Adroddiad corfforaethol

Cyfrifon ac adroddiad blynyddol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus: 2024 hyd 2025

Cyhoeddwyd 17 Gorffennaf 2025

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Trosolwg

Diben y trosolwg yw rhoi crynodeb o waith Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG), ein pwrpas, y prif risgiau rydym yn eu hwynebu, a sut rydym wedi perfformio yn ystod y flwyddyn.

Mae’r trosolwg yn cynnwys:

  • datganiad y Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan roi ei safbwynt ar ein perfformiad yn ystod 2024-2025

  • disgrifiad o bwrpas yr OPG, yr hyn rydym yn ei wneud, ein cwsmeriaid a rhanddeiliaid, ein perthynas gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a’r prif risgiau a materion y gwnaethom eu rheoli yn ystod y flwyddyn

  • crynodeb o berfformiad, gan amlinellu sut gwnaethom berfformio yn erbyn ein nodau darparu gwasanaeth

Mae esboniad manylach o’n perfformiad ac atebolrwydd yn nhudalennau dilynol yr adroddiad hwn.

Roedd y prif risgiau a gafodd eu rheoli yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod 2024-2025 yn cynnwys:

  • darparu’r lefel ddisgwyliedig o wasanaeth i’n cwsmeriaid

  • cefnogi’r gwaith o adennill costau yn y tymor hwy

  • cyflawni ein portffolio trawsnewid er mwyn gallu cyflawni ein hamcanion strategol

Mae rhagor o fanylion am y risgiau hyn a’r risgiau eraill a gafodd eu rheoli yn ystod y flwyddyn ar gael o’r adran Risgiau allweddol ymlaen.

Datganiad gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r Prif Weithredwr

Fel Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr drwy gydol 2024 i 2025, mae’n bleser gennyf gyflwyno adroddiad blynyddol a chyfrifon Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Ar 22 Ebrill 2025, camodd Ruth Duffin i’r rôl hon dros dro ac o ganlyniad mae’n cymryd cyfrifoldeb dros gymeradwyo gweddill yr adroddiad hwn.

Bob dydd yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rwy’n gweld y gwaith anhygoel mae ein timau’n ei wneud i gefnogi rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, ac rwy’n falch o arwain y grŵp penderfynol a gweithgar hwn o bobl.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn drobwynt - ar ôl llywio drwy gyfnod heriol, rydym wedi llwyddo i glirio’r ôl-groniad o atwrneiaethau arhosol (LPA). Roedd hon yn flaenoriaeth bwysig i ni yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ac mae cyrraedd y garreg filltir anhygoel hon wedi golygu ymdrech barhaus, gwaith caled a meddwl yn greadigol. Hoffwn ddiolch i bawb a weithiodd i gyrraedd y targed hwn, ac rwy’n falch ein bod wedi dychwelyd at ‘fusnes fel arfer’ ar gyfer ceisiadau am atwrneiaethau arhosol.

Drwy ganolbwyntio ymdrechion ar egwyddorion sylfaenol rhoi cwsmeriaid yn gyntaf, lleihau’r tarfu, a chroesawu arloesedd, rydym nid yn unig wedi clirio’r ôl-groniad o geisiadau atwrneiaeth arhosol ond wedi gwneud newid mesuradwy i brofiad y cwsmer. Rydym wedi gweld y sgôr boddhad cwsmeriaid yn codi i 84% ar gyfer Gwasanaethau Atwrneiaeth (sy’n uwch na’n targed o 80%), ac rydym hefyd wedi gwneud cynnydd cryf ym mherfformiad ein canolfan gyswllt, gyda 57% o alwadau’n cael eu hateb o fewn 5 munud, i fyny o 31%, ac amseroedd aros cyfartalog yn gyson is na 5 munud ers mis Tachwedd 2024.

Rydym wedi parhau i hyrwyddo’r gwerth a’r rheolaeth sy’n gallu deillio o gael atwrneiaeth arhosol drwy ein hymgyrch ‘Eich Llais, Eich Penderfyniad’ - sydd unwaith eto’n targedu ardaloedd heb gynrychiolaeth ddigonol ledled Cymru a Lloegr - i annog cymunedau mwy amrywiol i ddechrau’r sgwrs atwrneiaeth arhosol gyda’u hanwyliaid. Yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw cael atwrneiaeth arhosol a’r tawelwch meddwl y gall ei gynnig. Dyna pam rwyf yn falch bod gennym 9,340,910 o atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus ar y gofrestrfa, sy’n gynnydd o 1,301,364 ers y flwyddyn ariannol flaenorol.

Fodd bynnag, rydym yn wynebu heriau sylweddol mewn ymchwiliadau. Mae nifer yr achosion yn parhau i dyfu, ac eleni nid oeddem yn gallu cyrraedd y targed 70 diwrnod gwaith ar gyfer cwblhau ymchwiliadau. Er nad yw hon yn sefyllfa rydyn ni eisiau bod ynddi, mae’r tîm wedi gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn dal i gyrraedd ein targedau ar ddiogelu - gan ymateb yn gyson i 99% o alwadau o fewn y ffenestr 3 munud a brysbennu 98% o achosion acíwt o fewn dau ddiwrnod er mwyn amddiffyn y rheini sydd ei angen fwyaf. Er mwyn gweithio i leihau’r ôl-groniad mewn ymchwiliadau, mae’r tîm wedi rhoi nifer o atebion creadigol ar waith i ryng-gipio achosion yn gynharach a rhagweld ymchwiliadau. Mae hon yn flaenoriaeth i’r sefydliad cyfan ar gyfer 2025 i 2026 gan ein bod wedi ymrwymo o hyd i gymryd camau cyson ac amserol i sicrhau ein bod yn cyflawni ein cyfrifoldeb i ymyrryd pan nad yw buddiannau gorau ein cleientiaid yn cael eu cynnal.

Eleni, cafwyd newidiadau mawr yn nhîm arwain Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan groesawu dau aelod anweithredol newydd i’r bwrdd a chadeirydd anweithredol newydd i’r bwrdd. Rydym yn croesawu eu persbectif allanol a’u harbenigedd helaeth i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a fydd yn helpu i gryfhau llywodraethiant ar yr un pryd â hyrwyddo cynaliadwyedd ac atebolrwydd tymor hir. Drwy atgyfnerthu ein cydnerthedd sefydliadol, rydym wedi creu llwyfan cadarn ar gyfer cofleidio’r agenda trawsnewid.

Yr ydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol i ddarparu gwasanaeth modern. Mae cyflwyno technoleg newydd yn y ganolfan gyswllt yn llwyddiannus wedi gwella ein gweithrediadau sy’n ymwneud â chwsmeriaid. Mae’r system newydd yn fwy effeithlon a bydd yn rhoi mwy o wybodaeth i ni, yn ogystal â bod yn fwy dibynadwy i gwsmeriaid. Yn ogystal, mae gweithredu sganwyr newydd yn ein galluogi i brosesu dogfennau’n gyflymach ac yn fwy dibynadwy, gan arwain at amseroedd ymateb gwell.

Wrth edrych i’r dyfodol, rydym mewn sefyllfa dda i ddechrau pennod newydd o drawsnewid. Mae’r sylfeini rydym wedi’u gosod eleni yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wrth glirio’r ôl-groniad, cryfhau ein trefniadau llywodraethu, diweddaru ein systemau, a buddsoddi yn ein pobl yn rhoi’r sylfaen gadarn sydd ei hangen arnom i roi newidiadau uchelgeisiol ar waith dros y blynyddoedd nesaf wrth i ni symud tuag at atwrneiaeth arhosol wedi’i moderneiddio a chroesawu arloesedd yn gyffredinol.

Er bod heriau i fynd i’r afael â nhw o hyd, rwy’n hyderus ein bod yn eu hwynebu o sefyllfa o sefydlogrwydd newydd ac eglurder pwrpas. Rwy’n ddiolchgar i’m cydweithwyr, bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder am eu holl gyfraniadau a chefnogaeth amhrisiadwy eleni. Diolch yn fawr.

Amy Holmes

Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr

Datganiad Gan Gadeirydd Anweithredol Y Bwrdd

Rwy’n falch iawn o fod wedi ymuno â Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel Cadeirydd Anweithredol y Bwrdd ym mis Ionawr 2025. Ar ôl gwasanaethu fel Aelod Anweithredol o’r Bwrdd yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn y gorffennol, rwy’n deall y gwasanaethau hanfodol y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn eu darparu i ddiogelu’r rheini sydd wedi colli’r gallu i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain ac i alluogi pobl i gymryd y camau gofynnol i ddiogelu eu buddiannau yn y dyfodol. Mae arwyddocâd y gwasanaethau hyn yn cael ei danlinellu gan y twf parhaus yn y broses o gofrestru atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus.

Yn ystod fy misoedd cyntaf fel Cadeirydd y Bwrdd, mae gwaith caled ac ymroddiad pawb yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i glirio’r ôl-groniad o atwrneiaethau arhosol, ateb y galw a blaenoriaethu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, yn enwedig i’n cwsmeriaid mwyaf agored i niwed, wedi creu argraff fawr arnaf.

Rwy’n falch o waith y Bwrdd eleni o ran darparu goruchwyliaeth a chyfeiriad i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Daw aelodau’r Bwrdd ag arbenigedd amrywiol, ac mae eu diwydrwydd yn helpu i sicrhau bod gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus lywodraethiant, atebolrwydd a gweledigaeth strategol gadarn.

Cyfarfu’r Bwrdd yn ffurfiol chwe gwaith eleni ac yn ystod y cyfarfodydd hyn rhoddodd gyfarwyddyd ar y camau y gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus eu cymryd i reoli a gwella perfformiad, cymeradwyo dangosyddion perfformiad allweddol newydd ac adolygu data mewnwelediad cwsmeriaid. Roedd y Bwrdd hefyd wedi hwyluso gwelliannau i ddull Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o reoli risg.

Ar ben hynny, rydym wedi darparu cyfeiriad strategol i bortffolio trawsnewid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a gweithgarwch newid ehangach i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol. Rwy’n ddiolchgar i’m cyd-aelodau ar y Bwrdd am eu hymrwymiad parhaus, ac yn enwedig i Amy Holmes am ymgymryd â rôl Cadeirydd y Bwrdd yn fedrus tan fis Rhagfyr.

Rwy’n croesawu’r cynnydd y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’i wneud eleni i foderneiddio gwasanaethau a sicrhau eu bod yn diwallu anghenion cwsmeriaid nawr ac yn y dyfodol. Er bod llawer mwy o waith i’w wneud o ran trawsnewid a bod angen mynd i’r afael â’r heriau presennol o ran amserlenni ymchwiliadau, rwy’n hyderus y bydd y Bwrdd yn parhau i weithio i gefnogi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i fwrw ymlaen â’i thaith i drawsnewid a gwella yn y flwyddyn i ddod. Edrychaf ymlaen at arwain y Bwrdd a pharhau â’r berthynas waith ragorol â thîm arwain Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan gadw cwsmeriaid wrth galon popeth a wnawn ar y cyd.

Alison Sansome

Cadeirydd Anweithredol y Bwrdd

Gwybodaeth am Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Cyflwyniad

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei benodi gan yr Arglwydd Ganghellor o dan Adran 57 o Ddeddf Galluedd Meddyliol (MCA) 2005. Fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Swyddfa, mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn atebol yn bersonol i’r Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder am weithredu’r asiantaeth yn effeithiol, gan gynnwys y ffordd mae’r asiantaeth yn gwario arian cyhoeddus ac yn rheoli ei hasedau.

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael cymorth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gyflawni eu swyddogaethau statudol o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r swyddogaethau ychwanegol o dan Ddeddf Gwarcheidiaeth (Unigolion Coll) 2017. Mae cyfrifoldebau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ymestyn ledled Cymru a Lloegr. Mae trefniadau ar wahân ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gweinidogion y llywodraeth a oedd yn gyfrifol am Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod y cyfnod adrodd hwn (1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025) oedd:

  • y Gwir Anrhydeddus Alex Chalk CB AS, yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder (tan 4 Gorffennaf 2024)

  • y Gwir Anrhydeddus Shabana Mahmood AS, Yr Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder (o 5 Gorffennaf 2024)

  • Mike Freer AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder (tan 4 Gorffennaf 2024)

  • y Gwir Anrhydeddus Heidi Alexander AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder (o 5 Gorffennaf 2024 tan 1 Rhagfyr 2024)

  • Sarah Sackman AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder (o 2 Rhagfyr 2024)

Fel asiantaeth weithredol, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhan o grŵp adrannol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a chaiff ein canlyniadau eu cyfuno yn adroddiad blynyddol a chyfrifon grŵp y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Beth mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei wneud?

Sefydlwyd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ym mis Hydref 2007. Rydym yn cefnogi ac yn galluogi pobl i gynllunio fel bod rhywun yn gofalu am eu hiechyd a’u materion ariannol os byddant yn colli galluedd. Rydym hefyd yn diogelu buddiannau pobl nad oes ganddynt y gallu meddyliol i wneud penderfyniadau penodol drostynt eu hunain.

Ein prif gyfrifoldebau yw:

  • cofrestru atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus (LPAs ac EPAs)

  • goruchwylio dirprwyon a benodwyd gan y Llys Gwarchod (CoP)

  • goruchwylio gwarcheidwaid a benodwyd gan yr Uchel Lys

  • cadw cofrestrau cyhoeddus o ddirprwyon, gwarcheidwaid, atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus, ac ymateb i geisiadau i chwilio’r cofrestrau

  • ymchwilio i sylwadau (gan gynnwys cwynion) am y ffordd mae atwrneiod, dirprwyon a gwarcheidwaid yn arfer eu pwerau

Ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid

Ein cwsmeriaid yw’r rheini sy’n gofyn am ein cymorth o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol (MCA) 2005 neu Ddeddf Gwarcheidiaeth (Unigolion Coll) 2017 neu sydd angen ein cymorth, gan gynnwys:

Rhoddwyr

Pobl sydd wedi gwneud atwrneiaethau arhosol neu atwrneiaethau parhaus i drefnu bod penderfyniadau’n cael eu gwneud am eu lles, eu heiddo neu eu materion ariannol os byddant yn colli galluedd meddyliol yn y dyfodol.

Cleientiaid (a elwir yn ‘P’)

Pobl sydd wedi colli galluedd meddyliol ac y mae eu lles, eu heiddo neu eu materion ariannol yn destun achos gerbron y Llys Gwarchod.

Unigolion coll

Pobl sydd ar goll neu’n absennol ac y mae eu materion yn cael eu rheoli gan warcheidwad a benodwyd gan yr Uchel Lys.

Rydym yn cydnabod mai ein diben hefyd yw cefnogi eraill sy’n ymwneud â phrif bwrpas atwrneiaethau parhaus, atwrneiaethau arhosol, dirprwyaethau a gwarcheidiaeth, gan gynnwys:

Atwrneiod

Pobl sydd wedi cael eu penodi gan roddwyr i reoli eu lles, eu heiddo neu eu materion ariannol os byddent yn colli galluedd yn y dyfodol.

Dirprwyon

Unigolion lleyg neu broffesiynol neu awdurdodau (fel cyfreithwyr neu awdurdodau lleol) sydd wedi cael eu penodi gan y Llys Gwarchod i reoli lles neu faterion ariannol y cleient.

Gwarcheidwaid

Unigolion sydd wedi cael eu penodi gan yr Uchel Lys i reoli eiddo a materion ariannol unigolyn sy’n absennol neu sydd ar goll.

Rhanddeiliaid eraill

Perthnasau i gleient neu roddwr, meddygon teulu neu weithwyr iechyd proffesiynol eraill, elusennau ac aelodau o’r sectorau ariannol a chyfreithiol.

Dadansoddi perfformiad

Sut oedd ein perfformiad yn ystod 2024-2025?

Mae ein perfformiad yn erbyn ein targedau wedi’i nodi isod, ynghyd â’r lefelau baich gwaith mwyaf arwyddocaol ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae rhagor o fanylion ynghylch yr ystod lawn o dargedau, perfformiad a sut cânt eu mesur yn yr atodiad.

Y flwyddyn ariannol hon, ein prif flaenoriaeth oedd clirio’r ôl-groniad o geisiadau am atwrneiaethau arhosol. Cafodd yr ôl-groniad ei achosi gan bwysau a achoswyd gan bandemig COVID-19. Roedd mwy o alw am atwrneiaethau arhosol a oedd yn effeithio ar gyflymder yr adferiad. Ym mis Mawrth 2024, roedd yr ôl-groniad yn 149,400 o geisiadau, a chafodd ei glirio ym mis Tachwedd 2024 o ganlyniad i gyflawni ein cynllun adfer yn llwyddiannus. Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, derbyniwyd 1.37 miliwn o geisiadau am atwrneiaethau arhosol, sydd yr un fath â’r flwyddyn flaenorol.

Roedd y cynllun i glirio’r ôl-groniad yn cynnwys recriwtio adnoddau ychwanegol, gwella patrymau gweithio shifftiau a gweithio goramser a hyfforddi staff. Bu ffocws parhaus hefyd ar gynhyrchiant a gwneud prosesau’n fwy effeithlon. Roedd hyn yn golygu bod yr amser cyfartalog yr oedd ein cwsmeriaid yn aros i gael eu hatwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus cofrestredig wedi gostwng, ac ers mis Tachwedd 2024 (ac eithrio mis Mawrth 2025 oherwydd toriad pŵer annisgwyl) rydym wedi bod yn cyflawni ein targed o 40 diwrnod i gofrestru atwrneiaeth arhosol. Mae’r targed 40 diwrnod yn cynnwys cyfnod rhybudd gorfodol o bedair wythnos. Rhoddir yr hysbysiad hwn i atwrneiod a rhoddwyr fel ei gilydd os ydynt yn dymuno gwrthwynebu cofrestru’r LPA. Mae’r cyfnod gwrthwynebu hwn yn ofynnol yn ôl y gyfraith.

Mae gwella profiad y cwsmer drwy gydol y flwyddyn wedi parhau i fod yn flaenoriaeth uchel i ni. Atebodd ein canolfan cyswllt cwsmeriaid y nifer uchaf o alwadau mewn unrhyw flwyddyn, sef 325,330, i fyny o 240,000 yn ystod 2023 i 2024. Rydym wedi gwella ein gwasanaeth i gwsmeriaid drwy leihau hyd cyfartalog galwadau a lleihau amseroedd aros cyfartalog i siarad â chynghorydd. Adlewyrchir yr effaith gadarnhaol ar brofiad y cwsmer yn ein sgôr boddhad cwsmeriaid sydd wedi codi i 84% ar gyfer Gwasanaethau Atwrneiaeth, i fyny o 76% y llynedd.

Eleni, gwelsom fwy o alw am ymchwiliadau, yn gysylltiedig â mwy o atwrneiaethau arhosol ar y gofrestr. Roedd hyn yn golygu nad oeddem yn cyrraedd ein targed i gwblhau ymchwiliadau o fewn cyfartaledd 70 diwrnod gwaith, gyda’n perfformiad terfynol yn 138 diwrnod gwaith ar gyfartaledd. Mewn ymateb i hyn, rydym wedi gwneud y canlynol:

  • adolygu a gwella prosesau sy’n canolbwyntio ar wella amseroedd cwblhau ymchwiliadau

  • rhoi ymgyrch recriwtio dreigl ar waith i ddarparu adnoddau ychwanegol

  • adolygu ein gwasanaeth ymchwilio, gan ganolbwyntio ar nodi gwelliannau i bolisïau a phrosesau er mwyn sicrhau arbedion effeithlonrwydd

  • adolygu ein rhwymedigaethau yn unol â’r Ddeddf Galluedd Meddyliol ar gyfer darparu gwasanaeth ymchwilio i bennu arbedion effeithlonrwydd ychwanegol y gallwn eu gwneud o fewn ein pwerau cyfreithiol

  • rhoi cynlluniau adfer ar waith i wneud yn siŵr ein bod yn gallu parhau i gefnogi cwsmeriaid agored i niwed pan fydd pryderon yn cael eu codi. Ewch i’r adran ymchwiliadau i gael rhagor o fanylion

Wrth gyflawni ein cyfrifoldebau gweithredol, rydym hefyd wedi parhau i edrych tua’r dyfodol. Rydym wedi bod yn datblygu ein portffolio trawsnewid i ddarparu a datblygu gwasanaethau hygyrch, modern a dibynadwy, i gyd yn canolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen ar ein cwsmeriaid. Eleni, rydym wedi cyflawni dau brif brosiect; lansio platfform canolfan gyswllt newydd a chyflwyno meddalwedd ac offer sganio newydd. Mae cyflawni’r prosiectau hyn yn cyfrannu at welliannau pwysig i brofiad y cwsmer a’r staff. Mae gwaith cynllunio a pharatoi parhaus wedi cael ei gwblhau i gefnogi’r gwaith o ddylunio a chyflawni rhagor o brosiectau, gan gynnwys ein prosiect Moderneiddio Atwrneiaethau Arhosol a fydd yn cyflwyno gwasanaeth digidol newydd a phroses bapur well ar gyfer atwrneiaethau arhosol. Tynnir sylw at ein cynnydd mewn perthynas â Moderneiddio Atwrneiaethau Arhosol a phrosiectau trawsnewid eraill drwy gydol yr adroddiad perfformiad hwn.

Nodir ein perfformiad cyffredinol yn erbyn ein targedau isod, ac mae rhagor o fanylion ar gael yn yr atodiad.

Dangosyddion perfformiad a llwyth gwaith

Ar 31 Mawrth 2025, roeddem yn goruchwylio 61,038 o orchmynion dirprwyaeth ac roedd gennym 9,340,910 o atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus cyfredol ar y gofrestr. Yn ystod 2024 i 2025 cawsom 1,367,053 o geisiadau am atwrneiaethau.

61,038
Llwyth achosion goruchwylio
1,367,053
Nifer y ceisiadau am atwrneiaeth a dderbyniwyd (atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus)
9,340,910
Atwrneiaethau Arhosol ac Atwrneiaethau Parhaus sydd ar y gofrestr ar hyn o bryd

Sut y gwnaethom berfformio

Amseroedd cyfartalog a tharged ar gyfer prosesau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, 2024 i 2025 (diwrnodau gwaith)

Proses Cyfartaledd go iawn Targed
Clirio ar gyfer ceisiadaau am atwrneiaaethau 49 40
Cael adroddiadau blynyddol gan ddirprwyon rydym yn eu goruchwylio 33 40
Adolygu adroddiadau blynyddol dirprwyon 11 15
Amser ar gyfer cwblhau ymchwiliadau 138 70

Canran prosesau’r OPG a gyflawnwyd yn unol â’r targed, 2024 i 2025

Proses Cyflawnwyd Targed
Yr asesiadau risg diogelu a gynhaliwyd o fewn 2 ddiwrnod 98 95
Roedd y galwadau a atebwyd o fewn 5 munud yn ystod 2024 i 2025 57 90
Y cwsmeriaid sy’n fodlon â’r gwasanaethau atwrneiaeth 84 80
Y cwsmeriaid sy’n fodlon â’r gwasanaethau dirprwyaeth 74 80
Cwynion a gafodd ymateb llawn o fewn 10 diwrnod gwaith 90 90
Sgôr bodlonrwydd ar gyfer y gwasanaeth ‘Defnyddio atwrneiaeth arhosol’ 87 80
Sgôr bodlonrwydd ar gyfer y gwasanaeth digidol ‘gwneud atwrneiaeth arhosol’ 87 80
Sgôr bodlonrwydd ar gyfer y gwasanaeth ‘cwblhau adroddiad dirprwy’ 80 80

Atwrneiaethau Arhosol

Mae Atwrneiaethau Arhosol ac Atwrneiaethau Parhaus yn caniatáu i unigolion ddewis pwy maent yn dymuno iddynt wneud penderfyniadau ar eu rhan os daw adeg pan na allant wneud y penderfyniadau hynny eu hunain. Cofrestru Atwrneiaethau Arhosol ac Atwrneiaethau Parhaus yw un o brif wasanaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Y prif dargedau gwasanaeth i gwsmeriaid yn y maes hwn yw:

  • cofrestru ac anfon atwrneiaethau mewn 40 diwrnod gwaith ar gyfartaledd

  • ateb 90% o alwadau o fewn pum munud

  • ymateb i 90% o gwynion o fewn 10 diwrnod gwaith

Eleni, cawsom 1,367,053 o geisiadau am atwrneiaeth arhosol (LPA ac EPA), sy’n agos iawn at ffigur 2023 i 2024. Mae’r graff isod yn dangos y duedd gynyddol yn y galw i gofrestru atwrneiaethau:

Ceisiadau am atwrneiaeth a dderbynnir bob blwyddyn

Ceisiadau a dderbyniwyd
2018 i 2019 835,950
2019 i 2020 917,550
2020 i 2021 691,746
2021 i 2022 975,557
2022 i 2023 1,073,302
2023 i 2024 1,370,546
2024 i 2025 1,367,053

Rydym yn croesawu’r galw uchel parhaus am atwrneiaethau arhosol gan ein bod yn credu y dylai atwrneiaethau arhosol fod i bawb ac yn rhan fwy o fywyd bob dydd.

Ein prif flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn oedd clirio’r ôl-groniad o geisiadau am atwrneiaethau arhosol a chynnal perfformiad, a chyflawni ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid. Mae clirio’r ôl-groniad wedi golygu gostyngiad yn yr amser cyfartalog a gymerir i gofrestru ac anfon atwrneiaethau. Yn ystod 2023 i 2024, cafodd atwrneiaethau arhosol ac atwrneiaethau parhaus eu cofrestru a’u hanfon mewn 76 diwrnod gwaith ar gyfartaledd. Yn ystod 2024 i 2025, roedd y cyfartaledd hwn wedi gwella i 49 diwrnod gwaith.

Mae buddion ein hymdrechion penodol i redeg ein gwasanaethau, lleihau’r tarfu a chyflwyno ffyrdd newydd o weithio i glirio’r ôl-groniad hefyd i’w gweld yn y cynnydd yn ein sgôr boddhad cwsmeriaid ar gyfer Gwasanaethau Atwrneiaeth; o 76% y llynedd i ragori ar ein targed o 80%, sef 84%. Mae boddhad cwsmeriaid â’n gwasanaeth ‘Gwneud Atwrneiaeth Arhosol’ hefyd yn uwch na’r targed, sef 87% ar gyfer y flwyddyn, yr un fath ag yn 2023-2024.

Yn y flwyddyn ariannol nesaf, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gynnal perfformiad uchel yn erbyn ein Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPI) i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau effeithlon a gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid.

Gwelliannau i’r Gwasanaethau

Rydym wedi gwella ein gwasanaethau i gwsmeriaid yn sylweddol eleni ar gyfer ein Gwasanaethau Atwrneiaethau.

Sganwyr Adnabod Nodau Optegol

Mae’r holl atwrneiaethau arhosol a dderbynnir yn cael eu sganio er mwyn gallu creu cofnod digidol. Eleni, rydym wedi buddsoddi mewn sganwyr newydd a meddalwedd newydd. Ar ôl cyfnod o brofi ac integreiddio, cafodd y sganwyr newydd eu defnyddio ym mis Mawrth 2025. Mae cyflwyno sganwyr newydd yn gwella ansawdd delweddau wedi’u sganio, gyda’r feddalwedd newydd yn caniatáu ar gyfer adnabod nodau optegol fel y gellir adnabod testun ysgrifenedig a thestun wedi’i deipio yn well.

Gwasanaethau Defnyddio a Gweld

Er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth a defnydd o’n gwasanaeth Defnyddio a Gweld ar gyfer Atwrneiaeth Arhosol, sy’n caniatáu i roddwyr ac atwrneiod rannu eu LPA cofrestredig â thrydydd partïon, rydym wedi defnyddio adborth cwsmeriaid i wella ein cynnwys ar GOV.UK. Rydym hefyd wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol i wella eu dealltwriaeth a’u defnydd o’r gwasanaeth. Rydym wedi trosglwyddo’r holl gyfrifon Defnyddio a Gweld i lwyfan One Login GOV.UK i leihau nifer y cyfrifon a chyfrineiriau unigol sydd eu hangen ar y cwsmer i gael mynediad at un o wasanaethau’r llywodraeth. Mae hyn wedi arwain at wella boddhad cwsmeriaid â’r gwasanaeth hwn, i fyny i 87% o 85% yn 2023 i 2024.

Ceisiadau am esemptiadau a dileu ffioedd

Rydym wedi symud ein proses ymgeisio ar gyfer esemptiadau a dileu ffioedd (y broses lle gall cwsmer wneud cais i gael ei esemptio neu dalu ffi ymgeisio is am atwrneiaeth arhosol o fewn chwe mis i’r ffi fod yn ddyledus) i’n datrysiad rheoli achosion safonol. Oherwydd y gwelliannau hyn i’r system, rydym bellach yn gallu prosesu ceisiadau’n ddigidol ac nid oes angen i ni ddychwelyd y cais i gwsmeriaid drwy’r post lle mae angen rhagor o wybodaeth i brosesu’r cais i newid y ffi. Mae hyn wedi gwella pa mor gyflym y gallwn brosesu achosion o esemptiadau a dileu ffioedd. Gan fod yr holl weithgareddau sy’n ymwneud ag esemptiadau a dileu ffioedd bellach ar ein system rheoli achosion, mae hyn yn darparu gwedd ganolog gyfunol o’r cais at ddibenion archwilio

Ymgyrch Eich Llais, Eich Penderfyniad

Rydym wedi parhau â’n hymgyrch Eich Llais, Eich Penderfyniad i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o bwysigrwydd atwrneiaethau arhosol. Mae’r ymgyrch leol hon, sydd wedi’i thargedu, wedi’i hanelu at gynyddu’r nifer sy’n defnyddio atwrneiaethau arhosol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r ymgyrch wedi cael ei chyflwyno mewn rhannau o ogledd Cymru, Swydd Gaerhirfryn, De Swydd Efrog, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gogledd Ddwyrain Lloegr a Gorllewin Swydd Efrog. Rydym yn parhau i werthuso’r effaith ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i hysbysu ymgyrchoedd yn y dyfodol.

Goruchwyliaeth

Os yw unigolyn wedi colli galluedd meddyliol ac nad oes ganddo atwrneiaeth barhaus neu atwrneiaeth arhosol, gall y Llys Gwarchod benodi dirprwy i wneud penderfyniadau am faterion ariannol neu iechyd yr unigolyn hwnnw. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn goruchwylio’r holl ddirprwyon sy’n cael eu penodi gan y Llys.

Ein llwyth achosion goruchwylio yw cyfanswm nifer yr unigolion y penodwyd dirprwyon ar eu cyfer. Cyfeirir at yr unigolion hyn fel ‘P’ gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

Mae nifer y gorchmynion dirprwyaeth y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn eu goruchwylio wedi cynyddu o 60,516 ddiwedd 2023 i 2024 i 61,038 ddiwedd 2024 i 2025.

Mae dirprwyon proffesiynol a dirprwyon awdurdodau cyhoeddus (PA) wedi’u hawdurdodi i godi tâl am y gwaith maen nhw’n ei wneud wrth weithredu fel dirprwy ar ran P. Gall dirprwyon proffesiynol fod yn gyfrifydd enwebedig, yn gyfreithiwr neu’n weithiwr proffesiynol heb ei reoleiddio, neu gallent fod yn gorfforaeth ymddiriedolaeth neu’n gwmni cyfreithiol. Mae dirprwyon proffesiynol a dirprwyon awdurdodau cyhoeddus yn aml yn gweithredu ar ran nifer o bobl warchodedig. Gall amrywiol unigolion mewn cwmni proffesiynol neu awdurdod cyhoeddus gyflawni tasgau ar gyfer gwahanol orchmynion o fewn llwyth achosion dirprwyaeth y sefydliad. Eleni, rydym wedi lansio’r Hyb Dirprwyon, porth mewnol newydd sy’n rheoli’r wybodaeth hon mewn un lle.

Mae dirprwyon lleyg yn weithwyr proffesiynol yr oedd P yn eu hadnabod cyn iddynt golli galluedd. Nid oes ganddynt yr awdurdod i godi tâl am yr amser y maent yn ei dreulio’n gweithredu fel dirprwy. Gall dirprwy lleyg fod yn briod, yn rhiant, yn berthynas neu’n ffrind i P. Fe’u penodir yn aml heb unrhyw brofiad blaenorol o’r rôl ac ychydig o wybodaeth am beth mae bod yn ddirprwy yn ei olygu. Rydym yn gwneud pob ymdrech i ymweld â phob dirprwy lleyg newydd ym mlwyddyn gyntaf eu penodiad i wneud yn siŵr eu bod yn deall eu gorchymyn llys, a’u bod mewn sefyllfa dda i fodloni telerau eu gorchymyn a gweithredu er lles gorau P.

Ar ben hynny, mae parhau ag ymweliadau rhithiol yn sicrhau ein bod yn gallu ymweld â phob dirprwy lleyg am y tro cyntaf, gan nad ydym wedi gallu ymweld â dirprwyon sy’n byw y tu allan i Gymru a Lloegr o’r blaen. Mae’r dull o ddefnyddio ymweliadau rhithiol a chefnogi dirprwyon lleyg yn eu blwyddyn gyntaf wedi bod yn ffactor craidd o ran lleihau diffyg cydymffurfio dros y 4 blynedd diwethaf. Mae’r cyfraddau diffyg cydymffurfio ar gyfer dirprwyon lleyg sy’n methu â chyflwyno eu hadroddiad blynyddol wedi gostwng i 1.88% yn ystod blwyddyn ariannol 2024 i 2025, sy’n ostyngiad o 0.39% ers y flwyddyn flaenorol.

Ar ein llwyfan adrodd digidol, ‘Cwblhau adroddiad y dirprwy ar-lein’, rydym wedi ei gwneud yn bosibl i ddirprwyon sydd â nifer o gleientiaid gael mynediad at holl adroddiadau eu cleientiaid ar un cyfrif. Rydym hefyd wedi gwella’r broses i ganiatáu i ddirprwyon gwahanol gyda gorchmynion gwahanol ar gyfer yr un cleient (h.y. dirprwyaethau eiddo a materion ariannol a lles personol) adrodd yn ddigidol. Bydd y newid hwn yn golygu y bydd pob dirprwy yn gallu adrodd yn ddigidol yn ystod y flwyddyn i ddod. Mae’r gyfradd foddhad ar gyfer y gwasanaeth hwn yn parhau ar yr un lefel ag yn 2023 i 2024, sef 80%.

Ein nod yw cael adroddiadau blynyddol gan ddirprwyon rydym yn eu goruchwylio o fewn 40 diwrnod gwaith ar ddiwedd eu cyfnod adrodd, ac rydym wedi cyrraedd y targed hwn drwy gyflawni llai na 33 diwrnod gwaith, yr un fath ag yn 2023-2024. Ein nod yw adolygu adroddiadau blynyddol dirprwyon cyn pen 15 diwrnod gwaith, ac rydym wedi cyrraedd y targed hwn drwy gyflawni 11 diwrnod gwaith, sydd yr un fath ag yn 2023-2024. Mae hyn wedi arwain at oruchwylio asedau P yn gyflymach, ac mae’n ein helpu i roi mesurau addas ar waith i ddiogelu P os oes angen.

Mae’r swm sy’n ddyledus mewn achosion dirprwyaeth wedi gostwng o £4.3 miliwn ar ddiwedd 2023 i 2024 i £3.1 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon. Mae’r gostyngiad mewn dyled yn dilyn cyflwyno proses rheoli dyledion well a chynnydd mewn mynd ar drywydd dyledion o ddau i dri yn ystod 2024 i 2025. Mae’r gostyngiad hwn yn rhan o welliant parhaus i brosesau adennill dyledion dros y blynyddoedd diwethaf yn dilyn ailstrwythuro mewnol sydd wedi cysoni prosesau mynd ar drywydd dyledion â phrosesau goruchwylio i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd.

Yn gyffredinol, ar gyfer y flwyddyn, cawsom sgôr bodlonrwydd cwsmeriaid o 74% o ran ein gwasanaethau dirprwyaeth, o’i gymharu â 72% y llynedd. Byddwn yn parhau i weithio i wella ein gwasanaethau er mwyn cyrraedd ein targed o sgôr boddhad o 80% drwy:

  • cynyddu’r gallu i adrodd yn ddigidol

  • ymweld â dirprwyon lleyg yn gynharach

  • parhau i ddefnyddio’r safonau newydd ar gyfer dirprwyon

  • gwella’r gwaith o oruchwylio dirprwyon sydd â mwy nag un achos drwy’r Hyb Dirprwyon

Gwelliannau i’r gwasanaeth

Rydym yn gwneud pob ymdrech yn barhaus i sicrhau gwelliannau cadarnhaol i wasanaethau sydd â P wrth galon ein penderfyniadau a’n newidiadau.

Adroddiad Dirprwyon

Rydym wrthi’n gwella ffurflen adroddiad blynyddol OPG102, sef y ffordd y mae dirprwyon a benodwyd gan y llys yn adrodd ar gamau a gymerwyd ar ran P. Bydd newidiadau’n cael eu gwneud i’r ffurflen adrodd i wella sut mae OPG yn gwirio bod dirprwyon yn cadw at y safonau gofynnol.

