Skip to main content
Adroddiad corfforaethol

PecynUK: adroddiad blynyddol 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026

Diweddarwyd 30 Medi 2026

Rhagair – Jeremy Blake, Prif Swyddog Gweithredol, PecynUK

Roedd eleni’n flwyddyn o weithgarwch sylweddol gyda PecynUK yn torri tir newydd drwy sefydlu darpariaeth weithredol cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig (EPR) dros becynwaith y DU. Mae tîm PecynUK, sy’n cael ei gynnal ar ran y pedair gwlad, bellach yn sefydliad darparu sefydledig. Rydym wedi cyrraedd cerrig milltir allweddol ac wedi ymdrin â thrafodion yn ofalus iawn, hyd yn oed pan roedd heriau’n codi. Mae rhai o uchafbwyntiau’r cyfnod yn cynnwys taliadau grantiau llwyddiannus i awdurdodau lleol, casglu data methodoleg asesu ailgylchadwyedd (RAM) cyn cyflwyno ffioedd wedi’u heco-fodiwleiddio, datblygu’r rownd gyntaf o hysbysiadau o atebolrwydd a chasglu arian. Rwyf wedi bod yn falch iawn o weld awdurdodau lleol yn gwario cyllid yr EPR dros becynwaith ar welliannau i wasanaethau gwastraff ac ailgylchu, gan wireddu’r gweithgaredd y cafodd yr EPR dros becynwaith ei ddylunio i’w chreu, a chan sicrhau canlyniadau amgylcheddol ac economaidd cadarnhaol i bobl leol. Rydym wedi elwa o ddysgu gan ein rhwydwaith o gynghorwyr arbenigol, ac mae’n fraint cael arwain ein tîm o arbenigwyr sydd wedi ymrwymo i ddatgloi dyfodol pecynnu cylchol ar gyfer y DU.

Cyflwyniad

Fel gweinyddwr y cynllun EPR dros becynwaith mae’n rhaid i PecynUK gyhoeddi adroddiad blynyddol bob mis Medi ar gyfer gweithgareddau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben y mis Mawrth blaenorol. Blwyddyn ariannol 2025 i 2026 oedd blwyddyn lawn gyntaf y cynllun. Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu cynnydd PecynUK yn erbyn y strategaeth interim a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2025, a’i Gynllun Gweithredol ar gyfer 2025 i 2026 a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2025.

Mae PecynUK wedi datblygu strategaeth pum mlynedd, fydd yn cael ei chyhoeddi yn nes ymlaen yn 2026. Mae’r strategaeth yn nodi’r amcanion, y blaenoriaethau a’r camau gweithredu sydd eu hangen i gyflawni nodau polisi a manteision amgylcheddol yr EPR dros becynwaith hyd at 2031. Ar ôl ei chyhoeddi, bydd y strategaeth yn disodli’r strategaeth interim a bydd adroddiadau blynyddol yn y dyfodol yn gwerthuso yn erbyn ei amcanion a dangosyddion perfformiad allweddol.

Ymgynghorwyd â llywodraethau’r pedair gwlad wrth ddatblygu’r adroddiad hwn.

Cynnydd yn erbyn nodau blwyddyn 1 strategaeth interim PecynUK

Nod 1: cyflawni’r canlyniadau allweddol sy’n cael eu hamlinellu yn natganiad polisi ar y cyd y DU ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig dros becynwaith

Nododd llywodraethau’r pedair gwlad amcanion allweddol PecynUK ar gyfer y flwyddyn gyntaf mewn datganiad polisi ar y cyd ar yr EPR dros becynwaith a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2025.

Yn ystod 2025 i 2026, sefydlodd PecynUK ei strwythurau llywodraethu ac adrodd. Mae’n adrodd ar gynnydd a risgiau yn fisol i Bwyllgor Gweithredol Gweinyddwyr Cynllun y pedair gwlad, ac yn chwarterol i fwrdd llywio gweinidogion y pedair gwlad.

Cyhoeddodd PecynUK ffioedd sylfaen terfynol cynhyrchwyr ar gyfer blwyddyn 1 y cynllun ar GOV.UK ym mis Mehefin 2025, ar ôl cyhoeddi ffioedd sylfaenol enghreifftiol ym mis Rhagfyr 2024. Cyhoeddwyd ffioedd enghreifftiol ar gyfer blwyddyn 2 y cynllun hefyd ym mis Rhagfyr 2025. Cyhoeddwyd y datganiad modiwleiddio cyntaf ym mis Mehefin 2025.

