Policy paper

Deddfu ar gyfer y Deyrnas Unedig yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd

Updated 15 May 2017

Rhagair gan y Prif Weinidog

Amcan cyntaf y Llywodraeth wrth drafod partneriaeth ddofn ac arbennig newydd â’r Undeb Ewropeaidd yw rhoi cymaint o sicrwydd â phosibl i fusnesau, i’r sector cyhoeddus ac i bawb yn y wlad wrth i’r broses fynd rhagddi.

Bydd y sicrwydd hwn yn helpu pobl i gynllunio’n effeithiol, i recriwtio’n briodol ac i fuddsoddi yn ôl y galw wrth i’r trafodaethau barhau ac wrth i’r bartneriaeth newydd a fydd gennym â’r Undeb Ewropeaidd gael ei chreu.

Rydym eisoes wedi gallu rhoi rhywfaint o eglurder a sicrwydd mewn rhai sectorau. Er enghraifft, y llynedd, cymerodd y Llywodraeth gamau’n ddiymdroi i roi sicrwydd ynghylch taliadau fferm a chyllid prifysgolion. Rydym hefyd wedi addo rhoi’r cytundeb terfynol y bydd y DU a’r UE yn cytuno arno gerbron dau Dŷ’r Senedd er mwyn cynnal pleidlais arno cyn iddo ddod i rym.

Mae ein penderfyniad i drosi’r ‘acquis’ – y corff o ddeddfwriaeth Ewropeaidd – yn gyfraith y DU yn syth ar ôl diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd yn rhan hanfodol o’r cynllun hwn.

Bydd hyn yn rhoi’r sicrwydd mwyaf posibl wrth inni adael yr UE. Bydd yr un rheolau a’r un cyfreithiau yn berthnasol y diwrnod ar ôl gadael ag ar y diwrnod cynt. Cynrychiolwyr sydd wedi’u hethol yn ddemocrataidd yn y DU fydd wedyn i benderfynu ar unrhyw newidiadau i’r gyfraith honno, ar ôl gwneud gwaith craffu trylwyr a chynnal dadleuon ar y mater.

Mae’r Papur Gwyn hwn yn egluro sut y byddwn yn deddfu i gyflawni hyn drwy gyflwyno Bil Diddymu Mawr ar ddechrau’r sesiwn seneddol nesaf. Pryd bynnag y bydd hynny’n ymarferol ac yn briodol, bydd y Bil hwn yn trosi cyfraith yr UE yn gyfraith y DU o’r diwrnod y byddwn yn gadael fel y gallwn wneud y penderfyniadau iawn er budd y cyhoedd pan ddymunwn wneud hynny.

Mae’r Bil Diddymu Mawr yn rhan bwysig o’n cynllun i sicrhau Brexit diffwdan a threfnus a hwnnw’n ennyn ymddiriedaeth gan bawb. Efallai’n wir fod y dasg sydd o’n blaenau’n un fawr, ond rwy’n hyderus y gallwn lwyddo. Mae’r Papur Gwyn hwn yn gam hanfodol ar y llwybr hwnnw.

Y Gwir Anrhydeddus Theresa May AS,Y Prif Weinidog

Rhagair gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd

Ar 23 Mehefin 2016, gwnaed y penderfyniad hanesyddol yn y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd. Wrth roi’r penderfyniad hwnnw ar waith, byddwn yn creu cenedl wych sy’n masnachu’n fyd-eang, a honno’n ennyn parch ym mhob cwr o’r byd. Bydd hi’n genedl gref, hyderus ac unedig yn ôl gartref.

Roedd sofraniaeth yn ganolog i’r penderfyniad hanesyddol hwnnw. Mae angen i wlad gref, annibynnol reoli ei chyfreithiau ei hun. Hynny, yn fwy na dim arall, a arweiniodd at ganlyniad y refferendwm: dyhead i adennill rheolaeth. Dyma gychwyn y broses honno nawr.

Er mwyn cyflawni hyn, bydd y Bil Diddymu Mawr yn diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ar y diwrnod y byddwn yn gadael yr UE. Bydd Senedd y DU yn sofran drachefn, ac ni fydd amheuaeth ynghylch y statws hwnnw. Ein llysoedd ni fydd â’r gair olaf wrth ddehongli’r gyfraith. Wrth gyflawni hyn, byddwn yn gweithredu ar ganlyniad y refferendwm.

Ond nid yw adennill rheolaeth yn golygu bod angen inni newid popeth dros nos – ac ni fyddwn yn gwneud hynny. Yn hytrach, byddwn yn gadael mewn ffordd ddiffwdan a threfnus. Bydd y Bil Diddymu Mawr yn trosi cyfraith yr UE fel y mae’n berthnasol i’r DU yn gyfraith ddomestig ar y diwrnod y byddwn yn gadael. Lle bynnag y mae hynny’n ymarferol ac yn synhwyrol, mae hyn yn golygu y bydd yr un cyfreithiau a’r un rheolau yn berthnasol yn syth cyn gadael ac yn syth ar ôl gadael. Nid ffordd o gyflwyno newidiadau polisi yw hyn – ond bydd yn rhoi’r pŵer angenrheidiol i’r Llywodraeth gywiro neu gael gwared ar y cyfreithiau hynny na fyddai fel arall yn gweithio’n iawn unwaith inni adael yr UE.

Rhaid cwblhau’r dasg sylweddol o greu llyfr statud sy’n gweithio cyn inni adael yr UE – ond ni ddylai’r angen i fwrw ati’n gyflym fod ar draul craffu seneddol digonol.

Wrth inni adael yr UE, mae cyfle inni sicrhau bod y pwerau a gawn yn ôl yn nes at bobl y Deyrnas Unedig nag erioed o’r blaen. Mewn rhai meysydd, lle mae fframweithiau cyffredin ar lefel yr UE wedi arwain at fframweithiau cyffredin yn y DU hefyd, bydd yn bwysig sicrhau nad ydym yn tanseilio’r sefydlogrwydd a’r sicrwydd hwn. Er enghraifft, gallai fod angen fframweithiau cyffredin drwy’r DU er mwyn diogelu rhyddid busnesau i weithredu ar draws y farchnad sengl yn y DU ac i alluogi’r DU i lunio cytundebau masnach rydd.

Bydd angen gwneud penderfyniadau ynghylch yr angen am fframweithiau cyffredin, ac os bydd angen y rheini, sut i sefydlu fframweithiau o’r fath. Byddwn yn gweithio’n agos â’r gweinyddiaethau datganoledig i fwrw ati mewn ffordd sy’n gweithio i’r Deyrnas Unedig gyfan. Ond yr hyn sy’n amlwg yw y bydd pwerau pob gweinyddiaeth ddatganoledig i wneud penderfyniadau yn cynyddu’n sylweddol yn sgil y broses hon. Wrth inni hawlio pwerau yn ôl o Frwsel, byddwn yn eu trosglwyddo i gynrychiolwyr a etholwyd yn ddemocrataidd yn y Deyrnas Unedig.

Rwy’n gobeithio y bydd pobl drwy’r wlad yn croesawu dull pragmatig ond egwyddorol y Bil hwn o sicrhau cymaint o sicrwydd ag y bo modd, gan roi eglurder a chaniatáu craffu seneddol wrth inni adael yr UE.

Y Gwir Anrhydeddus David Davis AS, Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd

Pennod 1: Gweithredu ar ganlyniad y refferendwm

1.1 Ar 1 Ionawr 1973, ymunodd y Deyrnas Unedig â’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd, sydd wedi esblygu’n Undeb Ewropeaidd erbyn heddiw. Un o amodau bod yn aelod o’r UE yw bod cyfraith y gymuned, sef cyfraith yr UE, yn berthnasol yng nghyfraith ddomestig y wlad dan sylw. Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (Deddf 1972) yw’r prif ddarn o ddeddfwriaeth sy’n rhoi effaith i gyfraith yr UE yn y DU. Wrth gymharu cyfraith yr UE a chyfraith y DU, dyma’r ddeddfwriaeth hefyd sy’n pennu mai cyfraith yr UE sydd oruchaf.

1.2 Ar ôl ymuno â’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd, mabwysiadodd y DU nifer o gytuniadau dilynol a oedd â’r nod o gyflwyno rhagor o integreiddio gwleidyddol ac economaidd rhwng yr aelod-wladwriaethau. Yn 1987, pennodd y Ddeddf Ewropeaidd Gyfun y byddai’r farchnad sengl yn cael ei chwblhau erbyn diwedd 1992, gan ganiatáu i nwyddau, pobl, gwasanaethau a chyfalaf symud yn rhydd. Yn 1993, sefydlwyd yr UE gan Gytuniad Maastricht, gan greu strwythur tair colofn. Y Gymuned Economaidd Ewropeaidd oedd y golofn gyntaf, y polisi tramor a diogelwch cyffredin oedd yr ail golofn, a chydweithredu ar gyfiawnder a materion cartref oedd y drydedd golofn.

1.3 Gwnaed rhagor o newidiadau yn sgil Cytuniad Amsterdam (1999) a Chytuniad Nice (2003). Ar ôl ehangu’r UE i gynnwys y 28 aelod-wladwriaeth presennol, ailenwyd a diwygiwyd y cytuniadau gwreiddiol gan Gytuniad Lisbon yn 2009, gan greu un Undeb Ewropeaidd yn lle’r system dair colofn.

1.4 Er bod y DU wedi mabwysiadu’r cytuniadau uchod, yn ystod y trafodaethau llwyddodd y DU i sicrhau amodau mewn rhai meysydd a oedd yn ymwneud â bod yn aelod o’r UE. Er enghraifft, yn ystod trafodaethau Maastricht, sicrhaodd y DU y byddai wedi’i heithrio o’r Undeb Economaidd ac Ariannol ac felly wedi’i heithrio rhag mabwysiadu’r Ewro. Sicrhaodd y DU statws arbennig hefyd o dan Gytuniad Amsterdam, gan benderfynu peidio â mabwysiadu’r elfennau yng Nghytundeb Schengen a oedd yn ymwneud â ffiniau, ynghyd â materion penodol eraill a oedd yn gysylltiedig â chyfiawnder a materion cartref. Yn ystod y trafodaethau ar Gytuniad Lisbon, sicrhaodd y DU y gallai ddewis a fyddai am gymryd camau penodol wrth gydweithio ar faterion plismona a chyfiawnder troseddol.

1.5 Ar 23 Ionawr 2013, cyhoeddodd y Prif Weinidog ar y pryd ei fwriad i drafod setliad newydd ar delerau aelodaeth y DU o’r UE, gydag addewid i gynnal refferendwm ar ôl hynny ynghylch a ddylai’r DU fod yn aelod o’r UE ai peidio.

1.6 Ar 17 Rhagfyr 2015, rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd 2015 – Deddf a gefnogwyd gan fwyafrif helaeth yr Aelodau Seneddol. Roedd y Ddeddf yn darparu ar gyfer cynnal refferendwm yn y Deyrnas Unedig a Gibraltar yn holi a ddylai’r DU barhau’n aelod o’r UE. Ymrwymodd y Llywodraeth i weithredu ar sail y canlyniad. Cynhaliwyd y refferendwm hwnnw ar 23 Mehefin 2016.

1.7 Roedd y canlyniad - o 52% i 48% - yn gyfarwyddyd clir gan bobl y Deyrnas Unedig eu bod am adael yr UE.

1.8 Esboniodd y Prif Weinidog yn glir na fyddai oedi dianghenraid wrth gychwyn proses Erthygl 50 y Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd, a’r broses honno a roddodd gychwyn ar ein trafodaethau ffurfiol i adael yr UE. Pasiwyd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysu am Ymadael) 2016 ar 16 Mawrth a rhoddodd hynny awdurdod cyfreithiol i’r Prif Weinidog i roi hysbysiad o dan Erthygl 50. Rhoddwyd yr hysbysiad hwn ar 29 Mawrth.

1.9 Erthygl 50 yw’r unig ddull cyfreithiol sydd gennym i adael yr UE. Mae Erthygl 50 yn pennu bod gan y DU ddwy flynedd i drafod cytundeb ymadael â’r UE. Wedi hynny, bydd ein haelodaeth o’r UE yn dod i ben oni bai y cytunir ar estyniad â’r Cyngor Ewropeaidd.

1.10 Mae’r DU yn parhau’n aelod llawn o’r UE ac mae’r holl hawliau a’r rhwymedigaethau sy’n dod yn sgil bod yn aelod o’r UE yn parhau mewn grym tan y byddwn yn gadael. Bydd y Llywodraeth yn parhau i drafod amodau cyfraith yr UE ac yn parhau i weithredu honno yn ystod y cyfnod hwn.

1.11 Mae proses Erthygl 50 yn rhoi effaith i benderfyniad y DU i ymadael o dan gyfraith yr UE. Fodd bynnag, mae angen deddfwriaeth sylfaenol newydd arnom er mwyn sicrhau bod y llyfr statud domestig yn adlewyrchu’r ffaith bod y DU wedi gadael yr UE, ac hefyd er mwyn sicrhau ein bod yn pontio’n drefnus rhwng y naill statws a’r llall. Mae angen inni fod mewn sefyllfa i ddiddymu Deddf 1972 ar y diwrnod pan fyddwn yn gadael yr UE.

1.12 Er mwyn pontio o’r naill statws i’r llall mewn ffordd sefydlog a diffwdan, mae’r Llywodraeth yn bwriadu trosi’r corff presennol o gyfraith yr UE yn gyfraith ddomestig. Ar ôl gwneud hyn, bydd modd i’r Senedd (a’r gweinyddiaethau datganoledig pan fydd hynny’n briodol) benderfynu pa elfennau o’r gyfraith honno i’w cadw, i’w diwygio neu i’w diddymu ar ôl inni adael yr UE. Yn gyffredinol, bydd hyn yn sicrhau bod yr un rheolau a’r un cyfreithiau â chynt yn berthnasol ar ôl inni adael yr UE.