Dirprwyon Panel

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn penodi ac yn goruchwylio panel o ddirprwyon wrth gefn i wasanaethu pan nad oes unrhyw barti neu berson arall yn barod neu ddim yn meddu ar y sgiliau a’r arbenigedd angenrheidiol i weithredu fel dirprwy dan orchymyn dirprwyaeth. Ar hyn o bryd mae 53 o ddirprwyon panel.

Penodwyd y panel presennol o ddirprwyon yn 2015 am gyfnod o 10 mlynedd a daw eu penodiadau i ben ar 31 Rhagfyr 2025. Ym mis Mawrth, fe wnaethom lansio proses recriwtio i benodi ac ailbenodi dirprwyon panel. Daeth yr ymgyrch recriwtio i ben ym mis Mai 2025.

Mae’r ymgyrch recriwtio hon yn agored i gyfreithwyr sy’n cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, ynghyd â chyfrifwyr, ymgynghorwyr ariannol ac elusennau rheoledig. Rhaid i ymgeiswyr fod wedi bod yn ddirprwy proffesiynol ar gyfer dirprwyaethau eiddo a chyllid am o leiaf ddwy flynedd yn olynol ac wedi dechrau’r rôl honno yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Mae’r ymgyrch recriwtio hon yn adlewyrchu dull newydd lle bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynnal ymgyrchoedd yn rheolaidd i recriwtio dirprwyon panel, i sicrhau bod digon o ddirprwyon panel o hyd er mwyn i’r Llys Gwarchod gefnogi P.

Ochr yn ochr â’r ymgyrch hon, rydym hefyd wedi cyflwyno dogfen Ymrwymiad Dirprwyon Panel, yn ogystal â rhoi prosesau gwell ar waith i adolygu addasrwydd dirprwyon panel, atal dros dro a thynnu oddi ar y panel pan fo angen.

Goruchwylio rheoli dyledion

Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau ein bod yn cael tâl am y gwaith goruchwylio rydym yn ei wneud. Rydym wedi creu proses olrhain dyledion awtomataidd, sydd ar waith ar gyfer achosion dirprwyaeth caeedig i gefnogi’r gwaith o adennill dyledion a pharhau i ganolbwyntio ar ein sefyllfa dyledion. Mae hyn yn disodli proses â llaw i gynhyrchu cais am ffi pan fydd achos yn cael ei gau.

Bilio am oruchwyliaeth

Rydym wedi creu proses newydd sy’n dod â bilio am oruchwyliaeth yn fewnol i gefnogi anfonebu a rheoli dyledion. Bwriedir cyflwyno’r broses newydd ar gyfer y cyfnod bilio rhwng 2025 a 2026 ac mae’n golygu y byddwn yn gallu bilio ein cwsmeriaid yn uniongyrchol. Manteision goruchwylio biliau yn fewnol yw arbedion effeithlonrwydd ariannol, gwell rheolaeth dros ansawdd, a gwasanaeth cyflymach a mwy ymatebol i gwsmeriaid, gan gynnwys pa mor gyflym y byddwn yn gallu gweithredu ar geisiadau am ailgyfrifo ac ad-daliadau.

Unigolion Coll

Eleni, fe wnaethom oruchwylio 6 gorchymyn gwarcheidiaeth, o’i gymharu â 9 yn 2023 i 2024. Er bod y niferoedd yn dal yn isel, mae’r gorchmynion a dderbynnir gan yr Uchel Lys yn hanfodol i deuluoedd sydd ag anwyliaid ar goll, ac maent yn eu helpu i ddelio â materion ariannol yn ystod cyfnod sydd eisoes yn drawmatig.

Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda’r elusen Missing People i ddeall pam mae ceisiadau am orchmynion gwarcheidiaeth yn llawer is na’r disgwyl.

Ymchwiliadau:

Mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’i awdurdodi i ymchwilio i honiadau o gam-drin gan atwrneiod a dirprwyon a benodwyd gan y llys, lle mae atwrneiaeth gofrestredig neu orchymyn llys, sy’n penodi dirprwy, ar waith. Rydym yn cynnal ymchwiliad os oes sail i awgrymu nad yw buddiannau gorau’r rhoddwr neu P yn cael eu diwallu. Os bydd y rhoddwr neu P yn marw, neu os bydd yr atwrneiaeth neu’r gorchymyn llys yn cael eu canslo, yna daw pŵer y Gwarcheidwad Cyhoeddus i ymchwilio i ben.

Y twf parhaus yn y galw am atwrneiaethau arhosol fu’r prif ffactor sy’n cyfrannu at y cynnydd cymesur yn nifer yr ymchwiliadau. Eleni, cynyddodd y pryderon a godwyd gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i 11,266 o 10,577 y llynedd, sy’n gynnydd o 6.5%. Mae’r cynnydd hwn yn cyfateb i’r cynnydd yn nifer yr atwrneiaethau arhosol a gofrestrwyd, sydd wedi codi 1,301,364. Mewn ymateb i’r nifer cynyddol o ymchwiliadau ac i gefnogi ein dull hirdymor o reoli ymchwiliadau, rydym yn mynd ati’n rhagweithiol i archwilio’r prif achosion, nodi gwelliannau i brosesau, a defnyddio data i ragweld tueddiadau yn y dyfodol.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi ymrwymo i helpu ein hasiantaethau partner i ddiogelu pobl agored i niwed. Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus darged i adolygu’r holl bryderon diogelu. Rydym yn eu hadolygu drwy asesu bygythiad i niwed, risg uniongyrchol o droi allan neu unrhyw bryderon diogelu uniongyrchol eraill o fewn 48 awr, gan sicrhau bod y rhain yn cael eu cyfeirio at yr heddlu neu’r gwasanaethau cymdeithasol fel y bo’n briodol. Yn ystod 2024 i 2025, yn erbyn targed o 95%, fe wnaethom asesu risg 98% o’r holl bryderon o fewn dau ddiwrnod gwaith, sy’n ostyngiad bychan o 99% yn 2023 i 2024. Yn erbyn targed o 95%, derbyniodd 96% o’r pryderon hynny benderfyniad o fewn pum diwrnod gwaith ynghylch a allai Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ymchwilio i’r pryder neu gyfeirio at yr awdurdod priodol.

O’r 11,266 o bryderon a godwyd, derbyniwyd 3,823 fel ymchwiliadau (34%) gyda 7,443 (66%) yn cael eu cyfeirio’n briodol. Mae pob ymchwiliad yn arwain at adroddiad sy’n crynhoi’r ymchwiliad ac yn darparu unrhyw gamau gweithredu a argymhellir. Mae’r adroddiadau’n cael eu cymeradwyo a’u llofnodi gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus neu’r rheini yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sydd â’r cyfrifoldeb i lofnodi ar ran y Gwarcheidwad Cyhoeddus. Targed Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer cwblhau a sicrhau cymeradwyaeth y Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer adroddiadau ymchwilio neu adolygiad achos cyfreithiol yw o fewn 70 diwrnod gwaith i fynegi’r pryder.

Yn ystod 2024 i 2025 nid oeddem wedi gallu cyrraedd y targed o 70 diwrnod gwaith. Cafodd ymchwiliadau eu cwblhau o fewn 138 diwrnod gwaith ar gyfartaledd, o’i gymharu â 93 diwrnod gwaith yn ystod 2023-2024. Mewn ymateb, ac er mwyn lleihau maint llwyth achosion ymchwiliadau a sicrhau bod ymchwiliadau’n gallu dod i ben yn gyflymach, rydym wedi adolygu ein prosesau recriwtio a chyflawni ac wedi gwneud nifer o welliannau i’r gwasanaeth. Rydym yn parhau i fod yn ymroddedig ac yn canolbwyntio ar ddod â’n hymchwiliadau yn ôl o fewn y targed.

At ei gilydd, fe wnaethom gau 3,465 o ymchwiliadau yn ystod 2024-2025 o’i gymharu â 2,884 yn 2023-2024. Roedd gennym 2,566 o ymchwiliadau gweithredol ar 31 Mawrth 2025 o’i gymharu â 1,778 ar yr un pryd y llynedd.

Yn ystod 2024 i 2025, mewn 73% o’r ymchwiliadau a gynhaliwyd, nid oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach, o’i gymharu â 77% y llynedd. Ar ben hynny, arweiniodd 24% o ymchwiliadau at gamau gweithredu gan y Llys Gwarchod, o’i gymharu â 15% y llynedd. Ar gyfer 3% o’r ymchwiliadau, gwnaethom ddefnyddio dulliau eraill yn lle gwneud ceisiadau i’r llys. Roedd y rhain yn cynnwys gofyn i atwrneiod ddarparu cyfrif diwygiedig mewn ychydig fisoedd i ddangos sut maent yn glynu wrth y cod ymarfer.

Gwelliannau i’r gwasanaeth

Llwyth achosion ymchwiliadau

Rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion ar leihau llwyth achosion ymchwiliadau ac rydym wedi cymryd camau i adolygu ein prosesau, gan ganiatáu i ni nodi a gwneud gwelliannau i wasanaethau a chynyddu ein cynhyrchiant i gefnogi’r galw. Rydym yn gweithredu arferion gorau rheoli adnoddau i ailddyrannu gweithgareddau, a drafodwyd yn flaenorol yn ystod y cam ymchwilio, i’r tîm gweinyddol. Mae ailddosbarthu tasgau fel hyn yn cynyddu gallu ymchwilwyr ac yn gwella effeithlonrwydd.

Ar ben hynny, rydym yn defnyddio data i ragweld y galw am ymchwiliadau dros y pum mlynedd nesaf. Bydd hyn yn ein helpu i reoli’r galw yn y dyfodol ac adfer ôl-groniadau.

Peidio â thalu ffioedd gofal

Rydym wedi gwneud newidiadau i pryd a sut y gweithredir ar ymchwiliadau i fethu â thalu ffioedd cartrefi gofal. Yn hytrach na dechrau ymchwiliad llawn, mae ein dull gweithredu nawr yn annog yr atwrnai i ddatrys y mater yn y lle cyntaf, ac yna ymchwiliad os bydd yr atwrnai’n methu â gwneud hyn. Mae’r newid hwn yn arbed amser a chostau cysylltiedig ac yn sicrhau datrysiad cyflymach i P, gan ddatrys y pryder diogelu a gwarchod eu preswyliad yn y cartref gofal yn gyflymach nag ymchwilio.

Newidiadau diogelu

Rydym wedi cyflwyno newidiadau i asesu cymhlethdod pryderon diogelu a ddaw i mewn ac wedi rhoi prosesau newydd ar waith i ddelio â llif gwaith, ar sail lefel a chymhlethdod gofynnol yr ymchwiliad. Mae hyn yn golygu bod modd datrys pryderon diogelu llai cymhleth yn gyflymach, gan ryddhau adnoddau ar gyfer achosion mwy cymhleth.

Newidiadau polisi

Yn dibynnu ar anghenion yr ymchwiliad, rydym wedi cyflwyno polisi a chanllawiau gweithredol i benderfynu pryd mae angen ymweliad. Mae hyn wedi arwain at welliannau o ran bwrw ymlaen ag ymchwiliadau drwy ddefnyddio ymwelwyr Cyffredinol ac Arbennig a thrwy wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch y math o ymweliad i’w gomisiynu.

Ein ffocws ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf fydd lleihau ein llwyth achosion ymchwiliadau i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r targed 70 diwrnod ar gyfer canlyniad ymchwiliad. Byddwn yn cwblhau adolygiad cynhwysfawr o’r broses ymchwilio a fydd yn ein galluogi i benderfynu ar y ffyrdd gorau o wneud gwelliannau effeithlon. Ar ben hynny, byddwn yn parhau i recriwtio’n barhaus i gefnogi’r galw ar y gwasanaeth.

Enghraifft o achos lle’r oedd angen i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gymryd camau cyfreithiol

Codwyd pryderon ynghylch atwrnai. Honnwyd bod y rhoddwr mewn gofal preswyl a bod yr atwrnai wedi symud i mewn i eiddo’r rhoddwr, gan hawlio mai ei eiddo ef oedd hwn bellach ac yn defnyddio arian y rhoddwr i’w adnewyddu.

Roedd ymchwiliad gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynnwys ymweliad â’r rhoddwr gan ymwelydd Llys Gwarchod i gadarnhau ei alluedd meddyliol, yn gyfredol ac yn flaenorol. Cadarnhaodd yr ymweliad nad oedd gan y rhoddwr allu meddyliol mwyach i reoli ei faterion ei hun, ac na fyddai’r rhoddwr wedi gallu cytuno i naill ai bod yr atwrnai yn byw yn yr eiddo nac i dalu am unrhyw waith adnewyddu. Felly, amddifadwyd y rhoddwr o unrhyw incwm rhent posibl o’r eiddo a allai fod wedi mynd tuag at dalu am ei anghenion gofal parhaus.

Gweithiodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gydag asiantaethau eraill i gadarnhau bod yr eiddo’n dal wedi’i gofrestru yn enw’r rhoddwr. Roedd atwrnai arall nad oedd wedi cymryd camau priodol i ddiogelu’r rhoddwr. Felly, nid oedd y naill atwrnai na’r llall yn gweithredu er lles gorau’r rhoddwr. Gwahoddwyd yr atwrneiod i fynd i’r afael â’r materion hyn ond dewisasant beidio â gwneud hynny.

O ganlyniad, gwnaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gais i’r Llys Gwarchod i dynnu’r ddau atwrnai o atwrneiaeth arhosol y rhoddwr. Byddai hyn yn caniatáu i ddirprwy gael ei benodi gan y llys i atal camreoli pellach, gan ddiogelu’r rhoddwr a’i asedau.

Enghraifft o achos lle nad oedd angen cymryd camau pellach

Codwyd pryderon gan un o atwrneiod y rhoddwr mewn perthynas â cham-drin ariannol honedig yn ymwneud ag arian ac eiddo’r rhoddwr gan yr atwrnai cofrestredig arall. Lansiwyd ymchwiliad a oedd yn cynnwys cyfathrebu ag atwrneiod cofrestredig y rhoddwr a chynnal ymweliad â’r rhoddwr i asesu ei alluedd meddyliol mewn perthynas â rheoli ei eiddo a’i faterion ariannol ei hun.

O’r ymweliad, cadarnhawyd bod y rhoddwr wedi colli’r gallu i reoli ei eiddo a’i faterion ariannol. Datgelodd dadansoddiad ariannol rai trafodion a oedd yn peri pryder, nad oedd yn ymddangos eu bod wedi cael eu gwneud er lles gorau’r rhoddwr. Cysylltodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus â’r atwrnai a oedd wedi gwneud y trafodiadau hyn ynghylch hyn ac yna dychwelyd yr arian hwn i’r rhoddwr. Rhoddwyd cyngor ac arweiniad i’r atwrnai ar gadw cyfrifon ariannol a beth oedd y gwariant a ganiatawyd mewn perthynas â rhoi rhoddion o gyllid a threuliau’r rhoddwr, gan mai’r rhain oedd achos y trafodion a oedd yn peri pryder.

Ar sail yr wybodaeth a gafwyd drwy gydol yr ymchwiliad, ysgrifennwyd adroddiad, a daeth yr ymchwiliad i’r casgliad nad oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach. Roedd yr ymchwiliad wedi dangos drwy dystiolaeth nad oedd unrhyw gamweddau bwriadol wedi digwydd, a bod yr atwrnai wedi dychwelyd yr arian dan sylw.

Darparodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ragor o arweiniad i helpu’r atwrneiod i reoli materion y rhoddwr er eu lles gorau yn y dyfodol.

Ymweliadau

Rydym yn gweithio gyda’n hymwelwyr o’r Llys Gwarchod i ymweld â chleientiaid, rhoddwyr, atwrneiod a dirprwyon. Pan fo angen, bydd ymwelydd meddygol arbenigol yn ymweld.

Mae ymweliadau’n caniatáu i ni wneud y canlynol:

  • gwneud yn siŵr bod pobl yn deall ac yn cyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol

  • gwneud yn siŵr bod y rheiny sydd angen cymorth yn ei dderbyn

  • gofyn am wybodaeth fel rhan o ymchwiliadau

Yn ystod 2024-2025, comisiynodd ein tîm ymweliadau 12,388 o ymweliadau o’i gymharu ag 12,603 yn 2023-2024. Gwnaethom hefyd gynnal dwy ymgyrch recriwtio ymwelwyr y Llys Gwarchod a arweiniodd at benodi 21 o ymwelwyr cyffredinol newydd i’r Llys Gwarchod a 18 o ymwelwyr arbennig newydd.

Yn 2024-2025 fe wnaethom y canlynol:

  • dyrannu 92% o gomisiynau ymweliadau safonol o fewn pum diwrnod gwaith

  • dyrannu 96% o gomisiynau ymweliadau brys o fewn dau ddiwrnod gwaith

  • prosesu 99% o’r holl adroddiadau ymweliadau a gwblhawyd o fewn pum diwrnod gwaith

Cyfreithiol

Mae ein tîm Cyfreithiol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cyfreithiol arbenigol i gefnogi’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gyflawni ei swyddogaethau statudol. Mae’r tîm yn rheoli nifer fawr o achosion ymgyfreitha sy’n cael eu dwyn i’r Llys Gwarchod ar yr un pryd â delio ag unrhyw ymgyfreitha sy’n cael ei ddwyn yn erbyn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Ar ben hynny, mae’r tîm yn rhoi cyngor ac arweiniad cyfreithiol i’r sefydliad ar gyfer cyflawni busnes fel arfer a mentrau strategol.

Buom yn ymgyfreitha ar ran y Gwarcheidwad Cyhoeddus drwy gydol y flwyddyn, gyda’r rhan fwyaf o’r ymgyfreitha’n ymwneud â’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel y ceisydd. Mae’r ceisiadau hyn fel arfer yn gofyn am ddiswyddo atwrneiod neu ddirprwyon ar y sail nad ydynt yn gweithredu yn unol â’u cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Yn ystod 2024 i 2025, fe wnaethom ffeilio 509 o geisiadau goruchwylio ac ymchwilio yn y Llys Gwarchod o’i gymharu â 577 yn ystod 2023 i 2024.

Fe wnaethom hefyd ymgyfreitha i ddatrys ansicrwydd ynghylch effeithiolrwydd cyfreithiol rhai Atwrneiaethau Arhosol drwy geisio penderfyniad ar gyfreithlondeb darpariaethau penodol (cyfarwyddiadau a dewisiadau mewn Atwrneiaethau Arhosol) a dileu’r adrannau anghyfreithlon.

Mae’r cam hwn yn sicrhau bod buddiannau a bwriadau gorau’r rhoddwr yn cael eu diogelu. Yn ystod 2024 i 2025 cyflwynodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 1,220 o geisiadau i’r Llys Gwarchod i geisio datrysiad yn yr amgylchiadau hyn, o’i gymharu â 1,387 o geisiadau yn ystod 2023 i 2024.

Mae gennym darged o 35 diwrnod gwaith ar gyfartaledd ar gyfer yr holl geisiadau Llys a ffeiliwn. Mesurir hyn o’r adeg y derbynnir yn ffurfiol bod achos yn galw am achos Llys i gyhoeddi’r cais wedyn yn y Llys Gwarchod. Eleni, fe wnaethom gyhoeddi achosion llys mewn 46 diwrnod ar gyfartaledd, i fyny o 44 diwrnod gwaith yn 2023 i 2024. Gan nad ydym wedi gallu gwella yn erbyn y targed hwnnw na’i gyrraedd eleni, mae’r tîm Cyfreithiol yn gwerthuso opsiynau i wella perfformiad i’n helpu i gyrraedd ein targed 35 diwrnod.

Mae gweithgarwch pwysig eleni wedi cynnwys cefnogi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gydag agweddau cyfreithiol y prosiect Moderneiddio Atwrneiaethau Arhosol. Mae hyn yn sicrhau bod deddfwriaeth ddrafft, dyluniad gwasanaethau a safbwyntiau polisi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cyd-fynd â’n rhwymedigaethau cyfreithiol. Mae tîm Cyfreithiol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd yn parhau i gefnogi’r tîm Polisi gydag amrywiaeth eang o gyngor, gan gynnwys adroddiadau ymwelwyr arbennig, canllawiau allanol darparwyr tystysgrifau, ceisiadau gwahanu, ffioedd ar farwolaeth P, a ffioedd goruchwylio heb eu talu.

Gwelliannau i’r gwasanaeth

System rheoli achosion cyfreithiol newydd (LCMS)

Y llynedd, rhoesom system rheoli achosion cyfreithiol newydd ar waith, a gynlluniwyd i gynyddu ein galluoedd digidol a bodloni ein gofynion ar gyfer rheoli pob achos yn ddigidol a disodli’r holl hen brosesau. Dyma’r flwyddyn lawn gyntaf gyda’n LCMS ar waith ar gyfer y tîm. Mae ymdrechion wedi canolbwyntio ar gyflwyno’r system a dechrau cyflawni’r manteision disgwyliedig. Mae hyn wedi cynnwys rheoli achosion yn ddiogel o un gronfa ddata, disodli prosesau â llaw a darparu’r gallu i gynhyrchu adroddiadau rheoli gwell. Rydym yn parhau i archwilio swyddogaethau LCMS i fanteisio ar welliannau mwy ac rydym yn bwrw ymlaen â chamau gweithredu a nodwyd mewn archwiliad diweddar gan Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth (GIAA) a roddodd y sgôr ail uchaf i’r system, sef cymedrol.

Adolygu ein prosesau

Yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, byddwn yn cynnal Adolygiad Dyrannu Achosion a fydd yn ystyried sut gall y tîm Cyfreithiol reoli gwahanol achosion mewn gwahanol ffyrdd yn hytrach na’r unig lwybr presennol o gyhoeddi pob cais i’r Llys cyn gynted â phosibl. Mae yna gyfleoedd cadarnhaol i weithio’n agosach gyda phartïon perthnasol i archwilio ffyrdd eraill o gyflawni’r un canlyniad heb fynd yn syth i’r Llys ym mhob achos. Byddwn wedyn yn ceisio treialu hyn drwy gydol y 12 mis nesaf.

Byddwn hefyd yn ceisio cynyddu cyflwyno ceisiadau Llys yn electronig. Bydd hyn yn fwy cost-effeithiol ac yn fwy effeithiol o ran amser, yn ogystal â bod yn fwy diogel ac yn fwy cyson â nodau digidol ehangach ein sefydliad.

Byddwn yn asesu’r angen am ganllawiau LPA manylach ar gyfarwyddiadau a dewisiadau a ychwanegwyd gan y rhoddwr mewn LPAs. Y nod yw sicrhau bod ein canllawiau i’r cyhoedd yn lleihau’r angen i geisiadau gael eu gwneud i’r Llys i ddileu darpariaethau penodol mewn rhai Atwrneiaethau Arhosol, fel bod bwriadau rhoddwyr yn cael eu cadw cyn belled ag y bo modd.

Sicrhau Gwybodaeth

Mae ein tîm Sicrhau Gwybodaeth (IA) yn gweithio’n agos gyda’n tîm cyfreithiol i sicrhau bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydymffurfio â gofynion diogelu data statudol. Mae’r tîm IA yn gweithio gydag Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth (SIRO) Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a chydweithwyr Diogelu Data a Datgelu y Weinyddiaeth Gyfiawnder i reoli risg yn dilyn prosesau cymeradwy ac mewn cyfarfodydd traws-sefydliadol.

Rydym yn delio â phob cais Rhyddid Gwybodaeth (FOI) ar ran y Gwarcheidwad Cyhoeddus. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, fe wnaethom ymateb i 68, o’i gymharu â 77 yn ystod 2023 i 2024. Mae ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn gofyn am ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith, ac mae gennym darged o 90% ar gyfer cydymffurfio. Eleni, rydym wedi ymateb i 96% o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth o fewn 20 diwrnod gwaith, o’i gymharu ag 86% yn ystod 2023-2024.

Ar ben hynny, rydym yn delio â phob Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun ar ran y Gwarcheidwad Cyhoeddus. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, fe wnaethom ymateb i 96, o’i gymharu â 119 yn ystod 2023 i 2024. Mae SARs yn gofyn am ymateb o fewn un mis calendr, ac mae gennym darged o 90% ar gyfer cydymffurfio. Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ein cyfradd ymateb yn erbyn y cyfnod statudol hwn oedd 97%, sydd heb newid ers 2023 i 2024.

Rydym hefyd yn delio â cheisiadau am wybodaeth anstatudol Busnes fel Arfer (BAU) sy’n dod i law Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, geisiadau am wybodaeth a wneir gan yr heddlu, awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau’r GIG, ASau a’u swyddfeydd a’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, fe wnaethom reoli 3,066 o geisiadau busnes fel arfer o’i gymharu â 2,997 yn ystod 2023-2024.

Mae rheoli achosion o dorri rheolau gwybodaeth yn parhau i fod yn swyddogaeth bwysig i’r tîm, gan ddefnyddio proses well ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn prosesu llawer iawn o ddata personol, gyda’r potensial i’r data hwnnw gael ei anfon at y derbynnydd anghywir mewn camgymeriad. Mae rhywfaint o’r data personol hwn yn sensitif (gwybodaeth iechyd ac ariannol) ac yn cael mwy o effaith os caiff ei ddatgelu’n amhriodol.

Roedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gyfrifol am 2,281 achos o golli gwybodaeth a/neu dorri diogelwch gwybodaeth, ac ystyriwyd bod un ohonynt yn ‘niweidiol iawn’. Ni ystyriwyd bod unrhyw achos o golli gwybodaeth yn ddigon difrifol i gyfiawnhau camau gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i hysbysu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Er mwyn sicrhau ein bod yn cymryd camau i leihau’r achosion o golli gwybodaeth, mae’r tîm yn parhau i weithio ar draws y sefydliad i ddarparu hyfforddiant, addysg ac ymwybyddiaeth i staff ynghylch diogelu data a diogelwch gwybodaeth.

Gwelliannau i’r gwasanaeth

Cefnogi trawsnewid

Mae’r tîm wedi cefnogi datblygiad y gwasanaeth Moderneiddio Atwrneiaethau Arhosol newydd dros y 12 mis diwethaf i sicrhau, pan gaiff ei lansio, y bydd y gwasanaeth newydd yn cydymffurfio â gofynion diogelu data. Yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, byddwn yn parhau i adeiladu ar ein cyflawniadau o archwiliad 2024 a gynhaliwyd gan Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth. Bydd y tîm yn cymryd perchnogaeth ar y cynllun gweithredu sy’n deillio o’r archwiliad hwn, gyda sefydlu’r rhaglen archwilio rheoli cofnodion ar draws y sefydliad yn flaenoriaeth ganolog.

Cyswllt â chwsmeriaid

Yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rydym am i’r gwasanaeth a gaiff ein cwsmeriaid fod yn gefnogol, yn effeithlon ac yn gadarnhaol. Y Ganolfan Gyswllt yw’r ffordd fwyaf poblogaidd o gysylltu â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae ein cynghorwyr ffôn yn ateb amrywiaeth o ymholiadau am y gwasanaethau y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn eu darparu, o gymorth i gwblhau dogfennau i bryderon diogelu, ac rydym yn sicrhau yr ymatebir yn briodol i bob galwad.

Yn 2024 i 2025, rydym wedi cymryd camau breision ymlaen o ran gwella lefel y gwasanaeth i gwsmeriaid sydd angen cysylltu â ni drwy ein canolfan gyswllt. Rydym wedi cynyddu cyfran y galwadau sy’n cael eu hateb mewn llai na 5 munud i 57% o’i gymharu â 31% yn 2023 i 2024, ac ers mis Tachwedd 2024 mae’r amser aros cyfartalog ar gyfer galwadau i’n cwsmeriaid wedi bod yn is na 5 munud.

Mae gohebiaeth e-bost ein canolfan gyswllt hefyd yn ymateb i bob e-bost o fewn 5 diwrnod gwaith neu lai.

Gwelliannau i’r gwasanaeth

Rydym wedi adeiladu ar fanteision cynlluniau a gyflwynwyd y llynedd, a oedd yn cynnwys agor canolfan gyswllt newydd yn Birmingham, ymestyn oriau gweithredu ein llinell ffôn, a chyflwyno llinell ffôn newydd i gwsmeriaid sy’n talu gyda cherdyn.

Rydym wedi parhau i gynyddu recriwtio a darparu mwy o hyfforddiant a chefnogaeth i’r holl staff. Rydym hefyd wedi darparu amrywiaeth o adnoddau digidol fel cwestiynau cyffredin, blogiau a chanllawiau fideo i alluogi cwsmeriaid i ddod o hyd i’r atebion maen nhw’n chwilio amdanyn nhw ar-lein. Mae ein hymchwil cwsmeriaid yn ein galluogi i nodi’r Cwestiynau Cyffredin y mae ein cwsmeriaid yn eu hystyried yn fwyaf a lleiaf defnyddiol ac rydym yn defnyddio eu hadborth i wneud newidiadau pellach.

Llwyfan canolfan cyswllt cwsmeriaid newydd

Ym mis Mawrth 2025, fe wnaethom gyflwyno llwyfan ffôn newydd i’r rhan fwyaf o’n timau sy’n delio â chwsmeriaid. Mae hyn wedi ein galluogi i ddarparu gwell gwasanaeth i’n cwsmeriaid drwy wella ein gallu i gyfarwyddo, rheoli ac adrodd ar ein cyswllt â chwsmeriaid. Mae’r llwyfan newydd yn cynnig swyddogaethau newydd, gan gynnwys opsiwn i gwsmeriaid ofyn am alwad yn ôl ac mae’n cynnwys mesurau diogelwch gwell ar gyfer taliadau diogel. Yn bwysig, mae’r llwyfan newydd yn llawer mwy sefydlog, sy’n golygu ei bod yn llawer llai tebygol y bydd galwadau’n methu. Rydyn ni’n gwybod bod hyn wedi bod yn bryder i gwsmeriaid o’r blaen, ac rydyn ni wedi rhannu hynny.

Ochr yn ochr â hyn, rydym wedi cyflwyno gwelliannau i brofiad y cwsmer. Mae’r rhain yn cynnwys gwella llwybrau galwadau ein canolfan gyswllt er mwyn i gwsmeriaid allu cysylltu â’r tîm cywir yn gyflymach a chyflwyno newidiadau i’n llinellau ffôn i flaenoriaethu ein cwsmeriaid mwyaf agored i niwed a sicrhau ein bod yn ateb eu galwadau o fewn 3 munud.

Rydym yn falch o fod wedi rhoi llwyfan newydd ar waith a fydd yn gwella profiad y cwsmer ac yn darparu gwell swyddogaethau i’n staff, gyda gwell gwybodaeth reoli am sut mae ein gwasanaeth yn gweithio. Yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, byddwn yn parhau i gasglu adborth gan gwsmeriaid drwy arolygon ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i wella ein gwasanaeth ymhellach. Byddwn hefyd yn symud ymlaen i fanteisio i’r eithaf ar y llwyfan newydd, gan gynnwys rhagweld y galw’n fwy cywir a’r adnoddau sydd eu hangen i ddiwallu hynny.

Gwella’r arweiniad i gwsmeriaid

Mae’r tîm polisi wedi datblygu a chyhoeddi gwell deunyddiau canllaw allanol ar gyfer ein defnyddwyr, gan gynnwys ar wasanaethau Defnyddio Atwrneiaeth Arhosol a Gweld Atwrneiaeth Arhosol, sut y dylai atwrneiod a dirprwyon weithredu mewn perthynas â rhoi rhoddion, a sut i ofyn am chwiliad yng nghofrestrau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Ymgysylltu â Rhanddeiliaid

Rydym wedi cryfhau ein tîm Ymgysylltu â Rhanddeiliaid drwy gynyddu adnoddau ac ehangu ei gwmpas i wella ein gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae’r ymgysylltu hwn yn meithrin ymddiriedaeth a hyder yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan helpu rhanddeiliaid i ddeall ein rôl o ran cofrestru atwrneiaethau arhosol a’n galluogi i ddefnyddio adborth i wella ein gwasanaethau.

Eleni, fe wnaethom gynnal 59 o gyfarfodydd gyda rhanddeiliaid allweddol sy’n cynrychioli sefydliadau ar draws y sectorau cyfreithiol, cyllid, elusennol ac iechyd a gofal cymdeithasol ac roeddent yn cynnwys rheoleiddwyr, rhwydweithiau a chyrff aelodaeth. Fe wnaethom gyflwyno mewn 23 o gynadleddau a digwyddiadau i dynnu sylw at bwysigrwydd atwrneiaethau arhosol, gwella dealltwriaeth o ddirprwyaethau ac amlinellu ein gwelliannau i wasanaethau a’n cynlluniau moderneiddio. Mewn un digwyddiad, fe wnaethom gyrraedd 664 o weithwyr yn y sector iechyd. Mae ein gwerthusiad o effeithiolrwydd y digwyddiadau allgymorth hyn wedi dangos cynnydd sylweddol yng ngwybodaeth gyfartalog y rhai sy’n bresennol. Mae effeithiolrwydd ein digwyddiadau allgymorth yn cael ei werthuso’n barhaus.

Yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, byddwn yn parhau i wella gwelededd cyfleoedd i’n rhanddeiliaid ymgysylltu â ni a chynnal perthnasoedd o ansawdd gyda rhanddeiliaid presennol. Bydd hyn yn cynnwys chwilio am gyfleoedd i gryfhau cysylltiadau â sectorau allweddol er mwyn gwella’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig yn y pen draw.

Cwynion

Mae cwynion cwsmeriaid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael eu rheoli drwy broses gwyno haenog. Y maes busnes perthnasol ar haen 1 sy’n ystyried cwynion cychwynnol ac yn ymateb iddynt. Os yw cwsmer yn anfodlon â’r ymateb mae’n ei gael, gellir uwchgyfeirio’r gŵyn i’r tîm haen 2. Ar haen 2, bydd y Gwarcheidwad Cyhoeddus yn adolygu’r gŵyn, a’r ffordd y caiff ei thrin, neu bydd aelod o’r uwch dîm arwain yn gwneud ar ei rhan.

Mae gohebiaeth a gawn gan seneddwyr hefyd yn cael ei thrin gan ein tîm Haen 2. Yn gyffredinol, cawsom 3,926 o gwynion eleni, cynnydd o 3,889 yn 2023 i 2024. Derbyniwyd 87 darn o ohebiaeth gan seneddwyr eleni, gostyngiad o 225 yn 2023 i 2024.

Os bydd y cwsmer yn parhau i fod yn anfodlon ar ôl ein hymateb haen 2, gall ofyn i’w AS gyfeirio ei gŵyn at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (PHSO) er mwyn cynnal adolygiad annibynnol. Yn ystod ei adolygiad, gall y PHSO wedyn wneud ymholiadau pellach gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, cyn penderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad ffurfiol. Derbyniodd y PHSO un achos i ymchwilio iddo yn ystod 2024 i 2025. Fe wnaethom helpu gyda’r ymchwiliad, a ddaeth i ben ym mis Hydref 2024 gyda’r gŵyn yn cael ei chadarnhau’n rhannol. Rhoddwyd yr argymhellion a gawsom yn dilyn y canlyniad hwn ar waith a rhoddwyd cadarnhad o hynny i’r PHSO. Yn 2023 i 2024, derbyniwyd un achos i’r Ombwdsmon ymchwilio iddo - dychwelwyd penderfyniad i ni yn yr un flwyddyn ac ni chafodd y gŵyn ei chadarnhau.

Mae cyflymder ein hymatebion i gwynion wedi gwella’n sylweddol eleni. Yn erbyn targed o ymateb i 90% o gwynion o fewn 10 diwrnod gwaith, yn ystod y flwyddyn fe wnaethom ymateb i 90% o gwynion o fewn yr amser hwn. Mae hyn yn welliant sylweddol o 69% yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.

Gwelliannau i’r gwasanaeth

Ar ôl rhoi ein cynllun gweithredu ar gwynion ar waith, a ddatblygwyd gennym y llynedd mewn ymateb i’r Safonau Cwynion Trawslywodraethol diweddaraf, fe wnaethom nodi meysydd ffocws ac rydym wedi cymryd nifer o gamau i wella ein prosesau delio â chwynion.

Hyfforddiant

Rydym wedi darparu hyfforddiant pellach i’n staff cwynion, gan gynnwys darparu mynediad at hyfforddiant cwynion ardystiedig DPP drwy’r PHSO.

Fforwm cwynion trawslywodraethol

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cymryd rhan mewn fforwm cwynion trawslywodraethol i rannu gwersi ac arferion gorau ag adrannau eraill y llywodraeth.

Yn y flwyddyn ariannol nesaf, byddwn yn parhau i gyflwyno safonau cwynion PHSO gan sicrhau bod yr holl staff sy’n delio â chwynion yn cwblhau hyfforddiant delio â chwynion ar-lein PHSO erbyn 2025 i 2026. Bydd hyn yn sicrhau cysondeb ar draws ein timau cwynion ac yn gwella’r ffordd rydym yn ymateb i gwynion. Byddwn hefyd yn rhoi hyfforddiant ar waith ar draws timau er mwyn cynyddu ein gwytnwch i ymateb yn ystod cyfnodau prysur. Bydd adnewyddu ein tudalen cwynion ar GOV.UK yn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth gywir am sut mae cwyno.

