Skip to main content
Ymchwil a dadansoddi

Ein Bwyd 2022: Adolygiad blynyddol o safonau bwyd ledled y DU

Cyhoeddwyd 12 Hydref 2023

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

1. Rhagair

Yn adroddiad Ein Bwyd a gyhoeddwyd y llynedd, daethom i’r casgliad bod safonau bwyd y DU yn 2021 wedi’u cynnal, a hynny er gwaethaf effeithiau aflonyddgar COVID-19.

Nid oes amheuaeth bod 2022 wedi bod yn flwyddyn o aflonyddwch mawr i system fwyd y DU. I ddefnyddwyr, cododd prisiau bwyd yn gynt na’r gyfradd chwyddiant, gan arwain at y cynnydd mwyaf yn ein biliau siopa ers cenhedlaeth. Yn achos busnesau, gwnaeth y rhyfel yn Wcráin, cynaeafau gwael, prinder gweithwyr a chostau cynhyrchu uwch roi pwysau ychwanegol ar system fwyd sy’n dal i geisio adfer yn sgil pandemig COVID-19 ac addasu i’r dirwedd newydd ar ôl ymadael â’r UE.

Yn adroddiad Ein Bwyd a gyhoeddwyd y llynedd, daethom i’r casgliad bod safonau bwyd y DU yn 2021 wedi’u cynnal, a hynny er gwaethaf effeithiau aflonyddgar pandemig COVID-19 a’r ansicrwydd a ddaeth yn sgil diwedd y cyfnod pontio ar ôl i’r DU ymadael â’r UE. Gwnaethom hefyd gydnabod yr heriau sydd o’n blaenau: y cynnydd tebygol ym mhrisiau bwyd, absenoldeb rheolaethau mewnforio ar gyfer bwyd sy’n dod o’r UE, a’r gostyngiad yn adnoddau awdurdodau lleol. Nid oedd yr heriau hyn wedi’u cyfyngu i 2021 – roeddent yn parhau i fod yn destun pryder yn 2022. Yr un themâu sy’n codi eto yn ein hadroddiad diweddaraf wrth i ni ddelio â’r heriau sy’n dal i fod yma ar ôl anterth  pandemig COVID-19. 

Os bydd methiant yn unrhyw ran o’r gadwyn fwyd, yn enwedig os yw’n ymwneud â dilysrwydd a diogelwch yr hyn rydym yn ei fwyta, bydd potensial i achosi niwed neu drallod. Mae’r data yn yr adroddiad blynyddol hwn yn dangos bod gan ein system fwyd lawer o gryfderau, ond mae hefyd yn ein hatgoffa nad yw’n berffaith. Er mwyn cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn ein system fwyd, mae’n rhaid i ni ddechrau drwy fod yn dryloyw ac yn agored: hynny yw, bod yn onest am y ffordd mae safonau’n newid, ble mae’r mannau gwan, a sut mae angen gweithredu gyda’n gilydd i wella pethau ar gyfer y dyfodol. 

Drwy nodi’r ffeithiau a rhannu’r holl ddata a thystiolaeth sydd gennym, gobeithiwn unwaith eto y bydd adroddiad eleni yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau ein system fwyd. Ein hymateb iddynt yw’r her i ni fel rheoleiddwyr yn ogystal â’r llywodraeth, y diwydiant, awdurdodau gorfodi a’r defnyddwyr eu hunain.

Yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd Heather Kelman, Cadeirydd Safonau Bwyd yr Alban

2. Crynodeb Gweithredol

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried a wnaeth safonau bwyd y DU wella, dirywio neu aros yr un fath yn 2022.

2.1 Cyflwyniad a chwmpas y gwaith

Cipolwg

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried a wnaeth safonau bwyd y DU wella, dirywio neu aros yr un fath yn 2022. Dyma’r ail flwyddyn i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) ddod ynghyd i gynhyrchu’r adolygiad blynyddol hwn. 

Pan lansiwyd Ein Bwyd, gwnaethom amlinellu’r mathau o safonau y gallai’r  adroddiad eu hystyried, sy’n cynnwys: 

1. Diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid (gan gynnwys rheoli alergenau) – hynny yw, sicrhau bod y cynnyrch yn ddiogel i’w fwyta neu, yn achos bwyd anifeiliaid, ei fod yn ddiogel i’w gyflwyno i’r gadwyn fwyd. Ystyrir nifer o ffactorau wrth gynnig safonau diogelwch, gan gynnwys cyngor gan aseswyr risg yr ASB ac FSS ac arbenigwyr ehangach,  yn ogystal ag agweddau eraill fel yr egwyddorion a allai bennu lefel y risg sy’n dderbyniol  i ddefnyddwyr. 

2. Safonau eraill sy’n cefnogi defnyddwyr ac yn rhoi sicrwydd – mae hyn yn cynnwys tarddiad a dilysrwydd, safonau cynhyrchu (er enghraifft, lles anifeiliaid a chynaliadwyedd), cyfansoddiad a maeth, labelu a hysbysebu bwyd, a gwybodaeth arall sy’n galluogi defnyddwyr i wneud penderfyniadau gwybodus yn seiliedig  ar yr hyn sy’n bwysig iddynt. 

I ateb y cwestiynau hyn, mae’r adroddiad yn defnyddio amrywiaeth o dystiolaeth, gan  gynnwys data awdurdodau lleol, ystadegau’r llywodraeth, archwiliadau ar y ffin, a hysbysiadau, yn ogystal â gweithgarwch samplu a gwyliadwriaeth yr ASB ac FSS. Rydym yn archwilio’r data  hwn o safbwynt y DU gyfan, yn ogystal â’i ddadansoddi ar lefel y pedair gwlad lle mae’n  ystyrlon gwneud hynny.

Yn yr adroddiad eleni, edrychwn ar y materion hyn mewn pedair ffordd drwy: 

1. Archwilio effaith yr amgylchedd economaidd ar ddewis ac ymddygiad defnyddwyr: mae hyn yn cynnwys olrhain effeithiau posib yr argyfwng costau byw ar allu pobl i gael deiet iach a diogel (gweler Pennod 1). 

2. Edrych ar sut mae ffactorau rhyngwladol yn dylanwadu ar system fwyd y DU ac ar ddiogelwch bwydydd a fewnforir: mae hyn yn cynnwys y newidiadau i batrymau  masnach ryngwladol a’r newidiadau yn y ffordd rydym yn rheoli diogelwch bwyd a  fewnforir (gweler Pennod 2). 

3. Adolygu cydymffurfiaeth bresennol busnesau: mae hyn yn archwilio sut mae safonau hylendid wedi’u cynnal, yn ôl y data diweddaraf, ac a oes gan awdurdodau gorfodi’r adnoddau a’r gallu sydd eu hangen arnynt i ymdopi â’r galw cynyddol (gweler Pennod 3).

4. Asesu’r dystiolaeth sydd ar gael ar ddiogelwch a dilysrwydd ein bwyd: mae hyn yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir o ddata digwyddiadau bwyd yr ASB ac FSS, yr arolygon diogelwch a dilysrwydd bwyd cenedlaethol a gynhaliwyd dros y cyfnod hwn, a gwaith ein dwy uned genedlaethol troseddau bwyd (gweler Pennod 4).

2.2 Y prif ganfyddiadau ar gyfer 2022 

Roedd 2022 yn flwyddyn heriol iawn i ddefnyddwyr. Cododd prisiau bwyd yn gynt na’r gyfradd chwyddiant am ran helaeth o’r flwyddyn, a hynny ochr yn ochr â chynnydd sydyn yng nghostau eraill y cartref, sydd wedi ychwanegu at y straen ariannol y mae pobl yn ei wynebu. At ei gilydd, gostyngodd gwariant ar fwyd yn y cartref 6.9% yn 2022 o gymharu â 2021. Cododd prisiau olewau a thaeniadau, cynnyrch llaeth a chynnyrch amgen, pysgod, wyau, cig a phroteinau eraill yn gyflymach na grwpiau bwyd eraill y Canllaw Bwyta’n Dda – ac mae pob un o’r rhain yn elfennau hanfodol yn neiet llawer o bobl. Dangosodd ymchwil o grwpiau ffocws yr ASB ac FSS fod pobl o ystod eang o fracedi incwm yn cyfaddawdu fel cyfnewid brandiau premiwm am opsiynau rhatach neu fwyta allan llai i geisio arbed arian. 

Cafodd y nifer uchaf erioed o gartrefi – un o bob pump ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon – eu dosbarthu fel rhai sydd â diffyg diogeledd bwyd yn 2022. Mae hyn yn golygu bod eu deiet a/neu faint o fwyd a fwyteir wedi’i gyfyngu mewn rhyw ffordd oherwydd eu hamgylchiadau ariannol neu bersonol. Mae tystiolaeth debyg am gynnydd mewn diffyg diogeledd bwyd i’w gweld yn nata’r Alban. Dywedodd lleiafrif bach o bobl ledled y DU hefyd eu bod wedi cyfaddawdu mewn perthynas â pharatoi bwyd a hylendid bwyd, gan gynnwys lleihau eu defnydd o oergelloedd a rhewgelloedd neu goginio eu bwyd am lai o amser, er mwyn lleihau eu biliau ynni. 

Bu’n rhaid i’r system fwyd fyd-eang addasu i newidiadau sydyn i batrymau masnachu, a hynny yn sgil y tarfu ar linellau cyflenwi traddodiadol ar gyfer rhai nwyddau. Er nad yw’r data sydd ar gael o archwiliadau ar y ffin yn nodi unrhyw newid o ran diogelwch nwyddau sy’n cyrraedd o’r tu allan i’r UE, mae’r DU wedi cynyddu nifer y bwydydd risg uchel sydd bellach yn destun archwiliadau manylach ar y ffin. Mae hyn yn rhannol mewn ymateb i bryderon am blaladdwyr, gweddillion a thocsinau eraill mewn cynhyrchion o wledydd penodol. Gan nad yw mewnforion yr UE yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd, ni allwn wneud sylwadau awdurdodol ar ddiogelwch nwyddau sy’n cyrraedd o’r UE. 

Wrth i ni ddatblygu partneriaethau masnachu newydd, bydd yr ASB ac FSS yn parhau i gynghori’r llywodraeth ar b’un a yw cytundebau masnach rydd newydd yn parhau i gynnal mesurau rheoli diogelwch bwyd statudol. Er mwyn cefnogi buddiannau’r cyhoedd ynghylch deall gwerthoedd cynhyrchu ehangach bwyd wedi’i fewnforio, mae’r ASB ac FSS hefyd yn ystyried sut i fynd i’r afael â diffyg data rhyngwladol cadarn ar faterion fel lles anifeiliaid a safonau cynhyrchu moesegol ac amgylcheddol.

Er bod busnesau bwyd hefyd wedi gweld cynnydd sydyn yn eu costau, mae’r data diweddaraf o arolygiadau yn awgrymu nad yw hyn wedi arwain at ostyngiad amlwg mewn cydymffurfiaeth â safonau hylendid bwyd. Yn seiliedig ar y data arolygu diweddaraf ar ddiwedd 2022, roedd mwyafrif helaeth y busnesau bwyd wedi bodloni safonau hylendid bwyd pan gawsant eu harolygu ddiwethaf. 

Yn y cyfamser, dychwelodd nifer yr arolygiadau a gynhaliwyd gan awdurdodau lleol yn 2022 i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig COVID-19. Mae hon yn garreg filltir bwysig, ond dylid nodi bod oddeutu 39,500 o fusnesau heb sgôr o hyd ar ddiwedd 2022 ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae lefelau adnoddau digonol yn hanfodol er mwyn sicrhau bod rheolau hylendid bwyd yn cael eu cynnal. Ond mae dadansoddiad yr ASB o niferoedd staff awdurdodau lleol yn dangos bod tua 14% yn llai o swyddi diogelwch bwyd yn cael eu hariannu ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon o gymharu â degawd yn ôl – a hyd yn oed lle mae’r swyddi hyn yn bodoli, mae dros 13% ohonynt yn wag.

Mae’r sefyllfa yn yr Alban yn waeth byth, gyda 25% yn llai o swyddi diogelwch bwyd o gymharu â 2016. Bu gostyngiadau hefyd yn nifer y swyddi swyddogion safonau bwyd a chyfraith bwyd ledled y DU, gan effeithio eto ar allu awdurdodau lleol i gynnal gwiriadau hanfodol ar safonau dilysrwydd bwyd, cyfansoddiad bwyd a gwybodaeth am fwyd. Yn 2022, bu’n rhaid i’r ASB ac FSS gynnal mesurau ychwanegol i fynd i’r afael â’r heriau parhaus o ran adnoddau y mae’r proffesiwn milfeddygol yn eu hwynebu – yn enwedig wrth recriwtio Milfeddygon Swyddogol. 

Nid yw dadansoddiad o ddigwyddiadau bwyd a brigiadau o achosion o glefydau a gludir gan fwyd y rhoddwyd gwybod amdanynt, canlyniadau rhaglenni samplu cenedlaethol a ddarparwyd gan yr ASB, FSS a Defra, na’r wybodaeth sydd ar gael am droseddau bwyd yn awgrymu y bu unrhyw newid sylweddol mewn safonau diogelwch a dilysrwydd bwyd yn ystod 2022. Fodd bynnag, rydym yn poeni am achosion parhaus o dorri’r gyfraith mewn perthynas â labelu cyfansoddiad bwyd sy’n ymwneud ag alergenau. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, bydd angen cydweithredu pellach ag awdurdodau lleol a busnesau bwyd.

2.3 Trosolwg manwl o bob pennod 

Mae adroddiad eleni yn cynnwys pedair pennod. Mae pob pennod yn canolbwyntio ar ffactor gwahanol a effeithiodd ar ein system fwyd yn 2022. Rydym wedi rhestru’r prif bwyntiau o bob pennod isod. 

Plât y genedl

Mae ein pennod gyntaf yn archwilio a allai chwyddiant prisiau bwyd a phwysau eraill o ran costau byw fod wedi effeithio ar ddewis ac ymddygiad defnyddwyr. Er nad yw’n bosib eto darparu dadansoddiad manwl o’r newidiadau gwirioneddol i’n cymeriant deietegol yn ystod y cyfnod hwn, edrychwn ar yr hyn y mae’r data economaidd yn ei ddatgelu am effaith chwyddiant ar wahanol fathau o fwyd a’r hyn y mae ymchwil defnyddwyr yr ASB ac FSS yn ei nodi am agweddau a chanfyddiadau’r cyhoedd am y ffordd y mae pwysau ariannol yn effeithio ar eu perthynas â bwyd.

  1. Gwnaeth y cynnydd mewn prisiau bwyd gyfrannu’n sylweddol at y pwysau costau byw sy’n effeithio ar gartrefi yn y DU. Mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod prisiau bwyd wedi codi 11% ar gyfartaledd yn ystod 2022, gyda chynnydd o flwyddyn i flwyddyn o 17% erbyn diwedd mis Rhagfyr 2022. Dyma’r cynnydd mwyaf mewn costau bwyd ers 1977. Er bod hyn wedi effeithio ar bob rhan o’n basged siopa, mae ein dadansoddiad o’r cynhyrchion yng nghategorïau’r canllaw Bwyta’n Dda yn dangos cynnydd sydyn iawn ym mhrisiau rhai mathau o fwyd – gan gynnwys olewau a thaeniadau, cynnyrch llaeth a dewisiadau amgen, pysgod, wyau, cig a phroteinau eraill. Roedd prisiau bwydydd sy’n uchel mewn braster, siwgr a halen, yn ogystal â ffrwythau a llysiau, wedi codi ar gyfradd is na chynhyrchion eraill.

  2. Yn y cyfamser, gostyngodd y gwariant cyffredinol ar fwyd gan ddefnyddwyr am y tro cyntaf ers degawd. Gallai’r gostyngiad o £8 biliwn (neu 6.9%) yn yr hyn rydym wedi’i wario ar fwyd yn y cartref yn 2022, o gymharu â 2021, adlewyrchu’n rhannol y gwariant uwch a welwyd yn ystod y pandemig. Ond, mae hefyd yn debygol o fod oherwydd y straen ar gyllidebau bwyd cartrefi a achosir gan bwysau costau byw ehangach. Ategir hyn gan dystiolaeth gan grwpiau ffocws yr ASB ac FSS a nododd fod llawer o bobl o ystod o fracedi incwm wedi dweud eu bod wedi cyfnewid brandiau premiwm am ddewisiadau rhatach neu ddefnyddio manwerthwyr rhatach. Soniodd eraill hefyd eu bod yn prynu eitemau ‘moethus’ fel cig ffres a chynhyrchion ffres eraill yn llai aml.

  3. Prisiau bwyd oedd y prif bryder i ddefnyddwyr y DU mewn perthynas â bwyd yn 2022, yn ôl ymchwil yr ASB ac FSS. Yn ystod y flwyddyn, dywedodd tua 41% o oedolion a holwyd yn yr Alban eu bod yn poeni am allu fforddio bwyd, o gymharu â 25% yn 2021. Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, cynyddodd nifer y cyhoedd sy’n pryderu am brisiau bwyd o 22% yn 2021 i 34% yn 2022.

  4. Yn ôl ymchwil yr ASB, roedd un o bob pum cartref (20%) yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi’u dosbarthu fel rhai â diffyg diogeledd bwyd yn 2022. Dyma’r gyfradd uchaf a gofnodwyd ers i’r ASB ddechrau cofnodi hyn yn 2016. Cafodd 10% o gartrefi eu dosbarthu fel rhai sydd â diogeledd bwyd isel, sy’n golygu eu bod yn bwyta deiet o ansawdd, amrywiaeth neu ddymunoldeb is, ond heb fod llawer o arwydd neu ddim arwydd eu bod wedi lleihau eu cymeriant bwyd. Cafodd 10% arall eu dosbarthu fel rhai sydd â diogeledd bwyd isel iawn, gan nodi sawl achos o batrymau bwyta aflonydd gyda phobl yn bwyta llai o fwyd na’r arfer. Bu cynnydd hefyd yn nifer yr oedolion ledled y DU sy’n hepgor prydau ac yn lleihau maint dognau er mwyn arbed arian. Ceir tystiolaeth hefyd fod rhai defnyddwyr wedi newid y ffordd y maent yn storio ac yn coginio eu bwyd er mwyn ceisio lleihau costau.

Safbwynt byd-eang

Mae’r bennod hon yn disgrifio o ble y daw ein bwyd drwy archwilio sut y newidiodd patrwm mewnforio bwyd yn ystod 2022. Mae’n edrych ar y dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael o archwiliadau ar y ffin a hysbysiadau diogelwch eraill i bennu a yw diogelwch bwyd a fewnforir yn cael ei gynnal. Ceir rhagolwg hefyd ar effaith cytundebau masnach rydd newydd ar ein system fwyd, a sut y gallwn, gyda’n gilydd, adeiladu ffordd fwy awdurdodol o olrhain a mesur safonau bwyd a fewnforir ar gyfer y dyfodol.

  1. Mae dadansoddiad o ddata masnachu’n dangos cynnydd o 5.6% yng nghyfaint y bwyd a gafodd ei fewnforio i’r DU o gymharu â 2021, wrth i farchnadoedd byd-eang sefydlogi ar ôl y pandemig COVID-19. Mae faint o fwyd mae’r DU yn ei brynu o wledydd eraill bellach yn gyson â’r cyfartaledd a welwyd dros y degawd diwethaf. Ychydig iawn o newid sydd wedi bod mewn perthynas â’r 10 prif wlad yr ydym yn cael y rhan fwyaf o fwyd ohonynt, ond mae gwaelod y rhestr yn fwy ansefydlog. Bu gostyngiad nodedig mewn mewnforion o Wcráin, Rwsia a rhai gwledydd Baltig a chynnydd sydyn mewn mewnforion o rai o wledydd De-ddwyrain Ewrop, yn enwedig Rwmania a Bwlgaria.

  2. Mae’r data sydd ar gael am wiriadau cydymffurfio a gynhelir ar y ffin wedi’i gyfyngu i fewnforion o wledydd y tu allan i’r UE, a hynny oherwydd absenoldeb parhaus rheolaethau mewnforio’r UE. Mae data’n dangos na fu unrhyw newidiadau sylweddol mewn cyfraddau diffyg cydymffurfio yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae’r DU bellach yn gyfrifol am ddiffinio ei rhestr ei hun o fwydydd risg uchel sy’n destun rheolaethau llymach, ac mae wedi penderfynu cynyddu gwiriadau ar rai cynhyrchion mewn ymateb i risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio plaladdwyr, halogiad â mycotocsinau a chynnydd ym mhresenoldeb Salmonela mewn rhannau o’r byd. 

  3. Mae’r DU wedi llofnodi Cytundebau Masnach Rydd gydag Awstralia a Seland Newydd yn ystod 2022. Darparodd yr ASB ac FSS gyngor i’r llywodraeth fel rhan o Adran 42 o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020. Yn ein hymateb, daethom i’r casgliad fod y cytundebau hyn gydag Awstralia a Seland Newydd yn cynnal mesurau diogelu bwyd statudol ar gyfer defnyddwyr. Ar gyfer y cytundeb â Seland Newydd, gwnaethom hefyd asesu a oedd yn cynnal mesurau diogelu statudol ar gyfer maeth. Daeth i’r casgliad ei fod yn  gwneud hynny.

  4. Comisiynodd yr ASB adroddiad arbenigol gan y cwmni ymgynghori ADAS (Opens in a new window), yn archwilio sut y gallai nodi a chasglu gwybodaeth well am safonau cynhyrchu bwyd a fewnforir. Er bod yr adroddiad yn tynnu sylw at y diffyg data sydd ar gael, byddwn yn parhau i archwilio sut y gallant fodloni diddordeb y cyhoedd yn yr wybodaeth hon, gan weithio mewn partneriaeth â’r llywodraeth a’r diwydiant.

Pwysigrwydd hylendid 

Mae’r bennod hon yn adolygu’r data diweddaraf sydd ar gael ar safonau hylendid bwyd ar draws ystod o fusnesau bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae’r bennod yn archwilio a fu unrhyw newidiadau mewn sgoriau hylendid bwyd ar gyfer bwytai, caffis a mannau eraill sy’n gweini bwyd, yn ogystal â lefelau cydymffurfio mewn sefydliadau llaeth, cig a bwyd anifeiliaid. Yn sgil pandemig COVID-19, archwilir hefyd i ba raddau y mae awdurdodau gorfodi wedi llwyddo i ailgychwyn eu systemau ar gyfer rheolaethau swyddogol ac a oes ganddynt ddigon o adnoddau a chapasiti i ateb y galw.

  1. Mae data o’r ddau gynllun sgorio hylendid bwyd cenedlaethol – y Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd (FHIS) a’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) – yn dangos bod gan y mwyafrif helaeth o fusnesau bwyd safonau hylendid boddhaol neu well yn seiliedig ar y data arolygu ar 31 Rhagfyr 2022. Enillodd ychydig dros dri chwarter (75.7%) o fusnesau bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon y sgôr uchaf o 5 ar gyfer hylendid, tra bod 2.9% o sefydliadau bwyd wedi ennill sgôr o 2 neu is, sy’n golygu bod angen iddynt wella, gwella’n sylweddol, neu wella ar frys. Yn y DU, nid yw’r ffigurau hyn wedi newid rhyw lawer, os o gwbl, o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

  2. Yn yr un modd, mae’r data sydd ar gael ar gydymffurfiaeth sefydliadau llaeth â safonau hylendid yn dangos bod y mwyafrif helaeth ohonynt yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn parhau i weithredu’n ddiogel: roedd 98.1% o ffermydd a sefydliadau yng Nghymru a Lloegr, a 99.1% yng Ngogledd Iwerddon, yn cydymffurfio i lefelau boddhaol neu dda. Yn yr Alban, mae rhywfaint o dystiolaeth i ddangos bod gwaith cynnal rheolaethau hylendid yn ailgychwyn ar ôl y pandemig COVID-19, gyda chynnydd yn nifer yr arolygiadau, llythyrau’n rhoi canllawiau ac achosion o gyngor ysgrifenedig yn 2021/22. Ni chyhoeddwyd unrhyw hysbysiadau gwella hylendid rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2022.

  3. Mae dadansoddiad o ddata’r gweithlu dros y degawd diwethaf yn dangos bod nifer y swyddi wedi’u dyrannu ym maes diogelwch bwyd a gefnogir gan awdurdodau lleol[1] yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi gostwng bron 14% ers 2011/12. Mae problemau o ran adnoddau wedi’u gwaethygu gan heriau wrth lenwi’r rolau hyn, ac mae tua un o bob saith swydd (13.7%) yn wag. Yn yr Alban, mae’r prinder yn fwy difrifol gan fod nifer y swyddi ym maes cyfraith bwyd wedi’u llenwi wedi gostwng ychydig dros 25% o gymharu â 2016/2017.

  4. Mae’r gostyngiadau staffio hyn mewn awdurdodau lleol hefyd yn ymestyn y tu hwnt i hylendid bwyd. Bu gostyngiad o 45.1% yn nifer y swyddi swyddogion safonau bwyd wedi’u dyrannu o 2011/12 i 2021/22 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Canfu arolwg, a gyhoeddwyd yn 2020[2], fod nifer y swyddogion safonau masnach wedi disgyn rhwng 30% a 50% ar draws y DU rhwng 2008/9 a 2018/19. Canfu’r arolwg hefyd nad oedd ychydig dros hanner yr awdurdodau lleol yn y DU yn credu bod ganddynt ddigon o arbenigedd i gwmpasu’r ystod lawn o gyfrifoldebau safonau masnach, a bod y gweithlu safonau masnach sy’n heneiddio yn fygythiad i allu proffesiynol yn y dyfodol.

  5. Wrth i’r proffesiwn milfeddygol cyfan barhau i wynebu heriau o ran capasiti, mae’r ASB ac FSS wedi teimlo’r effeithiau parhaus wrth recriwtio Milfeddygon Swyddogol sy’n goruchwylio arolygiadau mewn sefydliadau cig — gyda 27.4% yn llai o bobl yn ymuno â’r proffesiwn rhwng 2019 a 2022 (RCVS, 2022), cynnydd nodedig yn nifer y milfeddygon sy’n gadael categori ymarfer yn y DU (RCVS, 2021) ac amharodrwydd ymhlith milfeddygon sy’n graddio o brifysgolion y DU i ymgymryd â rolau iechyd y cyhoedd. Mae recriwtio o dramor yn parhau i fod yn llwybr hanfodol, ac mae hyn yn cael ei gefnogi gan yr opsiwn i gofrestru dros dro drwy Goleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS). Mae’r ddwy asiantaeth yn gweithio i leihau’r ddibyniaeth ar gynlluniau cofrestru dros dro cyn gynted â phosib.

Diogel a chadarn

Mae’r bennod olaf yn dwyn ynghyd ddata a gwybodaeth a gasglwyd gan yr ASB ac FSS i asesu diogelwch a dilysrwydd y bwyd a brynwn. Mae’n cynnwys dadansoddiad o’r data digwyddiadau bwyd ac achosion o glefydau a gludir gan fwyd, yr arolygon samplu bwyd cenedlaethol a gynhaliwyd ledled y DU, a phatrymau ymchwiliadau troseddol a ‘tharfiadau’ a arweinir gan ein dwy uned genedlaethol troseddau bwyd, a hynny er mwyn mynd i’r afael â thwyll, difwyno a mathau eraill o ymddygiad troseddol o fewn y gadwyn fwyd.

Gostyngodd cyfanswm y digwyddiadau bwyd y rhoddwyd gwybod amdanynt ledled y DU ychydig yn 2022 o gymharu â 2021, ond mae’n parhau i fod yn gyson yn fras â thueddiadau hirdymor. Cig a chynhyrchion cig yw’r categori bwyd a gysylltir amlaf â digwyddiadau bwyd o hyd. Prif achos digwyddiadau bwyd oedd micro-organebau pathogenig, a oedd yn cyfrif am 29% o’r holl achosion yn y DU. Mae nifer y digwyddiadau sy’n ymwneud ag alergenau heb eu datgan neu wedi’u datgan yn anghywir wedi dychwelyd i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig COVID-19, a hynny yn dilyn gostyngiad mewn achosion yn ystod 2020 a 2021.

Yn 2022, dychwelodd cyfradd y rhan fwyaf o glefydau a gludir gan fwyd i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig. Fodd bynnag, cyrhaeddodd achosion o Escherichia coli sy’n cynhyrchu shigatocsin O157:H7 (a elwir hefyd yn STEC O157) y rhoddwyd gwybod amdanynt eu lefel uchaf ers 2015, yn bennaf o ganlyniad i frigiad mawr o achosion a ganfuwyd yn haf 2022. Mae defnyddio proses dilyniannu genomau cyfan fel mater o drefn bellach yn helpu awdurdodau iechyd cyhoeddus i nodi mwy o glystyrau o glefydau a gludir gan fwyd, ac mae wedi galluogi awdurdodau diogelwch bwyd ac iechyd cyhoeddus y DU i chwarae rhan flaenllaw wrth ganfod achosion domestig a byd-eang.

Ni fu unrhyw newid cyffredinol yn nifer cyfun y Rhybuddion Alergedd a gyhoeddwyd gan asiantaethau bwyd y DU yn 2022 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae’r cynnydd a adroddwyd (25%) yn nifer yr Hysbysiadau Galw Cynnyrch yn Ôl (PRIN) i’w briodoli’n bennaf i newidiadau yn y ffordd y mae’r ffigurau hyn wedi’u casglu eleni, yn hytrach nag unrhyw gynnydd yn nifer cyffredinol yr hysbysiadau a gyhoeddwyd. Nid oedd yn ofynnol i’r ASB nac FSS gyhoeddi hysbysiad Rhybudd Bwyd: Angen Gweithredu – sef y categori mwyaf difrifol  o rybuddion am ddigwyddiad  bwyd – yn 2022. 

Mae rhaglenni samplu cenedlaethol yr ASB ac FSS yn chwarae rhan bwysig wrth olrhain meysydd risg a mannau gwan yn ein system fwyd. Ni ddangosodd arolwg targededig yr ASB, a gynhaliwyd yn 2022, unrhyw wahaniaeth ystadegol yn lefel y canlyniadau nad oeddent yn cydymffurfio o gymharu â blynyddoedd blaenorol. Roedd tua thraean o’r methiannau yn y profion yn ymwneud â thorri rheolau labelu. Roedd y canfyddiadau hefyd yn datgelu materion diogelwch cyhoeddus pellach posib yn ymwneud â datganiadau alergenau, gan atgyfnerthu’r angen parhaus am wiriadau rheolaidd gan awdurdodau lleol a busnesau. 

Ni chanfu gwaith samplu cynhyrchion ceirch a chynhyrchion sy’n cynnwys ceirch o fewn rhaglen samplu FSS docsinau na metelau trwm anniogel. Fodd bynnag, roedd achosion o alergenau heb eu datgan yn y cynhyrchion ‘rhydd rhag’ a gawsant eu profi, ac roedd cyfran sylweddol (18%) o samplau briwgig eidion naill ai’n cynnwys mwy o fraster neu lai o gig na’r hyn a ddatganwyd ar y deunydd pecynnu. Dylid pwysleisio bod arolygon yr ASB ac FSS wedi’u targedu at feysydd risg hysbys ac felly, maent yn fwy tebygol o ganfod canlyniadau anfoddhaol. Ni ddylent gael eu hystyried yn gynrychioliadol o safonau bwyd cyffredinol y DU. 

Cynhaliodd y ddwy uned genedlaethol troseddau bwyd amrywiaeth o ymchwiliadau trwy gydol 2022 yn unol â’u strategaethau priodol. Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) wedi canolbwyntio’n helaeth ar fynd i’r afael â bygythiadau yn y sector cig coch, dargyfeirio sgilgynhyrchion anifeiliaid i’r gadwyn fwyd a mynd ar drywydd cyflenwyr bwydydd peryglus nad ydynt yn fwyd sy’n cael eu gwerthu i’w bwyta. Yn yr Alban, roedd ymchwiliadau Uned Troseddau a Digwyddiadau Bwyd yr Alban (SFCIU), o dan gyfraith gwlad, yn canolbwyntio ar achosion o dwyll a amheuir mewn perthynas ag alcohol ffug yn ogystal ag olrheiniadwyedd a difwyno yn y gadwyn cyflenwi cig a lladd anghyfreithlon.  

