Canllawiau

Atodiad B - Astudiaethau Achos

Diweddarwyd 6 October 2023

1. Astudiaeth achos 1: Newidiadau yn y gweithle yn seiliedig ar gyngor gweithiwr gofal iechyd proffesiynol – Gweithio o gartref

Mae prawf-ddarllenydd mewn cwmni cyhoeddi yn derbyn nodyn ffitrwydd gan weithiwr sy’n dweud bod ganddynt annwyd a ffibrosis systig. Ar y nodyn ffitrwydd, mae’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi cynghori ‘efallai eu bod yn ffit’ i weithio ac wedi ticio’r blwch addasu i’r gweithle. Mae’r nodyn ffitrwydd yn cwmpasu cyfnod o 10 diwrnod, ac mae’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi nodi nad oes angen iddynt weld y gweithiwr unwaith y daw’r nodyn ffitrwydd i ben.

Mae cyngor pellach y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ym mlwch sylwadau’r nodyn ffitrwydd yn dweud: Ni all y gweithiwr deithio i’r swyddfa oherwydd eu bod mewn perygl uchel o ddatblygu haint ar y frest tra bod ganddynt annwyd. Mae’r risg yn uwch oherwydd cyflwr eu brest sy’n bodoli eisoes: ffibrosis systig. Gall y gweithiwr weithio o gartref yn ystod y cyfnod hwn.

Yn ystod y drafodaeth iechyd a gwaith, yn seiliedig ar y wybodaeth ar y nodyn ffitrwydd, cynghorir y gweithiwr i weithio o gartref am y 10 diwrnod nesaf i helpu gyda’u hadferiad a’u dychweliad i’r gwaith. Anfonir e-bost i’r gweithiwr gyda’u hamserlen waith yn ystod yr absenoldeb salwch hwn

Ar ôl 10 diwrnod, mae’r gweithiwr yn gwella o’u hannwyd, yn dychwelyd i’r gwaith ac yn parhau â’u swydd bresennol heb fynd yn ôl i weld y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

2. Astudiaeth achos 2: Cyflogwr yn gwneud newidiadau – gyrrwr cyflenwi sydd ddim yn gallu gyrru

Mae gyrrwr cyflenwi newydd gael llawdriniaeth laser ar lygaid ac maent wedi cael cyngor gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i ymatal rhag gyrru am y pythefnos nesaf.

Mae’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi rhoi nodyn ffitrwydd iddynt yn nodi ‘efallai eu bod yn ffit’ i weithio. Mae’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn ticio’r blwch ‘dyletswyddau diwygiedig’ ac mae’r cyngor ym mlwch sylwadau’r nodyn ffitrwydd yn dweud: ‘Llygaid sych, gallant brofi golwg aneglur dros dro. Ni ddylent fod yn gyrru am 2 wythnos. Gallant barhau i gyflawni tasgau corfforol rhesymol eraill. Gallu meddyliol heb ei effeithio. Os ydynt yn defnyddio’r cyfrifiadur, dylent gymryd seibiannau byr rheolaidd yn unol â’r canllawiau safonol.’

Mae’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol hefyd yn nodi ar y nodyn ffitrwydd nad oes angen iddynt weld y gweithiwr unwaith y bydd y nodyn ffitrwydd yn dod i ben fel y gall y gweithiwr ddychwelyd i’r gwaith ar ôl yr absenoldeb salwch.

Mae gan y gweithiwr gyfarfod iechyd a gwaith gyda’r cyflogwr i drafod y nodyn ffitrwydd ac mae’r ddwy ochr yn cytuno na ddylai’r unigolyn yrru am y pythefnos nesaf, ac mae’r gweithiwr yn cael ei neilltuo i ddyletswyddau gweinyddol cyffredinol yn ystod eu cyfnod gwella.

