Guidance

Funding instruction for local authorities in support of the United Kingdom’s resettlement schemes: 2021 to 2022 (Welsh accessible version)

Updated 30 December 2021

Dyddiad cyhoeddi 8 Ebrill 2021
Fersiwn 1.0

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cyhoeddiad hwn atom yn: ResettlementLAPaymentsTeam@homeoffice.gov.uk

Telerau ac amodau cyllid

1. Diffiniadau

1.1. Ystyr “Oedolyn” at ddibenion y ddarpariaeth Saesneg yw Ffoadur sy’n 19 oed neu’n hŷn, neu sy’n troi yn 19 oed o fewn y deuddeg (12) Mis cyntaf o gyrraedd y DU.

1.2. Ystyr “Atodiad” yw’r atodiadau sydd ynghlwm wrth y Cyfarwyddyd Cyllid hwn.

1.3. Ystyr yr “Awdurdod” yw Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref sy’n gweithredu drwy’r Gweithrediadau Adsefydlu ar ran y Goron.

1.4. Ystyr “Noddwr Cymunedol” (neu “Noddwr”) yw grŵp neu sefydliad sy’n:

  • 1.4.1. bodoli ac yn gweithio er budd y gymuned yn hytrach na chyfranddalwyr preifat,ac

  • 1.4.2. sydd wedi’i gofrestru naill ai fel elusen (neu fel sefydliad corfforedig elusennol o 2013), neu gwmni buddiannau cymunedol, neu sy’n unigolyn neu’n gorff sy’n dod o dan Adran 10(2)(a) Deddf Elusennau 2011,ac

  • 1.4.3. sydd wedi’i gymeradwyo gan yr Awdurdod i gefnogi Ffoaduriaid a ddaethpwyd i’r DU drwy’r Cynlluniau, ac

  • 1.4.4. sy’n gallu hawlio Cyllid i gefnogi Darpariaeth Saesneg ar gyfer Oedolion sy’n Ffoaduriaid fel yn Rhestr 1 Rhan 6 a Chostau Di-rym yn Atodiad E.

1.5. Ystyr “Cymal” yw’r cymalau yn y Cyfarwyddyd Cyllid hwn.

1.6. Mae’r “Cynllun Nawdd Cymunedol” yn golygu’r rhaglen a ddatblygwyd gan yr Awdurdod i alluogi Noddwr Cymunedol i gefnogi Ffoaduriaid am gyfnod o bedwar ar hugain (24) Mis ar ôl iddynt gyrraedd y DU o dan y Cynlluniau.

1.7. Ystyr “Ffactorau Llwyddiant Hanfodol” yw’r dangosyddion sydd eu hangen i asesu llwyddiant y Cyllid yn erbyn ei ganlyniad arfaethedig.

1.8. “Ystyr Deddfwriaeth Diogelu Data” yw (i) Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (“UKGDPR”) gan gynnwys Cyfarwyddeb Gorfodi’r Gyfraith ac unrhyw Ddeddfau gweithredu cymwys fel y diwygir o bryd i’w gilydd, (ii) Deddf Diogelu Data 2018 (“DPA 2018”) i’r graddau y mae’n ymwneud â phrosesu Data a phreifatrwydd personol, a’r (iii) holl Gyfraith berthnasol ynghylch prosesu Data a phreifatrwydd personol.

1.9. Ystyr “Protocol Rhannu Data” (neu’r “DSP”) yw’r set o egwyddorion a nodir yn Atodiad C sy’n rheoli prosesau ac ymarferoldeb rhannu gwybodaeth rhwng yr Awdurdod a’r Derbyniwr, ac y mae’r Derbyniwr yn cytuno i gadw atynt a chydymffurfio â hwy.

1.10. Ystyr “Diwrnod”yw unrhyw ddiwrnod calendr o ddydd Llun i ddydd Sul (cynhwysol).

1.11. Ystyr “Partner Cyflawni”yw unrhyw Drydydd Parti p’un a yw sefydliad neu unigolyn sy’n gweithio gyda’r Derbynydd, boed yn dâl ai peidio, wrth gyflwyno’r Cyfarwyddyd Cyllidol hwn ar gyfer darparu’r Diben.

1.12. Ystyr “Gwariant Cymwys” yw’r holl gostau, treuliau, atebolrwyddau a rhwymedigaethau sy’n gysylltiedig â, a dynnir gan neu sy’n codi o gyflenwi, gweithgareddau a gweithrediadau’r Diben gan y Derbyniwr yn ystod y cyfnod ariannu 01 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022 ac sy’n cydymffurfio ym mhob ffordd â’r rheolau cymhwysedd a nodir yn y Cyfarwyddyd hwn fel y pennwyd gan yr Awdurdod yn ôl ei ddisgresiwn unigol.

1.13. Ystyr “ESOL” [footnote 1] yw ‘Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill’ ffurfiol, neu gymorth sgiliau iaith ffurfiol cyfatebol arall.

1.14. Ystyr “Cydgysylltydd Rhanbarthol ESOL” yw person a gyflogir i gydlynu’r gwaith o ddarparu Hyfforddiant Iaith ar gyfer mudwyr cymwys sy’n dod o dan eu Rhanbarth SMP drwy’r Cynlluniau.

1.15. Mae “Costau Eithriadol” yn golygu treuliau ychwanegol a dynnir gan Dderbyniwr wrth gefnogi Ffoadur y mae gan yr Awdurdod gyllideb ar ei gyfer a gall, fesul achos, gytuno eu had-dalu.

1.16. Ystyr “Lle Rhannu Ffeiliau” (neu’r “FSA”) yw’r lle dynodedig o fewn MOVEit lle gall y Derbyniwr gael mynediad at ffeiliau y mae’r Awdurdod wedi’u darparu i’w rhannu.

1.17. Ystyr “Hyfforddiant Iaith Ffurfiol” [footnote 2] yw darpariaeth ESOL a ddylai, lle y bo’n bosibl, arwain at Ffoaduriaid yn ennill cymwysterau achrededig gan ddarparwr a reoleiddir gan gorff cenedlaethol priodol (h.y. OFQAL, SQA neu Gymwysterau Cymru). Mae hyn hefyd yn cynnwys cyrsiau nad ydynt yn arwain at gymhwyster achrededig, ond sy’n helpu Ffoaduriaid i gael mynediad diweddarach at gwrs sy’n arwain at gymhwyster achrededig. Er enghraifft, darpariaeth nad yw’n cael ei rheoleiddio a gynigir gan ddarparwyr ar lefel cyn mynediad, nad oes cymwysterau achrededig ar eu cyfer. Rhaid i’r holl hyfforddiant iaith ffurfiol fodloni’r nodweddion allweddol canlynol:

  • 1.17.1. Arweinir y ddarpariaeth gan diwtoriaid cymwysedig, ac

  • 1.17.2. Maent yn briodol i alluoedd Ffoaduriaid unigol fel y nodwyd yn dilyn asesiad diagnostig dan arweiniad tiwtor ESOL cymwysedig, ac

  • 1.17.3. Maent yn dilyn cwricwlwm y cytunwyd arno. [footnote 3]

1.18. Mae’r “Cyfarwyddyd Cyllido” (neu’r “Cyfarwydd”) yn golygu’r ddogfen hon sy’n disgrifio’r amodau y caiff Derbyniwr hawlio Cyllid oddi tanynt.

1.19. Ystyr “Cyllid” yw cyfraniadau ariannol yr Awdurdod tuag at Wariant Cymwys Derbyniwr a dynnir i gefnogi Ffoaduriaid am hyd at chwe deg (60) Mis ar ôl iddynt gyrraedd y DU ac yn unol â thelerau a chanlyniadau’r Cyfarwyddyd hwn.

1.20. Ystyr “Hyfforddiant Iaith Anffurfiol” [footnote 4] yw darpariaeth hyfforddiant iaith nad yw’n cynnwys unrhyw un neu’r cyfan o’r nodweddion a ddisgrifir yn 1.17 er enghraifft, gallddigwydd mewn unrhyw leoliad, gall gynnwys cwricwlwm wedi’i osod ymlaen llaw neu beidio ac fel arfer caiff ei ddarparu mewn ffordd strwythuredig neu led-strwythuredig, a ddarperir gan amrywiaeth o bobl gan gynnwys gwirfoddolwyr. Gall gynnwys magu hyder, dinasyddiaeth weithredol a llu o weithgareddau hamdden neu gymunedol.

1.21. Ystyr “Deddfau Gwybodaeth” yw Deddfwriaeth Diogelu Data, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (“FOIA”) a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (“EIR”) sydd mewn grym, ac unrhyw Ddeddfau gweithredu cymwys fel y diwygir o bryd i’w gilydd.

1.22. Ystyr “Yn Ysgrifenedig” yw dulliau o ddangos neu gyflwyno geiriau ar ffurf weladwy gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gohebiaeth bapur, e- bost, arddangos ar y sgrin a throsglwyddo electronig.

1.23. Ystyr “Cyfraith” yw unrhyw ddeddf berthnasol, statud, is-ddeddf, rheoliad, gorchymyn, polisi rheoleiddio, canllawiau neu gôd diwydiant, dyfarniad llys barn perthnasol, neu gyfarwyddebau neu ofynion unrhyw gorff rheoleiddio, deddfwriaeth ddirprwyedig neu is-ddeddfwriaeth.

1.24. Mae “Gweinyddwr Lleol” yn golygu uwch aelod o staff y Derbyniwr a fydd yn gweithredu fel yr un pwynt cyswllt ar gyfer awdurdodi mynediad i FSA dynodedig y Derbyniwr o fewn MOVEit.

1.25. Mae “Mis” yn golygu mis calendr.

1.26. Ystyr “MOVEit” yw gwasanaeth rhannu ffeiliau dwyffordd ar-lein yr Awdurdod sy’n caniatáu rhannu data Swyddogol a Swyddogol-Sensitif (IL2) gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus anadrannol a sefydliadau allanol, yn gwbl ddiogel. Gellir rhannu ffeiliau gan gynnwys PDFs, pob math o ddogfennau Swyddfa, delweddau a WinZip o hyd at 2GB o ran maint.

1.27. Ystyr “Gordaliad” yw Cyllid a delir gan yr Awdurdod i’r Derbyniwr sy’n fwy na’r swm sy’n ddyledus.

1.28. Mae “Data Personol” yn cyfeirio at yr ystyr a roddir yn Neddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

1.29. Ystyr “Derbyniwr” yw awdurdod lleol neu ranbarthol sy’n cymryd rhan lle mae’r Awdurdod wedi cytuno i ddarparu Cyllid iddo o dan y Cyfarwyddyd hwn fel cyfraniad tuag atwariant cymwys a dynniri gefnogi Ffoaduriaid.

1.30. Ystyr “Ffoadur” yw person cymwys sydd, beth bynnag fo’i genedligrwydd, wedi

  • 1.30.1. cael ei dderbyn fel un sydd angen cael ei ailsefydlu gan yr Awdurdod ar ôl cael ei atgyfeirio gan yr Uchel Gomisiynydd Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ffoaduriaid (UNHCR), a

  • 1.30.2. sydd wedi cyrraedd y DU ar ôl cael ei dderbyn i’r Cynlluniau,

  • 1.30.3. ac wedi’i adsefydlu yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.

1.31. Mae “Rhestr” yn golygu’r Rhestrau sydd ynghlwm wrth y Cyfarwyddyd Cyllidol hwn.

1.32. Mae’r “Cynlluniau” yn golygu unrhyw un o raglenni rhyddhad dyngarol llywodraeth y DU sy’n cefnogi Ffoaduriaid lle penderfynwyd bod ailsefydlu er eu lles gorau.

1.33. Mae “Staff” yn golygu unrhyw berson a gyflogir neu a gyflogirir gan y Derbyniwr ac sy’n gweithredu mewn cysylltiad â’r Cyfarwyddyd hwn gan gynnwys perchnogion, cyfarwyddwyr, aelodau, ymddiriedolwyr, cyflogeion, asiantau, cyflenwyr, a gwirfoddolwyr y Derbyniwr a Phartneriaid Cyflenwi (a’u cyflogeion, asiantau, cyflenwyr a’u Phartneriaid Cyflenwi) a ddefnyddir wrth gyflawni’r canlyniadau a gyllidwyd.

1.34. Mae “SMP” yn golygu Partner Ymfudo Strategol.

1.35. Mae “Trydydd Parti” yn golygu unrhyw barti boed yn berson neu yn sefydliad heblaw am yr Awdurdod neu’r Derbyniwr.

1.36. Mae “Diwrnod Gwaith” yn golygu unrhyw ddiwrnod rhwng Ddydd Llun a Dydd Gwener (cynhwysol) ac eithrio unrhyw wyliau cyhoeddus cydnabyddedig yn y DU.

2. Y cyfarwyddyd hwn

2.1. Mae’r Cyfarwyddyd hwn yn cynnwys tri ar ddeg (13) o Erthyglau, un (1) Rhestr, a saith (7) Atodiad ac mae’n disodli unrhyw gyfarwyddiadau cyllidol a gyhoeddwyd yn flaenorol gan yr Awdurdod sy’n darparu cyfraniadau ariannol tuag at gostau Derbynwyr a dynnwyd i gefnogi Ffoaduriaid.

2.2. Mae’r Cyfarwyddyd hwn yn darparu Cyllid sy’n galluogi Derbyniwr i gefnogi Ffoaduriaid:

  • 2.2.1. yn ystod y deuddeg (12) Mis cyntaf ar ôl cyrraedd y DU, gan gynnwys costau addysg (BLWYDDYN 1) - Rhestr 1, Rhan 1,

  • 2.2.2. yn ystod y pedwar deg wyth (48) Mis dilynol (BLWYDDYN 2-5) - Rhestr 1, Rhan 2,

  • 2.2.3. ar y Cynllun Nawdd Cymunedol - Rhestr 1, Rhan 3,

  • 2.2.4. gwella eu sgiliau Saesneg er mwyn cynorthwyo ag integreiddio a gwella cyflogadwyedd - Rhestr 1, Rhan 4, a

  • 2.2.5. gyda chostau gofal plant i fynychu Hyfforddiant Iaith Ffurfiol - Rhestr 1, Rhan 5.

3. Cwmpas

3.1. Gellir gwneud hawliadau o dan y cyfarwyddyd hwn ar gyfer ffoaduriaid sydd wedi cyrraedd y DU o dan un o’r cynlluniau ailsefydlu dyngarol canlynol:

  • 3.1.1. Cynllun Adsefydlu’r DU (UKRS) a ddechreuodd ym mis Mawrth 2021. Diben y cynllun yw adsefydlu ffoaduriaid sy’n agored i niwed y mae angen eu hamddiffyn rhag amrywiaeth o ardaloedd o wrthdaro ac ansefydlogrwydd ledled y byd. Mae’r niferoedd sydd wedi’u hailymgartrefu o dan y cynllun yn seiliedig ar gapasiti awdurdodau lleol, ac adferiad ar ôl y pandemig COVID-19. Bydd plant ar eu pen eu hun sy’n cael eu hailymgartrefu o dan UKRS (oni bai mewn amgylchiadau arbennig) yn cael eu trin yn yr un modd â Phlant ar eu pen eu hun sy’n ceisio lloches (UASC) at ddibenion cyllid, a bydd awdurdodau lleol sy’n derbyn plant ar eu pen eu hun o dan y Cynllun yn cael eu had-dalu yn unol â Chyfarwyddyd Cyllid UASC y flwyddyn berthnasol yn hytrach na’r Cyfarwyddyd hwn.

  • 3.1.2. Lansiwyd Cynllun Adsefydlu Personau Bregus Syria (VPRS) ym mis Ionawr 2014 a chaewyd y cynllun i newydd-ddyfodiaid ar 25 Chwefror 2021. Rhoddodd VPRS noddfa i’r rhai a oedd yn dianc rhag gwrthdaro yn Syria a gwledydd cyfagos yn benodol Jordan, Irac, Lebanon, Twrci a’r Aifft.

  • 3.1.3. Lansiwyd Cynllun Adsefydlu Plant Bregus (VCRS) ym mis Ebrill 2016 a chaewyd y cynllun i newydd-ddyfodiaid ar 25 Chwefror 2021. Cynlluniwyd VCRS yn benodol i adsefydlu plant sy’n ffoaduriaid sy’n agored i niwed a’u teuluoedd o ranbarth y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica (MENA).

3.2. Er mwyn cefnogi’r ymrwymiadau hyn ymhellach, datblygwyd y Cynllun Nawdd Cymunedol sy’n galluogi Noddwyr i ddarparu cymorth cofleidiol cynhwysfawr i Ffoaduriaid am gyfnod o ddwy (2) blynedd, yn hytrach na bod y Derbyniwr yn rhoi’r cymorth hwn.

3.3. Prif ddiben y Cynlluniau yw adsefydlu Ffoaduriaid mewn ffordd:

  • 3.3.1. Sy’n sicrhau diogelwch cenedlaethol a diogelu’r cyhoedd, ac

  • 3.3.2. Sydd â lles y bobl sy’n agored i niwed a’r cymunedau croesawgar wrth ganol y broses o wneud penderfyniadau, a

  • 3.3.3. Sy’n sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr y DU.

