Publication

Teithio gyda Phas Drylliau Ewropeaidd os nad oes cytundeb Brexit

Updated 6 June 2019

Cyflawni’r cytundeb a drafodwyd gyda’r UE yw prif flaenoriaeth y llywodraeth o hyd. Nid yw hyn wedi newid.

Ond mae’n rhaid i’r llywodraeth baratoi ar gyfer pob posibilrwydd, gan gynnwys sefyllfa heb gytundeb. Ers dwy flynedd mae’r llywodraeth wedi bod yn gweithredu rhaglen sylweddol o waith i sicrhau y bydd y Deyrnas Unedig yn barod i adael yr UE ar 31 Hydref 2019.

Mae wedi bod yn wir o’r dechrau wrth i ni nesáu at y dyddiad hwnnw, y byddai’n rhaid i’r paratoadau ar gyfer sefyllfa heb gytundeb gael eu cyflymu. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod cynlluniau yn eu lle petai angen dibynnu arnynt.

Yn ystod yr haf, cyhoeddodd y llywodraeth gyfres o 106 o Hysbysiadau Technegol yn nodi gwybodaeth er mwyn i fusnesau a dinasyddion ddeall beth fyddai’n rhaid iddynt ei wneud mewn sefyllfa dim cytundeb, fel eu bod yn gallu gwneud cynlluniau a pharatoadau ar sail gwybodaeth.

Mae’r hysbysiad technegol hwn yn cynnig arweiniad ar gyfer parhau i gynllunio pe na cheir cytundeb.

Wedi ei gynnwys hefyd mae hysbysiad fframio trosfwaol sy’n esbonio dull y llywodraeth o baratoi’r Deyrnas Unedig am y canlyniad hwn er mwyn lleihau’r amharu a sicrhau ein bod yn dod allan yn llyfn a threfnus.

Rydym yn gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig ar hysbysiadau technegol a byddwn yn parhau i wneud hyn wrth i gynlluniau ddatblygu.

Trosolwg

Os bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr UE heb gytundeb, dylai preswylwyr y Deyrnas Unedig sydd eisiau teithio i wledydd yr UE gyda’u dryll neu wn hela ar ôl 31 Hydref 2019 gysylltu ag awdurdodau’r gwledydd dan sylw am wybodaeth am eu gofynion trwyddedu.

Ni fydd preswylwyr y Deyrnas Unedig yn gallu defnyddio’r Pas Drylliau Ewropeaidd o hyn ymlaen. Dylech wirio gofynion y wlad yn yr UE yr ydych yn teithio iddi gyda’ch gwn neu wn hela.

Mae’r cyngor hwn hefyd yn berthnasol i breswylwyr y Deyrnas Unedig sy’n disgwyl bod mewn gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd gyda’u dryll pan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr UE.

Os ydych chi’n noddi ymwelydd o’r UE i’r Deyrnas Unedig, dylech barhau i ymgeisio i’r heddlu lleol am Hawlen Ymweld. Bydd hawlenni a gyhoeddir cyn i’r Deyrnas Unedig adael yr UE yn parhau yn ddilys nes eu dyddiad dod i ben.

Cyn 31 Hydref 2019

Mae’r Pas Drylliau Ewropeaidd (EFP) yn fath o basbort ar gyfer drylliau ac mae wedi ei gynllunio i’w ddefnyddio gan rai sy’n teithio gyda’u drylliau rhwng gwledydd yr Undeb Ewropeaidd. Cyhoeddir EFP gan y wlad yn yr UE lle mae perchennog y dryll yn preswylio. Nid oes arnoch angen EFP os ydych chi’n teithio o fewn y Deyrnas Unedig a bod gennych dystysgrif drylliau ddilys y Deyrnas Unedig.

Yn y Deyrnas Unedig, mae heddluoedd yn gyfrifol am gyhoeddi EFP i breswylwyr y Deyrnas Unedig sydd wedi cael tystysgrif yn rhoi caniatâd iddynt brynu a bod yn berchen ar ddrylliau a gynnau hela. Dim ond y drylliau a gynnau hela a ddynodir ar eich tystysgrif ellir eu cynnwys mewn EFP.

Yn ogystal ag EFP, rhaid i’r holl ymwelwyr o’r UE â’r Deyrnas Unedig feddu ar Hawlen Ymweld ddilys er mwyn dod â’r dryll i mewn i’r wlad. Rhaid gwneud cais am Hawlen Ymweld i’r heddlu lleol yn y Deyrnas Unedig gan noddwr yr ymwelydd o’r UE yn y wlad hon a rhaid cynnwys EFP dilys yr ymwelydd o’r UE neu gopi ohono.

Mae’r darpariaethau parthed Hawlenni Ymweld wedi eu sefydlu yn adran 17 y Ddeddf Drylliau (Addasiad) 1988 ac erthyglau 15-16 Gorchymyn Drylliau (Gogledd Iwerddon) 2004.

