Canllawiau

Rhyddhau adroddiadau ymwelwyr: Nodyn ymarfer y Gwarcheidwad Cyhoeddus

Canllaw o ran pwy yw ymwelwyr y Llys Gwarchod a phryd gellir rhyddhau eu hadroddiadau.

Dogfennau

Manylion

Mae ymwelwyr y Llys Gwarchod yn adrodd yn annibynnol i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r Llys Gwarchod. Maent yn cynorthwyo’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i:

  • oruchwylio dirprwyon
  • ymchwilio i bryderon am weithredoedd dirprwy neu atwrnai

Yn ddibynnol ar yr amgylchiadau, gellir rhyddhau adroddiad:

  • i unigolion y mae ymwelydd wedi’u cyfweld wrth baratoi adroddiad (yn ôl disgresiwn y Gwarcheidwad Cyhoeddus)
  • i unigolion neu sefydliadau sydd wedi’u cynnwys mewn cais i’r llys gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus
  • i’r heddlu neu awdurdod lleol sy’n rhan o ymchwiliad
  • ar ôl cael cais am wybodaeth bersonol dan y Ddeddf Diogelu Data (a elwir yn gais gwrthrych am wybodaeth)
  • gyda chaniatâd y llys, os oedd wedi gorchymyn yr adroddiad
Cyhoeddwyd ar 17 July 2017