Mae’r NFCU ac SFCIU yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant, awdurdodau lleol ac asiantaethau gorfodi eraill ar weithgareddau eraill sydd wedi’u cynllunio i darfu ar ymddygiadau troseddol  neu eu hatal.  Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, roedd cryn dipyn o darfiadau’r NFCU yn cynnwys gweithredu yn erbyn cynhyrchion peryglus nad ydynt yn fwyd, trwy atal y cyffur deiet anghyfreithlon 2,4-Dinitroffenol (DNP) rhag cael ei werthu ar-lein, yn ogystal â chamau parhaus yn erbyn troseddoldeb yn y sector cig coch a dargyfeirio  sgil-gynhyrchion anifeiliaid i’r gadwyn fwyd.  Yn yr Alban, roedd nifer sylweddol o darfiadau a arweiniwyd gan SFCIU hefyd yn canolbwyntio ar droseddoldeb sy’n effeithio ar gig a chynhyrchion cig. Yn ogystal, aeth yr Uned i’r afael â thwyll yn ymwneud â the a dyfwyd yn yr Alban, melysion a mêl, a chynhaliodd ymweliadau gyda phartneriaid â thafarndai a lleoliadau trwyddedig eraill yn ddirybudd i chwilio am gynhyrchion ffug ac atal unrhyw ymddygiad troseddol yn y dyfodol.

Mae’r ddwy uned troseddau bwyd yn monitro effaith chwyddiant prisiau yn agos, effaith pandemig COVID-19, newidiadau amgylcheddol a’r gwrthdaro parhaus yn Wcráin ar ymddygiad troseddol. Ni chanfuwyd unrhyw dystiolaeth yn y meysydd gwyliadwriaeth bwyd neu weithgarwch samplu, nac yn y data a oedd ar gael drwy Rwydwaith Cudd-wybodaeth y Diwydiant Bwyd (FIIN), i awgrymu y bu unrhyw gynnydd mewn materion dilysrwydd y gellir eu priodoli i droseddwyr sy’n ymateb i’r materion mawr hyn. Fodd bynnag, cydnabyddir y gallai’r amodau economaidd presennol gyflwyno cyfleoedd pellach ar gyfer troseddoldeb yn y gadwyn fwyd.

2.4 Rhoi adroddiad eleni yn ei gyd-destun

Wrth i’n system fwyd ddechrau adfer ar ôl y pandemig COVID-19, daeth heriau pellach i ran y system fwyd yn 2022. Roedd prisiau cynyddol, tywydd eithafol, prinder gweithlu, newidiadau i berthnasoedd masnachu’r DU a rheolaethau ar y ffin ar ôl ymadael â’r UE, a’r rhyfel yn Wcráin i gyd wedi creu ansefydlogrwydd a newid, gan chwarae rhan bwysig yn hanes ein bwyd yn 2022.

Roedd cartrefi yn y DU yn gweld prisiau uwch ar draws ystod eang o nwyddau a gwasanaethau, ac nid oedd eu hincwm yn codi mor gyflym â chwyddiant cynyddol. Rhwng 2021 a 2022, cynyddodd prisiau trydan, nwy a thanwydd arall gan 4%, yswiriant cynnwys tai gan 23%, a chludiant personol gan 15%. Mae hyn wedi’i grynhoi yn ffigur 1. 

Mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod prisiau bwyd wedi codi 11% ar gyfartaledd yn ystod 2022, gyda chynnydd o 17% o flwyddyn i flwyddyn yn cael ei adrodd erbyn diwedd Rhagfyr 2022. Dyma’r cynnydd mwyaf mewn costau bwyd ers 1977. Fel y dengys ffigur 2, yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, cododd prisiau bwyd yn unol â’r gyfradd chwyddiant gyffredinol. Ond erbyn ail hanner y flwyddyn, roedd prisiau bwyd yn codi’n gynt o lawer.

Ffigur 1: Newid canrannol dros 12 mis o chwyddiant yn ôl math o nwydd

Ffigur 1: Newid canrannol dros 12 mis o chwyddiant yn ôl math o nwydd

Ffynhonnell: Tablau chwyddiant prisiau defnyddwyr - Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae’r hyn sydd wedi ysgogi chwyddiant prisiau bwyd wedi’i grynhoi yn ffigur 1. Mae’r graddau y mae’r materion hyn wedi effeithio ar fwydydd unigol yn amrywio’n sylweddol, sy’n helpu i egluro pam mae pris rhai cynhyrchion wedi cynyddu’n llawer mwy sydyn nag eraill, fel y gwelwn ym Mhennod 1.

Er enghraifft, yn ôl y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth[3], mae’r cynnydd yng nghostau ffermwyr a’r bygythiad o ddiffyg llaeth wedi effeithio’n sylweddol ar brisiau llaeth. Mae’n debygol bod y cynnydd mawr ym mhrisiau margarîn o ganlyniad i brinder olew blodau’r haul (oherwydd y gwrthdaro yn Wcráin), cynnydd yn y galw yn y farchnad (wedi’i ysgogi gan gynnydd ym mhrisiau menyn o ganlyniad i ddiffyg llaeth), cyfyngiadau allforio ar olewau llysiau, tywydd gwael, a mwy o alw gan y diwydiant am fiodanwydd wrth i brisiau olew crai gynyddu.

Mae cynhyrchwyr wyau wedi dioddef o ganlyniad i brisiau ynni cynyddol a chostau bwyd anifeiliaid i gyw iâr, yn ogystal â brigiad o achosion o ffliw adar, a arweiniodd at brinder wyau wrth i rai ffermwyr yn y DU gael eu gorfodi i roi’r gorau i gynhyrchu. At hynny, mae 70% o’r wyau a brynwn yn y DU yn wyau maes (free-range). Fodd bynnag, gan mai dim ond 13% o wyau yn yr Undeb Ewropeaidd sy’n cael eu cynhyrchu drwy’r dull hwn, roedd yr opsiwn i lenwi silffoedd archfarchnadoedd y DU â mewnforion yn gyfyngedig[4], ac arweiniodd hyn at gynyddu’r  pris ymhellach.

Ffigur 2: Newid canrannol dros 12 mis (2022) – Cyfraddau chwyddiant bwyd  yn erbyn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr cyffredinol, gan gynnwys costau tai  perchen-feddianwyr (CPIH)

Ffigur 2: Newid canrannol dros 12 mis (2022) – Cyfraddau chwyddiant bwyd yn erbyn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr cyffredinol, gan gynnwys costau tai perchen-feddianwyr (CPIH)

Ffynhonnell: Tablau chwyddiant prisiau defnyddwyr - Swyddfa Ystadegau Gwladol

Thema bwysig sy’n ganolog i’r adroddiad hwn yw ymgais Rwsia i oresgyn Wcráin, a gyfrannodd at gynnydd mawr mewn costau ynni yn gynnar yn 2022, ac a effeithiodd ar fynediad byd-eang at nwyddau hanfodol fel grawn, grawnfwydydd ac olewau coginio wrth i weithgarwch milwrol atal cnydau rhag cael eu cynaeafu. Gwnaeth gwarchaeau yn y Môr Du yn ystod gwanwyn a haf 2022 rwystro llwybrau llongau rhyngwladol. Mae hyn wedi dwysau’r cynnydd mewn costau cynhyrchu i fusnesau’r DU ac wedi cyfrannu at rai newidiadau o ran ble rydym yn cael ein bwyd. Byddwn yn trafod hyn yn ddiweddarach ym Mhennod 2 o’r adroddiad hwn. 

Y llynedd, gwelwyd hefyd sawl carreg filltir bwysig yn natblygiad perthnasoedd masnachu’r DU ar ôl ymadael â’r UE, gan gynnwys llofnodi Cytundebau Masnach Rydd ag Awstralia a Seland Newydd, a chyflwyno gofynion hysbysu ymlaen llaw newydd ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel sy’n dod o’r UE. Fodd bynnag, bu oedi pellach wrth gynnal rheolaethau mewnforio ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid o’r UE, gyda’r Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau newydd yn dod i rym yn 2024. Mae ymadawiad y DU â’r UE hefyd wedi effeithio’n sylweddol ar recriwtio gweithwyr proffesiynol allweddol sy’n ymwneud â chefnogi rheolaethau diogelwch bwyd, gan gynnwys cyflenwi Milfeddygon Swyddogol.

Yn olaf, er i gyfyngiadau olaf y pandemig COVID-19 gael eu codi ym mis Chwefror 2022, gwnaeth effeithiau aflonyddgar y pandemig barhau i effeithio ar y system fwyd trwy gydol y flwyddyn – yn anad dim, o ran adnoddau a rheoli rheolaethau hylendid bwyd. Mae ymdrechion awdurdodau lleol ac awdurdodau gorfodi bwyd eraill i adfer yn sgil y pandemig wedi’u ddogfennu ym Mhennod 3, ac mae’n atgyfnerthu’r angen i sicrhau bod adnoddau digonol ar gael i allu cynnal mesurau rheoli diogelwch effeithiol i ddefnyddwyr.

2.5 Trosolwg o’r prif ffactorau sy’n dylanwadu ar brisiau bwyd yn 2022

Mae amrywiaeth o ffactorau wedi cyfrannu at y newidiadau yng nghost ac argaeledd  ein bwyd, â llawer ohonynt yn gysylltiedig â’r rhyfel yn Wcráin, ymadawiad y DU â’r UE,  a sgil-effeithiau’r pandemig COVID-19. Mae’r ffactorau’n cynnwys:

Tywydd gwael 

Gwelwyd un o’r hafau poethaf a sychaf erioed yn y DU yn 2022, gan effeithio’n ddifrifol ar gynnyrch cnydau domestig. Effeithiodd y gwres dwys hefyd ar gynaeafau mewn rhannau o Ewrop, gan godi cost olew olewydd, llysiau fel ciwcymbrau a phannas, a rhai ffrwythau meddal. 

Costau ynni a chludo 

Yn union fel y sefyllfa yng nghartrefi ledled y DU, cododd biliau ynni a thanwydd cynhyrchwyr bwyd hefyd, gan ei gwneud yn ddrutach i gynhyrchu a chludo bwyd. Fel gyda’r cynnydd mewn prisiau nwyddau eraill, trosglwyddwyd y costau hyn i’r defnyddiwr trwy brisiau uwch. 

Prisiau nwyddau

Cododd pris nwyddau allweddol ar gyfer y diwydiant bwyd yn gyson hefyd, gan ychwanegu at gostau cynhyrchwyr. Roedd hyn yn cynnwys cynnydd sydyn yng nghostau gwrtaith, had rêp ac olew blodau’r haul, a grawnfwydydd fel gwenith ac indrawn. Mae gwarchaeoedd Rwsia ym mhorthladdoedd Wcráin wedi effeithio ar lawer o’r bwydydd hyn. 

Prinder llafur 

Mae prinder llafur hefyd wedi effeithio ar y diwydiant bwyd. Roedd ffermwyr y DU, er enghraifft, yn wynebu prinder difrifol o weithwyr tymhorol yn ystod haf 2022, gan fod bron i ddwy ran o dair o’r holl fisâu tymhorol yn 2021 wedi’u rhoi i weithwyr o Wcráin.

3. Plât y genedl

3.1 Defnyddwyr a safonau bwyd

Cipolwg

Yn y bennod hon, rydym yn ystyried y canlynol:

  • Sut mae chwyddiant wedi effeithio ar gost a fforddiadwyedd  gwahanol fwydydd. 
  • Sut mae dewisiadau, blaenoriaethau ac ymddygiadau bwyd wedi newid. 
  • Pa effaith y mae hyn yn ei chael ar ein gallu i gael mynediad at ddeiet iach?

3.2 Cyflwyniad

Roedd 2022 yn flwyddyn heriol i ddefnyddwyr. Cododd prisiau bwyd a diod y DU ar y gyfradd gyflymaf ers 1977. Gostyngodd cyflogau mewn termau real, a bu codiadau serth ym mhrisiau tanwydd ac ynni, a chost benthyca, sydd oll wedi gwaethygu’r pwysau ariannol ar gartrefi.

Ond pa effaith a gafodd hyn ar ymddygiadau ac agweddau pobl at fwyd? A allwn ganfod unrhyw newidiadau yn yr hyn rydym yn ei fwyta, sut rydym yn coginio a sut rydym yn siopa? Mae’r bennod hon yn archwilio’r hyn a wyddom hyd yn hyn am effaith pwysau costau byw ar ein gallu i gael gafael ar ddeiet diogel.

Yr effaith ar ddefnyddwyr 

Mae chwyddiant bwyd yn effeithio ar wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd. Er bod y cyfryngau a sylwebwyr eraill yn aml yn defnyddio prif ffigurau chwyddiant i ddisgrifio’r gyfradd y mae prisiau bwyd yn codi, caiff y rhain eu cyfrifo drwy edrych ar y newidiadau cyfartalog mewn prisiau ar draws detholiad o eitemau nodweddiadol yn ein basgedi siopa. 

Fodd bynnag, mae’r graddau y mae chwyddiant yn effeithio ar rywun yn bersonol – a sut y gallai hynny yn ei dro ddylanwadu ar yr hyn y mae’n ei fwyta – yn dibynnu ar y bwydydd y mae’n eu prynu a faint y mae prisiau’r eitemau hynny wedi newid. Felly, cyn i ni archwilio ein dewisiadau deietegol, mae’n ddefnyddiol edrych ar sut mae’r cynnydd ym mhrisiau’n amrywio ar draws categorïau bwyd gwahanol er mwyn rhoi darlun mwy cynnil o’r effaith ar ddefnyddwyr.

Ar gyfer yr adroddiad hwn, rydym wedi dewis seilio ein dadansoddiad ar ddetholiad o nwyddau sy’n cael eu prynu’n aml. Rydym wedi dadansoddi’r rhain gan ddefnyddio categorïau’r Canllaw Bwyta’n Dda (ffigur 3). Mae hyn yn dangos bod y cynnydd mwyaf sydyn mewn prisiau ar gyfartaledd yn ystod y flwyddyn i’w weld mewn tri chategori bwyd: 

  • olewau a thaeniadau (spreads)
  • cynhyrchion llaeth fel llaeth, iogwrt a chaws, yn ogystal â dewisiadau amgen nad ydynt yn cynnwys cynnyrch llaeth
  • pysgod, wyau, cig a phroteinau eraill[5]

Mae’r dadansoddiad hefyd yn dangos bod y bwydydd hynny sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr yn profi’r gyfradd isaf o chwyddiant (8%), gyda ffrwythau a llysiau yn dilyn yn agos (9%). 

Ffigur 3: Canran y cynnydd cyfartalog mewn costau dros 12 mis o flwyddyn  i flwyddyn yn ystod 2022 ar gyfer categorïau’r Canllaw Bwyta’n Dda

Ffigur 3: Canran y cynnydd cyfartalog mewn costau dros 12 mis o flwyddyn i flwyddyn yn ystod 2022 ar gyfer categorïau’r Canllaw Bwyta’n Dda

Ffynhonnell:  Mynegai Prisiau Defnyddwyr y Swyddfa Ystadegau Gwladol gan gynnwys costau tai perchen-feddianwyr (CPIH) Ionawr 2022 - Rhagfyr 2022

Yn amlwg, dim ond rhan o’r stori y mae dadansoddi’r gwahaniaethau hyn yn ei rhoi i ni. Bydd ein gallu i addasu i unrhyw gynnydd mewn prisiau hefyd yn dibynnu ar ba mor rhad neu ddrud yw rhywbeth i ddechrau, yn ogystal â faint a pha mor aml rydym yn ei fwyta. Mae’r cynnydd mewn prisiau nwyddau fel pasta, wyau, llaeth a bara, yn fwy tebygol o effeithio ar gartrefi nag eitemau moethus neu achlysurol. 

O safbwynt bwyta’n iach, mae hefyd yn bwysig ystyried faint o gynhyrchion o fewn pob categori y mae angen i berson eu bwyta fel rhan o ddeiet cytbwys. Felly, er y gallwn weld nad yw prisiau ffrwythau a llysiau wedi codi mor uchel â chategorïau eraill, byddai angen i ddefnyddwyr brynu llawer mwy ohonynt os ydynt am fodloni canllawiau bwyta’n dda’r llywodraeth. 

Mae angen deall hyn oll yng nghyd-destun sefyllfa ariannol ehangach yr unigolyn. Mewn achosion lle mae cyllidebau personol pobl eisoes yn anghyson, fel y byddwn yn gweld, gall effeithiau personol y gwahanol gyfraddau chwyddiant hyn fod yn arbennig o heriol.

3.3 Faint rydym yn ei wario ar ein bwyd?

Mae faint y gwnaeth pobl ei wario ar fwyd yn gyffredinol yn 2022 yn adlewyrchu pa mor anodd y bu pethau i gartrefi yn ystod y flwyddyn honno. Wrth i brisiau bwyd godi’n sydyn, byddai’n naturiol tybio y byddai pobl yn gwario mwy ar fwyd. Mewn gwirionedd, gwelwyd y gwrthwyneb. Mae pwysau ariannol cynyddol mewn meysydd lle mae gan bobl lai o reolaeth dros yr hyn y maent yn ei wario (fel costau tai neu ynni) yn golygu bod gwariant ar fwyd yn y cartref wedi gostwng yn 2022, er bod cyfanswm gwariant cartrefi ei hun  wedi cynyddu[6]. 

Yn 2021, gwariodd y DU 9.5% (£120 biliwn) ar fwyd yn y cartref a diodydd heb alcohol ac 1.9% (£24 biliwn) ar ddiodydd alcoholaidd, a hynny allan o gyfanswm gwariant o £1,276 biliwn. Yn 2022, gwnaethom wario dros £8 biliwn yn llai (cyfanswm o £112 biliwn) ar fwyd a diodydd heb alcohol a £2 biliwn yn llai ar ddiodydd alcoholaidd (cyfanswm o £22 biliwn) o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Dyma ostyngiad o bron 6.9% a 9.6% yn y drefn honno[6]. 

Roedd canran yr incwm gwario a wariwyd ar fwyd y tu allan i’r cartref (bwytai a phrydau caffi, bwyd tecawê, arlwywyr contract, a ffreuturau) yn 2022 yn uwch nag yn 2021, ond 37% yn is na’r lefelau a welwyd cyn y pandemig (2019) ar draws yr holl grwpiau incwm. Er bod y gostyngiad anarferol o uchel mewn gwariant ar fwyd y tu allan i’r cartref yn 2021 wedi gwella ychydig yn 2022, mae’r duedd gyffredinol yn unol â defnyddwyr yn newid eu harferion gwario oherwydd y cynnydd mewn costau byw[6].

Dyma’r tro cyntaf mewn degawd i ni weld gostyngiad flwyddyn ar ôl blwyddyn yn yr hyn sy’n cael ei wario gan gartrefi ar fwyd a diod. Er bod yr hyn y mae cartrefi yn ei wario ar fwyd wedi codi’n arbennig o sydyn yn 2021, a hynny oherwydd yr amodau unigryw a brofwyd gennym yn ystod y pandemig COVID-19 yn ôl pob tebyg, rydym bellach yn gweld bod y gwariant yn dechrau dychwelyd i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig.

Mae rhai gwahaniaethau amlwg rhwng grwpiau incwm gwahanol. Wrth edrych ar faint o incwm gwario pobl a wariwyd ar fwyd yn y cartref (ffigur 4), gwelwn fod cartrefi ag incwm is wedi gwario mwy nag 16% o’u cyllideb wythnosol ar fwyd yn y cartref. Mewn cymhariaeth, mae cartrefi â’r incwm uchaf ond yn gwario 5% o’u cyllideb wythnosol ar fwyd yn y cartref.

Ceir arwydd o sut y gallai hyn fod yn effeithio ar allu rhai pobl i gael mynediad at fwyd iach yn Adroddiad y Sefydliad Bwyd, Broken Plate 2023. Yn ôl ei ddadansoddiad, sy’n cwmpasu 2021-2022, byddai angen i’r pumed tlotaf o gartrefi’r DU wario 50% o’u hincwm gwario ar fwyd i dalu am gost y deiet iach a argymhellir gan y Llywodraeth. Ar y llaw arall, dim ond 11% y byddai angen i’r pumed mwyaf cyfoethog ei wario. 

Ffigur 4: Canran incwm gwario cartrefi a wariwyd ar fwyd yn y cartref fesul degraddau incwm ym mlynyddoedd ariannol 2020-22

Ffigur 4: Canran incwm gwario cartrefi a wariwyd ar fwyd yn y cartref fesul degraddau incwm ym mlynyddoedd ariannol 2020-22

  • Mae pob degradd yn cynrychioli un rhan o ddeg (10%) o gartrefi’r DU. Mae’r wybodaeth ar gyfer y ddegradd isaf (neu gyntaf) yn cael ei chasglu’n wahanol i’r gweddill ac mae’n cynrychioli’r 20% o gartrefri yn y DU sydd â’r incwm isaf. Mae’r ddegradd uchaf yn cynrychioli’r 10% o gartrefi yn y DU sydd â’r incwm uchaf.

Ffynhonnell: Llyfr gwaith gwariant teuluol 1: gwariant manwl a thueddiadau  – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ffynhonnell: Effeithiau trethi a budd-daliadau ar incwm cartrefi – amcangyfrif incwm gwario  – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae hyn yn cymharu â 43% ar gyfer y pumed tlotaf a 10% ar gyfer y pumed mwyaf cyfoethog fel y nodwyd flwyddyn gynt yn adroddiad 2022. Mae hyn yn awgrymu ei bod wedi dod yn anoddach i’r cartrefi mwyaf difreintiedig fforddio deiet iach. Mae’r adroddiad diweddaraf hefyd yn awgrymu bod bwydydd iachach dros ddwywaith yn ddrytach fesul calorïau na bwydydd llai iach, sy’n ei gwneud hi’n fwy heriol byth i brynu a bwyta deiet iach.

Os byddwn yn ystyried y chwyddiant ychwanegol mewn prisiau a welwyd y llynedd, mae’n rhesymol dod i’r casgliad bod bwyta deiet iach bellach yn debygol o ofyn am gyfran uwch fyth o gyllidebau cartrefi incwm isel. A chyda chostau eraill nad ydynt yn ddewisol yn codi hefyd, mae hyn yn debygol o fod yn cyfrannu at ehangu’r anghydraddoldebau deietegol a allai effeithio ar y pwysau ar y GIG, sydd eisoes yn sylweddol.

Sut effeithiodd y cynnydd ym mhrisiau ar ein blaenoriaethau a’n hymddygiadau?

Cafodd yr amgylchedd ariannol ddylanwad cryf ar feddylfryd ac agweddau pobl tuag at fwyd  yn 2022.

Pan ofynnwyd iddynt am amrywiaeth o faterion yn ymwneud â bwyd, y cynnydd ym mhrisiau bwyd oedd y prif fater a oedd yn peri pryder i ddefnyddwyr ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon7. Ar gyfer y rhannau hyn o’r DU, dyma’r tro cyntaf yr adroddwyd am brisiau bwyd fel y prif bryder mwyaf cyffredin ers dechrau cofnodi’r data hwn yn 2020, gan ragori ar faterion eraill fel gwastraff bwyd, lles anifeiliaid a faint o fraster, siwgr neu halen sydd mewn bwyd. Yn yr Alban, prisiau bwyd oedd y prif bryder i ddefnyddwyr ym mis Rhagfyr 2021 ac arhosodd ar y brig trwy gydol 2022[8] (ffigur 6).

Ffigur 5: Y prif bryderon ynghylch bwyd a nodwyd gan ddefnyddwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Ffigur 5: Y prif bryderon ynghylch bwyd a nodwyd gan ddefnyddwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Ffynhonnell: Arolwg Bwyd a Chi 2 yr ASB, Cylch 3 (a gynhaliwyd Ebrill-Mehefin 2021) a Chylch 5 (a gynhaliwyd Ebrill-Gorffennaf 2022)

Ffigur 6: Y prif bryderon ynghylch bwyd a nodwyd gan ddefnyddwyr yn yr Alban

Ffigur 6: Y prif bryderon ynghylch bwyd a nodwyd gan ddefnyddwyr yn yr Alban

Ffynhonnell: Arolwg Tracio Defnyddwyr FSS ‘Food in Scotland’ Cylch 13(a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2021) a Chylch 15 (a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2022)

Wrth i bryderon cyffredinol am brisiau bwyd gynyddu, gwnaeth pryderon pobl am fforddiadwyedd bwyd gynyddu hefyd. Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, cyrhaeddodd pryderon ynghylch gallu fforddio bwyd i uchafbwynt o 40% ym mis Medi 2022, cyn gostwng ychydig yn ystod yr hydref a’r gaeaf. Er bod gwahaniaethau yn y ffordd y cafodd y data ei gasglu yn ei gwneud hi’n anodd cymharu’n uniongyrchol, mae’r data ar gyfer yr Alban yn dangos darlun tebyg. Unwaith eto, dywedodd tua 40% o oedolion eu bod yn poeni am allu fforddio digon o fwyd ym mis Rhagfyr 2022.

Mae’n ymddangos bod y pryderon ariannol hyn wedi effeithio ar sut roedd pobl yn siopa ac yn bwyta. Dywedodd llawer o ddefnyddwyr eu bod wedi cyfnewid eu hoff frandiau am ddewisiadau rhatach, gan newid y math o fwydydd roeddent yn eu bwyta, bwyta allan llai, ac archebu llai o brydau tecawê. Yn arolwg Bwyd a Chi 2 yr ASB, gofynnwyd i’r rhai a ddywedodd eu bod wedi newid eu harferion bwyta yn ystod y 12 mis diwethaf am y rheswm neu’r rhesymau dros wneud y newidiadau hyn. Yr ateb mwyaf cyffredin oedd rhesymau ariannol (69%), ac yn ail, bryderon iechyd (47%). Yn yr Alban, dywedodd dwy ran o dair (67%) o’r rheiny a ddywedodd eu bod wedi poeni am allu fforddio bwyd dros y 12 mis blaenorol eu bod wedi bwyta allan yn llai aml, a dywedodd 5% eu bod yn bwyta llai o fwyd tecawê.

Ymddygiadau cyfnewid bwyd

Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon - Dywedodd tua thraean o’r ymatebwyr eu bod wedi newid y bwyd roeddent yn ei brynu (34%) neu’r mannau lle maent yn prynu bwyd (33%) i ddewisiadau rhatach yn ystod y 12 mis diwethaf (Ebrill-Gorffennaf 2022)

Yr Alban - Dywedodd bron i hanner yr ymatebwyr (46%) eu bod wedi cyfnewid brandiau am ddewisiadau rhatach yn amlach ac roedd 37% wedi prynu bwyd am bris gostyngol yn amlach yn y 6 mis diwethaf (Rhagfyr 2022)

Cyfyngu ar brydau tecawê a bwyta allan yn llai aml

Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon - Dywedodd 47% o’r ymatebwyr eu bod wedi bwyta llai o fwyd allan, a dywedodd 41%  eu bod wedi bwyta llai o brydau tecawê yn ystod y 12 mis diwethaf, pan gynhaliwyd arolwg rhwng Ebrill a Gorffennaf 2022  (Bwyd a Chi 2, Cylch 5)

Yr Alban - Dywedodd dros hanner yr ymatebwyr (56%) yn yr Alban  eu bod wedi bwyta allan llai a dywedodd 50% eu bod wedi bwyta llai o brydau  tecawê yn ystod y chwe mis diwethaf  (Food in Scotland, Cylch 15)

Yn yr un modd, gwnaeth ymchwil fanwl gyda grwpiau ffocws a gynhaliwyd gan yr ASB ac FSS ddiwedd 2021 a dechrau 2022 archwilio profiadau go iawn defnyddwyr y DU, gan ddangos y newidiadau y gorfodwyd i lawer eu gwneud yn wyneb cyllidebau tyn. 

Mae’r ymchwil yn datgelu bod pwysau costau byw yn effeithio ar fwy na dim ond y grwpiau hynny â’r incwm isaf. Canfu fod pobl ar draws gwahanol grwpiau incwm yn cyfnewid brandiau premiwm am ddewisiadau rhatach neu’n defnyddio manwerthwyr rhatach yn lle eu harchfarchnad arferol. 

Roedd pobl hefyd yn meddwl bod bwyd o ansawdd uwch yn ddrutach ac yn teimlo bod prynu bwydydd rhatach yn golygu bod yn rhaid iddynt gyfaddawdu ar ansawdd bwyd,  iechyd a maeth. 

Ac eto, mae ymchwil arall yn awgrymu bod prisiau chynhyrchion brand y siop a brandiau rhatach wedi codi’n gyflymach na chynhyrchion wedi’u brandio. Mae dadansoddiad gan y corff gwarchod defnyddwyr Which? yn dangos bod prisiau cynhyrchion brand y siop a brandiau rhatach wedi codi dros 18% yn ystod 2022, o gymharu â 13% ar gyfer nwyddau wedi’u brandio. Er bod pris sylfaenol llawer o’r cynhyrchion hyn yn rhatach na brandiau premiwm, mae’r cynnydd yn debygol o gael effaith ariannol fwy ar y grwpiau mwyaf  agored i niwed.

Wrth i mi fynd yn hŷn, rydw i wir wedi sylwi pa mor erchyll yw bwyd rhatach. Hoffwn pe byddent yn gwerthu bwyd sy’n hygyrch i bawb fel y gallai pobl dlawd fwyta pethau fel eog er enghraifft… does dim amheuaeth y byddwch chi’n mynd yn sâl yn y pen draw, os ydych chi’n bwyta pethau rhad. – Menyw, person o gefndir ethnig cymysg, yn byw ar ei phen ei hun, wedi ymddeol, grŵp cymdeithasol: DE[9], cyflwr iechyd, Bryste ac Avon, Lloegr

Rwy’n ceisio prynu nwyddau sydd ar gynnig arbennig neu gynhyrchion disgownt aml-eitem. Mae hyn yn fy ngalluogi i brynu bwyd o ansawdd uwch am bris is. Dyma sut hoffwn i weld pethau’n newid – mae angen bargeinion a chynigion ar gyfer bwydydd iachach, nid bwydydd sothach.– Benyw, 35, grŵp cymdeithasol: C1[9], yr Alban

Mae ymchwil ansoddol yr ASB ac FSS yn cefnogi hyn. Mae’n dangos bod rhai cartrefi’n cyllidebu pob ceiniog yn ofalus i allu prynu bwyd, ac mae cynnydd cymharol fach ym mhrisiau bwyd i deuluoedd sydd eisoes dan bwysau aruthrol yn broblem fawr.

Os yw’n rhywbeth sydd ychydig yn ddrytach, byddwn i’n ei brynu fel trît bach, i gael y safon. Rwy’n hapus i dalu pris uwch i gael ansawdd da, ond erbyn hyn, yn yr hinsawdd bresennol, dydw i ddim yn meddwl bod yr ansawdd yn cyfateb i’r pris. Mae eitemau ansawdd is yn costio’r un pris ag eitemau ansawdd uchel erbyn hyn, ond dydyn ni ddim yn cael yr un ansawdd – Menyw, teulu gyda phlant dros 16 oed, grŵp economaidd-gymdeithasol uwch, Gogledd Iwerddon

3.4 Diffyg diogeledd bwyd

Beth mae hyn yn ei olygu’n ymarferol? Un o’r mesurau pwysicaf sy’n dangos sut mae hyn oll wedi effeithio ar ddeietau pobl a’u dewisiadau bwyd yw’r gyfran o gartrefi sydd bellach wedi’u dosbarthu fel rhai sydd â diffyg diogeledd bwyd. 

Mae ymchwil Bwyd a Chi 2 yr ASB yn defnyddio dull Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau (USDA) i fesur diogeledd bwyd oedolion: 

  • Mae diogeledd bwyd uchel yn golygu nad oes unrhyw arwyddion o broblemau neu gyfyngiadau o ran cael mynediad at fwyd.
  • Mae diogeledd bwyd ymylol yn golygu bod un neu ddau o arwyddion wedi’u nodi – fel arfer pryder o ran a oes digon o fwyd neu brinder bwyd yn y tŷ. Dim arwydd, neu ychydig arwydd, o newidiadau mewn deietau neu fwyta llai o fwyd.
  • Mae diogeledd bwyd isel yn golygu bod adroddiadau bod ansawdd, amrywiaeth neu ddymunoldeb deietau wedi lleihau, ond bod ychydig iawn o arwydd, os o gwbl, o leihau faint o fwyd sy’n cael ei fwyta.
  • Mae diogeledd bwyd isel iawn yn golygu bod adroddiadau o fwy nag un arwydd o darfu ar batrymau bwyta a llai o fwyd yn cael ei fwyta. 

Cyfeirir at y rhai sydd â lefelau uchel neu ymylol o ddiogeledd bwyd fel rhai sydd â diogeledd bwyd. Cyfeirir at bobl â lefelau isel neu isel iawn o ddiogeledd bwyd fel rhai sydd â diffyg diogeledd bwyd. 

