Policy paper

Supporting male victims (Welsh accessible)

Updated 31 August 2022

Datganiad ar Ddynion sy’n dioddef troseddau a ystyriwyd yn y Strategaeth ar draws y Llywodraeth ar gyfer Mynd i’r Afael â Thrais yn erbyn Menywod a Merched a’r Cynllun Mynd i’r Afael â Cham-drin Domestig

1. Rhagair

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu cefnogaeth y Llywodraeth i ddynion sy’n dioddef troseddau sy’n dod o fewn y maes trais yn erbyn menywod a merched. Mae’r ddogfen hon yn cyd-fynd â Strategaeth Mynd i’r Afael â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched (VAWG) 2021 a Chynllun Cam-drin Domestig 2022, fel darn o waith cysylltiedig a chefnogol. Mae’r Strategaeth Mynd i’r Afael â Thrais yn erbyn Menywod a Merched, a’r Cynllun Cam-drin Domestig, yn nodi ein huchelgais i leihau nifer yr achosion o droseddau VAWG, waeth pwy y maent yn effeithio arnynt, ac i gefnogi pob dioddefwr/goroeswr, gan gynnwys dynion a bechgyn.

Gall cyrff statudol, ymarferwyr y sector elusennol, dioddefwyr/goroeswyr, a’r cyhoedd ddefnyddio’r ddogfen hon ochr yn ochr â’r Strategaeth Mynd i’r Afael â Thrais yn erbyn Menywod a Merched, a’r Cynllun Cam-drin Domestig fel: adnodd gwybodaeth ar dirwedd dioddefwyr dynion, gan gynnwys yr heriau penodol y mae dioddefwyr dynion yn eu hwynebu; amlinelliad am waith y gwasanaethau cymorth; a chanllaw i ddatblygu arfer gorau.

Mae’r term ‘trais yn erbyn menywod a merched’ yn cyfeirio at weithredoedd o drais neu gamdriniaeth yr ydym yn gwybod sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched. Mae’r troseddau hyn yn cynnwys – ac ddim yn gyfyngedig i - treisio, trais rhywiol, cam-drin domestig, stelcian, cam-drin ‘anrhydedd’ gan gynnwys priodas dan orfod, ‘pornograffi dial’, a’r niwed sy’n gysylltiedig â gwaith rhyw a phuteindra. Mae’r troseddau hyn yn cael effeithiau difrifol a pharhaol ar iechyd corfforol a meddyliol unigolyn ac nid oes ganddynt unrhyw le yn ein cymdeithas. Ni all ac ni ddylai’r defnydd o’r term hwn negyddu profiadau neu ddarpariaethau ar gyfer dynion sy’n dioddef y troseddau hyn. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod holl ddioddefwyr/goroeswyr y troseddau hyn, o’r holl nodweddion gwarchodedig, yn cael y cymorth y maent yn ei haeddu, ac yn cydnabod ei gyfrifoldebau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus y darperir ar ei gyfer yn Neddf Cydraddoldeb 2010.[footnote 1]

Mae’r Strategaeth Mynd i’r Afael â Thrais yn erbyn Menywod a Merched, a’r Cynllun Cam-drin Domestig, ill dau’n glir, er ein bod yn defnyddio’r term ‘trais yn erbyn menywod a merched’ yn y ddwy ddogfen, fod hyn yn cyfeirio at unrhyw un sy’n dioddef unrhyw rai o’r troseddau hyn.

Er mwyn llywio’r Strategaeth Mynd i’r Afael â Thrais yn erbyn Menywod a Merched a’r Cynllun Cam-drin Domestig, cynhaliodd y Llywodraeth Alwad gyhoeddus am Dystiolaeth, a gynhaliwyd gan y Swyddfa Gartref mewn dau gam. Yng Ngham 1, gwahoddwyd y cyhoedd i ymateb i arolwg cyhoeddus rhwng 10 Rhagfyr 2020 a 19 Chwefror 2021. Yng Ngham 2, agorwyd yr arolwg cyhoeddus eto gan yr Ysgrifennydd Cartref rhwng 12 Mawrth a 26 Mawrth 2021, yn dilyn trais trasig a llofruddiaeth Sarah Everard.[footnote 2] Derbyniwyd cyfanswm o fwy na 180,000 o ymatebion.

Hyrwyddwyd yr Alwad am Dystiolaeth gan ddefnyddio sianeli’r wasg, cyfryngau cymdeithasol a rhanddeiliaid y Swyddfa Gartref, ac roedd yn agored i bawb. Cafodd yr arolwg cyhoeddus ei hyrwyddo’n weithredol i ddynion a bechgyn, gan gynnwys drwy gyfryngau cymdeithasol fel Grwp LADbible. Cynhaliodd y Swyddfa Gartref grŵp ffocws penodol am ddynion a bechgyn gyda rhanddeiliaid yn y sector, a chomisiynodd arolwg a gynrychiolai yn genedlaethol hefyd.[footnote 3] Helpodd sefydliadau sy’n cefnogi dynion a bechgyn yn benodol i ddosbarthu’r arolwg i ddioddefwyr er mwyn sicrhau i ni gasglu safbwyntiau dioddefwyr dynion. Mae’r Llywodraeth wedi ystyried yr adborth a dderbyniwyd o’r Galwad am Dystiolaeth, ac yn cydnabod yr heriau y gall dynion a bechgyn eu hwynebu.[footnote 4]

Yn y ddogfen hon, rydym yn defnyddio tystiolaethau’r dioddefwyr/goroeswyr hynny sydd wedi bod yn ddewr wrth ddisgrifio’r effaith gall y troseddau hyn eu cael ar unigolion. Ategir y ddogfen gan astudiaethau achos i helpu i ddangos rhywfaint o’r pwnc a ddisgrifir, ac rydym yn ddiolchgar i’r dioddefwyr/goroeswyr am fod yn ddewr wrth rannu eu straeon gyda ni, ac i’r sefydliadau a helpodd i’w hwyluso. Mae rhai enwau a nodweddion adnabod wedi’u newid i ddiogelu hunaniaethau. Mae’r Llywodraeth yn diolch yn galonnog i’r holl gyfranwyr i’r Alwad am Dystiolaeth am eu cyfraniadau, ac mae’n ddiolchgar i ddioddefwyr/goroeswyr am rannu eu profiadau, ac am arbenigedd sectorau penodol sy’n cefnogi dioddefwyr/goroeswyr, academyddion, awdurdodau lleol, a chydweithwyr yn yr heddlu a’r System Cyfiawnder Troseddol.

Nodyn am derminoleg

Yn y ddogfen hon, defnyddir termau ‘ymosodiad rhywiol’, ‘trosedd rywiol’, ‘trais rhywiol’ a ‘cham-drin rhywiol’ yn gyfnewidiol ac nid o reidrwydd yn eu diffiniadau technegol neu gyfreithiol.

2. Dioddefwyr dynion: ymchwil a thystiolaeth

Mae pob dioddefwr trosedd VAWG yn cael ei effeithio’n wahanol gan eu profiadau unigryw. Er ei bod yn bwysig nad yw dioddefwyr dynion yn cael eu hystyried yn un grŵp unigryw, rydym yn cydnabod bod patrymau a thebygrwydd mewn rhai profiadau o ddioddefwyr dynion o droseddau VAWG.

