Policy paper

Strategaeth Geo-ofodol y DU 2030 Datgloi pŵer lleoliad - Crynodeb gweithredol

Updated 3 August 2023

Crynodeb gweithredol

Mae rhaglenni a gwasanaethau geo-ofodol wedi dod yn rhan annatod o fywyd pob dydd, gan alluogi gweithgareddau arferol a gwella profiadau defnyddwyr unigol o gynllunwyr teithiau sydyn i gludo nwyddau yn gyflymach fyth. Mae’r canfyddiadau y mae’r gwasanaethau hyn yn eu darparu yn hanfodol i fusnesau a’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Cynyddir potensial data lleoliad trwy dechnolegau galluogi, megis deallusrwydd artiffisial (AI) a chyfrifiadura cwmwl, sydd wedi achosi amhariad ac wedi agor galluoedd newydd enfawr. Er mwyn gwneud yn fawr o’r technolegau galluogi hyn, bydd yn hanfodol goresgyn ffactorau cyfyngol, megis diffyg ymwybyddiaeth a sgiliau.

O ystyried y cefndir hwnnw, mae’r diweddariad hwn i Strategaeth Geo-ofodol y DU yn rhoi cyfle amserol i fyfyrio ar y tueddiadau a’r heriau diweddaraf sy’n effeithio ar yr ecosystem geo-ofodol. Mae ein tri gorchwyl a adnewyddwyd yn pennu cyfeiriad hirdymor y DU tuag at flaenoriaethau allweddol gyrru arloesedd technolegol, gwireddu manteision defnyddio data lleoliad ar draws yr economi a magu hyder yn yr ecosystem geo-ofodol. Mae’r camau gweithredu yn y gorchwylion hyn yn amlinellu’r camau pendant cyntaf tuag at y nodau hyn.

Gorchwyl 1: Croesawu technolegau galluogi i gyflymu arloesedd geo-ofodol

Mae’n rhaid i ecosystem geo-ofodol y DU barhau i groesawu’r technolegau sy’n dod i’r amlwg os yw’r DU am aros ar flaen y gad ym maes arloesi. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bartneriaethau effeithiol ar draws y byd academaidd, diwydiant a’r sector cyhoeddus, ganolbwyntio ar ymchwil a datblygu, a meithrin arloesedd o’r hedyn i’r tyfu a’r gweithredu.

Gwybodaeth am y farchnad a thechnolegau galluogi eraill

  • Dros y blynyddoedd i ddod, byddwn yn parhau i feithrin ein dealltwriaeth o’r ecosystem geo-ofodol, gan roi golwg wybodus ar effeithiau posibl technolegau sy’n amharu ac yn amlinellu’r cyfleoedd a’r risgiau y maent yn eu cynnig.
  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus, megis UK Research and Innovation (UKRI), i ysgogi cydlyniant a chyfeiriad ym maes cyllid sector cyhoeddus ar gyfer ymchwil a datblygiad geo-ofodol.

Synhwyro o bell

  • Erbyn hydref 2024 ar ôl i’n cynllun peilot arsylwi daear ddod i ben, byddwn yn cyhoeddi canfyddiadau allweddol sy’n ymdrin â sut y gellir cefnogi mynediad y sector cyhoeddus at ddata arsylwi ar y ddaear a’u defnyddio’n arloesol.
  • Erbyn diwedd 2024 byddwn yn cynnal adolygiad o’r farchnad synhwyro o bell, gan gynnwys adolygiad o’r broses bresennol o gaffael ffotograffau o’r awyr ar y cyd ar gyfer y sector cyhoeddus, gyda’r bwriad o archwilio modelau mynediad yn y dyfodol.

Data symud y boblogaeth

  • Erbyn haf 2024 byddwn ni’n cyhoeddi asesiad o’r farchnad ar gyfer data am symudiad y boblogaeth, gan gynnwys eu pwysigrwydd strategol, preifatrwydd a diogelwch a’u defnydd yn y sector preifat.

Gorchwyl 2: Ysgogi rhagor o ddefnydd o raglenni a chanfyddiadau geo-ofodol ar draws yr economi

Mae potensial sylweddol o hyd i gynyddu’r ymwybyddiaeth a’r gallu i ddefnyddio rhaglenni geo-ofodol ar draws llawer o feysydd yr economi. Credwn y gellir codi ymwybyddiaeth o bŵer data, technoleg a gwasanaethau lleoliad trwy yrru a rhoi cyhoeddusrwydd i ddarparu rhaglenni geo-ofodol gwerth uchel.

Seilwaith tanddaearol

  • Erbyn gwanwyn 2024 byddwn yn cyflwyno fersiwn cynnyrch hyfyw gyfredol y Gofrestr Asedau Danddaearol Genedlaethol (NUAR) y tu hwnt i Gymru, Llundain a Gogledd-ddwyrain Lloegr i’r rhanbarthau sy’n weddill yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
  • Erbyn diwedd 2025 bydd NUAR yn gwbl weithredol.