Yn arolwg yr ASB a gynhaliwyd rhwng Ebrill a Gorffennaf 2022, canfuwyd bod:

  • un o bob pump (20%) o gartrefi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi’u dosbarthu fel rhai sydd â diffyg diogeledd bwyd, gyda thua hanner y rhain (neu un o bob deg cartref yn gyffredinol) wedi’u dosbarthu fel rhai sydd â diogeledd bwyd isel iawn.
  • 13% o gartrefi â diogeledd bwyd ymylol. 

Dyma’r lefel uchaf o ddiffyg diogeledd bwyd mewn cartrefi a nodwyd ers dechrau  ei gofnodi yn 2016[10].

Ceir diogeledd bwyd pan fo gan bawb, ar bob adeg, fynediad ffisegol ac economaidd at fwyd digonol, diogel a maethlon sy’n bodloni eu hanghenion deietegol a’u dewisiadau bwyd ar gyfer byw bywyd bywiog ac iach – Uwchgynhadledd Bwyd y Byd, 1996

Mae’r dystiolaeth hefyd yn dangos bod rhai grwpiau mewn mwy o berygl o brofi diffyg diogeledd bwyd nag eraill (ffigur 7). Er enghraifft, yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon mae’r rhai sydd â chyflwr iechyd hirdymor bron ddwywaith yn fwy tebygol o fod â diffyg diogeledd bwyd na’r rhai heb gyflwr iechyd hirdymor.

Mae grwpiau eraill sy’n fwy tebygol o ddweud bod ganddynt ddiffyg diogeledd bwyd yn cynnwys oedolion iau, cartrefi â phlant o dan 16 oed, a chartrefi di-waith neu incwm isel. Mae pobl ag alergeddau bwyd hefyd yn fwy tebygol o ddweud bod ganddynt ddiffyg diogeledd bwyd, ac mae ymchwil diweddar gan yr ASB yn dangos bod oedolion ag alergedd bwyd yn gwario mwy ar fwyd ar gyfartaledd o gymharu â phobl heb alergedd bwyd.

Ac mae amrywiad rhanbarthol sylweddol hefyd: mae 25% o’r rheiny yng Ngogledd-orllewin Lloegr a 25% o’r rheiny yn Swydd Efrog a’r Humber â diffyg diogeledd bwyd, o gymharu â 13% o’r rheiny yn Ne-ddwyrain Lloegr a 15% o’r rheiny yn Ne-orllewin Lloegr. 

Ffigur 7: Pwy sydd fwyaf agored i ddiffyg diogeledd bwyd? 

Ffigur 7: Pwy sydd fwyaf agored i ddiffyg diogeledd bwyd?

Er mwyn rhoi syniad o’r effaith y mae hyn yn ei chael ar fywydau pobl, mae data tracio misol yr ASB yn dangos bod cyfran yr oedolion sy’n hepgor prydau bwyd neu’n lleihau maint prydau oherwydd nad oedd ganddynt ddigon o arian i brynu bwyd wedi codi yn ystod 2022 (ffigur 8). Ar gyfartaledd, gwnaeth 26% o bobl hynny yn 2022, o gymharu ag 20% yn 2021[11]. Yn yr Alban, gwnaeth 22% o oedolion hepgor pryd o fwyd oherwydd diffyg arian yn 2022, o gymharu ag 20% yn 2021. 

Ffigur 8: Cyfran yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi lleihau maint dognau / hepgor prydau oherwydd arian [ffigurau’r ASB ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon]

Ffigur 8: Cyfran yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi lleihau maint dognau / hepgor prydau oherwydd arian [ffigurau’r ASB ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon]

Defnyddir ‘’ i nodi misoedd sydd â gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol i’r mis blaenorol.

3.5 Yr effaith ar iechyd a deiet y boblogaeth 

Fel y nodwyd yn adroddiad y llynedd, ers degawdau mae ein deiet wedi cynnwys gormod  o halen, braster dirlawn a siwgrau rhydd[12], a dim digon o bysgod olewog, ffrwythau a llysiau  a ffeibr. Adlewyrchir y canfyddiadau hyn hefyd yn Arolwg Iechyd diweddaraf yr Alban ar gyfer 2021 (ffigur 9). 

Ffigur 9: Canfyddiadau allweddol o Arolwg Iechyd yr Alban 2021

Ffigur 9: Canfyddiadau allweddol o Arolwg Iechyd yr Alban 2021

Ffynhonnell: Arolwg Iechyd yr Alban 2021

IMae’n rhy fuan i ddweud beth fydd effaith pwysau costau byw ar ein dewisiadau deietegol. Mae hyn yn bennaf oherwydd nad oes gennym y data diweddaraf o’r Arolwg Cenedlaethol o Ddeiet  a Maeth, sef y ffynhonnell ddata fwyaf cynhwysfawr am y mathau a’r meintiau o fwyd a fwyteir  yn y DU. 

Yr hyn yr ydym yn ei wybod o ymchwil a gynhaliwyd yn gynnar yn 2022 yw bod y rhan fwyaf o bobl (70%) yn teimlo’n hyderus eu bod yn gwybod beth yw deiet iachus, maethlon. Roedd hyn fel arfer yn gysylltiedig â bwyd ffres, heb ei brosesu’n fawr, sy’n cynnig amrywiaeth dda o faetholion. Roedd y rhain yn cynnwys ffrwythau a llysiau, hanfodion traddodiadol fel llaeth a bara, a chig o ansawdd da. Mewn cyferbyniad, ystyriwyd bod bwydydd afiach wedi’u prosesu’n fwy, ac yn cynnwys mwy o ychwanegion, braster dirlawn, siwgr a halen. Mae’n bosib bod pobl yn teimlo ei bod hi’n fwyfwy anodd bwyta deiet iach yn yr amgylchedd economaidd presennol. 

Pan ofynnwyd iddynt am eu pryderon am ddyfodol bwyd dros y tair blynedd nesaf, dywedodd oddeutu dwy ran o dair (68%) o’r ymatebwyr eu bod yn poeni am gost bwyd iachus[13]; roedd 53% yn teimlo na allent fforddio prynu bwydydd iachus[14]; a dywedodd 31% eu bod yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i fwyd ffres y gallent eu fforddio fel rhan o’u cyllideb (er enghraifft, ffrwythau, llysiau, cig)[15].

Roedd pryderon am y gallu i gael mynediad at fwyd iachus yn cael eu nodi amlaf gan bobl mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol is, y rheiny ar incwm is, pobl sy’n byw sydd â diffyg diogeledd bwyd, grwpiau lleiafrifoedd ethnig, cartrefi mwy, teuluoedd iau ac oedolion iau (1844 oed) heb blant sy’n byw ar eu pennau eu hunain neu gyda phartner. 

I mi, mae bod yn iach yn golygu bwyta ffrwythau a llysiau ynghyd â phrydau iachus wedi’u coginio’n ffres bob dydd – Menyw, teulu â phlant, grŵp economaidd-gymdeithasol is, Lloegr

Rwy’n poeni am fforddiadwyedd bwyd – a hynny yn wyneb chwyddiant a dim codiadau i gyflogau gweithwyr. Rwy’n poeni am fethu bwydo fy nheulu’n iawn. Gorfod dibynnu ar fwyd afiach a allai beryglu ein hiechyd. – Menyw, teulu â phlant, grŵp economaidd-gymdeithasol is, Lloegr

I ba raddau y mae’r pryderon hyn yn dylanwadu ar yr hyn sy’n cael ei roi ym masgedi siopa pobl? Mae data prynu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer 2022 yn dangos, er i ni wario llai ar fwyd yn y cartref nag yn y blynyddoedd blaenorol, fod y gostyngiad mewn gwariant wedi’i wasgaru’n gymharol gyfartal ar draws cig, ffrwythau a llysiau a nwyddau llawn siwgr. Mae hyn yn awgrymu na fu unrhyw wahaniaeth sylweddol yn y ffordd yr ydym yn rhannu ein gwariant rhwng categorïau bwyd gwahanol. 

Beth am “ansawdd” canfyddedig y bwyd rydym yn ei brynu? Rydym eisoes wedi dangos tystiolaeth bod defnyddwyr yn newid i ddewisiadau rhatach fel brandiau’r siop neu gynhyrchion brandiau rhatach, yn lleihau maint/nifer y dognau neu’n lleihau faint maen nhw’n ei wario ar gynhyrchion premiwm i allu talu am nwyddau’r cartref. Fodd bynnag, er y gallai hyn deimlo fel gostyngiad yn ansawdd canfyddedig – neu ddymunoldeb – ein bwyd, yr hyn nad ydym yn  ei wybod eto yw a yw’r uchod i gyd wedi cael unrhyw effaith ar werth maethol yr hyn rydym  yn ei fwyta.

3.6 Diogelwch bwyd a phwysau costau byw 

Mae’r pwysau ariannol a welwyd yn ystod 2022 hefyd wedi newid y ffordd y mae pobl yn storio ac yn coginio eu bwyd, a dyma fydd y canlyniad olaf y canolbwyntir arni yn yr adroddiad hwn. Dechreuodd yr ASB fonitro ymddygiad defnyddwyr o ran storio a choginio bwyd yn fisol o fis Medi 2022 (gweler ffigur 10). Gofynnodd FSS gwestiwn tebyg i ddefnyddwyr ym mis Rhagfyr 2022, gan ofyn i ymatebwyr ystyried y chwe mis blaenorol (ffigur 11). 

Roedd rhai o’r ymddygiadau hyn yn cynnwys defnyddio gwahanol ddulliau coginio – er enghraifft, ym mis Medi 2022, dywedodd tua chwech o bob deg o bobl (59%) yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon eu bod yn defnyddio dulliau coginio rhatach (fel ffrïwyr aer, poptai microdon, neu boptai pwyll) yn lle poptai traddodiadol i gynhesu bwyd fel ffordd o arbed arian. Yn yr Alban, dywedodd 45% eu bod wedi newid eu dulliau coginio dros y chwe mis hyd at fis Rhagfyr 2022. 

Fodd bynnag, soniodd cyfran lai o bobl am ymddygiadau a allai cynyddu risg gwenwyn bwyd, gan gynnwys lleihau’r amser yr oedd bwyd yn cael ei goginio, gostwng y tymheredd coginio, newid gosodiadau’r oergell neu’r rhewgell, neu hyd yn oed diffodd y peiriannau hyn i leihau costau trydan. 

Gwelsom hefyd rywfaint o dystiolaeth bod defnyddwyr yn bwyta bwyd sydd wedi mynd heibio ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’. Roedd hyn ar ei uchaf ym mis Hydref 2022 pan ddywedodd traean o ddefnyddwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon eu bod yn gwneud hyn (ffigur 12). 

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, roedd pob un o’r ymddygiadau hyn yn lleihau ym mis Tachwedd 2022, gan gyd-fynd â chyflwyniad y Cynllun Cymorth Biliau Ynni, a thaliadau Costau Byw mis Tachwedd (i gartrefi cymwys). Er na allwn brofi’r achos, mae’n bosib bod y cynlluniau hyn wedi cyfrannu at y gostyngiad a welwyd. 

Ffigur 10: Newidiadau i arferion storio bwyd a choginio defnyddwyr  yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Ffigur 10: Newidiadau i arferion storio bwyd a choginio defnyddwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Defnyddir ‘’ i nodi misoedd sydd â gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol i’r mis blaenorol.
Ffynhonnell: Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr yr ASB (Medi 2022 - Mawrth 2023)

Ffigur 11: Pethau y mae pobl wedi’u gwneud yn yr Alban i arbed arian yn ystod y 6 mis diwethaf

Ffigur 11: Pethau y mae pobl wedi’u gwneud yn yr Alban i arbed arian yn ystod y 6 mis diwethaf

Ffynhonnell: Arolwg Tracio Defnyddwyr ‘Food in Scotland’, Cylch 15, Rhagfyr 2022(Opens in a new window)

Ffigur 12: Newidiadau pellach a wnaed gan ddefnyddwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i arbed arian

Ffigur 12: Newidiadau pellach a wnaed gan ddefnyddwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i arbed arian

Defnyddir ‘’ i nodi misoedd sydd â gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol i’r mis blaenorol.

Ffynhonnell: Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr yr ASB (Medi 2022 - Mawrth 2023)

3.7 I grynhoi

Cynyddodd cost bwyd 11% ar gyfartaledd yn ystod 2022, a gwelwyd y cynnydd mwyaf sydyn ym mhrisiau cynhyrchion fel olew a thaeniadau, cynhyrchion llaeth a dewisiadau eraill heb gynnwys cynnyrch llaeth, pysgod, wyau, cig a phroteinau eraill. Roedd prisiau bwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr yn cynyddu ar raddfa lai na llawer o nwyddau eraill.

Fodd bynnag, mae ein dadansoddiad o’r data am arferion prynu pobl yn awgrymu na fu unrhyw newid sylweddol yn y ffordd yr ydym yn rhannu ein gwariant rhwng categorïau bwyd gwahanol. Gostyngodd faint sy’n cael ei wario’n gyffredinol ar fwyd yn y cartref ychydig y llynedd hefyd – y gostyngiad cyntaf o un flwyddyn i’r llall ers dros ddegawd.

Prisiau bwyd oedd y prif bryder bwyd i ddefnyddwyr yn y DU yn 2022, gan ragori ar yr holl bryderon eraill mewn perthynas â bwyd am y tro cyntaf ers i arolygon yr ASB/FSS ddechrau cael eu cynnal. Roedd nifer llai ond sylweddol o bobl yn poeni am allu fforddio bwyd. Dywedodd pobl hefyd eu bod wedi gwneud newidiadau i beth a ble roedden nhw’n ei fwyta drwy gydol 2022. Roedd hyn yn cynnwys newid yr hyn y gwnaethon nhw ei brynu neu ble roedden nhw’n siopa, cyfnewid eitemau premiwm neu foethus am ddewisiadau rhatach, bwyta allan llai, ac archebu llai o fwyd tecawê i geisio lleihau costau.

Cododd nifer y cartrefi a nododd fod ganddynt ddiffyg diogeledd bwyd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i 20%. Dyma’r lefel uchaf ers dechrau olrhain yn 2016, gyda 13% pellach o gartrefi yn nodi bod ganddynt ddiogeledd bwyd ymylol. Mae hyn yn awgrymu bod hyd at draean o’r holl gartrefi’n poeni am gael digon o fwyd i’w fwyta. Mae un o bob deg cartref â diogeledd bwyd isel iawn, gydag arwydd o darfu ar batrymau bwyta a llai o fwyd yn cael ei fwyta. Gwelwyd tuedd debyg yn yr Alban. Roedd 40% o oedolion yn poeni am allu fforddio bwyd ym mis Rhagfyr 2022, o gymharu â 17% ym mis Gorffennaf 2020.

Mae oddeutu dwy ran o dair o bobl yn poeni am gost bwyd iachus dros y tair blynedd nesaf, ac mae mwy na hanner yn teimlo na allant fforddio bwyta’n iach. Trwy ein hymchwil, mae defnyddwyr wedi dweud eu bod yn gorfod cyfaddawdu ar ansawdd canfyddedig eu bwyd. Bydd cyhoeddiad yr Arolwg Cenedlaethol o Ddeiet a Maeth ar gyfer 2022 yn ein helpu i ddeall a yw hyn yn arwain at unrhyw newidiadau ystyrlon yn ein deiet. Fodd bynnag, bydd yn cymryd mwy o amser i unrhyw newidiadau i iechyd ddod i’r amlwg.

4. Safbwynt byd-eang

Mae’r bennod hon yn edrych ar ble y cawsom ein bwyd a’n bwyd anifeiliaid yn 2022, a pha effaith y gallai’r tarfu ar y system fwyd fod wedi’i chael ar safonau bwyd.

4.1 Safonau bwyd a bwyd anifeiliaid a gaiff eu mewnforio 

4.2 Cipolwg

Yn y bennod hon, rydym yn ystyried y canlynol:

  • Ein patrwm o ran mewnforion bwyd a sut y newidiodd hyn yn ystod 2022 
  • Diogelwch ein mewnforion yn seiliedig ar ddata a gesglir ar y ffin 
  • Cytundebau masnach rydd wrth i’r DU ddatblygu  partneriaethau masnachu ffurfiol newydd

4.3 Cyflwyniad 

Mae bwyd yn fusnes byd-eang. Mae rhwydweithiau masnachu soffistigedig yn cefnogi’r ystod eang o gynnyrch ffres sydd ar gael yn ein siopau, ac yn rhoi mynediad fforddiadwy i gwmnïoedd at nwyddau crai – gan gynnwys grawn, olew coginio, siwgr a halen – sy’n angenrheidiol i weithgynhyrchu nwyddau. 

Eto, gyda mwy na dwy ran o bump (42%)[16] o’n bwyd yn dod o dramor, gall unrhyw darfu ar fewnforion arwain at ganlyniadau difrifol i ddefnyddwyr a’r busnesau sy’n dibynnu ar fynediad sefydlog at gyflenwadau bwyd byd-eang. Yn yr un modd, mae’n rhaid i bartneriaid masnachu’r DU fod â hyder yn y bwyd rydym yn ei allforio, gan gynnwys y cynhwysion y gallem fod wedi’u mewnforio at ddibenion cynhyrchu bwyd yn y DU. Felly, mae cynnal diogelwch a safonau’r bwydydd a gaiff eu mewnforio yn hynod bwysig. 

Mae’r bennod hon yn trafod o ble daeth ein bwyd a bwyd anifeiliaid y DU yn 2022, a pha effaith y gallai’r tarfu ar y system fwyd fod wedi’i chael ar safonau bwyd. Mae’n nodi pa wiriadau y mae rheoleiddwyr wedi’u cynnal ar fwyd a fewnforir, yr hyn y maent wedi’i ganfod, a pha fesurau diogelu newydd a roddwyd ar waith o ganlyniad i ymadael â’r UE. Rydym hefyd yn edrych ar yr hyn y gall ein data rheoli ar y ffin ei ddweud wrthym ynghylch a yw diogelwch a dilysrwydd cyffredinol ein bwyd a fewnforir yn cael eu cynnal. 

4.4 Tirwedd mewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n newid

Yn 2022, roedd mewnforion wedi parhau i fod yn bwysig i sector bwyd y DU, wrth i lefelau ddychwelyd i’r niferoedd cyn y pandemig. Daeth cyfanswm o 218 miliwn yn fwy o dunelli o fwyd a bwyd anifeiliaid a fewnforir i’r wlad yn ystod 2022 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol (sef cynnydd o 5.6%), gyda’n mewnforion felly’n dychwelyd i’r lefelau cyfartalog a welwyd dros y saith mlynedd blaenorol (ffigurau 13 a 14)[17].

Ffigur 13: Cyfanswm mewnforion y DU o’r holl fwyd a bwyd anifeiliaid, 2014-2022

Ffigur 13: Cyfanswm mewnforion y DU o’r holl fwyd a bwyd anifeiliaid, 2014-2022

Ffigur 14: Newid canrannol blynyddol yng nghyfanswm cyfaint mewnforion y DU

Ffigur 14: Newid canrannol blynyddol yng nghyfanswm cyfaint mewnforion y DU

Rydym hefyd yn parhau i gael y rhan fwyaf o’n bwyd a’n bwyd anifeiliaid o nifer o’r un gwledydd â chyn y pandemig. Ychydig iawn o newid a fu yn y 10 prif wlad y mae’r DU yn mewnforio ohonynt (ffigur 15), a’r unig eithriad yw rhywfaint o amrywiad mewn masnach â phartneriaid  yn Ne America. 

Fodd bynnag, ceir mwy o anwadalrwydd (volatility) ymhellach i lawr y rhestr. Mae ffigur 16 yn dangos bod y rhyfel yn Wcráin wedi gwrthdroi’n gyfan gwbl, bron, y cynnydd mewn mewnforion o Rwsia ac Wcráin a welwyd ers 2014. Ynghyd â llai o fewnforion o Latfia a Lithwania, mewnforiodd y DU tua miliwn tunnell yn llai o gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid o’r pedair gwlad hyn yn 2022 o gymharu â 2021. 

Ffigur 15: Y 10 gwlad â’r cyfeintiau mewnforio uchaf ar gyfer 2022

Enw Gwlad Cyfaint y mewnforion yn 2022 (miliwn kg) Newid o flwyddyn i flwyddyn Safle 2022* Gwahaniaeth yn y safle
Yr Iseldiroedd** 5,521 33% 1 (1) Dim newid
Ffrainc 3,769 26% 2 (3) +1
Iwerddon 3,349 -3% 3 (2) -1
Gwlad Belg 2,875 24% 4 (5) +1
Sbaen 2,467 -3% 5 (4) -1
Yr Almaen 2,077 -1% 6 (6) Dim newid
Yr Eidal 2,038 -1% 7 (8) +1
Brasil 1,784 65% 8 (13) +5
Gwlad Pwyl 1,617 2% 9 (9) Dim newid
Yr Ariannin 1,523 -26% 10 (7) -3
  • Mae safle 2021 mewn cromfachau. 

** Mae mewnforion o’r Iseldiroedd yn adlewyrchu effaith Rotterdam  fel canolbwynt byd-eang ar gyfer cludo nwyddau.

Ffigur 16: Newidiadau mewn gwerthoedd mewnforio ar draws gwledydd dethol

Enw’r wlad (safle) Cyfaint y mewnforion yn 2021 (miliwn kg) Cyfaint y mewnforion yn 2022 (miliwn kg) Newid canrannol yn y cyfaint o 2021 i 2022 Twf mewn mewnforion cyn y rhyfel (2014 i 2021)
Bwlgaria (46) 70 119 70% 120%
Estonia (62) 133 44 -67% 84%
Latfia (35) 296 169 -43% 41%
Lithwania (30) 347 248 -29% 96%
Romania (19) 102 451 340% 8%
Rwsia (55) 173 70 -60% 16%
Twrci (16) 555 562 1% 49%
Wcráin 1,175 474 -60% 87%
         

Mewn cyferbyniad, bu cynnydd sydyn mewn mewnforion o wledydd eraill De-ddwyrain Ewrop, er o sylfaen is, gan gynnwys cynnydd o 340% mewn cyfeintiau mewnforio o Rwmania a chynnydd o 70% mewn cyfeintiau mewnforio o Fwlgaria o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae Rwmania felly wedi codi o fod yn safle 48 ar y rhestr o’r gwledydd a fewnforiodd fwyaf yn 2021 i fod yn un o 20 o brif gyflenwyr bwyd y DU yn 2022 (safle 19 ar y rhestr ar hyn o bryd) (ffigur 16). Mae’n arferol gweld rhywfaint o anwadalrwydd yn llif nwyddau i’r DU wrth i fewnforwyr ymateb i amodau cyfnewidiol y farchnad.

4.5 Newidiadau mewn nwyddau

Mae ein data ar fewnforion bwyd wedi’i rannu yn ôl tri phrif fath o nwydd: Cynhyrchion sy’n Dod o Anifeiliaid (POAO), sy’n cynnwys cig, wyau, pysgod a chynhyrchion llaeth; Bwyd nad yw’n Dod o Anifeiliaid (FNAO), sy’n cynnwys diodydd, grawnfwydydd, llysiau a ffrwythau; a Bwyd Anifeiliaid. Yn gyffredinol, rydym yn priodoli lefel uwch o risg diogelwch bwyd i POAO,  er bod FNAO yn peri risgiau hefyd, fel afflatocsinau mewn cnau (gweler isod, t.51) 

Mae ffigur 17 yn dangos cyfanswm y mewnforion yn 2022 wedi’u rhannu yn ôl y categorïau hyn. Mae’n dangos bod FNAO yn cyfrif am y rhan fwyaf o’n mewnforion bwyd yn ôl pwysau, tra bod POAO a mewnforion bwyd anifeiliaid yn debyg i’w gilydd yn ôl pwysau. Rydym yn mewnforio cyfran uwch o POAO na FNAO neu fwyd anifeiliaid o’r UE, er bod yr UE yn darparu mwy na hanner o bob grŵp.

Ffigur 17: Cyfanswm cyfaint mewnforion wedi’i rannu yn ôl y prif gategorïau POAO,  FNAO a Bwyd Anifeiliaid

Categori mewnforio Cyfanswm yn 2022 (tunelli) Newid  yn y cyfaint 2019-2022 Newid  yn y cyfaint 2021-2022 Cyfran yr  UE 2022
Cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO) 7,000,000 -5% 10% 80%
Bwyd nad yw’n dod o anifeiliaid (FNAO) 29,000,000 -1% 7% 64%
Bwyd anifeiliaid 6,000,000 -13% -7% 51%
Cyfanswm 42,000,000 -4% 6% 65%

Nodyn: Mae’r tabl uchod yn cyfeirio at ddau gyfnod er mwyn dangos newid cymharol yn erbyn yr hyn y gellid ei ystyried yn gyfnod mwy sefydlog (2019), ac yna newid o flwyddyn i flwyddyn (2021) yn sgil effeithiau ymadael â’r UE a’r pandemig.

4.6 Pa mor ddiogel yw bwyd a bwyd anifeiliaid a fewnforir?

Rhaid i’r bwyd rydyn ni’n ei fewnforio fod yn ddiogel. Dyma un o’r rhesymau pam mae’n hollbwysig cynnal rheolaethau effeithiol ar y ffin ar gyfer yr holl fwydydd a gaiff eu mewnforio, gan gynnwys y cynhyrchion sy’n dod o aelod-wladwriaethau’r UE. Fel yr ydym wedi gweld, mae’r UE yn dal i ddarparu dwy ran o dair o’r holl fewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid, ac 80% o’r holl gig a chynhyrchion eraill sy’n dod o anifeiliaid (ffigur 17).

Mae’r holl gynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid a fewnforir o’r tu allan i’r UE yn destun cyfres o wiriadau i sicrhau eu bod yn ddiogel. Mae’r math o wiriadau yn dibynnu ar y math o gynnyrch a lefel y risg bosib i iechyd y cyhoedd, anifeiliaid a phlanhigion. 

Ar hyn o bryd, mae’r holl fwyd a bwyd anifeiliaid sy’n dod o anifeiliaid sy’n dod o’r tu allan i’r UE yn destun gwiriadau dogfennol (sy’n cadarnhau bod dogfennau priodol yn cael eu darparu) a gwiriadau adnabod (sy’n cadarnhau bod y cynnyrch yn cyd-fynd â’r ddogfennaeth). Cynhelir gwiriadau ffisegol ychwanegol ar hap, a hynny ar ganran a bennir ymlaen llaw. 

Yn gyffredinol, ystyrir bod bwydydd FNAO yn peri risg isel. Pan nodir risgiau penodol – er enghraifft, os yw samplu yn nodi risg annodweddiadol o wlad benodol neu mewn perthynas â nwydd penodol y mae angen gosod rheolaethau ychwanegol arno – caiff y nwyddau dan sylw eu dosbarthu fel risg uchel a byddant yn destun rheolaethau priodol. 

O dan y trefniadau gweithredu presennol ar gyfer Gogledd Iwerddon, bydd cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid a fewnforir i Ogledd Iwerddon yn parhau i ddilyn rheolau’r UE. O hydref 2023 ymlaen, bydd Fframwaith Windsor yn caniatáu i safonau Prydain Fawr ar gyfer iechyd y cyhoedd, marchnata (gan gynnwys labelu) a deunyddiau organig wneud cais am symud nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw trwy gynllun symud nwyddau manwerthu newydd Gogledd Iwerddon a’u gosod ar y farchnad yno. Felly, bydd nwyddau sy’n symud drwy’r llwybr hwn sy’n cynnwys cynhyrchion sy’n destun rheolaethau mewnforio ym Mhrydain Fawr yn gallu cael eu rhoi ar y farchnad Gogledd Iwerddon. 

Mae ffigur 18 yn dangos bod y mwyafrif helaeth o nwyddau nad ydynt yn dod o’r UE yn cydymffurfio ar draws y tri gwiriad hyn (dogfennol, adnabod a ffisegol), heb unrhyw newidiadau amlwg yn erbyn y mesurau hyn. Mae hyn yn awgrymu nad yw’r risg i ddefnyddwyr o lwythi nad ydynt yn cydymffurfio o wledydd y tu allan i’r UE wedi cynyddu. 

Mae’r sefyllfa’n llai eglur ar gyfer cynhyrchion sy’n dod i mewn o aelod-wladwriaethau’r UE. Hyd nes y bydd y rheolaethau mewnforio newydd a ddiffinnir gan y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau yn cael eu cyflwyno’n raddol, nid yw rheolaethau’r ffin yn gymwys i gynhyrchion sy’n tarddu o’r UE sy’n dod i mewn i’r DU. Er hyn, cyflwynwyd gofyniad newydd i fewnforwyr roi gwybod i awdurdodau’r ffin ymlaen llaw am lwythi o nwyddau risg uchel (o holl wledydd yr UE ac eithrio Iwerddon) ar 1 Ionawr 2022. 

Ar gyfer y cyfnod a gwmpesir gan yr adroddiad hwn, felly, nid oedd unrhyw reolaethau mewnforio yn cael eu cymhwyso’n rheolaidd ar y ffin ar gyfer cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid yr UE. Er bod y tebygolrwydd bod unrhyw gynnydd sylweddol mewn risg yn isel, mae hyn yn golygu nad yw’r ASB  nac FSS yn gallu dweud sut mae risg diogelwch bwyd i gynhyrchion yr UE wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf. 

Ffigur 18: Canran y llwythi o weddill y byd a fethodd gwiriadau mewnforio ym Mhrydain Fawr, 2021-22

Gwiriadau dogfennol

Math o lwyth 2021 2022
Cig a chynhyrchion anifeiliaid eraill (POAO) 0.91% 0.91%
Bwydydd risg uchel eraill (HRFANO) 0.54% 0.31%
Pob llwyth 0.84% 0.78%

Gwiriadau adnabod

Math o lwyth 2021 2022
Cig a chynhyrchion anifeiliaid eraill (POAO) 0.84% 0.63%
Bwydydd risg uchel eraill (HRFANO) 1.94% 1.16%
Pob llwyth 0.87% 0.65%

Gwiriadau ffisegol

Math o lwyth 2021 2022
Cig a chynhyrchion anifeiliaid eraill (POAO) Ddim ar gael* Ddim ar gael*
Bwydydd risg uchel eraill (HRFANO) 4.31% 2.60%
Pob llwyth (NA) (NA)

Samplu (fel rhan o wiriad ffisegol)

Math o lwyth 2021 2022
Cig a chynhyrchion anifeiliaid eraill (POAO) 0.99% 0.93%**
Bwydydd risg uchel eraill (HRFANO) 4.78% 4.13%
Pob llwyth 2.76% 2.44%
  • Ers  ymadael â’r UE a symud i’r system Mewnforio Cynhyrchion, Anifeiliaid, Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (IPAFFS), dim ond canlyniad y gwiriadau samplu a gynhaliwyd sy’n cael eu cofnodi gan y system, a’r canlyniadau hynny a gynrychiolir gan y ffigurau a welir uchod.

**21 canlyniad heb eu cadarnhau eto, o fwy na 1,000.

5. Newidiadau i ddynodiad bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid

Fel y soniwyd eisoes, mae’r DU yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar risg o ran gwiriadau ar y ffin ar fwyd a fewnforir. Mae pob cynnyrch anifeiliaid yn destun gwiriadau, yn ogystal â rhai bwydydd nad ydynt yn dod o anifeiliaid. Gall rhai cynhyrchion nad ydynt yn dod o anifeiliaid beri risg i iechyd y cyhoedd oherwydd halogiad posib â phlaladdwyr, tocsinau sy’n digwydd yn naturiol (afflatocsinau), metelau trwm neu ficrobau niweidiol fel Salmonela. Gall y risgiau hyn newid yn gyflym oherwydd ffactorau fel y tywydd, arferion ffermio a thechnegau cynhyrchu, a gallant amrywio rhwng gwahanol wledydd tarddiad. 

Mae ymadawiad y DU â’r UE yn golygu bod gan yr ASB ac FSS bellach gyfrifoldebau i dargedu risgiau penodol i ddefnyddwyr trwy asesu a diwygio’r rhestr o bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid (HRFNAO) ym Mhrydain Fawr. Rydym wedi cynnal gwaith dadansoddi newydd i helpu i wneud y rhestr yn fwy perthnasol i’r bwyd rydym yn ei fwyta, ac asesu’r risgiau cysylltiedig. 