Yn yr adran hon, byddwn yn rhoi trosolwg o nifer yr achosion o droseddau VAWG a’u category. Mae Arolwg Troseddu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghymru a Lloegr (CSEW)[footnote 5] ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 yw’r data CSEW diweddaraf sydd ar gael ar gyfer troseddau VAWG.[footnote 6]

Bechgyn a phlant

Mae Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn nodi bod plentyn sy’n gweld, yn clywed neu’n profi effeithiau cam-drin domestig, ac sy’n gysylltiedig â’r person sy’n cael ei gam-drin neu’r person sy’n cyflawni’r cam-drin, hefyd yn cael ei ystyried yn ddioddefwr[footnote 7] cam-drin domestig at ddibenion y Ddeddf.[footnote 8]

Gall bechgyn felly ddioddef cam-drin domestig yn eu rhinwedd eu hunain, ac mae’r Llywodraeth yn cydnabod yr effaith wybyddol, ymddygiadol ac emosiynol tymor byr a thymor hir y gall bechgyn ei dioddef o’i ganlyniad. Am rhagor o wybodaeth am effaith cam-drin domestig ar blant, y rhwystrau y gallent eu hwynebu o ran cael mynediad at wasanaethau cymorth, a’r angen am gymorth rheng flaen i fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar drawma i gydnabod anghenion penodol plant o wahanol grwpiau oedran neu nodweddion gwarchodedig, gweler Canllawiau Statudol ar Gam-drin Domestig.

Yn y Strategaeth Mynd i’r Afael â Thrais yn erbyn Menywod a Merched, ymrwymodd y Llywodraeth i ddatblygu cymorth ychwanegol i helpu athrawon i gyflwyno’r cwricwlwm Addysg Perthnasoedd, Rhyw ac Iechyd statudol (RSHE) mewn ysgolion yn effeithiol ac yn hyderus. Mae cwricwlwm RSHE yn cydnabod y gall bechgyn hefyd ddioddef trais rhywiol, ac mae’n argymell bod pob disgybl yn cael dealltwriaeth o berthnasoedd iach.

Mae Strategaeth Mynd i’r Afael â Cham-drin Plant yn Rhywiol 2021 yn nodi ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau mynediad at wasanaethau cymorth o ansawdd uchel i bob dioddefwr a goroeswr cam-drin plant yn rhywiol, gan gynnwys dynion a bechgyn, lle bynnag y maent yn byw yn y wlad a phryd bynnag y digwyddodd y cam-drin. Rydym yn gwneud hyn drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau cymorth trais rhywiol arbenigol lleol a chenedlaethol.

Gall dynion a bechgyn wynebu rhwystrau penodol i gael mynediad at rai gwasanaethau cymorth, a gallant brofi gwendidau penodol. Gwyddom, oherwydd nifer o rwystrau systemig, amgylcheddol a diwylliannol, y mae rhai ohonynt wedi’u nodi yn yr adran nesaf, nad yw llawer ohonynt yn dod ymlaen i’w hadrodd.

Cam-drin domestig a dynladdiad domestig

Dengys data CSEW o’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 fod 13.8% o ddynion a 27.6% o fenywod 16 i 74 oed wedi profi ymddygiad cam- drin domestig[footnote 9] ers yn 16 oed, sy’n cyfateb i amcan o 2.9 miliwn o ddioddefwyr dynion a 5.9 miliwn o ddioddefwyr menywod. Yn y flwyddyn 2019/20, roedd 3.6% o ddynion (757,000) a 7.3% o fenywod (1.6 miliwn) yn ddioddefwyr cam-drin domestig.[footnote 10] Dengys data ar fanylion achosion a drafodwyd mewn Cynadleddau Asesu Risg Amlasiantaethol (MARACs), sy’n cynrychioli’r achosion mwyaf o gam-drin domestig risg, fod gan 6.1% o’r MARACs a gynhaliwyd rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mai 2021 ddioddefwyr dynion. Roedd y gyfran arall o ddioddefwyr yn fenywod.[footnote 11]

Wrth edrych tuag at wahanol fathau o gam-drin domestig, mae dynion yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi dioddef cam-drin partner (2.4%) na cham-drin teuluol (1.5%) yn y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn dilyn yr un duedd ag ar gyfer dioddefwyr menywod. Profwyd stelcian domestig gan 0.7% o ddynion ac 1.3% o fenywod yn y flwyddyn flaenorol.

O’r 362 o ddioddefwyr dynladdiadau domestig yn y flwyddyn o fis Mawrth 2018 i fis Mawrth 2020, roedd 86 o ddioddefwyr yn ddynion (24%).[footnote 12] Mewn ychydig llai na 60% o achosion (51 o ddioddefwyr), roedd yr amheuwr naill ai yn rhiant neu yn aelod arall o’r teulu. Mewn ychydig mwy na 60% o achosion, roedd yr amheuwr yn ddyn (53 o achosion). Gwelodd Llinell Gyngor i Ddynion Respect a’r elusen cefnogi dioddefwyr dynion, Mankind Initiative, gynnydd yn nifer y galwadau yn ystyried hunanladdiad dros gyfnod y pandemig.[footnote 13],[footnote 14] Canfu adolygiad Rhaglen Gwybodaeth ac Ymarfer Agored i Niwed (VKPP) a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) o ddynladdiadau domestig a hunanladdiadau tybiedig ymysg dioddefwyr rhwng mis Mawrth 2020 a 2021 fod 10% (4) o’r 39 o hunanladdiadau sy’n gysylltiedig â cham- drin domestig a nodwyd yn ddioddefwyr dynion.[footnote 15] [footnote 16]

Ymosodiad rhywiol

Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020, amcangyfrifwyd bod 773,000 o oedolion rhwng 16 a 74 oed yn dioddef ymosodiad rhywiol (gan gynnwys ymdrechion), gydag amcangyfrif o 618,000 o fenywod a 155,000 o ddioddefwyr dynion.[footnote 17][footnote 18] Mae’r Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol yn amcangyfrif bod o leiaf 5% o fechgyn a dynion ifanc yn profi cam- drin rhywiol cyn eu bod yn 16 oed.[footnote 19]

Stelcian

Yn ôl CSEW, amcangyfrifwyd bod 526,000 o ddynion rhwng 16 a 74 oed wedi dioddef stelcian yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 (o’i gymharu â 977,000 o fenywod).[footnote 20]

Cam-drin ‘anrhydedd’ (HBA), gan gynnwys priodas dan orfod

Mae dynion a bechgyn hefyd yn dioddef cam-drin ‘anrhydedd’ (HBA). Yn yr un modd â menywod sy’n dioddef o HBA, efallai y byddant yn ei ddioddef am amrywiaeth o resymau. Mae’r rhain yn cynnwys: cosbi ymddygiad sy’n cael ei ystyried i fod yn groes i normau cymunedol neu yn peryglu ‘anrhydedd’ teuluol, i geisio ‘gwella’ neu guddio hunaniaeth drawsrywiol neu hoyw, neu’n ychwanegol, yn achos cael ei orfodi i briodi, i gael fisa neu i ddod o hyd i ofalwr ar gyfer unigolyn ag anabledd.

Mae data o’r Swyddfa Gartref ac Uned Priodasau dan Orfod (FMU) y Swyddfa Dramor, Gymanwlad a Datblygu yn dangos bod tua un o bob pump o’r achosion y darparwyd cyngor neu gymorth iddynt yn 2020 yn ymwneud â dioddefwyr a goroeswyr dynion (21% yn 2020). Ymddengys fod dynion yn benodol yn cael eu cynrychioli mewn achosion lle mae’r dioddefwr yn LHDT (63% yn ddynion), neu lle mae ganddynt bryderon galluedd meddyliol (55% yn ddynion).[footnote 21]

Astudiaeth Achos: Uned Priodasau dan Orfod

Roedd Ahmed,[footnote 22] dyn ifanc, o dan bwysau cynyddol gartref i briodi cefnder ym Mhacistan, gyda bygythiadau i’w ladd pe na bai’n cydymffurfio. Yna, anfonwyd Ahmed i Bacistan dan esgus o ymweld â’i deidiau a neiniau.