3.4. Mae’r Cynlluniau yn cael eu gwethredu mewn partneriaeth ag Uchel Gomisiwn Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig (yr ‘UNHCR’). Maent yn dangos cefnogaeth y DU am ymdrech fyd-eang UNHCR i liniaru’r argyfwng dyngarol drwy ddarparu cyfleoedd ailsefydlu i bobl sy’n agored i niwed mewn cymunedau yn y DU sydd:

  • 3.4.1. wedi cofrestru gyda’r UNHCR; ac

  • 3.4.2. mae’r UNHCR yn ystyried eu bod yn bodloni un o’u categorïau cyflwyno ar gyfer ailsefydlu. [footnote 5]

3.5. Mae’r Awdurdod yn gyfrifol am nodi Ffoaduriaid sy’n gymwys i gael eu hailsefydlu i’r DU ar y cyd â’r UNHCR.

3.6. Mae’r Derbyniwr wedi ymrwymo i gefnogi’r Cynlluniau, ac mae’r Awdurdod wedi cytuno i ddarparu Cyllid i’r Derbyniwr fel cyfraniad at gefnogi Ffoaduriaid am hyd atbum (5) mlynedd ar ôl cyrraedd y DU am y tro cyntaf fel y disgrifir ymhellach yn y Cyfarwyddyd hwn.

3.7. Oni nodir yn benodol fel arall, bydd unrhyw Gyllid yn ymwneud â chostau Derbyniwr o ran cyflawni ei ddyletswyddau statudol ac unrhyw beth y cytunwyd arno fel arall gyda’r Awdurdod.

3.8. Bydd y Derbyniwr yn rhydd i benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio’r Cyllid ond at ddibenion monitro a gwerthuso Cynlluniau, rhaid iddo allu dangos bod y Cyllid wedi’i ymrwymo i gefnogi Ffoaduriaid a hyrwyddo nodau’r Cynlluniau.

4. Hyd

4.1. Mae’r Cyfarwyddyd hwn yn nodi’r telerau y bydd yr Awdurdod yn sicrhau bod cyllid ar gael i’r Derbyniwr, mewn perthynas â gwariant a dynnwyd i gefnogi Ffoaduriaid a ddanfonwyd i’r DU o dan y Cynllun yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022.

4.2. Yn unol â pholisïau cyllidol sefydledig Trysorlys EM, bydd yr Awdurdod yn cyhoeddi cyfarwyddyd newydd ar gyfer pob blwyddyn ariannol y cymeradwyir Cyllid ar ei chyfer. Bydd hyn yn digwydd p’un a wneir unrhyw newidiadau ai peidio.

5. Tryloywder, cyfrinachedd, diogelu data a rhannu data

5.1. Mae’r Derbyniwr yn cydnabod y gellir cyhoeddi trefniadau a ariennir gan grantiau a roir gan adrannau’r llywodraeth ar wefan sydd ar gael i’r cyhoedd ac y bydd yr Awdurdod yn datgelu taliadau a wneir yn erbyn y Cyfarwyddyd hwn yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth y DU i effeithlonrwydd, tryloywder ac atebolrwydd.

5.2. Mae’r Derbyniwr yn ymrwymo i weithio yn gyfrinachol ac i beidio â datgelu, ac i sicrhau bod eu staff yn gweithio yn gyfrinachol ac nad ydynt yn datgelu unrhyw wybodaeth y maent wedi’i chael o’r Cyfarwyddyd hwn.

5.3. Nid oes dim yn Erthygl 5 hon sy’n berthnasol i wybodaeth sydd eisoes ar gael i’r cyhoedd neu yn meddiant y Derbyniwr ac eithrio torri Erthygl 5 hon. Ar ben hynny, ni fydd yr Erthygl 5 hon yn berthnasol i wybodaeth y mae’n ofynnol ei datgelu yn unol ag unrhyw ddeddf neu yn unol â gorchymyn gan unrhyw lys neu gorff statudol neu reoleiddiol.

5.4. Bydd y Derbyniwr a’r Awdurdod yn cydymffurfio bob amser â’i rwymedigaethau priodol o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

5.5. Rhaid i’r Derbyniwr sicrhau bod unrhyw wybodaeth bersonol am unrhyw Ffoadur a ddatgelir iddynt wrth gyflawni’r Cynlluniau hyn yn cael ei thrin yn gyfrinachol a dylai ond gael ei ddatgelu i drydydd parti yn unol â darpariaethau Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU. Os bydd unrhyw ansicrwydd, caiff y mater ei atgyfeirio at yr Awdurdod y bydd ei benderfyniad ar y mater yn derfynol. Yn benodol, bydd y Derbyniwr yn:

  • 5.5.1. trefnu bod polisïau a gweithdrefnau priodol mewn lle i gydnabod a chynnal angen y Ffoadur am gyfrinachedd; a

  • 5.5.2. sichrau, heb ganiatâd Ffoadur, nad yw manylion y Ffoadur unigol hwnnw yn cael eu rhyddhau i unrhyw sefydliad nad yw’n rhan o’r Cyfarwyddyd hwn.

5.6. Ni fydd y Derbyniwr yn defnyddio unrhyw wybodaeth y maent wedi’i chael o ganlyniad i gyflawni’r Cynlluniau (gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unrhyw Ffoadur) mewn unrhyw ffordd sy’n anghywir neu’n gamarweiniol.

5.7. Ar ôl derbyn data personol gan yr Awdurdod, bydd y Derbyniwr yn rheolwr annibynnol o’r data hwnnw gan y bydd y Derbyniwr, wrth gyflawni’r Cynlluniau, ar unrhyw adeg yn pennu diben a dull prosesu’r data personol. Wrth wneud hynny, byddant yn cydymffurfio â’r Ddeddfwriaeth Diogelu Data berthnasol yn gysylltiedig â phrosesu Data Personol o’r fath, byddant yn gyfrifol yn unigol am ei gydymffurfed ei hun ac o ran prosesu Data Personol fel Rheolwr annibynnol, byddant yn gweithredu a chynnal mesurau technegol a threfniadau priodol i sicrhau lefel o ddiogelwch sy’n briodol i’r risg honno, gan gynnwys, fel y bo’n briodol, y mesurau y cyfeirir atynt yn Erthygl 32(1)(a), (b), (c) a (d) o’r GDPR, a bydd y mesurau, o leiaf, yn cydymffurfio â gofynion Deddfwriaeth Diogelu Data, gan gynnwys Erthygl 32 o’r GDPR.

5.8. Os bydd unrhyw ddatgeliad anawdurdodedig, mae’r Derbyniwr yn gyfrifol am ddilyn ei drefniadau diogelu data lleol ac am gyfeirio unrhyw doriad data personol i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth o fewn 72 awr o nodi’r digwyddiad cychwynnol.

5.9. Os bydd unrhyw ddatgeliad anawdurdodedig, rhaid hysbysu’r Awdurdod yn syth. Bydd yr Awdurdod yn penderfynu pa gamau adferol, os o gwbl, y dylid eu cymryd a bydd y Derbyniwr yn rhwym wrth benderfyniad yr Awdurdod ac yn glynu wrtho.

5.10. Pan fo Derbyniwr yn gyfrifol am ddatgeliad anawdurdodedig yn groes i’r Cyfarwyddyd hwn, bydd y Derbyniwr hwnnw yn atebol am unrhyw ganlyniadau i ddatgeliad anawdurdodedig o’r fath, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) unrhyw atebolrwydd sifil neu droseddol.

5.11. Cyn gadael i fynd i’r DU, bydd Ffoaduriaid wedi llofnodi ffurflen ganiatâd yn cadarnhau eu parodrwydd i rannu data personol gyda chyrff gweithredol a phartneriaid cyflenwi perthnasol. Bydd yr Awdurdod yn cadw’r ffurflenni hyn a bydd yn caniatáu i’r Derbyniwr eu harchwilio yn ôl yr angen.

5.12. Mae’r Awdurdod hefyd yn disgwyl i’r Derbyniwr rannu gwybodaeth berthnasol am gyflwyno’r Cynlluniau ac am Ffoaduriaid gyda’i bartneriaid; cyn gwneud hynny, rhaid i’r Derbyniwr sicrhau bod cytundeb ffurfiol wedi’i lofnodi gyda darparwyr perthnasol y Cynlluniau sy’n adlewyrchu telerau’r Protocol Rhannu Data.

5.13. Rhaid rhannu Ffurflen Cofrestru Ailsefydlu UNHCR (RRF) neu unrhyw ddogfen gysylltiedig arall a grëwyd gan yr UNHCR am ffoadur dim ond gyda phartneriaid cyflenwi ar sail llem angen i wybod.

5.14. Ni ddylid rhannu’r RRF a dogfennau cysylltiedig â’r ffoadur dan sylw, na gydag unrhyw barti arall y tu allan i bartneriaid cyflenwi priodol, heb gytundeb penodol swyddfa UNHCR Llundain.

5.15. Rhaid i bob ymgais a wneir gan unrhyw berson neu sefydliad nad yw’n rhan o’r Cyfarwyddyd hwn mewn perthynas â chyflenwi i gyllido’r Cynlluniau gael ei hatgyfeirio at swyddfa’r wasg yr Awdurdod am ei gyngor a/neu ei weithredu.

5.16. Lle y bo’n berthnasol, mae’n ofynnol i’r Derbyniwr a’r Awdurdod gydymffurfio â’r Deddfau Gwybodaeth, unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir, ac unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Comisiynydd Gwybodaeth.

5.17. Mae’r Derbyniwr yn cytuno i gynorthwyo a chydweithredu â’r Awdurdod i alluogi’r Awdurdod i gydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan y Deddfau Gwybodaeth pan ofynnir am wybodaeth sy’n ymwneud â’r Cyfarwyddyd hwn neu sy’n deillio ohono.

5.18. Ni ddatgelir unrhyw wybodaeth os byddai datgeliad o’r fath yn torri neu wedi’i eithrio rhag cael ei ddatgelu o dan y Deddfau Gwybodaeth.

5.19. Rhaid i’r Derbyniwr sicrhau ei fod ef, a’i Staff, yn cydymffurfio â phrotocolau rhannu data’r Awdurdod fel y disgrifir yn Atodiad C.

5.20. Bydd darpariaethau’r Erthygl 5 hon yn aros fel y maent ar ôl i’r Cyfarwyddyd hwn ddod i ben, sut bynnag y bydd hynny yn digwydd.

6. Cyllid

Gwariant Cymwys

6.1. Rhaid peidio defnyddio unrhyw arian a ddarperir at unrhyw ddiben heblaw cyflawni canlyniadau’r Cynlluniau, fel a nodir yn y Cyfarwyddyd hwn, ac ni chaniateir ychwaith i drosglwyddo unrhyw arian o’r fath i fannau eraill heb dderbyn caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr Awdurdod.

6.2. Mae unrhyw faterion cyllid sy’n deillio o Ffoadur sy’n symud yn barhaol o awdurdod lleol ymgysylltiol yn ystod cyfnod hwyaf o chwe deg (60) mis o’r Cyllid i’w datrys rhwng y Derbyniwr a’r awdurdod lleol perthnasol.

6.3. Ni chaiff unrhyw agwedd ar y gwaith a gyllidir gan yr Awdurdod fod yn bleidiol wleidyddol o ran ei fwriad, ei defnydd na’i gyflwyniad.

6.4. Ni ellir defnyddio’r Cyllid i gefnogi na hyrwyddo gweithgarwch crefyddol. Ni fydd hyn yn cynnwys gwaith a gynlluniwyd i wella perthnasoedd rhyng-ffydd a/neu berthnasoedd gweithio.

Gordaliadau

6.5. Rhaid hysbysu’r Awdurdod cyn gynted â phosib os bydd Derbyniwr yn disgwyl i’w ofyniad Cyllid fod yn is na’r disgwyl, er mwyn osgoi Gordaliadau.

6.6. Os bydd Gordaliad yn cael ei dalu, sut bynnag yr achosir hynny, rhaid hysbysu’r Awdurdod cyn gynted ag sy’n bosibl. Mewn achosion o’r fath, efallai y bydd angen ad-dalu’r Gordaliad yn syth i’r Awdurdod neu efallai bydd yr Awdurdod yn addasu taliad(au) dilynol yn unol â hynny.

Terfyniad Cyllid

6.7. Bydd cyfrifoldeb yr Awdurdod dros ddarparu Cyllid o dan y Cyfarwyddyd hwn yn dod i ben ar ôl chwe deg (60) mis o’r Ffoadur yn cyrraedd y DU o dan y Cynlluniau ac ni ellir hawlio cyllid am unrhyw gymorth a ddarperir y tu hwnt i’r adeg hwn.

6.8. Gall taliadau hefyd ddod i ben pan fydd y Ffoadur:

  • 6.8.1. yn marw,

  • 6.8.2. yn gadael ardal y Derbyniwr i fyw mewn ardal awdurdod lleol arall yn y DU,

  • 6.8.3. yn rhoi gwybod nad ydynt bellach yn dymuno cael cymorth o dan y Cynlluniau,

  • 6.8.4. yn rhoi gwybod ei fod yn gadael y DU yn barhaol,

  • 6.8.5. yn gwneud cais am statws Mewnfudo arall o fewn y DU yn ôl cyngor yr Awdurdod, [footnote 6] neu

  • 6.8.6. fel arall yn gadael yr ardal neu yn dod yn anghymwys ar gyfer y Cynlluniau.

6.9. Os bydd unrhyw ddigwyddiad o’r fath o dan Gymal 6.8, rhaid i’r Derbyniwr hysbysu’r Awdurdod yn syth.

6.10. At ddibenion Cymal 6.7, bydd y cyfnod o chwe deg (60) Mis yn dechrau ar ddyddiad dyfodiad cyntaf y Ffoadur yn y DU o dan y Cynlluniau a bydd yn parhau heb ei dorri tan ddiwedd y cyfnod hwnnw o chwe deg (60) Mis.

6.11. Mae’r Awdurdod yn cadw’r hawl i stopio gwneud taliadau drwy’r Cyfarwyddyd hwn os oes ganddo sail resymol dros gredu bod y Ffoaduriaid wedi ceisio twyllo’r Awdurdod, y Derbyniwr perthnasol neu asiantaeth bartner yn gysylltiedig â’u hamgylchiadau, gan gynnwys bod yn rhan o’r Cynlluniau neu gymryd rhan yn eu gweithgareddau.

Costau Arbennig

6.12. Gellir gwneud taliadau hefyd er mwyn talu costau hanfodol ychwanegol a geir gan y Derbyniwr tu hwnt i’r hyn y gellid ei ystyried yn rhesymol yn wariant arferol ac nad yw ar gael drwy dulliau cyllid prif ffrwd eraill. Gellir defnyddio arian o’r gyllideb Costau Arbennig, ymhlith pethau eraill, i dalu am:

  • Addasiadau Eiddo (gweler Atodiad D)
  • Costau Eiddo wedi’u canslo (gweler Atodiad E)
  • Cymorth i blant ag anghenion addysgol a nodwyd
  • Darpariaeth Gofal Cymdeithasol
  • Credyd Cynhwysol atodol enwol (gweler Rhestr 1, Cymal 1.6)

6.13. Cyn cael Costau Arbennig, bydd y Derbyniwr yn gwneud cais am gytundeb ysgrifenedig gan Dîm Taliadau Awdurdod Lleol Ailsefydlu’r Awdurdod neu fydd risg o’r hawliad yn cael ei wrthod. Bydd yr Awdurdod yn defnyddio ei farn resymol wrth asesu gostyngiadau ar gyfer hawliadau lle na fu hyn yn bosibl. Gweler Atodiad F.

6.14. Bydd pob cais yn cael ei asesu, a bydd taliadau yn cael eu gwneud, fesul achos:

  • 6.14.1. Nid oes isafswm nac uchafswm y gellir ei hawlio.

  • 6.14.2. Ni ellir hawlio Costau Arbennig am gymorth a ddarperir i Ffoadur a fyddai fel arfer yn cael ei ariannu drwy gyllid iechyd neu addysg y pen neu drwy daliadau lles.

  • 6.14.3. Rhaid i dderbynwyr gyflwyno tystiolaeth o wariant Costau Arbennig a dynnwyd (e.e. copïau anfonebau)ynghyd â ffurflen hawlio Costau Arbennig,cyn y bydd ceisiadau yn cael eu hystyried ar gyfer talu.

6.15. Bydd yr Awdurdod yn adolygu gweithrediad y broses a’r gyllideb Costau Arbennig o bryd i’w gilydd.

Cyffredinol

6.16. Ni fydd gwariant anawdurdodedig sy’n uwch na’r uchafswm lefelau Cyllid a nodwyd yn cael eu had-dalu gan yr Awdurdod.

6.17. Ym mhob achos, bydd y cyllid a dderbynnir yn cael ei gyfuno a’i reoli rhwng yr holl Ffoaduriaid a gefnogir gan y Derbyniwr perthnasol.

6.18. Y Derbyniwr perthnasol fydd yr un pwynt cyswllt ar gyfer anfonebau a thaliadau.

6.19. Bydd unrhyw daliadau a wneir o dan y Cyfarwyddyd hwn hefyd yn cynnwys TAW neu ddyletswyddau eraill a delir gan y Derbyniwr i’r graddau nad yw’r Derbyniwr yn gallu ennill y rhain fel arall.

