Amserlen dyluniad
Diweddarwyd 1 Ebrill 2026
1. Cyn i chi wneud cais
Dylech chi:
- gynnal chwiliad o’r cofrestrau dyluniadau i wirio a oes unrhyw un arall wedi cofrestru eich dyluniad
- gallwch ofyn i’r Swyddfa Eiddo Deallusol chwilio am ddyluniadau cofrestredig yn y DU i chi. Mae hyn yn costio £30
2. Paratowch eich cais
I wneud eich cais bydd angen i chi baratoi darluniau sy’n dangos y dyluniad.Gallwch gynnwys hyd at 12 darlun, a rhaid i chi fodloni’r rheolau ar gyfer darluniau.
3. Anfonwch eich cais
Rhaid i chi gael darluniau o’ch dyluniad cyn y gallwch wneud cais i gofrestru dyluniad.
Mae’r ffioedd rydych chi’n eu talu yn ymwneud â nifer y dyluniadau rydych chi’n eu cofrestru, nid nifer y darluniau rydych chi’n eu cynnwys.
| Nifer y darluniau | Ffi ar-lein |
|---|---|
| Un | £60 |
| Hyd at 10 | £85 |
| Hyd at 20 | £110 |
| Hyd at 30 | £135 |
| Hyd at 40 | £160 |
| Hyd at 50 | £185 |
4. Ar ôl i chi wneud cais
Bydd yr IPO yn:
- archwilio eich cais (o fewn pythefnos)
- rhoi gwybod i chi os oes unrhyw broblemau a dweud wrthych chi beth allwch chi ei wneud. Bydd gennych o leiaf 2 fis i ddatrys unrhyw broblemau.
Os nad oes unrhyw broblemau neu os byddwch yn llwyddo i’w datrys, bydd eich dyluniad yn cael ei gofrestru.
5. Pan fydd eich dyluniad wedi’i gofrestru
Bydd yr IPO yn:
- cyhoeddi eich dyluniad yn y cyfnodolyn o ddyluniadau cofrestredig
- anfon tystysgrif atoch i gadarnhau bod eich dyluniad wedi’i gofrestru Gallwch wedyn:
- dangos eich rhif cofrestru ar eich dyluniad
- trwyddedu, gwerthu neu forgeisio eich dyluniad
Rhaid i chi adnewyddu eich cofrestru dyluniad bob 5 mlynedd i’w gadw’n ddiogel, am hyd at 25 mlynedd yn gyfan gwbl.