Guidance

Crynodeb o Gynllun Rheoli Basn Afon Hafren a dalgylchoedd trawsffiniol (Cymru a Lloegr)

Published 21 October 2022

Applies to England and Wales

1. Diben y ddogfen hon

Mae’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o gynllunio basn afon yng Nghymru a Lloegr ar gyfer Ardal Basn Afon Hafren. Mae’n canolbwyntio ar sut mae Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydlynu’r gwaith ar ddalgylchoedd sy’n agos at y ffin rhwng Cymru a Lloegr neu’n rhan ohoni.

Mae’r ddogfen hon hefyd yn darparu dolenni i wybodaeth a dogfennau eraill sydd gyda’i gilydd yn ffurfio Cynllun Rheoli Basn Afon Hafren. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • gwybodaeth fanwl am gyrff dŵr Cymru a Lloegr
  • dogfennau gwlad-benodol sy’n manylu ar sut y rheolir dyfroedd yng Nghymru a Lloegr
  • gwybodaeth ategol arall megis diweddariadau ar yr Asesiad Amgylcheddol Strategol a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

2. Cynllun Rheoli Basn Afon Hafren

Cafodd Cynllun Rheoli Basn Afon Hafren ei gyhoeddi gyntaf yn 2009, ac yna ei ddiweddaru ym mis Chwefror 2016. Dyma’r diweddariad nesaf i’r cynllun hwn ac mae wedi’i wneud ar y cyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Diben y cynllun hwn yw diogelu a gwella’r amgylchedd dŵr er budd ehangach pobl a bywyd gwyllt yn Ardal Basn Afon Hafren.

2.1 Ardal Basn Afon Hafren

Mae Ardal Basn Afon Hafren, sy’n ymestyn dros 21,000km2, yn gorwedd yng Nghymru a Lloegr. Mae’n ymestyn o ucheldiroedd Cymru, trwy fryniau tonnog Canolbarth Lloegr ac i’r de i aber afon Hafren.

Mae dros 5 miliwn o bobl yn byw yn yr ardal basn afon. Er ei bod yn wledig yn bennaf, mae’n cynnwys ardaloedd trefol fel Bryste, Coventry, Caerdydd, Cymoedd y De, a rhannau o gytref Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Mae gan Ardal Basn Afon Hafren amrywiaeth arbennig o gyfoethog o fywyd gwyllt a chynefinoedd, gan gynnal llawer o rywogaethau o bwysigrwydd byd-eang a chenedlaethol. Er enghraifft, mae aber afon Hafren a’r cyffiniau wedi’u diogelu oherwydd eu poblogaethau adar, cynefinoedd, a rhywogaethau pysgod mudol fel yr eog, yr herlyn/gwangen a’r llysywen bendoll.

I weld map yn dangos ffin Ardal Basn Afon Hafren, ewch i’r archwiliwr data dalgylch.

3. Cydweithio yn Ardal Basn Afon Hafren

Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n gyfrifol am gydgysylltu’r gwaith o gynllunio dyfodol dyfroedd Lloegr. Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am ddyfroedd yng Nghymru. Fodd bynnag, mae Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio ar y cyd yn Ardal Basn Afon Hafren.

Mae rhai dyfroedd yn yr ardal basn afon yn ffurfio’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, neu’n croesi o Gymru i Loegr neu o Loegr i Gymru. Felly mae cydweithio ar ddyfroedd trawsffiniol yn hanfodol i sicrhau bod yr amgylchedd dŵr yn cael ei warchod a’i wella. Y nod yw cyflawni hyn drwy gydweithio â rheolwyr tir a grwpiau lleol.

Mae cydweithio â phartneriaid yn cynyddu dealltwriaeth o’r blaenoriaethau ar gyfer gweithredu ac yn helpu i sicrhau bod y mesurau priodol yn cael eu rhoi ar waith.

Yn 2013, lansiodd DEFRA ddull seiliedig ar ddalgylchoedd i helpu i wella ansawdd yr amgylchedd dŵr yn Lloegr. Mae’r dull hwn yn ymgorffori cydweithio ar raddfa dalgylch, gan ddod ag ystod o bartneriaid ynghyd i gefnogi rheolaeth dalgylch integredig. Mae hyn yn arwain at fanteision lluosog, gan gynnwys gwelliannau i ansawdd dŵr, gwell bioamrywiaeth a pherygl llifogydd llai.

Yng Nghymru, mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn amlinellu’r fframwaith polisi i’w gwneud yn bosibl rheoli’r amgylchedd mewn modd mwy rhagweithiol, cynaliadwy a chydgysylltiedig. Mae’n cynnwys dyletswydd ar Cyfoeth Naturiol Cymru i lunio Datganiadau Ardal i helpu i weithredu’r blaenoriaethau a amlinellir ym Mholisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru. Ceir saith maes neu ‘le’ yng Nghymru, gan gynnwys yr amgylchedd morol. Mae gan bob ardal ddogfen Datganiad Ardal fyw, a gafodd ei chyhoeddi am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2022, sy’n crynhoi’r heriau a’r cyfleoedd sy’n berthnasol i’r ardal honno. Mae’r gwaith o gyflawni Datganiadau Ardal yn gofyn am ffordd newydd o weithio ac yn dibynnu ar gydweithrediad llwyddiannus â phartneriaid a rhanddeiliaid. Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol bod pob corff cyhoeddus yn gweithio tuag at gyflawni’r saith nod llesiant ac yn meddwl am sut y bydd ei benderfyniadau’n cael effaith ar bobl sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Mae tri dalgylch cyfle yn rhan Cymru o Ardal Basn Afon Hafren lle mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn anelu at dargedu adnoddau. Y rhain yw: afon Taf ac afon Elái, canol Sir Fynwy, ac afon Ieithon. Mae’r Datganiad Ardal Forol hefyd yn amlygu camau gweithredu i wella ansawdd dyfroedd aberol ac arfordirol.

