdod ac i unigolion nad ydynt yn gadael tir pan ofynnir iddynt wneud hynny, gan achosi niwed yn yr amodau a nodir, yn gofyn am ymateb amlasiantaethol lleol, dan arweiniad awdurdodau lleol ac a gefnogir gan yr heddlu. Bydd cyngor gweithredol i swyddogion sy’n delio â gwersylloedd diawdurdod a gynhyrchir gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) yn cael ei ddiweddaru yn unol â newidiadau yn Neddf 2022. Mae hefyd ganllawiau unigol ar gyfer ymdrin â gwersylloedd diawdurdod sydd wedi’u hanelu’n bennaf at awdurdodau lleol ond y bwriedir iddynt hefyd fod o gymorth i berchnogion neu feddianwyr tir ac eraill yr effeithir arnynt gan wersylloedd diawdurdod neu unigolion sy’n gwrthod gadael tir ac sy’n achosi niwed yn yr amodau a ddisgrifir. Mae’r penderfyniad ynghylch pa bwerau heddlu a ddefnyddir yn parhau i fod yn ôl disgresiwn y swyddog heddlu sy’n mynychu digwyddiad penodol y mae’n rhaid iddo, wrth arfer y disgresiwn hwnnw, ystyried y canllawiau hyn o dan adran 62F o’r CJPOA.

Nid yw’r darpariaethau gwersylloedd diawdurdod wedi’u targedu at bobl sy’n cysgu ar y stryd, nac at y rhai sy’n dymuno cael mynediad i gefn gwlad ar gyfer hamdden, megis cerddwyr a grwpiau eraill. Bydd y darpariaethau yn gymwys i unrhyw un sy’n gwerthod gadael tir ac sy’n achosi niwed, gan fodloni amodau’r pwerau yn y canllawiau hyn.

Yn y cyd-destun uchod, nod y canllawiau hyn yw:

  • cyflwyno’r holl bwerau newydd yn Neddf 2022 a’r pwerau presennol yn y CJPOA (a60C i 62E a rheoliadau a wneir o dan adran 67) sydd ar gael i’r heddlu i fynd i’r afael â gwersylloedd diawdurdod.
  • egluro ystyr termau allweddol o fewn Deddf 2022.
  • helpu’r heddlu i benderfynu ar gamau cymesur.

Nid yw manylion y canllawiau hyn yn cynnwys digwyddiadau lle mae unigolion yn prynu tir ac yn ei feddiannu, gyda chaniatâd cynllunio neu beidio. Bydd camau gweithredu yn erbyn datblygiad anawdurdodedig yn parhau i gael eu harwain gan yr awdurdod cynllunio lleol.

Beth sydd wedi’i gyflwyno yn Neddf 2022?

Mae a60C i a60E o’r CJPOA yn nodi’r drosedd sy’n ymwneud â phreswylio ar dir heb ganiatâd, mewn cerbyd neu gyda cherbyd, a phwerau atafaelu a fforffedu cysylltiedig. Mae rhai pwerau presennol yn y CJPOA hefyd wedi’u diwygio i gryfhau’r dapariaethau.

Beth sydd wedi newid i’r pwerau presennol?

Mae’r pwerau presennol, sydd mewn rhai achosion wedi’u cryfhau gan Ddeddf 2022, wedi’u nodi yn adran 61 i a62E o’r CJPOA. Mae rheoliadau a wneir o dan a67 yn ymwneud â cherbydau a atafaelir o dan adran 62(1) neu a62C(3).

Mae’r darpariaethau presennol, fel y cryfhawyd, wedi’u cynllunio i sicrhau y gellir ymateb I lefelau is o niwed neu aflonyddwch a gyflawnir gan y rhai sy’n gwrthod gadael tir, na’r rhai ar gyfer y drosedd newydd, gyda chamau gorfodi cymesur. Lle y bo’n bosibl, dylai’r heddlu gysylltu ag awdurdodau lleol wrth asesu pob achos unigol a dibynnu ar y dystiolaeth ym mhob achos i benderfynu ar y pwerau priodol i’w defnyddio.

Y drosedd newydd

Mae’r drosedd newydd o dan a60C i a60E o’r CJPOA fel a ganlyn:

Trosedd sy’n ymwneud â phreswylio ar dir heb ganiatâd mewn cerbyd neu gyda cherbyd, fel y cyflwynwyd gan Ddeddf 2022

Prif amodau’r drosedd- a60C(1)

Trosedd sy’n ymwneud â phreswylio ar dir heb ganiatâd mewn cerbyd neu gyda cherbyd yn gymwys:

  • a) pan fo’r person yn 18 oed neu’n hŷn;
  • b) os yw’r person yn byw, neu yn bwriadu byw, ar dir heb ganiatâd meddiannydd y tir;
  • c) os oes gan berson o leiaf un cerbyd gyda nhw ar y tir neu os yw’n bwriadu gwneud hynny;
  • d) os bodlonir un neu ragor o amodau yn is-adran 60C(4); a
  • e) pan wneir cais i’r person adael a/neu symud ei eiddo gan y meddiannydd, cynrychiolydd y meddiannydd neu gwnstabl.