Mae crynodeb o waith PecynUK mewn perthynas â rheoli gwastraff pecynwaith yn effeithlon ac yn effeithiol gan awdurdodau lleol i’w gael o dan Nod 6.

Er mwyn galluogi ymgyrchoedd gwybodaeth i’r cyhoedd, fe wnaeth PecynUK:

  • sefydlu’r Grŵp Cynghori ar Gyfathrebu a Newid Ymddygiad
  • recriwtio Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu a Rheolwr Cyfathrebu
  • penodi UK Packaging PRO, fydd yn darparu ymgyrchoedd gwybodaeth i’r cyhoedd fel swyddogaeth ddirprwyedig

Nod 2: penodi Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (PRO) i gyflawni nifer o swyddogaethau allweddol ar ei ran

Yn dilyn proses ddethol drylwyr, penododd PecynUK UK Packaging PRO yn Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr ar gyfer cynllun EPR dros becynwaith y DU. Dechreuodd penodiad ffurfiol UK Packaging PRO ar 1 Ebrill 2026, gyda chyfrifoldebau i’w cyflwyno’n raddol gan ddefnyddio arferion gorau rhyngwladol sefydledig wrth sefydlu sefydliadau tebyg sy’n cael eu harwain gan y diwydiant.

Bydd y penodiad hwn yn cryfhau’r bartneriaeth rhwng y llywodraeth a’r diwydiant, gan harneisio dirnadaeth ac arbenigedd y cynhyrchwyr a rhoi cyfle unigryw i randdeiliaid ar draws y gadwyn werth siapio’r broses o gyflawni’r cynllun EPR dros becynwaith yn y dyfodol.

Mae PecynUK yn cadw’r cyfrifoldeb dros benderfyniadau allweddol y cynllun, gan gynnwys taliadau i awdurdodau lleol a ffioedd cynhyrchwyr.

Nod 3: penodi uwch-aelodau staff

Fe wnaeth PecynUK gryfhau ei arweinyddiaeth weithredol drwy sicrhau penodiadau parhaol i rolau’r Prif Swyddog Gweithredol, y Prif Swyddog Gweithredu a’r Prif Swyddog Strategaeth. Fe wnaeth y penodiadau hyn gynyddu capasiti sefydliadol, a chefnogi llywodraethu a chyflawni effeithiol ar draws pedair gwlad y DU.

Yn 2026 i 2027, bydd PecynUK yn parhau i gryfhau arweinyddiaeth a gallu sefydliadol i gefnogi’r gwaith o gyflawni ei gyfrifoldebau statudol, gan gynnwys trwy recriwtio Prif Swyddog Cyllid.

Nod 4: rhoi pwyllgorau llywodraethiant a chynghori technegol ar waith

Mae gweithgareddau PecynUK yn cael eu goruchwylio gan fwrdd llywio gweinidogol y pedair gwlad, Pwyllgor Gweithredol Gweinyddwr y Cynllun, a Phwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg. Bydd y byrddau hyn yn sicrhau rôl gyfartal i bob un o’r pedair gwlad ym mhroses gwneud penderfyniadau a sicrwydd PecynUK.

Fe sefydlodd PecynUK dri phwyllgor cynghori technegol yn cwmpasu:

  • y fethodoleg asesu ailgylchadwyedd
  • effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd awdurdodau lleol
  • cyfathrebu a newid ymddygiad

Ailsefydlwyd Grŵp Llywio Gweinyddwyr y Cynllun hefyd. Mae’r grwpiau hyn yn dod â chynrychiolwyr o bob rhan o gadwyn gwerth pecynnu at ei gilydd i ddarparu cyngor ac argymhellion arbenigol.

Ceir manylion aelodaeth byrddau llywodraethu a phwyllgorau cynghori PecynUK ar ein tudalen llywodraethu.

Nod 5: cyflawni’r fethodoleg asesu ailgylchadwyedd (RAM)

Fe barhaodd PecynUK i ddatblygu a gweithredu’r RAM, sy’n pennu sut mae ailgylchadwyedd pecynwaith yn effeithio ar fodiwleiddio ffioedd yr EPR dros becynwaith.

