Skip to main content
Canllawiau

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer adborth Cofrestru Busnesau Bwyd gan weithredwyr busnesau bwyd

Cyhoeddwyd 27 Ionawr 2021

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd ‘Rheolydd’ y data personol sy’n cael ei roi i ni.

Pwrpas a sail gyfreithiol ar gyfer prosesu

Mae angen i ni gasglu’r wybodaeth adborth hon i wella ein gwasanaeth cofrestru busnesau bwyd digidol. Rydym ni hefyd yn defnyddio adborth i adolygu a gwella’r cyngor a’r canllawiau cofrestru busnesau bwyd a roddir i fusnesau.

Rydym yn gwneud hyn drwy gynnal ein swyddogaethau swyddogol ac yn unol â’r awdurdod swyddogol a roddwyd i ni o dan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 i ddiogelu iechyd y cyhoedd rhag risgiau a allai godi mewn cysylltiad â bwyta bwyd. Ni fyddwn yn casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad oes ei angen arnom ni.

I gael mwy o wybodaeth, darllenwch yr adran Pam mae angen eich gwybodaeth bersonol arnom yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Beth sydd ei angen arnom a sut rydym yn ei ddefnyddio

Rydym yn casglu eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn a’ch cyfeiriad e-bost. Mae angen yr wybodaeth hon i’n galluogi i gysylltu â chi i gael adborth.

Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth am natur eich busnes, eich ymwybyddiaeth o’r angen i gofrestru, a’ch rhesymau dros gofrestru. Rydym yn gwneud hyn i’n helpu i wella cyngor busnes ac i wneud y broses gofrestru mor effeithlon â phosib.

Efallai y byddwn hefyd yn gofyn cwestiynau i chi ac yn cadw gwybodaeth sy’n ymwneud â’ch profiad o gofrestru fel y gallwn wella’r gwasanaeth Cofrestru Busnesau Bwyd digidol. 

Sut a ble rydym yn storio’ch data, a chyda phwy y gallwn ei rannu 

Dim ond cyhyd ag y bo’n angenrheidiol i gyflawni’r dibenion hyn y byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth bersonol, a hynny’n unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y cedwir yr wybodaeth hon cyhyd â bod busnes wedi’i gofrestru a/neu ei gymeradwyo fel gweithredwr busnes bwyd. Cedwir rhestrau hanesyddol o fusnesau cofrestredig a/neu rai wedi’u cymeradwyo am 10 blynedd.

I gael gwybodaeth fwy cyffredinol, ewch i’r adran Sut a ble rydym yn storio’ch data, a chyda phwy y gallwn ei rannu yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Trosglwyddiadau Rhyngwladol 

I gael mwy o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, ewch i’r adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE

I gael mwy o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i’r adran Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Eich hawliau  

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau, ewch i’r adran Eich hawliau yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.  

Cysylltu â ni 

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol, neu unrhyw gwestiynau ar ein defnydd o’r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod.

information.governance@food.gov.uk