Safonau Dirprwy OPG
Cyhoeddwyd 13 Chwefror 2023
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae’r safonau yma’n egluro’r hyn a ddisgwylir gan ddirprwyon lleyg, dirprwyon Awdurdodau Cyhoeddus a dirprwyon proffesiynol a benodwyd gan y llys, ac maen nhw’n rhan ganolog o’r ffordd mae’r OPG yn goruchwylio’r tri math o ddirprwy.
Fel arfer, mae dirprwyon lleyg yn ffrindiau neu’n aelodau o deulu’r person sydd heb y galluedd i wneud penderfyniadau drosto’i hun. Ni chaiff dirprwyon lleyg godi ffioedd.
Os nad oes aelod o’r teulu ar gael, yn fodlon neu’n gallu gweithredu fel dirprwy, gall y llys benodi awdurdod lleol neu gorff iechyd i fod yn ddirprwy, sy’n cael ei alw’n ddirprwy Awdurdod Cyhoeddus. Mae dirprwyon Awdurdodau Cyhoeddus yn cael codi ffioedd am eu gwasanaethau, a hynny ar gyfradd sefydlog.
Fel arfer, mae dirprwyon proffesiynol yn cael eu penodi pan nad oes aelod o’r teulu ar gael neu’n fodlon gweithredu fel dirprwy, a phan fydd angen delio â materion mwy cymhleth. Maen nhw’n cael eu talu am y gwasanaethau maen nhw’n eu darparu – cyfreithwyr, cyfrifwyr neu ymgynghorwyr ariannol ydyn nhw fel arfer.
Mae’r safonau’n perthyn i wyth categori pendant:
- Rhwymedigaethau craidd y ddirprwyaeth
- Penderfyniadau ‘er lles pennaf’
- Rhyngweithio â P*
- Rheolaeth ariannol
- Cadw cofnodion ariannol
- Rheoli eiddo
- Penderfyniadau sy’n ymwneud yn benodol ag iechyd a lles
- Rhwymedigaethau ychwanegol
*Yn y safonau hyn a’r canllawiau cysylltiedig, mae person sydd heb alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau penodol drosto’i hun yn cael ei alw’n P.
Mae’r safonau’n berthnasol i faterion ariannol ac eiddo, i faterion iechyd a lles, neu’r naill a’r llall.
Bydd dirprwyon yn cael eu hasesu yn unol â’r safonau drwy adolygu’r ymatebion ar yr adroddiad blynyddol, a thrwy ymweliadau sicrwydd ac adolygiadau achos.
Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn disgwyl bod gan ddirprwyon proffesiynol ac Awdurdodau Cyhoeddus fwy o arbenigedd a gwybodaeth dechnegol na dirprwyon lleyg.
Yn achos dirprwyon lleyg, bydd yr OPG yn darparu cymorth cychwynnol i’w helpu i gyflawni cyfrifoldebau eu dirprwyaeth. Os na fydd dirprwyon yn cyrraedd y safonau, mae’n bosibl y gofynnir iddyn nhw gymryd nifer o gamau unioni. Os bydd y safonau’n cael eu torri’n ddifrifol, mae’n bosibl y bydd cais yn cael ei gyflwyno i’r Llys Gwarchod i ddiswyddo’r dirprwy.
Yn achos Awdurdodau Cyhoeddus, bydd dirprwyon nad ydynt yn cyrraedd y safonau yn cael eu cyfeirio at uwch reolwyr neu brif weithredwr yr Awdurdod Cyhoeddus, a bydd mesurau unioni’n cael eu rhoi ar waith er mwyn cyrraedd y safonau.
Mewn achosion lle nad yw dirprwyon proffesiynol yn cadw at y safonau, bydd yr OPG yn ystyried gwneud cais i’r Llys Gwarchod i ryddhau’r dirprwy.