Cyflwynwyd y drosedd hon gan Ddeddf 2022.

Amodau pellach y drosedd - a60C (2)

Cyflawnir trosedd pan fydd person yn bodloni’r holl amodau yn a60C (1) ac hefyd un o’r canlynol:

  • a) lle mae person yn methu â chydymffurfio â’r cais i adael cyn gynted ag sy’n rhesymol yn ymarferol; neu
  • b) os bydd person yn dychwelyd i’r tir neu yn mynd ar y tir gyda’r bwriad o fyw yno heb gael caniatâd ac sydd, neu’n bwriadu cael cerbyd gyda nhw, o fewn 12 mis i’r cais gael ei wneud.

Amodau penodol sy’n gysylltiedig â niwed - a60C (4)

Bydd person yn cael ei gyhuddo o gyflawni’r drosedd hon os yw wedi achosi, neu’n debygol o achosi, difrod, aflonyddwch neu ofid sylweddol ac wedi bodloni’r amodau eraill yn adran 60C(1) a (2).

Rhaid i gwnstabl ystyried a yw’r person wedi achosi neu’n debygol o achosi difrod, aflonyddwch neu ofid sylweddol. Am ddiffiniad o beth a olygir fel difrod, aflonyddwch a gofid sylweddol, gweler pennawd ‘sylweddol’ isod.

O dan a60C(4), gall person gyflawni’r drosedd os nad yw ar y tir eto ac os yw’n debygol o achosi difrod, aflonyddwch neu ofid sylweddol. Gellir gweld rhagor o fanylion yn yr is-adran ‘tebygol o achosi’ ymhellach ymlaen yn y canllawiau hyn.

Os bydd person yn cyflawni difrod, aflonyddwch neu ofid sylweddol ac yna’n gadael ymhellach i’r cais gan y meddiannydd/ei gynrychiolydd/cwnstabl, ni fydd y drosedd a60C yn gymwys oni bai ei fod yn dychwelyd i’r tir o fewn y cyfnod gwaharddedig o 12 mis. Fodd bynnag, mae’n bosib y gallai troseddau eraill sy’n ymwneud â difrod wedi’u cyflawni a dylid archwilio opsiynau lle y bo’n briodol.

Pŵer cysylltiedig i atafaelu a chadw cerbydau/eiddo arall - a60D

Bydd yr heddlu yn gallu arfer pwerau arestio ac atafaelu yn gysylltiedig â’r drosedd. Mae pŵer atafaelu yn cynnwys pŵer i atafaelu cerbyd ond nid yw’n gyfyngedig i hyn.

Os yw cwnstabl yn amau’n rhesymol bod trosedd wedi’i chyflawni o dan adran 60C, gall y cwnstabl atafaelu a symud i ffwrdd unrhyw eiddo perthnasol y mae’n ymddangos i’r cwnstabl:

  • a) i berthyn i’r person sy’n cael ei amau o fod wedi cyflawni’r drosedd;
  • b) i fod gan y person; neu
  • c) i fod o dan reolaeth y person

Mae a60D(2)(a) yn darparu y gellir atafaelu cerbyd ‘ble bynnag y’i lleolir’ os yw’r cwnstabl yn amau bod y person wedi cyflawni’r drosedd o dan a60C neu’n bwriadu gwneud hynny. I atafaelu ‘eiddo arall’, rhaid iddo fod ar y tir a oedd yn ddarostyngedig i’r cais i adael, fel y darperir gan adran 60D(2)(b).

Mae a60D(10) yn galluogi person i adfer eiddo os yw’n bodloni’r prif swyddog bod yr eiddo’n perthyn i’r person ar y pryd ac yn perthyn iddynt ar adeg y drosedd dybiedig o dan a60C.

Mae a60D(11) yn atal person arall rhag adfer y cerbyd sydd wedi’i atafael pan fo prif swyddog yr heddlu yn credu’n rhesymol fod y cerbyd ym meddiant neu reolaeth y troseddwr gyda chaniatâd y person hwnnw ar adeg y drosedd.

Caiff prif swyddog perthnasol yr heddlu gadw unrhyw eiddo sydd wedi’i atafaelu o dan is-adran (1) tan ddiwedd y cyfnod o dri mis sy’n dechrau ar ddiwrnod yr atafaeliad neu, os cychwynnir achos troseddol, hyd nes y daw’r achos hwnnw i ben.