1.13 Pe na byddai’r Bil Diddymu Mawr yn trosi cyfraith bresennol yr UE yn gyfraith ddomestig ar yr un pryd ag y caiff Deddf 1972 ei diddymu, byddai bylchau sylweddol yn llyfr statud y DU unwaith y byddwn wedi gadael yr UE. Mae nifer fawr o reoliadau’r UE a nifer o gyfreithiau eraill sydd wedi deillio o’r UE sy’n rhan o’n cyfraith ni. Pe byddem yn diddymu Deddf 1972 heb wneud darpariaeth arall, ni fyddai’r rheoliadau a’r cyfreithiau hyn yn berthnasol mwyach, a byddai bylchau mawr yn ein llyfr statud.

1.14 Ond nid yw ymgorffori cyfraith yr UE yng nghyfraith y DU yn ddigon, fodd bynnag. Ni fydd darnau helaeth o gyfraith sydd wedi deillio o’r UE, hyd yn oed o’u trosi yn gyfraith ddomestig, yn cyflawni eu nod cyfreithiol yn y DU unwaith y byddwn wedi gadael yr UE. Er enghraifft, gallai’r ddeddfwriaeth honno fod yn cyfeirio at un o sefydliadau’r UE neu’n dibynnu ar aelodaeth y DU o un o gyfundrefnau neu systemau’r UE, neu fynediad y DU i un o’r rheini. Unwaith y byddwn wedi gadael yr UE, ni fydd y ddeddfwriaeth hon yn gweithio wedyn. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth gymryd camau i sicrhau bod y llyfr statud domestig yn dal i weithio unwaith y byddwn wedi gadael yr UE.

1.15 Ar ôl dweud hynny, nid yw’n bosibl gwneud yr holl newidiadau y bydd angen eu gwneud i’r gyfraith ddomestig yn y Bil Diddymu Mawr ei hun, ac ni fyddem am wneud hynny ychwaith. Mae sawl rheswm dros hyn, gan gynnwys y ffaith nad yw natur nac amseru nifer o’r newidiadau angenrheidiol yn galw am eu cynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol. At hynny, byddai’r gweinyddiaethau datganoledig mewn sefyllfa well i wneud rhai o’r newidiadau i gyfraith ddatganoledig. O’r herwydd, bydd y Bil Diddymu Mawr yn cynnwys pŵer i gywiro’r llyfr statud lle bydd hynny’n angenrheidiol ac i ddatrys problemau sy’n deillio o ganlyniad i adael yr UE. Caiff hyn ei wneud drwy is-ddeddfwriaeth.

1.16 Mae’n bwysig cydnabod hefyd y bydd amserlen y Bil Diddymu Mawr a’r is-ddeddfwriaeth gysylltiedig yn cyd-fynd â phroses y trafodaethau o dan Erthygl 50. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid rhoi’r broses ddeddfwriaethol sy’n angenrheidiol i gywiro’r llyfr statud ar waith ar yr un pryd ag y mae’r trafodaethau’n cael eu cynnal. Mae llawer y gellid ei wneud yn ystod y trafodaethau hyn, ond bydd yn rhaid aros tan i’r trafodaethau ddod i ben yn achos rhywfaint o’r ddeddfwriaeth. Nod y dull o fwrw ati a geir yn y Papur Gwyn hwn yw rhoi cymaint o sicrwydd ag y bo modd i fusnesau, gweithwyr, buddsoddwyr a defnyddwyr wrth inni adael yr UE, ond mae angen rhoi’r hyblygrwydd angenrheidiol ar yr un pryd i allu ymateb i’r holl bosibiliadau a allai ddeillio o’r broses drafod.

1.17 Ar 7 Mawrth 2017 cyhoeddodd Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r Arglwyddi adroddiad yn datgan y byddai angen rhagor o ddiwygiadau i gyfraith yr UE yn ddomestig (h.y. y corff o gyfraith yr UE a ddaw’n rhan o gyfraith y DU ar ôl Brexit) er mwyn rhoi’r cytundeb ymadael terfynol ar waith. Roedd yr adroddiad yn cydnabod hefyd y byddai ar y Llywodraeth angen cymeradwyaeth y Senedd i’r cytundeb hwn, ond nododd y gallai’r Llywodraeth ddefnyddio pwerau a roddir o dan y Bil Diddymu Mawr i baratoi rhai o’r newidiadau sy’n angenrheidiol i gyfraith yr UE yn ddomestig er mwyn i’r rheini ddod i rym yr un pryd â Brexit. [footnote 1]

1.18 Cytunwn â’r Pwyllgor y dylai’r Bil Diddymu Mawr hefyd roi pŵer cyfyngedig pellach i’r Llywodraeth roi cynnwys unrhyw gytundeb a sicrheir â’r UE ar waith yn ein cyfraith ddomestig heb oedi, pan fydd hynny’n angenrheidiol, er mwyn sicrhau ein bod yn barod i ddechrau ar y bartneriaeth newydd yn syth ar ôl gadael.

1.19 Mae hon yn broses ar wahân i’r un y bydd y Llywodraeth yn ei defnyddio i gyflwyno cynnig ar y cytundeb terfynol ar gyfer pleidlais yn nau Dŷ’r Senedd cyn cadarnhau’r cytundeb hwnnw. Bydd unrhyw gytuniad newydd y cytunwn arno â’r UE hefyd yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Deddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 cyn ei gadarnhau.

1.20 Mae’r Llywodraeth yn hyderus y gall y DU sicrhau cytundeb cadarnhaol ar ein perthynas â’r UE yn y dyfodol yn yr amser sydd ar gael o dan Erthygl 50. Fodd bynnag, rydym wedi bod yn glir hefyd fod dim cytundeb o gwbl i’r DU yn well na chytundeb gwael i’r DU. Byddai’r Bil Diddymu Mawr hefyd yn addas mewn sefyllfa lle byddai’r DU yn gadael yr UE heb gytundeb, a hynny drwy greu llyfr statud cyflawn ac ymarferol nad yw’n ddibynnol bellach ar fod yn aelod o’r UE.

1.21 Ni fydd y Bil Diddymu Mawr yn ceisio gwneud newidiadau polisi mawr na sefydlu fframweithiau cyfreithiol newydd i’r DU y tu hwnt i’r hyn sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y gyfraith yn dal i weithio’n iawn o’r diwrnod cyntaf. Felly, bydd y Llywodraeth hefyd yn cyflwyno nifer o filiau eraill yn ystod y ddwy flynedd nesaf er mwyn sicrhau ein bod wedi paratoi at ymadael – a bod gan y Senedd y cyfle gorau posibl i graffu ar y ddeddfwriaeth hon.

1.22 Er enghraifft, byddwn yn cyflwyno bil tollau er mwyn sefydlu cyfundrefn dollau i’r DU. Ni ellir ateb y galw am gyfundrefn dollau i’r DU drwy ymgorffori cyfraith yr UE yn unig – a byddai bil o’r fath hefyd yn destun y gwaith craffu seneddol dwys sy’n cael ei wneud ar ddeddfwriaeth sylfaenol. Yn yr un modd, byddwn yn cyflwyno bil mewnfudo fel na fydd dim yn newid i unrhyw un o ddinasyddion yr UE, boed yn byw yn y DU eisoes neu’n symud yma o’r UE, heb gymeradwyaeth y Senedd. Mae hyn yn unol â’n dull cyffredinol o weithio o dan y Bil Diddymu Mawr – sef peidio â gwneud newidiadau polisi mawr drwy’r bil hwn neu oddi tano, ac yn hytrach roi cyfle i’r Senedd gynnal dadleuon ynghylch ein dull o fwrw ati yn y dyfodol a rhoi effaith i hynny drwy filiau ar wahân. Bydd angen deddfwriaeth newydd er mwyn rhoi polisïau newydd neu drefniadau sefydliadol newydd ar waith os yw’r rheini’n gwneud mwy ma dim ond adlewyrchu trefniadau presennol yr UE yng nghyfraith y DU.

Crynodeb o’r prif ddarpariaethau

1.23 Yn gryno, felly, bydd y Bil Diddymu Mawr yn rhoi rheolaeth yn ôl i’r DU dros ei chyfreithiau; yn rhoi cymaint o sicrwydd ag y bo modd i fusnesau, gweithwyr, buddsoddwyr a defnyddwyr drwy’r DU gyfan wrth inni adael yr UE; ac yn sicrhau atebolrwydd dros y pwerau sydd yn y Bil.

1.24 Er mwyn cyflawni hyn, bydd y Bil Diddymu Mawr yn gwneud tri phrif beth:

a. Yn gyntaf, bydd yn diddymu Deddf 1972 ac yn dychwelyd pŵer i sefydliadau’r DU.

b. Yn ail, yn ddibynnol ar fanylion y cynigion a geir yn y Papur Gwyn hwn, bydd y Bil yn trosi cyfraith yr UE – fel ag y mae pan fyddwn yn gadael – yn gyfraith y DU cyn inni adael yr UE. Bydd hyn yn galluogi busnesau i barhau i weithredu gan wybod nad yw’r rheolau wedi newid yn sylweddol dros nos, ac mae’n rhoi tegwch i unigolion gan na fydd eu hawliau a’u rhwymedigaethau yn newid yn sydyn. Mae’n sicrhau hefyd mai Senedd y DU (a phan fydd hynny’n briodol, y deddfwrfeydd datganoledig) fydd yn diwygio, yn diddymu neu’n gwella unrhyw ddarn o gyfraith yr UE (unwaith y bydd honno wedi’i throi’n gyfraith y DU) ar adeg briodol unwaith y byddwn wedi gadael yr UE.

c. Yn olaf, bydd y Bil yn creu pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth. Bydd hyn yn golygu y bydd modd cywiro’r cyfreithiau na fyddai fel arall yn gweithio’n iawn unwaith y byddwn wedi gadael yr UE, fel bod ein system gyfreithiol yn dal i weithio’n iawn y tu allan i’r UE. Bydd hyn hefyd yn caniatáu i gyfraith ddomestig adlewyrchu cynnwys unrhyw drefniant ymadael o dan Erthygl 50 unwaith y byddwn wedi gadael yr UE.

1.25 Mae Pennod 2 yn dangos sut y bydd y Llywodraeth yn diddymu Deddf 1972 ac yn trosi cyfraith yr UE yn gyfraith y DU. Mae Pennod 3 yn rhoi sylw i’r pwerau yn y Bil i wneud is-ddeddfwriaeth. Mae Pennod 4 yn edrych ar y cysylltiad rhwng darpariaethau’r Bil a’r setliadau datganoli, tra bo Pennod 5 yn edrych ar yr effaith ar y Tiriogaethau Dibynnol ar y Goron a’r Tiriogaethau Tramor.

1.26 Mae’r Llywodraeth yn croesawu sylwadau am y Papur Gwyn hwn. Gellir anfon sylwadau i repeal-bill@dexeu.gov.uk.

Pennod 2: Ein dull o weithio o dan y Bil Diddymu Mawr

Diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972

2.1 Mae Deddf 1972 yn rhoi effaith i gytuniadau’r UE yng nghyfraith y DU. Mae’n ymgorffori cyfraith yr UE yn nhrefniadau cyfreithiol domestig y DU ac yn darparu mai cyfraith yr UE sydd oruchaf. Mae’n golygu hefyd bod yn rhaid i lysoedd yr UE ddilyn penderfyniadau Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd.

2.2 Mae rhywfaint o gyfraith yr UE yn uniongyrchol berthnasol heb fod angen deddfwriaeth ddomestig benodol i’w gweithredu, ond mae angen deddfwriaeth ddomestig yn y DU er mwyn gweithredu rhannau eraill o gyfraith yr UE. Fel yr esbonnir yn ddiweddarach yn y Papur Gwyn hwn, mae darnau eraill o gyfraith ddomestig ar wahân i Ddeddf 1972 yn rhoi effaith i rywfaint o rwymedigaethau’r DU o dan gyfraith yr UE.

2.3 Fel cam cyntaf, mae’n bwysig diddymu Deddf 1972 fel bod cymaint o eglurdeb â phosibl ynghylch y gyfraith sy’n berthnasol yn y DU, ac i adlewyrchu’r ffaith mai cyfraith y DU, nid cyfraith yr UE, a fydd oruchaf ar ôl i’r DU adael yr UE. Bydd y Bil yn diddymu Deddf 1972 ar y diwrnod y byddwn yn gadael yr UE.

Trosi cyfraith yr UE yn gyfraith y DU

2.4 Byddai diddymu Deddf 1972 yn unig yn arwain at system gyfreithiol ddryslyd ac anghyflawn. Fel y disgrifir uchod, mae hyn gan fod rhai mathau o gyfreithiau’r UE (fel rheoliadau’r UE) yn uniongyrchol berthnasol yn system gyfreithiol y DU. Mae hyn yn golygu bod ganddynt effaith yma heb fod angen pasio deddfwriaeth benodol yn y DU i’w gweithredu. O’r herwydd, ni fyddai ganddynt effaith yn y DU unwaith y byddwn wedi gadael yr UE ac wedi diddymu Deddf 1972, gan adael bylchau mawr yn y llyfr statud. Er mwyn osgoi hyn, bydd y Bil yn trosi cyfreithiau’r UE sy’n uniongyrchol berthnasol yn gyfreithiau’r DU.