6.20. Ni fydd unrhyw beth yn y Cyfarwyddyd hwn yn cael ei ddehongli fel un sy’n darparu neu’n caniatáu i gyfanswm y buddion perthnasol fod yn fwy na’r terfyn statudol (y ‘terfyn uchaf budd-daliadau’) sy’n bodoli ar adeg y taliad.

7. Cysoni data a thaliadau

7.1. Bydd y Derbyniwr yn cwblhau ceisiadau am daliad ar y ffurflen a nodir yn Atodiad A, sy’n cynnwys manylion pob Ffoadur a’r cymorth ariannol y gwnaed cais amdano.

7.2. Mae cyfarwyddiadau penodol ar gyfer cwblhau Atodiad a wedi’u cynnwys yn llyfr gwaith cyllid Excel yr ALl, a fydd yn cael ei ddarparu gan yr Awdurdod. Dylid ond cyflwyno Atodiad A trwy borth trosglwyddo data diogel yr Awdurdod, “MoveIT DMZ”, i sicrhau cymdymffurfiaeth â Deddfwriaeth Diogelu Data.

7.3. Gwneir taliadau o fewn tri deg (30) Diwrnod ar ôl derbyn hawliad wedi’i gwblhau yn gywir.

7.4. Dylai’r Awdurdod dderbyn Atodiad A a gyflwynir i’w dalu ddim hwyrach na thri (3) Mis ar ôl diwedd y cyfnod cais; gall fod oedi wrth dalu os cyflwynir ffurflen yn hwyr. Bydd gan y Derbyniwr gyfle i gyflwyno sylwadau os ydynt yn credu bod lefel y Cyllid a dderbynnir yn llai na’r lefel y mae ganddynt hawl iddi o dan delerau’r Cyfarwyddyd hwn. Rhaid i unrhyw anghysondebau ynglŷn â’r symiau a dalwyd gael eu hysbysu gan y Derbyniwr perthnasol i’r Tîm Taliadau Awdurdod Lleol Ailsefydlu o fewn un (1) Mis o ymateb atodiad A yn cael ei anfon, yn dilyn cysoniad yn erbyn cofnodion yr Awdurdod.

7.5. Ar ddiwedd y cyfnod talu am gymorth, gwneir gwiriadau terfynol i sicrhau bod y taliadau a wnaed eisoes yn adlewyrchu yn gywir y symiau y mae gan y Derbyniwr hawl iddynt. Dylid ystyried taliadau a wneir o ganlyniad i geisiadau yn daliadau gohiriedig, a fydd yn cael eu talu pan fydd yr Awdurdod yn cadarnhau’r hawliad terfynol. Dylai’r Derbyniwr nodi na ddylid newid fformat y taenlenni hawlio.

7.6. Os bydd y Derbyniwr yn credu bod lefel y Cyllid a delir gan yr Awdurdod yn llai na’r lefel y mae ganddynt hawl iddi o dan delerau’r Cyfarwyddyd hwn, gall y Derbyniwr gyflwyno sylwadau i Dîm Cyllid yr Awdurdod. Rhaid rhoi gwybod i’r Tîm Taliadau Awdurdod Lleol Ailsefydlu am unrhyw anghysondebau o fewn un (1) Mis ar ôl i daliad gael ei wneud. Bydd ôl-daliadau gan yr Awdurdod ar gyfer unigolion nad ydynt wedi’u cynnwys yn hawliad Atodiad A ond yn cael eu cytuno lle gellir dangos amgylchiadau arbennig.

7.7. Gwneir taliadau drwy BACS gan ddefnyddio manylion cyfrif y mae’n rhaid i’r Derbyniwreu rhoi i’r Awdurdod ar bapur pennawd, wedi’i lofnodi gan uwch swyddog cyllid. Mae’r Derbyniwr yn gyfrifol am sicrhau bod yr Awdurdod wedi cael gwybod am ei fanylion cyfrif banc cywir ac unrhyw newidiadau dilynol. Mae’r wybodaeth sydd ei hangen ar yr Awdurdod i agor cyfrif newydd neu newid manylion taliad BACS fel a ganlyn:

Manylion Cyflenwyr

  1. Enw cofrestredig y cwmni
  2. Enw masnachu cwmni
  3. Rhif cofrestru’r cwmni
  4. Rhif cofrestru TAW

Manylion Cyfeiriad Cyflenwr

  1. Cyfeiriad Cofrestredig
  2. Rheoli Credyd/Cyfeiriad Cyllid

Manylion cyswllt

  1. Cyfeiriad e-bost ar gyfer archebion prynu
  2. Cyfeiriad e-bost ar gyfer cyngor talu
  3. Cyfeiriad e-bost ar gyfer ymholiadau anfonebau
  4. Rhif Ffôn ar gyfer Cyfrifon i’w derbyn/Rheoli Credyd

Manylion Talu

  1. Enw Banc
  2. Enw a chyfeiriad y gangen
  3. Enw cyfrif banc y cwmni
  4. Rhif Cyfrif Banc
  5. Côd Didoli Cyfrif Banc

7.8. Os bydd manylion banc yn newid, dylai’r Derbyniwr perthnasol hysbysu’r Awdurdod ar unwaith o’r wybodaeth newydd. Rhaid darparu hysbysiad o’r fath yn ysgrifenedig, ar ffurf PDF, ac yn unol â gofynion Cymal 7.7.

7.9. Rhaid i’r Derbyniwr gofnodi gwariant yn ei gofnodion cyfrifyddu o dan safonau cyfrifyddu cyffredinol mewn ffordd y gellir tynnu’r costau perthnasol os oes angen. Drwy’r flwyddyn, bydd tîm Cyllid yr Awdurdod yn gweithio gyda’r Derbyniwr i sicrhau cywirdeb hawliadau, gan leihau’r angen am archwiliadau ar ddiwedd y flwyddyn.

8. Monitro & gwerthuso

8.1. Dylai’r Derbyniwr yn unigol rheoli a gweinyddu ansawdd a lefel y ddarpariaeth sy’n ymwneud â’r cymorth y maen ei ddarparu i Ffoaduriaid.

8.2. Bydd yr Awdurdod yn gofyn i’r Derbyniwr ddarparu gwybodaeth a dogfennau am Ffoaduriaid at ddibenion monitro a gwerthuso.

8.3. Bydd hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth ar lefel unigol am Ffoaduriaid ar gyfer gwerthuso’r Cynlluniau. Dylid ond cyflwyno’r ffurflen dystiolaeth drwy borth trosglwyddo data diogel yr Awdurdod, “MoveIT DMZ”, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

8.4. Rhaid i’r Derbyniwr ddarparu gwybodaeth y gofynnir amdani i fonitro canlyniadau cyllid ESOL ychwanegol, fel y nodir mewn ffurflen adrodd templed a ddarperir gan yr Awdurdod. Dylai’r Derbyniwr, o leiaf, sicrhau ei fod yn darparu adroddiadau sy’n rhoi manylion ar gynnydd yn erbyn y Ffactorau Llwyddiant Critigol a amlinellir yn Rhestr 1. Gall yr Awdurdod neu ei gynrychiolwyr penodedig wneud ymweliadau o bryd i’w gilydd, gan gynnwys y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Er nad yw’n ofynnol cyflwyno costau manwl, rhaid i’r Derbyniwr allu darparu’r costau ar gyfer achosion unigol a bydd disgwyl iddo, os oes angen, gyfiawnhau, esbonio a dangos tystiolaeth o gostau.

8.5. Ym mhob achos, er mwyn helpu i fonitro a gwerthuso’r Cynlluniau, bydd y Derbyniwr yn rhoi’r holl wybodaeth ariannol y gofynnir amdani’n rhesymol gan yr Awdurdod o bryd i’w gilydd, yn rhydd.

9. Torri amodau cyllid

9.1. Pan fo Derbyniwr yn methu â chydymffurfio ag unrhyw rai o’r amodau a nodir yn y Cyfarwyddyd hwn, neu os bydd unrhyw rai o’r digwyddiadau a grybwyllir yng Nghymal 9.2 yn digwydd, yna gall yr Awdurdod leihau neu atal taliadau, neu ei gwneud yn ofynnol i’r Derbyniwr ad-dalu’r taliadau perthnasol i gyd neu unrhyw ran ohonynt. Mewn amgylchiadau o’r fath, rhaid i’r Derbyniwr ad-dalu unrhyw swm sy’n ofynnol o dan y Cymal 9.1 hwn o fewn tri deg (30) Diwrnod o dderbyn archeb am ad-daliad.

9.2. Mae’r amgylchiadau y cyfeirir atynt yng Nghymal 9.1 fel a ganlyn:

  • 9.2.1. Mae’r Derbyniwr yn awgrymu ei fod yn trosglwyddo neu yn pennu unrhyw hawliau, buddiannau neu rwymedigaethau sy’n codi o dan y Cytundeb hwn heb gael cytundeb ymlaen llaw gan yr Awdurdod, neu

  • 9.2.2. Canfuwyd bod unrhyw wybodaeth a ddarperir yn y cais am Gyllid (neu mewn hawliad am daliad neu Gostau Arbennig) neu mewn unrhyw ohebiaeth ategol ddilynol yn anghywir neu yn anghyflawn i’r raddau y mae’r Awdurdod o’r farn eu bod yn berthnasol, neu

  • 9.2.3. Mae’r Derbyniwr yn cymryd camau annigonol i ymchwilio a datrys unrhyw gamweinyddiad a gofnodwyd.

10. Gweithgareddau - cyffredinol

Is-gontractio

10.1. Wrth gael gafael arwaith, nwyddau neu wasanaethau, rhaid i’r Derbyniwr sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’i rwymedigaethau statudol, er enghraifft Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mewn pob achos, bydd y Derbyniwr yn dangos gwerth am arian a bydd yn gweithredu mewn modd teg, agored a heb wahaniaethu wrth brynu holl nwyddau a gwasanaethau i gefnogi’r gwaith o ddarparu’r Cynlluniau.

10.2. Pan fo’r Derbyniwr yn ymrwymo i gontract (neu fath arall o gytundeb) gydag unrhyw drydydd parti ar gyfer darparu unrhyw ran o’r Cynlluniau, rhaid i’r Derbyniwr sicrhau bod teler yn cael ei gynnwys yn y contract neu gytundeb sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Derbyniwr dalu’r holl symiau sy’n ddyledus o fewn cyfnod penodedig: bydd hyn fel y diffinnir gan delerau’r contract neu’r cytundeb hwnnw, ond ni fydd yn fwy na thri deg (30) Diwrnod o ddyddiad derbyn anfoneb wedi’i dilysu.

10.3. Rhaid i’r Derbyniwr gymryd pob cam rhesymol i sicrhau na fydd unrhyw un sy’n gweithredu ar ei ran yn rhoi enw drwg i’r Awdurdod na’r Cynlluniau; er enghraifft, oherwydd rhagfarnu a/neu fod yn groes i fuddiannau’r Awdurdod a/neu’r Cynlluniau.

Oriau gwaith

10.4. Dylai’r Derbyniwr nodi bod yr Awdurdod yn cyflawni ei waith arferol yn ystod yr oriau 09.00 tan 17.00 ar Ddiwrnodau Gwaith.

10.5. Bydd y Cynllun yn cael ei ddarparu ar bob Diwrnod Gwaith o leiaf. Mae’r Awdurdod yn cydnabod, er mwyn effeithlonrwydd, y bydd union argaeledd ac amseriadau’r gwahanol elfennau gwasanaeth yn amrywio. Rhagwelir y bydd angen rhywfaint o ddarpariaeth y tu allan i oriau gwaith gan y Derbyniwr.

10.6. Dylai’r holl safleoedd a ddefnyddir i gyflawni gwaith y Cynlluniau fodloni’r holl ofynion rheoleiddiol a bod yn addas at y diben hwnnw.

Cwynion

10.7. Bydd y Derbyniwr a/neu ei bartneriaid cyflenwi yn datblygu, cynnal a gweithredu gweithdrefnau sy’n galluogi:

  • 10.7.1. Ffoaduriaid i gwyno am y gefnogaeth a’r cymorth a ddarperir gan y Derbyniwr,

  • 10.7.2. Adrodd a rheoli ‘achosion pwysig’. [footnote 7] Rhaid rhoi gwybod i’r Awdurdod am ddigwyddiadau o’r fath cyn gynted ag sy’n bosibl, ond mewn unrhyw achos erbyn diwedd y Diwrnod Gwaith nesaf.

Safonau Staff

10.8. Wrth gyflawni’r Cynlluniau, bydd y Derbyniwr bob amser yn ymwybodol o’r bwriad, ac ymroi yn frwd, i “Cod Ymddygiad Cyflenwyr” [footnote 8] Llywodraeth y DU sy’n amlinellu’r safonau a’r ymddygiadau y mae’r llywodraeth yn eu disgwyl gan ei holl Bartneriaid Cyflawni.

10.9. Rhaid i’r Derbyniwr:

  • 10.9.1. sicrhau bod recriwtio, dethol a hyfforddi Staff yn gyson â’r safonau sy’n ofynnol ar gyfer cyflawni’r canlyniadau,

  • 10.9.2. baratoi ac yn hyfforddi staff yn iawn i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni eu rolau a sicrhau bod darpariaethau diogelwch priodol a digonol yn cael eu gwneud ar gyfer yr holl Staff sy’n ymgymryd â gweithgareddau wyneb yn wyneb,

  • 10.9.3. sicrhau bod lefelau Staff yn briodol bob amser at ddibenion cyflwyno’r Cynlluniau a sicrhau diogelwch a lles yr holl Ffoaduriaid, plant dibynnol a’i Staff,

  • 10.9.4. gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y byddant hwy ac unrhyw un sy’n gweithredu ar eu rhan yn meddu ar yr holl gymwysterau, trwyddedau, sgiliau a phrofiadau angenrheidiol i gyflawni eu cyfrifoldebau’n effeithiol, yn ddiogel ac yn cydymffurfio â’r holl gyfraith berthnasol sydd mewn grym (i’r graddau y mae’n rhwymo’r Derbyniwr), a

  • 10.9.5. sicrhau bod ganddo bolisïau sefydliadol perthnasol mewn lle i gyflawni’r gweithgareddau a gyllidir gan y Cyfarwyddyd hwn. Bydd y rhain yn parhau i fod yn gyfredol drwy gydol y Cyfarwyddyd hwn ac yn cael eu hadolygu yn rheolaidd gan uwch staff priodol. Rhaid i’r holl staff fod yn ymwybodol o’r polisïau hyn a sut i godi unrhyw bryderon,

  • 10.9.6. bod yn ofynnol i bob ymgeisydd swydd sy’n gysylltiedig â’r Cynlluniau ddatgan ar eu ffurflenni cais unrhyw euogfarnau troseddol blaenorol sy’n dod dan ddarpariaethau Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974.

10.10. Yn ogystal, rhaid i’r Derbyniwr sicrhau bod gan yr holl Staff:

  • 10.10.1. cyflogedig neu ymgysylltiedig yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig o dan gyfraith mewnfudo berthnasol, a’u

  • 10.10.2. bod yn addas i roi cymorth i Ffoaduriaid. Rhaid ystyried cymhwysedd ar gyfer gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS2). Pan fo gwiriadau o’r fath yn datgelu euogfarnau troseddol blaenorol y gellid yn rhesymol ystyried eu bod yn berthnasol i briodoldeb yr unigolyn i gael mynediad heb oruchwyliaeth, yn enwedig i blant o dan 18 oed, neu lle nad yw gwiriadau o’r fath yn bosibl oherwydd materion adnabod, bydd y Derbyniwr yn dilyn ei bolisi mewnol ac yn cynnal asesiad risg priodol cyn gwneud cynnig o gyflogaeth ac

  • 10.10.3. sy’n debygol o gael mynediad heb oruchwyliaeth i blant o dan 18 oed wedi cael cyfarwyddyd yn unol â’r canllawiau amddiffyn plant cenedlaethol perthnasol e.e. ar gyfer pobl sy’n gweithio yn Lloegr, Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Plant yr Adran Addysg, 2015, a chanllawiau a gweithdrefnau Awdurdodau Lleol, a

  • 10.10.4. dylai darparu cyngor am fewnfudo fod yn hysbys i Swyddfa’r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo (OISC) yn unol â’r cynllun rheoleiddio a bennir o dan Ran 5 Deddf Mewnfudo a Lloches 1999. Bydd y Derbyniwr yn defnyddio pob ymdrech resymol i sicrhau nad yw Staff yn darparu cyngor am fewnfudo neu wasanaethau mewnfudo oni bai eu bod yn “gymwysedig” neu’n “eithriedig” fel y pennwyd ac a ardystiwyd gan OISC.

10.11. Bydd y Derbyniwr, ar gais, yn rhoi manylion i’r Awdurdod am yr holl Staff sy’n gweithredu’r Cynlluniau.

10.12. Bydd y Derbyniwr, ar gais, yn rhoi CVs a/neu ddisgrifiadau swyddi i’r Awdurdod ar gyfer yr holl Staff a ddewisir i weithio ar y prosiect.

10.13. Bydd y Derbyniwr yn gwneud pob ymdrech resymol i gydymffurfio â gofynion Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990.