Rhybuddiodd cariad Ahmed yn y DU Uned Priodasau dan Orfod (FMU), y Swyddfa Dramor, Gymanwlad a Datblygu (FCDO) ac uned y Swyddfa Gartref, sy’n arwain ar bolisi priodasau dan orfod y Llywodraeth, allgymorth a gwaith achos. Mae’n gweithredu y tu mewn i’r DU (lle darperir cymorth i unrhyw unigolyn) a thramor (lle darperir cymorth consylaidd i wladolion Prydeinig, gan gynnwys gwladolion deuol).

Cynghorodd yr FMU hi i drosglwyddo eu manylion i Ahmed, er mwyn iddo gysylltu’n uniongyrchol â nhw. Cysylltodd Ahmed â’r FMU fis ar ôl iddo gael ei anfon i Bacistan, a dywedodd ei fod wedi cael ei orfodi i ymgysylltu â’i gefnder, ac yn ofni bod y briodas ar fin digwydd. Dywedodd hefyd, er ei fod wedi bod yn byw gyda’i deidiau a’i neiniau a’i ewythr tadol ym Mhacistan, fod ei basbort wedi’i dynnu oddi wrtho, a bod ei ffôn yn cael ei fonitro’n agos.

Dywedodd cydweithwyr yr FMU o fewn Uchel Gomisiwn Prydain (BHC) yn Islamabad wrtho am aros lle’r oedd tra bod cynllun ffurfiol wedi’i ddatblygu i’w helpu i ddychwelyd i’r DU. Cyn yr oedd yn bosib rhoi cynllun ffurfiol ar waith, aeth Ahmed o gartref y teulu i Uchel Gomisiwn Prydain yn Islamabad heb ei basbort. Cafodd lety mewn gwesty drwy bartneriaid NGO y FMU yn Islamabad.

Mewn cyfathrebiadau cychwynnol, roedd Ahmed wedi nodi nad oedd am i’w rieni yn y DU wybod am ei leoliad, ac nid oedd am i FMU gysylltu â’r heddlu am Orchymyn Amddiffyn Priodasau dan Orfod (FMPO) nes ei fod yn ddiogel yn y DU, oherwydd ei fod yn ofni y byddai ei fywyd mewn perygl ym Mhacistan. Fodd bynnag, rhoddodd ganiatâd yn ddiweddarach i’r heddlu gael gwybod, yn ogystal â’i ewythr ym Mhacistan.

Yn fuan ar ôl i Ahmed adael Pacistan, cysylltodd aelodau ei deulu â’r BHC ac, ar ôl trafodaethau, a gyda chaniatâd Ahmed, trefnwyd ei basbort a’i docyn dychwelyd a’i ddod i’r BHC. Yna gwnaeth staff BHC drefniadau i hwyluso ei deithiau, gan gynnwys profion COVID-19 cyn hedfan.

Gwnaeth yr FMU drefniadau gyda’u partner NGO yn y DU i Ahmed gael ei gyfarfod yn y maes awyr wrth gyrraedd, a’i letya mewn gwesty diogel. Cyfarfu â hwy ynghyd â’r heddlu a’i hebrwng i’r llety diogel. Yna darparwyd llety dros dro, lwfans cynhaliaeth i Ahmed, a thrafodwyd ei anghenion diogelu parhaus gyda’r heddlu.

Aflonyddu rhywiol

Yn nata Arolwg Aflonyddu Rhywiol Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth yn 2020, defnyddiwyd diffiniad eang, hunanddiffiniedig o aflonyddu rhywiol a chanfuwyd, er ei fod yn fwyaf tebygol o effeithio ar fenywod, bod dynion hefyd yn profi lefelau sylweddol o aflonyddu rhywiol ac ymddygiadau aflonyddu rhywiol, dywedodd 34% o ddynion eu bod wedi profi o leiaf un math o aflonyddu rhywiol yn ystod y 12 mis diwethaf.[footnote 23] Yn y gweithle yn benodol, roedd dynion bron mor debygol o brofi aflonyddu â menywod (roedd nifer yr achosion o aflonyddu yn 30% ymhlith menywod a 27% ymhlith dynion).

Demograffeg

Mae’r Llywodraeth yn cydnabod bod rhai grwpiau mewn mwy o berygl o droseddau penodol. Rydym yn gallu pennu patrymau penodol a nodweddion cyffredin o brofiad, ond nid yw’r grwpiau hyn yn unigryw a gallant wynebu heriau sy’n gorgyffwrdd.

Mae’r CSEW ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 yn tynnu sylw at y ffaith bod dynion hoyw a deurywiol tua dwywaith yn fwy tebygol o brofi cam-drin domestig â dynion heterorywiol; Dywedodd 6% o ddynion hoyw a 7.3% o ddynion deurywiol 16 i 74 oed eu bod wedi profi cam-drin domestig yn y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn cymharu â 3.5% o ddynion heterorywiol.[footnote 24]

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddata cynrychioliadol cenedlaethol ar nifer yr achosion o gam-drin domestig mewn pobl drawsryweddol.[footnote 25] Yn ôl y CSEW, roedd pobl drawsryweddol yn llawer mwy tebygol o fod wedi dioddef pob trosedd, gan gynnwys troseddau a ystyriwyd yn drais yn erbyn menywod a merched (ac eithrio twyll).[footnote 26] Roedd mwy nag 1 o bob 4 person trawsryweddol (28%) wedi profi trosedd o gymharu â 14% o [footnote 27] bobl nad ydynt yn drawsrywiol.[footnote 28] Canfu Arolwg Cenedlaethol LHDT Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth fod ymatebwyr trawsryweddol yn benodol yn fwy tebygol o fod wedi profi’r rhan fwyaf o fathau o ddigwyddiadau (48%) yn cynnwys rhywun yr oeddent yn byw gydag ef nag ymatebwyr eraill (28%). Roedd dynion trawsryweddol yn fwy tebygol o adrodd digwyddiadau fel aflonyddu geiriol, ymddygiad rheoli neu orfodi, ac aflonyddu corfforol neu drais na dynion nad ydynt yn drawsrywiol.[footnote 29]

Gall dynion HDTC+ hefyd fod yn ddioddefwyr therapi trosi honedig, mae hyn yn gam-drin sydd â’r nod o newid neu ‘wella’ hunaniaethau LHDT, a gallant fod ar ffurf cam-drin geiriol, seicolegol, corfforol a rhywiol.[footnote 30]

Yn 2020-2021, nododd 1 o bob 3 o alwyr i’r Llinell Gymorth i Ddynion - y llinell gymorth genedlaethol ar gyfer dynion sy’n dioddef cam-drin domestig a redir gan Respect - eu bod yn dod o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig. O’r dioddefwyr hynny, dywedodd 1 o bob 3 arall eu bod wedi profi achosion o ymddygiad rheoli neu orfodi ar 5 achlysur neu fwy.

Mae CSEW yn canfod, yn yr un modd â thueddiadau cyffredinol mewn cam- drin domestig, fod dynion o grwpiau ethnig cymysg neu ‘eraill’ yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi dioddef cam-drin domestig. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020, canfu CSEW fod 6.1% o’r rhai mewn ‘grwpiau ethnig eraill’ a 5.9% o’r rhai mewn grŵp ethnig cymysg wedi adrodd profi cam- drin domestig yn y flwyddyn flaenorol. Roedd nifer yr achosion o ddynion yn 3.6%.[footnote 31]

Mae’r Llywodraeth yn cydnabod y risg gynyddol o erledigaeth troseddau VAWG a wynebir gan bobl fudol, gan gynnwys dynion mudol. Fel y nodwyd yn y Strategaeth Mynd i’r Afael â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched, mae’r Swyddfa Gartref yn cynnal cynllun peilot ‘Cymorth i Ddioddefwyr Mudol’ i ddarparu cymorth cofleidiol i ddioddefwyr mudol cam-drin domestig nad oes ganddynt fynediad at arian cyhoeddus, a bydd adroddiad gwerthuso yn cael ei gyhoeddi yn yr haf.

