Canllawiau

Nodyn arfer y Gwarcheidwad Cyhoeddus: Hysbysiad am farwolaeth

Diweddarwyd 17 January 2023

Applies to England and Wales

Crynodeb

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gyfrifol am gynnal cofrestrau o atwrneiaethau arhosol, atwrneiaethau parhaus, gorchmynion sy’n penodi dirprwyon, a gorchmynion sy’n penodi gwarcheidwaid. Mae’r nodyn ymarfer hwn yn amlinellu’r gofynion ar gyfer rhoi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am farwolaethau sy’n effeithio ar y cofrestrau.

Pryd i hysbysu’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am farwolaeth

Dylid hysbysu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am farwolaeth:

  • rhoddwr atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus gofrestredig

  • atwrnai sy’n gweithredu dan atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus gofrestredig

  • atwrnai wrth gefn

  • dirprwy wedi’i benodi gan y Llys Gwarchod

  • rhywun y mae’r Llys Gwarchod wedi penodi dirprwy ar ei gyfer (P)

  • gwarcheidwad a benodwyd gan yr Uchel Lys

  • rhywun y mae’r Uchel Lys wedi penodi gwarcheidwad ar ei gyfer (yr unigolyn coll)

Proses a ddilynir gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus pan adroddir am farwolaeth dros e-bost, ffôn neu lythyr

Gellir rhoi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am farwolaeth dros e-bost, dros y ffôn neu drwy lythyr.

Os bydd rhywun sy’n rhan o atwrneiaeth arhosol (LPA) neu atwrneiaeth barhaus (EPA) yn marw, gofynnir i’r sawl sy’n rhoi gwybod am y farwolaeth anfon yr atwrneiaeth arhosol neu’r atwrneiaeth barhaus wreiddiol at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Os bydd rhywun sy’n rhan o ddirprwyaeth yn marw, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dweud wrth y person perthnasol beth i’w wneud yn ôl yr achos unigol.

Yn dilyn hysbysiad, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn defnyddio’r system Dilysu Digwyddiadau Bywyd i gadarnhau’r farwolaeth. Mae system Dilysu Digwyddiadau Bywyd yn adalw data yn uniongyrchol gan Swyddfa’r Cofrestrydd Cyffredinol, felly nid oes angen prawf ychwanegol o farwolaeth oni ofynnir am hynny drwy lythyr neu e-bost (gweler Prawf o farwolaeth).

Os bydd marwolaeth yn arwain at ganslo atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwaredu’r ddogfen wreiddiol yn gyfrinachol unwaith y bydd prawf o farwolaeth wedi’i gadarnhau. Os yw cynrychiolydd personol am gael yr atwrneiaeth arhosol neu’r atwrneiaeth barhaus yn ôl, rhaid gwneud cais mewn llythyr eglurhaol wrth anfon y dogfennau at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Marwolaeth rhoddwr atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus gofrestredig

Mae’n rhaid i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ganslo atwrneiaeth barhaus neu atwrneiaeth arhosol os yw’n fodlon bod y pŵer wedi cael ei ddiddymu o ganlyniad i farwolaeth rhoddwr. [footnote 1]

Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwirio’r farwolaeth drwy system Dilysu Digwyddiadau Bywyd, felly nid oes angen prawf ychwanegol o farwolaeth oni ofynnir am hynny drwy lythyr neu e-bost (gweler Prawf o farwolaeth).

Dylid dychwelyd y ddogfen atwrneiaeth barhaus neu atwrneiaeth arhosol wreiddiol, ynghyd ag unrhyw gopïau ardystiedig neu gopïau swyddfa, i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i’w chanslo.

Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn mynd ati wedyn i hysbysu’r atwrnai/atwrneiod drwy lythyr pan fydd yr atwrneiaeth arhosol neu’r atwrneiaeth barhaus wedi’i chanslo, a bydd yn gwaredu’r ddogfen yn gyfrinachol.

Marwolaeth atwrnai sy’n gweithredu o dan atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus gofrestredig

Os mai’r atwrnai oedd yr unig atwrnai, mae ei farwolaeth yn canslo’r atwrneiaeth barhaus neu’r atwrneiaeth arhosol [footnote 2]. Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwirio’r farwolaeth drwy system Dilysu Digwyddiadau Bywyd (gweler Prawf o farwolaeth). Dylid dychwelyd yr atwrneiaeth barhaus neu’r atwrneiaeth arhosol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhoi gwybod i’r rhoddwr (atwrneiaeth arhosol yn unig) drwy lythyr pan fydd wedi cael ei chanslo. Yna, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwaredu’r ddogfen yn gyfrinachol.