Os penderfynir peidio â chyhuddo’r person, rhaid dychwelyd yr eiddo i’r person y credir sy’n berchennog cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

Os na all prif swyddog heddlu, ar ôl ymchwiliad rhesymol, adnabod perchennog y cerbyd:

  • a) rhaid i’r prif swyddog wneud cais i lys ynadon am gyfarwyddiadau, a
  • b) rhaid i’r llys wneud gorchymyn am sut i ymdrin â’r eiddo.

Pŵer cysylltiedig ar gyfer fforffedu - a60E

Os caiff person ei gollfarnu o’r drosedd o dan a60C, caiff y llys orchymyn i unrhyw gerbyd/eiddo arall sydd wedi’i atafaelu o dan a60D a’i gadw gan yr heddlu gael ei fforffedu.

Cosbau

Y gosb uchaf am y drosedd fydd tri mis o garchar neu ddirwy nad yw’n fwy na lefel 4 (£2,500) ar y raddfa safonol, neu’r ddau.

Esgus rhesymol

Ni fydd person yn cael ei gyhuddo o gyflawni’r drosedd os gall ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â chais i adael cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a symud ei eiddo neu, ar ôl cael y cais, mynd ar y tir (neu ddychwelyd iddo) gyda’r bwriad o fyw yno heb ganiatâd o fewn 12 mis i’r cais.

“Sylweddol”

Bydd amgylchiadau ffeithiol pob achos yn penderfynu a yw lefel ‘sylweddol’ o ddifrod, aflonyddwch neu ofid wedi’i achosi neu’n debygol o gael ei achosi a mater i’r heddlu a’r llysoedd fydd asesu hyn.

Bydd yr asesu hyn yn dibynnu ar ffeithiau unigol pob achos; mae’n bwysig cofio bod yn rhaid i achos o ddifrod, aflonyddwch neu ofid sylweddol gael ei achosi neu’n debygol o gael ei achosi gan ymddygiad neu breswyliad y person ar y tir. Gallai niwed, aflonyddwch neu ofid o’r fath gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • a) cymunedau lleol yn cael eu hatal rhag cael mynediad i gyfleusterau neu eu defnyddio, megis meysydd chwaraeon ysgol, parciau a meysydd parcio.
  • b) mae eiddo ar y tir wedi’i ddifrodi neu lle mae’r tir ei hun wedi’i ddifrodi, gan gynnwys tir amaethyddol.
  • c) mae gorfodi mynediad i’r tir wedi achosi difrod i osodiadau neu ffitiadau.
  • d) mae’r amgylchedd wedi’i ddifrodi, gan gynnwys taflu gormod o sbwriel, tipio anghyfreithlon, sŵn gormodol ac arogleuon o wastraff neu fwg oherwydd coelcerthi.
  • e) ymyrryd â chyflenwadau dŵr, ynni neu danwydd.
  • f) effeithio ar allu gweithwyr neu gwsmeriaid i gael mynediad i ganolfannau siopa, busnesau neu dir amaethyddol, os yw hyn yn arwain at golli defnydd cyfreithlon o’r tir.
  • g) gofid a achosir gan ymddygiad sarhaus fel cam-drin geiriol ac ymddygiad bygythiol. Gall hyn gynnwys elfen o ofid sy’n newid ymddygiad.

Dyma rai o’r ffactorau y gallai’r heddlu eu hystyried wrth asesu a yw difrod, aflonyddwch neu ofid yn sylweddol. Os yw’r heddlu o’r farn nad yw’r niwed yn sylweddol, yna ni fyddai’r drosedd o dan adran 60C yn berthnasol. Fodd bynnag, gellid defnyddio pwerau o dan a61 ac a62A o CJPOA 1994 o hyd, ond rhaid bod yr amodau’n cael eu bodloni.

Gallai rhai o’r ffactorau y bydd angen i’r heddlu eu hystyried gan feddwl am ymateb gorfodi priodol hefyd gynnwys:

  • Sut mae deiliaid y tir a defnyddwyr y tir yn cael eu heffeithio? Os nad yw’n bosib i dimau chwaraeon lleol ddefnyddio’r cyfleusterau oherwydd difrod a achosir gan bobl sy’n byw neu yn bwriadu byw ar dir, neu oherwydd bod tir wedi’i rwystro, yna gellid ystyried bod hyn yn ddifrod neu amharu sylweddol. Mae maint a graddfa’r tir a feddiannir/difrod a achosir yn berthnasol wrth ystyried sut bydd meddiannydd a defnyddwyr tir yn cael eu heffeithio.

  • Pa mor aml ydy’r tir yn cael ei ddefnyddio? Gallai pobl sy’n byw neu’n bwriadu byw ar ystad ddiwydiannol neu faes parcio canolfan siopa amharu’n sylweddol ar allu pobl i fynd o gwmpas eu busnes cyfreithlon a chael effaith ar fasnach. Fodd bynnag, os bydd gwersyll diawdurdod yng nghornel cae neu barc lleol, yna efallai na fydd yn achosi aflonyddwch sylweddol.

