Canllawiau

Canllaw Costau Ardrethu 2023

Dyma wythfed rhifyn Canllaw Costau Ardrethu (y Canllaw) Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Dogfennau

Canllaw Costau Ardrethu Asiantaeth y Swyddfa Brisio 2023 Nodyn Arweiniad

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Rating Cost Guide 2023

Manylion

Canllaw Costau Ardrethu 2023

Dyma wythfed rhifyn Canllaw Costau Ardrethu (y Canllaw) Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Defnyddir y Canllaw Costau Ardrethu ar gyfer prisiadau a baratowyd ar sail y contractwr. Mae canllaw 2023 yn darparu lefelau costau o ddyddiad prisio 1 Ebrill 2021.

Nodyn: canslwyd rhifyn y cyfeirir ato fel RCG 2021, sef y seithfed argraffiad. Ni fwriedir ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall, megis paratoi prisiadau ar gyfer asedion neu asesiadau cost adfer (at ddibenion yswiriant).

Er bod pob ymdrech wedi’i wneud i sicrhau bod yr wybodaeth a roddir yn y canllaw’n gywir, ni all y VOA dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw fath o golled sy’n deillio o’i ddefnyddio (gan unrhyw berson).

Mae’r Nodiadau Arweiniad yn esbonio ar ba sail y lluniwyd yr wybodaeth gan gynnwys addasiadau yn seiliedig ar arferion gorau a data cydnabyddedig a gyhoeddwyd gan y diwydiant.

Argymhellir darllen y Nodiadau Arweiniad yn llawn cyn cynnal prisiad sy’n seiliedig ar gost.

Costau a ddeilliwyd

Mae’r costau sydd yn y Canllaw yn adlewyrchu’r safon nodweddiadol y fanyleb a ddisgrifir ar gyfer pob eitem.

Mewn achosion lle mae manyleb yr eitem yn wahanol i’r hyn sydd yn y Canllaw, gellir deillio ffigur Cost Amnewid Amcangyfrifedig priodol (ERC) naill ai drwy allblygu / rhyngosod neu drwy addasu’r gost ar gyfer yr eitem yn seiliedig ar eitemau o adeiladwaith tebyg y gellir eu canfod mewn mannau eraill yn y Canllaw.

Mae’r holl gostau wedi’u cynhyrchu i ffurfio lefelau o gostau ‘newydd’ at ddibenion ardrethu ar y Dyddiad Prisio Rhagflaenol (AVD), sef 1 Ebrill 2021. Bwriedir eu defnyddio wrth asesu Costau Amnewid (ERC) yr hereditament yng Ngham Un sail o sail brisio’r contractwr.

Gellir costio ERC eitemau offer a pheiriannau drwy gyfuno costau gwirioneddol ‘newydd’ y gweithgynhyrchwyr ac wedi hynny eu haddasu i AVD 1 Ebrill 2021.

Mae costau adeiladau ac eitemau sifil wedi’u cronni o amrywiaeth o eiddo gwirioneddol a llyfrau prisiau a gydnabyddir gan y diwydiant.

Mae costau ‘begwn’ wedi’u sefydlu lle bo hynny’n bosibl, gan ddefnyddio’r costau gwirioneddol sy’n berthnasol i’r hereditament begwn neu ran ohono.

Ceir disgrifiad manylach ar sut i ddefnyddio addasiadau cost ac ystyriaethau eraill yng nghorff y Nodyn Arweiniad hwn a’r atodiadau y ceir ynddo.

Cynhwysiant lluniau

Lle bo’n bosibl, mae gan bob cofnod yn y Canllaw gynrychiolydd ffotograff o’r eitem sy’n cael ei disgrifio ac y mae cost yn cael ei ddarparu ar ei gyfer. Lle nad oes gennym lun perthnasol, neu os nad ydym wedi gallu dod o hyd i un, mae ‘No Photograph Available’ wedi’i nodi.

Mae’r holl ffotograffau sydd wedi’u cynnwys yng Nghanllaw ar ddibenion adnabod yn unig ac yn enghraifft ‘nodweddiadol’ o eitem o fewn yr ystod dan ystyriaeth.