Dengys data CSEW fod pobl anabl yn fwy tebygol o ddioddef cam-drin domestig. Mae hyn yn wir am ddynion a menywod, gyda dynion anabl dros ddwywaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn profi cam-drin domestig (7.5%) na dynion nad ydynt yn anabl (3.2%), yn y flwyddyn flaenorol.[footnote 32] Yn y tair blynedd a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2018, roedd dynion anabl 16-59 oed (1.1%) yn fwy tebygol o fod wedi dioddef ymosodiad rhywiol ac ymdrech ymosodiad rhywiol na dynion nad ydynt yn anabl o’r un oedran (0.8%).[footnote 33] Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020, roedd dynion anabl (7.5%) fwy na dwywaith yn fwy tebygol o fod wedi profi cam-drin domestig na dynion nad ydynt yn anabl (3.2%).[footnote 34]

Gall y sefyllfa i ddynion sy’n dioddef cam-drin domestig a rhai troseddau eraill yng nghategori VAWG fod yn llawer anoddach a chymhleth lle mae ganddynt gyfrifoldebau rhieni. Mae ffigurau Arolwg Troseddu SYG ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 yn dangos bod 34.1% o ddioddefwyr dynion sy’n dioddef cam-drin domestig yn byw mewn cartref gyda dau oedolyn ac o leiaf un plentyn, ac mae 1.4% arall o ddioddefwyr dynion yn byw mewn cartref gydag un oedolyn ac o leiaf un plentyn.[footnote 35] Ymhlith dioddefwyr cam-drin partner a ddywedodd fod plant yn y cartref, gwelodd plant y drosedd mewn 20.5% o achosion.[footnote 36]

3. Adnabod ac adrodd

Gall stereoteipio niweidiol, ynghyd â mythau a chamdybiaethau poblogaidd ynglŷn â dioddefwyr dynion, fod yn rhwystrau ychwanegol o ran adrodd a cheisio cymorth. Er enghraifft, gall stereoteipiau ynghylch gwrywdod fod yn ffactor sylweddol ym mhrofiad dioddefwr dyn o gam-drin domestig. Gall dioddefwyr dynion fod yn llai tebygol o ddatgelu eu bod yn cael eu cam-drin neu efallai na fyddant yn cydnabod eu bod yn dioddef cam-drin domestig gan y gallant gredu fod y term ‘cam-drin domestig’ ond yn berthnasol i fenywod.

Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2018, dangosodd CSEW mai dim ond ychydig dros hanner y dynion a ddioddefodd gam-drin partner (50.8%) a ddywedodd wrth unrhyw un yn bersonol am gamdriniaeth a gafwyd yn y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn cymharu â’r 81.3% o ddioddefwyr benywaidd.[footnote 37] Gall dynion a bechgyn wynebu heriau penodol o ran datgelu camdriniaeth oherwydd stereoteipiau ac ofn peidio â chael eu credu. Gall pob dioddefwr brofi rhwystrau i adrodd y troseddau hyn, a cheisio cymorth gan wasanaethau arbenigol, waeth beth fo’u rhyw. Gall y rhain gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: ofn peidio â chael eu credu; diffyg ffydd yn y system cyfiawnder troseddol; teimladau o gywilydd, euogrwydd neu embaras; ddim yn cydnabod bod y sefyllfa’n gam-drin; heb fod yn ymwybodol o sut i adrodd troseddau; ofn colli cysylltiad â phlant; statws mewnfudo; ofn datgelu eu rhywioldeb; bygythiadau o niwed gan y cyflawnwr; a phwysau gan deulu a ffrindiau i aros mewn perthynas.[footnote 38] Gall dioddefwyr dynion â nodweddion gwarchodedig fod mewn mwy o berygl o wynebu rhwystrau i adrodd a cheisio cymorth.

Gall mythau a chamsyniadau poblogaidd am ddynion sy’n dioddef troseddau fel cam-drin domestig a rhywiol fod yn arbennig o niweidiol a gweithredu fel rhwystr pellach i adrodd a cheisio cymorth.

Gall mythau sy’n ymwneud â dynion sy’n dioddef cam-drin rhywiol gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: bydd goroeswyr dynion sydd wedi cael eu cam- drin yn rhywiol yn mynd ymlaen i gam-drin eraill; mae dynion/bechgyn sydd yn cael eu cam-drin yn rhywiol gan ddynion/bechgyn eraill yn unig; mae cyffro corfforol yn ystod gweithredoedd cam-drin rhywiol troseddol yn dynodi caniatâd.[footnote 39] Yn eu hymchwil genedlaethol, daeth asiantaeth ymbarél arbenigol y sector gwirfoddol, Partneriaeth ar gyfer Goroeswyr Dynion, i’r casgliad bod 20% o’r dynion a oedd yn rhan o’r arolwg wedi cymryd dros 31 mlynedd i ddatgelu eu bod yn cael eu cam-drin yn rhywiol.[footnote 40]

Nododd astudiaeth gan Brifysgol Durham a oedd yn archwilio profiad dynion sy’n dioddef cam-drin domestig yn ystod COVID-19 a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â’r llinell Cymorth i Ddynion, a gynhaliwyd gan yr elusen cam- drin domestig Respect - fod rhai o’u galwyr yn disgrifio sut roedd eu syniadau am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn ddyn, yn golygu eu bod yn ei chael hi’n anodd credu eu bod wedi dioddef camdriniaeth.[footnote 41] Gall hyn hefyd effeithio ar y ffyrdd y caiff dioddefwyr dynion eu cam-drin, er enghraifft, gan ddefnyddio inswlin penodol fel rhan o batrwm o ymddygiad rheoli neu orfodi. Nododd yr astudiaeth fod dioddefwyr dynion wedi cael eu gwatwar gan eu cyflawnwyr am nad oeddent yn ddigon gwrywol.”[footnote 42]

4. Mynediad at wasanaethau cymorth

Mae pob dioddefwr/goroeswyr yn haeddu cael mynediad at gymorth amserol a phriodol. Tanlinellwyd pwysigrwydd o gael mynediad at wasanaethau priodol yng nghyd-destun pandemig COVID-19. Mae’r Gronfa Cymorth Trais Rhywiol, a ddarperir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, wedi’i hymestyn tan fis Mawrth 2023, i sicrhau bod gan wasanaethau cymorth y sefydlogrwydd ariannu sydd ei angen arnynt i ateb y galw. Mae’r cyllid craidd ar gyfer canolfannau cymorth trais rhywiol drwy’r gronfa hon wedi cynyddu 50% yn y flwyddyn ariannol hon (21/22), o £8m i £12m y flwyddyn.

Ar gyfartaledd, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021, cafodd yr elusen ManKind Initiative 23% yn fwy o alwadau i’w llinell gymorth bob mis a 61% yn fwy o ymwelwyr â’u gwefan bob mis na’r flwyddyn flaenorol.[footnote 43] Mae rhai gwasanaethau cymorth - fel y Llinell Gymorth i Ddynion, y llinell gymorth genedlaethol ar gyfer dynion sy’n dioddef cam-drin domestig, sy’n cael eu rhedeg gan Respect - hefyd yn cynnig gwasanaethau ar y we sy’n caniatáu i’r defnyddiwr ymateb ar unwaith ac yn ddi-oed gan staff. O 2019-2022, mae’r Llywodraeth wedi dyrannu £168,000 y flwyddyn ar gyfer y llinell gymorth. Yn ogystal â’r swm hwn, darparodd y Llywodraeth gynnydd ariannol o £151,000 arall yn 2020/21 i gefnogi’r gwaith o barhau i redeg y gwasanaeth yn ystod pandemig COVID-19. Yn 2021/22, darparodd y Llywodraeth gynnydd ariannol arall o £64,500 i ariannu gweithgarwch ychwanegol.