Enghraifft o gŵyn

Roedd cwsmer yn anfodlon â’r gwasanaeth yr oedd wedi’i gael gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wrth wneud cais am ei atwrneiaeth arhosol ar gyfer eiddo a materion ariannol (PFA). Roedd yr atwrneiaeth arhosol yn cynnwys gwall y dylid bod wedi’i nodi yn ystod ein gwiriadau prosesu, gan wneud y ddogfen yn annilys. Dylid bod wedi cysylltu â’r cwsmer bryd hynny ac wedi rhoi cyfle iddo gwblhau atwrneiaeth arhosol newydd am ffi is, pe derbynnid hi o fewn tri mis.

Dim ond pan dderbyniodd y cwsmer ei gopi o’r offeryn cofrestredig (anghywir) y canfuwyd y gwall. Cysylltodd â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ofyn sut y gellid ei diwygio. Dywedwyd wrthynt fod eu LPA yn annilys, a bod angen un newydd gyda’r ffi lawn yn ddyledus.

Ysgrifennodd y cwsmer atom i fynegi anfodlonrwydd ynghylch hyn. Buom yn ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd a daeth yn amlwg bod y gwasanaeth wedi methu â chyrraedd ein safon ddisgwyliedig yn yr achos hwn. Fe wnaethom ysgrifennu at y cwsmer i fynd i’r afael â’n camgymeriadau a chadarnhau ei fod wedi cael gwybod yn anghywir bod angen talu’r ffi gofrestru yn llawn.

I gydnabod yr oedi a’r anghyfleustra roeddem wedi’u hachosi, roeddem wedi anrhydeddu’r ffi ostyngol ar gyfer yr atwrneiaeth arhosol newydd, fel y dylai fod wedi digwydd pe bai’r atwrneiaeth arhosol wedi cael ei chydnabod fel un amherffaith wrth brosesu. Roeddem hefyd wedi darparu cymorth gyda’r geiriad gofynnol ar gyfer y weithred ddiddymu (DoR) angenrheidiol i ganslo’r atwrneiaeth arhosol a gofrestrwyd yn anghywir. Rhoddwyd pwynt cyswllt uniongyrchol i’r cwsmer anfon yr holl ddogfennau ato, er mwyn i bob un gael ei wirio’n drylwyr a’i roi ar lwybr carlam drwy ein system.

Rhannwyd adborth ar yr achos hwn gyda rheolwyr tîm perthnasol, i sicrhau bod gwersi gwerthfawr yn cael eu dysgu a’u rhannu, gyda’r nod o wella profiad y cwsmer wrth symud ymlaen.

Derbyniodd OPG 3,926
o gwynion yn 2024 i 2025 o’i gymharu â 3,889
o gwynion yn 2023 i 2024
Cyfran y cwynion yr ymatebwyd iddynt o fewn 10 diwrnod gwaith 90%

Targed: 90%

Y ddau faes lle cafwyd y nifer fwyaf o gwynion oedd:

3,013
Gwasanaethau atwrneiaeth
171
Gwasanaethau dirprwyaeth

Roedd y tair prif gŵyn am wasanaethau atwrneiaeth ynghylch:

  • oedi

  • penderfyniadau ynghylch atwrneiaeth

  • dogfennau ar goll

Roedd y tair prif gŵyn am wasanaethau dirprwyaeth ynghylch:

  • y dirprwy

  • ffioedd

  • cyswllt â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Ein Pobl

Rydym am wneud Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn lle gwych i weithio. Mae ein pobl yn ganolog i ddarparu ein gwasanaethau, cefnogi ein cwsmeriaid, a pharatoi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer ein dyfodol. Mae ein Haddewid i Bobl yn nodi ein hymrwymiad i’n staff ac mae’n cynnwys pum thema ar draws y profiad mae ein pobl yn ei gael:

  • Perthyn

  • Teimlo’n dda

  • Datblygu ein hunain

  • Arweinwyr gwych ar bob lefel

  • Addas ar gyfer y dyfodol

Cyflawnwyd y mentrau isod i’n galluogi i gyflawni ein hymrwymiad i’n Haddewid i Bobl.

Cynllun Pobl Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Bob blwyddyn, rydym yn llunio ac yn cyflawni cynllun gweithredu sy’n nodi ein hymrwymiadau i’n pobl. Wedi’i greu o adborth gan staff, roedd cynllun 2024 i 2025 yn canolbwyntio ar gamau gweithredu sy’n ymwneud ag arweinyddiaeth a newid, dysgu a datblygu a chynhwysiant, gan gynnwys ffocws ar fynd i’r afael â Bwlio, Aflonyddu a Gwahaniaethu (BHD).

Cefnogi trawsnewid

Mae sicrhau bod ein pobl yn barod i gyflawni trawsnewid a newid ehangach yn bwysig iawn i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae rhan hanfodol o hyn yn ymwneud ag ymgysylltu i ddod â staff ar y daith newid, a fydd yn ei dro yn cefnogi gweithredu llwyddiannus ac yn manteisio i’r eithaf ar fuddion trawsnewid.

Rydym wedi darparu diweddariadau rheolaidd ar ein prif brosiectau drwy’r holl alwadau gan staff ac adrannau, gyda chyfleoedd i herio a gofyn cwestiynau. Rydym hefyd wedi darparu hyfforddiant newid i dros 1,000 o aelodau o staff, wedi gwreiddio llwyfan hyfforddi a mentora’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac wedi cwblhau ailasesiad parodrwydd ar gyfer bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu.

Elevate

Y llynedd hefyd, datblygwyd a chyflwynwyd rhaglen Elevate yr OPG, sydd wedi’i hanelu at fynd i’r afael â rhwystrau camu ymlaen mewn gyrfa a brofir gan staff ag anableddau a’r rhai o grwpiau lleiafrifoedd ethnig. Gan adeiladu ar lwyddiant y garfan gyntaf ym mis Ionawr 2024, lansio ail garfan ym mis Hydref 2024. Gyda chysgodi swyddi drwy brofiad, cylchoedd mentora a dyddiaduron myfyriol yn rhan o’r rhaglen, mae adborth gan gyfranogwyr wedi bod yn rhagorol. Mae mwy o hyder a theimlo mwy o gysylltiad â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cael ei adrodd ymysg y rhai ar y rhaglen.

Arolwg Pobl

Roedd gan Arolwg Pobl 2024 gyfradd ymateb o 74% (1,446 o ymatebion). Roedd hyn 2% yn llai na’r 76% a gyflawnwyd yn 2023 (1,341 o ymatebion) ac mae’n adlewyrchu cynnydd o 10% yn y cyfrif pennau. Yn gyffredinol, roedd sgôr ymgysylltu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn 64%, yr un fath ag yr adroddwyd yn 2023. Fe wnaethom nodi mai’r tair prif flaenoriaeth o ganlyniadau ein Harolwg Pobl oedd arweinyddiaeth a newid, mynd i’r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu, a dysgu a datblygu. Fe wnaethom gynnal sesiynau ‘Eich Barn’ gyda’n staff i gael adborth ar y ffordd orau o wella eu profiad o Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan dderbyn adborth gan 116 o dimau. Mae’r canlyniadau a’r adborth wedi cael eu defnyddio i greu ein Cynllun Pobl 2025 i 2026, a fydd unwaith eto’n canolbwyntio ar arweinyddiaeth a newid, a chynhwysiant, gan ganolbwyntio ar fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu.

Mae cynnydd wedi cael ei wneud mewn perthynas â dysgu a datblygu drwy gyflawni ein hymrwymiadau gallu a gyrfa a byddwn yn parhau i ddatblygu a hyrwyddo ein cynnig drwy weithgarwch busnes fel arfer.

Mynd i’r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu

Rydyn ni eisiau i bawb yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus deimlo eu bod yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi, a’u bod yn perthyn yno. Nid yw unrhyw fwlio, aflonyddu na gwahaniaethu yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dderbyniol.

Sgôr cynhwysiant a thriniaeth deg: Profiad o fwlio ac aflonyddu: Wedi profi gwahaniaethu:
2024 78% 9% 9%
2023 77% 10% 10%

Rydym wedi cyflwyno cynllun gweithredu cynhwysfawr i leihau bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sydd wedi cael ei gefnogi gan Brifysgol Loughborough. Fe wnaethom sicrhau gostyngiad o 1%, o 10% yn 2023, yn nifer y staff sy’n adrodd am fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn yr Arolwg Pobl eleni. Mae mynd i’r afael â hyn yn dal yn flaenoriaeth uchel i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac rydym wedi cymryd camau eleni i greu’r amgylchedd amrywiol, cynhwysol a chroesawgar y mae ein pobl yn ei haeddu. Mae hyn yn cynnwys sefydlu fforwm ymchwilio i BHD a chynyddu nifer yr ymchwilwyr BHD a darparu hyfforddiant arbenigol gan gynnwys ‘datrys anghydfodau yn y gweithle’, ‘gweithle parchus’ a hyfforddiant gwrthdaro yn y gweithle. Rydym wedi gweithio’n agos gyda Phrifysgol Loughborough i sicrhau bod ein camau gweithredu’n fesuradwy ac y byddant yn sicrhau gwelliannau. Cafodd ail asesiad parodrwydd i newid BHD ei gynnal ym mis Tachwedd 2024 a oedd yn tynnu sylw at welliannau cadarnhaol o ran pa mor barod yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i roi newid ar waith mewn perthynas â BHD.

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rydym yn ymdrechu i greu a chynnal sefydliad sy’n agored, yn gynhwysol ac sy’n wirioneddol gwerthfawrogi ac yn dathlu amrywiaeth ein gweithlu.

Mae ein data yn dangos bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn sefydliad amrywiol. Gan adlewyrchu’r dinasoedd amrywiol y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’i lleoli ynddynt, mae 51.8% yn dod o gefndiroedd ethnig leiafrifol, mae 57.1% yn fenywod, mae gan 22.7% anabledd, ac mae 6.1% yn ystyried eu hunain yn LHDT.

Yn ogystal â’n rhwydweithiau staff amrywiol sy’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, mae gennym rwydwaith ymroddedig o 40 o swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl a chynghreiriaid yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, sy’n parhau i ddarparu cymorth i weithwyr sy’n profi salwch meddwl yn y gwaith.

Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethom godi ymwybyddiaeth o nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys drwy’r diwrnod cenedlaethol ar gyfer pobl ag anableddau, Mis Hanes Pobl Dduon, Wythnos Genedlaethol y Gofalwyr, Diwrnod Amser i Siarad am iechyd meddwl, ac Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant. Fe wnaethom gyflwyno canllawiau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ‘Ffynnu yn y gwaith’ sy’n dwyn ynghyd yr holl ganllawiau a gwybodaeth gyfredol am addasiadau i’r gweithle i’n helpu i ddeall pwysigrwydd addasiadau da i’r gweithle a sut gallwn ni gefnogi ein timau a’n cydweithwyr i ffynnu yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Un o’r llwyddiannau mawr oedd ennill ailachrediad fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn elwa o fentrau symudedd cymdeithasol ehangach yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n ceisio denu, recriwtio a datblygu poblogaeth amrywiol o staff talentog o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus uwch hyrwyddwr symudedd cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth a chefnogi’r gwaith o chwalu’r rhwystrau sy’n wynebu pobl o gefndir economaidd-gymdeithasol is a sbarduno’r cynnydd mewn cyfraddau datgan staff am gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac unrhyw gyfrifoldebau gofalu er mwyn i ni allu deall ein gweithlu’n well.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i gymryd rhan yn y cynllun interniaeth Cefnogi Pobl Ifanc sy’n Gadael Gofal a’r Academi Gwaith Seiliedig ar Sector wrth recriwtio staff i gefnogi unigolion y mae eu hamgylchiadau a’u cyfleoedd bywyd blaenorol yn ei gwneud yn anodd iddynt gystadlu am benodiadau.

Gweithlu

Fe wnaethom gynnal 130 o ymgyrchoedd recriwtio yn ystod 2024 i 2025, sy’n gyflawniad sylweddol a oedd yn cynnwys cydweithio ar draws adrannau a chefnogi timau gweithredol i leihau gwaith sydd ar y gweill a chyflawni yn unol â’r targed. Yn ogystal, 43 diwrnod oedd ein hamser cyfartalog ar gyfer recriwtio o’i gymharu â tharged o 52 diwrnod. Mae’r ffigurau isod yn dangos nifer y staff newydd a recriwtiwyd gennym, a’r nifer a adawodd.

  Recriwtiaid newydd Gadawyr
Gweision sifil - gweithwyr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 153 (146.7 Cyfwerth ag Amser Llawn) 158 (142.4 Cyfwerth ag Amser Llawn)
Gweithwyr asiantaeth 90 (86.2 cyfwerth ag amser llawn) 98 (94.9 cyfwerth ag amser llawn)

Gan gynnwys Gweision Sifil a gweithwyr asiantaeth, roedd ein gweithlu yn 2,026 ym mis Ebrill 2024, gyda chyfrif pennau o 2,051 ym mis Ebrill 2025. Ar ddiwedd mis Mawrth 2025, mae cyfanswm cyfradd trosiant Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi gostwng i 8.5%, o 10.2% ym mis Mawrth 2024.

Dysgu a datblygu

Mae cefnogi dysgu a datblygu ein staff yn ganolog i thema Addewid i Bobl Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, sef ‘datblygu ein hunain’. Mae’r holl recriwtiaid newydd yn cael hyfforddiant cynefino, ac rydym wedi cymryd camau fel darparu sesiynau dysgu a datblygu byr i wella hygyrchedd hyfforddiant.

Darpariaeth Dysgu a Datblygu cynhwysfawr

Mae ein darpariaeth yn cynnwys ein hymrwymiad gyrfa ac Academi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ein hyb dysgu ar-lein. Rydym hefyd yn darparu mentora a hyfforddiant ac yn darparu rhaglenni hyfforddiant i reolwyr llinell a hyfforddiant newid i gynyddu gallu a hyder rheolwyr. Roedd canlyniadau Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2024 yn dangos cynnydd o 5% mewn gweithgareddau datblygu sy’n cefnogi ein pobl i wella eu perfformiad.

Arweinyddiaeth

Rydym wedi canolbwyntio ar gryfhau gallu ein harweinwyr drwy ddarparu gweithgareddau Dysgu a Datblygu gan gynnwys mis datblygu arweinyddiaeth penodol, a modiwlau’r Rhaglen Datblygu Rheolwyr.

Cynyddodd y sgoriau ar gyfer dysgu a datblygu 2% yn gyffredinol yn Arolwg Pobl 2024. Drwy ddigwyddiadau chwarterol i uwch arweinwyr, galwadau rheolaidd i’r holl staff a digwyddiadau ar lefel cyfarwyddiaeth, rydym yn sicrhau bod ein pobl yn gallu gofyn cwestiynau a chael yr wybodaeth ddiweddaraf gan uwch arweinwyr. Rydym wedi sicrhau cynnydd o 2% mewn sgoriau Arweinyddiaeth a Rheoli Newid yn yr Arolwg Pobl, ers 2019 rydym wedi gweld newid cadarnhaol mewn diwylliant, gyda chynnydd o 5% yn y sgoriau.

Ymrwymiad Galluedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Fe wnaethom weithredu ein Hymrwymiad Galluogrwydd i sicrhau bod ein pobl yn gallu cael gafael ar y dysgu sydd ei angen arnynt i lwyddo yn eu rolau presennol neu i ddatblygu eu hunain a ffynnu mewn rolau yn y dyfodol. Yn ystod y flwyddyn fe wnaethom:

  • ddarparu 317 o sesiynau dysgu

  • hyfforddi 3,720 o gynrychiolwyr, ac o’r cynrychiolwyr a roddodd adborth, dywedodd 93% fod y ddarpariaeth yn dda neu’n rhagorol

  • sefydlu 287 o ddechreuwyr newydd

  • derbyn 17,381 o ymweliadau â’r dudalen ar gyfer Academi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Yn y flwyddyn ariannol nesaf, byddwn yn sbarduno ein llwyddiant drwy ein pobl drwy barhau i wella eu sgiliau, sicrhau gweithle diogel ac effeithlon, a meithrin diwylliant sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth a chynhwysiant. Byddwn yn canolbwyntio ar barhau i fynd i’r afael â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu, gan ddefnyddio’r adborth o’r Arolwg Pobl ac o’n hasesiad parodrwydd ar gyfer bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu i adeiladu ar ein cynnydd yn y maes hwn. Byddwn yn parhau i gryfhau ein sefyllfa mewn perthynas â gallu i arwain a sut rydym yn cyflawni newid, gan barhau i gyflwyno dysgu newid a sicrhau bod rheolwyr presennol a rheolwyr y dyfodol yn gallu cael gafael ar y dysgu y mae angen iddynt ei ddatblygu.

Perfformiad ariannol

Rhagweld galw ac incwm

Rydym wedi parhau i weithio gyda chydweithwyr cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â’n rhagolygon galw ac incwm ac roedd y gwaith hwn yn hanfodol wrth ddatblygu’r cynllun adfer ar gyfer yr ôl-groniad o geisiadau atwrneiaethau arhosol. O ran adennill costau yn 2024 i 2025 cyflawnwyd 104.3%, o’i gymharu â 106.9% y llynedd. Mae hyn o fewn y goddefiant o 5%.

Perfformiad ariannol

Mae’r adran hon yn cynnwys sylwadau i gefnogi’r datganiadau ariannol a’n perfformiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r datganiadau ariannol wedi’u nodi ar dudalennau 90-119. Mae Nodyn 2 i’r Datganiadau Ariannol ar dudalen 104 yn nodi’r Ffioedd a’r Taliadau ar gyfer yr incwm isod, ac mae Nodyn 3 yn cynnwys mwy o fanylion ynghylch y gwariant ar draws OPG. Isod ceir uchafbwyntiau

perfformiad ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn 2024 i 2025.

Adennill costau 104.3% I lawr o 106.9%
Incwm atwrneiaeth
Gwell perfformiad wrth gofrestru atwrneiaethau a chlirio ôl-groniadau
£114.6 miliwn cynnydd (10%)
Incwm goruchwylio
Oherwydd cynnydd yn y baich achosion goruchwylio
£1.6 miliwn cynnydd (2%)
Costau staff
Cynnydd oherwydd recriwtio staff parhaol a staff asiantaeth ychwanegol i reoli’r galw a gweithredu dyfarniadau cyflog
£77.9 miliwn cynnydd (11%)
Adroddiadau gan ymwelwyr proffesiynol
Ffioedd uwch ar gyfer ymweliadau a chynnydd yn nifer yr ymweliadau gorchmynion llys
£2.8 miliwn cynnydd (20%)
Postio
Cynnydd oherwydd cynnydd yn nifer y ceisiadau am atwrneiaethau a dderbyniwyd ac a gofrestrwyd, a hefyd prisiau’n codi’n uwch na chwyddiant
£9.3 miliwn cynnydd (23%)

Adroddiad cynaliadwyedd

Rydym wedi ymrwymo i leihau ein heffaith ar y byd naturiol. I wneud hyn, rydym yn mesur ein heffaith ar yr amgylchedd ac yn gweithio i leihau ein defnydd o adnoddau cyfyngedig, allyriadau nwyon tŷ gwydr a theithio diangen.

Rydym wedi ystyried yn ofalus ganllawiau Trysorlys EF ar gymhwyso argymhellion y Tasglu ar Ddatgelu Ariannol sy’n gysylltiedig â’r Hinsawdd (TCFD). Mae’n ofynnol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddilyn y canllawiau hyn drwy fodloni’r meini prawf ar gyfer cyflogi mwy na 500 o staff cyfwerth ag amser llawn ar draws cyfnod adrodd 2024 i 2025. Mae Atodiad B y canllawiau yn datgan, “Bydd endidau adrodd yn darparu Datganiad Cydymffurfio TCFD a’r datgeliadau a argymhellir ar gyfer: Llywodraethiant; Rheoli Risg; Metrigau a Thargedau”. Dylid ystyried y paragraff hwn fel ein Datganiad Cydymffurfio, ac isod rydym wedi amlinellu sut rydym yn cydymffurfio â’r datgeliadau a argymhellir.

Yn unol â gweithredu datgeliadau’n raddol, fel yr amlinellir yn Atodiad B y canllawiau, o 2025 i 2026 ymlaen, byddwn hefyd yn ymateb mewn perthynas datgeliadau a argymhellir ynghylch Strategaeth.

Llywodraethiant

Fel y nodir yn y canllawiau, y datgeliadau a argymhellir yw:

a) disgrifio sut mae’r bwrdd yn goruchwylio risgiau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd

b) disgrifio rôl y rheolwyr o ran asesu a rheoli risgiau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd

Ystyrir effaith ein prosiectau portffolio ar gynaliadwyedd a’r amgylchedd wrth ddatblygu achosion busnes, sy’n destun craffu gan y Bwrdd Portffolio a Newid. Ystyrir cynaliadwyedd hefyd wrth flaenoriaethu prosiectau o fewn y portffolio. Gweinyddir adolygiadau gateway ffurfiol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac maent yn ystyried cynaliadwyedd, er nad oedd angen adolygiadau o’r fath yn ystod 2024-2025.

Metrigau a Thargedau

Dyma’r datgeliadau a argymhellir:

a) datgelu’r metrigau a ddefnyddir gan y sefydliad i asesu risgiau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd yn unol â’i strategaeth a’i broses rheoli risg

b) datgelu allyriadau nwyon tŷ gwydr Cwmpas 1, Cwmpas 2, ac, os yw’n briodol, allyriadau nwyon tŷ gwydr Cwmpas 3, a’r risgiau cysylltiedig

c) disgrifio targedau’r sefydliad i reoli risgiau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd a pherfformiad yn erbyn targedau

Rydym yn adrodd ar y cyfleustodau a ddefnyddiwyd, teithiau a wneir a’r gwastraff a gynhyrchir. Mesurir y rhain yn erbyn blynyddoedd blaenorol ac ar y cyd â thargedau Ymrwymiadau Gwyrdd y Llywodraeth sy’n nodi’r camau y bydd adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth yn eu cymryd i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Diwygiwyd y rhain yn 2021 ac maent yn berthnasol tan 2025.

Mae ein data yn cael ei gymryd yn uniongyrchol o fesuryddion cyfleustodau, cyflenwyr a chontractwyr gwaredu gwastraff.

Os ydym yn rhannu adeiladau a chyflenwad cyfleustodau, rydym yn seilio ein ffigurau defnydd ar y gofod a ddefnyddir.

Nid oes gennym gerbydau fflyd, ac mae milltiroedd cerbydau personol a ddefnyddir ar gyfer teithiau busnes yn cael eu nodi yn yr hawliadau am dreuliau.

Dim ond ar ddefnydd swyddfa gefn o bapur y mae’n rhaid i ni adrodd arno.

Fodd bynnag, rydym yn defnyddio llawer iawn o bapur wrth ddarparu pecynnau atwrneiaeth arhosol i gwsmeriaid, felly er mwyn bod yn dryloyw rydym yn adrodd ar y rhain hefyd.

Yn 2020, cyflwynwyd trefniadau argraffu oddi ar y safle a phostio uniongyrchol, sydd wedi disodli rhan fawr o’r gwaith argraffu yn y swyddfa.

Mae’r ffigurau ar gyfer y gwasanaeth hwn wedi’u cynnwys yn yr adroddiadau ar ddefnydd papur.

Caiff ein data ei grynhoi hefyd yn adroddiad blynyddol a chyfrifon adrannau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Mae gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder hefyd Strategaeth Addasu Newid yn yr Hinsawdd sy’n gosod fframwaith i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gyd-fynd ag ef.

Rheoli Risg

Dyma’r datgeliadau a argymhellir:

a) disgrifio prosesau’r sefydliad ar gyfer nodi ac asesu risgiau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd

b) disgrifio prosesau’r sefydliad ar gyfer rheoli risgiau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd

c) disgrifio sut mae prosesau ar gyfer nodi, asesu a rheoli risgiau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd wedi’u hintegreiddio i drefniadau rheoli risg cyffredinol y sefydliad

Ar hyn o bryd, nid oes gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus broses benodol ar waith ar gyfer nodi, asesu a rheoli risgiau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd. Fodd bynnag, o fewn ein dull rheoli risg cyffredinol, gofynnir i berchnogion risg ystyried pob achos posibl a allai effeithio ar debygolrwydd neu effaith risg a byddai hyn yn cynnwys unrhyw ffactorau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd.

Codwyd risg sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd mewn gweithdy Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar risg a chytunwyd bod

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o’r farn bod ei hamlygiad i a’i bregusrwydd ynghylch materion hinsawdd a risg yn isel. Fodd bynnag, yr ydym wedi ymrwymo i wella’r modd yr ydym yn rheoli risg sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd. Bydd asesiad perthnasedd llawn yn cael ei gynnal yn 2025 i 2026, gan ganolbwyntio’n benodol ar effaith bosibl newid yn yr hinsawdd ar ystâd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, cyflenwyr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (yn enwedig ein cyflenwyr papur), ac iechyd a diogelwch staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Gwybodaeth am ein hystadau

Mae prif swyddfeydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn Birmingham a Nottingham. Mae ffigurau ar gyfer y flwyddyn 2017 i 2018 wedi gosod y llinell sylfaen flaenorol y mae blynyddoedd y dyfodol wedi cael eu mesur yn fewnol yn ei herbyn. Ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2021 i 2022, symudodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ei swyddfeydd yn Birmingham i safle llai gan ddefnyddio model gweithio hybrid. Yn 2024, meddiannwyd llawr arall yn ein hadeilad yn Birmingham. Rhaid i gymariaethau â blynyddoedd blaenorol ystyried hyn, a bydd newidiadau mewn perfformiad adeiladau yn y dyfodol yn defnyddio llinell sylfaen o flwyddyn ariannol 2024 i 2025.

Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus nifer fach o staff sy’n gweithio o adeiladau eraill y Weinyddiaeth Gyfiawnder nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn gan fod ffigurau ar gyfer y safleoedd hyn yn cael eu hadrodd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Ein targedau

Mae targedau Ymrwymiadau Gwyrdd y Llywodraeth a’n perfformiad yn erbyn y rhain i’w gweld yn y tablau isod.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, nid yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cyrraedd y targed papur oherwydd y cynnydd parhaus yn y llwyth gwaith a nifer y staff ers y blynyddoedd llinell sylfaen.

Trafodir y meysydd hyn yn fanwl isod.

Mae moderneiddio atwrneiaethau arhosol a’r defnydd cynyddol o arloesi digidol yn cynnig cyfleoedd i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wella perfformiad yn erbyn ein targedau cynaliadwyedd.

Roedd allyriadau carbon deuocsid ar y trywydd iawn i fodloni Ymrwymiadau Gwyrdd y Llywodraeth tan 2022, pan fu cynnydd mewn allyriadau unwaith eto.

Caiff hyn ei drafod hyn isod.

Wrth gymharu’r tablau isod â’r blynyddoedd blaenorol, dylid ystyried newidiadau i’r blynyddoedd llinell sylfaen.

Ymrwymiadau
Gwyrddu’r Llywodraeth
Targed y Weinyddiaeth Gyfiawnder hyd at 2025 Ein Sefyllfa
31 Mawrth 2025
Canlyniad    
Allyriadau nwyon Tŷ Gwydr 41% gostyngiad ers 2017 i 2018 23% gostyngiad o 23% mewn allyriadau uniongyrchol ers 2017 to 2018 Heb Ddigwydd    
  23% o ostyngiad mewn allyriadau uniongyrchol 223% o gynnydd Heb ddigwydd    
Hediadau domestig Lleihau teithiau hedfan domestig 30% o’i gymharu â 2017 i 2018 Adroddwyd am naw Heb Ddigwydd    
Gwastraff Cyfanswm 15% o ran lleihau gwastraff yn erbyn 2017 i 2018 69% cynnydd Heb Ddigwydd    
  llai na 5% o wastraff i safleoedd tirlenwi 0% Wedi digwydd    
  Ailgylchu 70% o’n gwastraff blynyddol, a rhagori ar lefelau ailgylchu 2017 i 2018 70% Wedi digwydd    
Dŵr 8% o ostyngiad yn ein defnydd o ddŵr o’i gymharu â lefelau 2017 i 2018 gostyngiad o 29% Wedi digwydd    
Papur 50% o ostyngiad yn ein defnydd o bapur o’i gymharu â lefelau 2017 i 2018 93% o gynnydd Heb ddigwydd    

Isod, dangosir ffigurau cyfanswm defnydd ac allyriadau, ynghyd â gwariant, os yw’r wybodaeth ar gael

2023 i 2024 2024 i 2025
CO2e ffynonellau Symiau Tunelli
CO2e
Gwariant Symiau Tunelli
CO2e
Gwariant  
Nwy
(cwmpas 1)
2,295,240
kWh
413.1 Anhysbys, fel rhan o dâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau 2,062,500
kWh
371 Anhysbys, fel rhan o dâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau  
Trydan
(cwmpas 2)
734,827
kWh
138.9 Anhysbys, fel rhan o dâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau 777,500
kWh
149 Anhysbys, fel rhan o dâl gwasanaeth ar gyfer adeiladau  
Teithio
(cwmpas 3)

Rheilffordd (gan gynnwys y London Underground)
295,740 km 10.5 £113,247 484,100
km
17.2 £127,000  
Fflyd llwyd (ceir) 49,726
km
8.4 £22,590 48,743
km
7.9 £21,000  
Hedfan 0 hediad Amh Amh 4,974 km 0.74 £712  
    2023 i 2024   2024 i 2025      
Adnoddau Cyfyngedig Symiau   Gwariant Symiau   Gwariant  
Gwastraff Cyfanswm 85 tunnell Anhysbys fel rhan o’r tâl gwasanaeth ar gyfer yr adeilad Cyfanswm 124 tunnell Anhysbys fel rhan o’r tâl gwasanaeth ar gyfer yr adeilad  
  Ailgylchwyd 72 tunnell (85%) Anhysbys fel rhan o’r tâl gwasanaeth ar gyfer yr adeilad Ailgylchwyd 87 tunnell
(70%)
Anhysbys fel rhan o’r tâl gwasanaeth ar gyfer yr adeilad  
  Ynni o wastraff 13 tunnell (15%) Anhysbys fel rhan o’r tâl gwasanaeth ar gyfer yr adeilad Ynni o wastraff 37 tunnell (30%) Anhysbys fel rhan o’r tâl gwasanaeth ar gyfer yr adeilad  
Dŵr 5,266 m3   Anhysbys fel rhan o’r tâl gwasanaeth ar gyfer yr adeilad 5,477 m3   Anhysbys fel rhan o’r tâl gwasanaeth ar gyfer yr adeilad  
Papur 15,025 rîm (swyddfa gefn)   £5.9 miliwn 15,545 rîm (swyddfa gefn)   £5.7 miliwn  
  53,750 rîm wedi’u hallanoli   £5.9 miliwn 50,512 rîm wedi’u hallanoli   £5.7 miliwn  
  8,470 rîm fel pecynnau LPA   £5.9 miliwn 10,895 rîm fel pecynnau LPA   £5.7 miliwn  

Gwastraff

Mae gennym gontractau gwaredu gwastraff ‘dim i safleoedd tirlenwi’ ar gyfer ein swyddfeydd yn Birmingham a Nottingham. Cafodd ein gwastraff yn ystod 2024 i 2025 naill ai ei ailgylchu neu ei ailddefnyddio drwy ei droi’n olew tanwydd ac ailgylchwyd 100% o’n gwastraff papur a chardfwrdd mewn dolen gaeedig, sy’n golygu bod ein cyflenwyr wedi ei ailbrosesu’n gynnyrch newydd o bapur.

Yn 2024 i 2025, cynyddodd y gwastraff cyffredinol a gynhyrchwyd yn y ddwy swyddfa 53% o’i gymharu â 2023 i 2024, yn bennaf oherwydd cynnydd yn nifer y bobl mewn swyddfeydd a chynnydd yn y llwyth gwaith, gydag achosion newydd ac ôl-groniadau’n cael eu clirio. Daw swm sylweddol o’r gwastraff papur o becynnau Atwrneiaeth Arhosol a dogfennau diangen a dderbynnir gan ymgeiswyr. Mae hyn i gyd yn cael ei ailgylchu.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn Nottingham yn gwahanu ffrydiau gwastraff yn llawn i wydr, cerdyn a phapur, ailgylchu cymysg sych, a bwyd a deunyddiau nad oes modd eu hailgylchu. Gan fod ein safle yn Birmingham yn adeilad sy’n eiddo i berchennog, nid oedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gallu gweithredu ffrydiau gwastraff cwbl ar wahân ar y safle – mae gwastraff yn cael ei wahanu yn y cyfleuster ailgylchu ac adfer.

Rhwng 2025 a 2026, byddwn yn rhoi casgliadau gwastraff bwyd ar waith yn y ddwy swyddfa yng nghanolbarth Lloegr ac yn sefydlu ffrydiau gwastraff ar wahân yn Nhŷ Sgwâr Victoria gan fod y Landlord yn darparu ffrydiau gwastraff ar wahân o fis Ebrill 2025 ymlaen.

Gall ymgeiswyr ofyn am becyn atwrneiaeth arhosol gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae’r rhain yn cael eu hanfon mewn bagiau post bioddiraddadwy wedi’u gwneud o wastraff câns siwgr i leihau’r defnydd o betrocemegion ac atal gwastraff nad yw’n pydru rhag mynd i safleoedd tirlenwi.

Dŵr

Pennwyd y targedau blaenorol ar gyfer defnyddio dŵr ar sail ‘cyfwerth ag amser llawn’. Mae’r targedau newydd ar gyfer gostyngiad absoliwt. Ers blwyddyn llinell sylfaen 2017 i 2018, mae defnydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o ddŵr wedi gostwng 29% i 5,477 metr ciwbig, sydd ychydig yn uwch na’r llynedd oherwydd cynnydd yn y nifer sy’n defnyddio swyddfeydd yn Nhŷ Sgwâr Victoria.

Defnyddio papur

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi methu’r targed o ostwng y defnydd o bapur swyddfa gefn o 50%, oherwydd y twf yn y galw am ein gwasanaethau. Bu cynnydd o 93% yn y defnydd o bapur o’i gymharu â llinell sylfaen 2017-2018. Bu gostyngiad o 4% yn y defnydd o bapur o un flwyddyn i’r llall. Mae faint o bapur sy’n cael ei ddefnyddio fesul achos wedi aros yr un fath â 2023 i 2024, sef 24 dalen i bob LPA, a’n huchelgais yw lleihau hyn.

Gwelwyd cynnydd pellach (28%) yn nifer y pecynnau atwrneiaeth arhosol a anfonwyd yn uniongyrchol at ymgeiswyr eleni, er na chynyddodd nifer cyffredinol yr atwrneiaethau arhosol.

Teithio

Yn gyffredinol, mae ein teithio wedi cynyddu 23% rhwng 2023 a 2024, ond mae’n dal yn 44% o’r flwyddyn sylfaen. Cofnodwyd naw taith awyren ddomestig eleni a oedd yn allyrru 736kg o garbon deuocsid. Ni chofnodwyd unrhyw hediadau rhyngwladol. Gan nad oedd unrhyw hediadau wedi’u cofnodi yn 2017 i 2018, mae hyn yn golygu nad yw’r targed yn cael ei gyrraedd ond mae’n amhosibl lleihau nifer yr hediadau o dan y llinell sylfaen.

Rydym yn gweithio’n agos gyda chynghorau lleol a gweithredwyr trafnidiaeth i alluogi staff i fanteisio ar docynnau bws am bris is yn ogystal â chyfleusterau parcio a theithio. Mae’r cynllun beicio i’r gwaith yn cael ei hyrwyddo’n helaeth ac mae cyfleusterau newid a storfa ddiogel i feiciau’n cael eu darparu. Mae opsiynau teithio llesol hefyd yn cael eu hyrwyddo fel rhan o agenda lles Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus er mwyn annog ymarfer corff a ffyrdd iach o fyw.

Cyfleustodau eraill

Er gwaethaf cynnydd mewn gofod swyddfa a phresenoldeb staff, roedd y defnydd o drydan wedi aros yn gyson i bob pwrpas yn ystod 2024 i 2025, o’i gymharu â 2023 i 2024, gyda chynnydd o dim ond 7%. Yn erbyn y flwyddyn llinell sylfaen 2017-2018, mae allyriadau trydan wedi gostwng o 32%.

Fodd bynnag, bu cynnydd o 231% yn y defnydd o nwy ar gyfer gwresogi yn Birmingham o’i gymharu â 2017-2018. Y rheswm am hyn oedd ein bod wedi recriwtio staff ychwanegol i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o geisiadau am atwrneiaethau arhosol, ac mae staff hefyd yn gweithio goramser ac ar draws nifer o batrymau shifft.

Felly, mae nwy ar gyfer gwresogi a dŵr poeth yn ein swyddfa yn Birmingham yn cael ei redeg am oriau llawer hirach ac yn cael ei ddefnyddio gan fwy o staff. O’i gymharu â 2023 i 2024, bu gostyngiad sylweddol o 10% yn y defnydd o nwy.

Cwblhawyd y gwaith o osod paneli solar yn ein swyddfa yn Nottingham ddechrau 2022, ac fe wnaethant gynhyrchu 57,244kWhr yn ystod 2022 i 2025. Roedd hyn yn 13% o ddefnydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o drydan yn Nottingham (8% o gyfanswm y Swyddfa), gan arbed 11.8 tunnell o allyriadau CO2. Nid yw to ein swyddfa yn Birmingham yn addas ar gyfer gosod paneli solar.

