Adroddiad corfforaethol

Adroddiad a chyfrifon blynyddol yr Awdurdod Glo 2022 i 2023: Adroddiad perfformiad

Diweddarwyd 21 August 2023

1. Trosolwg

Mae’r Awdurdod Glo yn gorff cyhoeddus anadrannol ac yn sefydliad partner i’r Adran Diogelu Ffynonellau Ynni a Sero Net.

1.1 Ein cenhadaeth

Creu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd glofaol.

1.2 Ein pwrpas:

  • rydym yn cadw pobl yn ddiogel ac yn rhoi tawelwch meddwl iddynt

  • rydym yn gwarchod ac yn gwella’r amgylchedd

  • rydym yn defnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i helpu pobl i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth

  • rydym yn creu gwerth ac yn lleihau’r gost i’r trethdalwr

Rydym yn defnyddio ein sgiliau i ddarparu gwasanaethau i adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth, llywodraethau lleol a phartneriaid masnachol.

Rydym yn gweithio gydag adrannau ar draws Llywodraeth y DU i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth y DU, gan gynnwys y newid i sero net, ffyniant bro, cydnerthedd cenedlaethol, gwell amgylchedd, ac economi gynaliadwy. Rydym hefyd yn cyfrannu at flaenoriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach Llywodraethau Cymru a’r Alban. Drwy rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd, rydym yn eu cefnogi nhw a’n partneriaid i greu gwledydd mwy diogel, glân a gwyrdd i bob un ohonom.

1.3 Ein trefn lywodraethu:

Mae gennym fwrdd annibynnol sy’n gyfrifol am bennu ein cyfeiriad strategol a’n dal ni i gyfrif. Mae’r bwrdd yn sicrhau bod ein dyletswyddau statudol yn cael eu cyflawni’n effeithiol a’n bod yn gwireddu ein cenhadaeth, ein pwrpas a’n gwerthoedd.

Mae gan ein cadeirydd ac aelodau’r bwrdd brofiad perthnasol i gefnogi ein gwaith.

Caiff cyfarwyddwyr anweithredol eu recriwtio a’u penodi i’r bwrdd gan Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Diogelu Ffynonellau Ynni a Sero Net.

Caiff cyfarwyddwyr gweithredol eu recriwtio i’w swyddi gan y bwrdd a chaiff rhai ohonynt eu penodi i’r bwrdd wedyn, hefyd gan Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Diogelu Ffynonellau Ynni a Sero Net.

1.4 Ein gwerthoedd

Dibynadwy:

  • rydym yn gweithredu’n ddidwyll

  • rydym yn agored ac yn dryloyw

  • rydym yn cyflawni ein hymrwymiadau

Cynhwysol:

  • rydym yn hyrwyddo diwylliant o barch at ein gilydd

  • rydym yn cydnabod bod ein gwahaniaethau’n ein gwneud yn gryfach

  • rydym yn gweithio gydag eraill i gyflawni ein cenhadaeth

Blaengar:

  • rydym yn meddwl yn agored ac yn arloesol

  • rydym yn cydnabod y gall y gorffennol ein helpu i lunio’r dyfodol

  • rydym yn gwrando ac yn dysgu

2. Adroddiad Perfformiad

Yn ystod 2022 i 2023, ar draws y tair gwlad rydym yn eu gwasanaethu:

2.1 Wedi cadw pobl yn ddiogel a rhoi tawelwch meddwl iddynt

Wedi cynnal 10,476 o archwiliadau mynedfeydd pyllau glo

Wedi ymchwilio i 770 o beryglon cloddio a hawliadau ymsuddiant

Wedi cynnal 656 o archwiliadau ar domenni gwastraff (tomenni) sy’n berchen i’r Awdurdod Glo a’n partneriaid

2.2 Wedi defnyddio ein gwybodaeth a’n harbenigedd i helpu pobl i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth

Wedi cyflwyno 157,314 o adroddiadau cloddio

Wedi cyhoeddi 1,709 o drwyddedau i groestorri glo

Wedi darparu 10,236 o ymatebion i ymgyngoriadau cynllunio

2.3 Wedi creu gwerth a lleihau’r gost i’r trethdalwr

Wedi cynhyrchu £56,000 drwy werthu sgil-gynhyrchion

Wedi cynhyrchu £6.8 miliwn o incwm drwy ein gwasanaethau cynghori

Wedi creu 9 safle sydd â gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol ychwanegol

2.4 Wedi diogelu a gwella’r amgylchedd

220 biliwn litr – y capasiti wedi’i greu i drin dŵr cloddfeydd

Wedi atal 3,756 tunnell o solidau haearn rhag mynd i gyrsiau dŵr

89% o’n hocrau a’n gwastraff solidau haearn wedi’i ailddefnyddio neu ei ailgylchu

3. Rhagair y Cadeirydd

Mae’n bleser gennyf gyflwyno ein hadroddiad a’n cyfrifon blynyddol cyntaf yn erbyn ein cynllun busnes newydd ar gyfer 2022 i 2025, a’n gweledigaeth 10 mlynedd.

Mae gweithredu’r dull hwn wedi ein galluogi i edrych ymlaen, i arloesi ac i ddatblygu tuag at y dyfodol. Rydw i wedi bod yn falch iawn o weld rhagor o gyfleoedd yn cael eu gwireddu, gan gynnwys gwres dŵr cloddfeydd, y defnydd buddiol o sgil-gynhyrchion, a thwf parhaus yn ein darpariaeth gwasanaeth i’r llywodraethau rydym yn eu gwasanaethu a gyda chyrff eraill yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at weld rhagor o gyfleoedd gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol yn cael eu dilyn yn rhagweithiol ochr yn ochr ag effeithiolrwydd economaidd wrth inni gyflawni yn erbyn manylion ein cynllun busnes, a dyheadau ehangach ein gweledigaeth ar gyfer 2032.

Ym mis Mawrth, roeddem yn falch o groesawu swyddogion i’r safleoedd yn Swydd Nottingham a Swydd Derby i ddangos yr heriau o ran mynd i’r afael ag ymsuddiant tir, siafftiau cloddfeydd ac adfer drifftiau er mwyn caniatáu gwerth cymdeithasol o ailddatblygu adeilad rhestredig a thir cyfagos, a thrin dŵr cloddfeydd i ddiogelu dŵr yfed. Dim ond rhai agweddau ar ein gwaith a’n cyfrifoldebau ar unrhyw adeg yw’r rhain. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r adran a’r tîm adolygu annibynnol yn ystod ein hadolygiad o’r corff hyd braich yn 2023 i 2024.

Drwy gydol y flwyddyn, rydym hefyd wedi parhau i weithio’n agos gyda Llywodraethau Cymru a’r Alban i gyflawni ar draws Prydain Fawr. Gallwch ddarllen rhagor am ein gwaith yng Nghymru, yr Alban a Lloegr yn ein hastudiaethau achos, sy’n cynnwys amrywiaeth o enghreifftiau o’n gwaith yn ogystal ag ystadegau penodol ar gyfer pob gwlad.

Mae pob agwedd ar ein gwaith yn cyfrannu’n gryf at dwf economaidd, ffyniant bro a diogelwch ynni. Dengys ymchwil gan Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo [footnote 1] fod ardaloedd meysydd glo, yn gyffredinol, yn fwy difreintiedig na chyfartaledd Prydain Fawr. Rydym yn gweithio gyda busnesau lleol a busnesau bach a chanolig lle bynnag y bo modd i sicrhau ein bod yn gwario arian yn uniongyrchol yn y cymunedau lle rydym yn gweithredu, ac i gefnogi ffyniant bro. Roedd 77% o’n gwariant yn 2022 i 23 gyda busnesau bach a chanolig. Mae ein gwaith yn sicrhau hyder ym marchnad dai meysydd glo, sy’n hanfodol o ystyried bod 25% o’r holl gartrefi ac eiddo ledled Prydain Fawr ar feysydd glo, ac rydym wedi bod yn gweithio’n arloesol gyda benthycwyr ariannol a phartneriaid eraill (gan gynnwys y Comisiwn Geo-ofodol a chyrff Geo6) i ddatblygu cynnyrch digidol i helpu i foderneiddio a gwella penderfyniadau benthyca. Mae’r bwrdd yn falch y bydd ein cynllun data a gwybodaeth newydd, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn 2023, yn amlinellu ymhellach ein huchelgeisiau a’n hymrwymiadau yn y maes hwn.

Fel cyfraniad uniongyrchol at ddiogelwch ynni, roeddwn yn falch iawn o weld cynllun ynni glo Cyngor Gateshead yn dod yn gwbl weithredol ym mis Mawrth 2023. Dyma’r cynllun ynni gwres pyllau glo ar raddfa fawr cyntaf yn y wlad a bydd yn braenaru’r tir ar gyfer cynlluniau eraill sydd yn yr arfaeth. Rydw i’n canmol Cyngor Gateshead am ei graffter a’i uchelgais, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw yn ogystal â gyda chynghorau, partneriaid a llywodraethau ledled Prydain Fawr i gyflawni nifer o gynlluniau gwres dŵr cloddfeydd carbon isel a gwneud cyfraniad sylweddol at ddiogelwch ynni ac uchelgeisiau sero net y tair llywodraeth rydym yn eu gwasanaethu. Rydw i hefyd yn croesawu ein cynllun cynaliadwyedd newydd sy’n dangos sut byddwn yn cyflawni uchelgais ein cynllun busnes a’n gweledigaeth yn y maes hwn, ac yn cynhyrchu rhagor o ynni adnewyddadwy o’n hasedau dros y blynyddoedd nesaf.

Roedd y bwrdd a minnau’n falch iawn o weld yr Awdurdod Glo’n llofnodi contractau gydag AB Agri ym mis Ionawr 2023 i ddarparu 700 tunnell o ocr y flwyddyn i ddechrau o ddau o’n cynlluniau trin dŵr cloddfeydd i’w defnyddio mewn treulio anaerobig. Mae gan y contract hwn y potensial i dyfu dros y blynyddoedd nesaf ac mae’n enghraifft wych o feddylfryd yr economi gylchol gan ei fod yn atal deunydd defnyddiol rhag mynd i safleoedd tirlenwi, yn arbed arian inni o ran taliadau tirlenwi, ac yn cynhyrchu incwm o’r cynnyrch yn lle hynny. Mae ei ddefnydd mewn gweithfeydd treulio anaerobig yn y DU yn lleihau’r angen i fewnforio cemegau ocr a haearn o Ewrop sy’n arbed costau, yn lleihau allyriadau carbon ac yn gwneud llinellau cyflenwi’n fwy diogel.

Mae hyn yn rhan o’n huchelgais i ailddefnyddio neu ailgylchu 95% o’r ocrau haearn a’r solidau haearn sy’n cael eu cynhyrchu o’n cynlluniau, ac i atal gwaredu i safleoedd tirlenwi a byddwn yn gweithio hyd yn oed yn fwy creadigol dros y blynyddoedd nesaf i wireddu hyn.

Wrth ddarllen ein cyfrifon, byddwch yn sylwi bod cydbwysedd ein darpariaethau, sy’n adlewyrchu cost datrys effeithiau cloddio glo yn y gorffennol, wedi newid eto eleni, gan ostwng £3.4 biliwn o £5.6 biliwn i £2.2 biliwn ym mis Mawrth 2023. Cyfrifir y balans hwn drwy gymhwyso rhagdybiaethau Trysorlys EM ar werth arian ar wahanol adegau i ragolwg o lif arian ar brisiau heddiw. Mae ein rhagolwg o’r llifoedd arian sylfaenol hyn wedi cynyddu £0.5 biliwn i £3.4 biliwn, sy’n adlewyrchu yn bennaf y cynnydd sylweddol o ganlyniad i gyfraddau chwyddiant uchel, yn enwedig o ran costau pŵer a chemegol sy’n effeithio ar gynlluniau dŵr cloddfeydd, a’r duedd dros y blynyddoedd diwethaf o reoli nifer cynyddol o ddigwyddiadau diogelwch cyhoeddus cymhleth. Rydym yn disgwyl y bydd effeithiau addasu i’r newid yn yr hinsawdd yn cynyddu’r darpariaethau dros amser wrth inni wneud rhagor o ymchwil ac rydym hefyd yn ymwybodol o oblygiadau posib y gwaith rydym yn ei wneud ar hyn o bryd i ddeall effaith adfer dŵr hallt yn Lloegr yn well. Byddwn yn parhau i weithio i wrthbwyso costau drwy arbedion effeithlonrwydd a rhagor o welliannau drwy ein rhaglen arloesi.

Mae’r cynnydd gweithredol sydd wedi’i gynnwys eleni yn fach o’i gymharu â’r newidiadau i gyfraddau disgownt Trysorlys EM, sy’n lleihau’r ddarpariaeth ariannol fwy na £4.5 biliwn. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn yr adolygiad ariannol a nodyn 13 yn y cyfrifon.

Jeff Halliwell, Cadeirydd

4. Adroddiad y Prif Weithredwr

Eleni, rydym wedi canolbwyntio ar edrych ymlaen, cyflawni a datblygu i gyflawni uchelgeisiau ein cynllun busnes newydd ar gyfer 2022 i 2025, a’n gweledigaeth 10 mlynedd. Rydym wedi dysgu o flynyddoedd heriol y pandemig ac wedi parhau i dreialu a gwreiddio dulliau a ffyrdd newydd o weithio i’n gwneud yn fwy effeithiol ac arloesol nawr ac yn y dyfodol, ac i helpu cwsmeriaid i gael gafael ar ein gwasanaethau a’n cymorth yn haws.

Un o’r llwyddiannau allweddol oedd cyrraedd statws Categori 2 o dan ddiwygiadau 2023 i Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004. Bydd hyn yn ein helpu i weithio’n agosach fyth gyda’n partneriaid argyfwng i gefnogi cymunedau. Mae hyn yn adeiladu ar yr hyn rydym wedi’i ddysgu o’n cysylltiad ag ystod ehangach o ddigwyddiadau mawr dros y blynyddoedd diwethaf a’r buddsoddiad a’r gwelliannau rydym wedi’u gwneud i gydnerthedd ein dulliau ymateb i argyfwng a chymunedol.