Astudiaeth Achos: Safer Futures Cernyw

Pan oedd ei bartner wedi gadael am waith, penderfynodd Joe1 (30) ffonio llinell gymorth Safer Futures. Roedd Joe wedi cwrdd â’i bartner 18 mis yn ôl ar noson allan. Ar ôl rhamant chwilboeth, roedd Joe wedi symud mewn i fflat ei bartner. Roedd hyn yn dda i Joe; roedd wedi treulio’r misoedd blaenorol rhwng tai ffrindiau ar ôl colli ei swydd a dioddef gyda’i iechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19.

Ar y dechrau, roedd y berthynas yn ymddangos fel pe bai’n berffaith. Fodd bynnag, daeth patrymau rheoli gorfodi i’r amlwg yn fuan, a dechreuodd Joe ofni i’w bartner ddychwelyd o’i waith. Aeth hunan-barch Joe yn isel iawn a dechreuodd yfed mwy a mwy.

Ni fyddai Joe erioed wedi disgrifio ei sefyllfa fel cam-drin domestig, nid oedd ei bartner byth yn ei frifo’n gorfforol. Fodd bynnag, pan ddechreuodd Joe ystyried hunanladdiad, cysylltodd â ffrind. Roedd ei ffrind wedi bod yn poeni am berthynas Joe ac awgrymodd ei fod yn ffonio llinell gymorth Safer Futures.

Mae Safer Futures yn ddarparwr gwasanaethau cam-drin domestig a thrais rhywiol integredig, sy’n cael ei redeg gan First Light a Barnardo’s, a gomisiynwyd gan Gernyw a Chyd-grŵp Comisiynu Ynysoedd Scilly. Mae’n cynnig amrywiaeth o raglenni ymyrraeth gynnar, atal, therapi ac adfer sy’n seiliedig ar ryw i blant, pobl ifanc ac oedolion sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae pob rhan o’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim a gellir eu cysylltu â nhw drwy ffonio’r llinell gymorth Un Pwynt Mynediad (SPA).

Yn debyg i wasanaethau cam-drin domestig eraill, mae wedi gweld cynnydd sydyn mewn atgyfeiriadau ers dechrau pandemig COVID-19 ym mis Mawrth 2020. I ddynion, mae’r cynnydd hwn wedi bod tua 15%; mae wedi bod tua 40% i fenywod. Mae menywod a dynion yn darparu cymorth ar y llinell gymorth er bod mwy o fenywod ar gael i ateb y galw, ac mae gan y cleient ddewis o bwy maen nhw’n siarad â nhw.

Mae Safer Futures yn darparu gwasanaethau cymorth wedi’u teilwra i anghenion yr unigolyn. Wrth ffonio’r llinell gymorth SPA, gall arbenigwyr gynnal asesiad risg DASH

  • neu gam-drin domestig, stelcian a thrais ‘er anrhydedd’ - a chreu llwybr cymorth wedi’i deilwra. Yn achos Joe, nid oedd asesiad risg DASH a barn broffesiynol yr arbenigwr yn dangos risg uniongyrchol o niwed i Joe. Felly, nid oedd angen Eiriolwr Trais Domestig Annibynnol (IDVA) - sy’n delio ag ymyrraeth argyfwng risg uchel - ar Joe ond roedd angen cymorth parhaus arno. Trefnwyd iddo gael cymorth DASA (cynghorydd diogelwch cam-drin domestig) ar gyfer cyfarfodydd un-i-un yn y gymuned. Roedd y DASA yn gallu cefnogi Joe i ddod o hyd i lety diogel, ymuno â grŵp cymorth cymheiriaid dynion a chael mynediad at gymorth iechyd meddwl, alcohol ac wrth chwilio am swydd.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn cydnabod y rhwystrau ychwanegol i adrodd y gallai dioddefwyr dynion â nodweddion gwarchodedig eu profi, ac y gallai fod gan ddioddefwyr dynion anghenion arbenigol. Mae rhai rhwystrau i adrodd a cheisio cymorth yn ymarferol ac yn cynnwys argaeledd gwasanaethau.

Efallai y bydd dioddefwyr a goroeswyr LHDT yn llai tebygol o geisio cymorth oherwydd gall fod diffyg eglurder ynghylch a yw gwasanaethau’n ‘croesawgar i bobl LHDT’.[footnote 44] Nododd y sefydliad cymorth Galop fod pobl LHDT yn profi amrywiaeth o rwystrau strwythurol, diwylliannol, unigol a rhyngbersonol wrth gael mynediad at wasanaethau cam-drin domestig a thrais rhywiol yn y DU.[footnote 45]

Efallai y bydd dioddefwyr/goroeswyr dynion mewn ystâd y carchardai yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar wasanaethau cymorth perthnasol. Yn ôl ffigurau a gafwyd mewn astudiaeth yn y DU gan Gynghrair Howard ar gyfer Diwygio Cosbau (2014), pan gynyddodd gorlenwi mewn carchardai dynion, cododd nifer yr ymosodiadau rhywiol a gofnodwyd gan garcharorion dynion. Gallai gostyngiadau yn yr amser cyswllt rhwng swyddogion a charcharorion o ganlyniad i COVID-19 ei gwneud yn anoddach i staff nodi carcharorion sydd mewn perygl o ymosodiad rhywiol, neu atal neu ganfod ymosodiadau rhywiol yn y carchar.[footnote 46] Yn 2020, cofnododd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi 239 o ymosodiadau rhywiol mewn sefydliadau diogel i ddynion – gan gynnwys carchardai, Sefydliadau Troseddwyr Ifanc a Chanolfannau Symud Mewnfudo a reolir gan HMPPS - yng Nghymru a Lloegr.[footnote 47]

Mae’n hanfodol bod gwasanaethau cymorth:

  • yn glir am y cymorth sy’n cael ei gynnig ac i bwy
  • ystyried anghenion dioddefwyr/goroeswyr
  • deall effaith stereoteipio niweidiol, ynghyd â mythau a chamdybiaethau am ddioddefwyr dynion a all fod yn rhwystrau i ddynion ymygysylltu â nhw.