Ar ôl pythefnos mae golwg y gweithiwr yn ôl i’r arfer, ac maent yn dychwelyd i’w swydd yrru arferol, heb orfod gweld y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

3. Astudiaeth achos 3: Salwch tymor byr oherwydd COVID hir

Mae claf wedi bod ar absenoldeb salwch am y 2 fis diwethaf o’u swydd bresennol ym myd addysg oherwydd COVID hir. Mae apwyntiad i weld y therapydd galwedigaethol wedi’i drefnu ar gyfer y claf yn dilyn cais am nodyn ffitrwydd rheolaidd yn ei feddygfa.

Maent yn dangos symptomau blinder, diffyg anadl a phryder sy’n effeithio ar weithgareddau bywyd bob dydd, ac ansawdd bywyd. Yn dilyn yr asesiad, mae’r claf yn derbyn nodyn ffitrwydd gan y therapydd galwedigaethol sy’n nodi ‘ddim yn ffit i weithio’.

Ar ôl nifer o ymgynghoriadau, mae’r therapydd galwedigaethol a’r claf yn cytuno ar gamau i gefnogi adferiad y claf sy’n cynnwys cadw egni, creu arferion, a strategaethau ymdopi.   Yna cyhoeddir nodyn ffit newydd sy’n nodi ‘efallai bod y claf yn ffit’ i weithio gan gynnwys argymhellion cynllun dychwelyd i’r gwaith ac addasiadau rhesymol. Mae’r cyngor yn dweud: “Mae’r claf yn profi blinder, yn cynghori dychwelyd i’r gwaith fesul cam gan ddechrau ar oriau llai o dri diwrnod yr wythnos, awgrymu adolygiadau rheolaidd cyn cynyddu.  Mae rhai addasiadau cefnogol yn cynnwys lle tawelach i weithio, lle tawel i ymlacio, darparu amser ychwanegol ar gyfer tasgau gweinyddu, gohirio prosiectau ychwanegol nes eu bod wedi setlo i mewn i dasgau rôl gorfodol.”  Mae’r claf, eu cyflogwr, a’r therapydd galwedigaethol hefyd yn cyfarfod i gytuno ar yr hyn a fyddai’n rhesymol.

Ar ôl 6 ymgynghoriad gyda therapyddion galwedigaethol, mae’r claf yn dychwelyd i’w swydd ym myd addysg.  Yna caiff y claf eu rhyddhau ar ôl 3 mis gan eu bod wedi cyflawni a chynnal dychweliad graddol i gefnogi eu hadferiad yn ôl i’r gwaith.

4. Astudiaeth achos 4: Hanes poen yng ngwaelod y cefn a dychwelyd i gyflogaeth

Mae labrwr adeiladu wedi bod yn ddi-waith ac yn hawlio budd-dal am y ddwy flynedd ddiwethaf oherwydd poen yng ngwaelod y cefn. Maent wedi bod yn derbyn nodiadau ffitrwydd rheolaidd sy’n nodi ‘nad ydynt yn ffit i weithio’ ar gyfer eu cais am fudd-dal ac mae apwyntiad wedi cael ei drefnu gyda’r therapydd galwedigaethol.

Yn yr apwyntiad, mae’r claf yn esbonio bod ganddynt ddiddordeb mewn gweithio ond nad ydynt wedi gallu dychwelyd i swydd adeiladu oherwydd eu poen cefn ac maent yn poeni am eu rhagolygon am swyddi mewn diwydiannau eraill. Mae’r therapydd galwedigaethol yn nodi bod y poen cefn yn cael ei reoli’n dda a’u bod yn ymdopi’n dda mewn gweithgareddau bywyd bob dydd. Mae’r therapydd iechyd galwedigaethol yn trafod swyddi posibl gyda’r claf. Cynghorir y claf am addasiadau rhesymol a sut y gall hyn gefnogi dychwelyd i’r gwaith.  Mae’r therapydd galwedigaethol yn cyhoeddi nodyn ffitrwydd sy’n nodi ‘efallai eu bod yn ffit’ i weithio ac mae’r cyngor ar y nodyn ffitrwydd yn dweud “Mae poen cefn yn cael ei sbarduno gan gerdded am gyfnod hir o amser, plygu dro ar ôl tro, defnydd ailadroddus o risiau neu ysgolion. Gall swyddi eraill yn y diwydiant adeiladu fod yn fwy addas. Efallai y bydd angen addasiadau sy’n cynnwys seibiannau er mwyn cael eistedd ar gyfer tasgau sefyll, lleihau plygu rheolaidd neu ddefnyddio grisiau. Byddai angen asesiad gweithle os yn cymryd rhan mewn gwaith cyfrifiadurol.”

