Skip to main content
Correspondence

Diweddariad cyd-gadeiryddion, Mehefin 2026

Published 8 June 2026

Diweddariad cyd-gadeiryddion, Mehefin 2026

Annwyl bawb,

Rydym yn ysgrifennu atoch unwaith eto fel cyd-gadeiryddion Adolygiad Timms o’r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr Adolygiad ers ein llythyr diwethaf. Mae’r llythyr hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Cais am Dystiolaeth a mwy o wybodaeth am wahanol ffyrdd o gymryd rhan yn yr Adolygiad.

Mae gan PIP effaith ddofn ar fywyd annibynnol, urddas, diogelwch a bywydau bob dydd pobl – ac mae’r Adolygiad hwn yn gyfle i helpu llunio rhywbeth gwell. Rydym yn gwybod bod llawer o bobl eisiau cymryd rhan yn y broses hon, ond hefyd nad oes un ffordd o gymryd rhan a fydd yn gweithio i bawb. Rydym hefyd yn cydnabod nad yw llawer o bobl bob amser yn ymgysylltu â sianeli ffurfiol y llywodraeth, a dyna pam mae’r grŵp llywio wedi cymryd gofal i ddylunio rhaglen ymgysylltu sy’n cynnig amrywiaeth o ffyrdd eraill o gymryd rhan. Yn ein llythyr diwethaf, gwnaethom ddarparu trosolwg o sut olwg sydd ar hyn a dweud wrthych, yn ogystal â’r Cais am Dystiolaeth, y bydd pum llinyn tystiolaeth ac ymgysylltu arall. Nod y rhain yw sicrhau bod gennym raglen hygyrch a chynhwysol i bobl gymryd rhan ynddi, ac maent yn cynnwys: dadansoddi data ac ymchwil sy’n bodoli eisoes, cynnal ymchwil arolwg meintiol newydd, datblygu’r Pecyn Gweithdy Parod, clywed tystiolaeth gan arbenigwyr, a chynnal digwyddiadau ystyriol.

Cais am Dystiolaeth

Y Cais am Dystiolaeth oedd y cam cyntaf yn rhaglen ymgysylltu’r Adolygiad a chaeodd i ymatebion ar 28 Mai.

Yn ystod y 10 wythnos yr oedd y Cais am Dystiolaeth ar agor, cawsom dros 38,000 o ymatebion. Mae’r ffaith bod cynifer o bobl (ochr yn ochr â gwahanol sefydliadau) wedi cymryd yr amser i ymateb yn tynnu sylw at y rôl bwysig y mae PIP yn chwarae wrth gefnogi pobl sydd ag anabledd, a chryfder diddordeb pobl mewn ei wella ar gyfer y dyfodol. I bawb a rannodd eu barn a’u profiad drwy’r Cais am Dystiolaeth, ac i’r holl sefydliadau a’i dosbarthodd o amgylch eu rhwydweithiau, hoffem ddweud diolch yn fawr iawn. Bydd yr ymatebion, ynghyd â’r mewnwelediad a gawn o’r llinynnau eraill, yn cefnogi’r grŵp llywio wrth i ni ddechrau datblygu argymhellion. Byddwn yn cynnwys crynodeb o’r canfyddiadau yn ein hadroddiad interim sydd ar ddod.

Pecyn Gweithdy Parod

Beth yw Pecyn Gweithdy Parod yr Adolygiad Timms?

Heddiw, rydym yn lansio Pecyn Gweithdy Parod yr Adolygiad Timms, sydd i’w gael ar GOV.UK yn y ddolen ganlynol: Timms Review – GOV.UK. Defnyddiwyd y math hwn o declyn ymgysylltu gan NHS England fel rhan o’u gwaith i ddatblygu’r Cynllun Iechyd 10 Mlynedd. Mae’n teclyn â’r nod o helpu sefydliadau ledled y DU i hwyluso sgwrs â’u cymunedau am yr Adolygiad Timms a’r rôl y mae PIP yn ei chwarae ym mywydau pobl. Mae’r gweithdai hyn wedi’u hanelu at gasglu tystiolaeth ansoddol gan ystod eang o bobl sy’n byw gydag anabledd a chyflyrau iechyd hirdymor ar themâu allweddol yr Adolygiad. Bydd y mewnbwn a gawn o hyn yn rhan allweddol o broses gyd-gynhyrchu’r Adolygiad.

Prif bwrpas y sesiynau hyn yw rhoi cyfle i bobl, yn enwedig pobl sydd ag anabledd a phobl sydd wedi cael profiad o’r broses PIP, fod yn rhan o’r Adolygiad mewn ffordd sy’n gweithio iddyn nhw. Rydym yn cydnabod bod arbenigedd yn gorwedd mewn profiad byw, ac mae’r dull hwn yn sicrhau ein bod yn clywed gan amrywiaeth o gymunedau - yn enwedig unigolion nad ydynt efallai am ymgysylltu trwy lwybrau ffurfiol y llywodraeth na phrosesau ymgynghori ysgrifenedig.

