Cytundeb SPS: paratoi’ch busnes
Diweddarwyd 9 Mawrth 2026
Mae’r llywodraeth yn ffurfio partneriaeth strategol newydd gyda’r UE ar fasnachu a symud planhigion, cynhyrchion planhigion, anifeiliaid, cynhyrchion anifeiliaid, bwyd anifeiliaid a bwyd. Yr enw ar hyn yw cytundeb iechydol a ffytoiechydol (SPS).
Bwriedir i’r cytundeb ddod yn effeithiol o ganol 2027 ymlaen. Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn gwybod y bydd angen mwy o amser ar rai busnesau i addasu at y trefniadau newydd. Byddwn ni’n gweithio gyda’r busnesau hynny i sicrhau cyfnod pontio llyfn. Dylai pob busnes yn y sector bwyd-amaeth ddechrau paratoi ar gyfer y newidiadau nawr.
Mae’r union amserau pryd y bydd y trefniadau’n newid yn dibynnu ar ganlyniad y trafodaethau sydd ar eu hanner. Byddwn ni’n cyhoeddi diweddariadau wrth i’r trafod fynd rhagddo.
Darllenwch ragor am y cytundeb a’i fanteision disgwyliedig yn Cytundeb SPS rhwng y Deyrnas Unedig a’r UE – Gwybodaeth i Fusnes.
Gwiriwch a fydd y newidiadau yn effeithio ar eich busnes chi
Bydd angen ichi fod yn ymwybodol o’r newidiadau yma os yw’ch busnes chi’n ymwneud â chynhyrchu, trin, masnachu neu symud:
- anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid
- bwyd a bwyd anifeiliaid
- plaladdwyr a bioladdwyr
- planhigion a chynhyrchion planhigion
Mae ‘symud’ yn cynnwys y rhan fwyaf o symudiadau’r nwyddau yma rhwng y Deyrnas Unedig a’r UE, a chan amlaf o fewn y Deyrnas Unedig ei hun. Mae hyn yn cynnwys symud o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.
Mae hyn yn gymwys i bob busnes, gan gynnwys busnesau bach neu ganolig, hyd yn oed os nad ydych chi’n masnachu’n uniongyrchol gyda’r UE.
Er enghraifft, mae hyn yn debygol o effeithio arnoch chi os ydych chi:
- yn ffermwr neu’n gynhyrchydd sylfaenol
- yn weithgynhyrchydd bwyd a diod
- yn gludwr neu’n ddarparwr logisteg
- yn fewnforiwr neu’n allforiwr nwyddau SPS (gan gynnwys anifeiliaid, cynhyrchion anifeiliaid, planhigion a chynhyrchion planhigion, peiriannau fferm neu goedwigaeth a ddefnyddiwyd)
- yn weithgynhyrchwyr a chyflenwyr plaladdwyr a bioladdwyr
- yn fanwerthwr neu’n gyfanwerthwr
- yn gyflenwr neu’n gynhyrchydd hadau neu blanhigion neu’n gyflenwr garddwriaethol
- yn filfeddyg
Meysydd o fewn y rhychwant
Bydd newidiadau o dan y cytundeb SPS yn effeithio ar reolau mewn meysydd sy’n cynnwys:
- rheolaethau swyddogol ar draws y system bwyd-amaeth
- y gyfraith bwyd gyffredinol, rheolau ar wybodaeth i ddefnyddwyr a hylendid
- ychwanegion bwyd, cyflasynnau, atchwanegiadau a bwydydd newydd
- halogion bwyd a bwyd anifeiliaid
- safonau marchnata ar gyfer bwydydd penodol
- deunyddiau sydd mewn cysylltiad â bwyd
- mesurau eraill sy’n gysylltiedig â bwyd (megis rheolau organig, dyfroedd mwynol ac arbelydru)
- cynhyrchion bwyd anifeiliaid a hylendid bwyd anifeiliaid
- organebau a addaswyd yn enetig
- iechyd, bridio a lles anifeiliaid
- iechyd planhigion
- deunydd atgenhedlu planhigion a choedwigoedd
- cynhyrchion diogelu planhigion (plaladdwyr) a’u priod lefel gweddillion uchaf
- bioladdwyr
- lefelau gweddillion uchaf meddyginiaethau milfeddygol ac ymwrthedd gwrthficrobaidd
Bydd y fasnach yn ailddechrau mewn cynhyrchion fel selsig a byrgyrs ffres, rhai mathau o bysgod cregyn a thatws hadyd.
Gwiriwch y rhestr o ddeddfwriaeth yr UE sydd ar hyn o bryd o fewn rhychwant y trafodaethau yn y Cytundeb SPS rhwng y Deyrnas Unedig a’r UE – Gwybodaeth i Fusnes. Dyma’r meysydd lle y gall fod angen ichi weithredu.