Os cafodd yr atwrnai ei benodi i weithredu ar y cyd (hynny yw, gallai ond gweithredu gyda’i gilydd gydag atwrnai arall/atwrneiod eraill, mae ei farwolaeth yn canslo’r atwrneiaeth barhaus neu’r atwrneiaeth arhosol. Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwirio’r farwolaeth drwy system Dilysu Digwyddiadau Bywyd (gweler Prawf o farwolaeth). Dylid dychwelyd yr atwrneiaeth barhaus neu’r atwrneiaeth arhosol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhoi gwybod i’r rhoddwr a phob atwrnai arall (atwrneiaeth arhosol yn unig) drwy lythyr pan fydd wedi cael ei chanslo. Yna, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwaredu’r ddogfen yn gyfrinachol.

Os cafodd yr atwrnai ymadawedig ei benodi ar y cyd ac yn unigol gydag atwrnai arall neu atwrneiod eraill (hynny yw, gallent weithredu’n annibynnol neu ar y cyd â’r atwrnai arall/atwrneiod eraill), yna bydd yr atwrneiaeth arhosol yn dal yn ddilys. Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwirio’r farwolaeth drwy system Dilysu Digwyddiadau Bywyd. Rhaid dychwelyd yr atwrneiaeth barhaus neu’r atwrneiaeth arhosol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a fydd yn stampio’r ddogfen i gadarnhau bod yr atwrnai wedi marw. Yna, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dychwelyd yr atwrneiaeth barhaus neu’r atwrneiaeth arhosol.

Os oedd yr atwrnai ymadawedig yn gweithredu o dan atwrneiaeth arhosol ac wedi’i benodi ar y cyd ar gyfer rhai penderfyniadau, ac ar y cyd ac yn unigol ar gyfer penderfyniadau eraill gydag atwrnai arall neu atwrneiod eraill (hynny yw, gallent weithredu’n annibynnol neu ar y cyd ag atwrneiod eraill, ond yn gorfod gwneud rhai penderfyniadau gyda’i gilydd), yna bydd yr atwrneiaeth arhosol yn dal yn ddilys. Fodd bynnag, ni fydd y prif atwrneiod eraill yn gallu gweithredu ar y penderfyniadau sydd i’w gwneud ar y cyd (gyda’i gilydd). Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwirio’r farwolaeth drwy system Dilysu Digwyddiadau Bywyd. Rhaid dychwelyd yr atwrneiaeth barhaus neu’r atwrneiaeth arhosol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a fydd yn stampio’r ddogfen i gadarnhau bod yr atwrnai wedi marw. Yna, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dychwelyd yr atwrneiaeth arhosol.

Ym mhob un o’r senarios uchod, tybir nad oes atwrnai(atwrneiod) wrth gefn wedi cael eu penodi.

Marwolaeth atwrnai wrth gefn

Rhaid rhoi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am farwolaeth atwrnai wrth gefn, hyd yn oed os nad yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi diwygio’r atwrneiaeth arhosol i ganiatáu iddo ddechrau gweithredu ar ran y rhoddwr.

Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwirio’r farwolaeth drwy system Dilysu Digwyddiadau Bywyd (gweler Prawf o farwolaeth), ac mae’n rhaid dychwelyd yr atwrneiaeth arhosol iddynt. Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cadarnhau a yw’r atwrneiaeth arhosol yn dal yn ddilys i’w defnyddio ac os yw, bydd yn stampio ac yn dychwelyd y ddogfen. Os nad yw’n ddilys mwyach, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn canslo’r atwrneiaeth arhosol ac yn ei gwaredu’n gyfrinachol.

Marwolaeth dirprwy wedi’i benodi gan y Llys Gwarchod

Rhaid i’r ysgutor, y cynrychiolydd personol, neu aelod o deulu’r dirprwy hysbysu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus bod y dirprwy a benodwyd gan y Llys Gwarchod wedi marw. Wedyn, gellir diweddaru’r gofrestr dirprwyon.

Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwirio’r farwolaeth drwy system Dilysu Digwyddiadau Bywyd, felly nid oes angen prawf ychwanegol o farwolaeth oni ofynnir am hynny drwy lythyr neu e-bost (gweler Prawf o farwolaeth).

