Data tryloywder

Gwybodaeth ar reoli’r euogfarnau a ddilëwyd: 24 Ebrill 2025

Diweddarwyd 24 Ebrill 2025

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth ynghylch y cynnydd a wnaed gan y Llywodraeth wrth ganfod euogfarnau a orfodwyd yng Nghymru a Lloegr a gafodd eu dileu gan Ddeddf Troseddau Swyddfa’r Post (System Horizon) 2024 ar 24 Mai 2024.

Ym mis Chwefror 2024, bu i Swyddfa’r Post a Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) wneud y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymwybodol o fodolaeth 943 o gofnodion ar gyfer unigolion posibl a allai fod wedi’u cael yn euog oherwydd system gyfrifo ddiffygiol Horizon. Mae’r rhif hwn wedi gostwng o 944 i 943 ers y cyhoeddiad diwethaf oherwydd bod cofnod dyblyg wedi’i ganfod.  O’r 943 o gofnodion hyn, ni fu i 40 cofnod gynnwys digon o ddata inni allu olrhain euogfarn y cyfryw unigolion. Mae enghreifftiau o ddata annigonol yn cynnwys lle nad yw cofnodion yn cynnwys gwybodaeth allweddol megis enw llawn neu ddyddiad geni.

Yn ogystal â’r cofnodion a gafwyd gan Swyddfa’r Post a’r CPS yn Chwefror 2024, mae 59 o unigolion wedi gwneud eu hunain yn hysbys trwy gysylltu a thîm gwaith achos euogfarnau Swyddfa’r Post y Weinyddiaeth Gyfiawnder neu drwy wefan Cynllun Gwneud Iawn am Euogfarnau Horizon.  Gan nad oes terfyn amser i unigolion wneud eu hunain yn hysbys, gall y rhif hwn barhau i gynyddu dros amser. O’r 59 o unigolion hyn, nid ydym wedi gallu olrhain cofnod o euogfarn berthnasol ar gyfer 12 o unigolion.

Rydym wedi cael 43 o achosion newydd gan y Grŵp Post Brenhinol sydd nawr angen eu hasesu. Felly, cyfanswm nifer yr achosion sydd wedi cael eu hystyried neu sydd yn y broses o gael eu hystyried yw 933.

Hyd at 17 Ebrill, rydym wedi asesu 99% o’r 993 o achosion unigol hyn, sydd wedi’u dangos isod fel a ganlyn:

Nifer yr Achosion % Wedi’u hasesu
Swyddfa’r Post/CPS ac unigolion sydd wedi gwneud eu hunain yn hysbys 950 100%
Achosion y Grŵp Post Brenhinol 43 70%
Cyfanswm 993 99%

Mae Tablau 1 a 2 isod yn cynnwys gwybodaeth am asesiadau a wnaed ynghyd â llythyrau a anfonwyd, gan na fydd pob unigolyn yn cael llythyr. Mae hyn yn cael ei esbonio’n fanylach yn y nodiadau eglurhaol islaw’r tablau.

Tabl 1: Achosion Swyddfa’r Post/CPS ac unigolion sydd wedi gwneud eu hunain yn hysbys

7 Mawrth 2025 i 17 Ebrill 2025 Cyfanswm hyd yn hyn (Gorffennaf 2024* i 17 Ebrill 2025)
Cyfanswm nifer yr unigolion yr aseswyd eu heuogfarnau (1) 0 950
Nifer yr unigolion y nodwyd eu bod ag o leiaf un euogfarn wedi’i dileu gan y Ddeddf. (2) 1 595
Nifer yr unigolion sydd wedi cael llythyr (2a) 1 566
Nifer yr unigolion a aseswyd ac yr ysgrifennwyd atynt (neu’r rhai hynny yr ysgrifennir atynt yn y man), i ofyn am ragor o wybodaeth i helpu i ganfod a yw eu heuogfarnau yng nghwmpas y Ddeddf. (3) -5 180
Nifer yr unigolion sydd wedi cael llythyr (3a) -8 150
Nifer yr unigolion a gadarnhawyd nad oes ganddynt euogfarnau wedi’u dileu gan y Ddeddf. (4) 4 175
Unigolion sydd ond ag euogfarnau am drosedd a gyflawnwyd y tu allan i’r cyfnod a bennir gan y Ddeddf ac/neu unigolion sydd ond ag euogfarnau am drosedd ar wahân i’r rhai hynny a bennir yn y Ddeddf. (4a) 2 27
Unigolion sydd ond ag euogfarnau ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym (4b) 0 0
Unigolion sydd ag euogfarnau ar wahân i’r rhai hynny a gyflwynwyd gan Swyddfa’r Post neu Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru a Lloegr (4c) 1 20
Unigolion sydd ond ag euogfarnau sydd eisoes wedi’u hystyried gan y Llys Apêl (4d) 0 19
Unigolion sydd ond ag euogfarnau sydd eisoes wedi’u dileu gan y llysoedd (4e) 0 101
Unigolion y’u cafwyd yn ddieuog am y trosedd(au) sy’n cael eu hystyried (4f) 1 8
Cyfanswm nifer yr euogfarnau a nodwyd fel rhai a gafodd eu dileu gan y Ddeddf (5) -6 2,135

