Publication

Masnachu mewn rhagsylweddion cyffuriau os nad oes cytundeb Brexit

Updated 20 September 2018

Os bydd y DU yn gadael yr UE ym mis Mawrth 2019 heb gytundeb, darllenwch sut y byddai hyn yn effeithio arnoch chi os ydych chi’n trin cemegau rhagsylweddion cyffuriau ac yn eu masnachu.

Mae sefyllfa lle bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr UE heb gytundeb (sefyllfa ‘dim cytundeb’) yn parhau yn annhebygol o ystyried y budd sydd i’r Deyrnas Unedig a’r UE o sicrhau canlyniad y cytunwyd arno.

Mae’r trafodaethau yn mynd yn dda ac rydym ni a’r UE yn parhau i weithio’n galed i geisio cael cytundeb cadarnhaol. Ond ein dyletswydd ni fel llywodraeth gyfrifol yw paratoi ar gyfer pob canlyniad posibl, gan gynnwys ‘dim cytundeb’, nes y gallwn fod yn sicr o ganlyniad y trafodaethau.

Ers dwy flynedd mae’r llywodraeth wedi bod yn gweithredu rhaglen sylweddol o waith i sicrhau y bydd y Deyrnas Unedig yn barod o’r diwrnod cyntaf ym mhob sefyllfa, gan gynnwys canlyniad ‘dim cytundeb’ posibl ym Mawrth 2019.

Mae wedi bod yn wir o’r dechrau, wrth i ni nesáu at Fawrth 2019, y byddai’n rhaid i’r paratoadau ar gyfer sefyllfa heb gytundeb gael eu cyflymu. Nid yw cyflymu o’r fath yn adlewyrchu bod canlyniad ‘dim cytundeb’ yn fwy tebygol. Yn hytrach mae’n ymwneud â sicrhau bod ein cynlluniau yn eu lle yn y sefyllfa annhebygol y byddai’n rhaid dibynnu arnynt.

Mae’r gyfres hon o hysbysiadau technegol yn nodi gwybodaeth er mwyn i fusnesau a dinasyddion ddeall beth fyddai’n rhaid iddynt ei wneud mewn sefyllfa ‘dim cytundeb’, fel eu bod yn gallu gwneud cynlluniau a pharatoadau ar sail gwybodaeth.

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn rhan o’r gyfres honno.

Wedi ei gynnwys hefyd mae hysbysiad fframio trosfwaol sy’n esbonio dull trosfwaol y llywodraeth o baratoi’r Deyrnas Unedig am y canlyniad hwn er mwyn lleihau’r amharu a sicrhau ein bod yn dod allan yn llyfn a threfnus beth bynnag fydd y sefyllfa.

Rydym yn gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig ar hysbysiadau technegol a byddwn yn parhau i wneud hyn wrth i gynlluniau ddatblygu.

Diben

Os bydd y DU yn gadael yr UE ym mis Mawrth 2019 heb gytundeb, darllenwch sut y byddai hyn yn effeithio arnoch chi os ydych chi’n trin cemegau rhagsylweddion cyffuriau ac yn eu masnachu.

Mae rhagsylweddion cyffuriau yn gemegau y gellir eu defnyddio wrth gynhyrchu cyffuriau yn anghyfreithlon. Mae ganddynt ddefnydd masnachol cyfreithlon hefyd ac fe’u defnyddir yn gyfreithlon mewn amrywiaeth eang o brosesau diwydiannol, megis meddyginiaethau, cyflasynnau a phersawrau.

Maen nhw wedi’u rhannu yn dri chategori, sef:

  • categori 1: y sylweddau mwyaf sensitif (y ‘prif’ rhagsylweddion cyffuriau)
  • categori 2: sylweddau a rhag-rhagsylweddion llai sensitif
  • categori 3: cemegau swmp sydd â gwahanol fathau o ddefnydd iddynt yn y broses gynhyrchu, er enghraifft defnydd crai, toddyddion neu dynwyr amhuredd
  • categori 4: yn ymdrin â chynnyrch meddygol at ddefnydd dynol a milfeddygol sy’n cynnwys ephedrine neu pseudoephedrine

Cyn 29 Mawrth 2019

Os ydych chi’n masnachu mewn cemegau rhagsylweddion cyffuriau y tu hwnt i’r UE rhaid bod gennych drwydded cemegau rhagsylweddion cyffuriau domestig (ar gyfer sylweddau categori 1) neu gofrestriad (ar gyfer holl sylweddau categori 2 ac mewn rhai achosion categori 3).

Os ydych chi’n gwmni yn y DU sy’n masnachu mewn cemegau rhagsylweddion cyffuriau gyda gwlad arall yn yr UE, nid oes angen trwydded mewnforio neu allforio arnoch chi a gellir cludo’r sylwedd ar unwaith.

Os dymunwch fasnachu y tu hwnt i’r UE mae’n bosibl y bydd angen i chi ymgeisio am drwydded mewnforio ac allforio ac mae gofyn i chi ddarparu hysbysiad cyn-allforio ar gyfer cemegau o gategorïau penodol. Golyga hyn na ellir cludo’r sylwedd am 15 diwrnod wrth i’r awdurdod mewnforio ystyried yr allforyn. Y ffi ymgeisio ar gyfer trwydded allforio neu fewnforio unigol yw £24.

Ar ôl mis Mawrth 2019 os na fydd cytundeb

Yn yr achos annhebygol y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb, ni fyddai rheoliadau’r UE yn gymwys i’r DU mwyach a byddai’r DU yn cael ei thrin gan yr UE fel ‘trydedd wlad’. Golyga hyn y bydd y rheolau cyfredol sy’n gymwys i fasnachu mewn cemegau rhagsylweddion cyffuriau gyda gwledydd y tu hwnt i’r UE yn berthnasol i fasnachu rhwng y DU a’r UE. Mae hon yn drefn sydd wedi’i sefydlu sy’n deillio o ofynion rhwymedigaethau rhyngwladol ehangach Confensiynau Cyffuriau Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig.

Mae’r DU yn trawsosod rheoliad perthnasol yr UE i gyfraith y DU, er mwyn galluogi i system rheoleiddio cemegau rhagsylweddion cyffuriau i weithredu.

Os ydych chi’n trin cemegau rhagsylweddion cyffuriau yn y DU, neu’ch bod chi eisoes yn masnachu gyda gwledydd y tu hwnt i’r UE, ni fydd newid i’r gofynion trwyddedu a chofrestru.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Yn yr achos annhebygol na fydd cytundeb, byddai angen yr un trwyddedau a chofrestriad arnoch chi i fasnachu gyda’r UE ag sydd eu hangen arnoch chi i fasnachu gyda gwledydd y tu hwnt i’r UE.

Ar gyfer sylweddau categori 1 byddech chi angen trwydded cemegau rhagsylweddion cyffuriau domestig. Ar gyfer sylweddau categori 2 a rhai sylweddau categori 3, byddai’n rhaid i chi wneud cais am ‘gofrestriad’ gyda’r Swyddfa Gartref.

Bydd angen i chi ymgeisio am drwyddedau mewnforio a/neu allforio wrth fasnachu gyda gwledydd yr UE o fewn rhai categorïau o gemegau rhagsylweddion cyffuriau.

Efallai y byddwch chi angen hysbysiad cyn-allforio hefyd i fasnachu rhai cemegau rhagsylweddion cyffuriau. Bydd y gofyniad hysbysiad cyn-allforio yn dibynnu ar gategori’r cemegyn a gofynion y wlad unigol h.y. mae’n bosibl y bydd gwlad yn gofyn am hysbysiad cyn-allforio ar gyfer cemegau rhagsylweddion cyffuriau penodol os oes risg gynyddol o ddargyfeiriad yn eu gwlad.

Amlinellir y gofynion trwyddedu/cofrestru a hysbysiad cyn-allforio isod:

Gofynion Trwyddedu/Cofrestru Domestig

  • Os ydych chi’n masnachu ar hyn o bryd gyda’r UE gyda chemegau rhagsylweddion cyffuriau Categori 1 – Dim newid i ofynion trwydded ddomestig – Mae angen trwydded ddomestig bob amser os ydych chi’n defnyddio rhagsylweddion cyffuriau yn y DU (defnyddiwr), yn masnachu o fewn yr UE ac allforio/mewnforio gyda thrydydd gwledydd.
  • Os ydych chi’n masnachu gyda’r UE ar hyn o bryd gyda chemegau rhagsylweddion cyffuriau Categori 2A – Newid yn y gofynion – Bydd angen i chi gofrestru gyda’r Swyddfa Gartref os ydych chi eisiau masnachu o fewn yr UE waeth beth yw’r cyfaint (ar hyn o bryd nid oes yn rhaid i chi gofrestru oni bai ei fod dros 100L y flwyddyn). Os mai dim ond yn y DU y bydd busnesau yn trin rhagsylweddion cyffuriau ni fydd newid yn y gofynion.
  • Os ydych chi’n masnachu gyda’r UE gyda chemegau rhagsylweddion cyffuriau Categori 2B – Newid yn y gofynion – Bydd angen i chi gofrestru gyda’r Swyddfa Gartref os ydych chi eisiau masnachu o fewn yr UE waeth beth yw’r cyfaint (ar hyn o bryd nid oes angen cofrestru oni bai ei fod yn fwy na chyfeintiau penodol). Os mai dim ond yn y DU y mae’r busnesau yn trin rhagsylweddion cyffuriau ni fydd unrhyw newid yn y gofynion.
  • Os ydych chi’n masnachu gyda’r UE gyda chemegau rhagsylweddion cyffuriau Categori 3 - Newid yn y gofynion - Bydd angen i chi gofrestru gyda’r Swyddfa Gartref os dymunwch chi fasnachu o fewn yr UE ac yn allforio symiau sy’n rhagori ar gyfeintiau penodol (gan ddibynnu ar y cemegyn ond rhwng 20KG - 100KG y flwyddyn). Os mai dim ond yn y DU yr ydych chi’n trin rhagsylweddion cyffuriau yna ni fydd unrhyw newid i’r gofynion.
  • Os ydych chi’n masnachu gyda thrydydd gwledydd ym mhob categori cemegau rhagsylweddion cyffuriau – Dim newid yn y gofynion.
  • Os mai dim ond yn y DU yr ydych chi’n trin rhagsylweddion cyffuriau – Nid oes newid yn y gofynion.

Mae ffioedd yn daladwy ar gyfer pob trwydded/cofrestriad ‘domestig’ ac maen nhw’n amrywio o £109 i £3,655, gan ddibynnu a yw’r ymgeisydd eisoes yn dal trwydded gyda ni.

Gofynion Cofrestru/Trwyddedu Mewnforio ac Allforio

  • Os ydych chi’n masnachu o fewn yr UE gyda chemegau rhagsylweddion cyffuriau Categori 1 – Newid yn y gofynion – bydd angen i chi ymgeisio am drwydded mewnforio ac allforio a hysbysiad cyn-allforio.
  • Os ydych chi’n masnachu o fewn yr UE gyda chemegau rhagsylweddion cyffuriau Categori 2A – Newid yn y gofynion – Bydd angen i chi ymgeisio am drwydded allforio a hysbysiad cyn-allforio. Dim newid yn y trwyddedau mewnforio.
  • Os ydych chi’n masnachu o fewn yr UE gyda chemegau rhagsylweddion cyffuriau Categori 2B - Newid yn y gofynion - Bydd angen i chi ymgeisio am drwydded allforio ac efallai y bydd angen hysbysiad cyn-allforio gan ddibynnu ar ofynion y wlad sy’n mewnforio. Dim newid i awdurdodiadau mewnforio.
  • Os ydych chi’n masnachu o fewn yr UE gyda chemegau rhagsylweddion cyffuriau Categori 3 – Newid yn y gofynion – Bydd angen i chi ymgeisio am awdurdodiad allforio ac efallai y bydd angen hysbysiad cyn-allforio gan ddibynnu ar ofynion y wlad sy’n mewnforio. Dim newid i awdurdodiadau mewnforio.
  • Os ydych chi’n masnachu o fewn yr UE gyda chemegau rhagsylweddion cyffuriau Categori 4 – Newid yn y gofynion – Mae’n bosibl y bydd angen i chi ymgeisio am drwydded allforio ac efallai y bydd angen hysbysiad cyn-allforio gan ddibynnu ar ofynion y wlad sy’n mewnforio. Dim newid i awdurdodiadau mewnforio.

Y ffi ar gyfer trwydded allforio neu fewnforio unigol yw £24.

Rhagor o wybodaeth

Mae’r DU yn llofnodwr i Gonfensiwn 1988 y Cenhedloedd Unedig yn erbyn Masnachu Anghyfreithlon ar Gyffuriau a Sylweddau Seicotropig (“Confensiwn y CU”), sy’n amlinellu rheolaethau ar y sylweddau hyn i atal cynhyrchu anghyfreithlon ar gyffuriau ac ar yr un pryd yn caniatáu ar gyfer masnachu cyfreithlon.

Mae deddfwriaeth yr UE yn gweithredu rhwymedigaethau rhyngwladol o dan Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig trwy:

  • Rheoliad Cyngor (EC) Rhif 273/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n rheoli ac yn monitro masnachu mewn rhagsylweddion cyffuriau o fewn yr UE
  • Rheoliad Cyngor (EC) Rhif 111/2005, sy’n rheoli masnachu mewn rhagsylweddion cyffuriau rhwng yr UE a thrydydd gwledydd

Mae rhagor o wybodaeth am drwyddedu cemegau rhagsylweddion cyffuriau, sut i ymgeisio am drwyddedau a chofrestriadau a’r ffioedd cysylltiedig ar-lein.

Gwneud cais i’r Swyddfa Gartref – Trwyddedau/Cofrestriadau Domestig

Fel rhan o gynllunio wrth gefn ar gyfer sefyllfa o ddim cytundeb, fe allech chi ymgeisio am drwydded a chofrestriadau domestig ar gyfer cemegau rhagsylweddion cyffuriau ar-lein yn awr, er bydd yn rhaid talu ffi.

Os oes gennych drwydded/cofrestriad domestig yn barod er mwyn masnachu gyda gwledydd y tu hwnt i’r UE, ni fydd gofyn i chi ymgeisio am drwydded ar wahân i fasnachu gyda’r UE. Cofiwch, serch hynny, bod angen trwydded neu gofrestriad unigol ar gyfer pob safle. Sylwer mai dim ond i ddeiliad trwydded ddomestig ddilys y gellir cyhoeddi trwyddedau mewnforio-allforio, os oes angen un. Mae trwyddedau domestig yn ddilys am gofnod o flwyddyn.

Gwneud cais – Trwyddedau/Cofrestriadau Mewnforio ac Allforio

Os na cheir cytundeb gyda’r UE, bydd y gofynion trwyddedu mewnforio ac allforio yn dod i rym ar 23:00 ar 29 Mawrth 2019. Bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu ceisiadau mewn trefn dyddiad – dylech gynllunio ar sail amser prosesu o 7 niwrnod gwaith.

Fel arfer mae’r holl drwyddedau mewnforio yn ddilys am 3 mis a bydd trwyddedau allforio yn ddilys am 2 fis neu yn unol â hawlen y wlad sy’n mewnforio, pa bynnag un sy’n dod i ben gyntaf. Sylwer na ellir cyhoeddi trwyddedau mewnforio neu allforio hyd at yr amser perthnasol y bydd trwydded ddomestig wedi’i derbyn, pe bai angen un. Os ydych chi’n fusnes yn y DU rhaid i chi gofrestru am gyfrif National Drugs Control System (NDS) i ymgeisio am drwyddedau mewnforio neu allforio er mwyn hwyluso masnachu rhyngwladol. Defnyddir yr NDS i weinyddu trefn trwyddedau mewnforio ac allforio’r DU.

Yna gall defnyddwyr NDS cofrestredig fynd ati i ymgeisio am drwydded ar-lein. Mae angen trwyddedau mewnforio a/neu allforio unigol bob tro y bydd llwyth yn digwydd.

Rhoi arweiniad yn unig yw diben yr hysbysiad hwn. Dylech ystyried a oes arnoch angen cyngor proffesiynol ar wahân cyn gwneud paratoadau penodol.

Mae’n rhan o raglen barhaus y llywodraeth o gynllunio at bob canlyniad posibl. Rydym yn disgwyl negodi cytundeb llwyddiannus gyda’r UE.

Mae Llywodraeth y DU yn gwbl glir yn y sefyllfa hon bod yn rhaid i ni barchu ein perthynas unigryw gydag Iwerddon, yr ydym yn rhannu ffin dirol â hi ac sy’n gyd-lofnodwr Cytundeb Belfast. Mae llywodraeth y DU yn gyson wedi gosod cynnal y Cytundeb a’i olynyddion wrth galon ein hymdriniaeth. Mae’n cadw’r egwyddor gyson y mae statws cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon yn dibynnu arno. Rydym yn cydnabod y sylfaen y mae wedi’i roi i gydweithrediad economaidd a chymdeithasol dwfn ar ynys Iwerddon. Mae hyn yn cynnwys cydweithrediad Gogledd-De rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon, ac yr ydym yn ymrwymo i’w ddiogelu yn unol â gair ac ysbryd Llinyn dau y Cytundeb.

Mae llywodraeth Iwerddon wedi nodi y byddai angen iddynt drafod trefniadau mewn achos o ddim cytundeb gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ac Aelod Wladwriaethau’r UE. Byddai’r DU yn barod yn y sefyllfa hon i ymgysylltu yn adeiladol i fodloni ein hymrwymiadau a gweithredu er lles gorau pobl Gogledd Iwerddon, gan gydnabod yr heriau sylweddol iawn y byddai diffyg cytundeb cyfreithiol DU-UE yn eu cynnig yn y cyd-destun unigryw a hynod sensitif hwn.

Serch hynny, cyfrifoldeb llywodraeth y DU o hyd, fel llywodraeth sofran yng Ngogledd Iwerddon, yw parhau â’r paratoadau ar gyfer yr ystod lawn o ganlyniadau posibl, gan gynnwys dim cytundeb. Wrth i ni wneud, ac wrth i benderfyniadau gael eu gwneud, byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i amgylchiadau unigryw Gogledd Iwerddon.

Mae Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein yn rhan o’r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ac yn cymryd rhan mewn trefniadau eraill gan yr Undeb Ewropeaidd. Fel y cyfryw, mewn sawl maes, mae’r gwledydd hyn yn mabwysiadu rheolau’r Undeb Ewropeaidd. Pan fydd hyn yn wir, gall yr hysbysiadau technegol yma fod yn berthnasol iddynt hwythau, a dylai busnesau a dinasyddion yr AEE ystyried a oes angen iddynt gymryd camau i baratoi ar gyfer sefyllfa ‘dim cytundeb’.