Bioamrywiaeth

Mewn partneriaeth â’r landlord yn ein swyddfa yn Nottingham, mae rhan fawr o laswellt yn cael ei gadael heb ei thorri rhwng mis Ebrill a mis Medi, er mwyn annog blodau gwyllt i dyfu a chefnogi pryfed peillio a phryfed ac adar eraill. Adeiladwyd gwesty pryfed, a gadawyd rhywfaint o bren wedi’i docio yn yr ardaloedd coediog er mwyn i infertebratau gytrefu.

Cynhaliwyd ymchwiliad i addasrwydd gosod cychod gwenyn ar do ein swyddfa yn Birmingham ond penderfynwyd nad oedd hyn yn ymarferol oherwydd lleoliad y swyddfa.

Gwreiddio cynaliadwyedd yn ein dyfodol

Mae targedau newydd yn cael eu llunio ar gyfer y cyfnod ar ôl Ebrill 2025. Byddwn yn gweithio tuag at fodloni’r rhain ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’n landlordiaid a phartneriaid yn Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth i leihau ein defnydd o gyfleustodau a byddwn yn sicrhau bod cynaliadwyedd yn cael ei ystyried ym mhob prosiect perthnasol a gyflawnir gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Ruth Duffin

Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr (Dros Dro)
11 Gorffennaf 2025

Adroddiad llywodraethu corfforaethol

Cyflwyniad

Diben yr adroddiad llywodraethu corfforaethol yw egluro cyfansoddiad a threfniadaeth ein strwythurau llywodraethu a sut maent yn helpu i gyflawni amcanion ein corff.

Mae ein dogfen fframwaith yn nodi’r trefniadau ar gyfer llywodraethu, atebolrwydd, cyllido, staffio a gweithrediadau. Gellir darllen y ddogfen yn llawn ar GOV.UK yn www.gov.uk/government/publications/opg-corporate-framework

Fel Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rwy’n gyfrifol am ddefnydd y Swyddfa o adnoddau wrth gyflawni ei swyddogaethau fel yr amlinellir yn y ddogfen fframwaith. Mae Rheoli Arian Cyhoeddus, a gyhoeddwyd gan Drysorlys ei Mawrhydi, hefyd yn cyflwyno cyfrifoldebau swyddog cyfrifyddu.

Rwy’n gyfrifol yn bersonol am amddiffyn y cronfeydd cyhoeddus yr wyf yn gyfrifol amdanynt, sicrhau priodoldeb a chysondeb wrth ymdrin â chronfeydd cyhoeddus, a gweithrediadau a rheolaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o ddydd i ddydd. Ar ben hynny, mae’n rhaid i mi sicrhau bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gyffredinol yn cael ei rhedeg yn unol â safonau, a hynny mewn perthynas â llywodraethu, gwneud penderfyniadau a rheoli arian.

Mae fy adroddiad yn amlinellu’r trefniadau llywodraethu sydd ar waith i reoli’r risgiau o beidio â chyflawni’r amcanion a’r targedau y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cytuno arnynt. Mae hefyd yn darparu trosolwg a rheolaeth effeithiol dros adnoddau ac asedau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae’n cynnwys:

  • adroddiad y cyfarwyddwr

  • datganiad o gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu

  • datganiad llywodraethu

Adroddiad y Cyfarwyddwyr

Cyflwyniad

Mae strwythurau bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, y pwyllgor archwilio a risg, a’r pwyllgor gweithredol, ar gael isod. Maent yn gyfrifol am osod cyfeiriad strategol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ogystal â monitro perfformiad yn erbyn yr amcanion y cytunwyd arnynt.

Aelodaeth y bwrdd

Rhai o aelodau bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod 2024-2025 oedd:

Cadeirydd

  • Amy Holmes - Cadeirydd tan 5 Ionawr 2025

  • Alison Sansome - Cadeirydd o 6 Ionawr 2025

Aelodau (aelodau anweithredol o’r bwrdd)

  • Greig Early

  • Martyn Burke

  • Karin Woodley - tan 30 Medi 2024

  • Veronika Neyer - o 18 Hydref 2024

Cynrychiolydd cyllid y Weinyddiaeth Gyfiawnder

  • Caroline Patterson tan 7 Mawrth 2025

  • Adrian Hannell o 10 Mawrth 2025

Penodir Aelodau Anweithredol o’r Bwrdd ar ôl cystadleuaeth deg ac agored, ac am gyfnod o dair blynedd. Mae holl aelodau newydd y Bwrdd yn cael sesiwn gynefino a darperir rhagor o gyfleoedd hyfforddi i ddatblygu dealltwriaeth aelodau’r Bwrdd o’r Swyddfa, ein model ffioedd a’n swyddogaethau statudol.

Datganiad o fuddiannau

Mae gofyn i aelodau anweithredol ddatgan unrhyw gyfarwyddiaethau a gwrthdaro rhwng buddiannau adeg eu penodi i’r swydd. Mae gofyn hefyd i bob aelod o’r bwrdd ddatgan unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau cyn dechrau pob cyfarfod. Isod mae’r rhestr lawn o ddatganiadau o fuddiant a gofnodwyd ar gyfer Aelodau Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer 2024 i 2025:

Amy Holmes:

  • Llywodraethwr mewn ysgol uwchradd leol

Alison Sansome:

  • Is-gadeirydd y Bwrdd Safonau Tân

  • Aelod Bwrdd ar gyfer y Swyddfa Cwynion Cyfreithiol

  • Aelod Lleyg o Dribiwnlys Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig

  • Aelod Panel Lleyg ar gyfer Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig

  • Aelod Anghyfreithiol o’r Tribiwnlys Cyflogaeth (Cymru a Lloegr)

  • Aelod o Fwrdd Cynghori’r Cyngor Optegol Cyffredinol

  • Llywodraethwr mewn ysgol gynradd leol

Greig Early:

  • Cyfarwyddwr Alvarez and Marsal

Martyn Burke:

  • Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd Archwilio, Ymddiriedolaeth NHS LLP Iechyd a Gofal Wiltshire

  • Cadeirydd y Bwrdd, Town and Country Housing

  • Cyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd grŵp perchnogaeth Town and Country - Ymddiriedolaeth Peabody

  • Cyfarwyddwr Anweithredol ar is-gwmni Town and Country, Rosebery Housing

  • Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Archwilio a Risg - Cadeirlan St Paul, Llundain

  • Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Safonau, Cyngor Sir Swydd Warwick

Karin Woodley

  • Prif Weithredwr Cambridge House, sy’n darparu gwasanaethau eiriolaeth annibynnol, cyngor arbenigol ar dai a gwasanaethau canolfan gyfraith; mae’r sefydliad yn cael rhywfaint o gyllid gan yr LAA

  • Is-gadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Cymuned Southwark

  • Aelod - Y Sefydliad Siartredig Codi Arian

  • Aelod – Better Way Network

  • Cyfarwyddwr Anweithredol Pwyllgor Lloegr o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

  • Cadeirydd - Sefydliad Cydraddoldeb Hil

Veronika Neyer

  • Zimba Services Limited – Cyfarwyddwr

  • Young Minds – Ymddiriedolwr

  • Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Cymuned Sussex - chyfarwyddwr anweithredol

  • Heddlu Sussex - Cadeirydd y Pwyllgor Moeseg

Caroline Patterson

  • Dim

Adrian Hannell

  • Dim

Digwyddiadau yn ymwneud â data personol

Ystyriwyd a oedd unrhyw ddigwyddiad yn cynnwys data personol mor ddifrifol fel bod angen rhoi gwybod i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth amdano. Ni chafwyd unrhyw ddigwyddiadau o’r fath.

Iechyd a diogelwch

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod ein cyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a lles ein gweithwyr a’r holl bobl sy’n defnyddio ein safleoedd.

Datganiad o gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu

O dan adran (7)2 o Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000, mae Trysorlys EF wedi cyfarwyddo Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i baratoi datganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol ar y ffurf a’r sail a nodwyd yn y Cyfarwyddyd Cyfrifyddu. Caiff y cyfrifon eu paratoi ar sail croniadau ac mae’n rhaid iddynt roi darlun cywir a theg o sefyllfa’r Swyddfa a’i hincwm a’i gwariant, ei datganiad o sefyllfa ariannol a llif arian ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Wrth baratoi’r cyfrifon, mae gofyn i’r Swyddog Cyfrifyddu gydymffurfio â gofynion Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth ac yn benodol:

• glynu wrth y Cyfarwyddyd Cyfrifyddu a gyhoeddir gan Drysorlys EF, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a defnyddio polisïau cyfrifyddu priodol yn gyson

• gwneud penderfyniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol

• datgan a yw’r safonau cyfrifyddu perthnasol sydd wedi’u nodi yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth wedi cael eu dilyn, a datgelu ac esbonio unrhyw wyriadau o bwys yn y datganiadau ariannol

• paratoi’r datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol

• cadarnhau bod yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, a chymryd cyfrifoldeb personol dros yr adroddiad blynyddol a’r cyfrifon a’r dyfarniadau sy’n ofynnol er mwyn penderfynu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy

Mae Prif Swyddog Cyfrifyddu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dynodi’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel Swyddog Cyfrifyddu’r Swyddfa. Mae cyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu, gan gynnwys cyfrifoldeb dros briodoldeb a chysondeb y cyllid cyhoeddus y mae’r swyddog cyfrifyddu yn atebol amdanynt, cadw cofnodion cywir ac amddiffyn asedau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, wedi’u nodi yn Rheoli Arian Cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF. Fel Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rwy’n cadarnhau’r canlynol:

• nid oes unrhyw wybodaeth berthnasol nad yw archwilwyr y Swyddfa’n ymwybodol ohoni, ac rwyf wedi cymryd yr holl gamau y dylwn eu cymryd i sicrhau fy mod yn ymwybodol o wybodaeth archwilio berthnasol a sicrhau bod archwilwyr y Swyddfa’n ymwybodol o’r wybodaeth honno

• mae’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon yn eu cyfanrwydd yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, ac rwy’n cymryd cyfrifoldeb personol dros yr adroddiad a’r cyfrifon blynyddol a’r dyfarniadau sy’n ofynnol er mwyn penderfynu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy

Ruth Duffin
Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr (Dros Dro)
11 Gorffennaf 2025

Datganiad llywodraethu

Mae’r datganiad hwn yn egluro sut mae Swyddog Cyfrifyddu a Gwarcheidwad Cyhoeddus Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cyflawni eu cyfrifoldeb i reoli adnoddau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod 2024 i 2025.

Bu i mi, Ruth Duffin, fel y Swyddog Cyfrifyddu a’r Gwarcheidwad Cyhoeddus presennol ar y dyddiad llofnodi, ymgymryd â’r rôl hon dros dro o 22 Ebrill 2025 ymlaen. Mae Amy Holmes, y Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r Swyddog Cyfrifyddu parhaol drwy gydol 2024 i 2025, wedi rhoi sicrwydd i mi fod ei chyfrifoldebau fel swyddog cyfrifyddu wedi cael eu cyflawni’n briodol drwy gydol y flwyddyn a bod trefniadau llywodraethu wedi bod ar waith drwy gydol y cyfnod fel y disgrifir isod.

Mae’r adroddiad hwn yn cyflawni fy nghyfrifoldeb i ddarparu adroddiad blynyddol i’r Arglwydd Ganghellor am gyflawni swyddogaethau’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn unol ag adran 60 Deddf Galluedd Meddyliol 2005.

Cyflwyniad

Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw Prif Swyddog Cyfrifyddu’r adran. Mae cyfrifoldebau’r swyddog cyfrifyddu wedi’u nodi ym mhennod tri Rheoli Arian Cyhoeddus, a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF. Mae’r Prif Swyddog Cyfrifyddu wedi fy nynodi fel Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer gwariant gweinyddol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ac mae wedi diffinio fy nghyfrifoldebau a’r berthynas rhwng Swyddog Cyfrifyddu a Phrif Swyddog Cyfrifyddu’r Swyddfa.

Deiliad swydd statudol yw’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a benodir gan yr Arglwydd Ganghellor o dan Adran 57 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Cyfunir y swydd â swydd y swyddog cyfrifyddu, ac fel arfer gyda rôl weinyddol y prif swyddog gweithredol.

Rhaid i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sicrhau ei hun bod y prosesau a’r rheolaethau ar gyfer gweithgareddau pob maes busnes yn gadarn ac yn effeithiol ac y gellir dangos tystiolaeth ohonynt. Yn benodol, maent yn monitro materion ariannol a risg a pherfformiad yr asiantaeth yn rheolaidd, gan roi cyfleoedd ar waith i wella gwasanaeth i gwsmeriaid. Gall aelodaeth y bwrdd ddarparu sicrwydd ar gyfer y cyfnod hwn hefyd.

Fframwaith llywodraethu

Mae effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu, rheoli risg a system rheolaeth fewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’u nodi yn y datganiad llywodraethu hwn. Adolygwyd y fframwaith llywodraethu hwn yn ystod y flwyddyn yn erbyn y codau perthnasol, fel ‘Llywodraethu corfforaethol yn adrannau llywodraeth ganolog: cod arferion gorau’, i sicrhau ei fod yn addas i’r diben.

Mae’r datganiad yn cynnwys yr asesiad gofynnol o gydymffurfiad â chod llywodraethu corfforaethol Trysorlys EF. Er bod y cod yn canolbwyntio ar adrannau gweinidogol, pan fo’n berthnasol, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn defnyddio’r egwyddorion y mae’n teimlo sy’n briodol ar gyfer ei faint, ei statws a’i fframwaith cyfreithiol.

Dangosir strwythurau’r bwrdd a’r pwyllgorau fel a ganlyn:

Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus: Darparu arweiniad a chyfeiriad strategol, gan gefnogi’r gwaith o gyflawni’r amcanion sydd yn y cynllun busnes.

Pwyllgor gweithredol: Yn atebol i’r Prif Weithredwr. Sicrhau rheolaeth effeithiol o gyllid, perfformiad, risg, y gweithlu, Adnoddau Dynol, cwynion, cyflenwi busnes, arweinyddiaeth a dathlu llwyddiant.

Y pwyllgor archwilio a sicrwydd risg: Yn rhoi barn annibynnol i’r Prif Weithredwr o ddulliau llywodraethu, rheoli risg a sicrwydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Bwrdd portffolio a newid: Yn adrodd i’r pwyllgor gweithredol a’r bwrdd. Yn gyfrifol am fonitro cynnydd rhaglen trawsnewid a phrosiectau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o fewn ei chylch gwaith, gan adolygu, datrys a gweithredu ar risgiau a materion a allai beryglu cyflawni a gwireddu buddion yn amserol.

Pwyllgor iechyd a diogelwch: Yn cynorthwyo’r Prif Weithredwr â’i chyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a sicrhau bod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn lle diogel ac iach i weithio ynddo.

Pwyllgor polisi a gweithredu: Darparu fforwm gwneud penderfyniadau wedi’i gydlynu ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus mewn perthynas â pholisi, o fewn y lefelau gwneud penderfyniadau y cytunwyd arnynt gan y pwyllgor gweithredol.

Pwyllgor pobl: Cydlynu’r gweithgareddau sy’n ymwneud â phobl i gefnogi rhaglen a phrosiectau trawsnewid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Yr hyn mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ei wneud

Mae bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cefnogi’r pwyllgor gweithredol i ddatblygu a gweithredu amcanion strategol a chynlluniau busnes y Swyddfa. Mae’r bwrdd yn gwneud hyn drwy ddarparu goruchwyliaeth, gwaith craffu a herio perfformiad Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gan oruchwylio gweithrediadau a rheoli risg drwy’r pwyllgor archwilio a sicrhau risg. Mae’r bwrdd hefyd yn gyfrifol am gymeradwyo Fframwaith Llywodraethu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, i sicrhau bod gwaith cynllunio, perfformiad a rheolaeth ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei wneud yn effeithiol, effeithlon, yn agored ac yn dryloyw.

Cadeirydd:

Amy Holmes, Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr (tan 5 Ionawr 2025)

Alison Sansome, Aelod Anweithredol o’r Bwrdd (o 6 Ionawr 2025)

Effeithiolrwydd a phrif lwyddiannau

Yn ogystal â derbyn papurau am gyllid, perfformiad a risg ym mhob cyfarfod, roedd y bwrdd yn gwneud y canlynol:

  • parhau i ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar ddata i wella gwasanaeth i gwsmeriaid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus drwy adolygu gwybodaeth arolygon cwsmeriaid yn rheolaidd

  • parhau i ddarparu’r cyfeiriad strategol ar brif gynlluniau newid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

  • cymeradwyo cynllun gweithredu i ddileu bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn yr asiantaeth

  • wedi ystyried yr holl gamau y gallai Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus eu cymryd i wella perfformiad, gan gynnwys mesurau sydd wedi arwain at glirio’r ôl-groniad o geisiadau am atwrneiaethau arhosol

  • cymeradwyo dangosyddion perfformiad allweddol newydd ar gyfer yr holl brif weithgareddau gweithredol

  • cymeradwyo camau sy’n cael eu cymryd i wella perfformiad y Ganolfan Gyswllt i gwsmeriaid

  • cynnal gweithdai gwerthfawr i drafod gwelliannau i ddull Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o reoli risg ac i baratoi ar gyfer gweithredu Moderneiddio Atwrneiaethau Arhosol

  • cymeradwyo strategaeth Ffioedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Ein his-bwyllgorau a’r pwyllgor cynghori annibynnol

Mae gan y bwrdd ddau is-bwyllgor: y pwyllgor gweithredol a’r pwyllgor portffolio a newid. Mae’r pwyllgor archwilio a sicrwydd risg yn bwyllgor cynghori annibynnol i’r bwrdd.

Y pwyllgor gweithredol

Mae’r pwyllgor hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar gyflawni busnes gweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o ddydd i ddydd, gan gynnwys cyllid, perfformiad, risg, gweithlu, newid a chynllunio, cwynion, Adnoddau Dynol (rheoli presenoldeb a recriwtio), cyflenwi busnes, arweinyddiaeth, ymgysylltu â gweithwyr a dathlu llwyddiannau.

Cadeirydd: Amy Holmes, Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr

Ystyriwyd amrywiaeth o faterion pwysig yn ystod y flwyddyn. Adolygodd y pwyllgor daflwybr y galw, modelu incwm a’r cynllun adfer yn rheolaidd er mwyn gwella’r adferiad costau a ragwelir. O ganlyniad, llwyddwyd i adennill costau’n llawn yn ystod y flwyddyn ariannol hon, cafodd yr ôl-groniad o atwrneiaethau arhosol ei glirio, ac roedd amseroedd clirio atwrneiaethau arhosol yn ôl o fewn y targed.

Mae’r pwyllgor hefyd wedi:

  • cynnal sesiynau ‘archwilio dwfn’ ar gyfer pob risg strategol i asesu pa mor ddigonol yw’r rheolaethau a’r camau gweithredu o ran rheoli a/neu leihau risg, i gyd-fynd â’r archwaeth risg

  • goruchwylio gwaith Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gan gynnwys prosesu mwy o geisiadau am atwrneiaethau arhosol nag mewn unrhyw flwyddyn flaenorol

  • goruchwylio camau i wella gwasanaeth i gwsmeriaid, er enghraifft, buddsoddi yn ein canolfannau cyswllt

  • herio a chytuno ar gyllidebau gwariant blynyddol, yn rhinwedd ei swyddogaeth fel y pwyllgor buddsoddi

  • cymeradwyo polisïau newydd a newidiadau i bolisïau sy’n deillio o Foderneiddio Atwrneiaeth Arhosol

Bwrdd portffolio a newid

Mae’r bwrdd portffolio a newid yn dod â rhanddeiliaid allweddol at ei gilydd o bob rhan o Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’n partneriaid i sicrhau bod y portffolio o raglenni newid yn y Swyddfa’n cael ei gyflawni’n llwyddiannus. Mae gan y pwyllgor hwn hefyd strwythur llywodraethu dirprwyedig oddi tano er mwyn sicrhau bod y portffolio o brosiectau’n cael ei gyflawni. Mae rhagor o fanylion am y prosiectau hyn ar gael yn yr adran Trawsnewid.

Cadeirydd: Amy Holmes, Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr

Ystyriwyd nifer o faterion pwysig yn ystod y flwyddyn. Y pwyllgor:

  • datblygu gwaith ar Foderneiddio Atwrneiaethau Arhosol, gan gynnwys cefnogi gwaith gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau bod Deddf Atwrneiaethau 2023 yn cael ei rhoi ar waith

  • goruchwylio’r gwaith o weithredu platfform Canolfan Gyswllt newydd i wella gwasanaeth i gwsmeriaid

  • gwella’r Dangosfwrdd Portffolio drwy addasu cerrig milltir prosiectau a chynnwys yr effaith ar amser, cost ac ansawdd

  • cynnal adolygiadau sicrwydd o brosiectau portffolio

  • goruchwylio newidiadau i filiau goruchwyliaeth gan arwain at arbedion cost sylweddol.

Y pwyllgor archwilio a sicrwydd risg

Mae’r pwyllgor yn rheoli ac yn rhoi cyngor ar sut gellir hwyluso gwelliannau a monitro’r cynnydd o ran ymatebion rheolwyr i risgiau a nodwyd. Mae’r pwyllgor hefyd yn cymeradwyo gwaith archwiliadau mewnol ac allanol, yn asesu a yw polisïau cyfrifyddu yn gywir ac yn cael eu cymhwyso’n briodol i drafodion Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ac yn darparu argymhellion i’r Swyddog Cyfrifyddu ar bob mater sy’n briodol ym marn y pwyllgor.

Cadeirydd: Martyn Burke, Aelod Anweithredol o’r Bwrdd

Yn ogystal â derbyn adroddiadau atal twyll, diogelwch corfforol a sicrwydd gwybodaeth ym mhob cyfarfod, rhoddodd y bwrdd sicrwydd i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ynghylch rheoli’r fframwaith risg, risgiau penodol, a’u camau lliniaru. Adolygodd y gofrestr risg strategol ym mhob cyfarfod, gan edrych yn fanwl ar risgiau strategol penodol. Cymeradwyodd adroddiad blynyddol a chyfrifon 2023 i 2024, gan ganiatáu iddynt gael eu cyflwyno i’r Senedd fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

Adolygiadau effeithiolrwydd

Cwblhawyd adolygiadau effeithiolrwydd ar gyfer pob pwyllgor yn strwythurau llywodraethu ffurfiol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus eleni. Yn dilyn adolygiad o adborth gan aelodau’r pwyllgorau drwy arolygon wedi’u targedu, rhoddwyd sicrwydd i’r Bwrdd bod y pwyllgorau’n gweithredu’n effeithiol. Adroddodd y Bwrdd ei fod yn cael gwybodaeth briodol a chywir am ddarpariaeth a pherfformiad ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Daeth i’r casgliad ei fod yn cael digon o wybodaeth i wneud penderfyniadau effeithiol ac i roi cyfarwyddyd ac arweiniad i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Lle’r oedd adborth yn nodi gwelliannau posibl, mae camau gweithredu wedi cael eu rhoi ar waith a byddant yn parhau i gael eu datblygu yn ystod 2025. Mae’r Bwrdd wedi cytuno y bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn mabwysiadu dull strategol o ymdrin â’r gwaith hwn, fel bod gwelliannau’n cael eu rhoi ar waith yn gyson ar draws yr holl bwyllgorau, ac yn hyrwyddo gwell dealltwriaeth o lywodraethu yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Cylch gorchwyl

Mae cylch gorchwyl bwrdd a phwyllgorau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cyd-fynd â’r canlynol:

  • ‘Canllawiau ar effeithiolrwydd byrddau’ (2018) a baratowyd gan y Cyngor Adrodd Ariannol

  • ‘Safon llywodraethu da ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus’ (2004) a baratowyd gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth a’r Swyddfa Rheolaeth Gyhoeddus Cyf.

Tabl Presenoldeb Bwrdd / Pwyllgorau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2024 hyd 2025

    Bwrdd yr OPG   Pwyllgor Gweithredol   Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd   Bwrdd Portffolio a Newid
  Nifer y cyfarfodydd a fynychwyd Nifer y cyfarfodydd cymwys Nifer y cyfarfodydd a fynychwyd Nifer y cyfarfodydd cymwys Nifer y cyfarfodydd a fynychwyd Nifer y cyfarfodydd cymwys Nifer y cyfarfodydd a fynychwyd Nifer y cyfarfodydd cymwys
Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr                
Amy Holmes 6 6 10 12 4 4 10 12
Dirprwy Gyfarwyddwr Sicrwydd Cyfreithiol a Gwybodaeth                
Peter Boyce 6 6 12 12 3 4 11 12
Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth a Gwasanaethau Corfforaethol (Rhannu swydd)                
Ruth Duffin 6 6 12 12 3 4 11 12
Emma Sharp (tan Medi 2024) 3 3 3 5 - - 5 5
Amy Shaw (o Hydref 2024) 3 3 6 6 2 2 6 6
Prif Swyddog Gweithredol                
Julie Lindsay 5 6 11 12 - - 11 12
Cyfarwyddwr Cyllid                
Caroline Patterson (tan 7 Mawrth 2025) 3 6 - - 4 4 - -
Adrian Hannell (o 10 Mawrth 2025) 1 1 - - - - - -
Uwch-bartner Busnes Cyllid                
Louisa Harrison 5 6 12 12 4 4 10 12
Aelod Anweithredol o’r Bwrdd, Cadeirydd Bwrdd yr OPG                
Alison Sansome (o 6 Ionawr 2025) 2 2 - - - - - -
Aelod Anweithredol o’r Bwrdd, Cadeirydd Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd yr OPG                
Martyn Burke 6 6 - - 4 4 - -
Aelod Anweithredol o’r Bwrdd                
Greig Early 6 6 - - 4 4 12 12
Karin Woodley (tan 30 Medi 2024) 2 3 - - 2 2 - -
Veronika Neyer (tan 1 Hydref 2024) 3 3 - - 0 2 - -
Aelod Annibynnol o’r OPG ARAC                
Emir Feisal - - - - 2 4 - -

Archwilio mewnol

Un o swyddi’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw sefydlu a chynnal trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau archwilio mewnol gan Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth (GIAA). Mae’r rhain yn cyd-fynd â’r amcanion a’r safonau ar gyfer archwilio mewnol a nodir yn ‘Safonau archwilio mewnol y sector cyhoeddus’ Trysorlys EF. Mae hyn yn golygu bod modd gwerthuso perfformiad rheoli o ran cyflawni trefniadau effeithiol ar gyfer llywodraethu, rheoli risg a rheolaethau mewnol mewn ffordd annibynnol a gwrthrychol.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn derbyn copïau o gynlluniau archwilio mewnol blynyddol ac adroddiad barn derfynol blynyddol y Swyddfa. Bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Swyddfa’r Cabinet yn cael gwybod am unrhyw dwyll neu afreoleidd-dra o fewn y diffiniad a nodir gan Drysorlys EF.

Cynhaliodd GIAA chwe archwiliad ar ran Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystod 2024 i 2025. Gellir graddio aseiniadau archwilio mewnol sydd wedi’u cwblhau naill ai’n sylweddol, yn gymedrol, yn gyfyngedig neu’n anfoddhaol. Diffinnir y sgoriau hyn gan GIAA fel a ganlyn:

  • Sylweddol: Mae’r fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheoli yn ddigonol ac yn effeithiol.

  • Cymedrol: Mae angen rhai gwelliannau i wella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheolaeth, llywodraethu a rheoli risg.

  • Cyfyngedig: Mae gwendidau sylweddol yn y fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheoli fel y gallai fod yn annigonol ac yn aneffeithiol.

  • Anfoddhaol: Mae gwendidau sylfaenol yn y fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheoli fel ei fod yn annigonol ac yn aneffeithiol neu’n debygol o fethu.

Cafodd yr archwiliadau a gynhaliwyd y sgoriau canlynol:

Teitl yr archwiliad Sgôr
Arolwg Pobl 2022 Cymedrol
Diogelwch Gwybodaeth Cymedrol
Datrysiad Rheoli Achosion Cyfreithiol Cymedrol
Cynllunio Gweithlu Strategol Cymedrol
Gwrth-dwyll Cyfyngedig
Ymchwiliadau a chamddefnyddio LPA Cymedrol

Rheoli risg, rheolaeth a sicrwydd

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynnal dull cyson o ran rheoli risg. Defnyddir dulliau rheoli risg i dynnu ein sylw at fygythiadau go iawn neu faterion sy’n dod i’r amlwg ac sy’n debygol o effeithio ar y gallu i gyflawni ein hamcanion.

Mae archwaeth risg Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei siapio gan ddyletswyddau statudol y Gwarcheidwad Cyhoeddus. Rhoddir manylion y prif risgiau a ystyriwyd yn ystod y flwyddyn yn yr adran nesaf.

Mae ein tîm sicrwydd wedi cyflawni gwelliannau mewn meysydd gan gynnwys rheoli risg a chanfod twyll. Er enghraifft, mae rhagor o welliannau wedi cael eu gwneud i’n cofrestr risg strategol, gan gynnwys dull mwy trylwyr o asesu sgoriau tebygolrwydd ac effaith yn unol â chanllawiau arferion gorau gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Yn unol â chynlluniau trawslywodraethol i ddatblygu swyddogaethau gwrth-dwyll, rydym wedi gweithio i wella gallu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ganfod twyll, gyda’r gwaith o gyflawni’n mynd rhagddo’n dda ar gynllun gweithredu y cytunwyd arno gydag Awdurdod Twyll y Sector Cyhoeddus, gan gynnwys lansio dogfennau Strategaeth Gwrth-dwyll a Pholisi ac Ymateb Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Yn ei adroddiad barn derfynol blynyddol ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2024 i 2025, mae’r GIAA wedi rhoi barn flynyddol ‘gymedrol’ i’r Swyddfa. Diffinnir barn gymedrol fel ‘mae angen rhai gwelliannau i wella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheolaeth, llywodraethu a rheoli risg’.

Canfu’r GIAA fod gan y Swyddfa fframwaith rheoli cadarn ar waith yn gyffredinol, sy’n cael ei adlewyrchu yng nghanlyniadau’r archwiliadau fel yr amlinellir yn y tabl uchod. Er mwyn gwella, byddwn yn canolbwyntio ar gadw’r dogfennau polisïau a’r canllawiau diweddaraf, a byddwn yn adeiladu ymhellach ar y gwaith sylweddol sydd eisoes wedi’i wneud i roi profiad cyson i gwsmeriaid.

Risgiau allweddol

Yn ystod 2024 i 2025, cytunodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fod ein risgiau strategol presennol yn dal yn briodol i’w cynnwys ar y gofrestr risg gorfforaethol. Mae swyddogion gweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn craffu ar y gofrestr, sy’n cynnal ymchwiliad manwl bob mis i risg benodol, er mwyn herio perchnogion risg o ran rheoli rheolaethau ac asesu unrhyw oblygiadau ehangach sy’n gysylltiedig â’r risg. Mae’r pwyllgor archwilio a sicrwydd risg yn darparu her bellach bob chwarter sy’n cynnwys adolygiad llawn o’r sefyllfa risg bresennol.

Nid yw’r prif risgiau sydd wedi cael eu rheoli eleni yn newydd ac maent yn cynnwys y canlynol:

Risg: Methiant i ddarparu’r lefel gwasanaeth disgwyliedig i gwsmeriaid a phartneriaid sy’n derbyn gwasanaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hyd at a thrwy gydol lansiad Moderneiddio gwasanaethau atwrneiaeth arhosol

Parodrwydd i dderbyn risg:

Pwyllog

Effeithiau allweddol:

Cynnydd mewn cwynion gan gwsmeriaid.

Cynnydd mewn traffig canolfan alwadau.

Cwsmeriaid anfoddhaol.

Gwneud cwsmeriaid yn fwy agored i niwed.

Cyhoeddusrwydd anffafriol.

Mwy o graffu gan weinidogion a’r cyhoedd.

Lliniaru risg:

Recriwtio staff gweithredol ychwanegol, gan gynnwys ymchwilwyr newydd.

Rhagolygon o ran y galw.

Monitro Perfformiad.

Cynlluniau adfer ar ôl trychineb.

Canolbwyntio ar gyfathrebu â chwsmeriaid.

Effaith y mesurau lliniaru

Mae’r ôl-groniad o atwrneiaethau arhosol wedi’i adfer yn llawn ac yn ôl ar darged ers mis Tachwedd 2024.

Mae cwsmeriaid yn gwybod yn well beth i’w ddisgwyl wrth wneud cais i gofrestru atwrneiaeth arhosol.

Gellir hysbysu’r gwaith o gynllunio gweithlu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus drwy ragolygon.

Risg: Methiant i sicrhau sefydlogrwydd ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn y dyfodol

Parodrwydd i dderbyn risg

Minimal

Effeithiau allweddol

Llai o allu i ddelio ag amrywiadau tymhorol.

Angen mwy o adnoddau.

Llai o staff ar gael.

Rhagolygon rhy optimistaidd (gwario mwy na’r gwariant a ragwelwyd).

Gorwario/ adennill annigonol.

Llai o incwm.

Lliniaru risg

Proses flynyddol o bennu cyllideb.

Cyfarfodydd galw chwarterol.

Cymeradwyo rhagolygon incwm.

Cyfarfodydd her cyllid ddwywaith y flwyddyn.

Amserlen i edrych yn fanwl ar wybodaeth ariannol.

Cofrestr risgiau a chyfleoedd cyllid.

Gweithgarwch casglu dyledion effeithiol.

Rheolaethau recriwtio.

Cynllun gweithlu strategol.

Effaith y mesurau lliniaru

Llwyddwyd i adennill 104.3% o gostau yn 2024 i 2025.

Risg: Anallu i drawsnewid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn effeithiol i sicrhau ein bod yn cyflawni ein blaenoriaethau strategol

Parodrwydd i dderbyn risg

Pwyllog

Effeithiau allweddol

Anallu i yrru effeithlonrwydd a chyflawni manteision trawsnewid.

Risg i gynaliadwyedd ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Ni fydd manteision arfaethedig a chyflawni’r portffolio trawsnewid presennol yn golygu bod modd cyflawni’r model gweithredu yn y dyfodol.

Gweithlu sydd wedi ymddieithrio ac na all gysylltu llwybr clir o’u gwaith a’u cyfraniad at gyflawni trawsnewid.

Lliniaru risg

Sicrhau bod y modelu’n adlewyrchu’r galw yn y dyfodol yn gywir er mwyn sbarduno trawsnewid, newid a gweithgareddau busnes fel arfer.

Hyfforddiant trawsnewid/newid ar raddfa fawr i baratoi staff yn y sefydliad.

Cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol, cyson a pharhaus i chwalu seilos a chynllun ymgysylltu manwl i gefnogi dull ymgysylltu.

Bydd gwell sicrwydd a her i brosiectau gan y Swyddfa Rheoli Rhaglenni, rheoli portffolio’n effeithiol ac alinio’r portffolio trawsnewid yn gwella’r broses o adrodd a gwneud penderfyniadau.

Cynllun busnes wedi’i adnewyddu.

Datblygu trywydd newid.

Cwblhau strategaeth ar gyfer y dyfodol.

Adolygu parhaus a gwelededd cynhyrchion hanfodol sy’n cefnogi trawsnewid llwyddiannus.

Effaith y mesurau lliniaru

Mae uwch arweinwyr yn cael digon o wybodaeth i wneud penderfyniadau o adroddiadau manwl a goruchwylio’r gwaith o gyflawni’r prosiect yn rheolaidd.

Llywodraethiant, rheoli prosiectau a chyflawni prosiectau’n effeithiol o fewn y portffolio.

Sicrheir parodrwydd gweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i drawsnewid.

Risg: Data anghyflawn ac anghywir nad yw’n cefnogi penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac arbedion effeithlonrwydd sefydliadol

Parodrwydd i dderbyn risg

Pwyllog

Effeithiau allweddol

Aneffeithlonrwydd prosesau a newid.

Gormod o archwilio â llaw, dyblygu a gwastraff.

Adroddiadau anghyson sy’n golygu nad yw problemau perfformiad yn cael eu nodi.

Niwed i enw da.

Diffyg cydymffurfio â gofynion adrodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac yn allanol.

Lliniaru risg

Cydweithio’n rheolaidd â thimau Digidol ac Archwilio Mewnol ynghylch polisïau a strategaeth ddata.

Defnyddio mwy ar lwyfan Dadansoddi’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i reoli data’r OPG.

Gweithgor rhagweld y galw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar waith.

Fframwaith rheoli perfformiad a gweithgor perfformiad yn ar waith.

Mae’r tîm data yn eistedd ar fyrddau prosiectau portffolio i gysoni anghenion data yn y dyfodol ar gyfer prosiectau sy’n cael blaenoriaeth.

Effaith y mesurau lliniaru

Metrigau perfformiad cyson ar waith sy’n seiliedig ar ddata cadarn.

Deall gofynion data Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn well yn y dyfodol.