*Nododd yr MoJ yr unigolion cyntaf sydd ag o leiaf un euogfarn yng nghwmpas y Ddeddf yn ystod yr wythnos yn dechrau 22 Gorffennaf.

** Gall y ffigurau yn y tabl uchod newid pan fo achos wedi’i ailasesu yn dilyn darparu gwybodaeth ychwanegol.

Daw’r ffigurau yn y datganiad hwn o system fyw a gallant fod yn wahanol i’r wybodaeth a ryddhawyd yn flaenorol. Cafodd y methodolegau cyfrif ar gyfer pob ffigur eu diweddaru yn ystod Tachwedd 2024. Gall gwahaniaethau hefyd fodoli rhwng ffigurau oherwydd gwahaniaethau yn yr amser yr echdynnwyd y data. Mae llythyrau a ddychwelwyd fel rhai na chafodd eu danfon yn cael eu tynnu o chyfansymiau 2a a 3a. Oherwydd gwiriadau ansawdd data ar gyfer y rhai hynny wnaeth adnabod eu hunain, canfuwyd bod anghysondeb yn y methodolegau cyfrif.  O ganlyniad, roedd nifer bychan o achosion lle cafodd data ei gyfrif ddwywaith, ynghyd ag unigolion yn cael eu cyfrif yn y categorïau anghywir. Rydym wedi mynd i’r afael â hyn ac wedi’i gywiro ar gyfer y cyhoeddiad hwn.

Achosion newydd y Grŵp Post Brenhinol

Mae’r Grŵp Post Brenhinol wedi hysbysu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder am grŵp ychwanegol o unigolion gydag euogfarnau y gellir bod yn gymwys i’w dileu gan y Ddeddf. Darganfuwyd yr unigolion hyn yn dilyn adolygiad o euogfarnau hanesyddol a gyflawnwyd gan Y Post Brenhinol i ganfod a allai rhai ohonynt fod wedi’u heffeithio arnynt gan y Ddeddf.  Mae 43 o unigolion o’r grŵp hwn yn cael eu hasesu ar hyn o bryd.

Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth bellach i bennu a oes unrhyw unigolion eraill sy’n hysbys i’r Grŵp Post Brenhinol sydd angen cael eu hasesu.

Mae Tabl 2 yn cynnwys gwybodaeth am asesiadau a wnaed ynghyd â llythyrau a anfonwyd ac mae hyn yn cael ei esbonio’n fanylach yn y nodiadau eglurhaol isod. Mae’r categorïau a ddefnyddiwyd yr un peth ag yn Nhabl 1.

Tabl 2: Achosion newydd gan y Grŵp Post Brenhinol

7 Mawrth 2025 i 17 Ebrill 2025 Cyfanswm hyd yn hyn (Chwefror 2025* i 17 Ebrill 2025)
Cyfanswm nifer yr unigolion yr aseswyd eu heuogfarnau (1) 30 30
Nifer yr unigolion y nodwyd eu bod ag o leiaf un euogfarn wedi’i dileu gan y Ddeddf. (2) 8 8
Nifer yr unigolion sydd wedi cael llythyr (2a)** 0 0
Nifer yr unigolion a aseswyd ac yr ysgrifennwyd atynt (neu’r rhai hynny yr ysgrifennir atynt yn y man), i ofyn am ragor o wybodaeth i helpu i ganfod a yw eu heuogfarnau yng nghwmpas y Ddeddf. (3) 22 22
Nifer yr unigolion sydd wedi cael llythyr (3a)** 0 0
Nifer yr unigolion a gadarnhawyd nad oes ganddynt euogfarnau wedi’u dileu gan y Ddeddf. (4) 0 0
Unigolion sydd ond ag euogfarnau am drosedd a gyflawnwyd y tu allan i’r cyfnod a bennir gan y Ddeddf ac/neu unigolion sydd ond ag euogfarnau am drosedd ar wahân i’r rhai hynny a bennir yn y Ddeddf. (4a) 0 0
Unigolion sydd ond ag euogfarnau ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym (4b) 0 0
Unigolion sydd ag euogfarnau ar wahân i’r rhai hynny a gyflwynwyd gan Swyddfa’r Post neu Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru a Lloegr (4c) 0 0
Unigolion sydd ond ag euogfarnau sydd eisoes wedi’u hystyried gan y Llys Apêl (4d) 0 0
Unigolion sydd ond ag euogfarnau sydd eisoes wedi’u dileu gan y llysoedd (4e) 0 0
Unigolion y’u cafwyd yn ddieuog am y trosedd(au) sy’n cael eu hystyried (4f) 0 0
Cyfanswm nifer yr euogfarnau a nodwyd fel rhai a gafodd eu dileu gan y Ddeddf (5) 19 19