10.14. Bydd y Derbyniwr yn gweithredu’r Cynlluniau yn unol â darpariaethau Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

11. Atebolrwydd

11.1. Nid yw’r Awdurdod yn derbyn unrhyw atebolrwydd i’r Derbyniwr nac i unrhyw drydydd parti am unrhyw gostau, hawliadau, difrod neu golledion, sut bynnag y cânt, ac eithrio i’r graddau y cânt eu hachosi gan esgeulustod neu gamymddygiad yr Awdurdod.

12. Datrys anghydfodau

12.1. Bydd y Partïon yn ceisio cael cytundeb drwy drafodaeth am unrhyw anghydfod rhyngddynt sy’n deillio o’r Cyfarwyddyd hwn neu sy’n gysylltiedig ag ef.

12.2. Gall y partïon ddatrys unrhyw anghydfod gan ddefnyddio proses datrys anghydfodau y maent yn cytuno ag ef.

12.3. Os nad yw’r partïon yn gallu datrys anghydfod yn unol â gofynion Cymal 12.1 neu 12.2, gellir cyfeirio’r anghydfod, drwy gytundeb rhwng y Partïon, i’w gyfryngu yn unol â’r Weithdrefn Gyfryngu Enghreifftiol a gyhoeddwyd gan y Ganolfan Datrys Anghydfod Effeithiol (“CEDR”), neu unrhyw weithdrefn gyfryngu arall y cytunir arni gan y Partïon. Oni bai bod yn cael ei gytuno fel arall rhwng y Partïon, bydd y cyfryngwr yn cael ei enwebu gan CEDR. I gychwyn y cyfryngu, bydd y Parti yn rhoi rhybudd ysgrifenedig (Hysbysiad ADR) i’r Parti arall, a bydd y Parti olaf hwnnw yn dewis a ddylid derbyn cyfryngu ai peidio. Dylid anfon copi o Hysbysiad ADR at CEDR. Bydd y cyfryngu yn dechrau heb fod yn hwyrach na deg (10) Diwrnod Gwaith ar ôl dyddiad Hysbysiad ADR.

12.4. Ni fydd cyflawni’r rhwymedigaethau, sydd gan y Derbyniwr o dan y Cyfarwyddyd hwn, yn dod i ben nac yn cael eu gohirio oherwydd bod anghydfod wedi’i gyfeirio at gyfryngu o dan Gymal 12.3 y Cyfarwyddyd hwn.

13. Manylion cyswllt

Ar gyfer ymholiadau sy’n ymwneud â’r Cyfarwyddyd hwn neu gyflwyno ceisiadau am daliadau, anfonwch e-bost at y tîm Taliadau Awdurdod Lleol Ailsefydlu perthnasol yn: ResettlementLAPaymentsTeam@homeoffice.gov.uk.

Rhestr 1 cefnogaeth ailsefydlu ar ôl cyrraedd

1. Rhan 1 - datganiad canlyniadau blwyddyn 1

Darparu llety:

1.1 Bydd y Derbyniwr yn trefnu llety ar gyfer Ffoaduriaid a fydd yn cyrraedd sy’n:

  • 1.1.1 bodloni safonau awdurdodau lleol, a

  • 1.1.2 bydd ar gael pan fyddant yn cyrraedd, ac

  • 1.1.3 sy’n fforddiadwy ac yn gynaliadwy.

1.2 Bydd y Derbyniwr yn sicrhau bod y llety wedi’i ddodrefnu yn briodol. Ni ddylid defnyddio’r Cyllid i gael eitemau moethus: Mae hyn yn golygu y dylid defnyddio cyllid a dderbynnir ar gyfer cyfleusterau storio bwyd, coginio ac ymolchi ond ni ddylai gynnwys darparu nwyddau gwyn neu nwyddau brown eraill, h.y. setiau teledu, chwaraewyr DVD nac unrhyw offer adloniant trydanol eraill. Ni fydd hyn yn atal y Derbyniwr rhag darparu nwyddau moethus, gwyn neu frown ychwanegol i Ffoaduriaid drwy ffynonellau cyllid eraill.

1.3 Rhaid i’r Derbyniwr sicrhau bod y Ffoaduriaid wedi’u cofrestru gyda chwmnïau cyfleustodau a sicrhau bod trefniadau ar gyfer taliadau’n cael eu rhoi ar waith (dim cyfrifon arian parod na mesuryddion cardiau). [footnote 9]

1.4 Bydd y Derbyniwr yn darparu cyfarwyddiadau am y materion llety ac iechyd a diogelwch ar gyfer pob newydd-ddyfodiaid gan gynnwys darparu pwynt cyswllt brys.

Trefniadau Derbyn Cychwynnol

1.5 Bydd y Derbyniwr yn cwrdd a chyfarch Ffoaduriaid sy’n cyrraedd o’r maes awyr perthnasol ac yn eu hebrwng i’w llety, gan eu cyfarwyddo am sut i ddefnyddio’r mwynderau.

1.6 Bydd y Derbyniwr yn sicrhau bod Ffoaduriaid yn derbyn pecyn o fwyd i’w croesawu pan fyddant yn cyrraedd - dylai diwylliant a chenedligrwydd y Ffoadur(iaid) gael ei ystyried wrth ddewis cynnwys y pecyn hwn. Bydd y Derbyniwr yn darparu lwfans arian parod cychwynnol ar gyfer pob Ffoadur o £200 - bydd hyn yn sicrhau bod ganddo ddigon o arian i fyw tra bod y cais am fudd-daliadau yn cael ei brosesu. Pan fydd Ffoadur yn cael ei adsefydlu mewn ardal lle mae Credyd Cynhwysol wedi’i roi, gall y Derbyniwr roi un taliad ychwanegol o hyd at £100 ar gyfer pob Ffoadur, os oes angen. Dylid hawlio hyn fel Cost Eithriadolar y ffurflen hawlio Atodiad A cychwynnol.

Cymorth Gwaith Achos

1.7 Dylai’r Derbyniwr sicrhau bod ffoaduriaid yn cael cyswllt penodol am gael cyngor a chymorth i helpu gyda chofrestru ar gyfer budd-daliadau a gwasanaethau prif ffrwd, a chyfeirio at asiantaethau cyngor a rhoi gwybodaeth eraill – mae’r cymorth hwn yn cynnwys:

  • 1.7.1 Helpu i ddosbarthu trwyddedau preswylio biometrig ar ôl cyrraedd,

  • 1.7.2 Cofrestru gydag ysgolion lleol, neu yn achos Oedolion, dosbarthiadau Saesneg iaith a llythrennedd (gweler paragraff 1.21-1.28),

  • 1.7.3 Mynychu apwyntiadau Canolfan Byd Gwaith lleol i dderbyn asesiadau budd-daliadau

  • 1.7.4 Cofrestru gyda meddyg teulu lleol, a darparwyr gofal iechyd eraill yn unol ag anghenion meddygol a nodwyd,

  • 1.7.5 Cyngor ac atgyfeiriad at wasanaethau iechyd meddwl priodol ac at wasanaethau arbenigol ar gyfer dioddefwyr artaith fel y bo’n briodol,

  • 1.7.6 Darparu cymorth gyda mynediad i gyflogaeth.

1.8 Bydd y Derbyniwr yn datblygu cynllun cymorth cynhwysfawr (neu fframwaith) a chynlluniau cymorth pwrpasol ar gyfer pob teulu neu unigolyn am y deuddeg (12) mis cyntaf o’u cymorth i hwyluso eu cyfeiriad i’w cartref/ardal newydd.

1.9 Drwy’r cyfnod o ddarparu cefnogaeth ailsefydlu, bydd y Derbyniwr yn sicrhau bod gwasanaethau cyfieithu ar y pryd ar gael. Gellir hawlio unrhyw gostau cyfieithu ar y pryd ychwanegol, er enghraifft mynychu apwyntiadau Canolfan Byd Gwaith neu Ofal Iechyd, fel Cost Arbennig , yn amodol ar gymeradwyaeth ymlaen llaw gan yr Awdurdod.

1.10 Darperir y canlyniadau uchod drwy gyfuniad o apwyntiadau swyddfa, sesiynau galw heibio, cymorthfeydd allgymorth ac ymweliadau cartref (yn rhithiol neu wyneb yn wyneb).

1.11 Bydd y Derbyniwr yn casglu unrhyw wybodaeth am waith achos y cytunir arni i alluogi’r Awdurdod i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd darpariaeth y Cynlluniau.

Gofynion ar gyfer Ffoaduriaid ag anghenion arbennig/anghenion gofal cymunedol asesedig:

1.12 Er mwyn hwyluso yr angen ar Dderbyniwr i wneud trefniadau ychwanegol, megis addasiadau i eiddo (gweler hefyd Atodiad E), ar gyfer pob Ffoadur y nodwyd y gallai fod ganddo anghenion arbennig/anghenion gofal cymunedol, bydd yr Awdurdod yn sicrhau, cyn belled ag y bo modd, bod yr anghenion hyn yn cael eu nodi’n glir a’u cyfleu i’r Derbyniwr o leiaf bedwar deg dau (42) Diwrnod cyn i bob Ffoadur gyrraedd y DU.

1.13 Lle nodir anghenion arbennig/anghenion gofal cymunedol ar ôl cyrraedd y DU, bydd y Derbyniwr yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu gan y gwasanaethau prif ffrwd priodol cyn gynted â phosibl.

1.14 Pan nodir materion sensitif (gan gynnwys materion diogelu neu achosion o gam-drin domestig, trais neu droseddoldeb) gan yr Awdurdod cyn cyrraedd, bydd yr Awdurdod yn hysbysu’r Derbyniwr ar unwaith, ac nid yn fwy nag un (1) Diwrnod, ar ôl iddo dderbyn yr wybodaeth.

Darpariaeth addysg ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed:

1.15 Mae dyletswydd statudol ar y Derbyniwr i sicrhau bod lleoedd addysg ar gael ar gyfer plant oedran ysgol.

1.16 Er mwyn cefnogi’r Derbyniwr i gyflawni’r rhwymedigaeth hon, bydd yr Awdurdod yn talu cyllid ar gyfer Ffoaduriaid rhwng 3 a 18 oed (gan gynnwys y rhai o dan y Cynllun Nawdd Cymunedol) i fodloni:

  • 1.16.1 darpariaeth addysg mewn sefydliadau a ariennir gan y wladwriaeth; a

  • 1.16.2 Bydd rhwymedigaethau statudol y derbyniwr ar gyfer asesiad Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau (SEND), o ran costau’r asesiad hefyd, yn cael eu talu yn fesul achos.

1.17 Bydd y Derbyniwr yn gyfrifol am sicrhau bod y lefel briodol o gyllid yn cael ei thalu i leoedd addysg (gan gynnwys. ysgolion, academïau, ysgolion rhydd a cholegau Addysg Bellach, fel y bo’n briodol) sy’n derbyn Ffoaduriaid o’r grwpiau oedran perthnasol.

1.18 Gellir gwneud taliadau ychwanegol pellach hefyd er mwyn talu Costau Arbennig angenrheidiol gofal cymdeithasol, lle mae amgylchiadau cymhellol yn bodoli. Bydd y rhain yn cael eu hasesu a’u talu yn fesul achos.

Darpariaeth Saesneg ar gyfer Oedolion sy’n Ffoaduriaid

1.19 Diben hyfforddiant iaith yw: sicrhau bod pob oedolyn sy’n ffoadur yn gallu symud ymlaen tuag at lefel rhuglder sydd ei angen i fyw eu bywyd bob dydd; hyrwyddo integreiddio; a chefnogi ffoaduriaid i symud ymlaen tuag at hunangynhaliaeth, gan gynnwys cael mynediad at wasanaethau neu ymuno â’r gweithlu os ydynt yn chwilio am waith.

1.20 Bydd y Derbyniwr yn cynnal asesiad o lefel rhuglder Saesneg pob oedolyn sy’n Ffoadur i benderfynu ar eu hanghenion hyfforddi; dylid cynnal yr asesiad hwn cyn gynted â phosibl. Dylai’r Oedolyn sy’n Ffoadur wybod am eu asesiad lefel. Dylai’r asesiad benderfynu a yw Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn briodol, a lle y dylid defnyddio Hyfforddiant Iaith Anffurfiol i gwblhau, neu fel sylfaen ar gyfer, Hyfforddiant Iaith Ffurfiol. Dylai Oedolion sy’n Ffoaduriaid o leiaf gael cyfle i ymarfer sgwrsio i gyfuno/cwblhau eu Hyfforddiant Iaith Ffurfiol.

1.21 Os ystyrir bod Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn briodol yn ôl eu hasesiad, dylai’r Oedolyn sy’n Ffoadur allu derbyn o leiaf wyth (8) awr yr wythnos o fewn un (1) mis o gyrraedd. Dylid darparu hyn i Oedolion sy’n Ffoaduriaid nes eu bod wedi cyrraedd Lefel Mynediad 3 neu am o leiaf ddeuddeg (12) mis ar ôl iddynt gyrraedd y DU, (pa un bynnag yw’r cynharaf).

1.22 Bydd gwahanol Oedolion sy’n Ffoaduriaid yn wynebu rhwystrau gwahanol wrth gymryd rhan mewn Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn dibynnu ar eu hamgylchiadau unigol. Felly, nid oes gweithgaredd unffurf unigol y dylid defnyddio’r Cyllid hwn ar ei gyfer. Yn hytrach, dylai’r Derbyniwr ddefnyddio ei wybodaeth am ddarpariaeth leol bresennol a chan ystyried amgylchiadau a gofynion penodol pob Oedolyn sy’n Ffoadur. Mae gweithgareddau posibl yn cynnwys, ond ni ddylid eu hystyried yn gyfyngedig:

  • 1.22.1 Cyllido taliadau ar gyfer Hyfforddiant Iaith Ffurfiol prif ffrwd.

  • 1.22.2 Comisiynu dosbarthiadau Hyfforddiant Iaith Ffurfiol ar wahân ar gyfer Oedolion sy’n Ffoaduriaid neu gyllido lefelau uwch o ESOL ar gyfer y rhai sydd â lefel uwch o ruglder yn Saesneg.

  • 1.22.3 Cefnogi’r gwaith o ddarparu o leiaf wyth (8) awr yr wythnos (Rhan 1, paragraff 1.21 o’r Atodlen hon 1).

  • 1.22.4 Hyfforddiant iaith sy’n cefnogi mynediad i gyflogaeth, addysg bellach neu addysg uwch.

  • 1.22.5 Comisiynu dosbarthiadau ar y lefel sy’n wynebu’r pwysau mwyaf yn yr ardal gyda’r cytundeb bod rhai o’r Oedolion sy’n Ffoaduriaid yn mynychu – ynghyd â myfyrwyr eraill – a gyda’r cytundeb bod y capasiti ychwanegol sydd ar gael yn caniatáu i Oedolion sy’n Ffoaduriaid ar lefelau eraill fynychu dosbarthiadau prif ffrwd.

  • 1.22.6 Cyllido dosbarthiadau gyda’r nos ac ar benwythnosau.

  • 1.22.7 Ariannu adnoddau ar-lein i gwblhau darpariaeth ESOL wyneb yn wyneb.

1.23 Mae’r Cyllid yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer cymryd rhan mewn darpariaeth ESOL. Fodd bynnag, os oes diffyg darpariaeth ar gael, gellir gwario hyd at 25% o’r Cyllid i gynyddu seilwaith ESOL, ac felly cyfraddau cyfranogi yn y dyfodol, lle ystyrir bod hynny yn gwbl angenrheidiol. Gallai seilwaith ESOL gynnwys, er enghraifft, hyfforddi athrawon ESOL, prynu offer ac adnoddau a rhentu lle yn yr ystafell ddosbarth. Bydd disgwyl i’r Derbyniwr adrodd am gyfran y gwariant ar seilwaith ESOL.

1.24 I rai Oedolion sy’n Ffoaduriaid, bydd mynychu Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn fwy heriol nag yw e ar gyfer eraill. Er enghraifft, efallai y bydd ganddynt gyfrifoldebau gofalu, anabledd neu yn ei chael yn anodd mynychu Hyfforddiant Iaith Ffurfiol. Yn yr achosion hyn, mae’n bwysig bod camau yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn fel y gellir defnyddio elfen seilwaith ESOL 25% o’r Cyllid (fel y nodir ym mharagraff 1.23) i gefnogi gweithgareddau sy’n helpu i oresgyn rhwystrau hygyrchedd [dylid hawlio cyllid gofal plant ar wahân, fel y disgrifir yn Rhan 5].

1.25 Fodd bynnag, dylai’r Derbyniwr geisio defnyddio ffynonellau neu wasanaethau cyllid lleol neu ganolog eraill, lle bo’n bosibl.

1.26 Mewn achosion lle mae Oedolion sy’n Ffoaduriaid yn cyrraedd tu allan i amser tymor, sy’n ei gwneud yn anodd i gael mynediad i Hyfforddiant Iaith Ffurfiol, dylid darparu Hyfforddiant Iaith Anffurfiol amgen i ddechrau o fewn un (1) mis wedi cyrraedd.

1.27 Mae darparu Hyfforddiant Iaith Anffurfiol hefyd yn ddewis amgen addas mewn achosion lle mae Ffoadur yn cael ei asesu i fod ar lefel ESOL cyn mynediad neu’n canfod amgylchedd Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn rhwystr i hygyrchedd, na ellir ei ddatrys gan ddefnyddio’r cyllid seilwaith a nodir yn (para 1.23).