Wrth gomisiynu gwasanaethau cymorth, dylai ardaloedd lleol gyfeirio at y Datganiad Cenedlaethol o Ddisgwyliadau a’r Pecyn Cymorth Comisiynu cysylltiedig, sy’n rhoi arweiniad ar sut i gomisiynu gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr i ddiwallu anghenion yn effeithiol a sicrhau bod yr ymateb lleol yn gydweithredol, yn gynhwysol, yn gadarn ac yn effeithiol.[footnote 48]

Rydym yn ymwybodol o’r adnoddau rhagorol sydd eisoes ar waith a ddatblygwyd gan arbenigwyr sector sy’n cefnogi comisiynwyr a darparwyr i ddatblygu a darparu’r gwasanaethau gorau i ddioddefwyr/goroeswyr dynion. Mae’r isod yn dangos rhai enghreifftiau o arfer gorau:

  • Pecyn Cymorth Respect ar gyfer Dioddefwyr Dynion[footnote 49]
  • Astudiaeth Mapio Darpariaeth Gwasanaeth Cam-drin Domestig LHDT+[footnote 50]
  • Comisiynu ar gyfer Cynhwysiant: darparu gwasanaethau ar gyfer goroeswyr LHDT+ o gam-drin domestig[footnote 51]
  • Rhwydwaith Cam-drin Domestig Dynion: Safonau Ansawdd ar gyfer Gwasanaethau Cefnogi Dioddefwyr Dynion/Goroeswyr Cam-drin Domestig[footnote 52]
  • Partneriaeth Goroeswyr Dynion: Safonau Gwasanaethau Dynion ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio gyda dynion a bechgyn sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin rhywiol, trais rhywiol a chamfanteisio rhywiol[footnote 53]

Astudiaeth Achos: Therapi Siarad Yn Blaen Ar Lafar yn ystâd y carchar, gwasanaeth Goroeswyr Manceinion

Mae model gwasanaeth Therapi Siarad Yn Blaen Ar Lafar yn seiliedig ar flynyddoedd o brofiad Goroeswyr Manceinion o weithio gyda dioddefwyr dynion/goroeswyr cam- drin rhywiol, trais rhywiol a chamfanteisio rhywiol yn y gymuned ac mae’n adlewyrchu llawer o’r gwasanaethau y maent eisoes yn eu rhedeg, wedi’u haddasu i weithio mewn ystâd y carchardai. Mae’r holl wasanaethau a gweithgareddau yn seiliedig ar drawma ac yn canolbwyntio ar ddioddefwyr/goroeswyr – maent yn datblygu ac yn darparu gwasanaethau lle mae camau gweithredu a phenderfyniadau yn seiliedig ar ddealltwriaeth o’r sail dystiolaeth o weithio gyda thrawma; tra hefyd yn addasu’r ddarpariaeth i ddiwallu anghenion penodol a nodwyd dioddefwyr/goroeswyr dynion o’r adborth parhaus.

Mae Goroeswyr Manceinion yn sail i’w gwaith gyda fframwaith ‘Trawma ac Adferiad’ (1992) a gydnabyddir gan Judith Herman ledled y byd. Mae’r model tri cham hwn yn dilyn proses o: 1. Sefydlogi; 2. Prosesu; 3. Integreiddio. Mae’r model yn dechrau gyda helpu’r cleient i ddod yn gadarn drwy ddefnyddio ystod o sgiliau therapiwtig a datblygu perthynas therapiwtig. Unwaith y bydd sefydlogrwydd, gall y cleient wedyn ddechrau prosesu ei brofiadau ‘a gadwyd yn ôl’, gan alaru’n aml gydag ymdeimlad o golled, cydnabod ofn a dicter, a rhyddhau’r emosiwn a gadwyd yn ôl. Mae’r amser hwn wedyn yn galluogi’r unigolyn i integreiddio’r profiad hwn yn weithredol i’w ‘stori bywyd’, gan dynnu’r emosiwn sy’n anablu o’r gorffennol i gydnabod y bywyd presennol. Nid yw’n ymwneud ag anghofio neu gau’r trawma, mae’n ymwneud â symud y trawma o deimlo ei fod yma o hyd i’w roi yn ôl lle mae’n perthyn, sef yn y gorffennol.

Cymerodd Michael[footnote 55] rhan mewn therapi siarad OUT Spoken 1:1 a’r grŵp cymorth dan arweiniad cyfoedion. Mae gan Michael ddedfryd o 6 blynedd; dyma ei drydedd ddedfryd o garchar. Aeth yr help a gafodd gan Survivors Manchester y tu hwnt i’w anghenion oherwydd y gamdriniaeth a ddioddefodd. Roedd hefyd yn ei helpu i ddeall pam ei fod yn defnyddio ac yn brifo eraill. Gwnaeth ei helpu i ddeall bod yr holl ddicter a oedd ganddo wedi’i gamosod a’i gamgyfeirio. Heddiw mae’n teimlo bod ganddo ddyfodol i edrych ymlaen ato ac i gynllunio ar ei gyfer, heb faich y gorffennol ar ei ysgwyddau.

5. Erlyniad

Canfu’r CSEW ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2018 mai ond 14.7% o ddynion a ddioddefodd gam-drin gan bartner oedd wedi dweud wrth yr heddlu am gael eu cam-drin, o’i gymharu â 18.4% o fenywod.[footnote 55]

Er bod y Llywodraeth yn cydnabod yn llawn yr ystod o rwystrau y mae llawer o ddioddefwyr dynion yn eu hwynebu, rydym yn annog pob dioddefwr/goroeswyr i roi gwybod i’r heddlu am ddigwyddiadau, fel y gellir dod â chyflawnwyr i gyfiawnder. Mae’r Llywodraeth yn cydnabod y gall y troseddau hyn gael effaith barhaol ar ddioddefwyr/goroeswyr a bydd yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws llywodraeth leol a chenedlaethol, yr heddlu, a’r sector gwirfoddol a chymunedol i gefnogi dioddefwyr/goroeswyr dynion.

Rydym yn cydnabod bod cael swyddogion heddlu â’r sgiliau cywir yn hanfodol i sicrhau bod achosion yn cael eu datblygu a’u rheoli’n effeithiol. Rydym yn cefnogi’r heddlu i wneud hyn drwy ariannu ‘Ymgyrch Soteria’, sy’n gweithio i wella ymateb yr heddlu i achosion o drais rhywiol, a’r Rhaglen Gwybodaeth ac Ymarfer Agored i Niwed (sy’n cael ei rhedeg gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, sy’n sbarduno gwelliant yn ymateb plismona i bob trosedd diogelu, gan gynnwys troseddau rhywiol oedolion). Rydym hefyd yn cefnogi’r broses o recriwtio 20,000 o swyddogion yr heddlu, a phenodi DCC Maggie Blyth yn Arweinydd Plismona Cenedlaethol llawn amser ar Drais yn Erbyn Menywod a Merched. Mae DCC Blyth yn cydnabod bod dioddefwyr ar draws yr holl droseddau a gasglwyd yn ardal VAWG, gan gynnwys dynion a bechgyn, a bydd ei chynlluniau’n ceisio defnyddio gwelliannau i bob dioddefwr waeth beth fo’u rhyw.

Cofnodwyd 84,734 o droseddau sy’n ymwneud â cham-drin domestig yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021, ac roedd ychydig dros chwarter (26.9%) o’r rhain yn cynnwys dioddefwyr dynion.[footnote 56] Er gwaethaf y cynnydd mewn troseddau cam-drin domestig a gofnodwyd gan yr heddlu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y cyflawnwyr cam-drin domestig a gyhuddwyd, a erlynwyd ac a gollfarnwyd wedi bod yn gostwng. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021, cafodd ond 8% o’r troseddau cam-drin domestig a gofnodwyd ganlyniad i’r tâl neu eu galw yn yr un flwyddyn.[footnote 57] Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021, roedd 13.6% o ddioddefwyr yn ddynion mewn erlyniadau domestig.[footnote 58]

Yn 2017 cyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) ddatganiad cyhoeddus ar ddioddefwyr troseddau dynion a ystyriwyd yn eu strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched (VAWG), a oedd yn amlinellu cefnogaeth y CPS i ddioddefwyr dynion/goroeswyr camdriniaeth ac yn ailddatgan eu hymrwymiadau iddynt. Roedd y datganiad yn cydnabod y niferoedd sylweddol o ddynion a bechgyn yr effeithiwyd arnynt gan y troseddau hyn ac yn gwneud sawl ymrwymiad. Roedd hyn yn cynnwys ymrwymiadau i ddarparu gwybodaeth i erlynwyr i helpu i herio mythau a stereoteipiau, deall profiad dioddefwyr dynion o fewn y System Cyfiawnder Troseddol, a darparu manylion gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr dynion.