*Bu i’r MoJ gael yr achosion newydd hyn gan y Post Brenhinol yn Chwefror 2025.

** Rydym yn parhau i gynnal ymarferion dilysu cyfeiriadau i’n galluogi i ysgrifennu at yr unigolion yn y categorïau hyn.

Beth mae’r data hwn yn ei olygu?

(1) Mae’r rhif hwn yn cynrychioli pob unigolyn sydd a’u heuogfarnau wedi’u hasesu.

(2) Bydd yr unigolion hynny a adnabuwyd fel bod ganddynt o leiaf un euogfarn wedi’i dileu gan y Ddeddf yn gymwys ar gyfer y Cynllun Gwneud Iawn am Euogfarnau Horizon. Os yw’r unigolyn wedi marw, gall ei gynrychiolydd personol fod yn gymwys i gyflwyno hawliad. Unwaith y byddwn wedi cadarnhau bod gan rywun euogfarn wedi’i dileu gan y Ddeddf, byddwn yn anfon llythyr atynt i’w hysbysu am hyn cyn gynted â phosibl. Gellir dod o hyd i nifer yr unigolion hyn yr ydym wedi anfon llythyrau atynt yn (2a). Mae llythyrau’n cael eu hanfon allan mewn setiau ac efallai y bydd oedi byr rhwng asesiadau’n cael eu cynnal a llythyrau’n cael eu hanfon. Ar hyn o bryd mae yna 29 o unigolion o Dabl 1 sydd ag euogfarnau wedi’u dileu na allwn ysgrifennu atynt gan nad ydym wedi gallu cadarnhau eu cyfeiriad presennol.

(3) Mae’r rhif hwn yn cyfeirio at unigolion y mae’n ymddangos bod eu heuogfarnau allan o gwmpas y Ddeddf ond efallai y byddant yn gallu darparu rhagor o wybodaeth i’n helpu i nodi a yw eu heuogfarnau o fewn cwmpas y Ddeddf. Rydym yn ysgrifennu at yr unigolion hyn i ofyn am yr wybodaeth hon. Gellir dod o hyd i nifer yr unigolion hyn y bu inni anfon llythyrau atynt yn (3a). Mae llythyrau’n cael eu hanfon allan mewn setiau ac efallai y bydd oedi byr rhwng asesiadau’n cael eu cynnal a llythyrau’n cael eu hanfon.  Ar hyn o bryd mae yna 30 o unigolion o Dabl 1 na allwn ysgrifennu atynt gan nad ydym wedi gallu cadarnhau eu cyfeiriad presennol.

(4) Mae’r rhif hwn yn cyfeirio at yr unigolion hynny nad yw eu heuogfarnau wedi cael eu dileu gan y Ddeddf yng Nghymru a Lloegr ac mae’n darparu dadansoddiad o’r rhesymau canlynol yn y categori hwn:

  • Roedd yr euogfarn am drosedd a gyflawnwyd y tu allan i’r cyfnod a bennir gan y Ddeddf neu roedd yr euogfarn am drosedd ar wahân i’r rhai hynny a bennir yn y Ddeddf. (4a)
  • Gorfodwyd yr euogfarn ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym (a oedd ar 24 Mai 2024). (4b)
  • Ni ddaethpwyd â’r erlyniad gan Swyddfa’r Post neu Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru a Lloegr. (4c*)
  • Mae’r Llys Apêl eisoes wedi ystyried yr euogfarn. (4d)
  • Mae’r llysoedd eisoes wedi dileu’r euogfarn. (4e)
  • Cofnodwyd rheithfarn ddieuog am y trosedd(au) sydd dan ystyriaeth (4f)

*Mae euogfarnau sydd wedi’u dwyn gan Y Grŵp Post Brenhinol Cyf wedi’u cynnwys o fewn diffiniad y Ddeddf o “Swyddfa’r Post”. Yn Nhabl 1, mae 14 o’r 20 o unigolion yn y categori hwn yn unigolion sydd wedi adnabod eu hunain.

