Skip to main content
Canllawiau

Rhoi gwybod am ddigwyddiad diogelwch bwyd

Diweddarwyd 7 Gorffennaf 2026

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Wrth ddweud ‘digwyddiad bwyd’, rydym yn golygu bod pryderon am fygythiadau go iawn, neu amheuon am fygythiadau, i ddiogelwch bwyd neu fwyd anifeiliaid a allai alw am ymyriadau i ddiogelu buddiannau defnyddwyr.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau roi gwybod i’w hawdurdod lleol/awdurdod iechyd porthladd ac i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) os oes lle i gredu nad yw bwyd neu fwyd anifeiliaid yn cydymffurfio â’r gofynion diogelwch, a dylent dynnu neu alw’r fath gynhyrchion yn ôl ar unwaith.

Rhoi gwybod am ddigwyddiad yng Nghymru, Gogledd Iwerddon neu Loegr

Rydym wedi cael gwared ar y Ffurflen Adrodd am Ddigwyddiadau ac wedi ei disodli â phroses symlach lle gellir adrodd am ddigwyddiadau dros e-bost. O 17 Tachwedd 2025 ymlaen, gofynnir i chi anfon e-bost at y tîm perthnasol sy’n delio â’ch digwyddiad:

a chynnwys yr wybodaeth allweddol hon:

  1. Enw’r busnes dan sylw a’i gyfeiriad post llawn.
  2. Disgrifiad byr o’r ymchwiliad hyd yma, gan ddarparu o leiaf fanylion y cynnyrch, y meintiau yr effeithir arnynt, ac unrhyw beryglon a nodwyd. Os yw’r wybodaeth hon ar gael, dylech gynnwys manylion dosbarthu ac olrheiniadwyedd ac unrhyw ffotograffau perthnasol.
  3. Rhowch grynodeb o’r camau a gymerwyd ac, os yw ar gael, ganlyniad unrhyw waith dadansoddi gwraidd y broblem a gynhaliwyd.
  4. Manylion unrhyw gyngor penodol sydd ei angen arnoch gan yr ASB.
  5. Cadarnhad o’r manylion cyswllt ‘allan o’r swyddfa’ perthnasol.

Os cewch chi e-bost o’n cyfeiriad e-bost newydd, ymatebwch i’r e-bost hwnnw gan y bydd yn cysylltu’n uniongyrchol â’r digwyddiad hwnnw.

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am yr hyn i’w gynnwys yn eich neges, mae mwy o wybodaeth i’w chael yn y  Canllawiau i awdurdodau lleol a gweithredwyr busnesau bwyd sy’n rhoi gwybod am ddigwyddiad i’r ASB yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr

Canllawiau i ALlau a Gweithredwyr Busnesau Bwyd sy’n rhoi gwybod i’r ASB am ddigwyddiad (Dogfen Word)

Rhoi gwybod am ddigwyddiad yn yr Alban

Os ydych chi yn yr Alban, neu os yw’r digwyddiad yn ymwneud â busnes yn yr Alban, gofynnir i chi roi gwybod am y digwyddiad i Safonau Bwyd yr Alban.