  • Pa difrod sy’n digwydd i’r amgylchedd? Ni fydd y llysoedd o’r farn bod ychydig o sbwriel yn gyfystyr â difrod sylweddol i’r tir. Fodd bynnag, gall yr heddlu/llysoedd ystyried bod arogleuon gormodol, sŵn, coelcerthi a mwy o sbwriel yn sylweddol.

Ni ddylid ystyried yr uchod yn rhestr gynhwysfawr. Efallai y bydd posibiliadau wedi’u rhestru uchod y gallai llys eu hystyried i fodloni’r trothwy “sylweddol” mewn rhai amgylchiadau. Bydd disgwyl i’r heddlu ddelio â phob achos yn unigol a phenderfynu drwy gasglu tystiolaeth a yw’r trothwy i fod yn sylweddol wedi’i fodloni. Os nad yw’r trothwy wedi’i fodloni, yna gellir defnyddio pwerau CJPOA eraill.

Pwerau presennol a phwerau cryfach i symud tresmaswyr oddi ar dir

Pwerau presennol i symud tresmaswyr oddi ar dir fel y cyflwynwyd yn y CJPOA ac a ddiwygiwyd gan Ddeddf 2022

Pŵer i symud tresmaswyr sydd â phwrpas cyffredin o fyw ar dir

Mewn achosion lle nad oes unrhyw niwed sylweddol wedi’i gyflawni gan dresmaswyr, gall yr heddlu benderfynu cymryd camau gorfodi eraill gan ddefnyddio a61 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, ond rhaid bod yr amodau ar gyfer hyn yn cael eu bodloni.

Mae a61yn rhoi pwerau i’r heddlu gyfarwyddo tresmaswyr ar dir sydd â phwrpas cyffredin o fyw yno am unrhyw gyfnod.

Mae’r pŵer hwn yn gymwys pan fydd uwch swyddog yn credu’n rhesymol fod dau neu fwy o bobl yn tresmasu ar dir gyda’r diben o fyw yno, bod y meddiannydd wedi cymryd camau rhesymol i ofyn iddynt adael, ac mae unrhyw un o’r canlynol wedi digwydd:

  • a) mae unrhyw un o’r tresmaswyr wedi achosi difrod, aflonyddwch, neu ofid neu
  • b) bod gan y tresmaswyr chwe cherbyd neu fwy ar y tir.

Mae’r amodau y gellir eu dal gan y pŵer i gyfarwyddo o dan 61(1) (a) wedi’u hymestyn o dan Ddeddf 2022. Mae’r rhain yn dyblygu’r difrod, aflonyddwch a’r gofid sydd wedi’u cynnwys yn y drosedd newydd, ond nid oes angen iddynt fod yn ‘sylweddol’.

Mae methu â chydymffurfio â’r cyfarwyddyd, drwy wrthod gadael y tir cyn gynted ag y bo’n rhesymol yn ymarferol a heb esgus rhesymol, yn drosedd.

Yn yr un modd, mae’n drosedd i dresmaswr sydd wedi gadael y tir yn unol â chyfarwyddyd i’w ddychwelyd fel tresmaswr o fewn 12 mis i’r cyfarwyddyd gael ei roi. Mae’r cyfnod dychwelyd gwaharddedig wedi’i ymestyn o 3 mis i 12 mis o dan Ddeddf 2022. Os bydd yr amod yn cael ei dorri, heb esgus rhesymol, bydd yr heddlu yn gallu arfer pwerau arestio ac atafaelu.

Os bydd cwnstabl yn amau’n rhesymol bod person wedi methu â symud ei gerbyd fel y gofynnwyd iddo, heb esgus rhesymol, neu wedi dychwelyd i’r tir fel tresmaswr o fewn 12 mis o’r cyfarwyddyd yn cael ei roi i adael, bydd cwnstabl yn gallu atafaelu a symud y cerbyd hwnnw o dan a62 o’r CJPOA.

Fel y cyflwynwyd gan Ddeddf 2022, gellir rhoi cyfarwyddyd o dan a61 i dresmaswyr ar dir sy’n rhan o briffordd lle bodlonir yr amodau eraill.

Os nad oes unrhyw niwed sylweddol wedi’i gyflawni, yna gall yr heddlu ddefnyddio pwerau a61 a gall awdurdodau lleol ddefnyddio pwerau eraill sydd eisoes ar gael iddynt.

Pwerau’r Heddlu i gyfeirio tresmaswyr i safle arall

Mae gan yr heddlu bwerau o dan a62A o’r CJPOA i gyfarwyddo tresmaswyr i adael tir a symud unrhyw gerbyd ac eiddo o’r tir lle mae cae addas ar gael ar safle carafannau mewn mannau eraill yn ardal yr awdurdod lleol, ar yr amod bod o leiaf un tresmaswr gyda’r diben o fyw yno, un cerbyd sy’n bresennol ar y tir ac mae meddiannydd neu berson sy’n gweithredu ar ei ran wedi gofyn i’r heddlu symud y tresmaswyr.