Cyfeirir y claf at wasanaeth galwedigaethol lleol i gefnogi gweithgareddau chwilio am waith. Maent yn cael eu cofrestru ar gwrs lletygarwch ac yn llwyddiannus wrth gael swydd ran-amser gydag addasiadau cefnogol.

5. Astudiaeth Achos 5: Dychwelyd fesul cam yn dilyn salwch tymor byr acíwt

Mae gan y claf haint anadlol ac yn cael eu trin gan Nyrs y Practis. Yn ystod y drafodaeth iechyd a gwaith, mae nyrs y practis yn rhagnodi gwrthfiotigau i’r claf ac yn cynghori’r claf i orffwys am yr wythnos i wella o’r haint hwn. Mae Nyrs y Practis hefyd yn cynghori’r claf y gallent hunan-ardystio am 7 diwrnod ac yn cytuno ar gynllun triniaeth.

Yna bydd nyrs y practis yn cyhoeddi nodyn ffitrwydd yn nodi ‘efallai bod y claf yn ffit’ i weithio ac yn cynghori y dylai’r claf ymatal rhag gweithio am 14 diwrnod a dychwelyd i’r gwaith yn raddol ar ôl y cyfnod hwn.

Mae’r claf yn falch y gallai gymryd yr amser i wella, ac mae’r cyflogwr yn cytuno ar ddychwelyd fesul cam fel y cynghorir ar y nodyn ffitrwydd. Dywed y nyrs ar y nodyn ffitrwydd nad oes angen iddynt weld y claf eto ar ddiwedd y cyfnod gan eu bod yn disgwyl i’r claf fod yn ôl i’r arfer ar ôl y cyfnod hwn.

6. Astudiaeth achos 6: Adolygiad iechyd meddwl i gleifion sydd mewn hwyliau isel

Mae claf, sydd wedi bod i ffwrdd o’r gwaith oherwydd hwyliau isel, wedi trefnu adolygiad iechyd meddwl gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Mae’r cyflwr iechyd hwn wedi bod yn effeithio ar eu patrwm cysgu a’u gallu i ganolbwyntio yn ystod oriau gwaith. Mae hyn wedi bod yn effeithio ar eu gwaith gan fod canolbwyntio a diogelwch yn hanfodol yn eu rôl.

Mae’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn trafod ac yn cytuno ar gynllun triniaeth ac yn trefnu adolygu’r claf ymhen mis. Erbyn hyn, mae’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn disgwyl i’r driniaeth fod wedi dechrau cael rhywfaint o effaith. Mae’r claf yn derbyn nodyn ffitrwydd am fis yn nodi ‘nad ydynt yn ffit’ i weithio.

Cynghorir y claf gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i drafod atgyfeiriad at Iechyd galwedigaethol a straen sy’n gysylltiedig â gwaith yn cyfrannu at eu problemau iechyd meddwl gyda’u cyflogwr.

Yn ystod y drafodaeth iechyd a gwaith gyda’r claf, mae atgyfeiriad i’r tîm iechyd galwedigaethol sy’n cefnogi dychweliad y claf i’r gwaith yn cael ei wneud.