Canllawiau

Gosod prisiau: arweiniad i werthwyr ar-lein

Cyhoeddwyd 7 November 2016

Beth mae gosod prisiau yn ei gynnwys?

  • Cytuno gyda chystadleuwr pa bris y byddwch yn ei godi ar eich cwsmeriaid
  • Gall hefyd gynnwys cytundebau i beidio â gwerthu dan isafswm pris, neu yn syml, gytuno i beidio codi llai na chystadleuydd

Mae gosod prisiau yn fath o ‘cartél’ - sy’n ffurf ddifrifol o dorri cyfraith cystadleuaeth. Gall arwain at brisiau uwch a chwsmeriaid yn gorfod talu gormod

Yn Awst 2016, dirwyodd y CMA werthwr ar-lein dros £160,000 am dorri cyfraith cystadleuaeth.

Roedd y busnes wedi cymryd rhan mewn cartél gosod prisiau anghyfreithlon trwy gytuno gyda gwerthwr ar-lein oedd yn cystadlu â nhw na fyddent yn gosod prisiau is na’i gilydd am gynnyrch oedd yn cael ei werthu ar wefan Amazon UK, ac eithrio pan fyddai gwerthwr arall neu Amazon UK yn rhatach.

Defnyddiodd y gwerthwyr feddalwedd ail-brisio awtomatig er mwyn i’r cytundeb gosod prisiau weithio.

Beth mae hyn yn ei olygu i werthwyr ar-lein?

Mae cyfraith cystadleuaeth yn berthnasol i farchnadoedd ar-lein yn ogystal â gwerthiannau trwy fannau gwerthu brics a morter.

Mae cyfraith cystadleuaeth yn berthnasol i fusnesau bach yn ogystal â rhai mawr: roedd y 2 werthwr ar-lein yn yr achos hwn yn fusnesau bach, y ddau gyda throsiant blynyddol dan £16 miliwn.

Gall meddalwedd ailbrisio gael ei ddefnyddio i annog cystadleuaeth iach ymhlith gwerthwyr ar-lein, ond mae’n anghyfreithlon ei ddefnyddio yn rhan o gytundeb gosod prisiau.

Mae canlyniadau difrifol i dorri cyfraith cystadleuaeth - gallech gael dirwy o hyd at 10% o’ch trosiant. Gall unigolion sy’n ymwneud â chartelau wynebu dirwyon personol, datgymhwyso o fod yn gyfarwyddwr a hyd yn oed garchar.

Beth i’w wneud a pheidio â’i wneud

  • Peidiwch â chytuno gyda’ch cystadleuwyr na fyddwch yn codi llai na’ch gilydd, neu pa brisiau y byddwch yn gwerthu eich cynnyrch amdanynt
  • Peidiwch â thrafod eich strategaethau prisio gyda chystadleuwyr
  • Ymgyfarwyddwch eich hun â’ch staff yn y gyfraith. Mae gan y CMA amrywiaeth o ganllawiau byr a syml i’ch helpu
  • Chwiliwch am gyngor cyfreithiol annibynnol i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith

Cysylltwch â llinell cartelau’r CMA yn:

Os ydych wedi bod yn ymwneud â chartél anghyfreithlon, efallai y byddwch yn cael budd o gael eich trin yn fwy trugarog os mai chi wnaiff gamu ymlaen gyntaf i’r CMA. Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth am fanteision, cymhwyster ac amodau trugaredd.

Amragor owybodaeth argyfraith cystadleuaeth:

Nid yw’r deunyddiau hyn yn cyfateb i gyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arnynt felly.