3.1 Gwaith partneriaeth trawsffiniol

Mae partneriaethau dalgylch bellach yn weithredol yn rhannau uchaf afon Hafren, afon Tefeidiad ac afon Gwy, gan helpu i gydlynu gwaith ar draws ffin Cymru a Lloegr. Nod y dull dalgylch yw gweithio ar y cyd er budd y dalgylch cyfan, yn hytrach na dull tameidiog.

Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i ddatblygu prosiectau newydd, gan weithio ar y cyd ag ystod eang o grwpiau partner a rhanddeiliaid ar raddfa leol a dalgylch. Bydd prosiectau’n cael eu targedu mewn ardaloedd â blaenoriaeth, gan ddarparu ystod o fanteision a chanlyniadau i bobl a bywyd gwyllt. Trwy ddefnyddio dull dalgylch integredig a thrwy reoli tir yn gynaliadwy, y nod yw lleihau’r perygl o lifogydd i gymunedau lleol, gwella ansawdd dŵr, gwella a chreu cynefinoedd newydd, a diogelu adnoddau dŵr. Trwy ddatblygu prosiectau peilot rheoli llifogydd yn naturiol ac ymgysylltu â thirfeddianwyr lleol, mae amrywiaeth o ymyriadau rheoli tir i wella iechyd y pridd wedi’u cyflwyno, gan felly wanhau a storio mwy o ddŵr mewn priddoedd a dalgylchoedd i fyny’r afon. Mae hyn hefyd wedi lleihau’r risg o ddŵr ffo wyneb a llygredd gwasgaredig cysylltiedig o ffynonellau amaethyddol, sef rhywbeth sy’n gyrru llawer o’r methiannau ansawdd dŵr ar hyn o bryd, yn enwedig o ran ffosffadau.

3.2 Partneriaeth Dalgylch Afon Gwy

Mae Partneriaeth Dalgylch Afon Gwy yn cael ei chynnal gan Sefydliad Gwy ac Wysg, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithio’n agos gyda’r grŵp. Mae gan y bartneriaeth aelodaeth amrywiol gyda chynrychiolwyr o ymddiriedolaethau afonydd, ymddiriedolaethau bywyd gwyllt, sefydliadau’r llywodraeth, coedwigaeth breifat, undebau ffermio, cwmnïau dŵr, ymddiriedolaethau cadwraeth, a chwmnïau lleol, yn ogystal ag unigolion â budd. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefannau Catchment Based Approach a Sefydliad Gwy ac Wysg.

3.3 Partneriaeth Afon Hafren

Gyda hinsawdd sy’n newid, lle mae tywydd eithafol yn dod yn amlycach ac yn amlach, daeth partneriaid o Ganolbarth Cymru, Swydd Amwythig, Telford a Wrekin, Swydd Henffordd, Swydd Gaerwrangon a Swydd Gaerloyw at ei gilydd i ffurfio Partneriaeth Afon Hafren ym mis Medi 2019.

Mae’r bartneriaeth hon yn helpu pobl, busnesau a’r amgylchedd i baratoi ar gyfer effeithiau newid hinsawdd a datblygu’r gallu i’w gwrthsefyll. Mae hyn ar draws afon Hafren, afon Tefeidiad, afon Avon (Swydd Warwick) ac afon Gwy. Mae cynigion yn cynnwys opsiynau ar gyfer rheoli perygl llifogydd, gwella ansawdd dŵr, gwella’r amgylchedd, a datblygu dull integredig a chyfannol o storio a rheoli adnoddau dŵr. Mae nifer o brosiectau allweddol a ffrydiau gwaith galluogi bellach yn cael eu datblygu a fydd yn helpu i lunio Strategaeth Gwrthsefyll y Newid yn yr Hinsawdd tymor hwy ar gyfer dalgylch afon Hafren, gyda chefnogaeth y bartneriaeth.

3.4 Partneriaeth Aber Afon Hafren

Mae Partneriaeth Aber Afon Hafren yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru (ynghyd ag awdurdodau lleol, grwpiau amgylcheddol, cwmnïau dŵr, diwydiannau, a’r sector preifat) i ddatblygu dull cynaliadwy ac integredig ar gyfer aber afon Hafren. Cyhoeddwyd strategaeth newydd yn 2017 i ddarparu fframwaith polisi strategol ar gyfer aber afon Hafren, llywio a chefnogi’r broses o wneud penderfyniadau, a hwyluso Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, sy’n ymwneud ag integreiddio trawsffiniol a dull o reoli sy’n seiliedig ar ecosystemau.

4. Cyflwr presennol yr amgylchedd dŵr yn Ardal Basn Afon Hafren

Mae monitro ac asesu’r amgylchedd dŵr yn cynyddu dealltwriaeth o effaith llygredd a phwysau eraill. Mae sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael ar systemau rhannu data megis yr archwiliwr data dalgylch ac Arsylwi Dyfroedd Cymru yn galluogi pawb i gael mynediad iddi a phenderfynu sut y gall eu gweithredoedd unigol gyfrannu at ddiogelu’r amgylchedd dŵr.