O ganlyniad, yn ystod 2022 rhoddodd yr ASB ac FSS gyngor i weinidogion i ychwanegu pum math o gynnyrch newydd at y rhestr bresennol o HRFNAOs ac i gynyddu lefelau gwirio ar gyfer 13 arall. Roedd nifer o’r ychwanegiadau at y rhestr yn deillio o bryderon ynghylch presenoldeb gweddillion plaladdwyr, a allai fod yn rhannol oherwydd yr amodau sych iawn a brofwyd mewn rhai gwledydd, gan adael mwy o weddillion ar gnydau. 

Mae ehangu’r ystod o nwyddau HRFNAO yr ydym yn eu rheoli ar y ffin yn cynyddu ein dealltwriaeth o gydymffurfiaeth y gwledydd sy’n allforio â’n gofynion diogelwch bwyd, a gall hyn fod yn defnyddiol ar gyfer unrhyw asesiadau risg yn y dyfodol. Mae hefyd yn anfon neges bwerus i wledydd sy’n allforio bod ein rheolaethau yn gadarn ac y byddwn yn targedu mewnforion nad ydynt yn cydymffurfio ar y ffin. 

Rhoddodd yr ASB ac FSS gyngor hefyd i weinidogion y dylid tynnu tri chynnyrch oddi ar y rhestr yn gyfan gwbl yn dilyn asesiad risg a ddangosodd eu bod yn cydymffurfio, ac nad ydynt bellach yn peri risg i iechyd y cyhoedd. Yn ogystal, rydym wedi cynnal llai o arolygiadau ar bum cynnyrch arall gan fod y risgiau cysylltiedig bellach yn llai tebygol o achosi niwed. Mae’r rhain wedi’u nodi yn ffigur 19. 

Figure 19: Newidiadau i ddynodiad bwydydd risg uchel

Nwyddau HRFNAO a fewnforir sydd wedi’u hasesu o ran risg a’u tynnu o reolaethau ar y ffin gan eu bod yn cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd wedi’i fewnforio ac nad ydynt bellach yn peri risg i iechyd y cyhoedd.

Nwydd Gwlad Perygl
Aeron goji Tsieina Gweddillion plaladdwyr
Grawnwin sych Twrci Ocratocsin A
Cnau pistachio UDA Afflatocsinau

Nwyddau HRFNAO a fewnforir sy’n parhau i fod yn destun rheolaethau, ond rydym wedi nodi lleihad mewn risg / gwelliannau o ran cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd a fewnforir. 

Nwydd Gwlad Perygl
Cnau daear Brasil Afflatocsinau
Cnau daear Tsieina Afflatocsinau
Cnau cyll Twrci Afflatocsinau
Dail betel (Piper betle) Bangladesh Salmonela
Cnau cyll Georgia Afflatocsinau

Nwyddau FNAO a fewnforir sydd wedi’u hasesu o ran risg a’u tynnu o reolaethau ar y ffin gan eu bod yn cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd wedi’i fewnforio ac nad ydynt bellach yn peri risg i iechyd y cyhoedd.

Nwydd Gwlad Perygl
Cnau daear Brasil Gweddillion plaladdwyr
Lemonau Twrci Gweddillion plaladdwyr
Dail betel (Piper betle) Gwlad Thai Salmonela
Pupurau o’r rhywogaeth Capsicum (ac eithrio rhai melys) Twrci Gweddillion plaladdwyr
Hadau sesame Uganda Salmonela

Nwyddau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Risg Uchel nad ydynt yn Dod o Anifeiliaid (HRFNAO) a fewnforir y mae’r rheolaethau ar y ffin wedi cynyddu ar eu cyfer oherwydd cynnydd mewn diffyg cydymffurfio / risg i iechyd y cyhoedd. Mae gofynion mewnforio ychwanegol yn berthnasol i nwyddau sy’n cael eu symud i Atodiad 2. Rhaid i’r nwydd gael Tystysgrif Iechyd Allforio a rhaid iddo fod yn destun profion labordy i ddangos cydymffurfiaeth â gofynion diogelwch bwyd Prydain Fawr.

Nwydd Gwlad Perygl
Pupur du (Piper nigrum) Brasil Salmonela
Pupurau o’r rhywogaeth Capsicum (ac eithrio rhai melys) Gwlad Thai Gweddillion plaladdwyr
Ocra India Gweddillion plaladdwyr
Orenau Twrci Gweddillion plaladdwyr
Mandarin, clementin, Wilkings (amrywiaeth mandarin) a mathau tebyg o ffrwythau sitrws hybrid tebyg Twrci Gweddillion plaladdwyr
Jacffrwyth Malaysia Gweddillion plaladdwyr
Pupurau o’r rhywogaeth Capsicum (ac eithrio rhai melys) Uganda Gweddillion plaladdwyr
Puprynnau Melys (Capsicum annuum) Twrci Gweddillion plaladdwyr
Hadau sesame Swdan Salmonela
Dail gwinwydd Turkey Gweddillion plaladdwyr
Hadau sesame Ethiopia Salmonela
Pupurau o’r rhywogaeth Capsicum (ac eithrio rhai melys) Sri Lanka Afflatocsinau
Cnau daear India Afflatocsinau

5.1 Hysbysiadau ar y Ffin a Rheolaethau Swyddogol Dwys 

Mae ymadawiad y DU â’r UE hefyd wedi newid y broses pan fo achosion o dorri safonau  bwyd a fewnforir. Pan fydd llwyth (consignment) o gynnyrch wedi methu’r gwiriadau,  mae’r DU yn hysbysu awdurdodau gorfodi i dargedu mewnforion tebyg. Roedd cyfanswm  o 326 o hysbysiadau ar y ffin yn 2022, sef y flwyddyn gyntaf ers rhoi’r system newydd  hon ar waith. Mae’r manylion isod.

Y pedwar prif reswm dros Fethiannau Hysbysiadau ar y Ffin

  • Roedd 126 o’r achosion yn ymwneud â methiannau dogfennol/adnabod (gallai’r rhai gynnwys methiannau ffisegol)
  • Roedd 33 yn ymwneud â methiannau ffisegol (fel nwyddau wedi’u difetha, nwydd gwahanol i’r hyn a ddisgrifir ar dystysgrif mewnforio neu IPAFFS, neu fater estron)
  • Roedd 58 yn ymwneud â methiannau mycotocsinau (afflatocsinau ac ocratocsinau)
  • Roedd 29 yn ymwneud â methiannau plaladdwyr

Ar gyfer cynhyrchion anifeiliaid a fewnforir, os bydd swyddogion ar y ffin yn canfod bod gofynion mewnforio Prydain Fawr yn cael eu torri dro ar ôl tro neu bod achos difrifol, gallai llwythi yn y dyfodol gan y busnes bwyd dan sylw fod yn destun rheolaethau swyddogol dwys (IOC). O dan y rheolau hyn, byddai’n rhaid cynnal gwiriad ffisegol ar gyfer yr holl lwythi a gaiff eu mewnforio gan sefydliad sy’n destun IOC nes i’r IOC ddod i ben. Mae’r ASB yn hysbysu’r awdurdodau yn y wlad sy’n peri pryder, fel y gallant gymryd camau i ddatrys y broblem. 

Yn gyffredinol, mae mewnforion o’r tu allan i’r UE wedi parhau i gydymffurfio i raddau helaeth â gwiriadau mewnforio o gymharu â’r llynedd. Mae hyn yn awgrymu na fu unrhyw ostyngiad sylweddol yn niogelwch ein mewnforion, er bod y darlun yn gyfyngedig o hyd heb reolaethau tebyg ar fewnforion yr UE. Mae ein system hysbysiadau ar y ffin a’n gallu i ddefnyddio rheolaethau dwys yn gwella ein gallu i dargedu risgiau penodol ac achosion o ddiffyg cydymffurfio er mwyn diogelu defnyddwyr y DU rhag niwed.

Yn 2022, defnyddiwyd y broses IOC ar 11 achlysur oherwydd bygythiadau parhaus neu fygythiadau difrifol i iechyd y cyhoedd. O’r 11 IOC a grëwyd: 

  • Roedd pump yn benodol i sefydliadau dofednod ym Mrasil oherwydd bod cynhyrchion  wedi’u halogi â Salmonela.
  • Roedd tri yn ymwneud â methiannau gweddillion meddyginiaeth  filfeddygol mewn sefydliadau ym Mangladesh, India a Fietnam.
  • Bu methiant o ran Gyrodactylus salaris (mwydod parasitig) o sefydliad ym Moroco.
  • Bu methiant o ran sylffwr deuocsid (mewn gelatin bwytadwy) o sefydliad ym Mhacistan. 
  • Bu methiant o ran dilysu rhywogaethau (gwiriad ffisegol corfforol yn anghyson â’r ardystiad iechyd) o sefydliad yn Tsieina.

2022 oedd blwyddyn lawn gyntaf y broses IOC ac felly nid oes data cymaradwy  ar gael hyd yn hyn.

5.2 Cytundebau masnach rydd a diogelu iechyd

Wrth i’r DU ddatblygu partneriaethau masnachu ffurfiol newydd gyda gwledydd y tu allan i’r UE, mae’n bwysig bod mesurau diogelu statudol ar waith i gynnal safonau diogelwch bwyd a fewnforir o dan y cytundebau masnach rydd (FTAs) hyn.

Mae’r DU eisoes wedi llofnodi FTAs newydd ag Awstralia (Rhagfyr 2021) a Seland Newydd (Chwefror 2022) a ddaeth i rym yn gynnar yn 2023. Mae Adran 42 o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU esbonio a yw’r amddiffyniadau ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a nodir yng nghyfraith y DU yn cael eu cynnal. 

Fel rhan o hyn, gofynnwyd i’r ASB ac FSS archwilio a oedd y ddau FTA yn cynnal amddiffyniadau diogelwch bwyd y DU. Nid oedd materion ehangach yn ymwneud â’r FTAs sydd y tu allan i gylch gwaith yr ASB ac FSS (fel tariffau a’r effaith bosib ar lifoedd masnach dros amser) o fewn cwmpas y cyngor y gofynnwyd i ni amdano: amddiffyniadau statudol iechyd pobl oedd ffocws mandadol ein hadroddiad. 

Gwnaethom edrych i weld a oedd angen gwneud newidiadau i system reoleiddio bwyd y DU er mwyn cydymffurfio â’r FTA, ac a fyddai effaith ar lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig i reoleiddio ym meysydd diogelwch bwyd a maeth (a ddiffinnir fel: honiadau maeth ac iechyd; fitaminau, mwynau a sylweddau penodol eraill; atchwanegiadau bwyd; a bwydydd ar gyfer grwpiau penodol). 

Daeth yr ASB ac FSS i’r casgliad bod y FTAs ag Awstralia a Seland Newydd wedi cynnal amddiffyniadau diogelwch bwyd i ddefnyddwyr. Yn ogystal, gwnaethom asesu a oedd cytundeb Seland Newydd yn cynnal gofynion maeth y DU a daethom i’r casgliad ei fod. Byddwn yn parhau i graffu ar unrhyw gytundebau yn y dyfodol a bydd yr asesiadau hyn yn parhau i ystyried amddiffyniadau maeth statudol.

5.3 Deall safonau cynhyrchu bwyd 

Mae’r ASB ac FSS hefyd yn cydnabod bod gan ddefnyddwyr ddiddordeb mewn deall safonau cynhyrchu bwyd a fewnforir, gan gynnwys eu safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid.

I gefnogi hyn, yn ddiweddar, fe gomisiynodd yr ASB yr ymgynghoriaeth bwyd ADAS i nodi metrigau mesuradwy a ffynonellau data ar gyfer safonau cynhyrchu bwyd a fewnforir er mwyn gallu rhoi darlun gwell i’r cyhoedd. 

Fodd bynnag, amlygodd adroddiad ADAS fod: 

  • Diffyg cyffredinol yn y data sydd ar gael i’r cyhoedd a phroblemau gydag ansawdd y data cyfyngedig sydd ar gael
  • Diffyg metrigau mesuradwy neu ddulliau clir o’u mesur neu eu monitro
  • Diffyg fframweithiau i werthuso safonau cynhyrchu

Er bod y system bresennol o wiriadau ar y ffin yn rhoi sicrwydd i ni o ran diogelwch bwyd, nid oes system debyg ar gyfer safonau cynhyrchu bwyd. Mae’r gallu i asesu safonau cynhyrchu, fel lles anifeiliaid neu safonau amgylcheddol bwyd wedi’i fewnforio ar sail debyg i fwyd y DU, yn hanfodol er mwyn i ni, fel cyrff gwarchod, allu asesu a yw safonau’r bwyd sy’n cael ei fwyta yn y DU wedi cael eu cynnal. 

Mae canfyddiadau’r adroddiad yn awgrymu bod angen rhoi sylw pellach i’r meysydd hyn a byddwn yn parhau i archwilio’r rhain, tra hefyd yn parhau i gydweithio â phartneriaid ar draws y llywodraeth i sicrhau bod buddiannau defnyddwyr yn cael eu cydnabod. 

5.4 I grynhoi

Yn fras, dychwelodd cyfaint y bwyd a fewnforiwyd i’r DU i gyfeintiau cyfartalog yn 2022 yn dilyn gostyngiad yn 2021. Fodd bynnag, mae cyfuniad o ffactorau wedi tarfu ar batrymau cyflenwadau bwyd, gan leihau’r swm sy’n cael ei fewnforio o Wcráin, Rwsia, Latfia, a Lithwania yn arbennig. Mae gwledydd eraill fel Rwmania a Bwlgaria wedi profi cynnydd sylweddol mewn lefelau masnachu. 

Ar gyfer nwyddau o’r tu allan i’r UE sy’n destun gwiriadau ar ffin Prydain Fawr, roedd y mwyafrif helaeth ohonynt yn cydymffurfio â rheolaethau mewnforio, sy’n awgrymu na fu unrhyw gwymp cyffredinol sylweddol mewn safonau diogelwch bwyd. Fodd bynnag, mae Prydain Fawr wedi cynyddu nifer y nwyddau risg uchel dynodedig yn ystod 2022 ac wedi cyhoeddi IOCs mewn rhai achosion i adlewyrchu’r risgiau cynyddol sy’n gysylltiedig â rhai cynhyrchion o rai gwledydd. Mae’n hanfodol bod y DU yn rhoi’r rheolaethau cadarn a nodir yn y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau ar waith yn gyflym er mwyn sicrhau bod gennym sicrwydd tebyg ar gyfer bwyd a fewnforir o’r UE. 

Mae dau FTA newydd wedi’u harwyddo a byddant yn dod i rym o 2023. Mae’r ASB ac FSS wedi cyfrannu at asesiadau swyddogol y llywodraeth i weld a yw’r cytundebau hyn yn cynnal amddiffyniadau statudol ar gyfer iechyd pobl, anifeiliaid neu blanhigion, lles anifeiliaid a’r amgylchedd, ac wedi dod i’r casgliad bod yr FTAs newydd yn gwneud hynny. Byddwn yn parhau i graffu ar unrhyw gytundebau yn y dyfodol. 

Comisiynodd yr ASB adroddiad yn archwilio sut y gallai nodi a chasglu gwell gwybodaeth am safonau cynhyrchu bwyd a fewnforir. Roedd hyn yn tanlinellu’r diffyg data sydd ar gael, sy’n ei gwneud yn amhosib cynnal asesiad o safonau cynhyrchu bwyd wedi’i fewnforio. Bydd yr ASB ac FSS yn parhau i archwilio sut y gallant goroesi’r her hon. Fodd bynnag, tan hynny, ni allwn gynnig asesiad, sy’n seilieig ar ddata, o’r safonau lles anifeiliaid neu amgylcheddol, na safonau cynhyrchu eraill, mewn perthynas â bwyd wedi’i fewnforio.

6. Pwysigrwydd hylendid

Yn y bennod hon, byddwn yn ystyried a yw gweithgarwch gorfodi yn dychwelyd i lefelau arferol ar ôl y pandemig, a hefyd yn ystyried adnoddau a chapasiti.

6.1 Safonau hylendid mewn sefydliadau  bwyd a bwyd anifeiliaid 

Cipolwg

Yn y bennod hon, rydym yn ystyried y canlynol:

  • Lefelau cydymffurfio â safonau hylendid ar draws  sefydliadau bwyd a bwyd anifeiliaid.
  • Y cynnydd a wnaed o ran adfer rheolaethau hylendid  bwyd yn dilyn pandemig COVID-19.
  • Yr adnoddau staff sydd ar gael i gynnal safonau hylendid bwyd.

6.2 Cyflwyniad

Mae defnyddwyr eisiau teimlo’n hyderus bod y bwyd maent yn ei fwyta wedi’i gynhyrchu mewn ffordd ddiogel a hylan. Mae cyflawni hyn yn golygu ymdrech enfawr ar draws y gadwyn fwyd i sicrhau bod safonau’n cael eu cynnal.

Mae pob busnes bwyd a bwyd anifeiliaid yn gyfrifol am fodloni gofynion hylendid llym, sy’n cynnwys trin, storio a chludo bwyd a bwyd anifeiliaid yn gywir, yn ogystal â defnyddio cynhwysion diogel, arferion hylendid effeithiol a sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant neu oruchwyliaeth ddigonol. 

Mae’r cyfrifoldeb am sicrhau bod pob busnes yn dilyn y rheolau hyn yn ymestyn dros sawl sefydliad ac yn amrywio ledled y DU (ffigur 20). Fel y nodwyd yn adroddiad y llynedd, effeithiodd y pandemig yn sylweddol ar eu gallu i weithredu yn y ffordd arferol. Mae’r data yn y bennod hon yn adlewyrchu’n rhannol yr ymdrechion parhaus i ailddechrau cynnal rheolaethau hylendid yn llawn a rhoi darlun mwy dibynadwy o gydymffurfiaeth. Fodd bynnag, mae gallu awdurdodau gorfodi i gynnal rheolaethau cadarn hefyd yn dibynnu ar ariannu a chyflenwad gweithwyr proffesiynol sydd wedi cael hyfforddiant ddigonol i gynnal ein cyfreithiau bwyd.

Yn y bennod hon, byddwn yn ystyried a yw gweithgarwch gorfodi yn dychwelyd i lefelau arferol ar ôl y pandemig COVID-19. Byddwn hefyd yn ystyried cwestiwn sylfaenol adnoddau a chapasiti, gan archwilio sut mae maint a siâp y gweithlu hwn wedi newid dros amser ac a yw’n ddigon i gadw defnyddwyr yn ddiogel yn y dyfodol.

Ffigur 20: Cyfrifoldebau am gynnal rheolaethau hylendid bwyd ledled y DU

Math o sefydliad bwyd Pa awdurdod sy’n gyfrifol am reolaethau hylendid? Pa weithwyr proffesiynol sy’n rhan o’r broses arolygu?
Busnesau bwyd: mae’r rhain yn cynnwys bwytai, caffis, tafarndai, archfarchnadoedd a mannau eraill lle mae bwyd yn cael ei gyflenwi, ei werthu neu ei fwyta, fel ysbytai, ysgolion a chartrefi gofal. Ledled y DU: awdurdodau lleol Swyddogion diogelwch bwyd / Swyddogion cyfraith bwyd (yn yr Alban), gan gynnwys Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd
Sefydliadau cig: mae’r rhain yn cynnwys lladd-dai, ffatrïoedd torri cig, sefydliadau trin helwriaeth a marchnadoedd cig Cymru a Lloegr: yr ASB ac awdurdodau lleol

Yr Alban: FSS
Gogledd Iwerddon: Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA)
Milfeddygon Swyddogol ac Arolygwyr Hylendid Cig
Sefydliadau llaeth: mae’r rhain yn cynnwys ffermydd a ffatrïoedd cynhyrchu sy’n gweithgynhyrchu cynhyrchion llaeth. Cymru a Lloegr: ASB

Yr Alban: awdurdodau lleol
Gogledd Iwerddon: DAERA
Arolygwyr Llaeth, Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd (yn yr Alban)
Sefydliadau bwyd anifeiliaid: mae’r rhain yn cynnwys cyflenwyr cyfanwerthu a gweithgynhyrchwyr cynhyrchion bwyd anifeiliaid. Cymru a Lloegr: awdurdodau lleol

Yr Alban: FSS

Gogledd Iwerddon: DAERA
Swyddogion Bwyd Anifeiliaid

6.3 Hylendid mewn sefydliadau bwyd 

Mae dau gynllun sgorio hylendid bwyd cenedlaethol ar waith ledled y DU: y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) sy’n gweithredu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon; a’r Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd (FHIS) ar gyfer busnesau bwyd yn yr Alban. O dan y ddau gynllun, mae awdurdodau lleol yn cynnal arolygiadau er mwyn rhoi’r sgoriau diweddaraf i fusnesau sy’n gweini a pharatoi bwyd, gan gynnwys bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê a ffreuturau, yn ogystal â mannau eraill lle mae bwyd yn cael ei gyflenwi, ei werthu neu ei fwyta, fel ysbytai, ysgolion, a chartrefi gofal.[18]

Mae data arolygiadau hylendid bwyd a gasglwyd ar 31 Rhagfyr 2022, sy’n dangos y canlyniadau arolygu diweddaraf, yn nodi bod mwy na naw o bob deg busnes bwyd wedi cael sgôr foddhaol neu well19, gydag ychydig iawn o newidiadau o gymharu â’r sgoriau y llynedd. Cafodd ychydig dros dri chwarter (75.7%) o fusnesau bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon y sgôr uchaf o 5 ar gyfer hylendid, tra bo 2.9% o sefydliadau bwyd wedi cael sgôr o 2 neu is, sy’n golygu bod angen iddynt wella, gwella’n sylweddol, neu wella ar frys (ffigur 21).

Ffigur 21: Canran dosbarthiad sgoriau’r CSHB yn seiliedig ar ddata  a gasglwyd ar 31 Rhagfyr 2022, yn adrodd ar yr arolygiad diweddaraf

Sgôr CSHB 0 1 2 3 4 5
Lloegr 0.2% 1.3% 1.4% 6.4% 15.0% 75.7%
Cymru 0.2% 1.5% 1.3% 7.4% 18.1% 71.6%
Gogledd Iwerddon 0.0% 0.3% 0.6% 3.2% 12.5% 83.4%

Mae’r cynllun FHIS yn yr Alban yn seiliedig ar sgôr llwyddo neu fethu: Llwyddodd 93.8%  o fusnesau a arolygwyd i gyflawni’r safon ofynnol yn 2022 (ffigur 22).

Ffigur 22: Canran y busnesau bwyd yn y DU a gafodd sgoriau boddhaol neu well  ar gyfer hylendid bwyd, fel yr oedd y sefyllfa ar 31 Rhagfyr 2022

Ffigur 22: Canran y busnesau bwyd yn y DU a gafodd sgoriau boddhaol neu well ar gyfer hylendid bwyd, fel yr oedd y sefyllfa ar 31 Rhagfyr 2022

At hynny, o dan y drefn arolygu yn yr Alban, sef y System Sgorio Cyfraith Bwyd (FLRS), mae busnesau bellach yn cael asesiad cyffredinol o gydymffurfiaeth gyfreithiol â chyfraith bwyd, sy’n dwyn ynghyd ganlyniadau gwiriadau hylendid a safonau a gynhelir gan awdurdodau lleol. Ar gyfer y busnesau hynny sydd wedi mynd drwy’r broses newydd hon, cynyddodd y ganran yr aseswyd eu bod yn cydymffurfio â’r gyfraith yn 2022 ychydig o gymharu â’r flwyddyn  flaenorol (ffigur 23).

Ffigur 23: Canran y gweithredwyr busnesau bwyd yn yr Alban a oedd yn cydymffurfio  â chyfreithiau bwyd ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22

Ffigur 23: Canran y gweithredwyr busnesau bwyd yn yr Alban a oedd yn cydymffurfio â chyfreithiau bwyd ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22

6.4 Niferoedd arolygiadau awdurdodau lleol 

Mae nifer yr arolygiadau a phryd y cânt eu cynnal gan awdurdodau lleol yn effeithio’n uniongyrchol ar gywirdeb a pherthnasedd data’r CSHB a’r FHIS. Gan fod sgoriau hylendid ond yn adlewyrchu data o arolygiad diwethaf y sefydliad, mae cael darlun cywir yn dibynnu ar gynnal digon o arolygiadau er mwyn datgelu unrhyw newid arwyddocaol. Heb hyn, rydym yn parhau i fod yn ddibynnol iawn ar ddata o arolygiadau blaenorol i asesu a yw safonau hylendid wedi’u cynnal.

Ar ôl i’r pandemig darfu ar weithgarwch arolygu, datblygodd pob awdurdod lleol gynlluniau adfer i helpu i ailsefydlu rheolaethau hylendid bwyd. Mae ffigurau 24 a 25 yn dangos y cynnydd a wnaed drwy olrhain nifer yr arolygiadau a gynhaliwyd dros y pedair blynedd diwethaf ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a’r Alban. Yn 2020, bu gostyngiad sydyn yn nifer y sgoriau a roddwyd wrth i rannau o’r sector lletygarwch gau, deddfau cadw pellter cymdeithasol ddod i rym ac wrth i adnoddau awdurdodau lleol gael eu dargyfeirio. Fe wnaeth y niferoedd adfer yn rhannol yn ystod 2021, gyda nifer y busnesau a gafodd sgôr hylendid bwyd yn dychwelyd i raddau helaeth i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig drwy gydol 2022. 

Er bod hon yn garreg filltir bwysig o ran ailsefydlu goruchwyliaeth effeithiol ar ôl pandemig COVID-19, dylid pwysleisio bod tua 39,500 o fusnesau heb eu sgorioddiwedd 19 ledled  Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, nad oeddent wedi’u hasesu eto. Fodd bynnag, mae nifer  y busnesau heb eu sgorio wedi gostwng 48.7% o’r lefelau uchaf ar ôl y pandemig,  o 77,000 ym mis Ebrill 2021, wrth i awdurdodau lleol barhau i adfer. 

Mae hyn yn golygu bod angen i ni fod yn ofalus wrth ddod i gasgliadau cadarn ar gyflwr presennol safonau hylendid bwyd hyd nes y byddwn wedi mynd i’r afael â’r heriau hyn.  Mae hefyd yn amlygu pwysigrwydd sicrhau bod gan dimau awdurdodau lleol ddigon o staff er mwyn gallu goruchwylio safonau yn y dyfodol, fel y byddwn yn trafod yn ddiweddarach yn yr adroddiad.

Ffigur 24: Nifer y busnesau bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon  a gafodd sgôr hylendid bwyd rhwng 2019/20 a 2022/23

Ffigur 24: Nifer y busnesau bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a gafodd sgôr hylendid bwyd rhwng 2019/20 a 2022/23

Ffigur 25: Nifer y busnesau bwyd a gafodd sgôr hylendid bwyd fesul  chwarter yn yr Alban rhwng 2019/20 a 2022/23

Ffigur 25: Nifer y busnesau bwyd a gafodd sgôr hylendid bwyd fesul chwarter yn yr Alban rhwng 2019/20 a 2022/23

6.5 Hylendid mewn sefydliadau cig cymeradwy

Mae pob sefydliad cig a gymeradwyir gan yr ASB ac FSS[20] – gan gynnwys lladd-dai, sefydliadau trin anifeiliaid hela, ffatrïoedd torri cig a marchnadoedd cyfanwerthu cig – yn destun archwiliadau ar sail risg i sicrhau eu bod yn bodloni safonau hylendid. 

Mae’r ffordd y cynhelir yr archwiliadau hyn yn amrywio ar draws y DU, sy’n golygu ei bod yn anodd gwneud cymariaethau uniongyrchol rhwng y pedair gwlad. Fodd bynnag, mae ffigurau 26 a 27 yn dangos bod canran y sefydliadau cig sydd â safonau hylendid boddhaol neu dda ledled y DU yn uchel – dros 98% yn yr Alban a thros 99% ar gyfer gweddill y DU yn ôl y data diweddaraf a gasglwyd ar 31 Rhagfyr 2022. 

Bu cynnydd nodedig o 12.9% ers 2021 yng nghydymffurfiaeth busnesau yn yr Alban a allai fod oherwydd newidiadau yn y dull archwilio sy’n caniatáu ymyriadau cyflymach mewn achosion o gydymffurfiaeth wael. Fodd bynnag, nid yw’r raddfa ar gyfer pennu sgoriau cydymffurfiaeth wedi newid, sy’n golygu bod diffiniad o sgôr ‘dda’ yn cael ei gymhwyso’n gyson ledled y DU. Mae hyn yn rhoi hyder bod cydymffurfiaeth cyffredinol wedi parhau’n uchel.

Ffigur 26: Canran y sefydliadau cig a gafodd sgôr ‘dda’ neu ‘foddhaol’ o ran hylendid yn 2022

Gwlad Canran y sefydliadau cig a gafodd sgôr ‘dda’ neu ‘foddhaol’ o ran hylendid yn 2022 Newid canrannol yn erbyn data 2021
Cymru a Lloegr 99.3% +0.7%
Gogledd Iwerddon 100% Dim newid
Yr Alban 98.4% +12.9%

Ffigur 27: Dadansoddiad o sgoriau cydymffurfiaeth hylendid[21] ar gyfer sefydliadau cig (yn seiliedig ar y data diweddaraf a gasglwyd ar 31 Rhagfyr 2022)

Gwlad Da Boddhaol ar y cyfan Angen gwella Angen gwella ar frys
Cymru a Lloegr 64.2% (+7.4%) 35.1% (-6.7%) 0.5% (-0.6%) 0.2% (d/n)
Gogledd Iwerddon 87.0% (-7.0%) 13.0% (+7.2%) 0.0% (d/n) 0.0% (d/n)
Yr Alban 91.9% (+26.7%) 6.5% (-12.8%) 1.6% (-12.9%) 0.0% (d/n)

Nodiadau: Dangosir y newid canrannol yn erbyn data 2021 mewn cromfachau.

6.6 Cydymffurfiaeth hylendid wrth gynhyrchu llaeth

Yn yr un modd â sefydliadau cig, mae’r cyfrifoldeb am arolygu busnesau llaeth yn amrywio  ar draws gwledydd y DU, ond unwaith eto, mae’r data sydd ar gael yn dangos bod y mwyafrif  yn cael eu sgorio fel sefydliadau sy’n cydymffurfio. 

Yng Nghymru a Lloegr, cafodd 98.1% o sefydliadau llaeth sgôr o naill ai da neu foddhaol ar y cyfan yn 2022 (ffigur 28). Mae hyn yn gynnydd o gymharu â chanlyniadau’r flwyddyn flaenorol, a hynny oherwydd y newid yn y ffordd y cyfrifir cydymffurfiaeth hylendid llaeth. Mae data eleni’n ystyried cydymffurfiaeth yn yr arolygiad cychwynnol yn ogystal ag yn ystod y camau dilynol dilynol lle cynhaliwyd ymyriadau. Mae’n adlewyrchu’r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym  ar gydymffurfiaeth ac mae’n cyd-fynd yn well â’r fethodoleg adrodd a ddefnyddir yng  Ngogledd Iwerddon.

Ffigur 28: Canran y sefydliadau llaeth yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a gafodd y canlyniadau uchaf, sef ‘Da’ neu ‘Boddhaol ar y cyfan’  ar 31 Rhagfyr 2022

Gwlad Canran y sefydliadau a gafodd ganlyniadau da neu foddhaol ar y cyfan Newid ers y flwyddyn flaenorol
Cymru a Lloegr 98.1% (+17.6%)
Gogledd Iwerddon 99.2% (+0.3%)

Ffigur 29: Dadansoddiad o sgoriau cydymffurfio hylendid ar gyfer sefydliadau llaeth o ddata arolygiadau a gasglwyd ar 31 Rhagfyr 2022

Ffigur 29: Dadansoddiad o sgoriau cydymffurfio hylendid ar gyfer sefydliadau llaeth o ddata arolygiadau a gasglwyd ar 31 Rhagfyr 2022

Arhosodd cydymffurfiaeth cyffredinol Gogledd Iwerddon yn sefydlog (ffigur 28), er y bu gostyngiad o 9% yng nghyfran y sefydliadau ‘da’ a chynnydd cyfatebol yn y rheiny a gafodd sgôr ‘boddhaol ar y cyfan’ (ffigur 29). 

Yn yr Alban, mae’n anoddach cael darlun cywir o p’un a yw safonau hylendid llaeth wedi newid yn absenoldeb data cydymffurfiaeth cymaradwy. Nid oes gan FSS unrhyw rôl orfodi uniongyrchol ar gyfer hylendid llaeth. Y 32 awdurdod lleol sy’n gyfrifol am hyn yn yr Alban. 