Mae ein gwaith ymateb i argyfwng yn cael ei gefnogi a’i ategu gan ein darpariaeth weithredol hanfodol o ddydd i ddydd. Eleni, rydym wedi ymateb i 462 o adroddiadau o beryglon ar yr wyneb a 220 o hawliadau am ddifrod, ac wedi cadw ein 80 o gynlluniau trin dŵr ac rydym yn gallu trin 220 biliwn litr o ddŵr cloddfeydd bob blwyddyn er mwyn atal llygredd dŵr yfed, afonydd a’r môr. Rydym hefyd wedi parhau i fonitro ardaloedd risg uchel ar gyfer llygredd a datblygu rhagor o gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae hyn wedi cynnwys canolbwyntio ymhellach ar adfer dŵr hallt cloddfeydd yn Lloegr a fydd yn faes gwaith cynyddol dros y blynyddoedd i ddod. Mae ein gwaith ar lanhau llygredd cloddfeydd metel gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr, a Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghymru, yn parhau i ehangu ac roeddem yn falch iawn o weld ymrwymiad Llywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r effaith hon ar ansawdd dŵr sydd wedi’i hymgorffori yn y gyfraith fel rhan o Reoliadau Targedau Amgylcheddol (Dŵr) (Lloegr) 2022.

Rydym wedi parhau â’n gwaith i Lywodraeth Cymru fel rhan o’i thasglu tomenni i sicrhau bod yr holl safleoedd risg uwch yn cael eu harchwilio’n rheolaidd a bod gwaith cynnal a chadw’n cael ei flaenoriaethu. Rydym yn croesawu cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer trefn newydd fel y nodir yn eu Papur Gwyn ar Ddiogelwch Tomenni Glo (Cymru) a byddwn yn parhau i’w helpu i ddatblygu bil ar ddiogelwch tomenni glo, a’i roi ar waith yn y dyfodol.

Mae hyn oll yn rhan ganolog o’r thema yn ein cynllun busnes, cyflawni ar gyfer y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae ein hymrwymiad i’n cwsmeriaid wedi’i wreiddio yn hyn ac ar draws pob thema yn ein cynllun busnes, yn ogystal â bod yn rhan ganolog o’n gweledigaeth. Y llynedd, fe wnaethom ehangu gwaith ein tîm cwsmeriaid i ganoli a gwella ein hymateb i gwsmeriaid, ac i nodi tueddiadau a meysydd i’w gwella yn fwy gweithredol. Er enghraifft, fe wnaethom sylwi ein bod yn cael lefel uchel o ymholiadau gan gwsmeriaid ynglŷn â phrynu tai yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, lle mae llawer o fynedfeydd a gweithfeydd glo. Rydym wedi gweithio gyda gwerthwyr tai, benthycwyr ariannol ac yswirwyr yn yr ardal i egluro ein rôl a darparu gwybodaeth a sicrwydd. Mae 25 y cant o gartrefi ac eiddo ledled Prydain Fawr ar feysydd glo. Ni fydd y mwyafrif helaeth o bobl byth yn cael unrhyw broblemau ond pan fyddant, rydym yma i helpu.

Rydym wedi parhau i arloesi a chyflawni nifer o ganlyniadau drwy gydol y flwyddyn hon. Mae gwres dŵr cloddfeydd yn cael mwy a mwy o sylw ac rydym yn dathlu cynllun newydd Cyngor Gateshead sy’n darparu gwres i gartrefi, adeiladau’r cyngor a’r stadiwm ryngwladol ac rydym yn edrych ymlaen at weithio ymhellach gyda’r Cyngor ac amrywiaeth o bartneriaid eraill i sicrhau bod rhagor o gynlluniau ar waith ledled Prydain Fawr. Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu gwaith ar fapio cyfleoedd i gefnogi hyn yng Nghymru a chynhaliwyd digwyddiad llwyddiannus yn Senedd yr Alban ym mis Chwefror 2023 a fydd, gobeithio, yn arwain at ddatblygu cyfleoedd yn yr Alban yn fuan iawn.

Rydym hefyd yn falch o fod wedi dechrau gwerthu ocrau haearn yn rheolaidd mewn cydweithrediad ag AB Agri, sy’n defnyddio’r cynnyrch mewn gweithfeydd treulio anaerobig. Fel yr esboniodd Jeff, dyma enghraifft wych o’r economi gylchol ar waith.

Mae ein harloesedd digidol yn parhau ac rydym yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o fenthycwyr ariannol i ddatblygu cynnyrch a fydd yn eu helpu i gael gafael ar ein data a’n gwybodaeth yn fwy effeithiol. Mae ein partneriaeth â’r Comisiwn Geo-ofodol a chyrff partner Geo6 hefyd yn parhau i fod yn effeithiol, ac yn cynyddu ein gwybodaeth a’n cyrhaeddiad yn y maes hwn. Mae hyn oll yn ein helpu i gyflawni ein thema, gweithio gydag eraill i greu gwerth.

Rydym wedi cymryd camau pellach i fod yn fwy rhagweithiol o ran sut gallwn alluogi neu hybu gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach o’n gwaith ochr yn ochr ag effeithiolrwydd economaidd. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid, awdurdodau lleol ac elusennau i fod yn greadigol gyda’r tir sy’n berchen inni neu’r cyfyngiadau rydym yn eu dal dros dir i alluogi defnydd buddiol i gymunedau a/neu ddibenion cymdeithasol neu amgylcheddol. Rydym hefyd yn defnyddio ein tir a’n hadnoddau ein hunain yn fwy effeithiol ar gyfer nifer o ganlyniadau. Er enghraifft, defnyddio ein tir yn Nentsberry, Gogledd Ddwyrain Lloegr, i greu meithrinfa calaminariwm (glaswelltir sy’n datblygu ar bridd prin ei faethynnau gyda lefelau uchel o fetelau trwm gwenwynig) ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Afonydd Tyne, gan gefnogi’r gwaith o adfer yr ardal mewn modd sensitif. Rydym hefyd yn defnyddio gwastraff gwelyau cyrs ar ein tir yn Garrigill, Gogledd Ddwyrain Lloegr, i gefnogi’r broses atafaelu carbon, adfer byd natur a lleihau gwastraff gyda’r potensial i’w gyflwyno ar draws ein hystad weithredol ehangach.

Mae ein cynllun busnes yn nodi targedau clir ar gyfer pob un o’n pum thema sydd i’w cyflawni erbyn mis Ebrill 2025, yn ogystal â gwaith sylfaenol a chynlluniau manylach sy’n ehangu pob dull gweithredu, fel ein [cynllun cynaliadwyedd] diweddaraf (https://www.gov.uk/government/publications/coal-authority-sustainability-plan-2023-to-2026), sy’n cefnogi ein thema ‘sicrhau cynaliadwyedd’ ac yn dangos sut byddwn yn gwneud cynnydd tuag at sero net, yn gwella adferiad byd natur, yn lleihau gwastraff ac yn sicrhau gwerth cymdeithasol uwch i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

O ystyried ein bod yn sefydliad canolig ei faint, rydym yn hynod gymhleth ac yn darparu ystod eang iawn o weithgareddau a chanlyniadau, gan reoli a lleihau risgiau cymhleth ar gyfer y tair llywodraeth rydym yn eu gwasanaethu. Byddwn yn parhau i sicrhau bod effeithlonrwydd, gwerth am arian a chyflawni nifer o ganlyniadau yn rhan annatod o bob penderfyniad a wnawn, ac edrychwn ymlaen at drafod hyn fel rhan o’n hadolygiad corff hyd braich yn ystod 2023 a 2024.

Mae ein gwaith trawsnewid digidol a gwelliannau ehangach i’r system wedi parhau dros y flwyddyn fel rhan o’n thema ‘addas ar gyfer y dyfodol’. Er enghraifft, rydym wedi gwneud cynnydd cryf o ran trosglwyddo ein systemau craidd i’r cwmwl a fydd yn rhoi rhagor o gydnerthedd inni ac yn ein galluogi i weithredu systemau newydd yn haws, sy’n ein galluogi i reoli a gwasanaethu ein data’n well, yn galluogi ein pobl i gydweithio’n fwy effeithiol, a’i gwneud yn haws i gwsmeriaid ddefnyddio ein gwasanaethau.

Ni fyddai hyn yn bosib heb y bobl wych sy’n gweithio yn yr Awdurdod Glo a’u hymrwymiad i wneud gwahaniaeth i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Maen nhw wedi gwneud hyn yn broffesiynol, yn empathig ac yn dda er gwaethaf y pwysau ariannol a’r ansicrwydd byd-eang ehangach sydd wedi effeithio ar bawb yn eu bywyd personol a phroffesiynol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rydw i’n falch o’u harwain a’u cefnogi bob dydd.

Er mwyn galluogi ein pobl wych, a’r rheini a fydd yn ymuno â ni yn y dyfodol, a sicrhau ein bod yn lle gwirioneddol wych i weithio, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar les, cynhwysiant a datblygiad i sicrhau ein bod yn gallu canfod, cadw a thyfu pobl wych sy’n gallu datrys problemau cymhleth ac sy’n frwd dros wneud gwahaniaeth heddiw ac yn y dyfodol.

Gyda’n gilydd, byddwn yn creu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd glofaol.

Lisa Pinney MBE, Prif Weithredwr

5. Ein gwaith i’w gwneud yn bosib ymateb i argyfwng

Yn dilyn gwaith gyda Swyddfa’r Cabinet a’n hadran nawdd, BEIS (yr Adran Diogelwch Ffynonellau Ynni a Sero Net erbyn hyn), ynghyd â chymorth gan bartneriaid ymateb i argyfwng ledled Prydain Fawr, roeddem yn falch iawn o gael ein cydnabod fel ymatebydd Categori 2 o dan ddiwygiadau i Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, a ddaeth yn gyfraith ym mis Chwefror 2023. Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd ein hymateb uniongyrchol i ddigwyddiadau a’r wybodaeth a’r cymorth y gallwn eu darparu i wasanaethau brys eraill, er mwyn eu cadw’n ddiogel wrth weithio mewn ardaloedd glofaol.

Mae’r Awdurdod Glo wedi bod yn sefydliad ymateb i ddigwyddiadau 24/7/365 ers ein ffurfio yn 1994 ac rydym yn delio’n uniongyrchol â dros 750 o beryglon, digwyddiadau diogelwch y cyhoedd ac ymsuddiant, a phroblemau ehangach bob blwyddyn. Mae partneriaid yn galw arnom fy a mwy i gynnig cymorth mewn digwyddiadau mawr fel llithriad tomen Tylorstown 2020 yn y De, llifogydd gaeaf 2019 i 2020 yn Ne Swydd Efrog, a’r trên cludo nwyddau yn dod oddi ar y cledrau wrth ymyl ein safle ym Morlais yn Sir Gaerfyrddin.

Roeddem hefyd wedi gweithio’n agos gyda phartneriaid argyfwng mewn digwyddiadau mawr yn ymwneud â materion pyllau glo fel y llifogydd yn Sgiwen yn 2021 ac ymsuddiant yn Saltcoats yn yr Alban yn 2021.

Gan ein bod bellach yn ymatebydd Categori 2, gallwn wneud hyn yn fwy ffurfiol ac effeithiol sy’n cefnogi gwasanaethau brys a phartneriaid yn well, yn gwella prosesau cynllunio a rhannu gwybodaeth, ac yn galluogi ymateb mwy cydgysylltiedig ar gyfer y cymunedau dan sylw.

Yn y cyfnod cyn dod yn ymatebydd Categori 2, roeddem wedi gweithio’n agos gyda fforymau cydnerthedd lleol perthnasol ledled Cymru a Lloegr a gyda’r partneriaethau cydnerthedd rhanbarthol yn yr Alban i gryfhau cysylltiadau, i rannu gwybodaeth ac i drafod risgiau a chyfleoedd. Rydyn ni wedi cymryd rhan mewn chwe ymarfer amlasiantaeth i brofi cynlluniau argyfwng, gan gynnwys arwain ymarfer sylweddol yn ein safle trin dŵr cloddfa fetel Wheal Jane yng Nghernyw, Lloegr i brofi cydnerthedd yn dilyn tywydd gwlyb hir. Byddwn yn parhau i gydweithio a darparu cymorth yn ôl yr angen.

Mae 25 y cant o’r holl gartrefi a busnesau ledled Prydain Fawr ar feysydd glo. Ni fydd y mwyafrif helaeth o bobl byth yn cael unrhyw broblemau ond pan fyddant, rydym yma i helpu. Mae modd cysylltu â ni 24/7/365 ar 0800 288 4242.

6. Ein gwaith yn yr Alban

A ninnau’n ymatebydd brys 24/7, rydym yn gweithio gyda’r gwasanaethau brys a phartneriaid eraill i ddiogelu bywyd ac eiddo rhag effeithiau peryglon cloddio hanesyddol. Yn ystod oriau cynnar 25 Medi 2021, cawsom wybod am ddigwyddiad difrifol yn Saltcoats yn Ayrshire a oedd yn golygu bod angen gwagio wyth cartref a oedd yn ymsuddo. Ers hynny, rydym wedi gweithio’n agos gyda phartneriaid a’r gymuned i roi cymorth i’r rheini yr effeithiwyd arnynt, i sefydlogi’r gweithfeydd hanesyddol ac i alluogi’r safle i gael ei ddefnyddio yn y dyfodol.

Saif Saltcoats ar y maes glo a chloddiwyd yr ardal o’r 1600au hyd at ddiwedd y 19eg ganrif. Er nad oedd unrhyw waith glo penodol wedi’i ddangos ar ein cofnodion yn yr ardal uniongyrchol hon, fe wnaethom sefydlu’n gyflym mai’r rheswm dros y cwymp oedd cofnodion pyllau glo heb eu cofnodi a oedd wedi’u canfod mewn mannau eraill yn yr ardal.

Fe wnaethom ymweld â’r safle a chefnogi’r gwasanaethau brys a Chyngor Gogledd Ayrshire ar noson 25 Medi 2021 a drwy gydol cam cychwynnol y digwyddiad, ac wedyn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros y safle, y perchnogion tai yr effeithiwyd arnynt a’r ymgysylltu ehangach â’r gymuned, gan weithio’n agos gyda’r cyngor a phartneriaid eraill drwy gydol y cyfnod.

Fe wnaethom roi cymorth i’r perchnogion tai yr effeithiwyd arnynt, gan drefnu llety dros dro ac yna’n trefnu i brynu eu cartrefi. Ar ôl symud eiddo gwerthfawr, fe wnaethom fwrw ymlaen yn gyflym i ddymchwel yr eiddo er mwyn atal cwymp pellach a pherygl i ddiogelwch y cyhoedd. Fe wnaethom roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned ehangach a gweithio gyda pherchnogion tai cyfagos a oedd yn poeni am ddiogelwch eu cartrefi eu hunain. Roedd hyn yn cynnwys diweddariadau rheolaidd, trefnu archwiliadau o gartrefi, gosod offer monitro i fesur unrhyw symudiad neu ymsuddiant, a darparu gwybodaeth a chymorth ar gyfer sgyrsiau gyda darparwyr morgeisi ac yswirwyr.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi parhau â’r cymorth hwn ac wedi cymryd camau effeithiol ar y safle. O fewn blwyddyn i’r digwyddiad, roeddem wedi prynu pob un o’r wyth eiddo yr effeithiwyd arnynt, gan alluogi’r teuluoedd hynny i symud ymlaen gyda’u bywydau.

