Canllawiau

Cywiro'r Gofrestr Arwystlon: Rhan 2 (Arwystlon wedi'u creu ar 6 Ebrill 2013 neu’n ddiweddarach)

Cyhoeddwyd 24 February 2016

1. Diwygio’r Cofrestr ar arwystlon a grëwyd ar 6 Ebrill 2013 neu’n ddiweddarach

1.1 Gwneud cais i’r llys i gywiro gwybodaeth am arwystlon a grëwyd ar 6 Ebrill 2013 neu’n ddiweddarach

Mae darpariaethau adrannau 873/888 (cywiro’r Gofrestr Arwystlon) o Ran 25 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (“y Ddeddf”) yn dal i fod yn berthnasol i arwystlon a grëwyd cyn 6 Ebrill 2013.

Mae darpariaethau adran 859M (Cywiro’r Gofrestr) o’r Ddeddf yn berthnasol i wybodaeth sydd wedi’i chynnwys mewn datganiad neu hysbysiad a gyflwynwyd i’r Cofrestrydd Cwmnïau yn unol â darpariaethau Pennod A1 o Ran 25 o’r Ddeddf mewn perthynas ag arwystlon a grëwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2013. Mae’r canlynol yn enghreifftiau o geisiadau cywiro yr ydym yn disgwyl eu cael, sydd wedi’u seilio ar ein profiadau o dan y drefn arwystlon cyn 6 Ebrill 2013.

Enghraifft 1 – Camddatgan un o fanylion arwystl a gyflwynwyd a dan adran 859A

Ar ôl cofrestru arwystl, mae Cyflwynydd yn sylweddoli bod un o’r manylion a gyflwynwyd ar y Datganiad Manylion (ffurflen MR01), fel y nodir o dan adran 859D yn anghywir (e.e. bod y disgrifiad byr o’r wybodaeth a gyflwynwyd yn unol ag A859(2)(d) yn anghywir). Nid yw’r pŵer gan y Cofrestrydd i gywiro’r fath wallau, felly mae gan y Cyflwynydd opsiwn i wneud cais i’r llys i ofyn am orchymyn i’r camddatganiad gael ei gywiro yn unol ag adran 859M.

Enghraifft 2 – Hepgor un o fanylion arwystl a gyflwynwyd a dan adran 859A

Ar ôl cofrestru, mae Cyflwynydd yn sylweddoli nad yw wedi ticio’r blwch ar y Datganiad Manylion (ffurflen MR01) a gyflwynwyd o dan adran 859A, i gadarnhau bod arwystl ansefydlog wedi’i gynnwys yn yr offeryn. Nid yw’r pŵer gan y Cofrestrydd i gywiro’r hepgoriad hwn, felly mae gan y Cyflwynydd opsiwn i wneud cais i’r llys am orchymyn i’r hepgoriad gael ei gywiro yn unol ag adran 859M.

Enghraifft 3 - Camddatgan cofnod bodloni a rhyddhau a gyflwynwyd yn unol ag adran 859L

Ar ôl cofrestru, mae Cyflwynydd yn sylweddoli bod datganiad bodloni (ffurflen MR04) a ffeiliwyd mewn perthynas ag arwystl a gyflwynwyd o dan adran 859L yn anghywir. Mae’r datganiad a ffeiliwyd yn cadarnhau bod y ddyled y rhoddwyd yr arwystl drosti wedi cael ei bodloni’n llawn, pan nad yw ond wedi cael ei bodloni’n rhannol. Nid yw’r pŵer gan y Cofrestrydd i gywiro’r gwall, felly mae gan y Cyflwynydd opsiwn i wneud cais i’r llys i ofyn am orchymyn i’r camddatganiad gael ei gywiro yn unol ag adran 859M.

1.2 Cais i’r Llys

Mae darpariaethau adran 859M yn caniatáu gwneud cais i’r llys, naill ai gan y cwmni sy’n creu’r arwystl, neu gan berson sydd â buddiant ynddo. Ein barn ni yw y dylai’r Cofrestrydd Cwmnïau gael ei gyplysu fel diffynnydd â’r hawliad fel bod ganddo gyfle i ystyried y cais a chyflwyno sylwadau arno cyn y gwrandawiad.
Ar ôl i’r llys wneud Gorchymyn i gywiro, dylid anfon copi wedi’i selio at y Cofrestrydd. Bydd y Cofrestrydd yn cywiro’r gwall fel sy’n ofynnol gan y Gorchymyn ac yna bydd yn gosod y Gorchymyn yng nghofnod y cwmni fel y bydd chwilwyr yn gallu ei ddarllen a deall effaith y cywiriad. Adran 859N Mae pŵer hefyd o dan a859N i wneud cais i’r llys i ddileu offeryn neu ddyledeb a gyflwynwyd i’r Cofrestrydd o dan Bennod A1 a gosod un newydd yn ei le/lle.

2. Gwybodaeth gefndir a deddfwriaeth

Gellir cael rhagor o wybodaeth am gofrestru arwystlon yn Adran 25 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Ddeddf Cwmnïau 2006 (Diwygio Adran 25) 2013.