Guidance

Cyfarwyddyd Cyllido ar gyfer awdurdodau lleol i gefnogi Cynlluniau Adsefydlu’r Deyrnas Unedig (accessible)

Updated 4 January 2023

Gweithrediadau Adsefydlu
Lunar House
Croydon
CR9 2BY

Blwyddyn Ariannol 2022-2023

Dyddiad cyhoeddi 19/07/2022

Fersiwn 1.0

© Hawlfraint y Goron 2021

Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i drwyddedu o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored v3.0 ac eithrio lle nodir yn wahanol. I weld y drwydded hon, ewch i nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3 neu ysgrifennwch at Information Policy Team, The National Archives, Kew, London TW9 4DU, neu e-bostiwch: psi@nationalarchives.gsi.gov.uk.

Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti bydd angen i chi gael caniatâd gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw. Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn www.gov.uk/government/publications

Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y cyhoeddiad hwn atom yn: ResettlementLAPaymentsTeam@homeoffice.gov.uk

Telerau ac amodau cyllid

1. Diffiniadau

1.1. Mae “Oedolyn” at ddiben y ddarpariaeth Saesneg yn golygu Ffoadur sy’n 19 oed neu’n hŷn, neu sy’n troi’n 19 oed o fewn y deuddeg (12) Mis cyntaf ar ôl cyrraedd y DU.

1.2. Mae “Atodiad” yn golygu’r atodiadau sydd ynghlwm wrth y Cyfarwyddyd Cyllido hwn.

1.3. Mae’r “Awdurdod” yn golygu Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref sy’n gweithredu drwy’r Gweithrediadau Adsefydlu ar ran y Goron.

1.4. Mae “Noddwr Cymunedol” (neu “Noddwr”) yn golygu grŵp neu sefydliad sydd:

1.4.1. yn bodoli ac yn gweithio er budd y gymuned yn hytrach na chyfranddalwyr preifat, a

1.4.2. sydd wedi’i gofrestru naill ai fel elusen (neu o 2013 ymlaen fel Sefydliad Elusennol Corfforedig), neu’n gwmni buddiant cymunedol, neu’n unigolyn neu’n gorff sy’n dod o fewn Adran 10(2)(a) o Ddeddf Elusennau 2011, a

1.4.3. sydd wedi’i gymeradwyo gan yr Awdurdod i gefnogi Ffoaduriaid sy’n dod i’r DU drwy’r Cynlluniau, a

1.4.4. sy’n gallu hawlio Cyllid i gefnogi Darpariaeth Iaith Saesneg i Ffoaduriaid sy’n Oedolion fel yn Atodlen 1 Rhan 6 a Chostau Gwag yn Atodiad E.

1.5. Mae “Cymal” yn golygu’r cymalau yn y Cyfarwyddyd Cyllido hwn.

1.6. Mae’r “Cynllun Nawdd Cymunedol” yn golygu’r rhaglen a ddatblygwyd gan yr Awdurdod i alluogi Noddwr Cymunedol i gefnogi Ffoaduriaid am gyfnod o bedwar ar hugain (24) Mis ar ôl iddynt gyrraedd y DU o dan Y Cynlluniau.

1.7. Mae “Ffactorau Llwyddiant Allweddol” yn golygu’r dangosyddion sydd eu hangen i asesu llwyddiant y Cyllid yn ôl ei ganlyniad arfaethedig.

1.8. Mae “Deddfwriaeth Diogelu Data” yn golygu (i) y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (“UKGDPR”) gan gynnwys y Gyfarwyddeb Gorfodi’r Gyfraith ac unrhyw Ddeddfau gweithredu cymwys fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd, (ii) Deddf Diogelu Data 2018 (“DPA 2018”) i’r graddau y mae’n ymwneud â phrosesu Data Personol a phreifatrwydd, a (iii) yr holl Gyfraith berthnasol ynghylch prosesu Data Personol a phreifatrwydd.

1.9. Mae’r “Protocol Rhannu Data” (neu’r “DSP”) yn golygu’r set o egwyddorion y manylir arnynt yn Atodiad C sy’n llywodraethu’r prosesau a’r agweddau ymarferol ar rannu gwybodaeth rhwng yr Awdurdod a’r Derbynnydd, ac y mae’r Derbynnydd yn cytuno i gadw atynt a chydymffurfio â nhw.

1.10. Mae “Diwrnod” yn golygu unrhyw ddiwrnod calendr o ddydd Llun i ddydd Sul (yn gynwysedig).

1.11. Mae “Partner Cyflenwi” yn golygu unrhyw Drydydd Parti, boed yn sefydliad neu’n unigolyn sy’n gweithio gyda’r Derbynnydd, p’un ai’n derbyn tâl ai peidio, wrth gyflwyno’r Cyfarwyddyd Cyllido hwn ar gyfer darparu’r Pwrpas.

1.12. Mae “Gwariant Cymwys” yn golygu’r holl gostau, treuliau, atebolrwyddau a rhwymedigaethau sy’n gysylltiedig â, wedi’u tynnu gan, neu o gyflawni gweithgareddau a gweithrediadau’r Pwrpas gan y Derbynnydd, yn ystod y cyfnod ariannu 01 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023 ac sy’n cydymffurfio ym mhob ffordd â’r rheolau cymhwysedd a nodir yn y Cyfarwyddyd hwn fel y’u pennir gan yr Awdurdod yn ôl ei ddisgresiwn llwyr.

1.13. Mae “ESOL”[footnote 1] yn golygu ‘Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill’ ffurfiol, neu gymorth ar gyfer sgil iaith ffurfiol arall cyfatebol.

1.14. Mae “Cydlynydd Rhanbarthol ESOL” yn golygu person a gyflogir i gydlynu darpariaeth Hyfforddiant Iaith i fudwyr cymwys a ddygir i’w Rhanbarth SMP drwy’r Cynlluniau.

1.15. Mae “Costau Eithriadol” yn golygu treuliau ychwanegol a dynnir gan Dderbynnydd wrth gefnogi Ffoadur y mae gan yr Awdurdod gyllideb ar ei gyfer ac y gall, ar sail achos wrth achos, gytuno i’w had-dalu.

1.16. Mae “Ardal Rhannu Ffeiliau” (neu’r “FSA”) yn golygu’r ardal ddynodedig o fewn MOVEit lle gall Derbynnydd gyrchu ffeiliau y mae’r Awdurdod wedi’u darparu i’w rhannu.

1.17. Mae “Hyfforddiant Iaith Ffurfiol”[footnote 2] yn golygu darpariaeth ESOL a ddylai, lle bo modd, arwain at Ffoaduriaid yn ennill cymwysterau achrededig gan ddarparwr a reoleiddir gan gorff cenedlaethol priodol (h.y. OFQAL, SQA neu Cymwysterau Cymru). Mae hyn hefyd yn cynnwys cyrsiau nad ydynt eu hunain yn arwain at gymhwyster achrededig, ond sy’n helpu Ffoaduriaid i gael mynediad yn ddiweddarach at gwrs sy’n arwain at gymhwyster achrededig. Er enghraifft, darpariaeth heb ei rheoleiddio a gynigir gan ddarparwyr ar lefel cyn mynediad, lle nad oes unrhyw gymwysterau achrededig. Rhaid i bob hyfforddiant iaith ffurfiol fodloni’r nodweddion allweddol dilynol:

1.17.1. Arweinir eu cyflwyniad gan diwtoriaid cymwys, a

1.17.2. Maent yn briodol i alluoedd Ffoaduriaid unigol fel y’u nodir yn dilyn asesiad diagnostig dan arweiniad tiwtor ESOL cymwys, a

1.17.3. Maent yn dilyn cwricwla cytunedig[footnote 3].

1.18. Mae’r “Cyfarwyddyd Cyllido” (neu’r “Cyfarwyddyd”) yn golygu’r ddogfen hon sy’n disgrifio’r amodau y gall Derbynnydd hawlio Cyllid oddi tanynt.

1.19. Mae “Cyllid” yn golygu cyfraniadau ariannol yr Awdurdod tuag at Wariant Cymwys Derbynnydd a dynnir i gefnogi Ffoaduriaid am hyd at chwe deg (60) Mis ar ôl iddynt gyrraedd y DU ac yn unol â thelerau a chanlyniadau’r Cyfarwyddyd hwn.

1.20. Mae “Hyfforddiant Iaith Anffurfiol”[footnote 4] yn golygu darpariaeth hyfforddiant iaith nad oes ganddi unrhyw un neu bob un o’r nodweddion a ddisgrifir yn 1.17, er enghraifft, gall ddigwydd mewn unrhyw leoliad, gall fod â chwricwlwm wedi’i osod neu beidio, ac fel arfer caiff ei darparu mewn mewn ffordd strwythuredig neu led-strwythuredig, a ddarperir gan amrywiaeth o bobl gan gynnwys gwirfoddolwyr. Gall gynnwys magu hyder, dinasyddiaeth weithgar a llu o weithgareddau hamdden neu gymunedol.

1.21. Mae “Deddfau Gwybodaeth” yn golygu Deddfwriaeth Diogelu Data, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (“FOIA”) a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (“EIR”) sydd mewn grym, ac unrhyw Ddeddfau gweithredu cymwys fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

1.22. Mae “Ysgrifenedig” yn golygu dulliau o gynrychioli neu atgynhyrchu geiriau mewn ffurf weladwy gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ohebiaeth bapur, e-bost, arddangos ar sgrin a throsglwyddo electronig.

1.23. Mae “Deddf” yn golygu unrhyw ddeddf, statud, is-ddeddf, rheoliad, gorchymyn, polisi rheoleiddio, canllawiau neu god diwydiant, dyfarniad llys barn perthnasol, neu gyfarwyddebau neu ofynion unrhyw gorff rheoleiddio, deddfwriaeth ddirprwyedig neu is-ddeddfwriaeth sy’n berthnasol.

1.24. Mae’r “Gweinyddwr Lleol” yn golygu uwch aelod o staff y Derbynnydd a fydd yn gweithredu fel yr un pwynt cyswllt ar gyfer awdurdodi mynediad i ASB dynodedig y Derbynnydd o fewn MOVEit.

1.25. Mae “Mis” yn golygu mis calendr.

1.26. Mae “MOVEit” yn golygu gwasanaeth rhannu ffeiliau dwy ffordd ar-lein yr Awdurdod sy’n caniatáu rhannu data Swyddogol a Swyddogol Sensitif (IL2) ag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus anadrannol a sefydliadau allanol, mewn amgylchedd cwbl ddiogel. Mae ffeiliau gan gynnwys PDFs, pob math o ddogfennau Office, delweddau a WinZip hyd at 2GB mewn maint yn gallu cael eu rhannu.

1.27. Mae “Gordaliad” yn golygu Cyllid a delir gan yr Awdurdod i’r Derbynnydd sy’n fwy na’r swm sy’n ddyledus mewn gwirionedd.

1.28. Mae gan “Data Personol” yr ystyr a roddir iddo yn Neddfwriaeth Diogelu Data’r DU;

1.29. Mae “Derbynnydd” yn golygu awdurdod lleol neu ranbarthol sy’n cymryd rhan y mae’r Awdurdod wedi cytuno i ddarparu Cyllid iddo o dan y Cyfarwyddyd hwn fel cyfraniad tuag at wariant cymwys sy’n cefnogi Ffoaduriaid.

1.30. Mae “Ffoadur” yn golygu person cymwys sydd, waeth beth fo’i genedligrwydd, sydd

1.30.1. wedi cael ei dderbyn fel un sydd angen ei adsefydlu gan yr Awdurdod yn dilyn atgyfeiriad gan Uchel Gomisiynydd Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig (UNHCR),a sydd

1.30.2. wedi cyrraedd y DU ar ôl cael ei dderbyn i’r Cynlluniau,

1.30.3. ac wedi cael ei adsefydlu yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.

1.31. Mae “Atodlen” yn golygu’r Atodlenni sydd ynghlwm wrth y Cyfarwyddyd Cyllido hwn.

1.32. Mae “Y Cynlluniau” yn golygu rhaglenni cymorth dyngarol llywodraeth y DU sy’n cefnogi Ffoaduriaid lle penderfynwyd bod adsefydlu er eu lles gorau. Yr eithriadau yw Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (ACRS) a Pholisi Adleoli a Chymorth Affganistan (ARAP), ynghyd â Dinasyddion Prydeinig Cymwys, sy’n cael eu cynnwys mewn Cyfarwyddyd Cyllido ar wahnân.

1.33. Mae “Staff” yn golygu unrhyw berson a gyflogir neu a gyflogir dros dro gan y Derbynnydd ac sy’n gweithredu mewn cysylltiad â gweithredu’r Cyfarwyddyd hwn gan gynnwys perchnogion, cyfarwyddwyr, aelodau, ymddiriedolwyr, cyflogeion, asiantau, cyflenwyr, gwirfoddolwyr a Phartneriaid Cyflenwi (a’u cyflogeion, asiantau, cyflenwyr a Phartneriaid Cyflenwi priodol) a ddefnyddir i gyflawni’r canlyniadau a ariennir.

1.34. Mae “SMP” yn golygu Partner Mudo Strategol.

1.35. Mae “Trydydd Parti” yn golygu unrhyw barti boed yn berson neu’n sefydliad heblaw’r Awdurdod neu’r Derbynnydd;

1.36. Mae “Diwrnod Gwaith” yn golygu unrhyw ddiwrnod o ddydd Llun i ddydd Gwener (yn gynwysedig) ac eithrio unrhyw wyliau cyhoeddus cydnabyddedig yn y DU.

2. Y cyfarwyddiad hwn

2.1. Mae’r Cyfarwyddyd hwn yn cynnwys tair ar ddeg (13) o Erthyglau, un (1) Atodlen, a saith (7) Atodiad ac mae’n disodli unrhyw gyfarwyddiadau cyllido a gyhoeddwyd yn flaenorol gan yr Awdurdod sy’n darparu cyfraniadau ariannol tuag at gostau Derbynwyr a dynnir i gefnogi Ffoaduriaid.

2.2. Mae’r Cyfarwyddyd hwn yn darparu Cyllid sy’n galluogi Derbynnydd i gefnogi Ffoaduriaid:

2.2.1. yn ystod y deuddeg (12) mis cyntaf ar ôl cyrraedd y DU, gan gynnwys costau addysgol (BLWYDDYN 1) – Atodlen 1, Rhan 1,

2.2.2. yn ystod y pedwar deg wyth (48) mis dilynol (BLYNYDDOEDD 2 – 5) – Atodlen 1, Rhan 2,

2.2.3. ar y Cynllun Nawdd Cymunedol – Atodlen 1, Rhan 3,

2.2.4. i wella eu sgiliau iaith Saesneg er mwyn cynorthwyo ag integreiddio a gwella cyflogadwyedd – Atodlen 1, Rhan 4, ac

2.2.5. ag anghenion gofal plant i fynychu Hyfforddiant Iaith Ffurfiol – Atodlen 1, Rhan 5.

3. Cwmpas

3.1. Gellir gwneud hawliadau o dan y cyfarwyddyd hwn ar gyfer ffoaduriaid sydd wedi cyrraedd y DU o dan un o’r cynlluniau adsefydlu dyngarol dilynol:

3.1.1. Dechreuodd Cynllun Adsefydlu’r DU (UKRS) ym mis Mawrth 2021. Ei ddiben yw adsefydlu ffoaduriaid agored i niwed sydd angen eu hamddiffyn rhag ystod o ranbarthau o wrthdaro ac ansefydlogrwydd ledled y byd. Bydd y niferoedd a ailsefydlir oddi tano yn seiliedig ar gapasiti awdurdodau lleol, ac adferiad o bandemig COVID-19. Bydd plant ar eu pen eu hunain sy’n cael eu hadsefydlu o dan UKRS (oni bai mewn amgylchiadau eithriadol) yn cael eu trin yn yr un modd â Phlant ar eu Pen eu Hunain sy’n Ceisio Lloches (UASC) at ddibenioncyllido, a bydd awdurdodau lleol sy’n derbyn plant ar eu pen eu hunain o dan y Cynllun yn cael eu had-dalu yn unol â Chyfarwyddyd Cyllido UASC y flwyddyn berthnasol nid y Cyfarwyddyd hwn.

3.1.2. Cynllun Adsefydlu Pobl sy’n Agored i Niwed Syria (VPRS) a lansiwyd ym mis Ionawr 2014 ac a gaewyd i newydd-ddyfodiaid ar 25 Chwefror 2021. Darparodd VPRS noddfa i’r rhai a oedd yn ffoi rhag gwrthdaro yn Syria i wledydd cyfagos yn benodol Gwlad yr Iorddonen, Irac, Libanus, Twrci a’r Aifft.

3.1.3. Y Cynllun Adsefydlu Plant sy’n Agored i Niwed (VCRS) a lansiwyd ym mis Ebrill 2016 ac a gaewyd i newydd-ddyfodiaid ar 25 Chwefror 2021. Cynlluniwyd VCRS yn benodol i adsefydlu plant sy’n ffoaduriaid sy’n agored i niwed a’u teuluoedd o ranbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (MENA).

3.1.4. Y Rhaglen Diogelu Porth (GPP) a lansiwyd yn 2004 ac a gaewyd i newydd-ddyfodiaid ym mis Mawrth 2020. Darparodd y GPP loches i’r rhai a oedd yn ffoi rhag gwrthdaro a cham-drin hawliau dynol mewn gwledydd gan gynnwys Somalia, Swdan, Myanmar, Palestina, Affganistan a Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo.