Yn dilyn ymchwiliadau tir cynnar i gadarnhau mai gwaith heb ei gofnodi oedd yr achos ac i fapio’r hyd a lled, fe wnaethom lenwi’r gwaith gyda deunydd growt arbenigol sy’n llenwi ac yn sefydlogi’r tir sydd wedi cwympo. Fe wnaethom osod 24 rhoden gyda monitorau a 63 pin monitro ar y safle i sicrhau bod unrhyw symudiad yn cael ei nodi. Ni fu unrhyw symudiad ers gwneud y gwaith ym mis Medi 2022. Byddwn yn parhau i fonitro’r safle am ddwy flynedd ac yna bydd yn cael ei ryddhau i’w ddefnyddio. Rydym yn trafod â Chyngor Gogledd Ayrshire a’r gymuned ynghylch y defnydd gorau o’r safle yn y dyfodol.

Rydym yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned leol ac rydym yn ddiolchgar am eu dealltwriaeth a’u cydweithrediad yn ystod ein gwaith. Fe wnaethom leihau cymaint ag y bo modd ar beiriannau trwm, oriau gwaith ac effeithiau sŵn, ac rydym yn cydnabod bod hyn yn dal yn gallu tarfu. Rydym hefyd wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r ASA lleol, Llywodraeth yr Alban a swyddfa Ysgrifennydd Gwladol yr Alban am y digwyddiad a’r gwaith adweirio dilynol.

Mae 25 y cant o gartrefi ac eiddo ledled Prydain Fawr ar feysydd glo. Ni fydd y rhan fwyaf o berchnogion tai byth yn cael unrhyw broblemau ond, pan fyddant, rydym yma i helpu ac mae modd cysylltu â ni 24/7 ar 0800 288 4242.

Mae’r digwyddiad hwn yn enghraifft glir o’r gwaith rydym yn ei wneud fel ymatebwr brys, gan weithio gyda chyd-weithwyr Partneriaeth Cydnerthedd Rhanbarthol ar draws ardaloedd meysydd glo’r Alban. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu bywyd, dŵr yfed a’r amgylchedd rhag peryglon cloddio, ac i roi cymorth i’r rheini y mae digwyddiadau o’r fath yn effeithio arnynt.

Ein blwyddyn yn yr Alban:

  • wedi cynnal 712 o archwiliadau mynedfeydd pyllau glo

  • wedi pennu 72 o beryglon a digwyddiadau ymsuddiant

  • wedi cynhyrchu 56,989 o adroddiadau cloddio

  • wedi darparu 1,353 o ymatebion i ymgyngoriadau cynllunio

  • wedi trin 29 biliwn litr o ddŵr

  • wedi atal 708 tunnell o solidau haearn rhag mynd i gyrsiau dŵr

7. Ein perfformiad

Rydym wedi dod i ben blwyddyn gyntaf ein cynllun busnes tair blynedd ac rydym yn gwneud cynnydd amlwg yn erbyn ein cenhadaeth o greu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd glofaol.

Mae ein cynllun wedi’i osod yn derbyn ein gweledigaeth 10 mlynedd. Mae’n seiliedig ar ein gwerthoedd ac yn canolbwyntio ar gyflawni ar gyfer y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae’r adrannau canlynol yn dangos y cynnydd rydym wedi’i wneud yn 2022 i 2023.

Rydym yn defnyddio’r cerdyn sgorio hwn i fesur ac adrodd ar ein cynnydd rhwng 2022 a 2025.

7.1 Cyflawni ar gyfer y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu

Canlyniad cerdyn sgorio

Rydym yn gwella ein gwasanaethau cyflawni rheng flaen ar gyfer ein cwsmeriaid er mwyn inni gyflawni rhagor o ganlyniadau a’i bod yn haws gwneud busnes gyda ni.

Yn 2022 i 2023, fe wnaethom y canlynol:

  • cyflawni ein rhaglen amgylcheddol fwyaf hyd yma. Roeddem wedi trin llai o wastraff yn gyffredinol oherwydd tywydd sychach ond wedi creu’r capasiti i drin 3 biliwn litr ychwanegol o ddŵr bob blwyddyn (cynnydd o 217 i 220 biliwn litr o ddŵr y flwyddyn) sy’n adlewyrchiad cywir o’n canlyniad a bydd yn cael ei fesur ochr yn ochr â’r targed gwreiddiol mewn adroddiadau yn y dyfodol

  • datrys 58% o beryglon a hawliadau ymsuddiant o fewn 12 mis. Rydym yn parhau i wneud cynnydd ac ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed ar gyfer 2025

  • wedi galluogi 160,000 hectar o adfywio a datblygu diogel ar gyfer prosiectau amgylcheddol a defnydd cymunedol drwy ein gwasanaethau cynllunio a thrwyddedu, ac rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed ar gyfer 2025

  • wedi cynyddu ein sgoriau 10% yn erbyn mesurau achredu’r ServiceMark yn ystod y 12 mis diwethaf ac rydym yn parhau i adeiladu ar ein safonau gwasanaeth i gwsmeriaid, ac ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed ar gyfer 2025

Erbyn Ebrill 2025, byddwn:

  • yn trin 13 biliwn litr ychwanegol o ddŵr cloddfeydd bob blwyddyn i atal llygredd dŵr yfed, afonydd neu’r môr erbyn 2025; mae hyn yn gynnydd o dros 10% ar gyfeintiau cyfredol (128 biliwn litr y flwyddyn) sy’n adlewyrchiad cywir o’n canlyniad a bydd yn cael ei fesur ochr yn ochr â’r targed gwreiddiol mewn adroddiadau yn y dyfodol – rydym yn parhau i gyflawni ein rhaglen gyfalaf ac rydym ar y trywydd iawn i gyflawni cynnydd sylweddol yn ein capasiti i drin dŵr cloddfeydd erbyn 2025

  • yn datrys 90% o beryglon a hawliadau ymsuddiant o fewn 12 mis

  • yn defnyddio ein gwybodaeth, ein gwasanaethau a’n hystad i alluogi 300,000 hectar ar gyfer adfywio a datblygu diogel ar gyfer cymunedau lleol yn yr hen feysydd glo

  • yn ennill achrediad ServiceMark ar gyfer ein safonau gwasanaeth gan y Sefydliad Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Mae’r Awdurdod Glo yn sefydliad gweithredol ymarferol, sy’n cyflawni nifer o ddyletswyddau statudol craidd ledled Prydain Fawr i helpu i gadw pobl, dŵr yfed a’r amgylchedd yn ddiogel rhag effeithiau ein gwaddol glofaol. Mae hyn yn cynnwys capasiti ymateb i ddigwyddiadau 24/7. Rydym wedi ymrwymo i wneud hyn mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer a’r gymuned.

Rydym yn gweithredu’n ddidwyll, yn gwneud yr hyn a ddywedwn ac yn gwrando ac yn dysgu er mwyn gallu gwella’n barhaus. Drwy weithio gyda a drwy bartneriaid eraill, gallwn ddarparu ymateb cydgysylltiedig a sicrhau’r canlyniad gorau posib. Mae hyn yn ein helpu i gyflawni ein cenhadaeth i ‘greu dyfodol gwell i bobl a’r amgylchedd mewn ardaloedd glofaol’. Yn ystod 2023 a 2024 byddwn yn diweddaru ac yn ailgyhoeddi ein safonau cwsmeriaid, ac yn disodli ein strategaeth cwsmeriaid â chynllun cwsmeriaid newydd.

7.2 Sicrhau cynaliadwyedd

Canlyniad cerdyn sgorio

Gwneud rhagor o gynnydd clir ar ein taith i sicrhau carbon sero net erbyn 2030 ac i gyflawni agweddau amgylcheddol a chymdeithasol ehangach ar gynaliadwyedd.

Yn 2022 i 2023, fe wnaethom y canlynol:

  • lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o’n hystad, gweithrediadau a theithio 34% yn erbyn ein llinell sylfaen, ac rydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein targed ar gyfer 2025

  • ennill gwell dealltwriaeth o werth cymdeithasol ac amgylcheddol, a darparu nifer o enghreifftiau ymarferol yn ein cymunedau. Gweler ein hastudiaeth achos ar “Ein gwaith i alluogi gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol” ac mae gwaith yn mynd rhagddo i ddiffinio ein fframwaith adrodd integredig, ac rydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein targed ar gyfer 2025

  • cynnal adolygiad cychwynnol ac mae gwaith yn parhau i lywio ein cynllun ar gyfer y newid yn yr hinsawdd – mae gennym ragor i’w wneud i gyrraedd y targed hwn yn 2025

  • mae gwaith yn mynd rhagddo a byddwn yn cyhoeddi ein cynllun adfer byd natur yn 2023 i 2024 – mae gennym ragor i’w wneud i gyrraedd y targed hwn yn 2025

Erbyn Ebrill 2025, byddwn:

  • yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o’n hystad, ein gweithrediadau a’n teithiau 65% o’n llinell sylfaen 2017 i 2018

  • yn cyflwyno adroddiadau integredig sy’n defnyddio targedau mesuredig, sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddangos ein hymrwymiad a’n cynnydd o ran ein nodau cynaliadwyedd

  • yn deall ac yn cydnabod effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a thywydd eithafol ar ein hystad a’n gweithrediadau gyda chynllun addasu sydd wedi’i ddiffinio’n glir

  • wedi llunio cynllun adfer byd natur a byddwn yn dangos sut mae ein hystad a’n gweithrediadau yn cael eu hoptimeiddio ar gyfer adferiad byd natur

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad mwy cynaliadwy ac rydym am ddefnyddio ein gwaith i helpu i sicrhau newid cadarnhaol yn y cymunedau rydym yn eu cefnogi. Rydym wedi cyhoeddi ein cynllun cynaliadwyedd newydd, sy’n cynnwys ystyriaeth wirioneddol i gynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol, a chynnwys y meddylfryd hwn yn ein penderfyniadau a’n hadroddiadau.

Rydym yn parhau i gymryd camau i ddatgarboneiddio ein gweithgareddau a chynyddu atafaelu carbon i’r eithaf yn ein safleoedd. Rydym hefyd yn cymryd camau i gefnogi byd natur a bywyd gwyllt cydnerth drwy reoli ein safleoedd a’n hystad yn y ffordd orau bosib. Cafodd ein cynllun cynaliadwyedd ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2023.

7.3 Gweithio gydag eraill i greu gwerth

Canlyniad cerdyn sgorio

Byddwn yn creu mwy o werth ac yn sicrhau budd amgylcheddol a chymdeithasol ehangach o’n hasedau, ein gwasanaethau a’n gwaith.

Yn 2022 i 2023, fe wnaethom y canlynol:

  • galluogi un cynllun gwres dŵr cloddfeydd gweithredol mawr yn Gateshead, Gogledd Ddwyrain Lloegr, ac rydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein targed ar gyfer 2025

  • ailddefnyddio neu ailgylchu 89% o’n solidau haearn gwastraff a pharhau i gasglu data ar groniad ocrau haearn yn ein prosesau trin

  • cynyddu ein darpariaeth gwasanaeth i bartneriaid 20% o’n llinell sylfaen ar gyfer 2021 i 2022 ac rydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein targed ar gyfer 2025

  • gweithio gyda’r diwydiant benthyca i ddatblygu cynnyrch newydd i gefnogi penderfyniadau cyflymach, ac rydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein targed 2025

Erbyn Ebrill 2025, byddwn:

  • yn dylanwadu ar bedwar cynllun gwres dŵr cloddfeydd gweithredol mawr ledled Prydain Fawr, a’u galluogi

  • yn ailddefnyddio neu’n ailgylchu 95% o’r ocrau haearn a’r solidau haearn a gynhyrchir o’n cynlluniau trin dŵr cloddfeydd er mwyn atal gwaredu mewn safleoedd tirlenwi

  • yn cynyddu ein darpariaeth gwasanaeth i bartneriaid 30% o’n llinell sylfaen 2021 i 2022 o £2.49 miliwn y flwyddyn

  • yn helpu’r diwydiant benthyca i wneud penderfyniadau cyflymach i brynwyr tai ar y meysydd glo

Mae creu gwerth – ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol – yn allweddol i’n ffordd o feddwl yn yr Awdurdod Glo ac rydym bob amser yn chwilio am arloesi ac effeithlonrwydd newydd er mwyn sicrhau gwell canlyniadau, cyfleoedd newydd ac arbedion i’r trethdalwr.

Rydym yn frwd dros gymunedau glofaol hanesyddol ar y maes glo a thu hwnt, ac yn defnyddio ein gwybodaeth, ein sgiliau a’n harbenigedd i roi hyder i’r rheini sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardaloedd hyn, ac i greu cyfleoedd a manteision o’n gwaddol glofaol lle bo hynny’n bosib. Yn ystod 2023 a 2024 byddwn yn cyhoeddi ein fframwaith cyfleoedd gwres pyllau glo a’n fframwaith cyfleoedd sgil-gynhyrchion.

7.4 Creu lle gwych i weithio ynddo

Canlyniad cerdyn sgorio

Byddwn yn gyflogwr o ddewis lle mae ein pobl yn teimlo y gallant berthyn. Bydd gennym ddiwylliant cynhwysol gyda ffocws cryf ar les, dysgu a datblygiad. Rydym yn ymfalchïo mewn cyflawni gwaith pwysig i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac yn byw yn ôl ein gwerthoedd.

