Skip to main content
Canllawiau

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer manylion cyswllt rhanddeiliaid

Cyhoeddwyd 25 Mehefin 2026

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd ‘Rheolydd’ y data personol a ddarperir i ni.

1. Pwrpas a sail gyfreithiol dros brosesu

Mae’r wybodaeth bersonol yr ydym ni’n ei chadw amdanoch chi yn cynnwys eich enw ac unrhyw fanylion cyswllt perthnasol.

Mae angen i ni gasglu’r wybodaeth hon er mwyn cysylltu â chi mewn perthynas ag ymgynghoriadau’r ASB, dylunio polisi a/neu ddigwyddiadau sy’n berthnasol i chi.

Gwnawn hyn yn unol â’n dyletswydd gyhoeddus ac er budd y cyhoedd.

2. Sut a ble rydym ni’n storio’ch data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu

Dim ond cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â’n polisi cadw. 

Efallai y byddwn yn rhannu eich manylion gyda chontractwyr trydydd parti a allai gysylltu â chi ar ein rhan. Y trydydd partïon hyn yw ein proseswyr a dim ond o dan ein cyfarwyddyd caeth y maent yn gweithredu.
 
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r adran Sut a ble rydym ni’n storio’ch data a gyda phwy y gallwn ei rannu yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

3. Trosglwyddiadau rhyngwladol 

I gael rhagor o wybodaeth am Drosglwyddiadau Rhyngwladol, gweler yr adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

4. Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)

I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i adran dinasyddion yr UE ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

5. Eich hawliau

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau, ewch i’r adran Eich hawliau yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

6. Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol, neu unrhyw gwestiynau am ein defnydd o’r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch, gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod.

7. Cysylltiadau Tîm

7.1 [Tîm Rheoli Gwybodaeth]

informationmanagement@food.gov.uk