3.2. I gefnogi’r ymrwymiadau hyn ymhellach, mae’r Cynllun Nawdd Cymunedol wedi’i ddatblygu gan alluogi Noddwyr i ddarparu cymorth cofleidiol cynhwysfawr i Ffoaduriaid am gyfnod o ddwy (2) flynedd, yn lle’r Derbynnydd.

3.3. Prif ddiben y Cynlluniau yw adsefydlu Ffoaduriaid mewn ffordd sy’n:

3.3.1. Sicrhau diogelwch cenedlaethol a diogelwch y cyhoedd, a

3.3.2. Sicrhau bod lles y bobl agored i niwed a’r cymunedau croesawgar yn ganolog i’r broses o wneud penderfyniadau, a

3.3.3. Rhoi gwerth am arian i drethdalwyr y DU.

3.4. Mae’r Cynlluniau’n cael eu rhedeg mewn partneriaeth ag Uchel Gomisiwn y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (yr ‘UNHCR’). Maent yn dangos cefnogaeth y DU i ymdrech fyd-eang yr UNHCR i leddfu’r argyfwng dyngarol trwy ddarparu cyfleoedd adsefydlu i bobl agored i niwed mewn cymunedau yn y DU sydd:

3.4.1. wedi cofrestru gyda’r UNHCR; a

3.4.2. mae’r UNHCR yn ystyried eu bod yn bodloni un o’u categorïau cyflwyno ar gyfer adsefydlu [footnote 5].

3.5. Mae’r Awdurdod yn gyfrifol am nodi Ffoaduriaid sy’n gymwys i’w hadsefydlu yn y DU mewn cysylltiad â’r UNHCR.

3.6. Mae’r Derbynnydd wedi gwneud ymrwymiadau i gefnogi’r Cynlluniau, ac mae’r Awdurdod wedi cytuno i ddarparu Cyllid i’r Derbynnydd fel cyfraniad at gefnogi Ffoaduriaid am hyd at bum (5) mlynedd ar ôl cyrraedd y DU gyntaf fel y disgrifir ymhellach yn y Cyfarwyddyd hwn.

3.7. Oni nodir yn benodol fel arall, bydd unrhyw Gyllid yn ymwneud â chostau Derbynnydd wrth gyflawni ei ddyletswyddau statudol ac unrhyw beth y cytunir arno fel arall gyda’r Awdurdod.

3.8. Bydd y Derbynnydd yn rhydd i benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio’r Cyllid ond at ddibenion monitro a gwerthuso Cynlluniau rhaid iddo allu dangos bod y Cyllid wedi’i ymrwymo i gefnogi Ffoaduriaid a hyrwyddo nodau’r Cynlluniau.

4. Hyd

4.1. Mae’r Cyfarwyddyd hwn yn nodi o dan ba delerau y bydd yr Awdurdod yn sicrhau bod Cyllid ar gael i’r Derbynnydd, mewn perthynas â gwariant a dynnir i gefnogi Ffoaduriaid a ddygwyd i’r DU o dan y Cynllun yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023.

4.2. Yn unol â pholisïau cyllido sefydledig Trysorlys EM, bydd yr Awdurdod yn cyhoeddi cyfarwyddyd newydd ar gyfer pob blwyddyn ariannol y cymeradwyir Cyllid ar ei chyfer. Bydd hyn yn digwydd p’un a wneir unrhyw newidiadau ai peidio.

5. Tryloywder, cyfrinachedd, diofelu data a rhannu data

5.1. Mae’r Derbynnydd yn cydnabod y gall trefniadau cyllid grant a gyhoeddir gan adrannau’r llywodraeth gael eu cyhoeddi ar wefan gyhoeddus ac y bydd yr Awdurdod yn datgelu taliadau a wnaed yn ôl y Cyfarwyddyd hwn yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth y DU i effeithlonrwydd, tryloywder ac atebolrwydd.

5.2. Mae’r Derbynnydd yn ymrwymo i gadw’n gyfrinachol ac i beidio â datgelu, ac i sicrhau bod ei staff yn cadw’n gyfrinachol ac nad yw’n datgelu unrhyw wybodaeth y mae wedi’i chael o ganlyniad i’r Cyfarwyddyd hwn.

5.3. Nid oes dim yn yr Erthygl 5 hon yn berthnasol i wybodaeth sydd eisoes yn y parth cyhoeddus neu feddiant y Derbynnydd ac eithrio oherwydd torri’r Erthygl 5 hon. Ymhellach, ni fydd yr Erthygl 5 hon yn berthnasol i wybodaeth y mae’n ofynnol ei datgelu yn unol ag unrhyw ddeddf neu yn unol â gorchymyn unrhyw lys neu gorff statudol neu reoleiddiol.

5.4. Bydd y Derbynnydd a’r Awdurdod yn cydymffurfio bob amser â’u rhwymedigaethau priodol o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

5.5. Bydd y Derbynnydd yn sicrhau bod unrhyw wybodaeth bersonol sy’n ymwneud ag unrhyw Ffoadur a ddatgelir iddo wrth gyflawni’r Cynlluniau hyn yn cael ei thrin yn gyfrinachol a dim ond yn unol â darpariaethau Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU y dylid ei datgelu i drydydd parti. Os bydd unrhyw amheuaeth yn codi, bydd y mater yn cael ei gyfeirio at yr Awdurdod a bydd ei benderfyniad ar y mater yn derfynol. Yn benodol, bydd y Derbynnydd yn:

5.5.1. trefnu bod polisïau a gweithdrefnau priodol ar waith i gydnabod a chynnal angen y Ffoadur am gyfrinachedd; a

5.5.2. sicrhau, heb ganiatâd Ffoadur, nad yw manylion y Ffoadur unigol hwnnw’n cael eu rhyddhau i unrhyw sefydliad nad yw’n rhan o’r Cyfarwyddyd hwn.

5.6. Ni fydd y Derbynnydd yn defnyddio unrhyw wybodaeth y mae wedi’i chael o ganlyniad i gyflawni’r Cynlluniau (gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw wybodaeth yn ymwneud ag unrhyw Ffoadur) mewn unrhyw fodd sy’n anghywir neu’n gamarweiniol.

5.7. Ar ôl derbyn data personol gan yr Awdurdod, bydd y Derbynnydd yn dod yn rheolydd annibynnol o’r data hwnnw yn yr ystyr y bydd y Derbynnydd, wrth gyflawni’r Cynlluniau, ar unrhyw adeg yn pennu pwrpas a dull prosesu’r data personol. Wrth wneud hynny byddant yn cydymffurfio â’r Ddeddfwriaeth Diogelu Data berthnasol mewn perthynas â phrosesu Data Personol o’r fath, yn gyfrifol yn unigol ac ar wahân am ei gydymffurfiaeth ei hun ac mewn perthynas â phrosesu Data Personol fel Rheolydd annibynnol, yn gweithredu ac yn cynnal mesurau technegol a sefydliadol priodol i sicrhau lefel o ddiogelwch sy’n briodol i’r risg honno, gan gynnwys, fel y bo’n briodol, y mesurau y cyfeirir atynt yn Erthygl 32(1)(a), (b), (c) a (d) o’r GDPR, a bydd y mesurau, o leiaf, yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddfwriaeth Diogelu Data, gan gynnwys Erthygl 32 o’r GDPR.

5.8. Os bydd unrhyw ddatgeliad anawdurdodedig, mae’r Derbynnydd yn gyfrifol am ddilyn ei drefniadau diogelu data lleol a chyfeirio unrhyw doriad data personol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o fewn 72 awr i nodi’r digwyddiad cychwynnol.

5.9. Os bydd unrhyw ddatgeliad anawdurdodedig rhaid hysbysu’r Awdurdod ar unwaith. Bydd yr Awdurdod yn penderfynu pa gamau adferol, os o gwbl, y dylid eu cymryd a bydd y Derbynnydd yn rhwym i benderfyniad yr Awdurdod ac yn cadw ato.

5.10. Lle bo Derbynnydd yn gyfrifol am ddatgeliad anawdurdodedig sy’n torri’r Cyfarwyddyd hwn, bydd y Derbynnydd hwnnw’n atebol am unrhyw ganlyniadau i ddatgeliad anawdurdodedig o’r fath, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) unrhyw atebolrwydd sifil neu droseddol.

5.11. Cyn gadael am y DU, bydd Ffoaduriaid wedi llofnodi ffurflen ganiatâd yn cadarnhau eu parodrwydd i rannu data personol â chyrff gweithredol a phartneriaid cyflawni perthnasol. Bydd yr Awdurdod yn cadw’r ffurflenni hyn ac yn caniatáu i’r Derbynnydd eu harchwilio yn ôl y gofyn.

5.12. Mae’r Awdurdod hefyd yn disgwyl i’r Derbynnydd rannu gwybodaeth berthnasol am gyflawni’r Cynlluniau ac am Ffoaduriaid gyda’i bartneriaid; cyn gwneud hynny, rhaid i’r Derbynnydd sicrhau bod cytundeb ffurfiol wedi’i lofnodi gyda’r darparwyr perthnasol o’r Cynlluniau sy’n llifo i lawr telerau’r Protocol Rhannu Data.

5.13. Rhaid rhannu Ffurflen Gofrestru Adsefydlu (RRF) UNHCR neu unrhyw ddogfen gysylltiedig arall a grëwyd gan yr UNHCR am ffoadur gyda phartneriaid cyflenwi ar sail angen llym i wybod yn unig.

5.14. Rhaid peidio â rhannu’r RRF a dogfennau cysylltiedig â’r ffoadur dan sylw, nac ag unrhyw barti arall y tu allan i’r partneriaid cyflawni priodol, heb gytundeb penodol swyddfa UNHCR yn Llundain.

5.15. Rhaid cyfeirio pob cyswllt a wneir gan unrhyw berson neu sefydliad nad yw’n rhan o’r Cyfarwyddyd hwn mewn perthynas â chyflawni i gyllido’r Cynlluniau at swyddfa wasg yr Awdurdod am gyngor a/neu gamau gweithredu.

5.16. Lle mae’n berthnasol, mae’n ofynnol i’r Derbynnydd a’r Awdurdod gydymffurfio â’r Deddfau Gwybodaeth, unrhyw is-ddeddfwriaeth a wnaed, ac unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Comisiynydd Gwybodaeth.

5.17. Mae’r Derbynnydd yn cytuno i gynorthwyo a chydweithio â’r Awdurdod i alluogi’r Awdurdod i gydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan y Deddfau Gwybodaeth pryd bynnag y gwneir cais am wybodaeth sy’n ymwneud â’r Cyfarwyddyd hwn neu sy’n codi ohono.

5.18. Ni fydd unrhyw wybodaeth yn cael ei datgelu pe byddai datgeliad o’r fath yn torri amodau neu pe byddai wedi’i eithrio rhag cael ei datgelu o dan y Deddfau Gwybodaeth.

5.19. Bydd y Derbynnydd yn sicrhau ei fod ef, a’i Staff, yn cydymffurfio â phrotocolau rhannu data’r Awdurdod fel y disgrifir yn Atodiad C.

5.20. Bydd darpariaethau’r Erthygl 5 hon yn goroesi terfyniad y Cyfarwyddyd hwn, sut bynnag y bydd hynny’n digwydd.

6. Cyllid

Gwariant Cymwys

6.1. Ni ddylid defnyddio’r arian a ddarperir at unrhyw ddiben heblaw cyflawni canlyniadau’r Cynllun a nodir yn y Cyfarwyddyd hwn, ac ni chaniateir trosglwyddo unrhyw arian o’r fath i rywle arall heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr Awdurdod.

6.2. Mae unrhyw faterion cyllido sy’n deillio o Ffoadur yn symud yn barhaol o awdurdod lleol cyfranogol yn ystod y tymor uchaf o chwe deg (60) Mis o’r Cyllido i’w datrys rhwng y Derbynnydd a’r awdurdod lleol perthnasol.

6.3. Ni chaiff unrhyw agwedd ar y gweithgaredd a ariennir gan yr Awdurdod fod yn wleidyddol o ran bwriad, defnydd na chyflwyniad.

6.4. Ni cheir defnyddio’r Cyllid i gefnogi neu hyrwyddo gweithgaredd crefyddol. Ni fydd hyn yn cynnwys gweithgaredd a gynlluniwyd i wella perthnasoedd rhyng-ffydd a/neu berthnasoedd gweithio.

Gordaliadau

6.5. Rhaid hysbysu’r Awdurdod cyn gynted â phosibl os yw Derbynnydd yn disgwyl i’w ofynion Cyllido fod yn is na’r disgwyl, er mwyn osgoi Gordaliadau.

6.6. Os gwneir Gordaliad, sut bynnag y caiff ei achosi, rhaid hysbysu’r Awdurdod cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Mewn achosion o’r fath, efallai y bydd yr Awdurdod yn gofyn am ad-daliad ar unwaith o’r Gordaliad neu gall addasu taliad(au) dilynol yn unol â hynny.

Terfynu Cyllid

6.7. Bydd cyfrifoldeb yr Awdurdod am ddarparu Cyllid o dan y Cyfarwyddyd hwn yn dod i ben heb fod yn hwyrach na chwe deg (60) mis ers i’r Ffoadur gyrraedd y DU o dan y Cynlluniau ac nid oes modd hawlio Cyllid ar gyfer unrhyw gymorth a ddarperir y tu hwnt i’r pen-blwydd hwn.

6.8. Gall taliadau hefyd ddod i ben pan fydd y Ffoadur yn:

6.8.1. marw,

6.8.2. gadael ardal y Derbynnydd i fyw mewn ardal awdurdod lleol arall yn y DU,

6.8.3. nodi nad yw bellach yn dymuno cael cymorth o dan y Cynlluniau,

6.8.4. nodi eu bod yn gadael y DU yn barhaol,

6.8.5. gwneud cais am ryw statws Mewnfudo arall o fewn y DU yn unol â chyngor yr Awdurdod[footnote 6], neu

6.8.6. fel arall yn gadael neu’n dod yn anghymwys ar gyfer y Cynlluniau.

6.9. Os bydd unrhyw ddigwyddiad o’r fath o dan Gymal 6.8, rhaid i’r Derbynnydd hysbysu’r Awdurdod yn ddi-oed.

6.10. At ddibenion Cymal 6.7, bydd y cyfnod o chwe deg (60) Mis yn cychwyn ar y dyddiad y bydd y Ffoadur yn cyrraedd y DU am y tro cyntaf o dan y Cynlluniau a bydd yn parhau’n ddi-dor tan ddiwedd y cyfnod hwnnw o chwe deg (60) Mis.

6.11. Mae’r Awdurdod yn cadw’r hawl i roi’r gorau i wneud taliadau drwy’r Cyfarwyddyd hwn os oes ganddo sail resymol i gredu bod y Ffoadur wedi ceisio twyllo’r Awdurdod, y Derbynnydd perthnasol neu asiantaeth bartner mewn perthynas â’u hamgylchiadau, gan gynnwys eu cynnwys ar y Cynlluniau neu eu gweithgareddau tra’n cymryd rhan.

Costau Eithriadol

6.12. Gellir gwneud taliadau hefyd er mwyn talu costau hanfodol ychwanegol a dynnir gan y Derbynnydd y tu hwnt i’r hyn y gellid yn rhesymol ei ystyried yn wariant arferol ac nad yw ar gael drwy fecanweithiau cyllido prif ffrwd eraill. Gellir defnyddio cyllid o’r gyllideb Costau Eithriadol, ymhlith pethau eraill, i dalu am:

  • Addasiadau Eiddo (gweler Atodiad D)

  • Costau Eiddo Gwag (gweler Atodiad E)

  • Cymorth i blant ag anghenion addysgol dynodedig

  • Darpariaeth Gofal Cymdeithasol

  • Ychwanegiad enwol Credyd Cynhwysol (gweler Atodlen 1, Cymal 1.6)

6.13. Cyn mynd i Gostau Eithriadol, bydd Derbynnydd yn ceisio cytundeb ysgrifenedig gan Dîm Taliadau Adsefydlu Awdurdod Lleol yr Awdurdod neu beryglu y bydd yr hawliad yn cael ei wrthod. Bydd yr Awdurdod yn defnyddio ei farn resymol wrth asesu mesurau lliniaru ar gyfer hawliadau lle na fu hyn yn bosibl. Gweler Atodiad F.

6.14. Bydd pob cais yn cael ei asesu, a thaliadau yn cael eu gwneud, fesul achos:

6.14.1. Nid oes isafswm nac uchafswm y gellir ei hawlio.

6.14.2. Ni ellir hawlio Costau Eithriadol am gymorth a ddarperir i Ffoadur a fyddai fel arfer yn cael ei gyllido drwy gyllid iechyd neu addysg y pen neu drwy daliadau lles.

6.14.3. Rhaid i dderbynwyr gyflwyno tystiolaeth o wariant Costau Eithriadol a dynnwyd (e.e. copi o anfonebau) ynghyd â ffurflen hawlio Costau Eithriadol, cyn y bydd hawliadau’n cael eu hystyried i’w talu.

6.15. Bydd yr Awdurdod yn adolygu gweithrediad y broses Costau Eithriadol a’r gyllideb o bryd i’w gilydd.

Cyffredinol

6.16. Ni fydd yr Awdurdod yn ad-dalu gwariant anawdurdodedig sy’n fwy na’r lefelau Cyllido a nodir.

6.17. Ym mhob achos, dylai Cyllid a dderbynnir gael ei gronni a’i reoli ar draws yr holl Ffoaduriaid a gefnogir gan y Derbynnydd perthnasol.