Defnydd tir

  • Erbyn diwedd 2024 byddwn yn archwilio’r gwaith o greu Tasglu Dadansoddi Defnydd Tir, a fydd yn dod â’r gallu dadansoddi gofodol a rennir at ei gilydd, drwy lywodraethu trawsadrannol newydd priodol, i ddarparu sylfaen dystiolaeth benodol a fydd yn helpu i lywio’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol allweddol.
  • Trwy gydol 2023 byddwn yn hyrwyddo’r offer cefnogi a delweddu prototeip a ddatblygwyd trwy gynlluniau peilot y Rhaglen Data Tir Cenedlaethol (NLDP) i dynnu sylw at botensial y rhaglenni hyn i gefnogi anghenion polisi sy’n dod i’r amlwg o ran gwneud penderfyniadau lleol ynghylch defnydd tir.
  • Erbyn hydref 2024 byddwn yn ystyried sut y gall y llywodraeth, y byd academaidd ac ymarferwyr diwydiant sy’n ymwneud â gwneud penderfyniadau defnydd tir wella cysylltiadau, gan gynnwys trwy ledaenu allbynnau a rhagdybiaethau a senarios modelu cyffredin.
  • Erbyn gwanwyn 2024 byddwn yn datblygu tacsonomeg safonol â phartneriaid ar gyfer data defnydd tir allweddol i gefnogi gwelliannau i ryngweithredu data a dadansoddi defnydd tir.

Sectorau wedi’u targedu

  • Erbyn haf 2023 byddwn yn cyhoeddi ein canfyddiadau ar sut y gall rhaglenni geo-ofodol ei gwneud yn bosibl i ddarparu symudedd cysylltiedig ac awtomataidd.
  • Erbyn hydref 2023, byddwn yn rhannu ein canfyddiadau ar gyfer y sector cyhoeddus i wneud penderfyniadau gwybodus am leoliadau mannau gwefru, fel yr amlinellir yn ein hadroddiad Getting to the Point.
  • Erbyn haf 2023 byddwn yn cyhoeddi ein canfyddiadau ar gyfleoedd i ddatgloi rhagor o werth ar draws yr ecosystem eiddo trwy ddata, technolegau a gwasanaethau lleoliad.
  • Erbyn diwedd 2024 byddwn yn cyhoeddi adroddiad yn nodi’r heriau trawsbynciol a’r cyfleoedd ar gyfer data lleoliad yn y sector iechyd.

Sector cyhoeddus

  • Erbyn gwanwyn 2024 byddwn yn cynnal adolygiad o Gytundeb Geo-ofodol y Sector Cyhoeddus (PSGA) i sicrhau ei fod yn parhau i ateb y diben dros y saith mlynedd sy’n weddill o’r cytundeb, gan gynnwys gwerthusiad o’r canlynol: y data a’r gwasanaethau sydd wedi’u cynnwys yn y cytundeb; ei fodel cyflawni; a’r sylfeini sydd gan ddefnyddwyr ar waith i wneud defnydd effeithiol o ddata a ddarperir o dan y cytundeb.
  • Erbyn haf 2024 byddwn yn cynnal ymchwil newydd, gyda phartneriaid fel y Swyddfa Ystadegau Gwladol, i ddeall goblygiadau newidiadau daearyddol i ble mae pobl yn gweithio a thir a ddefnyddir ar gyfer cyflogaeth.

Gorchwyl 3: Adeiladu hyder yn yr ecosystem geo-ofodol yn y dyfodol

Wrth i ddatblygiadau yn y maes geo-ofodol ein helpu i oresgyn heriau allweddol, mae’n hanfodol bod y DU yn parhau i greu amgylchedd lle gall yr ecosystem geo-ofodol ffynnu - heddiw ac yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu sicrhau bod gan bob rhan o’r ecosystem, gartref a thramor, hyder o hyd yn y defnydd arloesol o raglenni geo-ofodol.

Rhyngwladol

  • Byddwn yn parhau i fod yn ymrwymedig i Bwyllgor Arbenigwyr y Cenhedloedd Unedig ar Reoli Gwybodaeth Geo-ofodol Byd-eang (UN-GGIM), gan gynnwys trwy ymwneud y DU yng nghyfarfodydd y pwyllgor arbenigol.
  • Yn 2024 byddwn yn partneru â rhanddeiliaid y DU i gyflwyno cynhadledd geo-ofodol ryngwladol ar bŵer lleoliad.

Dull strategol o drefnu mynediad at ddata

  • Byddwn yn parhau i adeiladu ar y profiad o brosiectau allweddol y Comisiwn Geo-ofodol i nodi arfer gorau o ran mynediad at ddata cynaliadwy.

Sgiliau

  • Erbyn haf 2024 byddwn yn cyhoeddi gwerthusiad o’r rhaglen beilot Hyfforddiant Data, Digidol, Amrywiaeth i asesu gwerth y dull hwn o uwchsgilio arbenigwyr daearyddol sydd â sgiliau digidol.
  • Erbyn haf 2024 byddwn yn gweithio gyda phrifysgolion i gyhoeddi arferion gorau yn gam cyntaf tuag at wreiddio geo-ofodol yng nghyrsiau gwyddor data a daearyddiaeth.
  • Byddwn yn parhau i gynorthwyo Proffesiwn Daearyddiaeth y Llywodraeth i wella gallu geo-ofodol ledled y sector cyhoeddus.