Yn 2022 i 2023, fe wnaethom y canlynol:

  • gwneud cynnydd da o ran cynyddu amrywiaeth ein gweithlu gyda chynnydd yn nifer y cyd-weithwyr sy’n ferched, o gefndiroedd ethnig amrywiol, yn bobl LHDTC+ ac yn bobl anabl – mae gennym ragor i’w wneud i gyrraedd y targed hwn yn 2025

  • siarad â phartneriaid ac edrych ar yr arferion gorau yn y maes hwn – mae gennym ragor i’w wneud i gyrraedd y targed hwn yn 2025

  • ennill sgôr 4 seren cryf yn Archwiliad Iechyd, Diogelwch a Lles 5 Seren Cyngor Diogelwch Prydain – rydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein targed ar gyfer 2025

  • ennill sgôr 66% ar gyfer ymgysylltu â gweithwyr yn ein harolwg yn 2022 – mae gennym ragor i’w wneud i gyrraedd y targed hwn yn 2025

Erbyn Ebrill 2025, byddwn:

  • yn gwneud cynnydd amlwg tuag at sicrhau bod ein gweithlu’n adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ledled Prydain Fawr yn well

  • yn cefnogi ffyniant bro drwy gymryd camau i wella symudedd cymdeithasol a darparu prentisiaethau i unigolion sy’n byw ar y maes glo ac sydd â chysylltiad teuluol â chloddio

  • yn ennill sgôr 5 seren yn Archwiliad Iechyd, Diogelwch a Lles 5 Seren Cyngor Diogelwch Prydain

  • yn cynyddu ein sgôr ymgysylltu â gweithwyr 10% yn erbyn meincnod 2019, sef 67%

Mae pobl wych wrth galon yr hyn rydym yn ei wneud a dim ond drwy eu denu, eu recriwtio a’u cadw y gallwn gyflawni’r gwaith pwysig rydym yn ei wneud i gadw pobl yn ddiogel, i ddiogelu’r amgylchedd ac i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd.

I wneud hynny, rhaid inni fod yn ‘lle gwirioneddol wych i weithio ynddo’ sy’n denu talent amrywiol o bob rhan o Brydain Fawr ac yn eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu, ac yn cael cyfleoedd i dyfu a datblygu. Rydym am fod yn gyflogwr o ddewis sy’n fywiog, yn ddeinamig ac yn fodern, ac sy’n hybu diwylliant cynhwysol sy’n canolbwyntio ar les ac sy’n seiliedig ar ein gwerthoedd. Fe wnaethom gyhoeddi ein cynllun iechyd, diogelwch a lles ym mis Awst 2022 a’n cynllun gwrth-hiliaeth ym mis Gorffennaf 2022. Rydym yn parhau i gyflawni yn erbyn ein strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant 2021 i 2024.

7.5 Ein gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol

Canlyniad cerdyn sgorio

Byddwn yn datblygu systemau a phrosesau modern a chadarn sy’n addas ar gyfer y dyfodol, yn cefnogi ein pobl ac yn ei gwneud yn haws i’n cwsmeriaid a’n partneriaid wneud busnes gyda ni.

Yn 2022 i 2023, fe wnaethom y canlynol:

  • diweddaru 35% o’n systemau TG strategol i’w rhedeg yn y cwmwl ac rydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein targed ar gyfer 2025

  • sicrhau bod 78% o’n gwasanaethau yn ddigidol yn ddiofyn, sy’n cyfateb i 99% o’n trafodion ac rydym yn blaenoriaethu opsiynau costeffeithiol ar gyfer gwella ein gwasanaethau a’n gwybodaeth i’n harwain at 100% digidol yn ddiofyn; ni chafodd unrhyw systemau trafodion newydd eu hadeiladu yn ystod y flwyddyn ac mae gennym ragor i’w wneud i gyrraedd y targed hwn yn 2025

  • cwblhau’r gwaith o ddarparu cyfres graidd o gynnyrch Microsoft 365 a fydd yn galluogi gwell cydweithio yn y sefydliad ac ar gyfer ein partneriaid, ac rydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein targed ar gyfer 2025

  • gwneud cynnydd da o ran datblygu cynllun data a gwybodaeth i’w gyhoeddi yn 2023 i 2024, a fydd yn dangos sut byddwn yn defnyddio’r data a’r wybodaeth sydd gennym yn y dyfodol yn y ffordd orau bosib a’u gwneud yn hygyrch ac yn rhyngweithredol, ac yn hawdd cael gafael arnynt a’u hailddefnyddio – mae gennym ragor i’w wneud i gyrraedd y targed hwn yn 2025

Erbyn Ebrill 2025, byddwn:

  • yn diweddaru 100% o’n systemau TG strategol ac yn eu rhedeg yn y cwmwl

  • yn gwneud ein gwasanaethau digidol a’n gwybodaeth yn fwy hygyrch, perthnasol a gyda mwy o ddewisiadau hunanwasanaeth – bydd 100% o’n gwasanaethau yn ddigidol yn ddiofyn a bydd 100% o’n systemau trafodion newydd yn dilyn safonau gwasanaeth a dylunio GOV.UK

  • yn gwneud cynnydd amlwg o ran gweithredu systemau sy’n caniatáu cydweithio symlach a gwell yn y sefydliad a gyda phartneriaid

  • yn gwneud cynnydd o ran gwella ein sgoriau hunanasesu ar gyfer data canfyddadwy, hygyrch, rhyngweithredol y gellir ei ailddefnyddio (FAIR)

Rydym wedi amlinellu uchelgeisiau uchel drwy ein gweledigaeth a’r cynllun busnes tair blynedd. Rhaid inni alluogi’r uchelgeisiau hyn drwy systemau a dulliau effeithiol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n ein helpu i ddarparu’r gwasanaethau craidd sy’n cadw pobl yn ddiogel, y cyfleoedd sydd gennym i greu gwerth a’r angen i sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol.

Byddwn yn dylunio ac yn cynnal rhaglen sydd wedi’i galluogi’n ddigidol o safbwynt ein pobl a’n cwsmeriaid er mwyn cefnogi diwylliant ‘Un Awdurdod Glo’, a’i gwneud yn hawdd gwneud busnes â ni. Rhwng 2023 a 2024 byddwn yn cyhoeddi ein cynllun data a gwybodaeth.

8. Ein gwaith i alluogi gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol

Yn ystod 2022 i 2023, buom yn gweithio gyda Defra, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Sir Cumbria[footnote 2] ac Ymddiriedolaeth Afonydd Tyne i fanteisio i’r eithaf ar botensial ein safle newydd yn Nentsberry yn Cumbria ar gyfer gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol i’r gymuned leol a’r dalgylch.

Fe wnaethom brynu’r cae 10 erw fel rhan o’n gwaith gyda Defra ac Asiantaeth yr Amgylchedd ar y rhaglen Dŵr a Chloddfeydd Metel wedi’u Gadael i leihau llygredd o gloddfeydd metel ledled Lloegr, a helpu i gyflawni uchelgeisiau Deddf yr Amgylchedd 2021. Roedd angen iddo greu cored yn yr afon ac adeiladu gorsaf bwmpio o garreg leol i gludo dŵr cloddfeydd o geuffordd Haggs ger ein cynllun trin dŵr cloddfeydd newydd yn Nent Heggs, ymhellach ar hyd y dalgylch.

Yn ystod trafodaethau gyda Chyngor Sir Cumbria daeth yn amlwg fod ffordd yr A689 ger y cae yn dioddef llifogydd dŵr wyneb a rhew, gan achosi niwsans a risg i’r gymuned leol. Roeddem wedi gallu dylunio ateb gan ddefnyddio ein tir i reoli’r dŵr yn well, gan ddefnyddio dulliau naturiol o reoli llifogydd.

Rydym yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Afonydd Tyne a gwirfoddolwyr lleol i wella’r gwaith o greu cynefinoedd ar y safle. Mae hyn yn cynnwys pwll, pyllau gwlyptir, plannu coed a llwyni, a glaswelltir cyfoethog ei rywogaethau. Rydym hefyd yn sefydlu meithrinfa Calaminariwm gan ddefnyddio is-haenau metelaidd sy’n deillio o waith gwella llygredd yn yr afon gyfagos, Nent a’r afon West Allen yn Carrshield, yn nalgylch Tyne. Mae rhywogaethau Calaminariwm yn blanhigion sy’n gallu delio â metel ac mae llawer ohonynt yn brin ar raddfa fyd-eang. Mae’n bwysig i’n rhaglen adfer cloddfeydd metel ein bod, wrth atal llygredd dŵr, nid yn unig yn cynnal cymunedau planhigion Calaminariwm presennol ond hefyd yn sefydlu ardaloedd newydd fel rhan o’r cynlluniau adfer hyn. Bydd ein meithrinfa yn Nentsberry yn ei gwneud hi’n bosib sefydlu rhywogaethau Calaminariwm, eu tyfu a’u plannu wedyn mewn prosiectau adfer gwasgaredig ar draws dalgylchoedd Tyne a Wear. Bydd hyn yn ategu’r gwaith sy’n cael ei wneud gan yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn eu Canolfan Ymwelwyr Bowlees yn Teesdale.

Rydym wedi dylunio’r safle i hybu mynediad i’r gymuned leol ac wedi creu llwybr troed caniataol ar draws y safle sy’n cysylltu â hawliau tramwy cyhoeddus eraill yn yr ardal leol.

9. Adolygiad ariannol

Rydyn ni wedi cyflawni’n dda dros y flwyddyn. Mae ein gwaith ymateb i ddigwyddiadau a diogelwch y cyhoedd wedi parhau i gadw pobl yn ddiogel a thawelu eu meddwl, a bydd buddsoddiad parhaus yn ein cynlluniau dŵr cloddfeydd yn ein galluogi i drin dŵr cloddfeydd a diogelu’r amgylchedd yn y dyfodol.

Rydym wedi parhau i gynyddu incwm ein gwasanaethau cynghori wrth inni helpu ein partneriaid i ddeall a rheoli eu risgiau, a darparu gwybodaeth a gwasanaethau i helpu pobl i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.

Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r Adran Diogelwch Ffynonellau Ynni a Sero Net, sef yr hen Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), i gyfleu’r risgiau a’r sensitifrwydd y tu ôl i’n gofynion cyllido, ac rydym wedi cyflawni yn unol â’n rhagolygon. Roedd y cymorth grant a gafwyd gan BEIS a’r Adran Diogelwch Ffynonellau Ynni a Sero Net yn ystod y flwyddyn yn £58.0 miliwn (2021 i 2022: £53.2 miliwn) sy’n adlewyrchu cynnydd yng nghost net ein gweithrediadau. Mae hyn wedi’i esbonio a’i ddangos yn y graffigyn gyferbyn (sylwer y darparwyd ar gyfer cyfran sylweddol o’r gost hon mewn blynyddoedd blaenorol fel yr esbonnir yn nodyn 13 y datganiadau ariannol, ac nid yw’n cael ei briodoli’n uniongyrchol i’r Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr yn y flwyddyn).

Gan weithio gyda’n partneriaid, fe wnaethom gyflawni ein rhaglen gyfalaf flynyddol fwyaf erioed i warchod cyrsiau dŵr, dyfrhaenau dŵr yfed ac i atal llifogydd. Mae gwariant gweithredu ar ein cynlluniau wedi cynyddu’n sylweddol, wedi’i sbarduno’n bennaf gan chwyddiant mewn costau pŵer a chemegol. Bydd ein rhaglenni parhaus yn lleihau’r gost o redeg y cynlluniau hyn yn y dyfodol drwy ddefnyddio ein sgil-gynhyrchion mewn ffordd arloesol a drwy gynhyrchu arbedion effeithlonrwydd gweithredol eraill, ac mae’n dda ein bod wedi cyflawni ein gwaith cyntaf tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol o ran ein sgil-gynhyrchion ocrau i’w defnyddio mewn treulio anaerobig. Disgwylir i’r cynllun hwn leihau ein cost net £1.0 miliwn dros y 5 mlynedd nesaf.

Mae ein gwariant ar ddiogelwch cyhoeddus yn adweithiol a gall amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Roedd ein gwariant yn 2022 i 2023 wedi lleihau o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol, gan adlewyrchu’r gwaith a wnaethom yn 2021 i 2022 i ddatrys nifer o hawliadau a digwyddiadau sylweddol, gan gynnwys ein cymorth i’r ymateb brys yn Saltcoats, Gogledd Ayrshire a gwaith parhaus i adfer nodweddion pyllau glo yn Sgiwen. Mae’r gost datblygu a ddangosir yn y ffigur uchod yn cynnwys gwariant parhaus ar safle’r hen bwll glo yn Clipstone, Swydd Nottingham, i wneud nodweddion y pwll glo yn ddiogel a’i gwneud hi’n bosib datblygu’r safle er mwyn gallu ei ddefnyddio mewn ffordd fuddiol i’r gymuned.

Mae incwm adroddiadau cloddio o £7.0 miliwn yn adlewyrchu gostyngiad o £1.4 miliwn o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, sy’n adlewyrchu gostyngiad araf yn nifer y trafodiadau eiddo yn ogystal â llwyddiant ein polisi i sicrhau bod ein data ar gael, gan agor y farchnad o sefyllfa fonopoli bron o’r blaen. Cynhyrchodd ein gwaith gwasanaethau cynghori a thechnegol incwm o £6.8 miliwn (2021-22: £6.4 miliwn) sy’n adlewyrchu ein llwyddiant parhaus o ran cyflawni gyda sefydliadau eraill y llywodraeth. Mae hyn yn cynnwys darparu cynllun dŵr cloddfeydd ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn Lloegr a Cyfoeth Naturiol Cymru, a helpu Llywodraeth Cymru i reoli tomenni’n ddiogel.

9.1 Datganiadau ariannol

Mae ein cyfrifon yn cael eu dominyddu gan y balans darpariaethau o £2,211.0 miliwn. Dangosir y rhesymeg a’r fethodoleg ar gyfer cyfrifo hyn yn nodyn 13 yn y datganiadau ariannol.

Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol ac yn unol â’n polisi cyfrifyddu, adolygwyd y ddarpariaeth hon ar gyfer datrys effeithiau cloddio glo yn y gorffennol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2022 i 2023. Mae’r balans hwn wedi lleihau £3,407.0 miliwn (2021-22: cynnydd o £3,102.0 miliwn). Yn unol ag arferion cyfrifyddu, rydym yn addasu ein llifoedd arian i adlewyrchu gwerth amser yr arian ar sail rhagdybiaethau a chyfraddau a ddarperir gan Drysorlys EF. Mae’r newid mewn cyfraddau eleni wedi arwain at leihad o £4,467.0 miliwn (2021-22: cynnydd o £2,759.0 miliwn).

Mae ein llifoedd arian sylfaenol, y cyfrifir balans y ddarpariaeth arnynt, wedi cael eu diweddaru ar sail y wybodaeth ddiweddaraf ac wedi cynyddu £516 miliwn i £3,350 miliwn. Mae hyn yn cydnabod y cynnydd sylweddol o ganlyniad i gyfraddau chwyddiant uchel, yn enwedig o ran costau pŵer a chemegol sy’n effeithio ar gynlluniau dŵr cloddfeydd, ac yn adlewyrchu’r duedd dros y blynyddoedd diwethaf o reoli nifer cynyddol o ddigwyddiadau diogelwch cyhoeddus cymhleth.