6.18. Y Derbynnydd perthnasol fydd y pwynt cyswllt sengl ar gyfer anfonebu a thaliadau.

6.19. Bydd unrhyw daliadau a wneir o dan y Cyfarwyddyd hwn hefyd yn cynnwys TAW neu dollau eraill a delir gan y Derbynnydd i’r graddau na fydd y Derbynnydd yn adennill y rhain fel arall.

6.20. Ni ddylid dehongli dim yn y Cyfarwyddyd hwn fel rhywbeth sy’n darparu neu’n caniatáu i gyfanswm y budd-daliadau perthnasol fynd dros y terfyn statudol (y ‘cap budd-daliadau’) sy’n bodoli ar adeg y taliad.

7. Cysoni data a thaliadau

7.1. Bydd y Derbynnydd yn cwblhau ceisiadau am daliad ar y ffurf a nodir yn Atodiad A, sy’n cynnwys manylion pob Ffoadur a’r cymorth ariannol y gwneir cais amdano.

7.2. Mae cyfarwyddiadau penodol ar gyfer cwblhau Atodiad A wedi’u cynnwys yng ngweithlyfr Excel cyllido’r ALl, a ddarperir gan yr Awdurdod. Dim ond trwy borth trosglwyddo data diogel yr Awdurdod, “MoveIT DMZ”, y dylid cyflwyno Atodiad A, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Deddfwriaeth Diogelu Data.

7.3. Gwneir taliadau o fewn tri deg (30) Diwrnod o dderbyn hawliad wedi’i gwblhau’n gywir.

7.4. Dylai’r Awdurdod dderbyn yr Atodiad A a gyflwynir i’w dalu heb fod yn hwyrach na thri (3) mis ar ôl diwedd y cyfnod y mae’r cais yn ymwneud ag ef; gall dychwelyd yn hwyr arwain at oedi cyn talu. Bydd y Derbynnydd yn cael cyfle i wneud sylwadau os yw’n credu bod lefel y Cyllid a dderbynnir yn llai na’r hyn y mae ganddo hawl iddo o dan delerau’r Cyfarwyddyd hwn. Rhaid i’r Derbynnydd perthnasol roi gwybod i Dîm Taliadau Adsefydlu’r Awdurdod Lleol am unrhyw anghysondebau ynglŷn â’r symiau a delir o fewn un (1) Mis o anfon ymateb Atodiad A, yn dilyn cysoniad yn ôl cofnodion yr Awdurdod.

7.5. Ar ddiwedd y cyfnod y telir cymorth ar ei gyfer, bydd gwiriadau terfynol yn cael eu cynnal i sicrhau bod y taliadau a wnaed eisoes yn adlewyrchu’n gywir y symiau y mae gan y Derbynnydd hawl iddynt. Mae taliadau a wneir o ganlyniad i geisiadau i’w hystyried yn daliadau ar gyfrif, a fydd yn cael eu cwblhau pan fydd y cais terfynol yn cael ei gadarnhau gan yr Awdurdod. Dylai’r Derbynnydd nodi na ddylid newid fformat y taenlenni hawlio.

7.6. Lle mae Derbynnydd yn credu bod lefel y Cyllid a delir mewn gwirionedd gan yr Awdurdod yn llai na’r hyn y mae ganddo hawl iddo o dan delerau’r Cyfarwyddyd hwn, gall y Derbynnydd gyflwyno sylwadau i Dîm Cyllido’r Awdurdod. Rhaid rhoi gwybod i Dîm Taliadau Adsefydlu’r Awdurdod Lleol am unrhyw anghysondebau o fewn un (1) Mis o wneud taliad. Ni ellir cytuno ar daliadau ôl-weithredol gan yr Awdurdod ar gyfer unigolion nad ydynt wedi’u cynnwys yn brydlon yn yr hawliad Atodiad A oni bai y gellir dangos amgylchiadau eithriadol.

7.7. Gwneir taliadau trwy BACS gan ddefnyddio manylion cyfrif y mae’n rhaid i’r Derbynnydd eu rhoi i’r Awdurdod ar bapur pennawd, wedi’i lofnodi gan uwch swyddog cyllid. Mae’r Derbynnydd yn gyfrifol am sicrhau bod yr Awdurdod wedi cael gwybod am ei fanylion cyfrif banc cywir ac unrhyw newidiadau dilynol. Mae’r wybodaeth sydd ei hangen ar yr Awdurdod i alluogi cyfrif newydd neu newid manylion talu BACS fel sy’n dilyn:

Manylion y Cyflenwr

  1. Enw cofrestredig y cwmni
  2. Enw masnachu’r cwmni
  3. Rhif cofrestru’r cwmni
  4. Rhif cofrestru TAW

Manylion Cyfeiriad y Cyflenwr

  1. Cyfeiriad Cofrestredig
  2. Cyfeiriad Rheoli Credyd/ Cyllid

Manylion cyswllt

  1. Cyfeiriad e-bost ar gyfer archebion prynu
  2. Cyfeiriad e-bost ar gyfer hysbysiadau talu
  3. Cyfeiriad e-bost ar gyfer ymholiadau anfonebau
  4. Rhif Ffôn ar gyfer Cyfrifon Derbyniadwy/Manylion Talu Rheoli Credyd

Manylion Talu

  1. Enw’r Banc
  2. Enw a chyfeiriad y gangen
  3. Enw Cyfrif Banc y Cwmni
  4. Rhif y Cyfrif Banc
  5. Cod Didoli’r Cyfrif Banc

7.8. Os bydd newid yn y manylion banc, dylai’r Derbynnydd perthnasol hysbysu’r Awdurdod ar unwaith o’r wybodaeth newydd. Rhaid darparu hysbysiad o’r fath yn ysgrifenedig, ar ffurf PDF, ac yn unol â gofynion Cymal 7.7.

7.9. Rhaid i’r Derbynnydd gofnodi gwariant yn ei gofnodion cyfrifyddu o dan safonau cyfrifyddu a dderbynnir yn gyffredinol mewn ffordd y gellir tynnu’r costau perthnasol yn syml os oes angen. Drwy gydol y flwyddyn, bydd tîm Cyllido’r Awdurdod yn gweithio gyda’r Derbynnydd i sicrhau cywirdeb hawliadau, a thrwy hynny leihau’r angen am archwiliadau ar ddiwedd y flwyddyn.

8. Monitro a gwerthuso

8.1. Dylai’r Derbynnydd ei hun reoli a gweinyddu ansawdd a lefel y ddarpariaeth sy’n ymwneud â’r cymorth y mae’n ei roi i Ffoaduriaid.

8.2. Bydd yr Awdurdod yn gofyn i’r Derbynnydd ddarparu gwybodaeth a dogfennaeth ynghylch Ffoaduriaid at ddibenion monitro a gwerthuso.

8.3. Bydd hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth ar lefel unigol am Ffoaduriaid ar gyfer gwerthuso’r Cynlluniau. Dim ond trwy borth trosglwyddo data diogel yr Awdurdod, “MoveIT DMZ”, y dylid cyflwyno’r ffurflen dystiolaeth, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

8.4. Bydd y Derbynnydd yn darparu’r wybodaeth y gofynnir amdani i fonitro canlyniadau’r cyllid ESOL ychwanegol, fel y nodir mewn templed ffurflen adrodd a ddarperir gan yr Awdurdod. Dylai’r Derbynnydd o leiaf sicrhau ei fod yn darparu adroddiadau sy’n manylu ar gynnydd yn ôl y Ffactorau Llwyddiant Allweddol a amlinellir yn Atodlen 1. Gall ymweliadau gael eu gwneud o bryd i’w gilydd gan yr Awdurdod neu ei gynrychiolwyr penodedig, gan gynnwys y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Er nad oes angen cyflwyno costau manwl, rhaid i’r Derbynnydd allu darparu’r costau ar gyfer achosion unigol ac, os bydd angen, bydd disgwyl iddo gyfiawnhau, egluro a dangos tystiolaeth o gostau.

8.5. Ym mhob achos, er mwyn cynorthwyo gyda monitro a gwerthuso’r Cynlluniau, bydd y Derbynnydd yn rhoi i’r Awdurdod yr holl wybodaeth ariannol y gofynnir amdani’n rhesymol o bryd i’w gilydd, ar sail llyfr agored.

9. Torri amodau cyllido

9.1. Lle mae Derbynnydd yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o’r amodau a nodir yn y Cyfarwyddyd hwn, neu os bydd unrhyw un o’r digwyddiadau a grybwyllir yng Nghymal 9.2 yn digwydd, yna gall yr Awdurdod leihau, atal neu wrthod taliadau, neu fynnu bod y cyfan neu unrhyw ran o’r taliadau perthnasol yn cael eu had-dalu gan y Derbynnydd. Mewn amgylchiadau o’r fath, rhaid i’r Derbynnydd ad-dalu unrhyw swm sy’n ofynnol o dan y Cymal 9.1 hwn o fewn tri deg (30) Diwrnod o dderbyn y cais am ad-daliad.

9.2. Mae’r digwyddiadau y cyfeirir atynt yng Nghymal 9.1 fel sy’n dilyn:

9.2.1. Mae’r Derbynnydd yn honni ei fod yn trosglwyddo neu’n aseinio unrhyw hawliau, buddiannau neu rwymedigaethau sy’n codi o dan y Cytundeb hwn heb gytundeb ymlaen llaw gan yr Awdurdod, neu

9.2.2. Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir yn y cais am Gyllid (neu mewn hawliad am daliad neu Gostau Eithriadol) neu mewn unrhyw ohebiaeth ategol ddilynol yn cael ei chanfod yn anghywir neu’n anghyflawn i’r graddau y mae’r Awdurdod yn ei ystyried yn berthnasol, neu

9.2.3. Mae’r Derbynnydd yn cymryd mesurau annigonol i ymchwilio a datrys unrhyw afreoleidd-dra a adroddir.

10. Gweithgareddau – cyffredinol

Is-gontractio

10.1. Wrth gaffael gwaith, nwyddau neu wasanaethau rhaid i’r Derbynnydd sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’i rwymedigaethau statudol, er enghraifft Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Beth bynnag, bydd y Derbynnydd yn dangos gwerth am arian ac yn gweithredu mewn modd teg, agored ac anwahaniaethol wrth brynu nwyddau a gwasanaethau i gefnogi cyflawni’r Cynlluniau.

10.2. Pan fo’r Derbynnydd yn ymrwymo i gontract (neu fath arall o gytundeb) ag unrhyw drydydd parti ar gyfer darparu unrhyw ran o’r Cynlluniau, bydd y Derbynnydd yn sicrhau bod amod yn cael ei gynnwys yn y contract neu gytundeb sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Derbynnydd dalu’r holl symiau sy’n ddyledus o fewn cyfnod penodol: bydd hyn fel y’i diffinnir gan delerau’r contract neu’r cytundeb hwnnw, ond ni fydd yn hwy na thri deg (30) Diwrnod o ddyddiad derbyn anfoneb ddilysedig.

10.3. Rhaid i’r Derbynnydd gymryd pob cam rhesymol i sicrhau na fydd unrhyw un sy’n gweithredu ar ei ran yn dwyn anfri ar yr Awdurdod na’r Cynlluniau; er enghraifft, oherwydd rhagfarnu a/neu fod yn groes i fuddiannau’r Awdurdod a/neu’r Cynlluniau.

Oriau Gweithredu

10.4. Bydd y Derbynnydd yn nodi bod yr Awdurdod yn cyflawni busnes arferol yn ystod yr oriau 09.00 i 17.00 ar Ddiwrnodau Gwaith.

10.5. Darperir y Cynllun o leiaf ar bob Diwrnod Gwaith. Mae’r Awdurdod yn cydnabod, er budd effeithlonrwydd, y bydd union argaeledd ac amseriad yr elfennau gwasanaeth amrywiol yn amrywio. Rhagwelir y bydd angen rhywfaint o ddarpariaeth y tu allan i oriau gan y Derbynnydd.

10.6. Dylai pob safle a ddefnyddir i gyflawni elfennau’r Cynllun fodloni’r holl ofynion rheoleiddio a bod yn addas i’r diben.

Cwynion

10.7. Bydd y Derbynnydd a/neu ei bartneriaid cyflenwi yn datblygu, cynnal a gweithredu gweithdrefnau sy’n galluogi:

10.7.1. Ffoaduriaid i gwyno am y gefnogaeth a’r cymorth a ddarperir gan y Derbynnydd,

10.7.2. Adrodd a rheoli ‘achosion o ddiddordeb’[footnote 7]. . Rhaid hysbysu’r Awdurdod o ddigwyddiadau o’r fath cyn gynted ag sy’n rhesymol bosibl, ond erbyn diwedd y Diwrnod Gwaith nesaf beth bynnag.

Safonau Staff

10.8. Wrth gyflawni’r Cynlluniau, bydd y Derbynnydd bob amser yn ymwybodol o fwriad, ac yn cymhwyso ysbryd, “Cod Ymddygiad Cyflenwyr”[footnote 8] Llywodraeth y DU sy’n amlinellu’r safonau a’r ymddygiadau y mae’r llywodraeth yn eu disgwyl gan ei holl Bartneriaid Cyflenwi.

10.9. Bydd y Derbynnydd yn:

10.9.1. sicrhau bod y broses o recriwtio, dewis a hyfforddi Staff yn gyson â’r safonau sy’n ofynnol ar gyfer perfformiad y canlyniadau,

10.9.2. cyfarparu a hyfforddi Staff yn llawn i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu rolau a sicrhau bod darpariaethau diogelwch priodol a digonol yn cael eu gwneud ar gyfer yr holl Staff sy’n ymgymryd â gweithgareddau wyneb yn wyneb,

10.9.3. sicrhau bod lefelau Staff yn briodol bob amser at ddibenion cyflawni’r Cynlluniau a sicrhau diogelwch a lles pob Ffoadur, plentyn dibynnol a’i Staff,

10.9.4. cymryd pob cam rhesymol i sicrhau eu bod nhw ac unrhyw un sy’n gweithredu ar eu rhan yn meddu ar yr holl gymwysterau, trwyddedau, hawlenni, sgiliau a phrofiadau angenrheidiol i gyflawni eu cyfrifoldebau yn effeithiol, yn ddiogel ac yn unol â’r holl ddeddfau perthnasol sydd mewn grym am y tro (cyn belled ag y maent yn rhwymo’r Derbyniwr), a

10.9.5. sicrhau bod ganddo bolisïau sefydliadol perthnasol ar waith i gyflawni’r gweithgareddau a ariennir gan y Cyfarwyddyd hwn. Bydd y rhain yn parhau i fod yn gyfredol drwy gydol y Cyfarwyddyd hwn ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd gan staff priodol uwch. Rhaid i bob aelod o staff fod yn ymwybodol o’r polisïau hyn a sut i godi unrhyw bryderon.

10.9.6. sicrhau ei bod yn ofynnol i bob ymgeisydd am gyflogaeth mewn cysylltiad â’r Cynlluniau ddatgan ar eu ffurflenni cais unrhyw euogfarnau troseddol blaenorol yn amodol bob amser ar ddarpariaethau Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974.

10.10. Yn ogystal, bydd y Derbynnydd yn sicrhau bod yr holl Staff:

10.10.1. sydd wedi’u cyflogi neu wedi’u hymgysylltu â’r hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig o dan ddeddfau mewnfudo berthnasol, ac

10.10.2. yn addas ac o gymeriad da i ddarparu cymorth i Ffoaduriaid. Rhaid ystyried cymhwysedd ar gyfer gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS2). Lle mae gwiriadau o’r fath yn datgelu euogfarnau troseddol blaenorol y gellid yn rhesymol eu hystyried yn berthnasol i briodoldeb yr unigolyn i gael mynediad heb oruchwyliaeth, yn arbennig i blant o dan 18 oed, neu lle nad yw gwiriadau o’r fath yn bosibl oherwydd problemau adnabod, bydd y Derbynnydd yn dilyn ei bolisi mewnol a chynnal asesiad risg priodol cyn cynnig cyflogaeth, a

10.10.3. sy’n debygol o gael mynediad heb oruchwyliaeth at blant o dan 18 oed wedi’u cyfarwyddo yn unol â’r canllawiau amddiffyn plant cenedlaethol perthnasol e.e. ar gyfer pobl sy’n gweithio yn Lloegr, canllawiau Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Plant yr Adran Addysg, 2015, a chanllawiau a gweithdrefnau Awdurdodau Lleol, a

10.10.4. dylai darparu cyngor ar fewnfudo fod yn hysbys i Swyddfa’r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo (OISC) yn unol â’r cynllun rheoleiddio a nodir o dan Ran 5 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999. Bydd y Derbynnydd yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau nad yw Staff yn darparu dylai darparu cyngor ar fewnfudo neu wasanaethau mewnfudo oni bai eu bod yn “gymwys” neu “eithriedig” fel y’u pennir ac a ardystiwyd gan gyngor neu fewnfudo OISC oni bai eu bod yn “gymwys” neu “eithriedig” fel y’i pennir ac a ardystir gan OISC.

10.11. Bydd y Derbynnydd, ar gais, yn darparu i’r Awdurdod fanylion yr holl Staff sy’n cyflwyno’r Cynlluniau.

10.12. Bydd y Derbynnydd, ar gais, yn rhoi CVs a/neu ddisgrifiadau swyddi i’r Awdurdod ar gyfer yr holl Staff a ddewisir i weithio ar y prosiect.

10.13. Bydd y Derbynnydd yn gwneud pob ymdrech resymol i gydymffurfio â gofynion Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990.