2.5 Ar y llaw arall, mae’n rhaid cael cyfreithiau cenedlaethol ar gyfer rhoi effaith yn y DU i fathau eraill o gyfreithiau’r UE (fel cyfarwyddebau’r UE). Mae hyn wedi’i wneud yn aml gan ddefnyddio adran 2(2) o Ddeddf 1972, sy’n rhoi i weinidogion, gan gynnwys gweinidogion yn y gweinyddiaethau datganoledig, bwerau i wneud is-ddeddfwriaeth er mwyn gweithredu rhwymedigaethau o dan gyfraith yr UE. Unwaith y bydd Deddf 1972 wedi’i diddymu, byddai’r holl is-ddeddfwriaeth a wnaed oddi tani yn peidio â bod yn berthnasol. Gan y byddai hyn yn gadael bwlch sylweddol yn y llyfr statud, bydd y Bil Diddymu Mawr hefyd yn cadw’r cyfreithiau rydym wedi’u gwneud yn y DU i weithredu ein rhwymedigaethau o dan gyfraith yr UE.


Beth fydd y Bil Diddymu Mawr yn ei drosi yn gyfraith y DU?

Bydd y Bil yn sicrhau, pryd bynnag y bydd hynny’n bosibl, bod yr un rheolau a’r un cyfreithiau yn berthnasol y diwrnod ar ôl inni adael yr UE ag ar y diwrnod cynt.

Mae hyn yn golygu:

  • bydd y Bil yn trosi cyfraith yr UE sy’n uniongyrchol berthnasol yn y DU (rheoliadau’r UE) yn gyfraith y DU (paragraff 2.4);
  • bydd y Bil yn cadw’r holl gyfreithiau rydym wedi’u gwneud yn y DU i weithredu ein rhwymedigaethau o dan gyfraith yr UE (paragraff 2.5);
  • bydd yr hawliau y mae unigolyn yn gallu dibynnu’n uniongyrchol arnynt yn y llys o dan gytuniadau’r UE yn parhau i fod ar gael yng nghyfraith y DU (paragraff 2.11); a
  • bydd y Bil yn darparu y bydd gan gyfraith achosion Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd yr un statws sy’n rhwymo’n gyfreithiol neu sy’n gosod cynsail â phenderfyniadau ein Goruchaf Lys ein hunain (paragraffau 2.12 i 2.17).

2.6 Nid oes un ffigur sy’n dangos faint o gyfraith yr UE sydd eisoes yn rhan o gyfraith y DU. Yn ôl EUR-Lex, sef bas data cyfreithiol yr UE, mae dros 12,000 o reoliadau’r UE mewn grym ar hyn o bryd (mae hyn yn cynnwys rheoliadau sy’n diwygio yn ogystal â rheoliadau dirprwyedig a rheoliadau gweithredu). [footnote 2] O ran cyfraith ddomestig sy’n gweithredu cyfreithiau fel cyfarwyddebau’r UE, mae ymchwil gan Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin yn awgrymu bod tua 7,900 o offerynnau statudol wedi’u gwneud sydd wedi gweithredu deddfwriaeth yr UE. Nid yw’r ffigur hwn yn cynnwys yr offerynnau statudol a wnaed gan y gweinyddiaethau datganoledig a fydd hefyd yn dilyn ac yn gweithredu rhwymedigaethau o dan gyfraith yr UE mewn meysydd y mae ganddynt gymhwysedd ynddynt. [footnote 3] At hynny, mae ymchwil gan Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin yn awgrymu, o blith y 1,302 o Ddeddfau’r DU rhwng 1980 a 2009 (heb gynnwys y rheini a ddiddymwyd maes o law), roedd 186 o Ddeddfau (neu 14.3%) yn ymgorffori elfen o ddylanwad yr UE. [footnote 4]

2.7 Mae ein dull o drosi cyfraith yr UE yn gyfraith ddomestig yn rhoi cymaint o sicrwydd a sefydlogrwydd â phosibl gan sicrhau bod y Senedd yn sofran. At ddibenion y papur hwn, rydym yn galw’r corff hwn o gyfreithiau yn ‘gyfreithiau sydd wedi deillio o’r UE’. Ym marn y Llywodraeth, oni bai a than y caiff cyfraith ddomestig ei newid gan ddeddfwyr yn y DU, dylai hawliau a rhwymedigaethau cyfreithiol yn y DU fod yr un fath os yw’n bosibl ar ôl inni adael yr UE ag oeddent yn syth cyn inni adael.

2.8 Ni fydd rheoliadau’r UE yn cael eu ‘copïo’ i gyfraith y DU fesul rheoliad. Yn hytrach, bydd y Bil yn egluro bod rheoliadau’r UE – fel yr oeddent yn berthnasol yn y DU yn syth cyn inni adael yr UE – yn cael eu trosi yn gyfraith ddomestig gan y Bil ac yn parhau i fod yn berthnasol tan y bydd deddfwyr yn y DU yn penderfynu fel arall.

Cytuniadau’r UE

2.9 Y cytuniadau yw prif ffynhonnell cyfraith yr UE. Mae cyfran sylweddol o’r cytuniadau yn pennu rheolau ar gyfer y modd y mae’r UE yn gweithio, ei sefydliadau a’i feysydd cymhwysedd. Er y bydd llawer o gynnwys y cytuniadau yn amherthnasol unwaith y bydd y DU yn gadael yr UE, efallai y gall y cytuniadau (fel y maent ar y foment pan fyddwn yn gadael yr UE) fod yn gymorth i ddehongli’r cyfreithiau hynny gan yr UE y byddwn yn eu cadw yng nghyfraith y DU.

2.10 Er enghraifft, wrth ddehongli un o ddeddfiadau’r UE, efallai y bydd angen edrych ar ei amcan a’i gynnwys, a bydd ei sail gyfreithiol yn y cytuniadau yn dangos hynny. Wrth ddehongli hawl gweithwyr i wyliau blynyddol, gwelwyd bod sail gyfreithiol y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith yn berthnasol. [footnote 5] Penderfynodd y llys na allai aelod-wladwriaethau fabwysiadu rheolau cenedlaethol a fyddai’n pennu bod hawliau gweithwyr i wyliau blynyddol gyda thâl yn dibynnu ar fod wedi gweithio i’r un cyflogwr am gyfnod penodol o amser. Pe na bai’r llys wedi edrych ar ddarpariaethau gwreiddiol y cytuniad a arweiniodd at y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith, efallai y byddai wedi dehongli’r gyfarwyddeb yn wahanol. Unwaith y byddwn wedi gadael yr UE, bydd modd i’n llysoedd barhau i edrych ar ddarpariaethau cytuniadau wrth ddehongli cyfreithiau’r UE sydd wedi’u cadw.

2.11 Yn yr un modd, mae hawliau yng nghytuniadau’r UE y gall unigolyn ddibynnu’n uniongyrchol arnynt yn y llysoedd, a bydd y Bil Diddymu Mawr yn ymgorffori’r hawliau hynny yng nghyfraith y DU. Mae’r blwch testun isod ar hawliau gweithwyr yn dangos pam fod hyn yn bwysig yn ymarferol

Cyfraith achosion Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd

2.12 Mae’r Llywodraeth wedi bod yn eglur y byddwn yn dod ag awdurdodaeth Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd i ben yn y DU wrth adael yr UE. Unwaith y byddwn wedi gadael yr UE, bydd Senedd y DU (a phan fydd hynny’n briodol, y deddfwrfeydd datganoledig) yn rhydd i basio’i deddfwriaeth ei hun.

2.13 Ni fydd y Bil Diddymu Mawr yn rhoi unrhyw rôl i Lys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd wrth ddehongli’r gyfraith newydd honno, ac ni fydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i’r llysoedd domestig ystyried cyfreitheg y Llys Cyfiawnder. Yn sgil hynny, mae’r Bil yn galluogi’r DU i reoli ei chyfreithiau ei hun. Byddwn, wrth gwrs, yn parhau i anrhydeddu ein hymrwymiadau rhyngwladol a dilyn cyfraith ryngwladol.

2.14 Fodd bynnag, cyhyd ag y bod cyfreithiau sydd wedi deillio o’r UE yn parhau ar lyfr statud y DU, mae’n hanfodol bod dealltwriaeth gyffredin ynghylch ystyr y gyfraith honno. Mae’r Llywodraeth yn credu mai’r ffordd orau o wneud hyn yw sicrhau parhad yn y modd y caiff y gyfraith honno ei dehongli cyn ac ar ôl y diwrnod ymadael. Er mwyn rhoi cymaint o sicrwydd â phosibl, felly, bydd y Bil yn darparu y bydd llysoedd y DU yn penderfynu ar unrhyw gwestiynau ynghylch ystyr cyfraith sydd wedi deillio o’r UE drwy gyfeirio at gyfraith achosion Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd fel y mae honno ar y diwrnod y byddwn yn gadael yr UE. Bydd pawb yn gweithredu ar sail dehongliad y Llys Cyfiawnder o’r gyfraith, a bydd unrhyw fan cychwyn arall yn newid y gyfraith. Cyn belled ag y mae cyfraith achosion yn ymwneud ag elfen o gyfraith yr UE nad yw’n cael ei throsi yn gyfraith y DU, ni fydd angen i lysoedd y DU roi sylw i’r elfen honno o’r gyfraith achosion.

2.15 Er enghraifft, mae cyfraith achosion y Llys Cyfiawnder yn darparu ar gyfer cyfrifo faint o dâl gwyliau y mae gan weithwyr yn y DU hawl iddo: byddai peidio â pharhau i ddibynnu ar y gyfraith achosion honno yn creu ansicrwydd i weithwyr a chyflogwyr. Yn yr un modd, mae cyfraith achosion y Llys Cyfiawnder wedi penderfynu dros y pedwar degawd diwethaf ar y pethau hynny y mae TAW yn berthnasol iddynt, a byddai methu â dilyn y gyfraith achosion honno yn ein system gyfreithiol ein hunain yn creu ansicrwydd newydd ynghylch TAW.

2.16 Mae’r dull hwn yn rhoi cymaint o sicrwydd cyfreithiol â phosibl wrth adael, ond nid y bwriad yw ffosileiddio hen benderfyniadau’r Llys Cyfiawnder am byth. Gan hynny, rydym yn cynnig y bydd y Bil yn darparu y bydd gan gyfraith achosion Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd yr un statws sy’n rhwymo’n gyfreithiol neu sy’n gosod cynsail â phenderfyniadau ein Goruchaf Lys ein hunain. Mae’n anarferol iawn i’r Goruchaf Lys wyro oddi wrth un o’i benderfyniadau ei hun neu benderfyniadau ei ragflaenydd, sef Tŷ’r Arglwyddi. Mae’r amgylchiadau eithriadol pan fydd yn gwneud hynny yn deillio o Ddatganiad o Arfer a wnaeth Tŷ’r Arglwyddi yn 1966 ac a fabwysiadwyd gan y Goruchaf Lys yn 2010. Ymhlith pethau eraill, mae’r Datganiad hwn yn dweud y bydd y llys wedi’i rwymo fel rheol i’w benderfyniadau blaenorol, ond bydd yn gwyro oddi wrth y rheini “pan fydd yn ymddangos mai dyna’r peth iawn i’w wneud”.

2.17 Byddem yn disgwyl i’r Goruchaf Lys ddilyn dull darbodus tebyg wrth wyro oddi wrth gyfraith achosion y Llys Cyfiawnder. Rydym hefyd yn edrych i weld a ddylid cymryd unrhyw gamau ychwanegol i roi rhagor o eglurder ynghylch yr amgylchiadau hynny pan fyddai’n bosibl gwyro oddi wrth y gyfraith achosion yn y fath fodd. Bydd y Senedd yn rhydd i newid y gyfraith, ac felly i wyrdroi’r gyfraith achosion, pan fydd yn penderfynu mai dyna’r peth iawn i’w wneud.


Enghraifft 1: Hawliau gweithwyr a chydraddoldeb

Bydd y Bil Diddymu Mawr yn trosi cyfraith yr UE yn gyfraith ddomestig. Mae hyn yn golygu y bydd yr hawliau sydd gan weithwyr o dan gyfraith yr UE yn parhau i fod yn berthnasol yng nghyfraith y DU ar ôl inni adael yr UE. Pan fydd rhwyd ddiogelwch ychwanegol yng nghytuniadau’r UE – fel yr hawl i ddibynnu ar erthygl 157 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd (cyflog cyfartal) yn uniongyrchol yn y llys – bydd hynny’n parhau hefyd.

Mae hawliau wedi’u diogelu ymhellach drwy ymgorffori cyfraith achosion Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd yn y Bil Diddymu Mawr (gweler paragraffau 2.12 i 2.17), sy’n golygu, os yw penderfyniadau’r Llys Cyfiawnder wedi ehangu hawliau gweithwyr, bydd yr hawliau hynny’n parhau i gael eu diogelu yn y DU unwaith y byddwn wedi gadael yr UE. Mewn nifer o feysydd, mae cyfraith cyflogaeth y DU eisoes yn gwneud mwy na’r safonau sylfaenol a bennir yn neddfwriaeth yr UE, a bydd y Llywodraeth hon yn parhau i ddiogelu ac ehangu’r hawliau sydd gan bobl yn y gwaith.

At hynny, bydd y camau hynny sy’n diogelu gweithwyr o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006, Deddf Cydraddoldeb 2010 a deddfwriaeth gyfatebol yng Ngogledd Iwerddon yn parhau i fod yn berthnasol unwaith y bydd y DU wedi gadael yr UE. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr gwasanaethau a defnyddwyr, yn ogystal ag i weithwyr a chyflogwyr, gan greu sefydlogrwydd a fydd yn caniatáu i’r DU dyfu a ffynnu.

Enghraifft 2: Diogelu’r amgylchedd

Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau mai ni yw’r genhedlaeth gyntaf i adael yr amgylchedd mewn gwell cyflwr nag oedd cynt.

Mae fframwaith deddfwriaethol presennol y DU ar lefel genedlaethol, lefel yr UE a lefel ryngwladol wedi arwain at fudd amlwg i’r amgylchedd, fel afonydd glanach a gostyngiad yn allyriadau sylffwr deuocsid ac allyriadau sylweddau sy’n teneuo’r osôn. Mae nifer o’r cyfreithiau amgylcheddol presennol hefyd yn creu safonau sy’n effeithio ar fasnachu cynhyrchion a sylweddau ar draws gwahanol farchnadoedd, a hynny o fewn yr UE yn ogystal ag yn rhyngwladol.