Bydd yr OPG yn ymchwilio i bryderon a godwyd ynghylch gweithredoedd dirprwy, ac yn gwneud atgyfeiriadau diogelu at yr Awdurdod Lleol priodol pan fydd angen. Os oes tystiolaeth o dwyll neu esgeulustod troseddol, bydd achosion yn cael eu cyfeirio at yr heddlu.
Mae canllawiau ychwanegol sydd wedi cael eu teilwra’n benodol ar gyfer dirprwyon lleyg, dirprwyon Awdurdodau Cyhoeddus a dirprwyon proffesiynol ar gael ar GOV.UK:
Mae’r canllawiau’n darparu deunydd ychwanegol i helpu dirprwyon i gyflawni eu cyfrifoldebau a sicrhau bod pob penderfyniad yn cael ei wneud er lles pennaf P.
Safon 1: Rhwymedigaethau Dirprwyaeth
Rhaid i bob dirprwy ddeall a chyflawni ei rwymedigaethau, a chael y sgiliau a’r profiad i gyflawni ei rôl.
1a. Ymwybyddiaeth o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (MCA); y Cod Ymarfer; a chanllawiau a gyhoeddwyd gan yr OPG
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Dirprwy lleyg
Rhaid i ddirprwyon gael digon o wybodaeth am y Ddeddf Galluedd Meddyliol a’r Cod Ymarfer i gyflawni eu dyletswyddau.
Dirprwy Awdurdod Cyhoeddus a dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon gael digon o wybodaeth am y Ddeddf Galluedd Meddyliol a’r Cod Ymarfer i gyflawni eu dyletswyddau. Rhaid i ddirprwyon gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y gyfraith achosion berthnasol, a’i defnyddio mewn ffordd gyfredol.
1b. Deall awdurdod a rhwymedigaethau’r gorchymyn llys sy’n penodi’r dirprwy
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Dirprwy lleyg, dirprwy Awdurdod Cyhoeddus a dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon ddeall y rhwymedigaethau a roddir iddynt gan y gorchymyn dirprwyaeth, gyda chymorth yr OPG os bydd angen.
Dirprwy Awdurdod Cyhoeddus a dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon ddeall y rhwymedigaethau a roddir iddynt gan y gorchymyn dirprwyaeth.
1c. Cyflwyno adroddiadau i’r OPG
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Dirprwy lleyg, dirprwy Awdurdod Cyhoeddus a dirprwy proffesiynol
Rhaid cyflwyno adroddiadau bob blwyddyn neu ar gais yr OPG.
1d. Talu ffioedd goruchwylio
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Dirprwy lleyg, dirprwy Awdurdod Cyhoeddus a dirprwy proffesiynol
Rhaid i ffioedd goruchwylio’r OPG gael eu talu’n brydlon.
1e. Sicrhau bod sicreb briodol ar waith
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo
Dirprwy lleyg
Rhaid talu premiymau bondiau blynyddol. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i ddirprwyon wneud cais i’r Llys Gwarchod i amrywio lefel y bond sicreb os bydd yr OPG yn gofyn iddyn nhw wneud hynny.
Dirprwy Awdurdod Cyhoeddus
Nid yw’r safon hon yn berthnasol i ddirprwyon Awdurdodau Cyhoeddus.
Dirprwy proffesiynol
Rhaid talu premiymau bondiau blynyddol. Rhaid i ddirprwyon sicrhau bod y bond sicreb yn ddigonol, a gwneud cais i’r Llys Gwarchod i amrywio lefel y bond os bydd angen. Rhaid i ddirprwyon drefnu yswiriant indemniad proffesiynol ar y lefel briodol.
1f. Ysgwyddo dyletswyddau ymddiriedol*
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Dirprwy lleyg
Rhaid i ddirprwyon lynu wrth ddyletswyddau ymddiriedol ac osgoi unrhyw wrthdaro posibl rhwng buddiannau gan ddefnyddio’r canllawiau yn y Cod Ymarfer, a gyda chymorth perthnasol yr OPG yn ôl yr angen. Rhaid iddyn nhw sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau yn un ddiduedd a gwrthrychol, a datgan unrhyw fuddiannau personol a allai arwain at wrthdaro posibl rhwng buddiannau.
