Skip to main content
Canllawiau

Rhestrau o’r eitemau sy’n cael eu casglu’n gyffredin ac yn gyfyngedig ar garreg y drws yn 2026

Cyhoeddwyd 1 Gorffennaf 2026

Ystyr deunyddiau pecynnu sy’n cael eu casglu’n gyffredin yw eitemau y mae o leiaf 75% o awdurdodau lleol ar draws 4 gwlad y Deyrnas Unedig (Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon) yn eu casglu ar garreg y drws i’w hailgylchu.

Ystyr deunyddiau pecynnu sy’n cael eu casglu’n gyfyngedig yw’r eitemau y mae rhwng 50 a 75% o awdurdodau lleol ar draws 4 gwlad y DU yn eu casglu ar garreg y drws i’w hailgylchu.

Casgliadau cyffredin 2026

Ar gyfer 2026, dyma’r eitemau pecynnu sy’n cael eu casglu’n gyffredin ar garreg y drws i’w hailgylchu:

  • aerosolau

  • amlenni â ffenestri

  • amlenni brown

  • bocsys ffrwythau a llysiau

  • bocsys grawnfwyd

  • bocsys wyau

  • caniau diod

  • cardfwrdd rhychiog

  • hambyrddau ffoil

  • hambyrddau plastig

  • llewys cardfwrdd

  • poteli a jariau

  • poteli diodydd

  • poteli hylif golchi dillad a hylifau glanhau’r tŷ

  • poteli llaeth

  • poteli siampŵ a phethau ymolchi 

  • potiau a thybiau bwyd

  • potiau iogwrt

  • tiwbiau papur lle chwech

  • tuniau bwyd

  • tybiau marjarîn

Casgliadau cyfyngedig 2026

Ar gyfer 2026, dyma’r eitemau sy’n cael eu casglu’n gyfyngedig ar garreg y drws i’w hailgylchu:

  • caeadau jariau gwydr

  • cartonau Tetra a chartonau diod a bwyd hylifol