1.28 Mewn achos fel 1.26 a 1.27, dylai’r Derbyniwr annog yr Oedolyn sy’n Ffoadur i gael Hyfforddiant Iaith Ffurfiol yn y dyfodol. Y rheswm am hyn yw na all Hyfforddiant Iaith Anffurfiol roi cymwysterau achrededig sy’n aml yn angenrheidiol ar gyfer cael gwaith, astudio pellach neu hyfforddiant.

1.29 Gellir hawlio cyllid i gefnogi anghenion hyfforddiant iaith Oedolion sy’n Ffoaduriaid drwy Ran 4 o’r Rhestr 1 hon ac un taliad fydd hwn i’w hawlio o fewn y 12 mis cyntaf wedi cyrraedd.

Y Broses Gyllido a Hawlio

1.30 Mae’r Awdurdod yn cytuno i ddarparu Cyllid fel cyfraniad at wariant cymwys y Derbyniwr yn cyflawni’r canlyniadau a ddisgrifir yn Rhan 1 o’r Rhestr 1 hon (paragraff 1.1 i 1.29, cynhwysol), ar gyfradd safonol y pen y flwyddyn ar gyfer pob Ffoadur fel a ganlyn:

Costau unedau blwyddyn 1 [footnote 10]



Hawlwyr Budd-daliadau Oedolion

Oedolion eraill

Plant 5-18 oed

Plant 3-4 oed

Plant dan 3 oed


£

£

£

£

£

Costau Awdurdodau Lleol

8,520

8,520

8,520

8,520

8,520

Addysg

0

0

4,500

2,250

0

CYFANSYMIAU

8,520

8,520

13,020

10,770

8,520

1.31 Gwneir taliadau yn seiliedig ar oedran y Ffoadur wrth gyrraedd y DU.

1.32 Unwaith y bydd yr uchafsymiau hyn wedi’u cyrraedd, ni thelir unrhyw gyllid pellach gan yr Awdurdod i Dderbyniwr ac eithrio unrhyw hawliadau a wneir mewn perthynas â Chostau Arbennig (gweler Telerau ac Amodau, Cymal 6.12 a 6.13).

1.33 Ar Ddiwrnod dyfodiad Ffoadur yn y DU, bydd y Derbyniwr yn gallu hawlio 40% o gyfanswm y swm blynyddol y pen a ragwelir ar gyfer y person hwnnw. Rhaid i’r Derbyniwr wneud hawliad ar y ffurflen hawlio safonol (Atodiad A).

1.34 Disgwylir y gweddill i’w dalu mewn dau randaliad cyfartal ar ddiwedd y pedwerydd (4ydd) a’r wythfed (8fed) Mis ar ôl i’r Ffoadur gyrraedd y DU.

1.35 Mae tariff y pen yn cynnwys elfen i’r Derbyniwr gynnwys hyd at bum deg chwech (56) Diwrnod (h.y. wyth wythnos) o gostau wedi’u canslo. Esbonnir y broses ar gyfer hawlio costau wedi’u canslo ychwanegol / arbennig yn Atodiad F.

1.36 Bydd yr Awdurdod yn talu arian ychwanegol i dalu cyfrifoldebau SEND y Derbyniwr am unrhyw Ffoadur yn fesul achos fel Cost Arbennig.

1.37 Lle mae amgylchiadau cryf yn bodoli, gall y Derbyniwr ofyn am arian ychwanegol at ddibenion addysg mewn perthynas â Ffoaduriaid sy’n 18 oed neu’n iau ac sydd mewn addysg llawn amser. Bydd ceisiadau o’r fath yn cael eu hystyried fesul achos,fel Cost Arbennig,gyda’r penderfyniad terfynol am dalu, hyd a chyfradd (y gellir ei addasu o bryd i’w gilydd) i’w bennu gan y Awdurdod.

2. Rhan 2 – datganiad canlyniadau blwyddyn 2 - 5

Cyllid Blwyddyn 2 - 5

2.1 Bwriad cyllid Blwyddyn 2 - 5 yw cyfrannu tuag at gostau’r Derbyniwr a geir gan gefnogi cyfranogiad parhaus Ffoaduriaid yn y Cynlluniau.

2.2 Er mwyn sicrhau’r hyblygrwydd mwyaf posibl, mater i’r Derbyniwr fydd penderfynu ar y defnydd gorau o’r Cyllid a hawlir i gefnogi Ffoaduriaid ar eu taith tuag at integreiddio a bod yn annibynnol. Dylai’r cymorth gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) integreiddio parhaus i’r cymunedau y mae Ffoaduriaid wedi’u hailymgartrefu ynddynt; cynnydd tuag at gyflogaeth ac i gyflogaeth (a all gynnwys cymorth cyflogaeth wedi’i deilwra a a hyfforddiant iaith ffurfiol neu anffurfiol sy’n benodol i’r sector), costau gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion a phlant; neu, cymorth addysg ychwanegol.

2.3 Dylai’r Derbyniwr allu egluro sut y mae’n cefnogi Ffoaduriaid a hyrwyddo nodau’r Cynlluniau drwy ddogfennu’r math(au) o gymorth a ddarperir.

Y Broses Gyllido a Hawlio

2.4 Gall y Derbyniwr hawlio Cyllid o’r flwyddyn gyntaf (h.y. 12 Mis) ar ôl i Ffoadur gyrraedd y DU o dan y Cynlluniau, ac ar gyfer pob blwyddyn ddilynol tan ddiwedd y bumed flwyddyn.

2.5 Prif egwyddorion y Cyllid yw ei fod:

  • 2.5.1 yn darparu tariff blynyddol i bob Ffoadur (gweler tabl 2.6),

  • 2.5.2 nad yw’n cael ei glustnodi,

  • 2.5.3 yn cefnogi gwerthuso ac adrodd rhaglenni, a

  • 2.5.4 gellir ei gyfuno rhwng yr holl Ffoaduriaid y mae Derbyniwr yn eu cefnogi.

2.6 Ar gyfer pob Ffoadur a gefnogir gan Dderbyniwr, gall hawlio uchafswm o bedwar (4) taliad cyfradd safonol blynyddol:

Costau unedau blwyddyn 2 - 5 [footnote 11]


Amserlen

13-24 mis

25-36 mis

37-48 mis

49-60 mis

Cyfradd

£5,000

£3,700

£2,300

£1,000

2.7 Dim ond un hawliad y flwyddyn ar gyfer pob ffoadur y bydd yr Awdurdod yn ei gymeradwyo.

2.8 Ni thelir unrhyw Gyllid pellach gan yr Awdurdod i Dderbyniwr ar wahân i unrhyw hawliadau a wneir mewn perthynas â Chostau Arbennig (gweler Telerau ac Amodau, Cymal 6.12 a 6.13).

2.9 Rhaid cyflwyno pob cais am Gyllid Blwyddyn 2 - 5 yn ystod yr ail chwarter ariannol (h.y. o 1 Gorffennaf, ond ym mhob achos erbyn 30 Medi)yn yr un flwyddyn:gall gyflwyno ffurflenni hwyr arwain at ohirio neu wrthod ceisiadau am daliadau. Bydd taliad ond yn cael ei wneud i dderbynwyr ar gyfer ffoaduriaid sy’n preswylio yn ardal yr awdurdod lleol ar 30 Medi. Os nad yw’r ffoadur yn preswylio ar y dyddiad hwnnw, yna gwrthodir taliad. Unwaith y bydd yn fodlon bod cais am daliad wedi’i gyflwyno’n gywir, bydd yr Awdurdod yn ymdrechu i wneud taliadau Cyllid yn ddyledus yn ystod trydydd chwarter yr un flwyddyn ariannol (h.y. o 1 Hydref, ond heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr).

2.10 Bydd y cyllid yn cael ei dalu trwy un taliad blynyddol i’w hawlio ar yr adegau fel y nodir yn y tabl canlynol:

Cyllid blwyddyn 2 - 5 - proffil talu ar gyfer dyfodiadau VPRS & VCRS


Dyfodiadau rhwng

Hawlio cylldi ar gyfer
 
Blwyddyn 2

Blwyddyn 3

Blwyddyn 4

Blwyddyn 5

22/09/15 - 30/09/15

31/12/2016

30/09/2017

30/09/2018

30/09/2019

01/10/15 - 31/12/15

31/12/2016

30/09/2018

30/09/2019

30/09/2020

01/01/16 - 30/09/16

30/09/2017

30/09/2018

30/09/2019

30/09/2020

01/10/16 - 30/09/17

30/09/2018

30/09/2019

30/09/2020

30/09/2021

01/10/17 - 30/09/18

30/09/2019

30/09/2020

30/09/2021

30/09/2022

01/10/18 - 30/09/19

30/09/2020

30/09/2021

30/09/2022

30/09/2023

01/10/19 – 30/09/20

30/09/2021

30/09/2022

30/09/2023

30/09/2024

01/10/20 – 28/02/21

30/09/2022

30/09/2023

30/09/2024

30/09/2025

Cyllid blwyddyn 2 - 5 - proffil talu ar gyfer dyfodiadau UKRS


Dyfodiadau rhwng

Hawlio cylldi ar gyfer
 
Blwyddyn 2

Blwyddyn 3

Blwyddyn 4

Blwyddyn 5

01/03/21 – 28/02/22

31/08/2023

31/08/2024

31/08/2025

31/08/2026

3. Rhan 3 - datganiad canlyniadau i dderbynwyr mewn perthynas â nawdd cymunedol

3.1 Un agwedd allweddol ar y Cynllun Nawdd Cymunedol (y ‘Cynlluniau’) yw’r gofyniad i bob Noddwr cymeradwy gael cefnogaeth eu hawdurdodau statudol perthnasol, gan gynnwys y Derbyniwr.

Ad-dalu Costau Addysg

3.2 Yn unol â’i ddyletswydd statudol, bydd y Derbyniwr yn gallu hawlio Cyllid tuag at gostau addysg a geir gan gefnogi plant o oedran ysgol hyd at yr uchafswm canlynol y pen:

Costau unedau (£GBP) ar gyfer cynlluniau [footnote 12]



Hawlwyr Budd-daliadau Oedolion



Oedolion Eraill



Plant 5-18 oed



Plant 3-4 oed



Plant dan 3 oed


BLWYDDYN 1

Addysg



0



0



4,500



2,250



0

3.3 Bydd y Derbyniwr yn gyfrifol am sicrhau bod y lefel briodol o gyllid yn cael ei thalu i leoedd addysg (gan gynnwys. ysgolion, academïau, ysgolion rhydd a cholegau Addysg Bellach, fel y bo’n briodol) sy’n derbyn Ffoaduriaid o’r grwpiau oedran perthnasol.

3.4 Gall y Derbyniwr ofyn am arian ychwanegol at ddibenion addysg mewn perthynas â Ffoaduriaid â chymorth sy’n 18 oed neu’n iau ac sydd mewn addysg llawn amser, lle mae amgylchiadau cryf yn bodoli. Bydd ceisiadau o’r fath yn cael eu hystyried fesul achos, gyda’r penderfyniad terfynol ar dalu, hyd a chyfradd (y gellir ei addasu o bryd i’w gilydd) i’w bennu gan yr Awdurdod.

Ad-dalu Costau Cymorth eraill yn ystod Blwddyn 1 a 2

3.5 Os na all Noddwr gyflawni ei rwymedigaethau wrth gyflawni’r Cynlluniau am unrhyw reswm, bydd yn ofynnol i’r Derbyniwr gamu mewn a darparu’r cymorth angenrheidiol yn:

  • 3.5.1 Y deuddeg (12) Mis cyntaf (Blwyddyn 1), gan gynnwys darparu llety, cymorth gwaith achos, addysg (gan gynnwys. Hyfforddiant Iaith), a gofal cymdeithasol, fel y disgrifir yn Rhan 1 o’r Rhestr hon, ac yn

  • 3.5.2 Yr ail ddeuddeg (12) Mis (Blwyddyn 2), yn darparu llety ac unrhyw gymorth arall fel y mae’r Derbyniwr yn ystyried i fod yn bridol, fel y disgrifir yn Rhan 2 o’r Rhestr hon.

3.6 Os na fydd Noddwr yn gallu cyflawni ei rwymedigaethau cytundebol, neu fel arall gefnogi’r Ffoaduriaid, gall Derbyniwr hefyd fod yn gymwys i hawlio Cyllid ar gyfer pob Ffoadur a gefnogir hyd at y cyfraddau uchaf canlynol y pen:

Costau unedau (£gbp) ar gyfer cynlluniau [footnote 13]



Hawlwyr Budd-daliadau Oedolion



Oedolion Eraill



Plant 5-18 oed



Plant 3-4 oed



Plant dan 3 oed


BLWYDDYN 1

Costau Ailsefydlu



8,520



8,520



8,520



8,520



8,520


BLWYDDYN 2

Costau Ailsefydlu



5,000



5,000



5,000



5,000



5,000

3.7 Cydnabyddir y gallai Noddwr eisoes fod wedi cyflawni rhai o’r rwymedigaethau sy’n gysylltiedig â gofynion cymorth Ffoaduriaid. Bydd yn mater i’r Derbyniwr, felly, i asesu a phenderfynu ar anghenion pob Ffoadur yn erbyn y canlyniadau a ddisgrifir yn Rhan 1 a Rhan 2 o’r Rhestr 1 hon.

3.8 Penderfynir ar union werth Cyllid ac amseru’r taliad fesul achos yn dibynnu ar amgylchiadau unigol pob Ffoadur y mae’r Derbyniwr yn hawlio ar ei gyfer.

3.9 Bydd y cyllid hyd at yr uchafsymiau a nodir yn dibynnu ar faint o amser y bydd gofyn i’r Derbyniwr roi cymorth i’r Ffoadur. Fel arfer, bydd hyn fel a ganlyn:

  • 3.9.1 Mwy na chwech (6) Mis - swm llawn

  • 3.9.2 Llai na chwech (6) Mis - 50% o’r swm

Cyllid ar gyfer Blwddyn 3 - 5

3.10 Bydd Derbyniwr yn gymwys i hawlio am gyfraniadau at gostau o dan y cyfnodau amser perthnasol a ddisgrifir yn Rhan 2 o’r Rhestr 1 hon i’w penderfynu fesul achos.

4. Rhan 4 – mynediad i esol:datganiad canlyniadau ar gyfer cyllid ychwanegol i gefnogi darpariaeth saesneg ar gyfer oedolion sy’n ffoaduriaid

Gwella Mynediad i Hyfforddiant Iaith

4.1 Bwriad y Cyllid yn bennaf yw gwella mynediad Oedolion sy’n Ffoaduriaid at Hyfforddiant Iaith Ffurfiol sy’n briodol i’w gallu a’u hanghenion.

4.2 Gellir ei ddefnyddio hefyd i gefnogi Hyfforddiant Iaith Anffurfiol (Rhan 1, paragraff 1.27 o’r Rhestr 1 hon).

4.3 Yn unol â’r canllawiau arfer da presennol ar ailsefydlu, bwriedir defnyddio’r Cyllid hwn mewn ffordd sy’n hyrwyddo integreiddio a’r daith tuag at fod yn annibynnol.

Ffactorau Llwyddiant Critigol

4.4 Mae’r Awdurdod wedi cynllunio cyfres o fesurau i asesu effeithiolrwydd y Cyllid wrth gyflawni ei ganlyniad. Gweler isod y ffactorau llwyddiant allweddol hyn:

  • 4.4.1 taliadau a dderbyniwyd,

  • 4.4.2 rhannu gwariant rhwng darpariaeth cymryd rhan a darpariaeth na chymryd rhan (a nodir yn Rhan 1, para 1.23 - 1.24 o’r Rhestr hon)

4.5 Yn ogystal, dylai Derbynwyr adrodd ar y canlynol:

  • 4.5.1 I ba raddau y mae’r Cyllid wedi cynyddu capasiti lleol i ddarparu ESOL? A fu unrhyw rwystrau cyflawni nad yw’r Cyllid hwn wedi gallu eu goresgyn?

  • 4.5.2 I ba raddau y mae’r Cyllid wedi gwella mynediad i ESOL? A fu unrhyw rwystrau hygyrchedd nad yw’r Cyllid hwn wedi gallu eu goresgyn?

  • 4.5.3 I ba raddau y mae’r cyllid wedi helpu i Oedolion sy’n Ffoaduriaid integreiddio yn well a symud tuag at fod yn annibynnol, gan gynnwys yn y gweithle?

4.6 Bydd disgwyl i’r Derbyniwr adrodd ar y mesurau llwyddiant hyn drwy’r broses fonitro flynyddol ar ddiwedd y flwyddyn.

Y Broses Gyllido a Hawlio

4.7 Gellir hawlio taliad y pen ar gyfer pob Oedolyn sy’n Ffoadur a ddarperir gyda hyfforddiant iaith gan y Derbyniwr ar y gyfradd safonol ganlynol:

Costau Unedau (£GBP) [footnote 14] (gweler para 4.11 isod)

  • Oedolyn sy’n Ffoadur (19+ oed wrth gyrraedd): £850 – hawliad wrth gyrraedd
  • Oedolyn sy’n Ffoadur (18+ oed wrth gyrraedd): £850 - un hawliad pan fydd y ffoadur yn cyrraedd 19 oed

4.8 Bydd Noddwyr Cymunedol yn hawlio’r taliadau hyn y pen ar gyfer ffoaduriaid y maent yn eu cefnogi.

4.9 Gall Derbyniwr ‘rhannu’ unrhyw Gyllid a hawlir, ar lefel leol neu ranbarthol, ermwyn manteisio i’r eithaf ar ei allu i nodi gofynion hyfforddiant iaith unigolion yn effeithiol, bod yn ymatebol i’r anghenion hyn drwy’r trefniadau cyflawni mwyaf priodol a’r ystod o ddarparwyr mewn ardal leol.