Dirprwy Awdurdod Cyhoeddus
Rhaid i ddirprwyon lynu wrth ddyletswyddau ymddiriedol ac osgoi unrhyw wrthdaro posibl rhwng buddiannau. Rhaid iddyn nhw sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau yn un ddiduedd a gwrthrychol, a datgan unrhyw fuddiannau personol a allai arwain at wrthdaro posibl rhwng buddiannau.
Dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon lynu wrth ddyletswyddau ymddiriedol a sicrhau bod mesurau ar waith i osgoi gwrthdaro ymddangosiadol neu wirioneddol rhwng buddiannau; pan fydd gwrthdaro o’r fath, rhaid i ddirprwyon ddilyn y gweithdrefnau sy’n cael eu hamlinellu yn nyfarniad Re ACC and Others.
*Mae dyletswydd ymddiriedol yn golygu na chaiff dirprwy fanteisio ar ei safle na chaniatáu i’w fuddiannau personol wrthdaro â’i ddyletswyddau.
1g. Gwneud ceisiadau llys priodol
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Dirprwy lleyg
Rhaid i ddirprwyon wneud ceisiadau llys priodol pan fydd angen, neu pan fydd yr OPG yn gofyn iddyn nhw wneud hynny.
Dirprwy Awdurdod Cyhoeddus
Rhaid i ddirprwyon wneud ceisiadau llys priodol pan fydd angen.
Dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon wneud ceisiadau llys pan fydd angen. Rhaid i ddirprwyon ystyried yr awdurdod y bydd ei angen arnynt i reoli achos penodol wrth wneud y cais am ddirprwyaeth.
1h. Ystyried a oes angen dirprwyaeth o hyd
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Dirprwy lleyg
Rhaid i ddirprwyon ystyried ai gorchymyn dirprwyaeth yw’r opsiwn lleiaf cyfyngol i P o hyd. Os yw P wedi adennill galluedd, rhaid i ddirprwyon wneud ceisiadau i’r Llys Gwarchod i ddod â’r ddirprwyaeth i ben.
Os yw incwm P yn deillio’n llwyr o fudd-daliadau gwladol, rhaid i ddirprwyon ystyried a oes angen dirprwyaeth o hyd, oherwydd byddai materion ariannol P yn gallu cael eu rheoli drwy benodeiaeth. Mewn achosion iechyd a lles, rhaid i ddirprwyon ystyried a oes angen ymyrraeth dirprwy o hyd ar P.
Dirprwy Awdurdod Cyhoeddus a dirprwy proffesiynol
Os yw P wedi adennill galluedd, rhaid i ddirprwyon wneud ceisiadau i’r Llys Gwarchod i ddod â’r ddirprwyaeth i ben.
Os yw incwm P yn deillio’n llwyr o fudd-daliadau gwladol, rhaid i ddirprwyon ystyried a oes angen dirprwyaeth o hyd, oherwydd byddai materion ariannol P yn gallu cael eu rheoli drwy benodeiaeth. Ond, rhaid i unrhyw benderfyniad i ddiddymu dirprwyaeth er mwyn cael penodeiaeth ystyried unrhyw ffactorau diogelu a risg ychwanegol. Mewn achosion iechyd a lles, rhaid i ddirprwyon ystyried a oes angen ymyrraeth dirprwy o hyd ar P.
1i. Rhoi gwybod i’r OPG ar unwaith am unrhyw newidiadau i’r atebion a roddwyd yn COP4
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Dirprwy lleyg a dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon roi gwybod i’r OPG am unrhyw newidiadau mewn materion sydd wedi cael eu datgan ar ffurflen datganiad dirprwy COP4.
Dirprwy Awdurdod Cyhoeddus
Nid yw’r safon hon yn berthnasol i ddirprwyon Awdurdodau Cyhoeddus.
