Atodiad A: Anfon a throsglwyddo llyfrau i garcharorion
Updated 15 October 2026
Applies to England and Wales
1. Archebu llyfrau drwy fanwerthwyr cymeradwy
Ers 31 Ionawr 2015, mae ffrindiau a theuluoedd carcharorion wedi cael caniatâd i archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n dod o hyd i’r llyfrau ac yn eu hanfon at garcharorion. Y manwerthwyr cymeradwy presennol yw:
- Blackwell’s
- Foyles
- Mr B’s Emporium of Reading Delights (ychwanegwyd 1 Medi 2015)
- Waterstones
- WH Smith
- Wordery (ychwanegwyd 1 Medi 2015)
Ychwanegwyd tri manwerthwr cymeradwy ychwanegol o 4 Tachwedd 2019 ymlaen:
- Housmans
- Incentive Plus
- Prisons Org UK
Os bydd carcharor yn penderfynu peidio â derbyn llyfr sydd wedi’i anfon i mewn trwy fanwerthwr cymeradwy (neu os nad yw’n cael caniatâd i’w gadw yn ei feddiant) ac yn dymuno ei ddychwelyd fel y gellir ad-dalu’r anfonwr, dylid dychwelyd y pecyn i’r person a’i archebodd. Bydd y gost yn dod o boced y carcharor.
Os nad yw’r carcharor yn dymuno talu am ddychwelyd y llyfr, dylid gofyn iddo a yw am i’r llyfr gael ei anfon allan (gyda’r gost yn dod o’i boced ei hun) neu ei gadw gyda’i eiddo wedi storio. Os yw’r llyfr yn addas, dylai carcharorion gael yr opsiwn o gynnig y llyfr i lyfrgell y carchar fel rhodd. Mae Fframwaith Polisi Eiddo Carcharorion yn nodi rhagor o wybodaeth am sut i drin eiddo a’r opsiynau sydd ar gael i Lywodraethwyr pan dderbynnir eiddo dros ben.
2. Anfon a throsglwyddo llyfrau’n uniongyrchol gan deuluoedd a ffrindiau
O 1 Medi 2015, bydd teuluoedd a ffrindiau hefyd yn cael anfon neu drosglwyddo llyfrau i garcharorion p’un a oes amgylchiadau eithriadol ai peidio. Ni chaniateir i ymwelwyr roi llyfrau’n uniongyrchol i garcharorion; bydd angen eu gadael gyda staff i’w prosesu.
3. Nifer y llyfrau a ganiateir yn y gell
O 1 Medi 2015 ymlaen, ni fydd terfyn mwyach ar nifer y llyfrau y gall carcharorion eu cael yn eu celloedd. Bydd nifer y llyfrau a ganiateir yn amodol ar y terfynau rheoli cyfaint cyffredinol ar eiddo yn unig.
4. Pwyntiau pwysig pellach
- Rhaid chwilio pob llyfr a dderbynnir cyn ei drosglwyddo i garcharorion
- Bydd carcharorion yn parhau i gael archebu llyfrau trwy’r trefniadau presennol sydd ar waith mewn carchardai
- Caniateir anfon neu roi llyfrau sain i mewn, boed drwy fanwerthwr cymeradwy neu (o 1 Medi 2015) yn uniongyrchol gan deuluoedd a ffrindiau, ar ffurf casét neu CD.
- Bydd llyfrau sain yn rhan o’r cyfyngiadau cyffredinol ar nifer y llyfrau y gellir eu cadw yn y gell. At ddibenion y rhestr gyfleusterau safonol, mae eitemau o’r fath yn cael eu categoreiddio fel llyfrau, yn hytrach na CDs neu gasetiau.
- Mae cyfyngiadau ar y llyfrau y caniateir i garcharorion gael mynediad atynt yn parhau heb eu newid.
Mae’r Llawlyfr Diogelu’r Cyhoedd yn nodi’r llyfrau na all unrhyw garcharor gael mynediad atynt a gall Llywodraethwyr ymestyn y rhestr hon os yw natur poblogaeth y carchar penodol yn ei gwneud yn ofynnol. Yn ogystal, gall Llywodraethwyr benderfynu a ddylai carcharor unigol gael llyfr penodol, gan ystyried ymddygiad troseddol y carcharor.
Mae’r trefniadau hyn yn berthnasol i lyfrau yn unig. Mae anfon a throsglwyddo eitemau eraill, gan gynnwys eitemau a allai fod ar gael gan y manwerthwyr cymeradwy, yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau a nodir yn y Fframwaith Polisi Cymhellion.