Mae crynodebau ar gyfer Ardal Basn Afon Hafren i gyd fel a ganlyn.

Nifer y cyrff dŵr yn Ardal Basn Afon Hafren

Nifer y cyrff dŵr Naturiol Artiffisial Wedi’u haddasu’n sylweddol Cyfanswm
Afonydd, camlesi a throsglwyddiadau dŵr wyneb 560 47 74 681
Llynnoedd 14 7 42 63
Arfordirol 0 0 0 0
Aberol 1 0 5 6
Dŵr daear 42 - - 42
Cyfanswm 617 54 121 792

Statws ecolegol ar gyfer dyfroedd wyneb yn Ardal Basn Afon Hafren

Statws neu botensial ecolegol Drwg Gwael Cymedrol Da Uchel Cyfanswm
Nifer y cyrff dŵr 16 137 458 139 0 750

Statws cemegol ar gyfer dyfroedd wyneb yn Ardal Basn Afon Hafren

Statws cemegol Methu Da Cyfanswm
Nifer y cyrff dŵr 493 257 750

Gellir gweld gwahaniaethau rhwng canlyniadau dosbarthiad statws cemegol mewn dalgylchoedd trawsffiniol ar gyfer cemegion hollbresennol, biogronnol a gwenwynig (uPBTs) ac yn arbennig etherau deuffenyl polybrominedig a mercwri. Mae’r gwahaniaethau hyn oherwydd gwahaniaethau yn y dystiolaeth sydd ar gael. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydweithio’n agos ar ddosbarthu cemegion. Mae pob sefydliad wedi datblygu dull sy’n gwneud y defnydd gorau o’r dystiolaeth sydd ar gael. Er y gall y dulliau dosbarthu fod yn wahanol, mae’r mesurau a ddefnyddir i leihau uPBTs yn yr amgylchedd dŵr yn gymharol debyg ar draws Cymru a Lloegr ac yn cael eu llywio gan ddeddfwriaeth genedlaethol. Bydd monitro’r gwaith o leihau’r cemegion hyn yn yr amgylchedd yn parhau i sicrhau bod mesurau’n briodol.

Statws meintiol ar gyfer dŵr daear yn Ardal Basn Afon Hafren

Statws meintiol Gwael Da Cyfanswm
Nifer y cyrff dŵr 9 33 42

Statws cemegol ar gyfer dŵr daear yn Ardal Basn Afon Hafren

Statws cemegol Gwael Da Cyfanswm
Nifer y cyrff dŵr 15 27 42

Ardaloedd gwarchodedig dŵr yfed yn Ardal Basn Afon Hafren

Math o gorff dŵr Nifer yr ardaloedd dŵr yfed gwarchodedig
Dŵr wyneb 78
Dŵr daear 42

Maint yr ardaloedd gwarchodedig sy’n Barthau Perygl Nitradau (NVZ) yn Ardal Basn Afon Hafren

Rheswm dros y dynodiad Nifer yr NVZs Arwynebedd tir (ha) wedi’i orchuddio â math NVZ Canran yr ardal basn afon a gwmpesir gan fath NVZ
Nitradau uchel mewn dyfroedd wyneb 66 688,722 49
Ewtroffigedd mewn llynnoedd neu gronfeydd dŵr 11 21,781 2
Nitradau uchel mewn dŵr daear 22 318,317 23

Nid yw Parthau Perygl Nitradau bellach yn bodoli yng Nghymru. Mae Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013 wedi’u dirymu ac mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 mewn grym yn eu lle.

Ardaloedd gwarchodedig sy’n sensitif i faethynnau yn Ardal Basn Afon Hafren

Ardaloedd gwarchodedig sy’n sensitif i faethynnau Nifer yr ardaloedd sy’n sensitif i faethynnau Hyd (km) neu arwynebedd (km²) dynodedig
Ewtroffigedd mewn afonydd 22 959.2 km
Ewtroffigedd mewn camlesi 2 3.10 km²
Ewtroffigedd mewn llynnoedd neu gronfeydd dŵr 2 30.00 km²
Lefel uchel o nitradau mewn dŵr wyneb croyw 2 63.00 km²

Nifer yr ardaloedd gwarchodedig ar gyfer pysgod cregyn ac sy’n ddyfroedd ymdrochi yn Ardal Basn Afon Hafren

  • nid oes unrhyw ddyfroedd pysgod cregyn
  • ceir pedair ardal o ddyfroedd ymdrochi

Nifer y safleoedd cynefinoedd sy’n ardaloedd gwarchodedig yn Ardal Basn Afon Hafren

Ceir:

  • 34 o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig sy’n dibynnu ar ddŵr
  • pedwar Safle Ramsar

4.1 Newidiadau ers y diweddariad diwethaf i Gynllun Rheoli Basn Afon Hafren

Mae’r fethodoleg a’r dystiolaeth a ddefnyddir ar gyfer monitro a rheoli’r amgylchedd dŵr yn cael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd i adlewyrchu’r dull gorau sydd ar gael. Ers diweddariad diwethaf Cynllun Rheoli Basn Afon Hafren yn 2016, mae rhai newidiadau wedi’u gwneud, gan gynnwys:

  • newidiadau i offerynnau dosbarthu ar sail cyngor gan Grŵp Cynghori Technegol y DU ac arbenigwyr technegol eraill. Mae’r rhain yn cynnwys safonau amgylcheddol diwygiedig ar gyfer nitrogen mewn llynnoedd a pH (Cymru yn unig) a’r rhestr o rywogaethau estron goresgynnol a nodwyd fel rhai risg uchel

  • mân newidiadau i’r rhwydwaith cyrff dŵr. Mae’r newidiadau i’r rhwydwaith cyrff dŵr yn Lloegr i’w gweld yn yr adroddiad cynnydd ar gyfer cynllunio basnau afon ac i’r rhwydwaith yng Nghymru yn Cynllun Rheoli Basn Afon: Atodiad Trosolwg Cymru

5. Heriau

Mae llawer o afonydd, nentydd, llynnoedd ac aberoedd yn cael eu diraddio a’u difrodi gan ddatblygiadau, diwydiant, amaethyddiaeth, ac addasiadau i amddiffyn rhag llifogydd.

Mae her lleihau perygl llifogydd yn cael ei thrafod yn y Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd sy’n cael eu datblygu gan Gynllun Rheoli Perygl Llifogydd Ardal Basn Afon Hafren Asiantaeth yr Amgylchedd, a gynhaliodd ymgynghoriad rhwng mis Hydref 2021 a mis Ionawr 2022, a Chynllun Rheoli Perygl Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, a gynhaliodd ymgynghoriad o fis Awst 2022 tan fis Tachwedd 2022. Mae angen cydlynu gwaith i wella’r amgylchedd a lleihau perygl llifogydd er mwyn sicrhau’r manteision mwyaf posibl ar gyfer y ddau ganlyniad.

5.1 Heriau yn Ardal Basn Afon Hafren

Yn 2019, ymgynghorodd Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru ar yr heriau pwysicaf i ddefnyddiau a buddion yr amgylchedd dŵr yn awr ac yn y dyfodol, gan gynnwys ardaloedd gwarchodedig, yn Ardal Basn Afon Hafren. Yn dilyn yr adolygiad o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, cadarnhawyd yr heriau y byddai’r cynllun rheoli basn afon hwn yn mynd i’r afael â hwy ac fe’u disgrifir yn gryno yn nhrefn yr wyddor isod.

Ceir rhagor o wybodaeth am yr heriau yn y ddogfen hon, sy’n rhoi trosolwg o’r broses gynllunio ar gyfer basnau afon yn Lloegr, a’r ddogfen hon, sy’n delio â’r rhan sy’n berthnasol i Gymru o Gynllun Rheoli Basn Afon Hafren.

5.1.1 Argyfwng bioamrywiaeth

Mae’r DU eisoes wedi colli 90% o’i chynefinoedd gwlyptir yn y 100 mlynedd diwethaf, ac mae dros 10% o rywogaethau dŵr croyw a gwlyptir dan fygythiad difodiant.

Mae angen gweithredu ar frys i leihau’r pwysau y mae’r cynefinoedd a rhywogaethau hyn yn eu hwynebu ac i gynyddu eu maint a’u niferoedd, eu hansawdd a’u cysylltedd fel y gall bioamrywiaeth ffynnu. Mae cynefinoedd sy’n dibynnu ar ddŵr yn Ardal Basn Afon Hafren, er enghraifft morfa heli yn aber afon Hafren, yn hanfodol ar gyfer helpu i addasu i ddyfodol ansicr, yn enwedig wrth helpu i wrthsefyll ac addasu i newid hinsawdd a thywydd eithafol.

5.1.2 Newidiadau i lefelau a llif dŵr

Heb ddŵr, ni all yr un ohonom oroesi. Ond mae sut mae dŵr yn cyrraedd tapiau pobl a’r effaith y mae hynny’n ei chael ar yr amgylchedd yn rhywbeth nad yw’r rhan fwyaf ohonom yn meddwl amdano. Mae dŵr a gymerir o afonydd, dyfrhaenau a chronfeydd dŵr yn Ardal Basn Afon Hafren o fudd i bob rhan o’r economi, o ffermwyr i gynhyrchwyr ynni, a chymdeithas, trwy ddŵr yfed, chwaraeon a hamdden, a physgodfeydd.

Mae yna ardaloedd lle mae gormod o ddŵr eisoes yn cael ei gymryd. Wrth i’r hinsawdd newid ac wrth i’r boblogaeth dyfu, bydd y galw am ddŵr hefyd yn cynyddu. Mae tynnu gormod o ddŵr yn niweidio afonydd, ffynhonnau, dyfrhaenau, llynnoedd a gwlyptiroedd, gan leihau’r lleoedd y gall bywyd gwyllt fyw ynddynt. Mae’n dod yn anoddach i bysgod gyrraedd y mannau lle maent yn dodwy eu hwyau (eu mannau silio) a lle maent yn bwydo.

5.1.3 Cemegion

Gall cemegion effeithio ar iechyd dynol a bywyd gwyllt o ddod i gysylltiad uniongyrchol â’r cemegion neu yn sgil eu cronni trwy’r gadwyn fwyd.

Mae rhai cemegion yn Ardal Basn Afon Hafren yn hollbresennol ac yn cael eu rheoli orau ar raddfa genedlaethol. Mae eraill yn benodol i weithgaredd a dylai eu rheolaeth ganolbwyntio ar raddfa leol. Mae gwaharddiad rhag cynhyrchu neu ddefnyddio llawer o gemegion ond maent yn barhaus yn yr amgylchedd am gyfnodau hir. Mae’r rhain yn parhau i gael eu monitro i ddangos bod y rheolaethau presennol yn ddigonol a bod crynodiadau’n gostwng.