Safon 2: Gwneud penderfyniadau er lles pennaf
Rhaid i bob dirprwy gydymffurfio ag egwyddorion penderfyniadau er lles pennaf.
2a. Cydymffurfio ag adran 4 o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol, gan gynnwys ystyried barn personau perthnasol
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Dirprwy lleyg, dirprwy Awdurdod Cyhoeddus a dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon gydymffurfio’n llwyr ag adran 4 o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol gan ddilyn y canllawiau sydd ar gael ym mhennod 5 y Cod Ymarfer, a sicrhau yr ymgynghorir â phersonau perthnasol yn ôl y gofyn.
2b. Cynnwys P mewn penderfyniadau
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Dirprwy lleyg
Rhaid i ddirprwyon gynnwys P mewn penderfyniadau lle bynnag y bo modd. Rhaid cadw cofnodion o sgyrsiau, gan gynnwys tystiolaeth o ddymuniadau a theimladau P. Rhaid i ddirprwyon ystyried galluedd meddyliol P i wneud penderfyniadau, gan ddefnyddio’r canllawiau sydd ar gael ym mhennod 4 y Cod Ymarfer.
Dirprwy Awdurdod Cyhoeddus a dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon gynnwys P mewn penderfyniadau lle bynnag y bo modd. Rhaid cadw cofnodion o sgyrsiau, gan gynnwys tystiolaeth o ddymuniadau a theimladau P. Rhaid i ddirprwyon sicrhau bod asesiadau ffurfiol o alluedd meddyliol yn cael eu cynnal pan fydd hynny’n briodol.
Safon 3: Rhyngweithio â P
Rhaid i bob dirprwy ymgysylltu â P mewn modd priodol, gan ystyried amgylchiadau unigol P.
3a. Ymweld â P o leiaf unwaith y flwyddyn
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Dirprwy lleyg
Rhaid i ddirprwyon ymweld â P mor aml ag sy’n rhesymol angenrheidiol, ac o leiaf unwaith y flwyddyn.
Dirprwy Awdurdod Cyhoeddus
Rhaid i ddirprwyon sicrhau bod P yn cael ymweliad mor aml ag sy’n rhesymol angenrheidiol, ac o leiaf unwaith y flwyddyn.
Dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon ymweld â P o leiaf unwaith y flwyddyn; rhaid i ddirprwyon ddangos ymwybyddiaeth o amgylchiadau P a rhoi cyfiawnhad dros ymweliadau amlach os bydd angen. Rhaid i ddirprwyon sicrhau bod achosion lle mae P yn cysylltu’n aml â’r dirprwy yn cael eu rheoli’n briodol, gan leihau’r gost ychwanegol i P cymaint â phosibl.
Safon 4: Rheolaeth Ariannol
Rhaid i bob dirprwy reoli materion ariannol P yn briodol, gan ystyried asedau penodol yr ystad.
4a. Sicrhau bod taliadau a hawliadau’n gyfredol
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo
Dirprwy lleyg
Rhaid i ddirprwyon sicrhau eu bod wedi gwneud cais am unrhyw fudd-daliadau y mae P yn gymwys i’w cael, a hynny o fewn tri mis i gael y gorchymyn dirprwyaeth; bydd yr OPG yn rhoi cyngor yn ôl yr angen. Rhaid i ddirprwyon adolygu budd-daliadau o leiaf unwaith y flwyddyn.
Dirprwy Awdurdod Cyhoeddus a dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon sicrhau eu bod wedi gwneud cais am unrhyw fudd-daliadau y mae P yn gymwys i’w cael, a hynny o fewn tri mis i gael y gorchymyn dirprwyaeth. Rhaid i ddirprwyon sicrhau bod budd-daliadau yn cael eu hadolygu o leiaf unwaith y flwyddyn.
4b. Gwahanu arian
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo
Dirprwy lleyg
Rhaid i ddirprwyon sicrhau bod arian P yn cael ei gadw ar wahân i arian y dirprwy oni bai fod trefniant sy’n bodoli ers tro; er enghraifft, os yw’r dirprwy a P yn briod neu mewn partneriaeth sifil.