Bydd y Bil Diddymu Mawr yn sicrhau y bydd holl gorff cyfraith amgylcheddol bresennol yr UE yn parhau i fod yn berthnasol yng nghyfraith y DU. Bydd hyn yn rhoi cymaint o sicrwydd â phosibl i fusnesau a rhanddeiliaid wrth inni adael yr UE. Bydd gennym gyfle wedyn, dros amser, i sicrhau bod gennym fframwaith deddfwriaethol sydd wedi’i seilio ar ganlyniadau a bod hwnnw’n cyflawni ein hymrwymiad cyffredinol i wella’r amgylchedd o fewn cenhedlaeth. Mae’r Llywodraeth yn cydnabod bod angen ymgynghori ynghylch newidiadau yn y dyfodol i’r fframweithiau rheoleiddiol hyn, gan gynnwys caniatáu craffu seneddol ar hynny.

Enghraifft 3: Diogelu defnyddwyr

Mae cyfraith y DU i ddiogelu defnyddwyr yn bodoli ers cyn i’r UE gael cymhwysedd yn y maes hwn, ac mae’n gwneud mwy na gofynion sylfaenol yr UE mewn sawl ffordd. Er enghraifft, mae’r hawl sydd gan ddefnyddwyr yn y DU i wrthod nwyddau diffygiol o fewn cyfnod o 30 diwrnod yn gam y mae’r DU wedi’i gymryd, ac mae masnachwyr wedi’u cyfyngu i un cyfle i atgyweirio neu roi cynnyrch newydd yn lle cynnyrch diffygiol cyn bod rhaid cynnig ad-daliad. At hynny, mae’r DU wedi deddfu i sicrhau bod gan ddefnyddwyr hawliau clir wrth brynu cynnwys digidol.

Pan gaiff camau i ddiogelu defnyddwyr eu pennu ar lefel yr UE, a’r rheini felly eisoes yn rhan o gyfraith y DU, bydd y Bil Diddymu Mawr yn cadw cyfraith berthnasol yr UE er mwyn sicrhau bod y gyfraith ddomestig yn dal i weithio’n iawn ar ôl gadael. Bydd y sefydlogrwydd hwn yn rhoi eglurder a hyder i fusnesau a defnyddwyr ynghylch eu hawliau a’u rhwymedigaethau, gan alluogi pobl i wneud y trafodiadau dyddiol hynny sy’n cadw economi’r DU yn gryf. Bydd hyn yn gymorth i sicrhau bod hawliau defnyddwyr yn y DU yn dal yn gadarn ar ôl inni adael yr UE.

At hynny, mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi Papur Gwyrdd y gwanwyn hwn a fydd yn edrych yn ofalus ar y marchnadoedd hynny nad ydynt yn gweithio’n iawn i ddefnyddwyr.


Goruchafiaeth cyfraith yr UE

2.18 Mae Senedd y DU yn parhau’n sofran, a sofraniaeth seneddol yw sail cyfansoddiad y DU. O ganlyniad i Ddeddf 1972, a basiwyd gan Senedd y DU, mae cyfraith achosion yn ei gwneud yn glir bod gan gyfraith yr UE oruchafiaeth tra byddwn yn aelod-wladwriaeth. Rhaid i gyfreithiau cenedlaethol ildio ac ni fyddant yn berthnasol yn y llysoedd domestig os ydynt yn anghyson â chyfraith yr UE.

2.19 Os bydd gwrthdaro rhwng cyfreithiau sy’n deillio o’r UE a deddfwriaeth sylfaenol newydd a gaiff ei phasio gan y Senedd ar ôl gadael yr UE, yna bydd y ddeddfwriaeth newydd yn cael blaenoriaeth dros y gyfraith a gadwyd gennym sy’n deillio o’r UE. Drwy wneud hyn, bydd y Bil Diddymu Mawr yn dod â goruchafiaeth gyffredinol cyfraith yr UE i ben.

2.20 Ar ôl gadael, os bydd gwrthdaro rhwng dwy gyfraith sy’n deillio o’r cyfnod cyn gadael, a bod un o’r rheini wedi deillio o’r UE a’r llall heb, yna bydd y gyfraith sydd wedi deillio o’r UE yn parhau i gael blaenoriaeth. Byddai unrhyw ddull arall yn newid y gyfraith ac yn achosi ansicrwydd ynghylch ei hystyr. Bydd gwneud hyn yn rhoi cysondeb i’r llyfr statud, gan roi rheolaeth yn ôl i’r Senedd ar yr un pryd. Unwaith y bydd y DU wedi gadael yr UE, bydd modd i’r Senedd (a phan fydd hynny’n briodol, y deddfwrfeydd datganoledig) newid y cyfreithiau hyn pryd bynnag y bydd am wneud hynny.

Y Siarter Hawliau Sylfaenol

2.21 Un o egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE yw parch i hawliau sylfaenol, sy’n cynnwys nifer o’r hawliau y cyfeiriwn atynt fel hawliau dynol yn y DU. Wrth adael yr UE, ni fydd rôl arweiniol y DU wrth ddiogelu a hyrwyddo hawliau dynol yn newid. Mae’r UE yn datgan hawliau sylfaenol yn y Siarter Hawliau Sylfaenol, sydd â’r un statws cyfreithiol â chytuniadau’r UE.

2.22 Mae’r Siarter yn un elfen yn unig o bensaernïaeth hawliau dynol y DU. Mae nifer o’r hawliau sy’n cael eu diogelu yn y Siarter hefyd i’w gweld mewn offerynnau rhyngwladol eraill, yn fwyaf nodedig yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, ond hefyd yng nghytuniadau’r Cenhedloedd Unedig a chytuniadau rhyngwladol eraill. Un o offerynnau Cyngor Ewrop yn hytrach na’r UE yw’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Ni fydd y ffaith bod y DU yn gadael yr UE yn newid y modd y mae’r DU yn ymwneud â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ac nid oes cynlluniau i adael hwnnw.

2.23 Dim ond wrth i aelod-wladwriaethau weithredu o fewn cwmpas cyfraith yr UE y mae’r Siarter yn berthnasol, felly wrth adael yr UE ni fydd yn berthnasol mwyach. Bydd rhai hawliau yn diflannu’n naturiol wrth inni adael yr UE, fel yr hawl i bleidleisio neu i sefyll fel ymgeisydd yn etholiadau Senedd Ewrop. Ni ddylid gallu defnyddio’r Siarter i herio’r Llywodraeth, nac i ddirymu deddfwriaeth y DU ar ôl gadael. Ar y sail honno ni fydd y Bil Dirymu Mawr yn trosi’r Siarter yn gyfraith y DU.

2.24 Fodd bynnag, nid nod y Siarter oedd creu unrhyw hawliau newydd na newid yr amgylchiadau pan all unigolion ddibynnu ar hawliau sylfaenol er mwyn herio gweithredoedd sefydliadau’r UE neu aelod-wladwriaethau yng nghyd-destun cyfraith yr UE. Yn hytrach nod y Siarter oedd sicrhau bod yr hawliau a oedd eisoes yn bodoli yng nghyfraith yr UE yn amlycach drwy eu dwyn ynghyd mewn un ddogfen.

2.25 Bwriad y Llywodraeth yw na fydd cael gwared ar y Siarter o gyfraith y DU yn effeithio ar yr hawliau sylfaenol sydd gan unigolion eisoes yn y DU. Mae nifer o’r hawliau sylfaenol hyn yn bodoli mewn mannau eraill yng nghorff cyfraith yr UE, cyfraith y byddwn yn ei throsi yn gyfraith y DU. Mae hawliau eraill eisoes yn bodoli yng nghyfraith y DU, neu mewn cytundebau rhyngwladol y mae’r DU yn rhan ohonynt. Wrth i’r Bil Diddymu Mawr drosi cyfraith yr UE yn gyfraith y DU, bydd llysoedd y DU yn parhau i’w dehongli mewn ffordd sy’n gyson â’r hawliau sylfaenol hynny. I’r graddau y mae achosion wedi’u penderfynu drwy gyfeirio at yr hawliau sylfaenol hynny, bydd y gyfraith achosion honno yn dal i fod yn berthnasol. At hynny, i’r graddau y mae achosion o’r fath yn cyfeirio at y Siarter, bydd yn rhaid derbyn bod hynny’n cyfeirio at yr hawliau sylfaenol yn hytrach nag at y Siarter ei hun.

Pennod 3: Pwerau dirprwyedig yn y Bil Diddymu Mawr

Yr her

3.1 Drwy ddiddymu Deddf 1972, rydym yn cael gwared ar rannau o’r fframwaith cyfreithiol sydd wedi rhoi sail i’r modd y mae’r DU wedi gweithredu am dros ddeugain mlynedd. Roedd y bennod flaenorol yn dangos sut y byddai’r Llywodraeth yn mynd ati i sicrhau nad yw hyn yn gadael bylchau mawr yn y llyfr statud; yn benodol, byddwn yn trosi corff cyfraith yr UE – fel ag y mae pan fyddwn yn gadael yr UE – yn gyfraith ddomestig. Ni fydd y cam hwn ar ei ben ei hun, fodd bynnag, yn ddigon er mwyn sicrhau ein bod yn gadael mewn ffordd ddiffwdan a threfnus.

3.2 Mae llawer iawn o gyfraith yr UE ar hyn o bryd yn berthnasol yn y DU. Bydd cyfran o’r gyfraith hon yn parhau i weithio’n iawn unwaith y byddwn wedi gadael yr UE drwy drosi’r gyfraith honno yn gyfraith y DU. Er enghraifft, bydd darnau mawr o gyfraith cyflogaeth yn parhau i weithio’n iawn unwaith y byddwn wedi gadael yr UE. Ond ni fydd cyfran fwy o’r gyfraith a droswyd yn gweithio’n effeithiol unwaith y byddwn wedi gadael yr UE oni bai ein bod yn cymryd camau i gywiro hynny.

3.3 Mae rhesymau amrywiol pam na fydd trosi’r gyfraith yn unig yn ddigon mewn achosion penodol. Bydd bylchau lle na fydd rhai meysydd yn y gyfraith a droswyd yn gallu gweithredu o gwbl gan na fyddwn bellach yn aelod o’r UE. Bydd achosion hefyd pan na fydd cyfraith yr UE yn gweithio fel y bwriadwyd neu pan na fydd ei hangen mwyach ar ôl inni adael. Mewn rhai achosion mae cyfraith yr UE wedi’i seilio ar drefniadau dwyochrog, lle bydd pob aelod-wladwriaeth yn trin sefyllfaoedd penodol yn yr un ffordd. Os na chaiff trefniadau dwyochrog o’r fath eu creu fel rhan o’n perthynas newydd â’r UE, efallai na fydd o fudd cenedlaethol inni, neu efallai na fydd yn ymarferol, i barhau i ddilyn y trefniadau hynny ar ein pen ein hunain.

3.4 Bydd materion tebyg yn berthnasol mewn deddfwriaeth a wnaed gan weinidogion datganoledig neu pan fydd y deddfwrfeydd datganoledig wedi deddfu (trafodir hyn yn fanylach ym Mhennod 4). Mae’r astudiaethau achos isod yn rhoi enghreifftiau o’r math o waith cywiro cyfreithiol y byddai’n rhaid ei wneud unwaith inni adael yr UE, a sut y bydd y pŵer dan sylw yn galluogi’r Llywodraeth i roi sylw iddynt.


Astudiaeth achos 1: cyfeiriadau at “gyfraith yr UE”

Drwy’r holl lyfr statud, ceir cyfeiriadau na fydd bellach yn gywir unwaith y byddwn yn gadael yr UE, fel cyfeiriadau at “Aelod-Wladwriaethau ac eithrio’r Deyrnas Unedig”, at “gyfraith yr UE” neu at ddarparu ar gyfer “rhwymedigaethau’r UE”. Bydd angen diddymu neu ddiwygio cyfeiriadau o’r fath er mwyn sicrhau bod gennym lyfr statud cynhwysfawr ar ôl gadael. Yn yr achos hwn, byddai’r pŵer i gywiro hyn yn galluogi’r Llywodraeth i ddiwygio’r gyfraith sydd wedi’i throsi i adlewyrchu ein sefyllfa newydd.}

Er enghraifft, mae adran 171 o Ddeddf Menter 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd gyhoeddi cyngor a gwybodaeth am sut mae rhai darpariaethau yn y Ddeddf honno’n gweithio, a rhaid i hyn gynnwys gwybodaeth ynghylch effaith cyfraith yr UE ar y darpariaethau hynny. Bydd angen diwygio neu ddiddymu’r cyfeiriad hwnnw at “gyfraith yr UE” yn adran 171 ynghyd â’r diffiniad ohono, er mwyn adlewyrchu’r ffaith na fydd cyfraith yr UE yn berthnasol unwaith y bydd y DU yn gadael yr UE.

Astudiaeth achos 2: ymwneud ag un o sefydliadau’r UE

Ar ôl gadael yr UE, ni fydd rhai cyfreithiau’n gweithio bellach a bydd angen eu cywiro er mwyn iddynt barhau i weithio. Enghraifft o hyn fyddai Rheoliadau Gweithgareddau Petroliwm ar y Môr (Cadwraeth Cynefinoedd) 2001.[footnote 6] Mae’r rheoliadau domestig hyn yn cynnwys gofyniad i geisio barn y Comisiwn Ewropeaidd ynghylch prosiectau penodol sy’n ymwneud â gweithgareddau olew a nwy ar y môr. Unwaith y byddwn yn gadael yr UE, ni fydd y Comisiwn bellach yn rhoi barn o’r fath i’r DU (ac ni fyddem yn gofyn am y farn honno). Fodd bynnag, byddai’r gofyniad hwn yn y rheoliadau presennol yn rhwystro prosiectau penodol rhag cael eu cynnal tan y byddwn yn cywiro’r rheoliadau.