5.1.4 Newid hinsawdd

Mae newid hinsawdd yn parhau i effeithio ar Gymru a Lloegr trwy godiad yn lefel y môr a newidiadau i batrymau tywydd, megis glawiad eithafol, tywydd poeth a sychder. Bydd hyn yn effeithio ar sut mae ein hasedau dŵr naturiol yn gweithredu ac yn lleihau’r gwasanaethau y mae’r asedau hynny’n eu darparu a’r buddion a gawn fel cymdeithas, megis dŵr yfed, cyfleoedd hamdden a llesiant. 

Mae camau uniongyrchol ac uchelgeisiol i leihau effaith newid hinsawdd a rhoi mesurau ar waith i addasu iddo yn hanfodol. Mae angen i ni weithio ar y cyd i adeiladu gwytnwch i sefyllfaoedd cynhesu yn y dyfodol. Os na wneir dim, bydd y canlyniadau i bobl a bywyd gwyllt yn aruthrol.

5.1.5 Rhywogaethau estron goresgynnol

Rhywogaeth estron yw anifail neu blanhigyn a gyflwynir, naill ai’n fwriadol neu’n ddamweiniol, i le nad yw’n perthyn iddo. Gall rhywogaethau o’r fath deithio ar nwyddau a gludir neu anifeiliaid eraill neu hyd yn oed deithio ym malast llongau. Nid yw pob rhywogaeth estron yn niweidiol; er enghraifft, gall cnydau bwyd estron fod o fudd enfawr. Dim ond os yw’n cael effeithiau negyddol ar yr amgylchedd y daw rhywogaeth yn ‘oresgynnol’. Mae masnach fyd-eang, twristiaeth a thrafnidiaeth yn cynyddu’r broblem ym mhedwar ban byd. Mae’r broblem yn cynyddu bob blwyddyn.

Gall y gost i gymdeithas a berir gan rywogaethau estron goresgynnol fod yn enfawr.Ond nid economaidd yn unig yw’r effeithiau. Gall rhywogaethau estron goresgynnol hefyd niweidio cynefinoedd bywyd gwyllt ac iechyd dynol. Er enghraifft, mae clymog Japan yn tyfu mewn clystyrau trwchus sy’n cynyddu erydiad glannau afon ac a all leihau cynhwysedd sianeli afonydd, gan arwain o bosibl at fwy o lifogydd.

5.1.6 Plastigion

Mae llawer o bobl yn fwy ymwybodol nag erioed bod plastig yn effeithio ar foroedd a bywyd gwyllt, ond nid dim ond y llygredd plastig sydd i’w weld ar draethau. Oherwydd y ffordd y mae plastigion (gan gynnwys micro-blastigion) yn cael eu cynhyrchu, eu defnyddio a’u gwaredu, gall y plastigion hyn hefyd lygru llynnoedd, afonydd a nentydd, pridd, a’r aer.

5.1.7 Addasiadau ffisegol

Am filoedd o flynyddoedd, mae afonydd, aberoedd, llynnoedd a’r arfordir wedi’u haddasu’n ffisegol i gefnogi ffermio, diwydiant a thrafnidiaeth, gan gynnwys llongau, a thrwy adeiladu lleoedd i fyw ynddynt. Mae rhai o’r newidiadau ffisegol hynny’n dal yn hanfodol. Maent yn helpu i amddiffyn rhag llifogydd ac i gefnogi cyflenwad dŵr yfed a chynhyrchu bwyd. Mae newidiadau eraill wedi helpu i greu tirweddau a phensaernïaeth eiconig.

Ond wrth i afonydd gael eu dargyfeirio, eu gorchuddio a’u sythu, mae’r amgylchedd wedi’i niweidio. Mae etifeddiaeth adeileddau a newidiadau eraill yn golygu nad yw llawer o’r afonydd a’r dyfrffyrdd yn darparu cynefinoedd iach a chynaliadwy i fywyd gwyllt.

5.1.8 Llygredd o amaethyddiaeth ac ardaloedd gwledig

Mae afonydd, nentydd a dŵr daear yn rhan hanfodol o fywyd gwledig a’r economi wledig. Fodd bynnag, mae’r ffordd y caiff tir a da byw eu rheoli, gan gynnwys defnyddio gwrtaith a phlaladdwyr, yn arwain at lygru afonydd a dŵr daear.

Mae ffermio a defnydd tir gwledig yn newid yn barhaus. Mae angen i ni wneud priddoedd, aer a dŵr yn iachach nag y maent ar hyn o bryd wrth dyfu digon o fwyd i bawb. Bydd newid i amaethyddiaeth fwy cynaliadwy hefyd yn cyfrannu at y targed sero net ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd.

5.1.9 Llygredd o drefi, dinasoedd a thrafnidiaeth

Gall llygredd ddod o ddraenio oddi ar ffyrdd, trafnidiaeth, diwydiannau a thai. Mae llygredd hanesyddol o ffatrïoedd a diwydiannau trwm hefyd wedi gadael etifeddiaeth sy’n halogi tir, priddoedd a dŵr.