Mae methu â chydymffurfio â’r cyfarwyddyd, drwy wrthod gadael y tir cyn gynted ag y bo’n rhesymol yn ymarferol, heb esgus rhesymol, yn drosedd o dan a62B. Yn yr un modd, mae person yn cyflawni trosedd os yw’n mynd i mewn i unrhyw dir yn ardal yr awdurdod lleol perthnasol fel tresmaswr gyda’r bwriad o fyw yno o fewn 12 mis o’r cyfarwyddyd yn cael ei roi.

Yn unol ag a62C, os bydd cyfarwyddyd o dan a62A(1) yn cael ei dorri, heb esgus rhesymol, bydd yr heddlu’n gallu arfer pwerau arestio ac atafaelu.

Rheoliadau’r Heddlu (Cadw a Gwaredu Cerbydau) 1995/723

O dan a67 o’r CJPOA, gellir cadw unrhyw gerbydau sydd wedi’u hatafaelu a’u symud gan yr heddlu o dan a62(1), 62C(3), neu 64(4) yn unol â rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gwneir Rheoliadau’r Heddlu (Cadw a Gwaredu Cerbydau) 1995/723 o dan yr adran hon.

Mae’r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cadw, diogelu, gwaredu a dinistrio cerbydau a atafaelir o dan y pwerau hynny, gan yr heddlu neu bersonau a awdurdodwyd gan brif swyddog yr heddlu perthnasol.

O dan Rheoliad 4, mae’n ofynnol i’r awdurdod sy’n cadw’r cerbyd dan glo gymryd camau i roi hysbysiad i’r person yr atafaelwyd y cerbyd ganddo yn ei gwneud yn ofynnol iddynt hawlio’r cerbyd o fewn 21 diwrnod o’r diwrnod y rhoddir hysbysiad. Rhaid i’r hysbysiad ddatgan, oni bai bod y cerbyd yn cael ei hawlio ar neu cyn y dyddiad hwnnw, bod yr awdurdod yn bwriadu ei ddinistrio neu ei waredu. Rhaid i’r hysbysiad hefyd nodi y gallai fod rhaid i’r person hwnnw dalu ffioedd ac y gellir cadw’r cerbyd hyd nes bod y ffioedd yn cael eu talu.

Nodir lefel y ffioedd yn Rheoliad 9.

Os nad yw’r awdurdod yn gallu cyflwyno hysbysiad i berchennog y cerbyd, neu os yw’r person hwnnw yn gwrthod symud y cerbyd, caiff yr awdurdod waredu neu ddinistrio’r cerbyd yn unol â Rheoliad 6.

Mae rheoliad 6(5)(a) yn darparu, yn ddarostyngedig i Rheoliadau 6(5)(b) neu (c), na chaniateir i’r cerbyd gael ei waredu/ei ddinistrio cyn 3 mis o’r dyddiad atafael

Mae rheoliad 8 yn darparu, pan werthir cerbyd, bod yr enillion net o werthu yn daladwy i berchennog cerbyd, os bydd, o fewn blwyddyn i’r gwerthiant, yn bodloni’r awdurdod mai nhw oedd perchennog y cerbyd.

Digolledu i ddioddefwyr trosedd

Pan fydd troseddwr (sy’n cynnwys oedolyn neu sefydliad) yn cael ei gollfarnu o drosedd, mae a133 ac a134 Deddf Dedfrydu 2020 yn rhoi’r pŵer i’r llysoedd troseddol yng Nghymru a Lloegr osod gorchymyn digolledu. Mae gorchymyn digolledu yn ei gwneud yn ofynnol i’r troseddwr dalu am unrhyw anaf, colled neu ddifrod personol sy’n deillio o’r drosedd. Rhaid i’r llys roi rhesymau os yw’n penderfynu peidio â gwneud gorchymyn lle mae un ar gael.

Gellir gosod gorchymyn digolledu fel dedfryd yn ei hun, neu fel gorchymyn atodol ochr yn ochr â dedfryd arall megis dirwy neu orchymyn cymunedol.

Mae a135 Deddf Dedfrydu 2020 yn darparu bod rhaid i orchymyn digolledu bennu’r swm sydd i’w dalu, a bod yn rhaid i’r swm fod yn briodol yn ôl y llys wrth ystyried unrhyw dystiolaeth, gan gynnwys unrhyw sylwadau a wneir gan y troseddwr neu’r erlynydd. Nid oes terfyn statudol ar swm y digolledu y gellir ei osod ar gyfer troseddwr sy’n 18 oed neu’n hŷn. Fodd bynnag, wrth benderfynu a ddylid gwneud gorchymyn digolledu, ac wrth benderfynu ar y swm sydd i’w dalu o dan orchymyn o’r fath, rhaid i’r llys ystyried dull talu’r troseddwr.

