Rhoi gwybod am broblem gyda sgôr hylendid bwyd fel defnyddiwr
Diweddarwyd 7 Gorffennaf 2026
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Ni allwch chi ddod o hyd i sgôr hylendid busnes bwyd ar y wefan
Os na allwch chi ddod o hyd i’r sgôr hylendid bwyd ar gyfer busnes y mae gennych ddiddordeb ynddo, rhowch gynnig ar y canlynol:
- gwirio a ydych chi wedi sillafu’r enw yn gywir
- chwilio yn ôl enw arall y busnes, os yw’r busnes yn hysbys o dan enw gwahanol
- hepgor unrhyw atalnodau yn y cyfeiriad neu ychwanegu enw’r stryd, y dref neu’r cod post
- chwilio gan ddefnyddio rhan gyntaf y cod post yn unig – mae hyn oherwydd taw dim ond gwybodaeth gyfyngedig sy’n cael ei chyhoeddi ar gyfer busnesau sydd wedi’u cofrestru gan ddefnyddio cyfeiriad preifat
Os na allwch chi ddod o hyd i unrhyw wybodaeth o hyd, ewch ati i gysylltu â’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am arolygu’r busnes hwnnw.
Mae sgôr ar-lein yn wahanol i sticer sgôr hylendid bwyd
Mae’n bosibl bod rheswm teilwng pam mae sgôr hylendid bwyd ar-lein yn wahanol i sgôr sy’n cael ei harddangos dros dro ar safle busnes, fel:
- mae’r busnes wedi apelio yn erbyn ei sgôr ddiweddaraf ac yn aros am y canlyniad
- mae’r awdurdod lleol wrthi’n uwchlwytho’r sgôr newydd i’n gwefan
Hyd yn oed os yw’r busnes yn cael y sgôr uchaf, mae’n bosib y bydd ychydig o oedi tra bod yr awdurdod lleol yn diweddaru’r wefan. Mae awdurdodau lleol yn uwchlwytho sgoriau bob 28 diwrnod ar y lleiaf.
Mae busnes yn arddangos sgôr uwch yn fwriadol
Os ydych chi’n poeni bod busnes yn arddangos sgôr uwch na’r sgôr ar y wefan yn fwriadol i awgrymu bod ganddo safonau hylendid uwch nag sydd ganddo mewn gwirionedd, dylech chi gysylltu â’r awdurdod lleol.
Gallwch chi ddod o hyd i fanylion yr awdurdod lleol drwy chwilio am y busnes gan ddefnyddio’r adnodd chwilio am sgôr hylendid bwyd.