Mae’r argyfwng hinsawdd yn dwysáu’r problemau y mae ardaloedd poblog iawn yn eu creu. Mae effaith llygredd o ardaloedd trefol yn arbennig o ddifrifol yn ystod glaw trwm yn dilyn cyfnodau hir o dywydd sych. Mewn tywydd sych, mae llygryddion yn cronni ar arwynebau caled fel ffyrdd, ac mewn draeniau. Mae glaw trwm yn llifo’r holl lygryddion hyn i afonydd a nentydd ar yr un pryd, a all niweidio bywyd gwyllt.

Yng Nghymru, mae asideiddio yn parhau i effeithio ar ecosystemau afonydd a llynnoedd oherwydd y dyddodiad atmosfferig o gyfansoddion sylffwr a nitrogen ar briddoedd ucheldir sensitif. Mae coedwigo gyda chonwydd ar ucheldiroedd a newidiadau i ddulliau draenio hefyd yn cynyddu risg ac effeithiau asideiddio. Yn hanesyddol, gorsafoedd pŵer glo oedd ffynhonnell llygredd atmosfferig. Mae rheolaethau rhyngwladol a newid i danwyddau glanach wedi arwain at ostyngiadau sylweddol mewn allyriadau. Mae allyriadau gwasgaredig o ffynonellau trafnidiaeth, domestig ac amaethyddol yn dal i gael effaith leol.

5.1.10 Llygredd o ddŵr gwastraff y diwydiant dŵr

Mae’r diwydiant dŵr yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod dŵr gwastraff o gartrefi a busnesau yn cael ei drin yn ddiogel a’i ddychwelyd i’r amgylchedd. Yn y gorffennol, mae llygredd o ddŵr gwastraff wedi niweidio afonydd, nentydd a dyfroedd arfordirol yn ddrwg iawn. Ond mae’r sefyllfa wedi gwella llawer yn y 30 mlynedd diwethaf. Mae hyn oherwydd bod y diwydiant dŵr wedi buddsoddi arian ei gwsmeriaid mewn systemau casglu a thrin gwell, ac wedi gwella sut mae’n gweithio gyda phobl leol.

Er gwaethaf y gwelliannau hyn, mae gweithgareddau’r diwydiant dŵr yn dal i fod yn un o’r prif resymau pam nad yw dyfroedd mewn cyflwr digon da. Mae gwaith ar y gweill i fynd i’r afael â’r problemau hyn, ond mae angen mwy. Mae angen i’r diwydiant dŵr wella ei systemau trin ymhellach a lleihau achosion o ddŵr gwastraff heb ei drin yn cael ei ollwng i afonydd a dyfroedd arfordirol.

Gall pawb chwarae rhan mewn helpu i leihau effeithiau dŵr gwastraff trwy, er enghraifft, feddwl yn fwy gofalus am yr hyn sy’n cael ei arllwys i lawr y sinc a’i fflysio i lawr y toiled.

6. Rhaglenni mesurau

Mae Cynllun Rheoli Basn Afon Hafren yn crynhoi’r mesurau presennol ac arfaethedig i reoli’r prif heriau a wynebir gan yr amgylchedd dŵr a chyflawni’r amcanion amgylcheddol. Er mwyn cyflawni’r amcanion, bydd angen cyflwyno cyfuniad o fesurau ar draws llawer o sectorau.

Mae’r rhaglenni cryno o fesurau i’w cael yn y ddogfen hon, sy’n crynhoi’r rhaglenni mesurau yn y cynllun rheoli basn afon yn Lloegr, a’r ddogfen hon, sy’n delio â’r rhan sy’n berthnasol i Gymru o Gynllun Rheoli Basn Afon Hafren.

6.1 Cydlynu gweithredoedd â chanlyniadau eraill

Mae camau i leihau perygl llifogydd yn cael eu trafod yn y Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd. Fodd bynnag, trwy ddefnyddio dull cydweithredol sy’n seiliedig ar le, bydd mesurau a ddatblygwyd yn bennaf i gyflawni canlyniadau gwahanol (er enghraifft, gallu uwch i wrthsefyll llifogydd) yn sicrhau manteision lluosog, gan gynnwys helpu i gyflawni amcanion amgylcheddol y cynllun hwn.

Er enghraifft, mae Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren yn edrych i fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar ddalgylchoedd o ymdrin â pherygl llifogydd yn nalgylch afon Hafren trwy hyrwyddo atebion ar sail natur a gwelliannau amgylcheddol i gyd-fynd ag ymyriadau rheoli perygl llifogydd mwy ffurfiol.

Rhagwelir y bydd y ffocws cychwynnol yn nalgylch uchaf afon Hafren, yng Nghymru a Lloegr, gan ddefnyddio atebion ar sail natur, newid rheoli defnydd tir, ac ystod o ymyriadau i storio dŵr llifogydd a lleihau llif yn afon Hafren. Gallai dull o’r fath liniaru’r pwysau ar asedau presennol, lleihau gofynion ymateb brys, a darparu gwydnwch ychwanegol o ran adnoddau dŵr yn y dyfodol.

6.2 Mesurau yn yr ardal drawsffiniol

Mae gan lawer o’r dyfroedd sydd ar y ffin neu’n agos ati resymau cyffredin dros beidio â chyflawni eu hamcanion amgylchedd dŵr. Mae cydweithio yn darparu gwell cyfleoedd i gael mynediad at gyllid i gefnogi prosiectau arloesol i warchod a gwella’r amgylchedd dŵr.