Mae’r pandemig COVID-19 wedi effeithio’n sylweddol ar weithgarwch gorfodi, ac mae’r adnoddau sydd ar gael yn cael eu defnyddio i fonitro busnesau bwyd risg uchel, er enghraifft y rhai sy’n cyflenwi llaeth heb ei basteureiddio ar gyfer cynhyrchu caws. Gan nad yw’r Alban yn caniatáu gwerthu na dosbarthu llaeth yfed amrwd, mae ganddi gyfran uwch o ffermydd llaeth sy’n cael eu hystyried yn gyffredinol fel sefydliadau risg is yn y drefn arolygu o gymharu â’r ffermydd llaeth yng ngweddill y DU. 

Gallwn ddod i’r casgliad y bu cynnydd yn nifer y llythyrau canllawiau a’r cyngor ysgrifenedig a gyhoeddwyd yn 2021/22 (ffigur 30) wrth i weithgarwch gorfodi ailddechrau. Ni chyhoeddwyd unrhyw hysbysiadau gwella hylendid (HINs) rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2022. Mae HINs yn fesur gorfodi mwy difrifol a chânt eu cyhoeddi pan fydd achos o ddiffyg cydymffurfio hylendid sy’n torri rheoliadau sy’n rhaid ei gywiro o fewn cyfnod penodol o amser. Er bod y set ddata yn gyfyngedig iawn, mae hyn yn awgrymu bod y mwyafrif o sefydliadau llaeth yr Alban a arolygwyd yn ddiweddar yn gweithredu’n ddiogel.

Ffigur 30: Gweithgarwch gorfodi sefydliadau llaeth yn yr Alban

Ffigur 30: Gweithgarwch gorfodi sefydliadau llaeth yn yr Alban

6.7 Cydymffurfiaeth hylendid mewn sefydlaidau bwyd anifeiliaid

Mae bwyd anifeiliaid yn rhan bwysig o’r gadwyn fwyd a gall unrhyw fethiannau o ran hylendid a diogelwch achosi risgiau sylweddol i iechyd pobl. Rhaid i fusnesau bwyd anifeiliaid felly fodloni ystod o ofynion cyfreithiol sy’n ymwneud â hylendid, olrheiniadwyedd, labelu, cyfansoddiad a sylweddau annymunol.

Mae’r cyfrifoldeb am arolygu’r busnesau hyn wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae’r pandemig wedi cael effaith hefyd, gan arwain at set o ddata anghyson ac anghyflawn yn aml[22]. Fodd bynnag, o’r data sydd ar gael (ffigur 31), mae’n ymddangos bod lefelau cydymffurfio yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2021/22 wedi aros yr un fath i raddau helaeth o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. 96.9% oedd y lefelau cydymffurfio cyffredinol Lloegr[23], gan ostwng 0.2% o gymharu â 2021 a Gogledd Iwerddon yn aros yr un fath ar 99.3%.

Yng Nghymru, mae’r data’n dangos cynnydd mewn lefelau cydymffurfio yn ystod 2021-22, er y dylid nodi bod nifer y safleoedd a arolygwyd wedi lleihau’n sylweddol oherwydd effaith barhaus pandemig COVID-19, sy’n ei gwneud yn anoddach i gymharu fesul blwyddyn. Oherwydd adnoddau cyfyngedig, mae’r rhaglen gweithredu bwyd anifeiliaid yng Nghymru yn blaenoriaethu rheolaethau swyddogol ar safleoedd sy’n newydd, sy’n cydymffurfio’n wael neu sy’n peri risg uwch oherwydd natur eu gweithgareddau, sy’n golygu nad yw’r ganran yn adlewyrchu lefelau cydymffurfio ar draws y sector cyfan yn iawn. 

Ar 1 Ebrill 2021, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am wiriadau bwyd anifeiliaid o awdurdodau lleol i FSS. Mae newidiadau o ran casglu data yn ei gwneud yn amhosib darparu data tueddiadau blynyddol, ond yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl trosglwyddo, roedd 97.8% o fusnesau bwyd anifeiliaid yr Alban yn cydymffurfio.

Ffigur 31: Canran y sefydliadau bwyd anifeiliaid yr aseswyd eu bod yn  cydymffurfio â safonau hylendid, yn ôl y data diweddaraf sydd ar gael

Ffigur 31: Canran y sefydliadau bwyd anifeiliaid yr aseswyd eu bod yn cydymffurfio â safonau hylendid, yn ôl y data diweddaraf sydd ar gael

6.8 Heriau o ran capasiti a gallu

Fel y soniwyd ar ddechrau’r bennod hon, mae cynnal safonau hylendid yn dibynnu ar gael digon o staff hyfforddedig a phrofiadol i gynnal arolygiadau a gweithio gyda busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid i sicrhau eu bod yn gweithredu o fewn y gyfraith. 

Ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae ein dadansoddiad (ffigur 32) yn dangos y bu gostyngiad sylweddol yn nifer y swyddi wedi’u dyrannu[24] ar gyfer swyddogion diogelwch bwyd dros y ddegawd ddiwethaf, gydag ychydig o dan 14% yn llai o swyddi yn 2022/23 o gymharu â 2010/11. Yn ystod yr un cyfnod yn yr Alban, gostyngodd nifer y swyddi cyfraith bwyd wedi’u llenwi 25.5% yn 2021/22 o gymharu â 2016/2017. Mae hyn wedi arwain at anawsterau recriwtio oherwydd prinder staff.

Yn ystod y pandemig yn 2020/21, cynyddodd canran y swyddi heb eu llenwi ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i 57.7% oherwydd symud swyddogion diogelwch bwyd i ymdrin â pandemig COVID-19. Bu gostyngiad hirdymor yn nifer y swyddi a ariennir, gyda phrinder staff yn effeithio’n negyddol ar hyn. Yn 2022, arhosodd cyfradd y swyddi diogelwch bwyd heb eu llenwi neu swyddi gwag (ffigur 33) yn uwch na chyn pandemig COVID-19, gyda thua un o bob saith (13.7%) o swyddi wedi’u dyrannu ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn wag yn 2022. 

At hynny, nid yw’r gostyngiadau hyn mewn capasiti wedi’u cyfyngu i hylendid bwyd. Bu gostyngiad hefyd o 45.1% yn nifer swyddogion safonau bwyd wedi’u dyrannu, o 2011/12 i 2021/22 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae cwymp sylweddol wedi bod hefyd ymhlith swyddogion safonau masnach, sydd fel arfer yn gwirio cyfansoddiad a chynnwys maethol bwyd a chywirdeb labelu a hysbysebu. Mae’r gwiriadau hyn yn bwysig er mwyn mynd i’r afael â bwyd twyllodrus, annilys neu fwyd wedi’i gam-labelu, a ddisgrifir yn fanylach yn y bennod nesaf.

Yn wir, canfu adroddiad arolwg gweithlu a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig (CTSI) yn 2020 fod lefelau staffio swyddogion safonau masnach wedi gostwng rhwng 30% a 50% rhwng 2008/9 a 2018/19. Canfu’r arolwg hefyd fod ychydig dros hanner yr awdurdodau lleol yn y DU o’r farn nad oedd ganddynt ddigon o arbenigedd i gwmpasu’r ystod lawn o gyfrifoldebau safonau masnach, a bod y gweithlu safonau masnach sy’n heneiddio yn fygythiad i allu proffesiynol yn y dyfodol. 

Yn yr Alban, mae swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a swyddogion Cyfraith Bwyd yn cyflawni’r swyddogaethau hylendid bwyd a safonau bwyd y byddai swyddogion Safonau Masnach fel arfer yn eu cyflawni yng ngweddill y DU, felly mae’r gostyngiad o 25.5% yn yr Alban o ran swyddi cyfraith bwyd wedi’u llenwi wedi bod yn arbennig o anodd.

Mae cynnal cyflenwad digonol o weithwyr proffesiynol profiadol i gynnal arolygiadau yn hanfodol er mwyn cynnal safonau hylendid bwyd. Mae’r gostyngiadau hirdymor o ran niferoedd staffio awdurdodau lleol, ynghyd â heriau recriwtio cynyddol a gweithlu sy’n heneiddio, yn rhoi pwysau anghynaliadwy ar dimau presennol ac yn cynyddu’r potensial i broblemau diogelwch bwyd fynd heb eu gwirio a heb eu darganfod yn y dyfodol.

Ffigur 32: Nifer y swyddi hylendid bwyd wedi’u dyrannu mewn awdurdodau lleol ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ers 2010/11*[25]

Ffigur 32: Nifer y swyddi hylendid bwyd wedi’u dyrannu mewn awdurdodau lleol ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ers 2010/11*[25]

Ffigur 33: Canran y swyddi hylendid bwyd heb eu llenwi (CALl)  mewn awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Blwyddyn Lloegr Cymru Gogledd Iwerddon Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gyda’i gilydd
2018/19 8.7% 9.7% 9.7% 8.8%
2019/20 10.1% 6.9% 4.9% 9.6%
2020/21 58.4% 65.5% 25.4% 57.7%
2021/22 12.0% 27.7% 15.3% 13.7%

Mae’r sefyllfa yn yr Alban yn debyg (ffigur 34). Ym mis Tachwedd 2021, roedd 202.8 o swyddogion Cyfwerth ag Amser Llawn (CALl) wedi’u cyflogi mewn sefydliad o 261.7 o swyddogion CALl. Y gofyniad amcangyfrifedig er mwyn cyflawni holl ofynion y Cod Ymarfer yw 380.3, felly roedd diffyg o 46.7%. 

Ffigur 34: Nifer y swyddi hylendid bwyd wedi’u dyrannu mewn awdurdodau lleol ledled yr Alban ym mis Tachwedd 2021

Math o swyddi Rhif Canran
Swyddi Sefydledig 261.7 Dd/B
Swyddi wedi’u llenwi 202.8 77.5%
Swyddi gwag 58.8 22.5%
Amcangyfrif o’r angen 380.3 Dd/B
Amcangyfrif o’r diffyg i ddiwallu’r angen 177.4 46.7%

Ffynhonnell: Cymdeithas Prif Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yr Alban (SoCOEHS)

Yn ogystal, yn ôl Cymdeithas Prif Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yr Alban, mae bron i ddwy ran o dair (64.1%) o swyddogion cyfraith bwyd a mwy na hanner (50.7%) yr holl swyddogion iechyd yr amgylchedd sy’n gweithio ym maes cyfraith bwyd yn yr Alban dros 50 oed.

Ffigur 35: Nifer y swyddi cyfraith bwyd wedi’u llenwi (CALl) mewn awdurdodau lleol yn yr Alban

Blwyddyn Nifer y swyddi wedi’u llenwi
2016/17 271
2017/18 Dim data ar gael
2018/19 223
2019/20 214
2020/21 Dim data ar gael
2021/22 202

Ffynhonnell:  Cymdeithas Prif Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yr Alban (SoCOEHS)

Cefnogi awdurdodau lleol

Mae’r ASB ac FSS eisoes yn cefnogi awdurdodau lleol i wneud y defnydd gorau  o’r adnoddau sydd ar gael: 

Mae rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau yr ASB yn datblygu dulliau newydd o foderneiddio’r ffordd mae awdurdodau lleol yn cynnal safonau rheoleiddio. Mae dull newydd o arolygu safonau bwyd bellach yn cael ei gyflwyno, sef dull o arolygu busnesau bwyd sy’n fwy seiliedig ar risg, a mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol wirio cydymffurfiaeth mewn gwahanol ffyrdd a defnyddio mwy o guddwybodaeth. Dylai’r newidiadau hyn ganiatáu i awdurdodau lleol wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael iddynt, gan alluogi iddynt dreulio mwy o’u hamser yn y busnesau sy’n peri’r risg uchaf a’r rhai sy’n cydymffurfio leiaf. Dylai’r dull newydd hefyd gefnogi defnyddio mwy o gudd-wybodaeth i darfu ar gyflenwad bwyd twyllodrus neu annilys yn uwch i fyny’r gadwyn fwyd cyn iddo gyrraedd y silffoedd. Mae’r ASB bellach yn ymgynghori ar newidiadau i’r dull o gynnal arolygiadau hylendid bwyd.

Mae FSS wedi creu rhaglen arfaethedig, Rhaglen Ailadeiladu Gwaith Gorfodi Bwyd Awdurdodau’r Alban (SAFER), sy’n disodli Rhaglen Strategaeth Reoleiddio FSS, a fydd yn ystyried ffyrdd o gynyddu adnoddau, lleihau galw, gwella effeithlonrwydd a datblygu atebion digidol i gefnogi awdurdodau lleol.

Mae’r ASB hefyd wedi comisiynu ymchwil ar natur a graddau’r problemau sy’n ymwneud â gallu awdurdodau lleol i recriwtio a chadw swyddogion sydd â chymwysterau a phrofiad addas a phriodol i gynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd a bwyd anifeiliaid. 

Mae hwn yn fater cymhleth ac nid cyfrifoldeb yr ASB ac FSS yn unig yw ei ddatrys. Ond ni ellir ei anwybyddu os ydym am ddiogelu defnyddwyr yn ddigonol, yn awr ac yn y dyfodol. Bydd y ddwy asiantaeth yn gweithio gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff proffesiynol, awdurdodau lleol, a phartneriaid allanol eraill i ddatblygu atebion.

6.9 Adnoddau milfeddygol swyddogol

Mae Milfeddygon Swyddogol yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod cig a gynhyrchir mewn lladd-dai neu ffatrïoedd prosesu yn cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â’r cyfreithiau perthnasol. Fodd bynnag, mae’r proffesiwn milfeddygol cyfan yn wynebu heriau o ran adnoddau, sy’n cyfrannu at anawsterau o ran recriwtio digon o filfeddygon swyddogol.

Nododd yr RCVS ostyngiad o 27.4% yn nifer y bobl a ymunodd â’r proffesiwn milfeddygol rhwng 2019 a 2022, ac mae milfeddygon sydd wedi cyflawni eu hyfforddiant yn y DU wedi dangos cryn amharodrwydd i ymgymryd â rolau iechyd y cyhoedd.

Er bod y modelau staffio a ddefnyddir gan yr ASB ac FSS yn wahanol (gyda’r ASB yn gweithio gydag asiantaeth allanol sy’n gyfrifol am ddarparu Milfeddygon Swyddogol, ac FSS yn eu cyflogi’n uniongyrchol gan ddefnyddio staff dros dro a staff asiantaeth yn ôl yr angen), mae’r ddau sefydliad wedi wynebu heriau o ran adnoddau.

O ganlyniad, mae recriwtio o dramor yn parhau i fod yn ffordd bwysig o sicrhau digon o staff ar hyn o bryd, a chefnogir hyn trwy gynllun Cofrestru Dros Dro RCVS.

Beth yw Cofrestru Dros Dro?

Cofrestru Dros Dro RCVS: Mae Cofrestru Dros Dro wedi caniatáu i filfeddygon â chymwysterau priodol o brifysgolion sydd wedi’u hachredu gan EAEVE (Cymdeithas Sefydliadau ar gyfer Addysg Filfeddygol Ewrop), ac sydd â chymhwyster Saesneg Lefel 5 IELTS, gofrestru dros dro gyda’r RCVS.

Mae hyn wedi caniatáu iddynt weithio fel Milfeddygon Swyddogol Newydd Cofrestredig Dros Dro (TRNOV), wrth iddynt gwblhau eu hyfforddiant yn Saesneg, a hynny er mwyn cynnal rheolaethau cig swyddogol mewn lladd-dai dan oruchwyliaeth. Yn yr Alban, ni chafodd FSS fynediad at y llwybr Cofrestru Dros Dro yn 2022.

Mae Cofrestru Dros Dro wedi galluogi cynnydd cyson yn nifer y Milfeddygon Swyddogol yng Nghymru a Lloegr. Roedd 103 o Filfeddygon Swyddogol Newydd Cofrestredig Dros Dro allan o gyfanswm o 272 o Filfeddygon Swyddogol, a oedd yn cyfateb i 38% o’r holl Filfeddygon Swyddogol ar 31 Rhagfyr 2022.

Roedd hyn yn golygu bod modd cynnal y gwasanaeth a ddarperir mewn lladd-dai ac osgoi methiannau o ran darparu gwasanaethau, gan olygu na chafodd unrhyw ladd-dy ei atal rhag gweithredu oherwydd nad oedd Milfeddyg Swyddogol yn bresennol.

Wrth edrych tuag at y dyfodol, mae’r ASB yn gweithio gyda’i phartneriaid cyflawni ac wedi cytuno i gymorth ariannol ar ffurf amrywiad contract ar gyfer gweddill contractau presennol y Milfeddygon Swyddogol. Diben penodol hwn yw cynnig cyflogau uwch i Filfeddygon Swyddogol, yn unol â rolau milfeddygol eraill.

Mae’r ASB wedi gweithio’n agos gyda phrifysgolion i godi proffil Milfeddygon Swyddogol (gan fuddsoddi mwy yn y gwaith hwn) ac wedi cefnogi gwaith i greu pecynnau cyflog cystadleuol ar gyfer Milfeddygon Swyddogol. Mae FSS wedi sefydlu cynlluniau tâl a chydnabyddiaeth ychwanegol, wedi gwella hyfforddiant ac wedi datblygu cymhwyster Rheolaethau Swyddogol i Filfeddygon mewn partneriaeth agos ag Awdurdod Cymwysterau’r Alban.

Fodd bynnag, er gwaethaf y mentrau hyn, mae cyflenwi gweithwyr proffesiynol profiadol yn y dyfodol i lenwi rolau Milfeddygon Swyddogol yn parhau i fod yn risg sylweddol ledled y DU, a bydd yr ASB ac FSS yn parhau i fonitro hyn yn agos ac yn mynd i’r afael â’r heriau hyn yn rhagweithiol.

6.10 I grynhoi

Llwyddodd naw o bob deg busnes a arolygwyd gan awdurdodau lleol ledled y DU i gael sgôr foddhaol neu well ar gyfer hylendid bwyd yn seiliedig ar ddata a gasglwyd ar 31 Rhagfyr 2022. Fodd bynnag, mae sgoriau hylendid bwyd ond yn gallu adlewyrchu data o’r arolygiad diwethaf a gynhaliwyd ym mhob sefydliad. Rydym yn parhau i fod yn ddibynnol iawn ar ddata o arolygiadau blaenorol i asesu a yw safonau hylendid wedi’u cynnal. Mae awdurdodau lleol yn parhau i adfer rheolaethau hylendid ac yn bwrw ymlaen â’r ôl-groniad o arolygiadau yn unol â’u cynlluniau adfer. Mae niferoedd arolygu cyffredinol ar gyfer 2022 wedi dychwelyd i’r lefelau a welwyd  cyn y pandemig. 

Er bod y data sydd ar gael ar safonau hylendid mewn sefydliadau cig, llaeth a bwyd anifeiliaid yn anghyflawn mewn mannau, mae’r darlun cyffredinol sy’n seiliedig ar yr arolygiadau diwethaf yn awgrymu bod mwyafrif helaeth y busnesau a arolygwyd yn gweithredu’n ddiogel, gyda mwy nag 89% yn cydymffurfio ar draws y sectorau hyn.

Mae’r heriau uniongyrchol o ran capasiti’r gweithlu yn sgil adleoli staff ers y pandemig wedi gwella i raddau helaeth. Fodd bynnag, mae cyfran y swyddi hylendid bwyd heb eu llenwi mewn awdurdodau lleol yn cynyddu ac mae’r adnoddau cyffredinol a ddyrennir i reoli hylendid bwyd 13.8% yn llai nag oeddent yn 2010/11 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’r ASB ac FSS yn credu bod hyn yn rhoi pwysau anghynaliadwy ar dimau awdurdodau lleol presennol a gallai gynyddu’r risg y gallai materion diogelwch bwyd pwysig syrthio drwy’r rhwyd. 

Mae nifer y swyddi safonau bwyd wedi’u dyrannu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, sy’n cael eu staffio’n bennaf gan swyddogion safonau masnach, wedi gostwng 45.1% rhwng 2011/12 a 2021/22 tra bod cyfran uchel o’r gweithlu hefyd yn agosáu at oedran ymddeol. Ein pryder yw y gallai’r gostyngiad hwn yn y capasiti i asesu dilysrwydd, labelu a chydymffurfiaeth ag alergenau beryglu safonau bwyd yn y dyfodol. 

Yn yr Alban, mae nifer swyddi swyddogion cyfraith bwyd wedi’u llenwi wedi gostwng ychydig dros chwarter o gymharu â 2016/2017. Yn ôl Cymdeithas Prif Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yr Alban, ers 2016, bu gostyngiad o 14% mewn swyddi o fewn Iechyd yr Amgylchedd, gostyngiad o 21% yn nifer y swyddi wedi’u llenwi a chynnydd o 315% mewn swyddi gwag.

Mae sicrhau bod digon o adnoddau milfeddygol i reoli arolygiadau mewn sefydliadau cig yn cael ei rwystro gan ddiffyg milfeddygon yn ymuno â’r proffesiwn, cynnydd yn y nifer sy’n gadael y proffesiwn a heriau wrth recriwtio gweithwyr milfeddygol ychwanegol o wledydd Ewropeaidd. Er bod mesurau tymor byr wrth gefn wedi sicrhau bod arolygiadau hylendid cig yn cael eu cynnal yn ystod 2022 (yn fwyaf nodedig y gallu i gofrestru milfeddygon o dramor i weithio dan oruchwyliaeth dros dro), mae’n bwysig ein bod yn cadw ein Milfeddygon Swyddogol profiadol ac yn datblygu ffyrdd newydd o reoli’r galw.

7. Diogel a chadarn

Digwyddiadau bwyd, troseddau bwyd a samplu gwyliadwriaeth.

7.1 Digwyddiadau bwyd, troseddau bwyd  a samplu gwyliadwriaeth

7.2 Cipolwg

Yn y bennod hon, rydym yn ystyried y canlynol:

  • Nifer a natur y digwyddiadau bwyd a bwyd anifeiliaid a adroddwyd yn 2022
  • Y canfyddiadau diweddaraf o raglenni samplu a gwyliadwriaeth  bwyd cenedlaethol.
  • Gweithgarwch a gwaith yr unedau cenedlaethol troseddau bwyd.

7.3 Cyflwyniad

Sut ydyn ni’n gwybod a yw’r bwyd sydd ar werth ledled y DU yn ddiogel neu’n cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label? Sut mae awdurdodau’n gwirio nad yw bwyd yn debygol o achosi niwed i ni, a beth maen nhw’n ei wneud os felly? Sut ydyn ni’n deall ac yn ymateb i achosion o dwyll, ymyrryd â bwyd neu nwyddau ffug sy’n dod i mewn i’r farchnad? A pha gasgliadau y gallwn ddod iddynt, o hyn oll, ynghylch a yw safonau bwyd yn cael eu cynnal?

Mae’r ASB ac FSS yn defnyddio ystod o dystiolaeth gan asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol, awdurdodau gorfodi lleol, y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd, manwerthwyr bwyd a’r cyhoedd, i’n helpu i ddeall ac ymateb yn gyflym i broblemau yn ein cyflenwad bwyd. 

Mae systemau sefydlog ar gyfer hysbysiadau am ddigwyddiadau sy’n helpu’r ASB ac FSS i rybuddio defnyddwyr pan fydd bwyd wedi’i halogi, yn anniogel, neu’n debygol o achosi afiechyd. Mae hyn bellach wedi’i ategu gan ddefnydd cynyddol o dechnoleg uwch sy’n seiliedig ar DNA i olrhain achosion o salwch a gludir gan fwyd a thargedu camau gweithredu yn y ffynhonnell. 

Mae Unedau Troseddau Bwyd pwrpasol yn yr ASB ac FSS yn gweithio gydag awdurdodau lleol, busnesau bwyd ac asiantaethau eraill i ymchwilio a tharfu ar weithgarwch troseddol yn y gadwyn cyflenwi bwyd, gan naill ai ddwyn achosion gerbron y llys neu darfu ar weithgareddau unigolion neu sefydliadau sy’n ymwneud â thwyll neu gamymddwyn. 

Yn sail i hyn, mae’r ASB, FSS a Defra yn cynnal gweithgarwch samplu wedi’i dargedu sy’n profi dilysrwydd a diogelwch cynhyrchion dethol sydd ar werth yn y DU, sy’n cyd-fynd â’r gwiriadau rheolaidd y mae awdurdodau lleol a busnesau bwyd yn eu cynnal i sicrhau bod y bwyd a brynwn yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.

8. Golwg Manwl 1: Digwyddiadau bwyd a bwyd anifeiliaid

Cyflwyniad

Diffinnir digwyddiad bwyd neu fwyd anifeiliaid fel unrhyw ddigwyddiad lle mae pryderon ynghylch diogelwch, ansawdd neu ddilysrwydd cynhyrchion y gallai fod angen gweithredu arnynt i ddiogelu defnyddwyr. Daw hysbysiadau gan awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd porthladdoedd, cyrff y llywodraeth, y diwydiant, gwledydd eraill, a defnyddwyr eu hunain.

Mae’r ASB, FSS a’n partneriaid yn edrych yn fanwl ar unrhyw newidiadau sylweddol yn y data i’n helpu i ganfod problemau sy’n dod i’r amlwg yn ein cadwyn fwyd. Fodd bynnag, gall ffactorau eraill effeithio ar gyfradd y digwyddiadau a adroddir i ni, gan gynnwys rheoliadau newydd sy’n dod i rym neu welliannau o ran canfod ac adrodd, yn ogystal â newidiadau sylweddol mewn diogelwch ac ansawdd bwyd.

At ei gilydd, adroddwyd am 2,221 o ddigwyddiadau bwyd neu fwyd anifeiliaid yn ystod 2022, a hwnnw’n ffigur ychydig yn llai na’r flwyddyn flaenorol. Er ei bod yn bosib bod y newid hwn oherwydd gwahaniaethau flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn arferion adrodd, yn hytrach na newidiadau gwirioneddol mewn diogelwch bwyd, mae’r ffaith bod y ffigurau cyffredinol yn parhau i fod yn gyson â thueddiadau hirdymor yn awgrymu na fu newidiadau mawr yn nifer cyffredinol y digwyddiadau a adroddwyd (ffigur 36). 

Ffigur 36: Nifer y digwyddiadau bwyd a gofnodwyd yn y DU

Gwlad 2019 2020 2021 2022
Ledled y DU 2,598 2,261 2,363 2,221

8.1 Categorïau bwyd sydd fwyaf cysylltiedig  â digwyddiadau

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, cig a chynhyrchion cig (ac eithrio dofednod) a gyfrannodd at y nifer uchaf o ddigwyddiadau bwyd yn 2022, gan gyfrif am 13% o’r holl ddigwyddiadau. Y cynhyrchion hyn sy’n fwyaf cysylltiedig â digwyddiadau bwyd yn gyson ers 2019 ac maent ymhlith y grwpiau bwyd sy’n destun y profion amlaf a mwyaf trylwyr. Roedd y rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn ymwneud ag achosion o weddillion yn cael eu canfod mewn meddyginiaeth filfeddygol, halogiad microbiolegol, a gwallau labelu neu becynnu. 

Categori arwyddocaol arall yn 2022 oedd bwydydd deietetig, atchwanegiadau bwyd a bwydydd cyfnerthedig, a oedd yn cyfrif am 9% o ddigwyddiadau, a hynny’n bennaf oherwydd achosion o gynhwysion anawdurdodedig yn y cynhyrchion hyn. Roedd grawnfwydydd a chynhyrchion popty yn cyfrannu at gyfran debyg o achosion (9%), gyda llawer o’r digwyddiadau hyn yn ymwneud â phresenoldeb cynhwysion anawdurdodedig, yn ogystal â phroblemau gyda chynhyrchu, labelu a phecynnu. 

Mae cig dofednod a chynhyrchion cig dofednod wedi bod yn y chwech uchaf ers 2020 oherwydd problemau parhaus gyda diffyg cydymffurfiaeth cyw iâr a chynyrchion cyw iâr o Wlad Pwyl sy’n cynnwys Salmonela serovar Enteritidis (a elwir hefyd yn Salmonela Enteritidis). Mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn gwyliadwriaeth a samplu mewn cysylltiad â’r cynhyrchion hyn.

Mae llawer o’r categorïau hyn yn cael sylw amlwg yng ngweithgarwch samplu’r ASB ac FSS (gweler isod, tudalen 97), oherwydd gwendidau yn y cynhyrchion a’r angen am wyliadwriaeth  a monitro parhaus.

Ers 2019 (ffigur 37), dim ond wyth o 35 o gategorïau cynnyrch gwahanol (Atodiad 5) sydd wedi ymddangos yn y chwe phrif gategori bwyd ar gyfer digwyddiadau bwyd, sy’n awgrymu patrwm cyson, at ei gilydd, yn natur digwyddiadau.

Ffigur 37: Y chwe phrif gategori bwyd sydd wedi’u cynnwys mewn digwyddiadau  a gofnodwyd rhwng 2019 a 2022

Ffigur 37: Y chwe phrif gategori bwyd sydd wedi’u cynnwys mewn digwyddiadau a gofnodwyd rhwng 2019 a 2022

8.2 Halogiad gan ficro-organebau niweidiol

Y math mwyaf cyffredin o berygl mewn digwyddiadau bwyd a adroddwyd yn ystod 2022 oedd micro-organebau pathogenig, a oedd yn cyfrif am 29% o’r holl achosion. Mae Salmonela yn parhau i gyfrif am y mwyafrif o’r digwyddiadau microbiolegol hyn. Er bod y prif ffigurau ar gyfer halogiad gan ficro-organebau yn dangos cynnydd sylweddol o un flwyddyn i’r llall, mae hyn yn bennaf oherwydd cynnydd sylweddol yn yr achosion o ffliw adar a gofnodwyd yn Lloegr yn ystod 2022 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol[26]. Ac eithrio’r achosion hyn, arhosodd y ffigurau ar gyfer digwyddiadau micro-organebau pathogenig mewn bwyd a bwyd anifeiliaid yn weddol sefydlog rhwng 2021 a 2022, er bod dal cynnydd sylweddol iawn mewn achosion o gymharu â 2019 (ffigur 38).

Ffliw adar a diogelwch bwyd

Er nad yw ffliw adar yn peri pryder o ran diogelwch bwyd, mae’r ASB ac FSS yn rhan o’r gwaith o gydgysylltu’r ymateb i glefydau hysbysadwy mewn anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd. Yn achos ffliw adar, mae hyn yn cynnwys olrhain dofednod a anfonir i’w lladd yn ystod y cyfnod cyn cadarnhau’r clefyd, at ddibenion rheoli clefydau anifeiliaid. Adroddwyd am gyfanswm o 228 o achosion o ffliw adar yn 2022, o gymharu â 56  yn 2021.

Ffigur 38: Nifer yr achosion o halogiad gan ficro-organebau niweidiol yn y DU

Math o halogiad 2019 2020 2021 2022
Micro-organebau pathogenig 360 (14%) 431 (19%) 584 (25%) 647 (29%)

(Testun mewn cromfachau: Canran cyfanswm y digwyddiadau bwyd a bwyd anifeiliaid ar gyfer  y flwyddyn honno.)

8.3 Digwyddiadau bwyd yn ymwneud ag alergenau

Mae nifer y digwyddiadau a nodwyd yn 2022 sy’n ymwneud ag alergenau heb eu datgan neu wedi’u datgan yn anghywir wedi dychwelyd i’r lefelau hynny a welwyd cyn y pandemig, a hynny yn dilyn gostyngiad mewn achosion yn ystod 2020 a 2021. Mae adroddiadau am ddigwyddiadau bellach yn cyfateb yn fras i’r ffigurau uwch a welwyd yn ystod y blynyddoedd cyn y pandemig, yn dilyn gostyngiadau yn 2020 a 2021.

Er nad oes modd gwybod yn sicr, mae’n bosib bod y gostyngiad yn 2020 a 2021 wedi deillio o gyfuniad o newidiadau i ymddygiad defnyddwyr yn ystod y pandemig, symleiddio llinellau cynhyrchu bwyd, gostyngiad yn nifer y busnesau a oedd yn gweithredu ar y pryd, a newidiadau i archwiliadau bwyd wyneb yn wyneb mewn safleoedd bwyd. Mae’n ymddangos, wrth i bethau sefydlogi eto ar ôl y pandemig, fod tueddiadau o ran nifer y digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag alergenau hefyd wedi dychwelyd i’r hyn oeddent cyn y pandemig. 

Bydd yr ASB ac FSS yn parhau i gefnogi busnesau bwyd i roi rheolaethau alergenau effeithiol ar waith, gan gynnwys defnyddio labelu cywir, rhoi’r wybodaeth gywir i ddefnyddwyr, a mesurau rheoli da wrth gynhyrchu a chyflenwi bwyd.