10.14. Bydd y Derbynnydd yn gweithredu’r Cynlluniau yn unol â darpariaethau Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

11. Atebolrwydd

11.1. Nid yw’r Awdurdod yn derbyn unrhyw atebolrwydd i’r Derbynnydd nac i unrhyw drydydd parti am unrhyw gostau, hawliadau, difrod neu golledion, sut bynnag y maent yn codi, ac eithrio i’r graddau y maent yn cael eu hachosi gan esgeulustod neu gamymddwyn yr Awdurdod.

12. Datrys anghydfod

12.1. Bydd y Partïon yn ceisio’n ddidwyll i negodi setliad i unrhyw anghydfod rhyngddynt sy’n codi o’r Cyfarwyddyd hwn neu mewn cysylltiad ag ef.

12.2. Gall y Partïon setlo unrhyw anghydfod gan ddefnyddio proses datrys anghydfod y maent yn cytuno arni.

12.3. Os na all y Partïon ddatrys anghydfod yn unol â gofynion Cymalau 12.1 neu 12.2, gellir cyfeirio’r anghydfod, trwy gytundeb rhwng y Partïon, at gyfryngu yn unol â’r Weithdrefn Gyfryngu Enghreifftiol a gyhoeddwyd gan y Ganolfan Datrys Anghydfodau’n Effeithiol ( “CEDR”), neu unrhyw weithdrefn gyfryngu arall y cytunir arni gan y Partïon. Oni chytunir fel arall rhwng y Partïon, bydd y cyfryngwr yn cael ei enwebu gan CEDR. Er mwyn cychwyn y cyfryngu bydd y Parti’n rhoi hysbysiad ysgrifenedig (yr Hysbysiad ADR) i’r Parti arall, a bydd y Parti olaf hwnnw’n dewis p’un ai i gytuno i gyfryngu ai peidio. Dylid anfon copi o’r Hysbysiad ADR i CEDR. Bydd y cyfryngu’n dechrau ddim hwyrach na deg (10) Diwrnod Gwaith ar ôl dyddiad yr Hysbysiad ADR.

12.4. Ni fydd perfformiad y rhwymedigaethau sydd gan y Derbynnydd o dan y Cyfarwyddyd hwn yn dod i ben nac yn cael ei oedi oherwydd bod anghydfod wedi’i gyfeirio at gyfryngu o dan Gymal 12.3 o’r Cyfarwyddyd hwn.

13. Manylion cyswllt

Ar gyfer ymholiadau sy’n ymwneud â’r Cyfarwyddyd hwn neu gyflwyno ceisiadau am daliad, anfonwch e-bost at y tîm Taliadau Adsefydlu’r Awdurdodau Lleol perthnasol yn: ResettlementLAPaymentsTeam@homeoffice.gov.uk.

Atodlen 1: cymorth adsefydlu ar ôl-cyrraed

1. Rhan 1 – datganiad o’r canlyniadau blwyddyn 1

Darpariaeth llety:

1.1 Bydd y Derbynnydd yn trefnu llety ar gyfer Ffoaduriaid sy’n cyrraedd sydd:

1.1.1 yn diwallu safonau awdurdodau lleol, ac

1.1.2 a fydd ar gael pan fyddant yn cyrraedd, a

1.1.3 sydd yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy.

1.2 Bydd y Derbynnydd yn sicrhau bod y llety wedi’i ddodrefnu’n briodol. Ni ddylai’r Cyllid gael ei ddefnyddio i gaffael eitemau moethus: Mae hyn yn golygu y dylai’r Cyllid a dderbynnir gael ei ddefnyddio ar gyfer storio bwyd, cyfleusterau coginio a golchi, ond ni ddylai gynnwys darparu nwyddau gwyn eraill neu nwyddau brown, h.y. setiau teledu, chwaraewyr DVD neu unrhyw offer adloniant trydanol eraill. Ni fydd hyn yn atal y Derbynnydd rhag darparu Ffoaduriaid â nwyddau moethus, gwyn neu frown ychwanegol trwy ffynonellau cyllid eraill.

1.3 Bydd y Derbynnydd yn sicrhau bod y Ffoaduriaid wedi’u cofrestru gyda chwmnïau cyfleustodau ac yn sicrhau bod trefniadau ar gyfer taliadau’n cael eu rhoi yn eu lle (dim cyfrifon mesurydd rhag-dalu arian parod na cherdyn)[footnote 9].

1.4 Bydd y Derbynnydd yn darparu sesiynau briffio ar lety a materion iechyd a diogelwch ar gyfer yr holl newydd-ddyfodiaid gan gynnwys darparu pwynt cyswllt brys.

Trefniadau Derbyn Cychwynnol

1.5 Bydd y Derbynnydd yn cyfarfod ac yn cyfarch Ffoaduriaid sy’n cyrraedd o’r maes awyr perthnasol ac yn eu hebrwng i’w llety, gan eu briffio ar sut i ddefnyddio’r amwynderau.

1.6 Bydd y Derbynnydd yn sicrhau bod Ffoaduriaid yn cael pecyn croeso o nwyddau pan fyddant yn cyrraedd – dylai cynnwys y pecyn hwn ystyried diwylliant a chenedligrwydd y Ffoadur/Ffoaduriaid. Bydd y Derbynnydd yn darparu lwfans arian parod cychwynnol o £200 ar gyfer pob Ffoadur – mae hyn er mwyn sicrhau bod ganddynt ddigon o arian i fyw arno tra bod eu cais am fudd-daliadau’ cael ei brosesu. Pan fydd Ffoadur yn cael ei adsefydlu mewn ardal lle mae Credyd Cynhwysol wedi’i weithredu, gall y Derbynnydd ddarparu taliad untro ychwanegol o hyd at £100 ar gyfer pob Ffoadur, os oes angen. Dylid hawlio hwn fel Cost Eithriadol ar yr hawliad Atodiad A cychwynnol.

Cymorth Gwaith Achos

1.7 Dylai’r Derbynnydd sicrhau bod Ffoaduriaid yn cael ffynhonnell benodol o gyngor a chymorth i’w cynorthwyo i gofrestru ar gyfer budd-daliadau a gwasanaethau prif ffrwd, a’u cyfeirio at asiantaethau eraill sy’n rhoi cyngor a gwybodaeth – mae’r cymorth hwn yn cynnwys:

1.7.1 Cynorthwyo ynghylch dosbarthu Trwyddedau Preswylio Biometrig ar ôl cyrraedd,

1.7.2 Cofrestru ag ysgolion lleol, neu os ydynt yn Oedolion, dosbarthiadau Saesneg a llythrennedd (gweler paragraffau 1.21-1.28),

1.7.3 Mynychu apwyntiadau Canolfan Byd Gwaith leol ar gyfer Asesiadau budd-daliadau,

1.7.4 Cofrestru gyda Meddyg Teulu lleol, a darparwyr gofal iechyd eraill yn unol ag anghenion meddygol a nodwyd,

1.7.5 Cyngor ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl priodol ac atgyfeirio at wasanaethau arbenigol ar gyfer dioddefwyr arteithio fel y bo’n briodol,

1.7.6 Darparu cymorth ynghylch mynediad i gyflogaeth.

1.8 Bydd y Derbynnydd yn datblygu cynllun cymorth trosfwaol (neu fframwaith) a chynlluniau cymorth pwrpasol ar gyfer pob teulu neu unigolyn am y deuddeg (12) mis cyntaf o’u cymorth er mwyn hwyluso eu cyfeiriadedd i’w cartref/ardal newydd.

1.9 Trwy gydol y cyfnod cymorth adsefydlu bydd y Derbynnydd yn sicrhau bod gwasanaethau cyfieithu ar y pryd ar gael. Gellir hawlio unrhyw gostau cyfieithu ychwanegol, er enghraifft presenoldeb yn y Ganolfan Byd Gwaith neu apwyntiadau Gofal Iechyd, fel Cost Eithriadol, yn amodol ar gymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Awdurdod.

1.10 Bydd y canlyniadau uchod yn cael eu darparu trwy gyfuniad o apwyntiadau yn y swyddfa, sesiynau galw heibio, cymorthfeydd allgymorth ac ymweliadau cartref (rhithwir neu wyneb yn wyneb).

1.11 Bydd y Derbynnydd yn coladu’r cyfryw wybodaeth ynghylch gwaith achos a gytunir er mwyn galluogi’r Awdurdod i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd darpariaeth y Cynlluniau.

1.12 Lle nad yw Ffoaduriaid yn cyrchu gwasanaethau allweddol, neu lle mae Derbynwyr fel arall yn poeni am les Ffoaduriaid neu eu dibynyddion, gofynnir i’r Derbynwyr gysylltu â’u swyddog cyswllt rhanbarthol.

Gofynion ar gyfer Ffoaduriaid ag anghenion arbennig/anghenion gofal cymunedol a aseswyd:

1.13 Er mwyn hwyluso trefniadau ychwanegol, megis addasiadau eiddo (gweler hefyd Atodiad E), ar gyfer pob Ffoadur a nodir fel un a allai fod ag anghenion arbennig/gofal cymunedol, bydd yr Awdurdod yn sicrhau, cyn belled ag y bo modd, bod yr anghenion hyn yn cael eu nodi a’u cyfathrebu’n glir i’r Derbynnydd o leiaf pedwar deg dau (42) Diwrnod cyn i bob Ffoadur gyrraedd y DU.

1.14 Pan nodir anghenion arbennig/ anghenion gofal cymunedol dim ond ar ôl cyrraedd y DU, bydd y Derbynnydd yn gwneud ei orau i sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu gan y gwasanaethau prif ffrwd priodol cyn gynted â phosibl.

1.15 Pan fo materion sensitif (gan gynnwys materion diogelu neu achosion o gam-drin domestig, trais neu droseddoldeb) yn cael eu nodi cyn cyrraedd gan yr Awdurdod, bydd yr Awdurdod yn hysbysu’r Derbynnydd ar unwaith, ac nid yn hwy nag un (1) Diwrnod, ar ôl iddo dderbyn y gwybodaeth.

Darpariaeth Addysg i’r rhai dan 18 oed:

1.16 Mae gan y Derbynnydd ddyletswydd statudol i sicrhau bod lleoedd addysgol ar gael i blant oed ysgol.

1.17 Er mwyn cefnogi’r Derbynnydd i gyflawni’r rhwymedigaeth hon, bydd yr Awdurdod yn talu Cyllid mewn perthynas â Ffoaduriaid rhwng 3 a 18 oed (gan gynnwys y rhai a ddaeth i mewn o dan y Cynllun Nawdd Cymunedol) i dalu am:

1.17.1 ddarparu addysg mewn sefydliadau a ariennir gan y wladwriaeth; a

1.17.2 Rhwymedigaethau statudol y derbynnydd o ran asesu Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau (SEND), y bydd costau asesu hefyd yn cael eu talu amdanynt fesul achos.

1.18 Bydd y Derbynnydd yn gyfrifol am sicrhau bod y lefel briodol o gyllid yn cael ei thalu i leoedd addysg (gan gynnwys ysgolion, academïau, ysgolion rhydd a cholegau Addysg Bellach, fel y bo’n briodol) sy’n derbyn Ffoaduriaid o’r grwpiau oedran perthnasol.

1.19 Gellir gwneud taliadau ychwanegol pellach hefyd er mwyn talu am Gostau Eithriadol angenrheidiol ar gyfer gofal cymdeithasol, lle mae amgylchiadau cymhellol yn bodoli. Bydd y rhain yn cael eu hasesu a’u gwneud fesul achos.

Darpariaeth Iaith Saesneg i Ffoaduriaid sy’n Oedolion

1.20 Pwrpas hyfforddiant iaith yw: sicrhau bod pob Ffoadur sy’n Oedolyn yn gallu symud ymlaen i’r lefel hyfedredd sydd ei angen i weithredu yn eu bywyd bob dydd; hyrwyddo integreiddio; a chefnogi ffoaduriaid i symud ymlaen tuag at fod yn hunangynhaliol, gan gynnwys cyrchu gwasanaethau neu ymuno â’r gweithlu os ydynt yn chwilio am waith.

1.21 Bydd y Derbynnydd yn cynnal asesiad o allu Saesneg pob Ffoadur sy’n Oedolyn er mwyn pennu ei anghenion hyfforddi; dylid cynnal yr asesiad hwn cyn gynted â phosibl. Dylid hysbysu’r Ffoaduriaid sy’n Oedolion o’u lefel asesu. Dylai’r asesiad benderfynu a yw Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn briodol, a lle dylid defnyddio Hyfforddiant Iaith Anffurfiol i ategu, neu fel sylfaen ar gyfer, Hyfforddiant Iaith Ffurfiol. Fel isafswm, dylai Ffoaduriaid sy’n Oedolion allu cyrchu ymarfer sgwrsio i atgyfnerthu/ategu eu Hyfforddiant Iaith Ffurfiol.

1.22 Os bernir bod Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn briodol yn ôl eu hasesiad, dylai’r Ffoadur sy’n Oedolyn allu cyrchu o leiaf wyth (8) awr yr wythnos o fewn un (1) mis o gyrraedd. Dylid darparu hwn i Ffoaduriaid sy’n Oedolion nes eu bod wedi cyrraedd Lefel Mynediad 3 neu am o leiaf ddeuddeg (12) mis ar ôl iddynt gyrraedd y DU, (p’un bynnag sydd gyntaf).

1.23 Bydd gwahanol Ffoaduriaid sy’n Oedolion yn wynebu gwahanol rwystrau i gymryd rhan mewn Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn dibynnu ar eu hamgylchiadau unigryw. Nid oes, felly, un gweithgaredd unffurf y dylid defnyddio’r Cyllid hwn ar ei gyfer. Yn hytrach, dylai defnydd y Derbynnydd gael ei lywio gan natur y ddarpariaeth leol bresennol a chan amgylchiadau a gofynion penodol pob Ffoadur sy’n Oedolyn. Mae gweithgareddau posibl yn cynnwys, ond ni ddylid hystyried eu bod wedi’i cyfyngu i:

1.23.1 Taliadau cyllido ar gyfer Hyfforddiant Iaith Ffurfiol prif ffrwd.

1.23.2 Comisiynu dosbarthiadau Hyfforddiant Iaith Ffurfiol ar wahân i Ffoaduriaid sy’n Oedolion neu gyllido lefelau uwch o ESOL i’r rhai sydd â lefel uwch o hyfedredd Saesneg.

1.23.3 Cefnogi cyflwyno’r ddarpariaeth isafswm o wyth (8) awr yr wythnos (Rhan 1, paragraff 1.21 o’r Atodlen 1 yma).

1.23.4 Hyfforddiant iaith neu baratoi ar gyfer profion hyfedredd iaith sy’n cefnogi mynediad i gyflogaeth, addysg bellach neu addysg uwch.

1.23.5 Comisiynu dosbarthiadau ar y lefel sy’n wynebu’r pwysau mwyaf yn yr ardal gyda’r cytundeb bod rhai o’r Ffoaduriaid sy’n Oedolion yn mynychu – ynghyd â myfyrwyr eraill – a chyda’r cytundeb bod y capasiti ychwanegol a grëwyd yn caniatáu i Ffoaduriaid sy’n Oedolion ar lefelau eraill fynychu dosbarthiadau prif ffrwd.

1.23.6 Cyllido dosbarthiadau gyda’r nos a phenwythnos.

1.23.7 Cyllido adnoddau ar-lein i ategu darpariaeth ESOL wyneb yn wyneb.

1.24 Mae’r Cyllid yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer cymryd rhan mewn darpariaeth ESOL. Fodd bynnag, os oes diffyg darpariaeth, gellir gwario hyd at 25% o’r Cyllid i gynyddu seilwaith ESOL, ac felly cyfraddau cyfranogiad yn y dyfodol, lle bernir bod hynny’n gwbl angenrheidiol. Gallai seilwaith ESOL gynnwys, er enghraifft, hyfforddi athrawon ESOL, prynu offer ac adnoddau a rhentu gofod ystafell ddosbarth. Bydd disgwyl i’r Derbynnydd adrodd yn ôl ar gyfran y gwariant ar seilwaith ESOL.

1.25 I rai Ffoaduriaid sy’n Oedolion, bydd mynychu Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn fwy heriol nag i eraill. Er enghraifft, efallai fod ganddynt gyfrifoldebau gofalu, anabledd neu’n ei chael yn anodd mynychu Hyfforddiant Iaith Ffurfiol. Yn yr achosion hyn, mae’n bwysig bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn fel y gellir defnyddio’r elfen seilwaith ESOL o 25% o’r Cyllid (fel y nodir ym mharagraff 1.23) i gefnogi gweithgareddau sy’n helpu i oresgyn rhwystrau hygyrchedd [dylid hawlio cyllid gofal plant ar wahân, fel y disgrifir yn Rhan 5].

1.26 Fodd bynnag, dylai’r Derbynnydd geisio defnyddio ffynonellau neu wasanaethau cyllid lleol neu ganolog eraill, lle bynnag y bo modd.

1.27 Mewn achosion lle mae Ffoaduriaid sy’n Oedolion yn cyrraedd y tu allan i’r tymor ysgol, sy’n ei gwneud yn anodd cael Hyfforddiant Iaith Ffurfiol ar unwaith, dylid darparu Hyfforddiant Iaith Anffurfiol amgen i ddechrau o fewn un (1) mis o gyrraedd.

1.28 Mae darparu Hyfforddiant Iaith Anffurfiol hefyd yn ddewis amgen addas mewn achosion lle asesir bod Ffoadur ar lefel ESOL cyn mynediad neu’n canfod bod amgylchedd Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn rhwystr i hygyrchedd, na ellir ei ddatrys gan ddefnyddio’r cyllid seilwaith a nodir yn (para 1.23).