9.2 Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr

Roedd yr incwm net cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2023 yn £3,347.5 miliwn o’i gymharu â’r gwariant net cynhwysfawr o £3,149.2 miliwn yn 2021-22. Mae’r gwahaniaeth mawr rhwng y ddwy flynedd yn cael ei yrru gan y newidiadau mewn darpariaethau a amlinellir uchod. Heb gynnwys y newidiadau hyn mewn darpariaethau, roedd y gwariant net cynhwysfawr am y flwyddyn yn £34.4 miliwn (2021-22: £18.9 miliwn), cynnydd o £15.5 miliwn.

9.3 Sut roeddem wedi defnyddio ein harian yn 2022 i 2023

Dangosir ffigurau ar gyfer blynyddoedd 2022 i 2023 a 2021 i 2022.

Ein hincwm o 2022 i 2023 2021 i 2022
Adroddiadau cloddio £7.0m £8.4m
Gwasanaethau cynghori a thechnegol £6.8m £6.4m
Sgil-gynhyrchion ac arloesedd masnachol arall £0.1m £0.0m
Indemniadau trwyddedu a chaniatadau £0.8m £0.8m
Cysylltiedig ag eiddo £2.0m £2.9m
Newidiadau mewn cyfalaf gweithio £0.0m £2.4m
Cymorth Grant (BEIS) £58.0m £53.2m
Cyfanswm £76.3m £75.6m
Ein gwariant ar 2022 i 2023 2021 i 2022
Gweithrediadau: Diogelwch y Cyhoedd £15.9m £21.1m
Gweithrediadau: Cynlluniau trin dŵr cloddfeydd £20.0m £16.9m
Gweithrediadau: Gorsafoedd pwmpio ymsuddiant £1.6m £1.4m
Datblygu: Cynllunio, trwyddedu, caniatadau ac eiddo £4.2m £3.2m
Data a gwybodaeth £4.3m £3.9m
Masnachol £8.7m £9.4m
Arloesedd £2.0m £0.8m
Cynlluniau trin dŵr cloddfeydd (Cyfalaf) £16.6m £15.6m
Gorsafoedd pwmpio ymsuddiant (Cyfalaf) £1.2m £0.5m
Arall (Cyfalaf) £1.8m £1.9m
Cyfanswm £76.3m £75.6m

Yr incwm o £18.3 miliwn yn ôl y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr yw cyfanswm y ffigurau incwm uchod ac eithrio cymorth grant a newidiadau mewn cyfalaf gweithio.

9.4 Cyfanswm yr incwm gweithredu

Roedd cyfanswm yr incwm gweithredu, ac eithrio cymorth grant, yn £18.3 miliwn (2021 i 22: £20.0 miliwn) gan adlewyrchu ein strategaeth barhaus i gydweithio â sefydliadau’r llywodraeth i’w helpu i reoli eu risgiau, gan hybu cystadleuaeth yn y farchnad adroddiadau cloddio a galluogi eraill i ddefnyddio ein gwybodaeth i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.

Mae gostyngiad o 14% o un flwyddyn i’r llall ym maint y farchnad o ganlyniad i effaith yr amodau economaidd presennol ar nifer y trafodiadau eiddo, ynghyd â’r golled fach yng nghyfran y farchnad yn ystod y flwyddyn (gostyngiad o 2% i 42%), wedi arwain at ostyngiad mewn incwm adroddiadau cloddio. Gostyngodd refeniw adroddiadau cloddio £1.4 miliwn i £7.0 miliwn, a chynyddodd refeniw trwyddedu data a gwybodaeth cloddio £0.1 miliwn i £1.6 miliwn.

Mae ein hincwm o wasanaethau cynghori a thechnegol wedi cynyddu £0.4 miliwn i £6.8 miliwn. Mae hyn yn cael ei yrru’n bennaf gan y rhaglenni cloddio metel estynedig rydym yn eu darparu ar gyfer Defra a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’r newid arall yn ein hincwm o 2021-22 yn ymwneud â gwerthu eiddo gyda gostyngiad o £1.0 miliwn o elw ar waredu eiddo buddsoddi. Gweler nodyn 4.2 yn y datganiadau ariannol. Gall yr incwm hwn fod yn anwadal gan fod ei amseriad y tu hwnt i’n rheolaeth i raddau helaeth

Mae mân newidiadau mewn incwm sgil-gynhyrchion a chynnyrch a gwasanaethau arall yn cyfrif am y cynnydd sy’n weddill o £0.2m.

9.5 Gwariant

Roedd costau staff wedi cynyddu £2.1 miliwn o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, i £19.9 miliwn. Mae dyfarniadau cyflog, ar 3% yn unol â chanllawiau cylch cyflog y gwasanaeth sifil, yn cyfrif am £0.5 miliwn.

Mae gweddill y cynnydd wedi’i yrru gan niferoedd staff yn unol â’n cynlluniau i ddarparu rhagor o wasanaethau rheng flaen i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae hyn yn cynnwys cyflawni ein rhaglen gyfalaf fwyaf erioed ar gyfer cynlluniau dŵr cloddfeydd i warchod yr amgylchedd, darparu rhagor o gyngor a gwasanaethau technegol i’n cwsmeriaid, a galluogi’r sefydliad i wreiddio’r gallu i ymateb yn fwy cydnerth ac effeithiol byth i argyfwng, wrth inni ddelio â nifer cynyddol o ddigwyddiadau cymhleth

Cynyddodd pryniannau nwyddau a gwasanaethau (heb gynnwys ein costau rheng flaen a ddarparwyd yn flaenorol) £1.6 miliwn i £10.7 miliwn. Y rhan gyfansoddol fwyaf o hyn yw’r £0.7 miliwn a ddarparwyd ar gyfer y colledion disgwyliedig mewn credyd. Mae gyrwyr eraill yn cynnwys cynnydd mewn costau digidol dros y flwyddyn wrth inni barhau i wneud cynnydd da ar ein prosiect i symud i letya ein systemau yn y cwmwl i wella ein cydnerthedd a’n heffeithlonrwydd; a gwaith parhaus ar ein rhaglen gwella cynaliadwyedd, gan gynnwys asesu dewisiadau ynni adnewyddadwy i leihau costau yn y dyfodol

Cynyddodd taliadau dibrisiant, ailbrisio ac amhariad £10.2 miliwn i £21.3 miliwn, sy’n adlewyrchu cynnydd mewn buddsoddiad drwy ein rhaglen cynllun trin dŵr cloddfeydd a chyflawni cynlluniau. Yn unol â’n polisi cyfrifyddu, rydym yn amharu ar ein cynlluniau ar unwaith i werth net o ddim ar y llyfrau pan fyddant yn dod yn weithredol

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nodiadau 3 a 4 yn y datganiadau ariannol.

9.6 Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol

Gostyngiad o £3,405.5 miliwn yn y rhwymedigaethau net i £2,201.9 miliwn (2021-22: £5,607.4 miliwn).

Y ffactorau allweddol oedd:

  • gostyngodd y darpariaethau yn erbyn rhwymedigaethau yn y dyfodol £3,407.0 miliwn o ganlyniad i’r adolygiad o ddarpariaethau a amlinellwyd uchod. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nodyn 13 yn y datganiadau ariannol

  • mae’r gostyngiad yng nghyfanswm yr asedau anghyfredol yn cael ei sbarduno’n bennaf gan amseriad amharu ar gynlluniau dŵr cloddfeydd (a ddelir mewn eiddo, peiriannau a chyfarpar) ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu a phan fyddant yn weithredol, fel yr amlinellwyd uchod

  • gostyngodd symiau derbyniadwy drwy fasnach wedi gostwng £0.7 miliwn i £4.0 miliwn, yn bennaf o ganlyniad i amseriad cyhoeddi anfonebau a chael taliadau gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gwasanaethau rheoli tomenni, gyda’r cynnydd mewn incwm cronnus yn cael ei wrthbwyso’n fras gan swm penodol yr aseswyd ei fod yn anadferadwy o fewn y colledion disgwyliedig mewn credyd

  • mae’r arian a’r hyn sy’n cyfateb i arian yn £13.2 miliwn (2021 i 2022: £14.3 miliwn): gweler yr adran isod ar lif arian i gael manylion am newidiadau

  • mae symiau masnach taladwy a symiau taladwy eraill wedi gostwng £2.9 miliwn, a’r prif yrrwr yw gostyngiad mewn croniadau sy’n ymwneud ag amseru diogelwch y cyhoedd a gwariant cynlluniau dŵr cloddfeydd

9.7 Llif arian

Roedd gostyngiad net o £1.1 miliwn mewn arian yn ystod y flwyddyn.

Dyma rannau cyfansoddol y newid hwn:

  • cael cymorth grant o £58.0 miliwn gan yr Adran Diogelwch Ffynonellau Ynni a Sero Net (2021 i 2022: £53.2 miliwn) – mae’r cynnydd, sef y prif newid yn ein balans arian o un flwyddyn i’r llall, yn arian wedi’i dynnu i lawr i dalu am gyfalaf gweithio sy’n ymwneud â dau brif faes: datrys digwyddiadau diogelwch y cyhoedd a’n rhaglenni cyfalaf, yn unol â’r sylwebaeth ar groniadau uchod

  • all-lif arian net o weithgareddau gweithredu o £39.9 miliwn (2021 i 2022: £35.7 miliwn); rydym wedi gwario mwy eleni ar ein gweithrediadau,

yn benodol; o ganlyniad i bwysau cost chwyddiant sylweddol mewn perthynas â gweithredu ein cynlluniau dŵr cloddfeydd; ar yr ymateb brys i domen yn llosgi yn Beever Lane, Barnsley; gwaith parhaus i adfer nodweddion y pwll glo yn Sgiwen; yn ogystal â nifer o hawliadau a digwyddiadau diogelwch cyhoeddus sylweddol eraill

  • all-lif arian net o weithgareddau buddsoddi o £18.7 miliwn (2021 i 2022: £13.5 miliwn) – mae hyn yn ymwneud â phrynu eiddo, peiriannau a chyfarpar fel rhan o’n rhaglen barhaus i ddatblygu, adeiladu a chynnal cynlluniau dŵr cloddfeydd a gorsafoedd pwmpio ymsuddiant, a’r buddsoddiad parhaus yn ein technoleg a’n systemau gwybodaeth, yn ogystal â gostyngiad o £1.4 miliwn o incwm (2021-22: £3.0 miliwn) o werthu eiddo

  • ar 31 Mawrth 2022 roeddem yn dal £13.2 miliwn o arian (2022: £14.3 miliwn) – mae hyn yn cynnwys £1.4 miliwn (2022: £1.4 miliwn) o gyllid wedi’i neilltuo mewn cysylltiad â gwarant a gafodd ei alw i mewn gan weithredwyr cloddio sydd wedi datod, a defnyddir y newidiadau mewn gwarant wedi’i alw i mewn i ryddhau rhwymedigaethau hawliadau’r diwydiant fel rhan o’n gweithgareddau gweithredu

9.8 Busnes hyfyw

I’r graddau nad ydynt yn cael eu bodloni drwy ein ffynonellau incwm eraill, dim ond drwy grantiau neu grantiau yn y dyfodol gan ein hadran nawdd, yr Adran Diogelwch Ffynonellau Ynni a Sero Net y gellir bodloni ein rhwymedigaethau. Y rheswm am hyn yw, o dan y confensiynau arferol sy’n berthnasol i reolaeth seneddol dros incwm a gwariant, efallai na fydd grantiau o’r fath yn cael eu cyhoeddi cyn yr angen.

Mae paragraff 14(1) Atodlen 1 Deddf y Diwydiant Glo 1994 yn datgan: “Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol, mewn perthynas â phob blwyddyn gyfrifyddu, dalu i’r Awdurdod Glo unrhyw swm y mae’n penderfynu mai dyna’r swm sy’n ofynnol gan yr Awdurdod Glo ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon yn ystod y flwyddyn honno.”

Ar sail hynny, mae gan y bwrdd ddisgwyliad rhesymol y byddwn yn parhau i dderbyn cyllid er mwyn gallu bodloni ein rhwymedigaethau. Rydym felly wedi paratoi ein cyfrifon ar sail busnes hyfyw.

10. Ein Gwaith yn Lloegr

Rydym yn gwneud ein gorau’n barhaus i arloesi a gwella ein cynlluniau trin dŵr cloddfeydd i wella eu heffeithiolrwydd a’u heffeithlonrwydd, a chwilio am gyfleoedd i fireinio defnydd cemegol neu bŵer i leihau eu heffeithiau carbon a chynaliadwyedd, a sicrhau’r canlyniadau amgylcheddol gorau posib o bob safle.

Mae ein cynlluniau trin dŵr cloddfeydd yn hanfodol i ddiogelu dŵr yfed, afonydd a’r môr rhag llygredd o ddŵr cloddfeydd hanesyddol. Mae gennym y capasiti i drin dros 128 biliwn litr o ddŵr ar draws ein 76 cynllun ac rydym yn monitro ansawdd dŵr yn barhaus, gan flaenoriaethu, dylunio ac adeiladu cynlluniau newydd i fynd i’r afael â risgiau yn y dyfodol.

Rydym yn gwneud hyn ar gyfer ardaloedd y meysydd glo ac, yng Nghymru a Lloegr, ar gyfer cloddfeydd metel. Yn Lloegr, mae’r gwaith hwn yn cael ei ariannu gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) fel rhan o’r rhaglen dŵr a chloddfeydd metel wedi’u gadael sydd bellach â thargedau cyfreithiol rwymol wedi’u pennu o dan Ddeddf yr Amgylchedd 2021.

Cafodd cynllun Wheal Jane yng Nghernyw ei adeiladu’n wreiddiol gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn 2000 yn dilyn digwyddiad llygredd sylweddol a effeithiodd ar dros 10km o Afon Carnon ac aber ehangach y Fal yn 1992. Yn 2011, fe wnaethom ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros berchnogaeth a rheolaeth y cynllun.

Mae Wheal Jane yn trin 5.6 biliwn litr o ddŵr cloddfeydd bob blwyddyn, gan dynnu arsenig, cadmiwm, copr, haearn, plwm, manganîs, mercwri a sinc cyn gollwng dŵr glân i ddalgylch Afon Carnon. Cafodd ei gynnwys ar Countryfile ym mis Chwefror 2023 a gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy sganio’r cod QR uchod.

Yn ystod 2022 a 2023, rydym wedi buddsoddi rhagor yn Wheal Jane i wella ei heffeithlonrwydd a’i chydnerthedd ar gyfer y tymor hir. Roedd hyn yn cynnwys uwchraddio systemau calch, newid y bibell a’r pympiau dŵr golchi, newid y cywasgwr, mesurau diogelwch tân ychwanegol a rhagor o waith i uwchraddio lleoliad pwmpio ychwanegol os bydd tywydd eithafol.