4.10 Ar ôl i Ffoadur gael ei asesu’n gymwys (Rhan 1, paragraff 1.22 o’r Rhestr 1 hon), bydd y Derbyniwr yn gallu hawlio.

4.11 Rhaid i’r Derbyniwr wneud hawliad ar y ffurflen hawlio safonol (Atodiad A) er mwyn cael taliad. Dylid mewnosod ESOL yng ngholofn O o’r Atodiad a’r tariff safonol o £850 yng ngholofn P ar gyfer pob Ffoadur y mae’r Cyllid yn cael ei hawlio ar ei gyfer.

4.12 Gellir hawlio am y £850 o gyllid cyflogadwyedd ESOL ar gyfer pob oedolyn sy’n ffoadur sydd, ar ôl cyrraedd, yn 19 oed + neu’n cyrraedd 19 oed o fewn y 12 mis cyntaf o gyrraedd y DU.

5. Rhan 5 – mynediad i esol: datganiad canlyniadau ar gyfer cymorth gofal plant

Canlyniadau

5.1 Mae’r Awdurdod yn cydnabod bod Ffoaduriaid yn wynebu rhwystrau wrth gymryd rhan mewn Hyfforddiant Iaith Ffurfiol, yn enwedig gyda darpariaeth gofal plant.

5.2 Mae oedi wrth ddechrau dysgu Saesneg ar ôl cyrraedd yn ei gwneud yn anoddach i Ffoaduriaid (yn arbennig, menywod â theuluoedd) integreiddio a dod yn annibynnol: Mae tynnur rhwystr hwn yn allweddol i gynorthwyo Ffoaduriaid i ymgartrefu’n effeithiol yn eu cymuned newydd.

5.3 Mae’r Awdurdod yn sicrhau bod cyllid ar gael i helpu Derbynwyr, boed yn awdurdodau sy’n derbyn a/neu gyrff cydgysylltu rhanbarthol (h.y. Partneriaethau Ymfudo Strategol), ledled y DU i fynd i’r afael â’r broblem hon.

5.4 Mae’r Awdurdod yn cytuno i ddarparu Cyllid fel cyfraniad at wariant cymwys y Derbyniwr i oresgyn rhwystrau gofal plant tra bod Ffoaduriaid yn cymryd rhan mewn hyfforddiant ESOL.

5.5 Os am gael mynediad i’r Cyllid, bydd gofyn i ddarpar Dderbynwyr gyflwyno cynigion prosiect a fwriedir i chwalu’r rhwystrau hyn gan ddefnyddio’r ffurflen gais sydd ar gael drwy anfon e-bost at ESOLChildcare@homeoffice.gov.uk

5.6 Gallai prosiectau ddarparu:

  • 5.6.1 mathau traddodiadol o ofal plant megis meithrinfeydd neu gylchoedd chwarae, neu

  • 5.6.2 gymorth i ddarparwyr gofal plant presennol i ddarparu hyfforddiant iaith Saesneg yn ogystal â’u gwasanaethau presennol, neu

  • 5.6.3 ddulliau mwy arloesol megis cynnal digwyddiadau dysgu teuluol i helpu oedolion i ddysgu Saesneg pan fyddant yn fodlon neu’n methu â gadael eu plant. Nid yw hyn yn cynnwys cyflwyno ESOL digidol. Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr. Mae canllawiau pellach ar wariant Cymwys ac Anghymwys ar gael ar gais gan y Swyddfa Gartref. Dylid hefyd ystyried sut y gallai Ffoaduriaid a gefnogir gan Noddwyr Cymunedol elwa o “Mynediad i ESOL: Cyllid Cymorth Gofal Plant.”

Cyllid a Hawliadau

5.7 Yn dibynnu ar nifer y ceisiadau a gyflwynir, gall yr Awdurdod gyfyngu ar faint o arian sydd ar gael i bob rhanbarth er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei ddosbarthu yn deg.

5.8 Am fanylion am sut i wneud ceisiadau am ofal plant ESOL, anfonwch e-bost at ESOLChildcare@homeoffice.gov.uk

Uchafswm Cyllid ledled y DU sydd ar gael ar gyfer prosiectau Mynediad i ESOL (Gofal plant) [footnote 15]

Mynediad at gyllid gofal plant ESOL

  • 2021/22: £600,000

Ffactorau Llwyddiant Critigol

5.9 Mae’r Awdurdod wedi cynllunio cyfres o fesurau i asesu effeithiolrwydd y Cyllid wrth gyflawni ei ganlyniad. Y Ffactor Llwyddiant Critigol yw:

  • 5.9.1 Cyfanswm nifer yr unigolion sy’n defnyddio ESOL o ganlyniad i’r cyllid hwn.

5.10 Yn ogystal, dylai derbynwyr adrodd ar y canlynol:

  • 5.10.1 Nifer y dosbarthiadau ESOL a fynychwyd na fyddai wedi bod yn bosib eu mynychu heb gael mynediad at gyllid gofal plant.

  • 5.10.2 A fu unrhyw rwystrau hygyrchedd yn gysylltiedig â gofal plant nad yw’r cyllid hwn wedi gallu eu goresgyn?

  • 5.10.3 Unrhyw dystiolaeth ychwanegol o’r manteision i’r rhai sy’n cymryd rhan.

5.11 Bydd disgwyl i’r Derbyniwr adrodd ar y mesurau llwyddiant hyn drwy’r broses fonitro flynyddol ar ddiwedd y flwyddyn. Gall yr Awdurdod hefyd ofyn am wybodaeth fonitro a gwerthuso ychwanegol y tu allan i’r broses hon, gan gynnwys, er enghraifft, astudiaethau achos sy’n dangos sut y bu’n fuddiol ar sail unigol.

5.12 Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y ffrwd cyllid hon, anfonwch e-bost at: ESOLChildcare@homeoffice.gov.uk

6. Rhan 6 – mynediad nawdd cymunedol at gyllid

Ad-daliad am Gyllid Ychwanegol i Gefnogi Darpariaeth Saesneg ar gyfer Oedolion sy’n Ffoaduriaid

6.1 Gall Noddwyr Cymunedol hawlio Cyllid Ychwanegol i gefnogi darpariaeth Saesneg ar gyfer Oedolion sy’n Ffoaduriaid yn unol â Rhan 4, paragraff 4.7 i 4.12 o’r Rhestr hon.

Costau unedau (£GBP) ar gyfer cynlluniau

  • Oedolyn sy’n Ffoadur (19+ oed wrth gyrraedd): £850 – hawlio wrth gyrraedd
  • Oedolyn sy’n Ffoadur (18+ oed wrth gyrraedd): £850 - un hawliad pan fydd y ffoadur yn cyrraedd 19 oed

Atodiad A - ffurflen hawlio gwariant

Bydd y taenlenni Excel Atodiad A a ffurflen hawlio Costau Arbennig canlynol yn cael eu darparu ar wahân gan Dîm Taliadau Adsefydlu’r ALl.

  • Atodiad A VPRS - Hawliad cychwynnol Blwyddyn 1
  • Atodiad A VPRS - Hawliadau dilynol Blwyddyn 1
  • Atodiad A VCRS - Hawliad cychwynnol Blwyddyn 1
  • Atodiad A VCRS - Hawliadau dilynol Blwyddyn 1
  • Atodiad A UKRS - Hawliad cychwynnol Blwyddyn 1
  • Atodiad A UKRS - Hawliadau dilynol Blwyddyn 1
  • Atodiad A VPRS - Blwyddyn 2 - 5
  • Atodiad A VCRS - Blwyddyn 2 - 5
  • Ffurflen hawlio Costau Arbennig

Atodiad B - categorïau cyflwyno ailsefydlu UNHCR

Mae’r Awdurdod yn gyfrifol am nodi Ffoaduriaid addas i’w hailsefydlu yn y DU o dan y Cynllun Adsefydlu Pobl Agored i Niwed ar y cyd ag Uchel Gomisiwn y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ffoaduriaid (UNHCR) yn seiliedig ar y saith categori cyflwyno ailsefydlu canlynol. [footnote 16]

  • Anghenion Cyfreithiol a/neu Anghenion Amddiffyn Corfforol
  • Goroeswyr Artaith a/neu Drais
  • Anghenion Meddygol
  • Menywod a Merched mewn Perygl
  • Adfer Teuluoedd
  • Plant a Phobl Ifanc mewn Perygl*
  • Diffyg Atebion Gwydn Arall Rhagweladwy

*Categorïau Plant a Phobl Ifanc mewn Perygl UNHCR

  • Plant ar eu pen eu hun (UAC): yw’r plant hynny sydd wedi’u gwahanu oddi wrth rieni a pherthnasau eraill ac nad ydynt yn cael eu gofalu amdano gan oedolyn sydd, yn ôl y gyfraith neu’n bersonol, yn gyfrifol am wneud hynny.
  • Plant ar wahân (SC): yw’r rhai sydd wedi’u gwahanu oddi wrth eu rhieni, neu oddi wrth eu rhoddwr gofal sylfaenol cyfreithiol neu arferol blaenorol, ond nid o reidrwydd oddi wrth berthnasau eraill. Gall y rhain, felly, gynnwys plant sydd yng ngofal aelodau oedolion eraill o’r teulu.
  • Plant heb ddogfennau cyfreithiol: Byddai hyn yn cynnwys plant heb ddogfennau cyfreithiol i brofi eu hunaniaeth gyfreithiol, ac a allai fod yn arbennig o agored i niwed a’i ystyried ar gyfer ailsefydlu, gan gynnwys:
  1. plant 0-4 oed nad oes ganddynt dystiolaeth o’u genedigaeth (dim tystysgrif geni, pasbort hysbysu genedigaeth na llyfryn teulu), a lle nad yw un rhiant yn bresennol (yn arbennig, lle nad yw’r rhiant sydd â’r hawl i basio cenedligrwydd yn bresennol), neu

  2. plant 12-17 oed nad oes ganddynt ddogfennau i brofi eu hoedran ac sy’n wynebu risgiau diogelu eraill (llafur plant, priodas plant, recriwtio plant, plant sy’n cael eu cadw neu sy’n gwrthdaro â’r gyfraith) sydd mewn perygl arbennig am nad oes ganddynt brawf o’u statws fel plant ac felly nad ydynt yn gallu profi eu hawl i amddiffyniadau plant sy’n benodol i oedran o dan y gyfraith.

  • Plant ag anghenion meddygol penodol: Mae plentyn â chyflwr meddygol difrifol yn berson o dan 18 oed y mae angen cymorth arno, o ran trin neu ddarparu eitemau maeth a rhai nad ydynt yn fwyd, yng ngwlad lloches.
  • Plant ag anableddau: Mae plentyn ag anabledd yn berson o dan 18 oed sydd â namau corfforol, meddyliol, deallusol neu synhwyraidd o enedigaeth, neu sy’n deillio o salwch, haint, anaf neu drawma. Gall y rhain arafu cyfranogiad llawn ac effeithiol mewn cymdeithas ar sail gyfartal ag eraill.
  • Gofalwyr plant: Mae’r categori Gofalwr Plant yn cynnwys person o dan 18 oed, nad yw’n blentyn ar ei ben ei hun ac sydd wedi cymryd cyfrifoldeb fel pennaeth cartref. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, plentyn sy’n dal yn byw gyda’i rieni/rhieni, ond sydd wedi ymgymryd â’r rôl o ofalu amdanynt (ac o bosib o frodyr a chwiorydd hefyd) oherwydd bod y rhieni’n sâl, yn anabl ac ati.
  • Plant sydd mewn perygl o gael arferion niweidiol traddodiadol, gan gynnwys priodas plant ac anffurfio organau cenhedlu benywod: Person o dan 18 oed sydd mewn perygol o ddioddef ymarfer niweidiol traddodiadol, neu sy’n ddioddefwr/goroeswr ohono. Mae gan bob grŵp cymdeithasol arferion a chredoau traddodiadol penodol, y mae rhai ohonynt o fudd i bob aelod tra bod eraill yn niweidiol i grŵp penodol, megis menywod. Mae arferion niweidiol traddodiadol o’r fath yn cynnwys, er enghraifft, anffurfio organau cenhedlu benywod, priodas gynnar, pris gwaddol, etifeddiaeth weddw, bwydo grym benywaidd, hela gwrachod, babanladdiad benywaidd, dewis mab a’i oblygiadau i’r plentyn sy’n ferch. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, mae rhai mathau o enwaediad gwrywaidd, creithiau neu datws hefyd yn dod o dan y categori hwn.
  • Llafur plant: Mae’n cynnwys plant sy’n ymwneud â’r:

(i) mathau gwaethaf o lafur plant: Person o dan 18 oed sy’n ymwneud â’r mathau gwaethaf o lafur plant, sy’n cynnwys pob math o gaethwasiaeth neu arferion caethwasiaeth tebyg (fel gwerthu a masnachu plant, bondiau dyled a chaethwasanaeth a llafur gorfodol neu orfodol, gan gynnwys recriwtio plant yn orfodol i fod yn rhan o wrthdaro arfog neu); defnyddio, caffael neu gynnig plentyn ar gyfer puteindra, ar gyfer cynhyrchu pornograffi neu ar gyfer perfformiadau pornograffig; defnyddio, caffael neu gynnig plentyn ar gyfer gweithgareddau anghyfreithlon, yn enwedig ar gyfer cynhyrchu a masnachu cyffuriau fel y diffinnir yn y cytundebau rhyngwladol perthnasol; gwaith sydd, yn ôl ei natur neu’r amgylchiadau y gwneir, yn debygol o niweidio iechyd, diogelwch neu foesau plant; a

(ii) mathau eraill o lafur plant: Person o dan 18 oed sy’n ymwneud â mathau o lafur plant yn whanol i’r ffurfiau gwaethaf, megis gwaith sy’n debygol o fod yn beryglus neu ymyrryd â’i addysg/haddysg, neu i fod yn niweidiol i’w iechyd neu ei ddatblygiad corfforol, meddyliol, ysbrydol, moesol neu gymdeithasol. Diffiniad UNICEF o lafur plant yw gwaith sy’n fwy na nifer lleiaf o oriau, yn dibynnu ar oedran y plentyn ac ar y math o waith. Ystyrir bod gwaith o’r fath yn niweidiol i’r plentyn: 5-11 oed: o leiaf awr o lafur ariannol neu 28 awr o lafur domestig yr wythnos; 12-14 oed: o leiaf 14 awr o lafur ariannol neu 28 awr o lafur domestig yr wythnos; 15-17 oed: o leiaf 43 awr o waith ariannol neu ddomestig yr wythnos.

  • Plant sy’n gysylltiedig â’r lluoedd arfog neu grwpiau arfog: pobl o dan 18 oed sy’n cael eu recriwtio neu sydd wedi cael eu recriwtio, neu sydd wedi cael eu defnyddio, i’r lluoedd arfog neu grŵp arfog mewn unrhyw swydd, gan gynnwys fel ymladdwr, cogydd, porthor, negesydd, ysbïwr, neu at ddibenion rhywiol neu briodas dan orfod. Nid yn unig y mae’n cyfeirio at blentyn sy’n cymryd rhan uniongyrchol mewn gelyniaeth neu sydd wedi cymryd rhan uniongyrchol ynddo.
  • Plant sy’n cael eu cadw a/neu sy’n gwrthdaro â’r gyfraith: Person o dan 18 oed sydd, neu sydd wedi cael, yn cael ei gyhuddo neu ei gollfarnu am dorri’r gyfraith.
  • Plant sydd mewn perygl o gael eu hestraddodi: [footnote 17] Person o dan 18 oed sydd mewn perygl o gael ei ddychwelyd i ffiniau tiriogaethau lle byddai bygythiad i’w fywyd/bywyd neu ei ryddid/rhyddid, neu lle mae e/hi mewn perygl o erledigaeth am un o fwy o resymau Confensiwn Ffoaduriaid 1951, gan gynnwys ymyrryd, gwrthod yn y ffin neu estraddodiad anuniongyrchol.
  • Plant sydd mewn perygl o beidio â mynd i’r ysgol: Person o dan 18 oed sy’n methu neu sy’n amharod i fynychu’r ysgol neu sydd mewn mwy o berygl o dorri ar draws neu derfynu ei addysg/haddysg.
  • Plant sy’n goroesi (neu mewn perygl o) drais, camdriniaeth neu gamfanteisio, gan gynnwys Trais Rhywiol a Thrais ar sail Rhywedd (SGBV): Person o dan 18 oed, sydd mewn perygl o drais corfforol a/neu seicolegol, camdriniaeth, esgeulustod neu gamfanteisio. Gall y cyflawnwr fod yn unrhyw berson, grŵp neu sefydliad, gan gynnwys actorion y wladwriaeth a’r rhai nad ydynt yn rhai gwladwriaethol.