Bydd angen i gynrychiolydd personol neu ysgutor yr ymadawedig hysbysu’r Llys Gwarchod bod y dirprwy wedi marw. Bydd hyn yn helpu i gau unrhyw geisiadau llys sy’n mynd rhagddynt. Efallai y bydd y Llys yn penderfynu bod angen rhywun arall yn ei le. Mewn achosion lle’r oedd dirprwyon wedi’u penodi ar y cyd neu ar eu pen eu hunain, bydd y ddirprwyaeth yn dod i ben. Os yw’r dirprwyon wedi cael eu penodi ar y cyd ac yn unigol, gall y dirprwy sy’n goroesi barhau i weithredu.

Fel arfer, bydd dyletswydd statudol y Gwarcheidwad Cyhoeddus i oruchwylio yn dod i ben pan fydd y dirprwy’n marw, oherwydd bod y Llys Gwarchod yn dod â’r gorchymyn dirprwyaeth i ben. Bydd hyn yn digwydd:

  • oni bai fod y dirprwy wedi’i benodi ar y cyd ac yn unigol

  • hyd nes y bydd y Llys yn penodi dirprwy newydd

  • os penderfynir nad oes angen dirprwy mwyach.

Os na fydd gan P (rhywun y mae’r Llys wedi penodi dirprwy ar ei gyfer) ddirprwy, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwneud atgyfeiriad i’r awdurdod lleol i roi gwybod bod P mewn perygl ac nad oes ganddo ddirprwy i’w gefnogi mwyach.

Marwolaeth P (rhywun y mae’r Llys wedi penodi dirprwy ar ei gyfer)

Rhaid rhoi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am farwolaeth P er mwyn diweddaru’r gofrestr dirprwyon. Bydd y farwolaeth yn dod â’r ddirprwyaeth i ben er y gall y Gwarcheidwad Cyhoeddus ofyn am adroddiad terfynol gan y dirprwy. Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwirio’r farwolaeth drwy system Dilysu Digwyddiadau Bywyd, felly nid oes angen prawf ychwanegol o farwolaeth oni ofynnir am hynny drwy lythyr neu e-bost (gweler Prawf o farwolaeth).

Os oes unrhyw geisiadau llys yn mynd rhagddynt, bydd angen i’r dirprwy roi gwybod i’r Llys Gwarchod am y farwolaeth. [footnote 3]

Marwolaeth gwarcheidwad a benodwyd gan yr Uchel Lys

Diddymir gorchymyn gwarcheidiaeth pan fydd y gwarcheidwad yn marw [footnote 4], oni bai fod y gorchymyn yn penodi mwy nag un gwarcheidwad, ac nad oedd y gwarcheidwaid wedi cael eu penodi i weithredu ar y cyd. [footnote 5]

Rhaid i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gael gwybod am farwolaeth gwarcheidwad gan yr ysgutor, y cynrychiolydd personol, neu aelod o deulu’r gwarcheidwad. Wedyn, gall y Gwarcheidwad Cyhoeddus ddiweddaru’r gorchmynion gwarcheidiaeth.

Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwirio’r farwolaeth drwy system Dilysu Digwyddiadau Bywyd, felly nid oes angen prawf ychwanegol o farwolaeth oni ofynnir am hynny drwy lythyr neu e-bost (gweler Prawf o farwolaeth).

Lle na fydd y gorchymyn yn cael ei ddirymu ar farwolaeth gwarcheidwad (hynny yw, mae gwarcheidwad arall a benodwyd dan y gorchymyn yn dal yn fyw ac nad yw wedi’i benodi i weithredu ar y cyd â’r gwarcheidwad ymadawedig), rhaid i’r gwarcheidwad sy’n parhau wneud cais i’r Uchel Lys am amrywio neu ddiddymu’r gorchymyn cyn gynted ag y bo modd ar ôl dod yn ymwybodol o’r farwolaeth.

Os na fydd gan yr unigolyn coll (rhywun y mae’r Uchel Lys wedi penodi gwarcheidwad ar ei gyfer) warcheidwad o gwbl, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwneud atgyfeiriad i’r asiantaeth neu’r corff perthnasol i dynnu sylw at hyn.

Marwolaeth rhywun y mae’r Uchel Lys wedi penodi gwarcheidwad ar ei gyfer (yr unigolyn coll)

Bydd gorchymyn gwarcheidiaeth yn cael ei ddiddymu pan fydd yr unigolyn coll yn marw. [footnote 6]

Rhaid i’r gwarcheidwad, ysgutor, cynrychiolydd personol, neu aelod o’r teulu hysbysu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus bod yr unigolyn coll wedi marw fel bod modd diweddaru cofrestr gorchmynion gwarcheidiaeth y Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gwirio’r farwolaeth drwy system Dilysu Digwyddiadau Bywyd, felly nid oes angen prawf ychwanegol o farwolaeth oni ofynnir am hynny drwy lythyr neu e-bost (gweler Prawf o farwolaeth).