Rydym wedi gweithio gyda’n contractwyr JF Hunt, sy’n rheoli gweithrediad y safle, i asesu naw mlynedd o ddata perfformiad o’r safle ac i nodi cyfleoedd drwy ddeallusrwydd artiffisial i leihau dosio cemegol a rhedeg y safle hyd yn oed yn fwy effeithiol yn y dyfodol. Byddwn yn dysgu o hyn ac yn defnyddio hynny i lywio’r gwaith o reoli ein safleoedd eraill yn y blynyddoedd i ddod.

Ein blwyddyn yn Lloegr:

  • wedi cynnal 8,631 o archwiliadau mynedfeydd pyllau glo

  • wedi cynhyrchu 89,276 o adroddiadau cloddio

  • wedi pennu 535 o beryglon a digwyddiadau ymsuddiant

  • wedi darparu 7,516 o ymatebion i ymgyngoriadau cynllunio

  • wedi trin 80 biliwn litr o ddŵr

  • wedi atal 2,723 tunnell o solidau haearn rhag mynd i gyrsiau dŵr

11. Iechyd, diogelwch a lles

Rydym wedi lansio ein cynllun iechyd, diogelwch a lles 2022 i 2025, sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch o ran ymddygiad a gweithdrefnau, a rhagor o gydnabyddiaeth o’n gwaith i gefnogi iechyd meddwl a lles ein pobl.

Roedd ein harolwg pobl yn dangos bod 93% o’n pobl yn credu bod iechyd a diogelwch yn flaenoriaeth i’r Awdurdod Glo. Mae 88% yn hyderus y byddai camau’n cael eu cymryd pe baent yn rhoi gwybod am bryder iechyd neu ddiogelwch, ac mae 80% yn credu bod y bobl yn eu tîm wir yn poeni am eu lles.

Rydym wedi gwneud cynnydd parhaus yn erbyn pob un o’r camau gweithredu yn ein cynllun iechyd, diogelwch a lles: 2022 i 2025, gan gynnwys datblygu a lansio system rheoli iechyd, diogelwch a lles ar-lein newydd sy’n ein galluogi i wella ein defnydd o ddata, i gymryd camau mwy prydlon, sy’n seiliedig ar wybodaeth i leihau risg ymhellach, ac sydd wedi symleiddio’r broses adrodd i’n pobl, i’n partneriaid ac i’r gadwyn gyflenwi.

Buom yn gweithio gydag Arolygiaeth Cloddfeydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i ddatblygu gweithdrefnau newydd os bydd angen inni fynd yn ôl i gloddfeydd segur i reoli diogelwch neu lygredd, a darparu hyfforddiant gloywi i bawb sy’n ymwneud â gwaith o dan Reoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015.

Fe wnaethom feincnodi ein dull gweithredu gan ddefnyddio Archwiliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol 5 Seren Cyngor Diogelwch Prydain ym mis Chwefror 2023. Cawsom sgôr o 90.7%, sy’n ganlyniad 4 seren uchel. Roedd yr adborth yn nodi ‘tystiolaeth dda o arweinyddiaeth ar bob lefel o reolaeth, gyda phwyslais sylweddol ar ddiogelwch a lles’, yn ogystal â ‘pherthynas gadarnhaol rhwng yr Awdurdod Glo a’i brif gontractwyr’. Byddwn yn defnyddio’r hyn a ddysgwyd o’r archwiliad, ochr yn ochr â’r adborth o’n harolwg pobl, i lywio’r gwaith parhaus o gyflawni ein cynllun a’n perfformiad iechyd, diogelwch a lles yn ystod 2023 a 2024.

Roeddem yn cydnabod bod ein pobl wedi parhau i wynebu pwysau allanol yn dilyn y pandemig, gan gynnwys chwyddiant, pwysau ariannol ac ansicrwydd byd-eang ehangach. Rydym wedi cynyddu ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i bobl, gan gynnwys ein cynllun cymorth i weithwyr, archwiliadau iechyd gweithwyr, hyfforddiant ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a chymorth gan swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl.

Rydym yn siarad am hyn yn rheolaidd mewn galwadau ymgysylltu â chyd-weithwyr ac yn cynnal ymgyrchoedd rheolaidd sy’n darparu gwybodaeth ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud ag iechyd a lles. Mae ein grŵp ymgysylltu â staff, ein grŵp diogelwch, iechyd, yr amgylchedd a lles, a’n rhwydweithiau cyd-weithwyr yn gyfleoedd ymgysylltu pwysig ac yn ei gwneud hi’n bosib gweithredu neu gael adborth prydlon mewn cysylltiad ag unrhyw gwestiynau, pryderon neu gyfleoedd a godir.

Mesur rhagweithiol 2022 i 2023 2021 i 2022
arsylwadau iechyd, diogelwch a lles – gweithredoedd anniogel, staff a chontractwyr 1,962 2,407
arsylwadau iechyd, diogelwch a lles – enghreifftiau o arferion da, staff a chontractwyr 574 281
archwiliadau iechyd, diogelwch a lles, staff 322 218
Mesur adweithiol 2022 i 2023 2021 i 2022
Damweiniau – dim amser wedi’i golli (staff a chontractwyr) 11 7
Damweiniau – amser wedi’i golli (staff) 1 1
Digwyddiadau – Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus, staff a chontractwyr 2 1

Mae ein hystadegau ar gyfer 2022 i 2023 yn dangos ein dulliau gweithredu newydd yn dechrau gwreiddio. Rydym wedi cael llai o adroddiadau am weithredu anniogel a rhagor o adroddiadau am enghreifftiau o arferion da, a chynnydd yng nghyfanswm yr adroddiadau yn gyffredinol. Rydym hefyd wedi gweld cynnydd cyffredinol mewn arolygiadau HSW ymysg cyd-weithwyr sy’n cyd-fynd yn fras â’n twf fel sefydliad wrth inni gynyddu’r gwasanaethau rydym yn eu darparu i eraill.

Nid ydym yn hunanfodlon ac rydym wedi bod yn monitro, yn ymchwilio, yn dysgu ac yn gweithredu ar y cynnydd bach mewn damweiniau yn ystod y flwyddyn. Roedd dau o’r rhain yn adroddadwy o dan RIDDOR, sef torri asgwrn ar ôl llithro ar safle, ac anaf i droed contractwr wrth ddefnyddio peiriant torri gwair. Roedd y rhain yn destun ymchwiliad llawn. Cafodd gwraidd y broblem ei nodi, cymerwyd camau gweithredu a rhannwyd hyn gyda’n pobl a’n partneriaid yn y gadwyn gyflenwi i atal digwyddiad tebyg yn y dyfodol.

12. Ein gwaith yng Nghymru

Gan weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r gymuned leol, fe wnaethom ddylunio ac adeiladu system rheoli dŵr pyllau glo ar gyfer pentref Sgiwen i leihau’r risg o lifogydd o byllau glo yn dilyn tywydd eithafol yn y dyfodol.

Ar 21 Ionawr 2021, yn dilyn misoedd o dywydd gwlyb ac effeithiau dinistriol Storm Christoph ledled Cymru, cafwyd llifogydd ym mhentref Sgiwen ym mwrdeistref Castell-nedd Port Talbot. Roedd y llifogydd yn y pentref yn ganlyniad i ffrwydrad o ddŵr o dan y ddaear a achosodd i ffordd breswyl gwympo. Roedd rhaid gwagio dros 100 o gartrefi dros dro ac roedd llifogydd mewn 78 eiddo. Cafodd y digwyddiad effaith sylweddol ar y gymuned a’i thrigolion a buom ni, ochr yn ochr ag amrywiaeth o bartneriaid brys a’r awdurdod lleol, yn gweithio i roi cymorth iddynt wrth iddynt adfer ar ôl y digwyddiad trasig hwn.

Mae pyllau glo yn yr ardal yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 1800au ac mae llawer iawn ohonynt ar draws yr ardal. Er mwyn rhoi tawelwch meddwl i drigolion a lleihau’r risg o ddigwyddiad tebyg yn y dyfodol, fe wnaethom ddylunio ac adeiladu cynllun rheoli dŵr pyllau glo sy’n defnyddio cyfuniad o dyllau turio i fyny’r afon i fonitro lefelau dŵr, a system rheoli dŵr modern i gludo’r dŵr i ffwrdd o’r pentref. Mae’r system yn fwriadol yn rhy fawr i sicrhau ei bod yn gallu delio â digwyddiadau tywydd eithafol yn y dyfodol ac effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

Dechreuodd y gwaith yn 2021 a pharhau drwy gydol 2022 i 2023 wrth inni gwblhau cam 2 y cynllun, gan ddisodli’r defnydd o sianel ddraenio bresennol â chapasiti cyfyngedig gyda phiblinell newydd, wedi’i hadeiladu’n bwrpasol ac yn rhy fawr ar gyfer pen isaf y cynllun. Rydym wedi gweithio gyda’r gymuned gan ein bod wedi gwneud hyn i leihau nifer y ffyrdd sy’n cael eu cau a’r tarfu sy’n deillio o’r gwaith cymaint â phosib.

Mae’r cynllun yn cynnwys monitro telemetreg o bell mewn amser real i sicrhau bod lefelau dŵr yn y pwyll glo yn cael eu monitro 24/7/365, gyda larymau awtomatig yn ein rhybuddio am unrhyw lefelau sy’n uwch na’r ystod arferol.

Ein blwyddyn yng Nghymru:

  • wedi cynnal 1,133 o archwiliadau mynedfeydd pyllau glo

  • wedi pennu 163 o beryglon a digwyddiadau ymsuddiant

  • wedi cynhyrchu 11,049 o adroddiadau cloddio

  • wedi trin 12 biliwn litr o ddŵr

  • wedi darparu 1,367 o ymatebion i ymgyngoriadau cynllunio

  • wedi atal 325 tunnell o solidau haearn rhag mynd i gyrsiau dŵr

13. Ein pobl

Fe wnaethom barhau i arloesi a datblygu i gyflawni uchelgeisiau ein cynllun busnes newydd ar gyfer 2022 i 2025, a’n gweledigaeth 10 mlynedd. Rydym wedi buddsoddi mewn dysgu a datblygu, ac wedi moderneiddio ein dulliau recriwtio i sicrhau ein bod yn gallu recriwtio, cadw a datblygu ein pobl wych i ddarparu gwasanaeth gwych i gwsmeriaid, a pharhau i ateb yr heriau cymhleth sy’n ein hwynebu fel sefydliad ymateb brys ar y maes glo.

Un o themâu allweddol ein cynllun busnes yw ‘creu lle gwych i weithio ynddo’ ac mae hyn yn sail i’n dull o gefnogi a datblygu ein pobl. Rydym am fod yn gyflogwr o ddewis sy’n fywiog, yn ddeinamig ac yn fodern, ac sy’n hybu diwylliant cynhwysol sy’n canolbwyntio ar les ac sy’n seiliedig ar ein gwerthoedd.

Eleni, rydym ni, ochr yn ochr â llawer o sefydliadau eraill, wedi gweld trosiant staff yn cynyddu ac wedi wynebu cystadleuaeth sylweddol am dalent. Rydym wedi mynd i’r afael â hyn mewn sawl ffordd, gan wella ein cyrhaeddiad a’n prosesau recriwtio, buddsoddi yn natblygiad ein pobl a chynyddu amlygrwydd ein dull gweithredu sy’n seiliedig ar werthoedd, a’r gallu y mae cyd-weithwyr yn ei greu ar gyfer cymdeithas drwy ein gwaith.

Mae gwelliannau i brosesau recriwtio wedi lleihau ein ‘amser cyflogi’ o 24 diwrnod.

Rydym wedi parhau i gymryd y camau gweithredu yn ein cynllun cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a’n cynllun gwrth-hiliaeth i’n helpu i recriwtio a chadw cyd-weithwyr amrywiol, ac wedi cyhoeddi ein ‘hadroddiad a’n cynllun gweithredu ar y ‘bwlch cyflog’.

Cymedr ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer 2022-23 yw 15.97% (gostyngiad o 12.31% ers 2018) a’r canolrif yw 17.43% (gostyngiad o 14.20% ers 2018). Rydym yn falch o’r cynnydd ond wedi ymrwymo i wneud rhagor i leihau hyn. Mae cynrychiolaeth isel yn ein sefydliad a chyfraddau hunanddatgelu isel yn dal yn effeithio ar ein cyfrifiadau o’r bwlch cyflog ethnigrwydd, anabledd a chyfeiriadedd rhywiol. Rydym yn dal i weithio ar hyn ond credwn fod y wybodaeth yn ddefnyddiol ac y bydd rhagor o dryloywder yn ein helpu i wneud gwell cynnydd.

Mae symudedd cymdeithasol yn dal yn bwysig i ni ac rydym yn parhau i fod yn gyflogwr sylweddol ar draws ardaloedd meysydd glo. Mae 85% o gyd-weithwyr sy’n gweithio i ni yn byw ar y maes glo.

Rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn arweinyddiaeth a dysgu, gan gynnwys datblygu sgiliau technegol allweddol a sgiliau arwain a rheoli pwysig. Rydym wedi parhau i weithio i drosglwyddo gwybodaeth o’r rheini sydd â phrofiad uniongyrchol o ddiwydiannau cloddio i gyd-weithwyr eraill a grwpiau wedi’u galluogi (fel ein grŵp cynghori technegol) i gydweithio, hyfforddi a dysgu oddi wrth ei gilydd, ac i lywio penderfyniadau a pholisïau allweddol ar draws y sefydliad. Mae hyn wedi cael ei ategu gan welliannau digidol allweddol dros y flwyddyn sy’n ei gwneud hi’n haws cydweithio ar-lein – sy’n hanfodol ar gyfer gweithio hybrid effeithiol.

Rydym wedi cydnabod effaith chwyddiant a chostau byw ar ein pobl. Fe wnaethom ddyfarniad cyflog cyfartalog o 3%, yn unol ag arweiniad ein hadran nawdd (yr Adran Diogelwch Ffynonellau Ynni a Sero Net, sef yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol gynt), a dalwyd yn ystod mis Rhagfyr 2022.

Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi edrych ar ein holl bolisïau cyd-weithwyr ac ar ein hamrywiaeth o fuddion i sicrhau ein bod yn darparu cymaint o gymorth â phosib. Er enghraifft, yn ystod 2022 fe wnaethom lansio ein polisïau ystyriol o deuluoedd newydd, sy’n cynnig buddion “gorau yn y sector cyhoeddus” ar draws amrywiaeth o bolisïau, gan gynnwys absenoldeb rhiant, gweithio’n hyblyg, mabwysiadu, geni plant ar ran pobl eraill, a beichiogi â chymorth. Fe wnaethom hefyd lansio ein llwyfan buddion i weithwyr sy’n cael ei weithredu gan Edenred, sy’n rhoi mynediad i’r llwyfan ar-lein ‘mylifestyle’ lle gall cyd-weithwyr gael gafael ar amrywiaeth o fuddion, gan gynnwys gostyngiadau ar bob math o bethau, fel siopa bwyd rheolaidd, technoleg, gofal iechyd, gwyliau a champfeydd.

