Adolygiad Timms: diweddariad cyd-gadeiryddion, mis Tachwedd 2026
Cyhoeddwyd 24 Tachwedd 2026
Annwyl bawb,
Rydym yn ysgrifennu i roi gwybod i chi bod ein hadroddiad terfynol bellach wedi’i gyhoeddi. Mae’r llythyr hwn â’r mewn fersiynau hygyrch, fel mae’r adroddiad terfynnol.
Mae cyd-gynhyrchu adolygiad o’r raddfa hon wedi gofyn am ymdrech ar y cyd enfawr. Mae ein hadroddiad terfynol a’n hargymhellion yn adlewyrchu’r profiadau, yr arbenigedd a’r amser y mae pobl wedi’u rhannu’n hael gyda ni.
Sut y lluniodd eich cyfraniadau’r Adolygiad
Fel grŵp llywio, roeddem yn gwybod na allem gynrychioli pawb yr oedd eu barn a’u profiadau yn berthnasol i’r Adolygiad Timms. Dyna pam y gwrandawom ar ystod eang o bobl a sefydliadau, gan gynnwys y rhai sy’n gallu wynebu rhwystrau wrth sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
Clywsom gan gannoedd o sefydliadau a miloedd o bobl. Roedd hyn yn cynnwys pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o wneud cais am, a chael Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), yn ogystal â gofalwyr a sefydliadau pobl F/fyddar a Sefydliadau Pobl Anabl. Clywsom hefyd gan elusennau, darparwyr asesiadau a melinau trafod, yn ogystal â seneddwyr, arbenigwyr clinigol ac academyddion.
Rydym am ddangos i bobl sut y gwnaeth eu cyfranogiad wneud gwahaniaeth. Mae ein hadroddiad terfynol yn egluro sut y gwnaeth yr hyn a glywsom lunio ein hargymhellion. Rydym hefyd wedi cyhoeddi’r canfyddiadau o’n gwaith casglu tystiolaeth ac ymgysylltu fel atodiadau i’r adroddiad.
Yr hyn y mae Adolygiad Timms yn ei argymell
Daeth yr adroddiad dros dro i’r casgliad, er bod llawer o bobl yn rhoi gwerth mawr ar PIP, nad yw bellach yn addas i’r diben. Clywsom y gall y broses o wneud cais am PIP fod yn un sy’n amddifadu pobl o’u hurddas, yn achosi straen ac yn rhwystredig. Clywsom hefyd y gall budd-dal, sydd wedi’i fwriadu i gefnogi annibyniaeth, danseilio’r annibyniaeth honno.
Mae ein hadroddiad terfynol yn ymwneud ag ail-ddyneiddio PIP i’w wneud yn addas i’r diben. Gallwch ddarllen ein canfyddiadau llawn yn Adolygiad Timms: adroddiad terfynol.
Mae’r grŵp llywio yn glir y dylai PIP gefnogi pobl i fyw bywydau sy’n bwysig iddynt, gydag urddas, dewis a rheolaeth. Nod ein hargymhellion yw creu system sy’n decach ac yn cynnig mwy o gefnogaeth. System a fydd hefyd yn helpu i ailadeiladu ymddiriedaeth rhwng y llywodraeth a phobl F/fyddar, pobl anabl, a phobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor.
Mae ein hargymhellion yn canolbwyntio ar ddau nod.
1. Gwella PIP nawr
Dywedodd rhai pobl wrthym y gall y broses PIP deimlo fel rhywbeth sy’n amddifadu pobl o’u hurddas. Credwn fod angen newidiadau ar unwaith i leihau’r effaith negyddol y gall ei chael ar y rhai sy’n mynd drwy’r broses bresennol.
Credwn y dylai’r llywodraeth:
-
wneud y system yn symlach, yn fwy hygyrch, yn fwy personol ac yn llai o straen
-
gwneud asesiadau a phenderfyniadau yn decach, yn fwy cyson ac o ansawdd uwch
-
gwella systemau a phrosesau’r DWP fel y gallant gefnogi PIP sydd wedi’i ddiwygio
2. Diwygio PIP yn sylfaenol
Rhaid i ni symud i ffwrdd o’r system bresennol sydd ond yn canolbwyntio ar yr hyn na all pobl ei wneud. Dylai PIP diwygiedig adlewyrchu’n well y rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu, y cymorth sydd ei hangen arnynt a’r costau ychwanegol y maent yn eu hwynebu.
Credwn y dylai PIP ddiwygiedig:
-
fod yn haws ei ddeall a’i reoli
-
cydnabod yn well y costau ychwanegol a’r anghenion cymorth y mae pobl anabl yn eu hwynebu
-
cadw arian parod wrth wraidd dyfarniadau PIP
-
rhoi’r dewis i bobl gael mynediad at ystod ehangach o gymorth a gwasanaethau yn eu cymunedau – ni ddylai eu dewis effeithio ar eu hawl i PIP
Mae bywydau pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl o werth cyfartal. Dylai PIP gefnogi pobl F/fyddar, pobl anabl, a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor, i fyw’r bywydau sy’n bwysig iddynt.
Ni ddylai pobl fentro colli PIP oherwydd eu bod yn cymryd rhan mewn bywyd teuluol neu gymunedol, gwaith neu addysg. Efallai mai PIP sy’n ei gwneud hi’n bosibl iddynt wneud hyn.
Diolch
Mae cyhoeddi’r adroddiad yn nodi diwedd Adolygiad Timms. Dyma’r tro olaf i ni ysgrifennu yn ein rhinwedd fel cyd-gadeiryddion.
Ar ran y grŵp llywio, hoffem ddiolch i bawb a rannodd eu gwybodaeth a’u profiad bywyd gyda’r Adolygiad Timms. Heb eich cyfraniad, ni fyddai unrhyw argymhellion.
Hoffem hefyd ddiolch i’n cyd-aelodau ar y grŵp llywio am yr arbenigedd a’r profiad a ddaethant â hwy i’r Adolygiad Timms. Roedd eu gwaith pwysig yn ein galluogi i gyd-gynhyrchu gweledigaeth ar gyfer PIP wedi’i ddiwygio.
Bydd Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau bellach yn ystyried casgliadau ac argymhellion yr Adolygiad Timms, cyn i’r llywodraeth nodi ei chamau nesaf.
Yn gywir,
Dr Clenton Farquharson CBE
Sharon Brennan
Y Gwir Anrhydeddus Syr Stephen Timms AS
Cyd-gadeiryddion Adolygiad Timms