Fe sefydlodd PecynUK Bwyllgor Cynghori Technegol RAM a gweithio’n agos gyda’r diwydiant, rheoleiddwyr a thimau polisi’r pedair gwlad i adolygu a mireinio’r RAM. Rhwng mis Hydref 2025 a mis Mawrth 2026, fe gynhaliodd PecynUK adolygiadau technegol, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chynllunio gweithgareddau i ddatblygu RAM 2027. Ochr yn ochr â hyn, fe gymerodd PecynUK ran mewn 2 rownd o ymchwil defnyddwyr, gan wella strwythur a phrofiad defnyddwyr o’r RAM.

Fe gafodd drafft cyntaf RAM 2027 ei lunio ym mis Chwefror a mis Mawrth 2026 ac yna cafodd ei adolygu’n helaeth gan reoleiddwyr, timau polisi’r pedair gwlad, cynghorwyr cyfreithiol ac arbenigwyr technegol. Yn dilyn diwygiadau pellach a chymeradwyaethau llywodraethu, fe gafodd y paratoadau cyhoeddi eu cwblhau erbyn mis Mehefin 2026.

Fe helpodd y gwaith hwn i sicrhau bod y RAM:

  • yn parhau i fod yn seiliedig ar dystiolaeth
  • yn adlewyrchu datblygiadau yn y seilwaith ailgylchu
  • yn ymateb i adborth rhanddeiliad
  • yn annog dylunio pecynnau mwy cynaliadwy

Fe gafodd RAM 2027 ei gyhoeddi ar 1 Gorffennaf 2026. Mae’n cryfhau’r cysylltiad rhwng sgoriau ailgylchadwyedd a chanlyniadau go iawn, gan gynnwys cyflwyno categorïau coch awtomatig newydd a chanllawiau cliriach ar halogi a sut mae’n effeithio ar ailgylchadwyedd ar draws y system. Trwy roi mwy o bwyslais ar ddata casglu ac ailgylchu yn y byd go iawn, mae’n sicrhau bod canlyniadau’n adlewyrchu’n well yr hyn a gyflawnir yn ymarferol yn hytrach na’r hyn sy’n bosibl o ran theori, gan helpu i gyflawni canlyniadau amgylcheddol cynllun yr EPR dros becynwaith.

Wrth i’r gwaith ar fersiwn nesaf y RAM ddechrau, bydd PecynUK yn gweithio gyda UK Packaging PRO i sicrhau bod y fframwaith penderfynu mor dryloyw â phosibl. Bydd hyn yn darparu mwy o allu i olrhain a gwell gwelededd o ran sut y bydd datblygiad y RAM yn cael ei symud ymlaen, gan gynnwys sut y gall data a thystiolaeth gan randdeiliaid ar draws y gadwyn werth gael eu cyflwyno a sut y byddan nhw’n cael eu hystyried.

Nod 6: darparu cynlluniau peilot effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd

Rhwng 2025 a 2026, fe gyflwynodd PecynUK chwe chynllun peilot ar gyfer proses wella gydag awdurdodau lleol gwirfoddol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Fe gafodd chwe sefydliad cymorth eu penodi i weithio gyda’r awdurdodau lleol peilot i brofi’r broses wella a pharatoi camau gwella penodol ar gyfer pob awdurdod lleol. Fe werthusodd PecynUK ganlyniadau’r cynllun peilot a bydd yn defnyddio’r canfyddiadau i ddatblygu ei ddull hirdymor o weithio gyda’r awdurdodau lleol.

Fe nododd y cynlluniau peilot amrywiaeth o gamau gwella mewn meysydd allweddol:

  • newid mewn ymddygiad
  • casgliadau ymyl palmant
  • casgliadau mewn canolfannau ailgylchu gwastraff cartrefi
  • seilwaith a rheolaeth weithredol

Roedd gan y camau gwella gafodd eu hawgrymu rai elfennau cyffredin ar draws yr awdurdodau lleol, yn enwedig o ran newid ymddygiad.

Helpodd y cynlluniau peilot PecynUK i ddeall y ffordd orau o asesu ac ategu perfformiad yr awdurdodau lleol, yng nghyd-destun ehangach gwaith PecynUK i sbarduno effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwasanaethau rheoli gwastraff. Mae gwaith wedi dechrau erbyn hyn gyda’r pedair gwlad a’r Grŵp Cynghori Technegol Effeithlonrwydd ac Effeithiolrwydd i ddatblygu asesiadau effeithiolrwydd i’w cyflawni erbyn 2028 fan bellaf.