Cynnydd o ran cael un ffynhonnell o wirionedd ar gyfer data’r OPG ar Lwyfan Dadansoddi’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Risg: Gweithgarwch twyllodrus gan staff sy’n arwain at golled ariannol a niwed i enw da

Parodrwydd i dderbyn risg

Pwyllog

Effeithiau allweddol

Colled ariannol i OPG/MOJ.

Niwed i enw da gyda staff a chwsmeriaid.

Perygl twyll/tirwedd anhysbys.

Diffyg cydymffurfio â safonau swyddogaethol y llywodraeth.

Lliniaru risg

Cyhoeddi polisi gwrth-dwyll a chynllun ymateb a strategaeth i godi ymwybyddiaeth o botensial twyll staff.

Llwybr clir i staff roi gwybod am dwyll drwy gyfeiriad e-bost penodol yn yr OPG a’r broses Chwythu’r Chwiban drwy e-ddysgu gorfodol y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar atal twyll.

Cydymffurfio â safonau swyddogaethol ar gyfer atal twyll.

Gwybodaeth glir ar dudalen mewnrwyd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Ymgyrchoedd ymwybyddiaeth ar atal twyll drwy Ddysgu a Datblygu, y Fewnrwyd a sesiynau ymgysylltu.

Cytuno ar Raglen o Asesiadau Risg Twyll i sicrhau bod meysydd busnes risg uchel yn cael eu hadolygu.

Effaith y mesurau lliniaru

Staff gwybodus sydd wedi cael yr hyfforddiant gofynnol ac sy’n dilyn polisïau.

Mae’n hawdd i staff roi gwybod am amheuaeth o dwyll.

Gwell dealltwriaeth o sefyllfa twyll Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Risg: Nid oes gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ystâd ffisegol addas i gefnogi ei gweithlu a chyflawni ei busnes oherwydd bod anghenion ei hystadau yn y dyfodol yn cael eu rheoli’n aneffeithlon

Parodrwydd i dderbyn risg

Pwyllog

Effeithiau allweddol

Anallu i ddarparu amgylchedd gwaith diogel a chynhyrchiol.

Anaf a lefelau absenoldeb uwch.

Costau heb eu cyllidebu sy’n deillio o geisiadau busnes am newid i ofynion adeiladau ac atgyweirio ystadau.

Nid yw’r gofod desgiau a gweithio yn ddigonol ar gyfer staff sydd angen mynediad i swyddfeydd, gan arwain at arferion gweithio aneffeithlon.

Lliniaru risg

Cefnogaeth arbenigol gan Asiantaeth Eiddo’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth.

Ymgysylltu’n gynnar â Gweithrediadau i fapio’r gofynion ar gyfer yr ystâd yn y dyfodol.

Adolygiadau perfformiad gyda GPA yn cael eu sefydlu ddwywaith y flwyddyn i fonitro’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu a’i ddal i gyfrif.

Sefydlwyd prosiect ffurfiol i gyflawni ar gyfer yr ystâd yn y dyfodol.

Effaith y mesurau lliniaru

Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus weithle sy’n caniatáu iddi wneud ei gwaith mewn amgylchedd diogel.

Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddigon o le ar gyfer y staff sydd eu hangen i ddarparu ei busnesau.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynllunio ar gyfer y dyfodol drwy’r strategaeth ystadau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol.

Rheoli risg

Mae’r Swyddfa’n nodi bod risgiau ar lefel strategol. Mae rheoli risg yn cyd-fynd ag amcanion ein sefydliad ac yn cysylltu â’r egwyddorion a nodir yn Llyfr Oren Llywodraeth EF (‘Rheoli Risg – Egwyddorion a Chysyniadau’).

Mae’r gofrestr risg strategol yn cael ei hadrodd a’i thrafod bob mis gyda phwyllgor gweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus er mwyn rhoi sicrwydd i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ynghylch camau lliniaru a rheoli risgiau. Mae’r tîm risg a sicrwydd yn casglu diweddariadau gan berchnogion risg o bob rhan o’r sefydliad. Mae’r tîm risg yn dwyn y perchnogion risg i gyfrif lle bo angen ac yn defnyddio gwybodaeth a phrofiad o risg i gefnogi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus drwy roi cyngor ac arweiniad ynghylch rheoli risg, i sicrhau bod y Swyddfa’n rheoli risg yn dda.

Mae cynrychiolwyr y Swyddfa hefyd yn trafod rheoli risg mewn cyfarfodydd misol rheolaidd gyda Phartneriaid Busnes Risg ehangach y Weinyddiaeth Gyfiawnder a bob chwarter blwyddyn yng ngrŵp cynghori risg y Weinyddiaeth, dan gadeiryddiaeth Canolfan Ragoriaeth Risg y Weinyddiaeth. Mae gan y fforymau hyn gynrychiolwyr o bob rhan o’r Weinyddiaeth, gan gynnwys cyrff hyd braich, ac maent yn cwrdd i drafod arferion gorau a newidiadau i arferion neu weithdrefnau, yn ogystal â chydweithredu.

Rydym yn parhau i gyflwyno adroddiadau risg bob chwarter i bwyllgor gwaith y Weinyddiaeth Gyfiawnder fel rhan o fframwaith rheoli risg ehangach yr adran. Mae cefnogaeth y pwyllgor gwaith i’r rhaglen newid tymor hwy yn bwysig er mwyn lliniaru’r risgiau hyn.

Dyma’r prif risgiau yr adroddwyd amdanynt yn ystod y flwyddyn:

  • effaith yr ôl-groniad o geisiadau atwrneiaethau arhosol ar wasanaeth i gwsmeriaid a chyllid

  • y risg i benderfyniadau effeithiol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a achosir gan ddata anghyflawn neu anghywir

  • y risg i gynaliadwyedd ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn y dyfodol a achosir gan bwysau chwyddiant nad ydynt wedi cael eu hadlewyrchu mewn cynnydd mewn ffioedd ac arbedion effeithlonrwydd pellach nad ydynt yn bosibl o dan y fframwaith gweithredu presennol

  • methu cyflawni ein blaenoriaethau strategol oherwydd ein hanallu i gyflawni’r portffolio trawsnewid yn effeithiol.

  • y risg na fydd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ystâd addas ar waith i gyflawni gweithrediadau busnes yn effeithiol

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn annog arloesi ac mae ganddi agwedd gytbwys tuag at risg. Er enghraifft, mae ganddi fwy o oddefiant i risgiau sy’n ymwneud â hyrwyddo gallu digidol i wella cynnyrch Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, ond mae ganddi oddefiant is mewn meysydd fel sicrhau bod pryderon yn cael eu hasesu a’u hymchwilio i gefnogi diogelu pobl agored i niwed a’u hasedau.

Fframwaith llywodraethu a sicrwydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Mae bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ymwneud â phennu’r cyfeiriad strategol a’r fframwaith ar gyfer gweithrediadau ac mae’n gyfrifol am sicrhau llywodraethu corfforaethol o safon uchel bob amser. Mae’n pennu archwaeth risg yr asiantaeth ac yn sicrhau bod fframwaith rheoli priodol ar waith sy’n rhoi sicrwydd ar asesiadau risg.

Pwyllgorau ac is-bwyllgorau’r Bwrdd

Y pwyllgor archwilio a sicrwydd risg: Yn rhoi cyngor a sicrwydd i’r bwrdd ar risg, rheolaeth a llywodraethu.

Bwrdd portffolio a newid: Yn goruchwylio ac yn craffu ar risgiau sy’n benodol i brosiectau a rhaglenni.

Pwyllgor gweithredol: Cyfrifoldeb o ddydd i ddydd dros fonitro risg.

Pwyllgor iechyd a diogelwch: Goruchwylio a chraffu ar risgiau mewn perthynas ag iechyd a diogelwch.

Fforwm risg Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus: Yn ystyried y risgiau strategol a’r risgiau sy’n is na’r lefel honno, a hefyd yn hwyluso dysgu am risg ar draws yr asiantaeth.

Perchnogion a noddwyr risg: Yn gyfrifol am sicrhau bod dealltwriaeth briodol o risgiau strategol, a’u bod yn cael eu rheoli’n weithredol, eu hadrodd arnynt a’u monitro.

Grŵp cynghori ar risg y Weinyddiaeth Gyfiawnder: Mae’n edrych ar risgiau ar draws y Weinyddiaeth Gyfiawnder, asiantaethau a chyrff hyd braich, ac yn sicrhau bod risgiau a rennir yn cael eu hadrodd fel un risg a bod modd uwchgyfeirio risgiau asiantaethau yn ôl yr angen.

Archwiliadau mewnol Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth: Mae archwiliadau mewnol yn adlewyrchu ac yn digwydd yn y meysydd lle mae’r risg strategol uchaf, ac yn darparu goruchwyliaeth a chipolwg ychwanegol.

Diwygio swyddogaethau

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn darparu swyddogaethau corfforaethol a phroffesiynol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gan gynnwys: gwasanaethau dadansoddi, masnachol, cyfathrebu, gwrth-dwyll, dyledion, digidol, cyllid, grantiau, pobl, cyflawni prosiectau, eiddo a diogelwch.

Mae swyddogaethau’r Llywodraeth wedi bod yn cydweithio i bennu a gwreiddio’r defnydd o safonau swyddogaethol. Mae safonau swyddogaethol yn bodoli i greu ffordd gydlynol ac effeithiol y mae pawb yn ei deall o wneud busnes o fewn sefydliadau llywodraeth ganolog. Mae’r safonau hyn yn orfodol i’w defnyddio ar draws llywodraeth ganolog ac maent yn darparu sail sefydlog ar gyfer sicrwydd, rheoli risg a gwella gallu. Drwy gydol 2024 i 2025, mae dealltwriaeth y swyddogaethau o ofynion eu safonau swyddogaethol trawslywodraethol wedi aeddfedu. Mae’r holl swyddogaethau ar hyn o bryd yn cymryd rhan mewn rhaglen barhaus o welliant ac ymgysylltiad parhaus.

Adroddiadau chwythu’r chwiban

Mae chwythu’r chwiban yn ymwneud â datgelu gwybodaeth yn fewnol neu’n allanol er mwyn amlygu camweddau neu gamweddau posibl mewn sefydliad yn y gorffennol neu ar hyn o bryd. Os gofynnir i unigolyn wneud rhywbeth, neu os yw’n ymwybodol o weithredoedd pobl eraill sydd, yn eu barn nhw, yn sylfaenol anghywir, yn anghyfreithlon, neu a allai beryglu eraill neu fynd yn groes i werthoedd Cod y Gwasanaeth Sifil, dylent godi pryder drwy chwythu’r chwiban. Mae’r broses ar gyfer mynegi pryder drwy chwythu’r chwiban yn cael ei chyhoeddi’n fewnol i staff yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, gyda thudalen mewnrwyd bwrpasol gyda dolen i bolisi a chanllawiau chwythu’r chwiban y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Mae gennym swyddog enwebedig annibynnol, a’i rôl yw rhoi cefnogaeth a chyngor i staff ynghylch sut i godi pryder. Mae Llinell Gymorth Gonestrwydd y Gwasanaeth Sifil hefyd ar gael i staff gysylltu â hi os nad ydynt yn teimlo’n gyfforddus yn mynegi pryder i’r rheolwyr. Gellir hefyd rhoi gwybod am unrhyw bryderon neu amheuon am weithgarwch twyllodrus yn uniongyrchol ac yn ddienw i Ganolfan Arbenigedd Atal Twyll y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Cyhoeddwyd nifer o negeseuon cyfathrebu mewnol yn ystod y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth gyda’n staff o chwythu’r chwiban, twyll a diogelwch a’r prosesau adrodd priodol.

Roedd un adroddiad chwythu’r chwiban ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn 2024 i 2025 na chanfu unrhyw dystiolaeth o ddrwgweithredu ar ôl ymchwiliad.

Rheolau Penodiadau Busnes

Mae Gweision Sifil, ar bob lefel, yn rhwym wrth reolau ynghylch derbyn penodiadau allanol ar ôl gadael y Gwasanaeth Sifil. Pwrpas y Rheolau Penodiadau Busnes yw osgoi’r canlynol:

  • y risg y gallai cyflogwr gael mantais amhriodol drwy benodi cyn-swyddog sydd â gwybodaeth am eu cystadleuwyr, neu am bolisi sydd ar y gweill gan y llywodraeth

  • unrhyw amheuaeth y gallai penodiad fod yn wobr am ffafrau yn y gorffennol

  • y risg bod cyn swyddog yn ymelwa’n amhriodol ar fynediad breintiedig at gysylltiadau yn y llywodraeth

  • cwestiynu annheg neu feirniadaeth ar uniondeb cyn gweision sifil

Gall staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus weld manylion llawn am y Rheolau Penodiadau Busnes, pryd maent yn berthnasol a’r broses ymgeisio ar fewnrwyd y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Yn ystod 2024-2025, ni chafwyd unrhyw geisiadau gan weithwyr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus mewn perthynas â’r rheolau hyn. Rhoddir negeseuon atgoffa rheolaidd i uwch arweinwyr yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheolau.

Parhad busnes

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, roeddem wedi cwblhau adolygiad o’r holl asesiadau o’r effaith ar fusnes a chynlluniau parhad busnes i gyd-fynd â strwythur sefydliadol presennol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a gweithgareddau hanfodol. Gwnaethom hefyd adnewyddu ein Cynllun Rheoli Digwyddiadau, gan brofi’r rhain mewn ymarfer pen bwrdd gydag uwch staff. Yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, byddwn yn ceisio codi ymwybyddiaeth ymhellach o gynlluniau parhad busnes Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a chynnal hyfforddiant senarios ychwanegol ar gyfer staff. Bydd y camau hyn yn cefnogi ymateb Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i reoli digwyddiadau er mwyn iddynt fod yn effeithiol.

Gwrth-dwyll

Cafodd llawer o waith ei wneud yn 2024 i 2025 i ddatblygu dull gwrth-dwyll Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Cyhoeddodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ei Strategaeth Gwrth-dwyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd a Pholisi Gwrth-dwyll a Chynllun Ymateb ym mis Tachwedd 2024. Mae’r dogfennau hyn yn cyd-fynd â pholisi atal twyll y Weinyddiaeth Gyfiawnder a fframwaith asesu gwelliant parhaus Awdurdod Twyll y Sector Cyhoeddus (PSFA). Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gynllun gweithredu hefyd ar gyfer cyflawni Safonau Swyddogaethol Atal Twyll y Llywodraeth sy’n cael eu monitro’n rheolaidd ac yr adroddir arnynt.

Roedd yna ffocws ar gynyddu ymwybyddiaeth o dwyll ymhellach ymysg staff, drwy greu tudalen bwrpasol ar y fewnrwyd atal twyll, adnoddau Dysgu a Datblygu a chynnal gweithdai ymwybyddiaeth o dwyll. Er mwyn parhau i ddatblygu ei aeddfedrwydd gwrth-dwyll, comisiynodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus y GIAA i roi sicrwydd ynghylch digonolrwydd trefniadau i gefnogi’r gwaith o reoli twyll ac ymwybyddiaeth ohono yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Bydd yr argymhellion yn cael eu rhoi ar waith yn ystod y flwyddyn nesaf.

Dechreuodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd ddarparu cyfres o Asesiadau Risg Twyll ar draws meysydd busnes blaenoriaeth. Mae Asesiad Risg Twyll yn cael ei ystyried yn elfen hanfodol o ymateb effeithiol i wrth-dwyll, ac mae’n broses sydd â’r nod o ganfod a deall gwendidau sefydliad o ran twyll. Bydd yr asesiadau hyn yn parhau hyd at 2025 i 2026 a byddant yn hysbysu’r gwaith o ddatblygu Asesiad Risg Twyll Menter.

Cydymffurfiaeth cyflenwyr

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dilyn model caffael y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar gyfer caffael nwyddau a gwasanaethau lle rydym yn defnyddio contractau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder drwy fframweithiau Gwasanaethau Masnachol y Goron sydd eisoes ar waith. Mae rheolwyr contractau gweithredol yn cael eu nodi ar draws Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i reoli’r contractau a’r cyflenwyr hynny o ddydd i ddydd. O ran contractau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a chontractau trawslywodraethol, mae rheolwyr contractau gweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn darparu gwybodaeth am berfformiad cyflenwyr i reolwyr contractau canolog.

iechyd a diogelwch

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod ei chyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a lles ei gweithwyr a’r holl bobl sy’n defnyddio ei safleoedd. Rydym yn cydymffurfio â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a’r holl reoliadau a deddfwriaethau perthnasol eraill fel sy’n briodol.

Adolygir polisïau iechyd a diogelwch Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus bob blwyddyn neu pan fyddant yn cael eu newid. Mae gennym strategaeth iechyd a diogelwch ar waith sy’n cyd-fynd â’n hamcanion busnes, ac wedi’i datblygu i wella iechyd a diogelwch galwedigaethol, yn ogystal â diogelwch tân. Mae cofrestr risg iechyd a diogelwch yn cael ei chymeradwyo gan ddeiliad dyletswydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac mae’n seiliedig ar asesiad risg lleol. Mae’r gofrestr yn cael ei chynnal a’i hadolygu yn y pwyllgor iechyd a diogelwch chwarterol, a’i rhannu â phwyllgor iechyd, diogelwch a thân y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac mae’n cael ei chyhoeddi ar ein mewnrwyd.

Un tîm iechyd a diogelwch sy’n rholi ein swyddfeydd yn Birmingham a Nottingham. Mae gan y ddau safle eu heriau eu hunain, ond drwy hyfforddiant effeithiol, cyfathrebu, glynu wrth ddeddfwriaeth ac ymgysylltu rhagweithiol, gall y tîm reoli a datrys problemau wrth iddynt godi.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi parhau i ddarparu cymorth i’n staff yn eu gweithle, boed hynny gartref neu yn y swyddfa. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, rydym wedi cwblhau 765 o asesiadau cyfarpar sgrin arddangos ar gyfer staff, yn ogystal â chyfanswm o 292 o sesiynau cynefino iechyd a diogelwch ar gyfer staff ar draws ein swyddfeydd yn Birmingham a Nottingham. Rydym hefyd wedi datblygu a defnyddio offer TG newydd i reoli DSE ac asesiadau risg eraill i wella’r gwaith o gadw cofnodion a symleiddio’r gwaith o reoli camau gweithredu sy’n weddill.

Rhwng 2023 a 2025, yn y ddwy swyddfa, cawsom 19 o ddamweiniau, 32 o ddigwyddiadau (gyda 20 ohonynt yn ddigwyddiadau iechyd cyffredinol), a 7 damwain a fu bron â digwydd. Mae’r ffigurau hyn yn ostyngiad cyffredinol ers 2023 i 2024, pan gofnodwyd 14 o ddamweiniau, 68 o ddigwyddiadau (pan roedd 41 ohonynt yn ddigwyddiadau iechyd cyffredinol), a 6 damwain a fu bron â digwydd. Nid oedd angen rhoi gwybod i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch o dan y Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi ymrwymo i wella iechyd a diogelwch yn barhaus. Drwy gydol y flwyddyn, rydym wedi parhau i fonitro ac adolygu nifer yr ymatebwyr brys sydd gennym ar waith i sicrhau bod digon o staff ar gael ar holl safleoedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Rydym wedi cynllunio a threfnu hyfforddiant ar gyfer wardeiniaid tân, swyddogion rheoli digwyddiadau, gweithredwyr cadeiriau achub a chymorth cyntaf. Eleni, bu’r tîm iechyd a diogelwch yn gweithio gyda’r tîm dysgu a datblygu i ennill cymwysterau cydnabyddedig ar gyfer swyddogion cymorth cyntaf ychwanegol (30 aelod o staff) ac yn darparu hyfforddiant cadeiriau achub ar gyfer 13 aelod o staff.

Casgliad y Swyddog Cyfrifyddu

Fel Swyddog Cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, rwy’n gyfrifol am adolygu effeithiolrwydd system rheolaeth fewnol y Swyddfa, gan gynnwys y fframwaith rheoli risg. Mae fy adolygiad yn seiliedig ar waith yr archwilwyr mewnol a’r rheolwyr gweithredol o fewn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Maent yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal y fframwaith rheolaeth fewnol ac ymateb yn briodol i sylwadau a wneir gan yr archwilwyr allanol yn eu llythyr rheoli ac mewn adroddiadau eraill. Mae’r system rheolaeth fewnol wedi bod ar waith, gyda mân addasiadau, ar gyfer y flwyddyn 2024-2025, a hyd at ddyddiad cymeradwyo’r adroddiad blynyddol a chyfrifon.

Yn eu hadroddiad blynyddol, mae ein harchwilwyr mewnol wedi rhoi lefel sicrwydd cyffredinol o ‘gymedrol’, sy’n golygu bod angen rhai gwelliannau i wella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheolaeth, llywodraethu a rheoli risg. Rwyf wedi cael cyngor ar oblygiadau canlyniadau fy adolygiad gan y bwrdd a’r pwyllgor archwilio a sicrwydd risg. Rwy’n fodlon fod cynllun ar waith i fynd i’r afael â gwendidau yn y system o reolaeth fewnol, yn ogystal â sicrhau gwelliant parhaus y system. Rwyf hefyd yn fodlon fod yr holl risgiau perthnasol wedi’u nodi, a bod y risgiau hynny’n cael eu rheoli’n briodol drwy ein cofrestr risg.

Ruth Duffin

Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr (Dros Dro)

11 Gorffennaf 2025

Adroddiad tâl a staff

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi polisi Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar dâl aelodau a chyfarwyddwyr anweithredol y bwrdd gweithredol. Mae hefyd yn darparu manylion y costau gwirioneddol a’r trefniadau cytundebol. Paratowyd yr adroddiad tâl a staff yn unol â gofynion y Llawlyfr Adroddiadau Ariannol a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF.

Polisi tâl – uwch weision sifil

Y Prif Weinidog sy’n gosod tâl uwch weision sifil ar ôl cael cyngor annibynnol gan y Corff Adolygu ar Gyflogau Uwch-swyddogion.

Wrth wneud ei argymhellion, mae’r Corff Adolygu ar Gyflogau Uwch wedi ystyried y canlynol:

  • yr angen i recriwtio, cadw a chymell pobl sydd â’r gallu a’r cymwysterau priodol i gyflawni eu cyfrifoldebau gwahanol

  • amrywiadau rhanbarthol a lleol mewn marchnadoedd llafur a’u heffaith ar recriwtio a chadw staff

  • polisïau’r llywodraeth i wella gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y gofyniad ar Adrannau i gyrraedd y targedau allbwn ar gyfer darparu gwasanaethau Adrannol

  • yr arian sydd ar gael i adrannau fel y nodir yn nherfynau gwariant adrannol y llywodraeth

  • targed chwyddiant y llywodraeth

Mae’r Corff Adolygu ar Gyflogau uwch yn ystyried y dystiolaeth y mae’n ei gael am ystyriaethau economaidd ehangach a fforddiadwyedd ei argymhellion

Polisi tâl – gweision sifil heb fod mewn swydd uwch

Mae pecynnau tâl yn dod o dan y cynlluniau a weithredir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac maent yn dilyn canllawiau polisi’r Llywodraeth ar gyfer cyflogau’r sector cyhoeddus. Mae perfformiad yn cael ei gydnabod drwy bolisïau Rheoli Perfformiad a Gwobrwyo a Chydnabyddiaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae staff ar bob gradd yn gymwys i gael eu gwobrwyo yn ystod y flwyddyn a ddefnyddir i gydnabod staff yn brydlon drwy gydol y flwyddyn ariannol.

Contractau gwasanaethau

Mae Deddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 yn mynnu bod penodiadau’r Gwasanaeth Sifil yn cael eu gwneud ar sail teilyngdod a hynny wedi’i seilio ar gystadleuaeth deg ac agored.

Oni nodir yn wahanol isod, mae’r swyddogion a gwmpesir gan yr adroddiad hwn yn dal penodiadau agored. Byddai terfynu swydd, ac eithrio am gamymddwyn, yn golygu y byddai’r unigolyn yn derbyn iawndal fel y nodir yng Nghynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil.

Tâl uwch reolwyr (yn amodol ar archwiliad)

2024-2025

Enw a rôl Cyflog Bonysau Buddion trethadwy (£100 agosaf) Buddion sy’n gysylltiedig â phensiwn (£1,000 agosaf) Taliadau diswyddo Cyfanswm
Amy Holmes – Prif Weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus[troednodyn 1] 120,000-125,000 5,000-10,000 ddim yn berthnasol 76 ddim yn berthnasol 200,000-205,000
Julie Lindsay - Prif Swyddog Gweithredu 85,000-90,000 5,000-10,000 ddim yn berthnasol 63 ddim yn berthnasol 155,000-160,000
Ruth Duffin - Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog 85,000-90,000 5,000-10,000 ddim yn berthnasol 34 ddim yn berthnasol 130,000-135,000
Emma Sharp - Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog[troednodyn 2] 35,000-40,000 FYE 85,000-90,000 0-5,000 ddim yn berthnasol 15 ddim yn berthnasol 55,000-60,000
Amy Shaw - Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog[troednodyn 3] 40,000-45,000 FYE 85,000-90,000 ddim yn berthnasol ddim yn berthnasol ddim yn berthnasol ddim yn berthnasol ddim yn berthnasol
Peter Boyce - Dirprwy Gyfarwyddwr Sicrwydd Gwybodaeth a Chyfreithiol[troednodyn 4] 85,000-90,000 ddim yn berthnasol ddim yn berthnasol 34 ddim yn berthnasol 120,000-125,000
Caroline Patterson - Cyfarwyddwr Cyllid, Gweithrediadau[troednodyn 5] 115,000-120,000 FYE 120,000-125,000 10,000-15,000 ddim yn berthnasol 69 ddim yn berthnasol 195,000-200,000
Adrian Hannell - Cyfarwyddwr Cyllid, Gweithrediadau[troednodyn 6] ddim yn berthnasol 5,000-10,000 FYE 125,000-130,000 ddim yn berthnasol ddim yn berthnasol 3 10,000-15,000

2023-2024

Enw a rôl Cyflog Bonysau Buddion trethadwy (£100 agosaf) Buddion sy’n gysylltiedig â phensiwn (£1,000 agosaf) Taliadau diswyddo Cyfanswm
Amy Holmes – Prif Weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus[troednodyn 1] 120,000-125,000 5,000-10,000 ddim yn berthnasol 76,000 ddim yn berthnasol 200,000-205,000
Julie Lindsay - Prif Swyddog Gweithredu 85,000-90,000 5,000-10,000 ddim yn berthnasol 63,000 ddim yn berthnasol 155,000-160,000
Ruth Duffin - Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog 85,000-90,000 5,000-10,001 ddim yn berthnasol 34,000 ddim yn berthnasol 130,000-135,000
Emma Sharp - Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog[troednodyn 2] 35,000-40,000 FYE 80,000-85,000 0-5,000 ddim yn berthnasol 15,000 ddim yn berthnasol 55,000-60,000
Amy Shaw - Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog[troednodyn 3] 35,000-40,000 FYE 80,000-85,000 ddim yn berthnasol ddim yn berthnasol 13,000 ddim yn berthnasol 55,000-60,000
Peter Boyce - Dirprwy Gyfarwyddwr Sicrwydd Gwybodaeth a Chyfreithiol[troednodyn 4] 85,000-90,000 ddim yn berthnasol ddim yn berthnasol 34,000 ddim yn berthnasol 120,000-125,000
Caroline Patterson - Cyfarwyddwr Cyllid, Gweithrediadau[troednodyn 5] 115,000-120,000 FYE 120,000-125,000 10,000-15,000 ddim yn berthnasol 69,000 ddim yn berthnasol 195,000-200,000
Adrian Hannell - Cyfarwyddwr Cyllid, Gweithrediadau[troednodyn 6] 5,000-10,000 FYE 125,000-130,000 ddim yn berthnasol ddim yn berthnasol 3,000 ddim yn berthnasol 10,000-15,000

Tâl aelodau anweithredol o fyrddau

2024-2025
Enw Ffioedd Buddion trethadwy (i’r £100 agosaf)
Martyn Burke 5,000-10,000 ddim yn berthnasol
Jackie Craisatti[troednodyn 7] ddim yn berthnasol ddim yn berthnasol
Alison Sansome[troednodyn 8] 0-5,000 FYE 10,000-15,000 ddim yn berthnasol
Karin Woodley[troednodyn 9] 0-5,000 FYE 10,000-15,000 ddim yn berthnasol
Greig Early[troednodyn 10] 10,000-15,000 ddim yn berthnasol
Emir Feisal[troednodyn 11] 0-5,000 FYE 0-5,000 ddim yn berthnasol
Veronika Neyer[troednodyn 12] 0-5,000 FYE 10,000-15,000 300

2023-2024

Enw Ffioedd Buddion trethadwy (i’r £100 agosaf)
Martyn Burke 5,000-10,000 ddim yn berthnasol
Jackie Craisatti[troednodyn 7] 0-5,000 ddim yn berthnasol
Alison Sansome[troednodyn 8] 0-5,000 200
Karin Woodley[troednodyn 9] 5,000-10,000 100
Greig Early[troednodyn 10] ddim yn berthnasol 100
Emir Feisal[troednodyn 11] ddim yn berthnasol ddim yn berthnasol
Veronika Neyer[troednodyn 12] ddim yn berthnasol ddim yn berthnasol

Nid oes gan yr un o aelodau anweithredol y bwrdd hawliau pensiwn gyda’r adran, ac nid ydynt yn derbyn taliadau bonws.

Cyflog

Mae’r cyflog yn cynnwys cyflog gros, goramser, ac unrhyw lwfans arall i’r graddau y mae’n ddarostyngedig i drethiant y DU.

Taliadau bonws

Mae taliadau bonws yn amodol ar berfformiad yn ystod y flwyddyn, gan ddilyn canllawiau Swyddfa’r Cabinet. Mae’r polisi ar gyfer tâl perfformiad heb ei gyfuno yn parhau i nodi y dylid cyfyngu taliadau o’r fath i’r 25% sy’n perfformio orau.

Mae’r bonysau a gofnodwyd yn 2024 i 2025 yn ymwneud â pherfformiad yn 2023 i 2024 a 2024 i 2025, ac mae’r bonysau cymharol a gofnodwyd ar gyfer 2023 i 2024 yn ymwneud â pherfformiad yn 2022-2023.

Buddion o fath arall

Mae gwerth ariannol unrhyw fuddion mewn nwyddau yn cynnwys unrhyw fuddion a ddarparwyd gan yr Adran ac sy’n cael eu trin gan Gyllid a Thollau EF fel enillion trethadwy.

Buddion pensiwn

Cyfrifir gwerth y buddion pensiwn a gronnwyd yn ystod y flwyddyn fel (y cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn wedi’i luosi ag 20) a’r (cynnydd gwirioneddol mewn unrhyw gyfandaliad) llai (y cyfraniadau a wneir gan yr unigolyn). Nid yw’r cynnydd gwirioneddol yn cynnwys cynnydd oherwydd chwyddiant nac unrhyw gynnydd neu ostyngiad oherwydd trosglwyddo hawliau pensiwn.

Buddion pensiwn (yn amodol ar archwiliad)

Caiff ffigurau pensiynau eu cyfrifo gan MyCSP, y gweinyddwr pensiynau, yn hytrach na Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Buddion pensiwn yr uwch dîm rheoli

Enw a rôl Pensiwn cronedig a chyfandaliad cysylltiedig ar oedran pensiwn ar 31 Mawrth 2025 Cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn a chyfandaliad cysylltiedig ar oedran pensiwn CETV ar 31 Mawrth 2025 CETV ar 31 Mawrth 2024 Cynnydd/ (gostyngiad) gwirioneddol mewn CETV
Amy Holmes – Prif Weithredwr a Gwarcheidwad Cyhoeddus Pensiwn 35,000-40,000 Cyfandaliad 90,000-95,000 Pensiwn 0-2,500 Cyfandaliad dim 742,000 656,000 52,000  
Julie Lindsay – Prif Swyddog Gweithredu Pensiwn 50,000-55,000 Cyfandaliad 95,000-100,000 Pensiwn 2,500-5,000 Cyfandaliad 2,500-5,000 1,128,000 1,016,000 57,000  
Ruth Duffin – Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog Pensiwn 20,000-25,000 Cyfandaliad dim Pensiwn 0-2,500 Cyfandaliad dim 243,000 202,000 16,000  
Emma Sharp – Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog Pensiwn 15,000-20,000 Cyfandaliad dim Pensiwn 0-2,500 Cyfandaliad dim 175,000 159,000 7,000  
Amy Shaw – Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Gwasanaethau Canolog Pensiwn 30,000-35,000 Cyfandaliad dim Pensiwn 0-2,500 Cyfandaliad dim 479,000 467,000 6,000  
Peter Boyce – Dirprwy Gyfarwyddwr Sicrwydd Gwybodaeth a Chyfreithiol Pensiwn 0-5,000 Cyfreithiol dim Pensiwn 0-2,500 Cyfreithiol dim 27,000 2,000 19,000  
Caroline Patterson – Cyfarwyddwr Cyllid, Gweithrediadau Pensiwn 25,000-30,000 Cyfandaliad o 60,000-65,000 Pensiwn 0-2,500 Cyfandaliad dim 513,000 442,000 44,000  
Adrian Hannell – Cyfarwyddwr Cyllid, Gweithrediadau Pensiwn 25,000-30,000 Cyfandaliad dim Pensiwn 0-2,500 Cyfandaliad dim 383,000 381,000 2,000  

Pensiynau’r Gwasanaeth Sifil

www.civilservicepensionscheme.org.uk

Darperir buddion pensiwn drwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Cyn 1 Ebrill 2015, yr unig gynllun oedd Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS), sy’n cael ei rannu’n ychydig o wahanol adrannau – clasurol, premiwm a chlasurol a mwy, ac mae’n darparu buddion ar sail cyflog terfynol, ac mae nuvos yn darparu buddion ar sail gyrfa ar gyfartaledd. O 1 Ebrill 2015 cyflwynwyd cynllun pensiwn newydd ar gyfer gweision sifil - Cynllun Pensiwn Gweision Sifil ac Eraill neu alpha, sy’n darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa. Fe wnaeth pob gwas sifil newydd, ynghyd â’r rhan fwyaf o’r bobl eisoes mewn swydd, ymuno â’r cynllun newydd.

Mae PCSPS ac alpha yn gynlluniau statudol heb eu hariannu. Mae gweithwyr a chyflogwyr yn gwneud cyfraniadau (mae cyfraniadau gweithwyr yn amrywio rhwng 4.6% ac 8.05%, yn dibynnu ar eu cyflog). Telir gweddill cost y buddiannau sy’n cael eu talu gan arian mewn pleidlais gan y Senedd bob blwyddyn. Mae pensiynau sy’n cael eu talu yn cael eu cynyddu’n flynyddol yn unol â’r ddeddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Yn hytrach na’r trefniadau buddion diffiniedig, gall cyflogeion ddewis pensiwn cyfraniadau diffiniedig gyda chyfraniad cyflogwr, cyfrif pensiwn y bartneriaeth.

Yn alpha, mae’r pensiwn yn cronni ar gyfradd o 2.32% o enillion pensiynadwy bob blwyddyn, ac mae’r cyfanswm a gronnwyd yn cael ei addasu’n flynyddol yn unol â chyfradd a bennir gan Drysorlys EF. Gall aelodau ddewis rhoi rhan o’u pensiwn heibio (cyfnewid) i gael cyfandaliad hyd at y terfynau a bennir gan Ddeddf Cyllid 2004. Mae buddion pob aelod sydd wedi newid i gynllun alpha o PCSPS yn cael eu ‘bancio’, gyda’r rheini sydd â buddion cynt yn un o adrannau cyflog terfynol y PCSPS yn cael y buddion hynny ar sail eu cyflog terfynol pan fyddant yn gadael cynllun alpha.

Mae’r pensiwn cronedig yn yr adroddiad hwn yn dangos y pensiwn mae gan yr aelod hawl i’w gael pan fydd yn cyrraedd oed pensiwn arferol, neu’n syth ar ôl peidio â bod yn aelod gweithredol o’r cynllun os yw wedi cyrraedd oed pensiwn arferol neu dros yr oedran hwnnw. 60 yw’r oedran pensiwn arferol ar gyfer aelodau cynlluniau clasurol, premiwm a chlasurol a mwy, a 65 ar gyfer aelodau nuvos, a 65 oed neu Oed Pensiwn y Wladwriaeth, pa bynnag yw’r uchaf, ar gyfer aelodau cynllun alpha. Mae’r ffigurau pensiwn yn yr adroddiad hwn yn dangos y pensiwn a enillwyd yn y PCSPS neu alpha – fel sy’n briodol. Os oes gan aelod fuddion yn y PCSPS ac alpha, mae’r ffigurau yn dangos gwerth cyfunol eu buddion yn y ddau gynllun, ond sylwer y gallai rhangyfansoddol o’r pensiwn hwnnw fod yn daladwy o oedrannau gwahanol.

Pan gyflwynodd y Llywodraeth gynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus newydd yn 2015, roedd trefniadau pontio a oedd yn trin aelodau presennol y cynllun yn wahanol ar sail eu hoedran. Roedd aelodau hŷn o PCSPS yn aros yn y cynllun hwnnw, yn hytrach na symud i alpha. Yn 2018, canfu’r Llys Apêl fod y trefniadau trosiannol yn y cynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn aelodau iau (“dyfarniad McCloud”).

