Paratoi ar gyfer Toll Cynhyrchion Fepio a’r Cynllun Stampiau’r Doll Fepio
Dysgwch pam mae angen i chi baratoi ar gyfer 1 Ebrill 2026 os ydych chi’n cynhyrchu, mewnforio neu’n storio cynhyrchion fepio yn y DU.
Dogfennau
Manylion
Mae’r brîff hwn yn esbonio:
- o 1 Ebrill 2026 ymlaen, bydd ceisiadau am gymeradwyaeth ar gyfer Toll Cynhyrchion Fepio a stampiau’r doll fepio yn agor
- pam y dylech wneud cais cyn gynted â phosibl i wneud yn siŵr bod gennych y gymeradwyaeth angenrheidiol cyn 1 Hydref 2026
- o 1 Hydref 2026 ymlaen, mae’n rhaid i chi dalu Toll Cynhyrchion Fepio ar gynhyrchion fepio ac atodi stamp y doll fepio ar eich holl ddeunydd pacio manwerthu
- o 1 Ebrill 2027 ymlaen, mae’n rhaid i bob cynnyrch fepio sydd heb fod o dan ohiriad tollau yn y DU gael stamp y doll fepio ynghlwm
- cyfradd y doll ar gyfer cynhyrchion fepio a sut i gyfrifo faint o Doll Cynhyrchion Fepio y bydd angen i chi ei thalu
- pa gynhyrchion fepio y bydd angen i chi eu cynnwys ar gyfer Toll Cynhyrchion Fepio
- sut a phryd y bydd angen i chi ddefnyddio stampiau’r doll fepio
- storio, dal a symud cynhyrchion fepio
- ynglŷn â chadw cofnodion
- beth sy’n digwydd os na fyddwch chi’n dilyn rheolau’r Doll Cynhyrchion Fepio a’r cosbau y gallech chi eu hwynebu
Dim ond arweiniad yw’r briffiau, ac maent yn adlewyrchu safbwynt CThEF ar adeg eu hysgrifennu.