Nod 7: cyd-fynd â pholisïau a strategaethau’r Llywodraethau Datganoledig

Mae PecynUK yn parhau i weithio gyda llywodraethau’r pedair gwlad i gysoni ei weithgareddau â strategaethau ac amcanion polisi ehangach yr economi gylchol. Mae’r byrddau llywodraethu sy’n goruchwylio’i weithgareddau yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o bob gwlad. Mae PecynUK wedi cydweithio â llywodraethau’r pedair gwlad wrth ddatblygu ei strategaeth 5 mlynedd, yr ydym yn disgwyl ei chyhoeddi yn nes ymlaen yn 2026.

Cynnydd yn erbyn yr ymrwymiadau yng Nghynllun Gweithredol 2025 i 2026 PecynUK

Ffioedd a thaliadau

Gosododd PecynUK ddyddiadau a cherrig milltir allweddol ar gyfer anfonebu’r cynhyrchwyr sydd o dan rwymedigaeth, taliadau i gynhyrchwyr ac awdurdodau lleol a chyhoeddi ei strategaeth modiwleiddio.

Fe gadarnhaodd PecynUK ffioedd gwaredu 2025 i 2026 ym mis Mehefin 2025, ar sail data pecynwaith 2024. Yna ym mis Gorffennaf 2025, fe gyhoeddodd PecynUK hysbysiadau asesu i bob awdurdod lleol ledled y DU, gan gadarnhau’r symiau roedd PecynUK yn bwriadu eu talu ym mlwyddyn cynllun 2025 i 2026. Roedd y symiau hyn yn amodol ar PecynUK yn cael digon o incwm gan gynhyrchwyr pecynwaith i wneud taliadau llawn.

Fe wnaeth PecynUK hefyd gyhoeddi ei ddatganiad polisi modiwleiddio cyntaf ym mis Mehefin 2025 yn nodi sut byddai ffioedd gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi yn cael eu modiwleiddio rhwng 2026 a 2029, ar sail ailgylchadwyedd.

Ym mlwyddyn asesu 2025 i 2026, roedd PecynUK yn rhagweld y byddai awdurdodau lleol yn talu £1.44 biliwn. Gyda chostau gweinyddol a gwybodaeth gyhoeddus o £27 miliwn a thâl amhariad o 4% wedi’i godi ar bob cynhyrchydd pecynwaith, roedd disgwyl i gyfanswm yr incwm fyddai’n cael ei godi fod yn £1.523 biliwn.

Ar 14 Hydref 2025, fe gyhoeddodd PecynUK yr hysbysiadau cyntaf o atebolrwydd ar gyfer yr EPR dros becynwaith gan ddefnyddio’r ffioedd gafodd eu cyhoeddi ym mis Mehefin 2025. Fe wnaeth yr hysbysiadau cyntaf o atebolrwydd godi cyfanswm o £1.46 biliwn, ar sail y data a gafodd ei adrodd drwy’r gwasanaeth ‘Report Packaging Data’ (RPD) ar 22 Medi 2025. Roedd hyn hefyd yn cynnwys amcangyfrif o dunelledd pecynwaith gan gynhyrchwyr pecynwaith sydd ddim yn cydymffurfio y mae disgwyl iddynt gael eu cynnwys yn y cynllun drwy weithgarwch cydymffurfio dros weddill y flwyddyn ariannol. Fel y nodwyd yng nghynllun gweithredol 2026 i 2027 PecynUK, roedd y ffigur hwn £63 miliwn yn is na’r incwm gofynnol ar gyfer y flwyddyn, sy’n adlewyrchu’r amcangyfrif o dunelledd ychwanegol a fyddai’n cael ei adrodd gan gynhyrchwyr a fyddai heb gadw at y dyddiadau cau cyn diwedd y flwyddyn gynllun.