Mae’r grŵp llywio wedi dylunio’r cynnig Pecyn Gweithdy Parod, ynghyd â’n partneriaid The PSC (The Public Service Consultants). Cefnogodd WECIL (West of England Centre for Inclusive Living) y broses i ddatblygu adnoddau sy’n hygyrch ac yn gynhwysol.

Sut ydych yn cymryd rhan?

Bydd y “Pecyn Gweithdy Parod” ar gael i unrhyw un a hoffai gynnal sesiwn. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Sefydliadau Pobl Fyddar ac Anabl (DDPOs), elusennau anabledd neu iechyd, grwpiau cymunedol, a chynrychiolwyr etholedig.

Rydym wedi darparu deunyddiau ymgysylltu parod i’w defnyddio, y gellir eu lawrlwytho, ar feysydd allweddol o ddiddordeb i’r grŵp llywio i’ch helpu i gynnal eich digwyddiadau eich hun gyda’r bobl rydych yn eirioli drostynt, y cyhoedd, neu randdeiliaid eraill. Byddwn hefyd yn cynnwys templed i gasglu a rhannu syniadau a mewnwelediadau yn ôl gyda ni i lywio’r Adolygiad.

Mae’r cynnig Pecyn Gweithdy Parod wedi’i rannu’n dair sesiwn, wedi’u cynllunio i’w cyflwyno o fewn gweithdy 2 awr. Y sesiynau yw:

• beth yw pwrpas PIP

• sut beth yw gwneud cais am PIP

• sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud am PIP

Dim ond strwythur awgrymedig yw hwn ac mae’r adnoddau a ddarperir wedi’u creu i ganiatáu hyblygrwydd i sefydliadau yn y ffordd maen nhw’n cynnal Pecyn Gweithdy Parod, yn dibynnu ar faint o amser sydd ar gael a diddordebau a phrofiad y cyfranogwyr.

Er bod y gweithdy wedi’i gynllunio’n bennaf ar gyfer pobl anabl a’r rhai sydd â chyflyrau hirdymor, rydym yn annog sefydliadau i addasu cwestiynau a phwyntiau trafod i grwpiau eraill sydd â phrofiad a gwybodaeth am PIP, fel gofalwyr neu ymgynghorwyr. Mae’r canllawiau hwyluso cysylltiedig yn gwneud awgrymiadau ar sut y gellid gwneud hyn.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal un o’r gweithdai hyn, gallwch ddod o hyd i’r holl adnoddau (gan gynnwys amrywiaeth o fformatau hygyrch) ar y dudalen Pecyn Gweithdy Parod (‘Workshop in a Box’) ar GOV.UK. Mae sesiynau gwybodaeth hefyd yn digwydd ar 10 Mehefin a 16 Mehefin a fydd yn ymdrin â’r hyn i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl cynnal gweithdy. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i gofrestru ar gyfer sesiwn wybodaeth, ar y dudalen GOV.UK.

Bydd sefydliadau’n gallu cyflwyno mewnwelediadau o’u gweithdai tan 17 Gorffennaf. Bydd yr holl ymatebion hefyd ar gael i’r grŵp llywio. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a’r PSC hefyd yn cynorthwyo i ddadansoddi ymatebion a dod â chrynodeb o’r prif ganfyddiadau ynghyd i gefnogi gwaith y grŵp llywio. Bydd eich profiadau a’ch mewnwelediadau yn llunio meddwl ac argymhellion yr Adolygiad yn uniongyrchol.

Mae ein gwaith yn parhau

Rydym yn parhau ar gyflymder â’n gwaith ar draws chwe llinyn yr Adolygiad o gasglu tystiolaeth ac ymgysylltu, gan ganiatáu i bobl sydd ag anabledd a Sefydliadau Pobl Fyddar ac Anabl (DDPOs) allu darparu cyfraniadau a all ddylanwadu’n wirioneddol ar ddyfodol PIP. Yn y cyfamser, edrychwn ymlaen at gyhoeddi adroddiad interim yn y misoedd nesaf a fydd yn rhoi diweddariad mwy cyflawn ar waith y grŵp llywio hyd yn hyn.

Fel bob amser, rydym yn ddiolchgar iawn am eich ymgysylltiad, eich cefnogaeth a’ch her barhaus, wrth i ni weithio i greu system PIP yn y dyfodol sy’n deg ac yn addas i bawb. A fyddech cystal â manteisio ar y cyfle hwn i gymryd rhan yn yr Adolygiad trwy gynnal gweithdy - gan mai dim ond os bydd pobl anabl ledled y DU yn helpu i’w lunio y bydd yr Adolygiad hwn yn llwyddo. Gyda’ch help chi, gallwn sicrhau bod PIP yn diwallu anghenion y rhai y bwriedir iddo eu gwasanaethu mewn gwirionedd.

Yn gywir,

Dr Clenton Farquharson CBE
Sharon Brennan
Y Gwir Anrhydeddus Syr Stephen Timms AS

Cyd-gadeiryddion Adolygiad Timms