Dosbarthu pysgod cregyn
Diweddarwyd 30 Mehefin 2026
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Mae dosbarthu ardal gynhyrchu yn pennu pa driniaeth sy’n ofynnol cyn y gellir rhoi Molysgiaid Dwygragennog Byw (pysgod cregyn) ar y farchnad i’w bwyta gan bobl.
Mae ardaloedd cynhyrchu ac ailosod pysgod cregyn yn cael eu dosbarthu yn ôl y lefelau E. coli sydd wedi’u canfod o fewn cnawd pysgod cregyn.
Lefelau o E. coli a ganiateir
Mae lefelau E. coli yn cael eu mesur fesul 100g o gnawd.
Ym mhob achos, mae’r safonau iechyd wedi’u nodi yn:
- Atodiad III i Reoliad Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a gymathwyd (CE) 853/2004
- Erthyglau 53, 54 a 55 o Reoliad Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a gymathwyd (UE) 2019/627
Rhaid hefyd bodloni meini prawf microbiolegol y cynnyrch terfynol a bennir yn Rheoliad Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a gymathwyd (CE) 2073/2005.
Bydd yr ardal gynhyrchu yn cael ei dosbarthu’n A, B neu C. Ardaloedd A yw’r lleiaf halogedig ac ardaloedd C yw’r mwyaf. Mae lefel y driniaeth sy’n ofynnol i gael gwared ar halogiad o’r molysgiaid dwygragennog byw ar ôl cynaeafu yn dibynnu ar y dosbarthu hwn. Os nad oes modd cyflawni dosbarth C oherwydd lefelau halogi sy’n uchel, yna efallai y bydd cynaeafu o’r ardal yn cael ei wahardd.
Dyma’r safonau y mae’n rhaid eu cyflawni a lefel y driniaeth sy’n ofynnol ar gyfer pob dosbarthiad:
Dosbarth A
- angen o leiaf 10 sampl bob blwyddyn
- rhaid i 80% o ganlyniadau samplu fod yn llai na neu’n hafal i 230 E. coli/100g
- ni all unrhyw ganlyniadau fod yn fwy na 700 E. coli/100g
Gellir cynaeafu pysgod cregyn byw ar gyfer eu bwyta gan bobl yn uniongyrchol os caiff gofynion safonol y cynnyrch terfynol eu bodloni.
Dosbarth B
- angen o leiaf 8 sampl bob blwyddyn
- rhaid i 90% o ganlyniadau samplu fod yn llai na neu’n hafal i 4,600 E. coli/100g
- ni all unrhyw ganlyniad sampl fod yn fwy na 46,000 E. coli/100g
Gellir cyflenwi pysgod cregyn byw i’w bwyta gan bobl ar ôl un o’r prosesau canlynol:
- puro mewn sefydliad cymeradwy
- ailosod am o leiaf mis mewn ardal ailosod Dosbarth A dosbarthedig
- proses trin â gwres wedi’i chymeradwyo
Cymru a Lloegr
Mae yna system ddosbarthu hirdymor ar gyfer gwelyau dosbarth B yng Nghymru a Lloegr. Nod y system yw dangos mwy o sefydlogrwydd yn y dosbarthiadau sy’n seiliedig ar gydymffurfiaeth dros gyfnod o bum mlynedd yn hytrach na’r tair blynedd safonol.
Dosbarth C
- angen o leiaf 8 sampl bob blwyddyn
- rhaid i bob canlyniad sampl fod yn llai na neu’n hafal i 46,000 E. coli/100g
Gellir ond gwerthu pysgod cregyn i’w bwyta ar ôl cwblhau un o’r prosesau canlynol:
- ailosod am o leiaf ddeufis mewn ardal ailosod dosbarth B gymeradwy cyn cael triniaeth mewn canolfan buro gymeradwy
- ailosod am o leiaf ddeufis mewn ardal ailosod dosbarth A gymeradwy
- ar ôl proses trin â gwres sydd wedi’i chymeradwyo
Ardaloedd sydd wedi’u gwahardd
Ni ddylai pysgod cregyn o ardaloedd sydd â chanlyniadau lefel gwaharddedig (mwy na 46,000 E. coli/100g) fod yn destun cynhyrchu na chael eu cynaeafu.
Puro pysgod cregyn
Gellir puro pysgod cregyn trwy eu dal mewn tanciau pwrpasol o ddŵr môr glân neu artiffisial. Mae’r pysgod cregyn yn cael eu gosod mewn dŵr am yr amser angenrheidiol i leihau halogiad i’w gwneud yn addas i’w bwyta gan bobl. Mae’r amodau dŵr yn annog y pysgod cregyn i hidlo halogion fel E. coli.
Mae canolfannau dosbarthu yn ardaloedd ar neu oddi ar y lan sy’n prosesu molysgiaid dwygragennog byw sy’n addas i’w bwyta gan bobl.
Rhaid i bob sefydliad puro a dosbarthu gael eu cymeradwyo gan eich awdurdod lleol. Mae’n rhaid i chi fodloni’r gofynion penodol ar gyfer canolfannau puro a dosbarthu yn Atodiad III i Reoliad Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a gymathwyd (CE) 853/2004.