Ar ôl cyhoeddi’r hysbysiadau o atebolrwydd, fe gafodd llawer o’r tunelledd pecynwaith hwn ei gynnwys yn y cynllun drwy ymdrechion monitro cydymffurfiaeth parhaus gan y pedwar rheoleiddiwr amgylcheddol. Ochr yn ochr â hyn, fe gafodd llawer iawn o ddata pecynwaith ei ailgyflwyno gan gynhyrchwyr pecynwaith gan arwain at ostyngiad net mewn tunelledd pecynwaith dan rwymedigaeth o’i gymharu â’r sefyllfa ym mis Hydref 2025, cyn y bwriad i ailgyfrifo’r hysbysiadau o atebolrwydd ym mis Mawrth 2026.

O ganlyniad, buasai’n ofynnol i PecynUK gynyddu’r ffioedd fesul tunnell a godid er mwyn talu costau’r awdurdodau lleol. Er mwyn cefnogi’r cynllun yn ei flwyddyn gyntaf o weithredu, darparodd Defra gyllid ychwanegol o £102 miliwn a sicrhaodd nad oedd cynhyrchwyr pecynwaith yn wynebu ailgyfrifo’u ffioedd a bod yr awdurdodau lleol yn cael eu cyllid llawn. Cafodd hyn ei wneud ar sail eithriadol fel ymyriad untro yn unig i gynnal sefydlogrwydd yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun.

Yn sgil yr ymrwymiad cyllido hwn, fe gyhoeddodd PecynUK hysbysiadau o atebolrwydd diwygiedig i gynhyrchwyr pecynwaith dan rwymedigaeth ar 25 Mawrth 2026, gan gadarnhau eu rhwymedigaethau ar gyfer blwyddyn y cynllun 2025 i 2026. Yn y cyfrifiad diwygiedig hwn, £1.411 biliwn oedd cyfanswm refeniw PecynUK a godwyd ar gyfer y flwyddyn. Daeth y £102 miliwn a ddarparwyd gan Defra â’r cynllun i’r £1.523 biliwn yr oedd ei angen.

Digwyddiad Debyd Uniongyrchol

Roedd y taliad cyntaf o dan hysbysiadau o atebolrwydd a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2025 yn ddyledus ar 3 Rhagfyr 2025. Ar gyfer cynhyrchwyr pecynwaith a oedd wedi dewis talu eu ffioedd gwaredu gwastraff drwy ddebyd uniongyrchol, byddai’r taliad cyntaf wedi cael ei gymryd ar y diwrnod hwn.

Ar 2 Rhagfyr, daeth PecynUK yn ymwybodol o broblem a arweiniodd at gasgliadau debyd uniongyrchol yn cael eu cymryd tair gwaith gan rai cynhyrchwyr pecynwaith. Effeithiodd hyn ar oddeutu 11% o gynhyrchwyr dan rwymedigaeth, gyda chyfanswm o £143m o ordaliad.

Mewn ymateb, fe sefydlodd PecynUK dîm ymateb i ddigwyddiadau. Cysylltodd y tîm â’r holl gynhyrchwyr yr effeithiwyd arnynt i sicrhau bod modd cynnig cymorth pe bai heriau llif arian, gan ddiogelu busnesau rhag yr effaith uniongyrchol. Drwy gydol y digwyddiad, darparodd PecynUK ddiweddariadau rheolaidd i gynhyrchwyr pecynwaith, cynlluniau cydymffurfio a chymdeithasau masnach yr effeithiwyd arnynt.

Gweithiodd y tîm ymateb i ddigwyddiadau yn barhaus i ddatrys y digwyddiad. Fe roddodd PecynUK ad-daliadau i’r rhan fwyaf o gynhyrchwyr pecynwaith ar 4 Rhagfyr, gyda’r ad-daliadau terfynol wedi’u cwblhau ar 5 Rhagfyr. Fe gafodd rhagor o weithgareddau eu cynnal gyda’r cynhyrchwyr pecynwaith yr effeithiwyd arnynt i sicrhau nad oedd unrhyw gynhyrchwyr ar eu colled yn dilyn yr ad-daliadau.

Yn sgil hyn, fe gynhaliodd PecynUK ddadansoddiad llawn o wraidd y broblem, a gosododd ddatrysiad i’w systemau digidol i sicrhau na fyddai hyn yn digwydd eto. Fe wnaeth PecynUK hefyd ddiwygio ei weithdrefnau gweithredu, lle mae pob debyd uniongyrchol yn cael ei wirio â llaw i sicrhau ei fod yn gywir cyn cael ei godi yn erbyn cynhyrchwyr pecynwaith. Fe wnaeth yr atebion hyn sicrhau bod casgliadau debyd uniongyrchol dilynol ar 3 Mawrth 2026 ac 1 Mehefin 2026 yn cael eu cwblhau.

