Skip to main content
Canllawiau

Hysbysiad preifatrwydd: penodiadau i bwyllgorau cynghori, y Cyngor Gwyddoniaeth ac is-grwpiau cysylltiedig yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Cyhoeddwyd 19 Tachwedd 2020

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd fydd ‘Rheolydd’ y data personol a gaiff ei roi i ni.

Pam mae angen y data hwn arnom ni?

Mae angen i ni gasglu’r wybodaeth hon at ddiben recriwtio aelodau newydd i’n pwyllgorau cynghori, y Cyngor Gwyddoniaeth ac is-grwpiau cysylltiedig eraill, ac wrth eu cynnal eu o ddydd i ddydd.  

Gallai hyn gynnwys eich:

  • enw
  • manylion cyswllt
  • hanes cyflogaeth
  • cymwysterau
  • Curriculum Vitae (CV)
  • asesiadau sifftio a chyfweliadau
  • datganiadau o fuddiannau
  • gweithgarwch gwleidyddol
  • gwybodaeth gefndirol arall sy’n berthnasol i’ch cais, gan gynnwys gwybodaeth a gasglodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd gennych chi, neu a wnaed yn gyhoeddus gennych chi, fel rhan o’n gwiriadau cyn penodi

Ein sail gyfreithiol ar gyfer derbyn a defnyddio’r wybodaeth hon yw bod gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd rwymedigaeth gyfreithiol, a thasg gyhoeddus, i gasglu’r data hwn er mwyn sicrhau bod ymgeiswyr o ansawdd uchel yn cael eu canfod drwy brosesau recriwtio cadarn.

Rydym hefyd yn prosesu eich data ar y sail gyfreithiol ei bod yn angenrheidiol cyn ymrwymo i gontract neu gytuno ar delerau penodi gyda chi. Efallai y byddwn yn prosesu data categori arbennig, fel y’i diffinnir gan GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018 y DU, a ddaw i’r amlwg fel rhan o’r broses hon neu os bydd o ddiddordeb cyhoeddus sylweddol er mwyn cyflawni ein swyddogaethau.

Byddwn hefyd yn gofyn i chi ystyried darparu data amrywiaeth i ni. Mae hyn yn cynnwys casglu data categori arbennig gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i rywedd, ethnigrwydd ac anabledd. Mae llenwi’r ffurflen monitro amrywiaeth yn ddewisol, ac mae croeso i chi ddewis yr opsiwn “Mae’n well gen i beidio â dweud” ar gyfer unrhyw un o’r cwestiynau.

Fel gyda’r holl wybodaeth a roddwch yn y ffurflen, bydd unrhyw wybodaeth a roddwch yn cael ei thrin yn hollol gyfrinachol. Bydd ar wahân i’ch cais ac ni chaiff ei defnyddio yn y broses ddethol.  Ni fydd unrhyw wybodaeth yn cael ei chyhoeddi na’i defnyddio mewn unrhyw ffordd a fydd yn caniatáu i unrhyw unigolyn gael ei adnabod.

Rydym yn ceisio casglu’r wybodaeth hon lle bo’n angenrheidiol i nodi, neu barhau i adolygu, bodolaeth neu absenoldeb cyfle cyfartal neu driniaeth gyfartal rhwng grwpiau o bobl, gyda’r nod o hyrwyddo neu gynnal y fath gydraddoldeb. Nid yw’n broses a gynhelir at ddiben gwneud mesurau neu benderfyniadau mewn perthynas â’ch cais.

P’un a ydych yn llwyddiannus yn eich cais ai peidio, fel arbenigwr yn eich maes, hoffem eich cefnogaeth ar sail ad hoc wrth asesu cynigion prosiect a gwerthuso adroddiadau terfynol.

Byddwn yn gofyn i chi fel rhan o’r broses recriwtio a ydych yn cydsynio i ni gadw eich manylion ar ein Cofrestr o Arbenigwyr at y diben hwn ac yn unol â’n hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Cofrestr o Arbenigwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Sut a ble rydym yn storio eich data, a chyda phwy y gallwn ei rannu

Am fwy o wybodaeth, gweler ein siarter gwybodaeth bersonol.

Efallai y byddwn yn rhannu data eich cais ag ymgynghorwyr allanol sy’n ein cynorthwyo wrth recriwtio aelodau, a, phan fyddwn yn gwneud hynny, byddwn yn sicrhau bod y mesurau diogelu angenrheidiol ar waith ar gyfer eich gwybodaeth yn unol â GDPR y DU. 

Dim ond cyhyd ag y bo’n angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol, a hynny’n unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y cedwir yr wybodaeth hon am:

  • 18 mis os ydych wedi gwneud cais i ddod yn aelod o’n pwyllgorau cynghori, ein Cyngor Gwyddoniaeth neu is-grwpiau cysylltiedig eraill, a’ch bod heb fod yn llwyddiannus
  • 12 mis ar ôl dyddiad gorffen eich tymor penodi diweddaraf, os cawsoch eich penodi

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol aelodau cyfetholedig yr is-grwpiau am 12 mis ar ôl i’r grŵp ddod i ben. 

Trosglwyddiadau rhyngwladol

I gael mwy o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, gweler ein siarter gwybodaeth bersonol.

Dinasyddion yr UE

I gael mwy o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, gweler ein siarter gwybodaeth bersonol.

Eich hawliau

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau, gweler ein siarter gwybodaeth bersonol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau am ein defnydd o’r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod.

information.governance@food.gov.uk