Nid ydym yn ysgrifennu llythyrau at yr unigolion yn y grŵp hwn oni bai eu bod wedi dweud wrthym pwy ydynt ac wedi gofyn inni ystyried eu heuogfarnau.

(5) Efallai y bydd gan unigolion fwy nag un euogfarn sy’n dod o fewn cwmpas y Ddeddf. Felly, mae cyfanswm yr euogfarnau yn uwch na nifer yr unigolion yr aseswyd bod ganddynt o leiaf un euogfarn o fewn cwmpas y Ddeddf.

Mae unrhyw euogfarnau a roddwyd yng Ngogledd Iwerddon yn rhan o gwmpas y Ddeddf ond nid yw’r cyhoeddiad hwn yn berthnasol iddynt. Nid yw unrhyw euogfarnau a orfodwyd yn Yr Alban yn gysylltiedig â’r Ddeddf ac fe’u hystyrir fel bod o dan ddeddfwriaeth ar wahân.

Sut rydym yn adnabod pa euogfarnau sydd yng nghwmpas y ddeddf?

Mae’r Ddeddf yn gosod pum amod ochr yn ochr â meini prawf eraill.

Mae’r pum amod a ddylai gael eu bodloni er mwyn i euogfarn gael ei dileu yn cynnwys y canlynol: dyddiad y drosedd; math o drosedd; bod y cyfryw unigolyn yn gweithio mewn swyddfa bost neu’n cyflawni busnes ar ran Swyddfa’r Post ar adeg y drosedd honedig; yr honnir bod y drosedd wedi’i chyflawni mewn cysylltiad â chynnal neu weithio ar fusnes Swyddfa’r Post; a p’un a oedd system Horizon wedi’i gosod yn y gangen lle’r oedd yr unigolyn yn gweithio ar y pryd.

Mae tîm gwaith achos euogfarnau Swyddfa’r Post y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnal gwiriadau cymhleth i ganfod p’un a oes gan yr unigolion hynny sy’n hysbys inni unrhyw euogfarnau sydd o fewn cwmpas y Ddeddf. Er mwyn cyfyngu’r baich ar unigolion i ddarparu gwybodaeth eu hunain i ddangos bod eu heuogfarnau yng nghwmpas y Ddeddf, rydym yn gwirio nifer o ffynonellau data i gael gwybodaeth am ba euogfarnau sy’n bodloni meini prawf y Ddeddf. Mae hyn yn cynnwys cofnodion o Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu, Swyddfa’r Post Cyf, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF, Cyllid a Thollau EF, a’r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol. O ganlyniad i’r anghysondebau a ganfuwyd rhwng y gwahanol fathau o ffynonellau data, mae’r broses o ddod o hyd i euogfarnau a ddilëwyd yn cymryd yn hirach na’r disgwyl.

Unwaith bydd y tîm gwaith achos wedi gwirio fod pob euogfarn yn bodloni meini prawf y Ddeddf, byddant yn ysgrifennu at yr unigolion hynny i’w hysbysu am hyn. Mewn rhai amgylchiadau, efallai bydd y llythyrau hyn yn gofyn i’r unigolyn am rhagor o wybodaeth fel y gellid asesu eu heuogfarnau yn llawn. Mewn rhai achosion rydym wedi asesu euogfarn o fewn cwmpas y ddeddf ond ni allwn gysylltu â’r unigolyn oherwydd nad ydym wedi gallu cadarnhau ei gyfeiriad presennol. Hyd yn oed pan na allwn gysylltu â’r unigolyn, bydd ei gofnodion troseddol yn cael eu diwygio i adlewyrchu’r euogfarn(au) perthnasol a ddilëwyd.

Os nad ydych eisoes wedi cael llythyr ac rydych yn credu bod gennych euogfarn cymwys, rydym yn eich hannog i gofrestru yma neu gysylltu a’r tîm gwaith achos drwy e-bost yn: PostOfficeConvictions@justice.gov.uk. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei rhannu gyda’r tîm gwaith achos euogfarnau a fydd yn cadarnhau p’un a yw euogfarnau’r unigolyn eisoes yn cael eu hystyried ac – os nad oeddent eisoes yn hysbys i’r tîm – yn parhau gyda’r broses o gasglu data a chynnal asesiad.

Gellir dod o hyd i ddata ar iawndal ariannol sy’n gysylltiedig â Horizon yma.