Mae a137(4) Deddf Dedfrydu 2020 yn ei gwneud yn glir y gellir dyfarnu digolledu mewn perthynas â chostau penodol sy’n gysylltiedig â throseddau penodol sy’n ymwneud â gwastraff, a byddai’r rhain yn gyfystyr â cholled neu ddifrod at ddibenion gwneud gorchymyn digolledu. Gellir gwneud gorchymyn iawndal o blaid awdurdod lleol.

Defnyddio’r canllawiau

Wrth benderfynu ar y camau gorfodi priodol i’w cymryd mewn perthynas â’r drosedd newydd a phwerau gorfodi presennol CJPOA, dylai’r heddlu barhau i ystyried holl ffeithiau pob achos yn unigol. Bydd cyngor gweithredol NPCC ar gyfer mynd i’r afael â gwersylloedd diawdurdod a chanllawiau unigol yr heddlu yn darparu arferion gorau gweithredol a gellir eu defnyddio ochr yn ochr â’r canllawiau statudol hyn.

Mae’r darpariaeth ‘tebygol o achosi’ difrod, aflonyddwch neu ofid yn berthnasol i’r drosedd ac nid i’r darpariaethau presennol yn a61 neu a62.

Mae ystyriaethau posibl i’r heddlu yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) lefelau’r niwed canlynol a achoswyd ac, ar gyfer y drosedd newydd yn unig, lefelau’r niwed y mae person yn ‘debygol o’i achosi’:

  • a) niwed sydd wedi’i achosi gan y person.
  • b) pa ymyrraeth y mae person wedi’i achosi i adnoddau lleol megis cyflenwadau nwy a thrydan drwy eu presenoldeb, eu presenoldeb tebygol neu eu hymddygiad ar y tir.
  • c) niwed sydd wedi’i achosi gan y person i’r amgylchedd lleol, megis sŵn neu arogleuon gormodol drwy ei bresenoldeb, ei bresenoldeb tebygol neu ei ymddygiad ar y tir.
  • d) ymyrryd â gallu pobl i gael mynediad i’r tir neu ei ddefnyddio drwy bresenoldeb, presenoldeb tebygol neu ymddygiad y person ar y tir.
  • e) ymyrraeth bosibl â mwynhad heddychlon tai cyfagos.
  • f) niwed i gysylltiadau cymunedol da.
  • g) gofid a achosir gan ymddygiad camdriniol a/neu iaith neu ysgrifen neu arwyddion bygythiol, camdriniol neu sarhaus.
  • h) risg o anhrefn cyhoeddus neu ddiogelwch y cyhoedd.

Mae’r drosedd a60C ond yn berthnasol i’r unigolion hynny sy’n cyflawni neu sy’n debygol o gyflawni difrod, aflonyddwch neu ofid sylweddol.

Gwrthod gadael

Gellir gwneud cyfarwyddyd a61 i adael yn erbyn pob tresmaswr hyd yn oed os mai un aelod o’r gwersyll yn unig sy’n achosi’r difrod, yr aflonyddwch neu’r gofid, ond rhaid bod dau dresmaswr neu fwy ar y tir gyda’r bwriad o fyw yno. Gellir hefyd gwneud cyfarwyddyd i adael yn erbyn pob tresmaswr os na achosir unrhyw ddifrod, aflonyddwch na gofid ond mae chwech neu fwy o gerbydau ar y tir hwnnw. Mae a61 yn dibynnu ar gamau rhesymol yn cael eu cymryd gan y meddiannydd, neu ar ei ran, i ofyn i’r tresmaswyr adael ym mhob achos cyn y gellir defnyddio pwerau’r heddlu.

O dan a61, os bydd person yn methu â chydymffurfio â’r cais i adael cyn gynted ag y bo’n ymarferol (a fydd yn dibynnu ar ffeithiau’r achos), neu os yw’n dychwelyd fel tresmaswr i’r lleoliad o fewn 12 mis i’r cyfarwyddyd, heb esgus rhesymol, yna mae’n cyflawni trosedd a61.

Beth yw’r diffiniad o esgus rhesymol?

Gall person ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros wrthod gadael y tir cyn gynted ag y bo’n rhesymol yn ymarferol neu am ddychwelyd eto o fewn y cyfnod gwaharddedig.

Bydd disgwyl i’r heddlu ystyried beth yw esgus rhesymol yn dibynnu ar amgylchiadau ffeithiol pob achos unigol.