Rydym wedi parhau i gefnogi lles ac iechyd cyd-weithwyr. er enghraifft drwy barhau i ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl i gyd-weithwyr a darparu swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl. Mae ein grŵp lles a sefydlwyd yn wreiddiol fel fforwm ar gyfer swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl wedi datblygu’n grŵp o gyd-weithwyr o bob rhan o’r sefydliad sydd wedi ymrwymo i gefnogi’r gwaith o wella ein prosesau rheoli iechyd a lles yn barhaus. Mae’n gweithio fel rhan o’n rhwydweithiau a’n grwpiau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ehangach i sicrhau bod gennym ddull gweithredu integredig.

Ym mis Hydref 2022 fe wnaethom gynnal ein harolwg pobl cyntaf ers 2019, gan gydnabod bod llawer iawn wedi newid yn ystod y cyfnod hwnnw, gan gynnwys pandemig COVID-19, ffyrdd hybrid o weithio a thwf sylweddol yn y sefydliad wrth inni ysgwyddo cyfrifoldebau newydd, a chynyddu ein darpariaeth gwasanaeth. Roedd 82% o gyd-weithwyr wedi cymryd rhan ac roedd ein sgôr ymgysylltu cyffredinol yn parhau’n gyson ar 66% (67% yn 2019). Mae 21 o fesurau wedi gwella’n sylweddol ers 2019 gan gynnwys llawer sy’n dangos diwylliant cryf ac sy’n adlewyrchu sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd i greu gweithle gwych i bawb. Roedd 10 mesur wedi dirywio’n sylweddol. Roedd y rhan fwyaf o’r rhain yn ymwneud â chyflog. Byddwn yn gweithio gyda chyd-weithwyr ar draws y sefydliad yn ystod 2023 i 2024 i gytuno ar feysydd blaenoriaeth a chamau gweithredu allweddol i sicrhau ein bod, gyda’n gilydd, yn gallu creu lle gwirioneddol wych i weithio ynddo.

Rydym wedi parhau i annog pobl i godi eu llais ar draws y sefydliad, ac wedi gwrando arnynt; gan gynnwys ein grŵp ymgysylltu â staff a chyd-weithwyr o’n rhwydweithiau cynhwysiant a lles. Yn 2023, bydd pob un o’n pwyllgorau bwrdd yn ffurfio partneriaeth â grŵp staff ac yn clywed ganddynt yn uniongyrchol yn rheolaidd er mwyn datblygu’r dull hwn ymhellach.

Mae ein fframwaith gweithio hybrid, sydd wedi’i ddylunio gyda thegwch a thryloywder wrth ei galon, wedi parhau i weithio’n dda yn ystod y flwyddyn. Rydym wedi parhau i wrando, myfyrio a gweithredu ar adborth gan gyd-weithwyr i wella ein dull gweithredu ac i ddysgu o ddulliau gweithredu sefydliadau partner. Rydym yn cydnabod bod ymgysylltu cryf yn chwarae rhan bwysig ac wedi ail-lunio ein timau i sicrhau bod ymgysylltu â chyd-weithwyr yn ffocws cryf, a bod cyfeiriad clir at sianeli a chyfarfodydd ymgysylltu allweddol. Rydym hefyd wedi trafod pwysigrwydd cyfrifoldeb personol i sicrhau eich bod yn ymgysylltu ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf wrth weithio mewn ffordd hybrid. Rydym wedi parhau i gynyddu ymwybyddiaeth allanol o’n gwaith i helpu cwsmeriaid i gael y wybodaeth ddiweddaraf a’i gwneud yn haws denu pobl wych i weithio gyda ni. Rydym yn falch o’r gwaith y mae ein pobl yn ei wneud, sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu a byddwn yn parhau i chwilio am gyfleoedd i rannu hyn.

14. Risgiau strategol

Risgiau Diweddaru a lliniaru Sgôr gymharol
Risg diogelwch y cyhoedd Perygl sylweddol a achoswyd gan waith cloddio glo yn y gorffennol neu ddigwyddiad ar safle etifeddol yr Awdurdod Glo yn achosi anaf difrifol neu farwolaeth. Rydym wedi sefydlu prosesau i reoli ein risgiau gan gynnwys rhaglenni archwilio a chyfathrebu rhagweithiol, a llinell ymateb brysbennu 24/7. Rydym yn mabwysiadu ymateb cymesur i reoli’r risg hon ond ni ellir ei dileu. Uchel – sefydlog
Y newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol Nid ydym yn gallu deall, addasu a lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a thywydd eithafol yn ddigonol, sy’n effeithio ar ein hasedau a’n gallu i gyflawni ein cylch gwaith. Mae ein rhaglenni adnewyddu ac adeiladu cyfalaf sylweddol wedi’u cynllunio i sicrhau bod ein cynlluniau’n lliniaru ac yn atal llygredd a llifogydd. Rydym yn parhau i ddatblygu ein dealltwriaeth o effaith addasu i’r newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol ar ein hystad a’n gweithrediadau, a bydd hyn yn helpu i ddylanwadu ar ein rhaglenni yn y dyfodol. Uchel – yn cynyddu
Dŵr hallt cloddfeydd o feysydd glo mewndirol Oherwydd natur hallt a lleoliad dŵr cloddfeydd yn y meysydd glo canolog, gall atebion posib fod yn gymhleth ac mae angen cyllid ychwanegol sylweddol. Mae dadansoddiad o’n gwaith monitro helaeth ar feysydd glo mewndirol Lloegr yn dangos bod cemeg dŵr cloddfeydd yn heriol dros ben ac y bydd angen triniaeth ychwanegol i’r hyn a gyflawnir fel arfer. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gynhyrchu a gwerthuso dewisiadau ar gyfer triniaeth. Uchel – yn cynyddu
Cadwyn gyflenwi Marchnad lafur sy’n fwyfwy cyfyngedig a chystadleuol, chwyddiant a ffactorau eraill yn cynyddu’r pwysau ar ein cadwyn gyflenwi gan arwain at brinder deunyddiau a chontractwyr sy’n ofynnol i gyflawni ein hamcanion strategol, neu gostau uwch ar eu cyfer Rydym yn ymwybodol iawn o’r gwaith sydd yn yr arfaeth ac yn ymgysylltu’n gynnar â’n cyflenwyr. Rydym yn parhau i fonitro a gweithio gyda rhanddeiliaid i fanteisio i’r eithaf ar ein cyfleoedd a chydnerthedd cadwyni cyflenwi lle bo hynny’n bosib. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r Adran Diogelwch Ffynonellau Ynni a Sero Net i gyfathrebu a rheoli pwysau cost a chyllid. Uchel – sefydlog
Digwyddiadau Maint digwyddiadau critigol/mawr, neu’r ffaith eu bod yn gallu cyd-ddigwydd, yn effeithio ar allu’r Awdurdod Glo i gyflawni ei amcanion strategol. Yn ystod 2022 i 2023, rydym wedi cael statws ymatebydd Categori 2, sy’n cydnabod bod yr Awdurdod Glo yn sefydliad arwyddocaol yn yr ymateb i argyfyngau a digwyddiadau sy’n digwydd ar y maes glo. Rydym yn mynd ati’n rhagweithiol i godi ymwybyddiaeth o beryglon cloddio hanesyddol gyda sefydliadau partner, gan gynnwys drwy ein rhaglen diogelu cloddfeydd Uchel – sefydlog
Recriwtio a chadw Pwysau ac ansicrwydd economaidd yn ei gwneud hi’n anodd recriwtio a chadw digon o gapasiti i gyflawni ein hamcanion strategol, ac yn arwain at ragor o gostau ac oedi wrth gyflawni Rydym yn monitro a rheoli ein trosiant drwy ymyriadau cynnar ac ymgysylltu rheolaidd â chyd-weithwyr. Rydym wedi datblygu a gweithredu cynllun recriwtio a thalent diwygiedig, ac wedi sefydlu system tracio ymgeiswyr newydd. Cyfeiriwch hefyd at fesurau lliniaru risg y gadwyn gyflenwi uchod. Uchel – yn lleihau
Methiant seiberddiogelwch Hinsawdd wleidyddol y byd, y ddibyniaeth gynyddol ar adnoddau digidol, dulliau cynyddol soffistigedig ac arloesol o ymosod yn arwain at fethiant seiberddiogelwch, gan arwain at golli arian neu ddata, amhariad ar wasanaeth neu niweidio enw da. Rydym yn parhau i fonitro’r dirwedd risg fyd-eang ac yn gwella ein rheolaethau technegol yn barhaus. Rydym yn deall bod diwylliant seiberddiogelwch cadarnhaol yn allweddol i gynnal amddiffyniad effeithiol ac rydym yn parhau i hybu hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth ymysg yr holl gyd-weithwyr. Canolig – yn lleihau
Polisi’r Llywodraeth Newidiadau mewn polisi a deddfwriaeth mewn meysydd sy’n berthnasol i’n gwaith, gan gynnwys rhagor o wahaniaethau mewn blaenoriaethau ar draws y tair gwlad a achosir gan ragor o ddatganoli, gan achosi aneffeithlonrwydd, heriau cyfreithiol, ansicrwydd neu effeithiau ar enw da. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r tair gwlad i gyflawni ein gwaith i sicrhau’r canlyniadau gorau posib yn y DU ac yn genedlaethol. Canolig – sefydlog
Ymwybyddiaeth y cyhoedd a phartneriaid Mae ymgysylltu a chyfathrebu aneffeithiol yn golygu nad oes gan y cyhoedd a rhanddeiliaid ddealltwriaeth glir o’n cylch gwaith a’n gweithgareddau, sy’n arwain at golli cyfleoedd ac effeithiau niweidiol ar ganlyniadau Rydym yn parhau i wella ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid mewn fforymau cadernid lleol a phartneriaethau cadernid rhanbarthol sy’n cwmpasu’r maes glo. Rydym yn cryfhau ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid ymhellach drwy roi proses ymgysylltu â rhanddeiliaid newydd ar waith, gan ddechrau gyda nifer o brosiectau peilot yn ystod 2023 a 2024. Cyfeiriwch hefyd at y mesurau lliniaru risg digwyddiadau uchod. Canolig – sefydlog
Data/gwybodaeth Oherwydd diffyg adnoddau neu flaenoriaethu buddsoddiad, nid ydym yn datblygu ein data awdurdodol yn ddigon cyflym, gan arwain at anallu i gyflawni yn erbyn ein hamcanion strategol a chreu gwerth. Rydym wedi adeiladu strwythur rhaglen “addas ar gyfer y dyfodol” a fydd yn cael ei wreiddio yn ystod 2023 a 2024. Rydym yn dal ar y trywydd iawn i gyhoeddi cynllun data a gwybodaeth manwl rhwng 2023 a 2024. Canolig – sefydlog
Iechyd, diogelwch a lles Rydym yn methu nodi a rheoli risgiau iechyd a diogelwch sy’n arwain at farwolaeth, anaf, salwch neu les gwael i unrhyw un y mae ein gweithgareddau a/neu ein hasedau yn effeithio arnynt. Rydym yn parhau i flaenoriaethu diogelwch a lles ein pobl ac mae gennym brosesau a gweithdrefnau cadarn a rhagweithiol i reoli ein risgiau iechyd, diogelwch a lles. Rydym yn mabwysiadu ymateb cymesur i reoli’r risg hon ond ni ellir ei dileu. Canolig – sefydlog
Arloesi Oherwydd cyfyngiadau cyllido a’r risg gynhenid o ran arloesi, gall y cynnydd o ran datblygu technoleg, prosesau a chynnyrch newydd gymryd mwy o amser na’r disgwyl, gan arwain at oedi o ran arbedion cost a chreu gwerth. Rydym wedi parhau i nodi ffyrdd arloesol o ddefnyddio ein sgil-gynhyrchion a chynhyrchu arbedion effeithlonrwydd gweithredol, gan gynnwys defnyddio ein hocrau mewn treulio anaerobig. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cyfleoedd ynni dŵr cloddfeydd ac yn cydweithio â’r Adran Diogelwch Ffynonellau Ynni a Sero Net, Arolwg Daearegol Prydain a sefydliadau eraill i gynyddu ein llwyddiant. Canolig – yn lleihau

15. Ein gwaith i alluogi’r economi gylchol

Gan weithio gyda phartner masnachol yn y sector bwyd-amaeth, rydym wedi datblygu defnydd buddiol ar gyfer ein hocrau haearn mewn treulio anaerobig sy’n ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi ac yn disodli’r defnydd o ychwanegyn sy’n cael ei gynhyrchu dramor. Mae hon yn enghraifft wych o’r economi gylchol ar waith ac yn rhywbeth y byddwn yn adeiladu arno yn y blynyddoedd i ddod fel rhan o’n hymrwymiad i ailddefnyddio neu ailgylchu 95% o ocrau a solidau haearn sy’n cael eu cynhyrchu gan ein cynlluniau trin dŵr cloddfeydd.

Mae ocrau haearn yn sgil-gynnyrch naturiol sy’n cael eu cynhyrchu gan ein cynlluniau trin dŵr cloddfeydd wrth iddynt weithio i gael gwared ar fetelau a halogyddion eraill o ddŵr cloddfeydd, ac atal llygredd dŵr yfed, afonydd a’r môr. Yn flaenorol, roedd ocrau’n cael eu trin fel gwastraff ac yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn arloesi ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu ffyrdd eraill o ddefnyddio’r deunydd hwn fel rhan o’n hymrwymiad i gynaliadwyedd.

Rydym wedi gweithio ar amrywiaeth o ddefnyddiau ymarferol, gan gynnwys defnyddio ocrau i adfer tir wedi’i halogi ag arsenig, sy’n effeithiol iawn. Yn 2020, fe wnaethom ennill dwy Wobr Brownfields am ein gwaith ar hyn gyda phrosiect Mersey Gateway. Mae ocr yn effeithiol iawn ar gyfer adfer tir ond mae’r angen amdano yn gymharol anrhagweladwy. Rydym wedi parhau i chwilio am ddefnyddiau eraill a fyddai’n fwy cyson o ran y niferoedd sydd eu hangen.