1.29 Mewn achosion megis 1.26 ac 1.27, dylai’r Derbynnydd annog y Ffoadur sy’n Oedolyn i gael Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn y dyfodol. Y rheswm am hyn yw na all Hyfforddiant Iaith Anffurfiol ddarparu cymwysterau achrededig sy’n aml yn angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth, astudiaeth bellach neu hyfforddiant.

1.30 Mae swm ychwanegol o Gyllid hefyd ar gael i Dderbynwyr, i gynyddu mynediad Ffoaduriaid sy’n Oedolion i Hyfforddiant Iaith sy’n briodol i’w gallu a’u hanghenion. Amlinellir hyn yn Rhan 4 o’r Atodlen hon 1. Mae hwn yn daliad sengl i’w hawlio o fewn y 12 mis cyntaf ar ôl cyrraedd.

Proses Gyllido a Hawliadau

1.31 Mae’r Awdurdod yn cytuno i ddarparu Cyllid fel cyfraniad at wariant cymwys y Derbynnydd gan gyflawni’r canlyniadau a ddisgrifir yn Rhan 1 o’r Atodlen 1 hon (paragraffau 1.1 i 1.29, yn gynwysedig), ar gyfradd safonol y pen y flwyddyn ar gyfer pob Ffoadur fel sy’n dilyn:

Costau uned blywddyn 1[footnote 10]

Oedolion sy’n Hawlio Budd-dal Oedolion Eraill Plant 5-18 Plant 3-4 Plant Dan-3
Costau Awdurdod £8,520 £8,520 £8,520 £8,520 £8,520
Lleol Addysg 0 0 £4,500 £2,250 0
Cyfansymiau £8,520 £8,520 £13,020 £10,770 £8,520

1.32 Gwneir taliadau ar sail oedran y Ffoadur wrth iddo gyrraedd y DU.

1.33 Unwaith y bydd yr uchafsymiau hyn wedi’u cyrraedd, ni fydd yr Awdurdod yn talu unrhyw gyllid pellach i’r Derbynnydd ac eithrio unrhyw hawliadau a wneir mewn perthynas â Chostau Eithriadol (gweler Telerau ac Amodau, Cymalau 6.12 a 6.13).

1.34 Ar y diwrnod y bydd Ffoadur yn cyrraedd y DU, bydd y Derbynnydd yn gymwys i hawlio 40% o gyfanswm y swm blynyddol rhagamcanol y pen ar gyfer y person hwnnw. Rhaid i’r Derbynnydd wneud hawliad ar y ffurflen hawlio safonol (Atodiad A).

1.35 Bydd y gweddill yn ddyledus mewn dau randaliad cyfartal ar ddiwedd y pedwerydd (4ydd) a’r wythfed (8fed) mis ar ôl i’r Ffoadur gyrraedd y DU.

1.36 Mae’r tariff y pen yn cynnwys elfen i’r Derbynnydd dalu am hyd at bum deg chwech (56) Diwrnod (h.y. wyth wythnos) o gostau gwag. Esbonnir y broses ar gyfer hawlio costau gwag ychwanegol/eithriadol yn Atodiad F.

1.37 Bydd cyllid ychwanegol i dalu am gyfrifoldebau SEND y Derbynnydd ar gyfer unrhyw Ffoadur yn cael ei dalu gan yr Awdurdod fesul achos fel Cost Eithriadol.

1.38 Lle mae amgylchiadau cymhellol yn bodoli, gall y Derbynnydd ofyn am gyllid ychwanegol at ddibenion addysgol mewn perthynas â Ffoaduriaid 18 oed neu iau ac sydd mewn addysg amser llawn. Bydd ceisiadau o’r fath yn cael eu hystyried fesul achos, fel Cost Eithriadol, gyda’r penderfyniad terfynol ar daliad, hyd a chyfradd (y gellir eu haddasu o bryd i’w gilydd) i’w gosod gan yr Awdurdod.

2. Rhan 2 – Datganiad o’r canlyniadau blwyddyn 2 – 5

Cyllid Blwyddyn 2 – 5

2.1 Bwriedir Cyllid Blwyddyn 2 – 5 fel cyfraniad tuag at gostau Derbynnydd i gefnogi cyfranogiad parhaus Ffoadur yn y Cynlluniau.

2.2 Er mwyn cynyddu hyblygrwydd, mater i’r Derbynnydd fydd penderfynu ar y defnydd gorau o’r Cyllid a hawlir i gefnogi Ffoaduriaid ar eu taith tuag at integreiddio a hunangynhaliaeth. Dylai cymorth gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) integreiddio parhaus i’r cymunedau y mae Ffoadur wedi’i adsefydlu ynddynt; cynnydd tuag at ac i mewn i gyflogaeth (a all gynnwys cymorth cyflogaeth wedi’i deilwra a hyfforddiant iaith ffurfiol neu anffurfiol sy’n benodol i’r sector) costau gofal cymdeithasol i oedolion a phlant; neu, gymorth addysgol ychwanegol.

2.3 Dylai’r Derbynnydd allu egluro sut y mae’n cefnogi Ffoaduriaid ac yn hyrwyddo nodau’r Cynlluniau drwy ddogfennu’r math(au) o gymorth a ddarperir.

Proses Gyllido a Hawliadau

2.4 Gall y Derbynnydd hawlio Cyllid o’r pen-blwydd cyntaf (h.y. 12-mis) ar ôl i Ffoadur gyrraedd y DU o dan y Cynlluniau, ac ar gyfer pob blwyddyn ddilynol hyd at ddiwedd y bumed flwyddyn.

2.5 Egwyddorion allweddol y Cyllid yw ei fod:

2.5.1 yn darparu tariff blynyddol fesul Ffoadur (gweler tabl 2.6),

2.5.2 heb ei glustnodi,

2.5.3 yn cefnogi gwerthuso ac adrodd ar raglenni, a

2.5.4 gellir ei gyfuno ar draws yr holl Ffoaduriaid y mae Derbynnydd yn eu cefnogi.

2.6 Gall Derbynnydd hawlio uchafswm o bedwar (4) taliad cyfradd safonol blynyddol ar gyfer pob Ffoadur a gefnogir:

Blwyddyn 2 – 5 - costau uned[footnote 11]

Amserlen Cyfradd
13-24 mis £5,000
25-36 mis £3,700
37-48 mis £2,300
49-60 mis £1,000

2.7 Dim ond un hawliad y Ffoadur y flwyddyn y bydd yr Awdurdod yn ei gymeradwyo.

2.8 Ni fydd yr Awdurdod yn talu unrhyw Gyllid pellach i Dderbynnydd ar wahân i unrhyw hawliadau a wneir mewn perthynas â Chostau Eithriadol (gweler Telerau ac Amodau, Cymalau 6.12 a 6.13).

2.9 Rhaid cyflwyno pob hawliad am Gyllid Blwyddyn 2 – 5 yn ystod yr ail chwarter ariannol (h.y. o 1 Gorffennaf, ond ym mhob achos erbyn 30 Medi) yn yr un flwyddyn: gall ffurflenni hwyr arwain at oedi neu wrthod ceisiadau am daliadau. Dim ond i dderbynwyr ffoaduriaid sy’n byw yn ardal yr awdurdod lleol ar y dyddiad 30 Medi y gwneir taliad. Os nad yw’r ffoadur yn preswylio ar y dyddiad hwnnw, yna bydd y taliad yn cael ei wrthod. Unwaith y bydd yn fodlon bod cais am daliad wedi’i gyflwyno’n gywir, bydd yr Awdurdod yn ymdrechu i wneud taliadau Cyllid sy’n ddyledus yn ystod trydydd chwarter yr un flwyddyn ariannol (h.y. o 1 Hydref, ond dim hwyrach na 31 Rhagfyr).

2.10 Bydd cyllid yn cael ei wneud drwy un taliad blynyddol i’w hawlio ar yr adegau a nodir yn y tabl dilynol:

Cyllid blynyddoedd 2-5 –proffil talu ar gyfer cyraeddiadau VPRS a VCRS

Cyraeddiadau rhwng Hawlio cyllid ar gyfer Blwyddyn 2 Hawlio cyllid ar gyfer Blwyddyn 3 Hawlio cyllid ar gyfer Blwyddyn 4 Hawlio cyllid ar gyfer Blwyddyn 5
22/09/15 - 30/09/15 31/12/2016 30/09/2017 30/09/2018 30/09/2019
01/10/15 - 31/12/15 31/12/2016 30/09/2018 30/09/2019 30/09/2020
01/01/16 - 30/09/16 30/09/2017 30/09/2018 30/09/2019 30/09/2020
01/10/16 - 30/09/17 30/09/2018 30/09/2019 30/09/2020 30/09/2021
01/10/17 - 30/09/18 30/09/2019 30/09/2020 30/09/2021 30/09/2022
01/10/18 - 30/09/19 30/09/2020 30/09/2021 30/09/2022 30/09/2023
01/10/19 – 30/09/20 30/09/2021 30/09/2022 30/09/2023 30/09/2024
01/10/20 – 28/02/21 30/09/2022 30/09/2023 30/09/2024 30/09/2025

Cyllid blynyddoedd 2-5 –proffil talu ar gyfer cyraeddiadau UKRS

Cyraeddiadau rhwng Hawlio cyllid ar gyfer Blwyddyn 2 Hawlio cyllid ar gyfer Blwyddyn 3 Hawlio cyllid ar gyfer Blwyddyn 4 Hawlio cyllid ar gyfer Blwyddyn 5
01/03/21 – 28/02/22 31/08/2023 31/08/2024 31/08/2025 31/08/2026  
01/03/22 – 28/02/23 31/08/2024 31/08/2025 31/08/2026 31/08/2027  

3. Rhan 3 – Datganiad o’r canlyniadau ar gyfer derbynwyr mewn perthynas â nawdd cymunedol

3.1 Agwedd allweddol ar y Cynllun Nawdd Cymunedol (y ‘Cynlluniau’) yw’r gofyniad i bob Noddwr cymeradwy gael cymorth eu hawdurdodau statudol perthnasol, gan gynnwys y Derbynnydd.

Ad-dalu am Gostau Addysg

3.2 Yn unol â’i ddyletswydd statudol, bydd gan Dderbynnydd yr hawl i hawlio Cyllid tuag at gostau addysgol a dynnir i gefnogi plant o oedran ysgol hyd at yr uchafswm cyfraddau y pen sy’n dilyn:

Costau uned (£GBP) ar gyfer cynlluniau[footnote 12]

Oedolion sy’n Hawlio Budd-daliadau Oedolion Eraill Plant 5-18 Plant 3-4 Plant Dan-3
Blwyddyn 1 Addysg 0 0 4,500 2,250 0

3.3 Bydd y Derbynnydd yn gyfrifol am sicrhau bod y lefel briodol o gyllid yn cael ei thalu i leoedd addysg (gan gynnwys ysgolion, academïau, ysgolion rhydd a cholegau Addysg Bellach, fel y bo’n briodol) sy’n derbyn Ffoaduriaid o’r grwpiau oedran perthnasol.

3.4 Gall y Derbynnydd ofyn am gyllid ychwanegol at ddibenion addysgol mewn perthynas â Ffoaduriaid 18 oed neu iau a gynorthwyir ac sydd mewn addysg amser llawn, lle mae amgylchiadau cymhellol yn bodoli. Bydd ceisiadau o’r fath yn cael eu hystyried fesul achos, gyda’r Awdurdod yn pennu’r penderfyniad terfynol ar daliad, hyd a chyfradd (y gellir eu haddasu o bryd i’w gilydd.

Ad-dalu am Gostau Cymorth eraill yn ystod Blynyddoedd 1 a 2

3.5 Os, am unrhyw reswm, nad yw Noddwr yn gallu cyflawni ei rwymedigaethau wrth gyflawni’r Cynlluniau, bydd yn ofynnol i’r Derbynnydd gamu i mewn a darparu’r cymorth angenrheidiol drwy:

3.5.1 Y deuddeg (12) Mis cyntaf (Blwyddyn 1), gan gynnwys darparu llety, cymorth gwaith achos, addysg (gan gynnwys Hyfforddiant Iaith), a gofal cymdeithasol, fel y disgrifir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon, ac

3.5.2 Yr ail ddeuddeg (12) Mis (Blwyddyn 2), darparu llety ac unrhyw gymorth arall y mae’r Derbynnydd yn ei ystyried yn briodol, fel y disgrifir yn Rhan 2 o’r Atodlen hon.

3.6 Pan na fydd Noddwr yn gallu cyflawni ei rwymedigaethau contractiol, neu fel arall gefnogi’r Ffoaduriaid, gall Derbynnydd hefyd fod yn gymwys i hawlio Cyllid ar gyfer pob Ffoadur a gefnogir hyd at y cyfraddau uchaf safonol y pen sy’n dilyn:

Costau uned (£GBP) ar gyfer cynlluniau[footnote 13]

Oedolion sy’n Hawlio Budd-daliadau Oedolion Eraill Plant 5-18 Plant 3-4 Plant Dan-3
Blwyddyn 1          
Costau Adsefydlu 8,520 8,520 8,520 8,520 8,520
Blwyddyn 2          
Costau Adsefydlu 5,000 5,000 5,000 5,000 5,000

3.7 Cydnabyddir y gallai Noddwr eisoes fod wedi cyflawni rhai o’i rwymedigaethau mewn perthynas â gofynion cymorth Ffoadur. Mater i’r Derbynnydd, felly, fydd asesu a phennu anghenion pob Ffoadur yn ôl y canlyniadau a ddisgrifir yn Rhan 1 a Rhan 2 o’r Atodlen 1 hon.

3.8 Bydd union werth y Cyllid ac amseriad y taliad yn cael ei bennu fesul achos yn dibynnu ar amgylchiadau pob Ffoadur y mae’r Derbynnydd yn hawlio ar ei gyfer.

3.9 Bydd y cyllid hyd at yr uchafswm a nodir yn dibynnu ar hyd yr amser y mae angen i’r Derbynnydd ddarparu cymorth i’r Ffoadur. Yn nodweddiadol, bydd hyn yn:

3.9.1 Mwy na chwe (6) Mis – gwerth llawn

3.9.2 Llai na chwe (6) mis – 50% o’r gwerth

Cyllid ar gyfer Blynyddoedd 3 i 5

3.10 Bydd Derbynnydd yn gymwys i hawlio am gyfraniadau at gostau o dan y cyfnodau amser perthnasol a ddisgrifir yn Rhan 2 o’r Atodlen 1 hon i’w penderfynu fesul achos.

4. Rhan 4 – myneduad i esol: datganiad o’r canlyniadau ar gyfer arian ychwanegol i gefnogi darpariaeth saesneg ar gyfer ffoaduriaid sy’n oedolion

Cynyddu Mynediad i Hyfforddiant Iaith

4.1 Fel y nodir yn Rhan 1, paragraff 1.30 o’r Atodlen 1 hon, bwriad y Cyllid ychwanegol sydd ar gael yn bennaf yw cynyddu mynediad Ffoaduriaid sy’n Oedolion i Hyfforddiant Iaith Ffurfiol sy’n briodol i’w gallu a’u hanghenion.

4.2 Gellir ei ddefnyddio hefyd i gefnogi Hyfforddiant Iaith Anffurfiol (Rhan 1, paragraff 1.27 o Atodlen 1 hon).

4.3 Yn unol â’r canllawiau arfer da presennol ar adsefydlu, bwriedir defnyddio’r Cyllid hwn mewn ffordd sy’n hyrwyddo integreiddio a’r daith tuag at hunangynhaliaeth.

Ffactorau Llwyddiant Allweddol

4.4 Mae’r Awdurdod wedi cynllunio set o ddangosyddion i asesu effeithiolrwydd y Cyllid o ran cyflawni ei ganlyniad. Y Ffactorau Llwyddiant Hanfodol hyn yw:

4.4.1 taliadau a dderbynnir,

4.4.2 rhaniad gwariant ar gyfranogiad a gwariant ar beidio â chyfranogi (manylir yn Rhan 1, paragraffau 1.23 -1.24 yr Atodlen hon)

4.5 Yn ogystal, dylai Derbynwyr adrodd ar y dilynol:

4.5.1 I ba raddau y mae’r Cyllid wedi cynyddu gallu lleol i ddarparu ESOL? A fu unrhyw rwystrau cyflawni nad yw’r Cyllid hwn wedi gallu eu goresgyn?

4.5.2 I ba raddau y mae’r Cyllid wedi gwella mynediad i ESOL? A fu unrhyw rwystrau i hygyrchedd nad yw’r cyllid hwn wedi gallu eu goresgyn?

4.5.3 I ba raddau y mae’r cyllid wedi helpu i wella integreiddio Ffoaduriaid sy’n Oedolion a’u cynnydd tuag at hunangynhaliaeth, gan gynnwys yn y gweithle?