Dirprwy Awdurdod Cyhoeddus a dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon sicrhau bod arian P yn cael ei gadw ar wahân, a bod y broses o reoli cyfrifon yn un gwbl dryloyw.
4c. Cyflawni cynlluniau a rhwymedigaethau treth
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo
Dirprwy lleyg, dirprwy Awdurdod Cyhoeddus a dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon sicrhau bod pob treth yn cael ei thalu a bod dogfennau perthnasol yn cael eu ffeilio, a dylent ystyried a oes angen cyngor arbenigol.
4d. Rheoli buddsoddiadau
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo
Dirprwy lleyg, dirprwy Awdurdod Cyhoeddus a dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon geisio sicrhau’r elw mwyaf posibl ar gynilion, gyda chyn lleied â phosibl o risg. Rhaid optimeiddio’r rheolaeth ariannol dros ystad P, gan ddefnyddio mesurau priodol a chosteffeithiol.
4e. Rheoli rhwymedigaethau ariannol
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo
Dirprwy lleyg, dirprwy Awdurdod Cyhoeddus a dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon sicrhau bod unrhyw ddyledion sy’n ddyledus gan P yn cael eu talu’n brydlon.
4f. Darparu lwfans personol i P
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo
Dirprwy lleyg, dirprwy Awdurdod Cyhoeddus a dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon sicrhau bod P yn cael lwfans personol digonol, boed yn byw mewn gofal preswyl neu yn ei gartref ei hun.
Safon 5: Cadw cofnodion ariannol
Rhaid i bob dirprwy gadw cofnodion o benderfyniadau ariannol a gwariant.
5a. Diweddaru cofnodion ariannol
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo
Dirprwy lleyg
Rhaid i ddirprwyon gadw cofnodion o bob penderfyniad ariannol arwyddocaol, a sicrhau bod derbynebau ac anfonebau’n cael eu cadw.
Dirprwy Awdurdod Cyhoeddus
Rhaid i ddirprwyon gadw cofnodion ariannol llawn a sicrhau bod systemau cyfrifyddu ar waith.
Dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon gadw cofnodion ariannol llawn a sicrhau bod systemau cyfrifyddu ar waith, gan gydymffurfio â gofynion yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr neu reoleiddwyr eraill fel y bo’n briodol.
5b. Dangos sut mae penderfyniadau ariannol yn cael eu gwneud, a ffactorau perthnasol yn cael eu hystyried
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo
Dirprwy lleyg, dirprwy Awdurdod Cyhoeddus a dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon egluro pob penderfyniad ariannol arwyddocaol yn yr adroddiad blynyddol.
Safon 6: Rheoli eiddo
Rhaid i bob dirprwy reoli eiddo P yn unol â’r gorchymyn dirprwyaeth ac er lles pennaf P.
6a. Diogelu eiddo P
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo
Dirprwy lleyg, dirprwy Awdurdod Cyhoeddus a dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon sicrhau bod eiddo P yn ddiogel a bod yswiriant priodol ar waith.
6b. Gwerthu eiddo P
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo
Dirprwy lleyg, dirprwy Awdurdod Cyhoeddus a dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon sicrhau bod unrhyw benderfyniad i werthu eiddo P yn cael ei wneud er lles pennaf P, ac yn cyd-fynd â’r awdurdod a roddwyd gan eich gorchymyn dirprwyaeth.
Safon 7: Penderfyniadau sy’n ymwneud yn benodol ag iechyd a lles
Rhaid i bob dirprwy a benodir mewn achosion iechyd a lles gydymffurfio â’r awdurdod a roddwyd gan y gorchymyn dirprwyaeth, a sicrhau bod yr OPG yn cael gwybod am benderfyniadau allweddol sy’n cael eu gwneud ar ran P.