O ganlyniad, mae camau’n cael eu cymryd i unioni’r diwygiadau hynny yn 2015, gan wneud darpariaethau’r cynllun pensiwn yn deg i bob aelod. Mae’r Cam Unioni Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus yn cynnwys dwy ran. Caeodd rhan gyntaf y PCSPS ar 31 Mawrth 2022, gyda’r holl aelodau gweithredol yn dod yn aelodau o alpha o 1 Ebrill 2022 ymlaen. Mae’r ail ran yn dileu’r gwahaniaethu ar sail oedran ar gyfer y cyfnod unioni, rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022, drwy symud aelodaeth aelodau cymwys yn ystod y cyfnod hwn yn ôl i’r PCSPS ar 1 Hydref 2023.[^13]

Mae’r buddion pensiwn cronedig, Gwerth Trosglwyddo sy’n Cyfateb i Arian Parod ac un cyfanswm tâl a gofnodwyd ar gyfer unrhyw unigolyn y mae’r Cam Unioni Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus yn effeithio arno wedi cael eu cyfrifo ar sail eu cynnwys yn y PCSPS ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022, yn dilyn dyfarniad McCloud. Mae’r Cam Unioni Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus yn berthnasol i unigolion a oedd yn aelodau, neu’n gymwys i fod yn aelodau, o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus ar 31 Mawrth 2012 ac a oedd yn aelodau o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022. Mae’r sail ar gyfer y cyfrifiad yn adlewyrchu’r sefyllfa gyfreithiol bod aelodau yr effeithir arnynt wedi cael eu trosglwyddo’n ôl i’r PCSPS ar gyfer cyfnod y cam unioni ac y bydd hyn yn berthnasol oni bai fod yr aelod yn arfer ei hawl ar ôl ymddeol i benderfynu yn hytrach derbyn buddion a gyfrifir o dan delerau’r cynllun alffa ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022.

Mae cyfrif pensiwn y bartneriaeth yn drefniant pensiwn cyfraniadau galwedigaethol diffiniedig sy’n rhan o Legal & General Mastertrust. Mae’r cyflogwr yn gwneud cyfraniad sylfaenol o rhwng 8% a 14.75% (yn dibynnu ar oed yr aelod). Nid oes raid i’r cyflogai gyfrannu, ond os bydd yn gwneud cyfraniadau, bydd y cyflogwr yn talu swm cyfatebol hyd at derfyn o 3% o gyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Mae cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.5% o gyflog pensiynadwy i dalu cost yswiriant buddion risg a ddarperir yn ganolog (marw yn y swydd ac ymddeol yn sgil salwch).

Mae manylion pellach am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar gael yn y wefan www.civilservicepensionscheme.org.uk

Gwerthoedd trosglwyddo sy’n gyfwerth ag arian parod

Gwerth Trosglwyddo sy’n cyfateb i Arian Parod (CETV) yw gwerth buddion y cynllun pensiwn wedi’i gyfalafu a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol. Buddion a gronnwyd gan yr aelod yw’r buddion a brisir ynghyd ag unrhyw bensiwn wrth gefn i briod sy’n daladwy o’r cynllun. CETV yw taliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn i sicrhau buddiannau pensiwn mewn cynllun pensiwn neu drefniant arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo’r buddiannau y mae wedi eu cronni yn ei gynllun blaenorol. Mae’r ffigurau pensiwn a nodir yn ymwneud â buddion y mae’r unigolyn wedi eu cronni o ganlyniad i gyfanswm ei aelodaeth yn y cynllun pensiwn, nid dim ond ei wasanaeth mewn swydd uwch y mae’r datgeliad yn berthnasol iddo.

Mae’r ffigurau’n cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae’r aelod wedi ei drosglwyddo i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd i’r aelod o ganlyniad iddo’n prynu buddion pensiwn ychwanegol ar ei gost ei hun. Cyfrifir CETV yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygio) 2008 ac nid yw’n ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol neu bosibl i fuddion o ganlyniad i Dreth Lwfans Oes a allai fod yn daladwy pan gymerir buddion pensiwn.

Cynnydd real mewn CETV

Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd yn y CETV sy’n cael ei ariannu gan y cyflogwr. Nid yw’n cynnwys cynnydd yn y pensiwn cronedig oherwydd chwyddiant, cyfraniadau’r cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall) ac mae’n defnyddio ffactorau prisio cyffredin y farchnad ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.

Cam unioni pensiwn gwasanaeth cyhoeddus

Adroddir ar unrhyw aelodau y mae’r Cam Unioni Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus yn effeithio arnynt yn y cynllun gwaddol yn 2023 i 2024 ac yn 2024 i 2025.

Datgeliad cyflog teg (yn amodol ar archwiliad)

Mae’n ofynnol i gyrff adrodd ddatgelu’r berthynas rhwng tâl y swyddog gweithredol sy’n cael y cyflog mwyaf yn eu sefydliad â thâl chwartel isaf, canolrifol a chwartel uchaf gweithlu’r sefydliad.

Bandiau cyflog teg a chymarebau

Bandiau 2024 i 2025 2023 i 2024
Tâl y swyddogion gweithredol sy’n cael y cyflog uchaf 125,000-130,000 115,000-120,000
Tâl yr aelod staff sy’n cael y cyflog isaf 20,000-25,000 20,000-25,000
Cyflog chwartel isaf 24,202 22,940
Cyfanswm taliadau’r chwartel isaf 24,202 22,940
Cyflog chwartel canolrifol 24,202 22,940
Cyfanswm taliadau’r chwartel canolrifol 26,687 25,017
Cyflog chwartel uchaf 28,681 27,250
Cyfanswm taliadau’r chwartel uchaf 30,008 28,613
Cymarebau 2024 i 2025 2023 i 2024
Chwartel isaf 5.3:1 5.6:1
Chwartel canolrifol 4.8:1 5.1:1
Chwartel uchaf 4.2:1 4.5:1

Yn 2024 i 2025 a 2023 i 2024, ni dderbyniodd unrhyw weithwyr dâl mwy na’r swyddog gweithredol sy’n derbyn y cyflog mwyaf.

Mae’r cyfanswm tâl yn cynnwys cyflog, taliadau goramser, tâl seiliedig ar berfformiad heb ei gyfuno, a buddion o fath arall. Nid yw’n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn y cyflogwr na gwerth trosglwyddo cyfwerth ag arian pensiynau.

Mae’r cyflog chwartel isaf a’r cyflog chwartel canolrifol yr un fath, gan fod nifer sylweddol o staff Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael yr un cyflog.

Mae cymarebau cyflog wedi gostwng oherwydd gostyngiad yn y bonws a delir i’r cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf.

Newid canrannol blynyddol yng nghyfanswm y taliadau a thaliadau bonws

Cyfanswm taliadau (%) Taliadau bonws (%)
Cyfartaledd staff 5.1 4.1
Y cyfarwyddwr sy’n cael y cyflog uchaf 5.0 (31.8)

Yn 2020 i 2021, yn dilyn cymeradwyaeth gan Swyddfa’r Cabinet a Thrysorlys EM, cyflwynwyd cytundeb cyflog tair blynedd ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan gynnwys gweithwyr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Fe wnaeth y cytundeb tâl redeg am dair blynedd yn rhedeg o 1 Awst 2020 tan 31 Gorffennaf 2023. Yn 2023 i 2024, cytunwyd ar ddyfarniad cyflog blwyddyn, o 1 Awst 2023 i 31 Gorffennaf 2024. Ar ben hynny, ar draws y Gwasanaeth Sifil, cafodd staff sy’n is na graddau’r Uwch Wasanaeth Sifil daliad heb ei gyfuno o £1,500. Yn 2024 i 2025, cytunwyd ar ddyfarniad cyflog blwyddyn, o 1 Awst 2024 i 31 Gorffennaf 2025.

Adroddiad staff

Costau a niferoedd staff (yn amodol ar archwiliad)

Costau

Aelodau o staff sy’n cael eu cyflogi’n barhaol (2024 to 2025) Eraill (2024 i 2025) Cyfanswm (2024 i 2025) Cyfanswm (2023 i 2024)
Cyflogau 52,057,000 7,997,000 60,054,000 55,210,000
Costau nawdd cymdeithasol 4,844,000 ddim yn berthnasol 4,844,000 4,599,000
Costau pensiwn 12,986,000 ddim yn berthnasol 12,986,000 10,567,000
Costau gros 69,887,000 7,997,000 77,884,000 70,376,000

Pecynnau ymadael y Gwasanaeth Sifil a phecynnau ymadael eraill

Telir costau dileu swydd a chostau ymadael eraill yn unol â darpariaethau Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil, sy’n gynllun statudol a luniwyd o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972. Cyfrifir y costau ymadael yn llawn yn y flwyddyn ymadael berthnasol. Pan fydd yr Adran wedi cytuno ar ymddeoliadau cynnar, mae’r costau ychwanegol yn cael eu talu gan yr Adran ac nid gan Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae costau ymddeol oherwydd salwch yn cael eu talu gan y cynllun pensiwn ac nid ydynt wedi’u cynnwys yn y tablau uchod.

Yn ystod 2024 i 2025 ni thalwyd unrhyw becynnau ymadael (2023 i 2024: un), fel y datgelir yn nhabl Taliadau aelodau gweithredol y bwrdd. Yn ystod 2024 i 2025, bu un ymddeoliad ar sail afiechyd (2023 i 2024: dim). Cyfanswm y rhwymedigaeth pensiwn cronedig ychwanegol fydd £0.006 miliwn.

Costau ymgynghori ac ymgysylltu oddi ar y gyflogres

Yn ystod 2024-2025, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi adolygu ymgysylltiadau oddi ar y gyflogres lle mae’n rhaid i ni ystyried cyfryngwyr, deddfwriaeth (IR35) gan ddefnyddio canllawiau Cyllid a Thollau EM a dangosydd statws ar-lein. Rydym wedi hysbysu unrhyw gorff contractio ynghylch canlyniad y penderfyniadau ar statws fel bod didyniadau treth yn cael eu gwneud, lle bo hynny’n briodol, yn y tarddiad o daliadau a wneir mewn perthynas ag ymgysylltu â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Yn ystod 2024-2025, codwyd £0.191 miliwn ar gyfer costau ymgynghori (2023-2024: £0.618 miliwn). Roedd y rhan fwyaf o’r gwariant yn 2024 i 2025 yn ymwneud â rhaglen drawsnewid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a’r rhaglen Moderneiddio Atwrneiaethau Arhosol.

Nifer y staff

Roedd nifer y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogwyd ar gyfartaledd yn ystod y flwyddyn fel a ganlyn:

2024 to 2025 2023 to 2024
Staff sy’n cael eu cyflogi’n barhaol 1,702 1,629
Eraill 210 177
Cyfanswm 1,912 1,806

Cyfansoddiad staff

Ar ddiwedd y flwyddyn, roedd nifer y staff, ac eithrio staff yr Uwch Wasanaeth Sifil fel a ganlyn:

31 Mawrth 2025 31 Mawrth 2024
Gwrywaidd 784 789
Benywaidd 1,037 1,037
Cyfanswm 1,821 1,826

Uwch Weision Sifil (SCS)

Yn ystod y flwyddyn, cawsom bum rôl ar raddfa SCS:

  • SCS2 (prif weithredwr)

  • SCS1 (prif swyddog gweithredu)

  • SCS1 (dau ddirprwy gyfarwyddwr yn rhannu swydd amser llawn ar gyfer strategaeth a gwasanaethau canolog)

  • SCS1 (dirprwy gyfarwyddwr ar gyfer sicrwydd cyfreithiol a gwybodaeth)

Ar 31 Mawrth 2025, roedd y pum aelod o staff uchod yn cynnwys pedair menyw ac un dyn.

Aelodau Anweithredol o’r Bwrdd

Ar 31 Mawrth 2025, roedd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus bedwar aelod anweithredol o’r bwrdd (un yn gadeirydd y bwrdd) a oedd yn cynnwys dwy fenyw a dau ddyn. Roedd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd aelod annibynnol anweithredol sy’n eistedd ar y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg ac sy’n ddyn.

Absenoldeb salwch

Nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd ar gyfartaledd eleni oedd 10.3 diwrnod (2023-2024: 8.6 diwrnod gwaith).

Trosiant staff

Yn 2024-2025, roedd trosiant staff yn 8.5% (2023-2024: 10.2%). Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn parhau i fonitro cyfraddau trosiant ac yn cefnogi cynlluniau i gynnal lefel trosiant iach. Mae Arolwg Pobl blynyddol y Gwasanaeth Sifil ynghyd â darnau eraill o ymchwil, yn ein helpu i ddeall profiad ein pobl o weithio yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac i gymryd camau priodol i wella effeithiolrwydd, gan gynnwys pan fydd trosiant yn creu problemau.

Ymgysylltu â staff

Mae ein cyfradd ymateb o 74% i’r Arolwg i Bobl yn rhoi darlun da o brofiadau staff yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Roedd ein sgôr ymgysylltu yn 64%, yr un fath ag yn ystod 2023 i 2024. O’n naw thema ymgysylltu craidd, fe wnaethom gynyddu ein sgoriau ar wyth thema, ac aros yn sefydlog ar y nawfed thema arall yr oedd gennym sgôr uchel arni eisoes.

Polisïau staff a ddefnyddiwyd yn ystod y flwyddyn

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydymffurfio â pholisi anabledd y Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â recriwtio, hyfforddi a datblygu staff ag anableddau. Rydym yn recriwtio, hyfforddi a datblygu pobl ar sail eu sgiliau, eu cymhwyster a’u gallu i wneud y swydd.

Fel rhan o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, rydym yn gweithredu yn unol ag amrywiaeth o bolisïau, gweithdrefnau ac arferion adnoddau dynol, sy’n cynnwys:

  • gweithio’n hyblyg

  • bwlio ac aflonyddu

  • cyfryngu

  • recriwtio a dethol

  • cydraddoldeb ac amrywiaeth

  • rheoli presenoldeb (mae gennym nifer o staff ag anabledd lle cytunwyd ar addasiadau rhesymol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau)

  • rheoli perfformiad

  • hyfforddiant

Amser cyfleuster undebau llafur

Nifer y cyflogeion a oedd yn swyddogion undeb perthnasol yn ystod

2024 i 2025: 8


Nifer y cyflogeion a oedd yn swyddogion undeb perthnasol yn ystod

y cyfnod perthnasol a dreuliodd (a) 0%, (b) 1-50%, (c) 51-99% neu

(d) 100% o’u horiau gwaith ar amser cyfleuster: (a)1, (b)7


Canran cyfanswm y bil cyflogau a wariwyd ar amser y cyfleuster: 0.02% wedi’i dreulio ar gyfleuster


Amser a dreuliwyd ar weithgareddau undebau llafur â thâl fel canran o gyfanswm oriau amser cyfleuster gyda thâl

0%


Ruth Duffin

Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr (Dros Dro)

11 Gorffennaf 2025

Atebolrwydd Seneddol ac adroddiad archwilio

Pwrpas yr adroddiad archwilio ac atebolrwydd seneddol yw bodloni gofynion archwilio ac atebolrwydd Seneddol.

Cyflenwad Seneddol

Ariennir Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder o’i chyflenwad seneddol, a chan incwm sy’n deillio o ffioedd a thaliadau gan gwsmeriaid allanol.

Yn yr un modd ag asiantaethau eraill y llywodraeth, rhaid i gyllid ar gyfer y dyfodol gael ei gymeradwyo gan ein hadran noddi, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a chan y Senedd. Mae cymeradwyaeth eisoes wedi cael ei rhoi ar gyfer 2025-2026 ac nid oes rheswm dros gwestiynu cyllid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn y dyfodol. Felly, mae datganiadau ariannol wedi cael eu paratoi ar sail busnes byw at ddibenion adrodd ariannol a phrisio asedau.

Rheoleidd-dra gwariant (yn amodol ar archwiliad)

Nid oedd materion rheoleidd-dra i sôn amdanynt.

Ffioedd a thaliadau (yn amodol ar archwiliad)

Y ffi am gofrestru atwrneiaeth yw £82.00. Mae hon yn ffi uwch o dan adran 180 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, sy’n caniatáu i’r Arglwydd Ganghellor, gyda chydsyniad Trysorlys EF, i osod ffi sy’n fwy na chost darparu’r gwasanaeth hwnnw. Defnyddir y ffi uwch i dalu am gostau eithrio a dileu ffioedd ac i roi cymhorthdal tuag at y costau gweithredu i ddarparu goruchwyliaeth a gwasanaethau eraill.

Mae costau llawn darparu gwasanaethau’r asiantaeth a’r ffioedd a godir mewn perthynas â hyn wedi’u nodi yn y tabl isod.

Incwm gros Cost lawn Cost uned Gor-daliad / (Croes-gymhorthdal)
LPAs 113,434,000 88,092,000 63 25,342,000
EPAs 401,000 890,000 63 (489,000)
Goruchwylio dirprwyon 10,669,000 24,787,000 408 (14,118,000)
Penodi dirprwyon 886,000 4,374,000 429 (3,488,000)
Copïau swyddfa 629,000 1,059,000 39 (430,000)

Ffioedd a ddilëwyd (yn amodol ar archwiliad)

Cafodd 103,333 o ffioedd eu dileu neu eu heithrio. Cyfanswm y gwerth oedd £8.471 miliwn (2023-2024: 106,661 o achosion – £8.279 miliwn fel y disgrifir yn Nodyn 2). Ni chynhwysir hawlildiad o ffioedd yn y ffigurau hyn.

Adennill costau

Cawsom sefyllfa adennill costau o 104.3%, gostyngiad o 106.9% y llynedd. Mae hyn o fewn y goddefiant o 5% ac fe’i hamlinellir yn Nodyn 4 y datganiadau ariannol. Cyflawnwyd gor-adferiad am yr ail flwyddyn yn olynol ar ôl tan-adfer am dair blynedd yn olynol cyn hyn.

Colledion a thaliadau arbennig (yn amodol ar archwiliad)

Swm (2024 i 2025) Swm (2023 i 2024)
Taliadau arbennig 40 51
Ffioedd sy’n cael eu hildio 5790 7249
Symiau a ddiddymir 7147 8036
Taliad ex gratia 304 327
Cyfanswm 13281 15663
Cost (2024 i 2025) Cost (2023 i 2024)
Taliadau arbennig 5000 4000
Ffioedd sy’n cael eu hildio 731000 910000
Symiau a ddiddymir 674000 1049000
Taliad ex gratia 3000 7000
Cyfanswm 1413000 1970000

Ruth Duffin

Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr (Dros Dro)

11 Gorffennaf 2025

Tystysgrif ac adroddiad y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol i Dŷ’r Cyffredin

Barn ar y datganiadau ariannol

Tystiaf fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025 dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000.

Mae’r datganiadau ariannol yn cynnwys datganiadau canlynol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

  • Datganiad o’r Sefyllfa Ariannol ar 31 Mawrth 2025;

  • Datganiad o Incwm Net Cynhwysfawr, Datganiad Llifoedd Arian a Datganiad o Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny; a’r

  • nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys y polisïau cyfrifyddu pwysig.

Y fframwaith adrodd ariannol a ddefnyddiwyd wrth baratoi’r datganiadau ariannol yw’r gyfraith berthnasol a’r Safonau Cyfrifyddu Rhyngwladol a fabwysiadwyd yn y DU.

Yn fy marn i, mae’r datganiadau ariannol:

  • yn rhoi darlun cywir a theg o gyflwr materion Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 31 Mawrth 2025 a’i incwm net ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar y dyddiad hwnnw; ac

  • wedi’u paratoi’n briodol yn unol â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 a chyfarwyddiadau Trysorlys ei Mawrhydi a gyhoeddwyd dan y ddeddf.

Barn ar reoleidd-dra

Yn fy marn i, ym mhob ffordd o bwys, mae’r incwm a’r gwariant a gofnodir yn y datganiadau ariannol wedi cael eu defnyddio at y dibenion y’u bwriadwyd gan y Senedd ac mae’r trafodion ariannol a gofnodir yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Sail y farn

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio (y DU) a Nodyn Ymarfer 10 Archwilio Datganiadau Ariannol a Rheoleidd-dra Cyrff Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig (2024). Caiff fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny eu disgrifio ymhellach yng nghyfrifoldebau’r Archwilydd er mwyn archwilio adran datganiadau ariannol fy nhystysgrif.

Mae’r safonau hynny’n ei gwneud yn ofynnol i mi a fy staff gydymffurfio â Safon Moesegol Diwygiedig y Cyngor Adrodd Ariannol 2019. Rwyf yn annibynnol ar Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’m harchwiliad a’r datganiadau ariannol yn y DU. Mae fy staff a minnau wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn.

Credaf fod y dystiolaeth rwyf wedi’i chasglu o’r archwiliad yn ddigonol ac yn briodol er mwyn rhoi sail ar gyfer fy marn.

Casgliadau’n ymwneud â busnes gweithredol

Wrth archwilio’r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i’r casgliad bod defnydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o sail cyfrifyddu busnes byw wrth baratoi’r datganiadau ariannol yn briodol.

Ar sail y gwaith rwyf wedi’i wneud, nid wyf wedi nodi unrhyw ansicrwydd o bwys sy’n ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i barhau fel busnes byw am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o’r adeg yr awdurdodir cyhoeddi’r datganiadau ariannol.

Disgrifir fy nghyfrifoldebau a chyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â busnes gweithredol yn adrannau perthnasol y dystysgrif hon.

Mae’r sail cyfrifyddu busnes byw ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei mabwysiadu wrth ystyried y gofynion a nodir yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth Trysorlys EF, sy’n mynnu bod endidau’n mabwysiadu’r sail cyfrifyddu busnes byw wrth baratoi’r datganiadau ariannol lle’r rhagwelir y byddai’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn parhau i’r dyfodol.

Gwybodaeth arall

Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys gwybodaeth sydd yn yr Adroddiad Blynyddol, ond nid yw’n cynnwys y datganiadau ariannol na thystysgrif ac adroddiad fy archwilydd arnynt. Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am yr wybodaeth arall.

Nid yw fy marn ar y datganiadau ariannol yn cynnwys yr wybodaeth arall ac, ar wahân i’r graddau a nodir yn benodol yn fy nhystysgrif, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd ar hynny.

Fy nghyfrifoldeb i yw darllen yr wybodaeth arall a, drwy wneud hynny, ystyried a yw’r wybodaeth arall yn sylweddol anghyson â’r datganiadau ariannol neu fy ngwybodaeth a gafwyd yn yr archwiliad neu sydd yn ymddangos fel camddatganiad sylweddol fel arall.

Os byddaf yn canfod anghysonderau o bwys neu gamddatganiadau o bwys amlwg o’r fath, mae’n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad o bwys yn y datganiadau ariannol eu hunain. Ar sail y gwaith rwyf wedi’i wneud, os byddaf yn dod i’r casgliad bod camddatganiad o bwys o’r wybodaeth arall hon, mae’n rhaid i mi adrodd ar y ffaith honno.

Nid oes gennyf ddim i’w adrodd i’r perwyl hwn.

Barn ar faterion eraill

Yn fy marn i, mae’r rhan o’r Adroddiad Tâl a Staff sydd i’w harchwilio wedi’i pharatoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Trysorlys EF a roddwyd o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon 2000 y Llywodraeth.

Yn fy marn i, ar sail y gwaith a wnaed yn ystod yr archwiliad:

  • mae’r rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd sy’n destun archwiliad wedi’u paratoi’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Trysorlys ei Mawrhydi a roddwyd o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon 2000 y Llywodraeth;

  • mae’r wybodaeth yn yr Adroddiadau Perfformiad ac Atebolrwydd ar gyfer y flwyddyn ariannol y mae’r datganiadau ariannol wedi’u paratoi ar ei chyfer yn cyd-fynd â’r datganiadau ariannol ac yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol.

Materion y cyflwynaf adroddiad arnynt drwy eithriad

Yng ngoleuni fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’i hamgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi dod o hyd i unrhyw gamddatganiadau materol yn yr Adroddiad Perfformiad ac Atebolrwydd.

Nid oes gennyf ddim i’w adrodd yng nghyswllt y materion canlynol lle mae’n ofynnol i mi roi gwybod i chi os ydw i’n credu:

  • nad oes digon o gofnodion cyfrifyddu wedi’u cadw gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus neu os nad oes ffurflenni perthnasol i’n harchwiliad wedi cael eu cyflwyno gan ganghennau nad yw ein staff wedi ymweld â nhw; neu

  • nid wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau y mae eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad; neu

  • os nad yw’r datganiadau ariannol a rhannau o’r Adroddiad Atebolrwydd a fydd yn destun archwiliad yn cyd-fynd â’r cofnodion cyfrifyddu a’r ffurflenni; neu

  • nid yw rhai o’r taliadau a nodir yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth gan Drysorlys EF wedi cael eu gwneud neu nid yw rhannau o’r Adroddiad Tâl a Staff sydd i’w harchwilio yn cyd-fynd â’r ffurflenni a’r cofnodion cyfrifyddu; neu

  • nid yw’r Datganiad Llywodraethu’n adlewyrchu cydymffurfiaeth â chanllawiau Trysorlys EF.

Cyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu dros y datganiadau ariannol

Fel yr eglurir yn fanylach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau’r Swyddog Cyfrifyddu, mae’r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am y canlynol:

  • cadw cofnodion cyfrifyddu priodol;

  • rhoi’r wybodaeth a’r esboniadau ychwanegol sydd eu hangen ar y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol ar gyfer ei archwiliad;

  • rhoi mynediad digyfyngiad i’r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol i unigolion yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus y mae’r archwilydd yn penderfynu ei bod yn angenrheidiol cael tystiolaeth archwilio ganddynt;

  • sicrhau bod rheolaethau mewnol o’r fath ar waith yn ôl yr angen er mwyn gallu paratoi datganiadau ariannol nad ydynt yn cynnwys camddatganiadau o bwys, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad;

  • paratoi datganiadau ariannol sy’n rhoi darlun cywir a theg a’u bod yn unol â chyfarwyddiadau Trysorlys EF a roddwyd o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000;

  • asesu gallu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i barhau fel busnes byw, gan ddatgelu, fel y bo’n berthnasol, faterion sy’n gysylltiedig â busnes byw a defnyddio’r sail cyfrifyddu busnes byw oni fo’r Swyddog Cyfrifyddu yn rhagweld na fydd y gwasanaethau a ddarperir gan y Swyddfa yn parhau i gael eu darparu yn y dyfodol.

  • Cyfrifoldebau’r Archwilydd dros archwilio’r datganiadau ariannol

Ein cyfrifoldeb yw archwilio, ardystio ac adrodd ar y datganiadau ariannol yn unol â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000.

Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiadau o bwys, boed hynny oherwydd twyll neu gamgymeriad, a rhoi tystysgrif sy’n cynnwys fy marn i. Mae sicrwydd rhesymol yn golygu lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw hynny’n gwarantu bod archwiliad sy’n cael ei gynnal yn unol ag ISAs (DU) bob amser yn canfod camddatganiadau sylweddol. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wallau ac maent yn cael eu hystyried yn gamddatganiadau o bwys os, yn unigol neu gyda’i gilydd, y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr sydd wedi’u gwneud ar sail y datganiadau ariannol hyn.

I ba raddau yr ystyriwyd bod yr archwiliad yn gallu canfod achosion o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll

Rwy’n dylunio gweithdrefnau yn unol â fy nghyfrifoldebau, a amlinellir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol yng nghyswllt peidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll. Nodir isod fanylion ynghylch i ba raddau y gall fy ngweithdrefnau ganfod achosion o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll.

Canfod ac asesu risgiau posibl sy’n gysylltiedig â diffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll

Wrth ganfod ac asesu risgiau camddatganiadau perthnasol yng nghyswllt peidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, gan gynnwys twyll, fe wnes i:

  • ystyried natur y sector, yr amgylchedd rheoli a pherfformiad gweithredol gan gynnwys dyluniad polisïau cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, dangosyddion perfformiad allweddol a chymhellion perfformiad;

  • holi rheolwyr, pennaeth archwilio mewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys cael ac adolygu dogfennau ategol sy’n ymwneud â pholisïau a gweithdrefnau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ynghylch:

    • nodi, gwerthuso a chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau;

    • canfod ac ymateb i risgiau o dwyll; a’r

    • rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy’n gysylltiedig â thwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau gan gynnwys rheolaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sy’n ymwneud â chydymffurfiad y Swyddfa â Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000 a Rheoli Arian Cyhoeddus;

  • holi rheolwyr, pennaeth archwilio mewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a’r rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, os oeddynt:

    • yn ymwybodol o unrhyw enghreifftiau o beidio â chydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau;

    • yn gwybod am unrhyw dwyll gwirioneddol, amheuaeth o dwyll neu dwyll honedig;

  • yn trafod gyda’r tîm ymgysylltu ynghylch, yn cynnwys arbenigwyr TG, sut a ble y gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion posibl o dwyll.

O ganlyniad i’r gweithdrefnau hyn, ystyriais y cyfleoedd a’r cymhellion a allai fodoli yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer twyll, a nodais fod y posibilrwydd mwyaf ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: cydnabod refeniw, postio cyfnodolion anarferol, trafodion cymhleth a rhagfarn yn amcangyfrifon y rheolwyr. Yn yr un modd â phob archwiliad o dan ISAs (y DU), mae’n ofynnol i mi ddilyn gweithdrefnau penodol i ymateb i’r risg y bydd rheolwyr yn diystyru rheolaethau.

Cefais ddealltwriaeth o fframwaith awdurdod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol eraill y mae’r Swyddfa’n gweithredu ynddynt. Canolbwyntiais ar y cyfreithiau a’r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar symiau a datgeliadau sylweddol yn y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Roedd y cyfreithiau a’r rheoliadau allweddol y gwnaethom eu hystyried yn y cyd-destun hwn yn cynnwys Deddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000, Deddf Rheoli Arian Cyhoeddus, Deddf Cyflenwi a Dyraniadau (Prif Amcangyfrifon) 2023, cyfraith cyflogaeth a deddfwriaeth pensiynau, deddfwriaeth treth, deddfau diogelu data a Deddf Galluedd Meddyliol 2005.

Ystyriais y gweithdrefnau asesu risg a ddefnyddiwyd mewn perthynas â thwyll, diffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau, a rheoleidd-dra.

Ymateb yr archwiliad i’r risgiau a nodwyd

Ymateb i’r risgiau a nodwyd sy’n deillio o’r gweithdrefnau uchod:

  • Adolygais ddatgeliadau a phrofion y datganiad ariannol i ddogfennaeth ategol i asesu cydymffurfiaeth â darpariaethau deddfau a rheoliadau perthnasol a ddisgrifir uchod fel rhai sy’n cael effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol;

  • Fe wnes i holi rheolwyr, y Pwyllgor Archwilio a Risg a’r cwnsler cyfreithiol ynghylch ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a phosibl;

  • Adolygais gofnodion cyfarfodydd y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu, y Bwrdd, ac adroddiadau archwilio mewnol;

  • Fe wnes i fynd i’r afael â’r risg o dwyll drwy ddiystyru rheolaethau gan reolwyr, drwy brofi priodoldeb cofnodion dyddlyfrau ac addasiadau eraill; asesu a yw’r penderfyniadau ar amcangyfrifon yn arwydd o ragfarn bosibl; a gwerthuso rhesymeg busnes unrhyw drafodion arwyddocaol sy’n anarferol neu y tu allan i gwrs arferol busnes.

Rwyf wedi cyfleu’r cyfreithiau a’r rheoliadau perthnasol a nodwyd a’r risgiau posibl o ran twyll i holl aelodau’r tîm ymgysylltu, ac roeddwn yn dal yn effro i unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau drwy gydol yr archwiliad.

Mae disgrifiad pellach o fy nghyfrifoldebau dros archwilio’r datganiadau ariannol ar gael ar wefan y Cyngor Adroddiadau Ariannol yn: www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae’r disgrifiad hwn yn rhan o fy nhystysgrif.

Cyfrifoldebau eraill yr archwilydd

Mae’n rhaid i mi gael digon o tystiolaeth archwilio perthnasol sy’n ddigon i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a’r incwm sydd wedi’u cofnodi yn y datganiadau ariannol wedi cael eu defnyddio at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod trafodion ariannol y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â’r awdurdodau sy’n eu llywodraethu.

Rwyf yn cyfathrebu â’r rheini sydd yn gyfrifol am lywodraethu ynghylch, ymysg materion eraill, cwmpas ac amseriad yr archwiliad a chanfyddiadau pwysig yr archwiliad, gan gynnwys unrhyw ddiffygion sylweddol mewn rheolaeth fewnol rwy’n dod o hyd iddynt yn ystod fy archwiliad.

Adroddiad

Nid oes gennyf sylwadau i’w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.

Gareth Davies

Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol

14 Gorffennaf 2025

Swyddfa Archwilio Genedlaethol

157-197 Buckingham Palace Road

Victoria

Llundain

SW1W 9SP

Datganiadau ariannol

Datganiad o incwm net cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025

  2024 i 2025 2023 i 2024    
  Noder £000 £000  
Refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid 2 (126,221) (115,046)  
Cyfanswm yr incwm gweithredu (126,221) (115,046)    
Costau Staff 3 77,884 70,376  
Costau gweithredu eraill 3 36,281 30,806  
Taliadau dibrisiant, amorteiddio ac amhariad 3 6,909 6,457  
Cyfanswm gwariant gweithredu 121,074 107,639    
Gwarged gweithredol net (5,147) (7,407)    
Gwariant cynhwysfawr arall        
Enillion net ar ailbrisio asedau anniriaethol 5 - (87)  
Enillion net ar ailbrisio eiddo, offer a chyfarpar 6 (21) (58)  
Cyfanswm yr incwm net cynhwysfawr (5,168) (7,552)    

Mae’r holl incwm a gwariant yn deillio o weithrediadau parhaus.

Mae’r nodiadau yn yr adran datganiadau ariannol yn rhan o’r datganiadau ariannol hyn.

Datganiad o’r sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2025

  31 Mawrth 2025 31 Mawrth 2024  
  Noder £000 £000
Asedau anghyfredol      
Asedau anniriaethol 5 5,626 8,163
Eiddo, offer a chyfarpar 6 1,792 2,453  
Asedau hawl i’w defnyddio 7 3,026 6,113
Cyfanswm asedau anghyfredol 10,444 16,729  
Asedau cyfredol      
Symiau derbyniadwy drwy fasnach ac eraill 9 12,868 12,584
Arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod 10 13,024 8,889
Cyfanswm asedau cyfredol 25,892 21,473  
Cyfanswm asedau 36,336 38,202    
Rhwymedigaethau cyfredol      
Symiau taladwy drwy fasnach ac eraill 11 (33,620) (44,578)
Rhwymedigaethau ariannol eraill 12 (2,648) (2,973)
Darpariaethau 13 (3,588)  
Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol (39,856) (47,551)  
Cyfanswm yr asedau, llai’r rhwymedigaethau cyfredol (3,520) (9,349)  
Rhwymedigaethau anghyfredol      
Rhwymedigaethau ariannol eraill 12 (- (2,144)
Darpariaethau 13 - (3,400)
Cyfanswm rhwymedigaethau anghyfredol - (5,544)  
Cyfanswm yr asedau, llai’r rhwymedigaethau (3,520) (14,893)  
    31 Mawrth
2025
31 Mawrth
2024
  Noder £000 £000
Ecwiti trethdalwyr      
Cronfa gyffredinol (3,797) (15,338)  
Cronfa ailbrisio wrth gefn 277 445  
Cyfanswm ecwiti trethdalwyr (3,520) (14,893)  

Mae’r nodiadau yn yr adran Datganiadau Ariannol yn rhan o’r datganiadau ariannol hyn.

Ruth Duffin

Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr (Dros Dro)

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

11 Gorffennaf 2025

Datganiad llif arian ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025

    2024 i
2025
2023 i
2024
  Noder £000 £000
Llif arian o weithgareddau gweithredol      
Gwarged gweithredol net   5,147 7,407
Addasiadau ar gyfer trafodion tybiannol a rhai nad ydynt yn arian parod 3 22,198 17,876
Gostyngiad/(cynnydd) mewn masnach a symiau derbyniadwy eraill 9 264 (749)
Balansau rhwng adrannau wedi’u setlo drwy’r cronfeydd wrth gefn cyffredinol   8,864 6,048
Gostyngiad/(cynnydd) mewn masnach a symiau taladwy eraill 11 (10,950) 3,137
Gostyngiad mewn rhwymedigaethau ariannol eraill 12 (2,469) (1,793)
Llai symudiad mewn rhwymedigaethau prydles nad ydynt yn mynd drwy’r Datganiad o (incwm)/gwariant net cynhwysfawr 7 2,469 1,793
Mewnlif arian parod net o weithgareddau gweithredol   25,523 33,719
Llif arian parod o weithgareddau buddsoddi      
Prynu eiddo, offer a chyfarpar 6 84 (364)  
Gostyngiad mewn croniadau cyfalaf 11 (8) (7)
Mewnlif/(all-lif) arian parod net o weithgareddau buddsoddi 76 (371)  
Llif arian o weithgareddau ariannu      
Ildio arian parod dros ben i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder   (19,000) (36,000)
Ad-dalu’r prifswm ar lesoedd 7 (2,464) (2,567)
All-lif arian parod net a ddefnyddiwyd mewn gweithgareddau ariannu   (21,464) (38,567)
Cynnydd / (gostyngiad) net mewn arian parod a symiau cyfwerth ag arian parod yn y flwyddyn 10 4,135 (5,219)
Arian parod a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod ar ddechrau’r flwyddyn 10 8,889 14,108
Arian parod a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod ar ddiwedd y flwyddyn 10 13,024 8,889

Mae’r nodiadau yn yr adran Datganiadau Ariannol yn rhan o’r datganiadau ariannol hyn.