Eithriadau
Mae’r UE wedi derbyn y bydd angen y bydd meysydd lle bydd y Deyrnas Unedig yn cadw ei rheolau ei hun, fel y nodwyd yn y Gyd-ddealltwriaeth Gyffredin ym mis Mai 2025. Mae manylion y rhain i’w trafod.
Mae’r Llywodraeth wedi bod yn glir ei bod yn bwysig iddi gael gwneud y canlynol:
- gosod safonau uchel mewn lles anifeiliaid
- ategu iechyd y cyhoedd
- helpu i ddefnyddio technolegau newydd ac arloesol
Paratoi ar gyfer y newidiadau
Un o flaenoriaethau Defra yw gwrando arnoch chi, i sicrhau bod eich adborth gwerthfawr yn siapio’n dull gweithredu.
Rydyn ni’n lansio galwad am wybodaeth er mwyn clywed yn uniongyrchol gan fusnesau am yr hyn sydd ei angen arnoch i helpu i roi’r gofynion ar waith. Bydd hyn yn siapio’r canllawiau ymarferol a’r cymorth rydyn ni’n eu darparu, fel bod busnesau o bob maint yn barod o’r diwrnod cyntaf.
Byddwn ni’n gweithio gyda busnesau a chymdeithasau masnach i ddatblygu cefnogaeth a chanllawiau.
Bydd hyn yn cael ei fwydo gan yr hyn y byddwch chi’n ei ddweud wrthon ni yn ein galwad am wybodaeth: cytundeb iechydol a ffytoiechydol (SPS) rhwng y Deyrnas Unedig a’r UE.
Mae’r llywodraeth hefyd yn ystyried trefniadau trosiannol wedi’u targedu ar gyfer sectorau a fydd yn ei chael hi’n fwyaf anodd rhoi’r newidiadau ar waith.
Mae union fanylion ac amseriadau’r cytundeb yn dal yn destun trafod gyda’r UE.
Systemau digidol
Mae’r llywodraeth wrthi’n adolygu’r systemau digidol y bydd angen ichi eu defnyddio yn dilyn y cytundeb SPS.
Ar gyfer y rhan fwyaf o fewnforion o’r UE, fydd dim angen ichi ddefnyddio systemau digidol, a hynny am y bydd y rhan fwyaf o nwyddau yn esempt rhag rheolaethau ar hysbysu ymlaen llaw.
Bydd angen i nwyddau sydd heb eu hesemptio ddefnyddio systemau digidol yr UE, fel TRACES NT.
Fydd yna ddim newid mewn systemau digidol ar gyfer datganiadau tollau.
Byddwn ni’n parhau i weithio’n agos gyda’r diwydiant ac yn darparu rhagor o ganllawiau ar sut y bydd systemau digidol yn gweithio wrth i’r trafod barhau.
Prosesau
Unwaith y daw’r cytundeb i rym, fydd dim angen y canlynol ar gyfer nwyddau sy’n dod i mewn i Brydain fawr o’r UE, neu i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr:
- tystysgrifau iechyd allforio
- tystysgrifau ffytoiechydol
- nod ISPM15 (ar gyfer deunyddiau pecynwaith pren)
- labeli iechyd planhigion Gogledd Iwerddon
Efallai y bydd arnoch chi angen ardystiad symlach ar gyfer mathau cyfyngedig iawn o symudiadau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon (fel anifeiliaid byw). Bydd hyn yn cyd-fynd â’r trefniadau cyn gadael yr UE.
Fydd dim angen gwiriadau SPS arferol ar y ffiniau mwyach ar gyfer llaeth, pysgod, wyau, cig, planhigion a chynhyrchion planhigion wrth ddod i mewn i Brydain Fawr o’r UE, neu i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr.
Bydd prosesau o hyd i fonitro cydymffurfiaeth â gofynion bioddiogelwch ar gyfer nwyddau penodol a sy’n dod i Brydain Fawr ac yn cael eu symud o fewn Prydain Fawr.
Sicrhau’r wybodaeth ddiweddaraf
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, fe allwch chi:
- cysylltu â’ch corff masnach neu’ch cymdeithas diwydiant
- ymwneud â’ch cadwyn gyflenwi er mwyn deall unrhyw newidiadau a all fod yn gymwys iddyn nhw
- cofrestru i gael rhybuddion ebost Defra a’r rhestr bostio parodrwydd busnes i gael y diweddariadau diweddaraf
- edrych ar Cytundeb SPS rhwng y Deyrnas Unedig a’r UE – Gwybodaeth i Fusnes
Bydd Defra yn parhau i weithio’n agos gyda’r diwydiant. Byddwn ni’n eich diweddaru’n gyson ac yn mireinio’r cyfathrebu fel bod gan sefydliadau o bob maint yr eglurder a’r cymorth sydd arnynt eu hangen i fod yn barod o’r diwrnod cyntaf un.