Ymgyrchoedd gwybodaeth i’r cyhoedd

Rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026, fe ganolbwyntiodd PecynUK ar feithrin y gallu sydd ei angen i gyflawni ymgyrchoedd gwybodaeth i’r cyhoedd yn y dyfodol sy’n annog dinasyddion i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu.

Fe gafodd arbenigwyr eu recriwtio o’r diwydiant i ymuno â’r Grŵp Cynghori ar Gyfathrebu a Newid Ymddygiad. Yn y cyfnod hwn, trafododd y grŵp y sail ddamcaniaethol ar gyfer gweithgareddau gwybodaeth gyhoeddus yn y dyfodol. Mae PecynUK yn cydnabod bod y pwyllgor ymgynghorol hwn wedi symud ar gyflymder arafach nag eraill oherwydd blaenoriaethau gweithredol ac amserlenni recriwtio staff.

Fe recriwtiodd PecynUK yn llwyddiannus ar gyfer Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu a Rheolwr Cyfathrebu, gan sicrhau’r adnoddau i fwrw ymlaen â strategaeth ac ymgyrchoedd gwybodaeth i’r cyhoedd. Roedd y ffocws yn cynnwys gwella ymwybyddiaeth o wasanaeth lleolyddion ailgylchu WRAP ledled y DU (a drefnwyd ar gyfer hydref 2026).

Cyflenwr gwasanaethau ariannol (FSS)

Yr FSS sy’n goruchwylio’r dasg o gasglu ffioedd y cynhyrchwyr sydd o dan rwymedigaeth a rhoi taliadau i’r awdurdodau lleol. Aeth gwasanaeth yr FSS yn fyw ym mis Hydref 2025, ac fe alluogodd PecynUK i wneud y canlynol:

  • cyhoeddi NoLs
  • derbyn taliadau gan gynhyrchwyr pecynwaith
  • rhoi grantiau i awdurdodau lleol
  • darparu cymorth hunanwasanaeth i gynhyrchwyr pecynwaith a chynlluniau cydymffurfio

Fe barhaodd y gweithredu drwy gydol y flwyddyn i ddarparu’r gallu i gyhoeddi NoLs wedi’u hailgyfrifo i gynhyrchwyr pecynwaith yr effeithiwyd arnynt.

Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (PRO)

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am benodi UK Packaging PRO wedi’i rhoi yn gynharach yn yr adroddiad hwn o dan Nod 2 y strategaeth interim.

Effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau peilot proses wella PecynUK wedi’i rhoi yn gynharach yn yr adroddiad hwn o dan Nod 6 y strategaeth interim.

Bydd asesiadau effeithiolrwydd yn cael eu cynnal erbyn 2028 fan bellaf ac mae PecynUK yn gwerthuso’r data a’r metrigau sydd ar gael a fydd yn cael eu defnyddio. Bydd PecynUK yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth ar ôl cytuno ar y dull asesu a’r metrigau ategol.

Mae ymgysylltu parhaus wedi parhau drwy Bwyllgor Cynghori Technegol PecynUK ar Effeithlonrwydd ac Effeithiolrwydd, cynlluniau peilot yr IAP ar gyfer awdurdodau lleol a chymdeithasau awdurdodau lleol.

Rhwymedigaethau statudol

Cyflawnodd PecynUK ei rwymedigaethau statudol yn ystod 2025 i 2026 drwy wneud y canlynol:

Nid yw PecynUK wedi diweddaru’r rhestr o eitemau pecynwaith sy’n cael eu gwaredu’n gyffredin mewn biniau cyhoeddus neu fel sbwriel ar lawr yn y cyfnod hwn. Mae’r rhestr gyfredol i’w chael drwy ddilyn y ddolen hon.

