Correspondence

Diweddariad gan y cyd-gadeiryddion, Rhagfyr 2025

Updated 13 January 2026

Annwyl bawb,

Fel cyd-gadeiryddion newydd yr Adolygiad Timms o Daliad Annibyniaeth Personol (PIP), rydym yn ysgrifennu i’ch diweddaru am ei gynnydd. Nod yr Adolygiad hwn yw sicrhau bod PIP yn deg ac yn addas ar gyfer y dyfodol, ac yn adlewyrchu realiti amodau pobl a’u nodau a’u huchelgeisiau. Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw’r Adolygiad hwn i lawer o bobl anabl, gofalwyr, teuluoedd a sefydliadau, a dyna pam rydym wedi ymrwymo i’w gyd-gynhyrchu â phobl anabl, Sefydliadau Pobl Anabl (DPOs), ac ystod eang o arbenigwyr yn ôl profiad.

Y llythyr hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o ddiweddariadau y byddwn yn eu cyhoeddi fel rhan o’n hymrwymiad i dryloywder.  Rydym yn ysgrifennu ar y cyd fel cyd-gadeiryddion yr Adolygiad:

  • Sharon Brennan
  • Dr Clenton Farquharson CBE
  • Syr Stephen Timms, Gweinidog Nawdd Cymdeithasol ac Anabledd

Yn ddiweddar, penodwyd dau ohonom, Sharon a Clenton, i gyd-gadeirio’r grŵp llywio ochr yn ochr â’r Gweinidog. Rydym yn dod â phrofiad byw o anabledd, iechyd, gofal cymdeithasol, a chyflogaeth, ochr yn ochr â phrofiad uniongyrchol o lywio’r systemau hyn. Ar ddiwedd y llythyr hwn, rydym wedi cynnwys mwy o wybodaeth am y profiad y mae pob un ohonom yn ei gyfrannu i’r rolau hyn.

Ers i’r penodiadau gael eu cadarnhau ddiwedd mis Hydref, rydym wedi canolbwyntio gyda’n gilydd i sicrhau bod yr Adolygiad yn cael ei sefydlu er mwyn i ni ddechrau’r Flwyddyn Newydd gyda:

  • proses gyd-gynhyrchu glir.
  • cynllun gweithredu cytuedig wedi’i alinio ag amserlen yr Adolygiad
  • rhaglen gynefino gref i sicrhau bod aelodau’r grŵp llywio yn cael eu cefnogi, eu paratoi a’u grymuso yn eu rolau

Rydym wedi bod yn treulio amser gyda’n gilydd yn datblygu gweledigaeth gyffredin   am yr Adolygiad, ac edrychwn ymlaen at ei mireinio gyda’r grŵp llywio unwaith y caiff ei benodi.

Wrth i’r gwaith fynd o’i flaen, byddwn yn parhau i gyhoeddi diweddariadau ar GOV.UK yn: The Timms Review - GOV.UK.

Penodiadau i’r Grŵp Llywio

Fel y cyhoeddwyd ddiwedd mis Hydref, rydym yn sefydlu grŵp llywio i arwain ar gyd-gynhyrchu’r Adolygiad. Roedd y broses Mynegi Diddordeb (EOI) yn gwbl agored, yn dryloyw ac yn hygyrch. Darparwyd fersiynau print bras, Hawdd ei Ddarllen, sain, BSL a Saesneg o’r deunyddiau o’r cychwyn, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau bod y grŵp yn hygyrch i bawb.

Gwnaethom nodi ein bwriad y byddai’r mwyafrif o aelodau’r grŵp llywio yn bobl anabl neu’n gynrychiolwyr o Sefydliadau Pobl Anabl (DPOs).

Mae hyn yn ganolog i’n hymrwymiad y bydd pobl anabl wrth wraidd yr Adolygiad drwy gydol ei gyfnod ac mae’n cydnabod y rôl hanfodol y mae DPOs yn ei chwarae wrth ymhelaethu ar leisiau pobl anabl.

Caewyd yr EOI ddiwedd mis Tachwedd. Cawsom fwy na 340 o geisiadau. Rydym yn ddiolchgar i bawb a ymgeisiodd ac i’r rhai a helpodd i rannu’r cyfle ar draws eu rhwydweithiau.

Rydym bellach wedi adolygu pob cais yn erbyn y meini prawf cyhoeddedig. Gan dynnu ar y ceisiadau cryfaf o ran sgiliau, profiad byw, cefndiroedd, a chynrychiolaeth, rydym wrthi’n rhoi 12 ymgeisydd ar y rhestr fer. Byddwn yn cwblhau’r aelodaeth cyn bo hir, a bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am y canlyniad. Bydd ein cylchlythyr nesaf yn cyflwyno’r aelodau grŵp llywio penodedig.

Cyflenwi cyd-gynhyrchiad

Rydym yn cydnabod bod angen amser, adnoddau, a hwyluso medrus er mwyn cyd-gynhyrchu. I gefnogi hyn, rydym yn y broses o gomisiynu sefydliad allanol i helpu dylunio a hwyluso’r rhaglen gyd-gynhyrchu.

Ni fydd y grŵp llywio yn gweithio ar ei ben ei hun. Ar ôl ei benodi, byddwn yn gweithio gyda’i aelodau i ddylunio rhaglen ehangach o gyfranogiad a fydd yn sicrhau y gall ystod lawn o leisiau, profiadau a safbwyntiau lunio gwaith yr Adolygiad yn ystyrlon. Rydym yn rhagweld y canlynol:

  • Galwad ffôn anffurfiol cychwynnol gyda’r grŵp llywio yn yr wythnosau nesaf.
  • Sesiynau cynefino ym mis Ionawr 2026.
  • Dechrau cyd-gynhyrchu a gwaith polisi dyfnach o fis Chwefror ymlaen.

Diolch am eich diddordeb a’ch ymgysylltiad hyd yn hyn.  Edrychwn ymlaen at ysgrifennu atoch eto yn y Flwyddyn Newydd wrth i’r gwaith pwysig hwn barhau.

Yn gywir,

Dr Clenton Farquharson CBE
Sharon Brennan
Rt Hon. Sir Stephen Timms MP
Co-chairs of the Timms Review

Amdanom ni

Mae Sharon yn dod ag arbenigedd mewn dulliau sy’n canolbwyntio ar y person yn y system iechyd a gofal. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr Polisi a Materion Allanol yn National Voices, cyfuniad o elusennau iechyd a gofal, a chynghori’r Adran Drafnidiaeth ar hygyrchedd fel aelod o’r Pwyllgor Ymgynghorol ar Gludiant Pobl Anabl.

Mae Dr Clenton yn dod â mwy na 25 mlynedd o brofiad fel eiriolwr cenedlaethol dros hawliau anabledd, cyd-gynhyrchu, a chyfiawnder cymdeithasol. Fel Cyfarwyddwr Cyswllt yn Think Local Act Personal, Ymddiriedolwr Disability Rights UK, ac aelod o fwrdd National Development Team for Inclusion (NDTi), mae Clenton yn helpu i lunio strategaethau arloesol sy’n cryfhau hygyrchedd, cyd-gynhyrchu a chynhwysiant.

Mae Syr Stephen Timms yn Weinidog Gwladol Nawdd Cymdeithasol ac Anabledd yn yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). O rolau gweinidogol blaenorol, ac fel cyn Gadeirydd y Pwyllgor Dethol Gwaith a Phensiynau, mae Syr Stephen wedi datblygu gwybodaeth arbenigol am y materion sy’n wynebu’r rhai sydd ag anableddau.