4.6 Bydd disgwyl i’r Derbynnydd adrodd ar y mesurau llwyddiant hyn drwy’r broses monitro Diwedd Blwyddyn flynyddol.

Proses Gyllido a Hawliadau

4.7 Gellir hawlio taliad y pen ar gyfer pob Ffoadur sy’n Oedolyn y darperir hyfforddiant iaith iddo gan y Derbynnydd ar y gyfradd safonol ddilynol:

Costau Uned (£GBP)[footnote 14] (gweler paragraff 4.11 isod)

Ffoadur sy’n Oedolyn (19+ oed ar ôl cyrraedd) £850 – hawlio wrth gyrraedd
Ffoadur sy’n Oedolyn (18+ oed ar ôl cyrraedd) £850 – hawlio unwaith y bydd y ffoadur yn cyrraedd 19 oed

4.8 Bydd Noddwyr Cymunedol yn hawlio’r taliadau hyn y pen ar gyfer ffoaduriaid y maent yn eu cefnogi.

4.9 Gall Derbynnydd ‘gronni’ unrhyw Gyllid a hawlir, ar lefel leol neu ranbarthol, er mwyn cynyddu ei allu i adnabod anghenion hyfforddiant iaith unigolion yn effeithiol, bod yn ymatebol i’r anghenion hyn drwy’r trefniadau cyflwyno mwyaf priodol a’r ystod o ddarparwyr o fewn a ardal leol.

4.10 Ar ôl i Ffoadur gael ei asesu’n gymwys (Rhan 1, paragraff 1.22 o’r Atodlen 1 hon) bydd y Derbynnydd yn gallu hawlio.

4.11 Rhaid i’r Derbynnydd wneud hawliad ar y ffurflen hawlio safonol (Atodiad A) er mwyn derbyn taliad. Dylid mewnosod ESOL yng ngholofn O o’r Atodiad a gosod y tariff safonol o £850 yng ngholofn P ar gyfer pob Ffoadur y mae’r Cyllid yn cael ei hawlio ar ei gyfer.

4.12 Gellir hawlio’r £850 o gyllid ESOL ychwanegol ar gyfer pob ffoadur sy’n oedolyn sydd, wrth gyrraedd, yn 19+ oed neu’n cyrraedd 19 oed o fewn y 12 mis cyntaf ar ôl cyrraedd y DU.

5. Rhan 5 – mynediad i ESOL: datganiad o ganlyniadau cefnogaeth gofal plant

Canlyniadau

5.1 Mae’r Awdurdod yn cydnabod bod Ffoaduriaid yn wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan mewn gweithgarwch Hyfforddiant Iaith Ffurfiol, yn arbennig darpariaeth gofal plant.

5.2 Mae oedi cyn dechrau dysgu Saesneg ar ôl cyrraedd yn ei gwneud yn anoddach i Ffoaduriaid (yn arbennig, menywod â theuluoedd) integreiddio a dod yn hunangynhaliol: Mae cael gwared ar y rhwystr hwn yn allweddol i gynorthwyo Ffoaduriaid i ymgartrefu’n effeithiol yn eu cymuned newydd.

5.3 Mae’r Awdurdod yn sicrhau bod Cyllid ar gael i helpu Derbynwyr, boed yn awdurdodau derbyn, Noddwyr Cymunedol a/neu gyrff cydgysylltu rhanbarthol (h.y. Partneriaethau Ymfudo Strategol), ledled y DU i fynd i’r afael â’r broblem hon.

5.4 Mae’r Awdurdod yn cytuno i ddarparu Cyllid fel cyfraniad at wariant cymwys y Derbynnydd i oresgyn rhwystrau ynghylch gofal plant tra bod Ffoaduriaid yn cymryd rhan mewn hyfforddiant ESOL.

5.5 Bydd mynediad at y Cyllid yn ei gwneud yn ofynnol i Dderbynwyr posibl gyflwyno cynigion prosiect y bwriedir iddynt chwalu’r rhwystrau hyn gan ddefnyddio’r ffurflen gais sydd ar gael gan ESOLChildcare@homeoffice.gov.uk

5.6 Gallai prosiectau ddarparu:

5.6.1 mathau traddodiadol o ofal plant megis meithrinfeydd neu gylchoedd chwarae, neu

5.6.2 gofal plant wedi’i deilwra ar yr un safle â dosbarthiadau ESOL, neu

5.6.3 dulliau mwy arloesol megis darparu digwyddiadau dysgu teuluol i helpu oedolion i ddysgu Saesneg pan ydynt yn anfodlon neu’n methu â gadael eu plant. Rhaid i brosiectau dysgu fel teulu fodloni’r gofynion deuol arlwyo ar gyfer plant a darparu hyfforddiant iaith i oedolion.

Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr. Gall y Swyddfa Gartref ddarparu canllawiau pellach ar wariant Cymwys ac Anghymwys ar gais.

Cyllid a Hawliadau

5.7 Er mwyn sicrhau dosbarthiad teg o arian, bydd bidiau’n cael eu hasesu gan yr Awdurdod yn ôl meini prawf sy’n ymwneud ag adnabod angen, canlyniadau a lliniaru risg. Bydd canran o’r cyllid y gofynnir amdano’n cael ei ddyfarnu ar sail canlyniad yr asesiad hwn. Bydd yr Awdurdod yn rhoi manylion y broses fidio i Awdurdodau Lleol ar ddechrau’r flwyddyn ariannol. Gellir gwneud ceisiadau pellach yn ymwneud ag amgylchiadau annisgwyl neu gyrhaeddiad annisgwyl yn ystod y flwyddyn ariannol. Cofiwch, unwaith y bydd yr uchafswm cyllid sydd ar gael wedi’i ddyrannu, ni fydd unrhyw arian pellach ar gael.

5.8 Gellir cael manylion y meini prawf asesu a sut i wneud cais am ofal plant ESOL oddi wrth ESOLChildcare@homeoffice.gov.uk

Uchafswm y cyllid DU-gyfan sydd ar gael ar gyfer prosiectau Mynediad i ESOL (Gofal Plant).[footnote 15]

Mynediad at gyllid gofal plant ESOL, 2022/23: £600,000

Ffactorau Llwyddiant Allweddol

5.9 Mae’r Awdurdod wedi cynllunio set o ddangosyddion i asesu effeithiolrwydd y Cyllid o ran cyflawni ei ganlyniad. Y Ffactor Llwyddiant Allweddol yw:

5.9.1 Cyfanswm nifer yr unigolion sy’n defnyddio ESOL o ganlyniad i’r cyllid hwn.

5.10 Yn ogystal, dylai Derbynwyr adrodd ar y dilynol:

5.10.1 Nifer y dosbarthiadau ESOL a fynychwyd na ellid bod wedi eu mynychu heb fynediad i gyllid gofal plant.

5.10.2 A fu unrhyw rwystrau hygyrchedd yn ymwneud â gofal plant nad yw’r cyllid hwn wedi gallu eu goresgyn?

5.10.3 Unrhyw dystiolaeth ychwanegol o’r manteision i’r rhai a oedd yn cymryd rhan.

5.11 Bydd disgwyl i’r Derbynnydd adrodd ar y mesurau llwyddiant hyn drwy’r broses monitro Diwedd Blwyddyn flynyddol. Gall yr Awdurdod hefyd ofyn am wybodaeth monitro a gwerthuso ychwanegol y tu allan i’r broses hon, gan gynnwys, er enghraifft, astudiaethau achos sy’n dangos sut y bu’n fuddiol ar sail unigol.

5.12 Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y ffrwd gyllido hon, cysylltwch ag: ESOLChildcare@homeoffice.gov.uk

6. Rhan 6 – Mynediad nawdd cymunedol i gyllid

Ad-dalu am Arian Ychwanegol i Gefnogi Darpariaeth Iaith Saesneg i Ffoaduriaid sy’n Oedolion

6.1 Gall Noddwyr Cymunedol hawlio Cyllid Ychwanegol i gefnogi darpariaeth Saesneg i Ffoaduriaid yn unol â Rhan 4, paragraffau 4.7 i 4.12 o’r Atodlen 1 hon.

Costau uned (£GBP) ar gyfer cynlluniau

Ffoadur sy’n Oedolyn (19+ oed ar ôl cyrraedd Ffoadur sy’n Oedolyn (18+ oed ar ôl cyrraedd
£850 – hawlio wrth gyrraedd £850 – hawliad unwaith y bydd y ffoadur yn cyrraedd 19 oed

6.2 Gall Noddwyr Cymunedol hefyd wneud cais am y cyllid sydd ar gael ar gyfer gofal plant i hwyluso’r uchod i gymryd rhan mewn gweithgarwch Hyfforddiant Iaith Ffurfiol, fel y nodir yn Rhan 5 o’r Atodlen 1 hon.

Atodiad A – Porfforma hawlio gwariant

Bydd y taenlenni Excel Atodiad A dilynol a’r ffurflen hawlio Costau Eithriadol yn cael eu darparu ar wahân gan Dîm Taliadau Adsefydlu’r ALl.

  • VPRS Atodiad A – hawliad cychwynnol Blwyddyn 1

  • VPRS Atodiad A – hawliadau dilynol Blwyddyn 1

  • VCRS Atodiad A – hawliad cychwynnol Blwyddyn 1

  • VCRS Atodiad A – hawliadau dilynol Blwyddyn 1

  • UKRS Atodiad A – hawliad cychwynnol Blwyddyn 1

  • UKRS Atodiad A – hawliadau dilynol Blwyddyn 1

  • VPRS Atodiad A –Blynyddoedd 2 i 5

  • VCRS Atodiad A –Blynyddoedd 2 I 5

  • UKRS Atodiad A – Blynyddoedd 2 i 5

  • Ffurflen hawlio Costau Eithriadol

Atodiad B – Categorïau cyflwyno adsefydlu UNHCR

Mae’r Awdurdod yn gyfrifol am nodi Ffoaduriaid addas i’w hadsefydlu i’r DU o dan Gynllun Adsefydlu’r DU mewn cysylltiad ag Uchel Gomisiwn y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR) yn seiliedig ar y saith categori cyflwyno adsefydlu dilynol[footnote 16]:

  • Anghenion Amddiffyn Cyfreithiol a/neu Gorfforol

  • Goroeswyr Artaith a/neu Drais

  • Anghenion Meddygol

  • Merched a Merched mewn Perygl

  • Ailuno Teuluoedd

  • Plant a’r Glasoed mewn Perygl*

  • Diffyg Atebion Gwydn Amgen Rhagweladwy

*Categorïau UNHCR o Blant a Phobl Ifanc sydd Mewn Perygl

  • Plant ar eu pen eu hunain (UAC): yw’r plant hynny sydd wedi’u gwahanu oddi wrth y ddau riant a pherthnasau eraill ac nad ydynt yn derbyn gofal gan oedolyn sydd, yn ôl y gyfraith neu arferiad, yn gyfrifol am wneud hynny.

  • Plant sydd wedi gwahanu: yw’r rhai sydd wedi’u gwahanu oddi wrth y ddau riant, neu oddi wrth eu rhoddwr gofal sylfaenol cyfreithlon neu arferol blaenorol, ond nid o reidrwydd oddi wrth berthnasau eraill. Gall y rhain, felly, gynnwys plant yng nghwmni oedolion eraill o’r teulu.

  • Plant heb ddogfennaeth gyfreithiol: Byddai hyn yn cynnwys plant heb ddogfennaeth gyfreithiol i brofi eu hunaniaeth gyfreithiol, ac a allai fod yn arbennig o agored i niwed ac yn cael eu hystyried ar gyfer adsefydlu, gan gynnwys:

  1. plant 0-4 oed sydd heb dystiolaeth o’u geni (dim tystysgrif geni, dim pasbort hysbysiad geni na llyfryn teulu), a lle nad yw un rhiant yn bresennol (yn arbennig, os yw’r rhiant sydd â’r hawl i basio cenedligrwydd ddim yn bresennol), neu

  2. plant 12-17 oed sydd heb ddogfennaeth i brofi eu hoedran ac sy’n wynebu risgiau amddiffyn eraill (llafur plant, priodas plant, recriwtio plant, plant sy’n cael eu cadw neu sy’n gwrthdaro â’r gyfraith) sydd mewn perygl arbennig oherwydd nad oes ganddynt brawf o’u statws fel plant ac felly ni allant brofi eu hawl i amddiffyniadau plant oed-benodol o dan y gyfraith.

  • Plant ag anghenion meddygol penodol: Plentyn â chyflwr meddygol difrifol yw unigolyn dan 18 oed sydd angen cymorth, o ran triniaeth neu ddarparu eitemau maethol a di-fwyd, yn y wlad lloches.

  • Plant ag anableddau: Mae plentyn ag anabledd yn unigolyn o dan 18 oed sydd â namau corfforol, meddyliol, deallusol neu synhwyraidd o enedigaeth, neu o ganlyniad i salwch, haint, anaf neu drawma. Gall y rhain rwystro cyfranogiad llawn ac effeithiol mewn cymdeithas ar sail gyfartal ag eraill.

  • Gofalwyr sy’n blant: Mae’r categori Gofalwyr sy’n Blant yn cynnwys unigolyn o dan 18 oed, nad yw’n blentyn ar ei ben ei hun ac sydd wedi cymryd cyfrifoldeb fel pennaeth cartref. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, plentyn sy’n dal i fyw gyda’i rieni, ond sydd wedi cymryd y rôl o ofalu amdanynt (a brodyr a chwiorydd posibl) oherwydd bod y rhieni’n sâl, yn anabl, ac ati.

  • Plant sydd mewn perygl o arferion traddodiadol niweidiol, gan gynnwys priodas plant ac anffurfio organau cenhedlu benywod: Unigolyn dan 18 oed sydd mewn perygl o, neu sy’n ddioddefwr/goroeswr, arfer traddodiadol niweidiol. Mae gan bob grŵp cymdeithasol arferion a chredoau traddodiadol penodol, y mae rhai ohonynt yn fuddiol i bob aelod tra bod eraill yn niweidiol i grŵp penodol, megis menywod. Mae arferion traddodiadol niweidiol o’r fath yn cynnwys er enghraifft, anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas gynnar, pris gwaddol, etifeddiaeth gweddw, bwydo benywaidd dan orfod, hela gwrachod, babanladdiad benywaidd, dewis mab a’i oblygiadau i’r ferch fach. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, mae rhai mathau o enwaedu gwrywaidd, creithiau neu datŵ hefyd yn dod o dan y categori hwn.

  • Llafur plant: Yn cynnwys plant sy’n ymwneud ag:

(i) y mathau gwaethaf o lafur plant: Unigolyn o dan 18 oed sy’n cymryd rhan yn y mathau gwaethaf o lafur plant, sy’n cynnwys pob math o gaethwasiaeth neu arferion sy’n debyg i gaethwasiaeth (megis gwerthu a masnachu mewn plant, caethiwed dyled a gwasanaeth a llafur dan orfod neu orfodol, gan gynnwys recriwtio plant dan orfod neu orfodol i’w defnyddio mewn gwrthdaro arfog); defnyddio, caffael neu gynnig plentyn ar gyfer puteindra, ar gyfer cynhyrchu pornograffi neu ar gyfer perfformiadau pornograffig; defnyddio, caffael neu gynnig plentyn ar gyfer gweithgareddau anghyfreithlon, yn arbennig ar gyfer cynhyrchu a masnachu mewn pobl fel y’u diffinnir yn y cytuniadau rhyngwladol perthnasol; gwaith sydd, oherwydd ei natur neu’r amgylchiadau y caiff ei wneud odanynt, yn debygol o niweidio iechyd, diogelwch neu foesau plant; a

(ii) mathau eraill o lafur plant: Unigolyn o dan 18 oed sy’n cymryd rhan mewn mathau o lafur plant heblaw’r mathau gwaethaf, megis gwaith sy’n debygol o fod yn beryglus neu o amharu ar ei addysg, neu o fod yn niweidiol i’w iechyd neu ddatblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol, moesol neu gymdeithasol. Mae UNICEF yn diffinio llafur plant fel gwaith sy’n fwy na lleiafswm nifer yr oriau, yn dibynnu ar oedran y plentyn a’r math o waith. Ystyrir bod gwaith o’r fath yn niweidiol i’r plentyn: 5-11 oed: o leiaf awr o lafur economaidd neu 28 awr o lafur domestig yr wythnos; 12-14 oed: o leiaf 14 awr o lafur economaidd neu 28 awr o lafur domestig yr wythnos; 15-17 oed: o leiaf 43 awr o waith economaidd neu ddomestig yr wythnos.

  • Plant sy’n gysylltiedig â lluoedd arfog neu grwpiau arfog: yw personau o dan 18 oed sy’n cael eu recriwtio neu sydd wedi’u recriwtio i, neu a ddefnyddir gan, lu arfog neu grŵp arfog mewn unrhyw swyddogaeth, gan gynnwys fel ymladdwr, cogydd, porthor, negesydd, ysbïwr , neu at ddibenion rhywiol neu briodas dan orfod. Nid yw’n cyfeirio’n unig at blentyn sy’n cymryd neu sydd wedi cymryd rhan uniongyrchol mewn ymladd.

  • Plant yn y ddalfa a/neu sy’n gwrthdaro â’r gyfraith: Person o dan 18 oed sy’n cael, neu sydd wedi cael, ei gyhuddo neu ei ddyfarnu’n euog o dorri’r gyfraith.

  • Plant sy’n wynebu risg o ddychwelyd dan orfod[footnote 17]: Unigolyn o dan 18 oed sydd mewn perygl o gael ei ddychwelyd i ffiniau tiriogaethau lle byddai ei fywyd neu ei ryddid dan fygythiad, neu lle mae mewn perygl o gael ei erlid am un neu ragor o seiliau Confensiwn Ffoaduriaid 1951, gan gynnwys rhyng-gipio, gwrthod ar y ffin neu ddychwelyd dan orfod anuniongyrchol.

  • Plant sydd mewn perygl o beidio â mynychu’r ysgol: Unigolyn o dan 18 oed nad yw’n gallu neu’n fodlon mynychu’r ysgol neu sydd mewn perygl uwch o dorri ar draws ei addysg neu ddod â’i addysg i ben.