Trosolwg ariannol

Defra sy’n cynnal PecynUK. Rhwng 2025 a 2026, mae cynhyrchwyr pecynwaith i gartrefi wedi bod yn atebol am ffioedd gwaredu gwastraff sydd wedi’u dylunio i symud cost rheoli gwastraff pecynwaith cartrefi oddi wrth y trethdalwyr i gynhyrchwyr. Mae’r ddeddfwriaeth sy’n rheoli casglu ffioedd gan gynhyrchwyr pecynwaith yn nodi at ba ddibenion mae modd defnyddio’r arian, ac mae cyfanswm y tâl yn cynnwys y canlynol:

  • ffi sylfaenol i dalu costau awdurdodau lleol am reoli gwastraff pecynwaith cartrefi, wedi’i chyfrifo gan ddefnyddio costau rheoli gwastraff pecynwaith, costau perthnasol eraill, a phwysau’r pecynwaith cartrefi sy’n cael ei roi ar farchnad y DU
  • ffioedd gweinyddol i dalu am gost rhedeg y cynllun, wedi’u cyfrifo ar sail costau disgwyliedig PecynUK ar gyfer y flwyddyn
  • cynllun wrth gefn ar gyfer amhariad i dalu ffioedd na fydd gweinyddwr y cynllun yn gallu eu hadennill gan gynhyrchwyr pecynwaith oherwydd ansolfedd neu unrhyw reswm arall

Mae Trysorlys EF wedi dosbarthu’r ffioedd hyn fel treth. Yn unol ag addasiad Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FREM) i IFRS 15a, nid oes rhwymedigaethau perfformiad yn gysylltiedig â’r refeniw hwn.

O dan reolau cyfrifyddu llywodraeth y DU, mae ffioedd sy’n cael eu derbyn yn cael eu cydnabod fel incwm yn unol â’r gwariant cysylltiedig, fel a ganlyn:

  • mae ffioedd sylfaenol yn cael eu cydnabod fel incwm pan mae gwariant grant cysylltiedig yn cael ei gydnabod, er enghraifft pan mae llythyrau penderfyniad yn cael eu rhoi i awdurdodau lleol
  • mae ffioedd gweinyddol yn cael eu cydnabod fel costau, ac yn cael eu hysgwyddo ar sail croniadau gan PecynUK
  • mae taliadau dyledion drwg yn cael eu gwireddu pan nad oes modd casglu dyled mwyach gan gynhyrchydd dan rwymedigaeth, er enghraifft oherwydd ansolfedd, a bod y ddyled yn cael ei dileu
  • mae symiau wrth gefn ar gyfer amhariad sydd ddim yn cael eu defnyddio yn cael eu cydnabod fel rhwymedigaeth ad-dalu nes bod eu hangen i dalu ffioedd nad oes modd eu hadennill gan gynhyrchwyr pecynwaith, gydag unrhyw falans sy’n weddill o bosibl yn cael ei ddychwelyd i gynhyrchwyr pecynwaith drwy ail-gyfrifo yn y dyfodol

Mae’n rhaid i PecynUK ddarparu manylion y ffioedd gafodd eu talu gan gynhyrchwyr pecynwaith a’r symiau gafodd eu dosbarthu i awdurdodau lleol. Mae PecynUK yn rheoli’r gwaith o gyhoeddi anfonebau, taliadau a gofynion arian parod. Fodd bynnag, mae cofnodion cyfrifyddu sy’n cynrychioli’r ffioedd gafodd eu talu a’r symiau gafodd eu dosbarthu i awdurdodau lleol yn cael eu prosesu ym mhob un o 4 cyfrif statudol gwledydd y DU.

Crynodeb o’r sefyllfa ariannol sy’n cael ei hadlewyrchu yng nghyfrifon y pedair gwlad:

Lloegr Cymru Yr Alban Gogledd Iwerddon Cyfanswm
Ffioedd gwaredu gwastraff a godir gan gynhyrchwyr pecynwaith (£1,096.9 miliwn) (£93.4 miliwn) (£165.8 miliwn) (£53.6 miliwn) (£1,409.8 miliwn)
Taliadau i awdurdodau lleol £1,039.9 miliwn £88.7 miliwn £157.4 miliwn £50.9 miliwn £1,336.9 miliwn
Taliadau i PecynUK £14.8 miliwn £1.2 miliwn £2.0 miliwn £0.7 miliwn £18.7 miliwn
Amcangyfrifon colledion credyd disgwyliedig 31 Mawrth 2026 £13.5 miliwn £1.1 miliwn £2.0 miliwn £0.6 miliwn £17.2 miliwn
Atebolrwydd ad-dalu sy’n cael ei ddal ar y cynllun £28.7 miliwn £2.5 miliwn £4.4 miliwn £1.4 miliwn £37.0 miliwn

Rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026, fe wnaeth PecynUK:

  • casglu £1.41 biliwn mewn ffioedd gwaredu gwastraff gan gynhyrchwyr pecynwaith dan rwymedigaeth
  • talu £1.34 biliwn i awdurdodau lleol ledled y Deyrnas Unedig
  • ariannu £18.7 miliwn o gostau gweinyddu’r cynllun, heb gynnwys colledion credyd disgwyliedig, oedd yn is na’r disgwyl am fod Defra wedi ariannu’r costau digidol ym mlwyddyn gyntaf y cynllun.