Datganiad o farwolaeth ragdybiedig (perthnasol i orchmynion gwarcheidiaeth yn unig)

Rhaid i’r gwarcheidwad, ysgutor, cynrychiolydd personol, neu aelod o’r teulu hysbysu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus pan fydd datganiad o farwolaeth ragdybiedig [footnote 7] wedi’i wneud fel bod modd diweddaru cofrestr gorchmynion gwarcheidiaeth y Gwarcheidwad Cyhoeddus. Dylid gwneud yr hysbysiad hwn cyn gynted ag y bo modd.

Bydd y datganiad hwn o farwolaeth ragdybiedig yr unigolyn coll (rhywun y mae’r Uchel Lys wedi penodi gwarcheidwad ar ei gyfer) yn dod â’r gorchymyn gwarcheidiaeth i ben.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gofyn am gopi o’r datganiad o farwolaeth ragdybiedig er mwyn cau’r achos.

Prawf o farwolaeth

Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dilysu unrhyw hysbysiadau am farwolaeth drwy system Dilysu Digwyddiadau Bywyd (“LEV”).

Nid oes angen prawf o farwolaeth oni ofynnir am hynny drwy lythyr neu e-bost.

Os yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi gofyn am brawf marwolaeth, dylai’r sawl sy’n gohebu ddarparu cyfeirnod achos Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, enw llawn, dyddiad geni a chyfeiriad diwethaf y sawl a fu farw, ynghyd ag unrhyw un o’r canlynol:

  • Tystysgrif a roddwyd gan y cofrestrydd cyffredinol, cofrestrydd arolygol neu gofrestrydd genedigaethau a marwolaethau

  • Cofnod o gwest

  • Dilysiad electronig gan y Swyddfa Cofnodion Cyffredinol neu Asiantaeth Gwirio Credyd

Mae cadarnhad ysgrifenedig ar bapur pennawd neu e-bost o gyfrif busnes gan unrhyw un o’r canlynol hefyd yn dderbyniol:

  • Cyfreithiwr, bargyfreithiwr neu adfocad a awdurdodwyd i ymarfer yn y wlad lle gwneir y datganiad

  • Gweithredwr cyfreithiol sy’n aelod o Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol

  • Awdur ewyllysiau sy’n aelod o naill ai Gymdeithas Awduron Ewyllysiau, Sefydliad yr Awduron Ewyllysiau Proffesiynol, neu Gymdeithas Awduron Ewyllysiau Ewrop

  • Notari cyhoeddus neu unrhyw unigolyn a ganiateir i weinyddu llwon yn y wlad lle gwneir y datganiad

  • Ynad

  • Swyddog conswl, llysgenhadaeth neu swyddog o’r Uchel Gomisiwn os bu farw’r person dramor

  • Yr hyn sy’n cyfateb i dystysgrif a roddwyd dramor gan yr awdurdod cofrestru priodol os bu farw’r person dramor

Os cyflwynir dogfen sy’n gyfreithiol rwymol (er enghraifft tystysgrif farwolaeth), rhaid derbyn y gwreiddiol neu gopi ardystiedig gan y cofrestrydd. Nid yw llungopïau na delweddau wedi’u sganio yn dderbyniol.

Yr unig eithriad i’r uchod yw lle ceir rhagdybiaeth o farwolaeth. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gofyn am gopi o’r gorchymyn o farwolaeth ragdybiedig fel tystiolaeth er mwyn cau’r achos.

  1. Rheoliad 22 Rheoliadau Atwrneiaeth Arhosol, Atwrneiaeth Barhaus a Gwarcheidwad Cyhoeddus 2007 

  2. Deddf Galluedd Meddyliol atodlen 4 Rhan 5 paragraff 17 

  3. Cyfarwyddyd Ymarfer 24B a7 

  4. Adran 14 o Ddeddf Gwarcheidiaeth (Unigolion Coll) 2017 

  5. Paragraff 4 Atodlen Deddf Gwarcheidiaeth (Unigolion Coll) 2017 

  6. Adran 14 o Ddeddf Gwarcheidiaeth (Unigolion Coll) 2017 

  7. Adran 2 o Ddeddf Rhagdybiaeth o Farwolaeth 2013