Roedd hyn yn cynnwys gweithio gydag AB Agri, cyflenwr i’r sector bwyd-amaeth, i gynnal treialon o ocr mewn gweithfeydd treulio anaerobig. Roedd gweithfeydd treulio anaerobig yn arfer defnyddio ychwanegyn seiliedig ar haearn wedi’i weithgynhyrchu i ddal hydrogen sylffid, sy’n lleihau’r risg o arogl o’r broses ac yn lleihau’r gwaith cynnal a chadw mewn gweithfeydd. Gwelsom fod ein hocr, wedi’i sychu i 50% o leithder, yn addas i gymryd lle’r cynnyrch wedi’i weithgynhyrchu.

Ers mis Chwefror 2023 mae AB Agri wedi bod yn defnyddio ein hocr yn eu gweithfeydd treulio anaerobig eu hunain ac yn hyrwyddo cynnyrch ocr Prydain Fawr wedi’i gyd-frandio i weithredwyr eraill yn y sector treulio anaerobig.

Mae hyn yn cynhyrchu incwm i’r Awdurdod Glo ac yn arbed costau tirlenwi blaenorol, sy’n lleihau ein costau cyffredinol i’r trethdalwr. Mae defnyddio sgil-gynnyrch Prydain Fawr yn hytrach na mewnforio cynnyrch wedi’i weithgynhyrchu o dramor yn arbed costau a charbon i’r sector treulio anaerobig, ac yn darparu cyfle economaidd lleol yma yn y DU. Mae hyn yn cyflawni ein hymrwymiadau cynaliadwyedd a’n ffocws ar ddarparu gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol, ochr yn ochr â gwerth i’r trethdalwr, drwy ein gwaith.

16. Cynaliadwyedd a’r amgylchedd

Rydym wedi parhau i wneud cynnydd da o ran gwreiddio ein hymrwymiad i fod yn sefydliad mwy cynaliadwy. Mae cynaliadwyedd yn un o themâu craidd ein cynllun busnes a’n gweledigaeth 10 mlynedd. Ym mis Mawrth 2023, fe wnaethom gyhoeddi ein cynllun cynaliadwyedd sy’n nodi sut byddwn yn gwneud rhagor o gynnydd yn y blynyddoedd i ddod.

Mae ein cynllun cynaliadwyedd yn egluro ein blaenoriaethau cynaliadwyedd ar gyfer y tair blynedd nesaf, gan gefnogi ein gwaith craidd a sicrhau’r newid cadarnhaol gorau posib. Ein chwe blaenoriaeth yw lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr, bod yn gadarnhaol o ran natur, cefnogi’r economi gylchol, addasu i’r newid yn yr hinsawdd, galluogi gwerth cymdeithasol, a grymuso newid cynaliadwy. Rydym wedi ymrwymo o hyd i fod yn sero net erbyn 2030 ac rydym wedi egluro rhagor am ein dull gweithredu yn y cynllun. Rydym wedi ystyried polisïau ac uchelgeisiau cynaliadwyedd y tair gwlad rydym yn eu gwasanaethu ar draws ein gwaith.

Wrth inni ganolbwyntio i raddau mwy ar gasglu data’n well ac adrodd yn dryloyw, rydym yn parhau i ddysgu rhagor a deall ein meincnodau’n well mewn rhai meysydd. Rydyn ni wedi bod yn glir yn Ymrwymiadau Gwyrdd y Llywodraeth yn y DU lle mae hyn yn wir – er enghraifft, defnyddio dŵr cynllun trin dŵr cloddfeydd a chyfanswm y gwastraff.

Rydym yn falch o fod wedi gwneud cynnydd pellach yn erbyn ein hymrwymiadau.

Yn ystod 2022 i 2023, roedd y llwyddiannau allweddol yn cynnwys:

  • lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o’n hystad, ein gweithrediadau a’n teithiau 34%

  • cynyddu’r cerbydau allyriadau sero neu isel iawn yn ein fflyd i 54%

  • ailddefnyddio neu ailgylchu 91% o’n gwastraff [footnote 3]

  • datblygu defnydd buddiol newydd ar gyfer ein sgil-gynnyrch ocrau haearn

  • lleihau’r defnydd o blastig untro yn ein swyddfa ym Mansfield

  • gweithio gyda phartneriaid a chymunedau i greu gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol drwy ein gwaith

  • dechrau llunio llinell sylfaen a datblygu cynlluniau adfer a chyfleoedd byd natur ar draws ein hystad

16.1 Ymrwymiadau Gwyrdd y Llywodraeth

Pŵer 2022 i 2023 2021 i 2022 2017 i 2018
Y pŵer a gynhyrchir drwy ein defnydd uniongyrchol o danwydd ffosil (kWh) 1,137,505 1,337,849 4,151,179 Nwy petrolewm hylifedig (LPG) a ddefnyddir yn ein swyddfa ym Mansfield ar gyfer gwresogi, ac olew tanwydd
Cyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr o ddefnyddio tanwyddau ffosil yn uniongyrchol (tCO2e) 290.94 341.08 1,141.29  
Allyriadau nwyon tŷ gwydr y brif swyddfa o ddefnyddio tanwyddau ffosil yn uniongyrchol (tCO2e) 5.89 12.49 13.7 Rydym yn defnyddio llai o olew tanwydd (disel ar gyfer generaduron ar y safle) ar ôl newid i gysylltiadau grid ar gyfer ein profion pwmpio
Trydan wedi’i brynu (kWh) 26,478,211 27,009,063 20,494,016  
Cyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr o drydan wedi’i brynu (tCO2e) 5,588.76 6,242.33 7,878.51 Rydym yn defnyddio rhagor o ynni o bwmpio rhagor o ddŵr mewn lleoliadau ychwanegol ond mae allyriadau nwyon tŷ gwydr yn is oherwydd dwysedd nwyon tŷ gwydr grid is, a rhagor o ddefnydd o’n pŵer adnewyddadwy ein hunai
Allyriadau nwyon tŷ gwydr y brif swyddfa o drydan wedi’i brynu (tCO2e) 239.7 257.61 364.94  
Ynni adnewyddadwy wedi’i gynhyrchu (kWh) 932,282 1,359,417 189,966 Mae’r pŵer rydym yn ei gynhyrchu wedi lleihau o ganlyniad i broblemau yn y gadwyn gyflenwi o ran disodli paneli solar sydd ar goll neu wedi’u difrodi oherwydd lladrad/fandaliaet
Ynni adnewyddadwy wedi’i ddefnyddio (kWh) 725,954 883,224 165,501  
Ynni adnewyddadwy wedi’i allforio i’r grid (kWh) 206,328 476,193 24,465 Rydym yn cefnogi datgarboneiddio grid drwy allforio ein hynni gwyrdd gormodol i’r grid
Dwysedd carbon (kgCO2e/kWh) 0.207 0.225 0.364  
Cyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â phŵer y brif swyddfa (tCO2e) 245.59 270.1 378.64  
Cyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr cysylltiedig â phŵer (tCO2e) 5,879.70 6,583.41 9,019.80  
Cyfanswm y gwariant ar ddefnyddio ynni £6,345,257.46 £5,497,513.14 £4,348,855.17 Wedi cynyddu o ganlyniad i gynnydd sylweddol mewn costau ynni ar draws pob sector
Allyriadau sy’n ffoi 2022 i 2023 2021 i 2022 2017 i 2018
Oeri ac aer-dymheru (tCO2e) 46 34 6 Cafodd gollyngiad yn system aerdymheru swyddfa Mansfield ei ganfod a’i gywiro, ond arweiniodd at allyriadau ychwanegol
Teithio sy’n gysylltiedig â busnes 2022 i 2023 2021 i 2022 2017 i 2018
Cilometrau (km) a deithiwyd 1,340,761 1,372,251 1,799,174  
Nifer yr hediadau 4 0 73  
Allyriadau nwyon tŷ gwydr (tCO2e) 201.42 229.06 305.9  
Dwysedd (tCO2e/100,000km) 15.02 16.69 17  
Cyfanswm y gwariant ar deithio (domestig a rhyngwladol) £302,932.96 £305,191.76 £354,537.00  
% o gerbydau fflyd sy’n gerbydau allyriadau isel iawn neu allyriadau sero (hybrid neu drydan llawn) 54.10% 37% 0% Mae’r ffigurau hyn ar ddiwedd y flwyddyn

Dau aelod o staff wedi hedfan i fynychu a chyflwyno yng Nghynhadledd Ryngwladol Dŵr Cloddfeydd yn Seland Newydd (4 taith yn ôl ac ymlaen).

Cyfanswm y pellter teithio a adroddwyd yn 2022 i 2023 yw 78,692km.

Adnoddau – defnyddio dŵr 2022 i 2023 2021 i 2022 2017 i 2018
Defnyddio dŵr (m3) – swyddfa Mansfield 819 484 1,910
Safleoedd dŵr cloddfeydd 158,201[footnote 4] 34,352[footnote 5] 30,752[footnote 5]
Cyfanswm y gwariant ar ddŵr £22,582.52 £46,068.02 £65,259.32

Cynyddodd y defnydd o ddŵr yn ein swyddfa ym Mansfield yn 2022 i 2023 wrth i ragor o bobl ddychwelyd i weithio yn y swyddfa. Mae’r defnydd yn dal yn llai o’i gymharu â 2017 i 2018 oherwydd mesurau effeithlonrwydd dŵr gwell a gweithio hybrid parhaus.

Mae dŵr yn cael ei ddefnyddio yn y broses gemegol ar rai o’n safleoedd trin dŵr cloddfeydd. Rydym wedi gwella ein systemau casglu data defnydd sy’n fwy cywir na’r amcangyfrif llinell sylfaen gwreiddiol, a byddwn yn gweithio i wneud gostyngiadau o hyn ymlaen.

Adnoddau – defnyddio papur 2022 i 2023 2021 i 2022 2017 i 2018
Defnyddio papur (rimiau cyfwerth ag A4) 246 348 718
Gwastraff 2022 i 2023 2021 i 2022 2017 i 2018
Cyfanswm y gwastraff (tunnell) 20,237[footnote 6] (17,621[footnote 7]) 30,383[footnote 7] 1,417[footnote 8] Rydyn ni nawr yn cynnwys gwastraff o gloddfa metel Wheal Jane rydym yn ei reoli ar gyfer Defra yn ein ffigurau blynyddol (ffigur mewn cromfachau heb Wheal Jane i’w gymharu â’r flwyddyn flaenorol a’r llinell sylfaen). Mae gwastraff Wheal Jane yn mynd i gyfleuster gwastraff cloddfeydd ar y safle gyda photensial ar gyfer adfer adnoddau yn y dyfodol, yn amodol ar dechnoleg ac amodau economaidd.
Gwastraff prif swyddfa wedi’i ailgylchu (tunelli) 3.55 2.88 12  
Gwastraff wedi’i ailgylchu (tunelli) 15,756 27,325 0  
Gwastraff Wheal Jane (tunelli) 2,616 Heb ei gofnodi Heb ei gofnodi  
Gwastraff prif swyddfa i safleoedd tirlenwi (tunelli) 0 0.45 6.9  
Gwastraff i safleoedd tirlenwi (tunelli) 1,859 3,058 1,405 Mae ein gwastraff o drin dŵr cloddfeydd wedi cynyddu ers y flwyddyn sylfaen wrth inni fesur ein gwastraff yn well a gwneud rhagor o waith cynnal a chadw. Mae hyn yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn dibynnu ar ein rhaglen cynnal a chadw a’r llifoedd dŵr cloddfeydd sy’n cael eu trin (sy’n gallu bod yn ddibynnol ar law). Rydym yn canolbwyntio ar wneud y defnydd gorau posib o’n gwastraff er mwyn ei droi’n gynnyrch defnyddiol a lleihau gwastraff i safleoedd tirlenwi. Rydym yn defnyddio % o wastraff i safleoedd tirlenwi fel ein targed allwedd
Gwastraff wedi’i losgi (ynni o wastraff) (tunelli) 2.26 0 0  
Gwastraff TGCh 0 0 0 Rydym yn ailddefnyddio, yn addasu neu’n ailgylchu ein cyfarpar TGC
% gwastraff prif swyddfa i safleoedd tirlenwi 0% 14% 37%  
% gwastraff i safleoedd tirlenwi 9.20% 10.10% 99.20% Ac eithrio Wheal Jane, sy’n cael ei storio mewn cyfleuster gwastraff cloddfeydd
Cyfanswm y gwariant ar waredu gwastraff £6,220.14 £4,264.71 £3,175.71 Gwastraff swyddfa Mansfield yn unig, gan mai dim ond gwariant ar wastraff swyddfa sy’n cael ei gofnodi ar hyn o bryd ar gyfer Ymrwymiadau Gwyrdd y Llywodraeth
Nifer yr Eitemau Plastigau Untro (CSUPs) 110,341 Heb ei gofnodi Heb ei gofnodi Rydym nawr yn cofnodi ac yn adrodd ar blastig untro o swyddfa Mansfield. Rydym wedi datblygu cynllun i leihau a chael gwared ar y rhain yn y pen draw

Mae’r adroddiad perfformiad hwn wedi cael ei gymeradwyo gan y Prif Weithredwr a’r Swyddog Cyfrifyddu.

Lisa Pinney MBE, Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu

10 Gorffennaf 2023

  1. The State of the Coalfield 2019 Economic and social conditions in the former coalfields of England, Scotland and Wales. Christina Beatty, Steve Fothergill a Tony Gore. Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo a Chanolfan Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Rhanbarthol Prifysgol Sheffield Hallam. 

  2. Cyngor Westmorland a Furness bellach, wedi dod i rym ar 1 Ebrill 2023 

  3. Mae hyn yn cynnwys yr holl wastraff o’n swyddfa ym Mansfield a’r holl wastraff o’n cynlluniau trin dŵr cloddfeydd ac eithrio ein cynllun cloddfeydd metel yn Wheal Jane, Cernyw sy’n mynd i gyfleuster gwastraff cloddfeydd arbenigol ar gyfer adferiad posibl yn y dyfodol, pan fydd amodau technolegol ac economaidd yn caniatáu hynny. 

  4. Mae defnydd annormal o ddŵr yn Dawdon yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd 

  5. Amcangyfrif o’r defnydd cyfartalog  2

  6. Mae’r holl wastraff yn cynnwys holl wastraff cynlluniau trin dŵr cloddfeydd, gan gynnwys Wheal Jane 

  7. Mae’r holl wastraff yn cynnwys cynlluniau trin dŵr cloddfeydd ac eithrio Wheal Jane er mwyn cymharu â’r flwyddyn flaenorol  2

  8. Yn cynnwys gwastraff o gynlluniau trin dŵr cloddfeydd gweithredol (Dawdon ac Ynysarwed) ond nid yw’n cynnwys gwastraff trin dŵr cloddfeydd eraill na gwastraff Wheal Jane