Yn yr achos hwn, byddai’r pŵer i gywiro’r gyfraith yn galluogi’r Llywodraeth i ddiwygio ein deddfwriaeth ddomestig naill ai er drwy ddisodli’r cyfeiriad at y Comisiwn gyda chyfeiriad at gorff yn y DU, neu drwy gael gwared ar y gofyniad hwn yn llwyr.

Astudiaeth achos 3: rhannu gwybodaeth â sefydliadau’r UE

Unwaith y byddwn yn gadael yr UE, bydd meysydd yn y gyfraith lle na fydd polisi yn gweithredu fel y bwriadwyd bellach. Dyma fyddai’r sefyllfa pan fyddai deddfwriaeth yn dal i weithio’n gyfreithiol a phan fyddai modd cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth honno o hyd, ond efallai na fyddai’r canlyniad polisi sy’n deillio o wneud hynny yn gwneud synnwyr bellach.

Er enghraifft, bydd hyn yn digwydd pan fydd y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chadw yn dal i’w gwneud yn ofynnol i’r DU anfon gwybodaeth i sefydliadau’r UE (neu ei swyddfeydd, ei chyrff neu ei hasiantaethau) neu i aelod-wladwriaethau’r UE. Byddai modd i’r DU gydymffurfio â gofynion o’r fath pan na fyddai rhwystr cyfreithiol rhag gwneud hynny (h.y. byddai’r gyfraith yn dal i weithio). Fodd bynnag, oni bai bod y DU wedi cytuno’n benodol yn ystod y trafodaethau gadael i barhau i roi gwybodaeth o’r fath i’r UE, efallai’n wir y byddai rhesymau pam na fyddai’r DU bellach am rannu’r wybodaeth honno ar ôl gadael yr UE, a byddai’n gwneud synnwyr i ddiwygio’r ddeddfwriaeth rhag i drefniadau a oedd yn ddwyochrog cynt droi’n rhai unochrog bellach.

Enghraifft o hyn fyddai Rheoliad 1365/2006. [footnote 7] sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r DU roi data i’r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch cludiant ar ddyfrffyrdd mewndirol. Yn yr achos hwn, pan na fyddai’r gyfraith yn gweithio fel y bwriadwyd, byddai’r pŵer yn galluogi’r Llywodraeth i ddiwygio neu ddiddymu’r rheoliadau a gadwyd er mwyn adlewyrchu’r ffaith na fydd trefniant o’r fath yn bodoli oni bai y bydd hynny o fudd i’r DU. Wrth gwrs mewn rhai achosion, efallai y byddwn am barhau i gyfnewid data â’r UE, er enghraifft, data ynghylch materion diogelwch.


3.5 Mae adrannau’r Llywodraeth wedi bod yn dadansoddi llyfr statud y DU a chyfraith yr UE sy’n uniongyrchol berthnasol yn y meysydd y maent yn gyfrifol amdanynt er mwyn gallu asesu maint yn newidiadau y mae angen eu gwneud. Mae’n amlwg bod cyfran sylweddol iawn o’r gyfraith sydd wedi deillio o’r UE ac y mae adrannau’r Llywodraeth yn gyfrifol amdani yn cynnwys rhai darpariaethau na fydd yn gweithio’n iawn os mai’r cyfan a wneir yw cadw cyfraith yr UE. [footnote 8]

3.6 Bydd materion tebyg yn berthnasol i ddeddfwriaeth y mae’r deddfwrfeydd neu weinidogion datganoledig yn gyfrifol amdani, fel deddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf 1972. Mae cynghorwyr cyfreithiol Llywodraeth y DU wedi bod yn trafod â’u cydweithwyr yn y gweinyddiaethau datganoledig er mwyn helpu i ganfod faint o newidiadau y mae angen eu gwneud. Bydd y Bil felly yn rhoi i weinidogion datganoledig bŵer i ddiwygio deddfwriaeth ddatganoledig er mwyn cywiro cyfreithiau na fydd yn gweithio’n iawn bellach, yn unol â’r pwerau sydd gan weinidogion y DU.

Yr ateb a gynigir: pwerau dirprwyedig

3.7 I ddatrys yr her uchod, bydd y Bil Diddymu Mawr yn rhoi pŵer i gywiro’r llyfr statud lle bydd hynny’n angenrheidiol ac i ddatrys problemau sy’n deillio o ganlyniad i adael yr UE. Gwneir hyn gan ddefnyddio is-ddeddfwriaeth, a bydd yn gymorth i sicrhau ein bod wedi gwneud y cywiriadau angenrheidiol cyn y diwrnod y byddwn yn gadael yr UE.

3.8 Gall deddfwriaeth sylfaenol roi fframwaith y gall y Llywodraeth ei ddefnyddio i gynnig is-ddeddfwriaeth i’w chymeradwyo gan y Senedd. Yn y pen draw, y Senedd sy’n rhoi’r pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth a bydd y Senedd yn rheoli’r defnydd o’r pwerau hyn bob tro.

3.9 Pan fydd polisïau’r Llywodraeth yn cael eu rhoi ar waith drwy is-ddeddfwriaeth, mae’n bwysig gallu cyfiawnhau’r penderfyniad hwnnw. Mae amryw o resymau pam, mewn achos penodol, bod angen is-ddeddfwriaeth a pham na fyddai’n addas i’r cynnwys hwnnw fod mewn deddfwriaeth sylfaenol. Yng nghyd-destun y Bil Diddymu Mawr, mae’r rhesymau perthnasol dros ddefnyddio is-ddeddfwriaeth yn cynnwys y canlynol:

  • materion nad yw eu manylion yn hysbys neu a allai newid pan gaiff y ddeddfwriaeth sylfaenol ei phasio gan fod angen i’r Llywodraeth ganiatáu amser i’r trafodaethau ddatblygu;

  • addasiadau i bolisïau sy’n deillio’n uniongyrchol o adael yr UE; ac

  • rhoi lefel o fanylder nad yw’n briodol mewn deddfwriaeth sylfaenol.

3.10 Mewn adroddiad diweddar gan Bwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi ar y Cyfansoddiad, edrychwyd ar i ba raddau y gallai fod angen is-ddeddfwriaeth o dan y Bil. Yn ôl y Pwyllgor, dyma’r gwahaniaeth rhwng y weithred fwy mecanyddol o drosi cyfraith yr UE yn gyfraith y DU, a’r broses ddethol o ddiwygio cyfraith yr UE er mwyn rhoi polisïau newydd ar waith mewn meysydd a oedd cynt o fewn cymhwysedd yr UE. Credai’r Pwyllgor y dylid gwneud yr ail o’r pethau hyn drwy ddeddfwriaeth sylfaenol. [footnote 9] Er ei bod yn anochel bod elfen o ddethol wrth fwrw ati o dan y cyntaf o’r categorïau hyn, hyd yn oed, mae’r Llywodraeth yn cytuno mai diben y Bil Diddymu Mawr a’r is-ddeddfwriaeth berthnasol yw trosi cyfraith yr UE yn gyfraith y DU.

3.11 Yn yr achos penodol hwn, heb bwerau i ddatrys y math o broblemau y cyfeiriwyd atynt yn gynharach yn y bennod hon drwy is-ddeddfwriaeth, byddai angen darnau afresymol o fawr o ddeddfwriaeth sylfaenol i gywiro’r problemau hyn.

3.12 Yn amlwg, nid yw’n bosibl rhagweld ar hyn o bryd sut y caiff pob cyfraith ei chywiro, gan y gallai’r ateb mewn rhai meysydd polisi ddibynnu ar ganlyniadau’r trafodaethau. Waeth beth fydd canlyniadau’r trafodaethau hynny, bydd y pwerau yn y Bil yn sicrhau y gall y llyfr statud barhau i weithio, ac y gellir gwneud penderfyniadau er budd y genedl a hynny’n adlewyrchu cynnwys y Cytundeb Ymadael.

3.13 Dywedodd y Pwyllgor hefyd na fyddai’n realistig tybio y bydd modd i’r Senedd gyfyngu’n sylweddol ar y pwerau dirprwyedig a roddir o dan y Bil, gan y byddai gwneud hynny yn amharu’n ormodol ar allu’r Llywodraeth i addasu’r gyfraith a drosir o’r UE fel ei bod yn gweddu i amgylchiadau’r DU ar ôl gadael. Roedd y Pwyllgor yn cydnabod ymhellach y bydd yr amgylchiadau bron yn sicr o olygu y bydd angen rhoi pwerau dirprwyedig cymharol eang i ddiwygio cyfraith bresennol yr UE a deddfu ar gyfer y trefniadau newydd ar ôl Brexit. [footnote 10]


Beth yw is-ddeddfwriaeth a sut y mae’n cael ei defnyddio?

Ni ddylid camgymryd is-ddeddfwriaeth am ‘orchmynion gweithredol’ a roddir gan y Llywodraeth. Yn hytrach, mae’r defnydd o is-ddeddfwriaeth yn broses ddeddfu sydd wedi hen ennill ei phlwyf. Deddf Offerynnau Statudol 1946 sy’n llywodraethu’r modd y defnyddir offerynnau statudol, sy’n gategori o ddeddfwriaeth. Mae’r gweithdrefnau seneddol presennol yn galluogi’r Senedd i graffu ar gynifer neu gyn lleied o offerynnau statudol ag y gwêl yn dda. Gall y Senedd gynnal dadleuon a phleidleisio ar is-ddeddfwriaeth, ac mae’n gwneud hynny’n rheolaidd. Yn wir, mae darnau helaeth o gyfraith yr UE yn cael eu gweithredu o dan Ddeddf 1972 drwy is-ddeddfwriaeth; er nad yw Senedd y DU yn cymeradwyo rheoliadau’r UE o gwbwl, maent yn uniongyrchol berthnasol yng nghyfraith y DU. Bwriad y Llywodraeth yw y bydd y Bil Diddymu Mawr yn defnyddio’r gweithdrefnau sy’n bodoli’n barod ar gyfer delio ag offerynnau statudol.


3.14 Roedd y Pwyllgor hefyd yn gywir wrth ddweud y bydd angen sicrhau bod cyfyngiadau clir ar y defnydd o is-ddeddfwriaeth yng nghyd-destun gadael yr UE – at ba ddibenion y gellir ei defnyddio, y prosesau y mae’n rhaid eu dilyn, ac am ba mor hir y bydd y pwerau hyn ar gael.

3.15 Mae gweddill y bennod hon yn dangos y cyfyngiadau disgwyliedig a fydd ar y defnydd o’r pŵer dirprwyedig hwn. Bydd y Llywodraeth yn rhoi sicrwydd mwy penodol i’r Senedd ynghylch y cyfyngiadau ar y pŵer hwn wrth iddo ofyn am gael y pŵer hwnnw. Fodd bynnag, bydd angen cydbwyso hyn â’r angen i sicrhau bod y pŵer yn ddigon eang i wneud yr holl newidiadau angenrheidiol i’r llyfr statud o fewn yr amserlen sy’n deillio o’r broses o ymadael â’r UE.

Cwmpas y pwerau dirprwyedig a’r cyfyngiadau wrth eu defnyddio

3.16 Mae’n hanfodol bod gan y Llywodraeth y gallu i wneud yr holl gywiriadau angenrheidiol i’r llyfr statud cyn inni adael yr UE er mwyn sicrhau ein bod gadael mewn ffordd ddiffwdan a threfnus. Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen i’r pŵer i wneud y cywiriadau hyn alluogi newidiadau i holl gorff y gyfraith sydd wedi deillio o’r UE. O anghenraid, bydd hyn yn cynnwys deddfwriaeth sylfaenol yn ogystal ag is-ddeddfwriaeth sy’n rhoi ar waith ein rhwymedigaethau fel aelod o’r UE, yn ogystal â chyfraith yr UE sy’n uniongyrchol berthnasol ac a fydd yn cael ei throsi yn gyfraith ddomestig unwaith y byddwn yn gadael. Bydd hyn hefyd yn cynnwys pŵer i drosglwyddo i gyrff neu weinidogion yn y DU bwerau sydd wedi’u cynnwys yn y gyfraith sydd wedi deillio o’r UE ac sydd ar hyn o bryd yn cael eu harfer gan gyrff yr UE. Nid yw hyn yn golygu y bydd y pŵer yn eang o ran y ddeddfwriaeth y gall ei newid.

3.17 Felly, mae’n bwysig cyfyngu ar ddibenion defnyddio’r pŵer. Yn hollbwysig, byddwn yn sicrhau na fydd y pŵer ar gael pan fydd y Llywodraeth am newid polisïau os nad yw’r rheini’n ceisio delio â’r diffygion yn y cyfreithiau sy’n deillio o’r UE sy’n cael eu cadw ar ôl gadael yr UE. At hynny, byddwn yn ystyried y cyfyngiadau ar y pŵer dirprwyedig yn adran 2 o Ddeddf 1972 er mwyn asesu a fyddai cyfyngiadau o’r fath yn addas ar gyfer y pŵer newydd, er enghraifft i rwystro’r pŵer rhag cael ei ddefnyddio i wneud darpariaeth ôl-weithredol neu i osod trethi.

3.18 Mae cysylltiad hanfodol rhwng y pŵer a maint y ddeddfwriaeth sylfaenol: os yw’r pŵer yn rhy gyfyngedig, byddai angen gwneud llawer mwy o newidiadau i ddeddfwriaeth – newidiadau a fydd yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod polisïau a deddfwriaeth yn gweithredu’n ddiffwdan ar ôl gadael – drwy ddeddfwriaeth sylfaenol newydd cyn inni adael yr UE.