6. Ymrwymiadau

Mae Atodiad A o’r Strategaeth Mynd i’r Afael â Thrais yn erbyn Menywod a Merched yn cynnwys manylion llawn am gynnydd y Llywodraeth yn erbyn y camau a gymerwyd yn Natganiad Sefyllfa Dioddefwyr Dynion 2019.

Bydd y Llywodraeth yn parhau i adeiladu ar ein gwaith gyda’r sector i gefnogi dioddefwyr/goroeswyr dynion o’r troseddau hyn a sicrhau bod cymorth priodol amserol o ansawdd uchel ar gael iddynt. Yn ogystal, byddwn yn:

  • Parhau i gynnwys grwpiau dynion cenedlaethol amrywiol wrth ymgysylltu â rhanddeiliaid ar faterion sy’n ymwneud â VAWG.
    • Er ein bod yn cydnabod natur anghymesur VAWG, sicrhau bod ymgyrchoedd cyfathrebu VAWG y Llywodraeth yn cynnwys dioddefwyr dynion i godi ymwybyddiaeth, herio mythau cymdeithasol niweidiol am wrywdod, ac annog dioddefwyr a goroeswyr dynion i adrodd camdriniaeth.
    • Parhau i ddefnyddio tystiolaeth o’r Llywodraeth ar brofiadau dynion o droseddau VAWG i lywio polisïau perthnasol y Llywodraeth yn y dyfodol. Er enghraifft, mae tirwedd ddata VAWG gynhwysfawr wedi’i chyhoeddi ar Gov.uk. Mae hyn yn cynnwys ffynonellau o bob rhan o’r llywodraeth, y byd academaidd a’r sector gwirfoddol ac mae’n cynnwys data ar brofiadau dynion o droseddau VAWG.
    • Yn ystod 2021-22, ymrwymodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder dros £1.4 miliwn i’r Gronfa Treisio Dynion. Bydd £1.4 miliwn arall yn cael ei neilltuo yn 2022-23.
    • Drwy’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, parhau i ariannu llinell gymorth dreisio genedlaethol Safeline i ddynion a gwe-sgwrs SurvivorsUK tan fis Mawrth 2023.
    • Tynnu sylw’n benodol at y ffaith bod gwaith y Gweinidog Diogelu yn cynnwys cyfrifoldeb am ddynion sy’n dioddef troseddau VAWG.
    • Gweithio’n agos gyda Swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig (DAC), gan ddefnyddio’r wybodaeth a ddarparwyd drwy arolwg goroeswr DAC[footnote 59]– sy’n cael ei ddadansoddi ar hyn o bryd ar ôl i’r arolwg gau ar 31 Ionawr 2022 - i lywio meysydd ymchwil posibl yn y dyfodol.
    • Bydd gwaith i ddatblygu fframwaith i gydgysylltu a chysoni cyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr a goroeswyr ar draws y Llywodraeth yn cael ei weithredu drwy Strategaeth Ariannu Dioddefwyr arfaethedig y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
    • Cyflwyno Cyfraith Dioddefwyr cyn gynted â phosibl, i sicrhau bod dioddefwyr wrth wraidd y system cyfiawnder troseddol. Drwy gydol y broses ymgynghori ddiweddar, rydym wedi ymgysylltu’n uniongyrchol â dioddefwyr, gan gynnwys dioddefwyr dynion a’r gwasanaethau arbenigol sy’n gweithio i’w cefnogi – i glywed eu profiadau eu hunain, a’r heriau penodol y maent yn eu hwynebu.
    • Cynyddu cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr a thystion, i £185 miliwn erbyn 2024-25. Dros dair blynedd, bydd £47.1m yn cael ei glustnodi ar gyfer gwasanaethau yn y gymuned sy’n cefnogi dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol, mae hyn yn cynnwys dioddefwyr/goroeswyr dynion.
    • Ymgymryd â gwaith pellach gan y Llywodraeth drwy’r Adolygiad o Wariant, a thrwy adolygiad tirwedd o’r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth trais rhywiol.
    • Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i lansio Gwasanaeth Cymorth i Ddioddefwyr cyntaf y byd a ariennir gan y Llywodraeth sy’n benodol i Therapi Trosi. Bydd y gwasanaeth hwn yn darparu cymorth bugeiliol cychwynnol a chyfeiriad i wasanaethau arbenigol, megis cwnsela a thai brys. Bydd hefyd yn gweithredu fel adnodd gwybodaeth ar y niwed y mae arferion therapi trosi yn ei achosi, ei statws cyfreithiol, a chysylltiadau â chymorth arbenigol. Bydd y llinell gymorth hon yn agored i unrhyw un sy’n teimlo eu bod wedi cael profiad therapi trosi, yn ogystal â theulu, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol pryderus mewn rolau diogelu.
    • Gweithio i godi ymwybyddiaeth o’r ddogfen hon ar draws adrannau’r Llywodraeth, awdurdodau lleol, heddluoedd a chyrff statudol eraill.

https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/crimeandjustice/methodologies/userguidetocrimestatisticsforenglandandwales) am ddiffiniadau llawn.

  1. Deddf Cydraddoldeb 2010 (deddfwriaeth.gov.uk) 

  2. Galwad am Dystiolaeth - Trais yn erbyn Menywod a Merched (VAWG) - GOV.UK (www.gov.uk). 

  3. Roedd hyn yn rhan o ymgynghoriad 2,000 o oedolion 16-65 oed yng Nghymru a Lloegr rhwng 12 a 18 Ionawr 2021. Roedd y sampl wedi’i chynrychioli yn genedlaethol, gyda chwotâu wedi’u gosod ar oedran, rhyw a rhanbarth, ac mae pwysoliad wedi’i gymhwyso ar y newidynnau hyn i adlewyrchu proffiliau cenedlaethol. 

  4. Strategaeth Mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched - GOV.UK ([www.gov.uk)](https://www.gov.uk/government/publications/tackling-violence-against-women-and-girls-strategy](https:/www.gov.uk/government/publications/tackling-violence-against-women-and-girls-strategy)) 

  5. Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (CSEW) yn arolwg erledigaeth gynrychiolydd cenedlaethol, fel arfer wyneb yn wyneb, lle gofynnir i bobl sy’n byw mewn cartrefi yng Nghymru a Lloegr am eu profiadau o amrywiaeth o droseddau yn y 12 mis cyn y cyfweliad. Ar gyfer y mathau o droseddau a’r boblogaeth y mae’n eu cynnwys, mae’r CSEW yn rhoi gwell adlewyrchiad o wir raddau’r troseddau a brofir gan y boblogaeth nag ystadegau a gofnodwyd gan yr heddlu, oherwydd mae’r arolwg yn cynnwys troseddau nad ydynt yn cael eu hadrodd i’r heddlu neu a gofnodir ganddynt. 

  6. Nid oedd Yr Arolwg Troseddau Ffôn ar gyfer Cymru a Lloegr 2021, a lansiwyd yn benodol i’w ddefnyddio yn ystod pandemig COVID-19, yn cynnwys cwestiynau ar droseddau rhywiol a cham-drin domestig (roedd cwestiynau o’r fath wedi’u cynnwys yn y CSEW o’r blaen mewn modiwl hunan-gwblhau ac ni ofynnwyd y cwestiynau gan gyfwelydd o ystyried natur sensitif y cwestiynau). 