7a. Penderfynu ble y dylai P fyw
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion iechyd a lles
Dirprwy lleyg, dirprwy Awdurdod Cyhoeddus a dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon roi esboniad i’r OPG ar gyfer unrhyw benderfyniadau sy’n cael eu gwneud ynghylch ble y dylai P fyw.
7b. Penderfynu pwy ddylai gael cyswllt â P
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion iechyd a lles
Dirprwy lleyg, dirprwy Awdurdod Cyhoeddus a dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon sicrhau eu bod wedi ystyried terfynau eu gorchymyn dirprwyaeth ynghylch cyfyngu ar ymweld â P yn unol ag adran 20 o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol, sy’n datgan mai dim ond y llys sy’n gallu gwneud penderfyniadau ynghylch cyfyngu ar ymweld â P.
7c. Cydsynio i driniaeth
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion iechyd a lles
Dirprwy lleyg, dirprwy Awdurdod Cyhoeddus a dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon roi esboniad i’r OPG ar gyfer unrhyw benderfyniadau sy’n cael eu gwneud ynghylch darparu, gwrthod neu derfynu gofal iechyd i P.
Safon 8: Rhwymedigaethau ychwanegol
Rhaid i ddirprwyon ystyried rhwymedigaethau ychwanegol, yn enwedig os ydyn nhw’n codi tâl am y gwasanaethau sy’n cael eu darparu i P.
8a. Archwilio ffeiliau mewnol
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Dirprwy lleyg
Nid yw’r safon hon yn berthnasol i ddirprwyon lleyg.
Dirprwy Awdurdod Cyhoeddus a dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon wneud yn siŵr bod prosesau ar waith i sicrhau bod ffeiliau achos yn cael eu hadolygu’n fewnol yn rheolaidd. Os oes angen cymryd unrhyw gamau o ganlyniad i hynny, rhaid mynd ati i wneud hynny cyn gynted â phosibl.
8b. Cyflawni rhwymedigaethau proffesiynol
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Dirprwy lleyg
Nid yw’r safon hon yn berthnasol i ddirprwyon lleyg.
Dirprwy Awdurdod Cyhoeddus
Rhaid i ddirprwyon sicrhau bod y gofynion ynghylch defnydd priodol o adnoddau cyhoeddus yn cael eu bodloni.
Dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon lynu wrth yr ymddygiad proffesiynol da y mae’r OPG ac unrhyw gorff rheoleiddio priodol yn ei ddisgwyl. Rhaid cyflwyno biliau llawn a thryloyw o’r costau i Swyddfa Costau’r Uwchlysoedd fel y bo’n briodol.
8c. Rhoi gwybod i’r OPG ar unwaith am unrhyw ymchwiliad neu achos sydd ar waith
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Dirprwy lleyg a dirprwy Awdurdod Cyhoeddus
Rhaid i ddirprwyon sicrhau bod yr OPG yn ymwybodol o unrhyw achosion sifil neu ymchwiliadau presennol neu newydd gan yr heddlu sy’n ymwneud â naill ai P neu’r dirprwy.
Dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon sicrhau bod yr OPG yn ymwybodol o unrhyw achosion sifil neu ymchwiliadau presennol neu newydd gan yr heddlu sy’n ymwneud â naill ai P neu’r dirprwy; rhaid i ddirprwyon sicrhau bod yr OPG yn ymwybodol o unrhyw ymchwiliadau sydd ar y gweill gan y corff rheoleiddio priodol.
8d. Rhoi gwybod i’r OPG am bryderon ynghylch dirprwyon eraill
Yn berthnasol i’r canlynol: Materion ariannol ac eiddo, materion iechyd a lles
Dirprwy lleyg, dirprwy Awdurdod Cyhoeddus a dirprwy proffesiynol
Rhaid i ddirprwyon roi gwybod i’r OPG os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon am ddirprwy arall, o ba bynnag fath. Rhaid iddyn nhw hefyd roi gwybod i ni am unrhyw faterion a allai effeithio ar sut mae’r ddirprwyaeth yn cael ei rheoli.