Skip to main content
Canllawiau

Hysbysiad Preifatrwydd – Data Adnoddau Dynol staff

Cyhoeddwyd 25 Mehefin 2026

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd ‘Rheolydd’ y data personol a ddarperir i ni.

Pwrpas a sail gyfreithiol dros brosesu

Mae angen i ni gasglu’r wybodaeth hon er mwyn creu a chynnal eich cofnod cyflogaeth. 

Rydym ni’n gwneud hyn i gyflawni’r contract cyflogaeth rhyngom ni. Ni fyddwn ni’n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad oes ei angen arnom. 

Mae darparu’r wybodaeth hon i ni yn ofyniad cytundebol, a gallai methu â darparu’r wybodaeth arwain atom ni yn peidio â rhoi contract cyflogaeth i chi, peidio â’ch talu’n gywir neu beidio â gweinyddu’ch hyfforddiant a’ch datblygiad. 

Pan fyddwn ni’n prosesu eich data categori arbennig – fel data sy’n ymwneud â’ch aelodaeth o undeb llafur, data am iechyd ac absenoldeb salwch, a data a gesglir at ddibenion cyfleoedd cyfartal – rydym ni’n gwneud hynny i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfraith cyflogaeth ac i’ch galluogi i ymarfer eich hawliau cyflogaeth, i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol ac am resymau o fudd sylweddol i’r cyhoedd, ac yn unol â’n Polisïau Diogelu Data ac Adnoddau Dynol.

Gall pob un o’n systemau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) gael eu harchwilio a’u monitro, er nad ydym yn gwneud hynny’n rheolaidd heblaw at ddibenion diogelwch. Rydym wedi ymrwymo i barchu disgwyliadau rhesymol defnyddwyr unigol o ran preifatrwydd wrth ddefnyddio ein hoffer a’n systemau TGCh. Fodd bynnag, rydym yn cadw’r hawl i gofnodi a monitro defnydd o’r fath yn unol â’n Polisi Defnydd Derbyniol. Bydd unrhyw fonitro sy’n targedu staff penodol yn digwydd yng nghyd-destun ein gweithdrefnau disgyblu.

Sut a ble rydym yn storio eich data, a chyda phwy y gallwn ei rannu

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen er mwyn i ni allu cyflawni’r swyddogaethau hyn rydym ni’n cadw gwybodaeth bersonol, a hynny yn unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y cedwir yr wybodaeth hon fel a ganlyn:

  • cofnodion absenoldeb salwch hyd at 100 oed 
  • cofnod cryno o gamau disgyblu – chwe blynedd wedi darfyddiad cyflogaeth, oni bai ei fod yn arwain at newid i dâl neu delerau ac amodau, yna cedwir hynny hyd at 100 oed
  • cofnod cyflogres a phensiynau hyd at 100 oed
  • cofnodion hyfforddi a datblygu tan 5 mlynedd ar ôl y cyfnod ariannol neu’r cyfnod adrodd

Ni fydd gan drydydd partïon fynediad at eich data personol, oni bai bod y gyfraith yn caniatáu hynny. Yn unol â’r ymrwymiad hwn, gellir trosglwyddo’ch gwybodaeth i adrannau eraill o fewn yr ASB lle mae hyn yn angenrheidiol mewn cysylltiad â gweinyddu a datblygu staff.

Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei drosglwyddo i sefydliadau neu adrannau eraill o’r llywodraeth pan fo hyn yn angenrheidiol i weinyddu’ch contract cyflogaeth gyda ni – gan gynnwys Cyllid a Thollau EF, y Weinyddiaeth Cyfiawnder, SSCL, Pensiynau’r Gwasanaeth Sifil, Partneriaeth Pensiynau Lleol ac ati, a’r Prudential a sefydliadau eraill sy’n derbyn didyniadau gwirfoddol o’r gyflogres, fel elusennau, undebau llafur ac ati. Efallai y bydd eich enw a’ch manylion cyswllt hefyd yn cael eu rhoi i ddarparwyr hyfforddiant allanol. 

Rydym hefyd yn cynnig mynediad at Wasanaeth Cyfryngu’r Gwasanaeth Sifil (CSMS) ar gyfer datrys anghydfodau yn y gweithle. Mae’n wirfoddol, ac felly dim ond gyda’ch caniatâd y caiff data ei brosesu. Bydd manylion llawn am sut mae’r gwasanaeth yn gweithio yn cael eu rhoi i chi pan fyddwch yn cytuno i’w ddefnyddio, ac maent hefyd ar gael ar y fewnrwyd. Mae gennym gytundebau gyda’r CSMS i sicrhau bod mesurau diogelu contractiol, technegol a sefydliadol angenrheidiol ar waith i ddiogelu eich data. Caiff y gwasanaeth ei weithredu’n annibynnol ar yr ASB. Caiff unrhyw wybodaeth bersonol a ddarparwch, neu wybodaeth rydych chi’n cytuno i ni ei darparu i CSMS, ei phrosesu yn unol â hysbysiad preifatrwydd Gwasanaeth Cyfryngu’r Gwasanaeth Sifil.

Mae rhagor o wybodaeth gyffredinol ar gael ynghylch sut a ble rydym ni’n storio’ch data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Trosglwyddiadau rhyngwladol

I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, gweler yr adran ‘Trosglwyddiadau Rhyngwladol’ yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)

I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i adran ‘Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)’ ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Eich hawliau

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler yr adran ‘Eich hawliau’ yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau ar ein defnydd o’r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch, gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod.

Cysylltiadau tîm

Tîm Rheoli Gwybodaeth

information.governance@food.gov.uk