  7. Yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Dioddefwyr Trosedd yng Nghymru a Lloegr, y diffiniad o ‘ddioddefwr’ yw: person sydd wedi dioddef niwed, gan gynnwys niwed corfforol, meddyliol neu emosiynol neu golled economaidd a achoswyd yn uniongyrchol gan drosedd; perthynas agos (neu lefarydd teulu enwebedig) person yr achoswyd ei farwolaeth yn uniongyrchol gan drosedd: Cod Dioddefwyr y Weinyddiaeth Gyfiawnder 2020 (publishing.service.gov.uk) 

  8. Deddf Cam-drin Domestig 2021 (legislation.gov.uk) 

  9. Mae hyn yn cynnwys cam-drin partner neu deulu nad yw’n gorfforol, bygythiadau, grym, ymosodiad rhywiol, neu stelcian. Gweler Canllaw i ddefnyddwyr ar ystadegau troseddau ar gyfer Cymru a Lloegr: Mawrth 2020 – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  10. Trosolwg o gam-drin domestig yng Nghymru a Lloegr – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  11. ONS. 2021. Gwasanaethau dioddefwyr cam-drin domestig – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  12. ONS. 2020. Nifer yr achosion o gam-drin domestig a nodweddion dioddefwyr – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  13. Ystadegau ar Ddioddefwyr Dynion Cam-drin Domestig - (mankind.org.uk) 

  14. Respect. 2021. Llinell gyngor i ddynion: adolygiad gwasanaeth 2020/21 

  15. Bates, L., Hoeger, K., Stoneman, M.J., Whitaker, A. 2021. Rhaglen Gwybodaeth ac Ymarfer Agored i Niwed (VKPP): Dynladdiadau Domestig a Hunanladdiadau Dioddefwyr Tybiedig yn ystod Pandemig Covid-19 2020-2021. Y Swyddfa Gartref. 

  16. DS: Mae hyn yn debygol o fod yn danamcangyfrif o’r holl hunanladdiadau ymhlith dioddefwyr sydd â hanes o gam-drin domestig, gan y bydd yn eithrio’r hunanladdiadau hynny lle nad oedd yr heddlu’n gwybod am hanes blaenorol o gam-drin domestig. 

  17. Trosolwg am Droseddau rhywiol yng Nghymru a Lloegr – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  18. Mae ymosodiadau rhywiol, a fesurir gan y CSEW, yn golygu trais rhywiol (gan gynnwys ymdrechion), ymosodiad drwy dreiddio (gan gynnwys ymdrechion), amlygiad anweddus a chyffwrdd rhywiol diangen a brofir gan bobl dros 16 oed. 

  19. Graddfa a natur cam-drin plant yn rhywiol: Adolygiad o’r dystiolaeth (csacentre.org.uk) 

  20. Stelcian: Canfyddiadau o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  21. Ystadegau Unedau Priodasau dan Orfod Ystadegau Unedau Priodasau dan Orfod 2020. 

  22. Mae rhai enwau a nodweddion adnabod wedi’u newid i ddiogelu hunaniaethau. 

  23. Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth, Arolwg Aflonyddu Rhywiol 2020. Noder bod y dull o fesur aflonyddu rhywiol a gymerir yn yr arolwg hwn yn newydd, ac felly mae ei ganlyniadau’n arbrofol. Dylai darllenwyr drin y data hwn yn ofalus a chyfeirio at yr adroddiad llawn yn y ddolen uchod. 

  24. ONS. 2020. Nifer yr achosion o gam-drin domestig a nodweddion dioddefwyr – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  25. Mae’r CSEW yn gofyn am hunaniaeth rhywedd ymatebwyr, ond mae nifer y dioddefwyr trawsryweddol o gam-drin domestig yn rhy isel i’w cyhoeddi. Ni chyhoeddir ffigurau ar gyfer amcangyfrifon CSEW yn seiliedig ar lain a 50 o ymatebwyr. 

  26. Troseddu yng Nghymru a Lloegr – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  27. Defnyddir yn y ddogfen hon i gyfeirio at bobl y mae eu hunaniaeth o ran rhywedd yn cyfateb i’w rhyw a neilltuwyd adeg eu geni – pobl nad ydynt yn drawsrywiol. 

  28. Troseddu yng Nghymru a Lloegr – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  29. https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/721704/LGBT-survey-research-report.pdf 

  30. Beth-yw-Therapi-Trosi.pdf (galop.org.uk) 

  31. ONS. 2020. Nifer yr achosion o gam-drin domestig a nodweddion dioddefwyr – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  32. ONS. 2020. Nifer yr achosion o gam-drin domestig a nodweddion dioddefwyr – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  33. Anabledd a throsedd - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  34. ONS. 2020. Nifer yr achosion o gam-drin domestig a nodweddion dioddefwyr – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  35. ONS. 2021. Canran y dynion 16 i 74 oed a brofodd unrhyw gam-drin domestig neu unrhyw gam-drin gan bartner yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl strwythur y cartref, Cymru a Lloegr, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  36. ONS. 2019. Manylion llawn am gam-drin gan bartneriaid – Tablau atodiad – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  37. ONS. Manylion llawn am gam-drin gan bartneriaid, Cymru a Lloegr – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk): Y flwyddyn ddata a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2018 

  38. Adroddwyd am resymau o’r fath ar gyfer dioddefwyr sydd wedi’u cam-drin gan bartner (gweler ONS. Manylion llawn am gam-drin gan bartneriaid, Cymru a Lloegr – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk): Y flwyddyn ddata a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2018) ac ymatebion o’r galwad gan VAWG am dystiolaeth. 

  39. Mythau a Ffeithiau - MSP – Partneriaeth ar gyfer Goroeswyr Dynion 

  40. Partneriaeth ar gyfer Goroeswyr Dynion 

  41. TERFYNOL: Adroddiad am Fyw Bywyd drwy ofyn am Ganiatâd, Chwefror 2021 (dur.ac.uk) 

  42. TERFYNOL: Adroddiad am Fyw Fywyd drwy ofyn am Ganiatâd, Chwefror 2021 (dur.ac.uk) 

  43. Gwasanaethau i ddioddefwyr cam-drin domestig, Cymru a Lloegr – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  44. 160719_ADRODDIAD_LGBT_adolygiad_tystiolaeth_NIESR_TERFYNOLPDF.pdf 

  45. Ar gyfer-Rhwystrau-Darparwyr-Gwasanaethau.pdf (setdab.org) 

  46. *Gorfodi-rhyw-yn-y-carchar.pdf 

  47. Diogelwch yn y ddalfa bob chwarter: diweddariad hyd at Rhagfyr 2020 - GOV.UK (www.gov.uk) 

  48. Datganiad Cenedlaethol o Ddisgwyliadau 2022 

  49. Pecyn cymorth Respect-ar-gyfer-Gweithio-gyda-Dioddefwyr-Dynion-o-Gam-drin-Domestig- 2019.pdf (hubble-live-assets.s3.amazonaws.com) 

  50. Astudiaeth-Mapio-Darpariaeth-Gwasanaeth-Cam-drin Domestig-LHDT-Galop-Terfynol.pdf (domesticabusecommissioner.uk) 

  51. LHDT-Canllawiau-Comisiynu-terfynol-2.pdf (galop.org.uk) 

  52. Safonau Gwasanaethau – Rhwydwaith Cam-drin Domestig Dynion (mdan.org.uk) 

  53. Safonau Gwasanaethau Dynion - MSP - Partneriaeth Goroeswyr Dynion 

  54. ONS. Manylion llawn am gam-drin gan bartneriaid – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk): Y flwyddyn ddata a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2018  2

  55. ONS. 2021. Cam-drin domestig a’r system cyfiawnder troseddol – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  56. Cam-drin domestig a’r system cyfiawnder troseddol - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  57. ONS. 2021. Cam-drin domestig a’r system cyfiawnder troseddol - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  58. Cyflwyniad : Arolwg am wasanaethau cam-drin domestig (homeofficesurveys.homeoffice.gov.uk)