Datganiad newidiadau yn ecwiti trethdalwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025

    Cronfa
Gyffredinol
Cronfa Ailbrisio
Wrth Gefn
Cyfanswm
  Noder £000 £000 £000
Balans ar 1 Ebrill 2024   (15,338) 445 (14,893)
Gwarged gweithredu net am y flwyddyn   5,147 - 5,147
Ildio arian parod dros ben i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder   (19,000) - (19,000)
Addasiadau nad ydynt yn arian parod        
Ailgodi tâl tybiannol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder dros 3 blynedd 3 15,753 - 15,753
Ffi archwilio allanol tybiannol 3 84 - 84
Balansau rhwng adrannau wedi’u setlo drwy’r cronfeydd wrth gefn cyffredinol   8,864 - 8,864
Trosglwyddo asedau o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder 5 504 - 504
Enillion net ar ailbrisio asedau anniriaethol 5 - - -
Eiddo, offer a chyfarpar 6 - 21 21
Trosglwyddiad ailbrisio     189 (189)
Balans ar 31 Mawrth 2025   (3,797) 277 (3,520)
    Cronfa Gyffredinol
Wedi’i Hailddatgan
Cronfa Ailbrisio Wrth Gefn Cyfanswm Wedi’i Ailddatgan  
  Noder £000 £000 £000  
Balans ar 01 Ebrill 2023   (7,420) 437 (6,983)  
Gwarged gweithredu net am y flwyddyn   7,407 - 7,407  
Ildio arian parod dros ben i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder   (36,000) - (36,000)  
Addasiadau nad ydynt yn arian parod          
Ailgodi tâl tybiannol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder dros 3 blynedd 3 12,071 - 12,071  
Ffi archwilio allanol tybiannol 3 81 - 81  
Balansau rhwng adrannau wedi’u setlo drwy’r cronfeydd wrth gefn cyffredinol   6,048 - 6,048  
Trosglwyddo asedau o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder 5 2,338 - 2,338  
Enillion net ar ailbrisio asedau anniriaethol 5 - 87 87  
Eiddo, offer a chyfarpar 6 - 58 58  
Trosglwyddiad ailbrisio     137 (137) -
Balans ar 31 Mawrth 2024   (15,338) 445 (14,893)  

Mae’r nodiadau yn yr adran Datganiadau Ariannol yn rhan o’r datganiadau ariannol hyn.

Nodiadau i’r datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025

Datganiad polisïau cyfrifyddu

Mae’r datganiadau ariannol hyn wedi cael eu paratoi yn unol â Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth 2024-2025 (FReM) a gyhoeddwyd gan Drysorlys EF. Mae’r polisïau cyfrifo a gynhwysir yn FReM yn defnyddio Safonau Adroddiadau Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y’u haddaswyd neu y’u dehonglwyd ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus.

Pan fydd FReM yn caniatáu dewis o bolisi cyfrifyddu, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dewis y polisi sydd orau am gyflwyno safbwynt cywir a theg. Mae polisïau cyfrifyddu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi’u rhoi ar waith yn gyson wrth ymdrin â’r eitemau a ystyriwyd yn berthnasol yng nghyswllt y cyfrifon.

Sail paratoi

Cyflwynir y datganiadau ariannol mewn punnoedd sterling wedi eu talgrynnu i’r mil agosaf (£000) oni nodir yn wahanol. Paratowyd y cyfrifon hyn o dan y confensiwn cost hanesyddol, ar wahân i ailbrisio asedau.

Paratowyd y datganiadau ariannol, ynghyd â’r nodiadau yn yr adran Datganiadau Ariannol, ar sail gronnus yn unol â’r cyfarwyddyd cyfrifyddu a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Adnoddau a Chyfrifon y Llywodraeth 2000.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei hariannu’n bennaf o ffioedd a thaliadau gan gwsmeriaid allanol, ond mae hefyd yn cael cyllid ar gyfer buddsoddiad cyfalaf gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, o’i chyflenwad seneddol, ac os oes angen, cyllid i fodloni unrhyw ddiffyg a gynhyrchir. Gan hynny, ystyriwyd ei bod yn briodol mabwysiadu’r sail busnes byw ar gyfer paratoi’r datganiadau ariannol hyn.

Penderfyniadau cyfrifyddu critigol a’r prif ffynonellau o ansicrwydd amcangyfrif

Wrth gymhwyso’r polisïau cyfrifyddu, a ddisgrifir isod, mae’n ofynnol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wneud penderfyniadau, amcangyfrifon a thybiaethau ynghylch symiau cario ymlaen asedau a rhwymedigaethau nad ydynt yn gwbl amlwg o ffynonellau eraill, a datgelu penderfyniadau sylweddol yma.

Ffynonellau allweddol o ansicrwydd amcangyfrif

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o’r farn nad oes amcangyfrifon sylweddol wedi cael eu gwneud wrth gynhyrchu’r datganiadau ariannol.

Penderfyniadau cyfrifyddu critigol

Mae’r canlynol yn benderfyniadau sylweddol a ddefnyddiwyd wrth gynhyrchu’r datganiadau ariannol

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod bod disgwyliad y bydd yn colli credyd mewn perthynas â symiau masnach derbyniadwy ac asedau contract. Darperir manylion y dechneg amcangyfrif a’r canrannau amhariad a ddefnyddiwyd, a dadansoddiad o sensitifrwydd, yn Nodyn 9, Symiau masnach derbyniadwy a symiau derbyniadwy eraill.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd yn darparu ar gyfer ceisiadau llwyddiannus tebygol yn y dyfodol am ffioedd dileu ac esemptiadau a godir, ar sail lefelau dileu ac esemptiadau hanesyddol. Rhoddir rhagor o fanylion yn Nodyn 9, Symiau masnach derbyniadwy a symiau derbyniadwy eraill.

Newidiadau mewn polisïau cyfrifyddu a datgeliadau

Mabwysiadu safonau newydd a diwygiedig

Mae FreM 2025-26 yn tynnu’n ôl yr opsiwn i ail-fesur asedau anniriaethol gan ddefnyddio’r model ailbrisio o 1 Ebrill 2025 ymlaen. Gyda chaniatâd Trysorlys EF, mae holl endidau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn mabwysiadu’r addasiad hwn i IAS 38 yn gynnar. Mae’r newid hwn yn cael ei roi ar waith yn rhagolygol gyda gwerthoedd cario ymlaen ar y dyddiad trosglwyddo, sef 1 Ebrill 2024, bellach yn cael eu hystyried yn gost hanesyddol. Nid yw asedau anniriaethol wedi cael eu hailbrisio ym mlwyddyn 2024-25.

Cyhoeddwyd safonau, diwygiadau a dehongliadau newydd ond nid ydynt yn weithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol yn dechrau ar 1 Ebrill 2024 ac ni chawsant eu mabwysiadu’n gynnar

Mae Contractau Yswiriant IFRS 17 yn cael eu rhoi ar waith yn y FReM o 1 Ebrill 2025 ymlaen, a’r dyddiad trosglwyddo yw 1 Ebrill 2024.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi asesu effaith amcangyfrifiedig IFRS 17 ar ei datganiadau ariannol drwy adolygu contractau, darpariaethau, asedau digwyddiadol a rhwymedigaethau, ac mae wedi dod i’r casgliad na fydd gweithredu IFRS 17 yn cael effaith sylweddol ar ei datganiadau ariannol ar gyfer 2025 i 2026.

Diwygiad o ganlyniad i beidio â chyhoeddi Mynegeion Pris Cynhyrchwyr y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS)

Ym mis Mawrth 2025, cyhoeddodd ONS y byddai oedi cyn cyhoeddi’r data hwn ar Fynegai Prisiau Cynhyrchwyr (PPI) a ddefnyddir i ailbrisio asedau nad ydynt yn rhai tir ac adeiladau ar ôl canfod gwallau hanesyddol. Nid oes data PPI ar gael ar gyfer 2025 ac yng ngoleuni’r ansicrwydd ynghylch mynegeion hanesyddol, nid oes unrhyw fynegeio wedi cael ei gymhwyso i unrhyw asedau nad ydynt yn asedau tir ac adeiladau yn 2024 i 2025. Mae’n bosibl y gallai’r gwallau hanesyddol yn nata’r Swyddfa Ystadegau Gwladol droi’n wallau yng ngwerthoedd cario ymlaen yr asedau a ddygwyd ymlaen ar 1 Ebrill 2024; fodd bynnag, cynhaliwyd dadansoddiad o sensitifrwydd i ddangos ei bod yn annhebygol iawn y gallai’r rhain fod wedi arwain at wall sylweddol. Rydym wedi cadw holl ffigurau 2023-2024 fel y’u cyhoeddwyd gan nad oes gennym fanylion am lefel y gwall dan sylw ac felly nid ydym yn gallu cyfrifo ffigur wedi’i ailddatgan.

Ariannu

Telir am weithgareddau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn bennaf drwy ffioedd a thaliadau gan gwsmeriaid allanol, ond gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd gael cyllid ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder a chyllid i gwrdd ag unrhyw ddiffyg a gynhyrchir, os oes angen.

Fel y cytunwyd gyda Thrysorlys EM ac yn unol â’r gyllideb a ddirprwywyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, amcan ariannol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw adennill o fewn 5% o’i chostau. Rhoddir manylion y perfformiad yn erbyn yr amcan hwn yn Nodyn 4, Adennill costau. Pan fydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynhyrchu gwarged arian parod, caiff hyn ei ildio i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Caiff trosglwyddiadau cyllid i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac oddi wrthi eu cydnabod yn y gronfa gyffredinol ac yn y datganiad llif arian o dan y teitl ‘cyllido’.

Adroddiadau segmentol

Mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus un segment gweithredu i’w hadrodd o dan IFRS 8. Felly, nid yw’n paratoi dadansoddiad manwl fesul segment.

Incwm

Mae refeniw o gontractau gyda chwsmeriaid yn cynnwys ffioedd am wasanaethau sy’n cael eu pennu ar sail adennill costau llawn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae incwm o ffioedd yn cynnwys symiau am wasanaethau atwrneiaeth, goruchwyliaeth, a chopïau o dystysgrifau atwrneiaeth, a ddarperir. Mae incwm yn cael ei gydnabod yn unol ag IFRS 15 Refeniw o Gontractau gyda Chwsmeriaid.

Atwrneiaethau arhosol a atwrneiaethau parhaus

Mae ffioedd atwrneiaethau’n daladwy ar ôl derbyn y cais ond, yn unol ag IFRS 15, ni fydd incwm sy’n deillio ohonynt yn cael ei gydnabod nes cwblhau’r gwasanaeth a ddarperir, naill ai wrth gofrestru’r atwrneiaeth neu os bydd camau prosesu’n dod i ben cyn cofrestru. Pan fydd cwsmeriaid yn talu ffioedd atwrneiaethau ar-lein cyn cyflwyno eu cais, mae’r cronfeydd hyn hefyd yn cael eu dal mewn rhwymedigaethau contract. Os na dderbynnir cais ar-lein ar ôl i’r cwsmer dalu, caiff y swm a dalwyd ei ad-dalu.

Goruchwylio dirprwyon

Cydnabyddir incwm goruchwylio bob dydd ar gyfer pob achos gweithredol. Mae incwm goruchwylio yn cael ei anfonebu ar gylch blynyddol hyd at y dyddiad y daw gwaith goruchwylio achos i ben, wedi’i gyfrifo ar sail pro rata.

Cydnabyddir incwm fel ased contract. Mae darpariaeth drwgddyled yn cael ei chyfrifo, ar sail y model colled credyd disgwyliedig, ac mae’n cael ei netio oddi ar asedau contract, naill ai pan fydd ffioedd yn cael eu hanfonebu neu wrth iddynt gronni.

Esemptiadau a dileu ffioedd

Mae incwm ffioedd yn cael ei gydnabod net o esemptiadau a dileu ffioedd. Mae’r cynllun dileu ffioedd wedi’i ragnodi yn Rheoliadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (Ffioedd, ac ati) 2007 a gymeradwywyd gan y Senedd, ac ni chesglir ffioedd a ddilëwyd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Rhaid gwneud cais am esemptiad neu ddileu ffi gyda’r cais cychwynnol i gofrestru atwrneiaeth neu, ar gyfer ffioedd goruchwylio, rhaid ei gyflwyno o fewn chwe mis i ddyddiad hawlio’r ffi.

Yn yr achosion lle nad yw cais am esemptiad neu ddileu ffi yn cael ei wneud adeg hawlio’r ffi, mae’n rhaid cyflwyno cais wedi’i gwblhau am esemptiad neu ddileu ffi o fewn chwe mis o anfonebu.

Pan fydd ffi wedi’i thalu ac y cytunir ar esemptiad neu ddileu ffi wedi hynny, rhoddir ad-daliad.

Buddion gweithwyr

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cronni ar gyfer cost ddisgwyliedig gwyliau blynyddol ei gweithwyr yn unol ag IAS 19 Buddion Gweithwyr. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd yn cronni ar gyfer bonysau perfformiad a ddyfarnwyd ond nad ydynt wedi cael eu talu eto.

Pensiynau

Mae Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn gynllun buddion diffiniedig nas cyllidir, lle nad yw’r Swyddfa’n gallu nodi ei chyfran o’r asedau a’r rhwymedigaethau sylfaenol. Yn unol â’r FReM, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cyfrif am hwn fel cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod cyfraniadau sy’n daladwy i gynlluniau cyfraniadau diffiniedig fel traul yn y flwyddyn y’i codir, ac mae’r rhwymedigaeth gyfreithiol neu adeiladol wedi’i chyfyngu i’r swm y mae’n cytuno i’w gyfrannu at y gronfa.

Ad-daliadau tybiannol

Mae’r ad-daliad tybiannol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynrychioli defnydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o wasanaethau corfforaethol.

Mae’r ffi archwilio dybiannol yn cynrychioli cost yr archwiliad allanol blynyddol a gyflawnir gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar ran y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol.

Cyfrifo treth ar werth

Priodolir TAW na ellir ei hadennill i’r categori gwariant perthnasol neu, os yw’n briodol, wedi’i chyfalafu gydag ychwanegiadau i asedau anghyfredol. Fel arall, dangosir incwm a gwariant heb gynnwys TAW.

Asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu

Bydd asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu’n cael eu prisio ar sail eu cost hanesyddol o fewn eiddo, offer a chyfarpar ac asedau anniriaethol fel y bo’n briodol, ac ni fydd y rhain yn cael eu dibrisio na’u hamorteiddio.

Asedau anniriaethol

Cydnabyddiaeth gychwynnol

Mae costau datblygu y gellir eu priodoli’n uniongyrchol i ddylunio a phrofi cynnyrch meddalwedd adnabyddadwy ac unigryw, fel costau contractwyr allanol a chostau gweithwyr perthnasol, yn cael eu cydnabod fel asedau anniriaethol yn unol ag ‘Asedau Anniriaethol’ IAS 38 fel yr addaswyd gan y FReM. Mae mabwysiadu addasiad FReM 2025-2026 IAS 38 yn gynnar wedi cael ei ymgorffori, gan ddileu’r model ailbrisio o 1 Ebrill 2024 ymlaen. Mae gwariant arall nad yw’n bodloni’r meini prawf hyn yn cael ei nodi fel gwariant fel mae’n codi.

Rheolir meddalwedd a ddatblygir yn fewnol gan dîm Digidol y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Nes iddynt gael eu cwblhau, caiff y costau eu cynnwys yng nghyfrifon y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Ar ôl eu cwblhau, trosglwyddir yr asedau i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus a’u cydnabod yng nghyfrifon y Swyddfa. Trothwy cyfalafu prosiectau meddalwedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw £10,000 (gan gynnwys TAW na ellir ei hadennill).

Prisio dilynol

Tan 31 Mawrth 2024, cafodd asedau anniriaethol eu hailbrisio wedyn gan ddefnyddio mynegeion fel amcangyfrif o werth presennol yr asedau hyn a’u hamorteiddio dros oes ddefnyddiol yr ased fel yr amcangyfrifwyd gan berchnogion yr asedau. Ers 1 Ebrill 2024, mae holl endidau grŵp y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cael caniatâd gan Drysorlys EF i dynnu’r model ailbrisio yn ôl ar gyfer asedau anniriaethol, gweler 1.c Newidiadau mewn Polisïau Cyfrifyddu a Datgeliadau. Ystyrir bod y gwerthoedd cario ymlaen ar y dyddiad trosglwyddo, sef 1 Ebrill 2024, yn gost hanesyddol.

Amorteiddiad

Mae oes ddefnyddiol meddalwedd a ddatblygir yn fewnol yn amrywio rhwng dwy a saith mlynedd. Yn unol ag IAS 38 (Asedau Anniriaethol), mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn adolygu oes economaidd ddefnyddiol ei hasedau anniriaethol ym mhob blwyddyn ariannol, ac yn asesu am amhariad.

Priodolir amorteiddiad ar sail llinell syth ar gyfraddau sydd wedi’u cyfrifo i ddileu gwerth asedau llai’r amcangyfrif o’r gwerth gweddilliol dros oes economaidd ddefnyddiol yr ased.

Eiddo, offer a chyfarpar

Cydnabyddiaeth gychwynnol

Caiff asedau eiddo, offer a chyfarpar sy’n costio mwy na’r trothwy cyfalafu o £10,000 (gan gynnwys TAW na ellir ei hadennill) eu trin fel asedau cyfalaf. Pan fydd eitem yn costio llai na’r trothwy cyfalafu ond yn rhan o ased neu ased wedi’i grwpio, y mae cyfanswm ei werth yn fwy na’r lefel gyfalafu, bydd yr eitem yn cael ei thrin fel ased cyfalaf.

Prisio dilynol

Ar ôl cael eu cydnabod i gychwyn, mae pob ased ar wahân i asedau sydd wrthi’n cael eu hadeiladu’n cael eu datgan yn hanesyddol ar sail eu gwerth presennol ac yn cael eu hailbrisio ar bob dyddiad adrodd gan ddefnyddio’r PPI a baratoir gan yr ONS. Ym mis Mawrth 2025, cyhoeddodd ONS oedi cyn cyhoeddi’r data hwn ar ôl canfod gwallau hanesyddol; felly, nid oes data PPI ar gael ar gyfer 2025 ac nid oes unrhyw fynegeio wedi cael ei gymhwyso i asedau nad ydynt yn rhai tir ac adeiladau yn 2024 i 2025. Mae ailbrisiadau blynyddoedd blaenorol wedi bod yn amherthnasol, yn ystod y flwyddyn ac ar y cyd, ac mae effaith gohirio ailbrisio ar gyfer 2024 i 2025 hefyd yn amherthnasol.

Dibrisiant

Priodolir dibrisiant ar sail llinell syth ar gyfraddau sydd wedi’u cyfrifo i ddileu gwerth asedau llai’r amcangyfrif o’r gwerth gweddilliol yn gyson dros eu hoes ddefnyddiol.

Amcangyfrifir oes fuddiol asedau o fewn yr ystodau a ganlyn:

  • gwelliannau lesddaliad – gweddill cyfnod y les

  • dodrefn a ffitiadau – 10 mlynedd

  • offer a chyfarpar – 5 i 7 mlynedd

  • technoleg gwybodaeth – 3 i 7 mlynedd

Adolygir oes ddefnyddiol asedau a chategorïau asedau bob blwyddyn.

Lesoedd

Cwmpas a gwaharddiadau – Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel lesddeiliad

Yn unol ag IFRS 16 Lesoedd, mae contractau, neu rannau o gontractau, sy’n cyfleu’r hawl i reoli’r defnydd o ased am gyfnod o amser, yn cael eu hystyried fel lesoedd.

Caiff contractau ar gyfer gwasanaethau eu gwerthuso i benderfynu a ydynt yn cyfleu’r hawl i reoli’r defnydd o ased a ddynodwyd, gan ymgorffori’r hawl i gael yr holl fanteision economaidd yn sylweddol o’r ased ac i gyfeirio’r defnydd ohono. Os felly, caiff y rhan berthnasol o’r contract ei thrin fel les.

Mae IFRS 16, fel y’u haddaswyd gan FReM, wedi cael eu cymhwyso i lesoedd sydd â dim ystyriaeth neu ystyriaeth nominal (hynny yw, yn is o lawer na gwerth y farchnad) a threfniadau ar gyfer llety rhwng adrannau’r llywodraeth.

Wrth wneud yr asesiadau uchod, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn eithrio dau fath o les. Yn gyntaf, y rheini sy’n gysylltiedig ag eitemau gwerth isel, y mae’n eu hystyried fel y rheini lle byddai’r ased sylfaenol yn costio llai na £10,000 yn newydd, ar yr amod nad yw’r eitemau hynny’n ddibynnol iawn ar eitemau eraill neu wedi’u hintegreiddio â nhw. Yn ail, contractau sy’n para llai na deuddeg mis (sy’n cynnwys y cyfnod na ellir ei ganslo ynghyd ag unrhyw opsiynau ymestyn y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhesymol sicr o’u harfer ac unrhyw opsiynau terfynu y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhesymol sicr o beidio â’u hymarfer).

Cydnabyddiaeth gychwynnol – Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel lesddeiliad

Ar ddechrau les, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cydnabod ased hawl i ddefnyddio ac atebolrwydd prydles.

Mae rhwymedigaeth y les yn cael ei mesur yn ôl gwerth gweddill y taliadau les, a ddiystyrir naill ai gan y gyfradd llog sydd ymhlyg yn y les, neu lle nad oes modd pennu hyn yn rhwydd, cyfradd fenthyca Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Argymhellir y gyfradd hon yn flynyddol gan Drysorlys EF ac mae’n berthnasol i lesoedd sy’n dechrau neu sy’n cael eu hailfesur yn y flwyddyn honno. Trosglwyddodd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i IFRS16 yn 2021-2022, a gostyngwyd y lesoedd a gyfalafwyd ar gyfradd Trysorlys EF yn 2021, sef 0.91%.

Os yw’r les yn cynnwys opsiynau ymestyn neu derfynu, bydd taliadau’r les ar gyfer y cyfnod na ellir ei ganslo ynghyd ag unrhyw opsiynau ymestyn neu derfynu y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhesymol sicr o’u hymarfer/ o beidio â’u hymarfer.

Nid yw mesur taliadau prydles yn cynnwys unrhyw TAW sy’n daladwy, ac mae TAW na ellir ei hadennill yn cael ei gwario ar y pwynt y mae’n ddyledus yn unol â Lifiau IFRIC 21. Pan fydd Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth yn trosglwyddo cost TAW sy’n daladwy i brif landlord, ond nad yw wedi dewis trethu’r eiddo, ni fydd y gost TAW a drosglwyddir yn cael ei chynnwys, mae wedi’i chynnwys yn y rhwymedigaeth lesoedd a gwerth asedau y mae hawl i’w defnyddio.

Mae’r ased hawl i ddefnyddio yn cael ei fesur ar sail gwerth rhwymedigaeth y les, wedi’i addasu ar gyfer: unrhyw daliadau les a wnaed cyn y dyddiad cychwyn; unrhyw gymhellion les a gafwyd; unrhyw gostau cynyddrannol o gael y les; ac unrhyw gostau o gael gwared â’r ased ac adfer y safle ar ddiwedd y les.

Mesur dilynol – Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus fel lesddeiliad

Bydd rhwymedigaeth y les yn cael ei haddasu ar gyfer cronni llog, ad-daliadau, ailasesiadau ac addasiadau. Mae ailasesu yn golygu ailarfarnu tebygolrwydd yr opsiynau a roddir gan gontract y les bresennol.

Ar ôl y gydnabyddiaeth gychwynnol, defnyddir y model gwerth teg i fesur yr asedau hawl i’w defnyddio. Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ystyried bod y model costau (gan gyfeirio at rwymedigaeth y les) yn brocsi rhesymol ar gyfer gwerth teg, yn achos lesoedd nad ydynt ar gyfer eiddo, ac ar gyfer lesoedd eiddo sy’n llai na phum mlynedd neu lle adolygir rhent yn rheolaidd. Ar gyfer lesoedd eraill, bydd yr ased yn cael ei gario ar swm wedi’i ailbrisio.

Bydd gwerth yr ased yn cael ei addasu ar gyfer amorteiddiad ac amhariad dilynol, ac ar gyfer ailasesu ac addasu rhwymedigaeth y les fel y disgrifir uchod. Os yw swm gostyngiad i’r ased yn fwy na gwerth cario ymlaen yr ased, cydnabyddir y swm dros ben mewn gwariant.

Mae gwariant ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn cynnwys llog ar y rhwymedigaeth lesoedd a thâl amorteiddiad llinell syth ar yr ased hawl i ddefnyddio dros oes y les, ynghyd ag unrhyw amhariad ar yr ased hawl i ddefnyddio ac unrhyw newid mewn taliadau les amrywiol.

Amcangyfrifon a dyfarniadau

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi penderfynu ar delerau’r les drwy asesu lefel y sicrwydd ynghylch a fydd opsiynau terfynu neu ymestyn yn cael eu defnyddio.

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi penderfynu bod y model cost yn brocsi rhesymol ar gyfer gwerth teg, oherwydd bod y rhenti sy’n daladwy yn cyd-fynd â chyfraddau’r farchnad agored.

Offerynnau ariannol

Offerynnau Ariannol IFRS 7: Mae datgeliadau’n gofyn am ddatgelu’r rôl y mae offerynnau ariannol wedi’i chwarae yn ystod y flwyddyn o ran creu neu newid y risg a wynebir gan endid wrth gyflawni ei fusnes. Nodir hyn yn Nodyn 8 y datganiadau ariannol hyn.

Arian parod a chyfwerth ag arian parod

Mae arian parod a’r hyn sy’n gyfwerth ag arian parod yn cynnwys balansau banc sy’n cael eu dal gyda banciau masnachol, gan gynnwys y rheini a weinyddir drwy Wasanaeth Bancio’r Llywodraeth.

Darpariaethau

Mae’r darpariaethau’n adlewyrchu’r amcangyfrif gorau o’r gwariant sy’n ofynnol i setlo’r rhwymedigaeth. Nid yw amcangyfrif darpariaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar gyfer llif arian yn cael ei ddiystyru, gan nad yw’r effaith yn sylweddol.

Incwm

  2024 i
2025
2023 i
2024
  £000 £000
Incwm ffioedd gros    
Atwrneiaethau arhosol 120,002 109,390
Atwrneiaethau parhaus 405 462
Goruchwylio dirprwyon 13,096 12,495
Penodi dirprwyon 1,090 1,193
Arall 830 695
  135,423 124,235
Gostyngiadau ac esemptiadau    
Atwrneiaethau arhosol (5,837) (5,924)
Atwrneiaethau parhaus (4) (5)
Goruchwylio dirprwyon (2,427) (2,148)
Penodi dirprwyon (203) (202)
Ffioedd sy’n cael eu hildio yn ôl disgresiwn (731) (910)
  (9,202) (9,189)
Cyfanswm 126,221 115,046

Costau staff a chostau eraill

  2024 i
2025
2023 i
2024
   
  £000 £000    
Costau staff Cyflogau a thâl 60,054 55,210    
Costau nawdd cymdeithasol 4,844 4,599    
Costau pensiwn eraill 12,986 10,567    
  77,884 70,376    
Costau gweithredu eraill        
Gwasanaethau ymwelwyr 2,843 2,362    
Postio 9,299 7,571    
Gwasanaethau a Rennir 1,715 1,646    
Llety, cynnal a chadw a chyfleustodau 3,180 3,419    
Llog ar brydles 47 60    
Deunyddiau traul swyddfa 390 218    
Gwasanaethau proffesiynol 828 811    
Hyfforddiant a chostau eraill sy’n gysylltiedig â staff 346 371    
Teithio, cynhaliaeth a lletygarwch 207 139    
Diddymu symiau masnachu a symiau derbyniadwy eraill na ellir eu casglu 671 1,049    
Costau eraill 1,466 1,741    
Costau nad ydynt yn arian parod        
Ailgodi tâl tybiannol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder 15,753 12,071    
Ffi archwilio allanol tybiannol 84 81    
Lleihad yn y ddarpariaeth ar gyfer dyledion drwg (548) (498)    
Symudiad yn y ddarpariaeth ar gyfer costau cyfreithiol - (235)    
  36,281 30,806    
Taliadau dibrisiant, amorteiddiad ac amhariad        
Amorteiddio asedau anniriaethol 2,537 2,832    
Dibrisiant eiddo, offer a chyfarpar 1,102 766    
Dibrisiant asedau hawl i ddefnyddio 3,270 2,859    
  6,909 6,457    
Cyfanswm 121,074 107,639    

Adennill costau

Mae’n rhaid i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, yn unol â Rheoli Arian Cyhoeddus, ddatgelu canlyniadau ar gyfer meysydd y gweithgareddau a wnaeth yn ystod y flwyddyn ariannol, lle codwyd ffioedd a thaliadau. I gael manylion am ffioedd a chymorthdaliadau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sydd ar gael i gwsmeriaid, ewch i www.gov.uk/government/organisations/office-of-the-public-guardian.

Darperir cymhorthdal er mwyn gwneud yn siŵr na wrthodir gwasanaethau i gleientiaid am nad ydynt yn gallu fforddio’r ffioedd gofynnol.

  2024 i
2025
2023 i
2024
  £000 £000
Incwm (126,221) (115,046)
Gwariant 121,074 107,639
Gwarged gweithredol net (5,147) (7,407)
  % %
Adennill costau 104.3 106.9
Goddefiant Mewnol (allanol) o 5% 0.7 (1.9)

Mae Adran 180 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn caniatáu i’r Arglwydd Ganghellor, gyda chydsyniad Trysorlys EF, i osod ffi sy’n fwy na chost darparu’r gwasanaeth hwnnw. Ers mis Ebrill 2017, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi defnyddio’r pŵer hwn i godi ffi uwch ar gyfer cofrestru atwrneiaethau i dalu am gostau dileu ffioedd ac esemptiadau rhag talu ffioedd ac i sybsideiddio costau gweithredu gwasanaethau goruchwylio.

Mae rhagor o wybodaeth am berfformiad yn erbyn y targed adennill costau (fel y cytunwyd arno gyda Thrysorlys EF ac yn unol â dirprwyaeth y gyllideb gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder) ar gael yn yr adroddiad atebolrwydd ac archwilio seneddol yn yr adran Llywodraethu Corfforaethol.

Asedau anniriaethol

  Meddalwedd Asedau sy’n cael eu
hadeiladu
Cyfanswm
  £000 £000 £000
Cost neu brisiant      
Ar 1 Ebrill 2024 22,247 - 22,247
Trosglwyddiad o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder - - -
Eitemau wedi’u hailgategoreiddio - - -
Gwarediadau - - -
Ailbrisiad - - -
Ar 31 Mawrth 2025 22,247 - 22,247
Amorteiddiad      
Ar 01 Ebrill 2024 14,084 - 14,084
Codwyd yn ystod y flwyddyn 2,537 - 2,537
Gwarediadau - - -
Ailbrisiad - - -
Ar 31 Mawrth 2025 16,621 - 16,621
Gwerth net ar y llyfrau ar 31 Mawrth 2025 5,626 - 5,626
Ar 01 Ebrill 2023 19,693 - 19,693
Trosglwyddiad o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder - 2,338 2,338
Eitemau wedi’u hailgategoreiddio 2,338 (2,338) -
Gwarediadau (31) - (31)
Ailbrisiad 247 - 247
Ar 31 Mawrth 2024 22,247 - 22,247
Amorteiddiad      
Ar 1 Ebrill 2023 11,123 - 11,123
Codwyd yn ystod y flwyddyn 2,832 - 2,832
Gwarediadau (31) - (31)
Ailbrisiad 160 - 160
Ar 31 Mawrth 2024 14,084 - 14,084
Gwerth net ar y llyfrau ar 31 Mawrth 2024 8,163 - 8,163

Eiddo, offer a chyfarpar

  Offer
gwellianau
IT
lesddaliad
Offer,
fittings
and
dodrefn
Asedau
yn cael eu hadeiladu
Cyfanswm
  £000 £000 £000 £000 £000
Cost neu brisiant          
Ar 1 Ebrill 2024 1,684 1,333 1,019 409 4,445
Ychwanegiadau - - - (84) (84)
Eitemau wedi’u hailgategoreiddio 157 504 168 (829)  
Trosglwyddiadau o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder - - - 504 504
Ailbrisiad (885) - - - (885)
Ar 31 Mawrth 2025 956 1,837 1,187 - 3,980
Dibrisiant          
Ar 01 Ebrill 2024 1 1,272 719 - 1,992
Codwyd yn ystod y flwyddyn 906 43 153 - 1,102
Gwarediadau - - - - -
Ailbrisiad (906) - - - (906)
Ar 31 Mawrth 2025 1 1,315 872 - 2,188
Gwerth net ar y llyfrau ar 31 Mawrth 2025 - - - - -

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus sy’n berchen ar y holl eiddo, offer a chyfarpar, ac nid yw’n eu prydlesu.

  Offer
gwellianau
IT
lesddaliad
Offer,
fittings
and
dodrefn
Asedau
yn cael eu hadeiladu
Cyfanswm
  £000 £000 £000 £000 £000
Cost neu brisiant          
Ar 01 Ebrill 2023 2,394 1,426 918 - 4,738
Ychwanegiadau - (45) - 409 364
Eitemau wedi’u hailgategoreiddio - (65) 65 - -
Ailbrisiad (710) 17 36 - (657)
Ar 31 Mawrth 2024 1,684 1,333 1,019 409 4,445
Dibrisiant          
Ar 01 Ebrill 2023 154 1,223 564 - 1,941
Codwyd yn ystod y flwyddyn 604 33 129 - 766
Gwarediadau - - - - -
Ailbrisiad (757) 16 26 - (715)
Ar 31 Mawrth 2024 1 1,272 719 - 1,992
Gwerth net ar y llyfrau ar 31 Mawrth 2024 1,683 61 300 409 2,453

Lesoedd

Asedau hawl i ddefnyddio

  2024 i
2025
2023 i
2024
  £000 £000
Cost neu brisiant    
Ar 1 Ebrill 12,378 10,591
Ychwanegiadau/ailfesuriadau 183 1,787
Ar 31 Mawrth 12,561 12,378
Dibrisiant ar 1 Ebrill 6,265 3,406
Codwyd yn ystod y flwyddyn 3,270 2,859
Ar 31 Mawrth 9,535 6,265
Gwerth net ar y llyfrau ar 31 Mawrth 3,026 6,113

Mae asedau hawl i ddefnyddio Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn lesoedd ar y swyddfeydd yn Nottingham a Birmingham.

Rhwymedigaethau lesu    
  31 Mawrth
2025
31 Mawrth
2024
  £000 £000
Heb fod yn hwyrach na blwyddyn 2,659 3,014
Yn hwyrach na blwyddyn a heb fod yn hwyrach na phum mlynedd - 2,152
Rhwymedigaethau gros 2,659 5,166
Llai elfen llog (11) (49)
Gwerth presennol rhwymedigaethau 2,648 5,117

Yn Nodyn 12, cyflwynir dadansoddiad o lif arian gostyngol sy’n ymwneud ag atebolrwydd lesoedd, rhwng rhwymedigaethau cyfredol ac anghyfredol.

Symiau a gydnabyddir yn y Datganiad o (incwm) net cynhwysfawr/gwariant

  2024 i
2025
2023 i
2024
  £000 £000
Amorteiddio 3,270 2,859
Costau llog 47 60
Cyfanswm 3,317 2,919
Symiau a gydnabyddir yn y datganiad llifau arian    
Ad-dalu’r prifswm ar lesoedd 2,464 2,567
Costau llog o fewn y gost gweithredu 47 60
Cyfanswm 2,511 2,627

Offerynnau ariannol

Offerynnau Ariannol IFRS 7: Mae’n gofyn am ddatgelu’r rôl y mae offerynnau ariannol wedi’i chwarae yn ystod y flwyddyn o ran creu neu newid y risg a wynebir gan endid wrth gyflawni ei fusnes.

Gan fod gofynion arian parod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael eu bodloni drwy’r broses Amcangyfrifon, nid yw offerynnau ariannol yn chwarae cymaint o rôl wrth greu a rheoli risg ag y byddent mewn corff heb fod yn y sector cyhoeddus.

Caiff symiau derbyniadwy eu prisio o dan y model colli credyd disgwyliedig a nodir yn IFRS 9. Cydnabyddir symiau derbyniadwy ar sail amhariad a cholled oes (cam tri o dan IFRS 9). Nodir y dechneg amcangyfrif a ddefnyddir i brisio symiau derbyniadwy yn Nodyn 9, ynghyd â dadansoddiad o sensitifrwydd.