Ffigur 39: Nifer y digwyddiadau bwyd sy’n ymwneud ag alergenau

Math o ddigwyddiad bwyd 2019 2020 2021 2022
Alergenau 355 240 272 322

9. Nifer yr achosion o glefydau a gludir gan fwyd

Er bod nifer yr achosion o halogiad gan ficro-organebau niweidiol a adroddwyd wedi  parhau’n uchel, nid yw ein dadansoddiad yn awgrymu unrhyw newidiadau arbennig o  amlwg yng nghyfraddau’r clefydau a gludir gan fwyd a ganfuwyd yn ystod 2022 – gydag  un eithriad nodedig.

Mae data gan asiantaethau iechyd cyhoeddus y DU (ffigur 40) yn dangos cynnydd mewn achosion o heintiau Salmonela spp. yn y DU yn ystod 2022 ond maent yn parhau i fod yn is na’r lefelau cyn pandemig COVID-19. Mae achosion a adroddwyd o heintiau Campylobacter spp. a Listeria monocytogenes yn debyg i’r lefelau a welwyd cyn pandemig COVID-19. Fodd bynnag, bu cynnydd yn yr adroddiadau o STEC O157, i’w lefel uchaf ers 2015, yn bennaf oherwydd brigiad o achosion (outbreak) cenedlaethol mawr yr ymchwiliwyd iddo yn ystod haf 2022. 

Mae’n bwysig nodi nad trosglwyddiad a gludir gan fwyd sy’n gyfrifol am bob achos o haint gan y pathogenau hyn — er enghraifft, gellir cael heintiau trwy ledaeniad o berson i berson — ac felly efallai nad yw newid mewn lefelau o reidrwydd yn adlewyrchiad o safonau bwyd y DU.

Ffigur 40: Tueddiadau yn yr achosion o’r pedwar prif bathogen GI a gadarnhawyd  gan labordai yn y DU fesul 100,000 o’r boblogaeth

Ffigur 40: Tueddiadau yn yr achosion o’r pedwar prif bathogen GI a gadarnhawyd gan labordai yn y DU fesul 100,000 o’r boblogaeth

Ffynhonnell: Daw’r data o sawl system adrodd byw a reolir gan asiantaethau iechyd cyhoeddus y DU (Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd Cyhoeddus yr Alban ac Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon). Data dros dro yw’r data a gall newid.  

Mae’r data yn ffigur 40 yn deillio o sawl system adrodd byw. Cyfrifir cyfraddau fesul 100,000 o’r boblogaeth (echel ‘y’) gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (defnyddiwyd amcangyfrifon 2021 ar gyfer 2022 gan nad yw amcangyfrifon 2022 ar gael eto). Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli tueddiadau dros amser, yn enwedig dros y cyfnod pandemig COVID-19 (2020 i ddechrau 2022) oherwydd yr amryfal ffactorau a effeithiodd ar y broses o adrodd ar bathogenau.

9.1 Rôl dilyniannu genom cyfan

Ers 2015, mae Labordai Cyfeirio Cenedlaethol y DU yn Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) wedi defnyddio dilyniannu genom cyfan rheolaidd i ganfod, deall ac olrhain y prif bathogenau gastroberfeddol fel Salmonela spp, STEC, Shigella spp., a Listeria monocytogenes.

Cynhelir dilyniannu genom cyfan mewn labordai, lle defnyddir un broses gyflym i bennu cyfansoddiad genetig cyfan organeb neu fath o gell benodol. Mae’n darparu olion bysedd  DNA manwl iawn a all helpu i gysylltu achosion â’i gilydd, gan ganiatáu i achos gael  ei ganfod yn gyflym. 

Rhwng Ionawr 2022 a Rhagfyr 2022, canfuwyd ac ymchwiliwyd i 40 o frigiadau o achosion a gludir gan fwyd (ffigur 41) a briodolwyd i bathogenau penodol, gan arwain at nifer o ymchwiliadau llwyddiannus i frigiadau o achosion a lwyddodd i nodi’r cyfrwng a/neu ffynhonnell yr halogiad. Yn dilyn hyn, rhoddwyd mesurau rheoli effeithiol ar waith, gan gynnwys y canlynol:

Astudiaeth achos: Salmonela spp. mewn siocled Ferrero

Roedd y ffordd y rheolwyd brigiad o achosion o Salmonela Typhimurium monoffasig mewn cynhyrchion siocled y grŵp Ferrero yn dangos sut mae dilyniannu genom cyfan yn gwella ein gallu i olrhain, nodi ac ymateb i broblemau diogelwch bwyd ar draws ffiniau rhyngwladol. 

Dadansoddodd yr asiantaethau iechyd cyhoeddus wybodaeth am amlygiad bwyd a gasglwyd o achosion o salwch ym mis Mawrth 2022, a chanfuwyd mai bwyta wyau Kinder a chynhyrchion eraill a weithgynhyrchir gan Ferrero oedd y cyswllt cyffredin ar draws pob achos. Cadarnhawyd hyn bythefnos cyn Pasg 2022, pan oedd disgwyl i nifer y wyau siocled a fwyteir gan blant gynyddu’n sylweddol.

Defnyddiwyd dilyniannu genom cyfan i gadarnhau bod rhai achosion o salmonelosis yn gysylltiedig â’i gilydd a bod ymchwiliadau i’r gadwyn fwyd wedi olrhain y broblem i un safle gweithgynhyrchu yng Ngwlad Belg. Yn dilyn hyn, galwyd yr holl gynhyrchion dan sylw yn ôl. Gan mai’r DU oedd y wlad gyntaf i nodi ffynhonnell y brigiad o achosion, rhannwyd canfyddiadau ymchwiliad y DU yn rhyngwladol hefyd, gan arwain at alw’r cynhyrchion yn ôl mewn 98 o wledydd eraill ac atal gweithgynhyrchu ar safle Ferrero yng Ngwlad Belg yn ystod haf 2022.

Ffigur 41: Nifer yr achosion a briodolir i bathogenau penodol a nodwyd yn y DU, 2022

Ffigur 41: Nifer yr achosion a briodolir i bathogenau penodol a nodwyd yn y DU, 2022

  • Caiff norofeirws ei gofnodi fel arfer (ond nid bob amser) fel ‘norofeirws a amheuir’ gan nad yw hyn yn cael ei gadarnhau fel mater o drefn gan brofion microbiolegol. Yn hytrach, caiff ei nodi fel arfer fel yr achos yn seiliedig ar symptomau a nodwyd gan gleifion a’r cyflwyniad clinigol.

9.2 Rhybuddion bwyd a hysbysiadau galw’n ôl 

Unwaith y bydd digwyddiad bwyd wedi’i nodi, mae’n bosib y bydd yn rhaid i’r cynnyrch dan sylw gael ei dynnu neu ei alw’n ôl – fel oedd yn wir yn yr enghraifft Ferrero a ddisgrifiwyd uchod. Mae’r ASB ac FSS yn cyhoeddi rhybuddion amrywiol i roi gwybod i ddefnyddwyr a busnesau bwyd eraill am y broblem a pha gamau y mae angen eu cymryd i leihau’r risg.

Cyhoeddir Rhybudd Alergedd pan fydd y cynnyrch wrthi’n cael, neu wedi cael,  ei alw’n ôl oherwydd nad yw gwybodaeth am alergenau wedi’i datgan ar labeli bwyd (gan gynnwys diffyg gwybodaeth yn Saesneg) neu oherwydd bod yr wybodaeth ar y label yn anghywir.

Cyhoeddir Hysbysiad Galw Cynnyrch yn Ôl pan fydd pryderon am ddiogelwch cynnyrch, gan amlaf oherwydd halogiad, cambecynnu neu gamlabelu cynhyrchion.

Cyhoeddir Rhybudd Bwyd er Gweithredu ar gyfer awdurdodau lleol a defnyddwyr pan fydd dosbarthiad cynhyrchion yn llai amlwg neu pan na fydd busnes bwyd yn cymryd y camau gofynnol i dynnu cynhyrchion oddi ar y farchnad, a bod angen gweithredu adferol gan awdurdodau lleol.

Ni fu unrhyw newid cyffredinol yn nifer cyfunol y Rhybuddion Alergedd a gyhoeddwyd gan asiantaethau bwyd y DU yn 2022 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol (ffigur 42) er bod nifer yr achosion o alergenau wedi cynyddu. Mae hyn yn bennaf oherwydd y cymerwyd camau gweithredu mewn perthynas â diogelwch bwyd cyn i’r cynhyrchion yr effeithiwyd arnynt gyrraedd defnyddwyr. 

O ran y categorïau bwyd y cyhoeddwyd rhybudd alergedd ar eu cyfer, cynhyrchion sy’n cynnwys llaeth heb ei ddatgan yw’r categori bwyd mwyaf cyffredin o hyd, wedi’i ddilyn gan gnau heb eu datgan, wyau heb eu datgan a grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten heb ei ddatgan (ffigur 43).

Yn y cyfamser, cyhoeddwyd cyfanswm o 80 o Hysbysiadau Galw Cynnyrch yn Ôl yn 2022 (ffigur 44) oherwydd problemau fel halogiad microbiolegol, halogiad ffisegol, diffygion cynhyrchu neu ddefnyddio codau dyddiad anghywir ar gynhyrchion. 

Ffigur 42: Cyfanswm y Rhybuddion Alergedd a gyhoeddwyd gan yr ASB ac FSS

Gwlad 2019 2020 2021 2022
DU 115 77 83 83

Ffynhonnell: Systemau Rheoli Digwyddiadau’r ASB ac FSS

Mae’r newid o flwyddyn i flwyddyn yn nifer yr Hysbysiadau Galw Cynnyrch yn Ôl a gyhoeddwyd rhwng 2021 a 2022 (cynnydd o 23%) yn bennaf oherwydd newidiadau yn y ffordd rydym yn casglu’r data hwn: mae’r holl rybuddion diweddaredig sy’n cael eu cyhoeddi pan fydd newid i’r achos gwreiddiol o alw cynnyrch yn ôl bellach yn cael eu cofnodi yn y cyfanswm. Felly nid yw’r duedd yn dangos unrhyw gynnydd sylweddol mewn digwyddiadau bwyd difrifol.
Nid oes unrhyw Rybuddion Bwyd er Gweithredu wedi’u cyhoeddi yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, sy’n dangos, pan fo mater diogelwch, fod busnesau bwyd yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol a’r ddwy asiantaeth fwyd genedlaethol i sicrhau bod gofynion diogelwch yn cael eu bodloni.

Ffigur 43: Rhybuddion Alergedd yn ôl y math o alergen

Ffigur 43: Rhybuddion Alergedd yn ôl y math o alergen

Ffigur 44: Cyfanswm yr Hysbysiadau Galw Cynnyrch yn Ôl a gyhoeddwyd yn y DU

Gwlad 2019 2020 2021 2022
DU 56 66 65 80

Ffynhonnell: Systemau Rheoli Digwyddiadau’r ASB ac FSS

9.3 Golwg Manwl 2: Samplu gwyliadwriaeth bwyd

Cyflwyniad

Mae gwaith samplu bwyd targededig yn ffordd bwysig arall o fonitro diogelwch a dilysrwydd ein bwyd. Wrth i awdurdodau lleol a busnesau bwyd brofi cynhyrchion fel mater o drefn i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion cyfreithiol, mae gwyddonwyr a gomisiynir gan yr ASB, FSS a Defra yn samplu cynhyrchion dethol o bryd i’w gilydd i olrhain risgiau sy’n dod i’r amlwg, er mwyn sicrhau bod safonau’n cael eu cynnal a llywio’r gwaith o ddatblygu polisi. Mae’r samplau y cyfeirir atynt yn yr adran hon yn samplau answyddogol, sy’n golygu na chymerwyd samplau yn uniongyrchol gan swyddogion samplu awdurdodedig ac nad oedd modd defnyddio’r canlyniadau mewn achos gorfodi nac erlyniad. 

Rôl labordai swyddogol

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’r DU fod â labordai swyddogol dynodedig sy’n dadansoddi diogelwch a chyfansoddiad samplau bwyd a bwyd anifeiliaid a anfonir gan awdurdodau lleol neu awdurdodau iechyd porthladdoedd at ddibenion gorfodi  neu wyliadwriaeth. 

Mae gweithgarwch samplu awdurdodau lleol wedi lleihau’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf – er enghraifft, yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, bu gostyngiad o 79.1% yn nifer y samplau nad ydynt yn ficrobiolegol a gymerwyd rhwng 2016 a 2021, ac yn yr Alban gwelwyd gostyngiad o 70.9% (mewn samplau microbiolegol a chemegol) rhwng 2016/17 a 2020/21. O ganlyniad, mae llawer o labordai swyddogol wedi cau – er enghraifft, roedd gan Loegr naw labordy yn 2013 o gymharu â phedwar ers 2019. Gyda llai o fynediad i labordai Ewropeaidd ers i ni ymadael â’r UE, mae angen i’r ASB ac FSS wneud y mwyaf o allu’r DU i gynnal profion fel y gall y gwaith dadansoddi pwysig hwn barhau. 

Er bod yr adnoddau labordy sydd ar gael wedi sefydlogi yn ystod 2022, rydym yn parhau i fuddsoddi yng ngallu, galluedd ac arbenigedd y DU. Yn yr Alban, mae yna bedwar labordy profi bwyd a ariennir yn gyhoeddus (labordai dadansoddwyr cyhoeddus). Mae’r pedwar labordy hyn yn gyfrifol am archwilio microbiolegol a dadansoddi cemegol, gan gynnwys halogion, safonau, dilysrwydd a phrofion alergenau ar yr holl samplau bwyd a gesglir yn yr Alban. 

Yn yr adran hon, rydym yn crynhoi canfyddiadau’r tri arolwg a gynhaliwyd yn 2022: arolwg samplu targededig yr ASB yn 2022, rhaglen samplu gyfansoddol a chemegol FSS, ac arolwg rhywogaethu cig a physgod Defra. Mae’r rhaglenni a’r gweithgareddau hyn yn cael eu cydlynu’n ofalus ar draws y llywodraeth i sicrhau cydgysylltiad, yr effeithlonrwydd mwyaf,  a bod rhaglenni’r ASB ac FSS yn cael eu llywio gan anghenion a gwybodaeth ranbarthol.

Fodd bynnag, mae angen deall y canlyniadau yn eu cyd-destun. Gan fod arolygon yr ASB ac FSS wedi’u targedu’n benodol iawn at y mannau lle gwyddom fod risgiau, maent yn fwy tebygol o nodi canlyniadau anfoddhaol ac felly nid ydynt yn cynrychioli safonau bwyd cyffredinol y DU. Fodd bynnag, mae’r canfyddiadau’n cynnig mewnwelediadau hanfodol sy’n helpu’r awdurdodau diogelwch bwyd cenedlaethol, y diwydiant ac awdurdodau gorfodi i ymateb i broblemau posib yn y gadwyn fwyd a thargedu adnoddau cyfyngedig yn well.

Er enghraifft, mae awdurdodau lleol eisoes wedi cymryd camau uniongyrchol yn dilyn canlyniadau’r llynedd, gan ddarparu cyngor a chymorth i fusnesau unigol ar faterion yn amrywio o laeth heb ei ddatgan mewn cynhyrchion bara, i oregano y canfuwyd ei fod yn cynnwys dail olewydd. Mae’r ASB ac FSS hefyd yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant i rannu gwybodaeth a mynd i’r afael â meysydd sy’n peri pryder, yn enwedig drwy Rwydwaith Cudd-wybodaeth  y Diwydiant Bwyd.

9.4 Arolwg targededig yr ASB yn 2022

Yr hyn a brofwyd

Profwyd tua 600 o samplau ar gyfer problemau o ran dilysrwydd a phresenoldeb alergenau a halogion. Gwiriwyd labeli hefyd i sicrhau cywirdeb a chydymffurfiaeth â safonau gwybodaeth bwyd. Roedd yr eitemau a brofwyd yn yr arolwg yn cynnwys y rheiny a oedd eisoes yn hysbys fel eitemau mewn perygl uchel o fethu ar sail safonau cyfansoddol neu ddilysrwydd – er enghraifft, cafodd oregano ei gynnwys oherwydd heriau rhyngwladol o ran dilysrwydd. 

Mae rhai o’r eitemau bwyd yr un fath ag mewn blynyddoedd blaenorol, fel y gallwn weld sut mae methiannau’n newid dros amser a nodi problemau sy’n dod i’r amlwg. Cafodd eitemau bwyd eraill eu cynnwys i wirio bod safonau’n cael eu cynnal er gwaethaf y pwysau economaidd ar gynhyrchwyr bwyd (er enghraifft, safonau cyfansoddol selsig a briwgig eidion). Ategwyd y rhain gan fwydydd eraill sy’n cael eu bwyta’n aml fel bara a llaeth.

Prif ganlyniadau

  • Gwnaeth 86% o’r samplau basio’r holl wiriadau, o gymharu ag 89% y llynedd. Ar gyfer busnesau bwyd mawr (fel archfarchnadoedd neu gyfanwerthwyr), roedd 96% o’r samplau a brofwyd yn cydymffurfio’n llwyr.
  • Roedd tua thraean o’r holl fethiannau a nodwyd (28 allan o 82) yn ymwneud â phroblemau o ran labelu. Er bod y rhan fwyaf o’r problemau yn gymharol ddibwys, roedd rhai problemau mwy difrifol lle’r oedd labeli cynhwysion, gan gynnwys gwybodaeth am alergenau, ar goll neu wedi’u cyflwyno’n anghywir ar y deunydd pecynnu.
  • Canfuwyd bod un rhan o bump o’r samplau bara a ddadansoddwyd ar gyfer llaeth a sesame (saith allan o 35) yn cynnwys alergenau heb eu datgan, a phob un ohonynt yn ymwneud â chynhyrchion a oedd wedi’u pecynnu ymlaen llaw i’w gwerthu’n uniongyrchol. Ystyriwyd bod pump allan o 106 sampl o gynhyrchion figan (a brofwyd ar gyfer llaeth, wyau a physgnau) a chynhyrchion ‘rhydd rhag’ (a brofwyd ar gyfer llaeth, glwten a chnau) hefyd yn anfoddhaol oherwydd alergenau heb eu datgan neu broblemau o ran y labeli. O’r pedwar methiant, roedd un yn ymwneud â glwten heb ei ddatgan mewn cynnyrch ‘rhydd rhag’, ac roedd tri yn ymwneud â chynhyrchion figan a oedd yn cynnwys llaeth a physgnau heb eu datgan.
  • Archwiliwyd selsig a briwgig i ganfod yr union rywogaeth a oedd yn y sampl bwyd. Aseswyd cynnwys cig y selsig hefyd, yn ogystal â chynnwys braster, protein a cholagen y briwgig i wneud yn siŵr bod y rhain yn cyd-fynd â’r gwerth a nodwyd ar y pecynnau. Er mai dim ond un sampl allan o 80 oedd yn anfoddhaol o ran dilysrwydd (canfuwyd DNA defaid mewn selsigen borc), nid oedd 11 sampl yn bodloni’r lefelau a ddatganwyd ar y label: roedd chwech o bob 40 sampl selsig, er enghraifft, yn cynnwys llai o gig porc nag a ddatganwyd.
  • Roedd tri achos o ddiffyg cydymffurfio gan iogwrt, a brofwyd am y tro cyntaf ar gyfer problemau o ran cyfansoddiad (cynnwys protein llaeth, asid bensöig ac asid sorbig). Cafwyd canlyniadau a oedd mymryn yn well na’r flwyddyn flaenorol ar gyfer menyn a marjarîn (cynnwys braster llaeth). O ran oregano (dilysrwydd, mycotocsinau a metelau trwm), reis basmati (dilysrwydd), a llaeth (cynnwys braster), gwelwyd cyfraddau methiant tebyg i arolwg 2021/22, sy’n dangos bod heriau’n parhau gyda’r cynhyrchion hyn. Wrth ystyried caws (rhywogaethu a chynnwys braster), cynyddodd nifer yr achosion o ddiffyg cydymffurfio, a bu cynnydd nodedig hefyd yng nghyfraddau methiant olew olewydd yn erbyn y safonau a brofwyd – o 7% yn unig yn 2021 i 25% yn 2022. Fodd bynnag, roedd y mwyafrif o’r rhain yn ymwneud â mân anghysondebau o ran labelu, yn hytrach na chyfansoddiad y cynnyrch (er enghraifft, peidio â rhoi cyfarwyddiadau storio gorfodol).

Ffigur 45: Crynodeb o ganlyniadau samplu anfoddhaol fesul categori

Ffigur 45: Crynodeb o ganlyniadau samplu anfoddhaol fesul categori

Ffigur 46: Rhesymau dros ddiffyg cydymffurfio ar draws yr holl samplau

Ffigur 46: Rhesymau dros ddiffyg cydymffurfio ar draws yr holl samplau

9.5 Rhaglen samplu halogion cemegol a chyfansoddol FSS ar gyfer 2021/22

Yr hyn a brofwyd

Fel rhan o’r rhaglen, profwyd briwgig eidion wedi’i becynnu ymlaen llaw, ceirch a bwydydd a diodydd sy’n cynnwys ceirch, a diodydd sy’n cynnwys cnau almon a chnau coco ar gyfer gwahanol broblemau o ran halogion cyfansoddol a chemegol. Yn ogystal, archwiliwyd amrywiaeth o gynhyrchion bwyd figan a bwyd ‘rhydd rhag’ ar gyfer presenoldeb alergenau heb eu datgan.

Prif ganlyniadau

  • Barnwyd bod wyth allan o 45 sampl (18%) o gynhyrchion briwgig eidion wedi’u  pecynnu ymlaen llaw yn anfoddhaol o ran dadansoddi cyfansoddol.
  • Canfuwyd mycotocsinau mewn sawl sampl o geirch a chynhyrchion sy’n cynnwys  ceirch, ond nid ar lefelau a fyddai’n peri unrhyw risg i iechyd y cyhoedd. Ni fethodd yr  un o’r samplau oherwydd lefelau anniogel o fetelau trwm.
  • Allan o 80 sampl o gynhyrchion figan a ‘rhydd rhag’, canfuwyd bod tri yn cynnwys alergenau heb eu datgan.
  • Ni chanfuwyd bod yr un o’r samplau o ddiodydd cnau almon yn cynnwys lefelau  anniogel o fycotocsinau neu fetelau trwm, ac roedd gan yr holl ddiodydd cnau coco a samplwyd lai na 10 µg/kg o 3-monocloropropan diol (3-MCPD), sef halogydd cemegol; mae hyn yn cynrychioli lefel sy’n sylweddol is na’r hyn a ystyrir yn risg i iechyd.  

9.6 Arolwg rhywogaethu cig a physgod Defra ar gyfer 2022

Yr hyn a brofwyd

Yn 2022, gwnaeth Defra ariannu ymarfer samplu dilysrwydd bwyd anffurfiol fel rhan o  weithgarwch samplu ehangach wedi’i gydlynu gan yr ASB i helpu i lywio rhaglenni samplu yn y dyfodol. Edrychodd yr ymarfer, a gynhaliwyd gan labordy preifat masnachol, ar bresenoldeb posib rhywogaethau heb eu datgan mewn 354 o gynhyrchion cig a physgod gwyn wedi’u prosesu i’w manwerthu a’u cyfanwerthu. 

Roedd y samplau’n deillio o un o dair ardal – y DU, yr UE a thu allan i’r UE – a chawsant eu prynu mewn gwahanol safleoedd wedi’u gwasgaru ar draws naw lleoliad daearyddol yn Lloegr. Tynnwyd sylw’r ASB a’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd at unrhyw samplau o arolygon Defra nad oeddent yn cydymffurfio ar gyfer camau gweithredu dilynol. 

Canlyniadau

Dangosodd y canlyniadau cyffredinol mai 96% oedd lefel y gydymffurfiaeth â’r rheolau labelu o ran nodi rhywogaethau cig a physgod. Mae’r canlyniadau hyn yn dangos lefelau tebyg o gydymffurfiaeth ar gyfer yr un arolwg a gynhaliwyd yn 2019.

Pedair elfen allweddol rhaglen samplu FSS

1. Profwyd briwgig eidion a chynhyrchion stêc wedi’u pecynnu ymlaen llaw ar gyfer lefelau braster a meinwe gysylltiol (a ddangosodd bresenoldeb deunydd heblaw’r cig cyhyrol). Mae’r gwaith profi hwn yn helpu i asesu cydymffurfiaeth â gofynion labelu deddfwriaethol yn ogystal â’r cynnydd a wnaed er mwyn cydymffurfio â chanllawiau Pwyllgor Cyswllt Gorfodi Bwyd yr Alban (SFELC) ar safonau ansawdd ar gyfer briwgig eidion a briwgig stêc.

2. Cafodd samplau o geirch a chynhyrchion bwyd a diod sy’n cynnwys ceirch eu casglu a’u profi ar gyfer amrywiaeth o fycotocsinau a metelau trwm. Gall yr  halogion hyn fodoli yn naturiol mewn ceirch ac, os ydynt  yn bresennol mewn lefelau gormodol, gallant gael  effeithiau negyddol ar iechyd. 

3.  Cafodd cynhyrchion diodydd cnau almon eu casglu a’u profi ar gyfer mycotocsinau a metelau trwm, a chafodd diodydd cnau coco eu profi ar gyfer 3-MCPD ac esterau glycidyl eraill. Mae mycotocsinau yn docsinau sy’n digwydd yn naturiol a gynhyrchir gan lwydni a gellir eu canfod mewn cnau almon, ac mae 3-MCPD yn halogyn sy’n gallu digwydd mewn rhai bwydydd wrth eu prosesu. Gall y ddau fod yn niweidiol os cânt eu bwyta i ormodedd. 

4. Cafodd samplau o bum grŵp bwyd – cynnyrch figan a heb laeth, prydau heb laeth, grawnfwyd heb glwten, bariau grawnfwyd a chacennau, a phrydau heb gnau – eu casglu a’u profi ar gyfer presenoldeb alergenau heb eu datgan i brofi cydymffurfiaeth â deddfwriaeth labelu.

9.7 Casgliadau

Yn gyffredinol, yn y meysydd a dargedwyd, nid oes unrhyw wahaniaeth ystadegol yn lefel y canlyniadau nad ydynt yn cydymffurfio o gymharu â blynyddoedd blaenorol, gyda busnesau mawr yn mwynhau lefel uwch o ganlyniadau boddhaol na busnesau bwyd llai. Mae hyn yn rhoi rhywfaint o hyder bod safonau bwyd yn cael eu cynnal, yn enwedig o ystyried bod y gwaith samplu wedi’i lywio gan wybodaeth ac wedi’i dargedu at feysydd risg uchel.

Mae’r canfyddiadau hefyd yn datgelu rhai materion diogelwch cyhoeddus a allai fod yn ddifrifol yn ymwneud â datgan alergenau, gan atgyfnerthu’r angen parhaus am wiriadau rheolaidd gan awdurdodau lleol a busnesau fel rhan o waith profi a gorfodi arferol. O ran y gwaith samplu briwgig a selsig a ariennir gan FSS i asesu ansawdd y cynnyrch a brynir gan ddefnyddwyr, dangosodd hyn hefyd nifer sylweddol o ganlyniadau anfoddhaol. 

Er bod ein rhaglenni samplu’n darparu mewnwelediad defnyddiol, maent yn neilltuo adnoddau cyfyngedig i dargedu risgiau a nwyddau penodol yn system fwyd y DU ac nid ydynt yn rhaglenni samplu cynhwysfawr, cyflawn. Byddai angen buddsoddi mewn gwyliadwriaeth ehangach i roi gwell sylw i system fwyd y DU.

Profion gwlad tarddiad

Ni chynhaliwyd unrhyw brofion gwlad tarddiad yn yr arolygon hyn. Er bod y profion hyn yn cael eu cynnig yn fasnachol ac yn gallu rhoi mewnwelediad amodol i bryderon dilysrwydd yn y maes hwn, mae heriau o ran cyflawni canlyniad pendant, ac mae’n debygol y bydd angen dilysu unrhyw ganlyniadau anghyson drwy lwybrau eraill. Mae diddordeb defnyddwyr yn parhau i fod yn uchel yn y maes hwn o wyliadwriaeth a samplu, ac mae’r ASB yn gweithio mewn partneriaeth â Defra i adolygu profion gwlad tarddiad ac i asesu dichonoldeb dulliau i’w defnyddio wrth ymgymryd â gwaith gorfodi.  

Astudiaeth Achos: Deall heriau dilysrwydd: mêl

Mae mêl yn gymysgedd cymhleth, naturiol o wahanol siwgrau sy’n cael eu cynhyrchu’n gyfan gwbl gan wenyn. Er nad oes tystiolaeth bod unrhyw fêl ar werth yn y DU yn anniogel, mae’n gynnyrch y gellid ei newid neu ei ddifwyno’n anghyfreithlon drwy ychwanegu siwgr heb ei ddatgan. Nid oes un dull profi unigol sy’n gallu cadarnhau dilysrwydd mêl. 

Mae hyn wedi arwain at honiadau o dwyll mêl, ac mae adroddiad diweddar gan yr UE (Opens in a new window)wedi tynnu sylw at bryderon sy’n gysylltiedig â difwyno â suropau siwgr, yn seiliedig ar y canlyniadau ‘amheus’ a adroddwyd mewn perthynas â’r gwaith samplu cydgysylltiedig o fêl wedi’i fewnforio a gynhaliwyd gan aelod-wladwriaethau. Gwnaeth yr adroddiad hwn hefyd amlygu cyfyngiadau dulliau labordy, os cânt eu defnyddio ar eu pennau eu hunain, i brofi difwyno a’r angen am ddulliau profi gwell, wedi’u cysoni, a dderbynnir yn eang i gadarnhau dilysrwydd y samplau. Mae ymchwiliadau pellach ar y gweill gan y gwledydd sy’n mewnforio, a hynny i gymryd camau dilynol ar sail y canlyniadau a nodwyd yn rhai ‘amheus’. Mae Defra wedi sefydlu grŵp mêl arbenigol annibynnol yn y DU i roi cyngor ar gasgliadau adroddiad yr UE yn seiliedig ar y dadansoddiad gwyddonol a gynhaliwyd a’r dehongliad o’r dull a ddefnyddiwyd i bennu canlyniadau’r sampl. 

Mae gan yr ASB, FSS a Defra raglen waith sylweddol wedi’i neilltuo i fêl. Ei nod yw ymgysylltu a gweithio gyda’r gymuned fêl, gan gynnwys ymchwilwyr, swyddogion gorfodi, y diwydiant a chyrff rhyngwladol i ddiogelu’r nwydd pwysig hwn. Mae’r rhaglen waith yn cymryd camau i wella’r dulliau profi dilysrwydd cyfredol, gan weithio gydag arbenigwyr yn y DU i ddatrys y broblem heriol hon. Drwy’r datblygiadau hyn – sy’n cynnwys datblygu technoleg well, safoni a dilysu dulliau profi, gwella dealltwriaeth o bwysigrwydd defnyddio tystiolaeth ac arferion gorfodi da – bydd gennym gyfres well o offer i sicrhau dilysrwydd mêl sydd ar werth yn y DU.

9.8 Golwg manwl 3: Troseddau bwyd

Cyflwyniad

Fel yr ydym eisoes wedi gweld, mae gwaith samplu’n gallu helpu’r asiantaethau safonau bwyd cenedlaethol i weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i ymateb i broblemau cydnabyddedig o ran diogelwch a dilysrwydd y gellir eu datrys wedyn gyda’r busnesau dan sylw. Fodd bynnag, samplu gwyliadwriaeth yw un o’r ffyrdd y gallwn ganfod enghreifftiau mwy drygionus o gamymddwyn, ac mae’n chwarae rhan bwysig wrth ein galluogi i ganfod ac ymateb i arwyddion o droseddoldeb yn ein system fwyd. 

Diffinnir troseddau bwyd fel twyll difrifol a throseddoldeb cysylltiedig mewn cadwyni cyflenwi bwyd, gan gynnwys diodydd ac anifeiliaid. Mae’n amrywio o ddwyn, difwyno neu gamgyfleu cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid i brosesu a gwaredu bwyd, diod a bwyd anifeiliaid yn anghyfreithlon yn ystod ac ar ôl cynhyrchu. Yn aml, mae troseddwyr yn gwneud ymdrech fwriadol i gadw’r gweithgarwch hwn yn gudd, a dyna un o’r rhesymau pam na sylwir ar gynifer o achosion o droseddau bwyd a pham na adroddir amdanynt. Fodd bynnag, fel y canfu adroddiad academaidd diweddar a gomisiynwyd gan yr ASB, gallai troseddau bwyd gostio cymaint â £2 biliwn y flwyddyn i economi a chymdeithas y DU ac effeithio ar ddefnyddwyr, busnesau a rheoleiddwyr fel ei gilydd.