Cafodd y ffotograffau eu tynnu mewn amgylchedd gwaith ac nid ydynt yn cynrychioli unig weithgynhyrchwyr yr eitem.

Yn gyffredinol, mae ffotograffau o adeiladau yn ‘nodweddiadol’ o’r math o adeilad sy’n cael ei gynrychioli, tra bo lluniau o adeiladau ‘begwn’ yn cynnwys yr eitem wirioneddol sy’n cael ei chostio. Bydd y manylion yn cael eu disgrifio yng nghorff y cofnod hwnnw yn y canllaw costau.

Telerau ac Amodau

Telerau ac amodau deunydd trydydd parti

Mae’r data a geir yn y ffactorau lleoliad a / neu fynegeion cysylltiedig yn seiliedig ar wybodaeth a ddarperir gan Wasanaeth Gwybodaeth Cost Adeiladu (BCIS) y Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ac yn adlewyrchu hynny ar drothwy’r dyddiad prisio 1 Ebrill 2021.

Wrth ddefnyddio’r Canllaw, mae’r defnyddiwr yn deall, yn derbyn ac yn cytuno i gael ei rwymo gan y termau cyfreithiol rhwymol canlynol sy’n ymwneud â deunydd trydydd parti sy’n cael ei gynnwys yn y Canllaw (mynegeion BCIS a ffactorau lleoliad):

• Mae’r mynegeion BCIS a’r ffactorau lleoliad a gynhwysir fel rhan o’r Canllaw yn cael eu defnyddio gan y VOA dan drwydded gan y Trwyddedwr (BCIS/RICS).

• Mae is-drwyddedu’r mynegeion BCIS a ffactorau o ran lleoliad (fel rhan o’r Canllaw neu fel arall) i unrhyw berson arall wedi’i wahardd.

• Darperir mynegeion a ffactorau lleoliad BCIS ar sail ‘fel y mae’ ac ni fydd y Trwyddedwr (BCIS/RICS) yn atebol am unrhyw ddefnydd o fynegeion a ffactorau lleoliad BCIS, ac nid yw’r Trwyddedwr (BCIS/RICS) na’r Trwyddedai (VOA) yn gwarantu y bydd data’n hollol rydd o ddiffygion neu y bydd eu gweithredoedd yn hollol ddi-wall.

• Mae’r data’n rhannol seiliedig ar ddyfarniadau’r farchnad ac mae’r Trwyddedai (VOA) yn cadw’r hawl i ddarparu manylion y Defnyddiwr i’r Trwyddedwr (BCIS/RICS)

Hawlfraint trydydd parti

Mae’r data a ddarperir gan BCIS yn eiddo i BCIS/RICS yn unig ac ni ddylid eu is-drwyddedu na’u hatgynhyrchu heb eu caniatâd. Dylai unrhyw berson sy’n dymuno atgynhyrchu unrhyw un o’r tablau a geir yma, mewn unrhyw fformat, ofyn am ganiatâd gan y RICS yn uniongyrchol drwy gysylltu â licensing@rics.org.

Hawlfraint y Goron

Gallwch ddefnyddio ac ail-ddefnyddio gwybodaeth sy’n cael sylw yn y Canllaw (heb gynnwys logos neu ddeunydd trydydd parti) yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored. Dylid e-bostio unrhyw ymholiadau ynglŷn â defnyddio ac ailddefnyddio deunydd hawlfraint y Goron at yr Archifau Cenedlaethol yn psi@nationalarchives.gsi.gov.uk.

Trwy lwytho/darllen/defnyddio’r Canllaw mae’r defnyddiwr yn cydnabod, yn derbyn ac yn cytuno i gael eu rhwymo gan delerau ac amodau defnyddio.

Cyhoeddwyd ar 1 April 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 December 2023 + show all updates
  1. We have updated some data within the Rating Cost Guide 2023.

  2. We have added the Welsh translations

  3. The guidance note has been updated to include point 9.4

  4. First published.