Mae’r holl arian parod yn cael ei ddal yng Ngwasanaeth Bancio’r Llywodraeth. Pan fydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynhyrchu gwarged arian parod, caiff hyn ei ildio i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ystod y flwyddyn.

Mae gwerth cario ymlaen asedau a rhwymedigaethau ariannol, ac eithrio symiau derbyniadwy a symiau taladwy gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder fel a ganlyn:

  31 Mawrth
2025
31 Mawrth
2024
  £000 £000
Arian parod a’r hyn sy’n cyfateb i arian parod – GBS 13,024 8,889
Symiau derbyniadwy drwy fasnach ac eraill 12,274 12,033
Symiau taladwy drwy fasnach ac eraill (31,340) (41,472)
Rhwymedigaethau ariannol eraill (2,648) (5,117)
Cyfanswm (8,690) (25,667)

Mae £21.677 miliwn o rwymedigaethau contract wedi cael eu cynnwys mewn symiau masnach taladwy a symiau taladwy eraill, sy’n cyfrif am incwm atwrneiaeth sydd wedi’i ohirio gan nad yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi prosesu’r ceisiadau cysylltiedig eto (31 Mawrth 2024: £31.015 miliwn).

Symiau derbyniadwy drwy fasnach ac eraill

  31 Mawrth
2025
31 Mawrth
2024
  £000 £000
Symiau derbyniadwy drwy fasnach 3,378 4,212
Asedau contract 12,313 11,649
Amhariad ar gyfer drwgddyledion a dyledion amheus (3,928) (4,830)
  11,763 11,031
TAW derbyniadwy 227 182
Symiau derbyniadwy gan staff 278 402
Y swm sy’n ddyledus gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder 594 551
Symiau sy’n ddyledus gan adrannau eraill y llywodraeth 6 112
Rhagdaliadau - 306
Cyfanswm 12,868 12,584

Gellir casglu holl symiau derbyniadwy Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o fewn blwyddyn.

Mae’r amhariad ar ddrwgddyledion a dyledion amheus fel a ganlyn:

  31 Mawrth
2025
31 Mawrth
2024
  £000 £000
Drwgddyledion a dyledion amheus 3,282 3,830
Darpariaeth canslo ffioedd - 29
Darpariaeth dileu ffioedd ac esemptiadau 646 971
Cyfanswm 3,928 4,830

Codir tâl am y symudiad yn y ddarpariaeth dileu ffioedd ac esemptiadau yn erbyn incwm.

Amhariad ar gyfer drwgddyledion a dyledion amheus

Mae amcangyfrif y ddarpariaeth ar gyfer drwgddyledion a dyledion amheus yn cynnwys:

  • dyledion sy’n heneiddio ar sail yr anfoneb gynharaf nad yw’r cwsmer wedi’i thalu

  • grwpio dyledion ar sail statws yr achos fel rhai ‘byw’ neu ‘wedi’u ‘terfynu’

  • amharu ar grwpiau dyledion yn ôl canrannau sy’n adlewyrchu gweithgarwch yn y gorffennol a disgwyliadau o ran perfformiad wrth gasglu dyledion yn y dyfodol

Dyma’r grwpiau oedran dyled a’r canrannau amhariad a ddefnyddiwyd rhwng 31 Mawrth 2025 a 31 Mawrth 2024:

  Mwy na thair blynedd 2024 i 2025 (2023 i 2024) Rhwng dwy a thair blynedd 2024 i 2025 (2023 i 2024) Rhwng blwyddyn a dwy flynedd 2024 i 2025 (2023 i 2024) Llai na blwyddyn 2024 i 2025 (2023 i 2024)  
    % % % %
Achosion byw          
Lleyg 60 (65) 25 (25) 25 (25) 7.5 (7.5)  
Proffesiynol 50 (50) 10 (10) 10 (10) 5 (5)    
Corff cyhoeddus 60 (65) 30 (30) 30 (30) 12.5 (12.5)  
Achosion a derfynwyd          
31 Mawrth 2025 90 (90) 80 (80) 80 (80) 70 (70)  

Adolygir y grwpiau a’r canrannau hyn yn flynyddol. Mae’r canrannau a gymhwyswyd yn seiliedig ar y data sydd ar gael a gwybodaeth y rheolwyr am y sylfaen cwsmeriaid. Roedd dadansoddiad o’r cyfraddau casglu yn 2024 i 2025 yn dangos y dylid diwygio’r cyfraddau amhariad ar gyfer achosion sy’n hŷn na thair blynedd oed i lawr. Er mwyn asesu colledion credyd disgwyliedig yn y dyfodol, rhaid defnyddio technegau amcangyfrif a barn rheolwyr: efallai na fydd y colledion credyd gwirioneddol yr un fath â’r ddarpariaeth a wnaed.

Cynhaliwyd dadansoddiad o sensitifrwydd, gan ddangos yr effeithiau posibl canlynol o ran cynnydd/(gostyngiad) yn y canrannau amhariad:

Cynnydd/(gostyngiad) yn y ganran amhariad -10%* -5% +5% +10%
Cynnydd/(gostyngiad) yn y ddarpariaeth £m £m £m £m
Achosion byw (0.9) (0.6) 0.6 1.2
Achosion sydd wedi dod i ben (0.2) (0.1) 0.1 0.2
Cyfanswm (1.1) (0.7) 0.7 1.4

*Darperir achosion byw ar gyfer dirprwyon lleyg a phroffesiynol o dan un flwyddyn yn erbyn llai na 10%. Mae’r cyfrifiad hwn yn tybio na ddarperir ar eu cyfer.

Darpariaeth esemptiadau a dileu ffioedd

Bydd ceisiadau i ddileu ffioedd ac esemptiadau yn cael eu derbyn a’u caniatáu ar gyfer rhai o’r ffioedd y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi anfonebu neu wedi eu cronni. Felly, mae darpariaeth yn cael ei chydnabod yn y symiau derbyniadwy ar sail lefelau dileu ffioedd ac esemptiadau a ganiatawyd yn y gorffennol. Tybir bod nifer yr achosion hanesyddol o ddileu ffioedd ac esemptiadau yn gynrychioliadol o nifer yr achosion yn y dyfodol.

Arian parod a chyfwerth ag arian parod

  2024 i 2025 2023 i 2024
  £000 £000
Ar 1 Ebrill 8,889 14,108
Newid net yn y balans 4,135 (5,219)
Ar 31 Mawrth 13,024 8,889

Mae holl arian parod Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cael ei ddal yng Ngwasanaeth Bancio’r Llywodraeth.

Masnach a symiau taladwy eraill

  31 Mawrth 2025 31 Mawrth 2024
  £000 £000
Symiau masnach taladwy 55 925
Trethi a nawdd cymdeithasol sy’n daladwy 964 993
Y swm sy’n ddyledus i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder 2,280 3,106
Symiau taladwy eraill 1,958 1,771
Croniadau 6,686 6,768
Rhwymedigaethau contract 21,677 31,015
Cyfanswm 33,620 44,578

Mae’r holl symiau taladwy i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ddyledus o fewn blwyddyn.

Roedd symudiadau atebolrwydd contract drwy gydol y flwyddyn fel a ganlyn:

  2024 i 2025 2023 i 2024
  £000 £000
Ar 1 Ebrill 31,015 31,858
Incwm atwrneiaeth a gydnabuwyd yn ystod y flwyddyn (114,566) (103,923)
Incwm atwrneiaeth a ohiriwyd 105,228 103,080
Ar 31 Mawrth 21,677 31,015

Rhwymedigaethau ariannol eraill

  31 Mawrth
2025
31 Mawrth
2024
  £000 £000
Rhwymedigaethau lesoedd - cyfredol 2,648 2,973
Rhwymedigaethau lesoedd – anghyfredol - 2,144
Cyfanswm 2,648 5,117

Mae rhagor o wybodaeth am rwymedigaethau lesoedd a’r asedau hawl i ddefnyddio cysylltiedig ar gael yn Nodyn 7.

Darpariaethau

  Dadfeiliadau Arall Cyfanswm
  £000 £000 £000
Ar 01 Ebrill 2024 3,400 - 3,400
Darparwyd yn ystod y flwyddyn 203 - 203
Symiau a wrthdrowyd heb eu defnyddio (15) - (15)
Ar 31 Mawrth 2025 3,588 - 3,588
Ar 1 Ebrill 2023 2,387 235 2,622
Darparwyd yn ystod y flwyddyn 1,013 - 1,013
Symiau a wrthdrowyd heb eu defnyddio - (235) (235)
Ar 31 Mawrth 2024 3,400 - 3,400

Dyma’r amseroedd disgwyliedig ar gyfer llif arian:

  Dadfeiliadau Arall Cyfanswm
  £000 £000 £000
Heb fod yn hwyrach na blwyddyn 3,588 - 3,588
Rhwng un a phum mlynedd - - -
Ar 31 Mawrth 2025 3,588 - 3,588
Heb fod yn hwyrach na blwyddyn - - -
Rhwng un a phum mlynedd 3,400 - 3,400
Ar 31 Mawrth 2024 3,400 - 3,400

Dadfeiliadau

Mae’r ddarpariaeth dadfeiliadau yn ymwneud ag amcangyfrif o gostau dadfeiliadau ar swyddfeydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn Nottingham a Birmingham ar ddiwedd telerau eu les.

Ymrwymiadau

Ar 31 Mawrth 2025, nid oedd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus unrhyw ymrwymiadau sylweddol o dan gontractau eraill nad oes modd eu canslo (31 Mawrth 2024: dim).

Rhwymedigaethau ac asedau digwyddiadol

Ar 31 Mawrth 2025, roedd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus rwymedigaethau digwyddiadol yn ymwneud â hawliadau tribiwnlys cyflogaeth ar wahanol gamau, gydag uchafswm atebolrwydd posibl amcangyfrifiedig o £323,000 (31 Mawrth 2024: £235,000). Ar 31 Mawrth 2025, nid oedd gan OPG unrhyw asedau digwyddiadol (31 Mawrth 2024: dim).

Trafodion partïon cysylltiedig

Un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder yw Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Ystyrir y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn barti cysylltiedig. Yn ystod y cyfnod, mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi cael nifer o drafodion sylweddol gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae ad-daliad y Weinyddiaeth Gyfiawnder a ddatgelwyd yn Nodyn 3 yn ddosraniad o orbenion gan gynnwys Adnoddau Dynol, cyllid, TG ac ystadau i holl adrannau ac asiantaethau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar sail dybiannol.

Roedd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus hefyd wedi cael trafodion gydag adrannau ac endidau eraill y llywodraeth.

Nid oes unrhyw aelod o fwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, staff rheoli allweddol na phartïon cysylltiedig eraill wedi cynnal unrhyw drafodion gyda’r Swyddfa yn ystod y flwyddyn ariannol.

Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd

Yn unol â gofynion IAS 10 Digwyddiadau ar ôl y Cyfnod Adrodd, ystyrir digwyddiadau hyd at y dyddiad yr awdurdodir cyhoeddi’r datganiadau ariannol, a ddehonglir fel dyddiad Tystysgrif ac Adroddiad y Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol.

Nid oedd materion perthnasol i sôn amdanynt.

Ailddatgan Datganiad Llif Arian a Datganiad am Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr

Fel sy’n cael ei egluro yn nodyn 1.1, pan fydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynhyrchu gwarged arian parod, bydd hyn yn cael ei ildio i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Caiff trosglwyddiadau cyllid i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac oddi wrthi eu cydnabod yn y gronfa gyffredinol ac yn y datganiad llif arian o dan y teitl ‘cyllido’. Yn 2023-24 a blynyddoedd blaenorol, mae’r ‘ildio gwarged arian parod i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder’ yn y datganiad llif arian a’r datganiad newidiadau mewn ecwiti trethdalwyr wedi cael ei ddatgelu heb gynnwys setlo symiau sy’n ddyledus i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’u hailgodi ar yr OPG. Ar gyfer 2024-25, mae’r arian sydd wedi’i ildio i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder bellach yn cael ei ddangos yn gywir mewn gros, ac mae setliad y symiau sy’n ddyledus i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder hefyd yn cael ei ddangos mewn gros. Mae cymariaethau ar gyfer 2023-24 wedi cael eu hailddatgan fel a ganlyn:

  Cyhoeddwyd Newid Ailddatganwyd
  £000 £000 £000
Datganiad Llifau Arian      
Balansau rhwng adrannau wedi’u setlo drwy’r cronfeydd wrth gefn cyffredinol - 6,048 6,048
Ildio arian parod dros ben i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (29,952) (6,048) (36,000)
Datganiad Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr      
Balansau rhwng adrannau wedi’u setlo drwy’r cronfeydd wrth gefn cyffredinol - 6,048 6,048
Ildio arian parod dros ben i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (29,952) (6,048) (36,000)

Atodiad

Targedau perfformiad

Dangosydd effaith: amser clirio gwirioneddol ar gyfartaledd ar gyfer atwrneiaethau

Y targed gwirioneddol o ran amser clirio cyfartalog yw 40 diwrnod gwaith.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn cyfrifo nifer y diwrnodau gwaith ar gyfartaledd a gymerir i gofrestru ac anfon pob atwrneiaeth mewn cyfnod adrodd penodol. Dyma’r amser a gymerir rhwng dyddiad derbyn y cais a’r dyddiad anfon.

Dull cyfrifo

O’r holl atwrneiaethau gyda dyddiad anfon o fewn cyfnod adrodd, caiff nifer y diwrnodau gwaith (ac eithrio gwyliau banc a phenwythnosau) rhwng y ‘dyddiad anfon’ a’r ‘dyddiad derbyn’ eu cyfrif ac yna cynhyrchir cyfartaledd ar sail nifer y ceisiadau.

‘Dyddiad derbyn’ yw diwrnod derbyn y cais gan y Swyddfa, ynghyd â thaliad dilys, neu, fel arall, dyddiad y penderfyniad ar gyfer cais llwyddiannus am esemptiad neu ddileu ffi. Dyma’r adeg y bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dechrau prosesu’r cais.

‘Dyddiad anfon’ yw’r dyddiad y caiff yr atwrneiaeth gofrestredig ei hanfon fel rhan olaf y broses, sydd wedyn yn dangos bod y cais wedi’i gofrestru ar ein systemau rheoli achosion mewnol.

Ffynhonnell data

Systemau rheoli achosion mewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2025

Cyfartaledd amser clirio gwirioneddol o 49 diwrnod gwaith (ar gyfer LPA ac EPA) o’i gymharu â tharged o 40 diwrnod gwaith.

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: canolfan cyswllt cwsmeriaid

a) Y targed ar gyfer galwadau i’n canolfan cyswllt cwsmeriaid yw ateb 90% o fewn 5 munud i gael eu rhoi mewn ciw

b) Y targed ar gyfer galwadau i’n canolfan cyswllt cwsmeriaid, mewn perthynas â Diogelu Oedolion Agored i Niwed, yw ateb 95% o fewn 3 munud i gael eu rhoi mewn ciw

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn mesur cefnogaeth ac arweiniad amserol a chywir ar gyfer holl wasanaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, a chyfeirio at wasanaethau’r Llys Gwarchod lle bo hynny’n briodol.

Mae’r dangosydd hwn yn mesur cefnogaeth ac arweiniad amserol a chywir ar gyfer ymholiadau sy’n ymwneud â Diogelu Oedolion Agored i Niwed.

Dull cyfrifo

Nifer y galwadau a lwybrwyd at asiantau’r Ganolfan Gyswllt a atebwyd o fewn pum munud (ac eithrio’r Llinell Ddiogelu) wedi’i rannu â nifer y galwadau hynny a dderbyniwyd. Mae galwadau sy’n cael eu hailgyfeirio y tu allan i’r cwmpas yn cael eu tynnu o gyfanswm y galwadau er mwyn osgoi eu cyfrif ddwywaith gan fod y rhain yn cael eu hadrodd ar wahân pan fo angen.

Nifer y galwadau i’n llinell Diogelu Oedolion Agored i Niwed a atebwyd o fewn 3 munud, wedi’u rhannu â chyfanswm nifer y galwadau a dderbyniwyd ar y llinell honno.

Ffynhonnell data

System rheoli data teleffoni yr OPG.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2025

Canran y galwadau a atebwyd o fewn pum munud oedd 57% yn erbyn targed o 90%.

Canran y galwadau a atebwyd o fewn 3 munud oedd 99% yn erbyn ein targed o 95%.

Dangosydd effaith: Arolygon digidol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus o fodlonrwydd cwsmeriaid

Y ganran darged o gwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â gwasanaethau digidol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yw 80%.

Pwrpas

Mae’r dangosydd effaith hwn yn helpu i sicrhau ein bod yn datblygu ein gwasanaethau digidol i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.

Dull cyfrifo

Nifer y cwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â’r gwasanaethau digidol wedi’i rhannu â nifer yr ymatebion i’r arolwg sy’n ateb y cwestiwn hwn.

Ffynhonnell data

Arolwg boddhad cwsmeriaid - adnodd digidol atwrneiaethau arhosol.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2025

Sgôr yr arolwg boddhad cwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn oedd 85% ar gyfer ein gwasanaeth ‘defnyddio Atwrneiaeth Arhosol’, 87% ar gyfer ein gwasanaeth ‘Gwneud Atwrneiaeth Arhosol’, ac 80% ar gyfer ein gwasanaeth ‘cwblhau adroddiad dirprwy’.

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: Arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus – gwasanaethau atwrneiaeth

Canran darged y cwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â’r gwasanaethau atwrneiaeth yw 80%.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn ein helpu i ddeall anghenion ein cwsmeriaid a chanfod tueddiadau er mwyn i ni barhau i wella gwasanaethau.

Dull cyfrifo

Nifer sydd wedi ymateb eu bod yn ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ wedi’i rhannu â nifer yr ymatebion i’r arolwg.

Ffynhonnell data

Arolygon o fodlonrwydd cwsmeriaid - atwrneiaethau arhosol.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2025

Sgôr yr arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn oedd 84%.

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: Arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus – gwasanaethau dirprwyaeth

Canran darged y cwsmeriaid sy’n ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ â’r gwasanaethau dirprwyaeth yw 80%.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn ein helpu i ddeall anghenion ein cwsmeriaid a chanfod tueddiadau er mwyn i ni barhau i wella gwasanaethau.

Dull cyfrifo

Nifer sydd wedi ymateb eu bod yn ‘fodlon iawn’ neu’n ‘weddol fodlon’ wedi’i rhannu â nifer yr ymatebion i’r arolwg.

Ffynhonnell data

Arolygon o fodlonrwydd cwsmeriaid - dirprwyaeth.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2025

Sgôr yr arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid ar ddiwedd y flwyddyn oedd 74%.

Dangosydd effaith: goruchwylio dirprwyon

a) Mae’r targed amser cyfartalog i gael adroddiadau blynyddol o fewn 40 diwrnod gwaith.

b) Mae’r targed amser cyfartalog i adolygu adroddiadau blynyddol o fewn 15 diwrnod gwaith.

c) Mae’r targed ar gyfer adroddiadau blynyddol heb eu cwblhau am dros 98 diwrnod calendr yn 4.5% neu lai.

Pwrpas

Mae’r dangosyddion hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn darparu cefnogaeth gymesur a phriodol i bob dirprwy.

Dull cyfrifo

a) Nifer y diwrnodau gwaith ar gyfartaledd rhwng ‘dyddiad dyledus’ yr adroddiad (40 diwrnod gwaith ar ôl pen-blwydd y gorchymyn llys) a’r dyddiad y daeth yr adroddiad i law’r OPG.

b) Nifer y diwrnodau gwaith ar gyfartaledd rhwng y dyddiad y ceir adroddiad blynyddol a’r dyddiad y cafodd ei adolygu.

c) Canran yr achosion dirprwyaeth gweithredol gydag o leiaf un adroddiad blynyddol heb ei gwblhau am dros 98 diwrnod calendr.

Ffynhonnell data

Systemau rheoli achosion mewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2025

a) Amser cyfartalog i gael adroddiadau blynyddol oedd 3 diwrnod gwaith.

b) Adolygwyd pob adroddiad blynyddol o fewn 15 diwrnod, gyda chyfartaledd o 11 diwrnod gwaith.

c) Roedd 1.88% o adroddiadau blynyddol heb eu cwblhau am dros 98 diwrnod calendr.

Dangosydd effaith: diogelu ac ymchwiliadau

a) Y targed yw asesu risgiau 95% o bryderon diogelu a leisiwyd cyn pen dau ddiwrnod gwaith.

b) Y targed yw i 95% o asesiadau risg diogelu gyrraedd canlyniad terfynol cyn pen pum diwrnod gwaith.

c) Y targed yw cwblhau pob ymchwiliad cyn pen 70 diwrnod gwaith.

d) Y targed yw’r amser cyfartalog a gymerir i roi camau sy’n eiddo i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar waith o fewn argymhellion y Gwarcheidwad Cyhoeddus, lle barnwyd bod angen achos llys

e) Y targed yw’r amser cyfartalog a gymerir i roi camau sy’n eiddo i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar waith o fewn argymhellion y Gwarcheidwad Cyhoeddus, lle barnwyd nad oedd angen achos llys o fewn 25 diwrnod gwaith.

Pwrpas

Mae’r dangosyddion hyn yn canolbwyntio ar gyfrifoldeb Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ddiogelu oedolion agored i niwed.

(a) a (b) bydd yr OPG yn ymgymryd â phroses asesu risg i benderfynu ar y canlynol:

i) a oes gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus awdurdodaeth i ymchwilio i bryderon ac, os nad oes ganddo, i gyfeirio’r pryder at yr asiantaeth berthnasol

ii) a yw’r unigolyn agored i niwed mewn perygl uniongyrchol o ran ei les personol neu arian/eiddo a pha gamau y mae angen eu cymryd yn ddi-oed

iii) a ellir ymchwilio i’r pryder dros gyfnod hwy

c) Mae ymchwiliad yn cael ei ystyried yn un sydd wedi dod i ben os:

i) oes adroddiad ysgrifenedig ffurfiol wedi’i lofnodi gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus

ii) cytunir i gymeradwyo cais llys (lle mae hyn cyn adroddiad gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus)

iii) mae rheolwr cydymffurfiaeth yn cytuno i ddirwyn yr ymchwiliad i ben oherwydd credir bod adroddiad i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn ddiangen

iv) bydd y cleient yn marw (a’r rheolwr cydymffurfiaeth yn penderfynu bod digon o waith wedi’i wneud ar yr achos i fod yn deilwng o ddosbarthiad)

(d) ac (e) Mae argymhelliad yn cael ei ystyried yn un sydd wedi dod i ben os:

i) gwneir cais i’r Llys Gwarchod, lle bod hyn o ganlyniad i argymhelliad a gymeradwywyd gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus

ii) mae achos yn cael ei gymeradwyo ar gyfer ei gau dan yr amgylchiadau canlynol:

  • ni fernir bod angen achos llys

  • mae’r ymchwiliwr yn rhannu canlyniad yr ymchwiliad ac unrhyw ofynion pellach i’r atwrnai neu ddirprwy – ni fydd hyn yn cynnwys unrhyw fonitro dilynol ar yr achos

  • mae’r dirprwy yn gwneud cais i’r Llys Gwarchod

Dull cyfrifo

a) Mae dau ddiwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn derbyn y pryder. Diwrnod un yw’r diwrnod gwaith y daw’r pryder i law.

b) Mae pum diwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae’r Swyddfa yn derbyn y pryder. Diwrnod un yw’r diwrnod gwaith y daw’r pryder i law.

c) Mae’r cyfnod o 70 diwrnod gwaith yn dechrau ar y dyddiad y mae’r OPG yn derbyn y pryder sy’n arwain at ymchwiliad.

d) Mae’r cyfnod o 35 diwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cymeradwyo’r adroddiad. Diwrnod un fydd y diwrnod mae’r adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

e) Mae’r cyfnod o 25 diwrnod gwaith yn dechrau o’r dyddiad y mae’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cymeradwyo’r adroddiad. Diwrnod un fydd y diwrnod mae’r adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

Ffynhonnell data

Asesir risg pob cwyn a phryder ac ystyrir awdurdodaeth y Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Cofnodir atgyfeiriadau ac maent yn cynnwys y canlynol:

  • y dyddiad y mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn derbyn y pryder

  • y dyddiad y mae’r tîm ymchwilio yn derbyn y pryder

  • dyddiad yr asesiad risg

  • amser yr asesiad risg

  • dyddiad cwblhau’r ymchwiliad

  • canlyniad y cais i gyfnod y Llys Gwarchod (diwrnodau gwaith)

  • cyfnod ymchwilio (cyn yr adroddiad)

  • cyfnod ymchwilio (ar ôl yr adroddiad)

  • argymhellion- dyddiad cymeradwyo ei gau

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2025

a) roedd 98% o bryderon yn destun asesiad risg o fewn dau ddiwrnod gwaith.

b) roedd 96% o bryderon yn cyrraedd y canlyniad terfynol cyn pen pum diwrnod gwaith.

c) Yr amser cyfartalog i gwblhau ymchwiliadau oedd 138 diwrnod gwaith

d) Yr amser cyfartalog i gwblhau pob argymhelliad lle barnwyd bod achos llys yn hanfodol oedd 45.7 diwrnod gwaith

e) Yr amser cyfartalog i gwblhau pob argymhelliad lle na farnwyd bod achos llys yn hanfodol oedd 10 diwrnod gwaith.

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: cwynion

Y targed yw ymateb i 90% o holl gwynion cwsmeriaid cyn pen 10 diwrnod gwaith o’u derbyn.

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn chwarae rhan bwysig o ran helpu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i ddeall i ba raddau rydym yn bodloni disgwyliadau ein cwsmeriaid.

Dull cyfrifo

Bob mis, mae rheolwr cwynion Haen 2 yn coladu nifer y cwynion y dylid delio â nhw yn ystod y mis (‘cyfanswm gyda tharged yn y mis’) a nifer y cwynion a gwblhawyd yn unol â’r targed (‘cyfanswm yr ymatebwyd iddynt yn unol â’r targed’).

Cyfrifir y dangosydd gyda chymorth y fformiwla ganlynol:

Cwynion a gwblhawyd yn unol â’r targed/cwynion y dylid delio â nhw x 100.

Ffynhonnell data

Gwybodaeth reoli o bob maes busnes unigol.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2025

Ymatebwyd i 90% o gwynion o fewn 10 diwrnod gwaith o’u derbyn.

Dangosydd gwasanaeth cwsmeriaid: Ceisiadau am atwrneiaethau arhosol yn cael eu cwblhau ar-lein

Y targed yw i 30% o gwsmeriaid ddewis cwblhau eu ceisiadau atwrneiaeth arhosol gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein

Pwrpas

Mae’r dangosydd hwn yn chwarae rhan bwysig o ran helpu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i wella’r offer digidol i’w gwneud hi’n haws i ddefnyddwyr gael mynediad at ein gwasanaethau ar-lein.

Dull cyfrifo

Canran y cymeriant digidol = Nifer yr atwrneiaethau arhosol a dderbyniwyd ar-lein yn ystod y cyfnod adrodd/ Cyfanswm nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod adrodd x 100

Ffynhonnell data

Systemau rheoli achosion mewnol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2025

37.7% o geisiadau atwrneiaethau arhosol wedi’u cwblhau drwy ddefnyddio gwasanaethau ar-lein.

Dangosydd pobl: Ymgysylltu â staff

a) Y targed yw sicrhau sgôr ymgysylltu â staff o 62%.

b) Y targed ar gyfer canran y staff sydd wedi cael eu bwlio neu eu haflonyddu yn y gwaith yw 0%, i adlewyrchu ein polisi dim goddefgarwch tuag at fwlio ac aflonyddu yn y gweithle.

b) Y targed ar gyfer canran y staff sydd wedi dioddef gwahaniaethu yn y gwaith yw 0%, i adlewyrchu ein polisi dim goddefgarwch tuag at wahaniaethu yn y gweithle.

Pwrpas

Mae’r dangosyddion hyn yn ein helpu i greu lle gwych i weithio ac i gefnogi agwedd dim goddefgarwch tuag at fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn y gweithle.

Dull cyfrifo

a) Mae pob un o’r pum cwestiwn ymgysylltu yn yr arolwg wedi’u pwysoli gyda sgôr o 100 i 0 yn dibynnu ar eu hymateb. Mae’r sgoriau sy’n deillio o hyn yn cael eu rhoi at ei gilydd a’u rhannu â 5 (nifer y cwestiynau) i greu sgôr y mynegai ymgysylltiad.

b) Cyfrifir y dangosydd hwn drwy rannu nifer yr ymatebwyr sy’n datgan profiad o fwlio a/neu aflonyddu â chyfanswm yr ymatebwyr.

c) Cyfrifir y dangosydd hwn drwy rannu nifer yr ymatebwyr sy’n datgan profiad o wahaniaethu â chyfanswm yr ymatebwyr.

Ffynhonnell data

Arolwg pobl blynyddol ac arolwg clyfar.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2025

a) Y sgôr ymgysylltu â staff oedd 64%.

b) roedd 9% o staff wedi cael profiad o fwlio ac aflonyddu.

c) roedd 9% o staff wedi cael profiad o wahaniaethu.

Dangosydd Pobl: data gweithlu

a) Y targed ar gyfer trosiant staff yw 10% neu lai.

b) Y targed yw sgôr o 7.5 diwrnod gwaith neu lai sy’n cael eu colli oherwydd absenoldeb salwch.

Pwrpas

Mae’r dangosyddion hyn yn helpu ein penderfynwyr i sicrhau bod gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddigon o adnoddau, a fydd yn galluogi’r Swyddfa i gyflawni amcanion ei chynllun busnes, gwireddu ei gweledigaeth ac ymdrechu i gadw at werthoedd y Swyddfa ym mhopeth a wnawn.

Dull cyfrifo

a) Cyfrifir y dangosydd drwy rannu cyfanswm nifer y rhai sy’n gadael mewn cyfnod treigl o 12 mis â chyfanswm nifer y staff ar gyfartaledd dros gyfnod treigl o 12 mis.

b) Cyfrifir y dangosydd drwy rannu cyfanswm y diwrnodau gwaith a gollwyd mewn cyfnod â blynyddoedd staff mewn cyfnod

Ffynhonnell data

Darperir y data gan dîm gwasanaethau dadansoddol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy’n lawrlwytho’r data o SOP, system rheoli achosion Adnoddau Dynol y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Cyflawnwyd hyd at 31 Mawrth 2025

a) Y trosiant staff oedd 8.5%

b) Cyfartaledd y diwrnodau gwaith a gollwyd oedd 10.2 diwrnod gwaith.

Dangosydd pobl: amser cyfartalog i recriwtio

Y nod yw 52 diwrnod gwaith.

Pwrpas

Mae’r dangosydd yn helpu ein penderfynwyr i sicrhau bod gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddigon o adnoddau, a fydd yn galluogi’r Swyddfa i gyflawni amcanion ei chynllun busnes, gwireddu ei gweledigaeth ac ymdrechu i gadw at werthoedd y Swyddfa ym mhopeth a wnawn.

Dull cyfrifo

Cyfrifir cyfanswm y diwrnodau gwaith a gymerir i gyflogi drwy gyfrif nifer y diwrnodau gwaith rhwng dyddiad ‘hysbysebu’r swydd’ a dyddiad dechrau’r contract ar gyfer pob cyflogai newydd yn y cyfnod adrodd ac yna fe’u rhoddir at ei gilydd. Gwneir cyfrifiad cyfartaledd cymedrig ar y ffigur uchod. Bydd hyn yn rhoi’r amser cyfartalog i recriwtio (diwrnodau gwaith).

Ffynhonnell data

System rheoli achosion recriwtio’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Ym mis Rhagfyr 2024 yr amser cyfartalog i recriwtio yw 43 diwrnod gwaith o’r data diwethaf a adroddwyd sydd ar gael.

Geirfa

Atwrnai

Yr unigolyn sydd wedi cael ei ddewis i weithredu dros rywun arall ar atwrneiaeth barhaus neu atwrneiaeth arhosol.

Lles gorau

Rhaid i unrhyw benderfyniadau a wneir, neu gamau a gymerir, ar ran rhywun sydd wedi colli galluedd meddyliol fod er ei les gorau. Mae camau safonol i’w dilyn wrth benderfynu ar les gorau rhywun. Mae’r rhain wedi’u nodi yn Adran 2 o god ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol.

Dirprwy

Unigolion lleyg neu broffesiynol neu awdurdodau cyhoeddus (fel cyfreithwyr neu awdurdodau lleol) sydd wedi cael eu penodi gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniadau ar ran pobl sydd heb alluedd.

Rhoddwr

Rhywun sydd wedi gwneud Atwrneiaeth Barhaus neu Atwrneiaeth Arhosol. Cyfeirir atynt fel rhoddwyr am eu bod wedi rhoi rhai pwerau gwneud penderfyniadau i rywun arall.

Atwrneiaeth barhaus (EPA)

Disodlwyd gan atwrneiaethau arhosol ym mis Hydref 2007. Fel atwrneiaeth arhosol, mae’n ddogfen gyfreithiol sy’n cael ei defnyddio i benodi rhywun i wneud penderfyniadau ar eich rhan pe byddech yn colli galluedd meddyliol.

Mae atwrneiaethau parhaus sydd wedi’u llofnodi a’u dyddio cyn 1 Hydref 2007 yn dal yn ddilys a gellir eu cofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus pan fydd y rhoddwr yn dechrau colli, neu wedi colli, galluedd meddyliol.

Ymchwiliadau

Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gynnal ymchwiliad i weithredoedd dirprwy, atwrnai cofrestredig, neu rywun a awdurdodir gan y Llys Gwarchod i berfformio trafodiad ar ran rhywun nad yw’r galluedd ganddo, ac adrodd i’r Gwarcheidwad Cyhoeddus neu’r Llys Gwarchod. Bydd yr argymhellion yn adroddiad yr ymchwiliad wedyn yn cael eu hystyried gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus, sy’n cymryd cyfrifoldeb cyffredinol dros sicrhau eu bod er lles gorau’r rhoddwr neu’r cleient, ac yna’n cymeradwyo’r adroddiad. Mae hyn yn rhan hanfodol o rôl Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gefnogi’r gwaith o ddiogelu oedolion sydd mewn perygl.

Atwrneiaeth arhosol (LPA)

Dogfen gyfreithiol a ddefnyddir i benodi rhywun i wneud penderfyniadau ar eich rhan.

Mae dau fath o atwrneiaeth arhosol:

  • lles personol

  • eiddo a materion ariannol

Rhaid cofrestru’r ddau fath o atwrneiaeth arhosol gyda’r Swyddfa Gwarcheidwad Cyhoeddus cyn bod modd eu defnyddio.

Galluedd meddyliol

Y gallu i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg y mae angen ei wneud. Gallwch ddod o hyd i ddiffiniad cyfreithiol o alluedd meddyliol yn Adran 2 y Ddeddf Galluedd Meddyliol.

P

Unigolion sy’n destun achosion yn y Llys Gwarchod, a/neu y gwnaed trefniadau am benderfyniadau ynghylch eu lles personol neu eu heiddo a’u materion ariannol ar eu rhan – boed hynny drwy atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus, neu o dan orchymyn dirprwyaeth.

Defnyddiwr

Unrhyw un sy’n defnyddio gwasanaethau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Gallai hyn gynnwys rhoddwyr, atwrneiod, dirprwyon, pobl sy’n destun gorchmynion dirprwyaeth, partneriaid neu gyfryngwyr. Mae hefyd yn cynnwys staff sy’n defnyddio systemau Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

  1. O 17 Mawrth 2025, cymerodd Amy Holmes yr awenau fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, Grŵp Trawsnewid Gwasanaethau. Arhosodd yn Brif Weithredwr ac yn Warcheidwad Cyhoeddus tan 31 Mawrth 2025  2

  2. Penodwyd ar 18 Medi 2023 tan 11 Medi 2024. Rhannu swydd amser llawn gyda Ruth Duffin.  2

  3. Penodwyd ar 08 Hydref 2024. Rhannu swydd amser llawn gyda Ruth Duffin.  2

  4. Dirprwy Gyfarwyddwr Sicrwydd Gwybodaeth a Chyfreithiol o 4 Mawrth 2024.  2

  5. Cyfarwyddwr Cyllid, Gweithrediadau, o 17 Mehefin 2023 tan 9 Mawrth 2025. Mae Caroline Patterson yn gweithio i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a’r Weinyddiaeth sy’n talu ei chyflog.  2

  6. Cyfarwyddwr Cyllid, Gweithrediadau, o 10 Mawrth 2025. Mae Adrian Hannell yn gweithio i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a’r Weinyddiaeth sy’n talu ei gyflog.  2

  7. Ymddiswyddodd ar 31 Ionawr 2024.  2

  8. Ymddiswyddodd ar 30 Medi 2023 a chafodd ei ailbenodi ar 6 Ionawr 2025.  2

  9. Ymddiswyddodd ar 30 Medi 2024.  2

  10. Penodwyd ar 1 Tachwedd 2023. Ffioedd ar gyfer Tachwedd 2023 i Fawrth 2024 wedi’u talu yn 2024-25.  2

  11. Penodwyd 15 Ebrill 2024 yn aelod annibynnol anweithredol o ARAC.  2

  12. Penodwyd ar 1 Hydref 2024.  2