Papur polisi

Adolygiad o’r Bôn i’r Brig o’r System Parôl

Mae’r Adolygiad hwn yn nodi cynigion y llywodraeth ar gyfer dyfodol y System Parôl yng Nghymru a Lloegr.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Adolygiad o’r Bôn i’r Brig o’r System Parôl

Manylion

Mae’r Adolygiad o’r Bôn i’r Brig o’r System Parôl yn amlinellu cynlluniau’r llywodraeth i ddiwygio’r system parôl, gan gyflawni ymrwymiad maniffesto a wnaed yn 2019. Mae’r adolygiad yn cefnogi addewid y llywodraeth i amddiffyn y cyhoedd drwy gadw troseddwyr peryglus oddi ar y strydoedd, yn ogystal â’r ymrwymiad i roi llais i ddioddefwyr yn y system cyfiawnder troseddol.

Mae’r adolygiad yn dangos yr angen am welliannau i’r broses parôl, yn enwedig wrth wneud penderfyniadau rhyddhau ar gyfer y troseddwyr risg uchaf. Mae’r adolygiad yn cynnig nifer o newidiadau arfaethedig i’r system parôl yn ogystal ag argymhellion i wella gwaith yn y dyfodol.

Dyma rai o’r gwelliannau allweddol:

  • gwneud y Prawf Rhyddhau Statudol yn gliriach
  • creu carfan haen uchaf o droseddwyr sydd wedi cyflawni’r troseddau mwyaf difrifol er mwyn rhoi mwy o ragofalon ar waith wrth wneud penderfyniadau rhyddhau, gan gynnwys goruchwyliaeth newydd gan weinidogion
  • mwy o drosolwg gweinidogol wrth symud carcharorion i amodau agored
  • cynyddu nifer aelodau’r Bwrdd Parôl sydd â phrofiad o orfodi’r gyfraith
  • rhoi mwy o lais i ddefnyddwyr mewn gwrandawiadau parôl, gan gyflawni’r ymrwymiad maniffesto a wnaed yn 2019

Nod y diwygiadau hyn yw amddiffyn y cyhoedd, cynyddu ymgysylltiad â dioddefwyr, ac atgyfnerthu hyder y cyhoedd yn y system parôl.

Cyhoeddwyd ar 30 March 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 April 2022 + show all updates
  1. Added translation.

  2. First published.