Proses ymgeisio
Dosbarthiad posib a llenwi’r ffurflen
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn egwyddor mewn cynaeafu/pysgota neu ailosod pysgod cregyn yng Nghymru, yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon, bydd angen i chi wneud cais i ddosbarthu’r ardal gynhyrchu yn gyntaf. Dylai’r ymgeisydd (y cynaeafwr) ar y cyd â’r awdurdod lleol lenwi ffurflen gais ar gyfer yr ardal gynhyrchu neu’r ardal ailosod.
Byddwch cystal â llenwi ac anfon y ffurflen hon yn electronig, ynghyd â map addas ac unrhyw wybodaeth ategol berthnasol arall. Peidiwch â llenwi’r ffurflen hon ar bapur. Ni fyddwn yn derbyn copïau caled na rhai wedi’u sganio.
Cofiwch nad yw dosbarthu ardal gynaeafu pysgod cregyn yn rhoi’r hawl i gynaeafu pysgod cregyn.
Efallai y bydd angen caniatâd arnoch chi gan gyrff eraill cyn bwrw ati. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau’r caniatâd hwn, yn ôl yr angen, ac i’r awdurdod lleol wirio bod popeth yn ei le, gan gynnwys gallu’r awdurdod lleol hwnnw i samplu ar gyfer monitro parhaus, cyn i’r cais gael ei gyflwyno i’r ASB.
Ar ôl i chi anfon y ffurflen
Ar ôl i’ch cais ddod i law, byddwn ni’n ei wirio ac yn gofyn am ragor o wybodaeth neu eglurhad pellach os bydd angen. Unwaith y byddwn ni’n fodlon, byddwn ni’n ei hanfon at ein contractiwr i gynnal arolwg glanweithiol (‘sanitary’) os oes angen.
Mae arolwg glanweithiol yn asesiad o’r ffynonellau llygredd sy’n effeithio ar yr ardal gyneafu, er mwyn pennu pwyntiau samplu priodol a chynllun samplu ar gyfer dosbarthu posibl.
Mae angen deg sampl rheolaethau swyddogol, a gymerir gan yr awdurdod lleol yng Nghymru ac yn Lloegr ac amrywiaeth o gyrff samplu yng Ngogledd Iwerddon, o leiaf wythnos ar wahân er mwyn gallu dosbarthu dros dro. Ar ôl blwyddyn lawn o waith samplu rheolaethau swyddogol, gellir rhoi dosbarthiad blynyddol.
Mae angen o leiaf 16 wythnos o ddyddiad cyflwyno’r cais cyn y gellir dechrau cyneafu pysgod cregyn, gan ddibynnu ar gymeradwyo dosbarthiad.
Mae rhagor o wybodaeth am y broses ddosbarthu ar gael yn y protocol dosbarthu.
Ymdrin â chanlyniadau uchel
Mae grwpiau gweithredu lleol yn bodoli yng Nghymru ac yn Lloegr.
Caiff grŵp gweithredu lleol ei arwain gan eich awdurdod lleol a gall gynnwys grwpiau diwydiant lleol, pysgotwyr neu gasglwyr pysgod cregyn a rhanddeiliaid eraill a all gyfrannu at yr ymchwiliad, er enghraifft Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chwmnïau Dŵr.
Mae’r grŵp hwn yn ymdrin â chanlyniadau uchel ac yn ystyried a ddylid:
- cau’r gwely
- hysbysu’r cynaeafwyr
- gweithredu i ddiogelu iechyd y cyhoedd
- cydweithio â thimau digwyddiadau bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd pan fo angen
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau grwpiau gweithredu lleol.
Cynlluniau gweithredu
Penderfynir ar gynlluniau gweithredu lleol gan ddefnyddio ffactorau ac amodau lleol. Bydd faint o fanylion yn y cynllun yn dibynnu ar:
- nifer a maint y gwelyau pysgod cregyn dan gyfrifoldeb yr awdurdod bwyd lleol
- unrhyw amodau lleol arbennig
- nifer y rhanddeiliaid dan sylw
Camau gweithredu
Mae camau gweithredu yn berthnasol i bob dosbarth o welyau pysgod cregyn. Byddant yn cael eu gweithredu pan fydd eich canlyniadau yn uwch na’r lefel a ganiateir.
Mae’n bosibl y caiff gwely ei israddio neu ei gau dros dro fel rhan o fesurau rheoli tymor byr yn ystod cam gweithredu.
Er mwyn ailagor y gwely yn ei ddosbarthiad blaenorol, mae’n rhaid cymryd dau sampl boddhaol yn olynol o leiaf saith diwrnod ar wahân.
Dechreuwn ymchwilio i ganlyniadau dosbarthiad sydd, er enghraifft, yn uwch na’r trothwy ar gyfer y dosbarthiad a ddyfarnwyd.