Ar ôl Brexit heb gytundeb

Ni fydd EFP ar gael mwyach i breswylwyr y Deyrnas Unedig sydd eisiau teithio gyda’u drylliau i wledydd yr UE. Bydd angen i chi gydymffurfio gyda pha bynnag ofynion trwyddedu neu eraill mae pob gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd yn eu gosod, yn ogystal â gofynion trwyddedu mewnforio ac allforio’r Deyrnas Unedig.

Yn gyffredinol bydd angen trwyddedau allforio i allforio drylliau i wledydd yr UE. Efallai y bydd eithriadau i ddrylliau sy’n teithio fel eiddo personol.

Ni fydd EFP yn cael eu cydnabod mwyach ar gyfer ymwelwyr o’r UE â’r Deyrnas Unedig. Bydd yn rhaid i’w noddwyr ymgeisio am Hawlen Ymweld ond ni fydd yn ofyniad cyfreithiol i ddangos EFP dilys hefyd. Nid yw hyn yn gwanhau’r rheoliadau drylliau cyfredol gan y byddai’r heddlu yn parhau i asesu addasrwydd ymgeisydd i feddu ar ddryll wrth ystyried y cais am Hawlen Ymweld.

Rhagor o wybodaeth

Sefydlir y trefniadau ar gyfer EFP yng [Nghyfarwyddeb Arfau’r UE 91/477/EEC, fel y’i diwygiwyd gan 2017/853 ac fe’i gweithredir trwy ddarpariaethau yn adrannau 32A-C y Ddeddf Drylliau 1968 ac, yng Ngogledd Iwerddon, trwy erthyglau 19-23 y Gorchymyn Drylliau (Gogledd Iwerddon) 2004.

Cewch wybod rhagor am:

Rhoi arweiniad yn unig yw diben yr hysbysiad hwn. Dylech ystyried a oes arnoch angen cyngor proffesiynol ar wahân cyn gwneud paratoadau penodol.

Mae’n rhan o raglen barhaus y llywodraeth o gynllunio at bob canlyniad posibl. Rydym yn disgwyl negodi cytundeb llwyddiannus gyda’r UE.

Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn glir, yn y sefyllfa hon, bod yn rhaid i ni barchu ein perthynas unigryw gydag Iwerddon, gan ein bod yn rhannu ffin ar y tir â nhw, a’u bod yn gydlofnodwyr i Gytundeb Belfast. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gosod cynnal y Cytundeb hwn a’i olynwyr yn ganolog i’n hymagwedd. Mae’n diogelu’r egwyddor cydsyniad y mae statws cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon yn seiliedig arno. Rydym yn cydnabod y sail mae wedi ei roi ar gyfer cydweithrediad economaidd a chymdeithasol dwfn ar ynys Iwerddon. Mae hyn yn cynnwys cydweithrediad Gogledd-De rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon, yr ydym yn ymroddedig i’w ddiogelu yn unol â geiriad ac ysbryd Edefyn dau’r Cytundeb.

Mae llywodraeth Iwerddon wedi awgrymu y byddai angen iddynt drafod trefniadau os na cheir cytundeb gyda’r Comisiwn Ewropeaidd a gwledydd yr UE. Byddai’r Deyrnas Unedig yn sefyll yn barod yn y sefyllfa hon i ymgysylltu’n adeiladol i fodloni ein hymrwymiadau ac i weithredu er lles pobl Gogledd Iwerddon, gan gydnabod yr heriau arwyddocaol iawn y byddai diffyg cytundeb cyfreithiol rhwng y Deyrnas Unedig a’r UE yn eu cyflwyno yn y cyd-destun unigryw a hynod sensitif hwn.

Er hynny, mae’n parhau i fod yn gyfrifoldeb i lywodraeth y Deyrnas Unedig, fel y llywodraeth sofran yng Ngogledd Iwerddon, i barhau i baratoi ar gyfer yr amrediad llawn o ganlyniadau posibl, yn cynnwys dim cytundeb. Wrth i ni wneud hyn, ac wrth i ni wneud penderfyniadau, byddwn yn ystyried yn llawn amgylchiadau unigryw Gogledd Iwerddon.

Mae Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein yn rhan o’r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ac yn cymryd rhan mewn trefniadau eraill gan yr Undeb Ewropeaidd. Fel y cyfryw, mewn sawl maes, mae’r gwledydd hyn yn mabwysiadu rheolau’r Undeb Ewropeaidd. Pan fydd hyn yn wir, gall yr hysbysiadau technegol yma fod yn berthnasol iddynt hwythau, a dylai busnesau a dinasyddion yr AEE ystyried a oes angen iddynt gymryd camau i baratoi ar gyfer sefyllfa ‘dim cytundeb’.