Atodiad C – protocol rhannu data (DSP)

  1. Nodau ac amcanion y DSP
  • 1.1 Nod y DSP hwn yw darparu cyfres o egwyddorion ar gyfer rhannu gwybodaeth.

  • 1.2 Mae’r DSP hwn yn nodi’r rheolau y mae’n rhaid i’r Derbyniwr eu dilyn wrth ymdrin â gwybodaeth a ddosberthir fel “data personol” gan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU sydd mewn grym.

2. Deddfwriaeth diogelu data

2.1 Mae Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU yn pennu rhwymedigaethau penodol ar bob unigolyn sy’n prosesu data personol y mae’n rhaid cadw ato. Mae Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU yn ei gwneud yn ofynnol i bob trosglwyddiad gwybodaeth ddod o fewn ei chwe egwyddor diogelu data. Rhaid i’r Derbyniwr, wrth brosesu data personol mewn cysylltiad â’r Cyfarwyddyd, gydymffurfio â’r egwyddorion hyn ar gyfer arfer da.

2.2 Rhaid prosesu data yn unol â’r chwe egwyddor diogelu data ganlynol:

  • (i) eu prosesu yn gyfreithlon, yn deg ac yn glir mewn perthynas ag unigolion;

  • (ii) eu casglu at ddibenion penodedig, penodol a chyfreithlon ac heb eu prosesu ymhellach mewn modd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny; ni ystyrir bod prosesu pellach at ddibenion archifo er budd y cyhoedd, dibenion ymchwil gwyddonol neu hanesyddol neu ddibenion ystadegol yn anghydnaws â’r dibenion cychwynnol;

  • (iii) bod yn ddigonol, perthnasol ac yn gyfyngedig i’r hyn sy’n angenrheidiol mewn perthynas â’r dibenion pam maent yn cael eu prosesu;

  • (iv) bod yn gywir a, lle bo angen, yn cael eu diweddaru; rhaid cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod data personol sy’n anghywir, gan ystyried y dibenion pam maent yn cael eu prosesu, yn cael eu dileu neu eu cywiro yn syth;

  • (v) eu cadw ar ffurf sy’n caniatáu adnabod pynciau data am ddim mwy o amser nag sy’n angenrheidiol at y dibenion y caiff y data personol eu prosesu ar eu rhan; gellir storio data personol am gyfnodau hirach os bydd y data personol yn cael ei brosesu at ddibenion archifo er budd y cyhoedd yn unig, dibenion ymchwil gwyddonol neu hanesyddol neu ddibenion ystadegol yn amodol ar weithredu’r mesurau technegol a threfniadol priodol sy’n ofynnol gan GDPR y DU er mwyn diogelu hawliau a rhyddid unigolion; ac

  • (vi) eu prosesu mewn modd sy’n sicrhau diogelwch priodol i’r data personol, gan gynnwys diogelwch rhag prosesu anawdurdodedig neu anghyfreithlon ac yn erbyn colled, dinistr neu ddifrod damweiniol, gan ddefnyddio mesurau technegol neu sefydliadol priodol.

3. Diogelwch

3.1 Bydd y Derbyniwr a’i Staff yn ofalus iawn wrth ddefnyddio gwybodaeth a dderbyniwr yn ystod eu rôl swyddogol, ac er mwyn diogelu gwybodaeth a gedwir ganddynt yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU. Mae mesurau o’r fath yn cynnwys:

  • peidio â thrafod gwybodaeth am Ffoaduriaid yn gyhoeddus; a

  • pheidio â datgelu gwybodaeth i bartïon nad oes ganddynt awdurdod i gael gweld yr wybodaeth a rennir.

3.2. Yn ogystal â’r uchod, rhaid i’r Derbyniwr sicrhau:

  • bod data personol a dderbynnir yn cael ei brosesu at ddibenion cyflawni eu rhwymedigaethau ar gyfer cefnogi Ffoaduriaid o dan y Cyfarwyddyd hwn yn unig,
  • bod yr holl ddata personol a dderbynnir yn cael ei chadw yn ddiogel,
  • mai dim ond pobl sydd â wir angen gweld y data fydd yn gallu ei gael,
  • bod gwybodaeth ond yn cael ei chadw os oes angen i’w chadw, a’i dinistrio yn unol â chanllawiau’r llywodraeth,
  • bod pob ymdrech resymol wedi’i chymryd i sicrhau nad yw’r Derbyniwr yn cyflawni toriad data personol
  • bod unrhyw golli gwybodaeth, datgeliadau anghywir neu achosion o dorri data personol sy’n deilio o’r Awdurdod yn cael eu hadrodd i dîm Diogelwch yr Awdurdod drwy anfon e-bost at HOSecurity-DataIncidents@homeoffice.gov.uk
  • Bydd yr Awdurdodau, y Tîm Diogelwch a’r Swyddog Diogelu Data yn rhoi cyfarwyddyd ar y camau priodol i’w cymryd e.e. hysbysu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) neu ddosbarthu unrhyw wybodaeth i’r Ffoaduriaid.
  • Mae’r cyfrifoldeb i hysbysu’r HO yn gwrthwynebu polisïau mewnol a fydd gan SMP ac awdurdodau lleol ynghylch rhoi gwybod i’r ICO am unrhyw dorri data yn eu rôl fel rheolwr data yn unol â 5.6 uchod.
  • Gall achosion o dorri rheolau diogelwch a digwyddiadau arwain at ddarparu gwybodaeth gan y llywodraeth i’r rhai nad ydynt wedi’u hawdurdodi i’w chael neu dorri cyfrinachedd. Yn yr achosion gwaethaf, gall digwyddiad diogelwch neu doriad beryglu diogelwch gwladol neu beryglu diogelwch y cyhoedd.

3.3 Gall achosion o dorri rheolau diogelwch a digwyddiadau arwain at ddarparu gwybodaeth gan y llywodraeth i’r rhai nad ydynt wedi’u hawdurdodi i’w chael neu dorri cyfrinachedd. Yn yr achosion gwaethaf, gall digwyddiad diogelwch neu doriad beryglu diogelwch gwladol neu beryglu diogelwch y cyhoedd.

3.4 Bydd yr Awdurdod yn sicrhau bod rhagor o wybodaeth ar gael am yr hyn sy’n diffinio toriad data personol ar gais.

3.5 Fel cyrff sector cyhoeddus, mae’n ofynnol i’r Awdurdod a’r Derbyniwr brosesu data personol yn unol â chanllawiau Fframwaith Polisi Diogelwch Llywodraeth Ei Mawrhydi (HMG SPF) a gyhoeddwyd gan Swyddfa’r Cabinet wrth ymdrin â, trosglwyddo, storio, cyrchu neu ddinistrio asedau gwybodaeth.

4. Ceisiadau cyrchu gwrthrych data

4.1 Bydd yr Awdurdod a’r Derbyniwr yn ateb unrhyw geisiadau cyrchu gwrthrych neu geisiadau eraill a wneir o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU y mae’n eu derbyn ar gyfer y data lle mae’n Rheolwr ar gyfer y data hwnnw. Mewn achosion lle derbynnir cais o’r fath, bydd yr Awdurdod a’r Derbyniwr yn:

  • cyfathrebu gyda’r llall cyn penderfynu a ddylid datgelu’r wybodaeth ai peidio;
  • caniatáu cyfnod o bum (5) diwrnod gwaith o leiaf i’r llall ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw;
  • peiodio â datgelu unrhyw ddata personol a fyddai’n torri egwyddorion Deddfwriaeth Diogelu Data’r DU; ac,
  • rhoi ystyriaeth briodol i unrhyw ddadleuon gan y llall ynghylch pam na ddylid datgelu data, a lle y bo’n bosibl, dod i gytundeb cyn gwneud unrhyw ddatgeliad.

5. Data i’w rannu

5.1 Bydd yr Awdurdod yn rhannu’r dogfennau canlynol am Ffoaduriaid gyda’r Derbyniwr:

  • 5.1.1 Ffurflen Cofrestru Ailsefydlu UNHCR (RRF)

  • 5.1.2 Ffurflen Asesu Iechyd Ymfudo IOM (MHA)

  • 5.1.3 Asesiadau a Phenderfyniadau Buddiannau Gorau UNHCR

  • 5.1.4 Ffurflen Sgrinio Meddygol Cyn Gadael IOM (PDMS) a Thystysgrif Cyn- Gychwyn (PEC)

5.2 Bydd y dogfennau uchod yn cynnwys yr wybodaeth bersonol ganlynol am Ffoadur:

Ffurflen Cofrestru Ailsefydlu UNHCR (RRF)

  • Data bywgraffiadol ar gyfer pob Ffoadur gan gynnwys statws priodasol, crefydd, tarddiad ethnig, manylion cyswllt yn y wlad sy’n lletya;
  • Crynodeb o addysg, sgiliau a chyflogaeth;
  • Perthnasau hysbys y prif ymgeisydd a’r priod nad ydynt wedi’u cynnwys mewn cyflwyniad atgyfeiriadau;
  • Crynodeb o Sail Cydnabyddiaeth Ffoadur y Prif Ymgeisydd; (2)
  • Angen am ailsefydlu; (3)
  • Asesiad o anghenion penodol; (4)
  • Nifer y bobl o fewn teulu sydd i fod i gael eu hailymgartrefu, eu hoedran a’u rhyw neu aelodau o’r teulu;
  • Yr iaith sy’n cael ei siarad;
  • Y gallu i gyfathrebu yn Saesneg; ac
  • Unrhyw faterion diwylliannol neu gymdeithasol penodol hysbys. (5)

(2) Dosberthir fel data categori arbennig o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

(3) Dosberthir fel data categori arbennig o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

(4) Yn dibynnu ar y cynnwys, gellid ystyried hyn yn ddata categori arbennig posibl o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

(5) Yn dibynnu ar y cynnwys, gellid ystyried hyn yn ddata categori arbennig posibl o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

Ffurflen MHA

  • Caniatâd Ffoadur i gael archwiliad meddygol;
  • Caniatâd gan y Ffoadur i Gynghorwyr Meddygol ddatgelu unrhyw gyflyrau meddygol presennol i’r Awdurdod sy’n angenrheidiol ar gyfer y broses ailsefydlu. (6)

(6) Dosberthir fel data categori arbennig o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

Asesiadau a Phenderfyniadau Buddiannau Gorau

  • Gwybodaeth am unrhyw amgylchiadau diogelu penodol ac asesiad o fuddiannau gorau’r unigolion yr effeithir arnynt. (7)

(7) Yn dibynnu ar y cynnwys, gellid ystyried hyn yn ddata categori arbennig posibl o dan Ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

Ffurflen PDMS a PEC

  • Data bywgraffiadol ar gyfer pob ffoadur sy’n gofyn am y ffurflen hon;
  • Gwybodaeth feddygol mewn perthynas â’r ffoadur gan gynnwys hanes meddygol, diweddariadau ar driniaethau a meddyginiaeth, gofynion gofal parhaus.

6. Amserlen storio, cadw a dinistrio

6.1 Bydd y Derbyniwr yn cadw’r holl wybodaeth bersonol sy’n cael ei rhannu yn ddiogel yn unol â’r cyfarwyddiadau trafod sy’n gysylltiedig â’r dosbarthiadau diogelwch gwybodaeth yn ogystal â’i amserlenni cadw a dinistrio data ei hun.

6.2 Ni fydd derbynwyr yn cadw’r wybodaeth bersonol am fwy o amser nag sy’n angenrheidiol at ddibenion gweithgarwch ailsefydlu fel yr amlinellir yn y cyfarwyddyd cyllid.

6.3 Bydd y Derbyniwr yn cynnal adolygiad rheolaidd i asesu’r angen i gadw data personol y Ffoadur. Unwaith nad yw’r data bellach yn berthnasol at y dibenion hynny caiff ei ddinistrio’n ddiogel.

7. Prif bwyntiau cyswllt ar gyfer materion, anghydfodau a datrysiadau

7.1 Bydd y Derbyniwr yn cydweithredu a chynorthwyo yn rhesymol gyda’r Awdurdod os bydd unrhyw gŵyn neu gais yn cael ei wneud mewn perthynas ag unrhyw ddata a rennir o dan y trefniant rhannu data hwn, gan gynnwys darparu unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae’r Awdurdod yn gofyn amdani’n rhesymol gan yr Awdurdod.

7.2 Rhaid cyfeirio unrhyw faterion gweithredol neu anghydfodau sy’n codi o ganlyniad i’r DSP hwn yn y lle cyntaf at Arweinwyr Rhanbarthol Strategol Tîm Ymgysylltu Awdurdod Lleol.

8. Cyfrifoldebau staff

8.1 Mae staff sydd ag awdurdod i gael gafael ar ddata personol Ffoadur yn bersonol gyfrifol am gadw unrhyw wybodaeth y maent yn ei chael, ei thrin, ei defnyddio a’i datgelu’n ddiogel.

8.2 Dylai staff wybod sut i gael, defnyddio a rhannu gwybodaeth sydd ei hangen arnynt yn gyfreithlon i wneud eu gwaith.

8.3 Mae cyfrifoldeb ar staff i ofyn am brawf adnabod neu gymryd camau i ddilysu awdurdodiad un arall cyn datgelu unrhyw wybodaeth y gofynnir amdani o dan y DSP hwn.

8.4 Dylai staff gadw egwyddorion cyffredinol cyfrinachedd, dilyn y canllawiau a nodir yn y DSP hwn a gofyn am gyngor pan fo angen.

8.5 Dylai staff fod yn ymwybodol bod unrhyw dorri preifatrwydd neu dorri cyfrinachedd yn anghyfreithlon ac yn fater disgyblu allai arwain at eu diswyddo. Gellid dod ag achosion troseddol yn erbyn yr unigolyn hwnnw hefyd.

9. Ceisiadau rhyddid gwybodaeth

9.1 Bydd yr Awdurdod a’r Derbyniwr yn ateb unrhyw geisiadau a wneir o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 y mae’n eu derbyn am wybodaeth y mae’n ei chadw o ganlyniad i’r trefniant rhannu data hwn, neu amdano. Pan dderbynnir cais o’r fath mewn achosion o’r fath, bydd yr Awdurdod a’r Derbyniwr yn:

  • Cyfathrebu gyda’r llall cyn penderfynu a ddylid datgelu’r wybodaeth ai peidio;
  • Caniatáu cyfnod o bump (5) diwrnod gwaith o leiaf i ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw; a
  • Pheidio â datgelu unrhyw ddata personol a fyddai’n torri egwyddorion deddfwriaeth Diogelu Data’r DU.

10. Dull trosglwyddo data personol ffoadur

10.1 Bydd yr Awdurdod yn defnyddio proses ddiogel, a elwir yn MOVEit, i drosglwyddo’r data sy’n caniatáu i ddefnyddwyr mewnol ac allanol rannu ffeiliau’n ddiogel a bydd yn darparu’r rhyngweithio rhwng y partïon.

10.2 Bydd y Derbyniwr yn cael mynediad i MOVEit dros borwr ar y we. Unwaith y bydd y trefniant hwn yn weithredol, bydd yn ofynnol i’r Derbyniwr, o bryd i’w gilydd ar gais yr Awdurdod, ddefnyddio MOVEit at ddibenion ei ryngwyneb â’r Awdurdod o dan y Memorandwm hwn.

10.3 Dylai fod rhestr o Staff awdurdodedig ar gael i’w gweld os bydd yr Awdurdod yn gofyn amdani.

11. Cyfyngiadau ar ddefnyddio’r wybodaeth sy’n cael ei rhannu

11.1 Dylid ond defnyddio’r holl wybodaeth am Ffoadur sydd wedi’i rhannu gan yr Awdurdod at y dibenion a ddiffinnir yn Adran 3 o’r DSP hwn, oni bai ei bod yn ofynnol o dan statud neu reoliad neu o dan gyfarwyddiadau llys. Felly ni fydd unrhyw ddefnydd pellach a wneir o’r data personol yn gyfreithlon nac yn dod o dan y DSP hwn.

11.2 Gall cyfyngiadau fod yn berthnasol hefyd i unrhyw ddefnydd pellach o wybodaeth bersonol, megis sensitifrwydd masnachol neu ragfarn i eraill a achosir gan ryddhau’r wybodaeth, a dylid cadw hyn mewn cof wrth ystyried defnydd eilaidd o wybodaeth bersonol. Os bydd unrhyw ansicrwydd, caiff y mater ei gyfeirio at yr Awdurdod y bydd ei benderfyniad - ym mhob achos - yn derfynol.

11.3 Rhaid gwneud cofnod llawn o unrhyw ddatgeliad(au) eilaidd sy’n cael ei wneud os bydd gofyn yn ôl y gyfraith neu orchymyn llys ar ffeil achos y Ffoadur a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth ganlynol o leiaf:

  • Dyddiad datgelu;
  • Manylion y sefydliad sy’n gwneud cais;
  • Rheswm dros wneud cais;
  • Pa fath(au) o ddata y gofynnwyd amdanynt;
  • Manylion y person sy’n awdurdodi;
  • Dull trosglwyddo (rhaid bod yn ddiogel); a
  • Cyfiawnhad dros y datgeliad.