  • Plant sydd wedi goroesi (neu mewn perygl o) drais, cam-drin neu gamfanteisio, gan gynnwys Trais Rhywiol ac ar Sail Rhywedd (SGBV): Unigolyn o dan 18 oed, sydd mewn perygl o drais corfforol a/neu seicolegol, cam-drin, esgeuluso neu gamfanteisio. Gall y cyflawnwr fod yn unrhyw unigolyn, grŵp neu sefydliad, gan gynnwys actorion gwladwriaethol ac anwladwriaethol.

Atodiad C – Protocol rhannu data (DSP)

1. Nodau ac amcanion y DSP

1.1 Nod y DSP hwn yw darparu set o egwyddorion ar gyfer rhannu gwybodaeth.

1.2 Mae’r DSP hwn yn nodi’r rheolau y mae’n rhaid i’r Derbynnydd eu dilyn wrth drin gwybodaeth a ddosberthir fel “data personol” gan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU sydd mewn grym.1

2. Deddfwriaeth diogelu data

2.1 Mae Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU yn pennu rhwymedigaethau penodol ar bob unigolyn sy’n prosesu data personol y mae’n rhaid cadw atynt. Mae Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU yn ei gwneud yn ofynnol i bob trosglwyddiad gwybodaeth ddod o fewn ei chwe egwyddor ar gyfer diogelu data. Rhaid i’r Derbynnydd, wrth brosesu data personol mewn cysylltiad â’r Cyfarwyddyd, gydymffurfio â’r egwyddorion arfer da hyn.

2.2 Rhaid prosesu data personol yn unol â’r chwe egwyddor diogelu data dilynol:

(i) cael eu prosesu’n gyfreithlon, yn deg ac mewn modd tryloyw mewn perthynas ag unigolion;

(ii) cael eu casglu at ddibenion penodedig, eglur a chyfreithlon a heb eu prosesu ymhellach mewn modd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny; ni fydd prosesu pellach at ddibenion archifo er budd y cyhoedd, dibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol neu ddibenion ystadegol yn cael ei ystyried yn anghydnaws â’r dibenion cychwynnol;

(iii) digonol, perthnasol ac wedi’i gyfyngu i’r hyn sy’n angenrheidiol mewn perthynas â’r dibenion y cânt eu prosesu ar eu cyfer;

(iv) cywir a, lle bo angen, yn cael eu cadw’n gyfredol; rhaid cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod data personol sy’n anghywir, gan roi sylw i’r dibenion y cânt eu prosesu ar eu cyfer, yn cael eu dileu neu eu cywiro yn ddi-oed;

(v) cael eu cadw ar ffurf nad yw’n caniatáu adnabod gwrthrych y data am gyfnod hwy nag sy’n angenrheidiol at y dibenion y mae’r data personol yn cael eu prosesu ar eu cyfer; gellir storio data personol am gyfnodau hwy i’r graddau y bydd y data personol yn cael eu prosesu dim ond at ddibenion archifo er budd y cyhoedd, dibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol neu ddibenion ystadegol yn amodol ar weithredu’r mesurau technegol a threfniadol priodol sy’n ofynnol gan GDPR y DU er mwyn diogelu hawliau a rhyddid unigolion; a,

(vi) cael eu prosesu mewn modd sy’n sicrhau diogelwch priodol y data personol, gan gynnwys amddiffyniad rhag prosesu anawdurdodedig neu anghyfreithlon ac yn erbyn colled, dinistr neu ddifrod damweiniol, gan ddefnyddio mesurau technegol neu sefydliadol priodol.

3. Diogelwch

3.1 Bydd y Derbynnydd a’i Staff yn cymryd gofal wrth ddefnyddio’r wybodaeth y maent yn ei chaffael yn ystod ei rôl swyddogol, ac i ddiogelu gwybodaeth a gedwir ganddo yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU. Mae mesurau o’r fath yn cynnwys:

  • peidio â thrafod gwybodaeth am Ffoadur yn gyhoeddus; a

  • pheidio â datgelu gwybodaeth i bartïon nad ydynt wedi’u hawdurdodi i gyrchu’r wybodaeth a rennir.

3.2 Yn ogystal â’r hyn uchod, rhaid i’r Derbynnydd sicrhau:

  • mae data personol a dderbynnir yn cael eu prosesu dim ond at ddibenion cyflawni eu rhwymedigaethau i gefnogi Ffoaduriaid o dan y Cyfarwyddyd hwn,

  • mae’r holl ddata personol a dderbynnir yn cael eu storio’n ddiogel,

  • dim ond pobl sydd ag angen gwirioneddol i weld y data fydd â mynediad atynt,

  • dim ond tra bod angen ei chadw y caiff gwybodaeth ei chadw, gan ei dinistrio yn unol â chanllawiau’r llywodraeth,

  • gwnaed pob ymdrech resymol i warantu nad yw’r Derbynnydd yn torri amodau data personol

  • mae unrhyw golledion gwybodaeth, datgeliadau anghyfiawn neu doriadau data personol sy’n deillio o’r Awdurdod yn cael eu hadrodd i dîm Diogelwch yr Awdurdod yn HOSecurity-DataIncidents@homeoffice.gov.uk

  • Bydd yr Awdurdodau, y Tîm Diogelwch a’r Swyddog Diogelu Data yn rhoi cyfarwyddyd ar y camau priodol i’w cymryd e.e. hysbysu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) neu ddosbarthu unrhyw wybodaeth i’r Ffoaduriaid.

  • Nid yw’r cyfrifoldeb i roi gwybod i’r HO er gwaethaf y polisïau mewnol a fydd gan SMPs ac awdurdodau lleol ynghylch adrodd am achosion o dorri data i’r ICO yn eu rôl fel rheolydd data yn unol â 5.6 uchod.

  • Gall achosion o doriadau a digwyddiadau diogelwch olygu bod gwybodaeth y llywodraeth ar gael i’r rhai nad ydynt wedi’u hawdurdodi i’w chael neu dorri cyfrinachedd. Yn yr achosion gwaethaf, gall digwyddiad neu doriad diogelwch beryglu diogelwch cenedlaethol neu beryglu diogelwch y cyhoedd.

3.3 Gall achosion toriadau a digwyddiadau diogelwch olygu bod gwybodaeth y llywodraeth ar gael i’r rhai nad oes ganddynt yr awdurdod i’w chael neu dorri cyfrinachedd. Yn yr achosion gwaethaf, gall digwyddiad diogelwch neu doriad diogelwch beryglu diogelwch cenedlaethol neu beryglu diogelwch y cyhoedd.

3.4 Bydd yr Awdurdod yn darparu rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n gyfystyr â thorri rheolau data personol ar gais.

3.5 Fel cyrff sector cyhoeddus mae’n ofynnol i’r Awdurdod a’r Derbynnydd brosesu data personol yn unol â chanllawiau Fframwaith Polisi Diogelwch Llywodraeth Ei Mawrhydi (HMG SPF) a gyhoeddwyd gan Swyddfa’r Cabinet wrth drin, trosglwyddo, storio, cyrchu neu ddinistrio asedau gwybodaeth.

4. Cais gwrthrych am wybodaeth

4.1 Bydd yr Awdurdod a’r Derbynnydd yn ateb unrhyw geisiadau gwrthrych am wybodaeth neu geisiadau eraill a wneir o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU y mae’n eu derbyn am y data os mai ef yw’r Rheolydd ar gyfer y data hynny. Mewn achosion lle derbynnir cais o’r fath, bydd yr Awdurdod a’r Derbynnydd yn:

  • ymgynghori â’r llall cyn penderfynu a ddylid datgelu’r wybodaeth ai peidio;

  • caniatáu cyfnod o bum (5) diwrnod gwaith o leiaf i’r llall ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw;

  • peidio â datgelu unrhyw ddata personol a fyddai’n torri egwyddorion Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU; a,

  • rhoi ystyriaeth briodol i unrhyw ddadleuon gan y llall ynghylch pam na ddylid datgelu data, a lle bo’n bosibl dod i gytundeb cyn datgelu unrhyw beth.

5. Data i’w rhannu

5.1 Bydd yr Awdurdod yn rhannu’r dogfennau dilynol ar Ffoadur gyda’r Derbynnydd:

5.1.1 Ffurflen Gofrestru Adsefydlu UNHCR (RRF)

5.1.2 Ffurflen Asesiad Iechyd Mudo IOM (MHA)

5.1.3 Asesiadau a Phenderfyniadau Budd Gorau UNHCR

5.1.4 Ffurflen Sgrinio Meddygol Cyn Gadael (PDMS) a Thystysgrif Cyn Cychwyn IOM (PEC)

5.2 Bydd y dogfennau uchod yn cynnwys y wybodaeth bersonol dilynol am Ffoadur:

Ffurflen Gofrestru Adsefydlu UNHCR (RRF)

  • Data bywgraffyddol ar gyfer pob Ffoadur gan gynnwys statws priodasol, crefydd, tarddiad ethnig, manylion cyswllt y wlad sy’n cynnal;

  • Crynodeb addysg, sgiliau a chyflogaeth;

  • Perthnasau hysbys y prif ymgeisydd a’r priod heb eu cynnwys yn y cyflwyniad atgyfeiriadau;

  • Crynodeb o Sail Cydnabyddiaeth Ffoadur y Prif Ymgeisydd[footnote 18];

  • Angen i adsefydlu[footnote 19];

  • Asesiad o anghenion penodol[footnote 20];

  • Nifer y bobl o fewn teulu sydd ar fin cael eu hadsefydlu, oedran a rhywedd neu aelodau o’r teulu;

  • Yr iaith a siaredir;

  • Y gallu i gyfathrebu yn Saesneg; ac

  • Unrhyw faterion diwylliannol neu gymdeithasol penodol hysbys[footnote 21].

Ffurflen MHA

  • Caniatâd gan Ffoadur i gynnal archwiliad meddygol;

  • Caniatâd gan y Ffoadur i Gynghorwyr Meddygol i ddatgelu unrhyw gyflyrau meddygol presennol i’r Awdurdod sy’n angenrheidiol ar gyfer y broses adsefydlu[footnote 22].

Asesiadau a Phenderfyniadau Lles Gorau

  • Gwybodaeth am unrhyw amgylchiadau diogelu penodol ac asesiad o fuddiannau gorau’r unigolion yr effeithir arnynt[footnote 23].

Ffurflen PDMS a PEC

  • Data bywgraffyddol ar gyfer pob ffoadur sydd angen y ffurflen hon;

  • Gwybodaeth feddygol mewn perthynas â’r ffoadur gan gynnwys hanes meddygol, diweddariadau ar driniaethau a meddyginiaeth, gofynion gofal parhaus.

6. Atolden storio, cadw a dinistrio

6.1 Bydd y Derbynnydd yn cadw’r holl wybodaeth bersonol a rennir yn ddiogel yn unol â’r cyfarwyddiadau trin sy’n gysylltiedig â’r dosbarthiadau diogelwch gwybodaeth yn ogystal â’i amserlenni cadw a dinistrio data ei hu.

6.2 Ni fydd derbynwyr yn cadw’r wybodaeth bersonol am fwy o amser nag sy’n angenrheidiol at ddiben gweithgarwch adsefydlu fel yr amlinellir yn y cyfarwyddyd cyllido.

6.3 Bydd adolygiad rheolaidd yn cael ei gynnal gan y Derbynnydd i asesu a oes angen cadw data personol y Ffoaduriaid. Unwaith na fydd y data bellach yn berthnasol at y dibenion hynny, cânt eu dinistrio’n ddiogel.

7. Pwyntiau cyswllt canolog ar gyfer materion, anghydfodau a datrys

7.1 Bydd y Derbynnydd yn rhoi cydweithrediad a chymorth rhesymol i’r Awdurdod mewn perthynas ag unrhyw gŵyn neu gais a wneir mewn perthynas ag unrhyw ddata a rennir o dan y trefniant rhannu data hwn, gan gynnwys darparu i’r Awdurdod unrhyw wybodaeth berthnasol arall y gofynnir amdani’n rhesymol gan yr Awdurdod.

7.2 Rhaid cyfeirio unrhyw faterion neu anghydfodau gweithredol sy’n codi o ganlyniad i’r DSP hwn yn y lle cyntaf at arweinwyr Rhanbarthol Strategol Tîm Ymgysylltu’r Awdurdod Lleol.

8. Cyfrifoldebau staff

8.1 Mae staff sydd wedi’u hawdurdodi i weld data personol Ffoaduriaid yn bersonol gyfrifol am gadw’n ddiogel unrhyw wybodaeth y maent yn ei chael, ei thrin, ei defnyddio a’i datgelu.

8.2 Dylai staff wybod sut i gael, defnyddio a rhannu gwybodaeth sydd ei hangen arnynt yn gyfreithlon i wneud eu gwaith.

8.3 Mae gan staff rwymedigaeth i ofyn am brawf adnabod neu gymryd camau i ddilysu awdurdodiad unigolyn arall cyn datgelu unrhyw wybodaeth y gofynnir amdani o dan y DSP hwn.

8.4 Dylai staff gadw at egwyddorion cyffredinol cyfrinachedd, dilyn y canllawiau a nodir yn y DSP hwn a cheisio cyngor pan fo angen.

8.5 Dylai staff fod yn ymwybodol bod unrhyw achos o dorri preifatrwydd neu dorri cyfrinachedd yn anghyfreithlon ac yn fater disgyblu a allai arwain at eu diswyddo. Gellir dwyn achos troseddol yn erbyn yr unigolyn hwnnw hefyd.

9. Ceisiadau rhyddid gwybodaeth

9.1 Bydd yr Awdurdod a’r Derbynnydd ill dau yn ateb unrhyw geisiadau a wneir o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 y mae’n eu derbyn am wybodaeth y mae’n ei chadw o ganlyniad i’r trefniant rhannu data hwn neu am y trefniant rhannu data hwn yn unig. Mewn achosion o’r fath pan dderbynnir cais o’r fath, bydd yr Awdurdod a’r Derbynnydd yn:

  • Ymgynghori â’r llall cyn penderfynu a ddylid datgelu’r wybodaeth ai peidio;

  • Caniatáu cyfnod o bum (5) diwrnod gwaith o leiaf i’r llall ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw; a

  • Peidio â datgelu unrhyw ddata personol a fyddai’n torri egwyddorion deddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

10. Dull trosglwyddo data personol ffoaduriaid

10.1 Bydd yr Awdurdod yn defnyddio proses ddiogel, a elwir yn MOVEit, i drosglwyddo’r data sy’n caniatáu i ddefnyddwyr mewnol ac allanol rannu ffeiliau’n ddiogel a bydd yn darparu’r modd rhyngweithio rhwng y partïon.

10.2 Bydd y Derbynnydd yn cael mynediad i MOVEit dros borwr gwe. Unwaith y bydd y trefniant hwn yn weithredol, bydd yn ofynnol i’r Derbynnydd, i’r graddau a bennir o bryd i’w gilydd gan yr Awdurdod, ddefnyddio MOVEit at ddiben ei ryngwyneb â’r Awdurdod o dan y Memorandwm hwn.

10.3 Dylai rhestr o Staff awdurdodedig fod ar gael i’w harchwilio os bydd yr Awdurdod yn gofyn am hynny.

11. Cyfyngiadau ar ddefnydd o’r wybodaeth a rennir

11.1 Rhaid defnyddio’r holl wybodaeth am Ffoadur sydd wedi’i rhannu gan yr Awdurdod at y dibenion a ddiffinnir yn Adran 3 o’r DSP hwn yn unig, oni bai ei fod yn ofynnol dan statud neu reoliad neu o dan gyfarwyddiadau llys. Felly ni fydd unrhyw ddefnyddiau pellach a wneir o’r data personol yn gyfreithlon nac yn dod o dan y DSP hwn.

11.2 Gall cyfyngiadau hefyd fod yn berthnasol i unrhyw ddefnydd pellach o wybodaeth bersonol, megis sensitifrwydd masnachol neu ragfarn i eraill a achosir gan ryddhau’r wybodaeth, a dylid ystyried hyn wrth ystyried defnydd eilaidd o wybodaeth bersonol. Os bydd unrhyw amheuaeth, bydd y mater yn cael ei gyfeirio at yr Awdurdod a bydd ei benderfyniad – ym mhob achos – yn derfynol.

11.3 Rhaid gwneud cofnod llawn o unrhyw ddatgeliad(au) eilaidd os oes angen yn ôl y gyfraith neu orchymyn llys ar ffeil achos y Ffoaduriaid a rhaid iddo gynnwys y wybodaeth dilynol o leiaf:

  • Dyddiad datgelu;

  • Manylion y sefydliad sy’n gwneud cais;

  • Rheswm dros y cais;

  • Pa fath(au) o ddata y gofynnwyd amdano;

  • Manylion y person awdurdodi;

  • Dulliau trosglwyddo (rhaid iddynt fod yn ddiogel); a

  • Cyfiawnhad dros ddatgelu..

11.4 Mae’r cyfyngiadau ar ddatgeliadau eilaidd fel y nodir ym mharagraffau 11.1 ac 11.2 o’r DSP hwn yr un mor berthnasol i dderbynwyr trydydd parti sydd wedi’u lleoli yn y DU a derbynwyr trydydd parti sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r DU megis asiantaethau gorfodi rhyngwladol.