Yn ogystal ag alldaliadau PecynUK i awdurdodau lleol, dosbarthodd Defra £102 miliwn arall a’i ariannu i sicrhau bod awdurdodau lleol ledled y DU yn derbyn 100% o’r cyllid disgwyliedig.

Cafodd darpariaeth ar gyfer amhariad o 4% ei chynnwys yn ffioedd 2025 i 2026, gan greu darpariaeth o £50 miliwn. Yn ystod y flwyddyn ariannol, mae PecynUK wedi mabwysiadu dull gweithredu sy’n gyson â gofynion IFRS 9 a’r fframwaith Colledion Credyd Disgwyliedig (ECL). Mae’r model gafodd ei fabwysiadu’n ystyried ymddygiad cwsmeriaid yn y gorffennol, gwybodaeth gyfredol a disgwyliadau ar gyfer y dyfodol, gan ystyried y canlynol:

  • hysbysiad o atebolrwydd wedi’i dalu’n llawn
  • ymddygiad talu cwsmeriaid blaenorol a bwriadau talu hysbys yn y dyfodol
  • ansolfedd hysbys ar gyfer dyledion sydd eto i’w dileu
  • tybiaethau sy’n seiliedig ar risg ar gyfer cwsmeriaid sydd ddim yn cadw at gynlluniau talu

Ar 31 Mawrth 2026 nid oedd unrhyw daliadau heb eu talu i awdurdodau lleol, ac roedd £770 miliwn o’r ffioedd a godwyd wedi cael eu casglu, gan gynnwys £150 miliwn o hysbysiadau o atebolrwydd wedi’u setlo’n llawn. Ni chafodd unrhyw beth ei ddileu yn ystod y flwyddyn ariannol. Mae amcangyfrif o £17 miliwn ar gyfer colledion credyd disgwyliedig wedi cael ei adlewyrchu yng nghyfrifon y pedair gwlad, ynghyd ag atebolrwydd ad-daliad o £37 miliwn.

Rhagolygon ar gyfer y dyfodol

Rhwng 2025 a 2026, llwyddodd PecynUK i osod sylfeini EPR dros becynwaith y DU. Roedd y prif lwyddiannau’n cynnwys casglu a dosbarthu ffioedd cynhyrchwyr pecynwaith, lansio’r RAM, penodi UK Packaging PRO a rhoi trefniadau llywodraethu ar waith.

Bydd y strategaeth 5 mlynedd sydd ar y gweill yn symud ffocws PecynUK o weithredu i gyflawni canlyniadau amgylcheddol hirdymor. Erbyn 2031, nod PecynUK yw helpu i greu system bacio fwy cylchol drwy gymell cynhyrchwyr pecynwaith i leihau pecynwaith diangen, cynyddu ailddefnyddio, a gwella ailgylchadwyedd drwy fodiwleiddio ffioedd sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Bydd PecynUK yn gweithio hefyd i wneud y canlynol:

  • ysgogi gwasanaethau ailgylchu i fod yn fwy effeithlon ac effeithiol,
  • cefnogi buddsoddiad mewn seilwaith casglu ac ailgylchu, darparu ymgyrchoedd newid ymddygiad i hybu ymddygiadau ailgylchu ac ailddefnyddio,
  • cryfhau ein defnydd o ddata a gwybodaeth, a
  • darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i gynhyrchwyr pecynwaith ac awdurdodau lleol

Gan weithio’n agos gyda UK Packaging PRO, llywodraethau’r pedair gwlad, rheoleiddwyr a rhanddeiliaid ar draws y gadwyn gwerth, bydd PecynUK yn canolbwyntio ar greu mwy o sicrwydd, gwella perfformiad a chyflawni cynnydd mesuradwy tuag at dargedau economi gylchol y DU.