Y weithdrefn ar gyfer offerynnau statudol

3.19 Bydd sicrhau bod y gyfraith ddomestig yn gweithio wrth inni adael yr UE yn gryn her i’r Llywodraeth a’r Senedd yn sgil cymhlethdod y dasg a’r gwaith cynllunio y bydd angen ei wneud i ddelio â nifer o sefyllfaoedd posibl. Yn y ddwy Senedd ddiwethaf, gwnaed cyfartaledd o 1,338 (2005-10) a 1,071 (2010 15) o offerynnau statudol bob blwyddyn. [footnote 11] Nod cyfran o’r is-ddeddfwriaeth hon, fel ym mhob blwyddyn, oedd rhoi ar waith gyfraith yr UE. Rydym yn amcangyfrif ar hyn o bryd y bydd angen rhwng 800 a 1,000 o offerynnau statudol er mwyn gwneud y cywiriadau angenrheidiol i’r gyfraith. Mae hyn yn ychwanegol at yr offerynnau statudol hynny a fydd yn angenrheidiol at ddibenion eraill nad ydynt yn ymwneud â gadael yr UE. Yn y pen draw, fodd bynnag, nid yw’n bosibl bod yn bendant ar y cychwyn faint o ddeddfwriaeth y bydd ei hangen, gan y bydd hyn yn ddibynnol ar ganlyniadau’r trafodaethau â’r UE ac ar ffactorau eraill.

3.20 Bydd angen i’r Senedd fod yn fodlon bod y gweithdrefnau yn y Bil ar gyfer gwneud a chymeradwyo is-ddeddfwriaeth yn addas. Ac ystyried maint y newidiadau y bydd angen eu gwneud a’r amser cyfyngedig sydd ar gael i wneud hynny, bydd angen canfod cydbwysedd rhwng pwysigrwydd craffu a chyflymder y broses hon.

3.21 Bwriad y Llywodraeth yw defnyddio’r gweithdrefnau sy’n bodoli’n barod ar gyfer delio ag offerynnau statudol. Mae’r rhain yn caniatáu i’r Senedd weld pob offeryn statudol, gyda lefelau gwahanol o graffu. Y gweithdrefnau mwyaf cyffredin yw’r weithdrefn negyddol (pan na fydd angen cynnal dadl) a’r weithdrefn gadarnhaol (sy’n galw am gynnal dadl ac am gymeradwyaeth yn y ddau Dŷ). Mae pwyllgorau’r Senedd yn craffu ar offerynnau statudol gan edrych arnynt o safbwynt technegol ac o ran polisi. O dan y weithdrefn negyddol, gall aelodau’r naill Dŷ neu’r llall alw am gynnal dadl ac, os bydd angen, am bleidlais.

3.22 Bydd y Bil felly yn darparu ar gyfer defnyddio’r gweithdrefnau negyddol a chadarnhaol. [footnote 12] Mae’r dull mecanyddol a gaiff ei ddefnyddio i drosi cyfraith yr UE yn gyfraith y DU yn awgrymu y bydd nifer o offerynnau statudol yn dilyn y weithdrefn negyddol (er enghraifft, cael gwared ar y gofyniad i anfon adroddiadau ynghylch gweithgarwch caffael cyhoeddus yn y DU i’r Comisiwn). Efallai y byddai’r weithdrefn gadarnhaol yn addas ar gyfer y newidiadau mwyaf sylweddol.

3.23 Mae’r Llywodraeth yn ymwybodol bod angen sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng yr angen am graffu a’r angen i weithredu’n gyflym. Y Papur Gwyn hwn yw dechrau’r drafodaeth rhwng y Llywodraeth a’r Senedd ynghylch y dull mwyaf pragmatig ac effeithiol i’w ddilyn yn hyn o beth.

Cyfyngiadau amser

3.24 Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen gwneud y cywiriadau drwy offerynnau statudol cyn i’r DU adael yr UE, fel bod gennym lyfr statud sy’n gweithio ar y diwrnod y bydd y DU yn gadael. Bwriad y Llywodraeth felly yw y bydd y pŵer yn y Bil Diddymu Mawr yn dod i rym unwaith y bydd y Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol, er mwyn i’r broses o gywiro’r llyfr statud allu dechrau.

3.25 Gan y bydd modd a chan y bydd angen gwneud y rhan fwyaf o’r cywiriadau hyn cyn i’r DU adael yr UE, ni fydd angen i’r pwerau y bwriedir eu cynnwys yn y Bil bara am byth. Bydd y Llywodraeth felly yn sicrhau bod cyfyngiad amser ar y pŵer hwn i ddeddfu er mwyn gwneud y newidiadau angenrheidiol yn unig. [footnote 13]

Pennod 4: Y berthynas â’r setliadau datganoli

4.1 Mae trefniadau cyfansoddiadol domestig y Deyrnas Unedig wedi esblygu ers i’r DU ymuno â’r Gymuned Economaidd Ewropeaidd yn 1973. Cytunwyd ar y setliadau datganoli presennol ar ôl i’r DU ddod yn aelod o’r hyn sydd bellach yn Undeb Ewropeaidd, ac mae’r setliadau yn adlewyrchu’r cyd-destun hwnnw. Roedd y setliadau datganoli felly wedi’u seilio ar fod yn aelod o’r UE. Dyma pam fod y setliad yn pennu bod gan y gweinyddiaethau a’r deddfwrfeydd datganoledig y gallu i greu cyfreithiau mewn meysydd polisi datganoledig cyn belled â bod y gyfraith honno’n gydnaws â chyfraith yr UE.

4.2 Mewn meysydd lle mae gan y gweinyddiaethau a’r deddfwrfeydd datganoledig gymhwysedd, fel amaeth, yr amgylchedd a rhai materion trafnidiaeth, mae’r gweinyddiaethau a’r deddfwrfeydd datganoledig yn gyfrifol am weithredu’r fframweithiau polisi cyffredin a bennwyd gan yr UE. Ar lefel yr UE, mae Llywodraeth y DU yn cynrychioli holl fuddiannau’r DU yn y broses o greu’r fframweithiau cyffredin hynny, a cheir hefyd fframweithiau cyffredin wedyn yn y DU, gan gynnwys rhai i sicrhau bod y farchnad sengl y tu mewn i’r DU ei hun yn gweithio’n ddidrafferth. Pan fydd y DU yn gadael yr UE, bydd y pwerau y mae’r UE ar hyn o bryd yn eu harfer mewn perthynas â’r fframweithiau cyffredin yn dychwelyd i’r DU, gan alluogi cynrychiolwyr sydd wedi’u hethol yn ddemocrataidd yn y DU i bennu’r rheolau hyn.

4.3 Wrth i’r pwerau ddychwelyd o’r UE, bydd yn bwysig sicrhau nad ydym yn tanseilio sefydlogrwydd a sicrwydd, a bod y farchnad sengl yn y DU yn parhau i weithio’n effeithiol. Er enghraifft, gallai fod angen fframweithiau cyffredin drwy’r DU er mwyn diogelu rhyddid busnesau i weithredu ar draws y farchnad sengl yn y DU ac i alluogi’r DU i lunio cytundebau masnach rydd gyda gwledydd eraill. Yr egwyddor a fydd yn ein llywio yw na ddylid creu rhwystrau newydd i fyw a chynnal busnes o fewn ein Hundeb ein hunain wrth inni adael yr UE.

4.4 Er mwyn rhoi cymaint o sicrwydd cyfreithiol a gweinyddol â phosibl wrth adael yr UE, ac yn gyson â’r dull mwy cyffredinol o ddeddfu ar gyfer gadael, mae’r Llywodraeth yn bwriadu ail-greu’r fframweithiau presennol y mae rheolau’r UE yn darparu ar eu cyfer, a hynny yn neddfwriaeth y DU. Ar yr un pryd, byddwn yn dechrau trafodaethau dwys â’r gweinyddiaethau datganoledig er mwyn canfod pryd y bydd angen cadw fframweithiau cyffredin yn y dyfodol, sut y dylai’r rhain edrych, a phryd na fydd angen fframweithiau cyffredin drwy’r DU i gyd. Tra bo’r trafodaethau hyn â’r gweinyddiaethau datganoledig yn mynd rhagddynt, byddwn yn ceisio cyfyngu cymaint ag y bo modd ar unrhyw newidiadau i’r fframweithiau dan sylw. Byddwn yn gweithio’n agos â’r gweinyddiaethau datganoledig i fwrw ati mewn ffordd sy’n gweithio i’r Deyrnas Unedig gyfan ac i bob rhan ohoni.

4.5 Bydd hwn yn gyfle i benderfynu ar y lefel orau i wneud penderfyniadau ar y materion hyn, gan sicrhau bod pŵer yn nes at bobl y DU nag erioed o’r blaen. Mae’r Llywodraeth yn disgwyl y bydd pwerau pob gweinyddiaeth ddatganoledig i wneud penderfyniadau yn cynyddu’n sylweddol yn sgil y broses hon.

4.6 Wrth inni adael yr UE, bydd angen diwygio hefyd ddeddfwriaeth sydd o fewn cymhwysedd y deddfwrfeydd neu weinidogion datganoledig pan fydd y ddeddfwriaeth honno’n rhoi effaith i gyfraith yr UE. Rydym felly yn cynnig y bydd y Bil yn rhoi i weinidogion datganoledig bŵer i ddiwygio deddfwriaeth ddatganoledig er mwyn cywiro cyfreithiau na fydd yn gweithio’n iawn bellach, yn unol â’r pwerau y bwriadwn i weinidogion y DU eu cael.

Pennod 5: Y Tiriogaethau Dibynnol ar y Goron a’r Tiriogaethau Tramor

5.1 Nid yw’r Tiriogaethau Dibynnol ar y Goron na’r Tiriogaethau Tramor, gan gynnwys Gibraltar, yn rhan o’r DU at ddibenion cyfraith yr UE, ac nid ydynt ychwaith yn aelodau ar wahân o’r UE. Fodd bynnag, mae ganddynt fathau gwahanol o statws arbennig o dan gytuniadau’r UE.

5.2 Y Tiriogaethau Dibynnol ar y Goron yw Beilïaeth Jersey, Beilïaeth Guernsey ac Ynys Manaw. Mae eu perthynas â’r UE wedi’i amlinellu ym Mhrotocol 3 i Ddeddf Ymaelodi 1972 y DU. Fel rheol gyffredinol, nid yw’r Tiriogaethau Dibynnol ar y Goron wedi’u rhwymo gan gyfraith yr UE, ond maent yn rhan o diriogaeth dollau’r UE. O ganlyniad, mae materion sy’n ymwneud â thollau’r UE, y tariff allanol cyffredin, ardollau, cyfyngiadau meintiol ac unrhyw gamau eraill sy’n cael effaith gyfatebol yn berthnasol yn y Tiriogaethau Dibynnol ar y Goron. Mae modd i nwyddau amaethyddol a chynhyrchion sy’n deillio ohonynt symud yn rhydd rhwng yr ynysoedd hyn â’r UE.

5.3 Yn unigryw ymhlith y Tiriogaethau Tramor, mae cyfraith yr UE ar y cyfan yn berthnasol yn Gibraltar. O dan Erthygl 355(3) o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd, mae’r cytuniadau yn berthnasol i Gibraltar fel tiriogaeth Ewropeaidd, gyda’r DU yn gyfrifol am ei chysylltiadau allanol. Ond mae rhai eithriadau pwysig, ac nid yw darpariaethau penodol yng nghyfraith yr UE yn berthnasol i Gibraltar o dan Ddeddf Ymaelodi 1972 y DU. Mae’r rhain yn cynnwys y darpariaethau ar symud nwyddau yn rhydd, y polisi masnach cyffredin, y polisi amaethyddol cyffredin, y polisi pysgodfeydd cyffredin, a rheolau ar dreth ar werth a threthi eraill sy’n ymwneud â throsiant. Mae Gibraltar hefyd y tu allan i’r diriogaeth dollau gyffredin ac felly nid yw rheolau’r UE ar dollau yn berthnasol yno.

5.4 Mae cytuniadau’r UE yn berthnasol i raddau cyfyngedig iawn ynn Nhiriogaethau Tramor eraill y DU (sydd â statws cyswllt o dan Ran IV ac Atodiad II i’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd) ac Ardaloedd y Ganolfan Sofran ar Cyprus. Am y rheswm hwnnw nid yw’r materion sy’n cael sylw yn y Papur Gwyn hwn ynghylch cadw cyfraith yr UE yn berthnasol i’r tiriogaethau hynny i’r un graddau ag y maent i’r Tiriogaethau Dibynnol ar y Goron a Gibraltar.

5.5 Er bod Deddf 1972 yn berthnasol i Gibraltar a’r Tiriogaethau Dibynnol ar y Goron at ddibenion penodol, mae gan bob tiriogaeth ei deddfwriaeth ei hun i roi effaith i gyfraith yr UE sy’n berthnasol iddi.

5.6 Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i ymwneud â’r Tiriogaethau Dibynnol ar y Goron, Gibraltar a’r Tiriogaethau Tramor eraill wrth inni adael yr UE. Byddwn yn parhau i’w cynnwys yn llawn yn ein gwaith, yn parchu eu buddiannau ac yn ceisio’u barn wrth inni ddechrau ar y trafodaethau, gan gryfhau’r cysylltiadau rhyngom wrth inni greu perthynas newydd â’r UE a throi’n golygon at y byd. Mae hyn yn cynnwys trafodaethau technegol ynghylch unrhyw oblygiadau i’w hawdurdodaethau yn sgil y Bil Diddymu Mawr.