12. Archwiliadau

12.1 Mae’r Derbynnydd yn cytuno y gellir ei archwilio ar gais yr Awdurdod i sicrhau bod y data personol wedi’i storio a/neu wedi’i dileu’n briodol, a’u bod wedi cydymffurfio â’r protocolau diogelwch a nodir yn y DSP hwn.

12.2 Mae’r Awdurdod yn cadarnhau na fyddai unrhyw wybodaeth arall yn cael ei hadolygu na’i harchwilio at y diben hwn.

Atodiad D – Addasiadau eiddo ar gyfer ffoaduriaid

Byddai angen ceisio cymeradwyaeth ‘mewn egwyddor’ gan Dîm Taliadau Adsefydlu’r Awdurdod Lleol cyn i unrhyw waith gael ei wneud. Byddai disgwyl i gostau fod yn unol â chostau cyfartalog pob addasiad a ddangosir yn y tabl uchod. Bydd y Cynlluniau’n ystyried costau gwrthdroi addasiadau eiddo rhesymol - byddai angen cael cymeradwyaeth gan Dîm Taliadau Adsefydlu’r Awdurdod Lleol cyn gwneud unrhyw waith.

Mae addasiadau eiddo ar gyfer Ffoaduriaid sydd â phroblemau symudedd wedi’u rhannu’n ddau gategori:

a) mân addasiadau sydd wedi’u cynnwys yn y gyfradd tariff, a

b) addasiadau mawr y gellir talu amdanynt o’r gronfa Achosion Eithriadol.

Mân addasiadau

Mae’r rhain yn waith nad oes angen unrhyw newidiadau strwythurol i’r eiddo, gan gynnwys:

  • rheiliau cydio

  • rheiliau grisiau

  • tapiau lifer

  • trothwyon mynediad gwastad

  • hanne-grisiau i ddrysau

  • clychau drws yn fflachio/dirgrynu/larymau mwg, a

  • cawodydd dros y bath.

Byddai’r rhain yn cael eu talu o’r tariff safonol ar gyfer pob Ffoadur.

Addasiadau mawr

Mae’r rhain yn waith sydd angen newidiadau strwythurol i’r eiddo a gallant gynnwys:

Addasiad Estimated average cost (£GBP)
cyfleusterau cawod mynediad gwastad £3,500
Lifftiau grisiau £1,500 (Syth) – £5,000 (Corneli)
Rampiau £500 to £1000
newid uchder arwynebau gwaith ceginau £2000
Addasu’ch cartref ar gyfer defnydd cadair olwyn megis lledu drysau £600 - £800 y drws
cyfleusterau ystafell ymolchi/ystafell wely ar y llawr gwaelod £2000 i £3000

Gall y rhain gael eu cyllido gan y gronfa achosion eithriadol yn dilyn asesiad gan therapydd galwedigaethol neu berson â chymwysterau tebyg. Yr uchafswm y gellir ei wario ar unrhyw eiddo yw £30,000 ac ni ddylai gynnwys estyniadau.

Os bydd grant ar gael ar gyfer addasu eiddo Cymdeithasol neu Breifat ar Rent mae’n ofynnol i’r landlord sicrhau bod yr eiddo ar gael i’w osod gan y tenant am gyfnod o bum (5) mlynedd ar ôl cwblhau’r gwaith, yn unol â’r trefniadau Grant Cyfleusterau i’r Anabl.

Atodiad E – Costau gwag ar gyfer eiddo â phedair ystafell wely neu fwy

Mae awdurdodau lleol eisoes yn gallu defnyddio tariff Blwyddyn Un (gweler Atodlen 1, Rhan 1) i dalu am gyfnod o gostau gwag. I adlewyrchu hyn, mae costau unedau gwag 56 (56) Diwrnod (‘gwag’) eisoes wedi’u cynnwys yn y tariff i alluogi Derbynwyr i sicrhau eiddo cyn i deuluoedd Ffoaduriaid gyrraedd.

Mae’r Awdurdod yn deall yr heriau cyflenwad sy’n gysylltiedig â sicrhau eiddo â phedair (4) ystafell wely yn benodol. Er mwyn cefnogi Derbynwyr a Noddwyr Cymunedol i sicrhau’r eiddo hyn pan ydynt yn dod ar gael, mae’r Awdurdod wedi cytuno i gyllido wyth ar hugain (28) o Ddiwrnodau gwag ychwanegol fel Cost Eithriadol y tu allan i’r tariff. Bydd hyn yn dod â chyfanswm y cyfnod o ddiwrnodau gwag a gwmpesir hyd at wyth deg pedwar (84) Diwrnod.

Meini prawf

Gall derbynwyr gyflwyno hawliad Costau Eithriadol i dalu am hyd at wyth ar hugain (28) o Ddiwrnodau gwag ychwanegol ar gyfer eiddo â phedair (4) neu fwy o ystafelloedd gwely yn unig.

Gellir cyflwyno hawliadau am gostau a gronnwyd o 1 Ebrill 2016. Rhaid cyflwyno tystiolaeth gyda hwy sy’n dangos bod diwrnodau gwag ychwanegol wedi’u tynnu yn fwy na’r tariff sef pum deg chwech (56) Diwrnod, hyd at uchafswm o wyth ar hugain (28) Diwrnod ychwanegol .

Bydd yr Awdurdod hefyd yn ystyried diwrnodau gwag eraill mewn amgylchiadau eithriadol, megis teulu’n methu â chyrraedd ar ôl i’r eiddo gael ei sicrhau.

Gofynnir i dderbynwyr gysylltu â’u swyddog cyswllt rhanbarthol i drafod a ydynt yn credu bod amgylchiadau eithriadol yn berthnasol.

Atodiad F – Canllaw i hawlio costau eithriadol

Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau byddai angen ceisio cymeradwyaeth ‘Mewn egwyddor’ gan Dîm Taliadau Adsefydlu’r Awdurdod Lleol cyn i unrhyw waith gael ei wneud. Os oes brys, cysylltwch ag arweinydd y Tîm Taliadau Adsefydlu.

Cymeradwyaeth mewn egwyddor

Awdurdod Lleol yn nodi’r angen posibl am gostau eithriadol

Awdurdod Lleol yn anfon e-bost at y Swyddfa Gartref yn gofyn am gymeradwyaeth mewn egwyddor gyda gwybodaeth a gwariant amcangyfrifedig ar gyfer y costau eithriadol

Awdurdod Lleol yn casglu’r wybodaeth berthnasol am y costau eithriadol (gweler y dudalen nesaf am enghreifftiau o wybodaeth)

Ymateb e-bost yn cael ei anfon at yr awdurdod lleol gyda phenderfyniad ynghylch y cais am gostau eithriadol, mewn egwyddor (o fewn 5 diwrnod gwaith)

Gall oedi ddigwydd pan nad yw’r Swyddfa Gartref yn cael digon o wybodaeth i benderfynu mewn egwyddor.

Enghreifftiau o wybodaeth ategol

Addasiadau eiddo

  • Gwybodaeth am yr angen am yr addasiadau e.e. Asesiad OT, gwybodaeth feddygol arall.
  • Amcangyfrif o gost pob addasiad – dylid darparu o leiaf ddau amcangyfrif, i ddangos bod y gwerth gorau am arian wedi’i gyflawni.

Costau gwag

  • Cofiwch fod y tariff yn cynnwys cyllid ar gyfer y 56 diwrnod cyntaf ar gyfer rhentu eiddo.
  • Rheswm dros hawlio costau unedau gwag ychwanegol. *Tystiolaeth o wariant e.e. anfonebau rhent.
  • Tystiolaeth o’r dyddiad y prynwyd yr eiddo i’w ailsefydlu.

Costau SEND

  • Gwybodaeth am anghenion penodol cleientiaid, wedi’i hategu gan Asesiad Addysg, Gofal ac Iechyd (ECHA), adroddiad Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (CAAA) neu debyg. Cynhwyswch fanylion yr hyn y gofynnir amdano.
  • Cost cymorth addysgu bwrpasol.
  • Hysbyseb am y cymorth addysgu.
  • Manylion ac amcangyfrif o gostau unrhyw offer arbenigol, gan ddarparu amcangyfrifon i ddangos y gwerth gorau am arian.

Costau Gofal Cymdeithasol

  • Therapydd Galwedigaethol ac asesiadau meddygol.
  • Manylion ac amcangyfrif o gostau gofal arbenigol.
  • Manylion ac amcangyfrif o gostau unrhyw offer arbenigol, gan ddarparu amcangyfrifon i ddangos y gwerth gorau am arian.

Prosesu hawliad am gost eithriadol

  • Unwaith y bydd gwariant wedi digwydd, gall awdurdod lleol gyflwyno hawliad am gostau eithriadol a gymeradwyir ymlaen llaw.

  • Awdurdod Lleol yn llenwi ffurflen hawlio “Costau Eithriadol”.
  • Cais yn cael ei gyflwyno gyda’r holl dystiolaeth o wariant, naill ai drwy e-bost at ResettlementLAPaymentsteam@homeoffice.gov.uk (os nad oes unrhyw wybodaeth bersonol); neu
  • Drwy gyfrif Atodiad A SRP MOVEit.

  • Mae’r tîm Taliadau Adsefydlu’n gwirio’r holl wybodaeth a gyflwynir gan yr awdurdod lleol.
  • Os yw’r hawliad wedi’i gwblhau, caiff ei gymeradwyo i’w dalu o fewn 10 diwrnod gwaith.

  • HysbysiadTalu’n cael ei anfon i’r awdurdod lleol.

Atodiad G - Cofnod o newidiadau i’r Cyfarwyddyd Cyllido hwn (i’r fersiwn flaenorol a gyhoeddwyd)

Rhif tudalen/paragraff Manylion y newid
Diffiniad - Para 1.17 Dileu ailadrodd yr ymadrodd “Hyfforddiant Iaith Ffurfiol”
Diffiniad - Para 1.30.1 Dileu’r gair amherthnasol “A”
Diffiniad - Para 1.32 Cyfeiriwyd at yr eithriad “Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan (ACRS) a Pholisi Adleoli a Chymorth Affganistan (ARAP), ynghyd â Dinasyddion Prydeinig Cymwys, a gynhwysir mewn Cyfarwyddyd Cyllido ar wahân.”
Cwmpas - Para 3.1.4 Ychwanegu paragraff newydd – i gynnwys cyfeiriad at y “Rhaglen Amddiffyn Porth.”
Atodlen 1 – Rhan 1, Para 1.12 Ychwanegu paragraff newydd “Lle nad yw Ffoaduriaid yn cyrchu gwasanaethau allweddol, neu lle mae Derbynwyr fel arall yn poeni am les Ffoaduriaid neu eu dibynyddion, gofynnir i’r Derbynwyr gysylltu â’u swyddog cyswllt rhanbarthol.”
Atodlen 1 – Rhan 1, Para 1.22.4 Ychwanegu “neu baratoi ar gyfer profion hyfedredd iaith” at y paragraff.
Atodlen 1 – Rhan 1, Para 1.30 Paragraff newydd wedi’i gynnwys: “Mae swm ychwanegol o Gyllid hefyd ar gael i Dderbynwyr, i gynyddu mynediad Ffoaduriaid sy’n Oedolion i Hyfforddiant Iaith sy’n briodol i’w gallu a’u hanghenion. Amlinellir hyn yn Rhan 4 o’r Atodlen 1 hon. Mae hwn yn daliad sengl i’w hawlio o fewn y 12 mis cyntaf ar ôl cyrraedd.”
Atodlen 1 – Rhan 1, Para 1.31 Ail-rifo o 1.30 i 1.31 a pharagraffau dilynol i adlewyrchu paragraff newydd 1.30.
Atodlen 1 - Rhan 2, Para 2.10 Wedi’i ddiweddaru “Proffil Taliadau Cyllid Blwyddyn 2 -5 ar gyfer Cyraeddiadau UKRS – cynnwys ar gyfer cyrraedd rhwng 01/03/2022 – 28/02/2023.”
Atodlen 1 – Rhan 4, Para 4.1 Diwygiwyd i adlewyrchu cynnwys Atodlen 1, para 1.30 “Fel y nodir yn Rhan 1, paragraff 1.30 o’r Atodlen 1 hon, bwriad y Cyllid ychwanegol sydd ar gael yn bennaf yw cynyddu mynediad Ffoaduriaid sy’n Oedolion i Hyfforddiant Iaith Ffurfiol sy’n briodol i’w gallu a’u hanghenion.”
Atodlen 1 – Rhan 4, Para 4.12 Dileu “cyflogadwyedd”.
Atodlen 1 – Rhan 5, Para 5.3 Ychwanegu “Grwpiau Noddi Cymunedol” i’r derbynwyr
Atodlen 1 - Rhan 5, Para 5.6 Is-baragraff diwygiedig – testun diwygiedig i egluro
Atodlen 1 – Rhan 5, Para 5.7 Paragraff diwygiedig – testun diwygiedig i egluro’r dyraniad cyllid
Atodlen 1 – Rhan 5, Rhan 6 Paragraff newydd 6.2 “Caiff Noddwyr Cymunedol hefyd wneud cais am y cyllid sydd ar gael ar gyfer gofal plant i hwyluso’r uchod i gymryd rhan mewn gweithgarwch Hyfforddiant Iaith Ffurfiol, fel y nodir yn Rhan 5 o’r Atodlen 1 hon.”
Atodiad B Dileu “Cynllun Adsefydlu Pobl Agored i Niwed”, yn cael ei ddisodli gan “Cynllun Adsefydlu’r DU (UKRS).”
Atodiad E – Meini Prawf Brawddeg 1af - wedi’i diwygio i egluro “Gall derbynwyr gyflwyno hawliad Costau Eithriadol i dalu am hyd at wyth ar hugain (28) diwrnod ychwanegol o ddiwrnodau gwag ar gyfer pedair (4) neu fwy o ystafelloedd gwely yn unig.”
  1. Cyfeiriwch hefyd at y Canllawiau ar Gomisiynu ESOL am ragor o wybodaeth 

  2. Cyfeiriwch hefyd at y Canllawiau ar Gomisiynu ESOL am ragor o wybodaeth 

  3. Cyfeiriwch hefyd at y Porth Rhagoriaeth i gael rhagor o wybodaeth am y cwricwlwm cenedlaethol ESOL a’r Cwricwlwm Sgiliau Bywyd 

  4. Please also refer to the Guidance on Commissioning ESOL for further information 

  5. Gweler Atodiad B 

  6. Ac eithrio achosion lle mae Ffoadur yn gofyn am newid statws mewnfudo yn unol â chyhoeddiad polisi 1 Gorffennaf 2017. 

  7. Bydd yr Awdurdod yn darparu arweiniad ar ‘achosion o ddiddordeb’ ar gais 

  8. https://www.gov.uk/government/publications/supplier-code-of-conduct 

  9. Mae’n well gan yr Awdurdod na ddylid defnyddio cyfrifon mesurydd rhagdalu arian parod neu gerdyn gan fod y rhain yn gyffredinol yn ddrytach i’r Ffoadur. Dylai derbynwyr sy’n ceisio eithriadau gysylltu drwy Dîm Ymgysylltu ALl Adsefydlu perthnasol yr Awdurdod. 

  10. Dim ond am gyfnod y Cyfarwyddyd Cyllido hwn y mae gwerthoedd taliadau’n ddilys; mae blynyddoedd y dyfodol yn ddangosol a gallant, o bryd i’w gilydd, gael eu haddasu gan yr Awdurdod. 

  11. Dim ond am gyfnod y Cyfarwyddyd Cyllido hwn y mae gwerthoedd taliadau’n ddilys; mae blynyddoedd y dyfodol yn ddangosol a gallant, o bryd i’w gilydd, gael eu haddasu gan yr Awdurdod 

  12. Mae gwerthoedd taliadau’n ddilys am gyfnod y Cyfarwyddyd hwn yn unig; mae blynyddoedd y dyfodol yn ddangosol a gallant, o bryd i’w gilydd, gael eu haddasu gan yr Awdurdod. 

  13. Mae gwerthoedd taliadau’n ddilys am gyfnod y Cyfarwyddyd hwn yn unig; mae blynyddoedd y dyfodol yn ddangosol a gallant, o bryd i’w gilydd, gael eu haddasu gan yr Awdurdod. 

  14. Mae gwerthoedd taliadau’n ddilys am gyfnod y Cyfarwyddyd hwn yn unig; mae blynyddoedd y dyfodol yn ddangosol a gallant, o bryd i’w gilydd, gael eu haddasu gan yr Awdurdod. 

  15. Mae gwerthoedd taliadau’n ddilys am gyfnod y Memorandwm hwn yn unig; mae blynyddoedd y dyfodol yn ddangosol a gallant, o bryd i’w gilydd, gael eu haddasu gan yr Awdurdod 

  16. Fel y diffinnir yn Llawlyfr Ailsefydlu UNHCR (http://www.unhcr.org/46f7c0ee2.pdf

  17. Ystyr dychwelyd dan orfod yw diarddel pobl sydd â’r hawl i gael eu cydnabod yn ffoaduriaid. 

  18. Wedi’i ddosbarthu fel data categori arbennig o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU. 

  19. Wedi’i ddosbarthu fel data categori arbennig o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU. 

  20. Yn dibynnu ar y cynnwys, gallai hyn gael ei ddosbarthu fel data categori arbennig posibl o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU. 

  21. Yn dibynnu ar y cynnwys, gallai hyn gael ei ddosbarthu fel data categori arbennig posibl o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU. 

  22. Wedi’i ddosbarthu fel data categori arbennig o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU. 

  23. Yn dibynnu ar y cynnwys, gallai hyn gael ei ddosbarthu fel data categori arbennig posibl o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU.