Adolygiad Timms: Diweddariad cyd-gadeiryddion, mis Hydref 2026
Published 29 October 2026
Annwyl bawb,
Rydym yn ysgrifennu i rannu diweddariad wrth i’r Adolygiad agosáu at ei ddiwedd. Rydym am fyfyrio ar yr hyn rydym wedi’i glywed, diolch i bawb sydd wedi cyfrannu ac egluro’r hyn sy’n digwydd nesaf.
Mae’r grŵp llywio wedi cytuno y dylai Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) gynorthwyo pobl Fyddar a phobl anabl, a phobl sydd â chyflyrau hirdymor, i leihau’r anghydraddoldebau y maent yn eu hwynebu wrth gymryd rhan ym mywyd bob dydd trwy gyfraniad tuag at gostau ychwanegol anabledd. Mae’r diben hwn yn berthnasol p’un a yw rhywun mewn gwaith ai peidio.
Yr hyn rydym wedi’i glywed
Mae ein chwe gweithgaredd casglu tystiolaeth, a nodwyd gennym yn ein llythyr ym mis Ebrill, bellach wedi dod i ben. Helpodd y gwaith hwn ni i ddeall pa mor effeithiol y mae PIP yn cyflawni ei bwrpas heddiw a sut y gallai weithio’n well yn y dyfodol. Y rhain oedd:
- cais am dystiolaeth
- dadansoddi data ac ymchwil presennol
- comisiynu arolwg meintiol newydd
- hwyluso sesiynau gweithdai parod
- cynnal sesiynau tystiolaeth gydag arbenigwyr
- cynnal gweithdai llunio argymhellion
Helpodd y 38,000 o ymatebion i’n cais am dystiolaeth i lywio ein hadroddiad interim. Gwnaethant baentio darlun clir: er bod PIP yn cael ei werthfawrogi gan lawer o bobl, nid yw’n addas at y diben. Gall y profiad o wneud cais amdano fod yn ddad-ddynol a gall greu rhwystrau i gyfranogiad.
Gwnaethom ddatblygu ein hargymhellion sy’n dod i’r amlwg drwy ystyried yr hyn y gwnaethom glywed trwy’r cais am dystiolaeth, ymchwil sy’n bodoli eisoes o’r sector anabledd, prifysgolion a’r llywodraeth, a mewnwelediadau newydd o’n gweithdai parod.
Gwnaethom hefyd gylwed tystiolaeth ar lafar werthfawr gan arbenigwyr, a gyflwynwyd ar draws 26 sesiwn. Bydd hyn i gyd, ynghyd â’r arolwg o bron i 2,000 o bobl anabl, yn llunio ein hargymhellion terfynol.
Drwy gydol y broses, mae’r agoredrwydd a’r haelioni y mae pobl wedi’u dangos wrth rannu eu harbenigedd wedi bod yn groesawgar iawn. Rhannodd pobl dystiolaeth o’u profiad bywyd yn ogystal ag arbenigedd proffesiynol, academaidd a pholisi. Gyda’i gilydd, mae’r safbwyntiau hyn wedi ein helpu i ddeall cryfderau PIP yn well a lle y gallai fod angen newid.
Llunio’r argymhellion
Ers cyhoeddi ein hargymhellion sy’n dod i’r amlwg ym mis Medi, rydym wedi bod yn eu profi gyda dros 200 o bobl mewn gweithdai ledled y wlad. Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran a’n helpodd i lunio a mireinio’r argymhellion.
Hoffem hefyd ddiolch i’r sefydliadau a gyd-gynhaliodd y gweithdai hyn a helpodd i greu amgylchedd lle’r oedd cyfranogwyr yn teimlo’n gyfforddus yn rhannu eu profiadau. Er nad oedd cyd-gynhalwyr yn rhan o ddatblygu na mireinio argymhellion sy’n dod i’r amlwg yn yr Adolygiad, roedd eu cefnogaeth yn amhrisiadwy wrth ein helpu i glywed yn uniongyrchol gan gyfranogwyr.
Ochr yn ochr â’r gweithdai llunio argymhellion, rydym wedi cynnal byrddau crwn i brofi ein hargymhellion sy’n dod i’r amlwg gyda dros 40 o sefydliadau pobl Fyddar ac anabl (DDPOs), elusennau, melinau trafod ac academyddion. Unwaith eto, rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i rannu eu syniadau gyda ni.
Ar draws y gweithdai a’r byrddau crwn, helpodd cyfranogwyr ni i brofi sut y byddai’r cynigion yn gweithio mewn bywyd go iawn a sut y gallent effeithio ar wahanol bobl. Heriodd llawer ein meddwl, atgyfnerthodd rhai ef, tynnodd eraill sylw at risgiau neu fylchau y mae angen i ni eu hystyried ymhellach.
Mae eu tystiolaeth yn ein helpu i wella ein hargymhellion. Mae wedi ein helpu i ddeall pa gynigion a allai gael yr effaith fwyaf a ble y gallai fod angen mesurau diogelwch cryfach neu ddull gwahanol arnom.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Ein tasg nawr yw mireinio ein hargymhellion yn seiliedig ar yr holl dystiolaeth rydym wedi clywed hyd yn hyn a chyd-gynhyrchu cynigion ar gyfer newid. Rydym wedi ymrwymo i gynhyrchu cynigion sy’n uchelgeisiol, yn ymarferol, yn deg ac sy’n gwella bywydau pobl fyddar ac anabl yn ystyrlon.
Hwn fydd ein llythyr cyd-gadeirydd olaf cyn i ni gyhoeddi ein hadroddiad terfynol. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol yr hydref hwn a’i gyhoeddi ar GOV.UK, gan gynnwys mewn fformatau hygyrch.
Ni fyddem mewn sefyllfa i wneud argymhellion heb y profiad, yr arbenigedd a’r her y mae cyfranogwyr wedi’u cyflwyno drwy gydol yr Adolygiad. Mae eich mewnbwn wedi llunio nid yn unig y dystiolaeth a ystyriwyd gennym, ond hefyd y cwestiynau a ofynnwyd gennym, y cyfaddawdau a archwiliwyd gennym a’r argymhellion yr ydym yn eu datblygu.
Edrychwn ymlaen at rannu ein hadroddiad terfynol gyda chi.
Yn gywir,
Dr Clenton Farquharson CBE
Sharon Brennan
Y Gwir Anrhydeddus Syr Stephen Timms AS
Cyd-gadeiryddion Adolygiad Timms