Mae’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) ac Uned Troseddau a Digwyddiadau Bwyd  yr Alban (SFCIU) yn gweithio gyda’r diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod, manwerthwyr  bwyd ac awdurdodau lleol i nodi troseddau bwyd, ymchwilio iddynt, tarfu arnynt a’u hatal. Mae’r ddwy uned yn diogelu defnyddwyr a busnesau cyfreithlon trwy gynnal ymchwiliadau sy’n seiliedig ar gudd-wybodaeth, gan ysgogi erlyniadau troseddol, asesu a chyfathrebu bygythiadau, a gweithio gyda rheoleiddwyr eraill, y llywodraeth, adrannau gorfodi’r gyfraith a’r diwydiant i atal troseddau bwyd.

Ar beth y gwnaeth yr unedau troseddau bwyd ganolbwyntio yn 2022?

Gwnaeth y ddwy uned troseddau bwyd osod blaenoriaethau a ddisgrifir yn eu Strategaethau Rheoli priodol. Mae’r rhain yn seiliedig ar eu dadansoddiad o’r cyfleoedd ar gyfer ymddygiad troseddol neu ar wendidau hysbys yn y gadwyn fwyd. Er bod y blaenoriaethau hyn yn cael eu cydbwyso yn erbyn angen ehangach i fod yn wyliadwrus am fygythiadau troseddau bwyd eraill sy’n dod i’r amlwg, maent yn pennu’r cyfeiriad ar gyfer y gudd-wybodaeth y mae’r unedau troseddau bwyd yn ei chasglu o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys y diwydiant bwyd, awdurdodau lleol a’r cyhoedd. Yn wir, o’r 1,814 o adroddiadau cudd-wybodaeth am droseddau bwyd a ddaeth i law yn ystod 2022 – sef gwybodaeth sy’n ymwneud â throsedd bwyd newydd neu drosedd a nodwyd eisoes – roedd tua dwy ran o dair (65%) yn ymwneud â’r blaenoriaethau strategol hyn.

Ymchwiliadau byw

Unwaith y caiff cudd-wybodaeth ei derbyn a’i hasesu, os oes amheuaeth resymol bod trosedd wedi’i gyflawni, gall yr unedau agor ymchwiliad neu ei gyfeirio at asiantaethau eraill sy’n gyfrifol am orfodi’r gyfraith.

Arweiniwyd cyfanswm o 35 o ymchwiliadau byw gan ddwy uned troseddau bwyd y DU yn ystod 2022. Fel y gwelir yn ffigur 47, aethant i’r afael ag amrediad eang o fygythiadau, gan gynnwys y rheiny a oedd yn ymwneud â’r canlynol:

  • y sector cig coch – fel ffugio o ble y mae’r cig wedi dod 
  • rhoi cynhyrchion, na fwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl  (er enghraifft sgil-gynhyrchion anifeiliaid), yn ôl yn y gadwyn fwyd
  • mynd ar drywydd cyflenwyr cynhyrchion peryglus nad ydynt yn fwyd  ond sy’n cael eu gwerthu fel bwyd 

Yn sgil ymchwiliadau i dwyll difrifol a gynhaliwyd yn 2022, mae achosion troseddol cymhleth yn mynd drwy’r system gyfiawnder. Ar hyn o bryd, mae dau achos sy’n ymwneud â dargyfeirio sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynllwynio i ddwyn eitemau bwyd gwerth uchel trwy ddynwared busnesau cyfreithlon, ynghyd â chyhuddiad cysylltiedig o dan Ddeddf Elw Troseddau 2002, yn aros am dreial.

Yn yr Alban, gwnaeth ymchwiliadau SFCIU ganolbwyntio ar dwyll a amheuir mewn perthynas ag alcohol ffug, olrheiniadwyedd a materion o ran difwyno yn y gadwyn cyflenwi cig, a lladd anghyfreithlon mewn safleoedd heb eu cymeradwyo, gyda nifer o ymchwiliadau’n mynd rhagddynt yn yr un modd drwy’r system cyfiawnder troseddol.

Fel y gwelir yn ffigur 47, mae ffocws y gwaith ymchwiliol a gynhaliwyd yn 2022 yn dangos bod cyfran sylweddol o’r ymchwiliadau i droseddau bwyd yn ymwneud â chig a chynhyrchion cig, er bod ein hymchwiliadau’n parhau i gwmpasu amrywiaeth o nwyddau. 

Er na ddylem o reidrwydd ddod i unrhyw gasgliadau o hyn am y rhagdueddiad i droseddau bwyd ar draws y mathau hyn o fwydydd, mae hyn yn dangos lle mae ein hymchwilwyr yn canolbwyntio eu hamser ac adnoddau.

Ffigur 47: Y meysydd ffocws allweddol ar gyfer ymchwiliadau i droseddau bwyd yn 2022

Y meysydd ffocws allweddol Nifer yr ymchwiliadau byw
Cig a chynhyrchion cig 10
Arall 8
Alcohol 6
Cynhyrchion peryglus nad ydynt yn fwydydd 4
Gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid 3
Melysion 2
Pysgod a bwyd môr 2

9.9 Tarfu ar droseddau bwyd

Mae’r NFCU ac SFCIU yn gweithio gyda’r diwydiant, awdurdodau lleol ac asiantaethau gorfodi eraill i darfu ar ymddygiadau troseddol neu eu hatal. Mae ‘tarfiadau’ yn cael eu cofnodi pan fydd ymyriad yn cael effaith uniongyrchol ar droseddau bwyd, fel grŵp troseddol yn cael ei atal rhag gweithredu yn y ffordd arferol, er enghraifft trwy atafaelu asedau troseddol neu dynnu gwefannau sy’n marchnata cynhyrchion peryglus nad ydynt yn fwyd yn anghyfreithlon.

Cyflawnwyd cyfanswm o 102 o darfiadau ar draws yr unedau yn ystod 2022. Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, roedd y mwyafrif (64%) o darfiadau’r NFCU yn ymwneud  â chamau a gymerwyd yn erbyn cynhyrchion peryglus nad ydynt yn fwyd a oedd yn cael eu marchnata i’w bwyta gan bobl. Roedd hyn yn cynnwys dileu neu atal gwefannau a oedd yn cynnig gwerthu’r cemegyn gwenwynig 2,4-Dinitroffenol (DNP) wedi’i farchnata’n anghyfreithlon fel llosgwr braster. 

Cyfrifoldebau newydd ar gyfer mynd i’r afael â gwerthu DNP yn anghyfreithlon

O 1 Hydref 2023 ymlaen, yr heddlu fydd yn gyfrifol am droseddau sy’n ymwneud â DNP, gan gynnwys gwerthiannau anghyfreithlon, trwy orfodi Deddf Gwenwynau 1972. Bydd hyn fel rhan o ddull cyfannol ar draws y llywodraeth tuag at fynd i’r afael â gwerthu a defnyddio’r sylwedd, a bydd yr NFCU yn gweithio i sicrhau bod y cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo’n esmwyth ac i sicrhau parhad o ran ffocws. 

Gwnaeth y ddwy uned troseddau bwyd hefyd darfu ar weithgarwch troseddol yn y sector cig coch ac atal sgil-gynhyrchion anifeiliaid rhag cael eu dargyfeirio i’r gadwyn fwyd trwy weithgareddau gweithredol, fel ymweliadau gorfodi cydgysylltiedig â phroseswyr  a chynhyrchwyr. 

Yn yr Alban, roedd mwy na thraean (35%) o’r tarfiadau a arweiniwyd gan SFCIU  yn canolbwyntio yn yr un modd ar gamymddwyn a throseddoldeb yn ymwneud â chig a chynhyrchion cig. Cymerodd SFCIU gamau yn erbyn gweithgarwch twyllodrus yn ymwneud â the, melysion a mêl, a gwnaeth gyfres o ymweliadau dirybudd â lleoliadau trwyddedig amrywiol i wirio am gynhyrchion ffug, cefnogi busnesau cyfrifol ac atal unrhyw weithgarwch troseddol posib yn y dyfodol.

Ymgymerodd y ddwy uned hefyd â gwaith targededig gyda busnesau i gyfyngu ar gyfleoedd  ar gyfer twyll bwyd trwy bolisïau, gweithdrefnau a rheolaethau gwell.

Ffigur 48: Y meysydd ffocws allweddol ar gyfer gwaith tarfu a gyflawnwyd gan unedau troseddau bwyd yn 2022

Y meysydd ffocws allweddol Nifer yr achosion o darfu
Cynhyrchion peryglus nad ydynt yn fwydydd 48
Cig a chynhyrchion cig 25
Arall 19
Gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid 5
Pysgod a bwyd môr 3
Alcohol 2

Ciplun o ymchwiliadau troseddau bwyd mawr yn 2022

Ymgyrch HAWK

Ymgyrch HAWK yw’r enw ar ymchwiliad troseddol parhaus i amheuaeth o dwyll cig. Dechreuodd yr NFCU ymchwiliad i honiadau o dwyll bwyd yn ymwneud â gwlad tarddiad cynhyrchion cig wedi’u coginio a gyflenwyd gan fusnes bwyd ym mis Awst 2021, a dechreuodd atafaelu tystiolaeth yn fuan wedyn. Tynnwyd cynhyrchion yr effeithiwyd arnynt oddi ar y silffoedd ar unwaith. Camgyfleu yw prif ganolbwynt Ymgyrch HAWK. Nid yw materion diogelwch bwyd byw yn rhan o’r ymchwiliad, ond ymchwiliwyd i bryderon diogelwch bwyd hanesyddol a rhoddwyd sylw iddynt.

Ymgyrch PEARL 

Gwnaeth yr NFCU gynorthwyo Cyngor Dosbarth Chichester wrth iddo fynd i’r afael ag achosion o gynaeafu pysgod cregyn o welyau a oedd wedi’u dosbarthu’n anniogel i’w bwyta gan bobl. Caiff gwelyau pysgod cregyn eu dosbarthu yn unol â lefelau’r E. coli a ganfyddir mewn cnawd pysgod cregyn. Yn yr achos hwn, roedd y cynaeafwyr yn hel o ardaloedd gwaharddedig lle’r oedd lefelau uchel o E. coli yn gwneud y gwelyau’n anniogel i bobl eu bwyta. Gwnaeth yr ymgyrch hwn atafaelu a dinistrio cynhyrchion a gynaeafwyd yn anghyfreithlon a chymryd camau gorfodi yn erbyn y cynaeafwyr a’r busnes a oedd yn derbyn y cynnyrch. Mae hyn wedi helpu i atal troseddu yn yr ardal hon, gyda llai o adroddiadau am gynaeafwyr anghyfreithlon.

Ymgyrch MOONRAKER

Dan arweiniad Cyngor Swydd Wiltshire, a chyda chefnogaeth yr NFCU, gwnaeth Ymgyrch MOONRAKER ymchwilio i sawl ffatri torri cig anghyfreithlon a oedd yn gweithredu mewn safleoedd golchi ceir. Roedd y cig yn cael ei dorri mewn safleoedd heb eu cymeradwyo, gan achosi risgiau iechyd sylweddol i ddefnyddwyr. Yn 2021, llwyddodd yr NFCU i gynorthwyo Cyngor Swydd Wiltshire mewn achosion troseddol a arweiniodd at ddedfryd carchar o 10 mis i’r troseddwr. 

Yn ystod 2022, rhoddwyd gorchymyn atafaelu gwerth £154,000 i’r NFCU yn erbyn y troseddwr – roedd hyn yn cynnwys atafaelu asedau sylweddoladwy gwerth £3,500. Mae gorchmynion atafaelu’n ychwanegu haen ychwanegol o ganlyniadau y tu hwnt i ganlyniadau cyfiawnder troseddol safonol i droseddwyr, gan gynyddu’r effaith ataliol.

Ymgyrch OPSON

Gwnaeth yr NFCU ac SFCIU gymryd rhan yn Ymgyrch OPSON, sef menter ryngwladol a gydlynwyd gan Europol ac INTERPOL i fynd i’r afael ag achosion o werthu cynhyrchion bwyd a diod ffug ac is-safonol. Gwnaeth yr NFCU ac SFCIU gynorthwyo a chydlynu partneriaid, yn enwedig awdurdodau lleol, i gwblhau dros 400 o wiriadau ledled y DU yn ystod 2022. Roedd hyn yn cynnwys 300 o wiriadau o gadwyni cyflenwi pysgod a bwyd môr, a dynnodd sylw at nifer o fân doriadau, a thros 100 o wiriadau ar gynhyrchion alcohol, a ganfu nad oedd rhai gwirodydd jin a fodca a gynhyrchwyd mewn sypiau bach yn cyd-fynd â’r lefelau cynnwys alcohol a hysbysebwyd. 

Ymgyrch SLAINS

Yn yr achos cyntaf o’i fath i fod yn destun erlyniad yn yr Alban, plediodd dyn yn euog o gyflenwi’r cyhoedd yn feius ac yn ddiofal â’r cemegyn gwenwynig 2,4-Dinitroffenol (DNP) i’w fwyta gan bobl. Mae’n aml yn cael ei farchnata fel llosgwr braster ac, ers 2007, mae 33 o bobl wedi marw yn y DU drwy lyncu DNP. Profodd yr ymchwiliad ar y cyd a arweiniwyd gan SFCIU rhwng Cyngor Falkirk a Heddlu’r Alban, a gwblhawyd yn 2022, fod yr unigolyn rhwng mis Mai 2017 a mis Hydref 2021 wedi cyflenwi cwsmeriaid yn y DU ac yn fyd-eang – yn UDA, Asia ac Awstralia – â symiau sylweddol o DNP er budd ariannol sylweddol. Wedi hynny, cafodd ei ddedfrydu i 37 mis yn y carchar. Gwnaeth amgylchiadau’r achos hwn helpu i lywio adolygiad gan y Swyddfa Gartref ar DNP, gan arwain at ei restru’n gyffur dosbarthedig o dan Ddeddf Gwenwynau 1972.

Ymweliadau â safleoedd trwyddedig yn yr Alban

Ym mis Hydref 2022, fel rhan o’r gwaith o fynd i’r afael â thwyll yn y gadwyn cyflenwi alcohol, gwnaeth SFCIU ynghyd â phartneriaid gydlynu 43 o ymweliadau dirybudd â safleoedd trwyddedig yn Glasgow. Cyflawnwyd y rhain dros gyfnod o ddeuddydd i wirio dilysrwydd brandiau penodol a oedd yn cael eu gwerthu, cefnogi busnesau cyfrifol a chyflwyno neges atal i’r rhai a oedd yn gwerthu brandiau ffug yn fwriadol. Ni nodwyd unrhyw broblemau, ac ymatebodd y busnesau’n gadarnhaol i’r ymweliadau. 

A wnaeth troseddau bwyd gynyddu yn 2022?

Bydd troseddwyr bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wneud elw, ac yn aml gall y cyfleoedd hynny ddeillio o amodau economaidd ehangach. Cododd amodau arbennig o ffafriol yn 2022: oherwydd chwyddiant prisiau, yr aflonyddwch a achoswyd gan y pandemig COVID-19, digwyddiadau hinsawdd eithafol, ac effaith y gwrthdaro yn Wcráin ar gadwyni cyflenwi,  agorwyd llwybrau newydd ar gyfer ymddygiad troseddol a chynyddodd y cymhellion  i gyflawni troseddau bwyd. 

Fodd bynnag, er bod rhai arwyddion achosion o ddiffyg cydymffurfio rheoleiddiol yn sgil pwysau costau, nid ydym wedi canfod unrhyw dystiolaeth o’n rhaglenni samplu, ein gwyliadwriaeth na’n cudd-wybodaeth fod newid mawr wedi bod yn nifer neu batrwm yr achosion o dwyll bwyd difrifol yn ystod 2022.

Ategir y canfyddiad hwn gan ddata ar ddilysrwydd a rennir gan y diwydiant bwyd ei hun trwy Rwydwaith Cudd-wybodaeth y Diwydiant Bwyd (FIIN). Fodd bynnag, mae’r data hwn yn gogwyddo tuag at fusnesau mwy sy’n debygol o gael eu diogelu’n well rhag dylanwadau troseddol yn eu cadwyn gyflenwi. 

Wedi dweud hynny, mae’r ASB ac FSS yn parhau i fod yn ymwybodol iawn o’r risgiau  uwch a gyflwynir gan yr amgylchedd economaidd a geowleidyddol ac yn parhau i gynnwys  hyn yng ngwaith yr unedau troseddau bwyd.

9.10 I grynhoi

Mae’r data sydd ar gael ar ddigwyddiadau bwyd a bwyd anifeiliaid yn rhoi darlun cymharol sefydlog ar gyfer 2022. Ni fu unrhyw newidiadau ystyrlon yn nifer cyffredinol y digwyddiadau bwyd a bwyd anifeiliaid yr adroddwyd amdanynt, nac yn nifer y rhybuddion a gyhoeddwyd gan yr ASB ac FSS. Er bod achosion o STEC O157 wedi codi i’w lefelau uchaf ers 2015 oherwydd brigiad sylweddol o achosion yn ystod haf 2022, mae cyfraddau clefydau eraill a gludir gan fwyd wedi dychwelyd i’w lefelau cyn y pandemig.

Mae’r rhaglenni samplu bwyd cenedlaethol a gynhaliwyd y llynedd yn dangos bod cynhyrchion o fusnesau bwyd mawr yn cyflawni cyfraddau cydymffurfio uchel iawn ar draws ystod o wiriadau dilysrwydd a diogelwch. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod angen mwy o waith i helpu busnesau bwyd llai i wella eu lefelau cydymffurfio, a bod angen cymryd camau pellach i fynd i’r afael â methiannau penodol ar draws mathau penodol o gynnyrch, yn enwedig o ran diffyg cydymffurfio wrth reoli alergenau. Mae astudiaethau FSS a Defra hefyd yn dangos pwysigrwydd gwyliadwriaeth barhaus ar gyfer cynhyrchion cig i sicrhau bod safonau dilysrwydd a chyfansoddiad yn cael eu bodloni. Bydd gwybodaeth a gasglwyd o arolygon 2022 yn helpu i lywio’r gwaith samplu sydd i ddod yng ngweithgareddau gwyliadwriaeth 2023/24.

Gwnaeth ein hunedau cenedlaethol troseddau bwyd gynnal ymchwiliadau mawr ledled y DU yn ystod 2022, gan arwain at erlyniadau proffil uchel. Gwnaethant hefyd gyflawni amrediad o gamau gweithredu targededig i darfu ar weithgarwch troseddol. Fodd bynnag, mae ein system fwyd yn parhau i fod yn darged i droseddwyr, yn enwedig yng ngoleuni’r amgylchedd economaidd heriol a’r tarfu ar gadwyni bwyd a achosir gan ddigwyddiadau byd-eang. Er nad ydym wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod hyn wedi golygu mwy o weithgarwch troseddol yn ystod 2022, mae ein hunedau troseddau bwyd yn parhau i weithio’n agos gyda heddluoedd lleol, adrannau safonau masnach ac eraill i ddiogelu defnyddwyr a busnesau a chymryd camau effeithiol yn erbyn troseddwyr.

10. Casgliadau

Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at y nifer uchel iawn o bobl sy’n sydd â diffyg diogeledd bwyd yn 2022.

Yn ei anerchiad Nadolig cyntaf i’r genedl y llynedd, cyfeiriodd y Brenin Charles at y “pryder a chaledi mawr” a brofir gan bobl sy’n brwydro i “dalu eu biliau, bwydo eu teuluoedd a’u cadw’n gynnes”. Roedd ei neges yn adlewyrchu profiadau llawer o bobl wrth iddynt frwydro i ymdopi â’r cynnydd mewn costau byw.

Mae’r her y mae pobl yn ei hwynebu i’w gweld yn y gwrthfynegiad eglur hwn, sef bod cyfanswm ein gwariant ar fwyd yn y cartref wedi gostwng oddeutu £8 biliwn yn ystod 2022, a hynny hyd yn oed wrth i brisiau bwyd godi. Wrth i gostau tai, biliau ynni, petrol a threuliau eraill y cartref godi, dengys ein hymchwil ein hunain fod llawer ohonom wedi gorfod cwtogi ar ein cyllidebau bwyd er mwyn cael deupen y llinyn ynghyd. Mae aelwydydd ar draws y sbectrwm incwm wedi cael eu gorfodi i aberthu o ganlyniad i bwysau costau byw. 

Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod y nifer uchaf erioed o bobl wedi profi diffyg diogeledd bwyd yn 2022. Dywedodd un o bob pum cartref yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon eu bod yn bwyta “deiet llai amrywiol, dymunol ac o ansawdd is”, wrth i un o bob deg cartref hefyd nodi “bod tarfu ar eu patrymau bwyta a’u bod yn bwyta llai o fwyd” yn ôl ymchwil yr ASB. Yn yr Alban, mynegodd 41% o oedolion bryder ynghylch gallu fforddio bwyd o gymharu â 25% yn 2021, a gwnaeth nifer yr oedolion sy’n hepgor prydau bwyd ac sy’n lleihau maint eu prydau i arbed arian hefyd gynyddu’n sydyn. 

Mae’r ffigurau hyn yn peri gofid ac yn dangos maint a chost ddynol y pwysau chwyddiannol  a brofwyd ledled y DU yn 2022. Maen nhw hefyd yn gweithredu fel rhybudd ar gyfer y dyfodol. Pan fyddwch yn ystyried bod ymchwil a gyhoeddwyd gan y sefydliad Food Foundation ym  mis Mehefin 2023 wedi dangos bod angen i’r pumed tlotaf o gartrefi’r DU wario 43% o’u hincwm gwario i fodloni canllawiau bwyta’n dda y llywodraeth, mae’n rhesymol dod i’r  casgliad bod heriau economaidd yn cyflwyno, ac y byddant yn parhau i gyflwyno, rhwystr  i iechyd deietegol da. 

Dim ond amser a ddengys a yw’r patrymau chwyddiant gwahaniaethol yr ydym wedi’u gweld ar draws y categorïau bwyd yng nghanllaw Bwyta’n Dda wedi arwain at unrhyw newidiadau hirdymor yn ein deiet a’n canlyniadau iechyd, ond does dim dewis ond gweithredu nawr i liniaru’r risgiau. Credwn ei bod yn hanfodol bod y llywodraeth, y diwydiant bwyd, a rheoleiddwyr yn parhau i gydweithio fel bod bwyd iach ar gael i bawb.

Mae ein hasesiad o safonau mewn rhannau eraill o’r system fwyd – drwy ddata a gasglwyd ar ddigwyddiadau, troseddau bwyd, diogelwch a hylendid mewn sefydliadau bwyd a bwyd anifeiliaid – yn awgrymu, yn gyffredinol, fod safonau bwyd wedi aros yn sefydlog yn 2022. Nid yw cudd-wybodaeth a gwiriadau ar y ffin yn awgrymu unrhyw newid sylweddol yn niogelwch bwyd wedi’i fewnforio o’r tu allan i’r UE yn ystod 2022; fodd bynnag, mae’r darlun llawn yn parhau i fod yn anghyflawn tan i ni gael mynediad at ddata tebyg ar gyfer mewnforion o’r UE. Byddwn yn parhau i bwyso ar y llywodraeth i gyflwyno’r gwiriadau erbyn mis Ionawr 2024, fel y trefnwyd.

10.1 Heriau hollbwysig

Yn union fel y llynedd, mae ein casgliadau ar gyflwr cyffredinol safonau bwyd y DU yn 2022 yn ochelgar ac yn amodol gan ein bod yn credu bod sawl her hollbwysig o’n blaenau.

Yr her gyntaf yw adnoddau awdurdodau lleol. Os nad oes digon o bobl â’r sgiliau cywir i gynnal rheolaethau bwyd hanfodol, ni all awdurdodau lleol nodi, dilysu, na rhoi sicrwydd ynghylch ein system fwyd yn ddibynadwy, na monitro ac ymateb i broblemau yn ein cadwyni cyflenwi bwyd. Mae’r dadansoddiad yn yr adroddiad hwn yn nodi’r gostyngiad hirdymor mewn cyllid ar gyfer awdurdodau lleol a’r ffaith bod eu hadnoddau wedi’u hailddyrannu oddi wrth ddyletswyddau diogelwch bwyd a safonau bwyd dros y degawd diwethaf. Mae’r cyfraddau uchel o swyddi gwag heb eu llenwi yn y meysydd hyn hefyd yn destun pryder. 

Mae’n hanfodol bwysig bod awdurdodau lleol yn neilltuo adnoddau digonol i reolaethau diogelwch a safonau bwyd a bod ganddynt yr arian i wneud hynny. Mae angen i awdurdodau lleol, cyrff proffesiynol, ac eraill fel yr ASB ac FSS, sy’n dibynnu ar broffesiynau iechyd yr amgylchedd a safonau masnach, gydweithio hefyd i sicrhau bod y proffesiynau hyn yn denu a chadw pobl ar gyfer y dyfodol.

Mae timau awdurdodau lleol yn haeddu clod am y ffordd y maent wedi llwyddo i ailgydio mewn arolygiadau ar yr un lefel â chyn y pandemig, ond rydym yn pryderu bod y pwysau niferus a roddir arnynt – sy’n cynnwys cwblhau’r llwyth o arolygiadau sydd wedi cronni ers y pandemig, ymdrin â’r niferoedd cynyddol o fusnesau bwyd sy’n agor (gan gynnwys y nifer cynyddol o weithredwyr bwyd ar-lein) a chymryd cyfrifoldebau ychwanegol yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE – yn amharu ar eu gallu i gynnal gwiriadau diogelwch a safonau bwyd hollbwysig. Mae’r pwysau hyn hefyd wedi arwain at ostyngiad mewn gweithgarwch samplu gan awdurdodau lleol yn  y blynyddoedd diwethaf, gan ei gwneud yn anoddach canfod problemau posib o ran diogelwch  a dilysrwydd. 

Mae’r ail her yn ymwneud â’r Milfeddygon Swyddogol sydd ar gael. Yn ystod 2022, roedd yr ASB yn wynebu heriau cymhleth penodol wrth recriwtio a chadw milfeddygon fel Milfeddygon Swyddogol i gyflawni ei rôl statudol mewn lladd-dai – gan sicrhau iechyd a lles anifeiliaid, a diogelwch a sicrwydd bwyd. Heb Filfeddygon Swyddogol mewn lladd-dai bob dydd, ni all lladddai weithredu’n gyfreithiol. Os nad oes digon o Filfeddygon Swyddogol ar gael, byddai hyn yn effeithio ar iechyd a lles anifeiliaid, a gallai hefyd darfu ar gyflenwadau bwyd domestig a’r gallu i allforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid. Mae prinder milfeddygon yn y DU wedi derbyn cryn dipyn o sylw. Yn wir, mae’r DU, yn hanesyddol, wedi dibynnu’n fawr ar filfeddygon o dramor i gyflawni rolau iechyd cyhoeddus. Mae’r prinder hwn yn amlycach mewn lladd-dai oherwydd bod milfeddygon y DU yn ystyried bod y rôl hon yn llai deniadol na gwaith milfeddygol arall fel practis preifat. Yn fwy diweddar, mae prinder milfeddygol yn y DU wedi arwain at gyflogau uwch wrth i’r galw am filfeddygon gynyddu, sydd wedi effeithio ar recriwtio mewn rolau iechyd cyhoeddus. Yn hanesyddol, bu pwysau hefyd i leihau taliadau i’r diwydiant am wasanaethau milfeddygol ac mae’r cyfyngiadau ariannol ar bwrs y wlad yn golygu ei bod yn anodd iawn cystadlu â chyflogau’r sector preifat. 

Mae’r ASB wedi dibynnu ar barhad y mesurau dros dro a roddwyd gan yr RCVS sy’n caniatáu i filfeddygon sydd â chymwysterau priodol o brifysgolion sydd wedi’u hachredu gan EAEVE weithio dan oruchwyliaeth fel Milfeddygon Swyddogol Newydd Cofrestredig Dros Dro (TRNOV) yn ystod 2022 i’n helpu i ymdrin â’r heriau o ran capasiti o fewn y proffesiwn milfeddygol. Mae angen i ni recriwtio a chadw digon o filfeddygon i barhau i gynnal rheolaethau swyddogol mewn lladd-dai, yn ogystal â sicrhau cyflenwad digonol o weithwyr proffesiynol hyfforddedig yn y tymor hwy. Heb hyn, ni all y gadwyn cyflenwi cig weithredu’n barhaus, ac rydym mewn perygl o fod â niferoedd annigonol o filfeddygon i lofnodi tystysgrifau iechyd allforio. Mae’r prinder milfeddygon yn y sector cyhoeddus yn arwain at oblygiadau i’r llywodraeth gyfan a’r diwydiant. Mae angen i ni nawr ystyried camau mwy arwyddocaol a sylfaenol i fynd i’r afael â’r mater difrifol hwn.

Mae’r drydedd her yn ymwneud â rheolaethau mewnforio. Rydym yn nodi cynllun Llywodraeth y DU i gyflwyno Model Gweithredu Targed newydd ar gyfer Ffiniau yn 2024 mewn perthynas â mewnforion, er ein bod yn siomedig gyda’r oedi wrth ei roi ar waith. Bydd y rheolaethau hyn yn helpu i roi sicrwydd bod mewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid yr UE yn bodloni ein safonau diogelwch ac yn ein galluogi i nodi ac atal bwyd a allai fod yn anniogel  yn gynharach. Rydym yn ailadrodd y cais a wnaethom y llynedd, sef y dylid sicrhau bod  y rheolaethau hyn yn cael eu rhoi ar waith heb unrhyw oedi pellach i ddiogelu iechyd  y cyhoedd i’r eithaf.

10.2 Partneriaeth adeiladol ac agored

Mae tair llinell amddiffyn allweddol wrth sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn ddilys – busnesau bwyd, awdurdodau lleol a’r ASB ac FSS.

Ein neges olaf, felly, yw’r angen am bartneriaeth adeiladol ac agored i ddatrys y problemau hyn, gan gydweithio er budd defnyddwyr yn y DU a’r rheiny dramor sy’n ymddiried ym mwyd y DU.  Ni fu erioed yn bwysicach i bawb sy’n ymwneud â chynhyrchu, gweithgynhyrchu neu ddosbarthu bwyd, a’r rheiny sy’n llywodraethu’r system, gydweithio i gadw defnyddwyr yn ddiogel.

Ar adeg pan fo defnyddwyr yn wynebu heriau gwirioneddol wrth brynu bwyd, mae’n hanfodol bod y rheiny sydd â grym a dylanwad yn y system yn gwneud popeth o fewn eu gallu i greu system fwyd sy’n ceisio darparu bwyd diogel, iachach a mwy cynaliadwy i bawb a sicrhau  bod y safonau bwyd uchel yr ydym yn eu mwynhau yn y DU yn cael eu cynnal.

11. Atodiad 1 Rhestr o acronymau

Mae Atodiad 1 yn cynnwys rhestr lawn o’r acronymau a ddefnyddir yn yr Adroddiad Blynyddol ar Safonau Bwyd ar gyfer 2022.

Acronym Ymadrodd
ABP Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid
ASB Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
CIEH Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd
COO Gwlad Tarddiad
CPIH Mynegai Prisiau Defnyddwyr gan gynnwys costau tai perchen-feddianwyr
CSHB Y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
CTSI Sefydliad Siartredig Safonau Masnach
DAERA Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig
DBT Yr Adran Busnes a Masnach
Defra Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
DNP 2,4 Dinitroffenol
EHO Swyddog Iechyd yr Amgylchedd
FAFA Rhybudd Bwyd er Gweithredu
FBO Gweithredwr Busnes Bwyd
FHIS Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd (ar waith yn yr Alban yn unig)
FIIN Rhwydwaith Cudd-wybodaeth y Diwydiant Bwyd
FNAO Bwyd Nad yw’n Dod o Anifeiliaid
FSS Safonau Bwyd yr Alban
FTA Cytundeb Masnach Rydd
GB Prydain Fawr
HIN Hysbysiad Gwella Hylendid
HRFNAO Bwyd Risg Uchel Nad yw’n Dod o Anifeiliaid
IOC Rheolaethau Swyddogol Dwys
MHI Arolygwr Hylendid Cig
NDNS Arolwg Cenedlaethol o Ddeiet a Maeth
NFCU Yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd
OL Labordy Swyddogol
ONS Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
OV Milfeddyg Swyddogol
POAO Cynnyrch sy’n dod o Anifeiliaid
PRIN Hysbysiad Galw Cynnyrch yn Ôl
PHA Awdurdod Iechyd Porthladd
RASFF System Rhybuddio Cyflym ar gyfer Bwyd a Bwyd Anifeiliaid
RCVS Coleg Brenhinol y Milfeddygon
SFCIU Uned Troseddau a Digwyddiadau Bwyd yr Alban
SFELC Pwyllgor Cyswllt Gorfodi Bwyd yr Alban
TAC Comisiwn Masnach ac Amaethyddiaeth
TOM Model Gweithredu Targed
TSO Swyddog Safonau Masnach
UE Yr Undeb Ewropeaidd
UKHSA Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU
USDA Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau
WGS Dilyniannu Genom Cyfan

12. Atodiad 2: Rhestr o dermau

Dyma restr o dermau a ddefnyddir yn yr adroddiad blynyddol o safonau bwyd ar gyfer 2022.