Mae’r adrannau a ganlyn yn amlygu meysydd lle mae Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydweithio â phartneriaid i reoli rhai o’r prif heriau yn ardaloedd trawsffiniol Ardal Basn Afon Hafren.

6.2.1 Newidiadau i lefelau a llif dŵr

Ar draws y dalgylchoedd trawsffiniol, mae Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydweithio i reoli lefelau a llif dŵr. Mae hyn yn cynnwys gweithio ar grwpiau sychder, unrhyw orchymyn sychder posibl ar gyfer afon Hafren, ac ymgynghoriadau ar drwyddedau tynnu dŵr. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydweithio i drwyddedu tyniadau dŵr wyneb a dŵr daear newydd, a’r rhai a oedd wedi’u heithrio o’r blaen, gan sicrhau bod y galw am ddŵr yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol.

Mae Mae Water Resources West (WRW) yn un o bum grŵp cynllunio adnoddau dŵr rhanbarthol a sefydlwyd yn Lloegr. Mae’n grŵp o dynwyr dŵr a’u rheoleiddwyr. Mae’r aelodau craidd, sef United Utilities, South Staffs Water, Severn Trent Water, Hafren Dyfrdwy a Dŵr Cymru, yn cael cymorth ymgynghorol gan Asiantaeth yr Amgylchedd, Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’n gweithio gydag amrediad o randdeiliaid i sicrhau bod digon o ddŵr ar gael i fodloni gofynion pobl a’r amgylchedd, ac wrth i ni addasu i’r newid yn yr hinsawdd.

6.2.2 Rhywogaethau estron goresgynnol

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd, Sefydliad Gwy ac Wysg, a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i ddileu rhywogaethau estron goresgynnol yn afon Gwy. Hyd yma, maent wedi bod yn llwyddiannus iawn ond mae angen iddynt barhau i gael gwared ar y planhigion goresgynnol yn rheolaidd ac yn barhaus. Mae angen ymestyn y gwaith hefyd i ddalgylchoedd trawsffiniol eraill, er enghraifft afon Mynwy.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn bwriadu datblygu protocolau ar y cyd sy’n lleihau’r risg o drosglwyddo rhywogaethau estron goresgynnol yn ddamweiniol yn ystod gwaith ar afonydd trawsffiniol, er enghraifft wrth ailstocio llysywod.

6.2.3 Addasiadau ffisegol

Mae Datgloi Afon Hafren yn brosiect i wella’r llwybr i wangod i fyny afon Hafren ac afon Tefeidiad trwy ddileu rhwystrau i fudo pysgod. Ar gyfer afon Hafren, bydd angen gweithredu lle mae afon Efyrnwy ac afon Hafren yn cydlifo ar y ffin â Chymru.

Mae camau hefyd yn cael eu cymryd yn nalgylch trawsffiniol afon Llugwy i ddileu neu ostwng rhwystrau a gosod llwybrau pysgod. Mae’r gwaith hwn yn helpu pysgod mudol (fel eogiaid) ac mae wedi’i ymestyn i afon Arwy.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi’n datblygu Rhaglen Adfer Afonydd integredig i ddod â gwaith cysylltiedig o bob rhan o Gymru ynghyd. Y nod yw defnyddio dull sy’n seiliedig ar natur i adfer cynefin afon nodweddiadol er lles hydromorffoleg, ansawdd dŵr, bioamrywiaeth, pysgodfeydd a rheoleiddio llifogydd. Gall ffocws y gwaith gael ei ddiffinio fel ailsefydlu prosesau ffisegol naturiol (e.e. amrywiad llif a symudiadau gwaddod), nodweddion (e.e. maint y gwaddodion a siâp yr afon) a chynefinoedd ffisegol system afon (gan gynnwys ardaloedd tanddwr, glannau a gorlifdir).

Mae’r Rhaglen Adfer Afonydd yn cynnwys sawl maes, gan gynnwys blaenoriaethu’r cyrff dŵr a fydd yn destun gwaith adfer, llunio cyfres o gynlluniau adfer afonydd strategol ar gyfer afonydd â blaenoriaeth, gan gynnwys afonydd mewn ACAau yn nalgychoedd afon Gwy ac afon Wysg, casglu data gweithgarwch, a datblygu astudiaethau achos o arferion gorau.

6.2.4 Llygredd o amaethyddiaeth ac ardaloedd gwledig

Mae gan Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru berthynas agos, gan sicrhau cysondeb a chydweithio ar draws y ffin. Mae’r ddau sefydliad yn gwella’r ffordd y maent yn cydweithio’n barhaus i gynyddu effeithiolrwydd. Gyda’i gilydd, a chydag amrywiaeth o randdeiliaid a phartneriaid, maent yn mynd i’r afael â materion sy’n gysylltiedig â sut mae tir a da byw yn cael eu rheoli ac yn arfer eu pwerau rheoli llygredd i fynd i’r afael â llygredd gwasgaredig.