Gofynnir i wybodaeth gan DAERA, NIEA a chynaeafwyr geisio sefydlu achos y canlyniad uwch a phenderfynu ar weithredu yn y dyfodol.
Bydd unrhyw ardaloedd gyda chanlyniadau uwchben y lefel a ganiateir ar gau ar gyfer cynaeafu.
Rhestr ddosbarthu a chynlluniau samplu cyfredol
Rhestr ddosbarthu a chynlluniau samplu
Diweddarwyd ddiwethaf 1 Mehefin 2026.
Cynlluniau samplu ar gyfer monitro biotocsinau a ffytoplanctonau mewn ardaloedd cynhyrchu
Gwybodaeth atodol
Mae’r holl ardaloedd a restrir wedi’u dynodi ar gyfer rhywogaethau y gellir eu cynaeafu yn ogystal â dosbarthiadau dyfroedd pysgod cregyn. Os oes rhywogaethau eraill ar wahân i’r rhai a restrir o ddiddordeb masnachol, dylid ceisio cyngor y shellfish@food.gov.uk cyn unrhyw gynaeafu. Dyma’r gwahanol rywogaethau a ddynodwyd yn y rhestr:
Rhywogaethau a ddynodwyd ar gyfer cynaeafu
| Cerastoderma edule | Cocos bwytadwy cyffredin/Common edible cockle |
| Mytilus spp. | Mytilus edulis (cregyn gleision/blue mussel), Mytilus galloprovincialis (cregyn gleision Môr y Canoldir/Mediterranean mussel) a hybridiau |
| Ostrea edulis | Wystrys Frodorol neu Wastad/Native or Flat Oyster |
| Crassostrea gigas | Wystrys y Môr Tawel/Pacific Oyster |
| Mercenaria mercenaria | Cregyn Berffro Caled/Hard clam |
| Spisula solida | Cregyn trwchus/Thick trough shell |
| Ensis spp. | Cyllyll-môr/Razor clams |
| Pecten maximus | Cregyn Bylchog Mawr neu Gregyn y Brenin/Great or King Scallop |
| Mya arenaria | Pysgod Geirwon Bach/Gapers |
| Mimachlamys varia | Cregyn Bylchog Amrywiol/Variegated Scallop |
| Tapes spp. | Tapes philippinarum (Cregyn Cylchog Manila/Manila clam), Tapes decussatus (Palourde, Cregyn Cylchog Brodorol neu Gregyn Cylchog Cywennod/native clam or carpet shell clam) |
Nodiadau Esboniadol
Mae’r rhifau yn y golofn “Nodyn esboniadol” yn nodi bod angen ystyried gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â statws dosbarthu ardal.
1. Mae dosbarthiad yn amodol ar gyfer ardaloedd newydd eu dosbarthu sydd â llai na 12 mis o waith samplu.
1c. Roedd anawsterau samplu a diffyg canlyniadau yn 2019-20 o ganlyniad i effaith COVID-19. Os oedd ffactorau eraill hefyd yn achosi diffyg, yna dim ond pan fo nifer y canlyniadau, a gollwyd oherwydd Covid yn benodol, wedi achosi i nifer y samplau fod yn llai na 10 dros y flwyddyn adolygu y rhoddir 1c.
2. Ardal wedi’i dad-ddosbarthu dros dro oherwydd nad yw’r gwely’n weithgar yn fasnachol a chytunwyd ar gyfradd is o fonitro gyda’r awdurdod lleol.
3. Canlyniadau sampl annigonol i asesu’n llawn effaith newidiadau mewn ansawdd dŵr,
er enghraifft, cynlluniau carthion a thrin carthion newydd, ffactorau twristiaeth ac ati.
4. Canlyniadau’n agos at y terfyn goddefiant. Mae’n bosib y bydd modd israddio os bydd methiannau pellach.
5. Ardal wedi’i dosbarthu ar lefel uwch gan fod tystiolaeth y gallai ffactorau eithriadol fod wedi effeithio ar y canlyniadau samplu (er enghraifft methiant gwaith trin carthion, digwyddiad glaw sy’n fwy na 1 mewn 5 mlynedd ac ati).
6. Ardal wedi’i dosbarthu ar lefel is oherwydd materion gorfodi.
7. Gwely wedi’i ddad-ddosbarthu oherwydd bod nifer annigonol o samplau wedi dod i law ar gyfer y flwyddyn adolygu, neu ar gyfer y gwelyau hynny a ddad-ddosbarthwyd oherwydd diffyg buddiannau masnachol nad ydynt yn cael eu monitro o gwbl (caniateir hyn am hyd at 2 flynedd).
8. Ardal wedi’i dosbarthu ar lefel is oherwydd canlyniadau sy’n agos at y terfyn goddefiant. Efallai y bydd modd uwchraddio os bydd canlyniadau’r dyfodol yn ffafriol.
Canlyniadau monitro dosbarthu
- Canlyniadau monitro dosbarthiadau Cymru a Lloegr (Saesneg yn unig)
- Canlyniadau monitro dosbarthiadau o flynyddoedd blaenorol (Saesneg yn unig)