Mae’n annhebygol y bydd yr enghreifftiau canlynol yn cael eu hystyried i fod yn esgusodion resymol:

  • a) mae’r cerbyd wedi torri i lawr; mae’r ddeddfwriaeth yn datgan bod cerbyd yn unrhyw gerbyd, p’un a yw mewn cyflwr addas i’w ddefnyddio ar ffyrdd ai peidio ac yn cynnwys unrhyw ffrâm neu gorff cerbyd, gyda neu heb olwynion;
  • b) mynychu digwyddiadau;
  • c) mynychu apwyntiad, oni bai bod yr heddlu a’r llysoedd, am resymau meddygol, yn barnu bod esgus rhesymol dros fyw ar dir heb ganiatâd yn gymwys.

Materion lles

Dylai’r heddlu sicrhau, yn unol â’u rhwymedigaethau ehangach o ran cydraddoldeb a hawliau dynol, y cynhelir ymholiadau lles priodol i benderfynu a oes anghenion brys yn cael eu cyflwyno gan y rhai ar wersylloedd diawdurdod ac, lle bo angen, bod yr asiantaethau priodol (gan gynnwys Awdurdodau Lleol) yn cael eu cynnwys cyn gynted â phosibl.

Dylai’r heddlu ymdrin â phob achos yn unigol. Mae hyn yn cynnwys ystyried yr effaith bosibl y gallai rhoi cyfarwyddyd i adael, arestio person, neu ymafael mewn cerbyd ei chael ar y teuluoedd dan sylw ac ar y rhai sy’n agored i niwed, cyn gwneud penderfyniad gorfodi.

Os oes angen, gellid gohirio cymryd camau gorfodi yn erbyn y rhai ar y gwersyll diawdurdod tra bod anghenion lles brys yn cael sylw.

Mae gan yr heddlu bwerau i weithredu lle mae niwed sylweddol wedi’i achosi. Mater i’r heddlu yw penderfynu ar gamau gorfodi cymesur yn seiliedig ar amgylchiadau a thystiolaeth pob achos.

Cydraddoldeb

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn anghyfreithlon i drin â rhywun yn llai ffafriol nag eraill oherwydd ei nodwedd warchodedig, gan gynnwys hil (sy’n cynnwys tarddiad ethnig neu genedlaethol a chenedligrwydd unigolyn).

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, o dan a149 Deddf Cydraddoldeb 2010, yn gymwys i’r heddlu (fel awdurdod cyhoeddus) ac yn gosod dyletswydd ar yr heddlu i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl o wahanol grwpiau hiliol.

Cydnabyddir bod Sipsiwn, Roma a Theithwyr Gwyddelig, pob un yn grŵp hiliol penodol, yn rhannu nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae dilyn ffordd nomadaidd o fyw yn gyfreithlon. Mae gan y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr ffordd unigryw o fyw ac efallai y bydd angen i’w ffordd o fyw gael ei ystyried yn wahanol i gymunedau eraill neu’r gymdeithas ehangach.

Mae gan aelodau o’r gymuned Sipsiwn, Roma, Teithwyr, fel pob aelod o’r cyhoedd, yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol o dan Erthygl 8 Deddf Hawliau Dynol 1998.

Mae’r Llys Ewropeaidd wedi cydnabod bod ffordd nomadaidd o fyw yn ganolog i hunaniaeth Sipsiwn a Theithwyr.

Fodd bynnag, ni ddylai’r heddlu, ochr yn ochr â chyrff cyhoeddus eraill, roi gormod o bwysau ar ddeddfwriaeth hawliau dynol a chydraddoldeb. Mae gan yr heddlu bwerau cryf i ddelio â gwersylloedd diawdurdod ac wrth benderfynu pa gamau i’w cymryd, dylent ystyried y niwed a achosir gan y gwersyll diawdurdod (gan gynnwys y rhai a restrir ar dudalen 5 a 6) ac y gallai unigolyn gael ei amddifadu o’i eiddo lle darperir ar gyfer hyn yn ôl y gyfraith a lle mae cyfiawnhad dros wneud hynny er budd y cyhoedd.

Nid yw deddfwriaeth hawliau dynol yn atal gweithredu i ddiogelu adnoddau lleol a’r amgylchedd lleol; i gynnal trefn a diogelwch y cyhoedd; a diogelu iechyd y cyhoedd.

Mae’r cydbwysedd angenrheidiol rhwng buddiannau a hawliau teithwyr a phreswylwyr sefydlog yn adlewyrchu’r sefyllfa o ran hawliau cymwys yn Neddf Hawliau Dynol 1998/Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (“ECHR”) a’r angen i gynnal cysylltiadau cymunedol da o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Tebygol o achosi

Mewn perthynas â’r drosedd newydd o dan a60C yn unig, bydd person yn cyflawni trosedd os yw wedi achosi, neu’n debygol o achosi, difrod, aflonyddwch neu ofid sylweddol tra’n byw yno neu’n bwriadu byw yno. Mae hyn yn galluogi’r heddlu i atal niwed sylweddol pellach, yn hytrach nag aros nes bod difrod wedi digwydd eto, mewn lleoliad arall neu’r un lleoliad cyn gweithredu. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn pan fydd rhai sy’n achosi difrod, yn gadael ac yn symud i ardal arall nad yw’n bell i ffwrdd neu’n dychwelyd, heb gael caniatâd y meddiannydd.

