Guidance

Rhyddid Pensiwn a budd-daliadau DWP

Published 27 March 2015

Mae pensiynau cyfraniadau diffiniedig (DC) yn cronni cronfa unigol neu ‘pot’ o gynilion pensiwn. Ers Ebrill 2015, mae gan bobl 55 oed a throsodd fwy o ryddid a dewis ynglŷn â sut i gael mynediad i’r cynilion pensiwn hyn.

Os oes gennych gynilion pensiwn cyfraniadau diffiniedig ac rydych o leiaf yn 55 oed, efallai y byddwch yn dewis:

  • prynu incwm gwarantedig (blwydd-dal)
  • trefnu ‘tynnu hyblyg’, lle gellir tynnu cyfandaliadau neu daliadau rheolaidd
  • cymryd y swm cyfan fel cyfandaliad
  • cymryd nifer o gyfandaliadau allan

Budd-daliadau yn seiliedig ar incwm

Mae rheolau ynglŷn â sut y bydd eich pensiwn, ac unrhyw arian a gewch ohono, yn cael ei thrin wrth gyfrifo’ch hawl i’r budd-daliadau yn seiliedig ar incwm canlynol:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol

Mae sut y bydd eich pot pensiwn (neu bot pensiwn eich partner) yn cael ei drin yn dibynnu a ydych chi neu’ch partner wedi cyrraedd yr oed cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn.

Gallai’r ffordd y byddwch yn defnyddio’r hyblygrwydd pensiwn newydd effeithio ar unrhyw hawl i fudd-daliadau yn y dyfodol.

Os ydych chi (neu’ch partner) o dan yr oed cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn

Os ydych chi (neu’ch partner) o dan yr oed cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn, ac nid ydych yn cymryd unrhyw arian o’ch pot pensiwn, ni chaiff ei ystyried pan fydd eich hawl i fudd-dal yn cael ei gyfrifo.

Os ydych chi neu’ch partner yn cymryd unrhyw arian o’ch pot pensiwn, caiff ei ystyried fel naill ai incwm neu gyfalaf, yn dibynnu ar, er enghraifft, pa mor rheolaidd rydych yn ei dynnu allan.

Eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) - a’ch cyngor lleol lle y bo’n briodol - os ydych chi neu’ch partner yn cymryd unrhyw arian o’ch pot pensiwn.

Os ydych chi (neu’ch partner) dros yr oed cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn

Unwaith y byddwch chi (neu’ch partner) yn cyrraedd yr oed cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn, disgwylir i chi ddefnyddio’ch pensiwn neu bensiynau i helpu i gefnogi’ch hun.

Os ydych yn penderfynu peidio â phrynu blwydd-dal ar ôl cyrraedd yr oed cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn, bydd swm o incwm ‘tybiannol’ yn cael ei gymryd i ystyriaeth pan fydd eich budd-dal yn cael ei gyfrifo. Mae incwm ‘tybiannol’ (yn yr achos hwn) yn swm sy’n cyfateb â’r incwm y byddech wedi’i dderbyn pe baech wedi prynu blwydd-dal.

Os ydych yn cymryd incwm o’ch pot pensiwn, y swm a fydd yn cael ei ystyried wrth asesu eich budd-dal fydd y swm uchaf o’r incwm gwirioneddol neu’r incwm tybiannol. Os byddwch yn cymryd cyfandaliad arian parod, ystyrir hyn fel cyfalaf.

Eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) - a’ch cyngor lleol lle y bo’n briodol - os ydych chi neu’ch partner yn cymryd unrhyw arian o’ch pot pensiwn.

Rheol amddifadedd

Os ydych yn gwario, trosglwyddo neu roi unrhyw arian y byddwch yn ei gymryd o’ch pot pensiwn, bydd DWP yn ystyried a ydych wedi amddifadu’ch hun o’r arian hwnnw’n fwriadol er mwyn sicrhau (neu gynyddu) eich hawl i fudd-daliadau.

Os penderfynir eich bod wedi amddifadu’ch hun yn fwriadol, cewch eich trin fel bod yr arian hwnnw dal gennych a bydd yn cael ei ystyried fel incwm neu gyfalaf pan fydd eich hawl i gael budd-dal yn cael ei gyfrifo.

Budd-daliadau cyfrannol

Gall incwm pensiwn dros lefel benodol effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau cyfrannol.

Ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau, ystyrir hanner eich incwm pensiwn dros £85 yr wythnos.

Ar gyfer Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau, ystyrir eich holl incwm pensiwn dros £50 yr wythnos.

Os nad ydych yn cymryd eich pensiwn, ni chaiff ei ystyried pan fydd eich hawl i gael budd-dal yn cael ei gyfrifo. Ni fydd unrhyw gyfandaliad arian parod rydych yn ei gymryd sy’n cael ei ystyried yn gyfalaf yn effeithio ar hawl i fudd-dal cyfrannol.

Mwy o gyngor

Gall staff DWP egluro’r rheolau o ran trin incwm a chyfalaf, ond ni fydd hyn yn warant o’ch hawl i fudd-daliadau - penderfynir pob achos ar ei amgylchiadau unigryw. Mae staff DWP yn defnyddio’r wybodaeth fanwl yn Canllaw’r swyddog penderfyniadau.

Mae ‘Pension Wise’ yn darparu canllawiau llywodraeth diduedd am ddim i bobl 50 oed a throsodd gyda phensiwn cyfraniadau diffiniedig, i’w helpu i ddeall eu dewisiadau.

Ewch i www.pensionwise.gov.uk i:

  • trefnu apwyntiad gyda ‘Pension Wise’ am ddim
  • gwybodaeth am sut y gallai unrhyw arian pensiwn effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau

Mae’r daflen ffeithiau hon yn rhoi gwybodaeth gyffredinol yn unig ac ni ddylid ei thrin fel datganiad cyflawn ac awdurdodol o’r gyfraith.