11.4 Mae’r cyfyngiadau ar ddatgeliadau eilaidd fel y nodir ym mharagraff 11.1 ac 11.2 o’r DSP hwn yr un mor berthnasol i dderbynwyr trydydd parti sydd wedi’u lleoli yn y DU a derbynwyr trydydd parti y tu allan i’r DU megis asiantaethau gorfodi rhyngwladol.

12. Archwiliadau

12.1 Mae’r Derbyniwr yn cytuno am gael ei archwilio ar gais yr Awdurdod i sicrhau bod y data personol wedi’i storio a/neu ei ddileu’n briodol, a’u bod wedi cydymffurfio â’r protocolau diogelwch a nodir yn y DSP hwn.

12.2 Mae’r Awdurdod yn cadarnhau na fyddai unrhyw wybodaeth arall yn cael ei hadolygu na’i harchwilio at y diben hwn.

Atodiad D – addasiadau i eiddo ar gyfer ffoaduriaid

Byddai angen cael cymeradwyaeth ‘o ran egwyddor’ gan y Tîm Taliadau Ailsefydlu Awdurdod Lleol cyn i unrhyw waith gael ei wneud. Byddai disgwyl i’r costau fod yn unol â’r costau cyfartalog ar gyfer pob addasiad a ddangosir yn y tabl uchod. Bydd y Cynlluniau’n ystyried costau newydd addasiadau eiddo rhesymol – byddai angen cael cymeradwyaeth gan y Tîm Taliadau Ailsefydlu Awdurdod Lleol cyn i unrhyw waith gael ei wneud.

Mae addasiadau eiddo ar gyfer Ffoaduriaid sydd â phroblemau symudedd yn cael eu rhannu mewn dau gategori:

a) mân addasiadau sydd wedi’u cynnwys o fewn cyfradd y tariff, ac

b) addasiadau mawr y gellir talu amdanynt o’r gronfa Achosion Arbennig.

Mân addasiadau

Mae’r rhain yn waith lle nad oes angen unrhyw newidiadau strwythurol i’r eiddo, gan gynnwys:

  • canllawiau gafael
  • canllawiau grisiau
  • tapiau liferi
  • trothwyau cerdded i mewn
  • grisiau hanner y maint i ddrysau
  • clychau drws/larymau mwg sy’n fflachio/dirgrynu, a
  • dros gawodydd bath.

Byddai’r rhain yn cael eu talu o’r tariff safonol ar gyfer pob Ffoadur.

Addasiadau mawr

Mae’r rhain yn waith lle mae angen newidiadau strwythurol i’r eiddo a gallant gynnwys:


Addasu

Amcangyfrif o’r gost gyfartalog (£GBP)

Cyfleusterau cawodydd cerdded i mewn

£3,500



Lifftiau grisiau

£1,500 (Lifft grisiau syth) –

£5,000 (Lifft grisiau crwm)

Rampiau

£500 i £1000

Newid uchder arwynebau gweithio cegin

£2000

Addasu eich cartref at ddefnydd cadair olwyn fel lledu drysau

£600 - £800 y drws

Cyfleusterau ystafell ymolchi/ystafell wely ar y llawr gwaelod

£2000 i £3000

Gall y rhain gael eu hariannu gan y gronfa achosion arbennig yn dilyn asesiad gan therapydd galwedigaethol neu berson sydd â chymwysterau tebyg. Yr uchafswm y gellir ei wario ar unrhyw eiddo yw £30,000 ac ni ddylai gynnwys estyniadau.

Os oes grant ar gael ar gyfer addasu eiddo Rhent Cymdeithasol neu Breifat, mae’n ofynnol i’r landlord sicrhau bod yr eiddo ar gael i’w osod gan y tenant am gyfnod o bump (5) mlynedd ar ôl cwblhau’r gwaith, yn unol â threfniadau Grantiau ar gyfer Cyfleusterau i’r Anabl.

Atodiad E – costau wedi’u canslo ar gyfer eiddo pedair ystafell wely

Mae awdurdodau lleol eisoes yn gallu defnyddio tariff Blwyddyn Un (gweler Rhestr 1, Rhan 1) i dalu am gyfnod o gostau wedi’u canslo. I adlewyrchu hyn, mae pum deg chwech (56) Diwrnod o gostau wedi’u canslo eisoes wedi’u cynnwys yn y tariff i alluogi Derbynwyr i sicrhau eiddo cyn i deuluoedd Ffoaduriaid gyrraedd.

Mae’r Awdurdod yn deall yr heriau cyflenwi sy’n gysylltiedig â sicrhau eiddo pedwar (4) ystafell gwely neu fwy yn benodol. Er mwyn cefnogi Derbynwyr a Noddwyr Cymunedol i sicrhau’r eiddo hyn pan fyddant ar gael, mae’r Awdurdod wedi cytuno i ariannu wyth ar hugain (28) Diwrnod ychwanegol o gostau wedi’u canslo fel Cost Arbennig y tu allan i’r tariff. Bydd hyn yn dod â chyfanswm y cyfnod o gostau wedi’u canslo lan at wyth deg pedwar (84) Diwrnod.

Meini prawf

Gall derbynwyr gyflwyno cais Costau Arbennig i dalu am hyd at wyth ar hugain (28) o ddiwrnodau ychwanegol o gostau wedi’u canslo ar gyfer eiddo pedwar (4) ystafell wely yn unig.

Gellir cyflwyno ceisiadau am gostau a gafwyd o 1 Ebrill 2016. Rhaid iddynt gael eu hatodi gyda thystiolaeth sy’n dangos bod costau wedi’u canslo gormodol wedi’u cael yn ychwanegol at y tariff pum deg chwech (56) Diwrnod, hyd at uchafswm o wyth ar hugain (28) Diwrnod ychwanegol.

Bydd yr Awdurdod hefyd yn ystyried costau wedi’u canslo eraill mewn amgylchiadau arbennig, fel teulu heb gyrraedd ar ôl i’r eiddo gael ei sicrhau.

Gofynnir i dderbynwyr gysylltu â’u swyddog cyswllt rhanbarthol i drafod a ydynt yn credu bod amgylchiadau arbennig yn berthnasol.

Atodiad F – canllaw ar gyfer hawlio costau arbennig

Yn y mwyafrif o amgylchiadau, byddai angen cael cymeradwyaeth ‘O ran egwyddor’ gan y Tîm Taliadau Ailsefydlu Awdurdod Lleol cyn i unrhyw waith gael ei wneud. Os oes brys, cysylltwch ag arweinydd y Tîm Taliadau Adsefydlu.

Cymeradwyaeth o ran egwyddor

  1. Awdurdod Lleol yn nodi’r angen posibl am gostau eithriadol
  2. Awdurdod Lleol yn casglu’r wybodaeth berthnasol am y costau eithriadol (gweler y dudalen nesaf am enghreifftiau)
  3. Awdurdod Lleol yn anfon e-bost at y Swyddfa Gartref yn gofyn am gymeradwyaeth mewn egwyddor, gyda gwybodaeth ac amcangyfrif o wariant ar gyfer y costau eithriadol
  4. Anfonir ateb trwy e-bost at yr awdurdod lleol gyda phenderfyniad ynghylch y cais costau eithriadol, mewn egwyddor, (o fewn 5 diwrnod gwaith)

Gall fod oedi pan na fydd y Swyddfa Gartref yn derbyn digon o wybodaeth i benderfynu o ran egwyddor.

Enghreifftiau o wybodaeth ategol

Addasu eiddo

  • Gwybodaeth am yr angen am yr addasiadau, e.e. asesiad OT, gwybodaeth feddygol arall.
  • Amcangyfrif o gost pob addasiad - dylid darparu o leiaf dau amcangyfrif, i ddangos bod y gwerth gorau am arian wedi’i gael.

Costau di-rym

  • Cofiwch fod y tariff yn cynnwys cyllid i dalu am y 56 diwrnod cyntaf ar gyfer rhentu eiddo.
  • Rheswm dros hawlio costau di-rym ychwanegol.
  • Tystiolaeth o wariant e.e. anfonebau rhent.
  • Tystiolaeth o’r dyddiad y caffaelwyd yr eiddo ar gyfer ailsefydlu.

Costau SEND

  • Gwybodaeth am anghenion penodol cleientiaid, wedi’i hategu gan Asesiad Addysg, Gofal ac Iechyd (ECHA), adroddiad Cydgysylltydd Anghenion Addysgol Arbennig (SENCO) neu debyg. Cynnwys manylion am yr hyn y gofynnir amdano.
  • Cost cymorth addysgu penodol.
  • Hysbyseb am y cymorth addysgu.
  • Manylion a chostau amcangyfrifedig unrhyw offer arbenigol, gan ddarparu amcangyfrifon i ddangos gwerth gorau am arian.

Costau Gofal Cymdeithasol

  • Asesiadau OT a meddygol.
  • Manylion a chostau amcangyfrifedig gofal arbenigol.
  • Manylion a chostau amcangyfrifedig unrhyw offer arbenigol, gan ddarparu amcangyfrifon i ddangos gwerth gorau am arian.

Prosesu hawliad costau arbennig

  1. Unwaith y bydd gwariant wedi digwydd, gall awdurdod lleol gyflwyno cais am gostau eithriadol a gymeradwywyd ymlaen llaw.
  2. Awdurdod Lleol yn llenwi ffurflen gais “Costau Eithriadol”.
  3. Ffurflen gais i’w chyflwyno gyda’r holl dystiolaeth wariant, naill ai drwy e-bost at ResettlementLAPaymentsteam@homeoffice.gov.uk (os nad oes gwybodaeth bersonol); neu
  4. Drwy gyfrif Atodiad A MOVEit SRP.
  5. Tîm Taliadau Ailsefydlu yn gwirio’r holl wybodaeth a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol.
  6. Os bydd yr hawliad wedi’i gwblhau, caiff ei gymeradwyo i’w dalu o fewn 10 diwrnod gwaith.
  7. Anfonir Cyngor ar Daliadau at yr awdurdod lleol

Atodiad G - Cofnod o’r newidiadau i’r Cyfarwyddiadau Cyllid hyn (i’r fersiwn cyhoeddedig blaenorol)


Tudalen/rhif paragraff

Manylion newid

O fewn y Cyfarwyddyd Cyllid

Dileu term “Buddiolwyr2 a’i ddisodli gan “Ffoaduriaid”

Tudalen flaen

Dyddiad cyhoeddi

Tudalen 5 Para 1.4

Ychwanegu 1.4.4 “Gall hawlio Cyllid i Gefnogi Darpariaeth Saesneg ar gyfer Oedolion sy’n Ffoaduriaid fel yn Rhestr 1 Rhan 6 a chostau wedi’u canslo yn Atodiad E.”

Tudalen 5 Para 1.6

Diffiniad newydd o “Cynllun Nawdd Cymunedol”

Tudalen 5 Para 1.8

Ychwanegu “DU”



Dileu “2016/17”

Tudalen 6 Para 1.12

Diffiniad newydd o “Gwariant Cymwys”

Tudalen 7 Para 1.28

Ychwanegu diffiniad newydd “Data Personol”

Tudalen 7 Para 1.30

Diffiniad newydd o “Ffoadur”

Tudalen 7 Para 1.31

Wedi’i ddileu

Tudalen 8 Para 1.33

Diffiniad newydd o “Y Cynlluniau”

Tudalen 8 Para 1.34

Diffiniad newydd o “Staff”

Tudalen 8 Para 1.35

Ychwanegu diffiniad newydd “Trydydd Parti”

Tudalen 9 Para 3.1

Cymal wedi’i ail-ysgrifennu

Tudalen 9 Para 3.1.1

Diffiniad newydd o “Cwmpas”

Tudalen 9 Para 3.1.2

Cymal wedi’i ail-ysgrifennu

Tudalen 10 Para 3.1.3

Cymal wedi’i ail-ysgrifennu

Tudalen 10 Para 4.4

Cymal wedi’i ail-ysgrifenni i ddileu “rhai o’r mwyaf”

Tudalen 10 Para 5.4

Cymal newydd

Tudalen 10 Para 5.7

Cymal wedi’i ail-ysgrifennu i gynnwys rhagor o wybodaeth am Ddeddfwriaeth Diogelu Data.

Tudalen 17 Para 10.1

Cymal wedi’i ail-ysgrifennu i ddileu “h.y. y rheoliad fel y trosir yn Gyfraith genedlaethol o Gyfarwyddebau’r UE ar Gaffael Cyhoeddus (2014)”

Tudalen 25 Para 2.2

Cymal wedi’i ail-ysgrifennu

Tudalen 27 Para 2.10

Diwygio Proffil Taliadau Cyllid Blwyddyn 2 - 5 ar gyfer dyfodiadau VPRS & VCRS.

Tudalen 27 Para 2.10

Ychwanegu tabl ar gyfer Proffil Talu Blwyddyn 2 - 5 ar gyfer dyfodiadau UKRS

Tudalen 28 Rhan 3

Newid teitl i “Datganiad Canlyniadau i Dderbynwyr mewn perthynas â Nawdd Cymunedol”

Tudalen 31 Para 4.8

Ychwanegu cymal newydd

Tudalen 31 Para 5.5 & 5.10

Newid cyfeiriad e-bost

Para 31 Para 5.6

Ychwanegiad i gymal



“Nid yw hyn yn cynnwys cyflwyno ESOL digidol.



Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr. Gall y Swyddfa Gartref ddarparu canllawiau pellach ar wariant Cymwys ac Anghymwys ar gais.”

Tudalen 32 Rhan 6

Ychwanegu Rhan 6 newydd “Mynediad i Gyllid Nawdd Cymunedol”

Tudalen 33 Atodiad B

Dileu cyfeiriad at y Cynllun Adsefydlu Plant Sy’n Agored i Niwed

Tudalen 38 Atodiad C

Ychwanegu “DU” at gyfeiriadau Deddfwriaeth Diogelu Data yn yr atodiad hwn.

Troednodyn Tudalen 38

Dileu troednodyn

Tudalen 41 Para 7.2

Dileu “Rhaglen Adsefydlu” a’i disodli gan “Tîm Ymgysylltu Awdurdodau Lleol…”

Tudalen 47 ail baragraff

Mewnosod “a Noddwyr Cymunedol”
  1. Cyfeiriwch hefyd at y Canllawiau ar Gomisiynu ESOL am ragor o wybodaeth 

  2. Cyfeiriwch hefyd at y Canllawiau ar Gomisiynu ESOL am ragor o wybodaeth 

  3. Cyfeiriwch hefyd at y Porth Rhagoriaeth am ragor o wybodaeth am gwricwlwm cenedlaethol ESOL a Chwricwlwm Sgiliau Bywyd 

  4. Cyfeiriwch hefyd at y Canllawiau ar Gomisiynu ESOL am ragor o wybodaeth 

  5. Gweler Atodiad B 

  6. Ac eithrio achosion lle mae Ffoadur yn gofyn am newid statws mewnfudo yn unol â chyhoeddiad polisi 1 Gorffennaf 2017. 

  7. Bydd yr Awdurdod yn rhoi arweiniad ar ‘achosion pwysig’ ar gais 

  8. Codes of conduct for suppliers and grant recipients 

  9. Mae’n well gan yr Awdurdod na ddylid defnyddio cyfrifon darnau arian neu fesuryddion cardiau cyn talu gan fod y rhain yn fwy costus ar y cyfan i’r Ffoaduriaid. Dylai derbynwyr sy’n ceisio am eithriadau gysylltu â Thîm Cyswllt Awdurdod Lleol Perthnasol yr Awdurdod. 

  10. Mae’r gwerthoedd talu ond yn ddilys am hyd y Cyfarwyddyd Cyllid hwn; mae blynyddoedd i ddod yn debygol a gallant, o bryd i’w gilydd, gael eu haddasu gan yr Awdurdod. 

  11. Mae’r gwerthoedd talu ond yn ddilys am hyd y Cyfarwyddyd Cyllid hwn; mae blynyddoedd i ddod yn debygol a gallant, o bryd i’w gilydd, gael eu haddasu gan yr Awdurdod. 

  12. Mae’r gwerthoedd talu ond yn ddilys am hyd y Cyfarwyddyd hwn; mae blynyddoedd i ddod yn debygol a gallant, o bryd i’w gilydd, gael eu haddasu gan yr Awdurdod. 

  13. Mae’r gwerthoedd talu ond yn ddilys am hyd y Cyfarwyddyd hwn; mae blynyddoedd i ddod yn debygol a gallant, o bryd i’w gilydd, gael eu haddasu gan yr Awdurdod. 

  14. Mae’r gwerthoedd talu ond yn ddilys am hyd y Cyfarwyddyd hwn; mae blynyddoedd i ddod yn debygol a gallant, o bryd i’w gilydd, gael eu haddasu gan yr Awdurdod. 

  15. Mae’r gwerthoedd talu ond yn ddilys am hyd y Cyfarwyddyd hwn; mae blynyddoedd i ddod yn debygol a gallant, o bryd i’w gilydd, gael eu haddasu gan yr Awdurdod. 

  16. Fel y diffinnir yn Llawlyfr Adsefydlu’r UNHCRA (http://www.unhcr.org/46f7c0ee2.pdf) 

  17. Mae estraddodiad yn golygu estraddodi personau sydd â’r hawl i gael eu cydnabod yn ffoaduriaid.