Atodiad A: Cyfraith yr UE yn y DU

A.1 Yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ceisio’i wneud wrth gadw cyfraith yr UE yw sicrhau bod holl gyfreithiau’r UE sy’n uniongyrchol berthnasol yn y DU a phob cyfraith sydd wedi’i gwneud yn y DU er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau fel aelod o’r UE yn cael eu trosi yn gyfraith ddomestig ar y diwrnod y byddwn yn gadael yr UE, yn unol â’r eithriadau a nodir yn y papur hwn. Mae’r bennod hon yn disgrifio gwahanol elfennau cyfraith yr UE yn y DU.

Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972

A.2 Mae Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (Deddf 1972) yn rhoi effaith i rwymedigaethau’r DU fel aelod o’r UE ac yn sicrhau mai cyfraith yr UE sydd oruchaf yn y DU. Caiff Deddf 1972 ei diddymu ar y diwrnod y byddwn yn gadael yr UE, gan ddychwelyd pŵer i Senedd y DU.

A.3 Fel y disgrifiwyd ym Mhennod 2, mae rhai mathau o gyfraith yr UE (fel rheoliadau’r UE a phenderfyniadau penodol) yn uniongyrchol berthnasol yn system gyfreithiol y DU. Darperir ar gyfer hyn yn adran 2(1) o Ddeddf 1972. Mae’n rhaid rhoi effaith yn y DU i fathau eraill o gyfreithiau’r UE, fel cyfarwyddebau, drwy basio cyfreithiau cenedlaethol. Mae adran 2(2) o Ddeddf 1972 yn rhoi pŵer i weinidogion wneud is-ddeddfwriaeth at ddibenion cyflawni’r rhwymedigaethau hyn sy’n deillio o fod yn aelod o’r UE.

A.4 Weithiau rhoddir effaith i gyfreithiau’r UE yng nghyfraith y DU drwy ddefnyddio deddfwriaeth sylfaenol neu drwy ddefnyddio pwerau eraill i wneud is-ddeddfwriaeth, yn hytrach na thrwy is-ddeddfwriaeth sy’n dibynnu ar y pwerau yn adran 2(2) o Ddeddf 1972. Mae gweinidogion yn y gweinyddiaethau datganoledig hefyd yn arfer pwerau i weithredu cyfraith yr UE yn y meysydd polisi y mae ganddynt gyfrifoldeb drostynt. Is-ddeddfwriaeth yw’r dull mwyaf cyffredin y bydd Senedd y DU yn ei ddefnyddio i drosi cyfarwyddebau’r UE yn gyfraith.

Cytuniadau’r UE

A.5 Cytuniadau’r UE yw lefel uchaf cyfraith yr UE. Maent yn diffinio pryd y mae gan yr UE hawl i weithredu, i ba raddau, a sut. Maent hefyd yn cynnwys rheolau gweithdrefnol ynghylch sut y mae’r UE yn gweithredu a’r rheolau sylfaenol, megis yr hawl sydd gan ddinasyddion yr UE i symud yn rhydd. Mae cytuniadau’r UE hefyd yn nodi’r meysydd hynny lle gall yr UE wneud cyfreithiau mwy penodol: yr enw ar hyn yw ‘cymhwysedd’ yr UE.

A.6 Y ddau brif gytuniad yw’r Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd a’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd. Mae rhai o ddarpariaethau’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd yn ddigon clir, pendant a diamwys fel eu bod yn rhoi hawliau yn uniongyrchol i unigolion. Cyfeirir at y rhain fel darpariaethau yn y cytuniadau sy’n ‘uniongyrchol berthnasol’ neu rai sy’n ‘cael effaith yn uniongyrchol’. Nid yw darpariaethau eraill yn y cytuniadau yn rhoi hawliau’n uniongyrchol. Yn hytrach, maent yn rhoi pŵer i’r UE fabwysiadu deddfwriaeth sy’n rhoi effaith i ddarpariaethau’r cytuniadau.

Yr egwyddor mai cyfraith yr UE sydd oruchaf

A.7 Un o brif egwyddorion cyfraith yr UE yw mai’r gyfraith honno sydd oruchaf, a hynny’n golygu bod ganddi statws cyfraith uwch yn aelod-wladwriaethau’r UE. Rhaid i gyfreithiau cenedlaethol ildio ac ni fyddant yn berthnasol yn y llysoedd domestig os ydynt yn anghyson â chyfraith yr UE. Serch hynny, mae Senedd y DU yn sofran. Egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE

A.8 Mae egwyddorion cyffredinol yn rhan o gyfraith yr UE a rhaid i sefydliadau’r UE a’r aelod-wladwriaethau gydymffurfio â’r rheini. Mae Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd a’r llysoedd domestig yn dilyn yr egwyddorion cyffredinol hyn wrth benderfynu pa mor gyfreithlon yw camau deddfwriaethol a gweinyddol o fewn cwmpas cyfraith yr UE, ac maent yn gymorth hefyd i ddehongli cyfraith yr UE. Er enghraifft, ymhlith yr egwyddorion cyffredinol y mae’r egwyddor sy’n rhwystro ôl-weithredu (h.y. yr egwyddor nad yw cyfraith yr UE yn gallu cael effaith ôl-weithredol) a’r egwyddor sy’n diogelu disgwyliadau pan fydd penderfyniad gweinyddol, er enghraifft, yn cael ei ganslo neu ei ddiddymu.

A.9 Ar hyn o bryd, gellir herio a datgymhwyso cyfreithiau’r DU sydd o fewn cwmpas cyfraith a deddfwriaeth yr UE (fel cyfarwyddebau) os nad ydynt yn cydymffurfio â’r egwyddorion cyffredinol.

Y Siarter Hawliau Sylfaenol

A.10 Mae’r Siarter Hawliau Sylfaenol yn pennu ‘hawliau sylfaenol yr UE’, sef egwyddorion cyffredinol yng nghyfraith yr UE sydd wedi’u cydnabod dros gyfnod o amser drwy gyfraith achosion Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd, a’r rheini wedi’u hamlinellu yn y Siarter a ddaeth i rym yn 2009. Mae’r siarter yn cynnwys 50 o hawliau ac egwyddorion, nifer ohonynt yn ailadrodd yr hyn a geir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a chytuniadau rhyngwladol eraill.

Cyfarwyddebau, rheoliadau a phenderfyniadau

A.11 O dan y cytuniadau, mae’r UE yn mabwysiadu cyfarwyddebau, rheoliadau a phenderfyniadau gan ddefnyddio’r pwerau a chan ddilyn y gweithdrefnau y darperir ar eu cyfer yng nghytuniadau’r UE.

A.12 Mae rheoliadau yn cynnwys rheolau cyfreithiol manwl. Unwaith y byddant wedi’u gwneud, mae i’r rheoliadau rym cyfreithiol yn y DU a thrwy’r UE. Dim ond yn achlysurol y bydd rheoliadau yn gofyn i aelod-wladwriaethau greu eu rheolau cyfreithiol eu hunain er mwyn rhoi’r effaith gyfreithiol angenrheidiol i’r rheoliadau hynny. Er enghraifft, ymhlith rheoliadau’r UE mae Rheoliad Rhif 1143/2014 (EU) ar atal a rheoli cyflwyniad a lledaeniad rhywogaethau goresgynnol estron a Rheoliad Rhif 726/2004 (EC) sy’n creu gweithdrefnau ar gyfer awdurdodi a goruchwylio cynnyrch meddyginiaethol at ddefnydd dynol a milfeddygol a sefydlu Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd.

A.13 Mae cyfarwyddebau yn creu fframweithiau cyfreithiol y mae’n rhaid i aelod-wladwriaethau eu dilyn, ond gall yr aelod-wladwriaeth unigol benderfynu sut yn union i wneud hynny’n rhan o’i chyfraith hi. Felly, unwaith y bydd cyfarwyddeb wedi’i chreu yn yr UE, mae pob aelod-wladwriaeth wedi’i rhwymo i greu cyfreithiau cenedlaethol a fydd yn rhoi effaith i’r gyfarwyddeb honno, ond gall ddewis sut y mae’n dymuno gwneud hynny.

A.14 Mae’r DU wedi rhoi effaith i gyfarwyddebau mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma’r prif ddulliau:

  • Deddfwriaeth sylfaenol. Er enghraifft, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cynnwys darpariaethau sy’n rhoi effaith i amrywiaeth o gyfarwyddebau gan gynnwys Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/78/EC, sy’n sefydlu fframwaith cyffredinol ar gyfer trin pobl yn gyfartal mewn cyflogaeth a swyddi, a Chyfarwyddeb y Cyngor 2000/43/EC, sy’n rhoi ar waith yr egwyddor y caiff pobl eu trin yn gyfartal waeth beth yw tarddiad eu hil neu eu hethnigrwydd.

  • Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan adran 2(2) o Ddeddf 1972. Er enghraifft, mae Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012 (S.I. 2012/3118) yn rhoi effaith i rannau o Gyfarwyddeb 2010/31/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch perfformiad ynni adeiladau.

  • Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan ddarnau eraill o ddeddfwriaeth sylfaenol. Er enghraifft, mae Rheoliadau Rheilffyrdd a Systemau Trafnidiaeth Eraill a Arweinir (Diogelwch) 2006, sy’n cynnwys darpariaethau ar gyfer rhoi ar waith elfennau penodol o Gyfarwyddeb 2004/49/EC (y Gyfarwyddeb Rheilffyrdd Diogel), wedi’u gwneud o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974 yn hytrach nag o dan adran 2(2) o Ddeddf 1972.

A.15 Gall yr UE hefyd wneud penderfyniadau sy’n rhwymo. Gall y penderfyniadau hyn fod yn berthnasol i barti neu bartïon penodol, a all gynnwys unigolion (gan gynnwys cwmnïau) neu aelod-wladwriaethau. Er enghraifft, mae gan y Comisiwn bwerau i wneud penderfyniadau sy’n rhwymo er mwyn gorfodi rheolau cystadleuaeth. [footnote 14]

A.16 O dan y rheoliadau, y penderfyniadau a’r cyfarwyddebau a wneir drwy ddefnyddio un o weithdrefnau deddfu’r UE, gall yr UE hefyd gyflwyno mesurau sy’n atodol ac yn diwygio’r rheolau yn y cyfarwyddebau, y rheoliadau neu’r penderfyniadau hynny, neu fesurau sy’n eu gweithredu. Gelwir mesurau o’r fath yn weithredoedd ‘dirprwyedig’ neu’n weithredoedd ar gyfer ‘gweithredu’ yn y drefn honno. Er enghraifft, o dan Erthygl 4 o Reoliad Rhif 1143/2014 (EU) ar atal a rheoli cyflwyniad a lledaeniad rhywogaethau goresgynnol estron, mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi mabwysiadu gweithredoedd ar gyfer ‘gweithredu’ sy’n rhestru’r rhywogaethau o blanhigion sydd wedi’u hasesu yn rhywogaethau goresgynnol estron at ddibenion y Rheoliad hwnnw.

Cyfraith achosion yr UE

A.17 Yn ogystal ag offerynnau cyfreithiol yr UE a ddisgrifir uchod, mae cyfraith achosion Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn rhan o gyfraith yr UE. Mae gan y Llys Cyfiawnder awdurdodaeth i wneud penderfyniadau ynghylch sut y dehonglir cytuniadau’r UE a’r modd y maent yn berthnasol. Yn benodol, mae gan y Llys awdurdodaeth i wneud penderfyniadau ynghylch dilysrwydd gweithredoedd yr UE, ynghylch achosion sy’n cael eu dwyn gan y Comisiwn yn erbyn aelod-wladwriaethau am dorri cyfraith Ewropeaidd, ac ynghylch achosion a gyfeirir ato gan lysoedd cenedlaethol wrth geisio dehongli cyfraith yr UE.

Argymhellion a barn

A.18 Mae argymhellion a barn yn fathau o ddeddfiadau cyfreithiol sy’n cael eu gwneud gan sefydliadau’r UE heb i’r rheini rwymo neb. Nid ydynt yn rhwymo’r aelod-wladwriaethau ond gall y llysoedd domestig eu defnyddio i’w helpu i ddehongli cyfraith yr UE.

Geirfa

Deddf Seneddol

Cyfraith yw Deddf Seneddol y bydd dau Dŷ’r Senedd wedi cytuno iddi. Caiff ei gorfodi ym mhob rhan o’r DU lle mae’n berthnasol.

Bil

Cynnig ar gyfer cyfraith newydd neu i ddiwygio cyfraith sy’n bodoli’n barod, a hwnnw wedi’i gyflwyno i’r Senedd i’w ystyried. Unwaith y cytunir arno a’i droi’n gyfraith, daw’n Ddeddf.

Y Siarter Hawliau Sylfaenol

Mae’r Siarter Hawliau Sylfaenol yn amlinellu ‘hawliau sylfaenol yr UE’, sef term a ddefnyddir i ddisgrifio hawliau dynol fel y cydnabyddir y rheini yng nghyfraith yr UE. Egwyddorion cyffredinol yng nghyfraith yr UE yw’r hawliau sylfaenol sydd wedi’u cydnabod dros gyfnod o amser drwy gyfraith achosion Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd, a’r rheini wedi’u hamlinellu yn y Siarter a ddaeth i rym yn 2009. Mae’r Siarter yn cynnwys 50 o hawliau ac egwyddorion, nifer ohonynt yn ailadrodd yr hyn a geir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a chytuniadau rhyngwladol eraill. Gweler Erthygl 6 o’r Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd.

Dod i rym

Y broses sy’n rhoi effaith gyfreithiol i Ddeddf Seneddol, is-ddeddfwriaeth neu offeryn cyfreithiol arall. Gellir dibynnu ar y gyfraith dan sylw o’r dyddiad y daw i rym, ond nid cyn hynny. Gelwir hyn hefyd yn ddyddiad ‘cychwyn’ y gyfraith.