Term Esboniad
3-MCPD Halogydd bwyd sy’n codi yn sgil rhai prosesau gweithgynhyrchu bwyd sy’n cynnwys brasterau llysiau (er enghraifft, olew llysiau).
Afflatocsinau Cyfansoddion gwenwynig a gynhyrchir gan rai mathau penodol o lwydni a geir mewn bwyd, a all achosi niwed i’r afu a chanser.
Alergenau Mae 14 prif alergen y mae’n rhaid eu datgan yn ôl y gyfraith, ond gall defnyddwyr fod ag alergedd neu anoddefiad i fwydydd neu gynhwysion eraill.
Braster dirlawn Math o fraster sy’n gysylltiedig â risg uwch o golesterol gwaed uchel, a all gynyddu’r risg o glefyd y galon a strôc.
Cig wedi’i brosesu Unrhyw gig sydd wedi’i addasu er mwyn newid y blas neu ymestyn  ei oes silff.
Cynaliadwy Lleihau ein hôl troed carbon, hyrwyddo arferion gorau o ran cynaliadwyedd, cadw adnoddau naturiol, a meithrin ymwybyddiaeth o’r amgylchedd trwy ein polisïau a’n harferion.
Cytundebau masnach rydd Mae cytundebau masnach yn nodi’r rheolau sy’n ymwneud â masnach rhwng dwy wlad neu fwy. Eu nod yw hwyluso masnachu rhwng y gwledydd hynny. Maent yn gwneud hyn drwy leihau’r cyfyngiadau ar fewnforion ac allforion rhyngddynt.
Dadansoddi risg Y broses o asesu, rheoli a chyfleu risgiau diogelwch sy’n berthnasol i fwyd a bwyd anifeiliaid.
Diffyg diogeledd bwyd yn y cartref Term a ddefnyddir i ddisgrifio cartrefi sydd heb fynediad dibynadwy  at ddigon o fwyd fforddiadwy a maethlon.
Digwyddiadau hinsawdd Newidiadau hirdymor mewn patrymau tywydd a thymheredd, a all fod yn newidiadau naturiol neu newidiadau sy’n cael eu hachosi gan losgi tanwydd ffosil ers y 19eg ganrif.
Dilyniannu genom Newidiadau hirdymor mewn patrymau tywydd a thymheredd, a all fod yn newidiadau naturiol neu newidiadau sy’n cael eu hachosi gan losgi tanwydd ffosil ers y 19eg ganrif.
Dinitroffenol (DNP) Cemegyn hynod docsig, sy’n wenwynig i bobl ac a all achosi marwolaeth.
E. coli Math o facteria yw Escherichia coli sydd i’w gael yng ngholuddion anifeiliaid a phobl. Gall rhai mathau achosi salwch difrifol mewn pobl, fel E. coli sy’n cynhyrchu sytotocsinau Vero (VTEC).
Ffeibr Math o garbohydrad na all y corff ei dreulio. Mae ffeibr, sydd i’w gael yn naturiol mewn bwydydd planhigion fel grawn cyflawn, ffa, cnau, ffrwythau a llysiau, yn helpu i gadw ein system dreulio’n iach.
Gweithredwyr bwyd ar-lein Darparwyr bwyd sy’n dosbarthu bwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr ar ôl iddynt archebu naill ai drwy gyfrifiadur neu ffôn clyfar dros y rhyngrwyd.
Pathogen Bacteriwm, feirws neu organeb arall a all achosi clefyd.
Rheolaethau swyddogol Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu arolygiadau, gwaith gorfodi, cyngor a chanllawiau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith neu ganllawiau’r llywodraeth.
Salmonela Mae salmonelâu yn grŵp o facteria cyffredin sy’n achosi gwenwyn bwyd. Fel arfer, cânt eu lledaenu drwy goginio annigonol a thrwy groeshalogi. Mae haint Salmonela (salmonelosis) yn glefyd bacteriol cyffredin sy’n effeithio ar y llwybr coluddol. Mae bacteria Salmonela fel arfer yn byw yng ngholuddion anifeiliaid a phobl ac yn cael eu gollwng trwy ysgarthion. Mae pobl yn cael eu heintio amlaf trwy ddŵr neu fwyd wedi’i halogi.
Samplu Ystyr samplu yw cymryd cynnyrch i wirio ei fod yn cyrraedd y safon angenrheidiol. Gall hyn gynnwys bod yn ddiogel, bod o’r safon a ddymunir, neu fod â’r labelu cywir. Cymerir samplau i gefnogi gwaith gorfodi, fel rhan o wiriadau busnes, ac at ddibenion ymchwil  a gwyliadwriaeth.
Siwgrau rhydd Pob siwgr sy’n bresennol yn naturiol mewn sudd ffrwythau, sudd llysiau, purées a phastau, a chynhyrchion tebyg lle mae’r strwythur wedi’i dorri i lawr; pob siwgr mewn diodydd (ac eithrio diodydd llaeth); a lactos a galactos wedi’u hychwanegu fel cynhwysion.
System Rhybuddio Cyflym ar gyfer Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (RASFF) System yr UE sy’n galluogi rhannu gwybodaeth yn effeithlon rhwng gwledydd yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a’r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd (EFTA).
Tarfiadau Dull o ymyriadau troseddau bwyd a roddwyd ar waith yn ddiweddar sy’n atal neu’n lleihau’r  cyfle i gyflawni troseddau bwyd ac sydd, wrth wneud hynny, yn cynyddu diogeledd bwyd y DU drwy sicrhau bod bwyd yn ddiogel.
Ychwanegion Mae ychwanegion bwyd yn gynhwysion sy’n cael eu hychwanegu at fwyd i gyflawni swyddogaethau penodol.

13. Atodiad 3: Tabl ffigurau

Dyma dabl ffigurau a gafodd ei gynnwys yn yr adroddiad blynyddol o safonau bwyd ar gyfer 2022.

13.1 Rhoi adroddiad eleni yn ei gyd-destun

Ffigur Teitl
Ffigur 1 Newid canrannol dros 12 mis o chwyddiant yn ôl y math o nwydd
Ffigur 2 Newid canrannol dros 12 mis (2022) – Cyfraddau chwyddiant bwyd yn erbyn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr cyffredinol, gan gynnwys costau tai perchen-feddiannwyr (CPIH)

13.2 Pennod 1: Plât y genedl

Ffigur Teitl
Ffigur 3 Canran y cynnydd cyfartalog dros 12 mis o flwyddyn i flwyddyn yn ystod 2022 ar gyfer categorïau’r canllaw Bwyta’n Dda
Ffigur 4 Canran yr incwm sy’n cael ei wario ar fwyd yn y cartref yn ôl degraddau incwm ar gyfer y blynyddoedd a ddaeth i ben rhwng 2020 a 2022
Ffigur 5 Y prif bryderon ynghylch bwyd a nodwyd gan ddefnyddwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Ffigur 6 Y prif bryderon ynghylch bwyd a nodwyd gan ddefnyddwyr yn yr Alban
Ffigur 7 Pwy sydd fwyaf agored i ddiffyg diogeledd bwyd?
Ffigur 8 Newidiadau mewn ymddygiadau defnyddwyr yr adroddwyd amdanynt mewn ymateb i brisiau cynyddol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Ffigur 9 Arolwg Iechyd yr Alban 2021
Ffigur 10 Newidiadau i arferion storio a choginio bwyd defnyddwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Ffigur 11 Newidiadau i arferion storio a choginio bwyd defnyddwyr yn yr Alban
Ffigur 12 Newidiadau i arferion storio a choginio bwyd defnyddwyr

13.3 Pennod 2: Safbwynt byd-eang

Ffigur Teitl
Ffigur 13 Cyfanswm mewnforion y DU o’r holl fwyd a bwyd anifeiliaid dros amser, 2014-22
Ffigur 14 Newid canrannol blynyddol yng nghyfanswm y cyfaint mewnforio
Ffigur 15 Y 10 gwlad â’r cyfeintiau mewnforio uchaf ar gyfer 2022
Ffigur 16 Newidiadau mewn gwerthoedd mewnforio ar draws gwledydd dethol
Ffigur 17 Cyfanswm cyfaint y mewnforion wedi’i rannu yn ôl prif gategorïau POAO, FNAO a bwyd anifeiliaid
Ffigur 18 Canran y llwythi o weddill y byd sy’n methu gwiriadau mewnforio ym Mhrydain Fawr, 2021-22
Ffigur 19 Newidiadau i ddynodiad bwydydd risg uchel

13.4 Pennod 3: Pwysigrwydd hylendid

Ffigur Teitl
Ffigur 20 Cyfrifoldebau am gynnal rheolaethau hylendid bwyd ledled y DU
Ffigur 21 Canran y busnesau bwyd yn y DU a gafodd sgoriau boddhaol neu well ar gyfer hylendid bwyd ar 31 Rhagfyr 2022
Ffigur 22 Canran dosbarthiad sgoriau’r CSHB ar 31 Rhagfyr 2022
Ffigur 23 Canran y gweithredwyr busnesau bwyd yn yr Alban sy’n cydymffurfio â chyfreithiau bwyd ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22
Ffigur 24 Nifer y busnesau bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a gafodd sgôr hylendid bwyd fesul chwarter rhwng Ch1 19/20 a Ch4 22/23
Ffigur 25 Nifer y busnesau bwyd yn yr Alban a gafodd sgôr hylendid bwyd fesul chwarter rhwng Ch1 19/20 a Ch4 22/23
Ffigur 26 Canran y sefydliadau cig a gafodd sgôr dda neu foddhaol o ran hylendid yn 2022
Ffigur 27 Dadansoddiad o’r sgoriau o ran cydymffurfiaeth ar gyfer sefydliadau cig ar 31 Rhagfyr 2022
Ffigur 28 Canran y sefydliadau llaeth yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a gafodd y canlyniadau uchaf, sef ‘Da’ neu ‘Boddhaol ar y cyfan’ ar 31 Rhagfyr 2022
Ffigur 29 Lefelau cydymffurfio o ran hylendid llaeth ar gyfer arolygiadau ar 31 Rhagfyr 2022
Ffigur 30 Gweithgarwch gorfodi sefydliadau llaeth yn yr Alban
Ffigur 31 Canran y sefydliadau bwyd anifeiliaid yr aseswyd eu bod yn cydymffurfio â safonau hylendid, yn ôl y data diweddaraf sydd ar gael
Ffigur 32 Nifer y swyddi diogelwch bwyd wedi’u dyrannu a ddelir gan awdurdodau lleol ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ers 2010/11
Ffigur 33 Canran y swyddi hylendid bwyd heb eu llenwi (CALl) mewn awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Ffigur 34 Nifer y swyddi hylendid bwyd wedi’u dyrannu a ddelir gan awdurdodau lleol ledled yr Alban ers Tachwedd 2021
Ffigur 35 Nifer y swyddi cyfraith bwyd wedi’u llenwi (CALl) mewn awdurdodau lleol yn yr Alban

13.5 Pennod 4: Diogel a chadarn

Ffigur Teitl
Ffigur 36 Nifer y digwyddiadau bwyd yr adroddwyd amdanynt yn y DU
Ffigur 37 Y chwe chategori bwyd uchaf sy’n ymwneud â digwyddiadau bwyd yr adroddwyd amdanynt rhwng 2019 a 2022
Ffigur 38 Nifer yr achosion o halogiad gan ficro-organebau niweidiol yn y DU
Ffigur 39 Nifer y digwyddiadau bwyd sy’n ymwneud ag alergenau
Ffigur 40 Tueddiadau yn yr achosion o’r pedwar prif bathogen GI a gadarnhawyd gan labordai yn y DU fesul 100,000 o’r boblogaeth
Ffigur 41 Nifer y brigiadau o achosion a briodolir i bathogenau penodol yr adroddwyd amdanynt yn y DU, 2022
Ffigur 42 Cyfanswm y Rhybuddion Alergedd a gyhoeddwyd gan yr ASB ac FSS
Ffigur 43 Rhybuddion Alergedd yn ôl y math o alergen
Ffigur 44 Cyfanswm yr Hysbysiadau Galw Cynnyrch yn Ôl a gyhoeddwyd yn y DU
Ffigur 45 Crynodeb o Ganlyniadau Samplu Anfoddhaol fesul Categori
Ffigur 46 Rhesymau dros ddiffyg cydymffurfio ar draws pob sampl
Ffigur 47 Mesydd ffocws allweddol ar gyfer ymchwiliadau troseddau bwyd yn 2022
Ffigur 48 Y meysydd ffocws allweddol ar gyfer gwaith tarfu a gyflawnwyd gan unedau troseddau bwyd yn 2022

14. Atodiad 4: Cyfeiriadau penodau a nodiadau esboniadol

Atodiad 4: Cyfeiriadau penodau a nodiadau esboniadol ar gyfer yr adroddiad blynyddol o safonau bwyd ar gyfer 2022.

  1. Mae swyddi a ddyrennir yn swyddi proffesiynol a ddyrennir i ddarparu gwasanaeth rheolaethau hylendid bwyd awdurdod lleol yn seiliedig ar y gyllideb sydd ar gael.
  2. Cyhoeddwyd y papur allanol mwyaf diweddar ar adnoddau Swyddogion Safonau Masnach yn 2020.
  3. Rhagolygon o’r farchnad laeth
  4. Y diffygion yn niwydiant wyau Prydain yn dangos chwyddiant prisiau bwyd
  5. Nid yw hyn yn cynnwys ffa a chodlysiau (pulses) oherwydd diffyg data.
  6. Daw’r holl ffigurau yn y paragraff hwn o ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar dueddiadau defnyddwyr: mesur cyfaint cadwynog, wedi’i addasu yn unol â’r tymhorau
  7. Gofynnwyd i’r ymatebwyr: A oes gennych chi bryderon am unrhyw rai o’r canlynol? Faint o siwgr sydd mewn bwyd; gwastraff bwyd; lles anifeiliaid; hormonau, steroidau neu wrthfiotigau mewn bwyd; faint o halen sydd mewn bwyd; faint o fraster sydd mewn bwyd; gwenwyn bwyd; hylendid bwyd wrth fwyta allan; hylendid bwyd wrth archebu bwyd tecawê; y defnydd o blaladdwyr; twyll neu droseddau bwyd; y defnydd o ychwanegion (er enghraifft, cyffeithyddion (preservatives) a lliwiau bwyd); prisiau bwyd; bwydydd a addaswyd yn enetig (GM); halogi cemegol o du’r amgylchedd; taith bwyd; nifer y calorïau mewn bwyd; gwybodaeth am alergenau mewn bwyd; coginio’n ddiogel gartref; dim un o’r rhain; ddim yn gwybod. Roedd yr ymatebwyr yn cael dewis mwy nag un ateb. Mae’r canrannau’n dangos cyfran yr ymatebwyr a ddewisodd bob opsiwn.
  8. Gall gwahaniaethau mewn canrannau rhwng yr Alban a gweddill y DU fod oherwydd gwahaniaethau methodolegol yn y modd y caiff data ei gasglu.
  9. Mae chwe dosbarthiad posib (A, B, C1, C2, D ac E) i Raddau Cymdeithasol. Mae data’r cyfrifiad yn defnyddio dosbarthiad cyfun, pedair ffordd. C1: Galwedigaethau gweinyddol a phroffesiynol, goruchwyliol, clerigol, a rheoli iau. DE: Galwedigaethau â llaw lled-fedrus a di-grefft; di-waith a swyddi yn y graddau isaf.
  10. Mae’r ASB wedi mesur diffyg diogeledd bwyd ers 2016. Yn 2016 a 2018, cafodd diffyg diogeledd bwyd ei fesur yn arolwg Bwyd a Chi. Ers 2020, mae wedi cael ei fesur yn arolwg Bwyd a Chi 2.
  11. Oherwydd gwahaniaethau yn y ffordd y caiff y data ei gasglu, ni allwn gymharu’n uniongyrchol rhwng mesur swyddogol USDA, fel y nodir yn Bwyd a Chi 2, a’r mesurau mwy anffurfiol sy’n cael eu holrhain yn fisol o rai ymddygiadau sy’n ymwneud â diffyg diogeledd bwyd.
  12. Mae siwgrau rhydd yn cyfeirio at bob siwgr wedi’i ychwanegu ar unrhyw ffurf; pob siwgr sy’n bresennol yn naturiol mewn sudd ffrwythau, sudd llysiau, purées a phastau, a chynhyrchion tebyg lle mae’r strwythur wedi’i dorri i lawr; pob siwgr mewn diodydd (ac eithrio diodydd llaeth); a lactos a galactos wedi’u hychwanegu fel cynhwysion.
  13. Gofynnwyd i’r ymatebwyr: I ba raddau y mae’r meysydd hyn yn peri pryder i chi am ddyfodol bwyd yn y DU dros y 3 blynedd nesaf? Cost bwyd iachus. Dewisiadau ymateb: Ddim yn bryderus o gwbl; Ychydig yn bryderus; Yn eithaf pryderus; Yn hynod bryderus. Mae’r ganran a nodir ar gyfer ‘pryderus’ yn cyfuno’r atebion ‘Yn hynod bryderus’ ac ‘Yn eithaf pryderus’.
  14. Gofynnwyd i’r ymatebwyr: I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r datganiad hwn? Rwy’n teimlo bod bwydydd iachus yn rhy ddrud i mi. Dewisiadau ymateb: Anghytuno’n gryf; Anghytuno ychydig; Ddim yn cytuno nac yn anghytuno; Cytuno ychydig; Cytuno’n gryf. Mae’r ganran a nodir yn cyfuno’r atebion ‘Cytuno ychydig’ a ‘Cytuno’n gryf’.
  15. Gofynnwyd i’r ymatebwyr: I ba raddau rydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r datganiad hwn? Mae’n anodd dod o hyd i fwyd ffres (er enghraifft, ffrwythau, llysiau, cig) sy’n cyd-fynd â’m cyllideb. Dewisiadau ymateb: Anghytuno’n gryf; Anghytuno ychydig; Ddim yn cytuno nac yn anghytuno; Cytuno ychydig; Cytuno’n gryf. Mae’r ganran a nodir yn cyfuno’r atebion ‘Cytuno ychydig’ a ‘Cytuno’n gryf’.
  16. Llyfr Poced Ystadegau Bwyd Defra - Tarddiad bwyd sy’n cael ei fwyta yn y DU, 2021
  17. Cyllid a Thollau EF - Data masnachu’r DU
  18. Yng Nghymru, mae’r cynllun hefyd yn cwmpasu gweithrediadau busnes-i-fusnes fel gweithgynhyrchwyr sy’n dod o dan gylch gwaith awdurdodau lleol.
  19. Mae’r CSHB a’r FHIS yn darparu gwybodaeth am safon hylendid bwyd sefydliadau yn seiliedig ar eu harolygiad diweddaraf. Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn rhoi sgôr rhwng 0 a 5 lle mae 5 yn cynrychioli’r sgôr uchaf, gan nodi safonau hylendid ‘da iawn’. Mae’r Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd yn rhoi gradd ‘pasio’ neu ‘angen gwella’. Ar gyfer y dadansoddiad hwn, rydym wedi cymryd sgôr CSHB o 3 neu uwch i ddangos sgôr foddhaol neu well ar gyfer busnesau yng Nghymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon a aseswyd o dan y CSHB, a ‘sgôr llwyddo’ ar gyfer busnesau yn yr Alban a aseswyd o dan yr FHIS. Oherwydd y gwahaniaethau rhwng FHIS a’r CSHB, nid oes modd cymharu data’r Alban a gweddill y DU.
  20. Mae sefydliadau cig cymeradwy yn trin, paratoi neu gynhyrchu cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid y mae gofynion wedi’u gosod ar eu cyfer yn Rheoliad yr UE a Ddargedwir (CE) Rhif 853/2004.
  21. Ceir eglurhad o ystyr y categorïau sgôr yng nghanllawiau busnes yr ASB ar archwilio sefydliadau cig
  22. Roedd hyn yn bennaf oherwydd y trawsnewid yn yr Alban, gydag FSS yn dod yn awdurdod cymwys ar gyfer bwyd anifeiliaid a symud i system electronig newydd. Mae unrhyw ganlyniadau yn sgil arolygiadau bwyd anifeiliaid cyn 2021 yn cael eu cymryd o wybodaeth yr awdurdod lleol.
  23. Mae sefydliadau bwyd anifeiliaid yn cael sgôr o naill ai ‘Cydymffurfio’n Wael’, ‘Cydymffurfio’n Amrywiol’, ‘Cydymffurfio’n Foddhaol’, ‘Cydymffurfio i raddau helaeth neu’n well’ a ‘Chydymffurfio’n Foddhaol at Safon Ofynnol ac aelod o Gynllun Sicrwydd sy’n cael ei gydnabod gan yr ASB’. Ystyrir bod unrhyw sefydliad sydd â sgôr uwch na ‘Boddhaol’ yn cydymffurfio. Ceir mwy o wybodaeth yn y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid.
  24. Mae swyddi a ddyrennir yn swyddi proffesiynol a ddyrennir i ddarparu gwasanaeth rheolaethau hylendid bwyd awdurdod lleol yn seiliedig ar y gyllideb sydd ar gael.
  25. Mae awdurdodau lleol yn cyfrifo cyfran y swyddi wedi’u llenwi gan ddefnyddio sawl dull gwahanol. Yn aml, amcangyfrifon o’r adnoddau yw’r rhain, sydd heb eu dilysu’n llawn gan yr ASB.
  26. Mae hysbysiadau am ffliw adar yn cael eu cofnodi fel achosion o halogiad microbiolegol gan fod yr ASB yn rhan o’r gwaith cydgysylltu, i sicrhau bod y cig yn y gadwyn gyflenwi sy’n cael ei gyfyngu ar ôl ei ladd oherwydd clefyd hysbysadwy, yn cael ei olrhain a’i dynnu’n ôl.

15. Atodiad 5: Y categorïau bwyd sydd wedi’u cynnwys mewn digwyddiadau a gofnodwyd rhwng 2019 a 2022

Y categorïau bwyd sydd wedi’u cynnwys mewn digwyddiadau a gofnodwyd rhwng 2019 a 2022

15.1 2019

Digwyddiadau cyfun - math o gynnyrch Digwyddiadau cyfun - math o gynnyrch % o gyfanswm y digwyddiadau
Heb ei ddiffinio 488 18.78
Cig a chynhyrchion cig (ac eithrio dofednod) 309 11.89
Ffrwythau a llysiau 272 10.47
Dd/b 202 7.78
Grawnfwydydd a chynhyrchion popty 140 5.39
Bwydydd deietegol / Atchwanegiadau bwyd / Bwydydd cyfnerthnedig 139 5.35
Prydau wedi’u paratoi a byrbrydau 116 4.46
Llaeth a chynhyrchion llaeth 115 4.43
Melysion 105 4.04
Cnau / Cynhyrchion cnau / Hadau 89 3.43
Pysgod a Chynhyrchion Pysgod 83 3.19
Cig dofednod a chynhyrchion cig dofednod 83 3.19
Cawl / Potesau / Sawsiau a phupur a halen (condiments) 65 2.50
Perlysiau a sbeisys 64 2.46
Cynnyrch bwyd arall / cymysg 50 1.92
Bwyd anifeiliaid 49 1.89
Diodydd dialcohol 40 1.54
Deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd 26 1.00
Brasterau ac olewau 23 0.89
Paratoadau coco / coco / coffi / te 21 0.81
Bwyd anifeiliaid anwes 20 0.77
Molysgiaid dwygragennog a chynhyrchion wedi’u gwneud ohonynt 17 0.65
Ychwanegion a chyflasynnau bwyd 15 0.58
Diodydd alcohaidd 14 0.54
Hufenau iâ a phwdinau 11 0.42
Wyau a chynhyrchion wyau 10 0.38
Cramenogion (crustaceans) a chynhyrchion wedi’u  gwneud ohonynt 9 0.35
Mêl a jeli’r frenhines 8 0.31
Dŵr 6 0.23
Gwin 3 0.12
Sgil-gynhyrchion anifeiliaid 2 0.08
Bwyd anifeiliaid cyfansawdd 2 0.08
Seffalopodau a chynhyrchon wedi’u gwneud ohonynt 1 0.04
Gastropodau 1 0.04
Bwydydd newydd 0 0.00
Cyfanswm 2598 100.00

15.2 2020

Digwyddiadau cyfun - math o gynnyrch Digwyddiadau cyfun - math o gynnyrch % o gyfanswm y digwyddiadau
Wyau a chynhyrchion wyau 12 0.53
Cramenogion (crustaceans) a chynhyrchion wedi’u  gwneud ohonynt 11 0.49
Hufenau iâ a phwdinau 10 0.44
Sgil-gynhyrchion anifeiliaid 5 0.22
Mêl a jeli’r frenhines 3 0.13
Bwyd anifeiliaid cyfansawdd 2 0.09
Bwydydd newydd 2 0.09
Dŵr 1 0.04
Seffalopodau a chynhyrchon wedi’u gwneud ohonynt 0 0.00
Gastropodau 0 0.00
Gwin 0 0.00
Cyfanswm 2261 100.00

15.3 2021

Digwyddiadau cyfun - math o gynnyrch Digwyddiadau cyfun - math o gynnyrch % o gyfanswm y digwyddiadau
Cig a chynhyrchion cig (ac eithrio dofednod) 254 10.75
Cig dofednod a chynhyrchion cig dofednod 238 10.07
Bwydydd deietegol / Atchwanegiadau bwyd / Bwydydd cyfnerthnedig 207 8.76
Dd/b 187 7.91
Grawnfwydydd a chynhyrchion popty 139 5.88
Ffrwythau a llysiau 118 4.99
Prydau wedi’u paratoi a byrbrydau 112 4.74
Melysion 100 4.23
Pysgod a Chynhyrchion Pysgod 99 4.19
Llaeth a chynhyrchion llaeth 95 4.02
Cynnyrch bwyd arall / cymysg 88 3.72
Perlysiau a sbeisys 82 3.47
Bwyd anifeiliaid 80 3.39
Heb ei ddiffinio 69 2.92
Cnau / Cynhyrchion cnau / Hadau 57 2.41
Deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd 52 2.20
Molysgiaid dwygragennog a chynhyrchion wedi’u gwneud ohonynt 48 2.03
Cawl / Potesau / Sawsiau a phupur a halen (condiments) 43 1.82
Bwyd anifeiliaid anwes 41 1.74
Diodydd dialcohol 34 1.44
Hufenau iâ a phwdinau 30 1.27
Ychwanegion a chyflasynnau bwyd 29 1.23
Sgil-gynhyrchion anifeiliaid 28 1.18
Cramenogion (crustaceans) a chynhyrchion wedi’u  gwneud ohonynt 23 0.97
Wyau a chynhyrchion wyau 20 0.85
Mêl a jeli’r frenhines 18 0.76
Diodydd alcohaidd 14 0.59
Dŵr 12 0.51
Brasterau ac olewau 10 0.42
Seffalopodau a chynhyrchon wedi’u gwneud ohonynt 4 0.17
Bwyd anifeiliaid cyfansawdd 3 0.13
Gastropodau 2 0.08
Bwydydd newydd 2 0.08
Gwin 2 0.08
Cyfanswm 2363 100.00

15.4 2022

Digwyddiadau cyfun - math o gynnyrch Digwyddiadau cyfun - math o gynnyrch % o gyfanswm y digwyddiadau
Cig a chynhyrchion cig (ac eithrio dofednod) 284 12.79
Dd/b 626 11.80
Bwydydd deietegol / Atchwanegiadau bwyd / Bwydydd cyfnerthnedig 192 8.64
Grawnfwydydd a chynhyrchion popty 189 8.51
Cig dofednod a chynhyrchion cig dofednod 151 6.80
Prydau wedi’u paratoi a byrbrydau 123 5.54
Melysion 104 4.68
Ffrwythau a llysiau 90 4.05
Cynnyrch bwyd arall / cymysg 80 3.60
Llaeth a chynhyrchion llaeth 74 3.33
Perlysiau a sbeisys 65 2.93
Pysgod a Chynhyrchion Pysgod 63 2.84
Bwyd anifeiliaid 62 2.79
Cnau / Cynhyrchion cnau / Hadau 61 2.75
Molysgiaid dwygragennog a chynhyrchion wedi’u gwneud ohonynt 59 2.66
Diodydd dialcohol 56 2.52
Ychwanegion a chyflasynnau bwyd 36 1.62
Paratoadau coco / coco / coffi / te 30 1.35
Cawl / Potesau / Sawsiau a phupur a halen (condiments) 29 1.31
Cramenogion (crustaceans) a chynhyrchion wedi’u  gwneud ohonynt 25 1.13
Hufenau iâ a phwdinau 20 0.09
Diodydd alcohaidd 19 0.86
Wyau a chynhyrchion wyau 17 0.77
Bwyd anifeiliaid anwes 15 0.68
Mêl a jeli’r frenhines 10 0.45
Brasterau ac olewau 9 0.41
Heb ei ddiffinio 9 0.41
Seffalopodau a chynhyrchon wedi’u gwneud ohonynt 8 0.36
Dŵr 7 0.32
Sgil-gynhyrchion anifeiliaid 6 0.27
Bwyd anifeiliaid cyfansawdd 5 0.23
Gastropodau 0 0.00
Bwydydd Newydd 0 0.00
Gwin 1 0.05
Cyfanswm 2221 100.00

16. Diolchiadau

Yn gyntaf, hoffem ddiolch i’r llu o gyfranwyr yn yr ASB ac FSS sydd wedi helpu i greu’r adroddiad hwn. Mae hon yn ymdrech wirioneddol ar draws y DU, gyda chyfraniad helaeth gan arbenigwyr polisi o bob un o’r pedair gwlad. 

Mae’r adroddiad hefyd wedi elwa’n fawr ar fewnbwn arbenigol gan y pedwar ar ddeg o adolygwyr allanol aeth ati i graffu ar y drafftiau cynnar a darparu cymorth a beirniadaeth adeiladol ar bob cam. Mae’r adroddiad hwn yn gryfach oherwydd eu parodrwydd i roi cyngor a rhannu eu doethineb. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i’r canlynol:

Adroddiad llawn: adroddiad blynyddol (Ein Bwyd)

  • Yr Athro Guy Poppy CB FMedSci, Prifysgol Southampton, Cadeirydd Gweithredol BBSRC

Pennod 1: Plât y genedl 

  • Yr Athro Julie Barnett, Prifysgol Caerfaddon
  • Yr Athro Emma Roe, Athro Daearyddiaethau Mwy-Na-Dynol, Prifysgol Southampton
  • Yr Athro Lynn Frewer, Athro Bwyd a Chymdeithas, Prifysgol Newcastle

Pennod 2: Safbwynt byd-eang

  • Yr Athro Dennis Novy, Athro Economeg, Prifysgol Warwick
  • Yr Athro L Alan Winters CB, Athro Economeg, Prifysgol Sussex

Pennod 3: Pwysigrwydd hylendid

  • Dr Belinda Stuart-Moonlight, Moonlight Environmental Ltd
  • Dr Nicholas Watson, Athro Deallusrwydd Artiffisial ym maes Bwyd, Prifysgol Leeds

Pennod 4: Diogel a chadarn

  • Ms Patricia Dodd
  • Mr Alec Kyriakides,  Ymgynghorydd Diogelwch Bwyd Annibynnol
  • Mr John Barnes, Enmoore Ltd
  • Yr Athro John Threlfall, Ymgynghorydd Annibynnol
  • Yr Athro Louise Manning, Athro Systemau Bwyd-Amaeth Cynaliadwy, Prifysgol Lincoln
  • Yr Athro Tony Hines MBE, Ymgynghorydd Annibynnol