TWE: treuliau a buddiannau diwedd blwyddyn (P9D)
Defnyddiwch ffurflen P9D os ydych yn gyflogwr a bod angen i chi ddatgan treuliau a buddiannau diwedd blwyddyn ar gyfer cyflogeion a enillodd lai na £8,500.
Dogfennau
Manylion
Os ydych yn gyflogwr mae angen i chi gyflwyno datganiad diwedd blwyddyn i Gyllid a Thollau EM (CThEM) ar gyfer pob cyflogai y darparoch dreuliau a buddiannau ar ei gyfer. Defnyddiwch ffurflen P9D i gyflwyno’r datganiad i CThEM ar gyfer cyflogeion neu gyfarwyddwyr a enillodd lai na £8,500.
Cyn i chi ddechrau
Mae’r ffurflen hon yn rhyngweithiol (un rydych yn ei llenwi ar y sgrin) ac mae’n rhaid i chi gael Adobe Reader er mwyn ei llenwi. Mae’n rhad ac am ddim i lawrlwytho Adobe Reader. Lawrlwythwch y fersiwn diweddaraf o’r Adobe Reader.
Mae CThEM yn creu fersiynau newydd o’u ffurflenni nad ydynt yn ddibynnol ar Adobe Reader. Tra bod y gwaith hwn ar y gweill, gellir defnyddio’r dulliau canlynol er mwyn gwneud yn siŵr bod y ffurflen yn gallu cael ei lawrlwytho neu ei hagor gydag Adobe Reader:
- pa bynnag borwr rydych yn defnyddio, gallwch newid eich gosodiadau er mwyn gwneud Adobe Reader y rhaglen ragosodedig ar gyfer agor dogfennau PDF
- dylai’r rhai sy’n defnyddio Windows de-glicio ar gysylltiad y ffurflen ac yna dewis ‘Save target as’ neu ‘Save link as’
- dylai’r rhai sy’n defnyddio Mac glicio ar gysylltiad y ffurflen ac yna dewis ‘Save linked file as’
- cadw’r ffurflen - y man a gymhellir yw’r blygell dogfennau
- gallwch agor y ffurflen drwy ddefnyddio Adobe Reader
Os yw’r ffurflen yn gwrthod agor, cysylltwch â’r Desg Gymorth Gwasanaethau Ar-lein am ragor o gymorth.
Arweiniad a ffurflenni perthynol
TWE: treuliau a buddiannau diwedd blwyddyn (ffurflen ar-lein)
Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych yn gyflogwr a bod angen i chi ddatgan treuliau a buddiannau diwedd blwyddyn i CThEM. Mae’n cynnwys y ffurflenni P11D, P9D a P11D(b).
TWE: treuliau a buddiannau diwedd blwyddyn (P11D)
Defnyddiwch ffurflen P11D os ydych yn gyflogwr a bod angen i chi ddatgan treuliau a buddiannau diwedd blwyddyn ar gyfer cyflogeion a enillodd £8,500 neu fwy.
TWE: treuliau a buddiannau diwedd blwyddyn - cyfraniadau Yswiriant Gwladol (P11D(b))
Defnyddiwch ffurflen P11D(b) i ddatgan swm y cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sy’n ddyledus ar dreuliau a buddiannau y darparoch ar gyfer cyflogeion.
Treuliau a buddiannau ar gyfer cyflogwyr
Arweiniad ar gyfer cyflogwyr a ddarparodd dreuliau neu fuddiannau ar gyfer cyflogeion neu gyfarwyddwyr.