Papur polisi

Cylch Gorchwyl – Adroddiad ar Bobl Ifanc a Gwaith

Diweddarwyd 28 Tachwedd 2025

Cylch Gorchwyl

Bydd yr Adroddiad yn ceisio:

  • deall yr hyn sy’n ysgogi’r cynnydd yn nifer y bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) ac sy’n hawlio budd-daliadau iechyd ac anabledd, gan gynnwys profiadau yn ystod plentyndod
  • ymchwilio i achosion sylfaenol y cynnydd hwn mewn anweithgarwch economaidd ymhlith pobl ifanc anabl a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd
  • gwneud argymhellion ar gyfer ymatebion polisi gyda’r nod o gynyddu cyfleoedd i bobl ifanc.

Y Gwir Anrhydeddus Alan Milburn fydd yn ysgrifennu’r adroddiad a chaiff ei gefnogi gan amrywiaeth o leisiau ag arbenigedd ym meysydd y farchnad lafur ac iechyd.

Cwmpas a diben

Bydd yr Adroddiad yn cael ei gymryd ymlaen mewn dau gam pendant:

1. Cam darganfod Bydd hwn yn canolbwyntio ar ganfod y rheswm dros y cynnydd yn nifer y bobl ifanc anabl a’r rhai sydd yn NEET. Bydd hyn yn cynnwys dadansoddi tueddiadau; nodi ffactorau sylfaenol a all ysgogi’r tueddiadau hyn; amlinellu’r canlyniadau presennol ar gyfer y grwpiau hyn; deall sut mae pobl ifanc yn rhyngweithio â’r system lles iechyd ac anabledd, sgiliau a chyflogaeth; a nodi’r rhwystrau sy’n atal mwy o bobl ifanc rhag dysgu neu ennill.

2. Cam datrys Yn dilyn y cam darganfod, bydd yr Adroddiad yn ystyried ac yn nodi meysydd posibl lle gellir cynnal diwygiadau. Bwriedir i’r Adroddiad terfynol ystyried y system lles, iechyd, sgiliau a chyflogaeth o safbwynt cyfannol a nodi meysydd i’w diwygio. Ni fydd yn ystyried y system Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau.

Fel rhan o’r camau ‘darganfod’ a ‘datrys’, bydd awdur yr adroddiad yn ymgysylltu ag amrywiaeth o gyd-arbenigwyr ym meysydd y farchnad lafur, lles ac iechyd, yn ogystal â chyflogwyr a phobl â phrofiad uniongyrchol, er mwyn llywio eu canfyddiadau a’u hargymhellion.

Rhyngweithio ag Adolygiadau eraill

Comisiynwyd yr Adroddiad hwn yn annibynnol o adolygiadau ac adroddiadau eraill sy’n mynd rhagddynt, gan gynnwys Adolygiad Timms ar y Taliad Annibyniaeth Personol.

Er ei fod yn annibynnol, bydd awdur yr adroddiad yn cydgysylltu ag adolygwyr perthnasol eraill. Caiff diweddariadau interim o Adolygiad Timms eu hystyried gan y Cadeirydd wrth iddo lunio ei gasgliadau fel rhan o’r cam datrys.

Amseriadau

Daw’r ‘cam darganfod’ i ben erbyn Gwanwyn 2026 a, bryd hynny, disgwylir i’r awdur lunio Adroddiad interim a’i gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau.

Bydd yr Adroddiad yna’n symud ymlaen i’r cam datrys, a bydd y Cadeirydd yn darparu adroddiad llawn a therfynol erbyn Haf 2026.