Fel y mae gyda throseddau eraill, bydd angen i’r heddlu gasglu tystiolaeth i ffurfio sail resymol dros amau bod person wedi cyflawni’r drosedd a bydd y drosedd ond wedi cael ei chyflawni lle mae amodau penodol wedi’u bodloni.

Bwriadu byw

Fel y mae gyda ‘tebygol o achosi’, bydd angen i’r heddlu asesu pob achos yn unigol ac ystyried a oes bwriad i fyw yno. Un enghraifft o hyn yw lle na fyddai person ar y tir eto ond ei fod mewn cerbyd yn agos iawn i’r tir ac mae eisoes wedi gosod nifer o’i feddiannau ar y tir, gan awgrymu bwriad posibl i fyw yno.

Atal gwersyll diawdurdod rhag dychwelyd

Dilyn camau gorfodi

Pan fydd tresmaswr neu wersyll diawdurdod yn dychwelyd o dan yr amodau a bennir a lle mae’r heddlu wedi defnyddio eu pwerau o dan CJPOA fel y diwygiwyd gan Ddeddf 2022 i’w dileu, dylai’r heddlu ystyried cymryd camau gorfodi pellach.

Dyma’r amgylchiadau lle dylai’r heddlu ystyried camau gorfodi pellach:

  • trosedd a60C - pan fydd person yn dychwelyd gyda’r bwriad o fyw yno mewn cerbyd neu gyda cherbyd o fewn 12 mis i gael ei gyfarwyddo i adael, heb esgus rhesymol.
  • trosedd a61 – pan fydd person wedi gadael y tir ar ôl cael cyfarwyddyd i adael, yn dychwelyd i’r tir eto fel tresmaswr o fewn cyfnod o 12 mis heb esgus rhesymol.

Dylai fod gan yr heddlu systemau wedi’u sefydlu i gofnodi data fel y gallant wybod a yw tresmaswr neu wersyll yn dychwelyd i’r un lleoliad neu’n symud i leoliad arall i gyflawni (neu mewn rhai achosion yn debygol o gyflawni) trosedd er mwyn gwneud y defnydd gorau o’u pwerau gorfodi.

Ffynonellau ychwanegol o wybodaeth

Gallai’r heddlu hefyd gyfeirio at y dogfennau canllawiau a’r adnoddau canlynol: Dealing with illegal and unauthorised encampments - GOV.UK (www.gov.uk)

The Police (Retention and Disposal of Motor Vehicles) Regulations 1995 for powers of seizure

NPCC operational advice

Rhestr termau

Priffordd: Gellir dehongli hyn yn fras. Ym Mwrdeistref Southwark yn Llundain ac Un arall v. Trafnidiaeth Llundain [2018] UKSC 63, roedd y Goruchaf Lys o’r farn bod priffordd yn “ffordd lle mae gan y cyhoedd hawliau tramwy, boed ar droed, ar gefn ceffyl neu mewn (neu ar) cerbydau”.

Deddf Hawliau Dynol 1998: Deddf a basiwyd ym 1998, ac a ddaeth i rym ym mis Hydref 2000, sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus weithredu yn unol â’r hawliau a’r rhwymedigaethau a nodir yn y Ddeddf.

Tir: Nid yw’n cynnwys adeiladau ac eithrio— (a) adeiladau amaethyddol o fewn ystyr paragraff 3 i 8 o Atodlen 5 i yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, neu (b) henebion cofrestredig o fewn ystyr Deddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979.

Cymesuredd: Y syniad na ddylai camau gorfodi fynd ymhellach na’r angen i atal neu fynd i’r afael â’r niwed a gyflawnwyd neu sy’n debygol o gael ei gyflawni ac y dylid sicrhau cydbwysedd teg rhwng hawliau’r unigolyn a buddiannau’r gymuned.

Meddiannydd: Y person sydd â hawl i feddiannu’r tir yn rhinwedd ystâd neu fuddiant a ddelir gan y person, gan gynnwys person sy’n rhentu’r tir.

Eiddo perthnasol:

  • cerbyd y mae’r heddlu’n amau bod y person wedi neu’n bwriadu ei gael gydag ef at ddibenion y drosedd o dan adran 60C neu
  • unrhyw eiddo arall ar y tir a oedd yn rhan o’r cais i adael.
Cerbyd: Mae cerbyd yn cynnwys unrhyw gerbyd, p’un a yw mewn cyflwr addas i’w ddefnyddio ar ffyrdd ai peidio, ac mae’n cynnwys unrhyw ffram neu gorff cerbyd, gyda neu heb olwynion. Mae carafannau disymud y gellir eu symud wedi’u cynnwys.