Ffurflen

Ymddiriedolaethau ac Ystadau: Hysbysiad yr ymddiriedolwr o dreth a ddidynnwyd (R185) (LSDB)

Defnyddiwch ffurflen R185 (Pensiwn LSDB) i ddarparu gwybodaeth gan fuddiolwr am daliad wedi'i gyllido gan gyfandaliad budd-dal marwolaeth trethadwy.

Dogfennau

R185 (Pensiwn LSDB)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Os ydych yn ymddiriedolwr, sydd ddim yn ymddiriedolwr noeth, defnyddiwch ffurflen R185 (Pensiwn LSDB) wrth wneud taliad wedi’i gyllido gan un o’r cyfandaliadau budd-dal marwolaeth canlynol, a oedd yn destun tâl cyfandaliadau budd-dal marwolaeth arbennig o dan adran 206 o Ddeddf Cyllid 2004:

  • cyfandaliad budd-dal marwolaeth o fuddiannau diffiniedig
  • budd-dal marwolaeth o arian nas defnyddiwyd ar ffurf cyfandaliad
  • budd-dal a gyrchir o gronfa pensiwn ar ffurf cyfandaliad ar farwolaeth
  • budd-dal marwolaeth o arian a gyrchir yn hyblyg o gronfa pensiwn
  • budd-dal diogelu pensiwn ar ffurf cyfandaliad ar farwolaeth
  • budd-dal diogelu blwydd-dal ar ffurf cyfandaliad ar farwolaeth

Dylech ddarparu’r ffurflen hon cyn pen 30 diwrnod o’r adeg pan wnaed y taliad i’r buddiolwr, neu pan gafwyd yr wybodaeth gan weinyddwr y cynllun, pa bynnag un sydd hwyraf.

Dylai’r sawl sy’n cael y taliadau gadw’r ffurflen hon. Bydd angen yr wybodaeth sydd ar y ffurflen hon os gwneir cais am ad-daliad o dreth.

Cyhoeddwyd ar 6 April 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 April 2017 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.