Asesu ardaloedd cynhyrchu pysgod cregyn
Cyhoeddwyd 27 Rhagfyr 2017
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Rydym yn asesu ac yn dosbarthu ardal gynhyrchu neu ailorwedd yn seiliedig ar ganlyniad arolwg ar lanweithdra.
Ni ellir dosbarthu ardal gynhyrchu neu ailorwedd pysgod cregyn newydd hyd nes y cynhelir asesiad o ffynonellau’r llygredd. Mae hyn yn cynnwys asesiad o’r ffynonellau halogi (pobl, bywyd gwyllt ac amaethyddiaeth) mewn ardaloedd cynhyrchu neu ailorwedd.
Gall meintiau llygryddion organig sy’n cael eu rhyddhau i ardaloedd cynhyrchu pysgod cregyn amrywio ar wahanol adegau o’r flwyddyn, felly mae angen ystyried amrywiadau tymhorol wrth gynnal asesiadau.
Gall hyn gynnwys:
- darlleniadau glaw
- gollyngiadau o weithfeydd trin dŵr gwastraff
- amrywiadau tymhorol pobl ac anifeiliaid
Mae cylchrediad yn y dŵr yn effeithio ar sut mae llygryddion yn symud o gwmpas, yn dibynnu ar y canlynol:
- patrymau cyfredol
- bathymetreg
- cylchoedd llanw
Arolygon ar lanweithdra
Mae nifer o ffynonellau llygredd yn effeithio ar ardaloedd cynhyrchu ac ailorwedd pysgod cregyn. Rhaid i’r holl ardaloedd cynhyrchu ac ailorwedd newydd gael:
- asesiad o ffynonellau’r llygredd
- man monitro a nodwyd ar gyfer samplu arferol (RMP), wedi’i leoli yn y man sy’n debygol o ddangos y presenoldeb E. coli uchaf ac felly, sy’n diogelu iechyd y cyhoedd gorau
- cynllun samplu sy’n nodi lleoliad ac amlder samplau monitro arferol
Dylai’r rhai sy’n gwneud cais (y cynaeafwr) lenwi ffurflen gais ar y cyd â’r awdurdod lleol i ofyn am ddosbarthu ardal gynhyrchu neu ailorwedd pysgod cregyn newydd. Bydd hyn yn darparu’r wybodaeth gychwynnol ar gyfer ystyried arolwg ar lanweithdra. Gellir lawrlwytho mwy o wybodaeth am y broses o wneud cais (gan gynnwys gofynion cyn dosbarthu), a’r ffurflen gais o’r dudalen dosbarthu pysgod cregyn.
Ar ôl derbyn eich cais i ddosbarthu pysgod cregyn, byddwn ni’n gofyn i’n contractiwr gynnal arolwg ar lanweithdra. Bydd angen samplau rheolaethau swyddogol a gesglir yn unol â’r cynllun samplu cyn y gellir dosbarthu ardal.
Mewn rhai achosion, bydd angen asesiad ffisegol o’r safle a ffynonellau halogiad posib mewn ardaloedd newydd hefyd. Gelwir hyn yn arolwg traethlin.
Adroddiadau arolwg ac asesiadau monitro
Mae’r arolygon ar lanweithdra a’r adroddiadau ar arolygon ar lanweithra diweddaraf i’w gweld isod
Mae’r asesiadau ar gael yn Saesneg yn unig.