Cymhwysedd

Cymhwysedd yw pob maes lle mae’r cytuniadau yn rhoi’r gallu i’r UE weithredu, gan gynnwys y darpariaethau yn y cytuniadau sy’n rhoi’r pŵer i sefydliadau’r UE ddeddfu, mabwysiadu gweithredoedd nad ydynt ddeddfwriaethol, neu gymryd unrhyw fath o gamau eraill. Mae hefyd yn golygu y meysydd lle mae’r cytuniadau’n uniongyrchol berthnasol i’r aelod-wladwriaethau heb fod angen rhagor o gamau gan sefydliadau’r UE. Mae cymhwysedd yr UE wedi’i amlinellu yng nghytuniadau’r UE, a’r rheini’n rhoi’r sail ar gyfer unrhyw gamau y bydd sefydliadau’r UE yn eu cymryd. Dim ond o fewn y cymhwysedd sydd ganddi yn sgil y cytuniadau y gall yr UE weithredu, ac os nad yw’r cytuniadau yn rhoi cymhwysedd i’r UE, mae’r cymhwysedd yn y maes hwnnw gan yr aelod-wladwriaethau eu hunain. Gweler Erthygl 5(2) o’r Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd.

Cyfraith sy’n deillio o’r UE sydd wedi’i throsi

Cyfreithiau’r UE a oedd yn berthnasol yn y DU yn syth cyn i’r DU adael yr UE, a’r rheini wedi’u trosi yn gyfraith ddomestig drwy’r Bil Diddymu Mawr.

Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd

Mae gan y Llys Cyfiawnder awdurdodaeth i wneud penderfyniadau ynghylch sut y dehonglir y cytuniadau a’r modd y maent yn berthnasol. Yn benodol, mae gan y Llys awdurdodaeth i wneud penderfyniadau ynghylch dilysrwydd camau’r UE, ynghylch achosion sy’n cael eu dwyn gan y Comisiwn yn erbyn aelod-wladwriaethau am dorri cyfraith Ewropeaidd, ac ynghylch achosion a gyfeirir ato gan lysoedd cenedlaethol wrth geisio dehongli cyfraith yr UE. Mae gan y Llys ddau is-lys: y Llys Cyffredinol a’r Llys Cyfiawnder (a elwir weithiau yn Llys Cyfiawnder Ewrop). Gweler Erthygl 19 o’r Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd ac Erthyglau 251 i 281 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.

Penderfyniad

Darn o gyfraith gan yr UE sy’n rhwymo’r rheini y mae’n berthnasol iddynt. Os nad yw penderfyniad yn benodol berthnasol i neb, mae’n rhwymo pawb. Gweler Erthygl 288 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd. Gweithred Ddirprwyedig Math o offeryn dirprwyedig gan yr UE. Gall darn o gyfraith, fel cyfarwyddeb neu reoliad, ddirprwyo pŵer i’r Comisiwn allu mabwysiadu gweithredoedd dirprwyedig er mwyn cyflwyno mesurau sy’n atodol neu’n diwygio’r gyfraith honno, ond heb i’r mesurau hynny fod yn hanfodol. Gweler Erthygl 290 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.

Cyfarwyddeb

Darn o gyfraith gan yr UE sy’n ei gwneud yn ofynnol i aelod-wladwriaethau gyflawni canlyniad penodol, ond heb ragnodi sut y dylent wneud hynny. Rhaid trosi cyfarwyddebau yn gyfraith genedlaethol drwy ddeddfwriaeth ddomestig, yn wahanol i reoliadau, gan fod modd gorfodi’r rheini ar eu pennau’u hunain. Gweler Erthygl 288 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.

Asiantaethau’r UE

Mae asiantaethau’r UE yn endidau cyfreithiol (ar wahân i sefydliadau’r UE) a sefydlwyd i gyflawni tasgau penodol o dan gyfraith yr UE. Maent yn cynnwys cyrff fel yr Asiantaeth Meddyginiaethau Ewropeaidd, y Swyddfa Heddlu Ewropeaidd (Europol) ac Asiantaeth Rheilffyrdd yr Undeb Ewropeaidd.

Sefydliadau’r UE

Ceir nifer o gyrff yn yr UE sy’n cael eu diffinio o dan y cytuniadau fel sefydliadau’r UE. Maent yn cynnwys Senedd Ewrop, y Cyngor Ewropeaidd, Cyngor yr Undeb Ewropeaidd a’r Comisiwn Ewropeaidd.

Cytuniadau’r UE (gan gynnwys y Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd a’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd)

Sefydlwyd y Gymuned Economaidd Ewropeaidd gan Gytuniad Rhufain 1957. Mae’r Cytuniad hwn ers hynny wedi’i ddiwygio gan nifer o gytuniadau, a’r rheini wedi ychwanegu ato. Y diweddaraf o’r rhain oedd Cytuniad Lisbon. Roedd Cytuniad Lisbon, a ddaeth i rym ar 1 Rhagfyr 2009, yn aildrefnu’r ddau gytuniad a ddefnyddiwyd i sefydlu’r Undeb Ewropeaidd: y Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd, a’r Cytuniad ar Sefydlu’r Gymuned Ewropeaidd. Ailenwyd y diwethaf yn Gytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.

Y Comisiwn Ewropeaidd

Y Comisiwn yw prif gorff gweithredol yr UE. Mae ganddo swyddogaethau gweithredol a rheoli cyffredinol. Yn y rhan fwyaf o achosion, gan y Comisiwn yn unig y mae’r hawl i gynnig deddfwriaeth yn yr UE. Mewn sawl maes mae’n trafod cytundebau rhyngwladol ar ran yr UE ac yn cynrychioli’r UE ar sefydliadau rhyngwladol. Mae’r Comisiwn hefyd yn goruchwylio ac yn gorfodi’r modd y caiff cyfraith yr UE ei rhoi ar waith, yn benodol drwy ddwyn achosion yn erbyn aelod-wladwriaethau os na fydd yn credu bod y rheini wedi cydymffurfio â’u rhwymedigaethau fel aelodau o’r UE. Gweler Erthygl 17 o’r Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd ac Erthyglau 244 i 250 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.

Y Confensiwn Ewropeaidd ar

Confensiwn rhyngwladol a gadarnhawyd gan y Deyrnas

Hawliau Dynol

Unedig a’i ymgorffori yng nghyfraith y DU drwy Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Mae’n amlinellu rhestr o hawliau dynol sy’n cael eu gwarchod, ac yn sefydlu Llys (y Llys Hawliau Dynol Ewrop yn Strasbourg) sy’n penderfynu ar achosion o weithredu sy’n groes i’r hawliau hynny. Mae pob aelod-wladwriaeth yn rhan o’r Confensiwn. Confensiwn sy’n perthyn i’r Cyngor Ewropeaidd yw hwn, sy’n sefydliad ar wahân i’r UE. Mae Erthygl 6 o’r Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd yn darparu bod yr UE yn ymaelodi â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Y Cyngor Ewropeaidd

Y Cyngor Ewropeaidd sy’n diffinio cyfeiriad gwleidyddol a blaenoriaethau cyffredinol yr UE. Mae’n cynnwys penaethiaid y gwladwriaethau neu benaethiaid llywodraethau’r aelod-wladwriaethau, ynghyd â’i Lywydd a Llywydd y Comisiwn. Gweler Erthygl 15 o’r Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd ac Erthyglau 235 i 236 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.

Senedd Ewrop

Cynrychiolwyr a etholwyd gan ddinasyddion yr UE sy’n creu Senedd Ewrop. Mae’r Senedd yn rhannu pŵer deddfwriaethol a chyllidebol â’r Cyngor, ac mae’n gyfrifol am oruchwylio gweithredoedd y Comisiwn. Gweler Erthygl 14 o’r Cytuniad ar yr Undeb Ewropeaidd ac Erthyglau 223 i 234 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.

Gweithredoedd ar gyfer gweithredu

Math o offeryn dirprwyedig gan yr UE. Gall darn o ddeddfwriaeth, fel cyfarwyddeb neu reoliad, alluogi’r Comisiwn (ac mewn rhai achosion y Cyngor) i fabwysiadu gweithredoedd ar gyfer ‘gweithredu’ pan fydd angen creu amodau cyson ar gyfer gweithredu’r darn hwnnw o ddeddfwriaeth. Gweler Erthygl 291 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.

Rheoliad

Darn o gyfraith gan yr UE sy’n uniongyrchol berthnasol yn yr aelod-wladwriaethau heb fod angen deddfwriaeth genedlaethol i’w gweithredu (yn wahanol i gyfarwyddebau, lle mae angen i aelod-wladwriaethau eu trosi yn gyfraith genedlaethol drwy ddeddfwriaeth ddomestig). Gweler Erthygl 288 o’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.

Is-ddeddfwriaeth

Offerynnau cyfreithiol (gan gynnwys rheoliadau a gorchmynion) a wneir o dan bwerau a ddirprwyir i weinidogion neu ddeiliaid swyddi eraill mewn Deddfau Seneddol. Mae iddynt rym y gyfraith ond gall llys benderfynu nad ydynt yn berthnasol os nad ydynt yn cydymffurfio â’r hyn sydd yn y Ddeddf a ddefnyddiwyd i’w creu. Fe’i gelwir hefyd yn ddeddfwriaeth ddirprwyedig.

Y llyfr statud

Y corff o ddeddfwriaeth y mae’r Senedd neu un o’r deddfwrfeydd datganoledig wedi’i greu, a chanddo effaith yn y DU.

Offeryn statudol

Math o is-ddeddfwriaeth y mae Deddf Offerynnau Statudol 1946 yn berthnasol iddi.

7867, 16 Ionawr 2017, tudalen 6, http://researchbriefings.files.parliament.uk/documents/CBP-7867/CBP-7867.pdf

juris/liste.jsf?language=en&num=C-173/99

Llyfrgell T^y’r Cyffredin SN06509, ar gael yn ‘Statutory Instruments’, Papur Briffio Llyfrgell T^y’r Cyffredin Rhif 06509, 15 Rhagfyr 2016. http://researchbriefings.files.parliament.uk/documents/SN06509/SN06509.pdf

  1. The ‘Great Repeal Bill’ and delegated powers’, Pwyllgor Dethol T y^’r Arglwyddi ar y Cyfansoddiad, 9fed Adroddiad Sesiwn 2016-17, 7 Mawrth 2017, tudalen 13, https://www.publications.parliament.uk/pa/ld201617/ldselect/ldconst/123/123.pdf 

  2. Chwiliad drwy EUR-Lex ar 28 Mawrth 2017: http://eur-lex.europa.eu/search. html?qid=1490700962298&VV=true&DB_TYPE_OF_ACT=allRegulation&DTC=false&DTS_DOM=EU_ LAW&typeOfActStatus=ALL_REGULATION&type=advanced&lang=en&SUBDOM_INIT=LEGISLATION&DTS_ SUBDOM=LEGISLATION 

  3. ‘Legislating for Brexit: Statutory Instruments implementing EU law’, Papur Ymchwil Llyfrgell T y^’r Cyffredin 

  4. ‘How much legislation comes from Europe?’, Papur Ymchwil Llyfrgell T y^’r Cyffredin 10/62, 13 Hydref 2010, tudalen 19, http://researchbriefings.files.parliament.uk/documents/RP10-62/RP10-62.pdf 

  5. Achos C-173/99 BECTU v Secretary of State Trade and Industry [2001] ECR I-4881, http://curia.europa.eu/ 

  6. Gweler Rheoliad 6(2)(b) o Reoliadau Gweithgareddau Petroliwm ar y Môr (Cadwraeth Cynefinoedd) 2001 (S.I.2001/1754), http://www.legislation.gov.uk/uksi/2001/1754/contents/made 

  7. Rheoliad 1365/2006 (EC) Senedd Ewrop a’r Cyngor, 6 Medi 2006, ynghylch ystadegau am gludo nwyddau ar ddyfrffyrdd mewnol a diddymu Cyfarwyddeb 80/1119/EEC y Cyngor, http://eur-lex.europa.eu/legal-content/EN/ TXT/PDF/?uri=CELEX:32006R1365 

  8. Mae hyn wedi’i seilio ar waith cychwynnol adrannau’r Llywodraeth wrth edrych drwy lyfr statud y DU 

  9. ‘The ‘Great Repeal Bill’ and delegated powers’, Pwyllgor Dethol Ty^’r Arglwyddi ar y Cyfansoddiad, 9fed Adroddiad Sesiwn 2016-17, 7 Mawrth 2017, tudalen 10 https://www.publications.parliament.uk/pa/ld201617/ ldselect/ldconst/123/123.pdf 

  10. ‘The ‘Great Repeal Bill’ and delegated powers’, Pwyllgor Dethol Ty^’r Arglwyddi ar y Cyfansoddiad, 9fed Adroddiad Sesiwn 2016-17, 7 Mawrth 2017, tudalennau 16 ac 17 https://www.publications.parliament.uk/pa/ ld201617/ldselect/ldconst/123/123.pdf 

  11. Mae’r ffigurau cyfartalog hyn ar gyfer offerynnau statudol San Steffan sy’n destun craffu a gweithdrefn seneddol benodol 

  12. Mae’r gwahanol fathau o weithdrefnau craffu ar gyfer offerynnau statudol yn cael eu disgrifio yn nodyn 

  13. Cyfeiriodd y Fonesig Fookes (Cadeirydd Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddio T^y’r Arglwyddi) at bwysigrwydd rhoi cyfyngiad amser ar bwerau dirprwyedig mewn sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd gan Bwyllgor Cyfansoddiad yr Arglwyddi ar 25 Ionawr 2017, fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i’r broses ddeddfu: http://data.parliament.uk/writtenevidence/committeeevidence.svc/evidencedocument/constitution-committee/ legislative-process/oral/46201.htm, Q131 

  14. Gweler, er enghraifft, y penderfyniadau a fabwysiadodd y Comisiwn yn 2007 mewn perthynas â rhai gweithgynhyrchwyr ceir – http://eur-lex.europa.eu/legal-content/EN/TXT/ PDF/?uri=CELEX:32007D0788&from=EN