Er enghraifft, mae Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i fynd i’r afael â materion ansawdd dŵr ar afon Gwy, gan gynnwys:

  • Tudalen we newydd sydd wedi’i lansio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned leol am ddadansoddiadau ansawdd dŵr a chynlluniau i wella ansawdd dŵr, lleihau gormodedd o faethynnau, a helpu i wella amgylcheddau yn nalgylchoedd afon Gwy ac afon Llugwy

  • Cynyddu ymweliadau fferm a darparu cyngor sy’n canolbwyntio ar feysydd lle y gall gael yr effaith fwyaf, megis busnesau nad oeddent yn cydymffurfio o’r blaen. Mae hyn yn cynnwys cynnal ymchwiliad manwl i reolaeth tail dofednod ar draws y dalgylch a gwell monitro mewn lleoliadau risg uchel, a sefydlu rhaglen fonitro gwyddoniaeth dinasyddion i helpu i nodi a blaenoriaethu lle gellir targedu mesurau i leihau llygredd orau

  • Gwneud argymhellion ar gyfer anghenion data a dadansoddi pellach, ac ar gyfer targedu camau rheoleiddiol ac mewn partneriaeth. Y nod cyffredinol yw cyfrannu at gyd-ddealltwriaeth a pherchnogaeth barhaus ymhlith rhanddeiliaid o’r wybodaeth, y materion a’r camau gweithredu sydd eu hangen

Mae gwaith pellach ar y gweill i fynd i’r afael â llygredd ffosffad o drin dŵr gwastraff yn afon Gwy trwy bartneriaethau dalgylch. Bydd y Bwrdd Rheoli Maethynnau, Dŵr Cymru a’r Tasglu Gorlifoedd Stormydd yn ceisio gwneud gwelliannau pellach.

Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 wedi’u cyflwyno yng Nghymru i leihau colledion llygryddion o amaethyddiaeth i’r amgylchedd drwy osod rheolau ar gyfer rhai arferion ffermio. Mae’r rheoliadau hefyd yn gosod safonau ar gyfer gwneud silwair a storio elifiant silwair ac ar gyfer systemau storio slyri. Maent yn sefydlu gofynion arfer da ar gyfer rheoli maethynnau o fewn un set o reoliadau.

6.2.5 Llygredd o ddŵr gwastraff y diwydiant dŵr

Mae modelu ansawdd dŵr wedi’i wneud ar gyfer y cyfnod nesaf o fuddsoddiadau gan y cwmnïau dŵr, sef Severn Trent Water a Dŵr Cymru, gyda mewnbwn gan Asiantaeth yr Amgylchedd a Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae gwaith pellach yn cael ei wneud i gwblhau cynlluniau er mwyn gwneud y mwyaf o fuddion o fewn dalgylchoedd a gwella ymhellach ollyngiadau o weithfeydd trin carthion a gorlifiadau carthffosydd cyfun.

Yng Nghymru, mae CNC, Llywodraeth Cymru, Ofwat, Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy (y sefydliadau partner) wedi sefydlu tasglu i ymchwilio i’r dull cyfredol o reoli a rheoleiddio gorlifoedd o ganlyniad i stormydd yng Nghymru a’i werthuso. Mae Afonydd Cymru a’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn darparu cyngor annibynnol i’r tasglu, gan gynnig mewnwelediadau allweddol a her o safbwynt rhanddeiliaid a chwsmeriaid.

7. Crynodeb o’r amcanion

Yn rhan Lloegr o Ardal Basn Afon Hafren, mae gan fwyafrif y cyrff dŵr amcan o statws ecolegol da. Disgwylir i’r camau gweithredu a gynllunnir ar gyfer y cyfnod o 2021 gyflawni statws ecolegol da erbyn 2027 mewn tri o’r cyrff dŵr nad ydynt ar hyn o bryd â statws ecolegol da. Ar gyfer y cyrff dŵr sy’n weddill, isel yw’r hyder y byddant yn cyflawni eu hamcan erbyn 2027. Ceir rhagor o wybodaeth am yr amcanion hyn ar yr archwiliwr data dalgylch.

O’r 284 o gyrff dŵr yn rhan Cymru o Ardal Basn Afon Hafren, mae 98 eisoes â statws da. Bydd 21 o gyrff dŵr yn gwella erbyn 2033 neu 2039 o ganlyniad i’r mesurau sydd eisoes ar waith neu fesurau a gynlluniwyd ar gyfer y cylch nesaf. Mae gan 137 o gyrff dŵr ychwanegol amcan o statws da (hyder is) erbyn 2027.

Byddai cyflawni’r amcanion hyn hefyd yn diogelu ansawdd ffynonellau dŵr yfed mewn ardaloedd gwarchodedig dŵr yfed ac yn cyflawni amcanion gwella ar gyfer dyfroedd ymdrochi, a’r cyrff dŵr y mae ardaloedd gwarchodedig ar gyfer cadwraeth bywyd gwyllt o bwysigrwydd rhyngwladol yn dibynnu arnynt. Ceir rhagor o wybodaeth am yr amcanion ar gyfer ardaloedd gwarchodedig yn Lloegr yn y tablau crynodeb ar gyfer cynefinoedd a safleoedd mewn ardaloedd gwarchodedig ac ar gyfer ardaloedd gwarchodedig yng Nghymru yn y rhan sy’n delio â Chymru yn nogfen Cynllun Rheoli Basn Afon Hafren.

8. Cynnydd ers diweddariad 2016

Gellir cael gwybodaeth am y cynnydd a wnaed ers y diweddariad diwethaf i’r cynllun yn yr adroddiad cynnydd ar gyfer cynllunio basnau afon ar gyfer dyfroedd yn Lloegr a’r rhan sy’n delio â Chymru yn nogfen Cynllun Rheoli Basn Afon Hafren ar gyfer dyfroedd yng Nghymru.